– Senedd Cymru am 3:07 pm ar 14 Gorffennaf 2021.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad gan y Prif Weinidog ar gynllun rheoli'r coronafeirws. Brif Weinidog.
Diolch yn fawr, Llywydd. Yn y datganiad yma, dwi am ddelio â phedwar cwestiwn pwysig sy'n deillio o argyfwng y coronafeirws, ac maen nhw'n gysylltiedig â'i gilydd. Yn y lle cyntaf, dwi am amlinellu asesiad y Llywodraeth o'r sefyllfa yng Nghymru ar hyn o bryd o ran iechyd y cyhoedd. Fe fyddaf i wedyn yn amlinellu'r newidiadau i reoliadau iechyd y cyhoedd yng Nghymru y mae'r Llywodraeth yn bwriadu eu cyflwyno o ddydd Sadwrn nesaf, 17 Gorffennaf. Mae trydedd elfen y datganiad yn delio â newidiadau a fydd yn digwydd y tu hwnt i ddydd Sadwrn nesaf. Byddaf yn rhoi manylion lefel rybudd 0 a chaiff ei chyflwyno, os bydd y sefyllfa o ran iechyd y cyhoedd yn caniatáu newidiadau o'r fath, erbyn dydd Sadwrn 7 Awst. Yn olaf, dwi am gadarnhau cynlluniau'r Llywodraeth i addasu'r gofynion o ran hunanynysu yng Nghymru i deithwyr rhyngwladol ac mewn cyd-destunau domestig.
Lywydd, gwnaf y datganiad diweddaraf hwn ar yr argyfwng iechyd cyhoeddus yma yng Nghymru ar adeg o gryn ansicrwydd a chymhlethdod. Mae achosion o'r coronafeirws yn cynyddu ledled Cymru gyfan. Mewn ychydig wythnosau, mae tri chlwstwr bach o achosion o'r amrywiolyn delta newydd wedi lledaenu'n gyflym. Ddoe yn unig, cafodd dros 1,000 o achosion newydd o'r coronafeirws eu cofnodi yng Nghymru. Mae'r amrywiolyn newydd hwn ym mhob rhan o'n gwlad ac yn lledaenu'n gyflym. Hon yw'r ffurf amlycaf ar y feirws yng Nghymru, yn union fel y mae wedi dod yn ffurf amlycaf yn y Deyrnas Unedig ac mewn llawer o wledydd eraill yn Ewrop. Nid oes amheuaeth ein bod yn gweld y drydedd don a ragwelwyd o'r pandemig hwn, gyda'r gyfradd yng Nghymru yn codi dros nos i 145 o achosion ym mhob 100,000 o bobl.
Mewn eiliad, byddaf yn nodi rhesymau dros fod yn fwy gobeithiol wrth ymdrin â'r drydedd don hon na'r rhai blaenorol, ond rwyf am i'r Aelodau fod yn gwbl sicr fod graddau'r lledaeniad yn y gymuned yn creu cyfres o beryglon gwirioneddol na ddylai unrhyw Lywodraeth na Senedd gyfrifol eu hanwybyddu. Dywed ein grŵp cyngor technegol bellach y bydd nifer yr achosion o'r haint yng Nghymru yn parhau i fod yn uchel iawn am weddill yr haf fan lleiaf. Bydd y lefel honno o ledaeniad y feirws yn cynyddu'r risg y bydd amrywiolion newydd yn dod i'r amlwg; yn cynyddu'r risg y bydd y feirws yn dychwelyd i ysbytai, cartrefi gofal a lleoliadau caeedig eraill; yn cynyddu'r risg y bydd y feirws yn symud o bobl iau i bobl hŷn, gan ailadrodd patrwm tonnau 1 a 2; yn cynyddu nifer y bobl sy'n dioddef o COVID hir; yn cynyddu lefelau absenoldeb yn y gweithlu, gan gynnwys yn ein gwasanaethau cyhoeddus allweddol, ac yn rhoi mwy o bwysau ar ein gwasanaeth profi, olrhain a diogelu a'r gwasanaeth dilyniannu genomig, gan ei gwneud yn anos nodi amrywiolion newydd.
Felly, Lywydd, beth yw'r ffactorau sy'n gwrthbwyso? Wel, yn anad dim, mae brechu, ac yn enwedig ein cyfraddau brechu uchel yng Nghymru, yn newid ein perthynas â'r feirws, ac yn gwneud hynny'n gyflymach nag unrhyw wlad arall yn y DU. Heddiw, mae mwy na 73 y cant o holl oedolion Cymru wedi cael dau ddos o'r brechlyn. Y ffigur yn Lloegr a'r Alban yw 66 y cant, a 65 y cant yng Ngogledd Iwerddon. Nid yw'r cynnydd yn nifer yr achosion wedi trosi'n gyfraddau uwch o salwch difrifol, derbyniadau i'r ysbyty a marwolaethau yn yr un modd ag y gwelsom yn ystod y don gyntaf neu yn y gaeaf, a hynny oherwydd y brechlyn. Hoffwn gofnodi fy niolch unwaith eto i'r holl bobl sydd wedi gweithio mor galed i gynllunio a chyflawni'r rhaglen hynod lwyddiannus hon.
Yr ail ffordd y mae'r sefyllfa'n fwy addawol yn y drydedd don hon yw'r ffordd rydym wedi byw, ac mae hynny wedi gadael ôl-effaith gadarnhaol. Mae amcangyfrif wythnosol y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn nodi, o bedair gwlad y DU, mai Cymru sydd â'r lefel uchaf o imiwnedd caffaeledig, a'i fod bellach yn 92 y cant o'r boblogaeth gyfan. Yn drydydd, mae gennym amddiffyniad y system profi, olrhain a diogelu. Yn yr wythnos a ddaeth i ben ar 3 Gorffennaf, cysylltwyd â 95 y cant o achosion cyfeirio cymwys o fewn 24 awr, a chafodd 93 y cant o'u cysylltiadau eu holrhain.
Lywydd, yn y cyd-destun hwnnw y mae'r Cabinet wedi cwblhau ein hadolygiad tair wythnos o'r cyfyngiadau coronafeirws. O ystyried yr holl ffactorau hyn—y rhai negyddol a'r rhai cadarnhaol ynghyd—ein hasesiad yw y gallwn symud ymlaen yn awr i set lawn o reoliadau lefel 1. Golyga hyn, o 17 Gorffennaf, o ddydd Sadwrn ymlaen, y bydd hyd at chwech o bobl yn cael cyfarfod dan do mewn cartrefi preifat a llety gwyliau; gellir cynnal digwyddiadau dan do wedi'u trefnu ar gyfer hyd at 1,000 o bobl sy'n eistedd neu 200 o bobl ar eu traed, yn dilyn asesiad risg; a gall canolfannau sglefrio ailagor. A chredwn y gallwn fynd gam ymhellach wrth inni symud i'r lefel rhybudd 0 newydd, ac y byddwn yn gallu cyflwyno cyfyngiadau lefel rhybudd 0 o gyfyngiadau ar gyfer digwyddiadau ac ymgynnull yn yr awyr agored, hefyd o 17 Gorffennaf. Byddwn felly'n cael gwared ar y cyfyngiadau ar nifer y bobl sy'n cael ymgynnull yn yr awyr agored. Bydd gan safleoedd a digwyddiadau awyr agored fwy o hyblygrwydd gyda mesurau cadw pellter corfforol. Fodd bynnag, bydd hyn yn parhau i fod yn un o'r mesurau lliniaru i'w hystyried wrth gynnal a gweithredu asesiadau risg. Gallwn wneud hyn am ein bod wedi dod i'r casgliad ers tro fod y risg o drosglwyddo'r feirws yn yr awyr agored yn llawer is na'r hyn ydyw dan do, a chan fod angen inni fanteisio ar gyfnod yr haf. Ar yr un pryd, o 17 Gorffennaf, bydd y rheoliadau hefyd yn newid i ganiatáu i hyd at 30 o bobl o sefydliadau fel yr Urdd, y Brownis neu'r Sgowtiaid fynychu canolfannau preswyl dros wyliau'r haf.
Lywydd, heddiw, rydym hefyd yn cyhoeddi fersiwn wedi'i diweddaru o gynllun rheoli'r coronafeirws, sy'n nodi'n fwy cyffredinol sut y gallwn symud o lefel rhybudd 1 fel y mae pethau ar hyn o bryd i lefel rhybudd 0 newydd. Bwriad y Cabinet yw y dylai Cymru symud i lefel rhybudd 0 ar 7 Awst, ar yr amod fod sefyllfa iechyd y cyhoedd ymhen tair wythnos yn dal i ganiatáu inni wneud hynny. Pwysleisiaf heddiw, fel y gwnaf bob amser, bwysigrwydd yr amod hwnnw. Mewn sefyllfa lle mae heriau iechyd y cyhoedd yn parhau i fod mor gyfnewidiol, byddwn yn asesu ac yn ailasesu'r sefyllfa ar 7 Awst, ond gyda'r bwriad y dylai Cymru symud i lefel rhybudd 0, ar yr amod y bydd sefyllfa iechyd y cyhoedd yn parhau fel y mae heddiw.
Ar lefel rhybudd 0, rydym wedi canolbwyntio ar gadw'r cyfyngiadau sy'n helpu pobl i fod yn ddiogel, ond sy'n cael yr effaith niweidiol leiaf ar eu hiechyd corfforol ac emosiynol ehangach. Ar lefel 0, felly, ni fydd unrhyw derfynau cyfreithiol ar nifer y bobl sy'n gallu cyfarfod ag eraill, gan gynnwys mewn cartrefi preifat, mannau cyhoeddus neu mewn digwyddiadau, ac ar lefel rhybudd 0, bydd pob busnes a safle ar agor.
Lywydd, bydd bywyd wedi newid yn ôl, i raddau helaeth iawn, i fel roedd pethau cyn y pandemig coronafeirws, ond yma yng Nghymru, ni fyddwn yn cefnu ar yr holl fesurau sydd wedi gwneud cymaint i gadw pob un ohonom yn ddiogel. Ar lefel rhybudd 0, ac o 7 Awst, felly, dylai pobl barhau i weithio gartref lle bo modd. Pan fydd angen dychwelyd i'r gweithle, byddwn yn parhau i sicrhau y bydd asesiadau risg COVID yn ofyniad cyfreithiol i fusnesau, cyflogwyr a threfnwyr digwyddiadau. Bydd llunio'r asesiadau hyn gyda chyfranogiad y gweithwyr yn ofyniad cyfreithiol, ac mae'n rhaid rhoi'r mesurau lliniaru a nodir yn yr asesiadau risg hynny ar waith. Yng Nghymru hefyd, Lywydd, ar lefel rhybudd 0, bydd gorchuddion wyneb yn parhau i fod yn ofyniad cyfreithiol ar drafnidiaeth gyhoeddus, mewn lleoliadau iechyd a gofal ac ym mhob man cyhoeddus dan do, ac eithrio lleoliadau addysg a lletygarwch. Nod y Llywodraeth fydd llacio'r gofynion hyn yn raddol wrth i risg y coronafeirws leihau.
Yn olaf, Lywydd, trof at ddau newid pellach i'r gofynion hunanynysu. Gresynaf yn fawr at benderfyniad Llywodraeth y DU i gael gwared ar y gofyniad i deithwyr sydd wedi cael dau ddos o'r brechlyn ac sy'n dychwelyd o wledydd ar y rhestr oren hunanynysu. Nid yw'r risg o ailfewnforio'r coronafeirws o rannau eraill o'r byd, ac yn enwedig amrywiolion newydd, wedi diflannu. Mae'n anodd iawn deall pam eu bod wedi cael gwared ar amddiffyniad yn erbyn y risg honno, yn enwedig ar adeg pan fo'r feirws yn lledaenu mor gyflym. Ond gan fod y mwyafswm helaeth o deithio rhyngwladol i ac o Gymru yn digwydd drwy Loegr, mae'n anghynaladwy, fel y dywed ein prif swyddog meddygol, inni beidio â gwneud yr un peth. Felly, byddwn yn cael gwared ar y gofyniad i bob oedolyn sydd wedi cael dau frechlyn COVID gan y GIG, ac i bobl dan 18 oed, hunanynysu ar ôl dychwelyd o wledydd y rhestr oren, a byddwn yn cael gwared ar y gofynion hynny o 19 Gorffennaf. Fodd bynnag, yng Nghymru, rydym yn parhau i gynghori yn erbyn teithio dramor oni bai fod hynny'n hanfodol, ac rydym yn parhau i argymell yn gryf y dylai pobl fynd ar wyliau yn y wlad hon yr haf hwn.
Trof yn awr at y sefyllfa mewn perthynas â hunanynysu domestig. Yma, mae'r Cabinet wedi penderfynu, yn ystod y cylch tair wythnos nesaf, sy'n dechrau ar 7 Awst, y byddwn yn cael gwared ar y gofyniad i bobl sydd wedi'u brechu'n llawn hunanynysu os ydynt yn gyswllt agos i rywun sydd wedi profi'n bositif. Mae gwaith i'w wneud o hyd cyn y gall y newidiadau hyn ddod i rym, er enghraifft, wrth addasu ein system profi, olrhain a diogelu a rhoi trefniadau ar waith ar gyfer y rheini sy'n gweithio mewn lleoliadau iechyd a gofal. Bydd hunanynysu'n parhau i chwarae rhan bwysig iawn yn torri'r gadwyn drosglwyddo i unrhyw un sydd â symptomau'r feirws, unrhyw un sy'n profi'n bositif ac unrhyw un nad ydynt wedi cael dau ddos o'r brechlyn.
Lywydd, nid yw'r coronafeirws wedi diflannu. Ni waeth beth fydd yn digwydd dros yr wythnosau a'r misoedd nesaf, bydd y mesurau syml sydd wedi helpu i gadw pob un ohonom yn ddiogel drwy gydol y pandemig yn parhau i ddiogelu pob un ohonom: cadw pellter, cyfarfod yn yr awyr agored, bod mewn mannau sydd wedi'u hawyru'n dda, osgoi mannau gorlawn lle bo modd a gwisgo gorchudd wyneb pan nad oes modd gwneud hynny, a hylendid dwylo da.
O ddilyn y camau syml hyn, fe allwn ni i gyd weithio gyda'n gilydd i gadw'r coronafeirws dan reolaeth ac atal y drydedd don yma rhag codi'n rhy uchel. Mae'r holl dystiolaeth yn awgrymu bod amrywiolion newydd, na fyddan nhw o bosib yn ymateb i'r brechlynnau, yn fwy tebygol o ddatblygu pan fydd niferoedd yr achosion o goronafeirws yn uchel. Mae hi'n dal i fod yn hollol bwysig ein bod ni'n parhau i gydweithio i gadw'n gilydd yn ddiogel ac i gadw Cymru yn ddiogel hefyd. Diolch yn fawr.
Diolch, Brif Weinidog, am eich datganiad y prynhawn yma, ac yn wir, am y sesiwn friffio a gynigiodd y Gweinidog iechyd i arweinwyr y gwrthbleidiau y bore yma hefyd, sydd, yn amlwg, wedi llywio ein barn mewn perthynas â'r datganiad hwn. Chi yw'r Prif Weinidog, a fi yw arweinydd yr wrthblaid fwyaf, fe siaradodd pobl Cymru, ac a bod yn deg, fe wnaethant gymeradwyo'r dull o weithredu y mae Llywodraeth Cymru wedi'i ddilyn. Rwyf wedi anghytuno â'r dull hwnnw ar sawl achlysur, ond mae democratiaeth yn beth ardderchog; y blaid fwyaf sy'n ffurfio'r Llywodraeth ac yn pennu'r cywair a'r cyfeiriad.
Rydych yn llygad eich lle yn nodi ein bod yn dal i fod ynghanol llawer o gyfnodau heriol y byddwn yn eu hwynebu gydag argyfwng COVID ar hyn o bryd, yn enwedig mewn perthynas ag amrywiolion newydd. Yn bersonol, byddwn wedi hoffi gweld mwy o gyflymder a mwy o frys i gyflwyno rhai o'r mesurau hyn, ond rwy'n deall y penderfyniadau anodd y mae'r Cabinet wedi gorfod eu gwneud ar sail y dystiolaeth wyddonol o'u blaenau. Dyna fydd yn llywio'r cwestiynau y byddaf yn eu gofyn i chi heddiw, os caf, Brif Weinidog.
Rydych yn nodi tri chyfyngiad yn eich datganiad a fydd yn parhau i fod ar waith ar ôl 7 Awst. Byddaf yn ymdrin ag ef fel pe bai'n gynllun fel ein bod yn cyrraedd lefel 0, gan fy mod yn deall bod rhaid ystyried rhai pethau o hyd. A fydd unrhyw gyfyngiadau eraill ar waith pan fyddwn yn cyrraedd lefel 0, neu ai'r tri chyfyngiad hynny yw'r unig rai y gallwn ddisgwyl y byddant yn parhau i fod ar waith os bydd asesiad y Cabinet yn nodi bod yr amodau ar gyfer eu llacio wedi'u bodloni ar 7 Awst?
O ran masgiau wyneb, pa brofion y byddwch yn eu defnyddio i symud oddi wrth y cyfarwyddyd gorfodol a fydd yn cael ei roi ar waith i gadw'r defnydd o fasgiau wyneb mewn sawl lleoliad yma yng Nghymru? Oherwydd rwy'n siŵr y byddai pob un ohonom yn awyddus i symud, pe bai'n ddiogel i wneud hynny, i amgylchedd cyn COVID pan nad oedd gwisgo'r masgiau wyneb a welwn ar hyn o bryd yn normal. Felly, pa brofion y byddwch yn eu rhoi ar waith i sicrhau y gallwn fod yn hyderus y byddwn yn symud i'r sefyllfa honno lle na fydd masgiau wyneb yn orfodol?
O ran hunanynysu, gallwn weld effeithiau hunanynysu ar hyn o bryd, yn enwedig yr effeithiau y mae'n eu cael ar fusnesau a gwasanaethau wrth inni gael gwared ar gyfyngiadau. Rydych yn sôn yn y datganiad am ddarpariaeth brofi, olrhain a diogelu a'r gwelliannau sydd eu hangen a'r newidiadau sydd eu hangen yn y ddarpariaeth brofi, olrhain a diogelu. A allwch nodi pa newidiadau sydd eu hangen fel y gallwn symud i amgylchedd lle nad yw hunanynysu'n cael cymaint o effaith ar yr economi ac ar ein gwasanaethau?
Bydd asesiadau risg yn ofyniad cyfreithiol. A fydd y rhain yn amrywio fesul sector, neu a fydd yna ddull unffurf o weithredu? Credaf ei bod yn bwysig deall hynny, oherwydd fel Aelodau, rwy'n siŵr y byddwn yn cael cryn dipyn o ohebiaeth gan bobl yn ein rhanbarthau a'n hetholaethau ynglŷn â sut y cyflawnir yr asesiadau risg hyn. Felly, a fyddant yn amrywio fesul sector, neu a fydd yn ddull unffurf, gyda thempled safonol y bydd yn rhaid i fusnesau a gweithredwyr gydymffurfio ag ef?
Rydym yn gweld cyfraddau heintio'n codi; beth yw'r gwaith modelu, a beth y mae hynny'n ei ddangos ynglŷn â'r effaith ar y GIG yn y dyfodol, wrth iddi ddod yn haf? Rwy'n siŵr fod gan y Prif Weinidog fynediad at y gwaith modelu hwnnw, a chredaf ei bod yn bwysig inni ddeall, gyda'r cyfyngiadau hyn yn cael eu codi, pa effaith rydym yn disgwyl ei gweld ar y GIG, oherwydd yn y pen draw, rhoddwyd y cyfyngiadau hyn ar waith i ddiogelu'r GIG rhag cael ei orlethu.
Yn olaf, Brif Weinidog, os byddwn yn gweld cynnydd sydyn yn nifer yr achosion—a chredaf, yn anochel, y byddwn yn gweld ambell gynnydd sydyn gwaetha'r modd—a fyddwch yn ymdrin â hynny drwy gyfyngiadau lleol neu gyfyngiadau cenedlaethol, ac a fydd y cyfyngiadau cenedlaethol yn y pen draw yn cynnwys y mesurau llym rydym wedi'u gweld o dan gyfyngiadau symud blaenorol yng Nghymru—y cyfnod cyntaf o gyfyngiadau symud a'r ail gyfnod—neu a ydym mewn sefyllfa, gyda llwyddiant y rhaglen frechu a'r imiwneiddio ledled Cymru a'r lefelau imiwnedd a welwn, lle na fyddwn yn edrych tuag yn ôl ac yn meddwl y byddwn yn gweld y cyfnod cyntaf o gyfyngiadau symud a'r ail gyfnod yn cael eu hailadrodd yn yr hydref? Diolch, Brif Weinidog.
Diolch i arweinydd yr wrthblaid am y cwestiynau adeiladol iawn hynny. Gwnaf fy ngorau i ateb pob un ohonynt yn fyr. Ar yr amod fod sefyllfa iechyd y cyhoedd yn parhau fel y mae, y cyfyngiadau rwyf wedi'u hamlinellu'r prynhawn yma, fel y'u nodwyd yng nghynllun rheoli'r coronafeirws, yw'r cyfyngiadau a ragwelwn. Nid wyf yn rhagweld mwy na hynny, ond mae hynny'n ddibynnol ar fod sefyllfa iechyd y cyhoedd yn parhau i fod mor galonogol â'r hyn ydyw heddiw.
O ran gorchuddion wyneb, byddwn yn defnyddio'r un set o brofion â'r rhai rydym wedi'u nodi mewn fersiynau blaenorol o gynllun rheoli'r coronafeirws, a golyga hynny nad ydym yn dibynnu ar un mesur, rydym yn dibynnu ar set gyflawn o fesurau sy'n cynnwys nifer yr achosion yn y gymuned, cyfraddau positifrwydd, i ba raddau y mae salwch yn troi'n effaith ar yr ysbytai ac ati. Felly, bydd yn set gyflawn o fesurau, sydd gyda'i gilydd yn dweud wrthym a yw'r feirws wedi'i atal yn ddigonol i ganiatáu inni symud y tu hwnt i orchuddion wyneb gorfodol. Er y bydd gorchuddion wyneb yn parhau i fod yn orfodol mewn lleoliadau dan do, dywedais yn fy natganiad ein bod yn cael gwared ar yr orfodaeth i'w gwisgo mewn lletygarwch, yn cael gwared ar yr orfodaeth i'w gwisgo mewn lleoliadau addysg, a hoffem gael gwared ar yr orfodaeth i'w gwisgo mewn rhagor o leoliadau dan do, fel y bydd sefyllfa'r coronafeirws yn caniatáu.
Mewn perthynas â hunanynysu, Lywydd, nid wyf yn credu imi ddweud bod angen i'r system brofi, olrhain a diogelu wella. Dywedais fod angen iddi ddiwygio'i hun. Bydd yn newid o system lle mae'r alwad a gewch gan weithiwr profi, olrhain a diogelu yn un sy'n dweud wrthych eich bod wedi bod mewn cysylltiad â rhywun sydd wedi cael prawf positif ac felly fod gofyn i chi hunanynysu i'r hyn a elwir yn system 'rhybuddio a hysbysu'. Felly, bydd angen i'r sgript ar gyfer holl weithwyr ein system brofi, olrhain a diogelu newid. Byddant yn dal i ddarparu'r cyngor gorau posibl i bobl sydd wedi dod i gysylltiad â rhywun sydd wedi cael prawf positif. Byddant yn archwilio amgylchiadau'r unigolyn gyda hwy, oherwydd efallai y bydd pobl sydd wedi cael dau frechlyn ond sydd â chyflyrau iechyd isorweddol sylweddol yn awyddus i barhau i roi rhai camau ar waith i ddiogelu eu hunain os ydynt wedi dod i gysylltiad â rhywun sy'n bendant yn dioddef o'r feirws.
Bydd newid i system 'rhybuddio a hysbysu' yn cymryd ychydig wythnosau. Mae'n rhaid newid sgriptiau, mae'n rhaid ailhyfforddi pobl i'w wneud, ac rydym am fod mewn sefyllfa lle mae gan y gwasanaeth profi, olrhain a diogelu fynediad at gofnodion brechu unigolion. Ni all fod yn system hunanardystio'n unig. Ni allwn gael system brofi, olrhain a diogelu sy'n gofyn i chi, 'A ydych wedi cael eich brechu ddwywaith?' a'r cyfan sy'n digwydd yw eich bod yn dweud 'ydw', ac yna mae'n gofyn, 'Ac a oedd hynny fwy na phythefnos yn ôl?' ac rydych yn dweud 'oedd' eto a dyna'r unig wiriad yn y system. Er mwyn ennyn hyder y cyhoedd yn y system, mae'n rhaid bod mwy iddi na hynny, ac mae'n rhaid cynllunio hynny o fewn y system hefyd. Bydd hynny'n cymryd ychydig wythnosau.
Mae asesiadau risg yn orfodol nawr, Lywydd. Maent yn orfodol o dan ein rheoliadau coronafeirws, ac maent yn orfodol o dan reoliadau'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch hefyd, a byddwn yn parhau i'w cynnal yn y ffordd rydym wedi'i wneud hyd yn hyn, nad yw'n asesiad syml, unffurf, sydd yr un fath ym mhobman. Yn anochel, mae'r ffactorau sy'n effeithio ar ddiogelwch gweithwyr a defnyddwyr unrhyw weithle yn amrywio yn ôl natur y gweithle ei hun.
Gofynnodd arweinydd yr wrthblaid i mi beth y mae'r model yn ei ddangos. A'r hyn y mae'r model yn ei ddangos, Lywydd, yw bod yr effaith ar y gwasanaeth iechyd yn hynod sensitif i newidiadau mewn o leiaf ddau o'r ffactorau sy'n weithredol—mae'n hynod sensitif i'r graddau fod y brechlyn yn amddiffyn rhag y feirws. A newid o 2 neu 3 y cant yn unig yn effeithiolrwydd y feirws yw'r gwahaniaeth rhwng bod nifer fawr o bobl yn gorfod mynd i'r ysbyty neu beidio.
A'r ail newidyn yw'r graddau y mae pobl yn parhau i ddilyn yr holl gamau bach ond synhwyrol y gofynnwn i bobl eu cymryd yn eu bywydau eu hunain. Os bydd pobl yn parhau i wneud eu gorau i edrych ar ôl eu hunain ac eraill, fel y mae pobl wedi'i wneud yng Nghymru, bydd hynny'n lleihau nifer y bobl sydd angen mynd i'r ysbyty. Os yw pobl yn ymddwyn fel pe bai'r coronafeirws wedi diflannu, ac fel pe na bai unrhyw risg iddynt hwy eu hunain nac i eraill, bydd hynny'n arwain at fwy o niferoedd yn y sector ysbytai. Ar ben gwell y sbectrwm hwnnw felly, gellir rheoli'r effaith ar y GIG, er bod y GIG mor brysur gyda phopeth arall y mae'n ceisio ei wneud. Os byddwn yn cyrraedd pen arall y sbectrwm, byddwn yn ôl yn y sefyllfa roeddem ynddi yn y gaeaf, gyda nifer fawr iawn o bobl angen gofal mewn ysbyty, a'r holl effaith y byddai hynny'n ei chael ar allu'r GIG i barhau i wneud yr holl bethau eraill hynny.
Ar fater cynnydd sydyn mewn achosion—rydym wedi dibynnu ar fesurau cenedlaethol ers dechrau'r flwyddyn, a chredaf fod hynny wedi bod o fudd i ni o ran symlrwydd cyfathrebu, a gallu pobl i wneud yr hyn y gofynnir iddynt ei wneud. Ac ar hyn o bryd, credaf mai dyna fydd y brif ffordd y byddwn yn mynd i'r afael â phethau. Rydym wedi cael mesurau lleol. Rydym wedi cael mesurau lleol yn Rhondda Cynon Taf ac ym Merthyr Tudful; rydym wedi cael mesurau lleol mewn rhannau o ogledd Cymru. Ond maent yn ategol i'r dull cenedlaethol o weithredu, yn hytrach na'u bod ar waith yn ei le.
A'r cwestiwn olaf y gofynnodd Andrew R.T. Davies i mi oedd a fydd y brechlyn yn newid y camau y byddai angen i ni eu cymryd. Wel, ar yr amod fod y brechlyn yn parhau i fod mor effeithiol ag y mae ar hyn o bryd, yn erbyn amrywiolyn Caint ac amrywiolyn delta, yna'r ateb, yn bendant, fyddai, 'Bydd, bydd gennym amddiffyniad llawer cryfach.' Pe byddem yn y sefyllfa anffodus iawn lle byddai amrywiolyn arall yn dod i'r amlwg, a lle na fyddai'r brechlyn yn darparu amddiffyniad effeithiol yn ei erbyn, wel, yn anochel, byddai'n rhaid inni drefnu mesurau eraill am na fyddai'r brechlyn yn darparu'r amddiffyniad y mae'n ei ddarparu ar hyn o bryd. Ond mae'n rhaid inni obeithio y bydd y brechlyn yn parhau i fod yn effeithiol, a bydd yr ymgyrch atgyfnerthu sydd wedi'i chynllunio gennym ar gyfer yr hydref yn sicr o fod o gymorth yn y cyswllt hwnnw.
Diolch yn fawr iawn, Brif Weinidog. Roeddwn i'n mynd i ddechrau drwy ddiolch am wneud y datganiad yma yn y Senedd—mi ddylai holl ddatganiadau'r flwyddyn ddiwethaf fod wedi cael eu gwneud yn y Senedd—ond dwi yn darllen fod y cyhoeddiad wedi cael ei wneud ar y cyfryngau cymdeithasol. Ond rydyn ni'n agosach at fod wedi cael y datganiad yma yn y Senedd, lle y dylai o gael ei wneud.
Diolch i chi am rannu eich asesiad o'r sefyllfa iechyd cyhoeddus ac am amlinellu'r camau a fydd yn digwydd yn syth o ran llacio cyfyngiadau a beth ddaw nesaf. Y cyd-destun wrth gwrs—gallwn ni ddim anwybyddu'r cyd-destun yma yng Nghymru—ydy'r camau rhyfeddol sy'n cael eu cymryd gan Boris Johnson ar gyfer Lloegr, a'r pwysau ar Gymru, y pwysau sydd arnoch chi, i osod amserlen debyg. A dwi'n falch, unwaith eto, ein bod ni yma yng Nghymru yn gwrthod cael ein gorfodi i ddilyn yr agenda honno dros y ffin. Roeddwn i'n darllen sylwadau Ravi Gupta o Brifysgol Caergrawnt: 'The world is looking at England with disbelief', meddai, wrth i'r ffigurau godi a'r cyfyngiadau gael eu dileu o'r wythnos nesaf.
Dwi yn falch, wedi dweud hynny, ein bod ni yn symud tuag at godi rhagor o gyfyngiadau—mae o'r peth iawn i'w wneud; dyna rydyn ni gyd ei eisiau, wedi'r cyfan. Mae'n beth da i barhau i symud tuag at normalrwydd. Ond dwi'n cytuno efo'r dewis y mae'r Llywodraeth wedi ei wneud o ran pwyllo am ychydig wythnosau efo ambell beth sylfaenol, wrth i nifer yr achosion gynyddu. Ac yn benodol, dwi'n falch bod y Llywodraeth wedi cytuno efo ni ym Mhlaid Cymru, ac efo'r undebau llafur, ac ati, y dylid parhau i'w gwneud hi yn ofynnol i bobl wisgo gorchuddion wyneb am y tro. Mae'n bwysig cyfyngu ar nifer y bobl sydd yn gallu cael eu heintio oherwydd y rhesymau gwnaethoch chi amlinellu o ran twf long COVID a'r posibilrwydd y gall amrywiolion eraill ddatblygu ac ati.
Rwy'n falch, os caf wneud sylw ar yr hyn a glywsom gan arweinydd y Blaid Geidwadol—. Rwy'n falch nad oeddech eisiau cael gwared ar unwaith ar y rheol i wisgo masgiau, gan fod rhai aelodau o'r Blaid Geidwadol wedi bod yn galw am hynny ac yn gofyn i ni roi'r dewis ar hynny i'r cyhoedd, a fyddai'n iawn pe bai masgiau ond yn ein diogelu ni ein hunain. Ond eu prif bwrpas, wrth gwrs, yw diogelu'r rhai o'n cwmpas. Felly, mae dweud y dylem gael ein harwain gan ein dewisiadau unigol ein hunain yn ffordd eithaf hunanol o wneud pethau mewn pandemig sy'n effeithio ar bob un ohonom.
Ambell gwestiwn sylfaenol. Os byddwch yn gwneud y penderfyniad anghywir ar 7 Awst, mae'n ddigon posibl y bydd pobl yn edrych arnom mewn anghrediniaeth. Felly, a allech chi ddweud wrthym sut y byddwch yn penderfynu, yn eich geiriau chi, fod sefyllfa iechyd y cyhoedd yng Nghymru, ymhen tair wythnos, yn caniatáu inni symud ymlaen at y cam nesaf hwnnw? Sut rydych yn mesur effaith yr hyn sydd wedi'i gyhoeddi heddiw ar gyfer 17 Gorffennaf, a pha gynlluniau sydd gennych ar waith yn awr i fesur, os na fydd pethau'n digwydd fel y bwriedir iddynt ddigwydd ar ôl 7 Awst? Bydd rhyw fath o ymchwydd yn nifer yr achosion o ganlyniad i lacio cyfyngiadau. Bydd angen i chi fesur a yw o fewn y paramedrau rydych yn gyfforddus â hwy. Dywedwch ychydig wrthym, os gallwch, ynglŷn â sut rydych yn bwriadu gwneud yr asesiad hwnnw ymhen ychydig wythnosau.
Mae gennyf ychydig o gwestiynau manylach. Nid ydych wedi cyfeirio at wledydd y rhestr werdd. A allech amlinellu eich dull o weithredu ar wledydd y rhestr werdd? Mae llawer o bobl yn chwilio am gyfle i gael gwyliau a byddant eisiau gwneud hynny yn y ffordd fwyaf cyfrifol. Felly, a allech roi sylwadau ar wledydd y rhestr werdd?
Hefyd, byddwn yn gwerthfawrogi eich barn ar y contract ar gyfer darparu profion PCR i bobl sy'n dychwelyd. Rwy'n gwybod nad ydych eisiau i bobl adael o gwbl, ond pan fyddant yn dychwelyd, mae'r contract gan gwmni preifat, Corporate Travel Management. Ai dyna'r ffordd orau o fynd ati—£170 am bob prawf PCR? Dylid edrych ar hynny, sut i ostwng y gost honno.
A hoffwn gael ychydig o fanylion am glybiau nos hefyd, rhywbeth y mae llawer o sôn wedi bod amdano. Nid wyf mewn oed lle mae o ddiddordeb personol i mi, ond gwn ei fod o ddiddordeb i lawer o bobl eraill. Nid oedd cyfeiriad at hynny, ac mae rhai'n dweud mai clybiau nos fydd y maes olaf lle byddwn yn gallu codi cyfyngiadau. Felly, rwyf am orffen yn y fan honno. Diolch.
Llywydd, diolch yn fawr i Rhun ap Iorwerth, a diolch am beth ddywedodd e, ac am y gefnogaeth am beth dwi wedi ei ddweud y prynhawn yma. A dwi'n cydnabod y ffaith, trwy'r pandemig i gyd, mae Plaid Cymru wedi bod yn gefnogol o sut rŷn ni'n mynd i fynd ati yma yng Nghymru. So, diolch yn fawr unwaith eto y prynhawn yma am hynny.
I droi at y cwestiynau penodol, wel rwy'n cytuno'n llwyr â'r hyn a ddywedodd Rhun ap Iorwerth, Lywydd, nad yw dibyniaeth syml ar gyfrifoldeb personol yn gymwys i'r ffordd yr eir i'r afael â'r argyfwng hwn yma yng Nghymru, a'r ffordd y mae angen mynd i'r afael ag ef yn y dyfodol. Wrth gwrs, mae gan bob un ohonom gyfrifoldeb personol; mae hynny'n sicr yn wir. Ond mae'n fwy na hynny, onid yw? Mae gennym gyfrifoldeb, nid yn unig drosom ni ein hunain, ond at bobl eraill hefyd. Ac yn llawer o'r drafodaeth yn y Cabinet heddiw, pan oeddem yn siarad am fesurau y byddai angen iddynt fod ar waith o hyd ar lefel rhybudd 0, roeddem yn meddwl am y bobl y byddai eu bywydau'n cael eu gwneud yn fwy anodd ac a fyddai'n fwy pryderus os ydynt yn teimlo na fydd lleoedd y gallai fod angen iddynt ymweld â hwy mor ddiogel iddynt yn y dyfodol ag y maent wedi bod hyd yma. A dyna pam ein bod yn credu y dylem barhau i wisgo mygydau. Fel y dywedodd Rhun ap Iorwerth, maent yn cynnig amddiffyniad i chi hefyd, ond yr un mor bwysig, maent yn cynnig amddiffyniad i bob un ohonom rhag y gweithredoedd bach y gall pob unigolyn eu gwneud sy'n cyfrannu at rywbeth llawer mwy arwyddocaol.
O ran sut y byddwn yn asesu effaith yr hyn rydym wedi'i wneud heddiw, byddwn yn parhau i'w wneud, Lywydd, yn y ffordd rydym wedi'i wneud o'r dechrau. Dyna pam y mae gennym fwlch o dair wythnos rhwng y mesurau a ddaw i rym ddydd Sadwrn yr wythnos hon a'r mesurau a allai ddod i rym ar 7 Awst, oherwydd bydd hynny'n rhoi cyfle i ni asesu effaith symud i lefel 1 ac agor gweithgarwch awyr agored ymhellach. A byddwn yn ei asesu yn erbyn nifer y bobl sy'n mynd yn sâl, y graddau y mae hynny'n effeithio ar y gwasanaeth iechyd, yr effaith y mae hynny'n ei chael ar ein heconomi, a bydd gennym waith modelu pellach ar bob pwynt sy'n dweud wrthym a yw lefel cylchrediad y feirws yn y gymuned yn cyrraedd uchafbwynt ac yn lleihau, neu'n hytrach yn gwthio'r uchafbwynt ymhellach i'r dyfodol. Bydd yr holl bethau hynny'n cael eu hystyried, a byddwn yn eu hasesu ar bob cam o'r ffordd. Ac mae'n berffaith bosibl, Lywydd, fel y dywedodd llefarydd Plaid Cymru, y gallwch fod yn anghywir ynglŷn â hyn. Ailagorodd yr Iseldiroedd ar yr un sail â Lloegr dair wythnos yn ôl, ac maent newydd orfod ailosod yr holl gyfyngiadau hynny. Dywedodd Prif Weinidog yr Iseldiroedd, 'Gwnaed camgymeriad ac mae'n ddrwg gennym am hynny heddiw.' Felly, mae'n bosibl bod yn anghywir ynglŷn â hyn. Fe wnaeth Israel, lle ceir lefelau uwch byth o frechu, ddiddymu'r angen i bobl wisgo masgiau, ac maent wedi gorfod ailosod y rheol bythefnos ar ôl iddynt roi'r camau hynny ar waith. Felly, nid wyf yn dweud o gwbl na allai hyd yn oed y camau gofalus rydym yn eu cymryd heddiw arwain at ganlyniadau anfwriadol, a dyna pam y byddwn yn eu hadolygu mor ofalus.
Ar wledydd y rhestr werdd, nid yw'r drefn wedi newid. Yr un yw'r drefn ers i'r rhestr werdd o wledydd ddod i fodolaeth. Ac ar glybiau nos, disgwylir y bydd clybiau nos, a'r hyn rwyf wedi dysgu cyfeirio atynt fel lleoliadau adloniant i oedolion, yn agor ar 7 Awst, yn unol â'r camau eraill i lacio cyfyngiadau i lefel 0.
Brif Weinidog, a gaf fi groesawu'r cyhoeddiad heddiw, ond rwyf am ofyn am rywfaint o eglurhad yn dilyn eich datganiad a'ch sylw ar eich cyfryngau cymdeithasol ynglŷn â'r ffaith nad oes unrhyw gyfyngiadau ar nifer y bobl a all gwrdd yn yr awyr agored, a hynny heb gadw pellter cymdeithasol? A yw hyn yn golygu y gellir rhoi'r golau gwyrdd i ddigwyddiadau, megis digwyddiad poblogaidd Ironman Cymru a gynhelir yn Ninbych-y-pysgod, a sioeau amaethyddol, megis sioe Martletwy? Hefyd, a fydd y rheoliadau newydd yn cael eu diwygio i ganiatáu i'r ddau riant fynychu lleoliad ysbyty gyda'u plentyn, gan fod y trefniant presennol sydd ond yn caniatáu i un rhiant fynychu yn arwain at fwy o bryder i'r plentyn a'r rhiant mewn sefyllfa sydd eisoes yn peri straen a gofid? Diolch.
Diolch yn fawr am y cwestiynau.
O ran digwyddiadau awyr agored, mae cyfyngiadau ar nifer y bobl sy'n mynychu bellach wedi'u codi, ac mae cadw pellter cymdeithasol bellach yn rhywbeth y byddai'n rhaid i drefnydd digwyddiad ei ystyried wrth gynnal asesiad risg ac wrth roi mesurau lliniaru ar waith yn erbyn risgiau'r coronafeirws. Felly, nid yw'n golygu rhyddid llwyr i gynnal unrhyw ddigwyddiad yn awr fel pe na bai'r coronafeirws yn bodoli, Lywydd. Mae'n golygu y byddai angen i sioe Martletwy, sioe rwyf wedi ymweld â hi ac wedi'i mwynhau fy hun yn y gorffennol, fod yn destun asesiad risg gan ei threfnwyr. Yr hyn nad oes rhaid iddynt ei ystyried yw terfyn sefydlog wedi'i bennu gan y Llywodraeth. Bydd yn rhaid iddynt hwy eu hunain ystyried beth sy'n ddiogel yn y cyd-destun y maent ynddo. Bydd hynny'n wahanol i bawb, fel y gwyddoch, ac yn dibynnu ar faint lleoliad, y mynediad i'r lleoliad, natur y digwyddiad ei hun ac yn y blaen.
Ar leoliadau ysbyty, cyhoeddwyd canllawiau diwygiedig gennym ar ymweld ychydig wythnosau'n ôl. Ei nod yw annog ysbytai i feddwl yn ofalus am ymestyn yr ystod o bobl sy'n gallu ymweld, ond mae'n parhau i fod yn benderfyniad clinigol yn y pen draw. A phan fydd ffigurau'r coronafeirws yn codi yn y gymuned mor gyflym ag y maent yn ei wneud, gwyddom y bydd lleoliadau caeëdig, fel ysbytai, yn arbennig o agored i niwed. Felly, er fy mod yn gwybod bod y rhain yn benderfyniadau eithriadol o anodd, ac yn effeithio'n fawr iawn ar y teuluoedd dan sylw, rwy'n dal i gredu ei bod yn iawn inni adael y penderfyniadau hynny yn nwylo'r bobl sy'n gorfod bod yn gyfrifol am ddiogelwch ehangach cleifion yn y lleoliad hwnnw, a dibynnu ar eu doethineb a'u crebwyll.
Ar hyn o bryd, yng Nghymru, efallai y bydd pobl yn teimlo, gyda'r cyhoeddiad hwn, fod diwedd y pandemig o fewn golwg. Yn wir, rwyf wedi cael nifer o negeseuon gan bobl sy'n arbennig o hapus bod canolfannau sglefrio'n ailagor. Ond yn y rhan fwyaf o leoedd yn y byd, mae'r pandemig yn arwain at fwy byth o farwolaethau. Er ein bod ni i gyd wedi bod yn mwynhau'r Ewros dros yr wythnosau diwethaf ac yn gweld cefnogwyr yn ôl yn y stadia, yn Uganda, mae eu stadiwm pêl-droed cenedlaethol yn cael ei ddefnyddio fel ysbyty maes i drin cleifion COVID. Gwn fod hyn yn peri pryder arbennig i fy nghymuned fy hun ym Mhontypridd, oherwydd y cysylltiadau agos a sefydlwyd gydag Uganda drwy'r Ymddiriedolaeth Rhwydweithio Tramor rhwng Partneriaethau.
Gwn inni drafod a chodi hyn ddoe, ond mae'r achosion yn y wlad wedi cynyddu'n sylweddol, 1,000 y cant yn y mis diwethaf, a gyda dim ond 4,000 o bobl mewn poblogaeth o 45 miliwn wedi cael dau ddos, gwyddom fod hwn yn gynnydd difrifol. Mae'r diffyg brechlynnau sy'n arwain at farwolaethau yn stori a ailadroddir ar draws y byd. Gwyddom mai brechlynnau yw ein gobaith gorau o reoli'r pandemig, ac atal mwy o farwolaethau, ond mae cwmnïau a ffatrïoedd a allai fod yn gwneud dosau o frechlynnau yn sefyll ar y cyrion oherwydd bod monopoli o gorfforaethau fferyllol mawr yn gwrthod rhannu hawliau eiddo deallusol â chwmnïau eraill. Mae'r cwmnïau fferyllol pwerus hyn yn rhoi patent ac elw o flaen achub bywydau drwy ddogni'r cyflenwad o frechlynnau yn artiffisial a gwrthod rhannu eu ryseitiau a'u technoleg gyda gweddill y byd.
Caiff y monopolïau hyn eu gwarchod gan lond llaw o wledydd cyfoethog, gan gynnwys y DU. Mae'n rhaid i'r Senedd hon uno yn awr i sicrhau—. Oherwydd bydd cost i Gymru os na welir cynnydd yng nghynhyrchiant brechlynnau'n fyd-eang. A hoffwn ofyn i'r Prif Weinidog a fy nghyd-Aelodau yn y Senedd gefnogi fy natganiad barn ar frechlyn y bobl ac y dylem weithio'n drawsbleidiol i sicrhau—. Oherwydd ni allwn reoli'r feirws hwn yng Nghymru yn unig. Pandemig byd-eang yw hwn ac mae angen inni weithio'n fyd-eang.
Wel, Llywydd, diolch i Heledd Fychan am beth ddywedodd hi,
ac wrth gwrs, rwy'n cytuno'n llwyr ynglŷn â natur fyd-eang yr her. Credaf mai arweinydd yr wrthblaid a ddywedodd yma ddoe nad oes neb yn ddiogel rhag y feirws nes bod pawb yn ddiogel rhag y feirws, ac mae hynny'n golygu pob rhan o'r byd. Rwy'n gyfarwydd â chynllun yr Ymddiriedolaeth Rhwydweithio Tramor rhwng Partneriaethau, y mae pobl ym Mhontypridd wedi gwneud cymaint i'w gefnogi, a deuthum i gysylltiad ag ef drwy Mick Antoniw, yr Aelod lleol o'r Senedd, ac mae'n gynllun sy'n gwneud gwaith gwych.
Ar ganolfannau sglefrio, un o'r pethau rwyf wedi'i ddysgu dros holl gyfnod y pandemig, rwy'n credu, yw bod rhai pethau'n bwysig iawn i bobl, hyd yn oed pan nad ydych yn sylweddoli hynny eich hun. Felly, bydd hyd yn oed pethau bach, fel ailagor canolfan sglefrio, yn bwysig iawn i o leiaf rai pobl.
Lywydd, rwy'n llai cyfarwydd â rhai o'r dadleuon a wnaeth yr Aelod am weithredoedd cwmnïau fferyllol pwerus. Bydd yr Aelodau wedi clywed yr hyn a ddywedodd a cheir datganiad barn y gall pobl edrych arno os hoffent ymwneud â'r mater.
Brif Weinidog, rwy'n croesawu eich cyhoeddiad heddiw, ac yn arbennig y symud i lefel rhybudd 1, a lefel rhybudd 0 yn yr awyr agored. Felly, mae'n rhoi hyder yn awr i bethau fel Gŵyl y Dyn Gwyrdd yn fy etholaeth allu mynd rhagddynt ac mae hynny'n rhoi hwb gwirioneddol i iechyd meddwl pobl hefyd—gallant fynd i rywle yn y cnawd a chael amser da. Ac rwyf hefyd yn croesawu eich cyhoeddiadau am hunanynysu, ac mae'n profi gwaith mor anhygoel y mae'r rhaglen frechu wedi'i wneud i gadw pobl yn ddiogel ledled Cymru.
Ond wrth ichi siarad, Brif Weinidog, cefais neges destun gan un o'ch beirniaid llym yn fy etholaeth—mae'n landlord—ac roedd eisiau imi ofyn ychydig o gwestiynau i chi. Dywedodd eich bod ar y trywydd iawn o'r diwedd, ond roedd eisiau i mi ofyn dau gwestiwn i chi: pryd y byddwch yn adolygu'r rheol sy'n dweud y dylid cadw pellter cymdeithasol o 2m mewn lleoliadau lletygarwch dan do fel y gall ein tafarndai a'n bwytai ddychwelyd i normalrwydd? A'i gwestiwn olaf oedd: a yw eich cyhoeddiadau'n golygu y bydd y rheol chwech o bobl yn cael ei dileu ar gyfer safleoedd sydd â gardd gwrw? Diolch, Lywydd.
Lywydd, fe wnaf fy ngorau; nid wyf yn fodryb ofidiau ar gyfer lleoliadau lletygarwch ledled Cymru. Ond o ran y rheol 2m yn y sector lletygarwch—gallaf o leiaf helpu eich etholwr gyda hynny, oherwydd nid ydym wedi bod â rheol 2m yn y sector lletygarwch ers amser hir. Yr hyn rydym wedi'i gael yw rheol sy'n dweud, lle nad yw lleoliadau lletygarwch yn gallu cynnal rheol 2m—ac felly mae'r rheoliadau'n cydnabod nad yw hynny bob amser yn bosibl—fod yn rhaid rhoi mesurau lliniaru eraill ar waith. Felly, nid oes rheol absoliwt o 2m yn y sector lletygarwch, ac mae llawer o leoliadau wedi gweithio'n eithriadol o galed, Lywydd, i sicrhau, pan nad yw hynny'n bosibl, fod y mesurau lliniaru eraill hynny ar waith: sgriniau mewn rhai mannau, trefniadau glanhau rheolaidd, amseroedd cyfyngedig y gall pobl aros ac yn y blaen. Mae'r diwydiant lletygarwch wedi datblygu repertoire creadigol a llawn dychymyg, ac rwy'n eu cymeradwyo am hynny ac yn gobeithio y bydd etholwr yr Aelod yn gallu dal i fyny â hynny.
Brif Weinidog, mae gallu menywod beichiog i gael eu partneriaid yn bresennol yn ystod sganiau ac asesiadau beichiogrwydd, ac yn ystod yr enedigaeth, yn rhywbeth sydd wedi'i godi drwy gydol y pandemig. Mae wedi bod yn gyfnod arbennig o anodd i lawer o fenywod a fyddai fel arfer wedi cael cefnogaeth eu partner neu berson penodol i'w cefnogi ar adeg heriol ac emosiynol iawn. Deallaf fod canllawiau Llywodraeth Cymru ar hyn wedi newid drwy gydol y pandemig, wrth gwrs, ac y dylid caniatáu i bartneriaid fynychu sganiau 12 ac 20 wythnos bellach. Fodd bynnag, yr wythnos diwethaf cysylltodd menyw feichiog â mi i ddweud na chafodd ei phartner fynychu eu sgan 20 wythnos. Rwy'n deall hynny, ac fel rydych newydd esbonio, rhaid i fyrddau iechyd fod yn ofalus wrth gwrs er mwyn sicrhau eu bod yn lleihau'r risg o COVID mewn lleoliadau ysbyty, ond pan fo menywod beichiog ar y naill law yn gweld degau o filoedd o gefnogwyr chwaraeon yn ymgasglu ac yn cofleidio ar y teledu, gallwch ddeall eu bod yn teimlo'n siomedig pan nad yw eu partneriaid yn cael mynychu sganiau allweddol a'u cefnogi mewn amgylchedd sy'n ddiogel rhag COVID. Maent yn teimlo eu bod wedi'u gadael ar ôl. Felly, a wnaiff Llywodraeth Cymru ymrwymo i fynd i'r afael â'r maes hwn gan ein bod bellach yn llacio'r cyfyngiadau COVID? Diolch.
Wel, Lywydd, gadewch imi ddweud wrth yr Aelod fy mod yn credu mai dyma un o'r materion anoddaf inni orfod eu hwynebu drwy gydol yr holl bandemig ac rwy'n llwyr ddeall y trallod y mae rhai teuluoedd wedi'i deimlo lle mae pobl wedi gorfod byw drwy brofiad ar eu pen eu hunain lle byddent, ar unrhyw adeg arall, wedi cael cefnogaeth partner wrth eu hochr. Ni allaf wneud mwy na rhoi addewid y byddwn yn parhau i adolygu'r canllawiau hynny. Fel y mae Sioned Williams wedi'i gydnabod, nid oes ond ychydig wythnosau ers iddo gael ei ddiwygio, ond yn y pen draw, mae'n rhaid i glinigydd bwyso a mesur y risgiau dan sylw, ac mae'r risgiau'n wahanol i bob unigolyn, yn dibynnu ar gyflwr iechyd cyffredinol y fam, ac maent yn amrywio o leoliad i leoliad. Ac nid wyf yn credu bod yr un clinigydd yn ceisio eithrio rhywun o brofiad y maent yn gwybod y bydd yn bwysig iawn iddynt. Maent yn gwneud hynny pan fyddant wedi pwyso a mesur y risgiau ac wedi penderfynu bod y risgiau sy'n gysylltiedig ag iechyd yr unigolyn yn golygu na all hynny ddigwydd, a phan ydych yn gwybod beth y gallai canlyniadau'r risgiau hynny fod, credaf fod yn rhaid inni gael rhywfaint o hyder yn ein clinigwyr ar y rheng flaen sy'n ymdrin â hyn bob dydd ac yn gwneud eu gorau i ddod i'r casgliad cywir mewn amgylchiadau sydd bob amser yn emosiynol ac yn heriol iawn yn glinigol.
Yn olaf, Jane Dodds. O, na, nid Jane Dodds. Dyna oedd yr olaf, felly.
Diolch, Prif Weinidog.
Diolch yn fawr.
Fe fyddwn ni'n cymryd toriad byr nawr i wneud newidiadau yn y Siambr.