– Senedd Cymru ar 16 Mehefin 2021.
Eitem 6, felly, yw'r eitem nesaf, a hynny'n ddadl gan y Ceidwadwyr Cymreig ar chwaraeon, a dwi'n galw ar Tom Giffard i wneud y cynnig.
Cynnig NDM7712 Darren Millar
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn cydnabod y twf a'r diddordeb mewn timau chwaraeon Cymru ar y llwyfan rhyngwladol.
2. Yn credu y dylai Llywodraeth Cymru adeiladu ar gyflawniadau chwaraeon diweddar Cymru drwy weithio gyda Llywodraeth y DU i ddenu digwyddiadau chwaraeon mawr i Gymru, gan gydnabod manteision sylweddol digwyddiadau o'r fath i economi Cymru ac adfywio cymunedau lleol.
3. Yn galw ymhellach ar Lywodraeth Cymru i ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o ragoriaeth mewn chwaraeon, a hyrwyddo cyfranogiad mewn chwaraeon i wella lles meddyliol a chorfforol pobl drwy:
a) sefydlu cronfa ar gyfer talent o Gymru ym maes chwaraeon i gefnogi athletwyr talentog o Gymru i lwyddo ar lwyfan y byd;
b) creu cronfa bownsio yn ôl ar gyfer chwaraeon cymunedol i helpu clybiau cymunedol i ailadeiladu yn dilyn pandemig COVID-19;
c) gwella mynediad i gyfleusterau chwaraeon gan gynnwys sefydlu rhwydwaith mwy o gaeau synthetig 3G a 4G ledled Cymru;
d) cyflwyno rhwydwaith o lysgenhadon chwaraeon o Gymru i annog pobl ifanc i gymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgareddau corfforol eraill;
e) galluogi pobl ifanc yng Nghymru i gael mynediad am ddim i gampfeydd awdurdodau lleol a chanolfannau hamdden.
Diolch yn fawr iawn, Lywydd, ac mae'n bleser mawr gennyf agor y ddadl hon heddiw a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Ac am adeg i fod yn trafod y pwnc hwn, gyda'n llwyddiannau chwaraeon diweddar a Chymru'n chwarae yn yr Ewros y prynhawn yma—ac rwyf fi, fel chithau, Lywydd, yn gobeithio y byddwn yn gorffen mewn pryd heddiw i weld y gic gyntaf yn y gêm yn erbyn Twrci. Mae'r blynyddoedd diwethaf wedi dangos efallai na fu erioed amser gwell i fod yn gefnogwr chwaraeon Cymru.
Chwaraeon yw un o'r ychydig bethau yn ein gwlad, a hyd yn oed yn y Siambr hon, sydd â'r pŵer i uno pob un ohonom. Rwy'n siŵr bod Aelodau o bob rhan o'r Senedd wedi dathlu'n frwdfrydig pan sgoriodd Kieffer Moore y gôl gyfartal ddydd Sadwrn yn erbyn y Swistir, oherwydd mae gwylio Cymru yn brofiad cymunedol sy'n ein gwneud yn falch o bwy ydym ni ac yn falch o fod yn Gymry. Rydym yn gweld ein hunain yn ein harwyr chwaraeon, ein profiadau cyffredin, ein cariad at ein gwlad a'n penderfyniad i lwyddo.
Ond dyma'r un rhesymau pam y dathlodd pobl ledled Cymru pan enillodd Andy Murray Wimbledon, neu pan fydd Rory McIlroy yn ennill un o'r prif gystadlaethau golff, neu pan fydd Mo Farah yn ennill y wobr aur Olympaidd i dîm Prydain. Oherwydd gwelwn ein hunain yn yr arwyr chwaraeon hyn hefyd. Oherwydd mae pobl yng Nghymru hefyd yn falch iawn o fod yn Brydeinwyr; gwelwn ein hunaniaeth Brydeinig yn yr athletwyr hyn, a'r profiadau a'r gwerthoedd cyffredin a grybwyllais yn gynharach. Oherwydd rydym yn deall y gallwn fod yn falch o fod yn Gymry ac yn Brydeinwyr, ac nid yw'r ddau beth yn gwrthddweud ei gilydd.
Ond cyflwynwyd y ddadl hon heddiw nid yn unig i orfoleddu yn ein llwyddiant yn y byd chwaraeon, ond hefyd i cydnabod manteision chwaraeon yn ein cymdeithas, ein heconomi a'n bywydau bob dydd. Mae'r achos economaidd dros fuddsoddi mewn chwaraeon yn glir iawn. Canfu ymchwil ddiweddar a gyflawnwyd gan Ganolfan Ymchwil y Diwydiant Chwaraeon ym Mhrifysgol Sheffield Hallam y ceir enillion o £2.88 am bob £1 a fuddsoddir mewn chwaraeon yng Nghymru, tra amcangyfrifir bod digwyddiadau mawr a gynhelir yn Stadiwm y Mileniwm yn unig yn rhoi hwb o £32 miliwn i economi Cymru bob blwyddyn ar ffurf allbwn economaidd Cymreig, gyda £11 miliwn ohono'n werth ychwanegol crynswth, yn ogystal â'r rhan y mae'n ei chwarae yn cefnogi swyddi yn y gadwyn gyflenwi.
Mae'n siomedig, felly, nad yw Llywodraeth Lafur Cymru wedi gwireddu potensial economaidd Cymru a'i photensial yn y maes chwaraeon yn llawn. Er enghraifft, penderfynodd Llywodraeth Cymru beidio â symud ymlaen gyda chais am Gemau'r Gymanwlad 2026, er gwaethaf astudiaeth ddichonoldeb Llywodraeth Cymru ei hun yn amlinellu llawer o fanteision i'n heconomi, megis creu swyddi ac incwm ychwanegol i fusnesau Cymru, sy'n bethau y cafodd Glasgow fudd ohonynt pan gynhaliwyd gemau 2014.
Ond nid mewn chwaraeon elît yn unig y gwelwn fanteision buddsoddi priodol. Mae GIG Cymru yn gwario tua £35 miliwn bob blwyddyn ar drin clefydau y gellir eu hatal a achosir gan anweithgarwch corfforol. Dyna pam ein bod am weld mwy o fuddsoddi i annog pobl i gymryd rhan mewn chwaraeon yn ein cymunedau ledled Cymru. Dyna pam ein bod yn galw yn ein cynnig heddiw am fuddsoddi mewn rhwydwaith mwy o gaeau 3G a 4G ledled Cymru, ac yn gofyn am alluogi pobl ifanc i gael mynediad am ddim i gampfeydd a chanolfannau hamdden awdurdodau lleol. Dylai hynny olygu bod gan bobl Cymru fynediad at gyfleusterau chwaraeon o ansawdd da yn eu hardaloedd a'u cymunedau, waeth beth fo'u lefel sgiliau neu god post.
Mae ein cynnig hefyd yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu rhagoriaeth mewn chwaraeon ar gyfer y dyfodol yng Nghymru drwy sefydlu cronfa ar gyfer talent o Gymru ym maes chwaraeon i gefnogi athletwyr talentog o Gymru ar lwyfan y byd, a rhwydwaith o lysgenhadon chwaraeon o Gymru i annog pobl ifanc i gymryd rhan mewn chwaraeon. Oherwydd oni bai ein bod yn buddsoddi yn ein harwyr chwaraeon heddiw, ni fyddwn byth mewn sefyllfa i ddathlu eu llwyddiannau mewn chwaraeon yn y dyfodol a sicrhau lle Cymru ar lwyfan y byd mewn chwaraeon.
Rwyf hefyd yn siŵr y bydd pob Aelod o'r Senedd hon yn ymwybodol o grwpiau a chlybiau chwaraeon yn eu hetholaethau a'u rhanbarthau sydd wedi cael trafferth yn ystod y flwyddyn neu ddwy ddiwethaf. Yn wir, mae'n ddigon posibl mai chwaraeon yw un o'r sectorau sydd wedi'u taro galetaf ers dechrau'r pandemig. Yn ôl Ymddiriedolaeth Cymdeithas Bêl-droed Cymru, er enghraifft, mae clybiau pêl-droed ar lawr gwlad wedi colli £7,000 yr un ar gyfartaledd, ac mae 97 y cant o glybiau pêl-droed yn dweud eu bod wedi cael eu heffeithio'n ariannol, a dros hanner wedi dweud y byddant yn colli gwirfoddolwyr. Yn y cyfamser, mae Undeb Rygbi Cymru wedi disgrifio'r pandemig fel trychineb i'r gamp, yn enwedig gyda'r effaith ariannol ar y gêm ar lawr gwlad. Dyna pam y mae gan y cynnig gynllun i weddnewid y sefyllfa hon, nid yn unig drwy gynyddu'r nifer sy'n cymryd rhan, ond hefyd drwy greu cronfa bownsio yn ôl ar gyfer chwaraeon cymunedol i gynorthwyo'r clybiau cymunedol hyn yn sgil y pandemig.
Felly, am y rhesymau hyn mae'n siomedig iawn gweld Llywodraeth Cymru yn mabwysiadu eu hymagwedd 'dileu popeth' arferol at ein cynnig, yn enwedig pan fo'n gwneud galwadau penodol a fydd yn sicrhau newid gwirioneddol i bobl yng Nghymru. Mae'r gwelliannau yn llythrennol yn dileu'r posibilrwydd o adferiad ar ôl y pandemig i rai o'r clybiau chwaraeon hyn, ac nid ydynt yn gwneud fawr ddim i gynyddu'r niferoedd sy'n cymryd rhan mewn chwaraeon yng Nghymru. Gwyddom i gyd y gall pob un ohonom wneud mwy i gefnogi'r sector, a dyna pam na fyddwn yn pleidleisio dros eu gwelliannau heno; byddwn yn ymatal arnynt.
Fel arall, hoffwn groesawu ail welliant Plaid Cymru i gynyddu nifer y merched yn eu harddegau a phobl o gefndiroedd heb gynrychiolaeth ddigonol mewn chwaraeon. Rwy'n credu ei fod yn un hanfodol ac amserol iawn, ac rwy'n llongyfarch Plaid Cymru ar wneud hynny. Nid yw cynigion Cymdeithas Bêl-droed Cymru i ailstrwythuro cynghrair y menywod, er enghraifft, yn gwneud dim o gwbl i gynyddu nifer y merched yn eu harddegau sy'n cymryd rhan mewn pêl-droed. Am y rheswm hwnnw, byddwn yn cefnogi ail welliant Plaid Cymru heddiw.
Felly, gofynnaf i'r Aelodau ym mhob rhan o'r Senedd gefnogi ein cynnig heddiw, gan ein bod yn gwybod mai'r ffordd orau o gael chwaraeon llwyddiannus yfory yw eu cefnogi heddiw.
Rwyf wedi dethol y tri gwelliant i'r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliannau 2 a 3 yn cael eu dad-ddethol. Dwi'n galw felly ar y Dirprwy Weinidog i gynnig yn ffurfiol gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths.
Gwelliant 1—Lesley Griffiths
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i:
a) hyrwyddo llwyddiannau ym maes chwaraeon yng Nghymru, hyrwyddo creadigrwydd a gallu ein pobl ifanc ym maes chwaraeon a galluogi ein diwydiant chwaraeon i gynnal ei enw da ar y llwyfan byd-eang;
b) buddsoddi yn ein cyfleusterau chwaraeon o’r radd flaenaf, hyrwyddo mynediad cyfartal at chwaraeon a chefnogi athletwyr ifanc a dawnus a chlybiau llawr gwlad;
c) buddsoddi mewn cyfleusterau newydd fel caeau artiffisial 3G.
2. Yn cydnabod hanes llwyddiannus Llywodraeth Cymru o ddenu digwyddiadau uchel eu proffil yn y maes diwylliannol, busnes a chwaraeon i Gymru.
3. Yn ymuno â Llywodraeth Cymru wrth ddymuno pob lwc i dîm pêl-droed hŷn Cymru yng ngemau eraill y Pencampwriaethau Ewropeaidd.
Yn ffurfiol.
Diolch. Dwi nawr felly yn galw ar Heledd Fychan i gynnig gwelliannau 2 a 3, yn enw Siân Gwenllian.
Gwelliant 3—Siân Gwenllian
Ym mhwynt 3, cynnwys is-bwyntiau newydd:
'sicrhau bod sefydliadau addysg ôl-16 yn darparu cyfleusterau chwaraeon a hamdden tra'n annog mynychwyr i gymryd rhan;
annog darlledwyr cyhoeddus i neilltuo canran uwch o amser darlledu i chwaraeon menywod;
gweithio gyda chlybiau a sefydliadau i leihau ymddygiad homoffobig a rhywiaethol a bod yn drawsgynhwysol;
ymchwilio i'r potensial i gael pwll nofio maint Olympaidd i wasanaethu gogledd Cymru.'
Diolch, Llywydd. Hoffwn gyflwyno gwelliannau 2 a 3 yn ffurfiol, a nodi fy niolch innau am y cyfle i drafod ar ddiwrnod lle rydyn ni i gyd yn edrych ymlaen at gêm Cymru yn erbyn Twrci, ac, ar ran Plaid Cymru, hoffwn ddymuno yn dda i'r garfan.
Bwriad ein gwelliannau yw ychwanegu at y cynnig gwreiddiol mewn ffordd adeiladol, a hoffwn weld y Senedd yn gweithio mewn ffordd drawsbleidiol ar y mater hwn i sicrhau'r buddsoddiad sydd ei angen fel bod pawb yng Nghymru gyda'r cyfle i gymryd rhan mewn chwaraeon er budd eu hiechyd a'u lles a chyrraedd eu llawn botensial. Dengys ymchwil a gomisiynwyd gan Chwaraeon Cymru yn 2018 y canlynol: sef, am bob £1 sy'n cael ei buddsoddi mewn chwaraeon yng Nghymru, ceir elw o £2.88. Ond nid dim ond budd economaidd o ran creu swyddi a gwariant yng Nghymru a geir yn sgil chwaraeon; mae hefyd yn creu arbedion sylweddol o ran y gwasanaeth iechyd, gan helpu pobl i fyw bywydau mwy actif a iachus a lleihau'r risg o glefyd difrifol. Yng nghyd-destun COVID, mae hyn yn berthnasol iawn.
Fel pob sector arall, mae'r sector chwaraeon ar bob lefel wedi ei effeithio gan y pandemig. Mae heddiw, felly, yn gyfle da inni edrych tuag at y dyfodol, a thrafod camau cadarnhaol gellir eu cymryd gan y Llywodraeth i sicrhau bod sector chwaraeon Cymru yn mynd o nerth i nerth.
Mae gwelliant cyntaf Plaid Cymru yn tynnu sylw at yr angen i ganolbwyntio'n benodol ar wella cyfranogiad gan ferched yn eu harddegau a grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol, gan felly gryfhau'r frawddeg wreiddiol. Fel mae rhaglen llysgenhadon chwaraeon ColegauCymru wedi ei dangos, mae cael llysgenhadon yn dod â manteision mewn tair ffordd wahanol: yn gyntaf, ar lefel strategol, bydd yn arwain at wydnwch cynyddol gweithlu'r dyfodol, gan ddarparu cyfleoedd sy'n cynyddu sgiliau, profiadau a hunanhyder. Yn ail, i ysgolion a cholegau, bydd yn golygu y bydd llais ieuenctid yn cael ei ymgorffori ymhellach yn y coleg, ac, yn drydydd, o ran y llysgenhadon eu hunain, bydd yn arwain at ddatblygu sgiliau newydd, gan gynnwys ymchwil, y cyfryngau a chyfathrebu, a bydd hefyd yn cefnogi datblygiad cyfleoedd gwirfoddoli, arwain a mentora newydd ar gyfer nhw eu hunain a phobl ifainc eraill yn eu coleg neu awdurdod lleol.
Bwriad ein hail welliant yw ychwanegu pwyntiau eraill rydym yn credu sydd yn hanfodol o ran gwella mynediad i chwaraeon a chyfranogiad. Mae manteision cael campfa mewn sefydliadau addysg yn ymestyn ymhell y tu hwnt i hyfforddiant chwaraeon penodol. Mae rhaglen ffitrwydd corfforol sy'n defnyddio offer hyfforddi cryfder yn helpu myfyrwyr i ddatblygu arferion iach a fydd yn aros gyda nhw drwy gydol eu bywydau a lleihau'r risg o glefyd cronig mewn oedolion.
O ran darlledu chwaraeon menywod, er bod cynnydd wedi bod, mae dal gwaith pellach i'w wneud os ydym am normaleiddio chwaraeon menywod yn y cyfryngau. Yn ôl arolwg o 2019 o dros 10,000 o bobl ar draws y Deyrnas Unedig, fe wnaeth 61 y cant o ferched ifanc gytuno y byddent yn teimlo yn fwy hyderus pe bai mwy o bobl 'fel fi' ar y teledu, o'i gymharu â 43 y cant o'r boblogaeth gyffredinol. Yn bwysig, dywedodd gwylwyr mai'r prif rwystr i wylio mwy o chwaraeon menywod yw'r diffyg sylw, nid ansawdd y gamp sy'n cael ei chwarae.
Cyfrifoldeb pawb yw'r frwydr yn erbyn homoffobia, rhywiaeth a thrawsffobia mewn chwaraeon. Mae angen i amcan y frwydr hon fod yn ddeublyg: ar yr un llaw i hyrwyddo a sicrhau parch at hawliau dynol ac urddas pob unigolyn, ac, ar y llaw arall, i fynd i'r afael â gwahaniaethu a thrais yn eu herbyn.
Ac yn olaf, rydym yn credu'n gryf y dylid ymchwilio i'r potensial o gael pwll nofio maint Olympaidd yng ngogledd Cymru. Ar hyn o bryd, mae'n rhaid i nofwyr talentog o'r gogledd sy'n cael eu dewis i gynrychioli Cymru deithio i Fanceinion, Lerpwl, Abertawe neu Gaerdydd i gael hyfforddiant. Byddai hyn yn ei gwneud hi'n haws i'r genhedlaeth nesaf o nofwyr Cymru gyrraedd y safon uchaf a chyflawni eu potensial.
Mawr obeithiaf y bydd y pleidiau eraill yn cefnogi'r gwelliannau hyn i gryfhau'r cynnig gerbron heddiw, a ddim yn derbyn gwelliant y Blaid Lafur, fyddai'n colli nifer o'r pwyntiau pwysig hyn. Dwi'n falch o ddweud fy mod i wedi gorffen o dan fy amser, Llywydd, fel ein bod ni, gobeithio, yn gallu gwylio'r gêm.
Da iawn. Rhywbeth i anelu amdano, bawb—25 eiliad oddi ar eich cyfraniad. [Chwerthin.] Huw Irranca-Davies, rhowch gynnig arni.
Diolch yn fawr iawn, ac fe wnaf yn wir, Lywydd. Fe gadwaf hyn yn fyr iawn. Rwy'n croesawu'r ddadl. Byddaf yn cefnogi gwelliant y Llywodraeth. Er bod elfennau da, mae'n rhaid i mi ddweud, yn y ddau welliant a nodwyd, gwelliant Llywodraeth Cymru yma, hyrwyddo llwyddiannau ym maes chwaraeon yng Nghymru, hyrwyddo creadigrwydd a gallu ein pobl ifanc ym maes chwaraeon, buddsoddi mewn cyfleusterau chwaraeon o'r radd flaenaf, cyfleusterau newydd, gan gynnwys caeau artiffisial 3G ac yn y blaen—mae'n welliant da ac yn haeddu cefnogaeth.
Ond a gaf fi ddweud, ar hyn o bryd, Lywydd, nad y pêl-droed yn unig sy'n mynd â'n sylw ar hyn o bryd? Mae rhai Aelodau hefyd yn meddwl am Gemau Olympaidd Tokyo—na, na, nid y Gemau Olympaidd hynny yn Tokyo, Gemau Olympaidd Tokyo 1964, lle neidiodd Lynn Davies, a adwaenid erioed fel Lynn 'The Leap' Davies o Nant-y-moel, yn y gwynt a'r glaw i mewn i'r llyfr chwedlau, gan ennill y fedal aur yn y naid hir. Fe'i gwnaeth am fod yr amodau'n briodol i fachgen o Nant-y-moel. Ac yn hollol groes i'r disgwyl, yn erbyn yr holl broffwydoliaethau, fe gurodd bencampwr y byd. A'r rheswm rwy'n crybwyll hynny yw oherwydd gallu pobl fel Lynn Davies—yn 1964 yr enillodd y fedal aur honno, ond eisteddais gydag ef yng Nghlwb Athletau Pen-y-bont ar Ogwr ac eisteddais gydag ef yng Nghlwb Bechgyn a Merched Nant-y-moel, lle tynnodd ei fedal aur allan, yn edrych fel pe bai wedi gweld dyddiau gwell, ac fe'i rhannodd gyda'r bobl ifanc a oedd yn eistedd o'i gwmpas, a gallech weld eu llygaid yn goleuo, 'Pam na allai fod yn fi, fel rhywun sydd hefyd yn mynd i'r clwb bechgyn a merched hwnnw?' Mae'n bwysig fod gennym arwyr chwaraeon, gan gynnwys yr arwyr chwaraeon sydd gennym ar hyn o bryd yn rhedeg ar y caeau yn lliwiau Cymru heno hefyd.
Ond mae'n fwy na'r arwyr chwaraeon yn unig, mae'n ymwneud hefyd â'r digwyddiadau mawreddog a wahoddwn yma i Gymru, rhywbeth rydym wedi'i wneud o'r blaen gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru. Ac rwyf am wneud un awgrym, ac mae'n ddrwg gennyf rygnu ymlaen am Nant-y-moel unwaith eto, ond mae mynydd Bwlch yn mynd ar draws y top—lle daw tair ffordd at ei gilydd ar ben y mynyddoedd. Mae'n fendigedig, mae'n anhygoel, mae'n addas ar gyfer cael gwylwyr yn sefyll ar ochr y ffyrdd hynny'n gwylio un o gamau'r Tour of Britain. Gadewch inni ddod ag ef yma yn y dyfodol. Beth am arddangos y gorau o Gymoedd de Cymru. Gadewch inni arddangos y gorau o chwaraeon egnïol o'r fath yma, yng ngwychder ysblennydd Cymoedd de Cymru, a dangos i'r byd y gorau o'r hyn sydd gennym hefyd.
Ond y tu hwnt i'r holl ddynion a menywod gwych hyn ym maes chwaraeon, a digwyddiadau gwych hefyd, chwaraeon ar lawr gwlad yw'r hyn sy'n tueddu i fod yn bwysig i'r rhan fwyaf ohonom. Y gemau pêl-droed yr awn i'w gwylio yn y gwynt a'r glaw a'r cesair, a sefyll ar yr ochr, gyda'n plant, gyda'r gymuned, gyda thimau rydym yn eu hadnabod, a rhai timau rydym yn chwarae yn eu herbyn hefyd. Y rygbi, pêl-rwyd—yr holl chwaraeon lleol llawr gwlad sydd mor bwysig, ac maent wedi dioddef yn ystod y pandemig, wedi cael eu taro'n galed. Ac nid yn unig fod ganddynt aelodau ifanc yn dod drwodd sydd wedi mynd flwyddyn, neu 18 mis bellach, heb allu trosglwyddo i lefelau uwch y timau ieuenctid a'r timau oedolion ac yn y blaen, er mor bwysig yw hynny, a gwyddom fod hynny'n achosi anhawster, ond y ffaith eu bod yn colli incwm yn eu bariau a'u hystafelloedd cyfarfod a'u lleoliadau. Mae wedi'u taro'n galed iawn.
Felly, Weinidog, fy apêl i chi wrth gefnogi'r gwelliant heddiw—ac rwy'n tybio y byddem i gyd yma yn apelio yn yr un modd—yw gweld beth yn fwy y gallwn ei wneud i wneud dau beth: sicrhau bod y clybiau hyn, ar gyfer pob math o chwaraeon i bawb, nid clybiau rygbi a phêl-droed yn unig ac nid chwaraeon i ddynion yn unig ond i bawb, yn gallu croesi i ochr draw y pandemig hwn yn hyfyw, gyda chymorth ychwanegol os oes angen. Ac yn ail, sut rydym yn pontio'r bwlch lle mae pobl ifanc mewn perygl yn awr o ddisgyn oddi ar yr ymyl a methu trosglwyddo i lefelau uwch mewn chwaraeon? Os na wnawn ni hynny, nid colli chwaraeon ar lawr gwlad yn unig a wnawn, ond colli'r Lynn the Leap nesaf, chwaraewyr nesaf tîm pêl-droed Cymru ac yn y blaen. Felly, byddai unrhyw beth y gallwch ei wneud i'r perwyl hwnnw'n cael croeso mawr.
Diolch, Lywydd. Fe geisiaf fod mor gryno ag y gallaf. Mae'n wych cael cyfle i siarad yn y ddadl hon heddiw. Fel Cymro balch, mae chwaraeon yn chwarae rhan enfawr yn fy mywyd, ac fel cenedl ac o'n llwyddiannau yn y gorffennol, fe obeithiwn—croesi bysedd—am lwyddiannau yn y dyfodol. Ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed, rydym yn dwli ar chwaraeon, o'n clybiau criced cymunedol, clybiau rygbi a phêl-droed, ein timau dartiau, ein clybiau bowlio—beth bynnag a fynnwch, Weinidog, mae'r cyfan gennym. Mae gennym hefyd brosiect anhygoel wedi'i gynllunio yn Rhaeadr ar gyfer caeau 4G a chanolfan chwaraeon ar gyfer canolbarth Cymru. A byddwn wrth fy modd pe bai'r Gweinidog yn dod i ymweld â fy etholaeth i weld y gwaith a wnaed hyd yma ac i weld sut y gallwn hybu chwaraeon yng nghanolbarth Cymru.
Profwyd yn wyddonol fod gweithgarwch corfforol yn cael effaith gadarnhaol iawn ar iechyd corfforol a meddyliol unigolyn a'i les cyffredinol. Drwy gydol y cyfyngiadau symud cyntaf, caewyd campfeydd a'r holl weithgareddau chwaraeon, a chefnogwyd hyn gan y cyhoedd. Roedd angen inni arafu lledaeniad COVID a sicrhau ein bod yn achub bywydau i ddiogelu'r GIG a'r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas. Ond pan ddaeth yr ail gyfnod o gyfyngiadau symud i rym ar ddiwedd 2020, gwyddai'r Llywodraeth yn iawn am y risgiau i iechyd y cyhoedd y byddai gorfodi cyfnod arall o gyfyngiadau symud yn ei olygu. Roedd pobl a'r cyhoedd yn cael trafferth mawr gyda'u hiechyd corfforol a meddyliol, gyda llawer yn methu gweld anwyliaid a ffrindiau am fisoedd bwy'i gilydd. Roedd eich Llywodraeth yn gwybod y byddai hyn yn digwydd, ac yn fy marn i gallech fod wedi gweithio'n rhagweithiol gyda'r sector chwaraeon i sicrhau y gallai pobl barhau i gymryd rhan mewn chwaraeon, mynd i'r gampfa mewn ffordd ddiogel a bod yn gorfforol egnïol i sicrhau nad oedd eu hiechyd corfforol a meddyliol yn dirywio. Ond rydym yn y sefyllfa rydym ynddi, ac ni allwn newid y gorffennol, ond rwy'n gobeithio'n fawr y gallwn newid y dyfodol. Felly, Weinidog, gan fod yr economi bellach wedi ailagor, ac o gofio bod y rhaglen frechu wedi bod yn llwyddiant mawr, mae'n bryd inni ddechrau cydnabod yn iawn yr ystod eang o fanteision y mae chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn eu cyfrannu i iechyd y genedl, ac rwy'n gobeithio y gall pawb yn y Siambr ac yn rhithwir heddiw gefnogi cynnig y Ceidwadwyr Cymreig, a bod y Llywodraeth yn ystyried o ddifrif gwneud campfeydd yn wasanaeth hanfodol yn y dyfodol. Diolch, Lywydd.
Yn gyntaf, hoffwn ddymuno pob lwc i dîm pêl-droed dynion Cymru ar gyfer y gêm heno yn erbyn Twrci. Efallai fod gan Dwrci rywbeth yn agos at dorf gartref, ond mae gobeithion ein gwlad y tu ôl i chi, fechgyn. Beth bynnag sy'n digwydd, gwyddom y byddwn yn falch ohonoch. Pob lwc i chi i gyd.
Mae'n drydanol sut y gall y twrnameintiau enfawr hyn godi hwyliau pobl, rhoi rhywbeth i ni i gyd deimlo'n llawen yn ei gylch, a gall yr hyn sy'n digwydd ar gaeau ar draws y byd pan fydd cynifer o filiynau'n gwylio gael effeithiau eraill yma yng Nghymru hefyd. Roeddwn mor falch o gefnogi datganiad barn a gyflwynwyd yr wythnos hon gan Sam Kurtz a oedd yn dadlau dros sicrhau bod diffibrilwyr ar gael ar gaeau chwaraeon yng Nghymru, gan ddysgu o'r golygfeydd brawychus gyda Christian Eriksen dros y penwythnos. Diolch byth fod y parafeddygon yno, fod y cyfarpar cywir yno i helpu i achub ei fywyd. Ac er gwaethaf penderfyniadau hyll ac erchyll darlledwyr i ddangos lluniau a oedd yn peri gofid, os gall un peth da ddod o'r digwyddiad, y gobaith y gall mwy o bobl ifanc sy'n cymryd rhan mewn chwaraeon ddysgu am adfywio cardio-pwlmonaidd yw hwnnw, ac y gellir achub mwy o fywydau yn y dyfodol, oherwydd mae chwaraeon yn rhywbeth a all ddod â ni i gyd at ein gilydd. Grym a photensial chwaraeon oedd yr union reswm pam fod cynifer ohonom yn siomedig ynghylch y ffordd y mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi ymdrin â'r gêm i fenywod yng Nghymru a'r ailstrwythuro diweddar a olygodd fod Clwb Pêl-droed Menywod y Fenni a Cascade Ladies yn fy rhanbarth i wedi cael eu tynnu o'r gynghrair uchaf, a Chlwb Pêl-droed Menywod Coed Duon wedi disgyn i'r drydedd haen. Rwy'n dal i alw ar Gymdeithas Bêl-droed Cymru i ailystyried y penderfyniad hwn, oherwydd yr effaith y bydd yn ei chael nid yn unig ar gefnogwyr, nid yn unig ar y chwaraewyr, ond ar chwaraewyr yn y dyfodol. Bydd yn debygol o arwain at lai o gymhelliad ymhlith menywod ifanc a allai fod wedi dewis chwarae pêl-droed. Rwyf hefyd yn pryderu am yr effaith y bydd y penderfyniad yn ei chael ar iechyd meddwl chwaraewyr a byddwn yn croesawu unrhyw newyddion gan y Gweinidog am unrhyw sgyrsiau y gallai'r Llywodraeth eu cael, unrhyw gymorth y gellid ei ddarparu i'r clybiau hyn sy'n mynd drwy gyfnod mor anodd. Fe'i gadawaf yno, Lywydd. Rwy'n ceisio cadw hyn yn fyr oherwydd y gêm, felly rwyf ond am ddweud unwaith eto:
Ymlaen, Cymru, heno. Pob lwc i'r criw yn Baku.
Fe gymerwn hynny fel un set o ddymuniadau da, ac nid oes angen i bob un ohonom ailadrodd y dymuniadau da, neu fel arall byddwn yn colli'r gic gyntaf. Rhianon Passmore.
Diolch, Lywydd. Gellir gweld y cyffro a'r angerdd y mae Cymru'n ei deimlo am ei chwaraeon heno, fel y gwyddom i gyd, am 5 p.m., wrth i dîm y dynion chwarae Twrci yn ein hail gêm ym Mhencampwriaeth Pêl-droed Ewrop. Felly, nid wyf eisiau eich croesi chi, Lywydd, ond ni allaf help ond dweud 'lwc dda' wrth Robert Page a'i dîm.
Er hynny, mae gan Lywodraeth Lafur Cymru hanes balch a rhagorol o werthfawrogi a chefnogi chwaraeon yng Nghymru. Yn ystod ymgyrch yr etholiad yn ddiweddar cafwyd enghreifftiau o bob rhan o fy etholaeth o fuddsoddiad sylweddol, yn wahanol i Loegr, gan Lywodraeth Lafur Cymru yn gweithio mewn partneriaeth â Chyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili dan arweiniad Llafur mewn chwaraeon llawr gwlad. A gwyddom fod tywydd enwog Cymru yn aml yn achosi problemau enfawr gyda chynnal a chadw caeau glaswellt, yn enwedig rhai wedi'u caledu gan ddegawd o doriadau Llywodraeth Dorïaidd y DU i Gymru ac i wasanaethau anstatudol mewn ymgais i geisio lleihau gwariant cyhoeddus dewisol. Yn Islwyn, diolch i Lywodraeth Cymru rydym bellach yn gweld caeau 3G yn cael eu hadeiladu, gan gynnwys yng nghanolfan hamdden Pontllanffraith, Ysgol Uwchradd Islwyn yn Oakdale, ac ysgol uwchradd y Coed Duon. Yn y Coed Duon, cyflwynodd y cyngor a arweinir gan Lafur gais cryf am y cyfleuster 3G newydd, a rhoddwyd sêl bendith i'r cynllun gan ddefnyddio gwerth £810,000 o gyllid o raglen arloesol Llywodraeth Cymru i ysgolion ac addysg ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain.
Felly, Ddirprwy Weinidog, ni ddylai fod unrhyw rwystrau—dim rhwystrau, fel yr adleisiwyd gan bawb—i gefnogi chwaraeon a sicrhau bod ein plant yn cymryd rhan mewn chwaraeon. Fel Llywodraeth Cymru, gwyddom fod yn rhaid inni barhau i chwalu'r rhwystrau i gyfranogiad, er mwyn gwneud chwaraeon hefyd yn hygyrch ac yn fforddiadwy i bawb. I gloi, Lywydd, rydym hefyd yn awyddus yn Islwyn i hyrwyddo athletau. Mae trac athletau newydd gwerth £750,000 wedi'i adeiladu yn Oakdale, diolch eto i Lywodraeth Lafur Cymru a'r cyngor Llafur. Mae'n hanfodol felly fod Llywodraeth Lafur Cymru yn parhau i arwain y ffordd drwy gefnogi chwaraeon ar lawr gwlad yng Nghymru. Rwy'n gobeithio clywed newyddion da am ailddechrau parkruns pan fydd yn ddiogel i wneud hynny. Gwyddom pa mor bwysig ydynt i'r rhai sy'n cymryd rhan ynddynt, ac i'n cefnogwyr Llafur llwyddiannus yn Islwyn, a'r rhedwyr.
Ond mae'n iawn dweud bod Llafur, ym mlynyddoedd datganoli, wedi arwain y ffordd ar gynnal digwyddiadau elît fel rownd derfynol Cwpan yr FA, gêm brawf y Lludw mewn criced, a'r Cwpan Ryder mewn golff. Mae'r digwyddiadau rhyngwladol hyn yn ysbrydoli plant Cymru, yn ysbrydoli'r genedl Gymreig ac yn arddangos ein gwlad wych i'r byd. Felly, ie, gadewch inni ddweud 'Ewch amdani, Cymru' heno, a gadewch inni barhau i adeiladu dyfodol chwaraeon disglair i'n holl gymunedau, oherwydd nid yw mynediad at gyfle erioed wedi bod yn bwysicach. Diolch.
Gadewch imi ymuno, yn gyntaf oll, â Mr Giffard a'r holl gyd-Aelodau ar draws y Siambr i ddymuno pob lwc i dîm pêl-droed dynion Cymru heno. Rwyf innau hefyd yn edrych ymlaen at wylio'r gêm honno cyn bo hir. Fel y dywedodd Mr Giffard, mae gan chwaraeon bŵer i'n huno. Dyna un o'r pethau mwyaf diddorol am chwaraeon. Gallaf innau hyd yn oed, fel un o gefnogwyr rhwystredig Nottingham Forest, ymuno â Mr Sargeant, cefnogwr Newcastle United, i gefnogi ein gwlad gyda'n gilydd. A rhaid inni gydnabod ein bod, fel gwlad o ychydig dros 3 miliwn o bobl, yn parhau i wneud yn llawer gwell na'r disgwyl mewn chwaraeon.
Fel y gwyddom yn iawn, ac fel y crybwyllwyd eisoes, mae chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn ffyrdd gwych o wella lles meddyliol a chorfforol pobl. Yr hyn sydd hefyd wedi'i rannu yma y prynhawn yma yw'r manteision cymdeithasol ac economaidd y mae chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn eu cynnig i Gymru. Gyda'r manteision cyfannol hyn mewn golwg yr hoffwn i fy nghyfraniad byr, Lywydd, ganolbwyntio ar y rôl a'r cyfle y gall chwaraeon llawr gwlad, ond yn fwyaf arbennig, y gall chwaraeon elît eu cynnig ledled Cymru. Byddwn wrth fy modd ar y pwynt hwn pe bawn yn gallu datgan buddiant fel athletwr elît, ond yn anffodus ni allaf—oni bai wrth gwrs ein bod yn cynnwys golff traed fel camp elît, Lywydd.
Ond o fewn y cynnig heddiw gan Mr Giffard, fe fyddwch yn ymwybodol ein bod, fel Ceidwadwyr Cymreig, yn galw am gronfa ar gyfer talent o Gymru ym maes chwaraeon i gefnogi athletwyr talentog o Gymru i lwyddo ar lwyfan y byd, yn ogystal â gwella mynediad at gyfleusterau chwaraeon. Y rheswm am hyn yw ei bod yn amlwg fod cymaint i'w ennill o fuddsoddi mewn chwaraeon elît. Fel y gwyddom, y chwaraewyr hyn sy'n aml yn ysbrydoli cenhedlaeth ar ôl cenhedlaeth i gymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgareddau ac yn wir, soniodd Mr Irranca-Davies yn ei gyfraniad—a diolch ichi am fy ngoleuo ar Lynn 'The Leap'—am y modd y cafodd ei ysbrydoli wrth weld mabolgampwr elît a'r fedal a enillodd Lynn.
Yn anffodus, fodd bynnag, ceir bwlch mewn cyfleusterau a chymorth elît, yn enwedig y mynediad i bobl ifanc o ogledd Cymru o gymharu â'r hyn sydd ar gael yn ne Cymru. Wrth gwrs, mae gennym Glwb Pêl-droed Wrecsam yng ngogledd Cymru, a byddai fy niweddar daid, Hywel Hefin Rowlands, yn falch iawn o fy nghlywed yn sôn am glwb pêl-droed Wrecsam heddiw, ond dyna'r unig dîm chwaraeon proffesiynol yng ngogledd Cymru. Mae'r boblogaeth yn agos at 1 filiwn o bobl ac un tîm chwaraeon proffesiynol yn unig a geir yn y rhanbarth. Ac os edrychwn ar rygbi fel enghraifft arall, mae pedwar tîm rhanbarthol proffesiynol yn ne Cymru, ond ni cheir tîm proffesiynol yn y gogledd hyd yma. Rwy'n teimlo'n rhwystredig iawn fod cymaint o'r cyfleusterau a'r gefnogaeth elît bedair neu bump awr i ffwrdd oddi wrth lawer o bobl yng ngogledd Cymru, yn anffodus. Ac o ran cael y timau proffesiynol hyn yng ngogledd Cymru a'r buddsoddiad mewn cyfleusterau chwaraeon elît yn y rhanbarth, bydd llawer o chwaraewyr ac athletwyr yn aml yn gweld y rhwystrau hynny a naill ai'n rhoi'r gorau i gystadlu neu'n symud dros y ffin i gystadlu yn y gweithgareddau hynny, ac mae hynny'n rhywbeth na allwn ei dderbyn fel Senedd Cymru yma y prynhawn yma.
Mae gogledd Cymru hefyd yn cael eu gadael ar ôl ar adegau pan ddaw'n fater o fynediad i wylwyr a chefnogwyr. Yn ddiweddar, cawsom y gemau pêl-droed cyfeillgar cyn y bencampwriaeth Ewropeaidd. Fodd bynnag, ni chwaraewyd yr un o'r rheini yng ngogledd Cymru, ac i lawer o'r gwylwyr hynny mewn gwirionedd, ar gyfer y gemau nos hynny, nid oes trafnidiaeth gyhoeddus gyda'r nos iddynt allu dychwelyd adref. Felly, mae hynny'n rhywbeth arall y dylid edrych arno er mwyn annog pobl i gymryd rhan a chael eu hysbrydoli gan chwaraeon elît.
Felly, i gloi, Lywydd, rydym yn genedl lwyddiannus mewn chwaraeon ac mae gennym lawer i ymfalchïo ynddo. Fodd bynnag, mae angen llawer mwy o waith a chydweithrediad rhwng y sefydliadau cyfrifol, ac mae hyn yn cynnwys Llywodraethau, i sicrhau na chaiff chwaraeon yng Nghymru eu canoli'n ormodol yn ne Cymru a'u bod yn hygyrch ac yn gynrychioliadol o Gymru gyfan, gan gynnwys yr etholwyr rwy'n eu cynrychioli yn rhanbarth Gogledd Cymru. Byddai ein cynnig heddiw, fel Ceidwadwyr Cymreig, yn sicrhau bod y bwlch hwn rhwng y rhanbarthau yn cael ei gau drwy ddarparu cefnogaeth a buddsoddi mewn chwaraeon elît, yn ogystal â chwaraeon ar lawr gwlad ledled Cymru. Rwy'n annog pob Aelod i gefnogi ein cynnig Ceidwadol ac i wrthod gwelliant y Llywodraeth. Diolch yn fawr iawn.
Ni fyddwch yn credu hyn, Lywydd, ond roeddwn yn ofnadwy mewn chwaraeon yn yr ysgol. [Chwerthin.] Chwaraeais yn ddiweddar fel aelod o dîm y Senedd yn erbyn Tŷ'r Cyffredin/Tŷ'r Arglwyddi, a gwnaethom eu chwalu'n llwyr, ac rwy'n teimlo braidd mai fy mhàs i i Rhun ap Iorwerth a aeth wedyn at Andrew R.T. Davies, a aeth yn syth i lawr yn y ryc, cyn mynd allan i'r asgell chwith am gais, credaf imi gyfrannu at y cais hwnnw. [Chwerthin.] Ond yn yr ysgol, nid oedd gennyf ddiddordeb mewn chwaraeon oherwydd roeddwn i'n teimlo mai gêm tîm ydoedd, a bydd y Prif Chwip yn gwybod nad wyf cystal gyda phethau tîm weithiau. [Chwerthin.] A hefyd, rygbi a phêl-droed oedd y ffocws—dyna ni. Ein hathro oedd Huw Bevan a aeth ymlaen i gyflawni pethau gwych fel hyfforddwr, ac sy'n dal i gyflawni pethau gwych fel hyfforddwr, ond ni wnaeth ein hannog ni. Ac rwy'n credu mai'r hyn sydd angen inni ei gofio yw nad gemau'n unig yw chwaraeon ac nid gemau tîm yn unig.
Roeddwn i'n arfer beicio i'r ysgol dros gomin Gelligaer ac roeddwn i'n arfer mynd i feicio'n rheolaidd. Nid oedd dim o hynny'n rhan o weithgarwch yr ysgol, a chredaf yn yr ystyr honno, fod Ysgol Gyfun Heol-ddu wedi llwyddo i mi mewn cynifer o wahanol ffyrdd, ond nid mewn gweithgaredd chwaraeon. Ond mae'n werth cofio bod Lauren Price, y paffiwr a'r cyn-bêl-droediwr—mae hi'n 26 oed, felly mae ganddi fantais o 17 mlynedd arnaf—yn gyn-ddisgybl yn Heol-ddu hefyd, felly mae'n rhaid eu bod wedi gwneud rhywbeth yn iawn, ac rwy'n tybio eu bod wedi gwella'n fawr dros yr amser hwnnw.
Hoffwn sôn bod gan Lywodraeth Cymru rôl enfawr i'w chwarae yn ariannu chwaraeon, yn enwedig drwy ariannu caeau. Yn fy etholaeth i, mae gennym Ganolfan Rhagoriaeth Chwaraeon Ystrad Mynach, sydd â chaeau 3G a 4G, a dyna lle mae Clwb Pêl-droed Cascade YC Ladies yn chwarae ar hyn o bryd. Rydych hefyd yn ariannu Ymddiriedolaeth Cymdeithas Bêl-droed Cymru, drwy Chwaraeon Cymru, yn uniongyrchol i bêl-droed i ddynion a menywod.
Nawr, un o'r pethau a wnaethom y bore yma—ac rwyf wedi bod yn gweithio'n drawsbleidiol gyda Delyth Jewell a Laura Anne Jones ar y mater hwn yn rhanbarth de-ddwyrain Cymru—oedd cyfarfod â Chymdeithas Bêl-droed Cymru a chlwb pêl-droed menywod Cascade. Cawsom gyfarfod eithaf adeiladol, a'r hyn a gyfaddefodd Cymdeithas Bêl-droed Cymru wrthyf oedd eu bod yn wael iawn am gyfleu eu penderfyniad, sydd eisoes wedi'i grybwyll gan Tom Giffard, i dynnu menywod Cascade, y Fenni a Llansawel o Uwch Gynghrair Merched Cymru. Mae hyn wedi ein siomi'n fawr yn y Siambr hon. Credaf fod hanner Aelodau'r Senedd wedi llofnodi ein datganiad barn yn beirniadu'r penderfyniad hwnnw. Nid ydym yn mynd i newid ein safbwynt ar hynny—teimlwn o hyd ei fod yn benderfyniad anghywir—ond yr hyn a ddywedodd Cymdeithas Bêl-droed Cymru wrthym heddiw yw eu bod yn annhebygol o newid eu safbwynt hwy, er ein bod yn gofyn i chi barhau i roi pwysau, Weinidog. Rwy'n gwybod eich bod wedi ysgrifennu atynt, a hoffwn gael rhagor o wybodaeth am hynny, ond rwy'n parhau i roi pwysau ar Gymdeithas Bêl-droed Cymru i ailystyried y penderfyniad.
Yr hyn sydd ei angen arnom gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru yn y dyfodol yw cyfathrebu â'r clybiau, oherwydd mae'r clybiau hynny, yn enwedig Cascade yn y Cymoedd gogleddol, yn glwb mewn cymuned nad yw wedi ei bendithio gan lwyddiant chwaraeon enfawr. Gallwch edrych at Dref y Barri a'r—. Roeddwn i'n mynd i'w galw'n 'Total Network Solutions'. Beth yw eu henwau, Jack? Ie, y Seintiau Newydd. Gallwch edrych ar y clybiau sy'n glybiau marquee ym maes pêl-droed dynion. Nid yw'n dderbyniol felly eu bod yn dod yn glybiau menywod hefyd oherwydd bod ganddynt arbedion maint. Mae angen inni weld clybiau fel Cascade yn llwyddo. Felly, yr hyn y gofynnais i Gymdeithas Bêl-droed Cymru ei wneud yw agor deialog glir iawn gyda Cascade, fel y byddant, a hwythau bellach yn haen 2 y de, yn cael mynd yn ôl i fyny eto y tymor nesaf os ydynt yn ddigon da, ond yn seiliedig ar safon eu chwarae'n unig. Mae hynny'n bwysig iawn.
Ac i ddychwelyd at y cynnig, y ffordd y gellir annog hyn yw bod Llywodraeth Cymru yn parhau i fuddsoddi mewn cyfleusterau chwaraeon a'r gweithgareddau o'u cwmpas yn ein cymunedau. Fel y dywedais, mae Cascade yn elwa o hynny yn y ganolfan ragoriaeth chwaraeon. Nid yw ond yn deg eu bod yn parhau i wneud hynny drwy safon eu chwarae. Felly, dyna'r pwynt allweddol rwyf am ei wneud heddiw, ac os yw Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn gwylio, rydym yn cadw ein llygad ar hyn. Byddwn yn parhau i weithio gyda'n clybiau yn ein cymunedau, ac rydym yn aros am ymgynghoriad adeiladol ac ymateb hefyd i'ch llythyr, Weinidog.
Rwy'n ddiolchgar am y cyfle i gymryd rhan yn y ddadl hon gan y Ceidwadwyr Cymreig heddiw ar bwnc sydd wedi chwarae rhan bwysig yn fy mywyd, ac sy'n parhau i wneud hynny. O oedran cynnar iawn, rwyf wedi bod yn cymryd rhan weithredol mewn chwaraeon. Er fy mod bob amser yn frwdfrydig, ni allaf honni fy mod erioed wedi bod mor dda â hynny mewn unrhyw gamp benodol. Fodd bynnag, rwy'n hyrwyddo'n frwd y manteision iechyd corfforol a meddyliol y mae chwaraeon yn eu cynnig i fywyd yr unigolyn. Ac rwy'n lwcus fod gan sir Benfro a sir Gaerfyrddin gymuned chwaraeon mor weithgar, gyda llawer o arwyr chwaraeon Cymru: pencampwr pêl-droed Arberth ei hun, Joe Allen; un o Lewod Prydain ac Iwerddon o Fancyfelin, Jonathan Davies, a Manon Lloyd, enillydd medal aur mewn beicio a aned yng Nghaerfyrddin—mae'r rhain i gyd wedi cynrychioli eu gwlad ar y lefel uchaf ac maent yn fodelau rôl i lawer.
Rwy'n sicr wedi dysgu llawer o sgiliau cymdeithasol o'r ystafelloedd newid rygbi a chriced o oedran cynnar, ac rwy'n gwybod bod eraill wedi gwneud hynny hefyd. Ynghanol arogl parhaol Deep Heat, mae chwaraeon tîm yn ymwneud â bod ynddi gyda'ch gilydd—eich bod chi'n gefn i aelodau eraill eich tîm a'u bod hwythau'n gefn i chi. Mae'r profiadau a rennir o fod ar y maes, y cae neu'r cwrt yn helpu i greu bond a datblygu cymeriad. Mae hefyd yn dysgu gwerth gweithio'n galed i gyflawni amcanion i bobl o oedran cynnar. Os ydych chi'n ymarfer digon, yn hyfforddi'n galed, nid oes unrhyw rwystrau i'r cerrig milltir personol y gallwch eu cyrraedd. Mae chwaraeon hefyd yn wych am hybu symudoledd cymdeithasol. Pan fydd y cyfleoedd yno, ni ddylai fod unrhyw ffin ar eich potensial heblaw eich talent.
Yn ystod y cyfyngiadau symud, roedd chwaraeon yn achubiaeth ac yn ddihangfa. Wrth i'r cyfyngiadau symud ddechrau cael effaith ar ein hiechyd meddwl, roedd mynd yn ôl i allu cicio pêl gyda ffrindiau neu ddiwrnod yn yr haul yn chwarae criced yn ffordd fawr ei hangen o ryngweithio'n gymdeithasol ac yn helpu'r rhai, gan gynnwys fi fy hun, a oedd wedi ei chael hi'n anodd yn ystod y cyfyngiadau symud. Hefyd, fe helpodd rai ohonom i golli peth o bwysau ychwanegol y cyfyngiadau symud, er bod fy mam yn fy atgoffa'n syth fy mod wedi ennill hwnnw'n ôl yn gyflym. Nid wyf yn ddall i'r eironi y gallai ein dadl heddiw arwain at drafodion yn y Siambr a fydd yn para dros y gic gyntaf yng ngêm Cymru-Twrci yn y bencampwriaeth Ewropeaidd. Rwy'n gwybod bod yr Aelodau'n awyddus i gefnogi'r tîm, felly fe gadwaf fy nghyfraniad yn fyr a chanolbwyntio ar dri phrif bwynt.
Yn gyntaf, hoffwn ailadrodd y galwadau a wnaeth fy nghyd-Aelod Tom Giffard wrth agor y ddadl. Gall Cymru gynnal digwyddiadau chwaraeon mawr, o Gwpan Rygbi'r Byd 1999 i rownd derfynol Cynghrair y Pencampwyr yn fwy diweddar yn 2017. Felly, gyda siom ddiffuant y penderfynodd Llywodraeth Cymru yn erbyn mynd ar drywydd cais i gynnal Gemau'r Gymanwlad. Gyda Birmingham yn cynnal y digwyddiad y flwyddyn nesaf yn 2022, rwy'n siŵr y bydd llawer o gefnogwyr Cymru yn gwneud y daith fer dros y ffin i weld rhai o athletwyr gorau'r byd. Mae'r gwaddol y bydd y ddinas yn ei ennill yn enfawr, ac mae'r effaith ganlyniadol i'r ardal a'r gymuned leol yn sylweddol. Weinidog, mae uchelgais yn hollbwysig, a byddai Gemau'r Gymanwlad i Gymru gyfan yn agor ein gwlad i'r byd. Mae llawer o'r seilwaith eisoes yn ei le—y pwll 50m yma yng Nghaerdydd, y felodrom yng Nghasnewydd. Pwy na fyddai'n croesawu rhai o'r digwyddiadau yn eu rhannau eu hunain o Gymru? Hwylio ar afon Menai, beicio mynydd ym Mannau Brycheiniog, y triathlon yn y môr ac ar ffyrdd yn sir Benfro, ac wrth gwrs, pêl foli'r traeth ar dywod Pentywyn. Pa hysbyseb well i'n cenedl chwaraeon wych?
Efallai y cofiwch hefyd, Weinidog, imi ddefnyddio cwestiwn i'r Prif Weinidog ychydig wythnosau'n ôl i dynnu sylw at bwysigrwydd cystadleuaeth Ironman i Ddinbych-y-pysgod a de sir Benfro. Mae'r digwyddiad hwn, y gwn ei fod wedi cael cefnogaeth gan yr awdurdod lleol rwy'n dal yn aelod ohono, a Llywodraeth Cymru, yn cael ei gydnabod fel un o drysorau chwaraeon Cymru. Fodd bynnag, bydd penderfyniad Llywodraeth Cymru i gynnal y rheol cadw pellter cymdeithasol o 2m ar gyfer y digwyddiad yn ei daro'n galed. Cynhelir Ironman Cymru yn yr awyr agored, ac mae'n ymddangos yn rhyfedd, wrth i bobl gael eistedd o amgylch bwrdd y tu mewn i dafarn, fod digwyddiad athletaidd elitaidd yn y fantol oherwydd y rheol 2m. A gaf fi eich annog, os gwelwch yn dda, Weinidog, i ymchwilio i'r mater hwn, ac ystyried llacio'r rheol 2m, er mwyn sicrhau y gellir cynnal y digwyddiad eto ac y gall fod yn llwyddiannus unwaith eto ym mis Medi?
Ac yn olaf, ond yn bwysicaf oll, yn dilyn y golygfeydd gofidus dros y penwythnos o'r pêl-droediwr o Ddenmarc Christian Eriksen yn disgyn ar gae pêl-droed ac yn cael triniaeth i achub ei fywyd, roeddwn am dynnu sylw at bwysigrwydd sicrhau bod diffibrilwyr ar gael ar gaeau pêl-droed. Cyflwynais ddatganiad barn yn gynharach yr wythnos hon yn galw am waith parhaus i sicrhau bod yr offer hwn sy'n achub bywydau wedi'i leoli ym mhob maes chwarae yng Nghymru. Rwy'n ddiolchgar i'r Aelodau sydd wedi'i lofnodi, ac rwy'n falch ei fod wedi casglu cefnogaeth mor drawsbleidiol. Gobeithio bod momentwm, ewyllys wleidyddol, i wireddu hyn. Diolch i Delyth Jewell am ei geiriau caredig ar hyn yn gynharach. Hefyd, hoffwn roi clod i Suzy Davies am ei gwaith yn sicrhau y bydd CPR yn cael ei addysgu yn y cwricwlwm newydd.
Ac i osgoi eich pechu, Lywydd, ond i orffen yn derfynol gennyf fi, c'mon Cymru.
Rwy'n mwynhau'r ddadl hon yn fawr. Fel y dywedodd ein cyfaill Sam Rowlands, rwy'n gefnogwr chwaraeon angerddol. Cefais fy atgoffa ganddo o'r dyddiau pan oeddwn yn cefnogi Clwb Pêl-droed Newcastle United, ac rwy'n dal i wneud hynny. Mae gennyf atgofion melys o'r diweddar Gary Speed yn gwneud pethau hudolus i fy nghlwb. Mae'r Llywydd yn gwybod fy mod i'n un i hyrwyddo rhagoriaeth mewn chwaraeon ar bob cyfle, boed y tîm pêl-droed cenedlaethol neu Glwb Pêl-droed Nomads Cei Connah yng ngogledd Cymru am ennill Uwch Gynghrair Cymru eto. Cyn bo hir byddant yn cynrychioli Cymru ar y llwyfan Ewropeaidd unwaith eto. Lywydd, gwyddoch fy mod yn llysgennad clwb gwirioneddol falch, felly rwy'n hapus iawn i ddatgan buddiant ar hynny. Fy nghyfaill Huw Irranca-Davies—rwy'n cytuno'n llwyr â phopeth a ddywedodd yn ei gyfraniad yn flaenorol. Ond yr hyn a ddywedaf yw ein bod ni, yng ngogledd-ddwyrain Cymru, yn meddwl am Gemau Olympaidd Tokyo am fod Jade Jones yn mynd am ei thrydedd fedal aur mewn taekwondo. Felly, rwy'n siŵr y byddwn i gyd yn dymuno'r gorau iddi yno.
Lywydd, mae Aelodau ar draws y Siambr wedi nodi'n briodol mai'r allwedd i weld llwyddiant i Gymru ar lwyfan y byd ac Ewrop, wrth gwrs, yw chwaraeon llawr gwlad. Ar hyn o bryd, rwyf wrthi'n trefnu cyfarfod rhwng Cymdeithas Bêl-droed Cymru, cyngor sir y Fflint a—gobeithio—Chwaraeon Cymru hefyd, ochr yn ochr â Chlwb Pêl-droed Tref Bwcle. Fy uchelgais i, ac uchelgais y clwb, yw cael cae artiffisial o'r radd flaenaf yn y clwb. Byddaf yn annog pawb yn y cyfarfod hwnnw i ymuno â mi i gael y cyfleuster hwn yn ei le. Oherwydd mae'n ymwneud â mwy na phêl-droed mewn gwirionedd—mae'n ymwneud â phob camp a gweithgaredd y gellir eu chwarae ar gyfleuster a rennir gan y gymuned. Rwyf am i bawb yn y cyfarfod hwnnw gefnogi'r uchelgais hwn, a byddaf yn annog cynghorwyr lleol yn arbennig i argyhoeddi'r cyngor lleol i gefnogi'r weledigaeth hefyd. Mae caeau pob tywydd yn hanfodol os yw'r genhedlaeth nesaf o dalent yn mynd i allu hyfforddi drwy gydol y flwyddyn, ym mha gamp bynnag y maent am wneud hynny. Byddwn yn ddiolchgar pe gallai'r Gweinidog wneud nodyn o hynny yn ei hymateb—am bwysigrwydd caeau artiffisial i bob camp a chymuned go iawn eu defnyddio fel cyfleuster a rennir. Diolch yn fawr, Lywydd.
Y Dirprwy Weinidog i gyfrannu i'r ddadl.
Diolch, Lywydd. A gaf fi ddiolch yn gyntaf i'r Aelodau am ddadl ddiddorol iawn, ar bwnc rwy'n angerddol iawn yn ei gylch? Rwyf wedi bod yn gefnogwr chwaraeon drwy gydol fy oes, pêl-droed yn bennaf. Nid wyf yn meddwl fy mod i'n mynd i ddatgan pa dimau pêl-droed rwy'n eu cefnogi yn y Siambr heddiw, ond digon yw dweud—[Torri ar draws.] Digon yw dweud—[Torri ar draws.] Clwb Pêl-droed Tref Merthyr. Digon yw dweud, nad wyf wedi cael fy adeiladu ar gyfer cymryd rhan mewn chwaraeon, ond yn bennaf ar gyfer gwylio, ac rwyf wedi mwynhau gwneud hynny ar hyd fy oes. Felly, mae'n fraint fawr i mi fod mewn rôl weinidogol yn awr lle gallaf nodi cyflawniad Llywodraeth Cymru ar y materion a godwyd a'n hymrwymiadau yn nhymor y Senedd hon.
Yn gyntaf, fel eraill, hoffwn adleisio'r sylwadau a wnaed gan yr Aelodau, heddiw a ddoe, wrth fyfyrio ar y golygfeydd gwirioneddol frawychus ym mhencampwriaeth Ewrop gyda Christian Eriksen dros y penwythnos. Mae'r hyn y gwnaethom dystio iddo ddydd Sadwrn diwethaf yn tynnu sylw at bwysigrwydd diffibrilwyr a'r angen am swyddogion wedi'u hyfforddi'n briodol. Rwy'n siŵr y bydd y Siambr gyfan yn ymuno â mi i ddymuno gwellhad llawn iddo. Er ein bod am annog pawb i gymryd rhan mewn chwaraeon a bod yn egnïol, mae angen inni sicrhau bod hynny'n cael ei wneud mewn ffordd mor ddiogel â phosibl.
Lywydd, rwy'n falch iawn o'r ffaith ein bod ni, a ninnau'n genedl fach, yn gwneud yn llawer gwell na'r disgwyl ar lwyfan y byd o ran digwyddiadau chwaraeon. Y dystiolaeth economaidd ac iechyd y cyfeiriwyd ati gan Tom Giffard a Heledd Fychan yw'r ffynonellau tystiolaeth a fu'n sail ar gyfer asesu cyllid ychwanegol ar gyfer chwaraeon, er mwyn cefnogi'r sector drwy gydol y pandemig a pharatoi ar gyfer y cyfnod ar ôl COVID.
Mae gennym enw da o'r radd flaenaf, a hynny'n haeddiannol, am ddenu digwyddiadau chwaraeon, digwyddiadau diwylliannol a digwyddiadau busnes rhyngwladol fel Cwpan Ryder, gemau prawf y Lludw, Ras Fôr Volvo, rowndiau terfynol Cynghrair Pencampwyr UEFA, uwchgynhadledd NATO, Womex a datblygu digwyddiadau cartref, gan gynnwys Focus Cymru, Gŵyl Gomedi Aberystwyth, a digwyddiadau canmlwyddiant Dylan Thomas a Roald Dahl dros y 10 mlynedd diwethaf. Nid dyheadau yw'r rhain; dyma sydd wedi digwydd yng Nghymru. Mae'r digwyddiadau mawr hyn yn parhau. Mae'n wych gweld Canwr y Byd Caerdydd y BBC ar y gweill ac yn ennyn darllediadau rhyngwladol, ac edrychwn ymlaen at groesawu tîm criced Lloegr i Gaerdydd cyn bo hir.
Ond nid dyma ben draw ein huchelgais. Rydym yn parhau i weithio gyda phartneriaid yng Nghymru a thu hwnt i sicrhau ceisiadau llwyddiannus, er enghraifft gyda Chyngor Sir Ynys Môn i gynnal Gemau'r Ynysoedd yn 2027. Yn ddi-os, mae digwyddiadau wedi bod yn rhan allweddol o'r economi ymwelwyr yma yng Nghymru dros y 10 mlynedd diwethaf, ac rydym wedi ymrwymo i adeiladu ar y llwyddiant rydym wedi'i gael hyd yma. Ac os caf ymateb yn fyr i Sam Kurtz, ar ddigwyddiadau, rydym yn parhau i weithio gyda'r sector i agor cyn gynted ag y bydd yn ddiogel i wneud hynny, a sicrhau bod y rheolau'n gyson ac wedi'u deall yn dda, ond rhaid inni ystyried sefyllfa iechyd y cyhoedd ar unrhyw adeg benodol pan fyddwn yn edrych ar ddigwyddiadau a llacio rheolau.
Gan droi yn awr at y cynnig, sylwaf ei fod ond yn ailadrodd yr hyn a glywsom gan y Blaid Geidwadol yn ei maniffesto ar gyfer yr etholiad y mis diwethaf. Yn yr un modd, mae'r gwelliannau gan Blaid Cymru yn ailddatgan yr hyn a welsom yn eu maniffesto hwythau. Collodd y ddwy blaid yr etholiad hwnnw, felly efallai ei bod yn fwy perthnasol i ni siarad am yr hyn sydd ym maniffesto Llafur Cymru a'n rhaglen lywodraethu. Mae'n werth nodi hefyd fod y cynnig a'r gwelliannau'n sôn am amrywiaeth o syniadau a mentrau sydd eisoes yn digwydd. Er enghraifft, mae Llywodraeth y DU eisoes yn gweithio gyda ni fel rhan o bartneriaeth rhwng y pum gwlad i ystyried dichonoldeb cais gan y DU ac Iwerddon i gynnal Cwpan y Byd FIFA 2030.
Mae Chwaraeon Cymru eisoes yn cynnal rhwydwaith o lysgenhadon chwaraeon drwy'r rhaglen Llysgenhadon Ifanc, sy'n cynnwys datblygu syniadau a chreu cyfleoedd chwaraeon fel bod mwy o bobl ifanc yn cael cyfle i brofi manteision ffordd o fyw egnïol, gan roi hyder a sgiliau i bobl ifanc fod yn arweinwyr chwaraeon y dyfodol. Nod partneriaethau rhanbarthol Chwaraeon Cymru fydd cael dull strategol hirdymor o fynd i'r afael ag anghydraddoldebau sydd i'w gweld ar hyn o bryd yn y ddarpariaeth chwaraeon. Byddant hefyd yn ymdrin â'r galw cudd am weithgaredd chwaraeon tra'n mynd i'r afael ag anghysondeb yn y cyfraddau sy'n cymryd rhan mewn chwaraeon ar draws y cymunedau yng Nghymru. Gallaf sicrhau Huw Irranca-Davies mai uchelgais y Llywodraeth hon ar gyfer chwaraeon yng Nghymru yw adeiladu ar ein cyflawniadau chwaraeon ac ymdrechu'n barhaus i gael mwy o gyfleoedd i bawb ledled Cymru gymryd rhan mewn chwaraeon, a bod yn gorfforol egnïol, waeth beth fo'u cefndir, ac nid dim ond ailddyfeisio'r olwyn a dod o hyd i'r Lynn the Leap nesaf.
Dyna pam ein bod yn buddsoddi mewn mwy o gyfleusterau cyfalaf, gan gynnwys y caeau 3G y cyfeiriodd Jack Sargeant atynt. A gaf fi ddweud, Lywydd, nad oes y fath beth â chae 4G mewn gwirionedd? Strategaeth farchnata gan y gweithgynhyrchwyr yn unig yw cae 4G; 3G yw'r hyn sydd gennym a dyma sy'n cael ei ddefnyddio, a dyna sydd gennym yn Nhref Merthyr. Mae'n gyfleuster cymunedol gwych, a hoffwn annog unrhyw glybiau i gymryd rhan yn y gwaith o ddatblygu caeau artiffisial at ddefnydd y gymuned.
Fel y dywedodd Hefin David, pan fyddwn yn edrych ar chwaraeon unigol a chymunedau'n cefnogi chwaraeon ac yn cyflawni ein gweledigaeth a'n strategaeth ar gyfer chwaraeon, dylem edrych ar fwy na chwaraeon wedi'u trefnu a chwaraeon tîm yn unig. Dylem edrych ar gael pobl i gymryd rhan mewn gweithgareddau, boed yn gamp ddynodedig fel y dywedais neu'n gamp tîm. Rydym yn cydnabod bod mwy i'w wneud i annog ein holl gymunedau i fod yn fwy egnïol ac i gymryd rhan mewn mwy o gyfleoedd chwaraeon. Dyna pam y bydd ein cynllun gweithredu cydraddoldeb hiliol a'n cynllun gweithredu LGBTQ+ yn cynnwys camau wedi'u hanelu at wella cyfleoedd chwaraeon i'r grwpiau hynny.
Ar y pwyntiau a gododd Hefin David a Delyth Jewell am benderfyniad Cymdeithas Bêl-droed Cymru ar bêl-droed menywod—a gwn fod Laura wedi bod yn awyddus iawn i fynd ar drywydd y mater hwn hefyd—ysgrifennais at Gymdeithas Bêl-droed Cymru, fel y dywedodd Hefin, ac rwy'n gobeithio gwneud datganiad yn fuan am y trafodaethau gyda hwy. Ond rwy'n glir fy mod am weld gêm y menywod yng Nghymru yn ffynnu, ac fe wnaf beth bynnag y gallaf i sicrhau bod hynny'n digwydd.
I gloi, Lywydd, credaf y byddai pob Aelod yn cytuno bod gan chwaraeon a gweithgarwch corfforol bŵer mawr i'n huno ac i'n helpu i ymadfer yn gryf o'r pandemig. Mae'r Llywodraeth hon a Chwaraeon Cymru eisoes yn gweithio i sicrhau bod pawb yn cael cyfleoedd i gymryd rhan ac elwa o chwaraeon ar bob lefel. Dyna pam rwy'n gofyn i'r Aelodau wrthod y cynnig, a gwelliannau Plaid Cymru, a chefnogi gwelliant y Llywodraeth yn lle hynny. Gyda'ch amynedd, Lywydd, gobeithio y gwnaiff bawb ymuno â mi i gefnogi tîm Cymru, nid yn unig heno, ond dros weddill gemau'r Ewros. Rwy'n gobeithio y gallwn fynd un cam ymhellach nag y gwnaethom yn 2016. Diolch.
Laura Anne Jones i ymateb i'r ddadl.
Diolch, Lywydd. Fel rhywun sydd wedi cymryd rhan yn eiddgar mewn chwaraeon ers blynyddoedd lawer, rwy'n gwylio'r holl chwaraeon yn frwd fy hun, er ei fod bellach yn fater o redeg o gwmpas ar ôl fy mhlant tra'n ceisio gwylio chwaraeon. Ond beth bynnag, rwy'n gwneud fy ngorau. Ond rwy'n frwd fy nghefnogaeth i chwaraeon, fel y gŵyr y Siambr hon. Ac mae Seneddau blaenorol yn gwybod am y pwyslais rwyf bob amser wedi'i roi ar chwaraeon a gweithgarwch corfforol—yn drawsbynciol, ar draws pob briff, fel y clywsom heddiw. A gaf fi ddweud diolch i bawb am eich cyfraniadau heddiw ar ran y Ceidwadwyr Cymreig? Oherwydd mae'r cyfraniadau wedi bod yn gadarnhaol iawn. Mae'n amlwg fod gennych oll angerdd dros chwaraeon ac yn deall bod angen inni fynd i'r afael â problemau sy'n ein hwynebu mewn perthynas â chwaraeon a gwneud ein cenedl yn genedl chwaraeon go iawn.
Fel y clywsom y prynhawn yma, Lywydd, gan Sam Rowlands—ac unwaith eto, mae'r Gweinidog newydd ei ailadrodd—rydym ni, fel cenedl, fel cenedl fach, yn gwneud yn llawer gwell na'r disgwyl o ran ein gallu yn y byd chwaraeon. Mae hynny'n wych, ac mae'n rhywbeth rwy'n mynd yn emosiynol wrth siarad amdano, oherwydd rydym mor falch o'n gwlad a pha mor dda rydym yn ei wneud. Ond yn anffodus mae hynny er gwaethaf y diffyg buddsoddiad sydd wedi bod ei angen dros y degawdau diwethaf. Pe baem yn gweithio'n drawsbleidiol fel y dywedodd Heledd yn agos at y dechrau, dychmygwch faint yn fwy llwyddiannus y byddem ar y llwyfan rhyngwladol hwnnw, ac o fewn y Deyrnas Unedig.
Fel y gwyddoch, rwyf wrth fy modd yn clywed eich bod yn cytuno bod arnom angen gaeau 3G, a chaeau 3G o bob lefel, ar gyfer ein cymunedau, ond hefyd ar gyfer ein clybiau chwaraeon elît a'n clybiau chwaraeon proffesiynol, a'r holl gynghreiriau a ddaw i lawr o hynny—nid yn unig ar gyfer pêl-droed, ond ar gyfer rygbi ac ar gyfer pêl-rwyd a phwy bynnag arall a all ddefnyddio'r caeau hynny ar ba lefel bynnag. Ond mae hefyd yn ffordd y gall cymunedau chwarae chwaraeon drwy gydol y flwyddyn, sydd, fel y gwelsom yn ystod y pandemig hwn, wedi bod yn hollbwysig—y gall gweithgarwch corfforol ailddechrau a pharhau yn ystod y pum mis y mae pob clwb chwaraeon fel arfer yn cau. Fel ysgrifennydd clwb pêl-droed iau ers blynyddoedd bellach, gwn mor anodd yw cynnal diddordeb plant os caiff eu hyfforddiant ei ganslo'n barhaus, os caiff y gemau eu canslo'n barhaus—i ddod yn ôl wedyn, bum mis yn ddiweddarach, ym mis Mawrth, a dechrau chwarae eto. Maent naill ai wedi colli diddordeb, neu maent wedi cael eu heffeithio'n gorfforol ac yn feddyliol gan y ffaith nad ydynt wedi chwarae unrhyw gamp yn ystod y cyfnod hwnnw. Felly, mae'n rhywbeth y mae angen inni ganolbwyntio arno.
Fel y clywsom heddiw, mae gennym ein sêr Cymreig, ac mae'n bwysig iawn nad oes gennym ddraen dawn, fel y gwelwn yn rheolaidd, oherwydd y cyfleusterau gwael a'r gwahaniaeth yn y cyfleusterau o'u cymharu â'r hyn y gallant ei gynnig yn Lloegr ar draws ein ffin agored, ac wrth gwrs, yn yr Alban. Gwelwn bobl yn mynd draw yno am ei bod yn well ganddynt chwarae chwaraeon yno, ac nid ydym am gael hynny. Rydym am eu cadw yma, rydym am feithrin ein sêr chwaraeon a'u cadw yn ein clybiau lleol. Fel y dywedodd Sam Kurtz yn gynharach, mae'n hanfodol ein bod yn ceisio dod â mwy o ddigwyddiadau mawr yma i Gymru, ac fel yr amlinellodd y Gweinidog hefyd yn ei chyfraniad, mae'n bwysig ein bod yn cael y digwyddiadau mawr oherwydd mae'n magu brwdfrydedd yn ein clybiau ac ym mhob camp ac yn ein cymunedau wrth gwrs, a daw â chymunedau at ei gilydd a gwledydd at ei gilydd fel y gwelwn yn ystod yr Ewros yn awr.
Ac wrth gwrs, rhan o hud y digwyddiadau hyn yw ein bod yn gweld cystadleuwyr a thimau a'r ffordd y maent wedi cyrraedd yno ar sail teilyngdod a chyflawniad ym maes chwaraeon ac fel y nododd Hefin yn gwbl briodol a chithau, Weinidog, mae'n bwysig—mae tegwch yn bwysig yn ein cynghreiriau pêl-droed. Ac rydym yn gweld yn awr fod rhai o'r timau menywod wedi gorfod disgyn o'r uwch gynghrair, fel rydych wedi disgrifio eisoes, nid oherwydd yr hyn sy'n digwydd ar y cae, ond am resymau gweinyddol ac nid yw hynny'n iawn. Ac rwy'n diolch yn fawr iawn i chi ar ran y Ceidwadwyr Cymreig, ac ar draws y pleidiau, a gwn eich bod yn gwneud popeth yn eich gallu i sicrhau bod y broses honno'n deg a bod y casgliad y maent yn ei gyrraedd yn deg a dyna swm a sylwedd hynny.
Nid wyf am ailadrodd, ond euthum i siarad â'r Gweinidog addysg yn gynharach am bwysigrwydd chwaraeon ysgol, felly rydym wedi cyffwrdd â hynny'n barod, ond hefyd manteision trawsbynciol iechyd meddwl, fel yr amlinellodd James yn gynharach. Mae yna gymaint o fanteision iechyd. Yn anffodus, fel yr amlinellodd y pwyllgor iechyd blaenorol, collodd Llywodraeth Cymru rywbeth drwy beidio â gosod pwyslais ar weithgarwch corfforol a chwaraeon a chydnabod eu pwysigrwydd fel mesurau ataliol i wella iechyd ein gwlad. Felly, mae hynny'n rhywbeth y mae angen i ni ei wthio o ddifrif. Ond hoffwn ddiolch i chi, Ddirprwy Weinidog, am bob dim a wnewch. Ac rwy'n obeithiol iawn ar gyfer y dyfodol oherwydd eich bod yn dwli ar chwaraeon, ac rwy'n gweld hynny ynoch chi oherwydd ei fod wedi'i adlewyrchu ynof fi, ac rwy'n dwli ar hynny. Diolch yn fawr iawn ac edrychwn ymlaen at glywed llawer o straeon cadarnhaol am yr hyn rydych chi'n mynd i'w wneud i wneud ein gwlad yn genedl chwaraeon go iawn. Ac ar hynny, rwy'n gobeithio y gall y Senedd gyfan gefnogi ein cynnig heddiw, oherwydd mae'n bwysig. Rydym wedi gosod cynllun ac mae angen inni sicrhau ein bod yn cael Cymru i'r fan lle mae angen iddi fod ac rwy'n gobeithio y gallwn i gyd gefnogi hynny. Diolch.
Y cwestiwn felly yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu?
Y cynnig heb ei ddiwygio—a oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.]
Felly, dwi'n gohirio'r bleidlais.
Rwy'n gohirio'r bleidlais tan y cyfnod pleidleisio.
Sy'n dod â ni at seibiant byr eto ar gyfer newidiadau yn y Siambr, ac fe fyddwch yn falch o wybod ein bod wedi llwyddo i dorri chwe munud oddi ar ein record bersonol yn y ddadl ddiwethaf. Felly, byddwn yn canu'r gloch ddwy funud cyn i'r sesiwn nesaf ddechrau.
Croeso nôl.