– Senedd Cymru am 3:34 pm ar 20 Ionawr 2021.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r ddadl ar adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar hawliau plant yng Nghymru. Dwi'n galw ar Gadeirydd y pwyllgor i gyflwyno'r ddadl, Lynne Neagle.
Diolch, Lywydd. Ddeng mlynedd yn ôl, rhoddodd cyfraith newydd, Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011, sail gyfreithiol i hawliau plant yng Nghymru. Mae dros chwe blynedd bellach ers i bob rhan o'r ddeddfwriaeth hon ddod yn weithredol yn llawn. Mae hyn yn golygu bod rhaid i Weinidogion Cymru ddilyn Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn bellach wrth arfer unrhyw un o'u swyddogaethau. Yr hyn sy'n amlwg yw nad yw'r ddeddfwriaeth hon erioed wedi bod yn bwysicach.
Mae pandemig COVID-19 yn golygu nad yw ein plant yn mynd i'w hysgolion. Caewyd eu meysydd chwarae ar ddechrau'r pandemig. Ni allant gymdeithasu â'u ffrindiau, ac mae cyfyngiadau ar fynd i'w clybiau a'u gweithgareddau hamdden arferol. Efallai y bydd rhai plant mewn mwy o berygl o gael eu niweidio gartref. Mae'n llai tebygol y bydd gwasanaethau rheng flaen yn canfod hynny am nad yw plant yn cael eu gweld gymaint yn yr ysgol, ac maent yn llai tebygol o gael cyswllt wyneb yn wyneb â'r gwasanaethau cymdeithasol. Gwyddom hefyd mai cyswllt cyfyngedig y mae plant sy'n derbyn gofal wedi'i gael â ffrindiau a theulu. I lawer o blant a phobl ifanc, yr hyn y gwyddom i sicrwydd yw bod eu hiechyd meddwl a'u llesiant yn cael eu heffeithio'n ddifrifol. Os oedd angen enghraifft ar unrhyw oedolyn o beth yw hawliau plant, a pham eu bod yn bwysig, mae'r pandemig hwn yn gwneud y pwynt yn y ffyrdd mwyaf llym.
Mae'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg wedi gweithio'n galed i sicrhau bod hawliau plant wedi bod wrth wraidd ein holl waith yn ystod y pumed Cynulliad hwn. Mae hawliau plant yn bwysig ym mhob dim a wnawn. Mae hyn wedi bod yn wir pan fyddwn yn craffu ar bolisi'r Llywodraeth ar wasanaethau ieuenctid neu iechyd meddwl pobl ifanc, pan fyddwn yn ystyried yr angen am ddeddfwriaeth ar gosbi plant yn gorfforol, neu pan fyddwn yn edrych ar ariannu ysgolion.
Ym mis Mehefin 2019, bron i ddegawd ers cyflwyno'r Mesur hawliau plant, roeddem yn teimlo ei bod yn bryd archwilio a yw'r ddeddfwriaeth hon wedi bod yn gweithio'n effeithiol. Yn 2011, ystyrid bod y gyfraith hon yn torri tir newydd ac arweiniodd at gydnabyddiaeth ryngwladol i Gymru, ond rhaid mesur ei llwyddiant yn ôl y graddau y mae wedi gwneud gwahaniaeth go iawn i fywydau plant a phobl ifanc yng Nghymru.
Y peth cyntaf a wnaethom oedd edrych ar sut y mae'r gyfraith hon yn effeithio ar y ffordd y mae Llywodraeth Cymru'n gwneud penderfyniadau. Roeddem hefyd yn awyddus i wybod a yw wedi gwneud unrhyw wahaniaeth i'r ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn dyrannu ei chyllid. Clywsom am rwystredigaethau amlwg rhanddeiliaid ynglŷn â pha mor gyflym y mae'r Mesur wedi dylanwadu ar bolisi a gwariant. Dywedasant wrthym nad oes digon o gyfeirio at hawliau plant mewn dogfennau strategol allweddol. Dywedasant wrthym hefyd nad oes digon o dystiolaeth fod y dyletswyddau yn y Mesur yn cael eu cyflawni ar draws Llywodraeth Cymru. Nid yw'n glir fod hawliau plant yn cael eu hystyried yn systematig ar draws y Llywodraeth. Er bod enghreifftiau da mewn rhai adrannau, rhaid gwneud mwy o gynnydd. Yn ogystal â'r enghreifftiau amlwg, megis addysg a gwasanaethau cymdeithasol, mae meysydd polisi fel tai, iechyd, cynllunio, yr economi, yr amgylchedd a thrafnidiaeth yn effeithio'n enfawr ar fywydau plant o ddydd i ddydd. Rhaid i hawliau plant effeithio ar benderfyniadau ar draws portffolio pob Gweinidog, a rhaid cael prawf mwy tryloyw fod hyn yn digwydd.
Wedyn, edrychwyd ar y dyletswyddau yn y ddeddfwriaeth newydd y bwriadwyd iddynt sicrhau bod hawliau plant yn cael eu gwireddu. Roeddem am wybod a yw'r mecanweithiau cywir ar waith i sicrhau newid. Clywsom fod asesiadau o'r effaith ar hawliau plant yn arf pwysig i gynnal y gwaith o weithredu'r ddeddfwriaeth hon. Dylai'r asesiadau hyn ddadansoddi i ba raddau y bydd camau gweithredu Llywodraeth Cymru yn cael effaith negyddol, niwtral neu gadarnhaol ar hawliau plant. Y bwriad yw sicrhau eu bod yn cael eu defnyddio'n gynnar yn y broses o wneud penderfyniadau er mwyn llywio'r broses honno. Clywodd y pwyllgor bryderon fod yr asesiadau effaith hyn yn aml yn cael eu cynhyrchu'n rhy hwyr yn y broses o ddatblygu polisi. Mynegwyd pryderon hefyd eu bod weithiau'n cael eu hysgrifennu mewn ffordd sy'n edrych fel pe baent yn esbonio penderfyniadau polisi sydd eisoes wedi'u gwneud, yn hytrach na llywio penderfyniadau sydd eto i'w gwneud. Mae hyn yn dangos inni nad hawliau plant sy'n sbarduno penderfyniadau Llywodraeth Cymru yn ôl bwriad y ddeddfwriaeth.
Yn fwy diweddar, mae'n braf clywed barn Comisiynydd Plant Cymru fod ansawdd a manylion rhai o'r asesiadau effaith hyn wedi gwella. Mae un enghraifft gadarnhaol yn ymwneud â lefel y manylder a'r dadansoddiad a gyhoeddwyd gan yr adran addysg am ddarpariaeth ysgolion yn ystod y pandemig.
Roedd deddfwriaeth 2011 hefyd yn gosod dyletswydd ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod oedolion a phlant yn gwybod am Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn. Gwnaed hyn er mwyn i oedolion a phlant ddeall beth yw hawliau plant a pham y mae'r gyfraith mewn grym. Fodd bynnag, roedd llawer o'r plant a'r bobl ifanc y clywsom ganddynt yn dweud yn glir na fu dull systematig o'u hysbysu am eu hawliau. Dangosodd ein tystiolaeth hefyd fod bwlch gwirioneddol yn y wybodaeth a'r ddealltwriaeth o hawliau plant ymysg y cyhoedd.
Yng ngoleuni hyn, 10 mlynedd ers i'r ddeddfwriaeth gael ei rhoi mewn grym, rydym yn casglu ei bod yn hen bryd cael strategaeth genedlaethol i godi ymwybyddiaeth. Rydym hefyd wedi argymell y dylai Llywodraeth Cymru ddweud wrth blant a phobl ifanc sut i gwyno os ydynt o'r farn nad yw'r gyfraith newydd hon yn gweithio'n dda. Rhaid rhoi'r wybodaeth hon iddynt mewn ffordd sy'n hawdd ei deall.
Ers cyhoeddi ein hadroddiad, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cynllun hawliau plant newydd ar gyfer ymgynghori yn ei gylch. Cynllun sy'n rhaid iddi ei chael yn ôl y gyfraith yw hwn, un sy'n nodi sut y mae'n bwriadu cyflawni'r ddeddfwriaeth yn ymarferol. Rydym yn falch o weld bod strategaeth codi ymwybyddiaeth a phroses gwyno sy'n ystyriol o blant wedi'u cynnwys yn y cynllun newydd. Yr hyn y mae'n rhaid inni ei weld nesaf yw'r manylion sy'n sail iddo ac ymrwymiad ynglŷn â pha bryd y caiff y camau hyn eu cyflawni.
Un agwedd bwysig arall ar ein hymchwiliad oedd edrych ar ba mor dda y mae Llywodraeth Cymru yn gweithredu erthygl 12 y Confensiwn. Mae'n dweud bod gan blant hawl i leisio barn pan fydd oedolion yn gwneud penderfyniadau sy'n effeithio arnynt ac i'w barn gael ei hystyried. Mae'n hanfodol fod plant a phobl ifanc yn cael dylanwadu ar benderfyniadau sy'n effeithio arnynt, nid yn unig am fod ganddynt hawl gyfreithiol i wneud hynny, ond yn bwysicach, am fod hynny'n arwain at well penderfyniadau a chanlyniadau gwell. Gwnaethom argymell bod Llywodraeth Cymru yn nodi strategaeth glir yn ei chynllun hawliau plant diwygiedig i sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cymryd rhan mewn trafodaethau ar benderfyniadau'r Llywodraeth sy'n effeithio arnynt hwy. Rydym yn croesawu'r ffaith bod hyn wedi'i gynnwys yn y drafft newydd o'r cynllun hawliau plant. Byddwn yn monitro sut y mae'n mynd rhagddo yn y misoedd sy'n weddill cyn yr etholiad.
Mae'r argymhelliad olaf yr hoffwn ganolbwyntio arno heddiw yn ymwneud â chryfhau sefyllfa gyfreithiol hawliau plant. Nid yw graddau dylanwad awdurdodau lleol ar fywydau beunyddiol plant erioed wedi bod yn fwy gweladwy. Ac eto, er bod cyrff cyhoeddus, gan gynnwys byrddau iechyd, yn chwarae rhan ganolog yn darparu gwasanaethau i blant a phobl ifanc, ac yn cael symiau sylweddol o arian cyhoeddus, nid yw'r Mesur hawliau plant yn gosod dyletswydd arnynt. Clywsom felly nad yw Llywodraeth Cymru bob amser yn gallu sicrhau bod hawliau plant yn dylanwadu'n uniongyrchol ar y gwasanaethau y mae plant a phobl ifanc yn eu cael, na'r penderfyniadau y mae'r cyrff cyhoeddus hyn yn eu gwneud. Cawsom ein darbwyllo gan y dystiolaeth a ddaeth i law y bydd ymestyn y dyletswyddau yn y Mesur i gynnwys cyrff fel awdurdodau lleol a byrddau iechyd yn helpu i gyflawni'r newid hwn.
Wrth dynnu fy sylwadau agoriadol i ben, rwyf eisoes wedi dweud bod pandemig COVID-19 wedi golygu nad yw'r Mesur hawliau plant erioed wedi bod mor bwysig. Ond mae'n rhaid inni gofio bod gweithredu'r ddeddfwriaeth hon yn briodol bob amser wedi bod yn bwysig. Fel pwyllgor, credwn fod yn rhaid cael pwyslais o'r newydd ar sicrhau bod y Mesur yn cael ei weithredu'n iawn. Nodwn hefyd fod y Cenhedloedd Unedig yn craffu ar gynnydd o ran gweithredu'r Confensiwn ledled y DU yn 2021.
Cyn y pandemig, clywsom gan blant a phobl ifanc am yr hawliau sy'n bwysig iddynt hwy a'r hyn a all ddigwydd pan nad ydynt yn cael eu gwireddu. Roedd yn wych clywed gan bron i 1,000 o bobl ifanc o bob un o bum rhanbarth y Senedd. Roedd hefyd yn wych cyfarfod â'r plant o brosiectau Lleisiau Bach yng ngogledd a de Cymru. Rhoesant groeso cynnes iawn i ni ac roeddent yn awyddus i ddweud wrthym beth oedd hawliau plant yn ei olygu i'w bywydau. Un o'r hawliau a oedd yn amlwg yn bwysig i'r bobl ifanc y buom yn siarad â hwy oedd yr hawl i fod yn ddiogel: yr hawl i fod yn ddiogel gartref; yr hawl i fod yn ddiogel yn eu cymunedau; yr hawl fod yn ddiogel ar-lein. Roedd yn ein hatgoffa'n glir, os oedd angen gwneud hynny, sut fywydau y mae rhai plant a phobl ifanc yng Nghymru yn eu byw. Roedd yn ein hatgoffa beth y mae hawliau plant yn ei olygu mewn gwirionedd.
Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi ein helpu gyda'r gwaith hwn. Mae'r mewnbwn manwl gan randdeiliaid a barn plant a phobl ifanc wedi bod yn amhrisiadwy i'n gwaith craffu. Rydym yn arbennig o ddiolchgar i'r rhai sydd wedi aros yn amyneddgar am ein hadroddiad, a ohiriwyd gennym i'n galluogi i ganolbwyntio pob ymdrech ar ymateb y gwasanaethau cyhoeddus i'r pandemig, ac i'r rhai a roddodd adborth i ni ar ymateb Llywodraeth Cymru, er mwyn llywio'r ddadl heddiw. Gyda'u cymorth hwy, rydym wedi gwneud cyfres o argymhellion ymarferol sydd â photensial yn ein barn ni i wneud hawliau'n realiti i holl blant a phobl ifanc Cymru. Ddeng mlynedd yn ddiweddarach, mater i Lywodraeth Cymru yn awr yw rhoi pwyslais o'r newydd ar gael hyn yn iawn. Diolch yn fawr.
Diolch. A yw hi'n iawn i mi siarad nawr, Ddirprwy Lywydd? Ni allaf eich clywed. Mae'n ddrwg gennyf, os ydw i—. A all pawb fy nghlywed? Gallwch, da iawn. O'r gorau. Rwy'n cymryd mai fi sydd i siarad. Iawn, diolch.
Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i Lynne Neagle a'r pwyllgor a phawb sydd wedi cyfrannu at y gwaith pwysig hwn am yr holl waith caled y maent wedi'i wneud arno. Rwy'n croesawu'r adroddiad a'i nod o fesur cynnydd yng Nghymru tuag at yr egwyddorion a nodir yng Nghonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn. Cafodd yr adroddiad ei gytuno cyn y cyfyngiadau symud a chyn i effaith lawn y pandemig coronafeirws ar fywydau, iechyd a llesiant plant a phobl ifanc ddod yn hysbys. Gwyddom bellach fod y canlyniadau wedi bod yn ddifrifol. Felly, mae'r adroddiad hwn yn amserol ac mae'n garreg filltir berthnasol ar gyfer gwella hawliau plant yng Nghymru.
Mae'r pwyllgor yn gwneud 16 o argymhellion i Lywodraeth Cymru a hoffwn roi sylw i rai o'r rheini yn fy sylwadau heddiw. Mae'r tri argymhelliad cyntaf yn ymwneud yn uniongyrchol â Llywodraeth Cymru. Yn ei hadroddiad i'r pwyllgor, dywedodd y comisiynydd plant nad oes hyfforddiant ar gael i Weinidogion ar sut i roi sylw dyledus i hawliau plant drwy eu rôl. Galwodd y comisiynydd am hyfforddiant gorfodol i Weinidogion—pwynt a ailadroddwyd gan Achub y Plant y DU, a ddywedodd heb gorff cadarn o wybodaeth am hawliau plant ymhlith yr holl swyddogion a Gweinidogion, bydd yn anodd sicrhau y bydd y ddyletswydd sylw dyledus yn effeithiol ar draws portffolios cabinet a pholisi Llywodraeth Cymru.
Credwn hefyd y dylid creu rôl weinidogol cyn gynted â phosibl, gyda chyfrifoldebau clir a diffiniedig ar gyfer plant a phobl ifanc.
Roedd y pwyllgor hefyd yn pryderu am y bylchau yn y wybodaeth am hawliau plant sy'n bodoli ymhlith oedolion a phlant. Nid yw'r ymdrechion i hybu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o'u hawliau yn cyrraedd pob plentyn, gan gynnwys y rhai a allai fod â llai o ymgysylltiad neu dan anfantais. Mae angen gwelliannau sylweddol er mwyn rhoi gwybod i'r plant sydd â'r anghenion mwyaf am eu hawliau. Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu a chyhoeddi strategaeth i godi ymwybyddiaeth genedlaethol gyda chanlyniadau mesuradwy i wella gwybodaeth a hybu dealltwriaeth ehangach ymhlith y cyhoedd. Drwy gynyddu gwybodaeth am eu hawliau, mae hefyd yn dilyn y gallai fod cynnydd yn y cwynion gan blant sy'n teimlo nad yw Llywodraeth Cymru wedi cydymffurfio â'u gofynion o dan Fesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011. Felly, mae angen inni sicrhau bod y mecanwaith cwynion yn addas i'r diben.
Ar hyn o bryd, nid yw'r system gwynion a amlinellir yn y cynllun hawliau plant yn cael ei defnyddio'n ddigonol ac mae angen ei gwella. Cafwyd beirniadaeth hefyd ei bod wedi'i hanelu at oedolion ac nad yw'n hygyrch nac yn addas i blant. Rhaid i Lywodraeth Cymru fynd i'r afael â hyn a chynnwys mecanwaith cwynion cryfach sy'n ystyriol o blant yn ei chynllun hawliau plant diwygiedig er mwyn sicrhau y gall ein plant a'n pobl ifanc ddiogelu eu hawliau.
Yn 2016, rhoddodd Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn ei ddyfarniad ar y cynnydd a wnaed ar gyflawni a gwella hawliau plant yng Nghymru. Er eu bod yn cydnabod bod cynnydd wedi'i wneud, mynegwyd pryderon ynglŷn â pha mor strategol a systematig yw ymateb Llywodraeth Cymru i'r sylwadau terfynol. Dywedodd y comisiynydd plant fod y sylwadau terfynol yn ganllaw defnyddiol iawn i'r Llywodraeth o ran yr hyn y dylent fod yn ei wneud a bod diffyg ymateb manwl gan Lywodraeth Cymru yn gyfle a gollwyd. Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi ymateb strategol manwl yn ystod y chwe mis nesaf, yn manylu ar y cynnydd a wnaed ac yn amlinellu'r camau sydd ar waith i ateb y sylwadau terfynol, ac i ddiweddaru hyn yn flynyddol.
Lywydd, credaf y bydd yr argymhellion yn yr adroddiad hwn yn datblygu hawliau plant a phobl ifanc yng Nghymru yn fawr. Hoffwn annog pawb i edrych ar yr arferion da a welais ers imi ymuno â'r pwyllgor plant a phobl ifanc y llynedd a sut y maent yn gwneud pethau. Rwy'n credu ei fod yn gam i'w groesawu'n fawr ac mae'r hyn sy'n digwydd yno wedi creu argraff fawr arnaf. Felly, byddai'n wych pe gallem ailadrodd hynny drwy'r Senedd gyfan. Credaf fod hwn yn gam cadarnhaol gan y Senedd ac edrychaf ymlaen at ymateb y Gweinidog.
Rwy'n falch iawn o gymryd rhan yn y ddadl hon ar ran fy mhlaid, Plaid Cymru, ond hefyd fel cyd-gadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar blant a'r grŵp trawsbleidiol ar blant sy'n derbyn gofal, rolau rwy'n falch iawn ac yn ddiolchgar o gael eu rhannu gyda David Melding. Hoffwn ddiolch i'r Cadeirydd a'r pwyllgor am yr adroddiad rhagorol hwn, gydag argymhellion pwerus a thystiolaeth dda iawn yn sail iddynt. Rwyf hefyd yn adleisio'r diolch a fynegwyd eisoes i bawb a gymerodd ran yn y broses o roi tystiolaeth, yn enwedig plant a phobl ifanc eu hunain.
Bydd y rheini ohonom, fel Cadeirydd y pwyllgor hwn, a oedd yn Aelodau o'r Senedd hon yn 2011 pan basiwyd y Mesur hawliau plant a phobl ifanc, yn cofio nad oedd y broses yn syml o bell ffordd a bod gwrthwynebiad gan rai rhannau o Lywodraeth Cymru ar y pryd am eu bod yn teimlo bod gosod y confensiwn ar sail gyfreithiol yn cyfyngu ar y Llywodraeth. Y lleisiau mwy blaengar a orfu, a hoffwn gofnodi eto fy niolch i bawb a'n helpodd mewn cymdeithas sifil, gyda llawer ohonynt wedi mynd ymlaen i roi tystiolaeth, ac yn enwedig i academyddion Prifysgol Abertawe.
Pan basiwyd y ddeddfwriaeth gennym, roedd yn teimlo fel datblygiad cyffrous iawn ar drywydd a fu'n rhan o lwybr ein Senedd o'r dechrau, ac un o'r pethau cyntaf y bu'n rhaid inni ymdrin ag ef oedd adroddiad ofnadwy Waterhouse ar gam-drin plant. O'r dechrau un, rydym wedi trafod y materion hyn, ac roedd pasio'r ddeddfwriaeth yn teimlo fel cam pwysig ymlaen. Yn y cyd-destun hwnnw, mae'r adroddiad hwn yn siomedig mewn rhai ffyrdd, oherwydd er gwaethaf y cynnydd pendant a wnaed, mae'n amlwg fod cymaint mwy i'w wneud.
Rwyf am roi fy nghefnogaeth bersonol a chefnogaeth Plaid Cymru i'r holl argymhellion. Nid oes amser i gyfeirio atynt i gyd yn y ddadl hon wrth gwrs. Hoffwn ddechrau drwy dynnu sylw at y rheini sy'n ymwneud ag asesiadau o'r effaith ar hawliau plant. Mae angen inni drawsnewid y diwylliant fel bod pawb sy'n ymwneud â chynhyrchu'r asesiadau hyn yn eu gweld fel yr hyn y bwriedir iddynt fod, sef adnodd i helpu'r Llywodraeth i wella ymarfer, ac nid fel baich pellach. O wybod faint o bwysau sydd ar ein gwasanaethau cyhoeddus, mae'n ddealladwy os mai dyna yw'r canfyddiad o'r asesiadau effaith hyn o bryd i'w gilydd, ond nid dyna yw'r bwriad. Mae hwn yn offeryn i'n helpu ni i gyd i wneud yn well dros blant, ac mae angen newid arnom fel bod pobl yn deall hynny. Nid yw cynnwys asesiadau o'r effaith ar hawliau plant o dan asesiadau cydraddoldeb ehangach yn gweithio. Nid ydynt yno i wneud yr un pethau. Felly, rwy'n gobeithio'n fawr y bydd y Llywodraeth yn derbyn popeth a oedd gan y pwyllgor i'w ddweud ynglŷn ag asesiadau o'r effaith ar hawliau plant.
Rwyf am roi ein cefnogaeth yn arbennig i argymhelliad 3. Mae'n bwysig iawn fod Gweinidogion Cymru, ar y brig, yn deall goblygiadau'r Mesur iddynt hwy ac i'w gwaith, ac yn deall beth y bwriedir i 'sylw dyledus' ei olygu. Mae bob amser yn risg mewn unrhyw sefydliad ein bod yn colli cof sefydliadol, ein bod yn anghofio pam fod angen y ddeddfwriaeth hon yn y lle cyntaf, ein bod yn anghofio pa mor bwysig ydyw. Mae'r argymhelliad hwn yn gwneud llawer i fynd i'r afael â hynny, ac rwy'n gobeithio y bydd pwy bynnag sy'n ffurfio Llywodraeth nesaf Cymru yn frwd eu croeso iddo.
Mae'r argymhellion ynglŷn â gwneud iawn am gamweddau hefyd yn bwysig iawn. Nid wyf am geisio mynd drwyddynt fesul un, ond rwyf wedi credu ers tro nad oes gwerth i hawliau ynddynt eu hunain oni bai y gellir gorfodi'r hawliau hynny. Yn y pen draw, Lywydd, nid oes fawr o bwynt cael cyfraith os nad oes neb yn mynd i drwbl os yw'n torri'r gyfraith honno. Dyna ddiben cyfreithiau, neu fel arall gallwn gyflawni amcanion polisi gyda chyllidebau, gyda dogfennau polisi. Ond os yw'n gyfraith, rhaid bod ffordd i rywun sy'n teimlo bod y gyfraith honno wedi'i thorri—a phlant yn benodol yn yr achos hwn—allu dweud, 'Na, ni chafodd fy hawliau eu parchu, a dyma rwyf am ei weld yn digwydd o ganlyniad i hynny'. Mae'n rhan arbennig o bwysig o'r adroddiad hwn, ac roedd y dystiolaeth yn glir iawn i mi.
Hoffwn sôn yn fyr am argymhelliad 15, fod yn rhaid gosod pob corff cyhoeddus datganoledig o dan yr un ddyletswydd 'sylw dyledus'. Credaf fod y rheini ohonom a oedd yn rhan o'r broses o basio'r ddeddfwriaeth wreiddiol yn tybio, o bosibl, pe bai'r cyfrifoldeb hwnnw'n cael ei roi ar y Llywodraeth, y byddai'r sylw dyledus hwnnw'n treiddio i lawr i'r cyrff cyhoeddus y mae'r Llywodraeth yn gyfrifol amdanynt. Er bod ymarfer rhagorol i'w gael, mae'r adroddiad yn dangos nad yw hyn wedi digwydd ym mhobman. Mae gennyf bryder penodol nad yw wedi digwydd ym mhobman ym maes addysg a bod rhai pobl sy'n gweithio ym maes addysg, lleiafrif gobeithio, yn dal i gredu bod siarad am hawliau plant yn golygu caniatáu i blant wneud beth bynnag y maent eisiau ei wneud, ac nid yw hynny'n wir wrth gwrs. Felly, rwy'n gobeithio'n fawr y bydd y Llywodraeth yn cefnogi hyn.
Ac yn olaf, os caf sôn am argymhelliad 16. Mae ein comisiynwyr plant wedi gwneud gwaith rhagorol, ond nid yw'n iawn fod y comisiynydd yn atebol i'r Llywodraeth ac yn cael eu penodi ganddi. Mae'n codi o'r adeg mewn hanes pan gafodd rôl y comisiynydd ei chreu. Mae'n bwysig nawr ein bod yn symud at adeg pan fydd y Senedd yn penodi comisiynwyr, a'u bod yn atebol iddi hi, a chredaf y gallem sicrhau consensws trawsbleidiol i hynny yn y Cynulliad nesaf.
Lywydd, yn bendant gwelwyd cynnydd ar wireddu hawliau plant yng Nghymru. Roedd yn fraint arbennig i mi, ac roeddwn yn arbennig o falch o fod yn ôl yn y Senedd hon i bleidleisio dros ddileu'r amddiffyniad o gosb resymol a rhoi diogelwch cyfartal ag oedolion i'n holl blant, ond mae'r adroddiad hwn yn dangos pa mor bell sy'n rhaid inni fynd eto. Rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn derbyn ei holl argymhellion a'r angen i weithredu drwyddi draw i wireddu'r hawliau hyn. Bydd y grwpiau trawsbleidiol yn parhau i weithio gyda'r pwyllgor ac yn ei gynorthwyo i graffu ar waith y Llywodraeth yn hyn o beth. Diolch yn fawr.
A gaf fi alw ar y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ymateb i'r ddadl? Julie Morgan.
Diolch yn fawr iawn. Hoffwn ddiolch i'r Cadeirydd ac i holl aelodau'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg am yr adroddiad cynhwysfawr iawn hwn ar hawliau plant yng Nghymru. Mae ymateb llawn y Llywodraeth i'r argymhellion i'w weld ar dudalennau gwe'r pwyllgor. Yn ogystal â'r ymatebion i'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, rwyf hefyd wedi cynnal trafodaeth bord gron gyda rhanddeiliaid allweddol o'r sector plant i glywed eu barn ar hawliau plant yng Nghymru, ac roeddwn wrth fy modd fod clerc y pwyllgor wedi gallu bod yn bresennol ar ran y pwyllgor a bod rhai o'r Aelodau wedi gallu dod hefyd.
O'r 16 argymhelliad, rwy'n falch iawn fod Llywodraeth Cymru yn derbyn 11 ohonynt, ac yn derbyn un argymhelliad pellach mewn egwyddor. Rydym wedi gwrthod pedwar o'r argymhellion. Fe ddefnyddiaf yr amser hwn i fynd drwy'r argymhellion.
Mae argymhelliad 1 yn gofyn inni ailadrodd pwysigrwydd hawliau plant ar bob cyfle, rhywbeth rydym o ddifrif yn ei gylch ac rydym wedi'i dderbyn wrth gwrs. Credaf fod cryn dipyn o sylwadau wedi bod heddiw ynghylch yr adeg y pasiwyd y Mesur am y tro cyntaf a'r brwdfrydedd a welwyd ar y pryd, ac rwy'n credu mai'r hyn rydym am ei wneud yw adfer y brwdfrydedd hwnnw. Rydym am ailddatgan pwysigrwydd hawliau plant, ac rydym yn derbyn argymhelliad 1.
Mae cynnydd eisoes wedi'i wneud ar fwrw ymlaen â nifer o'r argymhellion. Mae pump o'r argymhellion a dderbyniwyd wedi'u hymgorffori yn y cynllun hawliau plant diwygiedig a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr ac sy'n destun ymgynghoriad ar hyn o bryd. Argymhellion 3, 4, 5, 10 a 12 yw'r rhain. Daw'r ymgynghoriad i ben ar 26 Mawrth, ac edrychaf ymlaen at gael barn y pwyllgor a'r Aelodau ar ein cynllun diwygiedig.
Mae gwaith ar y gweill hefyd ar argymhelliad 8. Byddwn yn datblygu strategaeth codi ymwybyddiaeth genedlaethol mewn partneriaeth â rhanddeiliaid allweddol. Soniodd nifer o'r Aelodau, a'r Cadeirydd yn sicr, am ddiffyg ymwybyddiaeth pobl o hawliau plant. Rydym wedi ymrwymo'n llwyr i gyflawni gofynion deddfwriaethol pob asesiad effaith, gan gynnwys lle mae'r rhain yn ymwneud ag asesu ein penderfyniadau ariannol, fel y nodir yn argymhelliad 6.
Derbyniwyd argymhelliad 9, gan y bydd datblygu ymwybyddiaeth o hawliau dynol yn rhan orfodol o'r cwricwlwm i Gymru. Ar hyn o bryd mae Llywodraeth Cymru yn paratoi ein hymateb strategol i sylwadau terfynol Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn yn 2016, a dyna yw argymhelliad 13. Yn ogystal, rydym yn paratoi ymateb i Lywodraeth y DU ar argymhelliad 11, ac rwy'n bwriadu cyhoeddi'r ddau ddiweddariad cyn diwedd tymor y Senedd. Rydym hefyd wedi derbyn argymhelliad 14, a byddwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd yn flynyddol.
Mae argymhelliad 3, darparu hyfforddiant i Weinidogion, wedi'i dderbyn mewn egwyddor, ac rwy'n derbyn yn llwyr mai dyma'r peth iawn i'w wneud, oherwydd ni fyddai llawer o'r Gweinidogion wedi bod o gwmpas pan basiwyd y Mesur hwn. Rwy'n credu bod Helen Mary Jones wedi cyfeirio at wybodaeth hanesyddol am hanes y ddeddfwriaeth hon. Felly, rydym yn datblygu dull o hyfforddi ar gyfer cyflwyno hyfforddiant i Weinidogion.
Mae hynny'n gadael y pedwar argymhelliad nad ydym wedi gallu eu derbyn. Argymhellion 2, 7, 15 ac 16 yw'r rheini. Mae argymhelliad 2 yn ymwneud â chael Gweinidog penodol. Mae'r ddyletswydd sylw dyledus o dan adran 1 o Fesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011 yn ei gwneud yn glir fod y ddyletswydd hon yn cael ei gosod ar holl Weinidogion Cymru wrth iddynt arfer unrhyw un o'u swyddogaethau. Yn ogystal â hyn, mae gennym Weinidog eisoes sy'n gyfrifol am y gwaith penodol y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud ar hyrwyddo hawliau plant, a fi yw'r Gweinidog hwnnw. Ond rwy'n credu ei bod yn hollol gywir nad ydym yn cyfyngu'r gwaith ar hawliau plant i un Gweinidog penodol. Rwy'n credu bod y ddyletswydd sylw dyledus yn ei gwneud yn glir fod rhaid i'r holl Weinidogion ysgwyddo cyfrifoldeb am blant ac am hawliau plant. Felly, dyna pam ein bod yn gwrthod yr argymhelliad hwnnw.
Argymhelliad 7: rydym yn croesawu barn y pwyllgor, ond ein safbwynt o hyd yw ein bod yn credu bod mabwysiadu dull integredig o asesu effaith y gyllideb ddrafft drwy'r asesiad effaith integredig strategol yn adlewyrchiad gwell o'n cyfrifoldeb i ystyried ein penderfyniadau yn eu cyfanrwydd, drwy nifer o lensys, er mwyn deall eu heffaith, gan gynnwys ystyriaeth o hawliau plant. Ond rwy'n bwriadu cael trafodaethau pellach ynglŷn â hynny gyda'r Trefnydd.
Argymhelliad 15: ym mis Ionawr 2020, comisiynodd Llywodraeth Cymru gonsortiwm ymchwil dan arweiniad Prifysgol Abertawe i wneud ymchwil ar gryfhau a hyrwyddo cydraddoldeb a hawliau dynol yng Nghymru. A bydd yr adroddiad terfynol, gan gynnwys y prif ganfyddiadau ac argymhellion, yn cael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru erbyn diwedd mis Chwefror 2021. Felly, mae angen inni aros am ganlyniadau'r gwaith ymchwil hwn cyn inni wneud unrhyw benderfyniadau pellach am argymhelliad 15.
Argymhelliad 16: Rwy'n deall barn y pwyllgor a'r comisiynydd ar y pwnc hwn. Fodd bynnag, at ei gilydd, credaf fod y trefniant presennol ar gyfer yr holl gomisiynwyr—oherwydd yn amlwg, byddai'n cynnwys mwy na'r comisiynydd plant yn unig—sy'n cynnwys panel penodi trawsbleidiol o Aelodau o'r Senedd ar gyfer penodiadau, yn gweithio'n dda, ac nid ydym yn gweld angen i newid y trefniant mewn gwirionedd, ac yn ogystal, bydd angen deddfwriaeth sylfaenol ar gyfer unrhyw newid i'r trefniadau penodi ac atebolrwydd sy'n ymwneud â Chomisiynydd Plant Cymru, ac nid oes amser i greu deddfwriaeth yn nhymor y Senedd hon, felly mae hwnnw'n rheswm ymarferol pam na allwn ei wneud, ond at ei gilydd, credaf ei fod yn gweithio'n dda.
Felly, dyna fynd drwy'r argymhellion yn gyflym, a hoffwn ddiolch yn fawr iawn am safbwynt Laura Anne a chyfraniad Helen Mary, a diolch i'r Cadeirydd am arwain y pwyllgor i wneud argymhellion mor dda, ac mor ymarferol a chlir, sy'n sicr yn ein hannog i wneud popeth yn ein gallu i hyrwyddo'r maes hwn o waith plant. Dywedodd y Cadeirydd ar ddechrau ei sylwadau nad yw hawliau plant erioed wedi bod mor bwysig ag yn y pandemig hwn, a hoffwn orffen, mewn gwirionedd, drwy ddweud fy mod yn cytuno'n llwyr â'r sylw hwnnw. Yn sicr, wrth benderfynu ar y mesurau i'w rhoi ar waith yn ystod y pandemig, mae hawliau plant wedi bod ar frig y rhestr i'r Llywodraeth. Rydym hefyd wedi gallu gweithio gyda'r comisiynydd plant a phartneriaid eraill i sicrhau mai ni, yn ôl yr hyn a ddywed UNICEF wrthyf, yw'r unig Lywodraeth mewn unrhyw wlad sydd wedi cynhyrchu'r holiadur plant helaeth a gynhyrchwyd gennym ac a lwyddodd i gyrraedd 24,000 o blant. Felly, rwy'n credu bod cynhyrchu hwnnw'n dangos ein hymrwymiad i hawliau plant. A hefyd, hoffwn dynnu sylw'r Senedd at y cyfarfodydd niferus a gafwyd yn uniongyrchol gyda phlant yn ystod y cyfnod hwn. Yn sicr, rwyf wedi cynnal nifer o gyfarfodydd; gwn fod y Prif Weinidog wedi ymgynghori â phlant yn ystod y cyfnod hwn, a gwn fod y pwyllgor wedi gwneud llawer o waith yn ymgynghori â phlant. Felly, diolch yn fawr iawn i'r pwyllgor am yr adroddiad hwn, ac edrychaf ymlaen at hyrwyddo ei argymhellion.
A gaf fi alw ar Lynne Neagle yn awr i ymateb i'r ddadl?
Diolch, Ddirprwy Lywydd, a diolch i bawb sydd wedi cyfrannu at y ddadl. Rwyf am geisio nodi rhai o'r pwyntiau a wnaed. A gaf fi ddiolch i Laura Jones am ei chyfraniad ac am ei geiriau caredig am y pwyllgor? Credaf i Laura dynnu sylw'n werthfawr iawn at yr hyn a ddywedodd y pwyllgor am bwysigrwydd cael rôl weinidogol bwrpasol ar gyfer plant, ac er gwaethaf yr hyn rydym newydd ei glywed gan y Gweinidog, dyna yw safbwynt y pwyllgor ar y mater o hyd, gan fy mod yn credu i'r pwyllgor weld ei bod hi weithiau'n anodd sicrhau dull trawsadrannol o weithredu ar blant heb gael rhyw fath o strwythur ar waith, fel y gwnaethom pan oedd is-bwyllgor Cabinet ar blant yn bodoli. Felly, rydym yn awyddus iawn i rai strwythurau gael eu rhoi ar waith ac rwy'n gobeithio y gallwn barhau i drafod hynny ymhellach.
Fel y dywedodd Laura, mae'r mecanwaith cwynion yn hanfodol bwysig, ac adleisiwyd hynny gan Helen Mary Jones, a ddywedodd fod hawliau'n ddiystyr oni bai fod gennych ffordd o wneud iawn am gamweddau, ac mae hynny'n hollol gywir. Dyna pam y credwn fod angen bwrw ymlaen â hyn ar frys, fel y gallwn sicrhau bod plant a phobl ifanc yn gallu arfer eu hawliau.
Hoffwn ddiolch i Helen Mary Jones am ei chyfraniad. Gwn fod Helen Mary wedi bod ag ymrwymiad hirsefydlog iawn ym maes hawliau plant. Roedd yn werthfawr iawn ei bod wedi ein hatgoffa o'r ffordd yr aethpwyd ati i gael y comisiynydd plant cyntaf un, rhywbeth a oedd wedi'i gynnwys yn adroddiad sobreiddiol Waterhouse. Rwy'n credu bod rhaid inni gofio nad pethau ychwanegol yw'r rhain, yr hawliau hyn—mae'r rhain yn ymwneud yn llwyr â diogelu plant a phobl ifanc.
Diolch i chi am ganolbwyntio ar yr asesiadau o'r effaith ar hawliau plant, a bydd y pwyllgor yn parhau i fynd ar drywydd y rheini. Rydym hefyd yn teimlo, fel chithau, nad yw asesiadau effaith strategol yn ddigon da, ac rydym wedi bod yn cael y ddeialog barhaus honno gyda Llywodraeth Cymru ynglŷn â'r angen am asesiad ar wahân o'r effaith ar hawliau plant yn y gyllideb. Oherwydd mae'n hanfodol ein bod yn cofio bod plant yn grŵp unigryw, ac nad oes ganddynt bleidlais, ac felly nid oes ganddynt yr un llais â grwpiau eraill mewn cymdeithas, felly mae'n ddyletswydd arnom i sicrhau'n bendant fod y penderfyniadau hollbwysig hynny'n ystyried eu hanghenion.
Ategodd Helen Mary y pwynt am hyfforddiant hefyd, a gwn fod hynny wedi'i dderbyn mewn egwyddor, yr argymhelliad ar hyfforddiant. Rwy'n gobeithio y gellir bwrw ymlaen â hynny. Gwn fod pawb yn brysur, ond mae'n gwbl hanfodol fod pawb yn Llywodraeth Cymru yn deall yn glir beth yw'r disgwyliadau o dan y Mesur hawliau plant.
Diolch, Helen Mary, am eich cefnogaeth ar yr angen i bob corff cyhoeddus gael eu gosod dan ddyletswydd sylw dyledus. Gobeithio bod hynny'n rhywbeth y gallwn barhau i'w drafod ymhellach gyda Llywodraeth Cymru, ac roeddwn am ddweud mai un o'r sesiynau tystiolaeth mwyaf pwerus a gawsom yn ystod yr ymchwiliad oedd yr un gydag Ysbyty Plant Arch Noa, a ddaeth i ddweud wrthym sut roedd diffyg asesiadau o'r effaith ar hawliau plant mewn gwariant ymchwil yng Nghymru yn cael effaith enfawr ar eu gwaith, ac nad oeddem yn gweld y gwaith ymchwil y dylem fod yn ei weld ym maes iechyd plant, a bod plant—fel un enghraifft weladwy iawn—yn gorfod cael eu hanfon i Lundain i gael mathau penodol o driniaeth canser oherwydd nad oedd yr ymchwil honno'n digwydd yng Nghymru. Felly, rwy'n credu na ddylem byth anghofio nad syniadau haniaethol yw'r rhain, maent yn bethau diriaethol sy'n effeithio ar fywydau plant a phobl ifanc.
Rwy'n cytuno'n llwyr ynglŷn â rôl y comisiynydd plant. Nodaf ymateb parhaus Llywodraeth Cymru ar hynny, a'r diffyg amser nawr ar gyfer deddfwriaeth sylfaenol. Ond rwy'n gobeithio bod hynny'n rhywbeth a fydd yn cael ei ystyried yn y Senedd nesaf, oherwydd mae'n gwbl amlwg, yn fy marn i. Sefydlwyd swydd y comisiynydd plant fel y mae ar hyn o bryd pan oedd y Cynulliad yn gorff gwahanol iawn, pan na cheid pwerau ar wahân, ac rwy'n credu ei bod hi'n iawn bellach i symud at fodel llawer mwy cadarn sy'n sicrhau rhyddid llwyr i'r comisiynydd plant.
A gaf fi ddiolch i'r Dirprwy Weinidog am ei hymateb ac am ei hymgysylltiad cyson a pharhaus â'r pwyllgor, a'r ymrwymiad personol a diffuant sydd ganddi i hawliau plant? Rwy'n croesawu'r hyn rydych wedi'i ddweud am barhau i drafod rhai o'r materion lle nad oeddech yn gallu derbyn yr argymhellion yn llawn, ac mae'r pwyllgor yn edrych ymlaen yn fawr at gael y ddeialog honno gyda chi, a bwydo i mewn i'r cynllun hawliau plant newydd.
A hoffwn gloi drwy ddiolch eto i bawb a ymatebodd i ymchwiliad y pwyllgor, yr holl staff yn nhîm y pwyllgor sydd, fel bob amser, wedi gweithio mor galed, ond rwy'n credu bod rhaid i'r diolch terfynol fynd i'r plant a'r bobl ifanc a gyfrannodd at yr ymchwiliad, ac a roddodd o'u hamser i ddweud wrthym beth y mae hawliau plant yn ei olygu iddynt hwy. Ac mae'n ddyletswydd arnom i sicrhau yn awr ein bod yn bwrw yn ein blaenau ac yn parhau i wireddu'r hawliau hynny'n llawn. Diolch yn fawr.
Diolch. Y cynnig yw nodi adroddiad y pwyllgor. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nid wyf yn gweld gwrthwynebiad, felly o dan Reol Sefydlog 12.36 derbyniwyd adroddiad y pwyllgor.