– Senedd Cymru am 5:45 pm ar 19 Hydref 2021.
Yr eitem nesaf yw'r ddadl ar gael gwared â hiliaeth a chreu Cymru wrth-hiliol. Galwaf ar y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol i wneud y cynnig, Jane Hutt.
Cynnig NDM7805 Lesley Griffiths, Siân Gwenllian, Darren Millar, Jane Dodds
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn cefnogi'n llwyr
a) y frwydr fyd-eang i gael gwared ar hiliaeth ac ideoleg hiliol ac yn ymdrechu at sicrhu Cymru fwy cyfartal, gan fynd i'r afael ag anghydraddoldeb hiliol systemig a strwythurol.
b) egwyddorion Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Ddiddymu Pob Math o Wahaniaethu Hiliol (CERD).
2. Yn galw am ddiweddariad gan Gomisiwn y Senedd ar waith datblygu datganiad trawsbleidiol i Gymru sy'n ymgorffori egwyddorion CERD.
3. Yn croesawu dadorchuddio cerflun o Betty Campbell MBE yn Sgwâr Canolog Caerdydd i’w choffáu yn un o Ferched Mawreddog Cymru.
4. Yn croesawu'r Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol ar gyfer Cymru Wrth-Hiliol i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb strwythurol a systemig, ac i hybu cyfleoedd i bobl ddu, Asiaidd ac ethnig leiafrifol yng Nghymru.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n falch o fod yn sefyll yma eto i'ch annerch yn y drydedd ddadl flynyddol yn y Senedd hon, gyda chynnig ar hil a chydraddoldeb hiliol sydd â chefnogaeth lawn ar draws y Siambr hon. Ac mae'n glod i ni ein bod wedi adeiladu ar waith pob blwyddyn i geisio canlyniadau cyfartal i'n cymunedau o bobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig. Wrth wneud hynny, rydym ni’n cydnabod bod hiliaeth yn bodoli a bod angen inni fynd i'r afael â hi ar lefel systemig a sefydliadol.
Felly, gadewch imi ddechrau gyda rhai enghreifftiau o gynnydd go iawn: y mis diwethaf, dadorchuddiwyd heneb i anrhydeddu Betty Campbell MBE, pennaeth ysgol du cyntaf Cymru ac ymgyrchydd hanes pobl dduon. Ar y panel o fewn yr heneb mae geiriau Betty Campbell:
'Roedden ni’n esiampl dda i weddill y byd o sut y gallwn gyd-fyw beth bynnag yw eich gwreiddiau neu liw eich croen.'
Roedd yn ddiwrnod arloesol i Gaerdydd ac i Gymru, ac yn foment falch iawn i mi wrth sefyll gyda'i theulu, Monumental Welsh Women, noddwyr, cyllidwyr, ac arweinwyr dinesig a chymunedol, ac fe wnaethom ni anrhydeddu'r athro ac ymgyrchydd cymunedol arloesol a weithiodd yn ddiflino dros gydraddoldeb hiliol ac addysg amlddiwylliannol. Rhoddodd Betty Campbell hanes pobl dduon ar y cwricwlwm yn Ysgol Gynradd Mount Stuart yn Nhre-biwt, Caerdydd, a dysgodd ei disgyblion yno am effaith caethwasiaeth a chyfraniadau pobl dduon i hanes Cymru. Arweiniodd yr ymgyrch i efelychu hyn ym mhob un o'n hysgolion.
Felly, gadewch imi rannu ail enghraifft o gynnydd go iawn a phendant: y llynedd, cadeiriodd yr Athro Charlotte Williams OBE y gweithgor cymunedau, cyfraniadau a chynefin pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yn y cwricwlwm newydd, ac roedd hwn yn adolygiad annibynnol ar gais y Gweinidog Addysg i gynghori ar addysgu hanes pobl dduon a'i wella ar draws pob rhan o gwricwlwm ysgolion, a ni yw'r genedl gyntaf yn y DU i wneud addysgu hanes pobl dduon yn orfodol, ac rydym yn gwneud hyn gan gredu y bydd holl genedlaethau'r dyfodol yn dysgu’r gwir hanes ynghylch sut y cafodd y genedl hon ei hadeiladu. Mae ein system addysg wedi ehangu dealltwriaeth ein plant o'r diwylliannau niferus sydd wedi creu Cymru’r gorffennol a’r presennol, gan eu hysbrydoli i ddod yn ddinasyddion moesegol a gwybodus yng Nghymru’r dyfodol.
Mae fy enghraifft olaf o gynnydd go iawn yn cydnabod na allwn ailysgrifennu ein gorffennol, ond gallwn gydnabod a dysgu oddi wrtho. Yn sgil lladd George Floyd yn yr Unol Daleithiau, poblogrwydd cynyddol mudiad Mae Bywydau Du o Bwys, a’r cynnydd mewn ymwybyddiaeth o wahaniaethau ar sail hil, gofynnodd y Prif Weinidog i Gaynor Legall arwain grŵp gorchwyl a gorffen annibynnol i gynnal archwiliad o henebion, adeiladau ac enwau strydoedd hanesyddol Cymru sydd â chysylltiadau â’r fasnach gaethweision a'r ymerodraeth Brydeinig. Ac rydym ni nawr yn ystyried sut i symud ymlaen wrth i ni geisio anrhydeddu a dathlu cymunedau amrywiol.
Ond heddiw, yn anffodus, mae hiliaeth yn dal i fod o'n cwmpas; mae ar ein strydoedd, yn y gwasanaethau rydym ni’n eu darparu, yn ein gweithleoedd, a 2020 oedd y flwyddyn y gwnaethom ni i gyd wynebu hiliaeth fel erioed o'r blaen. Fel cenedl, dechreuodd pob un ohonom ni gael sgyrsiau heriol am effaith hiliaeth. Fe wnaeth COVID-19 amlygu effaith canlyniadau anghyfartal ar ein cymunedau pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig fel erioed o'r blaen. Roedd yn alwad i weithredu er mwyn symud o'r dull cydraddoldeb hiliol i rywbeth mwy gweithredol a phendant, i gael gweledigaeth ar gyfer Cymru wrth-hiliol. Ac ers mis Rhagfyr 2019, rwyf wedi bod yn trafod gyda fforwm hil Cymru y gwaith o ddatblygu cynllun gweithredu cydraddoldeb hiliol. Ym mis Mawrth eleni, gwnaethom ni lansio ymgynghoriad y cynllun drafft ar gyfer Cymru wrth-hiliol; roedd hwnnw’n un o fy natganiadau olaf cyn yr etholiad ym mis Mai, a chafodd ei groesawu. Mae'r cynllun yn uchelgeisiol; mae'n nodi cyfres o nodau a chamau gweithredu ar draws holl gyfrifoldebau gweinidogol pob pwyllgor, ac mae gan bob Gweinidog rôl a chyfrifoldeb. Mae'n adlewyrchu ein gweledigaeth uchelgeisiol a radical ar gyfer Cymru lle nad oes dim goddefgarwch tuag at unrhyw fath o hiliaeth, gyda'r un nod o weld newidiadau mesuradwy a sylweddol i fywydau pobl o leiafrifoedd ethnig. Mae angen inni wneud hyn ym mhob rhan o fywyd, ac rwy’n glir mai dyma hanfod y gwaith hwn—gwneud gwahaniaeth mesuradwy mewn ffordd gyson a phenderfynol, fel nad yw ein haddewidion yn disgyn drwy beth sydd bob amser ac yn aml yn cael ei alw y 'bwlch gweithredu'.
Mae'r cynllun yn wahanol hefyd gan mai profiadau bywyd pobl o leiafrifoedd ethnig sydd wrth ei wraidd. Rydym ni wedi datblygu'r gwaith hwn mewn ffordd wahanol—rydym ni wedi ei gyd-gynllunio gyda'r bobl y mae'n effeithio arnynt, a bydd hyn yn parhau nes ei weithredu. Mae'n hanfodol cynnal yr ymddiriedaeth a'r ewyllys da a gafwyd drwy ddatblygu'r gwaith hwn, a bod hyn yn symud baich hiliaeth o'r dioddefwyr i bawb mewn cymdeithas. Mae angen i'r rhai ohonom mewn sectorau gwahanol, cynrychiolwyr etholedig, arwain, am fod gennym y pŵer a'r awdurdod i wneud y newidiadau systemig a sefydliadol sydd eu hangen ar gyfer dull gwrth-hiliol. Fel Llywodraeth, mae cyfrifoldeb arnom i sbarduno'r newid hwn.
Ac rwy'n arbennig o falch bod y cynllun yn seiliedig ar brofiad bywyd pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yng Nghymru. Mae tua 2,000 o bobl ar draws Cymru wedi rhannu eu barn a'u profiad bywyd, sydd wedi bod yn bwerus ac, ar adegau, yn boenus i'r rhai dan sylw. Mae'n ddyletswydd arnom ni i beidio â gofyn i bobl o leiafrifoedd ethnig barhau i ailadrodd eu profiadau poenus, ond i weithredu ar beth rydym ni’n ei glywed, ac ni fyddai'r cynllun hwn wedi bod yn bosibl heb eu cyfraniadau hwy. Ond rwy'n ddiolchgar hefyd i gyd-gadeiryddion y grŵp llywio, yr Athro Emmanuel Ogbonna o Brifysgol Caerdydd a'r Ysgrifennydd Parhaol, y Fonesig Shan Morgan, a roddodd arweinyddiaeth heriol, feddylgar a chefnogol. Hoffwn ddiolch, hefyd, i'r 17 o fentoriaid cymuned pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig a weithiodd ochr yn ochr â swyddogion Llywodraeth Cymru, gan ddod â beth galwais i’n brofiad bywyd i goridorau Llywodraeth Cymru mewn ffordd ddychmygus a cholegol.
Rydym ni’n aml yn dweud y bydd gwneud yr un peth yn arwain at yr un peth. Rydym ni wedi ceisio gwneud pethau'n wahanol, ac mae wedi talu ar ei ganfed. Daeth ein sesiwn drylwyr ar bob maes polisi â phrofiadau academaidd a phrofiadau bywyd ynghyd i lywio ein gweithredoedd yn y dyfodol. Mewn un sesiwn drylwyr, roedd hi’n sioc clywed un aelod o Diverse Cymru yn dweud wrthym, ac rwy’n dyfynnu,
'Weithiau bydd car yn mynd heibio i chi. Maen nhw'n dweud "terrorist", neu "go back home" a phethau tebyg. Felly rydych chi'n dod i’r arfer â hynny. Am weddill eich oes rydych chi'n byw yma, rydych chi'n dod i’r arfer â hiliaeth.'
Daeth yr ymgynghoriad ar y cynllun gweithredu cydraddoldeb hiliol i ben ar 15 Gorffennaf. Cawsom ni nifer sylweddol o ymatebion, gyda mwy na 330 o unigolion a sefydliadau yn cyflwyno eu barn mewn amrywiaeth o fformatau. Rydym ni’n gweithio’n gyflym i ymateb i'r broses ymgynghori honno, ac mae'n amlwg bod angen i ni ganolbwyntio ar y prif feysydd newid a nodwyd, a galw am ffocws ar ganlyniadau clir a mesuradwy.
Dirprwy Lywydd, ym mis Awst roeddem ni i gyd yn bryderus iawn wrth inni weld yr argyfwng dyngarol oedd yn datblygu yn Affganistan, gan fod miloedd o bobl yn ffoi o'r Taliban, ac rwy'n falch o'r camau yng Nghymru sy'n dangos bod Cymru wir yn genedl noddfa, y camau y gwnaethom ni eu cymryd i groesawu mwy na 50 o deuluoedd. Rwy'n ddiolchgar bod pob awdurdod lleol yng Nghymru wedi addo ei gefnogaeth i bolisi adleoli a chymorth Affgan, cynllun adsefydlu dinasyddion Affgan. Rydym ni yng Nghymru wedi dangos beth mae cydweithredu ac ymdrech ar y cyd yn gallu ei wneud i roi ymateb tosturiol i bobl sy'n ceisio noddfa.
Mae ymfudwyr wedi bod yn rhan annatod o'n gwlad ers amser maith, ac roeddwn i’n arbennig o falch o fod yn bresennol yn lansiad Black History Cymru 365, a drefnodd Race Council Cymru, a oedd yn cynnwys agoriad arddangosfa 'Windrush Cymru—Ein Lleisiau, Ein Straeon, Ein Hanes' yn Amgueddfa Werin Cymru, Sain Ffagan. Ac, wrth gwrs, mae gennym ni arddangosfa yma yn yr Oriel. Mae'n bwysig i Lywodraeth Cymru gydnabod a gwerthfawrogi cyfraniadau cenhedlaeth Windrush a'u disgynyddion i'n gwlad dros y 73 o flynyddoedd diwethaf, a hefyd yr holl gymunedau mudol eraill a ddaeth cyn ac wedi hynny. Hefyd, gwnes i gyflwyniad yn seremoni wobrwyo menywod Cymru lleiafrifoedd ethnig y mis diwethaf, ac roedd cymaint o sgiliau a doniau menywod o leiafrifoedd ethnig wedi fy ysbrydoli. Mae gennym ni grŵp aruthrol o arweinwyr o bob sector, ar hyn o bryd a rhai sy'n dod i'r amlwg.
Yn olaf, byddwn i’n dweud bod ymladd hiliaeth yn galw am weithredu, nid geiriau. Heddiw, rwy’n galw ar bob arweinydd i gymryd rhan weithredol wrth ddod â phob anghydraddoldeb hiliol i ben a gyrru hiliaeth o wledydd, cymdeithasau, strwythurau a systemau. Mae’n rhaid inni gymryd camau ymarferol uniongyrchol i ysgogi newid. Ymunwch â ni yn y weledigaeth y gallwn ni fod yn genedl wrth-hiliol. Nawr yw’r amser i weithredu, fel y gallwn ni wneud gwahaniaeth mesuradwy i fywydau pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yng Nghymru—ein pobl ni yng Nghymru. Diolch yn fawr.
Rwy'n falch o gael cyfrannu at y ddadl hon y prynhawn yma. Yn falch oherwydd fy mod i'n rhywun a ddaeth i'r wlad hon yn fewnfudwr yn chwilio am gyfle a chartref, felly rwy'n gwybod cymaint y mae'r wlad hon wedi gwella. Yn falch oherwydd bod y wlad yr wyf i'n byw ynddi bellach mor wahanol o ran ei hagweddau o'i chymharu â'r un y des i iddi. Yn falch oherwydd fy mod i wedi cael y cyfle i wasanaethu yn y Senedd hon yng Nghymru.
Dirprwy Lywydd, rwy'n dod o Kashmir, Kashmir dan reolaeth India, a gafodd ei gwerthu ym 1846 gan y British East India Company am 7.5 miliwn rupee Nanakshahi, sy'n cyfateb i £75,000, yn rhan o Gytuniad Amritsar. Yn rhan o'r fargen oedd y diriogaeth a'i phobl, am gyfradd sefydlog o ddau rupee, 1c y pen, ar wahân i rwymiadau blynyddol eraill ar Gulab Singh. Roedd rhwymiadau eraill yma hefyd. Roedd fy nghyndeidiau, i bob pwrpas, wedi eu gwerthu gan Brydain i gaethwasiaeth, sy'n parhau. Mae'r profiadau y mae aelodau o'r teulu wedi eu rhannu a'u trosglwyddo drwy'r cenedlaethau yn eistedd yn drwm yn fy nghalon. Mae'n gwneud i mi feddwl am y byd o'n cwmpas, sut rydym yn trin ein gilydd, sut rydym yn dathlu amrywiaeth ac yn hyrwyddo cynhwysiant, a sut rydym yn hyrwyddo cyfle i bawb.
Mae llawer o bobl yn cyrraedd y DU â straeon tebyg, pobl y daeth eu hynafiaid yma i gael bywyd gwell. Rydym ni wedi dod yn ynys o wahanol ddiwylliannau lle mae pobl sydd wedi ymgartrefu yma yn cyfrannu at ein ffordd Gymreig a Phrydeinig o fyw. Mae hyn yn rhywbeth i'w ddathlu nid ei ofni. Roeddwn i'n ffodus. Roedd gen i sgil a chefais gyfle i lwyddo, i hyfforddi i fod yn feddyg a dilyn bywyd gwaith fel llawfeddyg ymgynghorol yma yn y GIG. Yn wir, mae gennym ni lawer i ddiolch i'n cymunedau o fewnfudwyr amdano. Hebddyn nhw byddai gennym ni argyfwng staffio llawer mwy yn y GIG.
Mae'r cynnig heddiw yn sôn am gydraddoldeb. Nid wyf i wedi fy argyhoeddi ein bod ni'n deall beth yw ystyr cydraddoldeb i bobl o liw, a sut i gyflawni cydraddoldeb. I mi, mae cydraddoldeb yn ymwneud â chyfleoedd. Po fwyaf o gyfleoedd y gallwn ni eu cynnig i bobl o gefndiroedd amrywiol lwyddo mewn bywyd, y mwyaf y gwnawn ni fynd i'r afael â heriau a chanlyniadau anghydraddoldeb. Mae hefyd yn ymwneud â hyrwyddo gwybodaeth a chyd-ddealltwriaeth rhwng gwahanol grwpiau hiliol, gwella addysg, a chodi ymwybyddiaeth o wahanol grwpiau hiliol i hyrwyddo cysylltiadau da, gan weithio i ddileu gwahaniaethu ar sail hil, a hyrwyddo gwerthoedd cynwysoldeb ac integreiddio diwylliannol.
Rwyf i'n credu hefyd fod angen i ni rymuso pobl. Dylem ni geisio datblygu gallu a sgiliau aelodau'r cymunedau lleiafrifoedd ethnig a chrefyddol mewn ffordd sy'n eu galluogi i nodi a helpu i ddiwallu eu hanghenion yn well, a chymryd rhan lawnach mewn cymdeithas. Mae'n ddigon hawdd i'r rhai sydd mewn awdurdod fabwysiadu dull tadol. Gall gymryd yn ganiataol fod angen gwneud pethau dros bobl o grwpiau lleiafrifoedd ethnig, er â'r bwriad gorau, arwain at ddatrymuso pobl. Mae angen i ni ddod o hyd i ffyrdd o rymuso pobl drwy addysg a chyfleoedd, ac edrychaf ymlaen at glywed gan y Gweinidog ynghylch sut y cyflawnir hyn. Diolch yn fawr iawn.
Mae'r cynllun gweithredu cydraddoldeb hiliol hwn gan Lywodraeth Cymru wedi dod ar adeg hollbwysig, ac rwy'n falch iawn o glywed ein Gweinidog yn dweud heddiw ei fod yn ymwneud â chreu Cymru wrth-hiliol yn y pen draw. Hoffwn i ddweud fel Aelod newydd o'r Senedd, gan nad wyf i wedi gallu cyfrannu at y dadleuon blaenorol, yn sgil llofruddiaeth greulon George Floyd a gafodd ergyd ledled y byd, fy mod i mor hynod falch o fy nghymuned i. Fe wnaethom ni gynnal protestiadau yng Nghaeau Newbridge ym Mhen-y-bont ar Ogwr a hefyd ym Mae Rest ym Mhorthcawl, ac roedden nhw wedi eu trefnu yn bennaf gan bobl ifanc—fel y dywedais i, yn hynod falch—a oedd yn dymuno mynd i'r afael â'r anghydraddoldeb hiliol dwfn yn ein cymdeithas.
Felly, nid oes gwadu pam mae angen y cynllun cydraddoldeb hiliol. Dangosodd astudiaeth a gynhaliwyd yn 2019 fod 70 y cant o bobl dduon a lleiafrifoedd ethnig wedi cael profiad o aflonyddu hiliol yn y gweithle, ac, yn fwy na hynny, roedd 40 y cant o'r gweithwyr hynny wedi adrodd eu hachosion i'w cyflogwyr ac nad oedden nhw wedi eu hystyried o ddifrif neu cawson nhw eu hanwybyddu. Mewn ysgolion, canfu adroddiad blynyddol Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth fod 77 y cant o ddisgyblion yng Nghymru wedi gweld troseddau ar sail hil, ac adleisir hyn yn adroddiad 'Dangoswch Inni ei bod O Bwys i Chi' Cynghrair Hil Cymru, a oedd yn cynnwys llawer o dystebau gan bobl a oedd wedi cael profiad o hiliaeth. Roedd hefyd erthygl ddiweddar yn Voice.Wales gan fyfyriwr, Ben, a gafodd ei ddyfynnu yn dweud nad oedd erioed wedi rhoi gwybod am ddigwyddiadau hiliaeth yn yr ysgol gan nad oedd yn credu y byddai neb yn ei gredu nac yn ei gymryd o ddifrif, a dywedodd,
'Erbyn i mi fod yn 15 oed roeddwn i'n hunanladdol ac yn dreisgar' oherwydd ei fod wedi ei drin â'r fath ddirmyg yn yr ysgol am ddim rheswm heblaw lliw ei groen. Mae'n tynnu sylw at y ffaith na allwn ni roi pwysau ar yr unigolyn i weithredu, pan na all y sylfeini, y system a'r polisïau presennol eu diogelu. Mae'n rhaid i ni sicrhau bod ein cymunedau duon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yn teimlo'n hyderus i fynd i'r gwaith, addysg neu unrhyw ran arall o gymdeithas, yn rhydd rhag aflonyddu hiliol, ac os bydd hiliaeth yn digwydd, ym mha ffurf bynnag, y caiff ei thrin â'r difrifoldeb y mae'n ei haeddu.
Yn fy etholaeth i ym Mhen-y-bont ar Ogwr, a Phorthcawl, rwy'n falch bod yr awdurdod lleol wedi ymrwymo i fynd ati i roi terfyn ar wahaniaethu, hyrwyddo cyfle cyfartal, a meithrin cysylltiadau cadarnhaol rhwng cymunedau. A dyna pam yr wyf i'n falch iawn o weld heddiw fod y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol wedi ymgynghori ag ystod amrywiol o gymunedau wrth lunio'r cynllun gweithredu cydraddoldeb hiliol, gan gynnwys EYST, aelodau fforwm hil Cymru, TUC Cymru, ac eraill sydd wedi ei gwneud yn glir bod angen mwy na pheidio â bod yn hiliol. Mae'n rhaid i ni ganolbwyntio ar fod yn wrth-hiliol. Mae'n rhaid i ni sicrhau bod y lleisiau hynny yn cael eu codi yn ein cymunedau a bod eu profiadau'n cael eu clywed, felly unwaith eto hoffwn i ychwanegu dau lais at hynny heddiw. Mae trefnwyr Mae Bywydau Du o Bwys Pen-y-bont ar Ogwr, Anna ac Olivia, wedi bod yn gweithio mor galed i wneud newid cadarnhaol yn ein cymuned, ac maen nhw wedi dweud, 'Mae'n rhaid i ni sicrhau bod polisi yn galluogi gweithwyr proffesiynol i amddiffyn unigolion rhag gwahaniaethu ar sail hil a pharhau i wrando ar y rhai sy'n wynebu anghydraddoldebau mewn ysgolion ac yn y gwaith.' Bellach, mae arnom ni ddyled i'r bobl hynny sydd wedi rhoi cymaint o amser ac ymrwymiad i rannu eu profiadau bywyd y cyfle i weld hyn yn cael ei adlewyrchu mewn polisi a Llywodraeth Cymru.
Rwy'n falch iawn fod Plaid Cymru yn cydgyflwyno'r cynnig pwysig hwn heddiw. Wrth i ni drafod y cynnig, rydym hefyd wrth gwrs yn nodi Mis Hanes Pobl Dduon, mis sy'n dathlu ffigyrau du pwysig yn ein hanes, yn ogystal â nodi mor greiddiol yw profiad a thystiolaeth pobl ddu i'n diwylliant, hanes sy'n bwysig drwy'r flwyddyn, wrth reswm.
Mae hanes pobl dduon yn rhan annatod o hanes Cymru. Mae agweddau i'w dathlu, er enghraifft cyfieithu naratifau caethweision John Marrant, Moses Roper a Josiah Henson i'r Gymraeg yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, a daniodd angerdd diddymu radicalaidd y Cymry; y cysylltiadau â Paul Robeson, a wnaeth ddadlau ei fod yn dyst i undod pobl sy'n gweithio o bob hil yng Nghymru; a'r myrdd o enghreifftiau o gyfraniadau pobl dduon i'n hanes a'n diwylliant cyfoes. Mae hanes hiliaeth hefyd, wrth gwrs: terfysgoedd 1919 a ddinistriodd Gaerdydd; poblogrwydd minstrels wynebau duon mewn carnifalau yng Nghymru ac ar deledu Prydeinig, ymhell ar ôl i'r arferion hiliol hynny ddod i ben yn yr Unol Daleithiau; a'r enghreifftiau cyfoes o hiliaeth yn ein cymdeithas ni. Fel y dywedodd yr artist a anwyd yn Iraq ond sydd wedi'i leoli yng Nghaerdydd, Rabab Ghazoul, mae gan Gymru, a hithau'n wladfa fewnol ac yn cyfrannu at wladychiaeth,
'y gallu i ddangos empathi radical a chyfrifoldeb radical.'
Mae'r ffaith yr oedd wythnos diwethaf yn wythnos genedlaethol dros ymwybyddiaeth o droseddau casineb yn arwain y ffordd ar y cyfrifoldeb hwnnw.
Rwy'n gobeithio ein bod ni oll yn cydsefyll gyda dioddefwyr hiliaeth, ond mae lle inni fod yn gwneud llawer mwy i daclo troseddau casineb. Yn ôl ffigurau'r Llywodraeth ei hun yn 2020-21, bu cynnydd o 16 y cant mewn troseddau casineb o'r flwyddyn flaenorol, ac roedd 66 y cant o'r troseddau casineb hyn yn droseddau casineb hiliol. Mae hyn yn gyson â thueddiad cyffredinol o gynnydd, flwyddyn i flwyddyn, mewn troseddau casineb yng Nghymru, â'r nifer wedi mwy na dyblu ers 2012-13.
Fel yr ydym wedi ei glywed heddiw, rydym ni wedi cael y ddadl hon yn y Siambr dair blynedd yn olynol, pan fu'r cynnig wedi ei eirio yn debyg iawn, ond eto mae troseddau casineb hiliol yn dal i gynyddu. Sut mae'r Llywodraeth yn gyfrifol am hyn? Rydym ni, wrth gwrs, yn croesawu'r cynllun gweithredu cydraddoldeb hiliol, ond beth sy'n mynd o'i le yma? Mae angen i ni ei wynebu.
Yng Nghymru a Lloegr, mae'r heddlu naw gwaith yn fwy tebygol o ddefnyddio eu grymoedd stop and search a bron wyth gwaith yn fwy tebygol o ddefnyddio tasers ar bobl ddu, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig nag ar bobl wyn. Mae canran y bobl ddu yng ngharchardai Cymru yn uwch na'r ganran yn y boblogaeth Gymreig. Ac yn ôl arolwg Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu, mae canran uwch o bobl ddu, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yn teimlo diffyg hyder yng ngallu'r heddlu i ddelio gyda chwynion yn deg. Rydym ni ym Mhlaid Cymru wedi dadlau y byddai datganoli grymoedd dros gyfiawnder a heddlua yn ein harfogi ni yma yng Nghymru i wneud y gwelliannau sydd eu hangen. Beth yw ateb y Llywodraeth?
Nawr, hoffwn fanylu ar un o isgymalau'r cynnig gan ei fod yn crisialu, dwi'n meddwl, ysbryd y cynnig yn ehangach. Mae cymal cyntaf y cynnig yn cefnogi,
'y frwydr fyd-eang i gael gwared ar hiliaeth ac ideoleg hiliol ac yn ymdrechu at sicrhau Cymru fwy cyfartal, gan fynd i'r afael ag anghydraddoldeb hiliol systemig a strwythurol'.
Fel cenedl fodern a gyfrannodd at fodolaeth yr ymerodraeth Brydeinig—a chlywsom dystiolaeth bwerus Altaf Hussain yn hyn o beth—nid yw'n syndod bod agweddau hiliol systemig yn parhau yn ein cymdeithas, ond mae'n werth nodi hefyd fod agweddau a ffynhonellau gwrth-hiliol o fewn cymdeithas a diwylliant Cymru, gweithiau Leonora Brito, Charlotte Williams, Hazel Carby, Glenn Jordan ac eraill, er enghraifft, yn cynnig adnoddau ar gyfer herio a thanseilio hiliaeth. Mae'r cymal yma hefyd yn cydnabod y cysylltiad sy'n bodoli rhwng hiliaeth strwythurol a systemig ar un llaw ac ideoleg hiliol ar y llaw arall. Mae ideoleg hiliol yn gallu bod yn amlwg ar adegau, ond gall fod yn fwy cynnil ar adegau eraill, wrth i wleidyddion, newyddiadurwyr ac eraill sydd â dylanwad ddefnyddio dog whistles, gan guddio eu gwir gymhelliant hiliol a gwthio ffiniau'r drafodaeth tuag at gasineb adweithiol.
Mae gennym oll gyfrifoldeb moesol i fod yn rhagweithiol yn ein gwrth-hiliaeth. Rhaid gweithredu'n fwy effeithiol i sicrhau nad oes gofod yn ein gwleidyddiaeth, yn ein cyfryngau, yn ein gweithleoedd nac yn ein sefydliadau ar gyfer ideoleg sy'n esgor ar hiliaeth ac anghydraddoldeb. Sut allwn ni sicrhau bod ein sefydliadau cenedlaethol yn adlewyrchu'r Gymru fodern yn ei holl amrywiaeth? Wel, wrth i ni fynd ati i ddiwygio'r Senedd er mwyn gwasanaethu pobl Cymru yn well, dylid ystyried o ddifrif, er enghraifft, y galwadau am gwotâu a mesurau eraill er mwyn cynyddu cynrychiolaeth grwpiau o bobl ddu ac o leiafrifoedd ethnig—
Wnaiff yr Aelod dod i gasgliad, os gwelwch yn dda?
—sy'n cael eu tangynrychioli ar hyn o bryd.
Ar ein taith tuag at statws cenedlaethol llawn, mae'n hanfodol ein bod ni'n wynebu'r hiliaeth yn ein gorffennol—ein bod ni'n pasio deddfwriaeth ac yn datblygu arferion diwylliannol, sefydliadol ac addysgol sy'n mynd i'r afael â hiliaeth yn y presennol, a'n bod yn clywed ac yn gwrando ar leisiau hanesyddol a chyfoes pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig wrth i ni ymdrechu i feithrin traddodiadau gwrth-hiliaeth yn ein diwylliant, fel yr ymgorfforwyd mewn ffordd mor rymus yn y cerflun o Betty Campbell a gafodd ei ddadorchuddio fis diwethaf. Diolch.
Mae i'w groesawu'n fawr fod cefnogaeth drawsbleidiol yn Siambr y Senedd hon i anfon neges glir iawn o'n penderfyniad ar y cyd i ddileu hiliaeth ac i adeiladu Cymru wrth-hiliol ochr yn ochr â chenedl noddfa.
Cefais fy nharo yn ddiweddar, fel y cafodd llawer o bobl eraill, gan y dadorchuddio hwnnw yng nghanol Caerdydd o'r cerflun o Betty Campbell, a'r diwrnod canlynol, ar dudalen flaen papur newydd cenedlaethol Cymru roedd llun syml o'r cerflun gyda'r geiriau, 'You don't have to settle for the boundaries people set for you'. Ond, fel y mae eraill wedi ei nodi, weithiau mae'r ffiniau hynny yn ymddangos yn rhy anodd eu torri pan fyddan nhw o'ch cwmpas chi i gyd. Dyma eiriau wyres Betty, Michelle Campbell-Davies, sy'n dweud, 'Ni allwch fod os na allwch weld'.
Betty Campbell oedd y pennaeth du cyntaf ar ysgol yng Nghymru ac roedd yn gynghorydd nodedig dros ei chymuned yn Nhre-biwt. Ac mae'r cerflun gwych hwn gan y cerflunydd Eve Shepherd yn nodi adeg bwysig yn y sgwrs yng Nghymru ynghylch cydraddoldeb hiliol. Ond mae'n tynnu sylw at faint ymhellach sydd i fynd. Nid oes ond rhaid i ni edrych arnom ni ein hunain ar draws y Siambr hon i sylweddoli bod gwaith i'w wneud o hyd. Ac felly roedd yn wych gweld, yn agoriad brenhinol swyddogol y Senedd, fod sôn am ein cydweithiwr, Natasha Asghar, y fenyw gyntaf i fod yn Aelod y Senedd o gefndir du, Asiaidd neu leiafrifoedd ethnig i gael ei hethol i'r lle hwn. Ond ni ddylai hyn fod yn nodedig mewn Cymru amrywiol. Bydd y cynllun gweithredu cydraddoldeb hiliol hwn ar gyfer Cymru wrth-hiliol yn gweithio i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb strwythurol a systemig a'i atal, a hyrwyddo cyfleoedd i bobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yng Nghymru. Ac felly gadewch i ni fanteisio ar y cyfle hwn, bob un ohonom ni yma gyda'n gilydd heddiw, ar draws y Siambr hon, ar hyn. Pawb dros un, ac un dros bawb. Diolch.
Hoffwn i ddiolch i'r Gweinidog yn gyntaf am gyflwyno'r ddadl hynod bwysig hon. Ac rwy'n falch o fod yn gyd-lofnodwr y cynnig sy'n croesawu cyflwyno'r cynllun gweithredu cydraddoldeb hiliol er mwyn i ni allu creu Cymru wrth-hiliol. Er ei bod yn ymddangos yn y cyfryngau ar adegau ein bod yn fwy rhanedig nag erioed, mae'n galonogol clywed cynifer o gyfraniadau ar draws y Siambr y prynhawn yma, a'n bod ni i gyd gyda'n gilydd yn cefnogi'r cynllun gweithredu hwn.
Yn benodol, hoffwn i dynnu sylw'n fyr iawn at rai o'r meysydd yr wyf i'n teimlo y dylem ni fel gwleidyddion yma, ac fel aelodau o'n priod bleidiau, fod yn gwneud mwy er mwyn creu Cymru wrth-hiliol. Yn gyntaf, hoffwn i dynnu sylw at effaith pandemig y coronafeirws ar gymunedau pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig. Cafwyd astudiaethau di-rif ac adroddiadau newyddion dros y 18 mis diwethaf sy'n awgrymu bod y pandemig wedi effeithio yn anghymesur ar bobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig, yn enwedig ein gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol. Er enghraifft, ledled y Deyrnas Unedig, mae 21 y cant o'r gweithlu gofal iechyd yn ddu, Asiaidd neu leiafrifoedd ethnig, ac, yn rhyfeddol, roedd 63 y cant o weithwyr gofal iechyd a fu farw yn ddu, Asiaidd neu leiafrifoedd ethnig eu hunain. Mae hynny'n eithaf cywilyddus. Mae hyn yn dangos yn gwbl glir annhegwch sylweddol o ran diogelwch staff gofal iechyd, a dylem ni i gyd fod yn ymwybodol o hyn fel enghraifft drist o'r anghyfiawnderau sy'n dal i fodoli yn y gymdeithas heddiw.
Yn ail, rwy'n credu bod gwerth tynnu sylw at ymrwymiad y Llywodraeth i iaith a rhoi'r gorau i ddefnyddio'r ymadrodd 'BAME'. Er fy mod i'n cydnabod, o fewn fy mhlaid fy hun, fod gennym gryn ffordd i fynd i sicrhau bod pawb, ar bob lefel yn strwythur y blaid, yn deall goblygiadau'r ymadrodd hwn, mae'n ddyletswydd ar bob un ohonom ni i ddefnyddio'r iaith gywir yn ein priod bleidiau i ddangos arweiniad ar y mater hwn.
Yn olaf, hoffwn i dynnu sylw, fel y nodwyd eisoes, at fater cynrychiolaeth yn y Senedd. Heb wneud y mater yn bêl-droed wleidyddol, rwy'n credu ei bod mor bwysig tynnu sylw at y swyddogaeth sydd gennym ni, unwaith eto, fel gwleidyddion ac fel aelodau o'n priod bleidiau, i fynd i'r afael â chynrychiolaeth decach. Mae'n rhaid i ni i gyd wneud mwy i sicrhau ein bod yn unioni'r anghydbwysedd yma yn y Siambr hon. Felly, gadewch i ni i gyd gymryd sylw o ymrwymiad Llywodraeth Cymru i wneud dim addewidion newydd, ond i gyflawni, cyflawni a chyflawni, a mynd â'r neges hon yn ôl i'n pleidiau gwleidyddol a sicrhau ein bod yn gwneud yr un peth i gynyddu cynrychiolaeth pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yma.
Felly, hoffwn i ddiolch i'r Gweinidog am ddod â hyn i'r Siambr, am gomisiynu'r adroddiad hwn, sy'n uchelgeisiol o ran ei gwmpas, ac edrychaf ymlaen at gefnogi'r Llywodraeth i geisio creu'r Gymru wrth-hiliol yr ydym ni i gyd yn ei dymuno. Diolch. Diolch yn fawr iawn.
Galwaf ar y Gweinidog i ymateb i'r ddadl.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Hoffwn i ddiolch i bawb am gyfrannu at y ddadl bwysig a sylweddol hon ar hil. Mae'r siaradwyr yn y ddadl y prynhawn yma ac, yn wir, ein cymunedau lleiafrifoedd ethnig yn dweud wrthym fod angen i ni weithredu yn awr i gyflawni ein gweledigaeth o Gymru sy'n wrth-hiliol, lle mae pawb yn cael eu trin yn ddinesydd cyfartal.
Hoffwn i ddechrau, wrth gydnabod y cyfraniadau, drwy ddiolch i chi, Altaf Hussain, am eich geiriau pwerus iawn ac am rannu â ni gyfrif o'ch bywyd, eich treftadaeth, eich hynafiaid, wedi eu gwerthu i gaethwasiaeth, a'ch bywyd yn awr yma a'ch cyfraniad enfawr. Ac rwy'n credu, fel y gwnaethoch chi ei ddweud, mae'n ymwneud â sut yr ydym ni'n trin ein gilydd, mae'n ddealltwriaeth o sut yr ydym ni'n mynd i'r afael ag anghydraddoldeb, rhagfarn a gwahaniaethu—mae'n ymwneud â sut yr ydym ni'n trin ein gilydd, sut yr ydym ni'n hyrwyddo cynhwysiant ac amrywiaeth, fel yr ydych chi'n ei ddweud, a sut y gallwn ni ddysgu sut i hyrwyddo'r cysylltiadau da hynny ac integreiddio.
A hoffwn i ddweud nad oedd gweledigaeth y genedl noddfa—ac rydym ni mor falch—mewn gwirionedd, siaradodd y Llywydd am ein cenedl noddfa pan siaradodd ddydd Iau diwethaf, ac roeddem yn falch o hynny, onid oeddem ni, yn y seremoni hollbwysig honno, i agor ein chweched Senedd. Nid yw'r genedl noddfa yn ymwneud dim ond â gwneud Cymru yn groesawgar i ymfudwyr, ond hefyd â manteisio gorau y gallwn ni ar y cyfleoedd a ddaw yn sgil mudo i helpu ein heconomi a'n cymunedau i ffynnu, a'n bod yn rhoi'r croeso cynnes hwnnw i'r rhai sy'n cyrraedd ac yn darparu'r cymorth sydd ei angen arnyn nhw, er mwyn iddyn nhw, mi wn, wneud eu cyfraniadau—yn wir, fel y mae cynifer wedi gwneud, fel y gwnaethoch chi ei ddweud, Altaf Hussain. Felly diolch am eich cyfraniad y prynhawn yma. A diolch i'r Ceidwadwyr Cymreig am gyd-gyflwyno. Mae Darren a minnau wedi ymweld â hyn, y cynigion hyn, bob blwyddyn yn y swydd hon. Diolch hefyd i Blaid Cymru am gyd-gyflwyno, a diolch i Jane Dodds. Mae'n gymaint o ddatganiad, onid yw, pan fyddwn ni i gyd yn dod at ein gilydd ac yn uno fel hyn.
Roedd yn bwysig iawn clywed gan Sarah Murphy am y bobl ifanc ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Rwy'n credu fy mod i wedi cwrdd â rhai ohonyn nhw, a daethon nhw at ei gilydd, fel y gwnaethoch chi ei ddweud, drwy Mae Bywydau Du o Bwys; daethon nhw at ei gilydd a chyfarfod a thrafod y materion, daethon nhw allan ar y strydoedd, i'r gymuned. Ac i ddweud, dyma pam mae'r system addysg, ein cefnogaeth i addysg, mor hanfodol o ran y cwricwlwm newydd, oherwydd, i'r bobl ifanc, bydd yn grymuso athrawon a'n holl ysgolion i gynllunio gwersi a fydd yn eu hysbrydoli, fel y dywedais i, i fod yn ddinasyddion moesegol, gwybodus o Gymru a'r byd. Mae'n rhaid i ni ddiolch i'r Athro Charlotte Williams am alluogi hynny i ddigwydd, ac yn wir y cyn-Weinidog Addysg, Kirsty Williams, am fwrw ymlaen â hyn, a Jeremy Miles erbyn hyn. Roedd yn falch iawn ar 1 Hydref, ar ddiwrnod cyntaf Mis Hanes Pobl Dduon, sydd bellach yn Hanes Pobl Dduon 365, wrth ddweud, 'Mae bellach yn orfodol yng Nghymru, a ni yw'r cyntaf yn y DU.' Ond diolch am rannu, unwaith eto, y bobl ifanc—Anna ac Olivia o Ben-y-bont ar Ogwr—eu profiadau a'r dylanwad maen nhw'n ei gael bellach ar eu cyfoedion a chymunedau Pen-y-bont ar Ogwr.
Diolch i Sioned Williams hefyd am gyd-gyflwyno'r ddadl hon. Ac fel y gwnaethoch ei ddweud mor rymus, mae hyn yn ymwneud, mewn gwirionedd, ag a ydym yn mynd i wneud rhywbeth gwahanol y tro hwn, a fydd yn newid, drwy gynnig y cynllun gweithredu cydraddoldeb hiliol hwn ar gyfer Cymru wrth-hiliol. Ac mae'n ddiddorol, fel y gwnaethom ni ei ddweud—yn ystod y flwyddyn, digwyddodd llawer o bethau, a thynnais sylw atyn nhw, ond un peth y gwnaethom ni ei wneud oedd rhoi arian i hanes pobl dduon, felly nid Mis Hanes Pobl Dduon yn unig ydyw, mae'n Hanes Pobl Dduon 365 diwrnod y flwyddyn. Ac eleni, buom yn dathlu'n lleol yr hyn y gwnaethom ni ei alw'n arwyr ac arwresau, gan ddiolch i'r rhai hynny sy'n gweithio'n ddiflino yn eu cymunedau, a'r cyfoeth a'r cryfder a'r cyfraniadau y mae pobl a chymunedau pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yn eu cyflwyno i Gymru fu ein hanes ni erioed ers i mi ymwneud â gwleidyddiaeth.
Mae'n bwysig i ni edrych ar iaith, fel y dywedodd Jane Dodds. Ac rwy'n credu ein bod ni wedi myfyrio, fel y mae Rhianon Passmore wedi ei wneud, ar yr arweinydd cymunedol a'r ymgyrchydd arloesol, Betty Campbell. Ond roedd cael ei phlant a'i hwyrion yn siarad yn y seremoni dadorchuddio ei cherflun mor bwerus, ac rydych chi wedi adleisio geiriau ei hwyres, Rhianon, y prynhawn yma. Ni wnaeth hiliaeth, rhagfarn ac anoddefgarwch atal Betty—fe roddodd yr awch iddi fwrw ymlaen a chyflawni, ac roedd yn rhywun a wnaeth newid a oresgynnodd gynifer o rwystrau, fel y gallwn ni gydnabod bod yn rhaid i ni gyflawni bellach o ran ei hetifeddiaeth.
Rwy'n ddiolchgar i chi, Sioned Williams, am dynnu sylw at yr ystadegau troseddau casineb cenedlaethol, a oedd yn peri pryder mawr yr wythnos diwethaf. Ond mewn gwirionedd, dros y flwyddyn ddiwethaf, mae'n debyg ein bod ni wedi gwneud mwy o waith i gynyddu ymwybyddiaeth a hyder dioddefwyr i ddod ymlaen a rhoi gwybod am droseddau casineb. Rydym ni wedi bod yn pryderu'n fawr am y cynnydd hwn mewn troseddau casineb a gofnodwyd yng Nghymru eleni, o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol. Ond mae hyn yn ymwneud â sicrhau bod pobl yn dod ymlaen ac efallai y bydd gwell ymwybyddiaeth, gobeithio, a chofnodi troseddau casineb yn well gan heddluoedd. Ac rydym yn ymwreiddio camau gweithredu i ddileu casineb a rhagfarn yng nghynllun gweithredu cydraddoldeb hiliol Cymru.
Mae gennym ni lawer o themâu yn y cynllun gweithredu cydraddoldeb hiliol ac un ohonyn nhw yw cyfiawnder troseddol. Nid yw wedi ei ddatganoli, ond dywedodd y rhai hynny a oedd yn amlwg â phrofiad byw a gyd-luniodd y strategaeth hon â ni, ac a oedd yn dymuno dylanwadu arni, 'Mae'n rhaid i chi gynnwys cyfiawnder troseddol yn y cynllun gweithredu hwn.' Ac mae gan ein cynllun y nod cyfunol y bydd pawb sy'n dod i gysylltiad â'r system cyfiawnder troseddol yn cael triniaeth gyfartal a chanlyniadau cyfartal ni waeth beth fo'u hethnigrwydd, ochr yn ochr ag addysg, cyflogadwyedd, sgiliau a diwylliant—cafodd ei gyfleu yn eich datganiad y prynhawn yma, y dylanwad y mae eisoes yn ei gael—y Gymraeg, treftadaeth, chwaraeon, cynrychiolaeth ymhlith arweinwyr, iechyd a gofal cymdeithasol. Mae pob rhan o Lywodraeth Cymru bellach yn gwneud y newid hwnnw.
Felly, mae gennym ni gyfrifoldeb yn awr. Rydym ni wedi dod at ein gilydd heddiw, a byddwn ni drwy gydol y flwyddyn hon, mi wn, yn cydnabod—. A byddwch yn ein dwyn i gyfrif o ran sicrhau ein bod yn cyflawni'r cynllun hwn mewn ffordd nad yw wedi ei gweld o'r blaen. Rwy'n falch iawn ei fod yn gynllun gweithredu cydraddoldeb hiliol ar gyfer Cymru wrth-hiliol. Bydd yn rhaid i bob un ohonom ni ddysgu a newid a chyflawni i wneud hon yn ddogfen fyw sy'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol ac y gallwn wedyn weld y gwahaniaeth mesuradwy hwnnw i fywydau pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig mewn cymunedau yma yng Nghymru. Diolch yn fawr.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
A daw hynny a thrafodion heddiw i ben. Nos da, bawb.