– Senedd Cymru am 3:48 pm ar 14 Medi 2021.
Croeso nôl. Yr eitem nesaf yw'r datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, y wybodaeth ddiweddaraf—too much of a recess—am COVID-19. Galwaf ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Eluned Morgan.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i chi am y cyfle hwn i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am yr hyn sy'n parhau i fod yn sefyllfa iechyd cyhoeddus sy'n symud yn gyflym ac sy'n esblygu.
Nawr, mae llawer wedi newid ers y Senedd ddiwethaf, ers i ni gyfarfod ddiwethaf i drafod y coronafeirws yng Nghymru cyn toriad yr haf. Mae Cymru wedi bod ar lefel rhybudd 0 ers saith wythnos bellach ac, fel y gŵyr yr Aelodau, mae hyn yn golygu bod pob busnes yn gallu agor a bod gennym lai o gyfyngiadau cyfreithiol ar waith nag ar unrhyw adeg ers i'r pandemig ddechrau 18 mis yn ôl. Ond mae rhai amddiffyniadau pwysig ar waith o hyd i helpu i'n cadw ni i gyd yn ddiogel, gan gynnwys y gofyniad i bob busnes a chyflogwr gynnal asesiad risg.
Mae'r rhan fwyaf ohonom wedi mwynhau'r haf hwn, yn cwrdd â ffrindiau a theulu ac yn mynd ar wyliau yn ein gwlad hardd. Mae'r coronafeirws, wrth gwrs, yn feirws sy'n ffynnu ar gyswllt dynol. Ac wrth i ni ymgynnull mewn niferoedd mwy dros yr haf, mae achosion o'r feirws wedi cynyddu yn ôl y disgwyl. Gallwn weld cynnydd pellach wrth i'r tymor newydd ddechrau ar gyfer ysgolion, colegau a phrifysgolion.
Mae Cymru ar lefel rhybudd 0, ond mae'n amlwg nad yw'r pandemig drosodd eto. Byddai ein modelu'n awgrymu ein bod yn nesáu at uchafbwynt trydedd don y pandemig, wedi'i ysgogi gan yr amrywiolyn delta. Erbyn hyn mae gennym gyfraddau uchel iawn o'r coronafeirws ym mhob un o'n cymunedau. Mae ein senarios modelu, sydd wedi'u cyfrifo'n ofalus gan arbenigwyr ym Mhrifysgol Abertawe, yn rhagweld bod y rhain yn debygol o waethygu dros yr wythnosau nesaf wrth i'r don ddechrau cyrraedd uchafbwynt. Os bydd y feirws yn parhau i ledaenu ar ei gyfradd bresennol, gallwn ddisgwyl gweld tua 3,200 o achosion yn cael eu cadarnhau bob dydd tua diwedd y mis.
Hyd yn hyn, mae'r cynnydd hwn wedi bod dan reolaeth oherwydd ein rhaglen frechu anhygoel, sydd wedi helpu i wanhau'r cysylltiad rhwng haint a salwch difrifol. Ond gyda lledaeniad cyflym y coronafeirws yn ein cymunedau, mae pwysau'r pandemig ar y GIG yn cynyddu unwaith eto, ac mae adroddiadau cynyddol bod hyd yn oed pobl sydd wedi cael eu brechu ddwywaith yn cael eu derbyn i'r ysbyty gyda COVID-19.
Ar hyn o bryd, mae tua 40 o dderbyniadau i'r ysbyty COVID-19 y diwrnod. Mae ychydig dros 480 o achosion wedi'u cadarnhau mewn ysbytai ledled Cymru—y nifer uchaf ers mis Mawrth. Nawr, mae ein modelu'n awgrymu y gallai fod 100 o dderbyniadau newydd i'r ysbyty oherwydd COVID-19 bob dydd wrth i'r don delta gyrraedd uchafbwynt. Mae'r GIG eisoes dan bwysau dwys gan ei fod yn ymateb i ofynion gofal iechyd brys, ac yn darparu mwy o lawdriniaethau a thriniaethau wedi'u cynllunio. Ac mae ein gwasanaethau iechyd a gofal eisoes yn profi pwysau staffio drwy gyfuniad o wyliau blynyddol, staff sy'n gweithio mewn meysydd eraill, salwch ac ynysu. Mae ein staff iechyd a gofal wedi blino ar ôl gweithio mor galed ac mor ddwys dros y 18 mis diwethaf.
Nawr, yr wythnos hon mae dau ddatblygiad sylweddol yn gysylltiedig â brechu. Heddiw, mae'r Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu wedi cyhoeddi ei gyngor terfynol ar gyfer rhaglen atgyfnerthu'r hydref, a byddwn yn derbyn y cyngor hwnnw maen nhw wedi'i roi. Mae hyn yn bwysig yng ngoleuni'r dystiolaeth sy'n dod i'r amlwg am effeithiolrwydd y brechlynnau sy'n gwanhau. Byddwn yn dechrau anfon gwahoddiadau o 20 Medi ymlaen, ac mae ein GIG wedi gweithio'n galed i sicrhau ei fod yn barod i ddechrau'r rhaglen a gwahodd y rhai a gafodd eu brechiadau gynharaf.
Ar yr un pryd, mae pedwar prif swyddog meddygol y DU wedi bod yn trafod ac yn cymryd tystiolaeth arbenigol ynghylch p’un a ddylai'r brechlyn fod ar gael i bobl ifanc 12 i 15 mlwydd oed. Maen nhw bellach wedi argymell, oherwydd y manteision tebygol o leihau aflonyddwch addysgol a'r effaith mae hyn yn ei chael ar les ac iechyd meddwl plant a phobl ifanc, fod Gweinidogion yn ymestyn y cynnig o frechu cyffredinol i'r plant hyn. Bydd hyn yn golygu cynnig dos cyntaf o frechlyn COVID-19 Pfizer BioNTech i bob plentyn a pherson ifanc rhwng 12 a 15 mlwydd oed nad ydynt eisoes wedi'u cynnwys yng nghyngor presennol y JCVI.
Nawr, wrth ystyried yr holl gyngor, rwy'n cytuno â'r prif swyddogion meddygol fod budd o ran cynnig y brechlyn i bobl ifanc 12 i 15 mlwydd oed, a byddwn yn dechrau cynnig apwyntiadau brechu o'r wythnos nesaf gyda'r nod o frechu pawb sy'n dymuno dod ymlaen erbyn hanner tymor mis Hydref.
Llywydd, os yw ein gwaith modelu ni'n gywir—ac mae wedi bod hyd yma—bydd nifer yr achosion o COVID-19 a'r rhai a fydd yn cael eu derbyn i'r ysbyty ar ei anterth yr union adeg y bydd cyfnod y gaeaf yn dechrau ar gyfer y gwasanaeth iechyd. Bydd hwn yn rhoi rhagor o bwysau ar ein systemau iechyd a gofal, system sydd, fel y gwyddoch, o dan bwysau yn barod. Mewn rhai rhannau o'r Deyrnas Unedig, mae llawdriniaethau sydd wedi'u cynllunio o flaen llaw wedi cael eu gohirio'n barod er mwyn galluogi'r ymddiriedolaethau gwasanaeth iechyd i ymdopi â phwysau'r pandemig a'r argyfyngau eraill rŷm ni'n wynebu.
Pan fydd lefelau heintiau COVID yn uchel, mae'n bosibl y bydd nifer y bobl sy'n dioddef o COVID hir yn cynyddu. Dŷn ni ddim yn gwybod faint yn union o bobl sydd â COVID hir ac mae'r sylfaen dystiolaeth yn dal i ddatblygu. Mae lefelau uchel o heintiau hefyd yn cynyddu'r risg y bydd amrywiolyn newydd yn dod i'r amlwg. Rŷn ni i gyd yn cofio'r boen a'r dioddefaint a achosodd yr amrywiolyn alffa, neu Caint, yn ystod y gaeaf, ac rŷm ni yn awr yn delio â'r amrywiolyn delta.
Wrth i ni edrych ymlaen tuag at y gaeaf, mae heintiau anadlol eraill fel RSV a'r ffliw tymhorol hefyd yn fygythiad. Os ydyn ni am lwyddo i reoli'r coronafeirws a heintiau anadlol eraill yr hydref a'r gaeaf hwn, rhaid i ni barhau i ganolbwyntio ar gynyddu'r niferoedd sy'n cael eu brechu rhag COVID, yn arbennig ymhlith y grwpiau a'r cymunedau hynny lle mae'r niferoedd sydd wedi cael y brechlyn yn gymharol isel.
Ar hyn o bryd, mae tua 373,000 o bobl sydd heb eu brechu yng Nghymru a allai fod wedi cael y brechlyn, ac mae'r rhan fwyaf ohonyn nhw o dan 50 oed. Rŷm ni'n poeni yn arbennig am y nifer isel o fenywod beichiog sydd wedi cael eu brechu. Yn anffodus, dros y tair wythnos diwethaf, mae cynnydd wedi bod yn nifer y menywod beichiog sydd heb eu brechu sy'n cael eu derbyn i'r ysbyty. Rhywbeth arall sydd yr un mor bwysig hefyd yw gwneud yn siŵr bod pawb sy'n gymwys yn cael y pigiad atgyfnerthu, neu'r booster. Byddwn ni hefyd yn gweithio'n galed i annog pobl i gael y brechlyn rhag y ffliw, er mwyn adeiladu ar y nifer a gafodd y brechlyn y llynedd—y nifer mwyaf erioed.
Yn olaf, Dirprwy Lywydd, hoffwn i orffen y datganiad hwn drwy atgoffa pawb am y pethau y gallwn ni eu gwneud i ddiogelu ein hunain a'r rheini sy'n annwyl i ni. Os byddwch chi'n teimlo'n sâl a bod gennych chi symptomau COVID, rhaid i chi aros gartref a chael prawf PCR. Os bydd canlyniad y prawf yn bositif, rhaid i chi hunanynysu. Bydd hyn yn helpu i atal lledaeniad y feirws ddychrynllyd yma. Meddyliwch am bwy ŷch chi'n mynd i gyfarfod â nhw, a phryd. Os allwn ni i gyd dorri i lawr ar y nifer o bobl rŷm ni'n cwrdd â nhw wyneb yn wyneb, a'r amser byddwn ni'n ei dreulio gyda nhw, bydd e'n help i ni gadw'n ddiogel. Pan fydd yn bosibl, dylech chi gwrdd â phobl yn yr awyr agored, ond os byddwch chi o dan do, agorwch y drysau a'r ffenestri. Gwisgwch orchudd wyneb mewn mannau cyhoeddus lle mae llawer o bobl dan do, a golchwch eich dwylo yn rheolaidd. A gweithiwch gartref o hyd pan allwch chi wneud hynny. Rŷm ni wedi gweithio gyda'n gilydd o'r blaen, ac rŷm ni wedi newid cwrs y pandemig hwn. Gallwn ni i gyd wneud hynny eto nawr a chadw Cymru'n ddiogel gyda'n gilydd. Diolch.
Llefarydd y Ceidwadwyr, Russell George.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Gweinidog, a gaf i ddiolch i chi am eich datganiad y prynhawn yma a hefyd am eich llu o ddatganiadau yn gynharach heddiw hefyd? Roeddwn i’n gwerthfawrogi'n fawr fod y datganiadau hynny a'r wybodaeth honno wedi dod atom fel Aelodau ac Aelodau'r Senedd hon yn gyntaf, cyn unrhyw gyfryngau. Mae hynny'n cael ei werthfawrogi'n fawr.
A gaf fi ddweud, yn gyntaf oll, o ran cyngor brechu'r JCVI—? Heddiw rwy'n derbyn eich bod wedi gwneud y penderfyniad cywir ar hynny. Rwy'n credu eich bod wedi cymryd y dull cywir wrth ddilyn eu cyngor o ran y cyngor atgyfnerthu yr hydref hwn. Hefyd, rwy'n falch iawn bod prif swyddogion meddygol pedair gwlad y DU wedi rhoi cyngor unedig gyda'i gilydd, ac mae hynny i'w groesawu'n fawr hefyd. Rwy’n credu eich bod wedi mabwysiadu'r dull cywir yn hynny o beth a'r penderfyniad cywir yn hynny o beth o ran dilyn cyngor y prif swyddogion meddygol hefyd.
Yr hyn rwy’n pryderu amdano, ac rwy'n gofyn am eich adborth ar hyn, yw bod y grŵp hwn o bobl, y rhai 12 i 15 mlwydd oed, a'r rhaglen atgyfnerthu brechu yn cael eu cynnal tua'r un pryd, rwy'n credu fy mod yn iawn i ddweud. Felly, rwy’n pryderu am yr effaith y bydd hynny'n ei gael ar gynnal y ddwy raglen hynny ar yr un pryd, gyda'i gilydd, wrth gwrs, gyda'r ffaith eich bod wedi dweud eich hun bod GIG Cymru dan bwysau eithafol ar hyn o bryd. Felly, y tri chyfuniad hynny gyda'i gilydd, byddwn yn gwerthfawrogi eich asesiad ar hyn a sut rydych chi’n helpu GIG Cymru a'r byrddau iechyd i ymdopi â darparu'r brechlynnau atgyfnerthu hynny a'r dos cyntaf i bobl ifanc 12 i 15 mlwydd oed ar yr un pryd.
Hefyd, byddai unrhyw wybodaeth ddefnyddiol yn cael ei gwerthfawrogi o ran sut y bydd hynny'n cael ei gyflwyno ar gyfer pobl ifanc 12 i 15 mlwydd oed. A fydd hyn yn digwydd mewn canolfannau brechu torfol neu mewn ysgolion? Mae heriau amrywiol yn ymwneud â'r holl faterion hynny, ond rwy’n credu y bydd pobl yn dymuno gwybod sut y bydd yn gweithio. Mae'n sicr yn her i gwblhau'r rhaglen honno erbyn hanner tymor mis Hydref i'r holl blant a rhieni hynny sydd am gymryd y dos cyntaf hwnnw. Felly, byddwn i'n gwerthfawrogi unrhyw wybodaeth yn hynny o beth.
Rydych chi wedi dweud yn eich datganiad fod llawdriniaethau dewisol eisoes wedi'u gohirio mewn rhai rhannau o'r DU. Mae hynny'n digwydd yng Nghymru, yn ôl yr hyn rwy’n ei ddeall, ond efallai y gallaf ofyn am rywfaint o gadarnhad ar hynny. Fel rydw i’n ei ddeall, mae bwrdd iechyd Hywel Dda wedi bod yn gohirio llawdriniaethau dewisol yn ysbytai'r Tywysog Philip a Llwynhelyg i ymdopi â nifer o heriau lluosog—galw uchel, COVID-19, prinder staff. Ydy hynny'n gywir? Efallai y gallech chi gadarnhau hynny. Ydych chi’n ymwybodol o unrhyw fyrddau iechyd eraill sydd yn yr un sefyllfa hefyd? Byddai unrhyw wybodaeth bellach am hynny'n cael ei gwerthfawrogi.
Rydym yn gweld ambiwlansys mewn ciwiau hir y tu allan i unedau damweiniau ac achosion brys, ac yn y Faenor, ysbyty blaenllaw'r Llywodraeth, roedd o leiaf 15 ambiwlans yn aros ac roedd amseroedd aros ar gyfer damweiniau ac achosion brys yno hyd at 18 awr. Mae'n debyg i'r Gweinidog glywed y sylwadau heddiw a chwestiynau ac enghreifftiau yn ystod y datganiad busnes. Rydym yn bryderus iawn am hyn. Ym mis Gorffennaf, yn ôl yr hyn rwy’n ei ddeall, roedd 400 o gleifion yng Nghymru yn aros mwy na 12 awr am ambiwlans—mae hynny'n eithaf syfrdanol; mae hynny'n peri pryder mawr, ac mae hynny i ddweud y lleiaf. Byddwn i'n mynd mor bell â dweud bod y gwasanaeth ambiwlans mewn argyfwng. Ydy'r Gweinidog yn cytuno â'r asesiad hwnnw? Dylwn i gofnodi fy mod yn talu teyrnged enfawr i'r staff ambiwlans sy'n gweithio dan bwysau mawr, mawr hefyd.
Rwyf wedi codi gyda chi droeon ein bod angen canolfannau llawfeddygol sy'n ysgafn o ran COVID i leihau'r ôl-groniad yn GIG Cymru. Rydym yn gwybod bod un o bob pedwar llwybr cleifion bellach yn aros dros flwyddyn am driniaeth. Cyhoeddodd yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol yr wythnos diwethaf eu bod yn buddsoddi mewn canolfannau llawfeddygol i drin tua 30 y cant yn fwy o gleifion dewisol erbyn 2024 a chyflymu'r gostyngiad yn ôl-groniad Lloegr. O ystyried yr arian ychwanegol mae Llywodraeth y DU yn ei ddarparu i Gymru, ydych chi nawr yn gallu cadarnhau eich bod yn sicrhau bod mentrau fel hyn yn cael eu cyflwyno ar frys i helpu'r GIG i adfer?
Ac yn olaf, o ran pasbortau brechu, mae gan Gaeredin farn, mae gan Lundain farn, ond nid oes gan Gaerdydd. Rwyf wedi clywed ymateb y Prif Weinidog i arweinydd yr wrthblaid heddiw, a gwn eich bod yn trafod hyn yn y Cabinet yr wythnos hon—cadarnhawyd hynny gan y Prif Weinidog y bore yma. A gaf i ofyn pa gynlluniau ydych chi’n eu gwneud ar gyfer pasbortau brechu? Rydw i’n rhywun, fel Ceidwadwr Cymreig, nad yw’n cytuno mai pasbortau brechu yw'r dull cywir o ymdrin â materion moesegol, cyfreithiol a gweithredol—dylwn i gofnodi hynny'n gadarn. Ond os yw hyn yn rhywbeth mae Llywodraeth Cymru yn ei archwilio ac yn ymchwilio iddo, a allwch chi gadarnhau pa gynlluniau a chynlluniau wrth gefn mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn eu trafod, os o gwbl, o ran pasbortau brechu? Yn olaf, a fyddwch yn dod â hyn i bleidlais i'r Senedd, Weinidog, o ran y mater pwysig hwn o basbortau brechu? Diolch, Llywydd.
Rwy'n falch iawn eich bod yn cytuno â'n safbwynt mewn perthynas â'r brechiad atgyfnerthu. Y gwir amdani yw ein bod wedi bod yn barod i gyflwyno'r brechiad atgyfnerthu ers amser maith yng Nghymru. Rydym wedi bod yn aros am y cyngor hwnnw gan y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu am amser hir iawn, a dyna pam y gallwn ni, yn awr, bwyso'r botwm. Bydd y gwahoddiadau hynny'n mynd allan ddechrau'r wythnos nesaf, a gobeithio y bydd y bobl gyntaf yn dod drwodd yn yr wythnos ganlynol. Felly, rydyn ni i gyd yn barod i fynd. Rydych chi yn llygad eich lle; mae'n mynd i fod yn her wirioneddol i wneud hynny ar yr un pryd â'r brechiad ar gyfer pobl ifanc 12 i 15 mlwydd oed. Ond rydym wedi bod yn cynllunio ar gyfer hyn; mae’r holl gynlluniau ar waith gennym ni. Rydym wedi bod yn gweithio gyda byrddau iechyd ers amser maith ac maen nhw i gyd yn barod i'w cyflwyno. Felly, rwy'n hyderus iawn nad yw'n mynd i fod yn broblem i redeg y ddau beth ochr yn ochr.
O ran ymarferoldeb sut y bydd hynny'n digwydd, mae'n debyg y bydd y rhan fwyaf ohono o ran plant 12 i 15 mlwydd oed yn digwydd drwy ganolfannau brechu torfol, ond bydd rhai enghreifftiau lle gwneir hyn, yn arbennig, yn rhai o'r ysgolion mwy. Felly, bydd hynny ar gael iddynt. Bydd cyfle, felly, yn y canolfannau brechu torfol i'r plant fod yng nghwmni eu rhieni. Yn amlwg, byddan nhw wedyn yn cael cyfle i glywed manteision ac anfanteision y sefyllfa hon. Wrth gwrs, sefyllfa wirfoddol yr ydym ni'n sôn amdani. Nid ydym yn sôn am frechiadau gorfodol.
O ran llawdriniaethau dewisol, rydych chi’n llygad eich lle wrth dynnu sylw at y ffaith bod rhywfaint o lawdriniaethau dewisol eisoes wedi'u gohirio yn Hywel Dda. Mae hynny'n wir hefyd yn Betsi Cadwaladr. Roeddwn i’n siarad â rhai o'r gweithwyr iechyd yng Nglan Clwyd ac Ysbyty Gwynedd yr wythnos diwethaf. Maen nhw dan bwysau anhygoel. Fel y gwyddoch chi, maen nhw bellach wedi atal ymwelwyr â'r ysbytai hynny ac eraill ledled Cymru oherwydd lledaeniad COVID yn y gymuned.
Rydych chi’n llygad eich lle; mae amseroedd aros yn anodd iawn ar hyn o bryd. Mewn gwirionedd, mae llawer o'r pwysau ar y GIG ar hyn o bryd oherwydd na allwn gael cleifion sy'n barod i gael eu rhyddhau allan o'r ysbyty. Mae dros 1,000 o gleifion yn yr ysbyty ar hyn o bryd y gellid eu rhyddhau, ond oherwydd cyflwr llwm y sector gofal, ni ellir eu rhyddhau. Felly, rydym yn treulio llawer o amser ar hyn o bryd yn canolbwyntio'n wirioneddol ar hyn, gan gael cyfarfodydd wythnosol gyda chynrychiolwyr Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a gyda byrddau iechyd, i sicrhau y gallwn fynd i'r afael â'r hyn sy'n fater tymor byr mewn gwirionedd cyn i ni fynd i'r afael â'r cynllun tymor hwy, nawr fod gennym well ymdeimlad o sut mae’r dyfodol yn edrych, yn sicr o ran cyllid gan Lywodraeth y DU.
Mae'r un peth yn wir am adrannau damweiniau ac achosion brys. Mae tîm gweithgar iawn o fewn Llywodraeth Cymru yn cadw'r pwysau ymlaen. Mae cynllun ar waith i fynd i'r afael â'r materion hyn, felly rydym yn gweithredu ar hynny. Ond, mae'n anodd iawn os nad oes gwelyau. Dyna'r llinell sylfaen. Allwch chi ddim gadael i bobl fynd os nad oes gwelyau, felly mae hynny'n rhywbeth rydyn ni’n ceisio mynd i'r afael ag ef ar frys.
O ran canolfannau llawfeddygol, byddwch wedi clywed dros yr haf ein bod wedi cyhoeddi £140 miliwn ychwanegol i fynd i'r afael â'r sefyllfa mewn perthynas â'r ôl-groniad, ar ben y £100 miliwn sydd eisoes wedi'i gyhoeddi. Roeddwn i’n ddigon ffodus i gael sgwrs ddoe gyda chynrychiolwyr o Goleg Brenhinol y Llawfeddygon, a roddodd eu syniadau i mi o ran sut y dylem fod yn mynd i'r afael â'r mater hwn. Mae canolfannau rhanbarthol yn sicr yn rhywbeth rydyn ni’n ei ystyried, ac rydym yn gweithio drwy'r cynigion sydd wedi dod gan fyrddau iechyd ar hyn o bryd.
O ran pasbortau brechu, rydym eisoes wedi bod yn trafod y mater hwn. Fel rydych chi’n ei ddweud, mae llawer o faterion ymarferol a moesegol i ni eu hystyried, a dyna pam nad ydym wedi dod i gasgliad ar hyn eto. Yr hyn y gallaf ei ddweud wrthych yw, pe byddem yn dilyn y llwybr hwn, nad yw'n rhywbeth y gallwch ei droi ymlaen ar ddim — gwneud penderfyniad un diwrnod, a'i weld yn cael ei roi ar waith y diwrnod nesaf. Felly, dyna pam y bydd angen i chi feddwl am roi rhywfaint o ddeddfwriaeth ar waith, o bosibl. Felly, mae llawer o bethau i'w hystyried yn y gofod hwn. Mae hynny'n rhywbeth sy'n dal i gael ei ystyried. Felly, ni allaf roi ateb terfynol i chi ar hynny, ond gobeithio, erbyn diwedd yr wythnos hon, y bydd y Prif Weinidog yn gallu gwneud cyhoeddiad ar hynny.
Llefarydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth.
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Ie, mae yna bethau sydd heb gael eu setlo eto—vaccine passports yn un o'r rheini. Dwi'n meddwl bod Llywodraeth Cymru yn iawn i gadw'r opsiwn ar agor. Dwi'n gweld bod Sajid Javid yn San Steffan wedi cadarnhau y bydd Llywodraeth Geidwadol Prydain yn cadw hwn fel opsiwn ar gyfer plan B ar gyfer y gaeaf. Felly, gwahaniaeth barn rhwng Ceidwadwyr Cymru a Cheidwadwyr yn Llywodraeth Prydain yn hynny o beth.
Ond, os gwnaf i droi at y pethau sydd wedi cael eu cyhoeddi heddiw a dros y dyddiau diwethaf, dwi'n croesawu'r cyhoeddiad ynglŷn â'r boosters. Dwi'n croesawu'r penderfyniad hefyd o ran brechu, a chynnig y brechiad, i blant rhwng 12 a 15 oed. Dwi'n nodi, yn arbennig, groeso cynnes iawn y Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant i hwn fel cam i warchod lles ehangach plant a phobl ifanc. A gaf i ofyn y cwestiwn yma ar hynny: pa adnoddau a chefnogaeth fydd yn cael eu rhoi i rieni a theuluoedd a phlant er mwyn eu galluogi nhw i ddod i benderfyniad ynglŷn â'r brechiad?
Mi fydd hyn yn cymryd amser rŵan, wrth gwrs. Dwi'n edrych ymlaen at weld rhagor o fanylion ynglŷn â'r broses frechu i'r grŵp yma. Ond rydym ni, wrth gwrs, yn gwybod yn y cyfamser fod nifer yr achosion yn dal i gynyddu. Mae yna ddwy sir heddiw wedi rhoi ysgolion yn y categori risg uchaf—Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot—efo nifer o gyfyngiadau yn disgwyl i gael eu cyflwyno yn yr ysgolion yn y siroedd hynny. Ydych chi'n disgwyl i hyn ddod yn gam cyffredin i'w gymryd ym mhob rhan o Gymru?
A hefyd, tra rydym ni’n dal i chwilio am warchodaeth frys i ysgolion, dwi’n falch bod y Llywodraeth wedi gwneud tro pedol ar y cyhoeddiad ar beiriannau osôn. Mi wnes i godi pryderon, a llawer iawn o bobl eraill, ynglŷn â’r dewis rhyfedd yma o’r dechnoleg honno. Dwi yn gofyn yn daer i’r Gweinidog edrych ar dechnolegau eraill mae gennym ni fwy o brofiad o’u defnyddio nhw. Dwi wedi sôn wrth y Gweinidog o’r blaen ynglŷn â golau uwchfioled. Dwi wedi bod yn darllen ac yn cymryd diddordeb mawr mewn peiriannau ffiltro awyr sy’n cael eu defnyddio’n eang iawn erbyn hyn, yn cynnwys yn Efrog Newydd lle maen nhw’n cael eu defnyddio’n eang. Ydy’r Gweinidog yn barod i edrych ar hynny ac yn barod i wrando ar a darllen gwybodaeth y gallwn i ei rhannu efo’r Gweinidog ynglŷn â darparwyr posibl peiriannau o’r math yna?
Cwpl o faterion eraill. Dwi’n croesawu’r cyfeiriad at COVID hir ac yn dal i wthio’r Llywodraeth i wneud yn siŵr bod Cymru’n bod yn flaengar wrth drio dod i ddeall mwy am y cyflwr yma a’r camau sydd angen eu cymryd i warchod pobl sydd wedi dioddef yn hir iawn, rhai ohonyn nhw, ac yn ddwys iawn, llawer ohonyn nhw, yn sgil contractio’r feirws yma.
Ond dwi eisiau gorffen drwy edrych ar y pwysau ehangach ar yr NHS. Mae fy niolch i a phawb mor fawr i bawb sydd yn gweithio o fewn gwasanaethau iechyd a gofal. Mi glywsom ni gyfeiriad at y gwasanaethau ambiwlans sydd o dan bwysau rhyfeddol ar hyn o bryd, ond ar draws yr holl wasanaethau mae ein diolch ni yn fawr, ac mae yna gwestiynau mawr ynglŷn â chamau sydd angen eu cymryd ar frys er mwyn gwarchod ein gwasanaethau ni.
Un peth fyddwn i’n licio ei glywed ydy ymrwymiad i roi llawer gwell data i weld beth sy’n digwydd yn union mewn ysbytai, yn benodol y berthynas rhwng faint o bobl sydd mewn ysbytai, mewn adrannau gofal dwys, sy’n colli eu bywydau hyd yn oed, sydd wedi cael y brechiad ac sydd ddim. Dwi’n meddwl y byddai hynny’n ddefnyddiol i ni allu cael darlun gwell a mwy deallus o’r hyn sy’n digwydd o ran y feirws ar hyn o bryd.
Ac o ran y pwysau ar ein hysbytai ni, dwi’n deall bod Ysbyty Abergele wedi penderfynu cau oherwydd pwysau yn yr ysbytai cyffredinol. O bosib gall y Gweinidog gadarnhau hynny, a’r ffaith bod triniaethau elective orthopedig yn y fan honno eto yn cael eu gohirio. Allwn ni ddim fforddio colli mwy o amser trin pobl non-COVID achos mae yna argyfwng gennym ni yn barod. Dwi’n apelio yn y fan hyn am gynllun sy’n gwarchod yr elfen yna o’n darpariaeth iechyd ni, achos wrth i ni wynebu’r gaeaf yma, lle rydym ni’n cael problem bob amser, mae yna beryg rŵan bod y problemau yn dwysáu fwy fyth, a dyna pam ei bod hi’n hen bryd sicrhau bod y gweithgarwch non-COVID yna yn gallu parhau heb fwy o rwystr na sydd raid.
Diolch yn fawr. Gallaf gadarnhau, beth bynnag yw penderfyniad yr wythnos yma o ran y Cabinet, fy mod i'n siŵr bydd vaccine passports yn aros ar y bwrdd. Os na fyddwn ni’n mynd amdano, bydd e yno er mwyn i ni ei gysidro yn y dyfodol. Dydyn ni ddim wedi dod i benderfyniad. Mae hi’n benderfyniad anodd.
Dwi yn falch eich bod chi’n cytuno gyda ni o ran y penderfyniad ar y boosters ac ar y brechlynnau i blant. Mae'r CMOs wedi’i gwneud hi’n glir eu bod nhw eisiau gweld gwybodaeth ar gael ar gyfer rhieni sy’n dod o arbenigwyr, felly ein bod ni’n cael y wybodaeth gywir, bod pobl yn gallu pwyso a mesur beth sydd angen ei gysidro cyn bod eu plant nhw’n cael y brechlyn. Hefyd, dwi wedi bod yn siarad gyda'r comisiynydd plant, sy'n awyddus iawn i wneud yn siwr bod y ffordd mae hynny'n cael ei gyflwyno i blant yn rhywbeth sy'n ddealladwy iddyn nhw. Felly, mae hynny'n sicr yn rhywbeth mi fyddwn ni'n ei wneud.
O ran yr ysgolion, wrth gwrs, mae yna fframwaith mewn lle, achos roedden ni'n rhagweld y byddai sefyllfa fel yr un rŷn ni wedi'i gweld yn Abertawe a Chastell-nedd yn codi. Felly, dwi'n falch bod hynny wedi dechrau hyd yn oed cyn yr amserlen yr oeddem ni wedi'i rhagweld. Dwi'n gwybod bod yr Aelod wedi bod yn awyddus i sicrhau ein bod ni'n cymryd mesurau i wella safon yr awyr yn ein hysgolion ni. Felly, dwi’n falch eich bod chi wedi gweld ein bod ni wedi gwneud cyhoeddiad ar sut rŷn ni'n mynd i fynd ati i wneud hynny. Dwi'n barod i edrych ar bethau eraill o ran ffiltro awyr, felly os oes unrhyw wybodaeth gyda chi, rwy'n hapus ichi anfon hynny ataf i.
O ran COVID hir, dwi'n ymwybodol iawn bod yna broblem fan hyn. Dŷn ni ddim cweit yn siŵr o'r hyd a lled ohoni, ac un o'r rhesymau pam roeddwn i'n barod i dderbyn canllawiau gan y CMOs oedd achos fy mod i wedi darllen bod un mewn saith o blant yn gallu dioddef o COVID hir. Felly, roedd hwnna'n rhan o'r penderfyniad o'm safbwynt i.
O ran data, dwi'n siŵr gallwn ni gael mwy o ddata ynglŷn â faint sydd yn ein hysbytai a faint sydd wedi cael y brechlyn, a faint sydd yn ein ITUs ni. Dwi'n meddwl, o beth dwi wedi'i weld, mae lot o comorbidity yn bodoli hefyd. Hyd yn oed pobl sydd wedi cael y brechlyn, mae lot ohonyn nhw gyda phroblemau eraill—y rhai sydd yn dioddef o COVID ac yn mynd i mewn i'n hysbytai ni—felly'r rheini sy'n dioddef fwyaf. Ond dwi'n hapus i edrych i weld os gallwn ni dorri hynny i lawr. Wrth gwrs, mae pob bwrdd iechyd yn ei wneud ychydig yn wahanol.
Mae'n wir i ddweud bod ysbytai ar hyd a lled y gogledd wedi dechrau gohirio elective surgery erbyn hyn. Roedd hwn yn neges glir ces i o'r Royal College of Surgeons ddoe: a fyddai hyn yn rhywbeth rŷn ni'n barod i'w weld, lle rŷn ni jest yn sicrhau bod yna gwelyau rŷn ni'n eu paratoi ac yn eu cadw, fel ein bod ni'n gallu cadw ymlaen gyda'r elective surgeries? Felly, mae hwnna, yn sicr, ar ôl y drafodaeth neithiwr, yn rhywbeth dwi'n awyddus i drafod ymhellach gyda'm swyddogion i.
Diolch i chi am y datganiad, Gweinidog. Yn gyntaf, hoffwn ganmol y rhai sydd wedi bod ar flaen y gad o ran cyflwyno'r brechlyn ledled Cymru, a'r staff hynny sy'n gweithio i'n cadw'n ddiogel, hefyd, gyda'r nifer, fel rydych chi'n ei ddweud, o achosion COVID a derbyniadau i'r ysbyty yn parhau i godi.
Rwy'n sylwi bod byrddau iechyd yn ein rhanbarth ni wedi siarad dros y penwythnos am storm berffaith o dderbyniadau COVID i ysbytai, absenoldeb oherwydd salwch a swyddi gwag staff. Fel y byddech, rwy'n siŵr, yn cytuno, mae'n gwbl hanfodol bod staff a chleifion yn glir ynghylch sut olwg sydd ar y cynllun adfer, yn enwedig i'r 600,000 o bobl hynny sy'n dal i aros am driniaethau. Mae pobl yng Nghymru wedi cadw at y rheolau i helpu i'w cadw nhw, eu teuluoedd a'u cymunedau'n ddiogel, ond er gwaethaf hynny, mae achosion COVID a derbyniadau i'r ysbyty wedi parhau i godi.
Gweinidog, dim ond y cwestiwn hwn sydd gen i: a wnewch chi roi sylwadau ar y berthynas waith â Llywodraeth y DU o ran negeseuon cyhoeddus ynghylch nifer yr achosion o COVID yn ein cymunedau? Diolch. Diolch yn fawr iawn.
Diolch yn fawr. Diolch, Jane, ac mae'n hyfryd eich gweld chi yn ôl, fel y mae i weld cymaint o bobl yn ôl, ac mae'n wych gweld ychydig mwy o bobl yn y Siambr.
Hoffwn estyn fy niolch, fel yr ydych chi wedi ymestyn eich un chi, i'r timau brechu anhygoel sydd gennym, ar hyd a lled y wlad, sydd wedi gwneud gwaith gwirioneddol wych, a gobeithio eu bod i gyd yn barod i fynd ati eto gyda'r brwdfrydedd sydd wedi bod ganddyn nhw yn y gorffennol. Mae wedi bod ychydig yn rhwystredig, os ydw i'n onest, i fod wedi bod ar flaen y gad, er ein bod yn gwybod nad oedd yn ras, ond roeddem ar flaen y gad ac yna'n gorfod aros am y penderfyniad hwn gan y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu. Ond byddwn ni'n cael ein hunain yn barod cyn gynted ag y gallwn.
Sylwais ar sylwadau cadeirydd bwrdd iechyd Hywel Dda hefyd, yn sôn am y storm berffaith, ac rwy'n credu ei bod yn gywir disgrifio'r storm hon sy'n taro ein GIG ar hyn o bryd fel y storm berffaith, gan nodi wrth gwrs, rai o'r pwyntiau yr ydych chi wedi'u gwneud, bod problemau recriwtio gwirioneddol; bod problemau staffio gwirioneddol; bod problemau o ran pobl sydd wedi bod yn aros yn hir am lawdriniaeth; pobl sydd ag afiechydon acíwt. Felly, mae pob math o faterion sy'n taro ein byrddau iechyd ar hyn o bryd, ac, wrth gwrs, mae angen inni eu cefnogi. A'r ffordd orau y gallwn ni eu cefnogi yw drwy sicrhau bod yr etholwyr yr ydym ni'n eu cynrychioli yn gwneud eu gorau glas i geisio osgoi mynd i'r adran damweiniau ac achosion brys neu i feddygfeydd meddygon teulu oni bai bod yn rhaid iddyn nhw, oherwydd bod y pwysau'n wirioneddol ddwys ar hyn o bryd. Wrth gwrs, mae'r gwasanaethau hynny'n parhau i fod ar agor bob amser ar gyfer argyfyngau, a hoffwn danlinellu hynny hefyd.
O ran cynlluniau adfer, wrth gwrs mae gennym gynllun adfer eang yr oeddem ni wedi'i nodi cyn yr etholiad. Mae'n anodd iawn bwrw ymlaen â'r cynllun adfer hwnnw os byddwch yn parhau i gael eich taro gan don arall, ond, wrth gwrs, byddwn yn cadw llygad ar y rheini a byddwn yn diweddaru'r rheini pan fo angen.
O ran y berthynas waith â Llywodraeth y DU, gadewch i ni ddweud ei bod yn mynd a dod. Felly, rwy'n cael cyfarfodydd eithaf rheolaidd gyda Gweinidog pedair gwlad y DU, yn enwedig o ran iechyd. Rwy'n credu bod y negeseuon, pe bawn yn onest, rwy'n credu bod ein rhai ni ychydig yn fwy llym, gobeithio, i'r cyhoedd yng Nghymru, dim ond i sicrhau eu bod yn deall peryglon gwirioneddol lledaeniad COVID ar hyn o bryd yn ein cymunedau. Ond, yn y pen draw, mae'n rhaid i ni ddeall ein bod yn gydgysylltiedig iawn fel cenedl, ac mae'r hyn sy'n digwydd yn Lloegr yn debygol o gael effaith arnom ni yma yng Nghymru. Felly, mae angen i'r cyfraddau hynny yn Lloegr ostwng, fel y mae angen iddyn nhw ddod i lawr yng Nghymru.
Gweinidog, rwy'n clywed eich sylwadau ynghylch llawdriniaeth ddewisol a chael pobl allan o'r ysbyty i ryddhau gwelyau, ond gofynnodd fy nghyd-Aelod Russell George gwestiwn i chi—ydych chi'n cytuno bod gwasanaeth ambiwlans Cymru mewn argyfwng—a byddwn i'n ddiolchgar iawn pe gallech chi ateb y sylw hwnnw.
Ond, Gweinidog, hyd yn oed cyn y pandemig, roeddem ni'n gweld amseroedd rhestrau aros yn cynyddu, a phobl ledled Cymru yn byw gyda phoen sy'n newid bywydau. Dros y pandemig, roedd pobl yn deall y byddai oedi, ond mae'n dod i bwynt lle mae angen i ni ddechrau trin pobl. Rwy'n gwybod yn uniongyrchol sut beth yw hyn. Roedd rhywun agos iawn i mi yn berson ffit ac iach ddim mwy na dwy flynedd yn ôl. Maen nhw wedi bod yn aros am lawdriniaeth clun, ac yn awr, maen nhw ar y math cryfaf o gyffuriau lladd poen y gall meddygon eu rhagnodi, ac ni all hyd yn oed godi allan o'r gwely yn y bore heb gymorth gan ffrindiau a theulu. Rwy'n clywed am achosion fel hyn yn ddyddiol gan fy etholwyr, sy'n cymryd benthyciadau ac yn ailforgeisio eu cartrefi er mwyn gallu cael triniaeth breifat, er mwyn iddyn nhw allu byw bywyd di-boen. Ar ôl blynyddoedd o dalu i mewn i'r system, ni all hyn barhau i ddigwydd. Fe wnaethoch chi ddweud wrthyf fisoedd yn ôl y byddai angen i bobl fod yn amyneddgar, eich bod wedi rhoi arian ychwanegol i'r system ac y byddai angen i ni reoli disgwyliadau. Ond rwy'n credu bod yr amser wedi dod nawr i gymryd camau brys, ac rwy'n gofyn i chi: pa gamau allwch chi eu cymryd i fynd i'r afael â'r mater hwn cyn y bydd rhai pobl yn cael eu cyfyngu i fywyd o ofid a dioddefaint? Diolch, Dirprwy Lywydd.
Diolch yn fawr iawn, James. Ac rwy'n cydnabod bod pwysau gwirioneddol ar y gwasanaeth ambiwlans ar hyn o bryd, ond, na, ni fyddwn i'n ei ddisgrifio fel argyfwng ar hyn o bryd. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn i ni ddeall bod y pwysau'n ddwys iawn. Y mater, wrth gwrs—. Rwy'n deall yn iawn y ffaith bod 620,000 o lawdriniaethau y mae angen eu cynnal yng Nghymru. Rwy'n ymwybodol iawn o hynny, gadewch imi ddweud wrthych, fel y Gweinidog iechyd. Gwn fod pob un o'r bobl hynny'n unigolyn sydd, fel eich ffrind, yn dioddef poen, a'm cyfrifoldeb i yw eu rhyddhau o'r boen honno, ac nid wyf yn dymuno bod mewn sefyllfa lle mai'r unig ffordd o gael rhyddhad o'r boen honno yw os gallwch ddefnyddio'r sector preifat. Nid dyna lle yr ydym ni eisiau bod fel Llywodraeth, ac yn sicr rydym yn benderfynol o fynd i'r afael â'r mater hwn.
Byddwch wedi clywed ein bod wedi cyhoeddi £240 miliwn dros yr haf i fynd i'r afael â'r materion hyn, ond, a dweud y gwir, y broblem fwyaf yr ydym ni'n ei hwynebu ar hyn o bryd yw'r ffaith nad oes gwelyau yn yr ysbytai oherwydd na allwn eu cael allan o'r ysbyty oherwydd bod problem yn y gwasanaeth gofal. Er na fyddwn i'n ei ddisgrifio fel argyfwng ar hyn o bryd—y gwasanaeth gofal—mae'n dod yn eithaf agos, ac felly fy sylw ar hyn o bryd, ynghyd â'm cyd-Aelod Julie Morgan, yw ceisio gwneud yr hyn a allwn ni i ymdopi â'r gaeaf hwn o ran gofal. Rydym wedi cynnal ymgyrch recriwtio enfawr dros y tair wythnos diwethaf, gan geisio denu pobl i'r hyn sy'n swydd sy'n rhoi llawer iawn o foddhad, gan geisio cael mwy o bobl i mewn i'r sector hwnnw, fel y gallwn ryddhau'r dros 1,000 o bobl sydd yn ein hysbytai ar hyn o bryd sy'n barod i fynd adref. Felly, mae angen inni ddarparu'r cymorth hwnnw, a dyna yr ydym ni'n canolbwyntio ein sylw arno ar hyn o bryd. Rydym yn cynnal cyfarfodydd wythnosol, fel y dywedais i, gyda chynrychiolwyr Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a byrddau iechyd i sicrhau bod pawb yn deall ble mae'r cyfrifoldeb, a'r ffaith bod angen mynd i'r afael â hyn fel mater o frys.
Fe fyddwch yn ymwybodol, fel nifer o fyrddau iechyd, fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg wedi rhoi mesurau mewn grym unwaith eto i gyfyngu ymwelwyr i'w safleoedd, sydd, wrth gwrs, yn ddealladwy. Ond, unwaith eto, rydym wedi gweld cyfyngu o ran pryd gall bartner neu berson arall fod gyda dynes sy'n rhoi genedigaeth, a dim ond yn ystod y geni ac yn syth wedi'r geni mae hynny, sef active labour. Does dim ymwelwyr i'r wardiau cyn-enedigol ac ôl-enedigol chwaith, a dim ond un person o ran apwyntiadau pediatrig a neonatal. Gyda dros 20,000 o bobl yn y stadiwm wythnos diwethaf yn gwylio Cymru, a finnau'n un ohonyn nhw, dwi wedi cael galwadau ffôn ac e-byst eithriadol o emosiynol gan famau yn sôn am effaith hyn o ran eu hiechyd meddwl nhw, tadau yn sôn bod hyn yn effeithio'r bond pwysig yna rhyngddyn nhw â'u plant, ac o ran pediatrig, plant eisiau'r ddau riant yna a phlant yn crio oherwydd eu bod nhw'n methu cael y ddau riant yna gyda nhw. Oes yna unrhyw beth a allwn ni ei wneud i roi'r sicrwydd yna a sicrhau bod pobl yn cael cefnogaeth pan maen nhw ar eu mwyaf bregus ac angen y gwmnïaeth yna a hefyd cael y bond gyda'u plant, fel ei bod hi'n gydradd a ddim yn disgyn fel bod hyn yn gyfrifoldeb jest i famau yn unig?
Wel, diolch yn fawr. Dwi'n ymwybodol fod nifer o'r byrddau iechyd erbyn hyn wedi cyfyngu ar yr ymwelwyr. Dwi'n falch i weld bod yna eithriadau a bod hawl gyda phobl i fynd i'r enedigaeth, ac mae'n rhaid dweud bod hwnna eisoes yn eithriad, a dwi'n meddwl bod hwnna, wrth gwrs, yn bwysig. A dwi'n deall hefyd fod pobl yn edrych ar y stadiwm, ond mae stadiwm tu fas, a beth rydym ni'n sôn amdano yw awyrgylch sydd tu fewn lle mae yna eisoes lot o haint. Mae'n rhan o'n swydd ni i ddiogelu pobl rhag yr haint yma, ac felly dwi'n ymwybodol iawn bod yna bosibilrwydd y byddwch chi'n sefyll lan yr wythnos nesaf a gofyn i fi pam mae cymaint o haint yn ein hysbytai ni, pam mae cymaint o bobl yn dal COVID yn ein hysbytai ni. Felly, mae'r balans yma yn rili anodd, a dyna pam dwi'n falch bod yna eithriad, bod o leiaf pobl yn gallu mynd i weld eu plant nhw yn cael eu geni, ond dwi'n deall y sensitifrwydd eu bod nhw eisiau bod yna ar ôl y geni hefyd. Ond mae'n rhaid i ni adael i'r byrddau iechyd edrych ar y sefyllfa yn eu cymunedau nhw a gwneud y galwad, achos mae'r galwad yna yn rhywbeth sy'n glinigol, sy'n bwysig hefyd, mae'n rhaid iddyn nhw ei ystyried.
Ac yn olaf, Laura Anne Jones.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Diolch i chi am y datganiad hwnnw, Gweinidog. Rwyf yn croesawu ac yn cefnogi'r penderfyniad yr ydych chi wedi dod iddo y dylai pobl ifanc 12 i 15 mlwydd oed gael y cyfle nawr i gael eu brechu, ac mae hefyd yn wych gweld pwysigrwydd cadw ein plant mewn ysgolion a'u haddysgu mewn ysgolion yn ffactor wrth wneud y penderfyniad hwnnw. Yn amlwg, mae'n hollbwysig ein bod yn cadw ein plant yn yr ysgol gymaint â phosibl, ac mae'n bwysig hefyd, wrth i'r plentyn wneud y penderfyniad terfynol hwnnw ynghylch a ddylai gael ei frechu, fod rhieni a phlant yn cydweithio i ddod i'r casgliad hwnnw ynghylch a ddylent gael y brechiad. Fel y gwyddom ni, mewn rhai achosion, ni fydd hynny'n digwydd. Nawr, fel rhiant i blentyn 11 mlwydd oed, bron yn 12 mlwydd oed, rwy'n poeni braidd amdano'n dod i gasgliad gwahanol nag y byddwn i yn dymuno iddo ddod iddo, ac mae fy mhryderon yn canolbwyntio ar y wybodaeth fydd yn cael ei rhoi iddo a sut mae hynny'n cael ei gyflwyno iddo fel sydd eisoes wedi'i amlinellu gan Rhun a Russell. Ond sut ydym ni'n mynd i estyn allan at y plant hynny a sut ydym ni'n mynd i ymgysylltu â nhw, ac ehangu ar bryderon y comisiynydd plant hefyd, mae angen i ni sicrhau bod ansawdd y wybodaeth yno a bod effaith eu penderfyniad hefyd yn cael ei chynnwys. Ydyn ni'n mynd i ddefnyddio fideos? Oherwydd ni allaf ddychmygu fy mhlentyn i, er enghraifft, yn darllen drwy lwythi o bapurau, neu gyfwerth ar-lein. Felly, roeddwn i eisiau cael eich sicrwydd ynghylch hynny, ein bod yn mynd i ymgysylltu'n weithredol â phlant mewn ffordd y byddan nhw'n ymateb iddi—
Mae'r Aelod wedi cael ei hamser. Mae'n ddrwg gennyf, ond bydd yn rhaid i ni stopio a gofyn y cwestiwn yn y fan yna.
Diolch yn fawr, Laura. Rwy'n falch iawn ein bod ni'n mynd i, gobeithio, allu cadw mwy o'n plant yn yr ysgol. Rydym yn ymwybodol iawn o'r ffaith, ar gyfer plentyn, os bydd yn colli chwe mis o addysg, y bydd, yn ystod eu hoes, yn debygol o golli tua £37,000 o ran enillion. Felly, mae effaith uniongyrchol ar y plant hyn, ac rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn nad ydym yn colli golwg ar hynny. Dyna pam rydym mor awyddus i gadw ein plant yn yr ysgol.
O ran y wybodaeth sy'n cael ei rhoi allan, byddwn ni'n sicrhau ein bod yn trafod ein syniadau gyda'r comisiynydd plant i sicrhau ein bod yn cael adborth yn uniongyrchol, efallai, gan blant cyn i ni anfon pethau allan. Rhaid i ni anfon y pethau hyn allan yn eithaf cyflym, ond mae llawer o'r gwaith hwnnw eisoes wedi'i gomisiynu. Rwy'n siŵr y bydd gennych ddiddordeb mewn gwybod hefyd, pan fyddwch chi'n derbyn y pigiad Pfizer, fod gennych tua 15 munud i aros. Ac un o'r pethau rwy'n falch iawn y byddwn ni'n gallu ei wneud yw defnyddio'r 15 munud hwnnw i roi cyngor iechyd llawer ehangach i bobl. Mae'r mater iechyd cyhoeddus yng Nghymru yn rhywbeth yr wyf yn gwbl benderfynol o fynd i'r afael ag ef. Felly, tra bod pobl yn aros, gobeithio y byddan nhw'n gallu cael llawer o gyngor iechyd cyhoeddus. Yn sicr, mae fideos wedi'u comisiynu ar gyfer hynny, ond byddaf yn gwirio i sicrhau ein bod wedi comisiynu'r fideos hynny i blant hefyd.
Diolch, Weinidog.