– Senedd Cymru ar 20 Hydref 2021.
Eitem 8, dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar recriwtio athrawon. Galwaf ar Laura Anne Jones i wneud y cynnig.
Cynnig NDM7811 Darren Millar
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn cydnabod gwaith caled ac ymroddiad athrawon a staff ysgolion ledled Cymru drwy gydol pandemig COVID-19.
2. Yn cydnabod bod athrawon yng Nghymru yn parhau i wynebu pwysau digynsail wrth i ni symud allan o'r pandemig a gweithredu cwricwlwm newydd.
3. Yn credu bod y ffaith bod nifer yr athrawon yng Nghymru yn disgyn yn cael effaith andwyol ar allu dysgwyr i oresgyn effaith andwyol y pandemig ar eu haddysg.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno cynllun ar frys i hybu recriwtio athrawon, sy'n cynnwys:
a) gosod targedau i ddarparu 5,000 o athrawon ledled Cymru yn ystod y pum mlynedd nesaf;
b) ad-dalu ffioedd dysgu i'r rhai sy'n mynd ymlaen i weithio fel athrawon am o leiaf bum mlynedd yn ysgolion Cymru;
c) sefydlu gwasanaeth cynghori ar addysg i Gymru i wella mynediad i gyfleoedd cyflogaeth a sefydlu mwy o lwybrau i'r proffesiwn addysgu;
d) gwarantu o leiaf flwyddyn o gyflogaeth mewn ysgol neu goleg yng Nghymru i bob athro sydd newydd gymhwyso.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn gyflwyno'r cynnig a osodwyd ger ein bron yn enw Darren Millar. Gan symud at y gwelliannau, ni fyddwn yn cefnogi gwelliant 1 am ei fod yn ceisio dileu popeth ar ôl pwynt 1 yn ein cynnig. Mae hwn yn gynnig sy'n cyflwyno cynllun adeiladol i geisio mynd i'r afael â'r argyfwng recriwtio athrawon a phrinder staff sy'n ei hwynebu yng Nghymru ar hyn o bryd. Wrth gwrs, byddem yn cytuno â'r teimladau a amlinellir ym mhwyntiau 2, 3 a 4 gwelliant 1, sy'n debyg i gywair ein cynnig ni, a byddaf yn bwrw ymlaen i gydnabod rhai o'r camau cadarnhaol y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cymryd. Ond pwynt 5, Weinidog—yn sicr hoffwn gael rhywfaint o eglurhad gan y Gweinidog ynglŷn â pham y cafodd hyn ei gynnwys hyd yn oed. Mae braidd yn ddryslyd, ac yn ôl yr hyn a ddeallaf—cywirwch fi os wyf fi'n anghywir—mae addysg wedi'i datganoli'n llawn yma yng Nghymru. Mae cyflogau athrawon wedi'u datganoli'n llawn yma yng Nghymru ers 2018, fel y nodir yn y memorandwm esboniadol i Orchymyn Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol (Cymru) 2020.
Gan ein bod yn trafod cyflogau athrawon yng Nghymru, ar wahân i geisio gwthio'r bai ar Lywodraeth y DU a cheisio'u beirniadu unwaith eto—fel y gwn eich bod yn mwynhau ei wneud fel Llywodraeth, sy'n llesteirio ac yn drysu rhywun yn yr achos hwn, ac sydd, o ystyried y pwynt, yn gwbl amherthnasol i'r cynnig hwn—ni allaf ond meddwl ei fod yn ymgais i guddio'r ffaith nad oes gennych gynllun pendant ar waith i fynd i'r afael â'r pryderon rydym ni, yr undebau a staff addysgu mewn ysgolion wedi'u codi dro ar ôl tro, ac a nodir yn ein cynnig heddiw. Ni allaf weld bod pwynt 5, ar wahân i fod yn annymunol, yn cynnig unrhyw sylw adeiladol i'r cynnig a'r ddadl hon gan y Ceidwadwyr Cymreig heddiw, sy'n ceisio gwneud gwahaniaeth i fywydau plant a staff addysgu yma yng Nghymru.
Ar welliant 2, ni fyddwn yn cefnogi hwn chwaith. Mae'n drueni mawr nad yw gwelliant Plaid Cymru yn cynnig unrhyw beth newydd neu adeiladol i'w ychwanegu at ein cynnig. Mae'n awgrymu dileu pwynt 4, sef y prif bwynt yn ein cynnig sy'n cynnig cynllun adeiladol i gefnogi recriwtio athrawon a mynd i'r afael â phrinder staff yma yng Nghymru. Ni allaf anghytuno ag unrhyw ran o'i gynnwys, ond drwy ddileu ein pwynt 4, byddai'n glastwreiddio unrhyw awgrymiadau cadarnhaol a gyflwynir gennym i'r Llywodraeth yma heddiw ac o'r herwydd, ni fyddwn yn ei gefnogi.
Byddaf yn trafod pwynt sydd angen ei wneud yn y Siambr hon nes bod fy wyneb yn las, ond rwyf hefyd yn rhoi clod lle mae clod yn ddyledus, ac mae'r Llywodraeth hon wedi gwneud rhai ymdrechion, fel yr amlinellwyd gennych, i wella recriwtio athrawon a phrinder staff, ond nid yw'n ddigon da, nid yw'n ddigon da o gwbl. O ran recriwtio athrawon, pe bawn yn athro yn marcio ymdrech y Llywodraeth hon ar recriwtio athrawon a phrinder staff, byddwn yn ychwanegu'r sylwadau hyn: ymdrech weddol, ond mae llawer o le i wella. Rydych chi, Lywodraeth Cymru, yn gwneud rhai gwelliannau ymosodol i'n cynnig, ond mae'r ffeithiau yno. Mae Cymru'n wynebu argyfwng prinder athrawon ar hyn o bryd, ac am y rheswm hwn rydym ni, y Ceidwadwyr Cymreig, wedi dod â'r ddadl hon i'r Siambr heddiw i dynnu sylw at hyn, ac i ofyn i chi ar ran y plant a staff addysgu yng Nghymru, ffurfio cynllun i ddiogelu eu haddysg drwy wella recriwtio athrawon yng Nghymru, a gwneud hynny fel mater o frys oherwydd yr angen dybryd i wneud hynny.
Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn yn awr i dalu teyrnged, Ddirprwy Lywydd, i gydnabod gwaith caled ac ymroddiad athrawon a staff ysgolion ledled Cymru, yn enwedig yn ystod y pandemig COVID. Mae wedi bod yn gyfnod eithriadol o anodd iddynt hwy ac i ddisgyblion, ac mae'r holl staff addysgu yn parhau i wneud gwaith eithriadol tra'n wynebu pwysau parhaus a chynyddol. Roedd y pwysau'n amlwg ac yn gyffredin ymhell cyn i'r pandemig ddechrau, oherwydd y tanariannu cronig gan Lywodraethau Llafur olynol yng Nghymru. Rydym yn cydnabod bod athrawon yng Nghymru yn parhau i wynebu pwysau digynsail wrth inni gefnu ar y pandemig a gweithredu'r cwricwlwm newydd. Drwy lwyth gwaith cynyddol, absenoldeb cynyddol staff a disgyblion oherwydd COVID, ac effaith sylweddol ar les athrawon, maent i gyd yn llesteirio'r broses o gyflwyno'r cwricwlwm newydd, yn ogystal â chael effaith, wrth gwrs, ar recriwtio staff.
Rwy'n cymeradwyo'r gwaith a amlinellwyd gennych yr wythnos diwethaf yn y Siambr hon ar iechyd meddwl a chefnogi iechyd meddwl staff, o ganlyniad i'r ymateb i'r argyfwng y mae staff addysgu yn ei wynebu mewn ysgolion mewn perthynas ag iechyd meddwl: 82 y cant o staff ysgolion yn ymateb i arolwg yn dweud ei fod yn effeithio'n negyddol ar eu hiechyd meddwl. Arweiniodd y cynnydd sylweddol yn llwyth gwaith athrawon at bryderon ynglŷn â staff wedi gorflino. Mae ysgolion wedi dioddef pobl yn gadael y proffesiwn am rai o'r rhesymau a amlinellais eisoes, ac maent yn ei chael hi'n anodd recriwtio athrawon newydd, ac felly maent wedi dod yn orddibynnol ar athrawon cyflenwi, yn ogystal â chynyddu llwyth gwaith cynorthwywyr addysgu yn sylweddol ac yn anghymesur, fel y nododd fy nghyd-Aelod, Peter Fox, ddoe. Mae'n amlwg fod angen i'r Llywodraeth hon gyflwyno cynllun i hybu recriwtio athrawon yng Nghymru am amryw o wahanol resymau. Ar ôl dau ddegawd o Lywodraethau Llafur Cymru, maent wedi llwyddo i oruchwylio gostyngiad o 10.3 y cant yn nifer yr athrawon rhwng 2011 a 2021, gan gynnwys gostyngiad yn nifer yr athrawon sy'n gallu addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg—rhywbeth y bydd fy nghyd-Aelod yn ei egluro yn nes ymlaen.
Cynllun clir yw'r hyn sydd ei angen gan y Llywodraeth hon: cynllun clir i osod targedau i ddarparu 5,000 o athrawon ledled Cymru yn y pum mlynedd nesaf, i ad-dalu ffioedd dysgu i'r rhai sy'n mynd ymlaen i weithio fel athrawon am o leiaf bum mlynedd yn ysgolion Cymru, ac i warantu blwyddyn o gyflogaeth fan lleiaf i bob athro newydd gymhwyso mewn ysgol neu goleg yng Nghymru. Uchelgeisiol, ond mae'n flaengar, ac rydym eisiau'r broses honno o recriwtio a chadw athrawon yng Nghymru. A ydych am—? Na.
Er mwyn cyflawni hyn, gellid rhoi pwerau i Gyngor y Gweithlu Addysg achredu rolau gwahanol i mewn i'r proffesiwn, gan gynnwys caniatáu i athrawon o wledydd eraill drawsnewid eu cymwysterau'n rhai sy'n caniatáu iddynt weithio yng Nghymru. Mae diffyg cyllid gan Lywodraeth Cymru wedi llesteirio gallu ysgolion i gyflogi digon o staff. Mae Cymdeithas Genedlaethol y Prifathrawon wedi crybwyll hyn fel pryder gwirioneddol, ac nid yw'n ddigon da. Mae angen diwygio recriwtio athrawon yn sylfaenol, a dyna pam ein bod yn galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu gwasanaeth cynghori ar addysg yng Nghymru i wella mynediad at gyfleoedd cyflogaeth a sefydlu mwy o lwybrau i'r proffesiwn addysgu. Bydd hyn yn caniatáu llwybr newydd ar gyfer recriwtio athrawon drwy greu cronfa ddata newydd o athrawon cymwysedig, gan ganiatáu i ysgolion chwilio'n fwy hwylus am athrawon ac ysgolion i lenwi swyddi gwag, wedi'i weithredu gan ddefnyddio data gan Gyngor y Gweithlu Addysg yng Nghymru. Gallai athrawon fanteisio ar hyn felly drwy ddarparu datblygiad proffesiynol parhaus yn fewnol, uwchsgilio ac ailsgilio, a fyddai'n gyfle gwych.
Edrychaf ymlaen at ymateb y Llywodraeth i'n dadl heddiw, a chlywed y cynlluniau sydd ganddynt i fynd i'r afael â'r argyfwng parhaus hwn a phryderon dilys ein hysgolion, ac rwy'n gobeithio y gall yr Aelodau ar draws y Siambr gefnogi ein cynnig heddiw.
Rwyf wedi dethol y ddau welliant i'r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol. Galwaf ar Weinidog y Gymraeg ac Addysg i gynnig yn ffurfiol gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths.
Gwelliant 1—Lesley Griffiths
Dileu popeth ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le:
2. Yn mynegi ei diolchgarwch i’r gweithlu addysg cyfan am flaenoriaethu lles dysgwyr ac am ei ymrwymiad i weithredu’r cwricwlwm newydd er gwaethaf pwysau digynsail y pandemig.
3. Yn credu bod lles y gweithlu addysg o’r pwys mwyaf.
4. Yn cydnabod bod dysgu proffesiynol yn hanfodol er mwyn sicrhau gweithlu brwd o ansawdd.
5. Yn condemnio penderfyniad Llywodraeth San Steffan i rewi cyflogau’r sector cyhoeddus, ac effaith hynny ar athrawon ar adeg o bwysau digynsail ar y gweithlu.
6. Yn croesawu:
a) y cynnydd o 40 y cant yn y ceisiadau ar gyfer cyrsiau athrawon y llynedd.
b) y cynnydd o 15.9 y cant yng nghyflogau athrawon newydd yng Nghymru ers 2019, a’r cynnydd o 1.75 y cant y gwnaeth Llywodraeth Cymru helpu i’w sicrhau yng nghyflog pob athro eleni er gwaethaf y rhewi ar gyflogau’r sector cyhoeddus.
c) y ffaith bod cyllid ychwanegol Llywodraeth Cymru yn ystod y flwyddyn ariannol hon wedi helpu i baru dros 400 o athrawon sydd newydd gymhwyso ag ysgolion.
d) y ffaith bod ffocws Cymru ar ddysgu proffesiynol ymhlith athrawon wedi’i ddisgrifio fel rhywbeth eithriadol o gymharu â llawer o awdurdodaethau eraill OECD, ac yn darparu sylfaen gadarn i wella dysgu proffesiynol mewn ysgolion.
e) y ffaith bod Cymru yn arwain y ffordd â chanllawiau fframwaith statudol ar gyfer ysgol gyfan, sydd wedi’u dylunio i gefnogi lles staff yn ogystal â dysgwyr.
Yn ffurfiol.
Galwaf ar Siân Gwenllian i gynnig gwelliant 2, a gyflwynwyd yn ei henw.
Gwelliant 2—Siân Gwenllian
Dileu pwynt 4 a rhoi yn ei le:
Yn credu bod nifer fawr o ffactorau'n dylanwadu ar y ffaith bod nifer yr athrawon yn gostwng, gan gynnwys llwyth gwaith, biwrocratiaeth ddiangen, materion staffio a phersonél, prosesau arolygu, yn ogystal â materion sy'n ymwneud â chyllid a chyllidebu;
Yn credu ymhellach fod yn rhaid mynd i'r afael â materion recriwtio gan ddefnyddio dull gweithredu aml-elfen, gan ganolbwyntio ar werthfawrogi'r proffesiwn a chreu gwell amodau gwaith a chyfleoedd.
Diolch yn fawr. Y prif reswm ddaru i ni benderfynu cyflwyno'r gwelliant i'r cynnig heddiw oedd i dynnu sylw at y ffaith bod y mater o gadw athrawon—retention—yn fwy cymhleth ac amlochrog na materion yn ymwneud â staffio a phersonél yn unig; hynny yw, yn fwy eang na chwmpawd y cynnig yma. Wrth gwrs, mae materion personél a staffio yn bwysig, a ddylen ni ddim anghofio chwaith bod ymgyrch recriwtio yn hanfodol bwysig, ond mae angen i ni fuddsoddi mwy mewn ysgolion i gyflogi mwy o staff, os ydym ni wir am i'r Gymraeg ffynnu, os ydym ni wir am i'r cwricwlwm newydd lwyddo, os ydym ni am ddiwygio addysg dysgu ychwanegol yn llawn, yna mae realiti'r colledion addysg rydym ni wedi'u dioddef yn ystod y pandemig hefyd yn peri pryder mawr. Ac mae gwir angen i ni sicrhau bod cynllun ar waith i ateb yr her enfawr o adfer addysg.
Fodd bynnag, pan ddaw hi'n fater o roi hwb i'r gweithlu mewn gwirionedd, rhaid inni gofio bod yna resymau niferus pam fod pobl yn gadael y proffesiwn, ac ar hyn o bryd, mae un o bob tri athro yn rhoi'r gorau i'r ystafell ddosbarth o fewn y pum mlynedd gyntaf. Mae tystiolaeth o ymchwil helaeth, ac yn wir, synnwyr cyffredin yn awgrymu mai'r prif ffactorau sy'n pennu materion cadw yn y sector addysg ydy lles athrawon yn ogystal ag effeithiau llwyth gwaith, mesurau atebolrwydd, prosesau arolygu, biwrocratiaeth, cyllid a rheolau cyllidebu a diffyg cyfleoedd datblygu proffesiynol—ystod o faterion. Ac er mwyn sicrhau'r gweithlu addysg gryf sydd ei angen arnom ni yng Nghymru, mae'n rhaid i'r Llywodraeth ymateb i'r holl ffactorau sy'n sbarduno'r mater o gadw athrawon yn y gweithlu, a dyna pam rydym ni'n coelio bod angen dull aml-elfen i fynd i'r afael â'r materion recriwtio a chadw, mewn gwirionedd, cynllun sy'n canolbwyntio ar werthfawrogi'r proffesiwn a chreu gwell amodau gwaith a chyfleoedd i addysgwyr.
Mae'n fy nharo fi hefyd nad ydy cynnig y Ceidwadwyr yn cyfeirio at yr iaith Gymraeg. Mae yna brinder o dros 300 o athrawon cynradd Cymraeg a 500 o athrawon uwchradd cyfrwng Cymraeg, ac mae hynny'n destun pryder mawr. Mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno nifer o ymyrraethau gwahanol i geisio denu mwy i hyfforddi fel athrawon Cymraeg, ond, mewn gwirionedd, mae angen newidiadau mwy strategol a phellgyrhaeddol os ydym ni am newid y patrymau.
Mae materion ariannu a chyllidebu yn pwyso'n drwm ar athrawon ac arweinwyr ysgol, gan effeithio'n fawr ar eu lles ac felly, eto, ar y lefelau cadw, ac un ateb fyddai darparu cyllidebau tymor hwy ar gyfer addysg fel y gall ysgolion a lleoliadau addysg bellach gynllunio a defnyddio eu hadnoddau'n well, ac mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru sicrhau bod cyllid yn cyrraedd y rheng flaen mewn modd effeithiol ac amserol.
Mae arolygon yn awgrymu nad ydy'r rhan fwyaf o athrawon yn teimlo fel pe bai eu lleisiau'n cael eu clywed gan Lywodraeth Cymru, ond er mwyn creu'r proffesiwn rydym ni am ei weld yn datblygu, er mwyn creu proffesiwn deniadol ac i hybu recriwtio a chadw, mae'n rhaid i Lywodraeth wrando ar athrawon ac arweinwyr ysgol. Ac mae angen hefyd i'n gweithwyr ni weld bod Llywodraeth Cymru yn pwyso am newid gwirioneddol mewn meysydd polisi ac arfer sy'n effeithio ar eu llesiant, yn ogystal â materion sy'n ymwneud efo'r llwyth gwaith, atebolrwydd, arolygu—yr holl faterion yma sydd yn rhoi pwysau sylweddol ar ein gweithlu ni.
Yn y tymor hir, mae'n rhaid inni ddatrys y broblem hon, neu rydym ni'n amddifadu ein plant ni a chenedlaethau i'r dyfodol o addysg sydd wirioneddol yn parchu'r gweithlu, a byddwn ni'n colli mwy a mwy ac yn colli un o'n hadnoddau mwyaf gwerthfawr ni fel cenedl, sef y gweithlu dysgu.
Mae addysgu yn broffesiwn anrhydeddus. Mae gan bob un ohonom aelodau o'r teulu, ffrindiau a chydnabod sy'n addysgu. Rydym i gyd wedi elwa o'r gwaith caled, yr ymroddiad, yr ymdrech a'r cariad y mae ein hathrawon wedi'i ddangos i ni o'n blynyddoedd cynnar ac wrth inni dyfu'n oedolion. Mae gan bob un ohonom atgofion melys, ac atgofion nad ydynt lawn mor felys efallai, o'n hamser yn yr ysgol. Mae'n gyfnod hollbwysig yn ein bywydau pan fyddwn yn dysgu cymaint, nid yn unig yn academaidd, ond am sefyllfaoedd cymdeithasol, ffurfio perthynas gyda phobl eraill a dysgu'r hyn sy'n dderbyniol yn gymdeithasol a'r hyn nad yw'n dderbyniol yn gymdeithasol. Mae gennyf atgofion melys o'r ysgol. Nid oeddwn yn mwynhau'r ysgol lawer o'r amser, ond gallaf gofio cael dadleuon eithaf bywiog gyda fy athrawon am ddigwyddiadau byd-eang, ac roedd bob amser yn eithaf calonogol, ac roeddent bob amser yn fy annog i roi cynnig ar bethau a fy nghael i gymryd rhan yng ngwaith y cyngor ysgol a cheisio gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i ddisgyblion. Rwy'n gwerthfawrogi'r anogaeth a gefais yn yr ysgol yn fawr.
Mae blynyddoedd ysgol yn hanfodol bwysig i'n datblygiad. Maent yn siapio pwy ydym ni. Ond yn rhy aml rydym yn mesur hyn mewn llwyddiant academaidd—mewn canlyniadau TGAU a Safon Uwch, ac nid y sgiliau bywyd a ddatblygwn tra bôm yn yr ysgol. Gallwn i gyd gofio'r athro a aeth y tu hwnt i'r galw gan ein hysbrydoli a gwneud i ni gredu ynom ein hunain. Mae cael y nifer gywir o athrawon cymwysedig, cynorthwywyr a staff ysgol yn hanfodol.
Ar hyn o bryd rydym yn profi prinder o athrawon sy'n cymhwyso ac eisiau dod i Gymru i addysgu. Nid yw hon yn dasg hawdd i'w datrys, Weinidog, ac nid wyf yn genfigennus o unrhyw Lywodraeth sy'n ceisio mynd i'r afael â'r mater hwn. Ond mae wedi bod yn digwydd ers rhai blynyddoedd, ac mae angen inni edrych o ddifrif ar yr hyn sy'n digwydd.
A yw athrawon yn cael eu talu ddigon? Byddwn yn sicr yn dadlau nad ydynt—yn enwedig y rhai sydd newydd gymhwyso. Mae'n cymryd blynyddoedd i hyfforddi i fod yn addysgwr, ac wrth gymhwyso, ni all llawer ohonynt fyw y bywyd y maent yn ei haeddu gyda'r cyflogau y maent yn eu cael. Gyda phrisiau tai allan o reolaeth ar hyn o bryd a safon byw yn mynd yn fwyfwy drud, nid yw athrawon yn cael cyflog sy'n adlewyrchu'r gwaith y maent yn ei wneud.
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Iawn, Joyce, rwy'n derbyn ymyriad.
Diolch ichi am dderbyn ymyriad, a nodaf eich sylwadau am gyflogau athrawon. Felly, a yw hyn yn golygu eich bod yn anghytuno â'r ffordd y mae eich Llywodraeth wedi rhewi cyflogau'r sector cyhoeddus, a'ch bod yn croesawu'r codiad cyflog o 1.75 y cant y mae Llywodraeth Cymru wedi'i weithredu?
Diolch, Joyce. Mewn gwirionedd, mae cyflogau athrawon wedi'u datganoli i'r Llywodraeth. Felly, os oes gennych broblem gyda chyflogau athrawon, dylech gael golwg ar y fainc flaen a chodi'r mater gyda'r Gweinidog ei hun.
Rwy'n gobeithio bod y Llywodraeth yn ceisio sicrhau eu bod yn mynd i'r afael â chyflogau athrawon, oherwydd rydym yn ei chael hi'n anos recriwtio i fy ardal yng nghanolbarth Cymru gyda'r diffyg cartrefi fforddiadwy a'r diffyg cyfleoedd sydd ar gael i'r bobl hyn. Er bod recriwtio mewn dinasoedd yn ddeniadol i weithwyr proffesiynol ifanc, mae angen inni sicrhau bod Cymru'n lle deniadol i weithio ledled y wlad, mewn ardaloedd trefol a gwledig. Rydym angen sicrwydd y bydd pob athro newydd gymhwyso yn cael o leiaf blwyddyn o gyflogaeth mewn ysgol neu goleg yng Nghymru.
Mewn cymunedau gwledig, mae athrawon yn rhan annatod o'r gymuned leol, a dylid eu gwerthfawrogi am eu rôl aruthrol yn siapio ein cenedlaethau iau. Mae cyllidebau ysgolion sy'n lleihau'n barhaus yn rhoi mwy a mwy o bwysau ar athrawon i ddarparu'r un addysg o ansawdd uchel am lai o arian, ac mae hynny'n rhoi straen enfawr ar athrawon, penaethiaid a llywodraethwyr.
Yn olaf, biwrocratiaeth. Gall hwn fod yn air sy'n cael ei orddefnyddio, ond mae'n un sy'n cael ei ddweud wrthyf dro ar ôl tro gan athrawon ac eraill, ynghyd â 'gorweithio' a 'thanbrisio'. Mae angen lledu'r llwybrau at addysgu. Er enghraifft, mae athrawon yng Nghymru angen gradd B mewn Saesneg a mathemateg i allu addysgu yng Nghymru. Yn Lloegr, maent angen gradd C. Mae hyn yn rhoi cyfle i lawer mwy o bobl hyfforddi i fod yn athrawon. Efallai y bydd llawer yn ystyried gyrfa mewn addysgu yng Nghymru, ond ni fyddant yn gallu cymhwyso yma am na chawsant radd B pan oeddent yn 16 oed. Felly, mae'n bosibl y byddant yn dewis mynd ymlaen i wneud rhywbeth arall.
Felly, mae hwn yn ymddangos yn bolisi gwael sy'n rhwystro nifer o athrawon anhygoel a thalentog rhag addysgu yma yng Nghymru, ac rydym yn barnu rhagolygon swyddi a llwybr gyrfa rhywun yn y dyfodol yn ôl prawf y maent yn ei gael yn 16 oed. Credaf fod gwir angen mynd i'r afael â hyn, a chredaf hefyd fod angen sefydlu gwasanaeth cynghori ar addysg yng Nghymru i wella cyfleoedd cyflogaeth a sefydlu mwy o lwybrau i mewn i'r proffesiwn addysgu.
Credaf fod hyn—a chyfuniad o ffactorau—yn effeithio ar recriwtio athrawon, ac mae angen inni roi ystyriaeth ddifrifol iddo. Mae angen inni ddarparu 5,000 yn fwy o athrawon ledled Cymru dros y pum mlynedd nesaf. Yn gyson, clywaf Weinidogion yn y lle hwn yn dweud eu bod yn ceisio datrys pethau. Rwy'n gobeithio bod hynny'n wir, oherwydd ein hathrawon yw'r bobl sy'n helpu ein cenedlaethau iau i ddatblygu'r sgiliau i ddatrys problemau yfory. Diolch, Ddirprwy Lywydd.
Hoffwn gofnodi fy niolch i'r proffesiwn addysgu am eu hymdrechion i gynnal safonau addysg yn ystod y cyfnod heriol hwn. Yn anffodus, nid yw athrawon a staff ysgolion wedi gallu gwneud eu gwaith yn iawn yn ystod y pandemig hwn. Er gwaethaf diffyg arweinyddiaeth Llywodraeth Cymru yn ystod y pandemig COVID-19, nid yw safonau addysgol wedi dioddef i'r graddau y byddai llawer wedi'i ddisgwyl. Ond beth yw'r gost?
Mae'r effaith y mae'r pandemig wedi'i chael ar ddisgyblion, athrawon a staff wedi bod yn aruthrol. Er y bydd y mwyafrif helaeth o ddisgyblion yn gwella'n academaidd, bydd colli addysgu wyneb yn wyneb wedi cael effaith fwy hirdymor ar eu lles meddyliol a'u datblygiad emosiynol. I lawer o gymunedau, yn enwedig llawer o'r rheini yn fy etholaeth i yn Nyffryn Clwyd, nid yw dysgu ar-lein yn opsiwn. Nid yw'n opsiwn gan nad oes unrhyw gysylltiadau band eang dibynadwy. Nid oes gan rieni mewn sawl rhan o Ddyffryn Clwyd fynediad dibynadwy at y rhyngrwyd, ac nid oes gan lawer o'r rhai sydd â chysylltiad â'r rhyngrwyd ddyfeisiau i allu cynnal dosbarthiadau Zoom i'w plant yn ogystal â gweithio o bell eu hunain. Hyd yn oed yn awr, rydym yn gweld grwpiau blwyddyn cyfan neu hyd yn oed ysgolion cyfan yn cael eu hanfon adref am wythnosau bwy'i gilydd oherwydd COVID. Mae natur nôl ac ymlaen addysg yn effeithio ar ddisgyblion, athrawon a rhieni—a'r cyfan am fod Llywodraeth Cymru wedi methu sicrhau rheolaeth ar y pandemig yn gynt, wedi methu dangos arweiniad ac wedi methu diogelu disgyblion a staff.
Ond y dreth ar broffesiwn addysgu sydd eisoes wedi digalonni fydd yn cael yr effaith fwyaf ar ein gallu i addysgu cenedlaethau'r dyfodol. Ymhell cyn i'r feirws SARS-CoV-2 ddod o hyd i'w gynhaliwr dynol cyntaf, roedd athrawon yn gadael y proffesiwn yn eu heidiau. Gadawodd un o bob 10 yn y degawd diwethaf. Fy ofn i yw y bydd llawer mwy yn gadael o ganlyniad i'r pwysau y maent wedi'u hwynebu dros y 18 mis diwethaf. Mae undebau athrawon a Chyngres yr Undebau Llafur wedi sôn am yr ofn a brofir gan broffesiwn sydd wedi'i orweithio a'i orlethu—proffesiwn sydd wedi cael ei siomi gan Lywodraeth Lafur Cymru, Llywodraeth a gyflwynodd gynllun gweithredu COVID a oedd yn draed moch, o system brofi, olrhain, diogelu a fethodd brofi, olrhain na diogelu, i drosglwyddo'r penderfyniad ynglŷn â masgiau wyneb ymlaen i'r ysgolion. Mae Gweinidogion Cymru wedi cefnu ar athrawon i bob pwrpas. Os na fyddwn yn gwrthdroi'r dirywiad yn nifer yr athrawon, byddwn yn gadael i gyrhaeddiad addysgol cenedlaethau cyfan ddirywio, ac ni fyddwn yn hyfforddi'r meddygon a'r gweithwyr cymdeithasol y mae ar Gymru gymaint o'u hangen yn y dyfodol. Felly, rwy'n annog yr Aelodau i gefnogi ein cynnig a helpu i leddfu'r baich ar ein hathrawon gweithgar. Diolch yn fawr.
O gofio pwysigrwydd y ddadl hon y prynhawn yma, byddai'n esgeulus imi beidio â sôn am gyfraniadau pwysig ein hathrawon Cymraeg, yn enwedig yr athrawon mewn addysg gynradd ac addysg uwchradd sy'n gweithio’n ddi-baid i ddarparu addysg Gymraeg o'r radd flaenaf i bobl ifanc ledled Cymru—offeryn allweddol yn y gist offer os yw Llywodraeth Cymru am gyflawni 'Cymraeg 2050', ei strategaeth uchelgeisiol.
Ond, fel dywedodd Siân Gwenllian, mae’n adeg dyngedfennol ar gyfer recriwtio athrawon Cymraeg eu hiaith. Dros y pum mlynedd diwethaf, mae nifer yr unigolion sy'n hyfforddi i gymhwyso fel athrawon cyfrwng Cymraeg wedi gostwng yn sylweddol flwyddyn ar ôl blwyddyn. Ar ben hynny, mae’r ffaith bod nifer gynyddol o athrawon cyfrwng Cymraeg yn penderfynu gadael y proffesiwn o fewn 10 mlynedd ar ôl cymhwyso yn golygu bod ein hysgolion yn cyrraedd adeg dyngedfennol.
Mae’r gweithlu presennol o dan bwysau mawr, ond mae'n dal i lwyddo i ddarparu addysg o'r radd flaenaf yn yr ystafell ddosbarth. Mae’n dyst i’r oriau o ymroddiad ac ymrwymiad mae athrawon yn eu rhoi. Ces i fy magu yn sir Benfro, lle ces i addysg ddwyieithog. Gallaf ddweud yn bersonol mor fuddiol oedd y Gymraeg o ran fy addysg. Roedd yr athrawon a oedd gennyf fi, megis Barbara Lewis, Jane Griffiths neu Paul Edwards a Richard Davies, yn rhagorol, yn y Gymraeg a’r Saesneg fel ei gilydd. Roedd y gallu i newid rhwng y ddwy iaith yn rhoi tipyn o sbarc yn y wers, yn gwneud yr ysgol yn hwyl.
Ond, os na fydd Llywodraeth Cymru yn gweithredu, mae’n bosibl y bydd y to nesaf o ddysgwyr yn colli'r profiad a ges i a llawer o bobl eraill yn yr ysgol. Rhaid inni dorri'r cylch lle mae pobl yn tyfu i fyny mewn tref fach, yn mynd i’r brifysgol agosaf ac yn dychwelyd i ddysgu yn yr un ysgol yr aethon nhw iddi. Sut ydyn ni'n recriwtio athrawon o'r tu allan i Gymru, sydd â phrofiad bywyd gwahanol? A pha gefnogaeth y gallwn ni ei rhoi iddyn nhw ar gyfer dysgu ac addysgu trwy'r iaith? Allwn ni ddim cau'r drws ar bobl o’r tu allan i Gymru sydd am ddysgu yn ein gwlad. Fel y dywedodd y coleg Cymraeg, mae'n rhaid inni fod yn strategol ac uchelgeisiol os ydyn ni am newid y patrymau sydd wedi cael eu hamlinellu yn yr araith hon. Diolch.
Galwaf ar Weinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Wrth i mi ddechrau, hoffwn gofnodi fy niolch enfawr unwaith eto i'r gweithlu addysg cyfan am eu hymdrechion anhygoel i gefnogi ein pobl ifanc drwy'r cyfnod heriol hwn. Mae pob un ohonom yma heddiw yn gwybod am y rôl bwysig y mae athrawon a staff eraill ysgolion a cholegau yn ei chwarae yn cefnogi llesiant pobl ifanc, ond er mwyn gwneud hynny, mae'n rhaid i ni gefnogi eu llesiant hwy hefyd.
Mae cefnogi llesiant ein gweithlu addysg o'r pwys mwyaf, ac yn ganolog i gyflawni hyn—ac rwy'n croesawu cydnabyddiaeth y Ceidwadwyr i hyn—mae ein dull ysgol gyfan o ymdrin ag iechyd meddwl a llesiant. Ydy, mae'n cefnogi dysgwyr, ond mae'n fwy na hynny; mae'n cefnogi pob unigolyn sy'n rhan o'n system addysg. Er mwyn helpu'r gwaith hwn, rydym wedi comisiynu Cymorth Addysg, sefydliad arbenigol sy'n cefnogi iechyd meddwl a llesiant yn benodol ar gyfer y gweithlu, ac mae eu prosiect yn darparu ystod o wasanaethau pwrpasol, gan gynnwys cymorth hyfforddi a mentora i addysgwyr. Bydd y prosiect hwn yn weithredol drwy gydol blwyddyn academaidd 2021-22 a bydd yn darparu ystod o wasanaethau, yn amrywio o hyfforddiant gwytnwch, grwpiau cymorth cymheiriaid a gwasanaethau cymorth dros y ffôn, ymhlith ymyriadau eraill. Rydym hefyd wedi cefnogi estyniad i'r prosiect hyfforddi a mentora llesiant, a ddatblygwyd gan y rhanbarthau mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru y llynedd.
Ochr yn ochr â'n cefnogaeth i lesiant, rydym yn gwybod pa mor bwysig yw dysgu a datblygiad proffesiynol i sicrhau bod ein gweithlu'n teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi fel gweithwyr proffesiynol. Yn unol â'r safonau proffesiynol, mae ein dull cenedlaethol ar gyfer dysgu proffesiynol yn creu gweledigaeth sy'n addas ar gyfer ein system addysg sy'n esblygu, a rhan annatod o'r dull hwnnw yw sicrhau bod digon o adnoddau ar gyfer dysgu proffesiynol o ran cyllid ac amser i athrawon, ond hefyd cynorthwywyr addysgu ac arweinwyr ysgolion. Rydym yn disgwyl trawsnewidiad dwfn yn y ffordd y mae ein haddysgwyr a'n harweinwyr yn meddwl am eu dysgu proffesiynol yng ngoleuni'r cwricwlwm newydd ac yn y ffordd rydym yn ymateb i heriau COVID. Byddwn yn rhoi cymorth i ysgolion i'w galluogi i wneud y newid sylfaenol hwn.
Er mwyn caniatáu amser a lle i addysgwyr gydweithio ar draws ysgolion, mae'r lefelau uchaf erioed wedi'u buddsoddi mewn dysgu proffesiynol ers 2018. Dyfarnwyd hyn yn uniongyrchol i ysgolion i gefnogi'r gwaith o weithredu'r cwricwlwm—enghraifft o'r cyllid i'r rheng flaen roedd Siân Gwenllian yn galw amdano yn ei chyfraniad. Yn fy marn i, mae dysgu proffesiynol yn hawl, wedi'i chefnogi gan y Llywodraeth, hawl y mae'n rhaid i bob athro ei chael, ac rwy'n archwilio ffyrdd y gallwn wneud mwy yn y maes hwn i wneud yr hawl hon yn llawer haws i'w llywio, a byddwn yn rhoi diweddariadau pellach i'r Aelodau maes o law.
Byddwn yn parhau i fuddsoddi mewn ystod eang o raglenni cenedlaethol, gan gynnwys ein rhaglen ymholiad proffesiynol, llwybr dysgu'r cynorthwywyr addysgu a'r cymhwyster proffesiynol cenedlaethol ar gyfer prifathrawiaeth. Ochr yn ochr â'r rhain mae cefnogaeth i addysgwyr yn gynnar yn eu gyrfa, ein rhaglen Meistr newydd, y cynllun sabothol iaith Gymraeg a'r cynnig arweinyddiaeth cenedlaethol. A phan fyddwn yn siarad ag athrawon, y math hwn o gynnig cymorth cyfoethocach a fydd yn ein helpu i barhau i gynyddu'r nifer o athrawon sy'n cael eu recriwtio. Mae hyn i gyd yn creu system lle rydym yn buddsoddi yn ein haddysgwyr ac yn eu datblygiad proffesiynol.
Rydym wedi gweithio gyda'r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd, fel y nododd rhai o'r Aelodau yn y ddadl, i werthuso'r cynnydd rydym wedi bod yn ei wneud mewn perthynas â dysgu proffesiynol. Yn ystod yr wythnosau diwethaf, maent wedi datgan bod ein ffocws ar ddysgu proffesiynol athrawon yn eithriadol o gymharu â llawer o awdurdodaethau eraill y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd, ac yn eu geiriau hwy, mae'n darparu sail gref ar gyfer gwella dysgu proffesiynol mewn ysgolion.
Dros y flwyddyn a hanner diwethaf, mae'r newidiadau i batrymau gweithio arferol a'r tarfu mewn ysgolion wedi bod yn ddigynsail. Mae'r proffesiwn addysgu wedi ymateb i'r heriau hyn gan ddangos lefel anhygoel o hyblygrwydd a gwydnwch ac yn parhau i ddangos lefelau aruthrol o broffesiynoldeb. Gaf i helpu Laura Jones gyda'i phenbleth yn ei haraith hi? Mae'n gwbl annerbyniol bod Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol wedi penderfynu rhewi cyflogau'r sector gyhoeddus ar adeg pan fydd cynifer o'n gweithlu ni wedi bod yn gweithio o dan yr amgylchiadau heriol hyn. Fodd bynnag, y pwynt yw, dŷn ni fel Llywodraeth wedi penderfynu darparu £6.4 miliwn tuag at gost y dyfarniad cyflog mewn ysgolion a cholegau chweched dosbarth y flwyddyn ariannol hon. Bu llawer yn dadlau yn erbyn datganoli cyflogau ac amodau athrawon, ond, yn y cyfnod byr ers i'r pwerau hyn gael eu trosglwyddo i Gymru, dŷn ni eisoes wedi dangos y gallwn ni wneud gwahaniaeth yma. Er enghraifft, ers 2019, mae cyflogau athrawon newydd wedi cynyddu 15.9 y cant—efallai nad oedd James Evans yn ymwybodol o hyn. Byddwn ni'n adeiladu ar y gwaith hwn i barhau i ddatblygu system genedlaethol fwy unigryw, sy'n decach ac yn fwy tryloyw ar gyfer pob athro.
Mae cynnig y Ceidwadwyr a gwelliant Plaid Cymru yn nodi bod nifer yr athrawon yn gostwng, ond mae hynny yn anghywir. Yn 2020-21, fe welon ni gynnydd o 40 y cant yn nifer y myfyrwyr a dderbyniodd lleoedd ar gyrsiau addysg gychwynnol i athrawon, o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol. Yn ôl y ffigurau cynnar, bydd lefel y recriwtio ar gyrsiau addysgu gychwynnol i athrawon ar gyfer 2021-22 yn parhau i fod yn uwch na'r lefelau a gafodd eu cofnodi yn 2019-20. Yn wir, roedd y data a gyhoeddwyd ym mis Ionawr eleni yn awgrymu bod gyda ni 435 yn fwy o athrawon nag yn 2019-20.
A wnewch chi gymryd ymyrraeth?
Gwnaf, yn sicr.
Dwi'n clywed beth rydych chi'n ei ddweud o ran y nifer sydd ar gyrsiau dysgu cychwynnol yn cynyddu, a da o beth ydy hynny; y broblem fawr ydy bod un o bob tri yn gadael ar ôl pum mlynedd ac mai hwnna mewn gwirionedd sydd yn creu'r broblem fawr wedyn. Cadw'r athrawon ydy'r broblem fwyaf, a hwnna, does bosib, y mae angen ichi roi sylw iddo fo.
Wel, rôn i'n mynd i wneud sylw am gyfraniad Siân Gwenllian, ac rwy'n credu bod y cyfraniad a wnaeth yr Aelod yn trafod yr ystod o bethau sydd angen eu gwneud er mwyn cynnal y gweithlu—denu'r gweithlu yn y lle cyntaf, ond, hynny yw, cynnal y gweithlu yn y tymor hir. Mae'n iawn bod angen gwneud ystod o bethau ehangach. Rwyf wedi cyfeirio at rai o'r rheini yn fy araith i eisoes, ond fe wnaeth Siân Gwenllian a Samuel Kurtz hefyd sôn am yr heriau yn recriwtio o ran athrawon cyfrwng Cymraeg, ac rwy'n derbyn bod angen gwneud mwy yn y maes hwn. Mae gyda ni waith ar hyn o bryd i ddylunio cynllun gyda'n partneriaid i ddenu mwy o athrawon cyfrwng Cymraeg i'n system, sydd yn gwbl hanfodol os ydym ni am gyrraedd ein targedau. Ond er bod y cynnydd rwyf wedi sôn amdano i'w groesawu, dŷn ni'n cydnabod bod angen mwy o waith o hyd, yn enwedig, hynny yw, yn y meysydd hynny lle mae recriwtio yn fwy heriol.
I ymateb i'r effaith mae COVID-19 wedi'i chael ar athrawon dan hyfforddiant, er enghraifft, dŷn ni'n buddsoddi dros £7 miliwn i gynnig lleoliadau gwaith tymor hir i athrawon newydd gymhwyso i fynd i'r afael â rhai o'r sialensau hynny. A chan weithio'n agos gydag awdurdodau lleol, y rhanbarthau a Chyngor y Gweithlu Addysg, dŷn ni wedi llwyddo i ddod o hyd i ysgol addas ar gyfer dros 400 o athrawon newydd gymhwyso. Mae hyn yn rhoi capasiti ychwanegol i ysgolion, gan eu galluogi nhw i helpu dysgwyr i ddod dros y cyfnod diwethaf yma a datblygu'r cwricwlwm ar gyfer Cymru.
I gloi, Dirprwy Lywydd, mae cefnogi'r proffesiwn addysgu yn flaenoriaeth allweddol i'r Llywodraeth hon. I wneud hyn, dŷn ni'n buddsoddi mwy o arian nag erioed yn nysgu proffesiynol y gweithlu, dŷn ni'n cymryd camau i gefnogi eu lles, a byddwn ni'n parhau i wneud popeth yn ein gallu i ryddhau capasiti a chael gwared ar fiwrocratiaeth, fel y gallan nhw barhau i wneud yr hyn maen nhw'n ei wneud orau—hynny yw, ysbrydoli ac addysgu plant a phobl ifanc Cymru.
Galwaf ar Tom Giffard i ymateb i'r ddadl.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Fel cyn-gynorthwyydd addysgu, mae'n bleser mawr gennyf ymateb i'r ddadl hon heddiw. Rwy'n credu ei bod wedi bod yn ddadl ddiddorol iawn, gyda llawer o safbwyntiau gwahanol ar beth yn union yw'r broblem. Ac fe'm calonogwyd, yn rhannol, gan ymateb y Gweinidog i nifer o'r problemau. Soniodd Laura Anne Jones yn ei sylwadau cychwynnol am yr orddibyniaeth ar athrawon cyflenwi a'r pwysau y mae hynny'n ei roi ar gynorthwywyr addysgu—oherwydd mae'n bwysig cofio nad prinder ar daenlen yn unig yw'r prinder hwn, mae'n cael effaith go iawn mewn ystafelloedd dosbarth, ac rwy'n credu bod Laura wedi ymdrin yn dda iawn â'r effaith y mae hynny'n ei chael ar staff presennol. Soniodd hefyd ynglŷn â sut rydym angen mwy o lwybrau i mewn i'r proffesiwn. Pobl ag—. Nid yn unig—mae'n ddrwg gennyf, ni allaf gofio pwy a'i dywedodd yn awr—pobl sydd wedi gadael y brifysgol i ddychwelyd i addysgu yn yr ysgol y cawsant hwy eu hunain eu dysgu ynddi, ond pobl sydd â phrofiad bywyd o gefndiroedd eraill, ac mae hynny'n bwysig iawn hefyd. Felly, dyna rai o'r pethau y mae ein cynnig heddiw yn bwriadu eu cyflawni.
Roedd Siân Gwenllian yn iawn i ddweud bod y rhesymau dros y prinder o ran recriwtio athrawon yn gymhleth iawn yn wir, ac roedd y pwynt a wnaeth am athrawon yn gadael y proffesiwn o fewn y pum mlynedd cyntaf yn gwbl gywir. Roeddwn braidd yn siomedig ynghylch ymateb y Gweinidog i'r ymyrraeth benodol honno, oherwydd soniodd fod mwy i'w wneud, ond nid oedd yn benodol iawn yn fy marn i, ynghylch yr union gamau roedd yn eu cymryd i fynd i'r afael â hynny.
Siaradodd Samuel Kurtz yn helaeth am yr argyfwng gydag athrawon Cymraeg yn arbennig, ac os nad awn i'r afael â'r broblem honno, mae cyrraedd targed 2050 o siaradwyr Cymraeg yn mynd i fod yn anodd iawn yn wir. Felly, rydym angen gweithredu go iawn ar hynny, ac os edrychwch ar broffil oedran nifer o'r athrawon Cymraeg sydd yn y proffesiwn ar hyn o bryd, mae hwn yn rhywbeth sy'n werth edrych arno hefyd. Felly, mae hon yn broblem a fydd yn parhau i waethygu os nad awn i'r afael â hi heddiw.
Roeddwn yn arbennig o hoff o gyfraniad James Evans, oherwydd, i fynd yn ôl at yr hyn a ddywedais yn gynharach am niferoedd ar daenlen a nifer yr athrawon yn y proffesiwn, mae athrawon yn llawer mwy gwerthfawr na hynny. Mae athrawon yn cael effaith go iawn ar y disgyblion y maent yn eu haddysgu a'r cymunedau y maent yn addysgu ynddynt. Maent yn addysgu mwy na'r cwricwlwm yn unig, ac i fynd yn ôl at yr hyn a ddywedodd Laura, dyna pam ei bod mor bwysig i bobl sydd â phrofiadau bywyd eraill fynd i mewn i'r proffesiwn ac addysgu, oherwydd gwyddom am yr effaith y gallant hwy ei chael hefyd, oherwydd dônt yn rhan go iawn o'r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu.
Ac roedd Gareth Davies yn iawn, hefyd, i dynnu sylw at yr effeithiau y mae'r pandemig wedi'u cael ar addysgu. Byddwn yn mentro dweud nad oes llawer o broffesiynau, mae'n debyg, dros y 18 mis diwethaf, sydd wedi gorfod newid ac addasu mwy nag y bu'n rhaid i'r proffesiwn addysgu ei wneud. Felly, fe'm calonogwyd i glywed y Gweinidog—ac roeddwn yn croesawu rhai o'r pethau a ddywedodd y Gweinidog—yn sôn am ddysgu a datblygiad proffesiynol, ac rwy'n croesawu'r buddsoddiad a grybwyllodd yn hynny hefyd, oherwydd credaf fod hynny'n bwysig iawn. Ond nodaf ei fod wedi sôn llawer am rôl partneriaethau rhanbarthol wrth wneud hynny, ond yn anffodus, canfu Estyn, er eu bod wedi chwarae rôl gadarnhaol, nad oedd wedi'i ddatblygu'n ddigonol a'i fod yn dameidiog ledled Cymru, yn enwedig yn y rhanbarth a rannwn—yn y rhan o'r byd a gynrychiolwn—rhanbarth ERW, sy'n stori arall ynddi ei hun.
Felly, roeddwn eisiau defnyddio fy amser heddiw i ganolbwyntio ar y cwricwlwm newydd. Mae athrawon yng Nghymru yn wynebu pwysau sylweddol i gynllunio ar gyfer y cwricwlwm newydd hwnnw a'i roi ar waith, sy'n ychwanegu at lwyth gwaith nifer o athrawon sydd eisoes wedi'u gorweithio. Er bod arolwg diweddar a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru wedi canfod lefelau cryf iawn o ymrwymiad i ddiwygio'r cwricwlwm ymhlith staff addysgu, roedd pryderon sylweddol hefyd mewn ysgolion ynghylch nifer o agweddau allweddol yn ymwneud â'i weithredu. Dangosodd nad oedd tua hanner yr uwch arweinwyr yn glir ynglŷn â sut y byddai trefniadau asesu yn newid yn eu hysgol yn dilyn y diwygiadau na'r hyn sy'n ofynnol i'r ysgol ei wneud i gynllunio eu trefniadau asesu. Dim ond 21 y cant o arweinwyr ysgolion a oedd yn credu bod ganddynt ddigon o amser i baratoi ar gyfer cyflwyno'r cwricwlwm, gydag ychydig dros hanner yr uwch arweinwyr yn anghytuno â'r datganiad:
'Hyd yma, mae digon o amser wedi bod ar gael o fewn calendr yr ysgol i baratoi ar gyfer y cwricwlwm newydd’.
Mae rhai ysgolion yn ei chael hi'n anodd paratoi ar gyfer y cwricwlwm newydd, gyda 13 y cant o arweinwyr ysgolion yn credu nad oedd gan eu hysgol ddigon o gapasiti staffio i gynllunio'r cwricwlwm newydd chwaith, a daw hyn yn ôl at y pwynt yn ein cynnig heddiw y dylai Llywodraeth Cymru osod y targed, yn gadarn ac yn ysgrifenedig, o recriwtio 5,000 o athrawon newydd dros y pum mlynedd nesaf, oherwydd gall recriwtio mwy o staff leddfu llawer o'r pryderon a godwyd nid yn unig gennym ni fel gwleidyddion, ond gan athrawon, rhieni ac uwch arweinwyr fel ei gilydd.
Un peth sydd wedi codi o ganlyniad i'r diffyg targed, gweledigaeth a chynlluniau gan Lywodraeth Cymru mewn perthynas â recriwtio i'r byd addysg yw pa mor ddibynnol yw ysgolion yn awr, fel y dywedodd Laura Anne Jones, ar athrawon cyflenwi oherwydd prinder athrawon eraill yng Nghymru. Gwariodd ysgolion yng Nghymru tua £250 miliwn ar staff cyflenwi ledled Cymru rhwng 2016 a 2021, ac mae athrawon cyflenwi yn achubiaeth fawr i ysgolion ac maent yn gwneud gwaith da iawn, ond nid yw hwnnw'n ateb hirdymor. Mae ysgolion wedi gorfod ymdrin â phrinder staff a hunanynysu, wrth gwrs, dros flynyddoedd diwethaf y pandemig, ond mae angen i'r orddibyniaeth hon ar athrawon cyflenwi ddod i ben, ac yn fwy na dim mae arnom angen mwy o athrawon parhaol mewn ysgolion oherwydd y gwerth y soniodd James Evans amdano, gwerth y gallant ei gyfrannu i'w hysgolion hefyd.
Felly, rwy'n credu ein bod yn sefyll ar groesffordd heddiw. Mae ein cynnig yn glir iawn—mae yna gynllun i yndrin ag ef. Mae hon yn broblem ac ni fydd yn newid dros nos, ond y dewis arall yw gwneud dim, a gwneud dim yw'r hyn sydd wedi ein rhoi ni yn y sefyllfa hon.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gohiriaf y bleidlais felly tan y cyfnod pleidleisio.
Rŷn ni nawr yn cyrraedd yr amser ar gyfer pleidleisio, ond fe fyddwn ni angen cymryd toriad byr i gychwyn er mwyn paratoi ar gyfer y pleidleisiau hynny. Toriad byr, felly.