– Senedd Cymru am 3:15 pm ar 19 Ionawr 2021.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad gan Ddirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth ar ymateb y Llywodraeth i argymhellion terfynol Comisiwn Trafnidiaeth De-ddwyrain Cymru. Yn galw ar y Dirprwy Weinidog i wneud ei ddatganiad, Lee Waters.
Diolch, Llywydd. Fe hoffwn i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd am ein hymateb ni i'r argymhellion a wnaeth Comisiwn Trafnidiaeth De-ddwyrain Cymru.
Erbyn hyn, mae Llywodraeth Cymru, ynghyd â Thrafnidiaeth Cymru, wedi cwblhau adolygiad cychwynnol o'r holl argymhellion a wnaeth Arglwydd Burns a'i gyd gomisiynwyr. Ac, unwaith eto, rydym ni'n diolch iddyn nhw am eu gwaith. Heddiw, rydym wedi cyhoeddi ymateb fesul llinell er mwyn inni gael bod yn gwbl glir ynghylch statws pob un o'r argymhellion. Mae hon yn gyfres hyderus ac ymarferol o argymhellion, ac ni ellir eu cyflawni heb gael amrywiaeth o gyrff yn gweithio gyda'i gilydd mewn partneriaeth. Ac yn yr ysbryd hwnnw, rwy'n dymuno ailddatgan ymrwymiad Llywodraeth Cymru i weithio gyda'r awdurdod lleol, y cynrychiolwyr lleol, Llywodraeth y DU a phartneriaid allweddol eraill i gyflawni glasbrint comisiwn Burns.
Yn ganolog i hyn, mae'r argymhellion yn nodi gweledigaeth ar gyfer y system drafnidiaeth gyhoeddus fodern sy'n deilwng o ddinas o faint Casnewydd. Ac fel y nodwyd yn ein strategaeth drafnidiaeth i Gymru, gweledigaeth o'r fath sydd gennym ar gyfer Cymru gyfan. Mae'r ddadl ddyrys i chwilio am ddatrysiad priodol i fynd i'r afael â thagfeydd o amgylch Casnewydd wedi bod yn gatalydd ar gyfer newid ehangach. Mae adroddiad Burns wedi helpu i'n harwain ni ar hyd llwybr newydd, ac am y rheswm hwn rwy'n hapus i gadarnhau y byddwn ni'n derbyn yr argymhellion hyn i gyd mewn egwyddor.
Mae'r strategaeth drafnidiaeth newydd i Gymru yn nodi'r ddadl gref o blaid symud tuag at rwydwaith trafnidiaeth metro integredig, carbon isel ac aml-ddull ar draws Cymru, ac mae adroddiad comisiwn Burns yn nodi glasbrint ar gyfer gweithredu'r weledigaeth honno, er mai dull rhanbarthol a geir o ymdrin â chynllunio trafnidiaeth a defnydd tir. Mae'r strategaeth yn pennu pecyn o fesurau i fynd i'r afael â thagfeydd ar yr M4 o amgylch Casnewydd mewn ffordd sy'n helpu i fynd i'r afael â newid hinsawdd hefyd, yn ogystal â gwella ansawdd yr aer a hybu cyfiawnder cymdeithasol. Mae argymhellion y comisiwn yn cwmpasu pob dull o drafnidiaeth, ac felly mae angen rhannu'r cyfrifoldeb o'u gweithredu nhw. Mae gan Lywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru a Chyngor Dinas Casnewydd ran bwysig i'w chwarae yma, fel sydd gan Drafnidiaeth Cymru a Network Rail.
Llywydd, rydym ni eisoes wedi llofnodi memorandwm cyd-ddealltwriaeth gyda Chyngor Dinas Casnewydd ar gyfer arwain ar y cyd y ffordd ymlaen ar gyfer mesurau bysiau a theithio llesol yn y ddinas, gyda chefnogaeth Trafnidiaeth Cymru. Mae'r adolygiad o gysylltedd undebau, dan arweiniad Syr Peter Hendy, yn gyfrwng i Lywodraeth y DU roi ymrwymiad cynnar i gyflawni'r argymhellion mewn meysydd nad ydynt wedi eu datganoli. Fe ysgrifennais i heddiw at yr Ysgrifennydd Gwladol Trafnidiaeth ac at Network Rail, gan dynnu sylw at y rhesymeg gadarn pam mae angen i'r rhwydwaith rheilffyrdd yn y rhanbarth hwn gael ei godi i'r un safon â rhannau eraill o'r DU. Ers gormod o amser mae Cymru wedi bod ar ddiwedd y ciw pan oedd Llywodraeth y DU yn buddsoddi mewn seilwaith rheilffyrdd, ond mae hwn yn gyfle cadarnhaol i Lywodraeth y DU wneud cyfiawnder am y tanfuddsoddi a fu. Ac rwy'n edrych ymlaen at weithio mewn partneriaeth â nhw i unioni'r cam hwnnw a chyflawni'r weledigaeth hon.
Mae'r comisiwn wedi gwneud argymhellion ar gyfer pum pecyn: seilwaith; polisïau rhwydwaith; newid ymddygiad; llywodraethu trafnidiaeth; a defnydd a chynllunio tir. Mae ein hymateb fesul llinell ni yn nodi lle mae camau eisoes yn cael eu cymryd a lle gellir gweithredu yn y dyfodol i ddatblygu ymhellach. Mae nifer o bwyntiau penodol yr hoffwn i dynnu sylw atynt heddiw ac egluro sut y bwriadwn eu datblygu.
Y cyntaf yw gwella prif reilffordd y de a threblu nifer y gorsafoedd sydd yn y rhanbarth. Gan ddefnyddio adroddiad Burns, mae fy swyddogion i wedi cynnal trafodaethau cadarnhaol eisoes gyda Network Rail ac Adran Drafnidiaeth y DU ar y cynigion ar gyfer yr ased hwn sydd heb ei ddatganoli. Ein bwriad ni yw gweithio eto gyda Network Rail ar yr argymhellion hyn yn benodol, yn ogystal â'r gwaith ehangach o wella'r brif reilffordd, ac fe fydd Trafnidiaeth Cymru yn chwarae rhan hanfodol fel ein hasiant yn hyn o beth. Mae uned ddatblygu bwrpasol wedi ei sefydlu erbyn hyn o fewn Trafnidiaeth Cymru. Fe fydd yr uned hon yn rhoi cyngor i grŵp llywio ac, yn y pen draw, i Weinidogion Cymru ar y cynnydd yn erbyn yr holl argymhellion.
Bydd yr Aelodau eisoes wedi gweld, yn y tabl a gyhoeddwyd heddiw, fod llawer o'r mesurau a argymhellwyd gan Arglwydd Burns ar y gweill yn barod mewn rhyw fodd neu'i gilydd. Os felly, mae'r uned ddatblygu bellach yn gyfrifol am fonitro'r cynnydd, ac adrodd i'r grŵp llywio pe byddai angen ymyrryd i wthio'r maen i'r wal.
Gan ddefnyddio'r sylfaen dystiolaeth a ddarparodd Arglwydd Burns a'r comisiynwyr, rwy'n awyddus i gynnal ymarfer blaenoriaethu cyflym i nodi mesurau y gall yr uned ddatblygu fod â rhan weithredol yn y gwaith o'u datblygu ar fyrder. Er enghraifft, drwy weithio gyda chyngor Casnewydd, rwy'n credu y gallwn ddethol mesurau blaenoriaeth o ran bysiau a theithio llesol fel bod modd i'r uned ddatblygu weithio ar ddylunio ac ymgynghori manwl, ac yna fe allwn ni symud yn gyflym i wneud penderfyniadau ar weithredu. Gan baratoi ar gyfer y tymor hwy, mae'r uned wedi cael cyfarwyddyd i ddatblygu'n fanylach raglen gyflawni botensial ar gyfer pob un o'r argymhellion.
Yn olaf, Dirprwy Lywydd, gan gydnabod swyddogaeth ganolog grŵp llywio'r uned ddatblygu, rwy'n awyddus i benodi cadeirydd â'r profiad addas i arwain y gwaith datblygu. Ac fe fyddaf i'n rhoi diweddariadau pellach maes o law i roi gwybod i'r Aelodau am hynny a sut mae argymhellion ehangach y comisiwn yn datblygu. Dirprwy Lywydd, roedd cyrraedd y pwynt hwn yn daith anodd. Ond rwy'n gobeithio y bydd adroddiad Burns a'n hymateb ni iddo yn dangos y ffordd ymlaen, gan fynd i'r afael â thagfeydd a hefyd newid hinsawdd, a gwella ansawdd a chyfleoedd bywyd i bobl y de-ddwyrain a thu hwnt. Diolch.
A gaf i ddiolch i'r Dirprwy Weinidog am ei ddatganiad heddiw? Ac yn ogystal â hynny hoffwn i fynegi fy niolch innau i Arglwydd Burns a'r comisiynwyr am eu hargymhellion. Ac fe hoffwn i ddiolch hefyd i Arglwydd Burns a Peter McDonald o ysgrifenyddiaeth y comisiwn am fod yn bresennol yn y pwyllgor Economi, Seilwaith, a Sgiliau yr wythnos diwethaf, a oedd, yn fy marn i, yn arbennig o fuddiol.
Fel rwyf i'n ei gweld hi, Dirprwy Weinidog, mae cyfradd y traffig yng Nghymru yn cynyddu'n flynyddol yn gyffredinol. Mae fy mhlaid i a minnau'n croesawu'r argymhellion a nodir yn adroddiad y comisiwn; rwyf am fynegi fy marn i'n glir iawn ynglŷn â hynny nawr hefyd. Ond rwy'n credu, wrth gwrs, nad yw'r argymhellion yn disodli ffordd liniaru i'r M4—i fod yn glir ynglŷn â hynny hefyd. Yn fy marn i, yn bennaf, ni ddylid cyflawni'r argymhellion hyn ar eu pen eu hun; fe ddylid eu cyflawni yn gyfochrog â llunio ffordd liniaru i'r M4.
Mewn tystiolaeth yr wythnos diwethaf, fe glywodd y pwyllgor gan Arglwydd Burns, ac fe gyfeiriodd ef—pan ofynnwyd iddo—at rywfaint o amheuaeth ymysg rhanddeiliaid ynghylch a fyddai unrhyw un o'r argymhellion yn gweld golau dydd. Nawr, rwy'n deall pam y gallai amheuaeth fodoli. A ydych chi'n deall pam mae yna amheuaeth, ac a oes yna unrhyw un wedi mynegi'r amheuaeth honno i chi hefyd? A beth fyddech chi'n ei ddweud wrth y rhai sy'n rhannu'r amheuaeth honno?
O ran yr argymhellion, rydych chi wedi nodi yn eich datganiad heddiw y bydd yr uned gyflawni yn edrych yn fanwl ar y rhain ac yn dod yn ôl atoch chi o ran y blaenoriaethau. Rwy'n deall hynny'n burion, ond efallai y gallech chithau nodi'r hyn yr ydych chi'n teimlo fydd yr argymhellion cynnar cychwynnol y credwch y dylid eu mabwysiadu a gweithio arnyn nhw eich hun, cyn cael barn gan yr uned gyflawni. Roedd yna lawer o sôn am yr uned gyflawni a'r grŵp llywio hefyd. Rwy'n credu eich bod chi wedi bod yn eithaf eglur ynglŷn â hynny, ond fe hoffwn ichi fod ychydig yn fwy eglur o ran pwy ydych chi'n ystyried sy'n gyfrifol am weithredu'r argymhellion. Mae sôn am y ddau grŵp; pwy fydd yn cysylltu â'r rhanddeiliaid yr ydych chi wedi sôn amdanyn nhw? A allwch chi ddweud ychydig mwy wrthym am lywodraethu'r uned gyflawni hefyd—fe wn ichi gyfeirio at benodi'r cadeirydd—ychydig mwy am lywodraethu, ariannu'r uned gyflawni honno a'i chylch gwaith—a fydd ganddyn nhw lythyr cylch gwaith? Oherwydd, yn amlwg, mae'n debyg y bydd yr uned gyflawni yn gorff a fydd yn weithredol am bump i 10 mlynedd eto. A hefyd, efallai, sut ydych chi am fwrw ymlaen â'r argymhellion ar newid ymddygiad yn benodol, ochr yn ochr neu'n gyfochrog â'r argymhellion ar seilwaith?
Ac yna nod Llywodraeth Cymru o 30 y cant yn gweithio o gartref; yn amlwg, fe fu yna newid mewn patrymau teithio yn ystod 2020, felly sut wnaeth y comisiwn roi ystyriaeth i'r rhain yn ei waith, yn eich barn chi? Ni ddylai'r cynnydd mewn gweithio o gartref yn ystod y pandemig gael ei ystyried yn esgus, yn fy marn i, i ohirio gweithredu'r argymhellion hyn, ac fe fyddwn i'n gobeithio y byddech chi'n cytuno â hynny. Ond rwy'n cytuno ag Arglwydd Burns pan ddywed ef fod yna amser i anadlu nawr yn sgil y pandemig, oherwydd nid yw'r ffordd mor brysur ag y bu, ac felly mae'n golygu defnyddio'r amser hwn i anadlu mewn modd priodol, mewn ffordd briodol, ac felly efallai y gwnewch chi ddweud wrthyf a ydych chi'n cytuno â'r safbwynt hwnnw.
Mae'n hanfodol cynyddu'r newid mewn ymddygiad, a'r argymhelliad sy'n peri'r pryder mwyaf i mi yw'r ardoll ar barcio sy'n cael ei grybwyll. Er mai'r cyflogwyr, nid y gweithwyr, fyddai'n gyfrifol am dalu'r ardoll hon, rwy'n pryderu am effaith ganlyniadol hyn ar y gweithwyr a fyddai, i bob pwrpas, yn talu am yr ardollau hynny eu hunain. Fe fyddwn i'n croesawu rhagor o sylwadau am hynny.
Ac yn olaf, o ran yr effeithiau ariannol, roedd y Prif Weinidog yn nodi o'r blaen mai'r alwad gyntaf ar Lywodraeth Cymru ar gyfer y £1 biliwn hwnnw fyddai gwneud gwelliannau o'r mathau hyn. Mae llawer wedi digwydd ers hynny, wrth gwrs, ac fe nododd y Prif Weinidog hefyd fod costau yn ystyriaeth bwysig o ran yr argymhellion. Mae'r comisiwn wedi dweud y byddai costau'r argymhellion yn rhywbeth rhwng £600 miliwn a £800 miliwn o wariant dros 10 mlynedd. A ydych chi'n credu bod hynny'n cynrychioli gwerth da am arian? Sut wnaiff hynny roi ystyriaeth i anghenion eraill gan Lywodraeth Cymru neu Lywodraeth Cymru yn y dyfodol o ran ymdrin â'r pandemig?
Diolch. Wel, dyna amrywiaeth o gwestiynau. Rwy'n falch fod y Ceidwadwyr Cymreig yn croesawu'r argymhellion. Mae Russell George yn holi ynglŷn ag amheuon o ran y cyflawni, ac, wrth gwrs, rwy'n deall hynny, oherwydd mae Llywodraethau Cymru wedi bod yn bwriadu mynd i'r afael â thagfeydd yng Nghasnewydd ers cryn amser, ac mae'r tagfeydd yno o hyd, ac felly yn sicr mae angen inni neidio i mewn i'r bwlch hwnnw a dangos y bydd camau'n cael eu cymryd. Wrth gwrs, mae'n rhaid imi dynnu sylw Russell George at y ffaith, pe byddai'r cyllid haeddiannol gan Gymru ar gyfer seilwaith y rheilffyrdd, yna byddem yn gallu gweithredu'n gyflymach o lawer. Felly rwy'n credu y byddai'n ddigon teg iddo yntau gydnabod diffygion Llywodraeth y DU yn hyn o beth, oherwydd yn seiliedig ar yr ymrwymiadau sy'n hysbys ar gyfer y cyfnod rhwng 2019 a 2029, rydym yn amcangyfrif diffyg o ran buddsoddiad yng Nghymru o hyd at £5 biliwn yn y 10 mlynedd nesaf. Mae hynny'n seiliedig ar ymrwymiadau a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU yn Lloegr dros y cyfnod hwn, a phe byddai gennym ni gyfran pro rata i Gymru. Rydym yn fyr o bum biliwn o bunnoedd, heb sôn am y methiant o ran cwblhau'r broses o drydaneiddio rheilffordd y de. Felly gellid fod wedi goresgyn llawer iawn o ran y ddarpariaeth a'r amheuaeth pe byddai Llywodraeth y DU yn cyflawni ei rhethreg am godi'r lefel. Felly, rwy'n credu ei bod yn ddigon teg bod hynny'n cael ei gydnabod, yn union fel rwyf innau'n cydnabod nad yw Llywodraeth Cymru wedi bod yn ddigon cyflym i wneud yr hyn a addawodd o ran mynd i'r afael â thagfeydd. Felly, rwyf i o'r farn fod gan y ddau ohonom ddigon i fyfyrio yn ei gylch, o ran pethau y gellid fod wedi eu gwneud yn well.
O ran blaenoriaethau cynnar, mae e'n holi amdanynt—rwy'n credu, fel y soniais i yn y datganiad, rydym ni'n sicr yn ystyried bod y rhwydwaith bysiau a'r rhwydwaith teithio llesol yn faterion y gallwn ni eu cwblhau o fewn rhyw flwyddyn. Fe ŵyr pawb ohonom fod newidiadau trafnidiaeth ar lawr gwlad yn cymryd amser a bod rhaid iddyn nhw fynd trwy ystod eang o brosesau, ond rydym ni'n gwybod bod angen newidiadau i brif lein y de, rhai gwelliannau i'r seilwaith ar gyfer bws Casnewydd fel y gall pobl weld y bws yn ddewis amgen gwirioneddol i'r car—mae'n rhaid inni alluogi'r bysiau i deithio'n gyflymach, heb gael eu dal mewn traffig, ac felly gael pobl o'u ceir ac ar eu beiciau neu'n cerdded ar gyfer eu teithiau bob dydd. Felly, mae yna rai pethau gwirioneddol ac ymarferol y gellir eu gwneud a fydd yn gwneud gwahaniaeth ac yn dangos i bobl Casnewydd fod gwelliant yn digwydd ar lawr gwlad. Fe fydd honno'n sicr yn flaenoriaeth gynnar i'r uned gyflawni, sef y cwestiwn nesaf a ofynnodd Russell George i mi: pwy sy'n gyfrifol am y cyflawni?
Wel, rydym ni'n cydnabod, fel y dywedais i, mai cyfrifoldeb a rennir yw hwn, ond rydym ni'n cydnabod hefyd fod yna gyfyngiadau ar allu Cyngor Casnewydd, fel sydd ar bob cyngor. Felly, rydym yn ffurfio uned gyflawni ar y cyd gyda Thrafnidiaeth Cymru, Llywodraeth Cymru a Chyngor Casnewydd. Fe fydd honno'n gorwedd yn bennaf o fewn Trafnidiaeth Cymru, ond gyda memorandwm cyd-ddealltwriaeth gyda chyngor Casnewydd, sydd eisoes wedi ei lofnodi. Fe fydd y rhanddeiliaid—fe ofynnodd ef am hyn—yn cael eu cysylltu drwy gyfrwng grŵp ac rydym yn awyddus i gadeirydd deinamig y grŵp hwnnw allu gwthio pethau ymlaen a galw Trafnidiaeth Cymru i gyfrif.
O ran y cyllid a'r llythyr cylch gwaith, fe fydd y rhain yn cael eu cynnwys yn nhrefniadau cyfredol Trafnidiaeth Cymru, ond, fel y dywedodd, mae'r Prif Weinidog wedi ymrwymo y bydd arian yn cael ei ganfod i weithredu hynny. Fe ofynnodd a oeddem ni'n ystyried hyn yn werth am arian. Wel, rwyf am dynnu sylw at y ffaith y bydd hyn yn costio llai na hanner beth fyddai cost yr M4, a hynny heb unrhyw un o'r effeithiau amgylcheddol niweidiol, na ellir—ni ellir rhoi pris ar golli gwastadeddau unigryw Gwent, er enghraifft, nac ychwaith, er efallai ei bod yn haws ei fesur yn ariannol, y niwed economaidd a achosir gan effeithiau cynyddol newid hinsawdd oherwydd traffig cynyddol, yr hyn a fyddai wedi ei ennyn drwy adeiladu traffordd chwe milltir yn ei ennyn. Mae digon o dystiolaeth i ddangos y byddai hynny'n weddol debygol. Felly, rwy'n credu y gallwn ni ddweud y bydd hyn yn rhoi gwerth da iawn am arian.
Mae ef hefyd yn gofyn am newid mewn ymddygiad, ac, wrth gwrs, mae newid moddol wrth wraidd ein strategaeth drafnidiaeth ddrafft ni i Gymru, ac mae newid ymddygiad yn elfen allweddol o honno. Ond yna mae e'n bychanu swyddogaeth anghymhellion ymddygiadol wrth gyflawni newid mewn ymddygiad, ac mae'n siŵr ei fod yn gweld ei gyfle i ymgyrchu yn sgil unrhyw ardoll benodol ar barcio. Ond fe fyddwn i'n dweud bod yr holl dystiolaeth yn dangos, os ydych chi am newid ymddygiadau, fod angen cymell a chosbi arnoch. Fy marn i yw y dylem ni gael y cymhellion yn eu lle cyn dechrau cosbi pobl, ond, fel rhan o ystod o ymyriadau, mae gan anghymhellion eu rhan. Ac mae'n ddigon hawdd iddo ef groesawu'r argymhellion a bod yn eiddgar i weld y newidiadau ond, os nad yw'n barod i gefnogi hynny, geiriau gwag yw'r rhain. Felly, rwy'n gobeithio bod hynny'n ateb y cwestiynau a ofynnodd Russell George.
Fe hoffwn i ddiolch i'r Dirprwy Weinidog am ei ddatganiad. Fel y dywedodd Russell George, roedd yn fuddiol iawn cael Arglwydd Burns yn bresennol yn y pwyllgor ac fe gawsom ni, aelodau'r pwyllgor, gyfle felly i archwilio rhai o'r syniadau gydag ef yn uniongyrchol. Rwy'n dymuno rhoi i'r Dirprwy Weinidog gefnogaeth Plaid Cymru i'r dull hwn, a dweud ein bod ni'n falch ei fod wedi gallu derbyn yr argymhellion. Rwy'n edrych ymlaen at astudio'r ymateb fesul llinell, oherwydd mae'r Dirprwy Weinidog yn gwybod cystal â minnau nad yw derbyn mewn egwyddor bob amser yn golygu y gallwn ni wneud hynny mewn gwirionedd. Felly, fe fydd angen inni edrych ar hynny gyda rhywfaint o ofal rwy'n credu, ond rwyf i'n croesawu'r dull yn fawr iawn.
A gaf i ofyn ychydig mwy am gyflawni hyn? Nawr, mae'r Dirprwy Weinidog yn llygad ei le pan fo'n sôn am annog y galw, ac fe wyddom ni, pe bai'r ffordd hon wedi cael ei hadeiladu, fe fyddai'n orlawn ymhen ychydig flynyddoedd, ond yr hyn yr ydym ni'n sôn amdano yma yw newid tymor hwy. Mae yna heriau yn hyn o beth. Rwy'n credu y byddem ni'n derbyn yr hyn a ddywedodd y Dirprwy Weinidog am yr angen, pan fydd dewisiadau amgen da ar waith, i weld anghymhellion yn dod i rym o ran pobl yn gallu parhau i ddefnyddio ceir preifat, er fy mod i'n falch o glywed y Dirprwy Weinidog yn dweud bod angen i ni ddechrau gyda'r cymhellion cadarnhaol drwy wneud trafnidiaeth gyhoeddus yn fwy hygyrch, gan wneud i deithio ar drafnidiaeth gyhoeddus deimlo'n fwy diogel, gan ei gwneud hi'n haws i bobl ei defnyddio.
Rwy'n pryderu mai un o'r heriau mawr o ran cyflawni fydd y sefyllfa gyda rhannau o'r rhwydwaith rheilffyrdd nad ydyn nhw wedi eu datganoli. Nawr, efallai nad y drafodaeth y prynhawn yma yw'r cyfle priodol i gael y drafodaeth am y cyfle a gollwyd pan allai Llywodraeth Cymru fod wedi gofyn am ddatganoli llawn ond ni wnaeth felly, ond, yng nghyd-destun y drafodaeth heddiw, mae hyn yn cyflwyno rhai heriau gwirioneddol. Mae'r Dirprwy Weinidog yn iawn i ddweud bod Cymru wedi cael bargen wael ofnadwy o ran gwariant cyfalaf gan Lywodraeth y DU. Rwy'n credu bod y Prif Weinidog yn iawn pan ddywedodd ef wrthym yn gynharach y prynhawn yma na allwn ni ymddiried yn y Torïaid. Ond, o ran cyflawni'r gyfres benodol hon o ganlyniadau, fe hoffwn i ofyn i'r Dirprwy Weinidog y prynhawn yma pa lwyddiant sydd wedi bod gyda'r trafodaethau cychwynnol hynny y mae ef a'i swyddogion wedi bod yn eu cael gyda Llywodraeth y DU. Mae'n gynnar iawn i ddweud, wrth gwrs, ond a yw'n teimlo eu bod nhw'n deall pwysigrwydd a gwir frys yr angen i gyflawni ar gyfer pobl y de-ddwyrain, ac, yn wir, y tu hwnt i hynny, oherwydd, wrth gwrs, mae tagfeydd yn y de-ddwyrain yn cael effaith y tu hwnt i'r de-ddwyrain ei hun? Felly, a yw ef yn credu y bydd diffyg pŵer dros seilwaith y rheilffyrdd yn broblem o ran cyflawni'r gyfres hon o argymhellion?
O ran gwaith yn y tymor byrrach y mae ef wedi sôn amdano o ran teithio llesol a'r rhwydwaith bysiau, a yw ef yn hyderus bod gan Lywodraeth Cymru ddigon o bŵer i allu sicrhau bod hyn yn digwydd gyda bysiau? Wrth gwrs, gyda Newport Bus eu hunain, maen nhw'n parhau i gael eu rheoli, yn ôl a ddeallaf i, gan yr awdurdod lleol, ac felly fe fydd hynny'n gymharol syml. Ond mae yna wasanaethau bws eraill sy'n mynd i mewn ac allan o Gasnewydd, yn enwedig y gwasanaethau bysiau hynny sy'n gwasanaethu cymunedau'r Cymoedd—nid ydyn nhw i gyd dan reolaeth uniongyrchol awdurdodau lleol. Felly, tybed: a yw'r Dirprwy Weinidog yn teimlo y gallai fod angen i'r Llywodraeth nesaf fynd yn ôl at y ddeddfwriaeth bysiau, ac efallai y bydd angen iddi fynd â'r ddeddfwriaeth bysiau honno ymhellach efallai nag a gynlluniwyd yn y drafft yr oeddem ni'n ei ystyried cyn i COVID daro, ar gyfer sicrhau fod yna ddigon o bwerau ar gael?
Ac fe soniodd y Dirprwy Weinidog am lywodraethu mewn ymateb i Russell George, ac yn wir fe soniodd am hynny yn y datganiad ei hunan. A yw ef wedi ystyried beth fydd swyddogaeth Llywodraeth y DU gyda'r mecanweithiau llywodraethu hynny, wrth iddo ddechrau cyflwyno'r prosiectau seilwaith mwy o gwmpas y rheilffyrdd? Oherwydd mae'n ymddangos i mi ei bod yn bwysig iawn fod yna ryw fecanwaith i allu monitro'r cytundebau hynny, pan fydd y cytundebau wedi eu gwneud. Ac a yw ef yn gweld hynny'n dod o fewn cylch gwaith yr uned y mae ef yn sôn amdani yn ogystal â'r cadeirydd annibynnol?
Ac yn olaf, a wnaiff ef roi ryw syniad i ni'r prynhawn yma o ba bryd y bydd pobl yn ardal Casnewydd yn dechrau gweld rhai o'r newidiadau hyn, yn ei farn ef? Rwy'n llawer llai amheus na Russell George i bob golwg, ac rwy'n credu bod y bwriadau hyn yn rhai cadarn, ac mae gennym ni dystiolaeth dda gan gomisiwn Burns o'r rhesymau pam y dylid cyflwyno'r newidiadau hyn. Ond fe wn i fod y Dirprwy Weinidog yn deall rhwystredigaethau'r bobl sy'n cael eu heffeithio'n fwyaf uniongyrchol, ac yn wir y cymunedau cyfagos y mae'r sgil-effeithiau yn effeithio arnyn nhw. Felly, a all ef roi rhyw syniad inni pryd y mae'n credu y bydd pobl yn dechrau teimlo rhai newidiadau ar lawr gwlad o ganlyniad i'r gwaith hwn, gan ddeall, wrth gwrs, y bydd y gwaith seilwaith mwy yn cymryd rhagor o amser?
A gaf i ddiolch i Helen Mary Jones am groesawu'r dull a nodwyd gennym ni heddiw, ac am ei chyfres adeiladol o gwestiynau? Rydym ni, wrth gwrs, yn cefnogi datganoli seilwaith rheilffyrdd yng Nghymru, a chafwyd dadl a phleidlais yn y Senedd yn ôl ym mis Chwefror 2019 a oedd yn galw am hynny. Felly, rwy'n credu fy mod i'n awyddus i sicrhau bod Plaid Cymru yn deall y pwynt hwnnw—mae hwnnw'n rhywbeth y mae'r Llywodraeth hon yn ei gefnogi.
Fe ofynnodd hi, 'A wyf i'n credu bod Llywodraeth y DU yn deall yr angen i gyflawni yn ôl yr adroddiad hwn a'r brys i wneud hynny?' Wel, mae'n debyg bod y rheithgor yn myfyrio ar hynny, pe bawn i'n onest. Fel yr eglurais i, cyfrifoldeb a rennir yw hwn. Mae'n rhaid i'r ffaith nad ydyn nhw wedi rhoi ein cyfran deg i ni o ran buddsoddi yn y seilwaith rheilffyrdd ers peth amser yn rhoi achos imi ofidio am hynny. Yn wir, dim ond wedi nodi cynllun ar gyfer gwerth £60 miliwn o welliannau rheilffordd am y 10 mlynedd nesaf y maen nhw, yn hytrach na'r gwerth o £5 biliwn y byddai gennym ni'r hawl i'w gael. Felly, rwy'n credu bod y galw arnyn nhw, mewn gwirionedd, i ddangos eu bod nhw'n deall y sefyllfa. Ac rydym wedi cael sgyrsiau adeiladol gyda'r Adran Drafnidiaeth a Syr Peter Hendy, fel rwyf i'n dweud. Felly, gadewch inni fod yn obeithiol mai dyna fydd yn digwydd.
Mae hi'n holi hefyd ynglŷn â'r rhwydwaith bysiau a'r pwerau angenrheidiol. Wel, mae yna lawer y gallwn ni ei wneud drwy ein Cynllun Brys ar gyfer y Sector Bysiau. Fe wnes i gyfarfod â phrif arweinwyr llywodraeth leol ledled Cymru'r wythnos hon i drafod cydweithio ar gyfer yr hyn yr ydym ni'n ei alw'n Gynllun Brys rhif 2 ar gyfer y Sector Bysiau, a chofrestru ar gyfer hwnnw. Ac roedd honno'n sgwrs gydsyniol a chalonogol tu hwnt. Mae yna ymgysylltu da iawn hefyd rhwng y diwydiant â ninnau. Felly, rydym ni'n gobeithio y byddwn mewn sefyllfa i allu sicrhau bod yr holl bartneriaid wedi ymrwymo i fframwaith ar gyfer bwrw ymlaen â'r cyllid a threfnu diwydiant bysiau sy'n ein galluogi ni i gyflawni llawer o'r pethau yr oeddem ni'n bwriadu defnyddio'r ddeddfwriaeth i'w cyflawni. Nid yw'n bosibl erbyn hyn i basio'r gyfraith honno yn y tymor Seneddol hwn. Rydym yn credu ein bod wedi dod o hyd i ffordd arall o gyflawni llawer iawn, ond nid popeth, ac mae swyddogion yn drafftio deddfwriaeth bysiau pe byddai Llywodraeth nesaf Cymru yn dymuno datblygu hynny. Ac yn sicr, pe byddem ni mewn sefyllfa i ffurfio Llywodraeth, yna fe fyddem ni'n sicr yn dymuno gwneud hynny, oherwydd mae yna fusnes heb ei orffen, sy'n angenrheidiol i gael system sy'n gweithio'n dda.
O ran y mecanweithiau llywodraethu—mae Helen Mary Jones yn gofyn—wel, fel y dywedais i, cyfrifoldeb a rennir yw hwn. A'i chwestiwn olaf hefyd, 'Pryd fydd pobl yn gweld newid?'—wel, fe allwn ni ymrwymo i'n rhan ni o hynny, ond mae'n amlwg ei bod yn ofynnol i eraill ymrwymo i'w rhan nhw hefyd. Felly, er enghraifft, cyfrifoldeb yr awdurdod priffyrdd lleol yw'r ffyrdd lleol yng Nghasnewydd. Nid oes gan Lywodraeth Cymru bŵer dros ffyrdd Casnewydd. Felly, y mesurau bysiau a'r mesurau teithio llesol—fe allwn ni roi cyllid ar eu cyfer nhw, fe allwn ni roi anogaeth iddyn nhw, fe allwn ni roi'r cymorth i'w cynllunio nhw, ond ni allwn eu cyflawni nhw heb gydweithrediad yr awdurdod lleol. Ac, wrth gwrs, hanes cymysg sydd wedi bod yn y degawdau diwethaf yng nghyngor Casnewydd o ran eu hagwedd nhw tuag at lonydd bysiau. Diddymwyd y lonydd bysiau'n llwyr gan y weinyddiaeth Geidwadol flaenorol yng Nghasnewydd. Felly, rwy'n deall bod amheuaeth ymysg y cyhoedd ynglŷn â hynny, ond mae'r weinyddiaeth bresennol hon yn gweithio gyda ni'n dda iawn, yn gadarnhaol iawn, ac yn sicr mae wedi ymrwymo i gyflawni gweledigaeth yr adroddiad hwn.
Felly, pryd fydd pobl yn gweld unrhyw newid? Wel, nid yn ein dwylo ni'n llwyr y mae hynny, ond rwy'n sicr yn gobeithio y bydd pobl yn gweld newid o fewn 18 mis i ddwy flynedd—dechrau'r prosiect—ond prosiect 10 mlynedd yw hwn ac fe fydd angen—yn sicr fe fydd angen—llawer o waith ar y mesurau rheilffordd ar lefel y DU. Ar ddiwedd y prosiect, rydym ni'n disgwyl gweld 80 y cant o'r bobl yn y rhanbarth o fewn milltir i safle trafnidiaeth gyhoeddus o ansawdd uchel. Fe allai hynny drawsnewid sefyllfa dinas o faint Casnewydd, sydd wedi dioddef llawer gormod oherwydd ansawdd aer gwael, gyda phobl ar incwm is dan anfantais am nad oedden nhw'n gallu defnyddio trafnidiaeth yn hawdd, a chyfleoedd bywyd a chyflogaeth a oedd ar gael iddyn nhw oherwydd hynny. Felly, mae'r wobr am hyn yn mynd ymhell y tu hwnt i lawer o fanion sy'n gysylltiedig â thrafnidiaeth. Mae hyn yn ymwneud â gwella bywydau pobl a'u cyfleoedd nhw mewn bywyd ac rwyf i o'r farn ei bod yn weledigaeth y gallwn ni i gyd ei choleddu.
Roedd yn dda clywed Helen Mary Jones yn cefnogi penderfyniad dewr Llywodraeth Cymru i ddatblygu'r ateb cynaliadwy hwn ar gyfer mynd i'r afael â thagfeydd o amgylch Casnewydd, sy'n cael effaith sylweddol iawn ar bobl yng Nghaerdydd ac yn fy etholaeth i yn arbennig felly. Gan hynny, rwy'n croesawu'r cyfle yn fawr iawn i fod yn gatalydd ar gyfer y newid y mae'n rhaid i ni ei gael i gyflawni ein rhwymedigaethau ni o ran newid hinsawdd. Yn wir, mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn ei gwneud hi'n ofynnol inni wneud ein holl benderfyniadau yng ngoleuni'r ffordd yr ydym ni'n mynd i'r afael â newid hinsawdd, gwella ansawdd aer, a hyrwyddo cyfiawnder cymdeithasol.
Felly, fe hoffwn i ganolbwyntio ar argymhelliad 1, sef yr un pwysicaf i mi. Uwchraddio'r rheilffyrdd rhwng y dwyrain a'r gorllewin rhwng Caerdydd a Chasnewydd a thu hwnt yw'r asgwrn cefn ar gyfer gweddill cynllun rhagorol Burns ar gyfer system drafnidiaeth gynaliadwy a chydgysylltiedig, sy'n golygu y gall pob dinesydd, fel yr oeddech chi'n dweud, fyw o fewn milltir i orsaf drenau neu daith fysiau trafnidiaeth gyflym ac fe allwn ni i gyd fynd i'r gwaith neu'r ysgol ar drafnidiaeth gyhoeddus ac nid yn y car sy'n achosi llygredd.
Felly, nid yw dweud wrthym eich bod chi am weithio gyda Network Rail, Trafnidiaeth Cymru a'r Adran Drafnidiaeth yn dweud llawer mwy wrthym ni na'n hatgoffa ni o gapasiti meistri gwleidyddol yr Adran Drafnidiaeth i gerdded ymaith oddi wrth unrhyw ymrwymiadau a wneir, er enghraifft, ynglŷn â thrydaneiddio'r brif reilffordd y tu hwnt i Abertawe. Felly, rwy'n sylweddoli ein bod ni'n clywed awgrymiadau o hyd bod Prif Weinidog y DU yn parhau i fod yn frwdfrydig ynglŷn â'r hen syniad aneffeithiol o adeiladu ffordd liniaru o amgylch Casnewydd, nad yw'n cynnig unrhyw ddatrysiad o gwbl.
A wnewch chi ddod â'ch—
Felly, sut ydych chi'n credu y byddwch chi'n gallu cyflwyno, os hoffech chi, yr achos dros gefnogaeth i Gymru ar gyfer uwchraddio ei seilwaith yng Nghymru a esgeuluswyd mor ofnadwy yn y cyd-destun na chawn ni'r un ddimai o'r biliynau sy'n cael eu tywallt ar HS2? Siawns nad oes angen i Gymru gael rhywfaint o arian y DU a fydd yn cael ei wario ar lunio trafnidiaeth y dyfodol?
Wel, diolch i chi am eich sylwadau cefnogol. Mae'n hollol wir, pe byddai Llywodraeth y DU yn ddiffuant o ran ei rhethreg am godi lefel yn uwch, yna mae angen gweld y prawf am hynny yn ei hymateb i'r adroddiad hwn a'r buddsoddiad y mae'n barod i'w roi ynddo, a pharodrwydd Network Rail i flaenoriaethu'r llwybrau hyn. Fel yr oeddech chi'n dweud, argymhelliad rhif 1 yw'r un allweddol mewn gwirionedd o ran y rhwydwaith rheilffyrdd lleol, i wahanu'r gwasanaethau lleol ar gyfer cymudo oddi wrth y gwasanaethau rhwng dinasoedd, ac uwchraddio'r rheilffyrdd rhyddhad fel y gall y pedwar trac gael eu defnyddio hyd at gyflymder o 90 mya. Mae hwnnw'n amlwg yn ddarn sylweddol o waith ac fe fydd angen ei wneud fesul cam.
Ochr yn ochr â hynny, mae yna argymhelliad ar gyfer chwe gorsaf drên newydd. Mae gwaith wedi dechrau ar dair o'r rhain mewn rhyw ffordd neu'i gilydd, ac fe fydd yna dair gorsaf arall newydd, yn ogystal â'r cyfle am ddau drên arall ar lein y Gororau o Fagwyr a Maesglas. Felly, gyda'i gilydd, mae hwn yn becyn sylweddol o seilwaith rheilffyrdd, sydd y tu hwnt i allu a grym ariannol Llywodraeth Cymru i'w gyflawni. Ac mae hynny'n rhywbeth y mae'r uned ddatblygu o fewn Trafnidiaeth Cymru eisoes yn gweithio arno trwy gyfrwng achosion busnes a siarad â Llywodraeth y DU am ddatblygu hynny, fel y gall fynd drwy glwydi'r camau i gael cymeradwyaeth ariannol. Ond rwy'n credu bod Jenny Rathbone yn llygad ei lle wrth dynnu sylw at y ffaith na fydd yr adroddiad hwn, heb yr ymrwymiad hwnnw gan Lywodraeth y DU, yn gallu cyflawni'r potensial a nododd Arglwydd Burns a'r comisiynwyr ar gyfer trawsnewid y system drafnidiaeth gyhoeddus yn ninas Casnewydd.
A gaf i ddiolch i'r Dirprwy Weinidog am ei ddatganiad? Un siom fach yn natganiad y Dirprwy Weinidog, y cyfeiriodd Helen Mary Jones ati, yw'r defnydd o'r geiriau, 'derbyn mewn egwyddor'. Nawr, o ystyried bod Llywodraeth Cymru wedi comisiynu'r adroddiad hwn ac wedi dewis y cadeirydd, mae'n syndod bod y geiriau hyn wedi eu defnyddio o gwbl. Serch hynny, ar wahân i'r feirniadaeth fechan honno, mae'n braf gweld ei bod yn sicr yn ymddangos bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo yn gyfan gwbl i weithredu llawer o argymhellion yr adroddiad.
Nid oes unrhyw amheuaeth nad yw adroddiad Burns yn asesiad llawn a chynhwysfawr o'r problemau sy'n cael eu hachosi gan y tagfeydd yn nhwnnel Malpas, ac mae'n mynd yn ei flaen, yn ddoeth iawn, i ddisgrifio dull cyfannol o ddatrys y problemau sy'n parhau. Rwy'n credu bod yr adroddiad yn iawn i nodi bod traffig lleol sy'n defnyddio'r M4 yn gwaethygu'r broblem yn fawr iawn. Rwy'n credu bod Arglwydd Burns a'i dîm yn iawn hefyd i argymell nifer o fesurau y dylid eu rhoi ar waith i sicrhau newid enfawr yn agweddau pobl tuag at deithio, sy'n golygu ein bod ni'n hepgor y car modur ac yn defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus.
Mae'r adroddiad yn amlinellu, ymhlith pethau eraill, agor gorsafoedd rheilffordd newydd a chanolfannau bysiau newydd. O gofio bod bysiau'n cario llawer mwy o deithwyr na threnau, rwyf i o'r farn mai blaenoriaeth bennaf y Dirprwy Weinidog ddylai fod sicrhau cysylltedd y bysiau. A wnaiff y Dirprwy Weinidog amlinellu pa gynigion sy'n cael eu cyflwyno i wella gwasanaethau bysiau yng Nghasnewydd a'r cylch ar unwaith?
Os ydym yn awyddus i sicrhau'r newid enfawr yn y defnydd cyffredinol o geir, mae'n hanfodol nid yn unig bod trafnidiaeth gyhoeddus yn fwy hygyrch, ond mae'n rhaid i hynny fod yn gost-effeithiol hefyd. Yn wir, mae'n rhaid i brisiau fod mor isel fel eu bod yn llawer mwy cystadleuol yn hytrach na defnyddio'r car. A wnaiff y Dirprwy Weinidog roi unrhyw syniad inni am y strategaethau prisio, yn enwedig yn y tymor byr?
Rydym wedi cyfeirio at—
A wnewch chi ddod â'ch sylwadau i ben, os gwelwch chi'n dda?
Siŵr iawn. Mae gennym ni—[Anghlywadwy.]—gynnig trafnidiaeth gyhoeddus cyflym ac effeithlon. O ystyried yr oedi anghyffredin a welsom ni o ran gweithredu'r prosiect trafnidiaeth hynod bwysig hwn, ni allwn ni ond dymuno'n dda i Lywodraeth Cymru yn hyn o beth—
A wnewch chi ddirwyn i ben, os gwelwch chi'n dda?
Iawn—[Anghlywadwy.]
Diolch i chi. Dirprwy Weinidog.
Diolch yn fawr iawn. Gallaf roi tawelwch meddwl i David Rowlands nad oes unrhyw amwysedd wrth ddefnyddio'r term 'derbyn mewn egwyddor'; y ffaith amdani yn syml yw mai gweledigaeth 10 mlynedd yw hon ac efallai y bydd angen ystwytho'r manylion i ryw raddau wrth i'r agweddau ymarferol gael eu harchwilio wrth fynd ymlaen, ac nid lleiaf gan fod yna brosesau statudol i fynd drwyddynt, y mae gan Lywodraeth Cymru swyddogaeth ynddynt, ac mae'r cyfreithwyr yn gofyn imi fod yn ofalus yn yr hyn a ddywedaf. Ond fe allaf i eich sicrhau chi bod ein cefnogaeth ni'n gadarn ac yn sylweddol i'r weledigaeth a nodir, ac rydym wedi ymrwymo i weithio drwy'r manylion, i'w rhoi nhw ar waith ac ychwanegu cymaint ag y gallwn ni ati. Ac yn sicr, fel y dywedais i, mae 'Llwybr Newydd: strategaeth drafnidiaeth newydd i Gymru' wedi cymryd y weledigaeth hon a'i chwyddo hi ar gyfer Cymru gyfan, felly rydym ni'n sicr yn gobeithio—. A'r cwestiwn y mae ef yn ei godi am fforddiadwyedd defnyddio bysiau, mae hwnnw'n sicr yn gwestiwn allweddol ar gyfer cyflawni newid moddol, i berswadio pobl i adael eu ceir gartref a defnyddio mathau cynaliadwy o drafnidiaeth ar gyfer eu teithiau dyddiol, oherwydd, yn amlwg, fforddiadwyedd yw un o'r mesurau hynny. Felly, os na wnawn ni sicrhau bod system drafnidiaeth gyhoeddus yn ddeniadol—ac mae yna lawer ffordd o'i gwneud yn ddeniadol, a dyna un ohonyn nhw'n sicr—yna ni chaiff y weledigaeth hon ei chyflawni, mae hynny'n sicr.
O ran mesurau bysiau, rwy'n cytuno ag ef; rwyf eisoes wedi dweud fy mod i'n rhagweld y bydd un o'r mesurau cyntaf a gymerwn ni'n ymwneud â rhoi blaenoriaeth i fysiau. Mae Trafnidiaeth Cymru wedi bod yn gwneud gwaith modelu, gan ystyried, er enghraifft, yr achosion pennaf pam mae teithwyr ar fysiau yn colli amser yn y boreau. Rwyf wedi cael cyflwyniad diddorol gan y rhai fu wrthi'n gweithio ar y modelu sy'n dangos yn gwbl eglur fod yna dair tagfa wahanol ar gyfer bysiau yng Nghasnewydd yn y boreau, lle mae teithwyr bysiau'n eistedd yn aros yno am eu bod yn cael eu dal mewn traffig, ac rwy'n credu y byddai edrych ar bob un o'r tair tagfa yn flaenoriaeth yn ogystal â gweld sut y gallwn ni greu rhai mesurau ar gyfer rhoi'r flaenoriaeth ar y ffordd i ganiatáu i fysiau symud yn rhydd, i annog pobl i neidio ar y bws yn lle neidio i gar.
Felly, mae hwnnw'n ddarn systematig o waith yr ydym ni'n dechrau ei gyflawni o fewn Trafnidiaeth Cymru, ac mae gwaith wedi dechrau ar hynny eisoes, ond fel y dywedais i, mae angen i'r Cyngor weithio gyda ni, gan fod yn barod i wneud penderfyniadau lleol i wneud y newidiadau hyn yn rhai sy'n bosibl yn ymarferol. Rwy'n sicr yn credu, fel bob amser, mai peth digon hawdd yw nodi'r weledigaeth ar gyfer y pethau hyn; ond y gamp yw ei darparu'n gyflym, ei hariannu, a mynd â phobl ar y daith gyda chi. Ac nid wyf yn bychanu'r her sydd o'n blaenau ni wrth fwrw ymlaen â hyn, yn enwedig o ystyried yr heriau yn yr ardal a amlinellais i eisoes, ond mae'n gwbl bosibl ac mae'r wobr yno i bawb ei gweld. O ystyried yr heriau yr ydym ni i gyd yn eu hwynebu wrth fynd i'r afael â newid hinsawdd ac wrth adfywio'r economi leol yn wyneb y dirwasgiad hwn, yna mae hon yn flaenoriaeth sy'n hanfodol i bob un ohonom ei symud ymlaen.
Diolch. A gaf i atgoffa'r siaradwyr mai un funud sydd ganddyn nhw i ofyn cwestiwn i'r Dirprwy Weinidog? Ac mae'n ddigon tebyg os mai dim ond funud sydd ganddyn nhw, Dirprwy Weinidog, y bydd eich atebion chi'n fyrrach wedyn. Diolch. Rhianon Passmore.
Fel rydych chi'n sylweddoli, mae Casnewydd, sef yr unig ddinas yng Ngwent, yn ganolbwynt gwirioneddol i gymunedau Cymoedd Gwent yr wyf i'n eu cynrychioli yn Islwyn, ac rwy'n croesawu'n fawr iawn ymateb cadarnhaol Llywodraeth Cymru i argymhellion Comisiwn Trafnidiaeth De-ddwyrain Cymru ac mae yna hen ddisgwyl nawr am y rheilffordd y mae croeso mawr iddi yng Nghasnewydd. Felly, mae'n gwbl hanfodol heddiw bod y DU yn dod gerbron ac yn chwilio am gyfle i godi lefel yn uwch, oherwydd mae'n peri pryder cynyddol nad yw Cymru'n cael yr hyn sy'n ddyledus iddi, ac mae'n dorcalonnus gweld y duedd hon yn parhau hefyd yn y diwydiant hedfan pan gafodd Maes Awyr Bryste, yr wythnos hon, £8 miliwn gan Lywodraeth y DU i'w gefnogi ond ni chafodd Caerdydd ddim byd o gwbl.
Felly, y cwestiwn, ac fe af i'n syth ato: a wnaiff y Dirprwy Weinidog gytuno bod angen inni weld Llywodraeth y DU yn buddsoddi yn llawn a theg yn rhwydwaith ein rheilffyrdd ni? Cafodd ffigur o £5 biliwn ei ddatgan heddiw i wneud trafnidiaeth gyhoeddus integredig ledled Gwent yn addas at y diben yn yr unfed ganrif ar hugain. A sut all cymunedau Islwyn ymgysylltu â'r broses bwysig iawn hon yn y ffordd orau wrth symud ymlaen, a beth yw'r trawsnewidiadau y gallai hyn eu cyflwyno i fywydau dinasyddion ym mhob rhan o Islwyn?
Diolch i chi am hynny. Mae Rhianon Passmore yn iawn i dynnu sylw unwaith eto at y penderfyniad anghyfiawn gan Lywodraeth y DU ynglŷn â hedfan, sy'n rheswm ychwanegol pam mae angen iddyn nhw ddod i'r adwy o ran y pecyn hwn i ddangos eu bod nhw yr un mor ymrwymedig i godi lefel yn uwch ym mhob rhan o'r DU ag y maen nhw'n ei honni.
I ateb cwestiwn Rhianon Passmore, fel y dywedais i, yn sicr fe fydd 80 y cant o bobl o fewn ffiniau Casnewydd ei hunan o fewn milltir i safle trafnidiaeth gyhoeddus o ansawdd uchel o ganlyniad i'r cynigion hyn, ond fe fydd yna fanteision i gefnwlad yn ogystal â Chymoedd Gwent yn rhan o hynny. Mae rheilffordd Glynebwy, y gwn ei fod yn fater y mae hi'n pwyso'n gyson ar Lywodraeth Cymru i wneud mwy o'i herwydd, yn rhan bwysig o hynny. Rydym ni'n gobeithio y bydd gennym amserlen newydd eleni gyda gwasanaethau cyn belled â Phont-y-Cymer. Ni allwn fynd y tu hwnt i Bont-y-Cymer heb fuddsoddiad ac ymyrraeth gan Network Rail a Llywodraeth y DU, felly dyna enghraifft arall lle mae angen iddyn nhw ei 'siapo hi', chwedl fy mam-gu, ond rydym yn gobeithio gweld pedwar trên yr awr ar y lein honno, ac mae hynny'n sicr yn rhan o weledigaeth ehangach Burns.
Diolch i'r Dirprwy Weinidog am ei ddatganiad heddiw. Rwy'n croesawu llawer o'r cynigion yn yr adroddiad hwn, yn benodol er mwyn pobl Casnewydd, a'r gwelliannau a argymhellir i'r rhwydwaith rheilffyrdd yn arbennig felly, ynghyd â'r gorsafoedd newydd a gynlluniwyd a'r coridorau bysiau cyflym newydd ledled y rhanbarth a fydd yn cysylltu ag asgwrn cefn y rheilffordd. Rwy'n cydnabod y bydd y rhain o fudd er mwyn lleihau maint y traffig ar yr M4. Serch hynny, fel y dywedwyd eisoes, ni all ddisodli ffordd liniaru'r M4—ffordd liniaru'r M4 y gwnaethoch chi anghofio, yn gyfleus iawn, fod Llywodraeth Cymru wedi gwastraffu miliynau ar filiynau o bunnoedd arni, ac eto nid oes datrysiad na ffordd i'w gweld.
Mae Llafur Cymru wedi methu'n gyson â chael datrysiad i broblem tagfeydd yr M4, gan dorri'r ymrwymiad yn ei maniffesto wrth wneud hynny. Er gwaethaf 20 mlynedd o drafodaeth ac ymgynghoriad, ni lwyddwyd i gael ateb ymarferol hyd yn hyn. Wrth i Lywodraeth Cymru din-droi a rhoi'r cynllun o'r neilltu, fe gynyddodd maint y traffig ar yr M4 yn gyflym. Fe fydd perfformiad rhwydwaith ffyrdd a thrafnidiaeth Cymru yn alluogwr hanfodol ar gyfer cynnal cynhyrchiant a chystadleurwydd. Onid ydych chi'n cytuno â mi y dylid gweithredu llawer o'r cynigion hyn yn gyfochrog â ffordd liniaru i'r M4 er mwyn sicrhau'r gostyngiad mwyaf posibl mewn traffig a dod â'r budd economaidd mwyaf posibl i'r rhanbarth? Mae eich seilwaith trafnidiaeth—
A wnewch chi ddirwyn i ben, os gwelwch chi'n dda?
—yn cefnogi cynhyrchiant Cymru, felly nid mater yw hwn o ofyn a allwn ni fforddio adeiladu ffordd liniaru'r M4 hefyd, ond a allwn ni fforddio peidio â gwneud hynny.
Mae Laura Anne Jones yn dweud wrthym nad oes yna ateb ymarferol wedi cael ei gyflwyno, a dyma ni yn trafod ateb ymarferol a gyflwynodd comisiwn o arbenigwyr ar gynllunio trafnidiaeth. Mae gennym ni lasbrint ymarferol am y 10 mlynedd nesaf, felly nid oes syniad gennyf beth mae hi'n ceisio ei ddweud pan ddywed nad oes ateb ymarferol wedi ei gyflwyno. Dyna'n union yr ydym yn siarad amdano, Laura Anne.
Mae hi'n dweud na all hyn ddisodli ffordd liniaru i'r M4. Mae hynny'n hollol gywir; nid yw hyn yn disodli ffordd liniaru i'r M4. Fe wnaethom ni ganslo ffordd liniaru'r M4 oherwydd (a) byddai'n costio £2 biliwn, ac rwyf newydd ddweud bod Llywodraeth y DU wedi ein hamddifadu ni eisoes o £5 biliwn ar gyfer seilwaith rheilffyrdd, felly—. Rwy'n ei chlywed yn mwmian draw fan acw, ond nid yw wedi dangos inni o ble y daw'r £2 biliwn dychmygol hwn a hynny oherwydd nad yw ar gael. A hyd yn oed pe byddai ar gael, fe fyddai'n mynd yn erbyn yr holl ymrwymiadau a wnaethom ni ar sail drawsbleidiol i fynd i'r afael â newid hinsawdd. Ni allwch sefyll wrth y goeden Geidwadol a dweud mai chi yw'r blaid werdd ac yna mynnu, ar yr un pryd, ein bod ni'n gwneud pethau a fydd yn torri ein hymrwymiadau carbon ni. Mae hwn yn gynnig gwahanol: un sy'n mynd i'r afael â thagfeydd. Fe fydd yn costio hanner y swm o arian y byddai ffordd ddrudfawr drwy wlyptir gwerthfawr yn ei wneud, ac mae'n helpu i leihau allyriadau, nid eu cynyddu nhw.
Gweinidog, rydych chi'n cwyno nad yw Llywodraeth y DU yn barod i ariannu unrhyw beth a bod £2 biliwn am ffordd liniaru'r M4 yn rhy ddrud, ond fe gafwyd nifer o awgrymiadau o gwmpas Llywodraeth y DU y gellid defnyddio'r gronfa ffyniant a rennir, yn wir y Bil marchnad fewnol, ar gyfer hyn. Os oes cyfle i gael i fyny at £2 biliwn gan Lywodraeth y DU i ymdrin â'r tagfeydd ac ysgogi ein heconomi ni gyda ffordd liniaru i'r M4, siawns na ddylem ni neidio at y siawns honno.
A gaf i, serch hynny, ofyn i'r Gweinidog fynegi ein gwerthfawrogiad ni i Arglwydd Burns a'i dîm am eu gwaith nhw ar sail drawsbleidiol ar draws y Senedd? Roeddwn i'n amau ar y dechrau mai dim ond ffordd oedd hon i'r Gweinidog osgoi beirniadaeth am nad oedd yn gwneud dim ynglŷn â ffordd liniaru'r M4. Ond mae hwn wedi bod yn gorff sylweddol o waith ac fe gefais i fy siomi ar yr ochr orau gan nifer o'r argymhellion sydd ynddo.
O ran y gwaith ar y rheilffordd, a yw hwnnw'n fater o gael popeth neu ddim o gwbl neu a allwn ni gael rhai gwelliannau hyd yn oed os na fyddwn ni'n cael pob un ohonyn nhw? Er enghraifft, beth sy'n digwydd ynglŷn â gorsaf parcffordd Caerdydd? Pryd fydd honno'n cael ei chyflawni, a'r ddwy arall hefyd lle mae'r gwaith wedi dechrau eisoes? Rwy'n atgoffa'r Gweinidog: onid oedd y comisiwn hwn yn ymwneud â'r hyn y gellid ei wneud â'r arian nad oeddech chi'n ei wario ar ffordd liniaru'r M4, neu gyfran sylweddol ohono? Felly, pam ydym ni'n clywed yr ateb, 'O wel, rhywbeth i'w ariannu gan Lywodraeth y DU yw hwn'? Mae gennyf rywfaint o gydymdeimlad â'i ddatganiad y dylai Llywodraeth y DU fod yn rhoi mwy o gyllid yng Nghymru i'r seilwaith rheilffyrdd, ond a wnaiff ef roi sicrwydd i mi na fydd yn defnyddio hynny'n esgus i beidio â symud ymlaen yn y maes hwn? Oherwydd fe fyddai'r rheilffordd liniaru hon, gyda chwe gorsaf yn gweithio gyda'i gilydd, a chael gwasanaeth yn stopio ym mhob un gorsaf, rwy'n credu y byddai hynny o fudd gwirioneddol i economi'r de.
Rwy'n gwerthfawrogi sylwadau Mark Reckless ynghylch natur sylweddol y swm o waith a wnaed wrth lunio'r adroddiad, sy'n deilwng o barch a chefnogaeth ar draws y Siambr rithwir.
O ran ariannu hyn, Llywodraeth y DU sy'n gyfrifol am y seilwaith rheilffyrdd, sy'n gyfran fawr o gynnwys yr adroddiad—ar wahân i reilffyrdd canol y Cymoedd, a ddatganolwyd i Lywodraeth Cymru erbyn hyn. Rydym ni'n amcangyfrif bod cost rhoi adroddiad Burns ar waith yn golygu rhwng £500 miliwn ac £800 miliwn, ac rydym ni'n amcangyfrif bod tua £0.5 biliwn o hwnnw'n wariant i Lywodraeth y DU ar y rheilffordd. Mae hwn yn arian a danfuddsoddwyd ers blynyddoedd, fel y soniais eisoes. Felly, o ystyried y dylem fod yn cael £5 biliwn, ni ddylai £0.5 biliwn fod yn gais afresymol, ac nid y rheswm lleiaf yw y byddai'n cyflawni'r agenda o godi lefel yn uwch y mae Llywodraeth y DU yn sôn amdani.
Fe soniodd ef hefyd am y gronfa ffyniant a rennir, ond rwy'n credu bod ganddo fwy o ffydd nag sydd gen i fod honno'n mynd i gyflawni unrhyw beth, oherwydd hyd yn hyn, bedair blynedd neu fwy ers y refferendwm, rydym yn dal i aros i weld sut fath o beth yw'r gronfa ffyniant a rennir. Felly, nid wyf i'n credu y gallwn ni seilio ein gobaith ar y gronfa honno o ran y prosiect hwn, a hyd yn oed pe byddai gennym £2 biliwn gan Lywodraeth y DU i ariannu ffordd liniaru'r M4, y datrysiad anghywir fyddai hwnnw. Rydym wedi datgan argyfwng newid hinsawdd ac nid adeiladu priffordd fawr sy'n cynhyrchu llygredd drwy wlyptiroedd gwarchodedig fyddai'r peth priodol i'w wneud.
Nawr, fel y dywedais i, y peth buddiol am adroddiad Burns yw ei fod wedi edrych o'r newydd ar y broblem o safbwynt lleihau carbon, ac wedi cyflwyno ffyrdd ymarferol o wella cysylltedd, gwella'r economi leol, ond heb effaith niweidiol cynllun sy'n creu ac yn cynyddu traffig. Felly, rwyf i o'r farn ein bod ni'n cael y gorau o ddau fyd. Mae angen inni fwrw ymlaen nawr â'i gyflawni, a dim ond mewn partneriaeth y gallwn ni wneud hynny.
Rwy'n croesawu'r datganiad hwn. Sylwaf fod agwedd fawr ar gynllun Burns yn gofyn am fuddsoddiad gan Lywodraeth y DU; mae hynny wedi codi nifer o weithiau y prynhawn yma. O gofio nad yw'r tanfuddsoddi hanesyddol yn seilwaith rheilffyrdd Cymru gan Lywodraeth y DU yn dangos unrhyw arwydd o leihau, beth fyddai'r Dirprwy Weinidog yn ei ddweud yw'r cynllun wrth gefn os gwrthodant ddarparu'r arian y mae arnom ni ei angen? Roeddwn yn falch o'ch clywed yn dweud wrth fy nghyd-Weinidog Helen Mary Jones fod Llywodraeth Cymru nawr yn cefnogi datganoli'r seilwaith rheilffyrdd yn llawn, a gwn ichi ddweud yn gynharach eich bod eisiau bod yn gadarhaol, Dirprwy Weinidog, ond i fod yn realistig, os bydd Llywodraeth y DU yn parhau'n anhyblyg, a fyddech yn cytuno y byddai gan reilffyrdd Cymru ddyfodol mwy disglair fel ased cwbl wladoledig i Gymru annibynnol?
Wel, gallaf gytuno â rhywfaint o hynny, ond rwy'n credu eich bod yn mentro'ch lwc ar y cyfan. [Chwerthin.] Yn sicr, mae'n wir fod pethau y gallwn ni fod yn bwrw ymlaen â nhw wrth i ni wneud y gwaith gyda Network Rail a'r Adran Drafnidiaeth ar y broses cynllunio rheilffyrdd. Fel y dywedais, rydym ni wedi dechrau'r gwaith hwnnw eisoes, ac o'r chwe gorsaf newydd y mae Burns yn eu nodi, mae tri ar y gweill. A Mark Reckless, mae'n ddrwg gennyf, anghofiais grybwyll hyn. Soniodd am orsaf Parkway Caerdydd, sy'n datblygu gyda'n cefnogaeth ni. Hefyd, o ran y mesurau teithio llesol, mae hynny hefyd yn rhywbeth sydd o fewn ein rheolaeth a'n bod yn cynyddu buddsoddiad yn sylweddol er mwyn gallu cyflawni hynny. Rwy'n awyddus iawn i weld llwybr o Gaerdydd i Gasnewydd yn cael ei ddarparu'n fuan yn rhan o'r gwaith teithio llesol hwnnw. Ond yn y pen draw, fel y mae Delyth Jewell yn sôn, mae hyn angen y DU. Rhwydwaith rheilffyrdd y DU yw hwn. Nid yw wedi'i ddatganoli i Lywodraeth Cymru, yr ochr seilwaith ohono, ac felly mae angen iddyn nhw wneud eu rhan i sicrhau bod pobl o'r rhan hon o'r DU yn cael eu gwasanaethu'n dda gan ein rhwydwaith rheilffyrdd cyfunol.
Mae llawer o gamau gweithredu da wedi'u hawgrymu gan yr Arglwydd Burns a fydd yn cael eu gweithredu gan Lywodraeth Cymru gyda phartneriaid, Dirprwy Weinidog. Gwyddoch, er enghraifft, fod gan yr orsaf reilffordd newydd ym Magwyr gefnogaeth gymunedol dda iawn a'i bod wedi'i chyflwyno ers cryn amser. Felly, credaf fod hynny'n addawol iawn, iawn, a'r gorsafoedd newydd yn Llanwern a Somerton yn yr un modd. Croesawaf hefyd y cynigion ar gyfer Cyffordd Twnnel Hafren, gyda gwell gwasanaethau trafnidiaeth cydgysylltiedig a mynediad i fysiau, a hefyd y cyswllt rhwng yr M48 a'r B4245 y mae hen ddyheu amdano, a fyddai'n lliniaru llawer o dagfeydd ar y ffyrdd drwy bentrefi Magwyr a Gwndy.
Mae llawer a fydd yn werthfawr iawn, ond, yn amlwg, mae angen i ni gyflawni hynny, ac rwy'n derbyn y pwynt a wnaethpwyd o ran a oes gennym ni ddigon o ewyllys da o du Llywodraeth y DU o ran y brif linell a'r llinellau lliniaru, a gobeithiaf yn fawr y gwelwn hynny'n dod i law. Ond o ran y materion hynny sydd o fewn ein rheolaeth fwy uniongyrchol, mae bysiau yn amlwg yn bwysig iawn, ac mae pwyntiau wedi'u gwneud am nifer y bobl sy'n teithio ar fws a'r cyfleoedd cynnar gyda blaenoriaethu bysiau ac yn y blaen. A wnewch chi roi ystyriaeth ofalus iawn, o ran bysiau a sut yr ydym ni'n symud pethau ymlaen, Dirprwy Weinidog, i gynllun treialu teithio am ddim ar fysiau yng Nghasnewydd, a fyddai, yn fy marn i â llawer o rinweddau? Byddai'n arwydd cynnar iawn o fwriad, a chredaf y byddai'n dal dychymyg a chefnogaeth pobl leol.
Rwy'n sicr yn fodlon ystyried y cynnig hwnnw. Wrth gwrs, yr hyn yr ydym ni'n ei wneud yng Nghasnewydd yw cyflwyno cynllun i dreialu ein prosiect bysiau sy'n ymateb i'r galw yno—rydym yn ei alw'n Fflecsi—ac mae hynny wedi'i adeiladu ar fodel profedig o ddarparu rhwydwaith bysiau ar alwad i bobl, os mynnwch chi. Mae hynny eisoes wedi bod yn llwyddiannus iawn yn y rhannau o Gasnewydd lle'r ydym ni wedi rhoi cynnig arni. Yn wir, mae'r galw wedi mynd y tu hwnt i'n gallu i ymdrin ag ef, ac o ganlyniad rydym yn ei gynyddu. Felly, yn sicr, mae hwnnw'n brosiect yr hoffem ei gyflwyno i rannau eraill o Gymru, ac rydym yn ei dreialu mewn gwahanol gymunedau a gwahanol leoliadau mewn rhannau eraill o Gymru. Casnewydd yw'r lle yr ydym ni'n ei wneud ar y raddfa fwyaf, ac rwy'n sicr yn credu y gallai hynny fod yn ategiad gwych i'r rhwydwaith bysiau presennol. Y dystiolaeth hyd yma yw ei fod yn ysgogi cwsmeriaid newydd i ddefnyddio'r rhwydwaith bysiau—pobl na fydden nhw fel arall wedi ystyried dal y bws yn draddodiadol. Felly, mae'n ymddangos ei fod yn brosiect addawol iawn.
Mae John Griffiths yn sôn am amrywiaeth o orsafoedd lleol yn rhan o weledigaeth Burns, yn enwedig yr orsaf gerdded ym Magwyr, y byddaf yn ei thrafod gyda'r awdurdod lleol yn fuan, yn ogystal â'r prosiectau eraill sy'n adlewyrchu'r cymunedau yng Ngwndy a Maesglas a rhannau eraill o'r ardal. Nid oes amheuaeth na fydd y ddinas gyfan a'r bobl ynddi yn elwa ar yr ystod o wahanol gynigion yn hyn o beth ac, a dweud y gwir, y math o rwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus modern, na ddylai fod yn ddim byd arbennig mewn gwirionedd. Dylai hyn fod y safon ar gyfer dinas fel Casnewydd, ac nid ydym ni, dros gyfnod rhy hir, rwy'n credu, wedi buddsoddi mewn bysiau yn arbennig, gan sicrhau bod dewis realistig arall yn lle'r car.
Rwy'n gwybod bod amser yn brin, felly byddaf yn gryno. A gaf i ofyn i chi, Dirprwy Weinidog, am y gwelliannau i drafnidiaeth gyhoeddus yr ydych chi wedi sôn amdanyn nhw? Mae'n dda clywed am y cynnydd arfaethedig yn nifer y gorsafoedd yng Nghasnewydd, ond, wrth gwrs, dim ond pan fydd gennych chi reilffordd y mae'r cynnydd yn nifer y gorsafoedd yn gweithio. Dau gwestiwn ar sail hynny: yn gyntaf oll, a oes unrhyw gynlluniau ar gyfer rheilffordd Casnewydd i Henffordd, ar gyfer unrhyw gynnydd yn nifer y gorsafoedd yno, neu rywfaint o gynnydd mewn capasiti? Oherwydd, wrth gwrs, mae honno'n gwasanaethu ardal Casnewydd a byddai'n cludo cymudwyr.
Yn ail, yn nwyrain fy etholaeth, nid oes rheilffyrdd ac ni fu ers 60 neu 70 mlynedd. Felly, ar wahân i'r car, bydd yn rhaid cael gwelliannau eraill i drafnidiaeth gyhoeddus. Rwyf wedi holi'r Gweinidog yr economi a thrafnidiaeth o'r blaen am y posibilrwydd o ganolfan yn y Celtic Manor, yn y ganolfan gynadledda newydd. A yw hynny'n rhywbeth sy'n cael ei ystyried? Oherwydd heb unrhyw un o'r newidiadau hynny yn fy etholaeth i, bydd yn rhaid i'm hetholwyr barhau i deithio mewn car ac achosi tagfeydd o amgylch Casnewydd.
Wedi ei gyflwyno yn rhagorol. Diolch. Dirprwy Weinidog.
Dyna pam mae strategaeth drafnidiaeth newydd Cymru mor bwysig, oherwydd mae'n cynnig yr holl fathau hyn o ddewisiadau, a byddant yn wahanol i wahanol gymunedau. Felly, rwy'n credu bod y rhwydwaith sy'n ymateb i'r galw a grybwyllais, yn enwedig ar gyfer ardaloedd fel eich un chi, Nick Ramsay, nad oes ganddi seilwaith rheilffyrdd cynhenid, yn ffordd o gael pobl allan o geir a symud pobl o gwmpas yn y tymor cymharol fyr. Mae hyn yn rhywbeth y gellir ei gynyddu a'i gyflwyno'n gyflym. Felly, yn sicr, ar sail y llwyddiant yng Nghasnewydd, byddem eisiau cyflwyno hynny i gymaint o gymunedau â phosib. O ran y cwestiwn penodol y mae'n ei ofyn i mi am orsafoedd o Gasnewydd i Henffordd, bydd yn rhaid imi ysgrifennu ato am hynny, ond mae hon yn agenda a fydd yn cynyddu. Po fwyaf y cymorth sydd ar gael i wella gwasanaethau a seilwaith, y mwyaf y gallwn i gyd awgrymu gwelliannau yn ein hardaloedd ein hunain i roi'r egwyddorion hyn ar waith.
Ac yn olaf, Alun Davies.
Rwy'n ddiolchgar i chi, Dirprwy Lywydd, ac yn ddiolchgar i'r Dirprwy Weinidog hefyd. Sylwaf fod y Llywodraeth yn derbyn yr argymhelliad i reilffordd Cwm Ebwy gynyddu i un â phedwar trên yr awr a byddwn yn ddiolchgar am gael syniad o amserlen hynny. Hoffwn ddeall hefyd beth yw gweledigaeth y dyfodol ar gyfer y rheilffordd, oherwydd pan gafodd ei chreu a phan gafodd ei hadfer a'i hagor, roedd yn wasanaeth rhyngdrefol yn cysylltu blaenau'r Cymoedd â chanol y ddinas yng Nghaerdydd. Mae perygl gwirioneddol gyda rhai o'r cynigion yn yr adroddiad hwn y bydd yn dod yn wasanaeth maestrefol sy'n cysylltu Caerdydd â Chasnewydd, a byddai hynny'n broblem wirioneddol i ni o ran cael ateb rhanbarthol. Po fwyaf o orsafoedd sydd, y mwyaf yw'r amser teithio, a chredaf fod angen inni gael sgwrs am hynny.
Yr ail fater yr oeddwn eisiau ei grybwyll yw bysiau rhanbarthol. Rydym ni eisoes wedi trafod rhyng-gysylltedd ac integreiddio gwahanol wasanaethau, ond mae angen i ni sicrhau bod gennym ni ddull rhanbarthol o ymdrin â hyn. Ni fydd cysylltu Caerdydd â Chasnewydd yn unig yn ddigon i ddatrys y problemau, ac mae hynny'n golygu llywodraethu ar lefel ranbarthol, mae gennym ni'r gallu i drefnu llwybrau bysiau ar lefel ranbarthol, mae gennym ni'r gallu i sicrhau bod gennym ni system docynnau bws a thrên, a'r gallu i sicrhau bod pobl yn symud yn rhwydd o un math o drafnidiaeth i'r llall. Diolch.
Cytunaf yn llwyr â'r sylw olaf yna, a dyna pam mae'n bwysig ein bod ni, drwy greu'r cydbwyllgorau trafnidiaeth, yn cynllunio ein rhwydwaith bysiau ar sail ranbarthol, fel y gellir gosod a chyflawni'r cysylltiadau hyn. Fel y dywedais, cefais sgwrs galonogol iawn gydag arweinwyr llywodraeth ranbarthol a llywodraeth leol yn gynharach yr wythnos hon ynghylch cefnogi'r weledigaeth honno. Credaf ein bod ni eisoes wedi cyhoeddi gwelliant yn y gwasanaeth rhanbarthol yn etholaeth Alun Davies, gan ddefnyddio rhwydwaith TrawsCymru i gysylltu ag ysbyty newydd y Faenor. Felly, rwy'n credu bod rhai pethau yr ydym ni eisoes wedi'u cyflawni yn hynny o beth ac rwy'n credu ein bod yn rhoi'r strwythur ar waith er mwyn gallu cyflawni mwy.
O ran ei sylw am rwydwaith maestrefol a'r angen i gysylltu Glynebwy yn arbennig â Chaerdydd ac â Chasnewydd, bwriad gwelliannau rheilffordd Glynebwy yn sicr yw y byddant yn gwneud y ddau beth yna—y bydd y gwelliant yr ydym ni'n gobeithio ei weld eleni i Crosskeys yn mynd i Gasnewydd, lle mae'r gwasanaeth presennol yn mynd i Gaerdydd. Wrth inni gynyddu i bedwar gwasanaeth, byddant yn gwasanaethu'r ddwy ddinas. Ond mae ei ddadl yn un gref ac yn un y credaf y bydd angen i ni barhau i'w gwyntyllu er mwyn sicrhau, wrth i ni wella a mireinio ein rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus, ei fod yn gweithio i bob cymuned.
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Weinidog.