– Senedd Cymru am 4:29 pm ar 2 Chwefror 2021.
Datganiad gan y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd yw eitem 5 ar y cynnydd o ran trethi datganoledig, a galwaf ar y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd, Rebecca Evans.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae cyflwyno'r trethi cyntaf yng Nghymru ers bron i 800 mlynedd wedi bod yn garreg filltir bwysig yn ein stori ddatganoli. Yn ystod y pum mlynedd diwethaf, mae gweithredu tair treth i Gymru yn llwyddiannus—y dreth trafodiadau tir a'r dreth gwarediadau tirlenwi yn 2018, a chyfraddau treth incwm Cymru yn 2019—wedi ehangu cyfrifoldebau Llywodraeth Cymru a'r Senedd, gan gryfhau ein hatebolrwydd am yr arian a godwyd ac a wariwyd i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus hanfodol i bobl Cymru.
Rydym ni hefyd wedi sefydlu adran anweinidogol gyntaf Cymru, Awdurdod Cyllid Cymru, ar amser ac o fewn y gyllideb. Mae bellach wedi llwyddo i gasglu a gweinyddu trethi Cymru sydd wedi'u datganoli'n llawn ers tair blynedd. Mae dull unigryw'r Awdurdod o gefnogi'r broses ar gyfer darparu system dreth deg yn golygu ei fod yn gweithio mewn partneriaeth â threthdalwyr i sicrhau bod treth yn cael ei thalu'n brydlon, ac yn gywir y tro cyntaf.
Rydym ni wedi amlinellu ein dull yma yng Nghymru o ymdrin â pholisi treth yn ein fframwaith polisi treth, i egluro sut y byddwn yn defnyddio trethi er budd cymunedau a busnesau. Mae'r fframwaith yn cynnwys yr egwyddorion yr ydym ni yn eu dilyn wrth ddatblygu polisi treth, gan wneud hynny drwy gydweithio, ceisio creu trethi clir a sefydlog, sy'n codi refeniw'n deg, yn cefnogi amcanion polisi ehangach, ac yn helpu i sicrhau mwy o gydraddoldeb. Ac rydym ni wedi rhoi'r egwyddorion hynny ar waith.
Rydym ni wedi defnyddio ein pwerau i sicrhau bod treth trafodiadau tir yn llawer mwy blaengar na'i rhagflaenydd, treth dir y dreth stamp, ar gyfer trafodiadau eiddo preswyl. Fe wnaethom ni gyflwyno rhyddhad dros dro i helpu'r farchnad eiddo i wella yn yr haf, ac yn fwy diweddar cynyddodd y gyfradd uwch i greu cymorth ychwanegol i wasanaethau cyhoeddus Cymru. Pan ddaw'r gostyngiad dros dro presennol i gyfraddau y dreth trafodiadau tir i ben, Cymru unwaith eto fydd yr unig wlad yn y DU gyda throthwy cychwynnol sydd tua phris cyfartalog cartref. Mae'r trothwy cychwynnol hwnnw'n golygu na fydd y rhan fwyaf o'r rhai sy'n prynu tŷ am y tro cyntaf yn talu unrhyw dreth trafodiadau tir. Cymru hefyd sydd â'r trothwyon uchaf lle mae angen i fusnesau dalu treth ar drafodion eiddo dibreswyl yn y DU.
Prif ddiben treth gwarediadau tirlenwi yw cefnogi ein nodau amgylcheddol, felly dylai refeniw ostwng wrth i'r rhai a dargedir gan y dreth ymateb yn gadarnhaol. Hyd yma, rydym ni wedi cadw cysondeb wrth bennu ardrethi gyda Llywodraeth y DU, gan sicrhau nad ydym yn annog trosglwyddo gwastraff ar draws y ffin rhwng Cymru a Lloegr. Fodd bynnag, cafwyd cyfle i arloesi, gan arwain y ffordd drwy fod y wlad gyntaf yn y DU i bennu cyfradd dreth uwch ar gyfer gwarediadau tirlenwi anawdurdodedig a chreu rhwystr ariannol ychwanegol i bobl sy'n cael gwared ar wastraff yn anghyfreithlon.
Rydym ni wedi defnyddio £2.8 miliwn o refeniw o'r dreth gwarediadau tirlenwi i ariannu prosiectau lleol drwy gynllun y dreth gwarediadau tirlenwi gymdeithasol, gan gynnal ein hymrwymiad i gymunedau yr effeithir arnyn nhw gan waredu gwastraff mewn safleoedd tirlenwi.
O'r tair treth, mae cyfraddau treth incwm Cymru yn effeithio ar y nifer mwyaf o ddinasyddion Cymru, gyda dros hanner oedolion ein gwlad yn ei thalu. Rydym yn gweithio'n agos gyda Chyllid a Thollau Ei Mawrhydi, sy'n parhau i fod yn gyfrifol am gasglu a rheoli cyfraddau treth incwm Cymru, er mwyn sicrhau bod y prosesau'n rhedeg yn ddidrafferth.
Mae ein fframwaith polisi treth yn pwysleisio pwysigrwydd cynnwys a chydweithredu. Rydym wedi annog hyn drwy ddatblygu grwpiau cynghori a thrafod i ystyried cynigion sy'n cael eu datblygu, gan weithio'n agos gyda rhanddeiliaid. Rydym ni wedi cyhoeddi cynlluniau gwaith blynyddol, yn cyhoeddi'r materion yr ydym yn eu harchwilio, ac yn gwahodd sylwadau, ymholiadau a chyfraniadau. Mae llawer o'r meysydd polisi hyn wedi'u trafod yn y cynadleddau treth blynyddol, a chyhoeddir cynnydd yn yr adroddiadau polisi treth. Byddaf yn cyhoeddi'r adroddiad polisi treth diweddaraf ochr yn ochr â'r gyllideb derfynol fis nesaf.
Un maes allweddol o weithgarwch polisi treth fu archwilio syniadau ar gyfer trethi newydd posibl. Rydym yn mynd ar drywydd cymhwysedd ar gyfer treth ar dir gwag drwy'r broses rynglywodraethol y cytunwyd arni gyda Thrysorlys Ei Mawrhydi, gan ymchwilio hefyd i dreth blastig untro, cloriannu'r achos dros dreth dwristiaeth, a dewisiadau posibl ar gyfer ariannu gofal cymdeithasol. Mae'n destun gofid bod y broses rynglywodraethol ar gyfer trethi newydd wedi methu yn ei phrawf cyntaf. Bydd cynnydd pellach yn anodd, o ystyried agwedd Llywodraeth bresennol y DU tuag at ddatganoli, a hithau'n gweithredu fel y myn.
Yn ystod tymor y Senedd hon, rydym ni wedi elwa ar gefnogaeth llawer o bobl a sefydliadau sydd wedi cyfrannu at y broses o gyflwyno trethi Cymru. Rwy'n ddiolchgar iddyn nhw, ac i Aelodau'r Senedd a'r Pwyllgor Cyllid am graffu'n ddiwyd ar y darpariaethau yr ydym ni wedi'u cyflwyno. Mae cyfrifoldeb arnom o hyd i sicrhau bod ein trethi datganoledig yn gweithredu'n deg ac yn effeithiol, gan ddarparu'r refeniw sy'n ofynnol ar gyfer ein gwasanaethau cyhoeddus. Ac mae gwaith pellach i'w wneud ar y posibilrwydd o drethi newydd. Dyna fydd y gwaith ar gyfer Llywodraeth a Senedd nesaf Cymru. Byddant yn adeiladu ar sylfeini cadarn yr hyn yr ydym ni wedi'i gyflawni dros y pum mlynedd diwethaf. Diolch, Dirprwy Lywydd.
Er gwaethaf, neu, efallai y byddai rhai'n dadlau, oherwydd, 22 mlynedd o bolisïau blaengar Llywodraeth Lafur Cymru, fel y'u gelwir ac a ddisgrifiwyd felly gan y Llywodraeth ei hun, mae Cymru wedi cadw'r cyfraddau tlodi uchaf a'r cyfraddau cyflog isaf o holl wledydd y DU, a, hyd yn oed cyn y coronafeirws, roedd bron i chwarter y bobl yng Nghymru mewn tlodi, yn byw, a dyfynnaf, 'bywydau ansicr ac ansefydlog'. Mae'r canfyddiadau hyn i gyd yn deillio o adroddiadau annibynnol. A yw'r Gweinidog yn cydnabod bod angen i Gymru ddenu mewnfuddsoddiad a buddsoddiad mewnol a swyddi sgiliau uchel gyda gwerth ychwanegol uchel mewn mentrau bach, canolig a mawr? Os felly, a yw'n cydnabod y gall fod perthynas wrthgyfartal rhwng cyfraddau treth a refeniw treth, ac y gall defnyddio'r system i gymell gweithgarwch economaidd gynhyrchu mwy o refeniw i wasanaethau cyhoeddus yn y pen draw? Sut y mae'n ymateb i ganfyddiadau academyddion Prifysgol Caerdydd yn ystod blwyddyn gyntaf tymor y Senedd hon y bydd torri'r gyfradd uchaf o dreth incwm yn y pen draw yn codi refeniw treth drwy annog cynhyrchwyr cyfoeth i helpu i dyfu economi Cymru?
Ychwanegodd Deddf Tai (Cymru) 2014 bwerau disgresiwn i awdurdodau lleol osod premiymau'r dreth gyngor o hyd at 100 y cant ar ail gartrefi. Fel y rhybuddiais ar y pryd, ni fyddai hyn yn creu cyflenwad ychwanegol i bobl y mae angen tai fforddiadwy arnyn nhw yn eu cymunedau, a byddai galluogi awdurdodau lleol i godi treth gyngor ychwanegol ar berchnogion ail gartrefi yn creu risg o ganlyniadau anfwriadol. Pa dystiolaeth sydd ganddi felly i gefnogi honiad Llywodraeth Cymru bod galluogi awdurdodau lleol yng Nghymru i godi premiymau'r dreth gyngor ar ail gartrefi yn defnyddio trethiant i sicrhau cyfraniad teg, pan fo'r sector wedi'i gwneud yn glir, yn lle hynny, fod hyn wedi ysgogi llawer nad oedden nhw'n gwybod eu bod eisoes yn gymwys i gael rhyddhad ardrethi i fusnesau bach, i newid o'r dreth gyngor i hyn, ac ysgogi eraill i ddechrau gosod eu cartrefi a chofrestru ar gyfer rhyddhad ardrethi i fusnesau bach i helpu gyda chostau, yn unol â meini prawf Llywodraeth Cymru a ddiwygiwyd ac a atgyfnerthwyd ddiwethaf yn 2016, a'u rheoli gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio annibynnol?
Pa ddadansoddiad a ddangoswyd sydd ganddi i herio'r dystiolaeth sy'n dangos bod y mwyafrif llethol o eiddo a brynwyd fel ail gartrefi mewn mannau lle ceir nifer o gartrefi gwyliau, eisoes yn ail gartrefi, ac wedi bod felly erioed, wedi'u hadeiladu fel ail gartrefi dros fwy na chanrif yn ôl, ac wedi parhau felly byth ers hynny? Pam y mae'r Gweinidog yn dweud bod gan Gymru hefyd y trothwy uchaf pryd y mae angen i fusnesau dalu treth ar drafodion eiddo preswyl yn y DU, pan fo cyfraddau uwch treth trafodion tir uwch Llywodraeth Cymru, a darodd nifer fawr o fusnesau bach a chanolig cyfreithlon, llawer ohonynt ag eiddo ger ffin fewnol y DU â Lloegr, yn uwch na chyfraddau treth uwch tir y dreth stamp gyfatebol yn Lloegr ar gyfer prisiau prynu hyd at £125,000 yn unig, ac yn uwch ar gyfer yr holl brisiau prynu yn Lloegr dros £180,000 yn unig, neu a ddylwn i ddweud yn uwch na'r holl brisiau prynu yn Lloegr ychydig yn uwch na £180,000, hyd yn oed ar ôl y gwyliau cyfraddau uwch a gyflwynwyd gan Lywodraeth y DU mewn ymateb i bandemig COVID ddod i ben?
Ac yn olaf, mae'r Gweinidog yn cyfeirio at y potensial ar gyfer treth dwristiaeth. Sut y bydd yn sicrhau bod ystyriaeth wrthrychol yn cael ei rhoi i'r dystiolaeth gref iawn gan y sector y byddai hyn yn niweidiol i dwristiaeth yng Nghymru, y byddai hyn yn niweidiol i fuddsoddiad, yn niweidiol i swyddi, ac yn y pen draw yn lleihau'r dreth a dderbynnir gan Lywodraeth Cymru?
Rwy'n ddiolchgar i Mark Isherwood am y cwestiynau yna y prynhawn yma, ac rwy'n ei groesawu i'w bortffolio newydd. Felly, dechreuodd Mark Isherwood drwy sôn am ddull cyffredinol Llywodraeth Cymru o drethu, ac mae gennym sylfaen gadarn iawn ar gyfer ein polisi treth i Gymru, a nodir ar sail pum egwyddor. Hynny yw y dylai trethiant godi refeniw i gefnogi gwasanaethau cyhoeddus mewn modd mor deg â phosibl—nid wyf yn siŵr a oes llawer y gellid anghytuno ag ef yn y fan yna. Dylai trethiant helpu i gyflawni amcanion cyllidol a pholisi ehangach, gan gynnwys swyddi a thwf. Dylai trethiant fod yn syml ac yn glir ac yn sefydlog. A dylid datblygu trethiant drwy ymgysylltu â threthdalwyr a rhanddeiliaid. Yn olaf, dylai trethiant gyfrannu'n uniongyrchol at nod Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 o greu Cymru fwy cyfartal. Ac rwy'n credu bod y rheini'n sylfeini cryf i seilio ein polisi treth arnynt
Roedd fy natganiad y prynhawn yma'n ymwneud â'r trethi datganoledig, y gwyddys yn gyffredinol eu bod yn dreth gwarediadau tirlenwi, treth trafodiadau tir a chyfraddau treth incwm Cymru, ond gwn fod gan Mark Isherwood ddiddordeb arbennig yn ein hymagwedd at drethiant lleol, gan gynnwys y dreth gyngor ac ardrethi annomestig. O ran y dreth gyngor, yn ystod tymor y Senedd hon rydym wedi cymryd camau sylweddol ymlaen o ran gwneud y dreth gyngor yn decach. Rydym wedi eithrio pobl ifanc sy'n gadael gofal o'r dreth gyngor hyd at 25 oed. Rydym wedi dileu'r gosb o garchar am beidio â thalu'r dreth gyngor, oherwydd yn ein plaid ni nid ydym yn credu mai trosedd yw bod yn dlawd, ac rydym wedi gwella'r modd y sicrheir gostyngiadau ar gyfer pobl â namau meddyliol difrifol ac wedi gweithredu protocol sy'n canolbwyntio ar y dinesydd ar gyfer rheoli'r broses o gasglu'r dreth gyngor ac ôl-ddyledion, a hefyd wedi annog pobl i fanteisio ar yr holl gymorth sydd ar gael o ran y dreth gyngor, ac rydym wedi gwneud hynny gan roi cymorth ariannol sylweddol i awdurdodau lleol er mwyn eu galluogi i ymgymryd â'r gwaith hwnnw.
O ran y pryderon penodol sy'n ymwneud â phremiymau'r dreth gyngor ar gartrefi gwag hirdymor ac ail gartrefi, mae gan awdurdodau lleol yng Nghymru y pŵer disgresiwn hwnnw i osod y premiymau hynny o hyd at 100 y cant ar filiau'r dreth gyngor ar gyfer cartrefi gwag hirdymor ac ail gartrefi yn eu hardaloedd. Mae'r pwerau hynny wedi bod ar gael ers 2017. Gofynnodd awdurdodau lleol am y pwerau hynny, ac roeddem yn falch o'u darparu. Nawr, mater i bob awdurdod lleol yw penderfynu sut y bydd yn ymgymryd â'i benderfyniad—pa benderfyniad y bydd yn ei wneud ynghylch a fydd yn defnyddio'r pŵer hwnnw'n lleol ai peidio.
O ran treth trafodiadau tir a'r effaith ar fusnes, wel, y penderfyniad a gyhoeddais ochr yn ochr â'r gyllideb ddrafft yw na fydd busnesau nawr, ar y cyfan, yn talu treth ar brynu eiddo dibreswyl sy'n costio llai na £225,000. Bydd hyn yn rhoi swm bach ond pwysig o gymorth ychwanegol i fusnesau drwy leihau'r cyfalaf sydd ei angen i fuddsoddi mewn eiddo busnes newydd, a bydd y newidiadau hynny'n arwain at lai o drafodion dibreswyl yn talu treth ar gaffael eiddo wrth ymrwymo i brydles newydd, a bydd yn arbed treth i'r holl fusnesau hynny sy'n prynu eiddo y bydd rhwymedigaeth dreth arno o hyd. Bydd yr arbedion mwyaf fel cyfran o'r dreth sy'n daladwy yn effeithio fwyaf ar fusnesau bach a chanolig eu maint. Felly, gwnes y penderfyniad hwn yn ymwybodol iawn o'r cyfnod anodd y mae busnesau bach yn arbennig ynddo, gan ddeall bod gennym lawer o entrepreneuriaid sy'n awyddus i sefydlu busnes bach, ac rwyf am greu'r hinsawdd iawn er mwyn iddyn nhw allu gwneud hynny.
Ac yna'n olaf, ar drethi newydd, fe welwch o'n cynllun gwaith treth ein bod wedi bod yn archwilio'n ddiwyd iawn y gwahanol fathau o drethi newydd y gellid eu cyflwyno yng Nghymru, a'r pedwar a wnaethom eu dewis i'w harchwilio yn y lle cyntaf oedd y rhai a ymddangosodd yn gryf iawn yn yr ymgynghoriad cyhoeddus a gynhaliwyd gennym. Arweiniodd y Prif Weinidog, pan oedd yn y swyddogaeth hon, at yr ymgynghoriad hwnnw, ac mewn gwirionedd credaf fod tua 200 o syniadau ar gyfer trethi newydd wedi'u cyflwyno gan bobl ledled Cymru. Ac aethom ati i archwilio'r dreth dwristiaeth, treth bosibl ar blastigau, er enghraifft, ond, yn y lle cyntaf, fe wnaethom y penderfyniad y byddem yn bwrw ymlaen â'r dreth bosibl ac yn ceisio datganoli'r pwerau treth ar gyfer tir gwag, ac, fel y dywedais yn fy natganiad, mae hynny wedi methu ar y cam cyntaf. Rydym wedi cael amser anodd iawn yn ymgysylltu â Llywodraeth y DU yn ystyrlon ar hyn, ac mae'n drueni mawr nad ydym wedi llwyddo gyda chais cymharol annadleuol a syml.
Diolch. Hoffwn atgoffa'r Aelodau'n garedig mai datganiad 30 munud yw hwn ac rydym hanner ffordd drwy'r amser a neilltuwyd nawr, ac mae gennyf nifer o siaradwyr na fyddan nhw, mae'n debyg, yn cael eu galw. Rhun ap Iorwerth.
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Diolch i'r Gweinidog am y datganiad yna. Diolch i Mark Isherwood ar ran y Ceidwadwyr am bwysleisio mor wael mae Cymru wedi cael ei gwasanaethu gan y Deyrnas Unedig dros y blynyddoedd hefyd. Rydyn ni yn siarad, onid ydyn, yn y blynyddoedd cynnar yma o hawliau codi trethi Cymreig, am rywbeth sydd yn hanesyddol—mae o'n air dwi wedi'i ddefnyddio ac mae o'n air mae eraill wedi'i ddefnyddio hefyd. Ac mae o'n egwyddor cwbl greiddiol. Rydyn ni'n mynd yn ôl at y comisiwn Silk yn datgan yr egwyddor bwysig honno o'r berthynas gwbl greiddiol rhwng trethi ac atebolrwydd, a dyna rydyn ni'n sôn amdano fo yn fan hyn. Y mwyaf o rymoedd trethu sydd gan y Senedd hon, y mwyaf atebol ydym ni i bobl Cymru, ac mae hynny'n rhywbeth i'w groesawu. A rydyn ni'n mynd i etholiad, lle, rŵan, yn y dirwedd newydd honno, mae gan bobl Cymru y gallu i edrych ar wahanol addewidion trethu y pleidiau, ac mae'n drafodaeth hynod, hynod bwysig i'w chael.
Dwi'n siomedig efo'r datblygu sydd wedi bod ar ben y trethi sydd wedi cael eu cyflwyno'n barod. Mae'r dreth trafodion tir wedi gweithio'n dda, dwi'n credu. Mae'r graddfeydd Cymreig o dreth incwm yn allweddol er mwyn creu'r atebolrwydd roeddwn i'n cyfeirio ato fo, ac mae'r dreth gwastraff tirlenwi yn un bwysig ynddi ei hun, ond mae eisiau edrych ar ba mor bell y gallwn ni fynd.
Mae'r Llywodraeth wedi cyfeirio at bedwar math o dreth y bydden nhw eisiau edrych arnyn nhw: lefi gofal cymdeithasol—dwi yn edrych ymlaen at weld sut mae'n bosib darparu gofal cymdeithasol o fewn y gwariant cyffredinol ac dwi'n siŵr bod modd gwneud hynny. Mae'r Llywodraeth eisiau edrych ar dreth gwaredu plastig. Mae yna dair blynedd a mwy ers i Blaid Cymru orfodi pleidlais yn y Senedd hon, gan ddweud ein bod ni eisiau gweld y dreth honno, a ble'r ydym ni dair blynedd ymlaen? Y dreth dwristiaeth: dwi ddim yn meddwl, ar ôl y flwyddyn sydd wedi bod, y dylem ni fod yn sôn am dreth dwristiaeth—nid dyna y mae'r sector eisiau ei glywed, rŵan. Mi ydw i, er hynny, yn meddwl bod yna bethau arloesol y gallwn eu gwneud drwy ryw fath o lefi a fyddai'n rhoi gwell gwasanaeth i dwristiaid, a fyddai'n cryfhau isadeiledd i warchod ein cymunedau ni lle mae twristiaeth ar ei phrysuraf, i hybu twristiaeth gynhenid, ond mae eisiau bod yn ofalus iawn, iawn wrth sôn am dreth dwristiaeth rŵan.
A'r pedwerydd ohonyn nhw, y dreth tir gwag, mae'r Llywodraeth, a bod yn deg, wedi bod yn eglur iawn yn gwthio'r syniad hwn. Rwyf finnau'n rhannu siom, yn sicr, y Gweinidog yn ymateb Llywodraeth Prydain. Mae o yn brawf o fethiant y broses rynglywodraethol bod yna ddim tir go iawn wedi cael ei ennill ar y drafodaeth yma. Mae o'n arwydd, dwi'n ofni, o agwedd Llywodraeth Prydain tuag at roi caniatâd i Gymru ymestyn ei hawliau yn y maes trethu, fydd mor bwysig yn y blynyddoedd i ddod. Mi ydw i, serch hynny, yn galw ar y Gweinidog i beidio â rhoi i fyny, rŵan. Dwi'n gobeithio mai fy mhlaid i fydd yn llywodraethu ar ôl mis Mai, ond mae yna gyfnod i fynd tan hynny, felly peidiwch â llaesu dwylo ar y gwaith o drio gwthio ar y dreth hon. Dwi'n eich annog chi i wthio pethau tan y funud olaf.
Un pwynt pellach: mae o yn eich grym chi i newid y rheolau sydd yn caniatáu, fel y dywedodd Mark Isherwood, i bobl optio allan o dalu treth yn llwyr ar ail eiddo ar hyn o bryd yng Nghymru. Mae'r gallu gan Lywodraeth Cymru i gau'r loophole er mwyn sicrhau bod y rheini sydd yn berchen ar ail gartrefi ac sydd, ar hyn o bryd, yn gallu manteisio ar y rheolau er eu budd eu hunain, ddim yn gallu gwneud hynny. Dwi'n sylweddoli, yn y datganiad sydd wedi cael ei wneud ar hyn gan y Llywodraeth yr wythnos yma, dydych chi ddim yn mynd yn ddigon pell nac yn symud yn ddigon cyflym; mae angen gweld gwella ar hynny, fel rhan o'r newidiadau rydyn ni angen eu gweld i'r tirwedd trethiant yng Nghymru.
Diolch. Dechreuodd Rhun ap Iorwerth drwy sôn am bwysigrwydd trethiant ac atebolrwydd a thryloywder. Rwy'n falch iawn mai Llywodraeth Cymru yw'r unig Lywodraeth ledled y Deyrnas Unedig a fydd wedi cyflwyno tair cyllideb atodol yn ystod y flwyddyn ariannol hon. Ac, wrth gwrs, mae cysylltiad mor agos rhwng ein cyllidebau a'r refeniw a godir yma yng Nghymru. Credaf fod lefel y tryloywder yr ydym wedi'i ddarparu ar draws y flwyddyn ariannol yn hyn o beth wedi bod yn eithriadol, ac yn sicr mae wedi bod yn fwy nag yn unrhyw ran arall o'r Deyrnas Unedig. Byddwn yn awyddus—ac rwy'n siŵr y byddai Gweinidog cyllid yn y dyfodol yn awyddus—i archwilio sut y gall adeiladu ar y math o dryloywder yr ydym wedi gallu ei gyflawni eleni.
Soniodd Rhun ap Iorwerth am nifer o feysydd treth newydd yr ydym yn edrych arnyn nhw, a chyfeiriodd yn benodol at yr achos dros y dreth ar dir gwag. Dyma'r tro cyntaf inni lywio'r broses y cytunwyd arni gyda Llywodraeth y DU. Yn anffodus, mae rhywbeth ar goll. Mae dros ddwy flynedd a hanner wedi mynd heibio ers cyflwyno'r cynnig i Lywodraeth y DU am y tro cyntaf. Er gwaethaf yr hyn sydd, ar rai adegau, wedi ymddangos yn berthynas weddol gynhyrchiol, ym mis Awst cawsom lythyr siomedig iawn gan Ysgrifennydd Ariannol y Trysorlys, ac ail-agorodd hynny gyfres gyfan o gwestiynau yr oeddem yn credu eu bod eisoes wedi'u hateb yn ein trafodaethau blaenorol. Felly, mae'n wir fod gan y broses rai diffygion difrifol. Credaf fod hyn yn ymwneud yn sylfaenol â Llywodraeth y DU yn farnwr ac yn rheithgor ar yr holl bethau hyn, ac yn sicr mae angen dull annibynnol ar gyfer trafod ac apelio yn erbyn y penderfyniadau hynny.
Cyfeiriwyd hefyd at yr ardoll gofal cymdeithasol bosibl, a'r gwaith sydd wedi bod yn mynd rhagddo i gwmpasu sut y gallai rhywbeth fel yna weithio, pe bai Llywodraeth yn y dyfodol yn penderfynu gwneud hynny. Mae fy nghyd-Weinidog, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, yn bwriadu rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd am waith y grŵp rhyng-weinidogol ar dalu am ofal cymdeithasol. Ond, mae'n wir fod cyllid wedi bod yn rhan bwysig iawn o hynny, a gwn y bydd nifer o gydweithwyr wedi cymryd rhan yn y sesiynau briffio technegol a ddarparwyd yn ddiweddar iawn yn hynny o beth.
Y dreth blastig untro: wel, mae hyn yn rhywbeth lle bu cryn dipyn o waith gyda Llywodraeth y DU, mewn gwirionedd, yn yr achos hwn, archwilio'r dewisiadau ar gyfer mynd i'r afael â defnydd a gwastraff plastig diangen, a chydnabod y manteision yn yr achos hwn y byddai mabwysiadu dull gweithredu ledled y DU yn eu cynnig. Mae hynny wedi cynnwys cefnogi ymgynghoriadau ar dreth pecynnau plastig yn y DU, cyfrifoldeb estynedig cynhyrchwyr am ddeunydd pacio, a'r potensial ar gyfer cynllun dychwelyd ernes ar gyfer cynwysyddion diodydd. Cyhoeddodd Llywodraeth y DU ymgynghoriad pellach ar gynllunio manwl y dreth pecynnau plastig fel rhan o gyllideb Llywodraeth y DU y llynedd, ac rydym yn gweithio'n agos gyda Llywodraeth y DU ar hynny. Fel y dywedais, mae rhai meysydd lle rwy'n credu ei bod yn rhesymol ac yn ddymunol cydweithio.
Yn olaf, treth na soniodd Rhun ap Iorwerth amdani, ond gwn ei fod yn rhannu fy marn, sef toll teithwyr awyr. Unwaith eto, dyma un o'r meysydd hynny lle na fyddwn yn sicr yn rhoi'r gorau i geisio ei ddatganoli, o ystyried y rhan bwysig y gallai ei chwarae wrth gefnogi economi Cymru. Rydym ni'n credu bod gan Lywodraeth y DU safbwynt cwbl anghynaliadwy ar hyn, ac rwy'n ddiolchgar am y gefnogaeth drawsbleidiol sydd gennym yn hynny o beth yn y Senedd.
Pan fyddaf yn meddwl am dreth, rwy'n meddwl am y stori plant pan ddywedir wrth rywun, 'Mae gennych bŵer mawr; byddwch yn ofalus sut yr ydych chi'n ei ddefnyddio.' Mae'r Gweinidog yn cyfeirio at y trethi newydd—y dreth trafodiadau tir, y dreth gwarediadau tirlenwi a chyfraddau treth incwm Cymru—sydd wedi'u hychwanegu at y dreth gyngor ac ardrethi busnes. Rhaid i drethiant fod yn flaengar, gyda'r rhai sydd â'r mwyaf o arian a'r gallu i dalu fwyaf. Felly, mae angen dileu bylchau.
Mae treth yn bodoli i dalu am wasanaethau cyhoeddus—y gwasanaethau cyhoeddus y mae arnom ni i gyd eu hangen. Hoffwn ofyn i'r Gweinidog am y wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd o ran treth ar blastig. Os nad oes gennym dreth ar blastig, ni fyddwn yn ymdrin â llygredd plastig. Mae pob un ohonom wedi gweld mwy a mwy o eitemau a arferai fod mewn gwydr bellach mewn plastig. Yr un diweddaraf a'm synnodd fwyaf oedd finegr.
Hefyd, treth dwristiaeth. Mae hon yn gyffredin ledled y byd. Mae'n sicr yn haeddu ymchwiliad. A minnau'n un a dalodd £135 am ystafell am noson mewn gwesty cadwyn pris rhesymol, ni welaf sut y byddai'n effeithio ar fforddiadwyedd. Mae gan leoedd fel Efrog Newydd dreth dwristiaeth. Prin ei bod yn cael ei hystyried yn gadarnle Marcsaidd.
A gaf i ddweud hefyd fod angen mwy o fandiau ar y dreth gyngor? Mae angen mwy ar y gwaelod a mwy ar y brig. Mae Band B yn dechrau'n llawer rhy uchel, ac mae'r band uchaf yn gorffen pan fo lle i o leiaf dri band, a phedwar arall o bosibl. Rwy'n dal i rygnu ymlaen am hyn, ond er mwyn bod yn deg, ni ddylai rhywun mewn tŷ gwerth £5 miliwn fod yn talu'r un faint â rhywun mewn tŷ gwerth £0.5 miliwn.
Diolch. Felly, gan adeiladu ar y sylwadau a wnes i mewn ymateb i gwestiynau Rhun ap Iorwerth yn ymwneud â threth ar blastig, gallaf gadarnhau bod Llywodraeth Cymru wedi bod yn hwyluso digwyddiadau ymgysylltu â rhanddeiliaid allweddol yng Nghymru mewn cysylltiad â'r gwaith y disgrifiais ein bod ni yn ei wneud gyda Llywodraeth y DU. Ym mis Mai y llynedd, er enghraifft, anogwyd rhanddeiliaid i fynychu digwyddiad rhannu gwybodaeth ar y dreth pecynnau plastig, dan arweiniad Llywodraeth y DU. Ond, ym mis Awst, arweiniodd Llywodraeth Cymru, ochr yn ochr â WRAP Cymru a Llywodraeth y DU, ddigwyddiad ymgysylltu yn benodol ar gyfer rhanddeiliaid o Gymru yn y diwydiant pecynnau plastig.
Mae swyddogion o fewn Trysorlys Cymru yn parhau i weithio gyda Llywodraeth y DU ar y camau nesaf i sicrhau bod sylwadau Cymreig gan randdeiliaid allweddol yma yn rhan o'r broses ac yn cael eu clywed yn glir, gan arwain at weithredu'r dreth, credaf o bosibl, os aiff pethau yn ôl y bwriad, yn 2022. Er enghraifft, mae swyddogion yn trafod cymorth i fusnesau, o gofio bod hon yn dreth gymhleth, hyd yn oed i'r rhai â phrofiad yn y math hwn o ddeddfwriaeth, a hefyd yr anhawster i gyrraedd busnesau bach a chanolig eu maint yn ystod y broses ymgynghori. Roedd gweithgorau diwydiant yn digwydd bob ychydig fisoedd, a bydd ymgynghoriad technegol nawr ar y ddeddfwriaeth yn gam pellach. Felly, mae gwaith da yn mynd rhagddo yma, ac mae buddiannau Cymru wedi'u cynrychioli'n dda iawn yn y gwaith hwnnw.
Ochr yn ochr â hynny, fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru hefyd wrthi'n adeiladu sylfaen dystiolaeth i asesu rhinweddau cyflwyno treth neu dâl sy'n benodol i Gymru ar gwpanau plastig untro. Ac rydym hefyd yn ceisio cael gwell dealltwriaeth o'r farchnad a'r defnydd o gwpanau o'r fath. Felly, mae hwn yn faes penodol a allai fod yn addas yn y dyfodol.
O ran y dreth gyngor, mae Mike Hedges a finnau wedi trafod hyn droeon, a bydd yn ymwybodol o'r gyfres o ymchwil yr ydym wedi'i chomisiynu, a chafodd y Prif Weinidog gyfle i gyfeirio at rywfaint ohoni yn ystod cwestiynau'r Prif Weinidog yn gynharach, sydd, o bosibl, yn nodi llwybr ar gyfer trethiant lleol tecach yn y dyfodol. Rwy'n credu bod posibiliadau gwych, ac yn sicr bydd yr ymchwil sydd wedi bod yn dod i mewn, ac yr wyf wedi'i ddarparu i gydweithwyr drwy ddatganiadau ysgrifenedig, yn sicr yn ein helpu i ddod o hyd i'n ffordd ymlaen ynghylch hynny.
Llyr Gruffydd. Dim Llyr Gruffydd?
Na.
Ah. Llyr Gruffydd?
Na. Ymddiheuriadau, Dirprwy Lywydd, bu—[Anghlywadwy.]
Diolch. Mae hynny'n gwneud fy amseru ychydig yn haws. Diolch. Alun Davies.
Rwy'n ddiolchgar i chi, Dirprwy Lywydd, ac yn ddiolchgar i'r Gweinidog am ei datganiad. Mae dau fater yr wyf am eu codi gyda hi y prynhawn yma. Yn gyntaf oll mae swyddogaeth treth, nid yn unig fel modd o godi refeniw, ond hefyd fel dull polisi i gyflawni a llunio polisi. Rwy'n siomedig nad yw'r Llywodraeth yn cynnwys cynaliadwyedd fel un o'i hegwyddorion allweddol ar gyfer trethiant. Credaf y dylem fod yn edrych tuag at ddefnyddio treth i gyfyngu, o bosibl, neu gosbi os hoffech chi, defnyddio adnoddau a llunio ymateb i bolisi hinsawdd, sy'n fwy dwys nag a wnawn ar hyn o bryd. Mae rhai o'r materion yr ydym wedi'u trafod y prynhawn yma, o ran plastigau ac o ran taliadau dychwelyd, yn rhan o'r maes hwnnw, ond credaf y dylai'r Llywodraeth ddefnyddio treth fel modd o gyflawni ei hegwyddorion cynaliadwyedd hefyd, a hoffwn weld hynny o fewn y gyfres gyffredinol o egwyddorion y mae'r Llywodraeth yn ei defnyddio.
Mae'r ail bwynt yn ymwneud â'r hyn yr ydych yn ei alw'n drethiannau newydd, a'r broses sydd wedi methu gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Nid yw'r rheini ohonom a ddioddefodd y Gorchmynion cymhwysedd deddfwriaethol byth am weld un o'r rheini'n dod ger ein bron eto. Roedd yn broses boenus a oedd yn llawn bwriadau da ond a ddymchwelodd o dan bwysau ei biwrocratiaeth ei hun. Rwy'n credu bod ASau ac ACau, fel yr oeddem ar y pryd, gyda'n gilydd yn casáu'r broses, ac yn sicr nid ydym eisiau mynd yn ôl i'r dyddiau hynny. Ond mae angen proses sy'n gweithio arnom. Nid yw'n syndod nad oes gan y Deyrnas Unedig bresennol unrhyw ddiddordeb mewn gweithio gyda'r gweinyddiaethau datganoledig ar unrhyw beth realistig o gwbl, ond mae arnom angen proses sy'n gweithio.
Fel eraill y prynhawn yma, nid oes gennyf unrhyw broblem o ran y dreth dwristiaeth na threth ar dir gwag nac unrhyw beth arall. Rydych yn talu treth dwristiaeth yn y rhan fwyaf o wladwriaethau yn y byd, hyd y gwn i—
Bydd yn rhaid i'r Aelod ddod â'i sylwadau i ben.
Fe wnaf hynny. Mae'n ymddangos braidd yn wrthnysig ein bod yn cael y ddadl hon yma. Felly, hoffwn glywed gan y Llywodraeth sut y mae'n bwriadu mynd ar drywydd y mater hwn yn y dyfodol. Oherwydd rwy'n credu ei fod yn rhan bwysig o'r strwythur llywodraethu cyffredinol y gall y Llywodraeth fynd ar drywydd trethiadau amgen.
Cytunaf yn llwyr ag Alun Davies fod dwy ochr i'r geiniog, os hoffech chi, o ran codi trethiant yma yng Nghymru. Mae un yn ymwneud â chodi refeniw, ond mae'r llall, wrth gwrs, yn ymwneud â newid ymddygiad. Mae ein treth gwarediadau tirlenwi yn dangos hynny'n glir iawn, oherwydd rydym eisiau gweld y ffigurau hynny'n gostwng mewn gwirionedd. Rwy'n awyddus i archwilio, yn y dyfodol, beth arall y gallwn ei wneud gyda threth gwarediadau tirlenwi o ran cefnogi'r economi gylchol honno yr ydym ni eisiau ei gweld.
Cyfeiriodd Alun Davies yn benodol at ein fframwaith polisi treth, sy'n seiliedig ar y pum egwyddor hynny, ac, mewn gwirionedd, o ganlyniad i sgyrsiau yr wyf wedi'u cael o'r blaen gydag Alun Davies ar lawr y Senedd, a hefyd rhywfaint o drafodaeth yn y Pwyllgor Cyllid, rwyf wedi gofyn i swyddogion ddechrau darn o waith sy'n adolygu'r egwyddorion hynny, i archwilio ai nhw yw'r egwyddorion cywir i ni o hyd wrth symud ymlaen neu a oes angen i ni eu newid a'u haddasu. Yn sicr, rwy'n credu bod y swyddogaeth bwysig honno sydd gan dreth o ran cyflawni'r Gymru wyrddach honno yr ydym ni eisiau ei gweld, yno gyda'r egwyddorion posibl hynny ar gyfer y dyfodol.
Yna roedd y pwynt pwysig ynghylch a yw'r cydberthnasau rhynglywodraethol yn gweithio ai peidio ac i ba raddau y mae'r dulliau gweithredu sy'n cefnogi hynny hefyd yn gweithio. Rwy'n credu y byddai hyn yn sicr yn faes lle byddem eisiau gweld gwell gweithio gyda Llywodraeth y DU, ond mae'n faes sy'n uniaethu'n gryf iawn ag un o'r meysydd hynny lle mae angen canolwr annibynnol arnom nawr i archwilio'r dystiolaeth yr ydym wedi'i darparu, sydd, yn ein barn ni, yn bodloni popeth y mae'n ofynnol i ni ei wneud o dan y Ddeddf yn llawn, o ran darparu gwybodaeth a data a safbwyntiau ac ati er mwyn gweld datganoli'r pŵer. Rwy'n credu bod angen y farn o'r tu allan honno arnom ni ynghylch a oes mwy sy'n ofynnol i ni ei wneud ai peidio, neu a yw'r oedi'n gwbl wleidyddol, fel y credaf y gallai fod, ar ran Llywodraeth y DU.
Gweinidog Cyllid, rwy'n cytuno â llawer o'r hyn y gwnaethoch chi ei ddweud am Awdurdod Cyllid Cymru a pha mor dda y mae'n llwyddo fel sefydliad. Rwyf hefyd wedi mwynhau o leiaf un o'r cynadleddau treth yr ydych chi wedi'u cynnal. Dydw i ddim yn credu mai'r rheswm dros lwyddiant ACC yw oherwydd ei fod wedi'i wneud ar sail Cymru yn hytrach na sail y DU, ond rwy'n credu ei fod yn mynd i ddangos faint yn fwy effeithlon y gellir darparu gwasanaethau cyhoeddus pan fyddwch yn dechrau gyda llechen lân ac nad oes gennych y systemau TG a etifeddwyd. Rwy'n credu bod symud yr holl TG i'r system gwmwl a'r ffordd y maen nhw wedi rheoli hynny wedi bod yn llwyddiant gwirioneddol.
Gwnaethoch sôn yn fyr iawn am gyfraddau treth incwm Cymru. Yn amlwg, rydym yn anhapus eu bod wedi'u datganoli heb y refferendwm a addawyd yn flaenorol. Fodd bynnag, a gaf i ofyn i chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni am y golled refeniw yn sgil datganoli'r cyfraddau hyn yng Nghymru? Yn amlwg, nid ydyn nhw wedi cael eu newid eto, felly nid ydyn nhw wedi cael y lefel o ddiddordeb cyhoeddus y byddent wedi'i gael pe baent wedi eu newid, yn sicr pe bai'r trethi'n codi. Onid yw'n wir fod yr arenillion o'r 10 y cant hwn o gyfraddau Cymru yn llai na'r disgwyl? Ac er bod rhywfaint o amddiffyniad o hyd, oni wyddom gan y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol ein bod bellach yn cael llawer llai o arian oherwydd y lefel honno o ddatganoli? A allwch gadarnhau sawl miliwn yw hynny nawr?
Yn olaf gennyf fi, rydych chi'n dweud fod y broses ar gyfer trethi newydd wedi methu yn ei brawf cyntaf. Byddwn i'n dweud ei fod wedi llwyddo gan ei fod wedi atal datganoli trethi newydd. Mae Llywodraeth Cymru wedi edrych ar y dull hwn ac ymddengys ei bod wedi tybio mai ei bwriad yw datganoli llawer mwy o drethi—trethi ychwanegol y byddai pobl yn hoffi eu cael efallai am ba reswm bynnag—. Mewn gwirionedd, mae'r broses wedi atal hynny, ac mae hynny'n rhywbeth yr ydym yn ei groesawu. Dywedodd y Prif Weinidog, yn ei swyddogaeth flaenorol, ei fod am brofi'r dulliau. Mae hynny wedi'i wneud erbyn hyn; nid yw'n arwain at ddatganoli trethi newydd, diolch byth. Felly—
A wnaiff yr Aelod ddod â'i sylwadau i ben?
—a gawn ni roi'r gorau i wastraffu amser pobl wrth gael 200 o syniadau newydd ac archwilio pob un yn ddiwyd iawn, a derbyn na fydd trethi newydd yn cael eu datganoli?
Fe wnaf ddechrau drwy groesawu geiriau caredig Mark Reckless am Awdurdod Cyllid Cymru; rwy'n credu ei fod wedi perfformio'n eithriadol o dda, ac mae'n cymryd ymagwedd gwbl wahanol at gasglu trethi o'i gymharu â Chyllid a Thollau Ei Mawrhydi neu awdurdodau refeniw eraill. Mae'r ffaith ei fod wedi gallu adeiladu rhywbeth cwbl newydd a ffres wedi ei alluogi i berfformio'n dda iawn. Caiff dros 98 y cant o'r ffurflenni eu ffeilio'n ddigidol, 98 y cant eu ffeilio'n brydlon, ac mae 87 y cant o'r trafodion yn cael eu cyflawni heb angen unrhyw ymyrraeth â llaw o gwbl. A chanfu 88 y cant o'r bobl a holwyd am eu profiadau o ddefnyddio'r system ei bod yn hawdd ei defnyddio. Felly, rwy'n credu bod hynny'n gadarnhaol iawn, ac rwy'n credu bod y tîm wedi gwneud gwaith hollol ragorol.
Mae'n debyg mai dyna lle mae'r cytuno rhwng Mark Reckless a finnau'n dod i ben. Ond soniodd am WRIT, ac yn enwedig rhagweld WRIT. Rhagolwg diweddaraf y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol ar gyfer refeniw WRIT yn 2021-22 yw £2.064 biliwn, a dyna'r ffigur yr ydym ni wedi'i gynnwys yn y gyllideb ddrafft. Mae'r refeniw a ragwelir, fel y gwn fod Mark Reckless yn ymwybodol ohono, £35 miliwn yn is na'r addasiad i'r grant bloc cysylltiedig, yn seiliedig ar y rhagolwg ar gyfer refeniw cyfatebol yn Lloegr a Gogledd Iwerddon. Ond mae'r ffordd y cyfrifir yr addasiad i'r grant bloc wedi'i nodi yn y cytundeb fframwaith cyllidol, ac mae'r cytundeb hwnnw hefyd yn cynnwys cyflwyno ffactor sy'n seiliedig ar anghenion yn fformiwla Barnett, a sicrhawyd gan Lywodraeth Cymru yn rhan o'r pecyn. Mae hynny wedi darparu bron i £600 miliwn o gyllid ychwanegol i Gymru. Felly, rwy'n credu bod hynny'n fwy na gorbwyso'r £35 miliwn y mae Mark Reckless yn cyfeirio ato.
O ran y pwynt olaf, a oedd yn ymwneud â'r dreth ar dir gwag a'r ffordd y mae'r system yn gweithio, wrth gwrs, cytunwyd ar y broses ar y cyd gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru, felly y mae o fantais i ni gyd, rwy'n credu, bod y broses yn gweithio o leiaf. Dyma'r pwynt ynghylch Llywodraeth y DU yn gwneud penderfyniadau ynghylch mantais y dreth, am bolisi y tu ôl i dreth, pan na ddylai fod yn edrych ar hynny mewn gwirionedd, dylai fod yn edrych ar ble mae'r cymwyseddau ac yn archwilio datganoli ar y sail honno. Felly, dyna lle mae'r system, mi gredaf, wedi methu y tro hwn.
Yn olaf ac yn fyr, John Griffiths.
Gweinidog, a fyddech chi'n cytuno â mi ei bod wedi bod yn rhwystredig iawn dros flynyddoedd Llywodraethau Ceidwadol yn San Steffan i weld polisïau blaengar Llywodraeth Cymru yn cael eu tanseilio gan y mesurau a gymerwyd yn San Steffan, a pho fwyaf y gallwn ni dynnu pwerau i Gymru, gan gynnwys pwerau trethu, gorau oll fydd sefyllfa Llywodraeth Cymru i ymateb i'r hyn y mae pobl Cymru yn ei ddymuno, sef Cymru decach? Dyna'r hyn y maen nhw'n pleidleisio amdano pan fyddan nhw'n ethol Llywodraethau Llafur, ac mae'r trethi newydd hyn—y dreth trafodiadau tir, er enghraifft—yn cynnig y gallu i wneud hynny. I ryw raddau, mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud hynny. Wrth edrych ar amrywiadau yn y dreth gyngor a bandiau newydd posibl, rwy'n siŵr y bydd Llywodraeth Cymru yn gwneud yr un peth. A wnewch chi ddweud wrthym, Gweinidog, yn eich gwaith yn ymgysylltu â phoblogaeth Cymru ynghylch trethi a threthiant newydd yng Nghymru, a yw'r awydd hwnnw am degwch wedi ei amlygu'n gryf? Ac os felly, a wnaiff Llywodraeth Cymru sicrhau ei bod yn ymateb yn briodol? Ac yn gyflym iawn ar y dreth dwristiaeth, tybed a fyddech yn cytuno mai taliad bach i bobl ei wneud o ran trethi twristiaeth ydyw, ond gall gael effaith fawr ar wella'r cynnyrch twristiaeth, a fydd o fudd mawr i weithredwyr twristiaeth a chymunedau ledled Cymru.
Diolch yn fawr iawn i John Griffiths am godi'r mater yna. Mae'n rhoi cyfle i mi ddarparu enghreifftiau o sut mae Llywodraeth Cymru yn gwneud penderfyniadau gwahanol i Lywodraeth y DU lle mae gennym gyfrifoldeb dros drethi.
Un, wrth gwrs, yw'r dreth trafodion tir. Mae gennym y system fwyaf blaengar yma yng Nghymru. Nid yw ein rhyddhad yn gyfyngedig i brynwyr tro cyntaf yn unig—er bod y rhan fwyaf o brynwyr tro cyntaf yn elwa—mewn gwirionedd, sylweddolwyd bod pobl ar incwm cymharol fach sy'n prynu eiddo cymharol fach yn dal i fod angen y math hwnnw o gymorth, p'un ai dyma'r tro cyntaf iddyn nhw brynu cartref neu eu bod yn symud ymlaen i eiddo mwy, neu'n symud i rywbeth llai. Felly, rydym yn awyddus i weld beth y gallwn ni ei wneud i ddefnyddio ein system i roi cymorth i bawb sydd ei angen. Ac, unwaith eto, gyda'r dreth gwarediadau tirlenwi, fe wnaethom ni gymryd ymagwedd wahanol yma, a chyflwyno'r lefel gwastraff anawdurdodedig honno er mwyn sicrhau bod pobl a oedd yn tipio'n anghyfreithlon ac ati yn talu mwy o ganlyniad i hynny. Unwaith eto, rwy'n credu bod hynny'n ymwneud â thegwch. Rwy'n credu bod ymwybyddiaeth y cyhoedd o drethi Cymru a barn y cyhoedd am drethi Cymru yn cefnogi awydd i gael system wirioneddol flaengar.
Ac yna, yn olaf, ar dreth dwristiaeth bosibl, fel y dywedais i, mae'n rhywbeth yr ydym ni yn ei gwmpasu ar hyn o bryd o ran cael rhai trafodaethau gyda'r sector twristiaeth a gydag awdurdodau lleol. Mae'r gwaith hwnnw wedi'i oedi, os hoffech chi, drwy'r pandemig, oherwydd mae'n amlwg bydd amser i gael y trafodaethau hynny, a gyda'r pwysau a'r straen a deimlir gan y diwydiant twristiaeth, yn sicr nid dyma'r amser i gael y trafodaethau hynny. Ond, yn y dyfodol, gallai treth fod yno i gefnogi'r diwydiant twristiaeth gyda refeniw yn cael ei ail-fuddsoddi yn y cynnig twristiaeth yn lleol. Ond gallai fod yn rhywbeth, rwy'n credu, i awdurdodau lleol feddwl amdano yn unigol. Byddwn yn parhau i gael y trafodaethau hynny er mwyn deall barn awdurdodau lleol a'r sector twristiaeth yn well hefyd.
Diolch yn fawr iawn.
Y cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 yw cymryd eitemau 6, 7 ac 8, sef Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cyfraddau Treth) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2020 a dwy gyfres o reoliadau treth trafodiadau tir, fel un ddadl, ond gyda phleidleisiau ar wahân. Felly, oni bai fy mod yn gweld unrhyw wrthwynebiadau, rwy'n mynd i dybio mai dyna sut y byddwn yn symud ymlaen. Dydw i ddim yn gweld unrhyw wrthwynebiadau.