2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel y Gweinidog Pontio Ewropeaidd) – Senedd Cymru am 2:44 pm ar 27 Ionawr 2021.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd Plaid Cymru, Dai Lloyd.
Diolch yn fawr, Llywydd, a phrynhawn da, Gweinidog.
Roedd yn dda gweld datganiad ysgrifenedig gennych chi yr wythnos diwethaf, Weinidog, yn hysbysu'r Aelodau eich bod wedi dwyn achos cyfreithiol yn y llysoedd gweinyddol i geisio caniatâd i gynnal adolygiad barnwrol o Ddeddf marchnad fewnol y DU. Nawr, mae Plaid Cymru yn cefnogi'r ymgais hon. Fel rydym wedi'i ddweud droeon o'r blaen, mae'r Ddeddf yn tanseilio democratiaeth Cymru ac yn gyrru ceffyl a throl drwy'r setliad datganoli. Rwy'n gobeithio y bydd y Gweinidog yn parhau i ddarparu'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am y sefyllfa sy'n datblygu mewn perthynas â'r camau cyfreithiol hyn. Yn y cyfamser, fodd bynnag, a allai'r Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni ynglŷn ag a yw wedi trafod y camau cyfreithiol hyn gyda chymheiriaid yn y gweinyddiaethau datganoledig eraill? A allai amlinellu wrthym, efallai, pa ymdrechion sy'n cael eu gwneud i gynnwys Llywodraeth yr Alban a Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon, fel cefnogwyr i'r camau cyfreithiol hyn, gan y byddai hynny, fel y bydd yn cytuno rwy'n siŵr, yn sicr o gryfhau hygrededd yr achos o blaid cynnal adolygiad barnwrol i'r ymdrechion diweddaraf hyn i gipio pŵer?
Yn sicr. Wel, bydd yr Aelod yn amlwg yn deall na fyddwn eisiau datgelu manylion sgyrsiau rhwng swyddogion y gyfraith mewn gwahanol rannau o'r DU. Fodd bynnag, gallaf ddweud wrth gwrs y bydd wedi nodi o'r plediadau o bosibl ein bod wedi cydnabod bod gan swyddogion y gyfraith yn yr Alban a Gogledd Iwerddon ddiddordeb yn yr ystyr bod ganddynt ddiddordeb yn y canlyniad. Mae Llywodraeth yr Alban, fel y gwelodd hefyd efallai, wedi cyhoeddi mwy nag un datganiad o gefnogaeth i'r camau rydym yn eu cymryd fel Llywodraeth. Rydym bellach ar y cam lle mai'r cais cychwynnol fydd i'r llys benderfynu a gawn gyflwyno adolygiad barnwrol cyn i wrandawiad gael ei gynnal. Ac os bydd y llys yn caniatáu i ni fwrw ymlaen â'r achos, fel rydym yn gobeithio, credaf mai ar y pwynt hwnnw y byddai penderfyniad Llywodraethau datganoledig eraill yn ymffurfio ynglŷn â'u perthynas â'r achos cyfreithiol.
Diolch ichi am hynny, Weinidog. Gan symud ymlaen, wedi'i gladdu'n ddwfn o fewn y cytundeb masnach a chydweithredu rhwng y DU a'r UE ceir erthygl sy'n nodi y caiff Senedd Ewrop a Senedd y DU, sefydlu Cynulliad Partneriaeth Seneddol sy'n cynnwys Aelodau Seneddol ac Aelodau o Senedd Ewrop. Yn ôl yr hyn a ddeallaf, mae trafodaethau eisoes ar y gweill yn Senedd y DU a Senedd Ewrop ynglŷn â sut i sicrhau bod hyn yn digwydd, ond nid oes dim wedi'i ffurfioli eto. Fel y gwyddom, mae cytundeb y DU-UE yn cwmpasu llawer o feysydd polisi sydd wedi'u datganoli mewn gwirionedd. A yw'r Gweinidog yn cytuno â mi, felly, na allwn dderbyn mai dim ond Aelodau Seneddol o San Steffan a fyddai'n cael eu cynrychioli ar bwyllgor o'r fath, ac a gaf fi ofyn, o gofio nad yw'r gwaith o sefydlu'r pwyllgor partneriaeth hwn wedi'i ffurfioli eto, a allai Llywodraeth Cymru, os nad ydynt eisoes wedi gwneud hynny, gyflwyno sylwadau a gweithio gydag eraill i sicrhau bod seneddwyr o bob rhan o'r gweinyddiaethau datganoledig yn cael eu cynrychioli ar y pwyllgor hwn?
Mae Dai Lloyd yn codi pwynt pwysig iawn yn ei gwestiwn. Mae'r cytundeb yn gwneud nifer o ddarpariaethau mewn perthynas â llywodraethu'r berthynas yn y dyfodol. Yn gyffredinol, ar wahân i un cyd-destun, rwy'n credu, nid yw'r sefydliadau datganoledig wedi'u cynnwys yn benodol yn hynny. Ac mae un o'r pwyntiau rwyf wedi'i wneud eisoes i Weinidogion y DU yn ymwneud â sicrhau bod gan Gymru'r rôl honno yn y strwythurau llywodraethu wrth symud ymlaen, sy'n adlewyrchu'r union bwynt am natur ddatganoledig llawer o'r meysydd sy'n cael eu trafod drwy'r fframweithiau llywodraethu hynny. Rydym yn datblygu'r hyn y byddem yn ei ystyried yn ofyniad manwl mewn perthynas â hynny, ond mae'r pwynt o egwyddor eisoes wedi'i wneud: fod angen i Gymru gael ei chynrychioli'n briodol yn y set honno o strwythurau yn yr un ffordd ag yr oedd trefniadau Cyngor y Gweinidogion yn darparu ar gyfer y math hwnnw o ymgysylltiad pan oeddem yn rhan o'r Undeb Ewropeaidd.
Diolch. Yn olaf, codais fater cronfa ffyniant gyffredin y DU gyda chi yn ôl ym mis Rhagfyr a sut y bydd hyn yn effeithio ar allu Llywodraeth Cymru i weithredu eu fframwaith eu hunain ar gyfer buddsoddi rhanbarthol yng Nghymru. Dywedasoch, mewn ymateb i fy nghwestiwn, Weinidog, y dylai
'Llywodraeth y DU ymgysylltu â ni, hyd yn oed ar yr awr hwyr hon, ynglŷn â sut y gallwn sicrhau bod yr addewidion a wnaed i bobl Cymru yn cael eu cadw, o ran sut y caiff yr arian ei wario, ond hefyd, yn hollbwysig, o ran beth yw'r arian hwnnw.'
Yr wythnos diwethaf, cyhoeddodd Llywodraeth y DU ei bod yn bwriadu bwrw ymlaen heibio i'r gweinyddiaethau datganoledig a chael cronfa wedi'i rheoli'n ganolog yn Whitehall yn lle cronfeydd strwythurol Ewropeaidd. Ble mae hyn yn gadael fframwaith Llywodraeth Cymru ar gyfer buddsoddi rhanbarthol felly, o gofio eich bod chi eich hun wedi dweud bod cyflawni'r fframwaith yn dibynnu ar ymgysylltiad cadarnhaol â Llywodraeth y DU—eich geiriau chi. A yw'r cynlluniau hyn bellach wedi mynd i'r gwellt?
Nid ydynt wedi mynd i'r gwellt; maent yn ffrwyth cydweithredu sylweddol iawn â'r sector preifat, y sector cyhoeddus, y trydydd sector, prifysgolion, ac yn y blaen, ym mhob rhan o Gymru, ac maent yn parhau i fod yn uchelgais Llywodraeth Cymru i gefnogi buddsoddiad rhanbarthol yng Nghymru drwy'r gronfa ffyniant gyffredin, ac mewn unrhyw ffordd arall yn wir. Rydym yn gweithio gyda rhanddeiliaid i ddeall, yn amlwg, yr hyn sy'n dirwedd newidiol yn San Steffan mewn perthynas â hyn. Yr hyn y byddwn yn ei ddweud wrth yr Aelod yw nad ydym wedi cael y trafodaethau agos y byddem wedi disgwyl eu cael ar y cam hwn, hyd yn oed mor hwyr â hyn yn y dydd fel petai, gyda'r adran berthnasol yn Whitehall. Credaf fod diffyg ymgysylltiad gweinidogol truenus wedi bod â ni ynghylch hynny. Yn ôl yr hyn a ddeallaf, bu oedi cyn treialu—yn y prosbectws ar gyfer y cynlluniau peilot—na fyddant yn digwydd nawr ym mis Ionawr, yn amlwg, ac rwy'n credu efallai na fyddant yn digwydd ym mis Chwefror hyd yn oed. Hoffwn ailadrodd bod y fframwaith yn darparu dull ar gyfer y dyfodol sydd â sylfaen eang o gefnogaeth yng Nghymru, a byddai o fudd i Lywodraeth y DU ymgysylltu â hi, oherwydd mae'n cynrychioli'r hyn y mae busnesau, llywodraeth leol, a chyrff cyhoeddus eraill ledled Cymru, fel y dywedais, eisiau ei weld fel dyfodol cyllid rhanbarthol yng Nghymru. Mae gennym gynllun. Mae'n gynllun yr ymgynghorwyd arno ac mae'n gynllun sydd wedi'i gyd-gynllunio a'i gyd-ddatblygu, a dyna'r fframwaith sy'n cynnig y ffordd orau i weithredu'r gronfa ffyniant gyffredin yn fy marn i, a dylid gwneud hynny mewn partneriaeth â ni, yn hytrach na cheisio mynd heibio i Lywodraeth Cymru.
Llefarydd y Ceidwadwyr, Janet Finch-Saunders.
Diolch, Lywydd. Er mawr lawenydd i mi, mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi y bydd allforwyr bwyd môr ledled y DU yn cael cyllid o hyd at £23 miliwn gan y Llywodraeth yn awr. Mae'r cyllid hwnnw ar gyfer cefnogi busnesau sydd wedi cael eu heffeithio fwyaf gan y pandemig coronafeirws a'r heriau o addasu i ofynion newydd ar gyfer allforio. Felly, Gwnsler Cyffredinol, rwy'n gobeithio y gwnewch chi ymuno â mi i groesawu'r camau a gymerwyd gan Lywodraeth y DU i gefnogi ein pysgodfeydd yng Nghymru. Yn wir, ochr yn ochr ag arian, mae Llywodraeth y DU, er enghraifft, yn darparu canllawiau clir ar y ffurflenni TG angenrheidiol, gan weithio'n agos gyda'r busnesau unigol i'w helpu i ddod i arfer â'r gweithdrefnau newydd sydd eu hangen, ac maent yn cydweithredu ag awdurdodau Ffrainc a Chomisiwn yr UE i sicrhau nad yw mân faterion gweinyddol sy'n gysylltiedig â thystysgrifau iechyd allforio wedi atal nwyddau rhag dod i mewn i'r farchnad. Nawr, cyferbynnwch hyn â dull Llywodraeth Cymru o weithredu. Ysgrifennodd y Gweinidog, Ken Skates AS, ataf ar 22 Ionawr, gan nodi bod Llywodraeth Cymru yn parhau i fonitro sefyllfa anodd y farchnad i ddiwydiant bwyd môr Cymru a pha opsiynau eraill a allai fod ar gyfer cefnogi'r sector. Felly, a wnewch chi ddweud, os gwelwch yn dda, pa gamau y byddwch yn eu cymryd, yn rhinwedd eich swydd fel y Gweinidog pontio Ewropeaidd, i ddarparu cymorth i sector pysgodfeydd Cymru ar ben yr hyn y mae Llywodraeth y DU eisoes yn ei gynnig?
A gaf fi groesawu Janet Finch-Saunders yn gyntaf i'w chyfrifoldebau newydd? I ddechrau, hoffwn ddweud ein bod yn amlwg yn croesawu argaeledd y swm hwn o arian. Nid yw'n gronfa sydd wedi'i chyd-gynllunio, fel y dylai fod, gyda'r Llywodraethau datganoledig, ac mae'r manylion ynglŷn â chymhwysedd a chyflwyno yn parhau, rwy'n credu, i fod yn amwys iawn ar hyn o bryd, felly rydym yn gweithio ac yn gobeithio gweithio gyda Llywodraeth y DU i ddeall hynny'n well. Yr hyn y dylwn ei ddweud, serch hynny, yw mai cyfrifoldeb Llywodraeth y DU yn llwyr yw'r her sy'n wynebu'r sector pysgodfeydd mewn perthynas â'r penderfyniadau y mae wedi'u gwneud fel mater o ddewis gwleidyddol yn y negodiadau gyda'r Undeb Ewropeaidd. Roeddem ni fel Llywodraeth yn ofni y byddai hyn yn digwydd, a dyna pam y gwnaethom alw ar Lywodraeth y DU i flaenoriaethu mynediad llyfn at farchnadoedd, ac maent wedi methu gwneud hynny. Mae llawer o bobl yn rhoi blaenoriaeth uwch i'w hymdeimlad Rwritanaidd o sofraniaeth nag i fywoliaeth pysgotwyr ac eraill, a bydd y bobl hynny'n atebol i'r sectorau dan sylw am fod wedi mabwysiadu'r fath safbwynt, ac rwy'n cynnwys yr Aelod yn hynny. Mae pysgotwyr yn trin cynhyrchion sy'n ddarfodus iawn, ac rwy'n tybio y bydd enw da gwleidyddol y rhai a fu'n gefnogol i'r cytundeb sydd wedi tanseilio llesiant y sector pysgota, yn gweld bod eu statws gwleidyddol hwy eu hunain yn ddarfodus hefyd maes o law.
Diolch. Un enghraifft o rywbeth y gallech ei weithredu yw annog Llywodraeth Cymru i adolygu'r ffaith bod aelodau o griwiau a gyflogir ar sail cyfran o'r ddalfa yn cael eu heithrio o grant sector-benodol y gronfa cadernid economaidd. Nawr, ni fydd yn syndod i chi fy mod i'n falch unwaith eto fod cytundeb masnach Prif Weinidog y DU yn caniatáu i nwyddau a chydrannau'r DU gael eu gwerthu heb dariffau a heb gwotâu ym marchnad yr UE. Fodd bynnag, rwy'n cydnabod bod Undeb Amaethwyr Cymru wedi mynegi pryderon am effaith gwrthdaro masnach ar y sector amaethyddol. Nawr, yn ystod y Cyd-bwyllgor Gweinidogion (Negodiadau'r UE) ar y cytundeb masnach a chydweithredu ddydd Mawrth 29 Rhagfyr, galwasoch ar Lywodraeth y DU i roi mesurau cymorth newydd ar waith ar gyfer yr economi i helpu busnesau drwy'r cyfnod pontio. Ac mae Llywodraeth y DU bellach yn cymryd y camau hynny. Rwy'n ymwybodol fod y Gweinidog ffermio, Victoria Prentis, wedi bod yn cynnal trafodaethau gyda'r Ffrancwyr, y Gwyddelod a'r Iseldirwyr, felly a wnewch chi egluro pa gamau pellach y byddwch yn eu cymryd i gynorthwyo'r sector amaethyddol gyda lleddfu gwrthdaro masnach?
Wel, rydym yn parhau i weithio gyda'r sector amaethyddol, a chyda phob sector arall yn wir, i ddeall y rhwystrau newydd i fasnachu y mae dewisiadau gwleidyddol Llywodraeth y DU wedi'u gorfodi arnynt. Wrth gydnabod bodolaeth cytundeb heb dariffau a heb gwotâu, rwy'n credu ei bod hi'n bwysig i'r Aelod fod yn eithaf clir ynglŷn â'r ffaith bod cymhlethdod y berthynas fasnachu rhwng ein hallforwyr a'r Undeb Ewropeaidd yn llawer mwy na'r hyn ydoedd ar 31 Rhagfyr, a bydd yn gosod y costau sylweddol y mae'r busnesau hynny'n ymgodymu â hwy erbyn hyn. Byddwn yn gwneud popeth yn ein gallu i gefnogi busnesau ym mhob sector yng Nghymru i barhau i allforio ac i ddeall y fiwrocratiaeth newydd y mae cytundeb Boris Johnson wedi'i gorfodi arnynt. Ond gadewch inni fod yn glir mai'r cytundeb sydd wrth wraidd hynny, ac yn anffodus, ni all unrhyw gamau gweithredu gan Lywodraeth y DU na Llywodraeth Cymru newid hanfodion y berthynas newydd honno, sy'n gosod rhwystrau newydd.
Diolch, ond eto, mae fy nghwestiynau'n ceisio canfod beth rydych yn ei wneud mewn gwirionedd, yn hytrach na dweud, 'O, mater i Lywodraeth y DU yw hwn' neu, 'Mater i'r rhai a oedd eisiau Brexit yw hwn'. Rwy'n ceisio sefydlu'r hyn rydych chi'n ei wneud yn rhinwedd eich swydd. Nawr, rwy'n sylweddoli bod Llywodraeth Cymru wedi annog yr holl gludwyr a chwmnïau cludo llwythi sy'n cludo nwyddau o borthladdoedd Cymru i Iwerddon i ymgyfarwyddo â'r broses. Yn wir, mae rhywfaint o obaith y bydd pwysau gwaith papur yn lleddfu drwy ymarfer ac ymgyfarwyddo, a hynny, gobeithio, yn y tymor byr.
Nawr, o ran hwylio o Gymru i'r UE, fe fyddwch yn ymwybodol o bryderon y gallai fod pethau'n symud o Gaergybi, yn enwedig o ran traffig penwythnos ac allfrig. Nawr, mae Gweinidog swyddfa Cymru, David T.C. Davies, wedi tynnu sylw at y ffaith bod rhai problemau cychwynnol, ac rwy'n ymwybodol iawn fod Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Simon Hart AS, yn cadw llygad barcud ar y mater hwn. Felly, rwy'n gobeithio mai dim ond gostyngiad dros dro yw hwn, yn enwedig gan mai porthladdoedd Cymru yw'r llwybrau cyflymaf a mwyaf effeithlon o hyd rhwng Iwerddon a'r DU ac yna ymlaen i'r UE. Felly, pa gamau, os gwelwch yn dda, y byddwch yn ymrwymo i'w cymryd i hyrwyddo'r budd o barhau i ddefnyddio ein porthladdoedd yng Nghymru i fusnesau'r UE? Mae gennych rôl i'w chwarae yn hyn, Gwnsler Cyffredinol, ac rwy'n gofyn i chi nid yn unig i wneud yr hyn sydd ei angen, ond dweud wrth y Senedd hefyd beth yn union rydych chi'n ei wneud. Diolch.
Byddwn yn falch o dderbyn gwahoddiad Janet Finch-Saunders, a maddeuwch imi, roeddwn yn tybio ei bod yn ymwybodol o gynnwys cynllun gweithredu diwedd y cyfnod pontio, sy'n nodi popeth rydym yn ei wneud yn eithaf manwl. Ond beth bynnag, fe'i cyfeiriaf at gynnwys hwnnw am fanylion.
O ran y pwynt penodol y mae'n ei wneud, roeddwn yn ystyried ei disgrifiad o'r rhain fel 'trafferthion cychwynnol' braidd yn sarhaus mewn gwirionedd; canlyniadau cytundeb a negodwyd yn rhydd yw'r rhain, canlyniadau a oedd yn bosibl eu rhagweld ac yn wir, fe gawsant eu rhagweld. Felly, mae'n ddyletswydd ar lywodraethau i gefnogi gweithredwyr porthladdoedd a chludwyr a chwmnïau cludo llwythi hefyd. Rydym yn gwneud hynny, fel Llywodraeth Cymru. Rydym yn gweithio gyda Llywodraeth y DU a chyda Llywodraeth Iwerddon, mewn gwirionedd. Rydym wedi llwyddo i sicrhau bod y gyfradd wrthod yng Nghaergybi, er enghraifft, wedi gostwng o tua 20 y cant o gerbydau i tua 5, 6 neu 7 y cant—mae'n amrywio, yn amlwg. Rydym wedi cymryd rhan ac wedi arwain gweminarau manwl gyda chludwyr a chwmnïau cludo llwythi, gyda llawer o bobl yn ymuno i ddeall y rhwystrau newydd y maent yn eu hwynebu. Rydym yn gweithio'n agos gyda'r porthladdoedd, Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi a Llywodraeth Iwerddon mewn perthynas â hyn. Rwyf fi a Llywodraeth Cymru eisiau sicrhau bod y bont dir yn cael ei diogelu. Dyma'r llwybr cyflymaf, mewn amgylchiadau cyffredin, ac mae'n sicr yn fwy effeithiol ac effeithlon, ac rydym eisiau sicrhau bod cludwyr yn cydnabod hynny ac yn ei gefnogi. Nid ydym yn derbyn y syniad y gellir diystyru'r rhain fel trafferthion cychwynnol, fel y mae Gweinidogion Llywodraeth y DU wedi'i wneud. Credwn fod angen dull rhagweithiol o gydweithio i ddatrys y broblem ac egluro'r sefyllfa i gludwyr, ac mae hwnnw'n ddull llawer gwell na'u diystyru fel trafferthion cychwynnol.