1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 1:43 pm ar 13 Ionawr 2021.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Nick Ramsay.
Diolch, Lywydd. Yn ystod y pandemig, mae mater gwerth am arian wedi dod yn fater amlwg iawn, yn ogystal â sicrhau, Weinidog, ein bod yn cael y gorau o bob punt Gymreig a werir. Dros yr ychydig ddyddiau diwethaf, mae wedi dod i'r amlwg fod Llywodraeth Cymru yn ad-dalu €3.4 miliwn o gyllid gwledig i'r Comisiwn Ewropeaidd, yn dilyn adroddiad Archwilio Cymru y llynedd ar y rhaglen datblygu gwledig. Nawr, gwn fod cosb ariannol yr UE wedi’i lleihau o ychydig dros €33 miliwn i €3.412 miliwn, ond a allwch roi diweddariad i ni ar y sefyllfa bresennol gyda'r ad-daliad hwn, a pha wersi y mae Llywodraeth Cymru wedi'u dysgu?
Diolch i Nick Ramsay am godi mater y gosb ariannol yma yn y Senedd y prynhawn yma. Mae hwn yn fater yr ymdriniwyd ag ef yn bennaf gan fy nghyd-Aelod, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, gan mai hi yw deiliad y gyllideb ar gyfer y rhaglen benodol honno. Felly, os yw'n dderbyniol i Nick Ramsay, byddaf yn sicr o ofyn i fy nghyd-Aelod ddarparu'r diweddariad hwnnw, oherwydd, fel y dywedaf, caiff ei reoli o fewn llinell y gyllideb benodol honno.FootnoteLink
Rwy'n cael y teimlad fy mod yn cael fy ngorchymyn i symud ymlaen o'r pwnc hwnnw, felly rwy'n derbyn ei fod yn rhan o’i llinell hi. Os caf ehangu hynny i sôn am werth am arian yn y gyllideb yn gyffredinol, Weinidog, fel y dywedais yn y ddadl ar y gyllideb ddoe, rydym yn aml yn sôn am adeiladu nôl yn well, ac rydych chi wedi sôn am adeiladu nôl yn well ac adeiladu nôl yn fwy gwyrdd, ac mae’r Prif Weinidog wedi sôn am hynny hefyd. Nawr, mae hwnnw’n nod cwbl resymol i'w gael, ond mae'n haws dweud na gwneud. Wrth edrych drwy'r gyllideb, mae'n cynnwys rhai agweddau amgylcheddol, fel y £5 miliwn—credaf fy mod yn iawn i ddweud—tuag at y goedwig genedlaethol; efallai y byddwch yn fy nghywiro ar yr union ffigur ar gyfer hynny. Mae'n amlwg fod prosiectau o’r fath yn cael effaith ar gyllidebu carbon a darparu dalfeydd carbon, ond a allwch ddweud wrthym sut arall rydych chi'n sicrhau bod y gyllideb yn darparu cyllidebu carbon cywir, neu o leiaf yn cyfeirio at hynny’n digwydd yn y dyfodol, fel ein bod, yn ogystal â defnyddio'r holl ddatganiadau bachog am adeiladu nôl yn fwy gwyrdd ac yn well, yn gweld Cymru yn y dyfodol lle bydd ystyriaethau amgylcheddol wrth wraidd popeth a wnawn?
Rwy’n fwy na pharod i roi’r diweddariad hwnnw. Fe fyddwch yn cofio, y llynedd, inni gyhoeddi ein cynllun gwella’r gyllideb cyntaf erioed, ac roedd hwnnw’n nodi peth o’r gwaith y byddem yn ei gychwyn eleni er mwyn deall effaith ein gwariant yn well, ond hefyd er mwyn caniatáu inni wneud penderfyniadau gwell o ran cyllidebu ar sail rhyw, er enghraifft, ond hefyd i ddeall effaith y dyraniadau rydym wedi'u gwneud ar garbon. Felly, ochr yn ochr â'r gyllideb eleni, byddwch yn gweld sawl darn newydd o waith yn cael eu cyhoeddi. Un ohonynt yw effaith ddosbarthiadol y gwariant ar wasanaethau cyhoeddus datganoledig yng Nghymru. Mae hwnnw’n waith newydd rydym wedi’i gychwyn i gael gwell dealltwriaeth o’r effaith ar y gwahanol grwpiau economaidd-gymdeithasol yng Nghymru. Fe fyddwch hefyd yn gweld y gwaith rydym wedi dechrau ei ddatblygu ar gyllidebu ar sail rhyw.
Ond yn olaf, trydedd ran y dull newydd yw'r cynllun peilot i fodelu'r allyriadau nwyon tŷ gwydr a amcangyfrifir. A dyma'r tro cyntaf erioed inni roi cynnig ar unrhyw beth o’r fath yng Nghymru, ac mae'n ymateb i'r pryderon rydych chi ac eraill wedi'u codi yn y Pwyllgor Cyllid ac mewn mannau eraill, a bod hyn yn rhywbeth y byddech yn awyddus i’w wneud. Felly, ochr yn ochr ag adroddiad y prif economegydd, cyhoeddais y gwaith archwilio cychwynnol y gwnaethom gomisiynu’r Uned Ymchwil i Economi Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd i'w wneud ar ein rhan, ac maent yn amcangyfrif yr allyriadau nwyon tŷ gwydr sy'n gysylltiedig â gwariant Llywodraeth Cymru. Gwnaethant hynny yn y lle cyntaf ar y gyllideb refeniw fwyaf ar gyfer y prif grŵp gwariant iechyd a gwasanaethau cymdeithasol, ac mae hynny'n seiliedig ar ffigurau'r llynedd, ond rydym yn gobeithio, rhwng nawr a'r gyllideb derfynol, y gallwn gyrraedd pwynt lle rydym wedi edrych ar ffigurau eleni, ac wedi edrych hefyd ar bob un o'r gwahanol brif grwpiau gwariant. Felly, yn sicr, nid yw'n waith gorffenedig o ran deall ein heffaith mewn perthynas â charbon, ond mae'n bendant yn gam pwysig ymlaen yn y ffordd rydym yn dangos effaith y dewisiadau a wnawn.
Diolch, Weinidog. Rwy’n hollol o blaid cyllidebu carbon a chredaf ei bod yn wych ein bod yn mynd i’r cyfeiriad hwnnw, ond rwy'n sylweddoli pa mor gymhleth yw ceisio cyflawni hynny. Ond fel rydych wedi’i nodi, mae'n rhaid inni ddechrau yn rhywle.
Wrth edrych ar agweddau eraill ar y gyllideb ddrafft, ac rwy’n cydnabod mai cyllideb ddrafft yw hi o hyd, ond tai, er enghraifft. Gallaf ddeall sut y mae cyllidebu carbon yn berthnasol i ddarparu band eang gwell, ac ati, oherwydd mae hynny'n amlwg yn golygu llai o bobl ar y ffyrdd, ond mae eich penderfyniad ynghylch treth trafodiadau tir, ac er enghraifft, dychwelyd at y gyfradd flaenorol ar gyfer eiddo rhwng £160,000 a £250,000—credaf eu bod yn ôl i'r lefel o 3 y cant a oedd yn weithredol cyn y pandemig—mae'n anodd gweld sut y bydd hynny’n helpu'r bobl ar ben isaf y farchnad dai, yn sicr—prynwyr tro cyntaf—i gamu ar yr ysgol dai. Felly, pwy yw eich cysylltiadau a pha dystiolaeth rydych wedi'i hystyried wrth wneud y penderfyniadau hynny ar dreth trafodiadau tir? Ac a ydych yn siŵr neu'n argyhoeddedig y bydd y refeniw a geir o wneud hynny yn cyfiawnhau unrhyw effeithiau negyddol ar farchnad dai prynwyr tro cyntaf?
Wel, bwriad cyflwyno'r gostyngiad presennol sydd i fod i ddod i ben ar 31 Mawrth—sydd hefyd, neu o leiaf mae amserlen debyg yn cael ei hystyried dros y ffin yn Lloegr yn ogystal—oedd sicrhau bod rhai o'r trafodiadau'n cael eu cyflwyno'n gynt na'r flwyddyn nesaf. Felly, y bwriad bob amser oedd iddi fod yn ymyrraeth am gyfnod penodol i gynyddu nifer y cartrefi sy'n cael eu prynu a'u gwerthu yn y flwyddyn ariannol hon. Ond wedi dweud hynny, hyd yn oed pan fyddwn yn mynd yn ôl i’n cyfradd wreiddiol, ni fydd y rhan fwyaf o brynwyr tai yng Nghymru yn talu treth trafodiadau tir, neu byddant yn talu llai, ac yn sicr, byddant yn talu llai nag y byddent wedi'i dalu yn rhywle arall. Ac rydym hefyd mewn sefyllfa yng Nghymru lle mae prisiau tai ar gyfartaledd yn is o lawer nag mewn mannau eraill. Rwy'n dderbyn bod y sefyllfa’n wahanol yn yr etholaeth y mae Nick yn ei chynrychioli. Ond hyd yn oed wedyn, rwy’n dal i feddwl y bydd gennym y dull mwyaf blaengar o weithredu yn y DU.
Llefarydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Mae yna gryn sylw wedi cael ei roi ar draws y Deyrnas Unedig yr wythnos yma i ginio ysgol am ddim ar ôl y sgandal o brydau cwbl annigonol yn cael eu rhoi gan gontractwyr preifat i blant yn Lloegr yn ystod y pandemig. Ond mae cefnogaeth yn gyffredinol yn dal yn annigonol i blant sy'n byw mewn tlodi yng Nghymru; rydym ni wedi cyfeirio'n barod yn ystod y sesiwn yma at ymestyn cinio ysgol am ddim yn ystod y pandemig, ond gadewch inni edrych y tu hwnt i'r pandemig yma.
Mae yna 70,000 o blant yng Nghymru, yn ôl y Grŵp Gweithredu ar Dlodi Plant, lle mae eu teuluoedd nhw yn derbyn credyd cynhwysol ond sydd ddim yn gymwys i gael cinio ysgol am ddim. Rŵan, ar ddau achlysur yn ddiweddar mi ydych chi fel Gweinidog wedi cyfeirio at y ffaith bod costings wedi cael eu gwneud gan eich swyddogion chi ar roi cinio ysgol am ddim i bob un o'r rheini, y cyntaf mewn ymateb i gwestiwn ysgrifenedig gan Adam Price ar 4 Ionawr, y llall mewn ymateb i Siân Gwenllian yn y Pwyllgor Cyllid ychydig ddyddiau yn ddiweddarach. Ydych chi yn gallu dweud wrthym ni i ba gasgliad ddaethoch chi ynglŷn â faint fyddai fo'n gostio i sicrhau bod pob plentyn sydd yn byw mewn tlodi yn gymwys i gael cinio ysgol am ddim?
Lywydd, ymrwymais yn y Pwyllgor Cyllid ddydd Gwener i ysgrifennu at y pwyllgor gyda'r manylion llawn am y gwaith modelu rydym wedi'i wneud i archwilio cost ymestyn y ddarpariaeth o brydau ysgol am ddim, a byddaf yn siŵr o’u rhannu hefyd gyda Rhun ap Iorwerth yn ogystal â'r Pwyllgor Cyllid i roi’r lefel honno o fanylder. Wrth gwrs, codwyd y mater hwn eto gyda'r Prif Weinidog yn y cwestiynau i'r Prif Weinidog yr wythnos hon, a gwnaeth yr her—un gwbl ddilys yn fy marn i—yn yr ystyr, os ydym am ystyried gwario degau o filiynau o bunnoedd ychwanegol ar y fenter benodol hon—ac wrth gwrs, ceir dadl gref iawn dros gefnogi teuluoedd yn y ffordd hon—mae angen inni archwilio o ble yn y gyllideb y byddem yn mynd â’r arian hwnnw. Felly, credaf fod yn rhaid inni edrych ar y ddwy ochr i'r geiniog honno wrth wneud y dewisiadau hyn, ond byddaf yn rhannu'r wybodaeth honno cyn gynted ag y gallaf.
Diolch yn fawr iawn, a dwi yn deall yn iawn, wrth gwrs, mai mater o flaenoriaethu ydy hyn ond dwi'n gobeithio y byddwch chi fel Gweinidog cyllid yn cytuno nad oes yna lawer mwy o flaenoriaeth na rhoi'r gefnogaeth sydd ei hangen ar blant sy'n byw mewn tlodi, ac, yn wir, i'w tynnu nhw allan o dlodi. Ar ôl gwneud y costio, mi benderfynoch chi am ryw reswm bod hyn ddim yn ddigon o flaenoriaeth i roi yn y gyllideb ddrafft. A wnewch chi rŵan ailystyried hyn wrth weithio ar y gyllideb derfynol?
Ac o ran yr hyn glywsom ni gan y Prif Weinidog ddoe, oni bai eich bod chi'n gallu fy nghywiro i dwi'n meddwl bod y Prif Weinidog ddoe wedi camddehongli yr hyn rydym ni'n edrych arno fo drwy awgrymu ein bod ni'n sôn am 70,000 o deuluoedd yn fan hyn. Os buasai un plentyn ym mhob teulu, mi fuasai'n costio £33 miliwn meddai fo, mwy os oes yna ddau blentyn yn y teulu, gymaint â £101 miliwn os oes yna dri phlentyn mewn teulu, ond sôn am 70,000 o blant ydyn ni yn fan hyn. Ar sail y ffigurau yna gawsom ni gan y Prif Weinidog felly, allwn ni gasglu mai £33 miliwn fyddai'r gost o ymestyn cinio am ddim i'r 70,000 o blant?
Fel y dywedaf, byddaf yn rhannu'r gwaith modelu rydym wedi'i wneud ac sy'n cael ei gwblhau gan ein swyddogion yn Llywodraeth Cymru gyda Rhun ap Iorwerth a hefyd gyda'r Pwyllgor Cyllid, a chredaf mai dyna’r adeg i archwilio ble fyddai cyd-Aelodau’n awgrymu y dylid gwneud toriadau yn y gyllideb ddrafft er mwyn darparu ar gyfer newid i’r dull hwn.
Iawn. Fe ailadroddaf unwaith eto fod yn rhaid i hyn fod yn flaenoriaeth, does bosibl. Rydym yn sôn am blant yn byw mewn tlodi, ac angen pob cymorth y gallant ei gael, ac o gyllideb o £22 biliwn, rhaid bod modd dod o hyd i £33 miliwn. Rydym wedi gweld gwarth y bocsys bwyd annigonol. Rydym wedi gweld y rhwystredigaeth a'r dicter yn sgil ymgyrch Marcus Rashford. Gadewch inni gael trefn ar hyn. Edrychwch ar eich cyllid canlyniadol ar gyfer COVID nad yw wedi cael ei ddyrannu; a oes cyfraniad yno? Gwyddom fod COVID wedi chwyddo problemau tlodi yng Nghymru. Mae Plaid Cymru yn galw’n glir am hyn. Mae cynghorwyr Llafur yn Sir Gaerfyrddin, yn ôl yr hyn a ddeallaf, wedi cefnogi cynnig gan Blaid Cymru sy’n gofyn i Lywodraeth Cymru ymestyn prydau ysgol am ddim i gynnwys pob plentyn mewn teuluoedd sy’n derbyn credyd cynhwysol. Mae'n bryd i'r Llywodraeth Lafur weithredu ar hyn.
Credaf ei bod yn bwysig cydnabod bod prydau ysgol am ddim yn un rhan o becyn pwysig o gymorth rydym yn ei ddarparu i blant a theuluoedd sy'n ei chael hi'n anodd. Byddwch wedi fy nghlywed yn sôn eisoes y prynhawn yma am yr arian ychwanegol rydym yn ei ddarparu ar gyfer rhaglen gwella gwyliau’r haf, sy'n ymwneud â mwy na darparu bwyd yn unig i'r teuluoedd hynny ond cyfleoedd i blant allu cyfarfod â ffrindiau a chael profiadau dysgu drwy'r gwyliau fel nad ydynt ar ei hôl hi. Rydym wedi buddsoddi'n sylweddol yn ein grant datblygu disgyblion, sy'n darparu cyllid ychwanegol i ysgolion, y blynyddoedd cynnar a lleoliadau eraill, i alluogi dysgwyr difreintiedig i gyflawni eu canlyniadau addysgol gorau, ac yn y flwyddyn ariannol hon, cafodd dros £92 miliwn o hynny ei ddirprwyo’n uniongyrchol i ysgolion a lleoliadau addysgol fel y gallant gefnogi'r teuluoedd y gwyddant eu bod ei angen. Ac wrth gwrs, fe welwch gyllid ychwanegol i gefnogi plant drwy'r gwaith ychwanegol rydym yn ei roi yn ei le ar gyfer cymorth iechyd meddwl, er enghraifft, felly un rhan yn unig yw hon o gyfres eang o raglenni cymorth rydym yn ei rhoi ar waith i deuluoedd sy'n ei chael hi'n anodd. Cyfeiriaf unwaith eto at yr ymrwymiad a wneuthum yn y Pwyllgor Cyllid i rannu rhagor o fanylion a gwybodaeth.