– Senedd Cymru am 2:40 pm ar 19 Mai 2021.
Yr eitem nesaf ar yr agenda, felly, yw'r datganiad gan y Prif Weinidog ar yr adolygiad o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020. Dwi'n galw ar y Prif Weinidog i wneud ei ddatganiad. Mark Drakeford.
Diolch yn fawr, Llywydd. Yng nghyfarfod olaf ond un y pumed Senedd, y tro diwethaf i'r Aelodau ddod at ei gilydd i drafod y rheoliadau coronafeirws hyn, roeddem ni newydd nodi blwyddyn ers dechrau’r pandemig. Roedd hwnnw yn ddiwrnod o fyfyrio dwys, gan gofio nid yn unig pawb oedd wedi colli eu bywydau i'r feirws ofnadwy hwn, ond hefyd y dewrder a'r nerth a ddangoswyd gan gymaint o bobl ar hyd a lled Cymru.
Wrth i’r sefyllfa wella o ran iechyd y cyhoedd, cymeron ni’r camau cyntaf allan o'r cyfyngiadau symud, gan symud o 'aros gartref' i 'aros yn lleol'. Roedd siopau trin gwallt a siopau barbwr wedi bod ar agor ers ychydig dros wythnos, ac roeddem ni yn y cam cyntaf o ailagor busnesau sy’n gwerthu nwyddau sydd ddim yn hanfodol. Roedd cyfleusterau chwaraeon awyr agored yn agor am y tro cyntaf.
Heddiw, Lywydd, wrth inni ddechrau'r chweched Senedd hon, mae sefyllfa iechyd y cyhoedd yng Nghymru wedi gwneud cynnydd sylweddol, ac rydym bellach ar lefel rhybudd 2. Mae gwaith caled pawb ledled Cymru, ynghyd â'n rhaglen frechu lwyddiannus, yn golygu ein bod yn parhau i fod â'r cyfraddau coronafeirws isaf yn y Deyrnas Unedig, sef oddeutu 10 achos i bob 100,000 o'r boblogaeth, a chyfradd profion positif sy’n 1 y cant heddiw.
Ar yr un pryd, mae nifer y bobl yn yr ysbyty â COVID ar ei lefel isaf ers dechrau'r pandemig fwy na 15 mis yn ôl, a dim ond tri pherson â COVID sydd mewn gwelyau gofal critigol yng Nghymru. Mae ein GIG yn dychwelyd i lefelau mwy normal o weithgarwch ar yr adeg hon o'r flwyddyn, gan drin mwy o bobl ag ystod ehangach o salwch, anafiadau a chyflyrau iechyd. Diolch byth, mae llawer llai o farwolaethau yn cael eu cofnodi, er y gwn y bydd pawb yn y Siambr hon, ac sy’n cymryd rhan o bell, yn parhau i feddwl am yr holl bobl sydd wedi colli rhywun annwyl yma yng Nghymru i'r feirws ofnadwy hwn.
Y penwythnos hwn, cyraeddasom garreg filltir gyda 2 filiwn o bobl bellach wedi cael eu dos cyntaf o’r brechlyn yng Nghymru—dyna 2 filiwn o bobl yng Nghymru sydd wedi dweud 'ie' i gael eu brechu. Mae mwy nag 80 y cant o'r holl oedolion yng Nghymru bellach wedi cael y dos cyntaf, fan lleiaf, o'r brechlyn. Mewn ffigurau a gyhoeddwyd yn gynharach heddiw, mae 80 y cant o bobl yn eu 40au, 62 y cant o bobl yn eu 30au, a 43 y cant o bobl rhwng 18 a 29 oed bellach wedi cael brechlyn cyntaf yma yng Nghymru. Yn ystod yr wythnosau nesaf, rydym yn gobeithio pasio’r garreg filltir pan fydd miliwn o bobl wedi cwblhau'r cwrs brechu dau ddos—ac mae hyn oll wedi digwydd mewn cwta chwe mis.
Gwn y bydd pob Aelod o'r Senedd yn awyddus i ddiolch i'r rheini sy'n ymwneud â'r rhaglen frechu, o’r holl bobl sy'n gweithio y tu ôl i'r llenni i gynllunio a chydlynu’r gwaith cymhleth o ddarparu’r brechlynnau, i'r miloedd o bobl—staff y GIG, staff milwrol, a'r llu o wirfoddolwyr—am y llwyddiant anhygoel hwn. Eu hymdrechion hwy sy'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i hynt y pandemig hwn.
Dros yr wythnosau nesaf, byddwn yn canolbwyntio ein hymdrechion ar ddarparu dosau cyntaf, er mwyn sicrhau ein bod yn brechu cymaint o bobl â phosibl. Bydd grwpiau oedran iau yn cael cynnig brechlynnau Pfizer a Moderna, yn unol â'r cyngor diweddaraf gan y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu. Lywydd, y ffaith bod gennym lefelau mor isel o’r coronafeirws a lefelau uchel o frechu yw’r rheswm pam ein bod wedi gallu symud i lefel rhybudd 2 mewn un cam—un cam arall tuag at normalrwydd.
Canlyniadau'r adolygiad o'r rheoliadau rydym yn ei ystyried heddiw yw bod lletygarwch dan do yn gallu ailagor ar gyfer grwpiau o chwech o bobl o hyd at chwe aelwyd, gall llety gwyliau ailagor yn llawn, gall adloniant dan do ac atyniadau ymwelwyr ailagor, a gall hyd at 30 o bobl gymryd rhan mewn gweithgareddau wedi'u trefnu o dan do a hyd at 50 o bobl mewn gweithgareddau wedi'u trefnu yn yr awyr agored, gan gynnwys derbyniadau priodas. Mae teithio rhyngwladol hefyd wedi ailgychwyn. Byddwn yn dilyn yr un system goleuadau traffig coch, oren, gwyrdd a ddefnyddir yn Lloegr a'r Alban, ond gyda rhai mesurau diogelwch ychwanegol i wneud popeth a allwn i atal y coronafeirws rhag cael ei ailgyflwyno i Gymru o dramor. Lywydd, yn sicr, nid yw'r ffaith bod rhywbeth yn cael ei ganiatáu yn golygu ei fod yn orfodol ac nid yw o reidrwydd yn golygu ei fod yn syniad da hyd yn oed. Ailadroddaf farn Llywodraeth Cymru mai hon yw'r flwyddyn i fynd ar wyliau yng Nghymru ac i fwynhau popeth sydd gan Gymru i'w gynnig.
Fel rhan o'r adolygiad tair wythnos, o ddydd Llun yr wythnos nesaf ymlaen, byddwn hefyd yn codi cyfyngiadau ar gyfanswm yr ymwelwyr sy'n cael ymweld â phobl sy'n byw mewn cartrefi gofal. Bydd hynny'n cwblhau penderfyniadau’r adolygiad tair wythnos hwn, a bydd y cylch adolygu tair wythnos nesaf yn dod i ben ar ddechrau mis Mehefin. Wedyn, os yw sefyllfa iechyd y cyhoedd yn parhau i fod yn gadarnhaol, byddwn yn ystyried a allwn symud i lefel rhybudd 1. Byddai hynny'n golygu llacio'r rheolau ymhellach mewn perthynas â phobl yn cyfarfod yn eu cartrefi eu hunain, cynyddu nifer y bobl sy'n cael mynychu derbyniadau priodas, ac ailgychwyn digwyddiadau mwy, gan adeiladu ar brofiad ein rhaglen beilot, sydd bellach ar waith.
Lywydd, er bod hyn oll yn sicr yn gadarnhaol, mae'n rhaid imi argymell gofal. Unwaith eto, mae'r pandemig wedi dilyn trywydd annisgwyl sy’n peri cryn bryder. Ddiwedd yr wythnos diwethaf, roedd mwy na 1,600 achos o'r amrywiolyn India, fel y’i gelwir, yn y Deyrnas Unedig, ac mae’r nifer hwnnw yn Lloegr yn dyblu bob pump i saith diwrnod. Mae'r rhan fwyaf o'r achosion hynny yng ngogledd-orllewin Lloegr, yn Llundain ac yn ardal Bedford. Yma yng Nghymru, mae gennym oddeutu 25 o achosion sy’n gysylltiedig ag amrywiolyn India sy'n peri pryder. Mae pob un o'r rheini'n destun ymchwiliad ac mae pawb sydd wedi dod i gysylltiad â'r unigolion hynny, wrth gwrs, yn cael eu holrhain a'u profi.
Mae'r dystiolaeth sy'n dod i'r amlwg yn awgrymu y gallai'r amrywiolyn newydd hwn fod yn fwy trosglwyddadwy na ffurf fwyaf cyffredin y feirws ar hyn o bryd—amrywiolyn Caint—a oedd yn gyfrifol am yr ymchwydd mewn achosion yng Nghymru ar ddechrau’r gaeaf y llynedd. Ar hyn o bryd, nid oes digon o dystiolaeth eto i ddynodi beth yw effaith amrywiolyn India ar effeithlonrwydd y brechlyn neu a yw'n achosi salwch mwy difrifol. Mae pob un ohonom yn gobeithio, wrth gwrs, y bydd y brechlyn yn amddiffyn rhag yr amrywiolyn newydd hwn ac eraill a allai ddod i’r amlwg, ac mae'r wyddoniaeth yn parhau i archwilio'r sefyllfa, a byddwn yn derbyn cyngor gan ein cynghorwyr gwyddonol wrth i'r dystiolaeth honno ddod yn gliriach.
Yn y cyfamser, mae'n bwysig iawn ein bod yn parhau i wneud popeth a allwn i gadw lefelau'r feirws mor isel â phosibl yng Nghymru wrth inni barhau i lacio’r cyfyngiadau mewn ffordd ofalus a gochelgar. Ymdrechion unigolion sy'n cynnig y ffordd orau a mwyaf effeithiol o ymateb i amrywiolynnau newydd. Wrth gwrs, byddwn yn parhau i gael ein harwain gan y cyngor gwyddonol diweddaraf, fel sydd wedi digwydd drwy gydol y pandemig, ac yn sicrhau bod y cyngor hwnnw’n gyhoeddus fel y gall yr Aelodau ei weld. Gofynnaf i'r Aelodau gymeradwyo'r newidiadau a nodir yn yr adolygiad hwn o'r rheoliadau cyfyngiadau coronafeirws pan gânt eu cyflwyno i'w trafod.
Diolch am y diweddariad, Brif Weinidog ac rwy'n cytuno â'r teimladau yn eich datganiad. Er ein bod yn agosáu at gyfnodau brafiach, mae'n werth cofio bod llawer o deuluoedd ledled Cymru, yn anffodus, wedi colli anwyliaid ac mae llawer o bobl yn hiraethu am yr anwyliaid hynny a theimlir eu colled bob dydd o'r wythnos a phob mis sy'n mynd heibio, yn ogystal â dewrder a chryfder pawb sydd wedi bod yn rhan o'r ymdrech genedlaethol i fynd i’r afael â’r feirws, a'r siwrnai y mae'n rhaid inni barhau i fynd arni i drechu’r feirws hwn, fel y nodwyd yn eich datganiad, gyda’r amrywiolynnau newydd sy’n ein hwynebu. Bron yn fisol, bellach, ymddengys bod yna amrywiolynnau sy’n peri pryder.
Fe sonioch chi am amrywiolyn India, a chredaf ichi roi rhai ffigurau i ni mewn perthynas â'r cyfraddau yng Nghymru. Credaf ichi ddefnyddio'r rhif 25 fel nifer yr achosion sy'n peri pryder yng Nghymru. A oes unrhyw amrywiolynnau eraill sy'n dechrau cael eu bwydo i gyngor y Llywodraeth a allai beri problemau sylweddol posibl wrth inni nesu at fisoedd yr haf? Oherwydd, gyda feirws, rydym yn deall y bydd yn mwtadu, ac mewn gwirionedd, bydd yn rhaid inni ddechrau byw gyda'r amrywiolynnau newydd sy'n ein hwynebu wrth iddynt ddod i’r amlwg. Ond ymddengys bod amrywiolyn India wedi cael gafael ar y wlad ar hyn o bryd, dros y penwythnos, gyda'r sylw a gafodd, a chredaf ei bod yn bwysig ystyried sut y mae hynny wedi effeithio ar rai o'r safbwyntiau ynglŷn â’r rheoliadau hyn y mae'r Llywodraeth yn gweithio arnynt gyda'i chynghorwyr i ddod â hwy ger bron y Cynulliad i'w cymeradwyo.
Hoffwn dynnu sylw hefyd at fethiant y Llywodraeth i ôl-ddyddio ei chymorth i fusnesau. Er bod croeso mawr i’r £66 miliwn sydd ar gael, Brif Weinidog, fe fyddwch yn ymwybodol, yn amlwg, fod yna gyfnod yn ystod yr ymgyrch etholiadol pan nad oedd cymorth ariannol ar gael i fusnesau. A gwn eich bod wedi nodi bod cyfanswm o £200 miliwn ar gael i fusnesau. Pan gaiff yr arian hwnnw ei ddyrannu yn y pen draw, a fydd cyfle i'r Llywodraeth ystyried ceisiadau a hawliadau am iawndal a chymorth wedi’i ôl-ddyddio i fusnesau yn y cyfnod hwnnw pan ddaeth cymorth i fusnesau i ben ar 31 Mawrth, gan y credaf fod hwnnw'n gyfnod pwysig iawn i ariannu ar ei gyfer, gan fod y cyfyngiadau wedi effeithio ar y busnesau hynny? Ac wrth gwrs, yng Nghymru, nid yw’r cymorth i fusnesau wedi cynnwys grantiau adfer i fusnesau newydd fel mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig. Felly, os gallwch roi ychydig mwy o wybodaeth i ni am y cymorth i fusnesau lle mae'r rheoliadau hyn wedi atal busnesau rhag masnachu, byddai hynny’n ddefnyddiol.
Ar brofi yn benodol, mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig, mae'n llawer haws sicrhau bod gwasanaethau a chitiau profi ar gael ar gais neu ar alw’n rhithwir, ond mae pethau'n fwy rhagnodol yma yng Nghymru. A oes unrhyw fesurau y mae Llywodraeth Cymru yn ystyried eu cyflwyno i sicrhau bod mwy o gitiau profi ar gael yma yng Nghymru, a fydd yn hwyluso’r broses o lacio cyfyngiadau mewn modd mwy amserol, a'r normalrwydd y cyfeirioch chi ato yn eich datganiad y mae pob un ohonom yn ysu amdano? Brif Weinidog, cawsoch eich cofnodi'n dweud y bydd angen masgiau a mesurau cadw pellter cymdeithasol yng Nghymru tan ddiwedd y flwyddyn yn ôl pob tebyg. Ai dyna yw eich asesiad o hyd, gan fod rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig yn sôn am gymryd camau, yn amlwg, a fyddai'n llacio mesurau cadw pellter cymdeithasol a masgiau, neu a fyddwn—[Torri ar draws.] Rwy'n clywed sylwadau. Credaf ei fod yn gwestiwn cwbl synhwyrol i'w ofyn, er tegwch, oherwydd yn amlwg, bydd pobl yn awyddus i ddeall y rheolau a fydd yn berthnasol i’w bywydau yma yng Nghymru.
Hefyd, ar deithio rhyngwladol, rwyf newydd gael e-bost gan etholwr sy'n derbyn mai cyngor yn unig sydd ar gael ar hyn o bryd, ac nid yw hynny o gymorth iddynt mewn perthynas â hawliadau yswiriant i gwmnïau teithio. Ac mae pobl yn dymuno cadw at y cyngor y mae'r Llywodraeth yn ei roi, ond nid yw hynny'n arwain at iawndal wrth fynd at y cwmnïau teithio. Felly, a yw'r Llywodraeth mewn sefyllfa i gynnig mwy o gyngor a chymorth i unigolion sy’n gaeth i ymrwymiadau teithio ond sy'n dal i fod yn awyddus i gadw at y cyngor y mae'r Llywodraeth yn ei roi, ond yn ariannol, byddent ar eu colled yn ddifrifol?
Ac yn olaf, os caf ofyn, fe dynnoch chi sylw at lwyddiant y rhaglen frechu, sy’n llwyddiant gwych i’r DU yn fy marn i, ac sydd wedi arwain at lacio cyfyngiadau’n gyflymach nag mewn rhannau eraill o'r byd, ond mae sôn y bydd brechiadau atgyfnerthu’n ofynnol yn yr hydref. A oes gennych unrhyw wybodaeth ar gyfer y cofnod yn y Cyfarfod Llawn y prynhawn yma ynghylch brechiadau atgyfnerthu a allai fod yn ofynnol ar ddiwedd yr haf/dechrau'r hydref, a fyddai, unwaith eto, yn atal y cyfyngiadau a allai fod wedi'u gosod ar ein bywydau bob dydd pe na bai'r rhaglen frechu wedi bod mor llwyddiannus? Diolch, Brif Weinidog.
Diolch i arweinydd yr wrthblaid am ei gwestiynau, ac rwy'n cytuno'n llwyr â'r hyn a ddywedodd ar y dechrau. I'r teuluoedd sydd wedi colli anwyliaid o ganlyniad i’r coronafeirws, ni fydd y pandemig byth ar ben, gan y bydd y golled honno gyda hwy am weddill eu bywydau, ac rwy'n falch ein bod wedi cael cyfle hyd yn oed yn fyr y prynhawn yma i gofio hynny ac i sicrhau ein bod yn dal i feddwl am y bobl hynny.
O ran amrywiolynnau y tu hwnt i amrywiolyn India, mae gennym enghreifftiau o hyd o amrywiolyn De Affrica yma yng Nghymru, ac rydym yn parhau i fod yn wyliadwrus rhag amrywiolyn Brasil—
Mae'n ddrwg gennyf, ond bydd angen imi dorri ar eich traws. Ni chredaf fod eich meicroffon yn gweithio, Brif Weinidog. Nid yw'n debygol y gallwch chi wneud unrhyw beth i ddatrys y broblem, ond gan fod yna Aelodau ar Zoom, ni allant eich clywed ar hyn o bryd. Felly, rydym am gymryd seibiant technegol.
Rŷn ni'n ailddechrau yn dilyn y toriad technegol yna. Dwi'n galw ar y Prif Weinidog, felly, i gyflwyno ei ymateb i sylwadau arweinydd yr wrthblaid. Prif Weinidog.
Diolch yn fawr, Lywydd. Roeddwn yn ymateb i gwestiwn arweinydd yr wrthblaid am amrywiolynnau ar wahân i amrywiolyn India sy'n bresennol yng Nghymru. Rwyf newydd esbonio bod gennym enghreifftiau o amrywiolyn De Affrica yng Nghymru. Rydym yn cadw llygad gofalus ar amrywiolyn Brasil, gan ganolbwyntio'n arbennig ar Bortiwgal a theithio i mewn ac allan o'r wlad honno. Mewn perthynas ag amrywiolyn India ei hun, yn ogystal â'r amrywiolyn sy'n peri pryder, mae dau amrywiolyn India arall yn destun ymchwiliad, ac mae gennym nifer o enghreifftiau o'r rheini yng Nghymru hefyd. Felly, mae arweinydd yr wrthblaid yn llygad ei le, Lywydd: er y sylw a fu yn ystod y dyddiau diwethaf i amrywiolyn India, nid yw ond yn un enghraifft o'r angen i fod yn wyliadwrus drwy'r amser er mwyn sicrhau nad ydym yn ail-fewnforio perygl i Gymru yn y pen draw.
Ar yr hyn a ddywedodd Andrew R.T. Davies am gymorth busnes, nid wyf yn derbyn bod y cymorth hwnnw wedi dod i ben yn llwyr ym mis Ebrill; gwnaed llawer iawn o daliadau ym mis Ebrill a lle ceir ceisiadau gan fusnesau y gellir mynd ar eu trywydd, wrth gwrs eu bod yn gallu gwneud hynny. Nid wyf ychwaith yn cydnabod y sefyllfa y credaf ei fod yn ei disgrifio mewn perthynas â phrofion. Mae gennym ddegau o filoedd o brofion bob wythnos yng Nghymru nad ydynt yn cael eu defnyddio, oherwydd bod lefelau presennol y coronafeirws mor isel yng Nghymru. Ar ei anterth, roeddem yn cynnal 120,000 o brofion PCR mewn wythnos, ond 67,000 o brofion a wnaethpwyd yr wythnos diwethaf. Felly, mae digon o gapasiti yn y system ar gyfer profion PCR, ac rydym yn defnyddio cannoedd o filoedd o brofion llif unffordd yng Nghymru i sicrhau bod ysgolion yn parhau i gael eu diogelu, fod gweithwyr cartrefi gofal yn cael eu diogelu, ac yn wir, fod busnesau'n gallu eu defnyddio hefyd.
Rydym yn rhan o'r adolygiad o'r mesurau cadw pellter cymdeithasol y mae Llywodraeth y DU yn ei gynnal yn yr ystyr fod swyddogion yn cymryd rhan ynddo, ac rydym yn aros i weld beth fydd ei ganlyniad. Rwy'n credu bod yr adolygiad hefyd yn gorfod ystyried amrywiolyn India, ac a fyddai'n newid unrhyw agwedd ar y dadansoddiad y maent wedi'i gyflawni hyd yn hyn.
Ar deithio rhyngwladol, cyngor gan y Swyddfa Dramor a Chymanwlad sy'n penderfynu mewn perthynas ag yswiriant, ac rwy'n credu bod y Swyddfa Dramor a Chymanwlad wedi cyhoeddi cyngor ddoe yn dweud wrth bobl na ddylent fynd ar wyliau mewn gwledydd ar y rhestr oren, a bydd pobl yn gallu defnyddio hynny i'w ddangos i'w cwmnïau yswiriant lle maent yn penderfynu peidio â bwrw ymlaen yn awr ac angen hawlio yswiriant.
Ac yn olaf, y cwestiwn pwysig am frechlynnau atgyfnerthu. Cytunaf yn llwyr, fel y gwneuthum o'r cychwyn, fod Llywodraeth y DU wedi cael llwyddiant yn sicrhau'r cyflenwad brechiadau—mae 50 miliwn o ddosau ychwanegol wedi'u harchebu ar gyfer rhaglen atgyfnerthu bosibl yn yr hydref. Rydym wedi cytuno ar gyfran poblogaeth o hynny i Gymru. Bydd y brechlynnau atgyfnerthu hynny wedi'u llunio gan ystyried yr amrywiolynnau sy'n dod i'r amlwg ac rydym eisoes yn cynllunio yng Nghymru sut y gallem gynnal rhaglen atgyfnerthu yn ystod yr hydref, os bydd angen.
Mewn perthynas ag amrywiolyn India, yr amrywiolyn India sy'n peri pryder, fe ddywedoch chi fod yna nifer o feysydd lle nad oes gennym dystiolaeth bendant o hyd ynglŷn â'i effaith o ran effeithiolrwydd brechu a hefyd a yw'n achosi math mwy difrifol o'r clefyd. A allech ddweud ychydig am y meysydd lle mae gennym rywfaint o ddealltwriaeth? Felly, yn arbennig, rwyf wedi darllen casgliad yn rhai o bapurau'r grŵp cynghori gwyddonol ar argyfyngau, er enghraifft, y gallai'r amrywiolyn hwn fod 50 y cant yn fwy trosglwyddadwy—ai dyna yw eich dealltwriaeth chi? Ac o ddilyn y rhesymeg i'r pen, felly, maent yn dadlau bod posibilrwydd realistig y gallai hyn arwain at don newydd—ton newydd sylweddol—o achosion, yn rhannol oherwydd, hyd yn oed gyda'r lefel uchel iawn o frechu sydd gennym yng Nghymru—ni wn a ydym bellach yn dal i fod yn Rhif 2 yn y tabl cynghrair ar gyfer pigiadau cyntaf, ac mae hynny'n glod enfawr yn fy marn i i'r gwaith tîm ardderchog—ond hyd yn oed gyda hynny, nid yw'n rhoi lefel ddigonol o amddiffyniad yn y gymuned. O dan yr amgylchiadau hynny, os dilynwch y rhesymeg i'r pen, felly, a oes perygl y gallai llacio'r cyfyngiadau ymhellach heb ymyriadau parhaus neu ymyriadau nad ydynt yn rhai fferyllol arwain at fwy o bobl yn gorfod mynd i'r ysbyty a lefel uwch o farwolaethau hyd yn oed?
A yw Llywodraeth Cymru yn hyderus fod gan ein gwasanaethau iechyd gapasiti i ymdopi â senario o'r fath, yn seiliedig ar yr elfennau lle mae gennym rywfaint o dystiolaeth ar hyn o bryd? A pha gynlluniau wrth gefn sy'n cael eu gwneud ar y sail honno, yn enwedig ar gyfer mesurau wedi'u targedu wrth ymdrin â lledaeniad yr amrywiolyn newydd hwn? Felly, rwy'n credu eich bod wedi siarad o'r blaen am y posibilrwydd o frechu rhagor o bobl mewn ardaloedd lle ceir lefelau uwch o achosion a hynny'n gynharach, neu hyd yn oed gyfyngiadau symud lleol. Credaf y byddai'n arbennig o ddefnyddiol clywed beth rydych chi'n ei ddeall am lefelau'r feirws a'i botensial, mewn perthynas â daearyddiaeth Cymru, i ledaenu, yn y bôn, i ogledd-ddwyrain a gogledd-orllewin Cymru. Beth yw safbwynt Llywodraeth Cymru mewn perthynas â hynny?
Hefyd, gwelais eich sylwadau ddoe, Brif Weinidog, ynglŷn â brechu pobl dan 18 oed. A oes mwy o frys ynghylch hynny yng nghyd-destun feirws mwy trosglwyddadwy? Beth yw eich cyngor diweddaraf ar hynny? Ac yn y cyd-destun hwnnw hefyd, beth yw eich ymateb i sylwadau Sefydliad Iechyd y Byd heddiw, yn annog Llywodraeth Cymru i beidio â brechu pobl ifanc dan 18 oed ac i flaenoriaethu camau i rannu brechiadau gydag oedolion risg uwch mewn gwledydd incwm is?
O ran ysgolion hefyd, roeddwn yn meddwl tybed a allech chi ddweud ychydig mwy am eich safbwynt ar hyn o bryd ar wisgo masgiau mewn ystafelloedd dosbarth, ac yn wir sut y mae'r hyn rwyf newydd gyfeirio ato yn awr, yr amrywiolyn newydd sy'n peri pryder, yn effeithio ar yr ystyriaeth honno. Mynegwyd pryder mewn ysgolion mewn cyd-destun gwahanol, sef y pwysau y mae ysgolion ac athrawon yn ei deimlo ynghylch cymedroli asesiadau, a bod hyn, yn ei dro, yn peri pryder i fyfyrwyr. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi myfyrwyr ac athrawon i geisio lliniaru hyn?
Yn olaf, ar gymorth ariannol, os wyf yn eich deall, Brif Weinidog, fe ddywedoch chi fod pobl yn y sector yn cefnogi eich penderfyniad i gadw rhywfaint o'r £200 miliwn yn ôl ar gyfer cymorth wedi'i dargedu'n well yn nes ymlaen. Rwyf newydd gael rhywun o Gydweithfa Bwytai Annibynnol Cymru yn dweud eu bod yn dadlau'r gwrthwyneb llwyr i hynny. Dywedodd eraill yn UKHospitality eu bod yn cefnogi dull wedi'i dargedu, ond nad yw'r arian a ddarperir yn awr yn ddigon. Y lefel—. Rwy'n credu, os oes gennych lai na 10 o weithwyr, mae'r cymorth oddeutu £5,000. Mae'n ymddangos bod hyn yn llawer is na'r cymorth uniongyrchol, y grantiau ailgychwyn, sy'n cael eu darparu yn Lloegr a'r Alban. Felly, a gaf fi annog y Prif Weinidog i drafod hyn gyda swyddogion? Oherwydd efallai eich bod wedi cael darlun nad yw'n adlewyrchu'r hyn sy'n digwydd ar lawr gwlad yn y sector, sydd mewn sefyllfa eithriadol o anodd.
Lywydd, diolch i Adam Price am y cwestiynau hynny. Y maes dealltwriaeth mwyaf, yn y cyngor a gefais, yw'r tebygolrwydd fod amrywiolyn India 50 y cant yn fwy trosglwyddadwy nag amrywiolyn Kent, ac felly mae'n debygol o'i ddisodli os yw'n datblygu'n lledaeniad cymunedol go iawn. Nawr, nid ydym yn y sefyllfa honno yma yng Nghymru ar hyn o bryd o bell ffordd, ac mae'r enghreifftiau y gwyddom amdanynt i gyd wedi'u nodi eisoes gan dimau iechyd cyhoeddus lleol, a chysylltir â'r holl unigolion y gwyddom amdanynt wrth eu henwau, ac mae eu hamgylchiadau unigol yn hysbys.
Pe byddem yn gweld ton newydd, yna, wrth gwrs, mae'r hyn a ddywedodd Adam Price yn gywir. Hyd yn oed gydag 80 y cant o'r boblogaeth wedi cael dos cyntaf o'r brechlyn yng Nghymru, mae hynny'n dal i olygu nad yw 20 y cant wedi ei gael, ac mae hwn yn feirws sy'n targedu'r bobl fwyaf agored i niwed. Felly, mae'n dal i fod gwendid sylweddol, er bod miloedd yn fwy o bobl yn cael eu brechu bob wythnos. Dywedais yn fy natganiad y byddwn yn canolbwyntio ar sicrhau ein bod yn cyflymu cymaint ag y gallwn y rhaglen i roi brechiad cyntaf i bobl sy'n is i lawr yr ystodau oedran, oherwydd ceir rhywfaint o dystiolaeth hefyd fod amrywiolyn India wedi'i ganfod yn fwy helaeth mewn poblogaethau iau, o bosibl am nad oes niferoedd mor uchel ohonynt yn cael eu brechu.
Mewn perthynas â'r rhai sy'n gorfod mynd i'r ysbyty, rydym yn dal i weld gostyngiad yn nifer y bobl yn ysbytai Cymru sydd â'r coronafeirws mewn rhyw fodd neu'i gilydd—lle ceir amheuaeth ohono, lle mae wedi'i gadarnhau, neu rai sy'n gwella ohono. Ac mae nifer y bobl y cadarnhawyd bod coronafeirws arnynt—coronafeirws heintus—yn is byth. Rydym yn cadw llygad yn ofalus iawn ar yr hyn sy'n digwydd yn Bolton, yn enwedig, ac mae'r system eisoes yn siarad ac yn paratoi, pe byddem angen gofal ysbyty i fwy o bobl oherwydd effaith amrywiolyn India. Bydd gennym fesurau wedi'u targedu mewn perthynas â brechu. Gan fod gennym niferoedd mor isel yng Nghymru, gallwn dargedu brechlynnau ychwanegol yn y ffordd honno, ac mae'r trafodaethau gyda'r byrddau iechyd eisoes yn digwydd fel y gallant ddefnyddio mwy o ddisgresiwn i sicrhau eu bod yn cyflwyno pobl ar gyfer eu brechu yn y mannau yr effeithir arnynt fwyaf.
I rai dan 18 oed, nid oes brechlyn wedi'i drwyddedu eto, ac ni fyddwn yn brechu pobl o dan 18 oed nes bod trwydded wedi'i rhoi ar ei gyfer. Efallai y bydd ar gael yn yr hydref, ac yna bydd angen inni bwyso a mesur yr achos dros wneud hynny. Rydym wedi siarad llawer ar lawr y Senedd yn y tymor blaenorol am yr angen i sicrhau bod ein plant, staff addysgu ac aelodau eraill o staff yn cael eu diogelu'n briodol rhag y feirws, ac mae'n sicr y bydd achos cryf i'w ystyried dros frechu plant o 12 oed i fyny, pan fydd brechlyn wedi'i drwyddedu ar gyfer gwneud hynny, a byddai hynny wedyn yn effeithio ar fesurau eraill nad ydynt yn rhai fferyllol sy'n cael eu rhoi ar waith yn yr ysgolion ar hyn o bryd. Rwyf wedi gweld cyngor Sefydliad Iechyd y Byd, ac wrth gwrs byddwn yn ystyried hwnnw hefyd.
Rwy'n deall y pwyntiau a wneir am y pwysau sydd ar ysgolion ac athrawon a myfyrwyr, boed yn asesiadau neu'n arholiadau confensiynol. Mae'r rhain yn aml yn gyfnodau anodd yn y flwyddyn academaidd i fyfyrwyr a staff. Bydd gennym system yng Nghymru lle mae mwy o hyblygrwydd ar lefel ysgol, a byddant yn gallu defnyddio hynny i liniaru peth o'r pwysau. Ac oherwydd mai ni oedd y wlad gyntaf yn y Deyrnas Unedig i gydnabod na fyddai arholiadau confensiynol yn bosibl eleni, ni sydd wedi cael y cyfnod hwyaf o amser i sefydlu system amgen, system a drafodwyd gyda CBAC, gyda Cymwysterau Cymru, gyda phenaethiaid a chynrychiolwyr eraill, i sicrhau bod y system yn deg i bobl ifanc ond yn gredadwy hefyd yng ngolwg y bobl a fydd yn dibynnu ar y tystysgrifau sy'n deillio o'r asesiadau hynny, ac na fydd y bobl ifanc hyn dan anfantais mewn ffyrdd eraill.
Ar gymorth ariannol a diwydiant, mae mwy nag un llais mewn unrhyw ddiwydiant yn aml, ac fe welwch bobl sy'n cytuno â'r hyn sy'n digwydd ac fe welwch bobl sy'n anghytuno â'r hyn sy'n digwydd. Gwn ei bod yn flaenoriaeth gan y Gweinidog newydd ym mhortffolio'r economi i drafod gyda'r diwydiannau sy'n gallu bod yn weithredol eto, ond nid yn llwyr weithredol, fel y clywsom yn gynharach gan Sam Rowlands, er mwyn inni allu gwneud defnydd mor effeithiol â phosibl o'r adnoddau sydd gennym, sy'n anochel yn rhai cyfyngedig.
Huw Irranca-Davies.
Diolch, Llywydd. Llongyfarchiadau i chi ac i'r Prif Weinidog, ac i bawb arall yn y Siambr yma ac ar y sgrin hefyd.
Llongyfarchiadau i chi i gyd. Mae'n dda bod yn ôl.
Brif Weinidog, rwy'n falch iawn o ddweud wrthych y byddaf yn rhoi sylw i'ch cyngor: os gallwch drefnu'r tywydd, byddaf yn mynd ar wyliau yng Nghymru, mewn pabell ger bae Ceredigion ac yna ar benrhyn Llŷn. Felly, os gall Llywodraeth Cymru drefnu'r tywydd, os gwelwch yn dda, byddwn wrth fy modd.
Mae gennyf un cwestiwn penodol, ac os oes angen i chi ysgrifennu ataf, byddaf yn deall hynny'n iawn. Ond rwyf wedi bod yn ymdrechu'n daer i fynd at wraidd y cwestiwn hwn, oherwydd, fel y crybwyllwyd yn y Siambr, rydym yn genedl gerddorol, yn genedl sy'n canu. Rwyf wedi cael perfformwyr yn dod ataf, oherwydd ceir cyngor da yn awr ac arweiniad ar sut y gallwch ganu, ac mae corau'n ailddechrau ymarfer dan do ac yn y blaen. Ond mae'n ymwneud â chanu mewn bariau a chaffis fel rhan o awyrgylch cefndirol, nid ei orwneud ac yn y blaen—nid noson roc a rôl ac ati—oherwydd mae'n ymddangos bod y cyngor yn awgrymu y gall ddigwydd. Yn wir, mae'r cyngor da iawn a gaf gan gynghorwyr arbennig yn mynd drwy restr o sut i'w wneud ac yn dweud, 'Cwblhewch asesiad risg penodol os ydych yn perfformio mewn lleoliadau cymdeithasol fel bariau a bwytai.' Ond gallaf ddweud wrthych fod awdurdodau lleol drwy'r wlad, a chydwasanaethau rheoleiddio, yn llawer mwy gofalus, sy'n ddealladwy o bosibl. Mae dyn y cyngor a dynes y cyngor yn dweud 'na'. Felly, a allech egluro i ni, naill ai heddiw neu'n ysgrifenedig fel arall, a gaiff perfformwyr—perfformwyr ar eu pen eu hunain sy'n chwarae cerddoriaeth dawel yn y cefndir—berfformio mewn lleoliadau trwyddedig, heb alcohol eu hunain? A ydynt yn cael gwneud hynny neu—? A yw'n 'ie' neu'n 'na' neu'n 'efallai'?
Rwy'n credu ei bod hi'n debygol mai ar ffurf llythyr—[Chwerthin.]—y byddaf yn ymateb i'r Aelod i sicrhau fy mod yn rhoi'r cyngor gorau iddo. Os yw'n cynllunio noson roc a rôl yn ei babell ger bae Ceredigion neu ar benrhyn Llŷn, fe fydd yn cadw at y rheolau'n llawn erbyn iddo gyrraedd yno.
Peter Fox.
Lywydd, a gaf fi eich llongyfarch ar gael eich ailbenodi? Mae'n fraint fawr i mi ymuno â Senedd Cymru, ac rwy'n gobeithio y gallaf ychwanegu rhywfaint o werth at waith y Senedd a phobl Cymru. Brif Weinidog, a gaf fi eich llongyfarch hefyd ar gael eich ethol yn Brif Weinidog? Edrychaf ymlaen at weithio gyda chi a'ch cyd-Aelodau yma, fel y gwneuthum am fisoedd lawer, ond yn rôl arweinydd cyngor wrth gwrs. Mae wedi bod yn gyfnod heriol dros ben ym mywydau pob un ohonom, ac rwy'n obeithiol ein bod yn anelu at ryw normalrwydd, ac mae'r camau rydym yn eu cymryd i'w croesawu.
Rwy'n siŵr, Brif Weinidog, y byddech yn cytuno bod adferiad economaidd Cymru yn hanfodol i'r wlad hon a phobl Cymru, ac mae ein busnesau wedi bod drwy'r amseroedd mwyaf ofnadwy ac angen ein cefnogaeth barhaus yn fwy nag erioed o'r blaen. Mae'n ddrwg gennyf fynd ar drywydd y cwestiwn ynghylch cymorth ariannol eto, ond Brif Weinidog, cynlluniwyd pecyn grantiau mis Mawrth yng nghyswllt trethi annomestig i gefnogi busnesau hyd at yr etholiad ar 6 Mai, er mwyn sicrhau nad oedd yn rhaid i Weinidogion wneud cyhoeddiadau am grantiau pellach yn ystod y cyfnod cyn yr etholiad, ac mae llawer o fusnesau bellach yn siomedig iawn, ac yn ddig iawn yn ôl pob tebyg, fod y Llywodraeth wedi dweud na fydd y cymorth ariannol roeddent yn ei ddisgwyl ar gyfer mis Ebrill yn cael ei ddarparu. Brif Weinidog, a gaf fi ofyn i chi adolygu safbwynt y Llywodraeth ynglŷn â hynny fel y gall y busnesau gael y cymorth roeddent yn gobeithio ei gael? Diolch yn fawr iawn, Brif Weinidog.
Lywydd, mae'n dda iawn gallu ymateb i gwestiwn gan Aelod newydd, a rhywun rydym wedi gweithio'n agos iawn ag ef yn Llywodraeth Cymru ers blynyddoedd lawer, ac yn llwyddiannus hefyd. Nid wyf yn cydnabod y darlun oddi ar feinciau'r Ceidwadwyr sy'n honni nad oes cymorth ar gael i fusnesau. Mae'r Llywodraeth hon wedi darparu'r pecyn cymorth mwyaf hael i fusnesau yn unrhyw ran o'r Deyrnas Unedig. Mae hwnnw'n benderfyniad bwriadol gan y Llywodraeth hon i gydnabod yr amser torcalonnus y mae busnesau yng Nghymru wedi'i gael. Mae wedi bod yn argyfwng economaidd yn ogystal ag yn argyfwng clinigol. Dyna pam ein bod wedi gwneud yr hyn a wnaethom, ac ni fydd rheswm o gwbl inni beidio â bod eisiau parhau i wneud yn union hynny. Fel y dywedais, bydd angen i natur y cymorth hwnnw gael ei addasu i'r amgylchiadau newydd, lle mae llawer mwy o fusnesau'n dechrau ailagor, a lle mae amodau economaidd yn golygu y byddant yn gallu gwneud yr hyn rwy'n gwybod eu bod eisiau ei wneud, sef peidio â dibynnu ar y grant nesaf gan Lywodraeth Cymru, ond yn hytrach, ennill bywoliaeth a llwyddiant y busnes y maent yn aml wedi buddsoddi cymaint ynddo, a byddwn yn parhau i'w cefnogi i wneud yn union hynny.
Yn ôl Steffan Lewis, y tro cyntaf i siarad yn y Siambr yw'r gwaethaf, ac, ar ôl y tro cyntaf, mae'n mynd yn lot mwy hawdd, ac, wrth ystyried y ffaith bod sawl cwestiwn roeddwn i am ei ofyn wedi cael ei ofyn yn barod, dwi'n gobeithio y bydd y sesiynau eraill yn lot mwy hawdd na'r un yma. Felly, dyma fi, Steff, yn siarad am y tro cyntaf fel y cynrychiolydd yma yng Ngorllewin De Cymru. Dwi am fachu ar y cyfle i ddweud diolch i'r holl etholwyr hefyd am fy rhoi i yma, ac rwy'n edrych ymlaen at ofyn sawl cwestiwn i chi, Brif Weinidog, dros y blynyddoedd nesaf, a dwi'n eithaf sicr erbyn y diwedd byddwch chi wedi cael hen ddigon ohonof i.
Hoffwn bwysleisio pwynt a wnaeth Adam mewn gwirionedd, a Peter hefyd. Wrth inni gefnu ar y pandemig, bydd y grantiau ailgychwyn yn dod yn bwysicach. Er enghraifft, mae tafarndai yn yr Alban yn gymwys i gael grantiau ailgychwyn o hyd at £18,000, tra bydd y rhan fwyaf o dafarndai yng Nghymru yn gymwys i gael £7,500 ar y mwyaf, gyda llawer o dafarndai cymunedol bach ond yn gymwys am £2,500 yn unig. Byddwn yn croesawu rhagor o wybodaeth gan y Prif Weinidog neu Weinidog yr Economi am yr amserlen ar gyfer cymorth, gan fy mod yn siŵr bod y Prif Weinidog yn ymwybodol y bydd y sector lletygarwch yn sector pwysig iawn ar gyfer ein hadferiad economaidd wrth inni gefnu ar y pandemig. Diolch yn fawr.
Diolch yn fawr am y cwestiwn ac am beth ddywedodd Luke Fletcher am Steffan Lewis. Mae lot ohonom ni fan hyn yn cofio Steffan, wrth gwrs, a ches i gyfle i gydweithio â fe pan oedd e'n llefarydd Plaid Cymru ar Brexit pan oeddwn i'n gwneud yr un gwaith tu fewn i'r Llywodraeth.
Rwyf wedi ateb nifer o gwestiynau ar yr economi, Lywydd. Nid wyf yn meddwl bod llawer mwy i mi ei ychwanegu. Wrth gwrs, bydd y Gweinidog newydd yn ystyried yr holl bwyntiau hyn. Byddwn yn edrych i weld sut y gallwn ddefnyddio'r symiau sylweddol o arian sy'n dal i fod gennym i gefnogi busnesau a sicrhau bod hynny'n cael ei wneud mewn ffordd sy'n addas i ni yma yng Nghymru, gan ymateb i amgylchiadau Cymru ac anghenion Cymru, a gwneud yr arian hwnnw mor effeithiol ag y gall fod o ran cefnogi busnesau Cymru.
Mae'n wych fod pobl Cymru wedi ymateb i'r rheoliadau a dyna pam ein bod yn y sefyllfa dda rydym ynddi, ac yn arbennig mae angen cydnabod yr aberth a wnaethpwyd gan blant ar ein rhan, yn ogystal â'r gwaith gwych a wneir gan ein GIG a'n staff gofal cymdeithasol i gadw pobl yn ddiogel neu i ofalu amdanynt pan fyddant yn sâl.
Gan ein bod bellach ar lefel 2, tybed a yw eich Gweinidog iechyd newydd rhagorol neu chi eich hun wedi cael cyfle i ystyried a ellid diwygio'r rheoliadau ynghylch apwyntiadau cleifion allanol i'w gwneud yn llai cyfyngol, o ystyried pwysigrwydd cael rhywun gyda chi pan fyddwch yn cael clywed yr hyn a allai fod yn newyddion anodd neu'n newyddion cymhleth i sicrhau eich bod wedi deall yn iawn yr hyn a ddywedwyd wrthych. Rwy'n credu bod hwn yn bryder arbennig i'r rhai sy'n feichiog ac sy'n dymuno cael eu partneriaid gyda hwy, rhywbeth nad yw'n digwydd bob amser, ac yn enwedig lle nad yw pethau'n datblygu mor dda â hynny gyda'r beichiogrwydd neu pan nad yw pethau fel y dylent fod, mae'n ymddangos i mi yn bwysig. Ar hyn o bryd, gwneir hyn yn llwyr yn ôl disgresiwn y byrddau iechyd unigol a cholegau unigol, felly roeddwn yn meddwl tybed a allech ddweud unrhyw beth ynglŷn â sut y gellid diwygio'r canllawiau ar y modd y mae'r gwasanaeth iechyd yn gweithredu, ac yn ymwneud ag unigolion, i fod ychydig yn llai cyfyngol o gofio bod pobl, yn amlwg, yn gallu cyfarfod mewn grwpiau o chwech dan do yn gymdeithasol y dyddiau hyn.
Lywydd, diolch i Jenny Rathbone am y cwestiwn hwnnw, cwestiwn rydym wedi'i drafod droeon yn ystod y pandemig ar ei hyd, ac mae'n un o'r meysydd anoddaf oll, onid yw, pan fydd cwpl yn disgwyl plentyn ac yn methu cael y mathau arferol yr hoffai pawb ohonom eu gweld o apwyntiadau a chyfranogiad ar y cyd yng ngenedigaeth plentyn. Mae'r canllawiau yng Nghymru yn annog y system i fod mor groesawgar â phosibl, ond mae'r rheswm dros ddisgresiwn yn real. Mae unedau mamolaeth ledled Cymru yn amrywio'n fawr o ran maint y safle, natur cynllun adeiladau ac yn y blaen, ac yn amlwg, mae gan unigolion lefelau gwahanol o risg eu hunain. Nid yw coronafeirws wedi diflannu; mae pobl sy'n sâl gyda'r clefyd yn aml yn gorfod mynd i'r ysbyty, ac yn y pen draw mae'n rhaid iddo fod yn benderfyniad clinigol a wneir gan y tîm o bobl sy'n gofalu am y fenyw a'i phartner o ran pa mor ddiogel yw hi i bobl eraill gymryd rhan uniongyrchol mewn apwyntiadau. Nawr, y polisi yw, lle bynnag y mae'n ddiogel gwneud hynny, mai dyna ddylai ddigwydd, ond nid wyf yn credu ein bod mewn sefyllfa yn y Senedd i wneud y penderfyniadau clinigol unigol hynny yn yr amgylchiadau ffisegol gwahanol a'r amgylchiadau unigol y mae pobl yn eu hwynebu.
Natasha Asghar.
Diolch yn fawr, Lywydd. Hoffwn ddechrau drwy eich llongyfarch chi a'n Prif Weinidog ar ddychwelyd ac ailddechrau yn eich swyddi yn y sesiwn newydd yma yn 2021.
Nawr, fel rwy'n siŵr y gallwch i gyd ei werthfawrogi, rydym i gyd yn ymwybodol o'r ddyled fawr sydd arnom i weithwyr rheng flaen y gwasanaeth iechyd gwladol yng Nghymru, sydd wedi gorfod ymdopi â'r pwysau aruthrol y maent wedi'i wynebu oherwydd y pandemig. Y llynedd, cynhaliodd y Coleg Nyrsio Brenhinol arolwg yn edrych ar effaith y pandemig ar staff rheng flaen. Canfu fod mwy na thri chwarter yr aelodau o Gymru a gymerodd ran wedi nodi lefelau uwch o straen, ac roedd mwy na'u hanner yn poeni am eu hiechyd meddwl. Yn anffodus, mae'r pwysau hwn ar staff y GIG yn annhebygol o leihau yn y tymor byr gan fod mwy na 0.5 miliwn o bobl yng Nghymru bellach yn aros am driniaeth ar restrau aros y GIG—cynnydd o 19 y cant mewn blwyddyn. O'r rhain, mae 218,000 o bobl wedi bod yn aros am fwy na naw mis am driniaeth. Hoffwn ofyn i chi, Brif Weinidog, pa gamau cadarnhaol y mae eich Llywodraeth yn eu cymryd i leddfu'r pwysau ar staff rheng flaen y GIG wrth i gyfyngiadau gael eu codi. Ac rwy'n gwybod eich bod chi a llawer o fy nghyd-Aelodau wedi sôn am amrywiolyn India, amrywiolyn Brasil ac amrywiolyn De Affrica, ond hoffwn wybod, gan fod marwolaethau COVID ar gynnydd yma yng Nghymru yn ôl y datganiad rydych wedi ei rannu gyda ni yn garedig iawn heddiw, mae amrywiolyn India ar gynnydd mewn gwirionedd. Felly, pa astudiaeth sy'n cael ei gwneud gan Lywodraeth Cymru o effaith bosibl yr amrywiolyn newydd hwn ac amrywiolynnau eraill yn sgil hynny hefyd? Diolch.
Wel, rwy'n diolch i Natasha Asghar am ei chyfraniad cyntaf ar lawr y Senedd hefyd, ac yn ei chroesawu fel Aelod wrth gwrs. Ac mae ei chwestiwn yn cyfeirio at faterion sylweddol iawn. Mae'r straen ar ein staff rheng flaen yn y gwasanaeth iechyd wedi bod yn enfawr, ac rydym wedi dibynnu'n fawr arnynt i'n cadw'n ddiogel yn ystod y pandemig, a bydd yn rhaid inni barhau i ddibynnu arnynt am lawer o bethau eraill rydym wedi sôn amdanynt y prynhawn yma. Pan fydd arweinydd yr wrthblaid yn gofyn i mi, a hynny'n briodol, am raglen atgyfnerthu yn yr hydref, dyma'r gweithwyr y byddwn yn dibynnu arnynt i wneud hynny ar ein rhan. Pan soniwn am yr angen i allu cael y GIG i weithio ar y pethau y mae'n rhaid iddo eu gwneud i bawb arall, byddwn yn dibynnu ar yr un bobl. Felly, mae'n bwynt pwysig iawn ynglŷn â sicrhau, pan fyddwn yn gofyn hynny ganddynt, ein bod yn gofalu amdanynt hwythau hefyd fel y gellir ystyried eu hiechyd a'u lles hwy yn ogystal.
O ran yr hyn rydym yn ei wneud i sicrhau bod gennym y wybodaeth orau am amrywiolynnau newydd, wel, rydym yn dibynnu ar gyngor y Grŵp Cynghori Gwyddonol ar Argyfyngau, pwyllgor y DU, ond mae gennym ein grŵp cynghori technegol ein hunain, ac rydym yn cyhoeddi ei dystiolaeth i'r Llywodraeth yn rheolaidd. Rydym yn ffodus iawn fod gennym allu gyda'r mwyaf datblygedig yn y byd ar gyfer canfod dilyniant genomau yma. Felly, mae rhan o'r ymdrech a wneir ledled y Deyrnas Unedig i nodi amrywiolynnau newydd yn dibynnu ar y gallu sydd gennym yng Nghymru, ac mae gallu'r DU ymhlith y gorau yn y byd, yn rhannol o ganlyniad i hynny. Felly, rydym yn ffodus iawn o gael system rhybudd cynnar o'r fath y gallwn ei defnyddio yma yng Nghymru, a bydd honno, ochr yn ochr â'r dehongliad o'r dystiolaeth gan y gwyddonwyr sy'n ein cynghori, yn rhan o'n cyfraniad i'r ymdrech ehangach i sicrhau bod amrywiolynnau newydd yn cael eu nodi cyn gynted â phosibl, ein bod yn deall eu graddau a'u cwmpas, a'n bod yn gallu cymryd unrhyw gamau y gallwn wedyn i barhau i gadw pobl Cymru'n ddiogel.
Brif Weinidog, fe wnaeth pobl Blaenau Gwent ymddiried ynoch chi a Llywodraeth Cymru i ymdrin â'r pandemig hwn, ac maent wedi ymddiried yn y penderfyniadau rydych wedi bod yn eu gwneud dros y flwyddyn ddiwethaf. Ac fe fyddwch yn gwybod, o'ch ymweliadau â Blaenau Gwent, fod pobl am ddiolch yn fawr iawn i chi am y ffordd y gwnaethoch chi arwain ymateb y Llywodraeth ar hyn, ac rwy'n sicr am gyfleu'r teimladau hynny yma y prynhawn yma.
O ran sut rydym yn symud ymlaen, mae'n amlwg fod trafodaeth a dadl am y math o gymorth sydd wedi'i ddarparu ac sy'n cael ei ddarparu ar hyn o bryd i wahanol sectorau busnes. Ac mae'n amlwg fod diffyg cysylltiad rhwng yr hyn rydym yn ei glywed a'r hyn y mae busnesau'n ei ddweud wrthym am y cymorth y maent yn ei gael. Brif Weinidog, a fyddai modd i chi neu Weinidog yr Economi gyhoeddi dadansoddiad o'r cymorth busnes sy'n cael ei ddarparu, naill ai ar sail sectoraidd neu'n fwy cyffredinol, er mwyn inni ddeall sut y digwyddodd y diffyg cysylltiad? Cafwyd dadl ar y mater ar ddiwrnod olaf y Senedd ddiwethaf, yn y Pwyllgor Deisebau, ond mae'n amlwg nad oedd cyfle i'r Llywodraeth ymateb bryd hynny. Ond mae'n ddigon posibl fod y Senedd newydd hon bellach yn darparu cyfle i'r Llywodraeth ymateb yn llawnach i fusnesau nad ydynt yn teimlo eu bod yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt ac y teimlant fod ganddynt hawl i'w ddisgwyl.
Diolch i Alun Davies am hynny. Mwynheais fy ymweliad â Blaenau Gwent yn fawr iawn yn ystod ymgyrch yr etholiad. Mae'n debyg ei fod yn brofiad digon prin mewn bywyd gwleidyddol i weld pobl yn croesi'r ffordd am eu bod eisiau siarad â chi, yn hytrach na chroesi'r ffordd i sicrhau nad oes rhaid iddynt siarad â chi, ond roedd hynny'n sicr yn wir yn ystod yr amser roeddech chi a fi'n ymgyrchu gyda'n gilydd yno.
Mae cyfoeth enfawr o wybodaeth yn Llywodraeth Cymru am gymorth busnes sydd wedi'i ddarparu—fesul sector, yn ôl daearyddiaeth, fesul elfen o fewn y rhaglen adferiad economaidd. Felly, byddaf yn sicr yn gofyn i Weinidog yr Economi weld a oes ffyrdd gwell y gallwn sicrhau bod y wybodaeth honno ar gael i'r Aelodau, fel y gall yr Aelodau weld yn haws y raddfa enfawr o gymorth a roddwyd i fusnesau yng Nghymru, y dibenion y'i darparwyd ar eu cyfer, a lle mae'r arian hwnnw wedi bod yn cefnogi busnesau i oroesi drwy'r misoedd hynod anodd hyn.
Hoffwn ddechrau drwy dalu teyrnged i'm rhagflaenydd, Angela Burns, am ei gwaith a'i hymroddiad diflino, nid yn unig yn y lle hwn, ond hefyd i bobl ac etholaeth Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro.
Brif Weinidog, mae gwylwyr a chyfranogwyr wedi dechrau dychwelyd at ddigwyddiadau chwaraeon a digwyddiadau diwylliannol fel rhan o'r treialon y sonioch chi amdanynt wrth i reoliadau coronafeirws gael eu llacio. Fodd bynnag, mae'r rhan fwyaf o'r treialon hyn wedi'u cyfyngu hyd yma i ardal drefol de Cymru. Gyda chystadleuaeth Iron Man i fod i gael ei chynnal ym mis Medi yn Ninbych-y-pysgod yn fy etholaeth i, a gaf fi ofyn pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i ymestyn cyrhaeddiad y digwyddiadau prawf hyn dros y misoedd nesaf i sicrhau bod digwyddiadau elît fel hyn yn gallu cynnwys gwylwyr a darparu hwb mawr ei angen i'r economi leol?
Unwaith eto, croeso i'r Aelod newydd i'r Siambr. Mae ganddo fwlch mawr i'w lenwi yn sgil ymadawiad Angela Burns, a oedd yn llais sylweddol iawn yn y Siambr hon dros nifer o flynyddoedd, ac rwy'n siŵr y bydd yn ceisio efelychu'r cyfraniad a wnaeth hi yma.
Diben y digwyddiadau peilot yw ateb y cwestiwn sydd wedi'i ofyn ar ei ben, sef dod o hyd i ffyrdd y gallwn agor mwy o'r sector hwnnw'n ddiogel. Felly, mae'r gwahanol ddigwyddiadau rydym yn eu treialu yn mynd ati mewn gwahanol ffyrdd i geisio sicrhau bod gennym fformiwla a fydd yn caniatáu inni ailagor mwy o ddigwyddiadau yng Nghymru, ac ym mhob rhan o Gymru, mewn ffordd a fydd yn gwneud i'r bobl sy'n cymryd rhan ynddynt, a'r bobl sy'n gyfrifol am eu cynnal, deimlo'n hyderus nad yw eu hiechyd yn cael ei beryglu o ganlyniad. Byddwn yn dysgu llawer drwy ein cynlluniau peilot ein hunain. Mae gennym uwch weision sifil Cymreig yn rhan o grŵp goruchwylio'r cynlluniau peilot sy'n digwydd dros y ffin, ac yna, wrth inni ddod â'r holl ddysgu hwnnw at ei gilydd, ac yn dibynnu ar y cyd-destun iechyd cyhoeddus ar y pryd wrth gwrs, byddwn wedyn yn gallu cymhwyso'r dysgu hwnnw fel y gall digwyddiadau mewn mannau eraill ailagor a gwneud hynny'n hyderus.
Yn olaf, Mark Isherwood.
Diolch, Lywydd. Wel, dywedodd eich Llywodraeth ddydd Gwener diwethaf, ac rwy'n dyfynnu,
'y gellir cynnal gweithgareddau wedi'u trefnu, gan gynnwys derbyniadau priodas ar gyfer hyd at 30 o bobl dan do a 50 o bobl yn yr awyr agored', ond ychwanegodd
'Ni cheir cynnal derbyniadau awyr agored mewn gerddi preifat'.
Dywedodd eich datganiad ysgrifenedig ar y rheoliadau coronafeirws hyn ddydd Gwener diwethaf mai dim ond mewn safleoedd sy'n cael eu rheoleiddio y gallai'r rhain ddigwydd. Sut rydych chi'n ymateb felly i'r etholwyr a gysylltodd â mi i ddweud, 'Mae Llywodraeth y DU yn caniatáu i dderbyniadau awyr agored wedi'u trefnu'n gyfrifol mewn gerddi preifat fynd rhagddynt o 17 Mai. Gadewch i ni yng Nghymru wneud yr un peth', gan ychwanegu, 'Rydym eisoes wedi colli llawer o arian yn gorfod aildrefnu, gan nad oes yswiriant ar gyfer COVID, ac rwy'n pryderu ynglŷn â fy iechyd meddwl i ac iechyd meddwl fy merch os oes rhaid i ni aildrefnu eto fyth'?
Yn olaf, cyfeiriodd eich datganiad ysgrifenedig ddydd Gwener diwethaf hefyd at eich rhaglen frechu. Fe ddywedoch chi ddoe ei bod yn debygol y byddai Llywodraeth Cymru am gyflwyno pigiadau i blant pe bai trwyddedau'n cael eu rhoi. Pa gynlluniau sydd gennych chi felly i gynnig y brechlyn COVID-19 i'r rhai o dan 16 oed wrth i gyfraddau amrywiolyn India gynyddu ledled y DU, ac yn arbennig er mwyn blaenoriaethu pobl ifanc sy'n agored iawn i niwed yn glinigol?
Lywydd, mae plant sy'n eithriadol o agored i niwed yn glinigol eisoes yn cael eu brechu yng Nghymru i lawr at 12 oed. Ni fyddwn yn cynnig brechiad i blant nes bod brechlyn trwyddedig ar gael ar gyfer gwneud hynny.
O ran priodasau, mae gennyf gydymdeimlad enfawr â'r teuluoedd niferus sydd wedi trefnu ac aildrefnu derbyniadau priodas. Rhaid bod hynny'n beth anodd iawn i'w wneud yn eich bywydau. Ond nid wyf yn ymddiheuro o gwbl am y gofyniad i gael y derbyniadau hynny mewn safleoedd sy'n cael eu rheoleiddio. Mae yna reswm dros hynny. Mae hynny oherwydd bod safleoedd sy'n cael eu rheoleiddio yn gallu rhoi'r holl fesurau angenrheidiol ar waith i ddiogelu iechyd pobl sy'n cymysgu â'i gilydd o dan yr amgylchiadau hynny. Dyna pam ein bod wedi cadw'r rhwymedigaeth yng Nghymru, os ydych yn cael derbyniad priodas, i'w gael mewn lleoliad o'r fath, oherwydd mae hynny'n eich cadw'n ddiogel ac mae'n cadw pobl eraill yn ddiogel hefyd. Dyna yw ein prif flaenoriaeth bob amser fel Llywodraeth.
Diolch i'r Prif Weinidog, a diolch ichi i gyd. Dyna ddiwedd ein gwaith ni am y dydd heddiw.