– Senedd Cymru am 3:19 pm ar 13 Hydref 2021.
Croeso yn ôl. Yr eitem nesaf yw eitem 5, dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21, manteision cymunedol prosiectau ynni. Galwaf ar Rhun ap Iorwerth i wneud y cynnig.
Cynnig NDM7794 Rhun ap Iorwerth
Cefnogwyd gan Adam Price, Altaf Hussain, Delyth Jewell, Heledd Fychan, Janet Finch-Saunders, Luke Fletcher, Sioned Williams, Tom Giffard
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi pwysigrwydd ynni adnewyddadwy wrth geisio lleihau ein hôl-troed carbon.
2. Yn cytuno bod angen sicrhau bod pob datblygiad ynni yn dod a budd i’r cymunedau lle’u lleolir.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru, unai drwy reoliadau neu ddeddfwriaeth newydd, i fynnu bod datblygwyr prosiectau ynni yn gorfod profi budd cymunedol eu datblygiadau arfaethedig drwy orfod cynnal asesiad effaith cymunedol a chyflwyno cynllun budd cymunedol fel rhan o’r broses gynllunio.
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd, a dwi'n ddiolchgar i'r Pwyllgor Busnes yn gyntaf am roi'r cyfle imi gael rhoi'r cynnig yma o flaen y Senedd heddiw, a dwi'n ddiolchgar hefyd i'r Aelodau sydd wedi cefnogi'r cynnig sydd o'n blaenau ni.
Mae'n ddadl amserol iawn, dwi'n credu. Dyma ni ar drothwy cynhadledd y COP26 yn Glasgow. Nes ymlaen y prynhawn yma, mi fydd Plaid Cymru yn arwain dadl ar y sector ynni a'r argyfwng hinsawdd a natur.
Mae pwynt 1 yn fy nghynnig i yn gofyn inni nodi pwysigrwydd ynni adnewyddadwy wrth geisio lleihau ein hôl troed carbon. Dwi ddim yn meddwl bod unrhyw un yn mynd i anghytuno efo hynny. Mae ynni, y ffordd rydym ni'n defnyddio ynni, y ffordd rydym ni'n ei arbed o, ei ddosbarthu o, ac, ie, y ffordd rydym ni'n ei gynhyrchu fo, yn faterion cwbl, cwbl greiddiol i ba mor llwyddiannus rydyn ni'n am allu bod yn y frwydr yn erbyn newid hinsawdd. Ond mae ein perthynas ni efo ynni hefyd yn gwbl greiddiol i'n bywydau bob dydd ni, ac, mi fyddaf i'n dadlau y prynhawn yma, yn gallu gall cael effaith fawr ar y math o gymunedau rydym ni'n byw ynddyn nhw.
Dwi'n gofyn i'r Senedd yma gydsynio efo'r gosodiad yn ail gymal y cynnig, sef ein bod ni'n cytuno bod angen sicrhau bod pob datblygiad ynni yn dod â budd i'r cymunedau lle maen nhw wedi'u lleoli, ac mae hyn mor bwysig, dwi'n credu. Mae gennym ni fel gwlad gymaint i'w gynnig o ran datblygiadau ynni; mi allen ni fod yn cyflenwi nid yn unig ein hanghenion ein hunain mewn ynni glân, mewn ynni carbon isel ac ynni adnewyddadol, ond mi allen ni hefyd fod yn allforiwr mawr hefyd, a hynny'n gallu dod â budd economaidd sylweddol yn ogystal â buddiannau amgylcheddol mawr.
Ond pan ydym ni'n gofyn i gymunedau gynnig cartref i ddatblygiadau o'r fath, mae eisiau sylweddoli eu bod nhw'n gallu cael impact sylweddol, felly, mae eisiau cefnogi'r cymunedau hynny ac ystyried eu hanghenion a'u dyheadau nhw fel cymunedau. Mi allaf i gyfeirio at un cynllun ynni arfaethedig ym Môn sy'n bodoli oherwydd ei gymuned—cynllun Morlais i greu ardal ddatblygu ynni llif llanw oddi ar arfordir gorllewin Môn, sy'n cael ei redeg gan fenter gymdeithasol, Menter Môn, i gadw'r elw yn lleol. Mae yna lu o brosiectau ynni cymunedol eraill ar draws Cymru. Bues i'n ymweld ag Ynni Ogwen ddim llawer iawn yn ôl. Dwi'n croesawu'r egwyddor yn nharged y Llywodraeth o sicrhau y dylai o leiaf 1 GW o ynni adnewyddadol yng Nghymru fod o dan berchnogaeth leol erbyn 2030, ac mi wnaf i'ch atgoffa chi mai un o brif swyddogaethau cwmni ynni Cymru y mae Plaid Cymru mor benderfynol o'i weld yn cael ei sefydlu—efo'i bencadlys yn Ynys Môn, gobeithio—fyddai i gydlynu a chefnogi a hyrwyddo prosiectau ynni cymunedol. Ond lleiafrif bach, wrth gwrs, ar hyn o bryd, o gynhyrchu ynni sy'n digwydd yn y ffordd yma.
Gadewch imi gyferbynnu'r math yna o weledigaeth efo beth sy'n digwydd yn Ynys Môn ar hyn o bryd ym maes ynni solar. Mae penderfyniadau diweddar gan Lywodraeth Cymru i glustnodi rhannau mawr o Ynys Môn fel ardal datblygu ynni solar wedi creu cyfle i gwmnïau mawr rhyngwladol gael llwybr haws at ganiatâd i greu ffermydd solar enfawr. Mae'r canlyniadau i'w gweld yn barod. Mae o'n reit frawychus pa mor gyflym mae pethau wedi digwydd. Mae Enso Energy wedi cyhoeddi cynlluniau am fferm solar 750 erw; mae cynlluniau Lightsource BP i gynhyrchu 350 MW o ynni solar yn ymestyn dros 2,000 erw; mae'r cwmni Low Carbon wedi adnabod dros 150 erw ar gyfer fferm solar Traffwll; mae EDF wedi prynu safle 190 erw efo caniatâd yn barod am fferm solar yng ngogledd yr ynys, ac mae hynny ar ben y cynlluniau sydd wedi'u datblygu'n barod. Rydym ni'n sôn yn fan hyn am am ardaloedd enfawr, yn cynnwys, wrth gwrs, Môn Mam Cymru, tir amaethyddol da, ac rydym ni'n sôn am y cymunedau o gwmpas yr ardaloedd ac o fewn yr ardaloedd hynny.
Does gen i ddim amheuaeth y gall Ynys Môn wneud cyfraniad mawr mewn datblygiadau ynni solar, ond y gwir amdani ydy bod y cynlluniau ar y bwrdd yn mynd i adael ôl troed enfawr ar ardaloedd o gefn gwlad efo ychydig iawn, iawn o fudd i'r cymunedau hynny—does yna prin ddim swyddi a dim disgwyliad o ran budd ehangach yn ariannol neu fel arall. Beth mae datblygwyr yn ei honni fel budd lleol? Mae gwefan EDF yn brolio y bydd £10,000 yn cael ei dalu fel budd cymunedol yn flynyddol—dim ond £10,000. Mae datblygwyr fferm Alaw Môn yn gwahodd syniadau am gynllun neu brosiect cynaliadwy yn yr ardal. Maen nhw hefyd yn addo y bydd eu cynllun nhw'n rhoi'r cyfle i orffwys tir sydd wedi cael ei ffermio'n ddwys— ymgais, dwi'n meddwl, sydd yn ddigon sarhaus i roi sbin ar golli tir amaethyddol da.
Beth mae hyn yn ei ddweud wrthym ni ydy nad oes yna ddim byd ar hyn o bryd i drio sicrhau bod yna fudd cymunedol o gwbl, a dyna pam, yn y cynnig yma, dwi'n galw ar Lywodraeth Cymru, un ai drwy reoliadau neu ddeddfwriaeth newydd, i fynnu bod datblygwyr prosiectau ynni yn gorfod profi budd cymunedol eu datblygiadau arfaethedig drwy orfod cynnal asesiad effaith cymunedol a chyflwyno cynllun budd cymunedol fel rhan o’r broses gynllunio.
Mi allai budd go iawn ddod ar sawl ffurf. Budd ariannol sylweddol ydy'r ffurf fwyaf amlwg. Ond, mewn e-bost ataf i y bore yma yn amlinellu taliadau i gymunedau y maen nhw'n dweud y maen nhw'n eu gwneud, yn deillio o nifer o'u prosiectau ynni nhw yng Nghymru, mae cwmni ynni RWE yn dweud hyn:
'Mae darparu budd cymunedol o ddatblygu ynni adnewyddadwy yn digwydd yn wirfoddol ar hyn o bryd.'
A dyna un o'r problemau. Mi wnes i gyflwyno cynnig am ddeddfwriaeth newydd i'r Senedd yn ddiweddar, ar ôl i dîm deddfwriaethol y Senedd gadarnhau y byddai angen deddfwriaeth sylfaenol i fynnu asesiad o fudd cymunedol o'r math yma. Ches i ddim fy nhynnu o'r balot, ond mae'r ddadl yn sicr yn dal yn fyw gen i. Yn y cyd-destun hwnnw, dwi'n croesawu datganiad RWE heddiw:
'Rydym yn cefnogi'r cysyniad y dylid deddfu ar gyfer swm safonol o fudd cymunedol am bob megawat neu fegawat awr a gynhyrchir o brosiectau sy'n mynd yn eu blaenau.'
Mi fyddai hynny, dwi'n meddwl, yn gam pwysig ymlaen. Ond mi all budd ddod mewn ffyrdd eraill hefyd. Mi all o olygu addewidion go iawn am swyddi—bwrlwm economaidd o'r math yna—cryfhau cadwyni cyflenwi; biliau ynni rhatach, neu, o bosib, yn fwy gwerthfawr yn amgylcheddol, fuddsoddiad mewn effeithlonrwydd ynni o fewn y cymunedau hynny; rhwydweithiau gwefru cerbydau trydan; batris cartref neu ynni solar cartref wedi cael ei sybsideiddio. Beth am rannu elw go iawn efo cymunedau? Prynu caniatâd am fferm solar y gwnaeth EDF. Beth am yr elw y gwnaeth y cwmni a wnaeth gael y caniatâd hwnnw a'i werthu fo ymlaen? Mi ddylai cyfran o'r elw a wnaeth y cwmni yna, dwi'n credu, aros yn lleol.
Ond nid dim ond rhestru buddion o'r math yna y byddwn i am i ddatblygwyr orfod ei wneud drwy gynnal asesiad effaith cymunedol. Mi fyddai angen mesur impact go iawn ar hagru cefn gwlad, ar golli amwynder gwyrdd sy'n bwysig iawn, iawn i ni; yr effaith ar bris eiddo o fewn y cymunedau hynny, a safon byw pobl hefyd. Mae hynny'n rhywbeth sy'n anodd rhoi pris arno fo, o bosib, ond sydd mor, mor bwysig. O ystyried bod yr impact o gynllun unigol, neu effaith gronnol cynlluniau lluosog, a dyna'r broblem rydyn ni'n ei hwynebu yn Ynys Môn—. O ystyried yr impact yna, beth byddwn i'n dymuno ei weld wedyn fyddai ymdrechion i ddarparu'r cynhyrchiant ynni yna rydym ni'n ei angen mewn ffyrdd gwahanol.
Yn hytrach na defnyddio bloc o filoedd o aceri, beth am gannoedd o flociau llai, yn dilyn, o bosib, llinellau dosbarthu ynni—mwy o dirfeddianwyr yn elwa ychydig, yn hytrach nag ychydig o dirfeddianwyr yn elwa llawer iawn? Beth am, drwy gryfhau'r system ddosbarthu, ddefnyddio toeau siediau amaethyddol, toeau ffatrïoedd, eglwysi, capeli, ysgolion, canolfannau cymunedol ac ati? Beth am osod paneli cyfochrog efo cloddiau a ffiniau tir dros ardaloedd eang, gan greu coridorau cyfoethog mewn bioamrywiaeth tra'n cadw'r caeau eu hunain yn gynhyrchiol? Beth am ymylon ffyrdd? Un syniad arall a gafodd ei basio ymlaen i mi heddiw: defnyddio canol yr A55, hyd yn oed, ar gyfer paneli solar. Wn i ddim; mae'n bosib bod hynny'n bosib.
Gadewch inni feddwl y tu allan i'r bocs. Drwy fod yn greadigol, dwi'n meddwl y gallwn ni gynhyrchu ynni ar raddfa eang iawn tra'n gweithio efo, yn hytrach nag yn erbyn, cymunedau. Dwi wedi sôn am solar yn bennaf heddiw, achos mai dyna'r prif fater sydd yn ymwneud â phrosiectau ynni o'r math yma yn Ynys Môn, ond mi allai fo gynnwys pob mathau o ddulliau o gynhyrchu ynni eraill hefyd.
Mae rhai wedi dadlau efo fi bod peidio â meddwl yn y ffordd greadigol yma hyd yn oed yn gallu creu'r risg o droi pobl yn erbyn prosiectau ynni adnewyddol, a rhwystro cynnydd, pan mai un o'r gwobrau net sero mawr, siawns, fyddai gallu ymgysylltu a hwyluso cymunedau yn effeithiol i ddatgarboneiddio. Rydym ni eisoes yn gweld cryn rwystredigaeth yn lleol, mae'n rhaid dweud, yn sgil colli dylanwad dros ba un a gaiff cynlluniau ganiatâd ai peidio, ond mi fyddai, dwi'n meddwl, cynnal asesiadau effaith cymunedol yn dod â'r gymuned yn ôl at galon penderfyniadau cynllunio ar ynni. Dwi'n edrych ymlaen i glywed cyfraniadau y prynhawn yma ac ymateb y Llywodraeth.
Diolch am gyflwyno'r ddadl hon, Rhun, ac er bod gennych rai pryderon am solar, mae'n deg dweud, ar hyd arfordir gogledd Cymru, fod y pryderon hynny bellach yn ymestyn i gynnwys y prosiectau ffermydd gwynt enfawr sydd ar y ffordd.
Ddirprwy Lywydd, gwyddom fod tua 58,000 yn gweithio yn y sector ynni a'r sector amgylchedd yng Nghymru, gan gynhyrchu dros £4.8 biliwn mewn refeniw, ac mae'r sector hwn wedi'i baratoi i gael ei ehangu'n barhaus dros y blynyddoedd nesaf. Ar hyn o bryd mae gan Gymru 86 o ffermydd gwynt gweithredol, potensial i gynhyrchu tua 10 GW o ynni morol, sector ynni solar aeddfed, ac amrediad llanw sy'n gallu darparu cyfleoedd cynhyrchu sylweddol ar hyd arfordir Cymru.
Roedd Rheoliadau Strategaeth Forol 2010 yn ei gwneud yn ofynnol i Lywodraeth Cymru gymryd y camau angenrheidiol i gyflawni neu gynnal statws amgylcheddol da dyfroedd morol erbyn 31 Rhagfyr 2020, a gwn na lwyddwyd i wneud hynny erbyn y dyddiad hwnnw. Mae bioamrywiaeth forol yn parhau i ddirywio. Beth am wrthdroi'r duedd drwy weld y ffermydd gwynt ar y môr a chysylltwyr gwely'r môr yn cael eu defnyddio fel sail ar gyfer adfer ecosystem gwely'r môr a dal a storio carbon glas?
Rwyf wedi bod yn cynnal trafodaethau adeiladol iawn gyda'r Athro Chris Baines sy'n byw yn fy etholaeth i, ac mae'n awdur enwog ar faterion o'r fath. Mae wedi amlinellu'n briodol, os gall ffermydd gwynt ddod—. Os ydynt yn mynd i fod yno, a allant ddod yn warchodfeydd gan aflonyddu cyn lleied â phosibl ar wely'r môr? Ac os gellir cyfuno hyn ag adfer cynefinoedd yn rhagweithiol ar ffurf pethau fel gosod riffiau artiffisial ar waelod y tyrbinau, gallai'r seilwaith ynni gwynt wneud cyfraniad unigryw a chadarnhaol tu hwnt i adferiad morol a charbon sero-net, tra'n cydymffurfio â'n nodau bioamrywiaeth a chadwraeth. Felly, Weinidog, a gaf fi ofyn pa gamau a gymerir gennych i annog datblygwyr ynni adnewyddadwy yn y dyfodol i gymryd rhan mewn prosiectau o'r fath i adfywio cynefinoedd morol Cymru? Pa gamau a gymerir gennych i annog dargyfeirio gwariant cymunedol tuag at ymdrechion plannu, fel rhai dolydd morwellt, y gwyddys eu bod yn dal carbon hyd at 35 gwaith yn gyflymach na choedwigoedd glaw trofannol?
Byddai argymhelliad y Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar ar gyfer cynllun datblygu morol yn rhoi eglurder ynghylch faint o ddatblygiad sy'n gynaliadwy ym moroedd Cymru, a lle sydd orau i'w leoli. Wrth ateb cwestiwn ysgrifenedig i chi, Weinidog, fe wnaethoch gadarnhau bod Llywodraeth Cymru yn dechrau rhaglen waith ddwy flynedd i fapio adnoddau strategol posibl. Felly, gyda hyn mewn golwg, a wnewch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am gynnydd y gweithgaredd mapio hwn a chadarnhau dyddiad ar gyfer cyflawni i ni heddiw?
Amcangyfrifodd adroddiad gan Zero Waste Scotland y bydd cynifer â 5,613 o dyrbinau yn cael eu datgomisiynu rhwng 2021 a 2050, gan gynhyrchu rhwng 1.25 miliwn ac 1.4 miliwn tunnell o ddeunydd. Ac wrth gwrs, rwyf wedi mynegi pryderon fy hun yn ddiweddar ynglŷn â sut na ellir ailgylchu llafnau'r tyrbin ar hyn o bryd. Felly, yn Nenmarc, mae'r Re-Wind Network yn addasu'r strwythurau hyn yn wahanol elfennau pensaernïol, megis llochesi beiciau a phontydd troed. Mae gan Rotterdam faes chwarae 1,200 metr sgwâr i blant sy'n cynnwys tŵr sleidiau, twnelau a rampiau, a'r cyfan wedi'i greu o lafnau tyrbinau gwynt a ddatgomisiynwyd. Pa gamau a gymerir gennych i gynhyrchu data ar y broses o ddatgomisiynu ffermydd gwynt, Weinidog? Ac a wnewch chi ymrwymo i weithio gyda datblygwyr newydd i gyflwyno gofyniad yn galw arnynt i ymrwymo ymlaen llaw i addasu eu hoffer at ddibenion gwahanol mewn ffordd sydd o fudd i'n cymunedau, a'n hamgylchedd yn wir?
Yn olaf, mae'r Gweinidog yn gwybod bod prosiectau ffermydd gwynt ar y môr Awel y Môr, BP Morgan a Mona yn peri pryder mawr i lawer. Yn wir, pan ddatblygir y rhain, dywedodd sawl arbenigwr yn y maes y bydd gormod o dyrbinau gwynt ar arfordir gogledd Cymru. Hyd yma, mae un o bwyllgorau Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi dangos eu gwir wrthwynebiadau i gynllun enfawr Awel y Môr. Ni all fod yn iawn fod cyn lleied o ddiogelwch i'n pysgotwyr a fydd, Weinidog—mewn gwirionedd, wyddoch chi, gallai eu bywoliaeth gael ei bygwth gan gynllun ar y gorwel agos, 10.6 km yn unig oddi ar yr arfordir. Rydym mewn argyfwng natur, ac eto mae perygl gwirioneddol y gallai'r cynlluniau hyn gael effaith andwyol ar rywogaethau morol, ein cynnig twristiaeth, ac yn wir—
A wnaiff yr Aelod ddod i ben yn awr, os gwelwch yn dda?
Iawn. Ac, yn wir, effaith pethau gweledol yn y nos ar ein hawyr dywyll werthfawr. Mae arnom angen ynni adnewyddadwy, ond rwy'n erfyn ar Lywodraeth Cymru, a'r Gweinidog, i sicrhau bod unrhyw gynlluniau ynni adnewyddadwy newydd, fod yna gydbwysedd perffaith iach rhwng ein hymdrechion bioamrywiaeth a chadwraeth. Diolch.
Alun Davies.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Diolch hefyd i Rhun ap Iorwerth am gyflwyno'r ddadl hon. Pan oeddwn yn darllen y papur trefn a theitl y ddadl—budd cymunedol ynni—y gair a oedd yn sefyll allan i mi oedd 'cymuned' wrth gwrs, ac mae'n rhywbeth sy'n mynd yn angof yn aml iawn pan soniwn am gael cymysgedd ynni llawer cyfoethocach na'r hyn sydd gennym ar hyn o bryd. A hoffwn roi'r gair 'cymuned' yn ôl i mewn yn ein polisi ynni.
Rwy'n falch iawn fod y ddau Weinidog yma gyda ni y prynhawn yma. Yn y gorffennol, mae'n debyg ei bod yn wir fod peirianwaith y Llywodraeth wedi gweithio yn erbyn cael polisi ynni Cymreig yn hytrach na'i alluogi. Yn sicr, pan oeddwn yn y Llywodraeth gyda chyfrifoldeb am ynni, roeddwn yn un o dri Gweinidog yn y Cabinet hwnnw a oedd yn gyfrifol am ynni, a'r canlyniad anochel, wrth gwrs, oedd bod gennym dri pholisi ynni yn lle un, ac ni lwyddasom i gyflawni fawr ddim heblaw cyhoeddi cynlluniau a strategaethau, oherwydd bod yna lefel o ddryswch. Nid oedd y Llywodraeth yn gwybod beth oedd ei pholisi, a chredaf fod cyfle yn awr, gyda pheirianwaith newydd y Llywodraeth, iddi gael syniad clir o'r hyn y mae'n ceisio'i gyflawni, ond yn bwysicach, o sut y mae'n bwriadu ei gyflawni.
Credaf fod angen inni edrych yn fanwl ar beth fydd y cymysgedd ynni yn y dyfodol. Mae'r newyddion diweddar am—[Torri ar draws.] Ie, os gadewch i mi orffen y frawddeg. Mae'r newyddion diweddar am ddatblygu adweithyddion niwclear modiwlar yn newyddion da yn fy marn i. Mae'n ddigon posibl y bydd yn newyddion da i sir Fôn; mae'n ddigon posibl y bydd yn newyddion da i safleoedd eraill hefyd, a newyddion da o ran gostwng ein hallbwn carbon ar yr un pryd â sicrhau cyflenwad sylfaenol.
Diolch. Roedd eich sylwadau'n ddiddorol iawn, ond oni chredwch ei bod braidd yn siomedig i unrhyw un sy'n gwylio'r ddadl hon fod y ddau Weinidog ar eu ffonau?
Nac ydw. Rwy'n credu bod angen inni godi lefel y ddadl yn hytrach na cheisio ei gostwng. Wyddoch chi, Jayne—? Rwy'n edrych arnoch chi, Jayne. Janet, hoffwn erfyn arnoch i wneud mwy na darllen araith, a deall beth y mae'n ei feddwl, ac mae'n mynd y tu hwnt i ddarllen geiriau rhywun arall. A chredaf ei bod yn bwysig—[Torri ar draws.] Rwy'n credu ei bod yn bwysig inni gael sgwrs ddifrifol ynglŷn â ble mae hyn yn mynd. Felly, gadewch i mi wneud cynnydd, os gwelwch yn dda.
Rwy'n deall yr hyn y mae'r Llywodraeth newydd yn ceisio'i gyflawni, ac rwy'n derbyn ac yn cytuno'n gryf â'r hyn y mae'r ddau Weinidog yma wedi'i ddweud, ar wahanol adegau, am eu huchelgeisiau a beth yw eu gweledigaeth. Hoffwn ddweud hyn wrthynt: cadwch lygad barcud ar bethau. Yn aml iawn, soniwn am y setliad diffygiol a gawn fel rhywbeth drwg, ond yn yr achos hwn, mewn gwirionedd, o safbwynt ynni, mae'n golygu y gallem ganolbwyntio'n llawer gwell ar yr agweddau cymunedol o ran ble'r ydym arni. A fy mhryder yw y byddem yn mynd ar hyd y llwybr y mae Rhun a Janet wedi'i ddisgrifio, lle mae gennym ddatblygiadau ar raddfa fawr iawn sy'n amhriodol i'r lleoedd lle cânt eu gosod a'u lleoli, a hefyd yn amhriodol o ran yr hyn y dymunwn ei gyflawni yn rhan o bolisi hinsawdd ehangach a pholisi cymunedol ehangach.
I mi, hoffwn weld Llywodraeth Cymru yn canolbwyntio ar gynhyrchu gwasgaredig; canolbwyntio ar yr hyn y gall cymuned ei wneud er mwyn cynhyrchu ar gyfer ei anghenion hi ac ar gyfer anghenion yr ardal leol. Mae gennyf ddiddordeb mewn deall sut y bydd y Gweinidog, wrth ymateb i'r ddadl hon, yn siarad ynglŷn â sut y gallwn gyflawni'r mecanweithiau a'r dulliau angenrheidiol i gael cynhyrchiant lleol i ddarparu ynni ar gyfer anghenion lleol, yn ogystal â chyfrannu at grid. Ac rwyf am weld Llywodraeth Cymru yn gweithio ar hyn.
Pan oeddwn yn gwneud ymchwil ar hyn yn ddiweddar, sylweddolais mai'r tro diwethaf i Lywodraeth Cymru lanlwytho unrhyw wybodaeth am ynni cymunedol i'w gwefan oedd bum mlynedd yn ôl. Ychydig iawn o waith a wnaed gan Lywodraeth Cymru yn y Senedd ddiwethaf ar sut yr awn ati i ddarparu ynni cymunedol. Roedd y gwerthusiad o'r cynllun ynni cymunedol blaenorol, Ynni'r Fro, yn eithaf cymysg, ond nid yw hynny o reidrwydd yn beth drwg oherwydd fe ddysgwyd gwersi. Gwnaed rhai o'r camgymeriadau wrth geisio darparu cynllun am y tro cyntaf, ac mae hynny bob amser yn mynd i ddigwydd. Ond nid ydym yn dysgu gwersi o hynny a'i gymhwyso mewn ffordd newydd, gyda chynlluniau newydd i gefnogi adfywio cymunedol. Ac o ganlyniad, mae'r rheini ohonom sy'n cynrychioli gwahanol rannau o'r wlad hon yn cael ein rhoi yn y sefyllfa ofnadwy o orfod dweud, 'Ydym, rydym yn cefnogi ynni adnewyddadwy, ond a ydym yn cefnogi diwydiannu cymuned mewn gwirionedd, diwydiannu tirwedd yr ydym am ei diogelu ar yr un pryd?' Ac nid ydym am fod yn y sefyllfa honno, ond cawn ein gorfodi i'r sefyllfa honno gan nad oes gennym bolisi ynni cyfoethog sy'n cyflawni'r cynhyrchiant cymunedol a'r cynhyrchiant gwasgaredig sy'n golygu y gallwn gyflawni ein huchelgeisiau hinsawdd, ein huchelgeisiau ynni, ein huchelgeisiau cymdeithasol a'n huchelgeisiau economaidd. Ac rwy'n credu—. A gallaf weld hyd yn oed heb fy sbectol, Ddirprwy Lywydd, fy mod yn profi eich amynedd. [Chwerthin.]
Felly, dof â fy sylwadau i ben, ond rwy'n gobeithio y bydd y Gweinidog, wrth ymateb i'r ddadl hon, yn gyntaf oll, yn ymrwymo i lansio cynllun ynni cymunedol cyn gynted â phosibl o fewn y Senedd hon a dysgu gwersi o gynlluniau'r gorffennol; ac y bydd yn sicrhau y bydd peirianwaith y Llywodraeth sydd gennym yn awr, sydd, yn fy marn i, yn welliant mawr ar yr hyn a fu gennym yn y gorffennol, yn gallu darparu polisi ynni sy'n golygu ein bod yn cyflawni ein huchelgeisiau, o ran ein gweledigaeth a'r modd y ceisiwn ei gwireddu.
Rhoddais amser ychwanegol am eich bod wedi cael ymyriad, ond fe wnaethoch ei ymestyn braidd. [Chwerthin.] Altaf Hussain.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n falch iawn o fod yn un o gyd-gyflwynwyr y ddadl hon. Fel gwlad, mae gennym dirwedd a morwedd anhygoel, sy'n llawn o fynyddoedd gwyntog ac arfordiroedd ysblennydd, gyda'r gallu i gynhyrchu ynni gwyrdd mewn ffordd a fyddai o fudd nid yn unig i gymunedau Cymru, ond a fyddai'n ychwanegu'n sylweddol at anghenion ynni'r DU yn y dyfodol.
Wrth gwrs, mae potensial i ynni gwyrdd ddarparu nifer fwy o swyddi yn y dyfodol, swyddi medrus iawn ar gyflogau gwell yn datblygu ac adeiladu'r technolegau newydd i ateb ein hanghenion ynni. Chwyldro diwydiannol newydd sy'n addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain. Mae Llywodraeth Cymru wedi sôn am y twf posibl yn yr economi werdd, ac er fy mod yn croesawu datblygu ac adfywio economaidd yn seiliedig ar ddefnyddio potensial ein hamgylchedd, gwn fod angen canolbwyntio datblygiadau ynni hefyd ar y budd y gall buddsoddiadau o'r fath ei gynnig i gymunedau lleol.
Wrth gwrs, ceir budd lleol amlwg i seilwaith, a'r gobaith o gael gwaith ym maes cynllunio a pheirianneg, ond ceir llawer o enghreifftiau hefyd o brosiectau ynni sydd wedi gweithio i ddarparu budd ychwanegol i'w cymunedau lleol. Ymhlith yr enghreifftiau o fudd o ddatblygiadau ynni, mae mesurau i fynd i'r afael â thlodi tanwydd, gyda chronfeydd ar gael i gefnogi ôl-osod cartrefi lleol i'w gwneud yn fwy effeithlon o ran eu defnydd o ynni.
Mae rhai cwmnïau wedi buddsoddi mewn cronfeydd cymunedol, wedi'u sefydlu a'u rheoli'n lleol gan bobl leol, gan ddarparu grantiau i sefydliadau a phrosiectau, nid yn unig fel cyfraniad untro ond fel buddsoddiad cymunedol parhaus. Mewn rhai achosion, mae'r cronfeydd lleol hyn wedi defnyddio cannoedd o filoedd o bunnoedd.
Fodd bynnag, ceir heriau i'r Llywodraeth. Mae angen i Weinidogion ddeall potensial eu rôl fel galluogwyr. Mae angen mwy o uchelgais yn y Llywodraeth i weithio gyda diwydiant i ddarparu prosiectau ynni newydd a fydd yn newid proffil economaidd Cymru er gwell, yn cynyddu'r cyflenwad o swyddi a'u hamrywiaeth, ac yn cynnal budd lleol i'r gymuned.
Er mwyn denu datblygiadau yng Nghymru, mae arnom angen pobl sydd â'r weledigaeth a'r sgiliau i fynegi pam y dylai datblygwyr ynni fuddsoddi yma. Pam dod yma pan allent fuddsoddi mewn mannau eraill yn y DU? Beth sydd yna am Gymru sy'n gwneud datblygu yma yn gynnig deniadol? Os yw'r Llywodraeth am gael chwyldro swyddi gwyrdd, mae angen iddi feithrin perthynas â phobl yn y sector—ni fydd uchelgais ar ei ben ei hun yn gwneud iddo ddigwydd. Ac mae angen iddi fod yn berthynas lle mae datblygwyr yn deall y pwyslais a roddwn ar gymuned, defnyddio budd buddsoddiad a chydweithio i adeiladu Cymru fwy gwyrdd, heb anghofio ein bod, yma yng Nghymru, yn agos iawn at natur, ac nid ydym am ddifetha hynny drwy godi tyrbinau 850 troedfedd o uchder, a gwneud ein Cymru'n hyll, fel a gynlluniwyd ar gyfer Y Bryn. Diolch yn fawr iawn, Lywydd.
Bûm ar ymweliad amserol iawn yr wythnos diwethaf â fferm wynt Pen y Cymoedd. I unrhyw un nad yw'n gyfarwydd â'r lle, dyma'r fferm wynt ar y tir fwyaf yng Nghymru a Lloegr, ac mae'n rhedeg ar hyd pen uchaf fy etholaeth i a sawl etholaeth arall. Mae ganddi 76 o dyrbinau, a phrin fod un ohonynt i'w weld o lawr y dyffryn, ac mewn blwyddyn gyfartalog bydd yn pweru'r hyn sy'n cyfateb i 188,000 o gartrefi. I roi hynny mewn persbectif, dyna oddeutu 15 y cant o aelwydydd Cymru—cyfraniad gwirioneddol bwysig. Mae hefyd wedi rhoi llawer o arian i mewn i economi Cymru; aeth 52 y cant o'r buddsoddiad gwreiddiol o £400 miliwn yn uniongyrchol i gwmnïau o Gymru, a sicrhaodd hyn waith i fwy na 1,000 o weithwyr yng Nghymru yn ystod y gwaith o'i adeiladu. Mae wedi creu cyfleoedd prentisiaeth, ac mae hefyd wedi diogelu'r amgylchedd ac wedi hybu bioamrywiaeth. Rwy'n hyrwyddwr rhywogaeth y troellwr mawr, sy'n nythu ar y safle hwn, felly rwyf wedi croesawu'r cyfle i allu dilyn yr agwedd hon ar eu gwaith.
Mae'r fferm wynt hefyd wedi gweithredu cronfa budd cymunedol arbennig o uchelgeisiol. Bob blwyddyn tan 2043, mae £1.8 miliwn ar gael i fusnesau a grwpiau ar draws cymoedd Cynon, Afan, Castell-nedd a'r Rhondda. Ac yn bwysig, rwy'n meddwl, nid asiantaethau allanol sydd yng ngofal y gronfa. Yn hytrach, yr arbenigwyr lleol yw'r bobl sydd wedi bod yn rhan o lunio'r weledigaeth—pobl sy'n byw ac yn gweithio yn y cymunedau hynny, sy'n adnabod ac yn defnyddio gwasanaethau lleol, sy'n deall yr ardal y maent yn byw ynddi, beth sydd ar gael a beth sydd ar goll. Mae'r gronfa hon wedi bod yn cefnogi cymunedau ers i'r fferm wynt ddod yn weithredol yn 2017. Rhwng hynny a mis Ebrill 2021, yn fy etholaeth i yn unig, mae 129 o sefydliadau a busnesau wedi cael cefnogaeth uniongyrchol. Mae'r cyllid hwnnw, i grwpiau yn fy etholaeth i yn unig, yn werth tua £3 miliwn. Mae rhai grantiau'n fach, er enghraifft, cannoedd o bunnoedd a ryddhawyd drwy grant microgyllido, ond mae cronfeydd eraill, y gellir eu cael drwy'r gronfa weledigaeth, yn fwy sylweddol, ar gyfer prosiectau sy'n cyfrannu at gyflawni gweledigaeth y cymunedau.
Felly, beth a gefnogwyd â'r arian hwnnw? Wel, busnesau, corau a grwpiau diwylliannol, cymorth iechyd meddwl a hybu llesiant, mentrau amgylcheddol, neuaddau cymunedol, prosiectau treftadaeth, timau chwaraeon, grwpiau teuluol, cynlluniau i gefnogi pobl hŷn ac i goffáu'r rhai a wasanaethodd eu gwlad. Mae'r gronfa hefyd wedi cefnogi prosiectau trawsnewidiol ar raddfa fawr fel Dŵr Dâr, y pad sblasio poblogaidd ym mharc Aberdâr. Mae wedi helpu i addasu eglwys Sant Elfan i fod yn ofod cymunedol deniadol, ac mae wedi chwarae rhan yn y gwaith o greu canolfan gymunedol Cynon Linc sydd newydd agor. Mae'r gronfa wedi cefnogi popeth o gymdeithasau celfyddydol i elusennau diffibrilwyr, ac yn fwy diweddar, lansiodd gronfa argyfwng COVID, y gellir ei defnyddio i ddarparu llif arian sydd ei angen ar frys neu i gefnogi arallgyfeirio ar gyfer rhywbeth sy'n gysylltiedig â COVID. Mae dros £0.5 miliwn wedi'i ddosbarthu drwy honno i gefnogi 32 o fusnesau a sefydliadau, ac mae wedi galluogi 23 o brosiectau ymateb COVID eraill i sefydlu a chefnogi'r rhai sydd â'r angen mwyaf mewn cymunedau lleol.
Mae'n amlwg fod angen ynni adnewyddadwy arnom. Ond gyda hynny, mae arnom angen prosiectau sydd o fudd i'w cymunedau. Os caf droi at drydydd pwynt y cynnig sy'n galw ar Lywodraeth Cymru i fynnu bod datblygwyr prosiectau ynni yn gorfod profi budd cymunedol eu datblygiadau arfaethedig drwy orfod cynnal asesiadau effaith cymunedol a chyflwyno cynllun budd cymunedol fel rhan o'r broses gynllunio. Rwy'n cytuno'n llwyr â'r argymhelliad hwn, a hoffwn ein gweld yn grymuso ein cymunedau i gael y disgwyliadau uchaf o fudd cymunedol, i gydgynhyrchu cynlluniau ar gyfer budd cymunedol ac i feddwl mwy am gynlluniau buddsoddi ymlaen llaw, megis un a welwyd yn yr Alban yn ddiweddar, lle nad oedd y gymuned yn fodlon â'r gronfa draddodiadol y gallai achosion da lleol wneud cais iddi, ac yn hytrach, yr hyn y dymunent ei gael oedd fflyd o geir trydan y gallai'r pentref eu rhannu, ac fe'u cawsant. Mae'r cyfleoedd ar gyfer budd cymunedol yn wirioneddol ddiddiwedd, ond ni ellir manteisio'n llawn ar y potensial hwn heb roi syniadau a gwybodaeth i bobl am yr hyn sy'n bosibl.
Rwyf am gloi drwy nodi un pwynt pwysig y mae'r cynnig yn ei hepgor, sef sut y gallwn annog cynhyrchiant ynni cymunedol a chydweithredol yn y ffordd orau. Yr wythnos diwethaf, clywodd y grŵp trawsbleidiol ar gwmnïau cydweithredol a chydfuddiannol gan siaradwyr amrywiol, gyda phob un yn pwysleisio budd cynlluniau cymunedol. Disgrifiodd Robert Proctor o Ynni Cymunedol Cymru, er enghraifft, sut y mae 100 y cant o'r elw o'r rhain yn mynd i'r cymunedau lleol sy'n eu rheoli. Maent yn cynhyrchu ynni gwyrdd ar lefel leol, ond maent hefyd yn creu—
A wnaiff yr Aelod ddod i ben yn awr, os gwelwch yn dda?
[Anghlywadwy.]—budd economaidd. Felly, mae llawer mwy y gallwn ei wneud, a rhaid i hynny fod yn ffocws i Lywodraeth Cymru.
Diolch i'r Aelod o Ynys Môn am ddod â'r ddadl yma i'r Siambr.
Mae gan Gymru gyfoeth o botensial ynni adnewyddadwy a gwyrdd, a byddwn ar fai yn peidio â dechrau, o gofio mai Rhun ap Iorwerth a sicrhaodd y ddadl hon, drwy sôn am y cyfleoedd ar Ynys Môn. Fe soniodd am solar, ond mae safle ynni niwclear Wylfa Newydd yn ymgyrch rwy'n gwybod bod ei gyd-Aelod etholaethol, yr Aelod Seneddol dros Ynys Môn, Virginia Crosbie, wedi'i hyrwyddo'n rymus. Ond hoffwn ganolbwyntio ar brosiect oddi ar arfordir fy etholaeth fy hun, sef Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro: prosiect arloesol, gwerth miliynau o bunnoedd Blue Gem Wind, menter ar y cyd rhwng TotalEnergies, un o gwmnïau ynni mwyaf y byd, a Simply Blue Energy, datblygwr ynni arloesol yn y môr Celtaidd. Bydd y prosiect yn datblygu gwynt ar y môr arnofiol, a elwir yn FLOW, yn nyfroedd y môr Celtaidd.
Bydd FLOW yn dod yn dechnoleg allweddol yn y frwydr yn erbyn newid hinsawdd, gyda dros 80 y cant o adnoddau gwynt y byd mewn dyfroedd dyfnach na 60m. Mae astudiaethau annibynnol wedi awgrymu y gallai fod cymaint â 50 GW o gapasiti trydan ar gael yn nyfroedd y môr Celtaidd oddi ar arfordiroedd y DU ac Iwerddon. Gallai'r adnodd ynni adnewyddadwy hwn chwarae rhan allweddol wrth i'r DU geisio cyrraedd targed sero-net 2050 sy'n angenrheidiol i liniaru newid hinsawdd. Bydd ynni gwynt arnofiol—FLOW—yn darparu cyfleoedd ar gyfer cadwyn gyflenwi carbon isel newydd, yn cefnogi cymunedau arfordirol ac yn creu manteision hirdymor i'r rhanbarth. Yn fy etholaeth i, amcangyfrifir y gallai 1 biliwn watt cyntaf Blue Gem o ynni gwynt arnofiol ddarparu dros 3,000 o swyddi a £682 miliwn mewn cyfleoedd ar gyfer y gadwyn gyflenwi, gan agor byd newydd o ynni adnewyddadwy ar y môr gyda sir Benfro yn ei ganol, ac o fudd i'r gymuned yn ddi-os.
Bydd y prosiect arddangos cyntaf yn y môr Celtaidd, prosiect 96 MW Erebus, yn dod yn un o'r prosiectau gwynt ar y môr mwyaf yn y byd pan gaiff ei adeiladu yn 2026. Caiff ei ddilyn gan Valorous, prosiect masnachol cynnar 300 MW, unwaith eto, yn y môr Celtaidd, a fyddai'n arwain at bweru 280,000 o gartrefi bob blwyddyn, tra'n arbed dros 455,000 tunnell o allyriadau carbon y flwyddyn. Ond yr hyn sy'n wirioneddol anhygoel am brosiect Blue Gem Wind a'r cyfleoedd sy'n codi yn y môr Celtaidd yw nad un ardal yn unig sy'n elwa mewn gwirionedd, ac ni all un ardal gyflawni'r prosiect ar ei phen ei hun chwaith. Rhaid ei rannu ar draws nifer o ardaloedd a nifer o borthladdoedd. Arweinia at ledaenu budd cymunedol y prosiectau newydd hyn ymhellach, gan nad yw swyddi medrus a manteision economaidd wedi'u crynhoi mewn ardal fach.
Gall cymunedau yn ne-orllewin Cymru, de-ddwyrain Gweriniaeth Iwerddon ac ierdydd llongau yng Ngogledd Iwerddon a'r Alban oll elwa o'r prosiect hwn. Ond nid yw'r budd yn mynd i ymddangos heb gyfraniad gweithredol gan y Llywodraeth ar bob lefel. Mae prosiectau masnachol fel y rhain yn gweithio ar gyflymder nas gwelir fel arfer o fewn adrannau'r llywodraeth, a gwn fod yr Aelod o Flaenau Gwent wedi codi'r pryderon hanesyddol ynghylch polisi ynni yn flaenorol. Mae cyflymder yn hanfodol mewn perthynas â'r prosiectau hyn, er mwyn sicrhau na chânt eu colli ac na chollir y budd cymunedol chwaith. Mae angen inni ddeall y cyfyngiadau y mae'r busnesau a'r prosiectau hyn yn gweithio oddi tanynt a gwneud yr hyn a allwn i symleiddio'r broses. Nid galwad am osgoi cyfyngiadau cynllunio a rheoleiddio allweddol yw hon, ond am weithio'n gyflym ac yn adeiladol i helpu'r prosiectau hyn i gael eu traed oddi tanynt a chyflawni eu manteision amgylcheddol, economaidd a chymunedol. Ym mhob cwr o Gymru, mae gennym enghreifftiau o brosiectau sy'n ymdrechu i wneud gwahaniaeth. Mae'r penderfyniad yno, mae'r fenter yno, y cyfan sydd ei angen arnom yw'r hyder i'w wireddu. Diolch yn fawr.
Galwaf ar y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, Lee Waters.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Credaf fod llawer iawn o gonsensws wedi bod yn y Senedd y prynhawn yma ar bwysigrwydd ynni adnewyddadwy a pha mor hanfodol yw sicrhau bod hyn wedi'i wreiddio yn ein cymunedau, o ran cael ei dderbyn, ond hefyd o ran gwireddu'r budd y tu hwnt i'r budd ehangach neu ein helpu i gyrraedd sero-net. Rydym yn cytuno â safbwynt yr Aelod y dylem sicrhau bod ein cymunedau'n teimlo budd y datblygiadau hanfodol hyn, ac mae gennyf lawer o gydymdeimlad â'r anghysur a fynegodd am ffermydd solar ar raddfa fawr, yn arbennig, yn codi ledled y wlad, heb fynd i sôn am unrhyw un yn benodol. Credaf ein bod yn well ein byd yn canolbwyntio solar ar adeiladau nag ar ddefnyddio darnau mawr o dir.
Roedd hon yn thema a ddaeth i'r amlwg mewn nifer o'r areithiau gan yr Aelodau; mae'n amlwg fod cydbwysedd i'w daro ar yr effaith amgylcheddol. Cyfeiriodd Janet Finch-Saunders, yn ei sylwadau, at adfywio gwely'r cefnfor. Mae hwnnw'n bwynt pwysig, yn ogystal ag enghreifftiau eraill a roddwyd lle nad oedd datblygiadau'n gweddu'n llwyr i'w cymunedau lleol. Credaf fod yn rhaid inni sicrhau cydbwysedd bregus. Er mwyn cyrraedd sero-net, gwyddom y bydd yn rhaid inni wneud mwy o doriadau yn ein hallyriadau yn y 10 mlynedd nesaf nag a wnaethom dros y 30 mlynedd diwethaf, a bydd yn rhaid cynyddu cyflymder a maint yn y blynyddoedd y tu hwnt i hynny. Felly, mae'n hanfodol ein bod yn gweithredu ar raddfa fawr, yn gyflym, ond mae angen inni hefyd ddod â chymunedau gyda ni ac mae angen inni fod yn ymwybodol o effeithiau eraill y datblygiadau hyn. Bydd yn rhaid inni deimlo ein ffordd drwy hynny, a dweud y gwir; nid oes templed ar gyfer gwneud hynny'n sensitif.
Rwy'n cytuno'n llwyr â byrdwn y ddadl ynghylch perchnogaeth ar asedau adnewyddadwy yn lleol, a rhaid inni ddatblygu cadwyni cyflenwi cryf a chyfleoedd swyddi yng Nghymru, fel yr amlinellodd Samuel Kurtz. Ar y prosiect penodol y soniodd amdano, y fferm wynt arnofiol yn nyfroedd y môr Celtaidd, gwn fod fy nghyd-Aelod, Julie James, wedi siarad mewn cynhadledd porthladdoedd ar gyfer y DU y bore yma, ac mae'n brosiect yr ydym yn edrych arno'n ofalus. Rydym am ddatblygu cynifer o wahanol fathau o brosiectau ag y gallwn, ac fel y dywedaf, mae cynnwys cymunedau yn allweddol.
Y ffordd fwyaf effeithiol o sicrhau budd yw drwy berchnogaeth leol, ac mae gan ein rhaglen lywodraethu darged i sicrhau cynnydd o 100 MW mewn ynni adnewyddadwy sy'n eiddo i'r cyhoedd a'r gymuned erbyn 2026. Rydym yn cydnabod yr angen i gael cymorth ar waith i gyflawni'r uchelgais hwn. Mae gwasanaeth ynni Llywodraeth Cymru yn gwneud gwaith rhagorol yn cefnogi cyrff cyhoeddus a chymunedau i ddatblygu cynlluniau, ac rydym yn rhoi cymorth ariannol i ddatblygu prosiectau. I roi un enghraifft, cafodd y cwmni cydweithredol Egni help y gwasanaeth ynni i fuddsoddi mwy na £4 miliwn mewn solar ar doeau ledled Cymru i gynhyrchu pŵer am ddim i sefydliadau cymunedol ac i ysgolion, gan gynnwys cyfranddaliadau yn y cwmni cydweithredol i rai ysgolion yn nyffryn Aman uchaf mewn gwirionedd, sy'n brosiect ardderchog yn fy marn i, ac rwy'n awyddus i weld sut y gallwn ei ledaenu'n ehangach ledled Cymru.
Er gwaethaf heriau COVID, yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwethaf, gwnaethom gefnogi'r gwaith o osod gwerth £35 miliwn o brosiectau effeithlonrwydd ynni ac ynni adnewyddadwy, gan gynnwys 9 MW o ynni adnewyddadwy. Erbyn 2030, mae gennym darged i sicrhau y bydd 1 GW o'r cynhyrchiant ynni adnewyddadwy mewn perchnogaeth leol. Soniodd Rhun ap Iorwerth am ddau brosiect yng ngogledd-orllewin Cymru yr ymwelais â hwy yn ddiweddar, sef Ynni Ogwen a Menter Môn. Mae'r ddau wedi gwneud gwaith rhagorol gyda chymunedau, gan sicrhau budd yn lleol, yn ogystal â'i wneud mewn ffordd sy'n sensitif i'r amgylchedd lleol. Rwy'n credu bod llawer y gall pawb ohonom ei ddysgu o'u gwaith rhagorol. Rydym wedi gosod disgwyliad y dylai pob prosiect ynni adnewyddadwy gynnwys o leiaf elfen o berchnogaeth leol o hyn ymlaen. Unwaith eto, dyma un o'r problemau eraill a wynebwn, oherwydd, yn amlwg, er mwyn cyrraedd y targedau hyn, rydym am gael datblygiadau sylweddol a all ein helpu i gyrraedd ein hamcanion. Ond mae hynny'n rhy aml yn golygu bod gan gwmnïau rhyngwladol mawr tramor allu a chyfalaf i ddod i mewn a symud y datblygiadau hyn yn eu blaen.
Mae hynny'n amlwg yn rhywbeth yr ydym am ei annog, ac rydym wedi gweithio'n agos gyda'r sector hwnnw dros y blynyddoedd diwethaf, ond gwyddom fod cyfyngiadau ar yr hyn y gall y sector preifat ei wneud i gefnogi cynhyrchiant ynni adnewyddadwy yng Nghymru ac i ddod â chymunedau gyda hwy, ac i roi cymaint ag y maent yn ei haeddu o fudd o'r cynlluniau. A soniwyd am nifer o enghreifftiau o'r symiau pitw sy'n cael eu cynnig i rai cymunedau. Ac yn amlwg nid dyna'r hyn yr ydym ni am ei weld. Felly, drwy wasanaeth ynni'r Llywodraeth, rydym yn gweithio gyda chymunedau a chyrff cyhoeddus i archwilio opsiynau perchnogaeth, ac rydym wedi bod yn datblygu canllawiau gyda'u mewnbwn hwy i gynorthwyo gyda'u trafodaethau. Ac rydym yn dechrau gweld tystiolaeth o ddatblygwyr mawr yn cymryd camau cadarnhaol i ymgysylltu â'n cymunedau, ond mae'n deg dweud nad ydym wedi cyrraedd lle mae angen inni fod. Mae ymgysylltu'n dameidiog a'r dull o weithredu yn anghyson.
Yfory, Ddirprwy Lywydd, rwy'n lansio ymarfer at wraidd y mater arall, y tro hwn i ynni adnewyddadwy yng Nghymru, a byddaf yn archwilio beth arall y gallwn ei wneud i ddenu cyfoeth o ddatblygiadau preifat a chefnogi mwy o berchnogaeth a datblygu cymunedol yng Nghymru. A byddwn yn archwilio'r posibilrwydd o sefydlu datblygwr ynni sy'n eiddo cyhoeddus i gyflymu'r gwaith o ddarparu ynni adnewyddadwy a fydd yn creu mwy o fudd cymunedol a chyhoeddus nag y mae'r modelau presennol yn eu cynnig. Wrth gwrs, mae angen inni weithio gyda datblygwyr preifat, a'r gadwyn gyflenwi, fel y soniwyd. Mae cyfleoedd yma ar gyfer swyddi gwyrdd a sgiliau gwyrdd, ac mae angen inni sicrhau ein bod yn manteisio i'r eithaf ar y budd hwnnw.
Felly, rydym yn adeiladu darlun o'r prosiectau sy'n cael eu datblygu a'u hanghenion o ran y gadwyn gyflenwi a'r gweithlu, ac rydym yn gweithio gyda'n colegau i ddatblygu sgiliau'r dyfodol a chefnogi busnesau lleol i gyflenwi i'r farchnad newydd. A hefyd, yn hollbwysig, rydym yn pwyso ar Ystad y Goron a Llywodraeth y DU i wneud buddion economaidd lleol yn ystyriaeth berthnasol wrth roi hawliau a chontractau gwely'r môr. Ac rydym hefyd yn edrych ar sut y gallwn ddefnyddio ystad goetiroedd Llywodraeth Cymru a thir arall sy'n eiddo cyhoeddus i gynnig cyfleoedd ar unwaith i ddatblygu prosiectau sy'n helpu eu cymunedau.
Felly, rwy'n credu bod llawer yn digwydd. Rwy'n cydnabod pwynt Alun Davies ynglŷn â bod dulliau gweithredu tameidiog a ffocws ar strategaethau yn hytrach na chyflawni yn difetha gormod o ymdrechion Llywodraethau ar draws y byd, ac mae angen inni sicrhau, wrth sefydlu'r portffolio hwn, ein bod yn canolbwyntio ar weithredu a chyflawni a chyflymder, a gallaf addo ein bod yn gwneud yr hyn a allwn i wneud hynny. Ni allwn symud mor gyflym ag y dymunwn ei wneud, dyna un o rwystredigaethau mawr y rôl hon. Mae'r rhain yn brosiectau hynod gymhleth, a gall y broses o ddod â'r holl wahanol rannau at ei gilydd fod yn llawer arafach nag yr hoffem iddi fod. A dyna'r her i bob un ohonom, oherwydd gwyddom fod y wyddoniaeth a'r her yn fater brys, ac mae gan bob un ohonom gyfrifoldeb i geisio sicrhau bod cyflymder y ddarpariaeth yn cyd-fynd â hynny. Ond byddwn yn sicr yn dweud wrth Alun Davies na fyddwn yn camgymryd—
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Gwnaf, ond rwyf am ddweud wrtho na fyddwn yn camgymryd lanlwytho gwybodaeth i wefan am ddiffyg gweithgarwch ar ynni cymunedol.
Wel, yn sicr, mae yna ddiffyg gweithgarwch o ran cyfleu'r hyn rydych yn ei wneud i unrhyw un yn y byd o gwbl. Ond y pwynt yr hoffwn ei wneud yw, yn eithaf aml, ac mae'n un o'r gwersi o Ynni'r Fro, fod cryn dipyn o amser y Llywodraeth yn cael ei dreulio'n dadlau am gynigion gyda rhannau eraill o'r sector cyhoeddus. A’r hyn y mae angen i'r Llywodraeth ei wneud yw sicrhau bod y Llywodraeth nid yn unig yn arwain, yn darparu peth o’r cyllid sbarduno sydd ei angen er mwyn gwneud hyn, ond hefyd yn sicrhau nad oes gennych arian cyhoeddus yn cael ei wario ar ddwy set o fargyfreithwyr yn dadlau gyda'i gilydd dros un cais. A gallai'r Llywodraeth arwain go iawn yn hynny.
Wel, yn amlwg, ni ellir dadlau â hynny. Ac un o'r pethau y byddaf yn canolbwyntio arnynt wrth ddechrau'r gwaith i fynd at wraidd y mater yfory fydd sut i symbylu a chynnull cynghrair dros newid ar draws y sectorau cyhoeddus a phreifat i wneud cynnydd go iawn. Oherwydd, fel y mae pob un ohonom yn cytuno yma y prynhawn yma, mae'r wobr yn wych a chost diffyg gweithredu yn rhy anodd ei hamgyffred. Diolch.
Galwaf ar Rhun ap Iorwerth i ymateb i'r ddadl.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Credaf fod hon wedi bod yn drafodaeth wirioneddol werthfawr, ac a gaf fi ddiolch yn gyntaf oll i'r Gweinidog am ei eiriau, pan ddywedodd ei fod yn dod yn agos at sefydlu, gobeithio, corff a fydd yn annog ac yn hyrwyddo ynni cyhoeddus yng Nghymru? Mae hynny'n swnio i mi fel pe bai ymgyrch hirfaith Plaid Cymru i sefydlu ynni Cymru, corff ynni i Gymru, wedi dwyn ffrwyth, ac rwy'n falch iawn ei bod yn swnio fel pe bai Llywodraeth Cymru ar fin rhoi rhywbeth tebyg iawn i hynny ar waith. A chredaf fod hynny'n rhywbeth cadarnhaol tu hwnt gan y credaf ei fod yn fodd o ganolbwyntio'n iawn ar y math o ddatblygiadau ynni yr hoffem eu gweld yng Nghymru.
Diolch am y cyfraniadau. Ie, rhai syniadau diddorol, nid budd cymunedol yn unig; Janet Finch-Saunders yn siarad am fudd amgylcheddol hyd yn oed yn sgil prosiectau ynni adnewyddadwy, a gwella bioamrywiaeth morol hyd yn oed. Ond rydym yn sôn heddiw am y budd cymunedol—rwy'n falch, yn etholaeth Vikki Howells, ei bod yn hapus fod y budd yn dod—ond fe ddywedoch chi eich hun eu bod yn wirfoddol, a dyna'r pwynt yma: mae angen mecanweithiau arnom i sicrhau eu bod yn llifo'n awtomatig o brosiectau o'r fath, ac er nad yw'r cynnig yn sôn am ynni cymunedol ac ynni cydweithredol, rwy'n siŵr y byddwch wedi sylwi bod hynny wrth wraidd y math o weledigaeth sydd gennyf fi, yn sicr, yn ogystal â'r rhan fwyaf o'r Aelodau yma hefyd, rwy'n credu.
Hoffwn roi sylw arbennig i Alun Davies a'i gyfraniad: yr un fath o weledigaeth ag sydd gennyf innau, ac wrth ddweud bod 'cymuned' yn air sydd wedi'i anghofio i raddau helaeth mewn polisi ynni, a bod angen ei adfer, credaf mai dyna'r union bwynt rwy'n ceisio'i wneud heddiw. Gallwn gael pob math o weledigaethau beiddgar ar gyfer cyflawni ein nodau newid hinsawdd, ac mae'n rhaid inni fynd ati'n ddygn i gyflawni'r rheini, ond mae'n rhaid inni gofio bod llawer o'r prosiectau'n digwydd mewn cymunedau, ac yn effeithio'n uniongyrchol ar gymunedau lle mae pobl yn byw, ac mae'n rhaid i hyn fod yn symbiosis.
Felly, dywedodd y Gweinidog yn ei sylwadau agoriadol fod cryn dipyn o gonsensws yma heddiw, a chredaf fod hynny'n bwysig iawn. Nid wyf yn siŵr a fydd y Llywodraeth yn pleidleisio dros y cynnig fel y mae heddiw; rwy’n sicr yn gobeithio y bydd y Senedd yn cefnogi’r cynnig hwn heddiw. Dywedodd y Gweinidog fod yn rhaid inni fynd â chymunedau gyda ni. Mae'n rhaid i berchnogaeth leol fod yn nod, ond fel y mae pethau ar hyn o bryd, mae Llywodraeth Cymru wedi galluogi a grymuso cwmnïau rhyngwladol mawr i ddewis rhannau o Ynys Môn a rhannau eraill o Gymru fel ardaloedd lle credant fod ganddynt hawl awtomatig, bron, i fwrw ymlaen â'u datblygiadau. Ni all hynny ddigwydd, a byddaf yn falch o weithio gyda'r Llywodraeth i fod yn bont rhwng fy nghymunedau a'r Llywodraeth i gyflwyno'r achos fod yn rhaid i'r cwmnïau rhyngwladol hynny fynd y tu hwnt i'r gwirfoddol rywsut, rhaid iddynt fynd y tu hwnt i'r trothwy isaf posibl y credant y gallant ei gael mewn perthynas â budd lleol, a gobeithio y gallwn weithio tuag at reoleiddio cadarn o leiaf, yn ogystal â deddfwriaeth, rwy'n credu, i sicrhau nad yw ein cymunedau'n dioddef yn sgil datblygiadau ynni adnewyddadwy a datblygiadau ynni eraill, ond yn dod yn bartneriaid go iawn ynddynt hefyd. Diolch.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.