– Senedd Cymru am 2:51 pm ar 26 Ionawr 2021.
Yr eitem nesaf ar yr agenda'r prynhawn yma yw datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, sef yr wybodaeth ddiweddaraf am frechiadau COVID. Rwy'n galw ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Heddiw, fe wnaethom ni gyhoeddi'r cyntaf o'n hadroddiadau ni yn rhoi crynodeb o'r cynnydd yn erbyn ein cynllun brechu COVID-19 cenedlaethol. Byddant yn cael eu cyhoeddi bob dydd Mawrth o hyn ymlaen. Mae'r adroddiadau hyn yn ychwanegol i'r data gwyliadwriaeth a gyhoeddir gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ddyddiol ac yn wythnosol fel ei gilydd, a'r data gweithredol sy'n cael eu cyhoeddi gan ystadegwyr Llywodraeth Cymru o heddiw ymlaen, y byddwn ni'n eu cyhoeddi bob dydd Mawrth o hyn ymlaen.
Yn ôl y ffigurau a gyhoeddwyd am hanner dydd heddiw, mae GIG Cymru wedi brechu bron 290,000 o bobl ledled Cymru, sef ychydig dros 9 y cant o'r boblogaeth. Rydym wedi gweld cynnydd sylweddol yng nghyflymder gweinyddu'r brechlyn yma yng Nghymru dros yr wythnosau diwethaf. Y rheswm am hyn yw ein bod wedi gweld cynnydd yn y cyflenwad o frechlynnau, yn enwedig ers gallu defnyddio brechlyn Rhydychen-AstraZeneca ddechrau'r mis, ac oherwydd bod ein seilwaith ni o ran gweinyddu brechiadau yn parhau i ehangu.
Fe wnaethom gyrraedd dau nod yn ein strategaeth frechu yn ystod yr wythnos ddiwethaf. Fe wnaethom gynnig y dos gyntaf o'r brechlyn i bob aelod o staff rheng flaen Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, ac mae dros 65 y cant wedi manteisio ar hynny bellach. Fe wnaethom yn well na'r nod a oedd gennym ar gyfer mis Ionawr, sef mwy na 250 o bractisau cyffredinol yn gweinyddu'r brechlyn. Yr wythnos ddiwethaf, roedd dros 300 o bractisau yn ymroi i'r gwaith o redeg clinigau brechu, a hyd at ddoe roedd o leiaf 329 yn gwneud hynny. Rydym hefyd yn gwneud cynnydd mawr tuag at y nod terfynol, sef cynnig y brechlyn i holl breswylwyr a staff cartrefi gofal erbyn diwedd y mis.
Ar hyn o bryd, rydym yn brechu tua 1,000 o breswylwyr mewn cartrefi gofal bob dydd ar gyfartaledd. Mae o leiaf dros 11,000 o breswylwyr cartrefi gofal, sef tua 67 y cant o'r grŵp blaenoriaeth hwn, wedi cael eu dos gyntaf nhw o'r brechlyn erbyn hyn. Mae dros 74 y cant o staff cartrefi gofal wedi derbyn eu dos gyntaf. Ar ddiwedd yr wythnos ddiwethaf, fel y dywedais i, roedd yna dros 300 o bractisau cyffredinol yn rhedeg clinigau brechu. Rydym wedi rhagori ar ddisgwyliad y cynllun o 250 o bractisau. Mae ein dull ni'n cwmpasu pob ymarferwr gofal sylfaenol proffesiynol, gan gynnwys deintyddion, optometryddion a fferyllwyr, wrth weinyddu'r brechlyn. Mae hyn yn cynnwys cynllun peilot y fferyllfeydd cymunedol, canolfannau brechu cymunedol ac, o'r penwythnos diwethaf, glystyrau o bractisau meddygon teulu sy'n rhedeg clinigau mewn cymunedau lleol. Fe glywsom ni ychydig yn gynharach am yr enghraifft arbennig yn Nefyn ar Benrhyn Llŷn. Roedd hwnnw'n un o dri chlinig clwstwr meddygon teulu a oedd yn rhedeg y penwythnos diwethaf ac fe amcangyfrifwyd eu bod wedi rhoi 3,000 o frechlynnau dros y penwythnos rhyngddyn nhw, a llawer o'r rheini, wrth gwrs, i grŵp blaenoriaeth y bobl dros 80 oed.
Fe wn y bydd yr Aelodau, wrth gwrs, yn awyddus i gael gwybod a thrafod eto a wnaethom ni frechu 70 y cant o'r bobl dros 80 oed a'r rheini mewn cartrefi gofal erbyn y penwythnos. Nid ydym yn credu inni gyrraedd hynny'n union. Roedd cau canolfannau ac aildrefnu apwyntiadau oherwydd y tywydd mawr yn ffactor allweddol yn hynny. Yr hyn sy'n eglur a diamwys, serch hynny, yw'r ymdrech arwrol sydd ar gerdded, gyda nifer y bobl sy'n cael eu brechu yn cynyddu bob dydd yn ystod yr wythnos ddiwethaf wrth i'r wythnos fynd yn ei blaen, ac rwy'n dymuno diolch i bob unigolyn sy'n gysylltiedig â hynny am ei ymrwymiad i'r ymgyrch genedlaethol gyfredol hon.
Mae'r Aelodau yn ymwybodol y bu'n rhaid cau canolfan oherwydd y tywydd garw dros y penwythnos yn ardal Cwm Taf, ac yn ardal bae Abertawe hefyd. Fe gaewyd canolfannau am resymau diogelwch ac fe ad-drefnwyd yr apwyntiadau brechu. Fe ohiriodd nifer o bractisau meddygon teulu apwyntiadau'r penwythnos hefyd tan ddechrau'r wythnos hon, a dyna oedd y peth iawn i'w wneud. Mae'r Aelodau wedi clywed hefyd am giwiau yn ffurfio y tu allan i ganolfan frechu yn Abertawe nos Wener. Yn anffodus, roedd hyn o ganlyniad i rywun ag angen triniaeth feddygol frys yn syth ar ôl cyrraedd y ganolfan. Mae staff y GIG yn gwneud popeth o fewn eu gallu i sicrhau nad oes yn rhaid i bobl giwio am eu hapwyntiadau i gael eu brechu, ond weithiau, fel rwy'n siŵr y bydd pob Aelod yn deall, fe all argyfyngau daro. Er bod y GIG yn gwneud popeth o fewn ei allu i sicrhau bod y seilwaith i frechu yn gadarn, mae'r materion hyn yn ein hatgoffa ni am ddigwyddiadau sydd y tu hwnt i'n rheolaeth ni a all effeithio ar gyflawni ein hamcanion ni. Nid oes amheuaeth, er hynny, ein bod ni'n gweld cynnydd mawr ac mae pethau'n cyflymu drwy'r amser.
Gweinidog, fe hoffwn i ddiolch i chi am eich datganiad. Fel chwithau, rwy'n gwerthfawrogi ac yn ddiolchgar iawn am waith caled pawb sy'n ceisio gweinyddu'r brechiadau hollbwysig hyn. Ond, er fy mod i'n ddiolchgar i'r rheng flaen, fe hoffwn i'n fawr allu herio rhai o'r ffigurau yr ydych chi newydd eu crybwyll, un ar ôl y llall, a gofyn ychydig o gwestiynau ichi am eich datganiad. Er mai newyddion da iawn yw clywed bod 290,000 o bobl wedi cael eu brechu, y gwir amdani yw nad oes yna ddigon o bobl dros 80 oed yn y gymuned sydd wedi cael cynnig y brechlyn. Rydych chi'n dweud bod 52.8 y cant o bobl dros 80 oed wedi cael eu brechu, ond fe fethwyd y targed yn ddifrifol iawn. Felly, Gweinidog, a wnewch chi ddweud wrthym ni pa amserlen estynedig sydd gennych chi nawr? Beth am rai o'r byrddau iechyd lleol, fel Caerdydd a'r Fro neu Hywel Dda, yn wir, sydd eisoes yn anfon llythyrau at bobl dros 70 oed? A oes gennych chi ddadansoddiad canrannol BILl ar gyfer pob grŵp blaenoriaeth?
Roeddech chi'n dweud bod rhai o'r canolfannau ar gau oherwydd yr eira. A wnewch chi roi gwybod inni faint o ganolfannau a gaewyd neu nifer y brechlynnau arfaethedig a ohiriwyd, oherwydd er fy mod yn deall bod gan y tywydd ran yn hyn, a ydych chi'n dweud mewn gwirionedd na chafodd 42,115 o bobl dros 80 oed eu brechu oherwydd y tywydd? Y gwir amdani yw mai targed dyddiol o ryw 22,000 yw hynny, ond dim ond tair gwaith y gwireddwyd hynny yn y gorffennol, felly rwyf i o'r farn fod yna broblemau eraill hefyd.
O'r mewnflwch sydd gennyf i, fe wn, ac o fewnflychau Aelodau eraill y Senedd, mae yna lawer o bobl dros 80 oed nad ydyn nhw wedi clywed hyd yn oed, heb eu gwahodd am frechlyn hyd yn oed, heb sôn am fod wedi gorfod aildrefnu. Mae un o'm hetholwyr i, gwraig 96 oed sy'n byw ar ei phen ei hun yng Nghilgeti—heb glywed dim siw na miw gan neb ynghylch pryd y bydd hi'n cael y brechlyn—96 oed. Ac eto i gyd, mewn rhannau eraill o Gymru rydym ni eisoes yn ystyried brechu pobl dros 70 oed. Mae'n fratiog iawn, ac fe fyddai'n dda iawn gennyf gael gwybod sut y gallwch chi dynnu hyn at ei gilydd fel nad oes gennym loteri cod post, fel y dywedodd Andrew R.T. Davies yn y cwestiynau i'r Prif Weinidog.
Mae pobl dros 80 oed yn grŵp agored iawn i niwed. Felly, Gweinidog, fe fyddwn i'n ddiolchgar iawn pe gallech chi ddweud wrthym pa gynnydd sydd wedi bod o ran cael timau symudol i ymweld â'r rhai mwyaf agored i niwed yn eu cartrefi.
Wrth edrych i'r dyfodol, ac, yn anffodus, mae'n debygol y bydd angen addasu'r brechlynnau yn lled reolaidd oherwydd yr amrywiolion newydd sy'n codi eu pennau, a wnewch chi roi gwybodaeth inni am ba ran all fod gan Gymru wrth ddatblygu unrhyw frechlynnau newydd yn y dyfodol?
Yn olaf, Gweinidog, tybed a wnewch chi ddweud wrthym ni beth sy'n cael ei roi ar waith i reoli anghysondebau mewn pentrefi a threfi ar y ffin, lle gall cleifion fyw yng Nghymru ond fod wedi eu cofrestru gyda meddygfa yn Lloegr neu i'r gwrthwyneb. Mae'r bobl hyn sy'n gymdogion i'w gilydd yn gweld wythnosau o wahaniaeth o ran cael eu gwahodd am frechlyn, ac rwy'n gwybod bod hynny'n achosi rhywfaint o anfodlonrwydd. Da o beth fyddai cael yr wybodaeth ddiweddaraf.
Mae gennyf i restr faith arall o gwestiynau. Rwy'n ymwybodol o'r amser, felly rwyf am achub ar y cyfle i ofyn fy nghwestiynau eraill ichi yn ystod dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar frechlynnau yfory. Diolch.
Diolch i chi am y gyfres yna o gwestiynau. Mae'r ffigurau a gynhyrchwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ar gyfer pobl dros 80 oed yn ffigurau ar gyfer y bobl dros 80 oed hynny sydd yn y gymuned. Wrth gwrs, mae yna rai sydd dros 80 oed yng Nghymru sy'n byw mewn cartrefi gofal, ac mae'r data hynny'n cael eu diweddaru. Rydych chi wedi gweld yr erthygl gan y BBC yr wythnos diwethaf a oedd yn egluro'r oedi o ran adroddiadau data a'r ffaith bod Lloegr yn cyflwyno adroddiadau data yn gynharach na ni. Rydym ni'n cyhoeddi data sydd â lefel o sicrwydd ansawdd, ond, er hynny, mae bwlch yn y data ar hynny.
O ran dadansoddiad bwrdd iechyd lleol, nid oes gennyf ddadansoddiad ar gyfer pobl dros 80 oed i'w roi ichi. Wrth inni gael mwy o wybodaeth, fe fyddwn ni'n gallu rhoi mwy o wybodaeth. Fel y dywedais yn fy natganiad, fe fyddwn ni'n rhoi gwybodaeth bob dydd Mawrth, yn union fel y bydd Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ei rhoi bob dydd Iau. Felly gallwch chi ddisgwyl y bydd yna fwy a mwy o ddata pan fyddan nhw ar gael, oherwydd rwy'n credu bod tryloywder ynglŷn â'r data yn bwysig iawn i ennill ymddiriedaeth y cyhoedd. Yn fy marn i, mae bod yn dryloyw gyda'r data, yn ogystal â'r cynnydd sylweddol, fel y gwelsom, yn y broses o weinyddu brechlynnau, yn allweddol er mwyn cynnal yr ymddiriedaeth a'r hyder gan y cyhoedd yr ydym ni i gyd yn awyddus i'w weld yn y rhaglen hon. Ymgyrch i'r genedl gyfan yw hon i raddau helaeth iawn.
Effeithiwyd ar o leiaf pump o ganolfannau brechu torfol gan y tywydd, ond fe amharwyd ar sawl clinig ychwanegol gan feddygon teulu hefyd ac, unwaith eto, am resymau sy'n ddealladwy, yn fy marn i. Hefyd, fel y nododd y Prif Weinidog ddoe, ac fe wnes innau nodi hynny yn y gynhadledd i'r wasg ddoe, rydym ni'n ymwybodol fod yna nifer sylweddol o bobl wedi methu eu hapwyntiadau. Ac mae hynny'n gwbl ddealladwy—mae'r tywydd garw wedi achosi peryglon mewn rhannau helaeth o Gymru yn ystod y ddau ddiwrnod diwethaf. Felly, fe fyddech chi'n deall pam nad yw pobl wedi gallu bod yn bresennol a pham mae'r apwyntiadau hynny wedi cael eu gohirio tan nes ymlaen yn yr wythnos. Felly, fe fydd rhywun yn cysylltu â'r bobl hynny a fethodd eu hapwyntiadau ac yn cynnig dyddiad arall iddyn nhw.
Y rheswm pam mae llythyrau wedi eu hanfon allan at rai dros 70 oed yw ein bod ni'n cynllunio ymlaen llaw ym mhob bwrdd iechyd pan fyddan nhw wedi gweld cynnydd da iawn gyda'r cam presennol o gyflwyno'r brechlyn. Bydd yn wir o hyd na fydd rhai pobl dros 80 oed mewn gwahanol rannau o Gymru wedi cael eu brechlyn eto, yn union fel y mae yng ngwledydd eraill y DU. Yr hyn na ddylid ei wneud, yn fy marn i, yw ffrwyno'r gallu yn y rhannau hynny o Gymru sy'n medru gwneud hynny ac sydd ar amser i wneud hynny nes bod pawb arall wedi dal i fyny. Fel y dywedais i dro ar ôl tro, yr amcan yw bod pob un ohonom yn mynd cyn gynted ag y gallwn drwy'r grwpiau blaenoriaeth a sicrhau ein bod yn amddiffyn y dinasyddion sy'n fwyaf agored i niwed. Ac rwy'n gwrthod yr awgrym yn llwyr fod yna loteri cod post yn ein darpariaeth ni. Rwy'n credu, os edrychwch chi ledled Cymru, y gwelwch chi fod cryn dipyn o gynnydd yn cael ei wneud, ac rwy'n credu mai cymharol ymylol yw'r gwahaniaethau, ac nid yw un neu ddau o hanesion yn rhoi fersiwn gywir o'r darlun cenedlaethol.
Mae gennym 14 o unedau symudol sydd eisoes yn mynd o gwmpas yn helpu i weinyddu brechiadau. Mae gennym aelodau o'r tîm gofal sylfaenol hefyd sy'n gweinyddu brechiadau i bobl sy'n gaeth i'r tŷ, ac unwaith eto mae hynny'n cael ei arwain i raddau helaeth gan ein cydweithwyr mewn practisau cyffredinol. A dyna pam mae'n newyddion mor wych fod o leiaf 329 o bractisau cyffredinol ledled y wlad yn ymwneud â'r gwaith hwn. Ac rwy'n hynod ddiolchgar i'r tîm gofal sylfaenol cyfan am gydweithio mewn ffordd mor anhygoel i gynnal y rhaglen frechu. Dyna pam mae gennym nid yn unig well hygyrchedd, ond fwy o gyflymder yn yr hyn yr ydym ni'n ei wneud. Mae'n werth nodi mai Cymru, yn ystod y saith diwrnod diwethaf, sydd â'r gyfradd gyflymaf o frechu fesul pen o'r boblogaeth o'i chymharu â phob gwlad arall yn y DU. Felly, o ran y galw ar Gymru i ddal i fyny â chenhedloedd eraill y DU, rydym ni yn dal i fyny â chenhedloedd y DU. Rydym yn mynd yn gyflymach na gweddill y DU ar hyn o bryd. Ac ychydig wythnosau yn ôl, pan oeddwn i'n wynebu cwestiynau ynghylch pam mai'r bedwaredd oedd Cymru o'r pedair gwlad—rydym ni'n ail erbyn hyn ac yn ennill tir ar Loegr—sydd, rwy'n gwybod, yn ofid sylweddol i lawer o bobl, ond mae hon mewn gwirionedd yn rhaglen sy'n llwyddo ac yn cyflawni yn gynt o lawer.
O ran brechlynnau newydd, mae Cymru yn gwneud gwaith campus o ran dilyniannu genomeg, gan ddeall beth sy'n digwydd gydag amrywiolion cyfredol a rhai newydd hefyd. Ac ar yr un pryd, yn union fel y gall pob un ohonom ymfalchïo yn ein rhaglen frechu ni a'r cyflymder a welsom yn ystod y dyddiau diwethaf, fe ddylem ni ymfalchïo hefyd yn y cyfraniadau a wneir gan ein gwyddonwyr o ran dealltwriaeth o'r amrywiolion newydd, y bygythiadau posibl newydd sy'n bodoli, a'r hyn y mae hynny'n ei olygu i allu ein gwyddonwyr ni, gan gynnwys y bobl hynny mewn ymchwil sector preifat, sy'n ceisio cael rhaglen frechu sy'n parhau i ymateb i'r heriau a ddaw o gyflwyno brechiadau newydd.
Ac o ran materion trawsffiniol, fe gawsom ni fater penodol pan awgrymodd un o Weinidogion Swyddfa Cymru yr wythnos ddiwethaf fod yna broblem gyda brechiadau yn cael eu cynnig i bobl sy'n byw yn Lloegr ond sydd wedi eu cofrestru gyda meddyg teulu yng Nghymru. A dweud y gwir, rydym wedi cael sgwrs, a chefais sgwrs mewn cyfarfod o Weinidogion iechyd ar draws y pedair gwlad, ynglŷn â hyn i geisio datrys y mater. Fel rwyf i'n deall, o ran brechu trawsffiniol, rydym yn gwneud y peth gorau posibl, a gall pawb sydd wedi cofrestru â meddyg teulu yng Nghymru gael eu brechu, gan gynnwys preswylwyr cartrefi gofal. Ond rwy'n credu bod yna rai materion y mae angen sylw arnyn nhw eto, o bosibl gyda materion indemniad, ac ynghylch a all pobl sy'n preswylio mewn cartref gofal yma ond sydd â meddyg teulu yn Lloegr gael yr hyn sy'n cael ei gynnig iddynt gan eu meddyg teulu yn Lloegr neu beidio, ac rydym yn gwneud yn siŵr nad yw'r bobl hynny'n cael eu gadael ar ôl yn ein rhaglen ni ar gyfer cartrefi gofal.
O ran sut mae pobl yn teimlo ynglŷn â'r hyn sydd i'w gael dros y ffin, mae bron bob amser yn wir i ddweud pan welwch chi rywbeth ar yr ochr arall y byddwch yn meddwl ei fod yn well yno. Mewn gwirionedd, rwy'n credu y gall pobl ymfalchïo yn fawr iawn yn y ffaith ein bod ni, fel y dywedais i, yn mynd yn gweithredu'n gyflymach nag unrhyw wlad arall yn y DU yn y saith diwrnod diwethaf. Rwy'n edrych ymlaen at gynnydd pellach ac wythnos arall i adeiladu ar y 130,000 o frechlynnau a ddarparwyd gennym yr wythnos hon. Rwy'n hyderus y gallwn gyflawni mwy eto yn yr wythnos i ddod.
Diolch. Rhun ap Iorwerth.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Diolch am y datganiad hefyd. Gaf i'n gyntaf ddiolch o waelod calon i bob un—yn feddyg, yn nyrs, yn weithiwr brechu arall, yn weinyddwr yn ein byrddau iechyd ni—sy'n gweithio mor galed i drio brechu y boblogaeth? Mae'n amlwg bod yna gyflymu wedi bod, ac rydym ni i gyd yn gallu croesawu hynny, ond mae yna gryn ffordd i fynd.
O ran y methiant yma i daro'r targed o frechu 70 y cant o bobl dros 80, ydych, rydych chi'n hollol iawn, Weinidog, ein bod ni eisiau gwybod a oeddech chi wedi taro'r targed. 'We didn't quite make it', meddech chi. Ond y ffigur gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, wrth gwrs, ydy 52.8 y cant. Nid 'didn't quite make it' ydy hynny, gadewch inni fod yn onest, hyd yn oed os oes yna beth data yn dal angen eu bwydo i'r system. Ac os caf i ddweud, dwi ddim yn meddwl bod beio eira dros y Sul yn dal dŵr, waeth faint o broblem gwnaeth yr eira, wrth gwrs, greu mewn rhai ardaloedd; y broblem oedd eich bod chi yn dal ar 24 y cant o bobl dros 80 oed ganol yr wythnos diwethaf, ac mi oedd yna ormod o fynydd i'w ddringo. Ond, fel dwi'n ei ddweud, dwi'n falch bod pethau yn symud i'r cyfeiriad iawn.
Rydych yn dweud bod 67 y cant o breswylwyr cartrefi gofal wedi'u brechu. Dwi braidd yn bryderus am y ffigur yna, mae'n rhaid i fi ddweud. Mae e'n swnio'n isel i fi, o ystyried mor fregus ydy'r grŵp yna. Ac mae hefyd yn ymddangos bod yna gryn wahaniaeth o ardal i ardal. Mae o'n grŵp ddylai fod yn reit hawdd i'w gyrraedd. Yn ardal bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr, er enghraifft, roedden nhw'n dweud ddoe bod brechu wedi'i gwblhau mewn 180 allan o'r 200 cartref gofal yn y rhanbarth, a bod dros 90 y cant o'r preswylwyr wedi cael eu brechu. Maen nhw hefyd yn dweud bod dros 90 y cant o staff iechyd rheng flaen a staff gofal wedi'u brechu—eto, 74 y cant o staff gofal ydy'r canran Cymru gyfan rydych chi wedi'i ddyfynnu heddiw. Allwch chi ddweud beth ydych yn ei wneud i drio lefelu pethau ar draws Cymru i godi pethau i fyny i'r canrannau rydym ni wedi'u clywed gan Betsi Cadwaladr?
Dwi'n falch bod cymaint o feddygfeydd teulu yn rhan o'r broses rŵan, a'ch bod chi wedi pasio y 250 o feddygfeydd oedd yn darged gennych chi. Yn gyffredinol, rydych chi'n dweud bod capasiti wedi cynyddu, sy'n dda o beth. Mae'n dal yn gwestiwn gen i pam na adeiladwyd y capasiti dros y misoedd yn arwain at pan ddaeth y brechiad ar gael. Ac mi ddywedsoch chi wrth sôn am y gwahanol rannau o ofal sylfaenol sy'n cymryd rhan bellach:
'Mae hyn yn cynnwys cynllun peilot y fferyllfaoedd cymunedol'.
Cynllun peilot y fferyllfaoedd cymunedol.
Un—hwnnw ym Mhenllyn yr wythnos cyn diwethaf, dwi'n cymryd rydych chi'n cyfeirio ato fo. Mae gennym ni dros 600 o fferyllfeydd cymunedol. Mae'n rhaid sicrhau eu bod nhw'n dod yn rhan o'r broses frechu mor fuan â phosib. Maen nhw eisiau cymryd rhan. Mi wnaeth fferyllydd yn fy etholaeth i, yn y Fali, digwydd bod, gysylltu yn y dyddiau diwethaf yn dweud, 'Rydyn ni eisiau gwneud. Mae gennyn ni le, rydyn ni wedi ein hyfforddi i wneud, gadewch inni wneud.' Ac os caf i ddweud, y neges glir dwi yn ei chlywed ydy: 'Mi allwn ni wneud llawer mwy pe baen ni'n cael mwy o'r brechiad.' Rŵan, dwi wedi gofyn dro ar ôl tro ar ôl tro am ddata ar faint o'r gwahanol frechiadau sydd wedi cael eu rhannu i bedair cenedl y Deyrnas Unedig, faint wedyn sy'n cael eu rhannu o bob un i bob bwrdd iechyd yma. Dwi'n gofyn eto. Rydych chi wedi sôn am bwysigrwydd tryloywder yn eich cyflwyniad chi. Rhowch y tryloywder inni yn fan hyn fel ein bod ni'n gallu gweld unrhyw anghyfartaleddau neu flocs yn y system. Mae o'n wybodaeth, mae o'n ddata cwbl, cwbl sylfaenol.
Yn olaf, dwi eisiau tynnu sylw at y pryderon diweddaraf am y newid polisi hwnnw a fu fel bod hyd at 12 wythnos o oedi rhwng dau ddos y brechiad Pfizer yn hytrach na'r tair wythnos gwreiddiol. Mae yna fwy o bryderon wedi'u tynnu i'm sylw am hyn: poeni y gallai hynny fod yn effeithio a thanseilio effeithlonrwydd y brechiad i'r graddau eich bod chi'n gorfod dechrau o'r dechrau pan fo'n cyrraedd at y 12 wythnos. Dwi'n deall y syniad o roi rhywfaint o warchodaeth i fwy o bobl—wrth gwrs fy mod i'n deall hynny—ond ydych chi'n barod i wynebu'r posibilrwydd y gallai, i bob pwrpas, filiynau o frechiadau wedi cael eu gwastraffu oherwydd y newid polisi hwnnw?
Nid wyf i o'r farn ein bod wedi gwastraffu miliynau o frechlynnau oherwydd y dewisiadau polisi a wnaethom ni, ond rwyf am ddechrau gyda'ch pwynt chi am beidio â rhoi'r bai ar yr eira. Roedd yr eira'n elfen amlwg—elfen amlwg—ddydd Sul a dydd Llun, a chafodd effaith sylweddol. A'r ffigurau a gyhoeddwyd gennym, y 52.8 y cant y mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cyfeirio ato—mae o leiaf cymaint â hynny wedi cael y brechlyn. Ac, fel y dywedais wrth roi ateb i Angela Burns, fe wyddom fod bwlch cyn inni gael data sydd wedi eu diweddaru, ond mae'n amlwg ein bod yn annhebygol o gyrraedd—nad ydym yn mynd i gyrraedd y 70 y cant, pan gaiff hynny i gyd ei gysoni ar gyfer diwedd dydd Sul. Mae hynny'n fater o fod yn onest ac yn agored gyda phobl, ac rwy'n credu na fydd y rhan fwyaf o'r cyhoedd yn synnu o gwbl fod yr eira a welsom mewn rhannau helaeth o'r wlad wedi cael effaith.
O ran preswylwyr cartrefi gofal, mae o leiaf 67 y cant wedi cael eu brechu eisoes—unwaith eto, yr un materion ynghylch data. Mae'n wir hefyd, o ran rhai cartrefi gofal—rydym ni wedi gorfod gweithio drwy rai o'n cwestiynau polisi am gartrefi gofal rhybudd coch, lle mae ganddyn nhw nifer o achosion cadarnhaol. Rydym mewn sefyllfa fwy sefydlog erbyn hyn sy'n cael ei chymhwyso bellach yn gyson ledled y wlad. Dyna pam y gallwn ni fod yn hyderus bod pob bwrdd iechyd yn gweithio drwy'r rhain fel y prif grŵp blaenoriaeth, ac rwy'n edrych ymlaen at weld yr holl gartrefi hynny'n cael eu cynnwys erbyn diwedd y mis hwn—yr holl gartrefi hynny lle mae'n bosibl cael mynediad iddynt. Mae dull o asesu risg yn cael ei ddefnyddio, fel y byddech chi'n ei ddisgwyl, felly, pe byddai unrhyw achosion cyfredol, yn cynnwys cyfran sylweddol o blith staff a phreswylwyr y cartref, yna fe allai hynny olygu na all y rhaglen frechu ddigwydd yn y cartref hwnnw. Rwy'n credu y byddai pawb yn deall pam. Ond rydym wedi edrych ar asesiadau risg lle ceir un neu ddau achos mewn cartref a'r hyn a olygir gan hynny ar gyfer sicrhau bod y brechlyn yn cael ei ddarparu'n fwy cyffredinol. Felly, rydym wedi gweithio drwy hynny, ac rydym yn credu ein bod mewn sefyllfa erbyn hyn, unwaith eto, i gael cyfradd wirioneddol o hyder i gyflawni'r disgwyliad y cyfeiriais i ato erbyn diwedd y mis, sef cwblhau brechu'r rhan hon o'r boblogaeth.
O ran yr amser i gynyddu'r capasiti, wel, â phob parch, nid oedd modd ysgogi ein holl gapasiti pan oedd y cyflenwadau yn llawer llai, pan oedd gennym broblemau o ran defnyddio brechlyn Pfizer. Ar y dechrau, nid oeddem yn gallu gweinyddu'r brechlyn yn effeithiol mewn gofal sylfaenol, nid oeddem yn gallu gweinyddu'r brechlyn i breswylwyr cartrefi gofal. Ac rydych chi'n cofio'r achos anffodus pan ddywedodd cyn arweinydd y Ceidwadwyr ei fod ef yn credu bod preswylwyr wedi cael eu gadael ar ôl. Nid dyna ddigwyddodd o gwbl. Mae'n drueni na chafodd y sylwadau hynny eu cywiro. Rydym mewn sefyllfa erbyn hyn o fod â chyflenwad llawer mwy sylweddol, gyda chymysgedd o frechlynnau. Rydym mewn sefyllfa i wneud defnydd gwahanol a mwy hyblyg o frechlyn Pfizer, ac felly mae ein seilwaith ni'n wahanol ac mae'n well nawr. Mae'n llawer mwy sylweddol. Y cyflenwad yw'r ffactor sy'n llesteirio. Pe byddai gennym ni fwy hyd yn oed o frechlyn AstraZeneca nag sydd gennym ni heddiw, fe allem fanteisio i'r eithaf wedyn nid yn unig ar y capasiti sy'n bodoli o fewn practisau cyffredinol, ond fe allem ddefnyddio'r rhwydwaith sylweddol sydd mewn fferylliaeth gymunedol, fel rydym ni'n awyddus i'w wneud. Er hynny, mae practisau cyffredinol, gan weithio gyda'i gilydd, yn gallu darparu'r cyflenwadau o frechiadau sydd gennym ni ar hyn o bryd yn effeithiol. Ac felly rydym yn edrych ar sut y gallwn gael y cyfuniad hwnnw o ganolfannau brechu torfol sy'n defnyddio sgiliau pobl sy'n gallu gweinyddu brechiadau hefyd yn ein tîm gofal sylfaenol ehangach a sut y byddwn ni'n defnyddio llawer mwy ar ein gweithlu parod a phroffesiynol iawn—sy'n ddibynadwy, yn hollbwysig iawn—gweithlu dibynadwy mewn fferylliaeth gymunedol, gan ein bod yn disgwyl gweld cynnydd yn y cyflenwadau eto yn yr wythnosau i ddod.
Nawr, o ran ein cyfran ni o'r cyflenwad brechlynnau, mae'r cwestiwn hwn yn cael ei ofyn i mi'n rheolaidd gennych chi a chyd-Aelodau ym Mhlaid Cymru, ac rwyf innau'n rhoi'r un ateb yn rheolaidd, sef ein bod ni'n cael ein cyfran ni yn ôl ein poblogaeth, ac mae hynny'n parhau i fod yn wir. Mae'n dal i fod yn wir ein bod ni'n cael ein cyfran ni yn ôl maint ein poblogaeth. Mae'n dal i fod yn wir, yn y cyfarfod wythnosol a gaf i erbyn hyn gyda Gweinidog brechlynnau'r DU, mai hwn yw'r pwnc cyson yn ein trafodaethau ni i wneud yn siŵr y ceir sicrwydd parhaol o ran lefel y brechlynnau y bydd ei hangen i gyrraedd carreg filltir canol mis Chwefror ar gyfer y pedwar grŵp blaenoriaeth—y pedwar grŵp blaenoriaeth cyntaf. Er mwyn i hynny ddigwydd, fe wyddom y bydd angen mwy na'n cyfran ni yn ôl y boblogaeth os mai dim ond digon i wireddu hynny sydd o fewn y DU. Felly, dyna ran o'n her ni, dyna ran o'r hyn yr wyf i wedi ei godi'n rheolaidd, ac fe geir sicrwydd dro ar ôl tro y bydd yr holl gyflenwadau hynny ar gael mewn pryd i allu cyflawni'r garreg filltir erbyn canol mis Chwefror. Ac yng Nghymru, rydym ni'n darparu ein cyflenwadau ni o'r brechlyn ar sail y gyfran o'r boblogaeth ym mhob un o'n byrddau iechyd.
Ac fe fyddwch wedi gweld rhai o'r sylwadau cyhoeddus a'r sylwebaeth gyhoeddus a adroddwyd yn eang am rai o'r materion sensitif ynghylch cyflenwad a gweithgynhyrchu brechlynnau rhwng y DU a'n partneriaid yn yr Undeb Ewropeaidd. Mae yna elfen o sensitifrwydd masnachol, a dyna pam nad ydym wedi cyhoeddi mwy o wybodaeth heddiw am y stociau sydd gennym ni o frechlynnau. Ac rwyf i wedi egluro fy mod i'n dymuno bod mewn sefyllfa lle gallwn ni gael cyhoeddiad cyffredin rhwng gwahanol rannau'r DU i fod yn agored ynglŷn â'r cyflenwadau o frechlynnau sydd gennym yn ein meddiant. Rydym yn ystyried gweithredu hynny ar draws y pedair gwlad. Rwy'n parchu'r ffaith fod yna sensitifrwydd masnachol ar hyn o bryd sy'n golygu nad ydym mewn sefyllfa i wneud hynny heddiw. Ond rwy'n awyddus i wneud hynny cyn gynted â phosibl, oherwydd rwy'n cydnabod mai da o beth yw tryloywder er mwyn rhoi hyder i'r cyhoedd am yr hyn yr ydym ni'n ei wneud a pham.
Gweinidog, mae etholwyr wedi codi materion am y rhaglen frechu gyda mi o ran carcharorion yng ngharchardai Cymru. Nid yw rhai carcharorion sydd yn y pedwar grŵp blaenoriaeth uchaf, a'r grwpiau blaenoriaeth cyntaf sy'n cael eu brechu ar hyn o bryd, wedi cael unrhyw wybodaeth ynghylch pryd y maen nhw'n debygol o gael eu brechu, ac, yn ddealladwy, maen nhw'n meddwl tybed a ydyn nhw wedi cael eu hanwybyddu neu a fyddan nhw'n clywed rhywbeth yn fuan. Mae materion hefyd sy'n ymwneud â charcharorion sydd newydd eu carcharu a'r drefn brofi sy'n berthnasol iddyn nhw, a phryderon nad yw honno mor drylwyr ag y dylai fod, a phryderon pellach ynghylch swyddogion carchardai o ran y flaenoriaeth iddyn nhw ar gyfer brechu, er fy mod i'n siŵr y bydd cydbwyllgor y DU yn ystyried hynny wrth ystyried grwpiau eraill a allai gael blaenoriaeth dros y pedwar grŵp blaenoriaeth cyntaf. Yn amlwg, Gweinidog, rwy'n gwybod bod yna faterion yma sy'n croesi'r ffiniau â chyfrifoldebau Llywodraeth y DU, ond mae'r boblogaeth carchardai yn agored iawn i niwed, o ystyried y lle cyfyng a'r anawsterau o ran cadw pellter cymdeithasol, ac mae llawer o'r carcharorion mewn grwpiau agored i niwed o ran eu hiechyd a'u proffil cyffredinol. Felly, mae'r rhain yn faterion pwysig, a tybed a wnewch chi ddweud rhywbeth heddiw ynglŷn â chyfraniad Llywodraeth Cymru i'r ystyriaeth o'r materion hyn a'i rhan wrth inni symud ymlaen.
Wel, fel y gwyddoch chi, Eluned Morgan, fy nghyd-Weinidog i, sy'n gyfrifol am ofal iechyd carcharorion erbyn hyn, ond o ran cyflwyniad y brechlyn, mae hwnnw'n aros dan fy ngofal i. Nawr, rydym ni'n gweithio drwy ein cyfrifoldeb ni am ofal iechyd carcharorion, ond cyfrifoldeb penodol hefyd am gyflwyniad y brechlyn, a'r carcharorion hynny sydd mewn grwpiau blaenoriaeth—mae'n ffaith fod y boblogaeth carcharorion yn dioddef llawer mwy o afiechyd na'r boblogaeth ehangach, gydag amrywiaeth o anghenion gofal iechyd ychwanegol. Mae gennym ni boblogaeth o garcharorion hŷn ym Mrynbuga hefyd, felly fe fydd yna amrywiaeth o bobl yn y fan honno sydd mewn grwpiau blaenoriaeth oherwydd eu hoedran nhw hefyd. Rydym wedi gweld achosion yn torri allan mewn carchardai, ac rydym wedi gweld marwolaethau mewn carchardai hefyd, felly mae hon yn rhan o'r boblogaeth y mae gennym gyfrifoldeb amdani, ac rydym yn gweithio ar hyn gyda chydweithwyr sy'n gyfrifol am redeg carchardai i weld sut y byddwn ni'n cyflawni o ran y pedwar grŵp blaenoriaeth cyntaf erbyn canol mis Chwefror. Felly, ni chaiff y boblogaeth carcharorion ei gadael ar ôl. Mae'n fater o allu gweithio ar hynny a gallu cyflawni hynny wedyn gyda'r grŵp penodol hwnnw o boblogaeth Cymru. Felly, rwy'n gobeithio bod y sicrwydd hwnnw'n ddefnyddiol. Wrth inni gael mwy o fanylion, fe fyddaf yn hapus i ymrwymo i ysgrifennu datganiad pellach naill ai'n unigol neu ar y cyd â'm cyd-Weinidog Eluned Morgan.
Diolch i chi am eich datganiad, Gweinidog. Rwy'n gobeithio ac yn gweddïo y byddwch chi'n gallu cyrraedd pob un o'ch targedau. Gweinidog, a ydych chi wedi eich bodloni ein bod ni'n gweinyddu pob dos a gawn? Fe geir pryder cyffredinol bod yr amser rhwng y ddwy ddos yn rhy hir o lawer. A wnewch chi gyhoeddi'r cyngor gan y JCVI y gwnaethoch chi ei ddefnyddio i lywio eich penderfyniad i gynyddu'r amser rhwng y ddwy ddos? A wnewch chi amlinellu faint o amddiffyniad a roddir gan un ddos o bob un o'r brechlynnau sydd ar gael? Y prif rwystr i frechu'r boblogaeth yn gyflymach yw'r cyflenwad, felly, Gweinidog, a wnewch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni am y cynnydd sy'n cael ei wneud o ran cymeradwyo brechlynnau eraill, megis yr un gan Johnson & Johnson? Yn olaf, Gweinidog, ni allwn ni fforddio gwastraffu'r adnodd hwn sydd mor werthfawr. Rydych wedi dweud mai dim ond 1 y cant o'r brechlyn sydd wedi ei wastraffu hyd yn hyn, ond mae hyn yn gyfystyr â miloedd o ddosau, ac fe geir miloedd o bobl y gellid bod wedi eu brechu nad ydyn nhw wedi cael eu dos gyntaf. Felly, Gweinidog, pa gamau sy'n cael eu cymryd i leihau gwastraff i fod tua 0.1 y cant, yn hytrach na'r gyfradd ar hyn o bryd? Diolch yn fawr.
Diolch. Nid wyf i'n gwybod o ble y cawsoch chi'r targed o 0.1 y cant o ran gwastraff. Mewn gwirionedd, mae'r ffaith bod gennym gyfradd wastraff o lai nag 1 y cant yn dangos bod gennym raglen frechu sy'n hynod effeithlon, sy'n rhan o'r hyn y dylem ni fod yn ymfalchïo ynddo'n fawr, sef bod ein rhaglen ni a arweinir gan GIG Cymru yn cyflawni mewn gwirionedd. Rydym yn cyhoeddi cyfraddau gwastraff o heddiw ymlaen, felly fe gewch chi weld yn rheolaidd pa mor effeithiol ac effeithlon y yr ydym.
O ran cymeradwyo brechlynnau eraill, fe hoffwn i atgoffa'r Aelod ac unrhyw un arall sy'n gwylio nad gwaith i wleidyddion yw hynny ac mae'n rhan bwysig o'n system ni nad gwleidyddion sy'n cymeradwyo darpar frechlynnau. Y rheoleiddiwr annibynnol, sef Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd, yr MRHA, sy'n cymeradwyo brechlynnau i'w defnyddio ac yn pennu ar ba sail y gellir eu defnyddio nhw. Mae hwn yn amddiffyniad pwysig sydd yn ein system ni. Mae'n rhaid iddyn nhw adolygu'r data ac maen nhw'n penderfynu a ellir defnyddio brechlyn. Mater i wleidyddion yw gwneud dewisiadau wedyn o ran gweinyddu'r brechlynnau hynny. Dyna yw'r sefyllfa. Felly, fe fydd angen i unrhyw ddarpar frechlyn arall fynd drwy'r un broses fanwl, ac fe fydd angen i'r MHRA wneud y penderfyniad yn yr un modd. Mae trydydd brechlyn gennym ni, y disgwyliwn iddo fod ar gael yn ddiweddarach yn y gwanwyn, sef brechlyn Moderna. Mae wedi ei gymeradwyo, a dyna pryd yr ydym ni'n disgwyl i gyflenwadau gyrraedd y DU. Mae hynny ar gofnod cyhoeddus yn barod. Fe fydd unrhyw gymeradwyaeth bellach yn amodol ar gyhoeddiad cyhoeddus gan yr MHRA yn y ffordd arferol.
O ran eu defnydd nhw wedyn a chyngor y JCVI ar y bwlch rhwng y dos gyntaf a'r ail, cafodd hynny ei gyhoeddi eisoes. Nid mater i mi yw ei gyhoeddi, fe'i cyhoeddwyd yn barod ac mae aelodau'r JCVI wedi cynnal cyfweliadau rheolaidd dros yr wythnosau diwethaf, yn esbonio eu cyngor, sut y penderfynwyd ar y cyngor hwnnw, y rheswm pam mae'r cyngor a roddwyd yn cynnwys y naw grŵp blaenoriaeth cyntaf, lle mae 99 y cant o'r derbyniadau i ysbytai a marwolaethau yn digwydd oherwydd COVID-19, ond hefyd, yn benodol, y cyngor hwnnw ar y cyfnod rhwng y dosau, sef y cyngor iechyd cyhoeddus arferol ynglŷn â sicrhau ein bod ni'n rhoi cymaint o amddiffyniad â phosibl i'r grŵp mwyaf bregus yn ein poblogaeth a hynny cyn gynted â phosibl, yn hytrach na darparu lefel uwch o amddiffyniad i grŵp llawer llai o'r boblogaeth o fewn yr un amserlen. Dyna ran o'r rheswm pam mae Iechyd Cyhoeddus Cymru a'i chydasiantaethau yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn cefnogi cyngor y JCVI ar ymestyn y cyfnod rhwng dosau i 12 wythnos. Dyna pam mae pob prif swyddog meddygol yn y Deyrnas Unedig yn cefnogi'r cyngor hwnnw hefyd. Ac fe fyddai'n beth rhyfedd iawn pe byddwn i'n penderfynu, yn rhinwedd swydd Gweinidog, i wrthdroi cyngor y prif swyddog meddygol, a gwrthdroi cyngor Iechyd Cyhoeddus Cymru, a gwrthdroi cyngor y JVCI, yr arbenigwr annibynnol, ar y dull o ddarparu brechlyn. Nid wyf yn dymuno gwneud unrhyw beth o'r fath. Fe fyddwn i'n tanseilio barn y prif swyddog meddygol yn gyfan gwbl pe byddwn i'n gwneud felly. Ond, yn fwy na hynny, fe fyddwn i'n anwybyddu'r cyngor uniongyrchol iawn sy'n mynegi y bydd y dull hwn yn wir yn achub bywydau ac y byddai dull arall yn golygu colli bywydau. Ac nid wyf i am wneud hynny byth.
A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad, ac mae'n briodol hefyd ganmol ymdrechion arwrol pawb sy'n ymwneud â chyflawni'r rhaglen frechu enfawr hon? Rwy'n gwybod bod fy nghydweithwyr i sy'n feddygon teulu yn ysu am wneud mwy, a phe gallen nhw gael mwy o frechlynnau, fe fydden nhw'n gosod pobl yn y ciw nawr. Felly, mae yna waith rhyfeddol yn digwydd wrth inni siarad yma.
Un cwestiwn, y cyfeiriais i ato'r bore yma yn y briff, a diolch—[Anghlywadwy.]—Frank Atherton hefyd, a Rob Orford, am eu rhan nhw. Ond a gaf i bwyso arnoch chi, yn y fan hon mewn fforwm cyhoeddus, ynglŷn â phwysigrwydd y genadwri sy'n ymwneud â'r brechlyn? Mae pawb ohonom wedi gweld y lluniau o bobl yn falch iawn o gael eu brechlyn, ac mae hynny'n rhywbeth gwirioneddol wych, ond mae'n cymryd tair wythnos ar ôl y pigiad i'ch corff chi fagu rhywfaint o amddiffyniad yn erbyn haint COVID difrifol. Yn amlwg, rydych chi'n fwy diogel byth ar ôl dau bigiad, ond fe allech chi ddal COVID o hyd, ond ni fyddech yn ddifrifol o sâl. Dyna fantais y brechlyn: ni fyddwch chi'n cael y salwch difrifol nac yn gorfod mynd i'r ysbyty. Felly, o gael y brechlyn, y neges bwysig yw peidiwch ag anghofio nac anwybyddu'r holl gymhellion i gadw pellter cymdeithasol, ac aros gartref, a gwisgo mygydau, oherwydd ar ôl brechu, fe allwch chi fod yn trosglwyddo'r coronafeirws i bobl eraill o hyd. Felly, mae dathlu ar ôl cael pigiad yn iawn, ond mae angen ichi aros gartref o hyd, a phopeth arall. Felly, a gaf i ofyn ichi nawr beth yn union ydych chi'n ei wneud i drosglwyddo'r genadwri bwysig iawn hon?
Diolch i chi am eich sylwadau, ac rwy'n cytuno â chi fod hwn wedi bod yn waith aruthrol gan gydweithwyr ym maes gofal sylfaenol ac ar draws ein tîm ni a gaiff ei arwain gan GIG Cymru i sicrhau'r cyflymder ychwanegol sylweddol i weinyddu'r brechlyn. Ac rwy'n falch eich bod chi a'ch cydweithwyr yn gweld gwerth y sesiynau briffio ar iechyd gyda'r prif swyddog meddygol, y prif gynghorydd gwyddonol a minnau. Fe fyddwn ni'n parhau i gynnal y rhain.
O ran y genadwri am y brechlyn, rwy'n credu bod hwn yn gyfle defnyddiol i ailddatgan ei bod yn cymryd amser i fagu'r amddiffyniad ar ôl gweinyddu'r ddos gyntaf o'r brechlyn, ac felly ni all pobl gael eu brechu ac ymddwyn fel pe bai popeth yn normal wedyn a mynd ati i gymryd mwy o risgiau. Ni fyddai hynny'n golygu y bydden nhw'n elwa ar yr amddiffyniad o gwbl. Ond hyd yn oed gyda'r amddiffyniad, rydych chi'n iawn: mae'r brechlynnau wedi cael eu treialu ac wedi rhoi data am amddiffyn pobl rhag niwed. Mae hynny'n golygu eich bod chi'n llawer mwy tebygol o fod wedi eich amddiffyn rhag mynd yn ddifrifol wael ac mewn perygl o orfod mynd i ysbyty neu farwolaeth, pan fydd yr amddiffyniad wedi dechrau. Eto i gyd, nid yw hynny'n golygu na allech chi gael COVID; nid yw hynny'n golygu na allech chi drosglwyddo COVID i rywun arall, felly mae'n bwysig iawn bod pawb yn dal ati i ddilyn y mesurau amddiffynnol sydd ar waith er ein lles ni i gyd. Hyd yn oed gyda niferoedd sylweddol o bobl yn cael eu brechu a'u hamddiffyn, byddai modd gwneud niwed gwirioneddol o hyd pe byddai llai o gadw pellter cymdeithasol, mwy o bobl yn cymysgu dan do, a phobl yn anghofio arferion amddiffynnol fel golchi dwylo, neu wisgo gorchudd wyneb, a chael awyru da.
Yn fy marn i, mae'n arbennig o bwysig gwneud y pwynt hwn wrth gofio bod ein ffigurau ni o ran marwolaethau, yn drist iawn, yn ystod yr wythnos ddiwethaf wedi bod yn uchel iawn. Rydym yn dechrau gweld gwelliant o ran y pwysau ar ein GIG, rydym yn dechrau gweld lefelau'r derbyniadau i ysbytai yn sefydlogi ac yn gostwng ychydig, ond mae hynny yng nghyd-destun y lefelau uchaf erioed o gleifion yn ein hysbytai ni. Mae'n werth atgoffa pobl, er ein bod ni'n gweld gwelliant, fod y gwelliant hwnnw'n dal i olygu bod gofal critigol yn gweithio ar gyfradd o 140 y cant, i lawr o 150 y cant, ond mae'n parhau i fod ar 140 y cant o'i gapasiti arferol. Felly mae angen i bob un ohonom ni gadw at hyn am ryw hyd eto i sicrhau nad ydym yn colli pobl nad oes angen eu colli ar hyd y daith yr ydym arni tuag at ddiwedd y pandemig.
Gweinidog, fe hoffwn i ddiolch i chi am y diweddariad heddiw ac a gaf i ddiolch am bopeth arall yr ydych chi'n ei wneud hefyd? Er y byddai'n well gan fy mhlaid i weld Llywodraeth y DU yn arwain y rhaglen hon yn hytrach na Llywodraeth Cymru, nid yw hynny'n golygu nad ydym yn gwerthfawrogi maint y gwaith sy'n cael ei wneud. Mae'n ymddangos eich bod chi'n gweithio am oriau aruthrol dan bwysau aruthrol ac fe hoffwn i ddiolch i chi a phawb sydd o'ch cwmpas am hynny.
A gaf i holi ynglŷn â'r targed a osodwyd o 70 y cant o bobl dros 80 oed ar gyfer y penwythnos? Rwy'n credu ichi ddweud ein bod ni wedi cyrraedd 52.8 y cant gyda hwnnw. Roeddech chi'n dweud bod yr eira wedi cael effaith berthnasol; a allwch chi amcangyfrif beth oedd y canran o frechlynnau a allai fod wedi eu gohirio oherwydd hynny? Ac a wnewch chi ddweud wrthym hefyd pryd y byddech chi'n disgwyl cyrraedd y targed hwnnw o 70 y cant nawr ac, yn ogystal â hynny, pryd allem ni obeithio dal i fyny â chyfran y bobl dros 80 oed sydd wedi eu brechu yn Lloegr, sydd, fel rwyf i'n deall, ychydig yn llai na 79 y cant yn ôl y data diweddaraf?
A gaf i eich holi chi hefyd am frechlyn Pfizer yn benodol? Mae'n ymddangos bod brechu wedi cyflymu ar ddiwedd yr wythnos diwethaf, ac mae hynny'n rhywbeth y byddem ni'n ei gymeradwyo. Mae ein niferoedd ni, serch hynny, yn parhau i fod yn sylweddol is na'r hyn a gyrhaeddwyd yn Lloegr dros y cyfnod i gyd. A yw'r gyfradd Pfizer yn cyflymu? A ydym wedi symud oddi wrth y polisi a esboniwyd gan y Prif Weinidog ynghylch ymestyn amser y broses frechu fel na fyddai unrhyw berygl y byddai'r gweinyddwyr yn segur am unrhyw gyfnod o amser? A yw hynny wedi newid?
Ac rwy'n deall—yn sicr ni fyddwn i'n dymuno i Lywodraeth Cymru ddweud unrhyw beth fel y gwnaeth Llywodraeth yr Alban o ran rhyddhau gwybodaeth anaddas—ond pa mor hyderus ydym ni o ran cyflenwad parhaus o'r brechlyn hwnnw gan Pfizer, yn enwedig o ystyried bygythiadau neu awgrymiadau sy'n dod o'r Undeb Ewropeaidd ynghylch gweithgynhyrchu hwnnw yng Ngwlad Belg? A beth yw'r cynlluniau i—
A wnewch chi ddiweddu, os gwelwch chi'n dda?
Wrth gwrs; y tamaid bach olaf—roi ail ddos i'r rhai sydd eisoes wedi cael y ddos gyntaf yn hytrach na symud i lawr y proffiliau risg wrth ddarparu brechiadau gyda'r brechlyn Pfizer hwnnw?
Diolch am y cwestiynau. Ni allaf i roi amcangyfrif canrannol pendant i chi o effaith y tywydd mawr, ond rydym ni'n ymwybodol bod cryn dipyn o weithgarwch wedi cael ei dynnu'n ôl, ac yn hytrach na thynnu ffigurau o'r awyr, yr hyn yr wyf i'n ymrwymo i'w wneud yw sicrhau ein bod ni'n parhau i gyflwyno gwybodaeth yn ddyddiol, ein bod ni'n parhau i gyflwyno gwybodaeth ddwywaith yr wythnos ar ddydd Mawrth a dydd Iau sy'n rhoi rhagor o fanylion, fel y bydd pobl yn gallu gweld yn dryloyw y cynnydd a wnawn ni yn ôl pob un o'r grwpiau blaenoriaeth hyn, yng nghyd-destun sicrwydd y cyflymder uwch yr ydym ni wedi dangos y gallwn ei gyflawni pan fydd y cyflenwad ar gael i ni.
Rwy'n nodi eich bod wedi gofyn pryd y byddwn ni'n dal i fyny â Lloegr o ran pobl dros 80 oed. Mewn gwirionedd, o ran rhai o'r categorïau eraill o weithwyr iechyd a gofal cymdeithasol, rydym ni, wrth gwrs, ar y blaen i Loegr, ond dim ond am y meysydd yr ydym ni y tu ôl i Loegr yr wyf i'n cael fy holi. Fe fydd yr holl wybodaeth honno am ein sefyllfa ni'n parhau i gael ei chyflwyno, ac fe welwch chi hynny eto yn yr wybodaeth a gaiff ei chyhoeddi'n ddyddiol gan Iechyd Cyhoeddus Cymru. Felly, rwyf i o'r farn fod gennym ddull da o fod yn dryloyw gyda'n data ni a'n gwybodaeth ni, ac yn lefel y sicrwydd y gall pobl ei gael bod y data a gyhoeddir hynny'n gywir.
Mae ein defnydd ni o frechlyn Pfizer yn cyflymu. Fel yr wyf i wedi ei ddweud dro ar ôl tro, rydym ni'n gweinyddu cymaint ag y gall ein GIG ei gyflenwi. Fe wyddom fod gennym ddulliau newydd lle mae modd bod ychydig yn fwy hyblyg nawr wrth ddefnyddio brechlyn Pfizer, ac mae hynny'n beth da hefyd. Felly, nid adeiladu ar ein seilwaith yn unig a wnawn ni; mae gennym ffyrdd ychwanegol o ddefnyddio hwnnw hefyd. O ran sensitifrwydd masnachol, rwy'n credu imi ymdrin â hyn yn gynharach wrth roi ateb i Rhun ap Iorwerth, ac wrth agor hefyd. Mae'n ymwneud â sicrhau ein bod ni mor dryloyw ag y gallwn fod, ond gan gofio'r sensitifrwydd sy'n bodoli o ran niferoedd y stoc.
O ran ail ddos y brechlynnau, rydym ni eisoes, wrth gwrs, yn cynllunio ar gyfer y rhain, ac fe fydd yn rhaid inni ystyried bryd hynny beth mae hynny'n ei olygu o ran defnyddio ein stoc ni, yn enwedig o ran brechlyn Pfizer, oherwydd y grwpiau cyntaf o bobl a fydd yn gymwys i gael eu hail ddos fydd y bobl sydd wedi cael y brechlyn Pfizer ei hun. Felly, mae angen inni sicrhau bod gennym stociau o hwnnw i roi'r ail frechiadau wrth barhau â'r gwaith o fynd trwy nid yn unig y pedwar grŵp blaenoriaeth cyntaf, ond y naw grŵp blaenoriaeth cyntaf sydd gennym ni, gyda'r brechlynnau sydd ar gael. Dyna pam, yn rhannol, mae cyflenwadau ychwanegol o frechlyn AstraZeneca mor bwysig i ni.
Ac yn olaf, Rhianon Passmore.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Gweinidog Iechyd, rwy'n croesawu eich datganiad chi'n fawr heddiw am effeithiolrwydd y rhaglen frechu yn Islwyn, a weinyddir gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, ac sy'n arloesi ymhellach. Rwyf am ddiolch ar goedd hefyd yn ddiffuant i bawb sy'n peryglu eu bywydau ar y rheng flaen, a'r rhai sydd mewn swyddi arweinwyr yn y rhyfel hwn ar COVID-19. Mae agor y ganolfan frechu newydd yn Nhrecelyn wedi fy nghalonogi i'n fawr iawn, ac rwy'n croesawu'r rhaglen 'cyswllt yn gyntaf' arloesol ar gyfer Islwyn a thu hwnt. Erbyn ddoe, roedd dros 48,840 o bobl wedi eu brechu yn holl ardal y bwrdd iechyd, roedd 20,471 o bobl dros 80 oed wedi eu brechu, a 14,000 o staff rheng flaen, a phreswylwyr mewn 90 o gartrefi gofal. Mae'r rhaglen frechu wedi bod yn mynd cystal fel y bydd meddygon teulu yn cynnig y brechlyn i grŵp blaenoriaeth 3 pan fydd pawb dros 80 oed wedi eu brechu'r wythnos hon. Felly'n gyntaf, Gweinidog, beth sy'n gyfrifol am y llwyddiant wrth gyflwyno'r rhaglen frechu yn fy etholaeth i, a pha sicrwydd a gawsom y bydd y cyflenwad hanfodol iawn o frechlynnau yn parhau ar gyflymder fel y gall y rhaglen gyflymu yn fwy byth?
Mae'n braf clywed canmoliaeth i fyrddau iechyd, sydd, yn fy marn i, yn gwneud gwaith eithriadol wrth ymdopi â'r holl bwysau y mae ein gwasanaeth iechyd gwladol ni'n ei wynebu yn hyn o beth, y digwyddiad mwyaf anghyffredin y bu'n rhaid inni fyw trwyddo. Digwyddiad unwaith mewn canrif yw hwn, mae'n hollol wir dweud hynny. Nid oes unrhyw un wedi gorfod ymdrin â phandemig fel hwn, yn y cyfnod modern o leiaf.
O ran darparu brechlynnau, ac o ran y cyflenwad, fel y dywedais i, rwy'n cyfarfod yn wythnosol gyda Nadhim Zahawi. Ef yw'r Gweinidog cydlynol sy'n cydweithio â'r Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol a'r Adran Iechyd ar y brechlynnau, am yr her o ran y genadwri. Mae gennym berthynas â Pfizer am eu bod nhw â diddordebau ehangach yng Nghymru ac yn gwneud ymchwil yma. Rydych chi'n ymwybodol o'r bartneriaeth y maen nhw wedi ymrwymo iddi â Phrifysgol Abertawe a'u diddordeb nhw mewn gofal iechyd sy'n seiliedig werth; dyna ran o'r rheswm y gwnaethon nhw fuddsoddi yng Nghymru yn hytrach na rhan arall o'r Deyrnas Unedig, ar gyfer y bartneriaeth arwyddocaol honno. Ac yn ogystal â hynny, mae'r berthynas sydd gennym ni ag AstraZeneca, sydd â'u gwaith llenwi a gorffen yn Wrecsam. Rydym ni'n cael sgyrsiau gyda nhw hefyd yn uniongyrchol. Mae wedi bod yn berthynas ymarferol iawn o weithio rhwng fy swyddogion i—a'r sgyrsiau a gefais i hefyd. Rydym mewn sefyllfa, yn sicr, lle mae maen nhw'n ceisio cynyddu eu cyflenwadau, nid yn unig i'r DU, ond i weddill Ewrop hefyd. Mae cyfle arwyddocaol i helpu i amddiffyn llawer iawn o ddinasyddion ledled nid yn unig y cyfandir ond yn fyd-eang, wrth gwrs, ac rwy'n falch iawn fod AstraZeneca wedi ymrwymo i ddarparu brechlynnau i rannau eraill o'r byd am y pris o'u cynhyrchu nhw.
O ran y rheswm am y fath gynnydd a fu yn Islwyn, a thrwy Went a Chymru gyfan, y rheswm gwirioneddol yw'r agwedd hon o 'fe allwn ni wneud hyn'. Mae yna ddull o weithredu fel tîm Cymru yn mynd trwy ein GIG ni, drwy bartneriaid mewn llywodraeth leol, drwy'r cymorth milwrol a gawsom, ac mae hwnnw'n ffactor allweddol yn hyn o beth. Mae ein timau ni'n cydnabod ein bod yn gwneud rhywbeth er mwyn y genedl a fydd yn amddiffyn ac yn achub llawer o fywydau, ac yn ein tywys ni i fan lle gallwn wneud dewisiadau mwy normal unwaith eto ac y gallwn adennill rhywfaint o'r rhyddid y bu'n rhaid i bawb ohonom ei hildio er mwyn ein cadw'n fyw. Rwy'n edrych ymlaen at y diwrnod pan fydd y rhaglen frechu wedi darparu'r lefel honno o ddiogelwch i'r cyhoedd ac fe allwn ni edrych ymlaen at weld ffigurau llawer gwell ar gyfer ein gwasanaeth iechyd gwladol ni, nid yn unig o ran COVID ond materion eraill hefyd nad ydynt yn ymwneud â COVID. Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd.
Diolch, Gweinidog.
David Melding fydd yn cadeirio eitem 4 ac eitem 5. Felly, rwyf nawr yn trosglwyddo'r gadair i David Melding.
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd.