– Senedd Cymru ar 24 Mawrth 2021.
Yr eitem nesaf ar yr agenda y prynhawn yma yw dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar ddyfodol Cymru, a galwaf ar Andrew R.T. Davies i wneud y cynnig.
Cynnig NDM7683 Mark Isherwood
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn gresynu at y ffaith bod llywodraethau olynol Cymru dan arweiniad Llafur wedi methu â gwella cyfleoedd bywyd pobl Cymru.
2. Yn cydnabod bod Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cyfaddef nad ydynt yn gwybod beth y maent yn ei wneud o ran yr economi.
3. Yn nodi bod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi dweud y byddai'n ffôl cael cynllun ar gyfer ôl-groniadau cyn i'r pandemig ddod i ben.
4. Yn nodi ymhellach bod cyn Brif Weinidog Cymru hefyd wedi cyfaddef bod Llafur wedi tynnu ei llygad oddi ar y bêl ar addysg.
5. Yn cydnabod, er mwyn ailadeiladu Cymru, fod angen newid cyfeiriad a chael llywodraeth newydd ar 6 Mai 2021, a fydd yn darparu cynllun adfer i Gymru, sy'n cynnwys:
a) creu 65,000 o swyddi newydd, gydag o leiaf 15,000 o swyddi gwyrdd;
b) mynd i'r afael â'r ôl-groniad mewn amseroedd aros yng Nghymru;
c) rhoi gorau i danariannu ein pobl ifanc;
d) adeiladu'r seilwaith sydd ei angen ar Gymru gan gynnwys ffordd liniaru'r M4 ynghyd ag uwchraddio'r A40 a'r A55;
e) cefnogi pobl gyda chostau byw drwy rewi'r dreth gyngor am ddwy flynedd;
f) rhoi Cymru ar y llwybr tuag at sero net erbyn 2050.
Diolch, Ddirprwy Lywydd, a chyn imi ddechrau a gwneud y cynnig yn ffurfiol, a gaf fi gofnodi fy niolch i chi fel Dirprwy Lywydd, gan mai dyma'r ddadl olaf, am y gwasanaeth rydych wedi'i roi i'r Cynulliad, yn rhinwedd eich swydd fel yr Aelod dros Ddyffryn Clwyd, ond hefyd yn eich rôl fel Cadeirydd gwahanol bwyllgorau ac yn awr fel Dirprwy Lywydd dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf? Mae bob amser wedi bod yn bleser gweithio gyda chi, a gwneud cynnydd gobeithio mewn meysydd lle gallem fod yn rhannu pryderon cyffelyb. Ond rwy'n derbyn bod y rhaniad gwleidyddol weithiau wedi bod yn anodd ei bontio, ond mae bob amser wedi'i wneud gyda hiwmor da, ac rwy'n dymuno'n dda i chi ar gyfer y dyfodol, Ddirprwy Lywydd.
Diolch.
Rwy'n gwneud y cynnig sydd ar y papur trefn heddiw yn ffurfiol yn enw Mark Isherwood. Rwyf am ymdrin â'r gwelliannau i ddechrau, os caf. Mae'n amlwg na fyddwn yn derbyn gwelliant 1, sydd, yn ôl arfer yr hen Lywodraeth, yn un 'dileu popeth a rhoi hunanganmoliaeth i'r Llywodraeth a'i hamser mewn grym yn ei le', sydd, a dweud y gwir, os edrychwch ar y ffordd y mae pethau'n edrych ar hyn o bryd yn yr economi, yn y gwasanaeth iechyd a meysydd eraill o raglen y Llywodraeth, heb ddarparu Deddf aer glân, ffordd liniaru'r M4, parthau perygl nitradau, sy'n ddim mwy nag ymarfer torri a gludo dros 40 mlynedd, ar ôl i'r Gweinidog ddweud ar ddim llai na 12 achlysur na fyddai'r Llywodraeth yn cyflwyno rheoliadau mor ddinistriol i'r economi wledig ar lawr y Senedd tra bod argyfwng COVID yn dal ar ei anterth, ond eto mae'n ymddangos ei bod yn benderfynol o'u cyflwyno ym mis Ebrill eleni, dim Bil awtistiaeth, ac fel y clywsom yn y cwestiynau iechyd y prynhawn yma, dim cynllun canser nac adnewyddu cynllun canser, nid oes gennyf unrhyw syniad sut ar y ddaear y gall y Llywodraeth hon ymroi i hunanganmoliaeth, a chredaf y bydd gan bobl Cymru farn ar hynny wrth inni ddechrau ar yr ymgyrch etholiadol, a phan ddaw 6 Mai, gobeithio y byddant yn bwrw eu pleidlais yn unol â hynny.
Ar welliannau 2 a 3 gan Siân Gwenllian, mae'n amlwg na fyddwn yn derbyn y gwelliannau hynny sydd ond yn ceisio achosi mwy o anhrefn cyfansoddiadol drwy roi refferendwm annibyniaeth wrth wraidd rhaglen lywodraethu unrhyw lywodraeth genedlaetholgar dros y pum mlynedd nesaf. Ai dyna sydd ei angen ar y wlad wrth ddod allan o bandemig COVID, pan mai'r hyn sydd ei angen ar y wlad mewn gwirionedd yw sefydlogrwydd economaidd, parhad cyfansoddiadol a buddsoddiad yn ein gwasanaethau cyhoeddus, fel y gallwn fynd i'r afael â'r holl amseroedd aros sy'n bodoli o fewn y gwasanaeth iechyd, lle mae un o bob pump o bobl ar restr aros yma yng Nghymru? Mae'n amlwg nad eir i'r afael â hynny drwy'r anhrefn cyfansoddiadol y mae Plaid Cymru yn ei argymell drwy eu gwelliannau ac yn wir, drwy eu hymrwymiadau ym mhum mlynedd cyntaf eu cynllun llywodraethu, pe baent byth yn gweld golau dydd.
Rydym am dynnu sylw pobl Cymru at beth yw'r cyfleoedd go iawn ar ôl 22 mlynedd o fethiant Llafur yma yng Nghymru. Os cymerwch gyflogau, er enghraifft, yng Nghymru mae cyflogau £55 yn llai nag i weithwyr yn yr Alban, er iddynt gychwyn yn 1999 ar yr un gyfradd yn union ar ddechrau datganoli, a heddiw mae gweithiwr yn yr Alban yn mynd â £55 yr wythnos yn fwy adref na gweithiwr yng Nghymru, a bydd gweithiwr o Loegr yn mynd â £52 yr wythnos yn fwy adref. Sut y gall y Llywodraeth roi unrhyw ganmoliaeth iddynt eu hunain am lwyddiant economaidd pan fydd gennych fwlch o'r fath rhwng y lefelau cyflog sydd wedi agor ar hyd cyfnod datganoli?
Ac fel y dywedais, mewn perthynas ag iechyd a'r economi yn enwedig, wrth edrych ar sylwadau Dirprwy Weinidog yr economi yn dweud bod y Llywodraeth wedi tynnu eu llygad oddi ar y bêl ac nad ydynt yn gwybod beth y maent yn ei wneud, mae hynny, yn amlwg, yn cael ei gadarnhau gan yr ystadegau sy'n dangos beth sy'n digwydd yma yn yr economi ehangach ledled Cymru. A chyda'r gwasanaeth iechyd mewn cyflwr sy'n galw am gynllun adnewyddu a chynllun i sicrhau ein bod yn cael yr amseroedd aros i lawr—un o bob pump o bobl ar restr aros, dim cynllun cyflawni ar gyfer canser ar waith, dim ond datganiad ddechrau'r wythnos—mae'n amlwg fod y Gweinidog iechyd wedi colli ei afael ac wedi colli ei ffordd pan ddaw'n fater o adfywio'r gwasanaeth iechyd a gwobrwyo ein staff iechyd ymroddedig sydd wedi darparu pontydd o dosturi at bobl ar hyd a lled Cymru, a gweithio'n ddiflino i sicrhau, pan fydd angen eu cymorth ar bobl, ei fod yno iddynt. Mae arnom angen newid pan ddaw 6 Mai, a'r Ceidwadwyr Cymreig fydd yn cynnig y newid hwnnw.
Ac mae gweld y Llywodraeth yn eu gwelliant yn canmol ei hun wrth sôn am addysg a chodi safonau ar dablau cynghrair PISA, er mai eu plaid hwy sydd wedi gyrru'r safonau hynny i lawr dros 22 mlynedd cyntaf y Llywodraeth yma yng Nghymru, ac mae dweud mewn gwirionedd eich bod yn gwneud llwyddiant o addysg yn haerllug tu hwnt a dweud y lleiaf, pan fo angen mwy o athrawon yn yr ystafell ddosbarth ac angen buddsoddiad yn ein haddysg fel y gallwn gael y cyrsiau galwedigaethol ac academaidd sy'n pweru ein heconomi i mewn i'r unfed ganrif ar hugain. A chyda'r Ceidwadwyr yn hyrwyddo 65,000 o swyddi newydd, gyda 15,000 ohonynt yn swyddi gwyrdd, y buddsoddiad yn y gwasanaeth iechyd i gael 1,200 o feddygon a 3,000 o nyrsys, yn ogystal â 5,000 o athrawon, ac adeiladu seilwaith ym mhob rhan o Gymru, a sicrhau, pan fyddwn yn gwneud ymrwymiad maniffesto i ddarparu ffordd liniaru'r M4, buddsoddi mewn gwaith gwella ar yr A40 a'r A55, bydd pobl Cymru'n gwybod y byddwn yn cyflawni hynny, yn ogystal â helpu gyda chymorth ar gyfer yr argyfwng costau byw sy'n digwydd ar hyn o bryd drwy rewi'r dreth gyngor. Ni all fod yn iawn—ni all fod yn iawn—fod y dreth gyngor wedi codi 200 y cant a bod pobl, wrth inni siarad, yn gweld cynnydd yn y trethi o 4, 5, 6 y cant yn dod drwy'r drws ym mhob rhan o Gymru. Nid yw hynny'n iawn pan fo mynegai prisiau defnyddwyr yn 0.4 o 1 y cant—cyhoeddwyd hynny heddiw—a bod aelwydydd yn gorfod wynebu'r baich hwnnw o bwysau cyllidebu ychwanegol ar arian prin. A dyna pam rwy'n falch iawn o ddweud y byddai Llywodraeth Geidwadol newydd yn y dyfodol yn rhewi'r dreth gyngor am y ddwy flynedd nesaf, ac yn sicrhau ein bod yn gwneud ein dyletswydd o ran cyflawniad amgylcheddol—ein bod yn falch iawn o weithio gyda Llywodraeth y DU i gyflawni sero net erbyn 2050.
Mae'r rhain i gyd yn ymrwymiadau pwysig sy'n bwysig i bobl Cymru, a chan mai hon yw dadl olaf pumed tymor y Cynulliad hwn, wrth inni fynd allan i ymgyrchu a dechrau'r ymgyrch etholiadol, bydd pobl yn gweld y syrthni sydd wedi gafael yn Senedd Cymru drwy gael Llafur mewn grym am 22 mlynedd, wedi'u cynnal gan eu cynorthwywyr, Plaid Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol, ac yn pleidleisio dros newid ar 6 Mai. Ac rwy'n gobeithio y bydd y Cynulliad yn pleidleisio heno dros y cynnig sydd ger eu bron ac yn diystyru'r gwelliannau a gyflwynwyd yn enw'r Llywodraeth ac yn enw'r cenedlaetholwyr. A dyna pam rwy'n gwneud y cynnig yn enw Mark Isherwood ar bapur trefn y Ceidwadwyr Cymreig.
Diolch. Rwyf wedi dethol y tri gwelliant i'r cynnig, a galwaf ar y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol i gynnig gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans, yn ffurfiol.
Gwelliant 1—Rebecca Evans
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn cydnabod bod Llywodraeth Cymru, yn wyneb heriau digynsail o ran llymder, Brexit, newid yn yr hinsawdd a COVID-19, wedi:
a) Sefydlu Banc Datblygu Cymru, sicrhau dros 100,000 o brentisiaethau pob oed a darparu ryddhad ardrethi busnes heb ei ail, gan gynnwys dros £580m o ryddhad parhaol i fusnesau bach;
b) Cyflwyno'r Gronfa Triniaethau Newydd, gan sicrhau bod triniaethau sydd newydd eu cymeradwyo ar gael yn y GIG o fewn 13 diwrnod ar gyfartaledd;
c) Gwella canlyniadau PISA ym mhob un o'r tri maes a datblygu cwricwlwm newydd radical ar gyfer ein hysgolion;
d) Datgan argyfwng newid yn yr hinsawdd a gosod targed cyfreithiol rwymol cyntaf Cymru i gyflawni allyriadau sero-net;
e) Adeiladu 20,000 o gartrefi newydd a chryfhau hawliau’r rhai sy’n rhentu.
2. Yn nodi bod y cyflawniadau llawn wedi'u nodi yn Adroddiad Blynyddol Llywodraeth Cymru.
Yn ffurfiol.
Diolch. Galwaf ar Delyth Jewell i gynnig gwelliannau 2 a 3, a gyflwynwyd yn enw Siân Gwenllian. Delyth.
Gwelliant 2—Siân Gwenllian
Ychwanegu pwyntiau newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu y bydd Cymru dim ond yn adfer yn llwyr drwy ethol llywodraeth newydd a fydd yn gadael i bobl Cymru, nid San Steffan, benderfynu ar ein dyfodol.
Yn credu bod angen newid cyfeiriad ar Gymru drwy ganiatáu i bobl Cymru ddweud eu dweud ynghylch a ddylai Cymru fod yn wlad annibynnol drwy gynnal refferendwm annibyniaeth yn ystod tymor nesaf y Senedd.
Gwelliant 3—Siân Gwenllian
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu, er mwyn ailadeiladu Cymru, y dylai'r Senedd nesaf gael pwerau dros faterion sydd wedi'u cadw yn ôl i San Steffan ar hyn o bryd, gan gynnwys plismona a chyfiawnder, rheilffyrdd, lles, darlledu, prosiectau ynni, ac Ystâd y Goron.
Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch i chi am bopeth dros y blynyddoedd ac am eich cyfeillgarwch chi.
Rwy'n cynnig gwelliannau ein grŵp. Mae'n briodol inni gau'r Senedd hon gyda dadl sy'n edrych tuag at ein dyfodol. Mae'r dyfodol hwnnw'n llawn posibilrwydd os dewiswn gredu ynom ein hunain fel cenedl, a rhoi'r gorau i roi ein ffydd yn ninistrwyr anhydrin San Steffan a grymuso ein pobl yn lle hynny. Rhaid imi gymeradwyo haerllugrwydd y grŵp Ceidwadol am gyflwyno'r cynnig hwn, y blaid sydd wedi torri biliynau oddi ar gyllideb Llywodraeth Cymru drwy gyni, wedi dwyn pwerau gan Gymru heb fandad ac wedi torri addewidion ar ariannu morglawdd Abertawe a thrydaneiddio prif reilffordd de Cymru. Eu plaid hwy sy'n dymuno ffrwyno a chaethiwo ein cenedl, plaid y Jacob Rees-Moggs a ddywedodd wrth ASau yr wythnos diwethaf mai iaith dramor yw'r Gymraeg, dirmyg ysgafala San Steffan tuag at bopeth nad yw'n Seisnig. Dim ond pan fydd Cymru'n ethol Llywodraeth a fydd yn galluogi'r bobl i benderfynu ar eu dyfodol eu hunain, i ffwrdd o San Steffan, y bydd yn cyrraedd ei llawn botensial. Gwlad maint Cymru sy'n gallu adeiladu economi ffyniannus, ymffrostio mewn llywodraeth a chymdeithas sy'n adlewyrchu'r gwerthoedd ac a fydd yn meithrin ein diwylliant a'n hiaith, tra'n croesawu pawb sydd am wneud Cymru'n gartref iddynt.
Efallai fod system San Steffan yn ein rhwystro ar hyn o bryd, ond mae gobaith yn dod o hyd i ffordd, oherwydd mae herfeiddiwch yng nghalonnau pawb sy'n byw yng Nghymru, penderfyniad i frwydro yn eu blaen. Mae'n herfeiddiwch ag iddo wreiddiau dwfn. Wedi'r cyfan, rydym yn genedl hynafol a bywiog sydd wedi gorfod goresgyn caledi mawr. Y bardd David Jones a nododd fod Bleddyn Fardd, yn ei Farwnad i Lywelyn ap Gruffydd yn ystod gaeaf ofnadwy 1282, yn dal i feddu ar yr ehofnder gwych i allu cyfeirio at Gymru a oedd wedi'i chlwyfo i'r byw fel 'Cymru fawr'—Cymru fawr pan oedd popeth wedi'i chwalu a'i golli. Felly, rydym wedi camu ymlaen o drywaniad creulon y waywffon ar lannau'r Irfon ar y noson dyngedfennol honno i'r gwanwyn gobeithiol hwn yn 2021, gan edrych ar gymaint sydd wedi torri yn ein cymdeithas, a faint sy'n rhaid inni ei ailadeiladu.
A Chymru fawr yn sefyll o hyd. Cymru fawr sy'n wynebu dyfodol gyda statws cryfach, gorwelion ehangach, dyfalbarhad sy'n ddyfnach nag ymdrechion unrhyw blaid arall i'w chefnogi. Mae'r hyn fydd yn ein diffinio o'n blaenau, nid y tu ôl.
A gwnaf i gloi, Dirprwy Lywydd, trwy ddyfynnu geiriau'r anfarwol John Davies ar ddiwedd ei lyfr Hanes Cymru pan mae'n trafod y ffaith bod nifer o haneswyr wedi gofyn pa bryd y bu Cymru:
'Ysgrifennwyd y llyfr hwn yn y ffydd a’r hyder na fu hi eto yn ei llawnder’.
Rwyf fi fy hun wedi eich adnabod ers imi fod yn y Cynulliad Cenedlaethol yn ôl yn 2003. Rydych chi wedi bod yma ers amser maith. Rydych wedi gwneud llawer iawn, ac rwy'n siŵr y bydd llawer yn gweld eich colli.
Mae Cymru'n wlad a chanddi botensial enfawr, Ddirprwy Lywydd. Yn anffodus, dros y 22 mlynedd diwethaf, mae Cymru nid yn unig wedi methu cyflawni'r potensial hwnnw, ond ar gynifer o fesurau, mae wedi disgyn tuag at yn ôl. Yn dlotach, mae ein heconomi'n creu llai o gyfoeth i'w phobl, ac mae cyfraddau siopau gwag ar y stryd fawr wedi cynyddu. Mae cyllid ysgolion wedi methu dal i fyny â chyllid yn Lloegr; o ganlyniad, mae safonau ysgolion wedi gostwng. Wrth gymharu'n rhyngwladol, Cymru bellach yw'r wlad sy'n perfformio waethaf yn y DU, ac mae'n cymharu â hen wledydd y bloc Sofietaidd.
Bellach gennym ni y mae'r unig GIG yn y DU sydd wedi cael toriad yn ei gyllideb. Rydym yn gwario bron i £1 filiwn yn llai ar y GIG bob blwyddyn oherwydd y penderfyniad unllygeidiog hwnnw. Dyblodd rhestrau aros y GIG yn y flwyddyn cyn y pandemig, ac maent wedi cynyddu wyth gwaith yn ystod y cyfnod.
A phwy sydd ar fai am y methiannau hyn? Nid Llafur, does bosibl, nid y Blaid Lafur sydd wedi bod mewn Llywodraeth yng Nghymru am y ddau ddegawd diwethaf, does bosibl. Wrth wynebu degawdau o fethiannau a cholli cyfleoedd, unig ymateb Llafur bob amser yw ymosod ar Lywodraeth y DU, fel plant yn beio rhywun arall. Roedd Vaughan Gething yn gynharach heddiw yn gyflym i ymwrthod ag unrhyw gyfrifoldeb dros fethu mynd i'r afael ag anghydraddoldebau yng Nghymru a amlygwyd gan y pandemig hwn ger bron cenedl wedi'i brawychu sydd bellach yn sylweddoli, diolch i angen dybryd Mark Drakeford i wneud pethau'n wahanol er mwyn gwneud pethau'n wahanol, pwy y gallant ei feio am fethiant llwyr Llywodraethau Llafur olynol i fynd i'r afael â phroblemau allweddol a chydraddoldebau yn ein cymunedau tlotaf ar draws fy ardal i, Dwyrain De Cymru a Chymru, cymunedau y maent yn honni eu bod yn eu cefnogi.
Cymru yw'r rhan dlotaf o'r DU a chanddi hi y mae'r gyfradd uchaf o dlodi. Rhywbeth i ymfalchïo ynddo, Lywodraeth Cymru? Nid wyf yn credu hynny. A allech fod wedi gwneud rhywbeth i helpu gyda hyn dros y ddau ddegawd diwethaf? Rwy'n meddwl y gallech. Ni allwch guddio mwyach, Lywodraeth Lafur Cymru, oherwydd mae pobl yn ein gwlad bellach yn deall mwy am bwy sy'n rheoli beth, a bydd yn ddadlennol ac yn ddiddorol gweld, ar ôl yr etholiad hwn, os ydynt yn credu eich bod wedi gwneud gwaith da. Economi Cymru oedd y wannaf yn y DU cyn i'r pandemig daro o ganlyniad i 20 mlynedd o fethiant Llafur. Cyfaddefodd Lee Waters, Dirprwy Weinidog Llafur yr Economi a Thrafnidiaeth, nad oes gan Lywodraeth Lafur Cymru unrhyw syniad beth y maent yn ei wneud ar yr economi. Eich hanes Llafur o wastraffu arian—. Boed ar astudiaethau dichonoldeb a pharatoadau ar gyfer ffordd liniaru'r M4, Cylchffordd Cymru, Pinewood, a llawer o bethau eraill—rydych wedi gwastraffu ein harian. Mae ein gwlad yn gweiddi am newid. Ar ôl degawdau o sefyll yn ei hunfan, colli cyfleoedd, a diffyg gweledigaeth gan Lafur, mae ein gwlad angen i bobl y wlad hon gefnogi'r Ceidwadwyr Cymreig i ffurfio Llywodraeth ym mis Mai. Dyma'r unig ffordd y gallwn sicrhau bod yr economi a busnesau'n codi'n ôl ar eu traed ac y gallwn eu helpu i ffynnu unwaith eto. Dyma'r unig ffordd y bydd Cymru'n cyflawni ei gwir botensial, drwy adeiladu ffordd liniaru'r M4 a fydd yn sicrhau ein bod yn denu'r buddsoddiad yng Nghymru y buom yn galw amdano ers degawdau. Rhaid gwneud hyn ochr yn ochr ag argymhellion y comisiynydd trafnidiaeth er mwyn manteisio i'r eithaf ar botensial economaidd Cymru. Nid yn unig hynny, byddwn yn sicrhau ein bod yn creu Cymru ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol sy'n addas i'r diben, ac y gall ein pobl ifanc ymfalchïo ynddi.
Mae ein GIG wedi bod yn arwyr dros y flwyddyn ddiwethaf yn enwedig, a byddwn yn ddyledus iddynt am byth. Mae angen inni eu helpu i wella, gwasanaethau a staff, yn y cyfnod adfer hwn rydym yn symud i mewn iddo, a buddsoddi yn y gwasanaethau sydd eu hangen i adfer ein cenedl, buddsoddi mewn gwasanaethau a buddsoddi yn yr anghydraddoldebau yn y ddarpariaeth o wasanaethau a amlygwyd gan y pandemig. Byddwn ni, y Ceidwadwyr Cymreig, yn buddsoddi yn ein gwlad a'i phobl, fel y nododd Andrew R.T. Davies yn gynharach. Rwy'n falch o weledigaeth fy mhlaid ar sut i wneud i'r wlad hon ffynnu eto, sut i'w helpu i wella, a sicrhau bod pawb yn cael cyfle cyfartal i'w helpu i wneud y gorau o'u bywydau drostynt eu hunain a'u teuluoedd.
A gaf fi hefyd dalu teyrnged i'r gwaith rydych wedi'i wneud ymhell cyn imi ddod yma i'r Senedd hon? Fe welir eich colli'n fawr iawn, ac mae eich presenoldeb a'ch gwaddol yn gadarn iawn wir, felly diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd.
Rwy'n falch iawn o siarad yn y ddadl hon, y ddadl lawn olaf cyn inni gau'r sesiwn hon, ac wrth wneud hynny, mae'n werth edrych yn ôl, oherwydd i rai pobl, mae'n wydr hanner gwag; i rai pobl, nid oes gwydr i ddal unrhyw beth o gwbl. Felly, rwy'n credu ei bod yn werth edrych ar rai pethau yma o ran cyflawniad, a chyflawniad Llafur mewn Llywodraeth yma dros y pum mlynedd diwethaf yn dilyn degawd a mwy o gyni, ac ni ellir ei ddiystyru, oherwydd cafodd Cymru ei gwerthu am lai na'i gwerth yn gyson gan Lywodraeth y DU dros y degawd hwnnw a'i throi allan i gardota. Yn wyneb y cyfnod pontio Ewropeaidd, rhoddwyd cymaint o ymdrech, cymaint o adnoddau tuag at hynny, yn hytrach na chanolbwyntio ar ddyfodol Cymru, a wynebu'r heriau sydd bob amser yn bresennol, sef newid hinsawdd a cholli bioamrywiaeth, a hefyd, wrth gwrs, yr her na welodd unrhyw Lywodraeth o gwbl mo'i thebyg sef trychineb COVID-19.
Ond er gwaethaf hynny hyd yn oed, yn ystod y cyfnod hwn, rydym wedi cyflawni pob un—pob un—o'n haddewidion fel Llywodraeth Cymru, Llafur Cymru. Gwnaethom gyflawni'r addewid uchelgeisiol digynsail ar y cynnig gofal plant ar gyfer addysg gynnar a gofal plant am ddim, a therapi lleferydd ac iaith ac yn y blaen i blant tair a phedair oed, i bob teulu, teuluoedd sy'n gweithio, am 48 wythnos o'r flwyddyn, ac fe'i cyflwynwyd i 14,500 o blant a'u teuluoedd ym mis Ionawr 2020. Gwnaethom gyflawni'r toriadau treth i bob busnes bach yng Nghymru, gyda'r cynllun rhyddhad ardrethi i fusnesau bach ym mis Ebrill 2018; nid yw dros hanner yr holl fusnesau yng Nghymru bellach yn talu unrhyw ardrethi o gwbl, ac rwy'n siarad â llawer ohonynt yn fy etholaeth. Gwnaethom ddarparu 100,000 o brentisiaethau o safon ar gyfer pob oedran, ac o fewn y prentisiaethau hynny—cyraeddasom y targed yn 2020, gyda llaw—roedd bron i 60 y cant o'r prentisiaethau'n cael eu cyflawni gan bobl 25 oed a throsodd, gan roi ail gyfle iddynt yn eu gyrfaoedd ac yn eu swyddi ac mewn bywyd, a gwnaethom gyflwyno'r gronfa triniaethau newydd ar gyfer afiechydon sy'n bygwth bywyd. Cyn y gronfa triniaethau newydd, arferai gymryd 90 diwrnod i sicrhau bod meddyginiaethau a thriniaethau newydd eu cymeradwyo ar gael gan y GIG. Dim ond 13 diwrnod y mae'n ei gymryd bellach—13 diwrnod.
Ac wrth gwrs, gwnaethom ddyblu'r terfyn cyfalaf i'r rhai sy'n mynd i ofal preswyl: fe'i dyblwyd, mewn gwirionedd, ddwy flynedd yn gynharach na'r disgwyl. Dyma'r cynllun mwyaf hael yn y DU, felly pan fyddant yn mynd i ofal preswyl, bellach gall pobl gadw hyd at £50,000 o'u henillion haeddiannol, a gwn fod hynny'n bwysig iawn i'r bobl sy'n byw yn fy etholaeth. Ac wrth gwrs, o ran safonau ysgolion rydym wedi buddsoddi mewn mwy na brics a'r morter yn unig, gwnaethom gyflawni ein haddewid i roi £100 miliwn tuag at wella safonau ysgolion, nid brics a morter yn unig, ond lleihau maint dosbarthiadau babanod, a sefydlu'r Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol, a arweinir erbyn hyn gan rai o fy nghyn-benaethiaid yma'n lleol, a gwella addysgu a dysgu Cymraeg. Ond nid hynny'n unig, Ddirprwy Lywydd. Er gwaethaf yr heriau o ddod i mewn ar ôl cyni, er gwaethaf heriau Brexit, er gwaethaf yr holl heriau eraill a gawsom, rydym wedi cefnogi mwy na 36,000 o blant mewn ardaloedd difreintiedig bob blwyddyn drwy ein rhaglen Dechrau'n Deg. Ie, dyna'r rhaglen Dechrau'n Deg y maent wedi ei thorri a'i darnio yn Lloegr. Fe wnaethom ni ei chynnal ac rydym wedi dal ati i fuddsoddi ynddi. Rydym wedi darparu gofal plant ar gyfer—
Mae angen i'r Aelod ddirwyn i ben, os gwelwch yn dda.
Yn wir, fe wnaf. Rydym wedi darparu gofal plant i 9,600 o blant drwy'r cynllun cymorth gofal plant drwy gyfnod y coronafeirws.
Ddirprwy Lywydd, gallwn barhau. Un o'r pethau y dylai pobl farnu'r Llywodraeth hon neu unrhyw Lywodraeth arno, ac unrhyw blaid arno, yw ei chyflawniad, ac un peth y gallwn ei warantu yw ein bod nid yn unig wedi cyflawni ein haddewidion, ond aethom ymhellach, a bydd dyfodol Cymru mewn dwylo da os ailetholwn Lywodraeth Lafur Cymru. Diolch yn fawr iawn.
Hoffwn ddechrau fy nghyfraniad i'r ddadl drwy gydnabod, yn ystod y pumed Senedd hon, y bu rhai ymyriadau cadarnhaol mewn perthynas â'r economi a seilwaith trafnidiaeth, yn ogystal â symudiadau i annog gweithgarwch entrepreneuraidd, ond rhaid dweud nad yw'r 15 mlynedd blaenorol o reolaeth Lafur, gyda helpu medrus Plaid Cymru ar un adeg, wedi bod yn ddim llai na thrychinebus i Gymru ac i economi Cymru.
Mae llawer gormod o amser ac arian wedi'i wario ar beirianneg gymdeithasol yn hytrach na thwf adeiladol i'r economi. Yr hyn rwy'n ei olygu wrth beirianneg gymdeithasol yw lledaeniad y trydydd sector yng Nghymru, strategaeth glir o greu swyddi i'r bechgyn lle mae bron bob swydd weithredol wedi ei llenwi gan aparatshiciaid Llafur. Yn ogystal, gwelsom fethiant llwyr y fenter Cymunedau yn Gyntaf, na chreodd unrhyw swyddi go iawn, ond a arweiniodd at lu o swyddi gweinyddol. Mae Merthyr Tudful yn enghraifft wych o'r methiant hwn, lle gwariwyd £1.25 miliwn o'r £1.5 miliwn a ddyrannwyd i'w sefydliad Cymunedau yn Gyntaf ar gyflogau gweinyddol. Mae cyfanswm gwariant yr arbrawf cymdeithasol wedi costio £410 miliwn i drethdalwyr Cymru rhwng 2001 a 2016, pan dynnwyd y plwg o'r diwedd.
Addawyd diwygio llywodraeth leol, gan droi 22 awdurdod lleol yn wyth awdurdod. Gellid dweud na ddigwyddodd hyn am fod y Blaid Lafur yn nwylo'r undebau llafur, sy'n gwrthwynebu ad-drefnu o'r fath. Mae hanes echrydus i addysg yng Nghymru dros yr 20 mlynedd diwethaf—ysgolion dirifedi mewn mesurau arbennig, ac fel yn Nhorfaen, gwnaed yr awdurdod addysg lleol hyd yn oed yn destun mesurau arbennig. Ar hyn o bryd mae gennym dair o'r pedair ysgol uwchradd mewn mesurau arbennig. Mae methiant llwyr y Llywodraeth Lafur i fynd i'r afael â phroblemau addysgol wedi arwain at ostyngiad dramatig mewn cymwysterau ar gyfer y mwyafrif helaeth o ddisgyblion ysgol, i'r graddau y gallwn ddweud yn awr fod gennym genhedlaeth goll o blant. Anwybyddwyd cymwysterau galwedigaethol bron yn gyfan gwbl yn ystod y cyfnod hwn, er, a bod yn deg, gellir dweud eu bod yn cael sylw bellach, yn hwyr iawn.
Mae'r Llywodraeth Lafur yn cwyno am y ffaith ein bod wedi colli arian Ewropeaidd fel y'i gelwir—mewn gwirionedd, arian Prydeinig yn dod yn ôl i ni ar ôl i'r UE gymryd tua'i hanner ydyw. Y gwir amdani yw mai'r rheswm pam roeddem yn gymwys i gael yr arian oedd ein bod yn parhau i fod yn un o ranbarthau tlotaf yr UE, gyda 25 y cant o'n poblogaeth yn byw mewn tlodi a gydnabyddir yn swyddogol, gwaddol 20 mlynedd o reolaeth Lafur yng Nghymru.
Mae Llafur wedi bod yn colli ei phleidlais graidd ymhlith y boblogaeth ddosbarth gweithiol am yr 20 mlynedd diwethaf. Pryd y bydd yn newid ei pholisïau i'r rhai y mae'r bobl hyn yn eu harddel? Gellir dweud mai datgysylltiad y sefydliad hwn oddi wrth bobl Cymru, fel y mae ei wrthodiad i dderbyn pleidlais Brexit yn ei ddangos, pan bleidleisiodd niferoedd mawr o bobl ddosbarth gweithiol dros adael yr UE, sy'n achosi'r ymbellhau oddi wrth y Blaid Lafur. Mae Cymru a'i phobl weithgar yn haeddu gwell. Efallai y bydd y weinyddiaeth yn gwrando ar y bobl. Rhaid inni ddiwygio—bydd y Blaid Ddiwygio'n sicrhau'r diwygio hwnnw.
A gaf fi orffen, Ddirprwy Lywydd, drwy eich llongyfarch ar eich cyfraniad gwych? Rydych yn eicon yn y sefydliad hwn. Fy nymuniadau gorau'n ddiffuant i chi ble bynnag a beth bynnag y dymunwch ei wneud yn eich ymddeoliad.
Diolch yn fawr iawn. Janet Finch-Saunders.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Mae'n ffaith drist fod Llywodraethau Cymru olynol dan arweiniad Llafur wedi methu gwella cyfleoedd bywyd pobl Cymru. Dros y ddau ddegawd diwethaf, mae Llafur Cymru wedi methu cadw llygad barcud ar eu harferion gwario eu hunain. Gwastraffwyd cannoedd o filiynau o bunnoedd ar brosiectau oferedd, mentrau busnes aflwyddiannus a chwangos wedi'u rheoli'n wael. Ni all y dystiolaeth ond cyfeirio at Lee Waters a'i gasgliad nad yw Llafur Cymru, ers 20 mlynedd, wedi gwybod yn iawn beth y maent yn ei wneud ar yr economi.
Mae Llafur Cymru hefyd wedi llywyddu dros gacoffoni o argyfwng yn GIG Cymru: nid yw amseroedd aros canser wedi eu cyrraedd ers 10 mlynedd; nid yw'r targed o 95 y cant ar gyfer cleifion sy'n treulio llai na phedair awr mewn adrannau damweiniau ac achosion brys erioed wedi'i gyrraedd; ac nid yw'r targed o 95 y cant ar gyfer cleifion sy'n aros llai na 26 wythnos am driniaeth wedi'i gyrraedd ers 10 mlynedd. Er iddo gael bron i £83 miliwn gan Lywodraeth Cymru ar gyfer ymyriadau a chymorth gwella rhwng 2015 a 2019, o saith bwrdd iechyd Cymru, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a brofodd y lefel uchaf a gofnodwyd o ddigwyddiadau diogelwch cleifion, ac mae rhestrau aros yn parhau i gynyddu allan o reolaeth. Mae GIG Cymru wedi gwneud gwaith gwych yn trin ein trigolion hyd yn oed cyn y pandemig, ond mae'n bryd iddynt gael arweiniad sy'n grymuso eu hymdrechion.
Mae Llafur Cymru wedi siomi ein ffermwyr. Mae parth perygl nitradau Cymru gyfan bellach yn peryglu bywoliaeth pobl yng nghefn gwlad, gan achosi pryderon iechyd meddwl difrifol. Nid yw'r Papur Gwyn ar amaethyddiaeth yn hyrwyddo cynhyrchu bwyd, ac rydych yn eistedd ar strategaeth twbercwlosis a welodd ladd 9,762 o anifeiliaid yn y flwyddyn hyd at fis Rhagfyr 2020. Yn wir, mae'r amgylchedd yn haeddu gwell na'ch methiant llwyr i gyflawni addewid arweinyddiaeth Mark Drakeford i greu Deddf aer glân, a'ch anallu i gyflwyno cynlluniau dychwelyd ernes ledled Cymru.
Fel y nododd adroddiad diweddar y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig,
'Yn awr, rhaid troi’r rhethreg yn gamau beiddgar a phendant.'
Ni ddaw'r camau hynny gan Lafur Cymru, na'ch cyfeillion ym Mhlaid Cymru yn wir. Ac wrthynt hwy, rwy'n dweud mai bod yn rhan o'r undeb sydd orau i'n gwasanaeth iechyd ac i Gymru yn wir. Mae tua 13,500 o drigolion Cymru wedi'u cofrestru gyda phractis meddyg teulu yn Lloegr. Bod yn rhan o'r undeb sydd orau i'n heconomi. Mae tua 70,000 o bobl yn teithio allan o Gymru i weithio. Bod yn rhan o'r undeb sydd orau i'n trethdalwyr. Tra byddai'r Ceidwadwyr Cymreig yn rhewi'r dreth gyngor, byddai eich nonsens cenedlaetholgar dinistriol yn arwain at dreth uwch o tua £3,700 y pen.
Ym mis Mai, bydd y genedl hon ar groesffordd a gall pobl Cymru ddewis pleidleisio o blaid newid. Gadewch i ni am unwaith yn awr roi diwedd ar y cyfeiliornad fod angen inni newid cyfeiriad drwy gynnal refferendwm annibyniaeth. Mae angen newid, oes, ond newid cyfeiriad drwy groesawu arweinyddiaeth newydd fyddai hwnnw. Gyda'n cynllun gweithredu ac adfer, dim ond y Ceidwadwyr Cymreig a all sicrhau yfory llawer mwy disglair i Gymru. Diolch.
Diolch. A gaf fi alw yn awr ar y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, Julie James?
Diolch, Ddirprwy Lywydd, ac a gaf fi ychwanegu fy llais at y rhai sy'n dweud pa mor ddiolchgar ydynt i chi am eich arweiniad cadarn a phenderfynol yn eich swydd fel Dirprwy Lywydd? Rwyf wedi bod yn ddiolchgar iawn, yn ystod eich cyfnod yn y swydd, am eich arweiniad a'ch cefnogaeth, ac mewn gwirionedd, byth ers i mi ymuno â'r Cynulliad yn ôl yn 2011, rwyf wedi bod yn ddiolchgar am eich cyfeillgarwch, eich cyngor, eich arweiniad da a'ch presenoldeb cyson, eich hiwmor da, eich chwerthin a'ch hwyl. Byddaf yn gweld eich colli'n fawr, Ann, fel y bydd y gweddill ohonom, ac rwy'n dymuno'r gorau i chi ar gyfer y dyfodol.
Hoffwn ddiolch hefyd i'r Aelodau am y cyfle i ymateb i'r ddadl hon. Credaf fod y Ceidwadwyr yn eithaf dewr i gyflwyno cynnig, sydd, fel arfer, yn dangos cyn lleied o gysylltiad sydd ganddynt â phobl Cymru, ac mae'n rhoi cyfle inni arddangos yr holl ffyrdd niferus rydym wedi sefyll dros bobl Cymru dro ar ôl tro, wrth gwrs, yn wyneb bygythiad y Torïaid.
Mae ein gwelliant yn nodi llond llaw yn unig o'n cyflawniadau fel Llywodraeth, a byddaf yn hapus i restru llawer mwy mewn munud, ond roeddwn yn meddwl y byddwn yn dechrau drwy rannu gyda chi y gwelliant gwreiddiol roeddwn yn ei ystyried, a byddai wedi dweud hyn: 'dileu popeth'—wrth gwrs, oherwydd bod y cynnig yn hurt—'a rhoi yn ei le: cynnig bod ein Senedd yn gresynu at y ffaith, er gwaethaf 20 mlynedd o ddatganoli, fod y Ceidwadwyr Cymreig wedi addo peidio â gwario'r un geiniog ar bethau nad ydynt wedi'u datganoli'n llawn, pethau fel ein 500 o Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu a ariennir gennym ni; yn gresynu bod y Ceidwadwyr wedi methu cynnig pecynnau cymorth busnes cystal â'n rhai ni sy'n well na dim arall a gynigir yn y DU; yn gresynu bod Ceidwadwyr y DU wedi gwastraffu £37 biliwn ar gontractau profi ac olrhain i'w ffrindiau, £37 biliwn a ddisgrifiwyd gan gyn Ysgrifennydd Parhaol y Trysorlys fel y rhaglen gwariant cyhoeddus fwyaf di-glem erioed; yn gresynu bod y Torïaid wedi diddymu'r lwfans cynhaliaeth addysg ac Erasmus, tra bod y Llywodraeth hon wedi camu i'r adwy i ddiogelu'r manteision amlwg sy'n dod gyda'r ddau gynllun; yn gresynu yn wir at y modd y mae'r Ceidwadwyr yng Nghymru a'r DU yn dirmygu datganoli. Mae hyn yn arbennig o amlwg ar hyn o bryd, mewn adroddiadau diweddar fod y Ceidwadwyr yn gresynu 'caniatáu i Lywodraeth Cymru redeg eich GIG eich hun ac ymateb i COVID-19'—ac rwy'n dyfynnu.
Wel, Ddirprwy Lywydd, nid ydym ni ar y meinciau hyn yn rhannu'r safbwyntiau hynny. Yn wir, oherwydd y Llywodraeth hon ac ymroddiad gweision cyhoeddus rhyfeddol ledled Cymru, rydym wedi dangos sut y dylid ei wneud. Mae gennym raglen brofi ac olrhain ragorol, sy'n cael ei rhedeg gan ein hawdurdodau lleol ein hunain, a heb ei rhoi ar gontract allanol i'r cynnig uchaf. Mae gennym un o'r rhaglenni brechu gorau yn y byd, gyda dros 50 y cant o'r boblogaeth oedolion wedi cael eu dos cyntaf. Gennym ni y mae'r pecyn cymorth busnes mwyaf hael yn y DU, sy'n dangos mai Llafur yw plaid arloesedd ac entrepreneuriaeth. Rydym wedi darparu gwerth dros £1.5 biliwn o arian ychwanegol i'n GIG, ac wedi sicrhau dros 580 miliwn o eitemau o gyfarpar diogelu personol, ac rydym wedi rhannu peth ohono â Lloegr. Rydym wedi cryfhau ein rhaglen prydau ysgol am ddim ac wedi dosbarthu dros 2.1 miliwn o flychau bwyd i'r rhai ar y rhestrau gwarchod. Rydym wedi ychwanegu dros £13 miliwn at ein cronfa cymorth dewisol i helpu'r rhai yr effeithiwyd arnynt waethaf gan y pandemig. Rydym wedi darparu gwerth £20 miliwn o gyllid brys i awdurdodau lleol ac wedi cartrefu dros 7,000 o bobl yn ystod y pandemig, ac yn wahanol i Loegr, nid ydym erioed wedi symud oddi wrth ein polisi 'pawb i mewn' yn ystod y pandemig hwn, ac rydym yn falch iawn o hynny. Rydym wedi darparu taliad 'diolch' o £500 i staff a staff gofal y GIG, taliad y mae'r Llywodraeth Geidwadol wedi gweld yn dda i'w drethu. Rydym wedi sefydlu cronfa gwerth £18 miliwn i weithwyr llawrydd, cronfa nad yw'n bodoli yn Lloegr, ac wedi sicrhau gwerth dros £90 miliwn o gymorth i'n sectorau diwylliannol allweddol, ar adeg pan oedd y Torïaid yn dweud wrth artistiaid am ailhyfforddi fel arbenigwyr TG.
Mae'r Torïaid yng Nghymru wedi fflip-fflopian dros fesurau y maent yn eu cefnogi ac nad ydynt yn eu cefnogi. A hwythau wedi'u clymu wrth Lywodraeth anwadal yn y DU, maent wedi gwneud y dewis anghywir dro ar ôl tro. Mae'n realiti rhyfedd pan fo gennym Blaid Geidwadol sydd am ddadariannu'r heddlu a chael gwared ar bob un o'n 500 o Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu, plaid nad yw'n dangos unrhyw edifeirwch am wastraffu £37 biliwn yn hytrach nag ariannu gwasanaethau cyhoeddus, ac sydd wedi profi'n wan ar fusnes, yn ddi-hid tuag at weithwyr llawrydd, ac yn galongaled ar fater prydau ysgol am ddim. Nid dyma yw ein cyflawniad ni yng Nghymru.
Dim ond cipolwg yw ein gwelliant ar y ffordd rydym wedi ymladd dros bobl Cymru dro ar ôl tro, y ffordd rydym wedi cryfhau ein GIG, wedi diogelu swyddi, wedi darparu 100,000 o brentisiaethau, wedi adeiladu ysgolion, wedi diwygio ein cwricwlwm, wedi ymladd yn erbyn newid hinsawdd, wedi adeiladu 20,000 o gartrefi, wedi creu gweledigaeth ar gyfer twristiaeth a diwylliant, wedi cryfhau ein hawdurdodau lleol, wedi buddsoddi yng nghanol y dref, wedi ymestyn gofal plant, wedi helpu pobl a busnesau i dalu llai o dreth ac ardrethi, wedi blaenoriaethu hawliau gweithwyr a'r bartneriaeth gymdeithasol, wedi cynyddu'r cyllid ar gyfer iechyd meddwl. Rydym wedi cyhoeddi cynllun gweithredu cydraddoldeb hiliol na welwyd mo'i debyg o'r blaen. Ni oedd y genedl gyntaf i ddarparu proffylacsis cyn-gysylltiad ledled y DU. Gwnaethom gyflwyno gwasanaeth cydnabod rhywedd. Rydym wedi ymrwymo i dasglu i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb a wynebir gan bobl anabl. Rydym wedi cynyddu ein cyllid i fynd i'r afael â thrais a cham-drin domestig. Rydym wedi buddsoddi mewn teithio llesol, mewn creu lleoedd, a dod o hyd i atebion tai i heriau fel tlodi tanwydd, demograffeg newidiol a lleihau allyriadau carbon. Mae ein cymunedau a'n trefi arfordirol yn parhau i fod yn flaenoriaeth i'r Llywodraeth hon, a dyna pam, er gwaethaf penderfyniad Llywodraeth Dorïaidd y DU i atal y cyllid pwysig hwn, ein bod wedi ymrwymo i ddarparu £6 miliwn ar gyfer ein trefi arfordirol.
Ddirprwy Lywydd, mae'r rhestr yn mynd ymlaen ac ymlaen, ac felly hefyd ein penderfyniad diwyro y byddwn, gyda'n gilydd, yn cadw Cymru i symud yn ei blaen. Lywydd, ar yr ochr hon i'r tŷ, rydym yn falch iawn o gyflawniad y Llywodraeth hon. Er gwaethaf heriau COVID a Brexit, rydym wedi cadw ein llygaid ar ddyfodol y wlad hon, ac ar y gobeithion y mae pawb ohonom yn eu rhannu. Diolch.
Diolch. Nid oes yr un Aelod wedi nodi eu bod yn dymuno gwneud ymyriad; felly, galwaf ar Darren Millar i ymateb i'r ddadl.
Diolch, Ddirprwy Lywydd, ac a gaf fi hefyd ddechrau gyda theyrnged i chi? Fel Aelod o'r Senedd etholaeth gyfagos, rwyf wedi gweld drosof fy hun pa mor galed rydych chi'n gweithio ar ran eich etholwyr, a bydd yn golled fawr iddynt pan fyddwch yn rhoi'r gorau iddi. Rydych chi'n ddygn; rydych chi'n ymgyrchydd gwleidyddol gwych. Yn wir, rydych chi a minnau wedi mynd i drafferthion gyda'n pleidiau ein hunain am ymgyrchu weithiau dros faterion ar yr un ochr i'r ddadl, ond mae wedi bod yn bleser gweithio gyda chi, ac rydych chi wedi bod yn gydymaith teithio gwych hefyd ar sawl taith i fyny ac i lawr ar y trên rhwng gogledd a de Cymru.
A gaf fi droi at bwnc y ddadl hon, sef methiannau'r Blaid Lafur dros yr 20 mlynedd diwethaf? Roeddwn i'n meddwl bod y Gweinidog wedi ceisio gwneud gwaith da ohono, ond mae'n anodd iawn gwneud gwaith teilwng ohono pan fydd eich cyflawniad fel Llywodraeth mor erchyll. Dros yr 20 mlynedd diwethaf, mae'r Blaid Lafur a'u cynorthwywyr bach ym Mhlaid Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol wedi difetha rhannau helaeth o wasanaethau cyhoeddus Cymru a'n heconomi. Rydym wedi gweld y methiannau sy'n amlwg iawn o hyd wrth gwrs yn ein gwasanaeth iechyd gwladol, er gwaethaf y gwaith aruthrol y maent wedi'i wneud yn ymateb i'r pandemig. Mae gennym wasanaeth iechyd gwladol a oedd mewn argyfwng cyn mis Mawrth y llynedd. Mae argyfwng recriwtio yn dal i fodoli yn ein gwasanaeth iechyd gwladol—rhywbeth rydych chi wedi bod yn gyfrifol amdano ers dros 20 mlynedd. Gwyddom fod amseroedd aros allan o reolaeth yn llwyr; gwyddom nad yw amseroedd targed ar gyfer pobl sy'n mynd i mewn ac allan o'n hadrannau achosion brys erioed wedi'u cyrraedd; ac wrth gwrs, hoffwn eich atgoffa chi a'r bobl sy'n gwylio'r ddadl hon mai Llywodraeth Lafur Cymru, unwaith eto, yw'r unig Lywodraeth erioed yn hanes y Deyrnas Unedig sydd wedi torri cyllideb y GIG—rhywbeth nad wyf yn credu ei fod yn gyflawniad y gallwch fod yn falch iawn ohono. Ac yna, wrth gwrs, mae Betsi Cadwaladr, yn fy iard gefn fy hun, wedi bod yn dihoeni mewn mesurau arbennig am fwy o amser nag unrhyw sefydliad GIG mewn hanes ac mae'n dal i fod â phroblemau sydd eto i'w datrys.
Os edrychwch ar addysg, mae pobl eisoes wedi cyfeirio at y ffaith mai gan Gymru y mae'r system addysg sy'n perfformio waethaf yn y Deyrnas Unedig gyfan ar brofion Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd. Ac nid dim ond y gwaethaf yn y Deyrnas Unedig, dyma'r unig genedl yn y Deyrnas Unedig sydd yn hanner isaf tablau cynghrair y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd—nid yw hwnnw'n gyflawniad i ymfalchïo ynddo. Ac nid yw'n syndod, mewn gwirionedd, o ystyried y bwlch cyllido fesul disgybl rhwng Cymru a Lloegr dan oruchwyliaeth eich Llywodraeth chi.
Ac ar ein heconomi wedyn, mae gennym Weinidog—gwn ei fod yn casáu cael ei atgoffa o hyn, ond mae gennym Weinidog yn adran yr economi a ddywedodd nad oedd gan Lywodraeth Cymru syniad beth oedd yn ei wneud ar yr economi, ac roedd yn llygad ei le. Gallaf ei weld yn dal ei ben yn ei ddwylo, ac mae'n iawn iddo wneud hynny. Rydym yn anobeithio gyda chi, Lee Waters, ynglŷn â chyflwr ein heconomi yma yng Nghymru ar ôl dau ddegawd a mwy o Lafur—
Mae angen i chi ddirwyn i ben yn awr, os gwelwch yn dda.
Fe wnaf yn sicr. Rwy'n credu bod y pleidleiswyr yn yr etholiad nesaf yn wynebu dewis llwm iawn: mae ganddynt anhrefn cyfansoddiadol gyda Phlaid Cymru; mae ganddynt gyfle i bleidleisio dros y Democratiaid Rhyddfrydol, sydd wedi gwneud eu nyth gyda'r Blaid Lafur dros y pum mlynedd diwethaf; neu gallant bleidleisio dros y Blaid Lafur a chael pum mlynedd arall o fethiant. Ond rwyf am eu hannog i bleidleisio dros blaid sydd â chynllun—cynllun ar gyfer mwy o feddygon, mwy o nyrsys, mwy o athrawon, ar gyfer uwchraddio ein seilwaith ffyrdd yng ngogledd Cymru, gorllewin Cymru a de Cymru, ar gyfer cyllid teg i'n cynghorau ledled y wlad ac ar gyfer plaid sydd o ddifrif ynglŷn â'r amgylchedd, plaid a fydd yn gwahardd plastigau untro yng Nghymru ac a fydd hefyd yn darparu Deddf aer glân i'n gwlad.
Rydym yn blaid sydd ag atebion i broblemau Cymru. Rydym am weld mwy o swyddi, ysbytai gwell ac ysgolion o'r radd flaenaf. Felly, rwy'n annog pawb yn y Siambr hon heddiw—y Siambr rithwir hon—i bleidleisio dros ein cynnig ac i anfon y neges honno at bobl Cymru fod y dewis yno iddynt ac y dylent bleidleisio dros y Ceidwadwyr Cymreig.
Y cwestiwn yw a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Ydw, rwy'n gweld gwrthwynebiadau, felly, fe ohiriwn y pleidleisio o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.