6. Dadl ar ddeisebau sy'n ymwneud â mynediad at gyfleusterau chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn ystod cyfyngiadau symud

– Senedd Cymru am 3:37 pm ar 13 Ionawr 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 3:37, 13 Ionawr 2021

(Cyfieithwyd)

Diolch. Eitem 6 ar yr agenda yw dadl ar y deisebau sy'n ymwneud â mynediad at gyfleusterau chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn ystod cyfyngiadau symud, a galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig, Janet Finch-Saunders.

Cynnig NDM7543 Janet Finch-Saunders

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi’r deisebau canlynol ynglŷn â mynediad at gyfleusterau chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn ystod cyfyngiadau symud:

a) Deiseb ‘P-05-1053 Cadwch gampfeydd ar agor ac ystyriwch eu bod nhw mor bwysig â siopau, os cyflwynir cyfyngiadau symud cenedlaethol unwaith yn rhagor’ a gasglodd 20,616 o lofnodion;

b) Deiseb ‘P-05-1063 Dylid agor cyrsiau golff gan eu bod yn chwarae rôl hanfodol o ran gwella iechyd corfforol ac iechyd meddyliol’ a gasglodd 6,317 o lofnodion; ac

c) Deiseb ‘P-05-1074 Cynyddwch nifer y bobl sy'n cael bod mewn mannau awyr agored fel y gall pob tîm yng Nghymru ailddechrau chwarae pêl-droed’ a gasglodd 5,330 o lofnodion.

Cynigiwyd y cynnig.

Photo of Janet Finch-Saunders Janet Finch-Saunders Conservative 3:37, 13 Ionawr 2021

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Nawr, mae'r ddadl hon yn mynd i ymdrin â thair deiseb fawr a gyfeiriwyd at y Pwyllgor Deisebau ddiwedd y llynedd. Mae'r pwyllgor wedi gofyn iddynt gael eu trafod gyda'i gilydd oherwydd eu bod i gyd yn ymwneud â'r effaith y mae cyfyngiadau symud, a chyfyngiadau coronafeirws eraill wedi'i chael ar allu pobl i hyfforddi a chymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgareddau corfforol.

Mae'r ddeiseb gyntaf a'r fwyaf yn ymwneud â mynediad at gampfeydd. Dyma un o nifer o ddeisebau sydd wedi'u cyflwyno i'r Senedd ar y pwnc hwn ers dechrau'r pandemig. Yn ogystal â mwy nag 20,000 o lofnodion a gasglwyd gan y deisebydd, mae'n dangos yr awydd cryf sydd gan lawer o bobl i weld campfeydd yn aros ar agor oherwydd y manteision pwysig y gallant eu cynnig mewn perthynas ag iechyd corfforol a meddyliol. Mae'r ddeiseb hon, a gyflwynwyd gan Michelle Adams, yn galw am ystyried campfeydd yn wasanaethau hanfodol, ac o ganlyniad, iddynt allu aros ar agor hyd yn oed yn ystod y cyfyngiadau symud. Fel y gŵyr yr Aelodau, nid yw hyn yn digwydd ar hyn o bryd, gyda champfeydd yn gorfod cau yn ystod y cyfyngiadau symud presennol, yn ogystal ag yn ystod cyfyngiadau cenedlaethol a lleol eraill yn flaenorol. 

Yn ei thystiolaeth i'n pwyllgor, tynnodd y deisebydd sylw at effaith cau campfeydd ar y bobl sy'n eu defnyddio i fynychu dosbarthiadau, i weithio ar eu ffitrwydd corfforol, ac o bosibl, fel lle i ymlacio neu ddianc rhag pwysau arall yn eu bywydau. Tynnodd sylw hefyd at gost ariannol cau campfeydd i berchnogion campfeydd, hyfforddwyr personol, ac eraill sy'n eu defnyddio i wneud bywoliaeth.

Nawr, cwestiwn cyffredin a ofynnir gan bobl sydd wedi creu deisebau ar y pwnc hwn yw'r dystiolaeth wyddonol sy'n sail i'r cau. Mae llawer wedi mynegi barn, gan ddyfynnu ystadegau'n aml, fod campfeydd wedi'u cysylltu â thystiolaeth fod llai o feirws yn cael ei drosglwyddo yn y mannau hyn na lleoliadau eraill megis siopau, caffis a bwytai. Wrth gwrs, mae'r pwyllgor hefyd yn nodi, hyd yn oed os yw hyn yn wir, nid yw ond yn un o nifer o ffactorau sy'n llywio penderfyniadau Llywodraeth Cymru. Serch hynny, gobeithio y bydd y Gweinidog yn gallu dweud rhywbeth am hyn wrth ymateb i'r ddadl. 

Photo of Janet Finch-Saunders Janet Finch-Saunders Conservative 3:40, 13 Ionawr 2021

(Cyfieithwyd)

Hefyd, o dan y lefelau rhybudd a gyhoeddwyd gan y Llywodraeth ddiwedd y llynedd, nodwn y gall campfeydd, cyrsiau golff a chyfleusterau hamdden eraill aros ar agor ar bob lefel ac eithrio ar lefel 4. Credaf fod llawer o ddefnyddwyr a gweithredwyr yn croesawu'r eglurder hwn, er nad yw'n fawr o gysur ar hyn o bryd wrth gwrs gyda mesurau lefel rhybudd 4 ar waith yng Nghymru gyfan.

Nawr, mae'r ail ddeiseb rydym yn ei thrafod heddiw yn ymwneud â chyrsiau golff, ac mae hefyd yn pwysleisio'r manteision i les corfforol a meddyliol y gall golff ei gynnig i'r bobl sy'n ei chwarae. Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Sam Evans, a denodd dros 6,300 o lofnodion. Unwaith eto, mae'n un o nifer o ddeisebau a gyflwynwyd i'r Senedd ar y pwnc penodol hwn drwy gydol y pandemig. Mae'r ddeiseb hon yn dadlau bod natur awyr agored a'r pellter cymdeithasol naturiol sy'n digwydd gyda golff yn gwanhau'r ddadl dros gau cyrsiau golff. Fodd bynnag, fel gyda champfeydd, mae'n ofynnol i gyrsiau golff gau yn ystod cyfyngiadau lefel 4, fel y rhai sydd mewn grym ar hyn o bryd. 

Roedd deiseb arall a gyfeiriwyd at y pwyllgor ar y pwnc hwn yn gwneud y pwynt fod golff yn fath o ymarfer corff a rhyngweithio cymdeithasol y mae llawer o bobl hŷn yn ei fwynhau, pobl nad ydynt yn gallu gwneud mathau eraill o ymarfer corff awyr agored. Gallai hyn fod yn arwyddocaol, o ystyried yr effaith y mae'r pandemig wedi'i chael ar y grŵp hwn, gan gynnwys drwy ofynion gwarchod ac ynysu cymdeithasol dwys. Yn fwy cyffredinol, er eu bod yn fathau gwahanol iawn o weithgarwch chwaraeon, mae'n amlwg y gall chwarae golff gynnig manteision tebyg o ran iechyd meddwl a lles i ddefnyddio'r gampfa neu gymryd rhan mewn chwaraeon eraill. 

Ac rwyf am droi yn awr at sefyllfa chwaraeon tîm. Mae'r drydedd ddeiseb sy'n cael ei thrafod heddiw yn ymwneud â phêl-droed amatur. Fe'i crëwyd gan Mark Morgans a'i llofnodi gan fwy na 5,300 o bobl. Fodd bynnag, nid oes gennyf amheuaeth na fyddai llawer o'r pwyntiau y mae'n eu gwneud yr un mor berthnasol i chwaraeon tîm eraill ac yn rhannol, mae'r pwyllgor wedi cytuno i gyflwyno'r ddeiseb ar y sail honno. Mae'n bosibl fod sefyllfa chwaraeon tîm yn fwy cymhleth na'r pethau eraill a nodais hyd yma. Cânt eu chwarae mewn amrywiaeth llawer ehangach o leoliadau, o stadia bach i barciau lleol, ac o dan reolau a oruchwylir gan amrywiaeth o wahanol gyrff llywodraethu. Ac wrth gwrs, gall ffactorau eraill effeithio ar y risg o drosglwyddo feirysau, megis a yw'r gamp dan sylw'n cael ei chwarae dan do neu yn yr awyr agored a lefel y cyswllt corfforol rhwng y rhai sy'n cymryd rhan a maint y timau sy'n cystadlu. 

Mae nifer o'r mesurau sydd ar waith hefyd yn effeithio ar chwaraeon tîm. Fodd bynnag, y broblem benodol a godwyd gan y ddeiseb hon yw'r 'rheol 30' fel y'i gelwir—nifer y rhai y caniateir iddynt gymryd rhan mewn gweithgaredd a drefnir yn yr awyr agored. Cyflwynwyd y ddeiseb hon cyn cyflwyno cyfyngiadau lefel 4, lle gwaherddir y rhan fwyaf o weithgarwch wedi'i drefnu. Fodd bynnag, ar ryw bwynt, fel rydym i gyd yn gobeithio ac yn gweddïo, fe fydd Cymru mewn sefyllfa i ddychwelyd at lefel is o gyfyngiadau ac mae'n debyg y bydd yr uchafswm o 30 o bobl i allu cymryd rhan mewn gweithgareddau awyr agored neu 15 ar gyfer gweithgareddau dan do yn weithredol unwaith eto. Felly, mae'r ddeiseb yn gwneud y pwynt fod hyn yn ei gwneud hi'n anodd cynnal gemau amatur cystadleuol, o ystyried eu bod yn cynnwys swyddogion a staff yn ogystal â'r chwaraewyr eu hunain. 

Nawr, mae'r pwyllgor wedi ystyried tystiolaeth gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru yn ddiweddar mewn perthynas â deiseb arall. Ynddi, nodwyd eu cefnogaeth i gynnydd yn nifer y bobl y caniateir iddynt gymryd rhan mewn chwaraeon awyr agored wedi'u trefnu, ac argymhellwyd y dylai Llywodraeth Cymru ystyried cynyddu'r uchafswm i 50 o bobl o dan gyfyngiadau lefel rhybudd 2 er mwyn creu dull mwy graddol o symud drwy'r haenau hyn.

Nawr, rwy'n cydnabod na fyddai hyn yn cael effaith ar unwaith a bod cyfyngiadau lefel 2 yn ymddangos braidd yn bell ar hyn o bryd. Fodd bynnag, efallai mai dyma'r union fath o neges gadarnhaol a allai helpu mwy o dimau a'u chwaraewyr i gynllunio ar gyfer ailddechrau'n llawnach yn nes ymlaen yn y gwanwyn a'r haf, pan fyddwn i gyd yn gobeithio, rwy'n siŵr, y bydd dyddiau tywyllach y pandemig hwn y tu ôl i ni.

Wrth gloi'r sylwadau agoriadol hyn, Ddirprwy Lywydd, hoffwn gydnabod bod pob un o'r deisebau hyn yn codi materion gwahanol a'u bod yn ymwneud â set wahanol o gyfyngiadau ac amgylchiadau. Ein bwriad, fel pwyllgor, yw y dylai eu trafod gyda'i gilydd ymestyn yn hytrach na lleihau arwyddocâd y materion a godwyd. Credwn ei fod yn tynnu mwy o sylw at bwysigrwydd chwaraeon a gweithgarwch corfforol i'r nifer fawr o bobl sy'n cymryd rhan ynddynt, ac i'r rhai sy'n gwylio, yn wir. Edrychwn ymlaen at gyfraniadau'r Aelodau eraill heddiw yn ystod y ddadl a diolch i bob un ohonoch am y cyfle i drafod y materion pwysig hyn heddiw. Diolch yn fawr. 

Photo of Jenny Rathbone Jenny Rathbone Labour 3:46, 13 Ionawr 2021

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr am gyflwyno'r deisebau hyn. Rwy'n llwyr werthfawrogi, oherwydd rwyf wedi cael llawer o etholwyr yn cyfrannu at y drafodaeth cyn y ddadl hon am y ffordd y gall campfeydd fod yn achubiaeth i rai, yn llythrennol fel ffordd o oresgyn, neu weithio drwy brofiadau trawmatig. Felly, rwy'n llwyr gydnabod rôl bwysig y math hwnnw o ymarfer corff dwys i weithio drwy'r tensiynau—tensiynau corfforol a meddyliol—y mae llawer o bobl yn gorfod eu goresgyn.

Er y byddwn yn annog unrhyw un na all ddefnyddio campfa ar hyn o bryd am fod rhaid inni eu cau i sicrhau eu bod yn ymarfer yn yr awyr agored tra na fydd hi'n bosibl gwneud hynny, rwy'n deall, fodd bynnag, y byddai ymarfer corff yn yr awyr agored, yn enwedig yn y gaeaf, yn heriol iawn, naill ai oherwydd eu bod yn fregus neu oherwydd anabledd corfforol sy'n eu hatal rhag cerdded yn bell iawn. Er enghraifft, os ydych chi'n ddall, gall cerdded neu redeg yn yr awyr agored fod yn beryglus iawn oherwydd celfi stryd a allai achosi anaf difrifol iawn iddynt os nad ydynt yn ei wneud gyda rhywun arall.

Ac i lawer sydd ag anabledd—problem cefn efallai—nofio yw'r math gorau o ymarfer corff mewn gwirionedd. Er enghraifft, i fenywod yng nghamau hwyr beichiogrwydd. Nid sbrint yw rhoi genedigaeth, mae'n farathon, a gorau po ffitiaf y byddant ar gyfer yr her gorfforol, feddyliol ac emosiynol fwyaf gwych ond mwyaf anodd y maent yn debygol o'i hwynebu yn eu bywydau. Yn anffodus, mae'r pwll nofio yn fy etholaeth i, Canolfan Hamdden Pentwyn, wedi bod ar gau ers mis Mawrth ac nid oes unrhyw arwydd pa bryd y bydd yn ailagor, er ei fod wedi'i leoli yn un o'r cymunedau mwyaf difreintiedig yng Nghymru gyfan, mewn ardal gynnyrch ehangach o amddifadedd, lle nad oes gan dros hanner y trigolion gar at eu defnydd ac yn sicr ni fyddant wedi cael unrhyw brofiad gwyliau neu hamdden arall y tu hwnt i gerdded yn y 10 mis diwethaf.

Gan droi at golff, nid oes gan y gamp ddelwedd wych, hyd yn oed cyn i Donald Trump gael ei chysylltu â hi, gan fod iddi'r ddelwedd mai camp ar gyfer pobl gyfoethog yn unig yw hi. Ond rwy'n derbyn bod bod yn yr awyr agored a cherdded ar hyd cwrs penodol yn gamp wych ar gyfer yr awyr agored, ac mae'n siomedig iawn ein bod wedi gorfod cau cyrsiau golff nawr, oherwydd pan gawsant ailagor, aethant ati o ddifrif i weithredu negeseuon o ran systemau unffordd, archebu ymlaen llaw, a peidio â chaniatáu i bobl fynd i mewn i'r clwb i gymdeithasu. Felly, unwaith eto, gobeithio y byddwn yn gallu ailagor cyrsiau golff eto yn y dyfodol.

Ar bêl-droed, mae arnaf ofn nad yw'r gweithwyr proffesiynol ym maes pêl-droed yn ein hannog i feddwl bod pêl-droed yn rhywbeth y gallwn ei wneud yn ddiogel, oherwydd rydym i gyd wedi gweld ar y teledu y ffordd y mae pêl-droedwyr yn cofleidio'i gilydd bob tro y byddant yn sgorio gôl. Felly, ni chaniateir hyn o gwbl ar hyn o bryd. Ond serch hynny, yn fuan iawn dylai fod yn bosibl rhagweld ffyrdd y gallwn ailagor clybiau amatur ar raddfa fach—grwpiau ifanc pump bob ochr, saith bob ochr sy'n gysylltiedig â hynny—ac rwy'n gobeithio'n fawr y byddwn yn gallu bod yn ddigon hyderus cyn bo hir ynghylch graddau'r amrywiolyn newydd i'n galluogi i wneud hynny. Ond am y tro, rwy'n llwyr gefnogi safbwynt Llywodraeth Cymru ar yr adeg hon, gydag ysbytai yn agos at fethu ymdopi, na allwn ganiatáu unrhyw weithgareddau ychwanegol fel y rhai hyn, sy'n rhai rhagorol ynddynt eu hunain. Felly, edrychaf ymlaen at y diwrnod pan allwn wneud pob un o'r tri gweithgaredd yn flaenoriaeth ar gyfer ailagor.

Photo of Laura Anne Jones Laura Anne Jones Conservative 3:51, 13 Ionawr 2021

(Cyfieithwyd)

Mae manteision gweithgarwch corfforol i iechyd a lles yn hysbys iawn, a bydd llawer wedi hen arfer â fi'n tynnu sylw at y rhain drwy gydol fy nau dymor yn y swydd, fel un sy'n dadlau'n frwd dros yr holl fanteision corfforol a meddyliol a ddaw yn sgil gweithgarwch corfforol a chwaraeon. Ond mae ei bwysigrwydd yn ystod y pandemig hwn wedi cynyddu'n ddramatig fel ffordd i bobl hen ac ifanc ymdopi yn ystod cyfnodau o gyfyngiadau symud. Mae gweithgarwch corfforol yn allweddol ac yn ffordd hanfodol o reoli iechyd meddwl a lles. Mae astudiaethau wedi dangos bod ymddygiad llonydd gorfodol wedi arwain at deimladau o ddigalondid a hwyliau gwael mewn pobl iach. Gan ystyried y sefyllfa bresennol, gyda chyfnodau gorfodol o gyfyngiadau symud ac ynysu, mae hyn yn effeithio'n fawr ar iechyd meddwl a lles llawer o bobl, a hyd yn oed yn fwy felly os nad ydynt yn cymryd rhan mewn unrhyw fath o weithgarwch corfforol.

Mae hyn wedi bod yn amlwg iawn mewn plant sydd wedi arfer â mwy o weithgarwch corfforol yn ystod ac ar ôl eu diwrnod ysgol. Mae fy mab fy hun, sy'n 10 oed, yn hoffi chwaraeon ac yn cymryd rhan mewn llawer o weithgareddau ar ôl ysgol, yn ogystal â dwli ar wneud chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn ystod ei ddiwrnod ysgol. Mae'r manteision corfforol yn amlwg, ond nawr hefyd mae effeithiau meddyliol negyddol colli'r gweithgareddau hyn i'w gweld arno ef a phlant eraill. Efallai y bydd pobl yn dweud, 'Wel, cerddwch y tu allan ger eich cartref neu rywbeth', ond nid oes dim i gymryd lle faint o ymarfer corff y byddent yn ei wneud fel arfer, am fod rhieni'n gweithio hefyd yn ystod y dydd, gartref neu lle bynnag, yn ystod golau dydd, ac ar yr adeg hon o'r flwyddyn, mae'n dywyll pan fyddant yn gorffen gweithio, ac felly mae gweithgarwch corfforol yn un o'r pethau na fydd yn digwydd ar ôl y diwrnod ysgol nawr.

Felly, mae yna lawer o bobl nad ydynt yn cael y lefel o weithgarwch corfforol sydd ei hangen arnynt, tra bod amser sgrin, fel y gwelwn, yn cynyddu. Ac nid yw mynd am dro gyda'ch teulu yn cymryd lle'r rhyngweithio cymdeithasol y mae ein plant, ac oedolion, gymaint o'i angen. Rydym i gyd yn deall difrifoldeb a risg COVID a'r straen newydd, ond ni ellir anwybyddu pwysigrwydd chwaraeon ac ymarfer corff, a dyna pam rydym angen ymrwymiad gan Lywodraeth Cymru mai chwaraeon di-gyswllt awyr agored fydd y peth cyntaf a ganiateir pan fydd ffigurau COVID yn gwella, gan ei fod yn hollbwysig i iechyd a lles llawer o bobl ledled ein gwlad, wedi'u dilyn cyn gynted â phosibl gan yr holl chwaraeon awyr agored a chwaraeon dan do a champfeydd. Fel y gwyddom, yn wyddonol, mae'r risg yn yr awyr agored mor isel—yn fychan iawn, fel y gwyddoch, Weinidog—gan nad yw'n wahanol i gerdded neu feicio, sy'n bethau a ganiateir, pethau y gallwn eu gwneud ar hyn o bryd o'n cartrefi.

Gan fod Cymru wedi'i symud yn ddiweddar i gyfyngiadau haen 4, yn anffodus unwaith eto, ni chaniateir i blant gymryd rhan mewn gweithgareddau chwaraeon wedi'u trefnu—er ein bod yn deall pam—hyd yn oed os ydynt yn weithgareddau awyr agored. Mae hyn yn wahanol iawn i'r sefyllfa yn Lloegr, lle caniateir i ardaloedd haen 4—lle caniateir i weithgareddau chwaraeon awyr agored i bobl ifanc dan 18 oed a phobl ag anableddau barhau, er gwaethaf y cyfyngiadau. Drwy gydol y pandemig, mae Llywodraeth Cymru wedi gwahaniaethu rhwng gweithgareddau dan do a gweithgareddau awyr agored, a gallai fod synnwyr mewn gwneud hynny eto mewn perthynas â gweithgareddau plant yn awr, fel y mae Llywodraeth y DU wedi'i wneud gydag ardaloedd haen 4 yn Lloegr. Er fy mod yn parhau i fod yn obeithiol y bydd Llywodraeth Cymru yn dod â chwaraeon yn ôl cyn gynted â phosibl, a gaf fi ofyn am wahaniaethu rhwng gweithgareddau awyr agored a gweithgareddau dan do, chwaraeon cyswllt a chwaraeon digyswllt, fel y gallwn o leiaf gael rhai gweithgareddau chwaraeon yn ôl, os nad pob un?

Ond Lywodraeth Cymru, ystyriwch pa mor ddiogel rhag COVID yw ein clybiau nawr a lefel y risg sy'n gysylltiedig â'u cychwyn eto. Mae gennyf lawer iawn o gydymdeimlad â chlybiau sy'n colli cymaint o arian, ac rwy'n rhannu eu rhwystredigaethau mewn sawl ffordd, rhwystredigaethau sydd eisoes wedi'u hamlygu heddiw. Yn yr hinsawdd sydd ohoni, rwy'n credu bod llawer o bobl yn deall pryder Llywodraeth Cymru, a phryderon pob un ohonom, ynghylch y straen newydd o COVID yn arbennig, ond mae angen sicrhau cydbwysedd rhwng diogelwch a phryderon iechyd eraill cyn gynted ag y gallwn wneud hynny. Diolch.

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 3:55, 13 Ionawr 2021

(Cyfieithwyd)

Diolch. Rhun ap Iorwerth.

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd; diolch am y cyfle i siarad yn y ddadl yma. Dwi wedi codi droeon yn y Siambr rithiol, ac mewn cyfathrebiaeth efo'r Llywodraeth dros y misoedd diwethaf, yr angen i wneud popeth posib drwy ddyddiau anodd y pandemig i sicrhau bod pobl yn cael cefnogaeth ac anogaeth i ymarfer corff, i gael awyr iach, a hynny nid yn unig oherwydd yr elfen o les corfforol mae'n ei wneud, ond hefyd oherwydd y budd o ran llesiant meddwl ac iechyd meddwl.

Dwi'n ffodus iawn fy mod i'n gallu ymarfer corff yn rheolaidd o gartref, a chael cwmni i wneud hynny hefyd. Ers dechrau y lockdown cyntaf, rhyw bum diwrnod yr wythnos, tua 7 y bore fel arfer, mae fy ngwraig a minnau yn mynd i redeg. Mae'n amrywio o ryw 2 filltir, 2 filltir a hanner i ryw 6 milltir, ac mae'r ddau ohonom ni'n grediniol bod y ffaith ein bod ni wedi gallu gwneud hynny, a gwneud hynny'n rheolaidd, o ran y llesiant corfforol—y ffaith ein bod ni'n dechrau'r dydd mewn ffordd bositif ac ati, dros ffordd dywyll, oer a gwlyb y dyddiau yma—wedi ein helpu ni drwy'r cyfnod yma. Ond dydy pawb ddim yn gallu gwneud hynny. Mae yna bob mathau o resymau pam mae pobl angen rhywbeth arall, rhywbeth mwy strwythuredig, o ran help i gynnal eu ffitrwydd—rhesymau o ran hygyrchedd, fel dywedodd Jenny Rathbone. O bosib, mae gan bobl resymau penodol pam nad ydyn nhw'n gallu mynd i'r awyr agored—unigrwydd ac yn y blaen. Ac mae colli campfeydd wedi dod fel ergyd fawr i lawer o bobl. Mae Michelle Adams—y deisebydd sydd y tu ôl i'r ddeiseb ar gadw campfeydd ar agor—yn etholwraig i mi, ac mae'n aelod o CrossFit Place yng Nghaerwen. Ac yn ogystal â'r perchennog, Phil Brown, dwi wedi clywed gan nifer o aelodau o'r gampfa honno am eu tor calon nhw—dydy hynny ddim yn rhy gryf i'w ddweud—pan fo'r gampfa wedi gorfod cau ar wahanol adegau dros y flwyddyn ddiwethaf, o ran y gwmnïaeth a'r iechyd corfforol a meddyliol.

Beth ofynnais i i'r Llywodraeth mewn llythyr i'r Gweinidog iechyd yn ôl ym mis Hydref oedd: gadewch i gyms wneud yr achos i allu agor yn ddiogel; gadewch iddyn nhw ddangos eu bod nhw yn gallu. Dwi'n adnabod yn CrossFit Place, er enghraifft, mae yna ddrws roller shutter anferth o'r llawr i'r to er mwyn sicrhau digon o awyr iach. Mae'n bosib bod yna rai gyms sydd yn methu â rhoi trefniadau diogel mewn lle, ond gadewch iddyn nhw drio. Yr agwedd pan fo'n dod at ymarfer corff, dwi'n credu, ydy y dylid ei ganiatáu os ydy hynny yn bosib o gwbl. A bydd, mi fydd adegau pan fydd nifer yr achosion ar ei fwyaf uchel, fel rydym ni wedi'i brofi rŵan, neu mewn rhai ardaloedd lle mae hynny yn wir, lle o bosib does yna ddim modd i unrhyw gampfa fod ar agor, ond sôn am asesiadau risg, deinamig rydym ni yn fan hyn er mwyn hybu y math yna o ymarfer corff, a dwi'n gofyn eto i'r Llywodraeth feddwl yn y ffordd yna.

Yr un fath efo'r deisebau eraill: prin allwch chi ddychmygu camp fwy diogel na golff. Mae yn yr awyr agored, mae pobl yn gallu cadw ymhell iawn oddi wrth ei gilydd. A chofiwch nid sôn am agor y clubhouse ydyn ni—er, ar hyn o bryd, mi allwch chi fynd draw i'r clubhouse i ôl têc-awe, ond allwch chi ddim mynd draw yno i gael gêm o golff yn yr awyr agored.

A dwi wedi mynd ar ôl y mater o geisio caniatáu chwaraeon tîm i gael eu chwarae a'u gwylio dros y misoedd diwethaf hefyd. Mae gen i gariad mawr at bêl-droed, sy'n ffocws ar y ddeiseb yma—rygbi hefyd. Dwi wedi hyfforddi ieuenctid llawer iawn dros y blynyddoedd, ac mae annog chwaraeon tîm mor bwysig, eto i iechyd meddwl a chorfforol, ond yn gymunedol hefyd. Mae rhwyfwyr môr cystadleuol wedi bod yn rhwystredig yn Ynys Môn, er enghraifft, eu bod nhw wedi methu â chael mynd allan am gyfnodau dros y misoedd diwethaf. Felly, mae fy apêl i yr un fath: plîs a wnaiff y Llywodraeth feddwl am eu hunain fel hwyluswyr yn fan hyn, fel enablers, a meddwl mai beth sydd eisiau ei wneud ydy caniatáu ac annog gweithgaredd corfforol lle bynnag y mae hynny yn bosib? Rwy'n cefnogi'r cyfyngiadau Cymru gyfan sydd gennym ni ar hyn o bryd—mae pethau'n edrych yn well, yn symud i'r cyfeiriad cywir rydw i'n gobeithio, ond mae'r sefyllfa'n dal yn ddifrifol—ond tra mae yna bethau sydd ddim yn gallu cael eu hystyried yn angenrheidiol ar hyn o bryd, mae annog ffitrwydd corfforol a meddyliol yn gorfod bod yn flaenoriaeth, felly gwnewch bopeth allwch chi.

Photo of Alun Davies Alun Davies Labour 4:00, 13 Ionawr 2021

(Cyfieithwyd)

A gaf fi ddweud cymaint rwy'n cefnogi'r egwyddorion sy'n sail i bob un o'r deisebau hyn? Rydym i gyd yn ymwybodol o'r sefyllfa ddifrifol iawn gyda'r coronafeirws ar hyn o bryd, ac rwy'n credu bod pawb yn ymwybodol na allwn wneud pethau y byddem yn dewis eu gwneud neu beidio â'u gwneud ac ymddwyn yn y ffordd y byddem fel arfer, ac mae hynny'n ddealladwy. Ond wrth i'r Llywodraeth sefydlu cyfyngiadau a rheoliadau, rydym hefyd yn ymwybodol fod pethau y gallwn eu gwneud o hyd a phethau sy'n fwy cyfyngol, ond mae hyd yn oed y rheoliadau mwyaf cyfyngol y mae'r Llywodraeth wedi'u gosod wedi cydnabod lle a phwysigrwydd hamdden corfforol ac ymarfer corff. Ar bob adeg pan fyddwn wedi bod drwy gyfnod o gyfyngiadau yng Nghymru ac mewn mannau eraill, nid yn unig yn y Deyrnas Unedig ond mewn mannau eraill ym mhob cwr o'r byd, mae pob Llywodraeth wedi cydnabod pwysigrwydd ymarfer corff, bron yn ddieithriad, ac mae honno'n egwyddor bwysig, oherwydd rydym yn cydnabod felly fod ymarfer corff a chwaraeon yn bwysig i ni lle bynnag y byddwn.

Nawr, mae'n ddigon posibl y gallaf gerdded o amgylch llyn, er enghraifft, ond hoffai Clwb Pysgota Parc yr Ŵyl yng Nglynebwy, er enghraifft, bysgota ynddo hefyd, ac mae'n ymddangos yn enghraifft ryfedd iawn i'w defnyddio, gan y gallwn loncian o amgylch y llyn, ond ni fyddwn yn cael stopio a physgota yno. Credaf fod yna fannau lle mae'r rheoliadau'n mynd yn anodd eu cynnal. Nawr, deallwn mai prif amcan polisi o reidrwydd yw atal a dileu'r feirws. Nid oes dadl ynglŷn â hynny. Mae'n fater o sut rydym yn ei wneud a sut rydym yn diogelu pobl wrth i ni ei wneud a phryd rydym yn ei wneud.

Defnyddiais Glwb Pysgota Parc yr Ŵyl yng Nglynebwy fel enghraifft; gallwn hefyd ddefnyddio Clwb Golff Gorllewin Sir Fynwy yn Nant-y-glo fel enghraifft arall, un o'r lleoliadau harddaf ar gyfer clwb golff—rwy'n siŵr fod y Gweinidog yn gyfarwydd iawn ag ef. Nid wyf erioed wedi chwarae rownd o golff yno, mae'n rhaid i mi gyfaddef; rwyf wedi cerdded y cwrs golff, ac wrth i chi gerdded ar draws y cwrs, gallwch weld o Fynydd Pen-y-fâl draw i Fannau Brycheiniog, ar draws Blaenau'r Cymoedd i gyd, lleoliad hardd a man lle gallwch ymarfer corff a gwneud hynny'n ddiogel. Mae pwyllgor y clwb golff yn deall yn iawn yr angen i sicrhau diogelwch i bobl wrth iddynt wneud hynny, ac maent eisoes wedi rhoi nifer o fesurau ar waith i sicrhau bod pobl yn gallu gwneud hynny'n ddiogel.

Ar yr un pryd, mae gennym yr holl sefyllfa gyda champfeydd. Gallaf feddwl yn hawdd am nifer o gampfeydd sy'n cael eu rhedeg yn dda iawn—yma yn Nhredegar, ond ar draws Blaenau Gwent ac mewn mannau eraill. Mae'r gampfa rwy'n aelod ohoni yn y fan hon yn Nhredegar, Fresh Active, yn cael ei rhedeg yn eithriadol o dda, lle maent wedi rhoi'r rhagofalon mwyaf posibl ar waith i sicrhau diogelwch pob un ohonom a fydd yn defnyddio'r cyfleuster, ac mae hynny'n bwysig, nid yn unig i iechyd corfforol, ond i iechyd meddwl pobl hefyd. Rwy'n arbennig o bryderus am iechyd meddwl dynion ifanc, Weinidog, a byddwn yn ddiolchgar am eich sylwadau ar hyn, oherwydd roeddwn yn siarad ag etholwr cyn y Nadolig yng nghwm Ebwy Fach, a oedd yn dweud wrthyf fod yna ddegau, ac efallai cannoedd hyd yn oed, o ddynion ifanc yr effeithiwyd yn fawr arnynt yn sgil cau campfeydd o ganlyniad i'n rheoliadau.

Y pwynt olaf rwyf am ei wneud, Ddirprwy Lywydd, yw hwn: siaradodd Laura Jones am ei mab 10 oed, wel, mae gennyf innau fab 10 oed hefyd, ac rwy'n siŵr nad ni yw'r unig rai sydd â'r lobïwr mwyaf effeithiol y daethom ar eu traws erioed yn eistedd gyferbyn â ni bob hyn a hyn. Ac mae'n bwysig—mae'r ddeiseb yn sôn am bêl-droed, ond fel y dywedodd Rhun ap Iorwerth, gallai fod yn rygbi neu'n unrhyw gamp tîm arall—ein bod yn gallu sicrhau bod ein plant yn enwedig, ac rwy'n meddwl yn arbennig am chwaraeon grŵp oedran, yn gallu cynnal y cyswllt cymdeithasol hwnnw. Buom yn siarad yn y cwestiynau addysg yn gynharach am bwysigrwydd cymdeithasu mewn ysgolion ac addysg. Ac wrth gwrs, mae fy mab, ac rwy'n siŵr fod plant Laura a phobl eraill hefyd yn cymdeithasu nid yn unig yn yr ystafell ddosbarth, ond yn fwy felly, mewn gwirionedd, drwy chwaraeon ac ymarfer corff. A gwn am y cyffro y mae fy mab yn ei deimlo; mae'n dweud wrthyf yn hyglyw iawn ar fore Sadwrn pan fydd yn mynd i'w ymarfer pêl-droed. Ac mae'n rhan bwysig o bwy ydym ni ac wrth gwrs, mae hynny'n gosod y sylfaen ar gyfer oes o iechyd a gweithgarwch corfforol.

Felly, Weinidog, wrth ymateb i'r ddadl hon, nid wyf yn credu bod neb yn dadlau y gall newid ddod ar unwaith ac mae pawb, rwy'n credu, yn deall pwysigrwydd dileu ac atal y feirws heddiw. Ond rydym hefyd yn deall ein bod yn mynd i deithio ar hyd ffordd, llwybr, dros y misoedd nesaf, a chredaf mai'r hyn rydym yn ceisio'i ddadlau yw y dylai dechrau llacio'r cyfyngiadau hyn ddigwydd gyda'r gweithgareddau y gellir eu cynnal yn ddiogel yn yr awyr agored yn bennaf, er nad y rheini'n unig, a'r gweithgareddau sy'n cyfrannu at iechyd a lles pobl yn ein cymunedau. Felly, rwy'n gobeithio y byddwn yn gallu cydnabod bod campfeydd yn hanfodol i'n ffitrwydd a'n hiechyd a'n lles; boed yn bysgota neu'n golffio, ein bod yn gallu gwneud hynny'n ddiogel yn y dyfodol; a hefyd wedyn, fod y gweithgareddau chwaraeon a chwaraeon sy'n hybu iechyd a ffitrwydd a lles mewn cymuned hefyd yn gallu ailddechrau'n syth gyda dechrau'r broses o lacio. Diolch yn fawr iawn.

Photo of David Rowlands David Rowlands UKIP 4:07, 13 Ionawr 2021

(Cyfieithwyd)

Hoffwn ymdrin yn bennaf â'r ddeiseb gyntaf a grybwyllir yn y ddadl hon, sy'n ymwneud â chau campfeydd. Mae'n ffaith ddiamheuol mai cyflwr iechyd cyffredinol unigolyn yw un o'r ffactorau pwysicaf yn eu gallu i wrthsefyll heintiau o bob math, gan gynnwys COVID-19. Dywedwyd wrthym ers blynyddoedd lawer am gadw'n heini ac ymarfer corff er mwyn atal afiechyd. Mae'n ffaith ddiymwad fod y canolfannau ffitrwydd a'r campfeydd yn cyfrannu'n aruthrol at iechyd cyffredinol y genedl. Dywedir wrthym yn gyson hefyd fod ein gwasanaeth iechyd o dan straen ddifrifol, ac eto yma mae gennym gyfleuster sy'n cael effaith fuddiol brofedig ar iechyd ac effaith liniarol sylweddol felly ar feirws COVID i'r rhai sy'n ei ddal, a ddylai olygu, wrth gwrs, na fyddant fawr o angen defnyddio cyfleusterau gofal iechyd, os o gwbl, boed yn wasanaethau gofal sylfaenol neu'n gyfleusterau ysbyty. Bydd hyn, wrth gwrs, yn lleddfu'r pwysau ar yr holl wasanaethau iechyd. Byddai rhywun wedi meddwl y byddai'r Llywodraeth wedi ystyried yr effeithiau cadarnhaol iawn sy'n gysylltiedig â champfeydd a chyfleusterau ymarfer corff cyn eu gorfodi i gau. Pam y mae'n ymddangos bod Llywodraeth Cymru wedi anwybyddu eu ffigurau heintiau COVID eu hunain, sy'n dangos mai cyfradd heintio o 1.7 y cant yn unig sydd gan gampfeydd?

O ran y ddwy ddeiseb arall, golff fyddai un o'r campau hawsaf i allu arfer canllawiau'r Llywodraeth ar gadw pellter cymdeithasol. Ac os yw'n gyfyngedig i ddau chwaraewr y gêm, bron na fyddai unrhyw berygl o drosglwyddo'r feirws. Yn wir, llawer llai o berygl nag mewn unrhyw archfarchnad.

Mewn perthynas â'r drydedd ddeiseb, credaf fod pêl-droed a gemau maes eraill bob amser wedi'u trefnu'n dda o dan reolau'r gymdeithas, ac felly mae hi bron yn sicr y byddent yn amgylcheddau diogel i bobl allu ymgynnull. Unwaith eto, ni allwn orbwysleisio gwerth ffitrwydd corfforol i wneud pobl yn llawer mwy tebygol o allu gwrthsefyll feirws COVID ac ni allwn ychwaith anwybyddu'r effaith y mae lles corfforol yn ei chael ar iechyd meddwl. 

I gloi, Ddirprwy Lywydd, mae'n bwysig dros ben fod y boblogaeth gyfan yn ystyried bod unrhyw gyfyngiadau'n ddilys a chymesur er mwyn iddynt fod yn barod i gydymffurfio â'r mesurau. Nid yw'r cyfyngiadau a grybwyllir yn y deisebau hyn yn ymddangos yn briodol nac yn synhwyrol yn wir, o ystyried eu bod mewn perygl o wneud i lawer mwy o bobl fod yn ddifrifol o sâl gyda COVID, yn hytrach na diogelu pobl rhag canlyniadau dal COVID-19. Diolch, Ddirprwy Lywydd.

Photo of John Griffiths John Griffiths Labour 4:10, 13 Ionawr 2021

(Cyfieithwyd)

Mae'n sicr yn wir, onid yw, yn ystod y pandemig, fod llawer o bobl wedi dod i sylweddoli a deall o'r newydd beth yw gwerth gweithgarwch corfforol a chwaraeon? Ie, ar gyfer iechyd corfforol, ond, fel mae pobl wedi dweud, ar gyfer iechyd meddwl hefyd, ar gyfer ansawdd bywyd a mwynhad, ac rwyf wedi cael llawer iawn o negeseuon e-bost gan etholwyr sy'n arbennig o bryderus am eu plant. Mae gweithgareddau eu plant y tu allan i'r ysgol mewn perthynas â gweithgarwch corfforol a chwaraeon yn bwysig iawn iddynt fel teuluoedd, yn bwysig iawn i brofiad y bobl ifanc hyn, ac maent yn meithrin arferion da am oes pan fyddant yn cymryd rhan mewn pêl-droed, tenis, criced, gymnasteg, dawns neu beth bynnag y bo. Felly, mae cynnal iechyd da a diddordebau pleserus drwy gydol eich oes yn werthfawr iawn.

Yn lleol i mi, mae cymaint o glybiau pêl-droed, rygbi, criced llawr gwlad i'w cael, sy'n cynnal gweithgareddau ar gyfer yr holl ystod o oedrannau, o'r plant ieuengaf hyd at bobl hŷn, ac mae'n werthfawr iawn i bob un ohonynt. Mae Clwb Criced Casnewydd yn enghraifft dda iawn lle mae ganddynt dimau merched hynod o dda a thîm menywod sydd wedi bod yn llwyddiannus iawn. Maent wedi adeiladu eu gweithgareddau a'u cyfleusterau dros gyfnod o amser ac wrth gwrs, mae'n anodd iawn iddynt orfod torri ar draws hynny nawr ac mewn rhai ffyrdd, i hyd yn oed weld y cynnydd a wnaethant dros flynyddoedd lawer yn cael ei wrthdroi.

Er enghraifft, ar athletau a phobl ifanc, cefais e-bost gan Wendy mewn perthynas â'i merch Anya Brady, sy'n rhedwr pellter canol iau talentog iawn, ac mae Anya wrth ei bodd yn rhedeg yn stadiwm Spytty lle mae Clwb Athletau Harriers Casnewydd yn gweithredu. Mae hi wrth ei bodd â'r ochr gymdeithasol, a chyfarfod â'i ffrindiau, mae hi wrth ei bodd â'r trac, y llifoleuadau a'r cyfleusterau yno, ac iddi hi, mae'n hynod o bwysig. Dywedodd ei mam mewn e-bost ataf fod y rhain yn blant ffit sy'n ymarfer corff yn rheolaidd, mae angen iddynt barhau i ymarfer corff er eu lles corfforol, ond hefyd er mwyn eu lles meddyliol yn y cyfnod anodd hwn.

Mae hynny'n adlewyrchu llawer o negeseuon e-bost a galwadau ffôn a gefais gan etholwyr ers y gwanwyn diwethaf. Mae'r ffordd y mae llawer o'r clybiau llawr gwlad hyn wedi rhoi mesurau gwych ar waith i sicrhau eu bod yn gweithredu'n ddiogel wedi creu argraff fawr arnaf. Maent wedi bod yn gyfan gwbl o ddifrif ynglŷn â'r canllawiau ac wedi rhoi pethau mewn trefn, fel petai, ac mae hynny hyd yn oed yn fwy gwir, rwy'n credu, mewn gweithgareddau mwy proffesiynol fel Casnewydd Fyw. Casnewydd Fyw yw'r ymddiriedolaeth hamdden yng Nghasnewydd ac mae ganddynt gyfleusterau gwych, a rhai ohonynt wedi'u darparu ganddynt ar gyfer adsefydlu COVID hir, sef felodrom Geraint Thomas, lle maent, ar y cyd â'r bwrdd iechyd, wedi darparu eu cyfleusterau er mwyn galluogi pobl sy'n cael trafferth gyda COVID hir i gyflymu eu proses adsefydlu. Mae honno'n enghraifft wych, rwy'n meddwl, o'r hyn y mae angen i ni weld mwy ohono: cydweithio agos iawn rhwng ein sector iechyd a'n gweithredwyr chwaraeon a gweithgarwch corfforol.

Mae eu cyfleusterau a'u dosbarthiadau wedi bod mor bwysig i gynifer o bobl drwy COVID-19. Gwyddom fod 60 y cant o oedolion a dwy ran o dair o bobl ifanc yn dweud bod eu hiechyd meddwl wedi dioddef yn ystod y pandemig. Gwyddom fod chwaraeon a gweithgarwch corfforol wedi chwarae rhan werthfawr iawn yn lleihau iselder a phryder. Felly, credaf mai un o'r gwersi—wyddoch chi, rydym yn sôn mor aml am adeiladu nôl yn well—un o'r enghreifftiau y mae gwir angen inni bwyso arni o'n profiad yn ystod COVID-19 yw pwysigrwydd chwaraeon a gweithgarwch corfforol i iechyd corfforol a meddyliol. Mae angen cydweithio ac integreiddio llawer agosach rhwng ein polisïau a'n strategaethau iechyd, chwaraeon a hamdden, ac rwy'n credu bod gennym enghraifft o hynny'n lleol yng Nghasnewydd rhwng Casnewydd Fyw a'r sector iechyd, nid yn unig mewn perthynas â COVID-19, ond yn mynd yn ôl yn llawer pellach na hynny, lle rwyf wedi bod yn rhan o lawer o gyfarfodydd i geisio sicrhau cydweithio agosach, gwell integreiddio.

Felly, hoffwn ddweud i gloi, Ddirprwy Lywydd, fy mod yn credu, pan fydd rhywfaint o ryddid i lacio'r cyfyngiadau sydd gennym ar hyn o bryd, mai'r dosbarthiadau chwaraeon a gweithgareddau hynny i'n pobl ifanc ddylai fod tuag at flaen y ciw, ac yn dynn wrth eu sodlau, dylem weld chwaraeon a hamdden i bob oedran yn agor yn llawer mwy cyffredinol. Rwy'n gobeithio'n fawr y bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi ystyriaeth ddifrifol iawn i'r apêl a'r alwad honno.

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 4:15, 13 Ionawr 2021

(Cyfieithwyd)

A gaf fi alw yn awr ar Dafydd Elis-Thomas, y Gweinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth?

Photo of Lord Dafydd Elis-Thomas Lord Dafydd Elis-Thomas Independent

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd, a diolch i Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau, Janet Finch-Saunders, am ddilyn y broses ddeisebau a chyflwyno'r ddadl yma heddiw. Fy nheimlad i ydy, er bod y ddadl yma yn dod trwy broses gan y Senedd, efallai ei bod hi'n ddadl sydd wedi digwydd yn rhy gynnar. Ond wedi dweud hynny, mae o'n gyfle i mi ymateb ar ran y Llywodraeth mewn ffordd hollol glir, gobeithio.

Fel y gwyddoch chi, iechyd cyhoeddus yw'r brif ystyriaeth yn y sefyllfa yr ydym ni ynddi ar hyn o bryd. Yn wir, mae'r sefyllfa wedi gwaethygu yn sylweddol ers pan gyflwynwyd y deisebau yma yn wreiddiol. Mae gen i gyfrifoldeb, wrth gwrs, am gael trosolwg ar weithgaredd corfforol fel Gweinidog chwaraeon o fewn y Llywodraeth, ond mae'n rhaid i mi weithredu'r cyfrifoldeb yna o fewn cyd-destun iechyd cyhoeddus, ac mae lefel y rhybudd yr ydym ynddi hi ers 20 Rhagfyr, lefel 4, yn adlewyrchu difrifoldeb y sefyllfa.

Mae'r cyfan o'r polisi a'r gweithredu y mae Llywodraeth Cymru wedi eu dilyn, sydd ddim mor annhebyg â hynny i beth sydd wedi digwydd yn Lloegr, yng Ngogledd Iwerddon ac yn yr Alban, er bod yna eithriad yna ynglŷn â golff yn yr Alban—mae'r polisïau a'r gweithredu yn gyffredinol yn debyg. Maen nhw'n debyg oherwydd eu bod nhw wedi cael eu darparu yn y gwledydd yna i gyd ar sail cyngor iechyd cyhoeddus sydd wedi'i gytuno yn gyson rhwng y prif swyddogion meddygol. Os digwyddodd rhai ohonoch chi weld, fel y gwelais i, amser cinio heddiw, y ddau brif swyddog meddygol sydd yn rhan o Lywodraeth Cymru a'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru, mi fyddech chi wedi cael y dystiolaeth ddiweddaraf ynglŷn â'r sefyllfa yna.

Tra bydd y cyngor yn dweud wrthym ni am aros gartref ac am gymryd gofal, ac am beidio â chaniatáu gweithgareddau corfforol y tu fewn i adeiladau megis campfeydd, yna mae cydbwysedd y farn gyhoeddus a'r cyngor arbenigol yr ydym ni wedi'u cael yn pwysleisio'r pwysigrwydd i ni helpu i ddiogelu pobl Cymru, rhoi cyngor clir a diamwys, ac wrth gwrs diogelu gweithgareddau ein gwasanaeth iechyd. Mae hynny yn golygu o hyd ein bod ni'n parhau i gadw cyfleusterau dan do ar gau. Er bod, fel y dywedais i gynt, y gweithgareddau awyr agored fel golff a phêl-droed yn ymddangos yn fwy diogel, y cyngor iechyd cyhoeddus ydy bod y risg sydd o fewn y gweithgareddau yma hefyd, o ran cefnogwyr ac o ran cyfranogwyr, yn fwy nag y gallwn ni ganiatáu.

Mae'r esblygiad ar y feirws wedi bod yn annisgwyl i rai pobl, ond doedd e ddim yn annisgwyl i unrhyw un sydd wedi bod yn astudio'r sefyllfa iechyd cyhoeddus a'r sefyllfa o ran argyfyngau pandemig a phla cyhoeddus, fel yr ydym ni'n ei ddioddef ar hyn o bryd. Dyna pam na allwn ni ganiatáu eithriadau na chonsesiynau ar hyn o bryd, er mwyn cadarnhau'r neges ynglŷn ag aros gartref. Mae'n rhaid i benderfyniadau Llywodraeth Cymru fod yn seiliedig ar realiti'r sefyllfa yng Nghymru a blaenoriaethau iechyd cyhoeddus.

Dydy hynny ddim yn golygu nad ydw i'n cytuno â'r cyfan sydd wedi cael ei ddweud ar bwysigrwydd ymarfer corfforol. Dwi'n ffodus, oherwydd fy mod i wedi arfer, oherwydd lle dwi'n byw yn y gogledd—bellach yn fan hyn y rhan fwyaf o'r amser, bron drwy'r amser, yng Nghaerdydd, oherwydd fy mod i ddim yn gallu teithio i unman oherwydd fy oedran—ond mae parhau i ymarfer tu allan mewn caeau, yn rhedeg ac yn y blaen, yn bethau sydd yn parhau nid yn unig yn bleser i fi ond yn angenrheidrwydd yn fy mywyd. Nid fy mod i ddim yn deall y dadleuon yna, ond mae'n rhaid i mi ddweud yn gwbl glir bod yn rhaid i ni ar hyn o bryd sicrhau ein bod ni yn cefnogi'r sector chwaraeon. Rydyn ni wedi neilltuo £23 miliwn i helpu'r sector chwaraeon a hamdden yn ystod y pandemig yma, ond nid dyma'r amser i ni agor y drws na mynd tu fas i'r drws, na mynd tu mewn i'r drws os nad ydy hynny yn ddiogel.

Dwi yn ddiolchgar iawn am y datblygiadau gwyddonol rydyn ni wedi eu cael ynglŷn â brechlynnau, ond mae'n bwysig ein bod ni ddim yn tanseilio unrhyw fantais o effeithiolrwydd brechlynnau o ran iechyd cyhoeddus drwy ganiatáu agor gweithgareddau sydd ddim yn mynd i fod yn ddiogel. Nid mater pleidiol wleidyddol ydy hwn, wrth gwrs; mae o'n rhy bwysig i hynny—mae o'n fater o fywyd.

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 4:21, 13 Ionawr 2021

Dwi'n galw nawr ar Gadeirydd y pwyllgor i ymateb i'r ddadl—Janet Finch-Saunders. 

Photo of Janet Finch-Saunders Janet Finch-Saunders Conservative

(Cyfieithwyd)

Diolch, Lywydd. A gaf fi ddiolch yn gyntaf i'r holl Aelodau sydd wedi cymryd rhan heddiw, yr holl gyfraniadau rhagorol yn cydnabod egwyddor a rhinweddau'r deisebau hyn? I gloi, mae maint ac ehangder y deisebau a gawsom ar bwnc chwaraeon a gweithgarwch corfforol wedi sicrhau nad oes unrhyw amheuaeth gan ein pwyllgor, y Pwyllgor Deisebau, ynglŷn â phwysigrwydd gweithgareddau o'r fath i gynifer o bobl yng Nghymru. Rwy'n siŵr nad oes fawr o bobl yn amau pwysigrwydd yr aberth rydym i gyd yn ei wneud ac sydd ei angen i fynd i'r afael â'r feirws hwn, ac i ddiogelu pobl Cymru a'r GIG rhag ei effeithiau gwaethaf.

Mae hefyd yn wir fod gan gyfleoedd i wella a chynnal ffitrwydd corfforol rôl hanfodol hefyd yn helpu i amddiffyn pobl rhag salwch difrifol ac yn wir, rhag cyflyrau iechyd eraill. Crybwyllwyd llawer ohonynt heddiw yn y cyfraniadau gwych a wnaed, a chan y Gweinidog yn wir; diolch am eich ymateb chi hefyd. Ac fel y mynegwyd yn gryf drwy'r deisebau a gawsom, maent hefyd yn chwarae rhan hollbwysig yn cefnogi lles ac iechyd meddwl, rhywbeth nad yw erioed wedi bod mor bwysig ac na fu erioed mwy o brawf arno na nawr yn ystod yr adegau hyn.

Ar fy rhan i a'r pwyllgor a'n tîm clercio, hoffwn gofnodi ein diolch i'r deisebwyr, ac unrhyw unigolion eraill sydd wedi caniatáu i'w profiadau personol gael eu rhannu. Rwy'n credu ein bod i gyd yn edrych ymlaen at y diwrnod y cawn weld ein campfeydd, ein cyrsiau golff, ein pyllau nofio, ein timau pêl-droed amatur yn ailagor, ond ar hyn o bryd, hoffwn ddiolch i bawb, mewn gwirionedd—yr Aelodau—am eu diddordeb yn y pwnc hwn. Diolch yn fawr, Lywydd.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 4:23, 13 Ionawr 2021

Y cynnig, felly, yw i nodi'r deisebau. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu hynny? Unrhyw wrthwynebiad? Na. Dwi ddim yn gweld na chlywed gwrthwynebiad, ac felly mae'r cynnig wedi ei dderbyn yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. 

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.