– Senedd Cymru am 4:33 pm ar 9 Tachwedd 2021.
Yr eitem nesaf felly yw eitem 5, a hynny yw'r Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 19) 2021, a dwi'n galw'n gyntaf ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i wneud y cynnig, Eluned Morgan.
Cynnig NDM7822 Lesley Griffiths
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 19) 2021 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 29 Hydref 2021.
Diolch yn fawr, Llywydd, a dwi'n cyflwyno'r cynnig sydd ger ein bron. Dwi'n sefyll yma gyda thristwch heddiw i gyflwyno deddfwriaeth i gynyddu'r defnydd o'r pàs COVID. Serch hynny, rhaid i mi unwaith eto bwysleisio nad yw coronafeirws wedi diflannu, ac yn anffodus mae'r sefyllfa yng Nghymru yn ddifrifol o hyd. Mae nifer yr achosion o COVID-19 yn dal yn uchel iawn ac wedi bod yn cynyddu mewn rhai ardaloedd. Yn y don bresennol, rŷm ni wedi gweld y nifer mwyaf erioed o achosion wedi eu cadarnhau yng Nghymru. Ar hyn o bryd, y gyfradd drosglwyddo yw 527 mewn 100,000. Mae'r cyfraddau uchel cyson hyn yn arwain at salwch difrifol i niferoedd cynyddol o bobl. Mae hyn hefyd yn rhoi pwysau ar y gwasanaeth iechyd sydd eisoes o dan bwysau aruthrol.
Er bod y cysylltiad rhwng achosion o COVID-19 a derbyniadau i ysbyty wedi ei wanhau gan y rhaglen frechu, dyw'r cysylltiad ddim wedi ei dorri yn llwyr. Fe wnaeth Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020 gyflwyno'r fframwaith deddfwriaethol ar gyfer y lefelau rhybudd sydd yn y cynllun rheoli coronafeirws. Fe fydd Aelodau erbyn hyn yn ymwybodol iawn o'r broses ar gyfer adolygu'r cyfyngiadau hyn bob tair wythnos. Ar ôl yr adolygiad diwethaf ar 28 Hydref, ac mewn ymateb i gynnydd yn nifer yr achosion ar draws Cymru, cyhoeddodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford, ein bwriad i ehangu'r gofyniad i ddangos y pàs COVID.
Os caiff y gofyniad i gyflwyno pàs COVID ei basio heddiw, bydd yn golygu, o 15 Tachwedd ymlaen, y bydd angen i bobl dros 18 oed yng Nghymru ddangos pàs cyn y caniateir iddyn nhw fynd i sinemâu, theatrau a neuaddau cyngerdd. Bydd hyn yn profi naill ai eu bod wedi eu brechu'n llawn neu wedi cael prawf llif unffordd negyddol yn ystod y 48 awr ddiwethaf. Nawr, rwy'n ymwybodol nad yw'r penderfyniad hwn wedi ei groesawu gan bawb ymhlith ein rhanddeiliaid, ond gadewch i mi ddweud wrthych na chafodd y penderfyniad hwn ei wneud yn ysgafn, ac mae'r lleoliadau hyn wedi eu dewis oherwydd eu bod dan do ac mae llawer iawn o bobl yn ymgynnull yno yn agos at ei gilydd am gyfnod hir. Fel y gwyddom, po fwyaf o amser mae llawer o bobl yn agos at ei gilydd, yn enwedig dan do, y mwyaf yw'r risg o drosglwyddo. Mae'n rhaid i mi bwysleisio bod y mesurau hyn wedi eu cynllunio i gadw'r busnesau hyn ar agor yn ystod misoedd anodd yr hydref a'r gaeaf sydd o'n blaenau, a bydd y dewis arall yn yr hinsawdd bresennol yn golygu dychwelyd i reolaethau a chyfyngiadau llymach yn y cyfnod cyn y Nadolig.
Bydd yr Aelodau yn ymwybodol bod gofyn i bobl, ers 11 Hydref, ddangos pàs COVID y GIG i fynd i glybiau nos a lleoliadau a digwyddiadau tebyg. Mae swyddogion wedi bod yn gweithio'n agos gyda rhanddeiliaid yn y sectorau hyn, ac rwy'n credu ei bod yn bwysig ein bod yn cydnabod bod y gwasanaeth yn gweithio'n dda a'n bod ni wedi cael sylwadau cadarnhaol i raddau helaeth gan amrywiaeth o fusnesau a threfnwyr digwyddiadau mawr, gan gynnwys ar ôl y gemau rygbi rhyngwladol diweddar. Mae hefyd yn amlwg bod y rhan fwyaf o'r cyhoedd yn cefnogi'r defnydd o'r pàs COVID a'r sicrwydd ychwanegol y mae'r system yn ei roi iddyn nhw.
Ar hyn o bryd mae Cymru'n parhau i fod ar lefel rhybudd 0, a'n nod yw osgoi gorfod cau sectorau neu ailgyflwyno cyfyngiadau. Fodd bynnag, mae'r sefyllfa'n ddifrifol, ac er mwyn parhau ar lefel rhybudd 0, mae'n hanfodol bod sefydliadau a busnesau yn cydymffurfio â'r mesurau sylfaenol ar y lefel rhybudd hon, a'r hyn y mae hynny'n ei olygu yw bod gwisgo gorchuddion wyneb yn y rhan fwyaf o leoedd cyhoeddus dan do yn parhau i fod yn ofyniad cyfreithiol. Rydym yn gofyn i gyflogwyr wneud mwy i helpu pobl i weithio gartref lle bynnag y bo modd. Pan fydd cyfraddau achosion yn y gymuned yn uchel, gall cysylltiadau yn y gweithle fod yn sbardun trosglwyddo sylweddol. Mae'n rhaid i fusnesau hefyd barhau i gynnal asesiad risg penodol ar gyfer y coronafeirws a chymryd camau cyfrifol i leihau risg.
Brechu yw ein hamddiffyniad mwyaf effeithiol o hyd. Ein nod yw cyrraedd cynifer o bobl â phosibl gyda'r dos cyntaf, yr ail ddos a'r dos atgyfnerthu. Er mwyn cadw Cymru'n ddiogel ac yn agored dros y gaeaf, mae angen ymdrech ar y cyd arnom gan bob rhan o gymdeithas Cymru, ac rwy'n annog yr Aelodau i gefnogi'r cynnig hwn. Diolch.
Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, Huw Irranca-Davies.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd, ac rwy'n siarad fel Cadeirydd ein pwyllgor nawr. Gwnaethom ystyried y rheoliadau hyn yn ein cyfarfod ddoe, yn dilyn cais gan Lywodraeth Cymru i gyflymu ein gwaith craffu, a gosodwyd ein hadroddiad yn syth wedyn.
Cododd ein hadroddiad yr hyn y bydd yr Aelodau bellach yn ei gydnabod yn bwyntiau teilyngdod eithaf cyfarwydd o dan Reol Sefydlog 21.3, sef tynnu sylw at unrhyw ymyrraeth bosibl â hawliau dynol, a diffyg ymgynghori ffurfiol ac asesu'r effaith ar gydraddoldeb ar gyfer y rheoliadau. Fe wnaethom ni gydnabod cyfiawnhad Llywodraeth Cymru mewn cysylltiad â'r pwyntiau hyn, fel y nodir yn y memorandwm esboniadol. Fodd bynnag, at ddiben y ddadl heddiw, hoffwn i dynnu sylw at ein trafodaeth ddilynol ar y rheoliadau ac yn benodol, ar y geiriad a ddefnyddiwyd yn y datganiad ysgrifenedig cysylltiedig gan Lywodraeth Cymru. Rwy'n gwybod bod y mater o beth sy'n ganllawiau a beth sy'n gyfraith wedi ei godi gyda'r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn y Siambr hon ddydd Mawrth diwethaf. Os tynnaf sylw'r Siambr at y datganiad ysgrifenedig, dywed hynny, a dyfynnaf:
'Rhaid i oedolion sydd wedi'u brechu'n llawn a phlant rhwng pump a 17 oed hunanynysu os oes gan rywun ar eu haelwyd symptomau neu ganlyniad prawf positif am COVID-19 nes eu bod wedi cael canlyniad prawf PCR negatif.'
Fodd bynnag, nid yw'r rheoliadau hyn, na rheoliadau Rhif 20, y gwnaethom eu hystyried ddoe hefyd, yn gofyn am ynysu fel y disgrifir yn y datganiad. Nawr, mae ein pwyllgor o'r farn bod hyn yn arwain at ddiffyg eglurder sy'n peri pryder ynghylch yr hyn sy'n gyfraith a'r hyn a allai, yn wir, fod yn gyngor synhwyrol gan y Llywodraeth. Cafodd pryderon tebyg eu codi gan ein pwyllgor blaenorol wrth graffu ar rai rheoliadau sy'n gysylltiedig â COVID yn ystod y pumed Senedd, ac fe'u nodwyd yn yr adroddiad etifeddiaeth.
Felly, y tro hwn, cytunwyd i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i ofyn am eglurhad, ac i dynnu sylw at bwysigrwydd sicrhau bod dinasyddion Cymru yn gallu deall y gyfraith sy'n berthnasol iddynt. Diolch yn fawr, Llywydd.
Rhybuddiodd y Ceidwadwyr Cymreig y byddai cyflwyno pasbortau COVID yng Nghymru yn gosod cynsail beryglus, ac nid yw'n bleser gen i heddiw ddweud ein bod yn iawn.
Dim ond ychydig wythnosau sydd ers cyflwyno pasbortau COVID yma yng Nghymru, ac eto, er gwaethaf dim tystiolaeth glir na chredadwy eu bod yn gallu atal lledaeniad y coronafeirws, rydym heddiw yn trafod cynnig arall i ymestyn eu defnydd y tu hwnt i'r digwyddiadau mawr a'r economi nos, i sinemâu, theatrau a neuaddau cyngerdd bellach ac mae hyn er gwaethaf y ffaith nad oes tystiolaeth i awgrymu mai'r lleoliadau hyn yw lle mae haint y feirws yn rhemp.
Llywydd, fel y gwyddoch yn iawn, mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi gwrthwynebu cyflwyno pasbortau brechlyn o'r cychwyn cyntaf. Mae gan y defnydd gorfodol o basbortau brechu domestig oblygiadau eang yn foesegol, o ran cydraddoldeb a phreifatrwydd, yn gyfreithiol ac yn weithredol. Rydym ni, fel Aelodau eraill o'r Senedd hon, wedi ymrwymo'n llwyr i ddiogelu bywydau a bywoliaethau. Rydym yn deall bod yn rhaid bod yn ofalus wrth gymryd y camau olaf at ddatgloi cymdeithas a'r economi. Ond, gan fod y gyfradd frechu yng Nghymru mor uchel, ac mae'r cysylltiad rhwng achosion a derbyniadau i'r ysbyty wedi ei wanhau'n ddifrifol, nid ydym yn credu mai cyflwyno rhwystrau sy'n effeithio ar ryddid a phreifatrwydd pobl yw'r peth iawn i'w wneud.
Nid yw pasbortau brechu yn llwybr allan o gyfyngiadau, maen nhw'n gyfyngiadau. Ni ddylid eu hehangu i safleoedd eraill pan na ddylen nhw byth fod wedi eu cyflwyno na'u rhoi ar y bwrdd yn y lle cyntaf. Mae pasbortau brechu yn gymhellol, yn aneffeithiol ac yn wrth-fusnes; maen nhw'n cyfyngu ar ein rhyddid ond nid ydyn nhw'n cyfyngu ar ledaeniad COVID-19.
Nawr, mae Gweinidogion Llafur yn dweud wrthym yn aml eu bod yn gwrando ar yr arbenigwyr, felly gadewch i ni ystyried yr hyn y mae'r arbenigwyr wedi bod yn ei ddweud. Dywedodd cell ymgynghorol technegol Llywodraeth Cymru ar y coronafeirws y bydd pasys COVID yn cael effaith fach iawn ar ledaeniad y feirws. A dywedodd Dr Frank Atherton, prif swyddog meddygol Llywodraeth Cymru ei hun, yr wythnos diwethaf fod effaith uniongyrchol gwirioneddol pasys COVID yn eithaf bach, mae'n debyg. Ac aeth ymhellach na hynny, dywedodd mewn gwirionedd fod y dystiolaeth yn dal i ddatblygu o amgylch pasys COVID, ac mai'r effaith fwy gormod o negeseuon a defnyddio pasys COVID ochr yn ochr â chyfyngiadau eraill fel gorchuddion wyneb. Nawr, os nad yw prif swyddog meddygol Llywodraeth Cymru ei hun wedi ei argyhoeddi eu bod yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol, yna sut ar y ddaear y gallwch chi ddisgwyl i Aelodau'r Senedd hon heddiw, ynghyd â'r cyhoedd a busnesau ar hyd a lled y wlad hon, fod wedi eu hargyhoeddi eu bod nhw? Amlinellwyd a gweithredwyd y syniad o bàs COVID yng Nghymru ar fyr rybudd, ac mae'r cynigion diweddaraf hyn yn debyg, gydag ychydig iawn o ystyriaeth i sut y bydd yn effeithio mewn gwirionedd ar y busnesau a'r sefydliadau hynny y maen nhw'n ymwneud â nhw. Mae'r diwydiant adloniant eisoes wedi ei chwalu gan gyfyngiadau COVID-19, a'r cyfan y bydd ymestyn pasbortau COVID i sinemâu, theatrau a neuaddau cyngerdd yn ei wneud yw eu cosbi ymhellach. Mae prif swyddog gweithredol Cymdeithas Sinema'r DU wedi rhybuddio y gallai'r cam hwn arwain at gau llawer o leoliadau llai, gan ddweud, ac rwy'n dyfynnu,
'lle mae cynlluniau tebyg wedi'u cyflwyno mewn...tiriogaethau Ewropeaidd, rydym ni wedi gweld nifer yr ymwelwyr yn gostwng cymaint â 50%.'
Dyma swyddi a bywoliaeth pobl yn y fantol.
A bywydau.
Ac roedd prif weithredwr y Grŵp Lletygarwch Creadigol wedi dweud bod diffyg ymddiriedaeth enfawr yn Llywodraeth Cymru, ac er gwaethaf cyflogi 10 y cant o boblogaeth Cymru, bod y diwydiant yn teimlo ei bod wedi ei fychanu gan y Prif Weinidog. Pam mae diwydiant sydd mor bwysig i economi Cymru yn cael ei eithrio gan Lywodraeth Cymru? Pam mae Gweinidogion yn methu cymaint â gweithio gyda'r rhanddeiliaid pwysig hyn?
Ein dyletswydd gyntaf fel Aelodau'r Senedd hon, fel deddfwyr, yw gwneud cyfraith dda a chwalu cyfraith wael. [Torri ar draws.] Ac eto, mae gofyn i ni heddiw ymestyn y defnydd o basbortau COVID i leoliadau eraill heb unrhyw dystiolaeth eu bod yn achub unrhyw fywydau mewn gwirionedd, Mike Hedges, heb unrhyw asesiad manwl o'u heffaith. Felly, mae'n anghywir.
Felly, beth fyddem ni'n ei wneud yn wahanol? Wel, byddem yn canolbwyntio ar gael y pigiadau—y pigiadau atgyfnerthu—i freichiau pobl. Rydym ni bob amser wedi bod yn glir mai'r ffordd allan o'r pandemig hwn yw trwy frechu, ac mae hynny'n dal i fod yn wir. [Torri ar draws.] Dylai egni'r Llywodraeth, bob un darn o'ch egni, fod yn canolbwyntio ar gyflwyno'r rhaglen frechu i'r rhai sy'n gymwys.
Byddaf, byddaf yn hapus i dderbyn ymyriad.
Rydych chi wedi siarad yn angerddol am bwysigrwydd rhyddid a rhyddid dewis unigolion, ac rydych chi wedi siarad am frechu. Mae eich cydweithwyr dros y ffin yn Lloegr yn gwneud brechiadau'n orfodol. A fyddech chi'n mynd ar hyd y llwybr hwnnw? A fyddech chi'n cefnogi hynny?
Nid wyf i'n cefnogi hynny. Nid wyf i'n cefnogi hynny, ac rydym ni wedi bod yn glir ar y meinciau hyn nad ydym ni'n ei gefnogi, a dyna pam yr ydym ni wedi cefnogi'r Prif Weinidog yn ei safbwynt i beidio â gwneud brechu gorfodol yn ofyniad i weithwyr mewn cartrefi gofal neu'r GIG yma yng Nghymru.
Felly, dylem ni fod yn ceisio ehangu'r rhaglen frechu honno a'i gwneud yn haws i bobl gael y brechlynnau hynny. Gadewch i ni sôn am sefydlu canolfannau galw heibio ar gyfer y rhai hynny sy'n gymwys, er enghraifft. Nid oes gennym ni rai yma mewn sawl rhan o Gymru. [Torri ar draws.] Wel, yn sicr, nid oes gennym ni rai yn fy rhan i o'r wlad, ac efallai pe byddech chi'n mynd i fyny yno yn fwy rheolaidd byddech chi'n gallu gweld.
Felly, i gloi, Llywydd, mae llawer o faterion moesegol ac yn ymwneud â chydraddoldeb o ran pàs Covid. Ochr yn ochr â'u heffaith ar hawliau sifil, mae'r Llywodraeth Lafur wedi methu'n aruthrol â darparu unrhyw dystiolaeth o gwbl bod y pasys COVID hyn yn cyfyngu ar ledaeniad y feirws mewn gwirionedd neu'n cynyddu'r nifer sy'n cael y brechlyn, ac yn y cyfamser mae'r bwlch hunanardystio, o ran profion llif unffordd, yn nonsens, mae'n agored i gael ei gam-drin. Gallwch chi gynnal prawf ar eich ci a rhoi ei ganlyniad yn y system honno a dal cael eich pasbort brechlyn i gael mynychu unrhyw ddigwyddiad, clwb nos, sinema, theatr, neu unrhyw le arall. Mae'n hurt. Felly, o ystyried hyn, nid oes dim y gallwn ei wneud o gwbl ond pleidleisio yn erbyn yr estyniad hwn i drefn pasys COVID.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Wel, unwaith eto heddiw, mae yna gryn ddiddordeb yn yr hyn rydym ni’n ei drafod, a dwi’n falch iawn o hynny. Mae’r rhain, fel popeth rydym ni wedi ei drafod dros y flwyddyn ac wyth mis diwethaf—y penderfyniadau anodd sydd wedi cael eu cymryd—yn faterion o wirioneddol bwys. Mi ddywedais i yr wythnos diwethaf fod Plaid Cymru yn debyg o fod yn pleidleisio dros y rheoliadau yma heddiw. Mi fyddwn ni yn gwneud hynny, ond mae’n bwysig hefyd bod yna eglurhad nid yn unig sut rydym ni’n pleidleisio ar faterion fel hyn, ond pam.
Pan drafodon ni’r rheoliadau cyntaf ar basys COVID ar 5 Hydref, mi gofiwch chi i Blaid Cymru bleidleisio yn erbyn. Mi oeddem ni’n cefnogi’r egwyddor, fel y gwnaethon ni’n glir, o fynnu tystiolaeth bod pobl yn llai tebygol o drosglwyddo'r feirws i eraill cyn cael mynediad i rai lleoliadau—nid i wasanaethau hanfodol, ond i rai lleoliadau. Ond mi oeddem ni wedi gofyn am dystiolaeth am effeithiolrwydd tebygol y polisi penodol oedd wedi cael ei gyflwyno gan Lywodraeth Cymru. Roeddem ni’n bryderus, er enghraifft, am yr elfen o hunanardystio canlyniadau profion llif unffordd. Mi oeddem ni wedi cynnig trafod ymhellach efo’r Llywodraeth sut y gellid cryfhau’r rheoliadau, ond am resymau hysbys iawn bryd hynny mi gymeradwywyd y rheoliadau. Felly pasys COVID ar y model hwn sydd gennym ni yng Nghymru, ac er i ni bleidleisio yn erbyn, am y rhesymau dwi wedi eu hegluro, yn y gobaith o allu dod â model gwahanol a chryfach, o bosib, i mewn, rydym ni'n derbyn, wrth gwrs, fod hyn yn well na pheidio â chael unrhyw beth yn ei le.
Y cwestiwn o'n blaenau ni heddiw ydy: a ddylid ymestyn y rhestr o lefydd lle mae angen gorfod dangos pàs? Eto, mynnu tystiolaeth y gwnaethom ni. Er enghraifft, mi oedd yna un darn o ymchwil penodol cafodd ei dynnu i'm sylw i, ac roedd hi yn bwysig rhoi ystyriaeth iddo fo, a dwi'n ddiolchgar i bobl sydd yn pasio tystiolaeth ac yn codi pryderon efo fi. Gwaith ymchwil gan Goleg Imperial oedd hwnnw, wedi'i gyhoeddi yn y Lancet, yn edrych ar ba mor drosglwyddadwy ydy'r feirws mewn pobl sydd â brechiad dwbl o'i gymharu â rhai sydd ddim. Ac mae'n rhaid sicrhau, wedi'r cyfan, fod modd dangos budd i frechiad o ran helpu i atal trosglwyddiad. Un o ganfyddiadau'r ymchwil oedd bod trosglwyddiad gan rywun wedi'i frechu bron cymaint â rhywun sydd heb ei frechu, ond dim ond pan fyddan nhw ar eu mwyaf heintus mae hynny. Ac, o drafod efo'r Gweinidog iechyd—a dwi'n ddiolchgar am y trafodaethau rydym ni wedi'u cael—a gofyn barn gwyddonwyr y Llywodraeth, a thrwy astudiaeth bellach, mae rhywun yn pwyso a mesur hynny efo'r canfyddiad bod llwyth feirysol rhywun sydd wedi'i frechu yn lleihau yn gyflymach na rhywun sydd ddim, ac mae hynny i fi yn dangos gwerth brechu fel mesur atal trosglwyddo. Dyna'r dystiolaeth gafodd ei rhoi o'm blaen i. Dwi wedi darllen astudiaeth arall gan weinyddiaeth iechyd yr Iseldiroedd hefyd, sy'n dod i gasgliad tebyg.
Yn ogystal, mae'r Gweinidog yn nodi yn hollol gywir fod pobl sydd wedi'u brechu'n llawn yn llai tebygol o fod yn heintus yn y lle cyntaf; dwi'n ddiolchgar am lythyr yn egluro hynny. Mae hynny hefyd yn rhywbeth sy'n cael ei gadarnhau eto yn astudiaeth Imperial hefyd, a dwi'n dal yn gwbl argyhoeddedig, fel y mae trwch yr arbenigwyr a'r gwyddonwyr yn rhyngwladol, mai brechu ydy'r amddiffyniad gorau yn erbyn cael eich heintio. Mae o'n wirfoddol, wrth gwrs, ond dwi'n annog pobl i gymryd y brechiad, ac mae mesurau sy'n gallu dylanwadu ar benderfyniad pobl i gymryd y brechiad ai peidio, yn fy nhyb i, yn gallu bod yn werthfawr iawn.
Gair yn sydyn am y gefnogaeth ymarferol fydd ei hangen ar grwpiau ehangach o sefydliadau rŵan, os caiff y rheoliadau yma eu cymeradwyo heddiw. Dwi'n meddwl ei bod hi'n bwysig iawn bod y Llywodraeth yn cydnabod, waeth pa mor llyfn mae Gweinidogion yn dweud wrthym ni mai pethau wedi mynd o ran y pasys COVID hyd yma, fod hyn yn creu poen meddwl. Mi fydd mudiadau gwirfoddol ymhlith y rhai sy'n cael eu cynnwys—theatrau a sinemâu cymunedol ac ati—ac mae angen sicrhau bod pob cymorth ar gael efo gweithredu'r pasys.
Ac i gloi, gadewch inni gofio mai ceisio osgoi cyfyngiadau mwy na sydd rhaid ydy nod hyn. Mi fyddai'r Llywodraeth yn cyd-fynd â fi yn hynny o beth, dwi'n gwybod. Ond os ydy'r Llywodraeth yn teimlo, er enghraifft, fod angen gwneud yr achos dros ehangu pasys COVID ymhellach eto yn y dyfodol, rhywbeth allai gynnig fwy fyth o her o ran ei weithredu o, mi fyddwn ni eto yn mynnu bod y dystiolaeth yn mynd yn gryfach eto. Does yna ddim un o'r penderfyniadau yma yn hawdd, a thra ei bod hi'n bwysig gallu cyfiawnhau cyflwyno unrhyw gyfyngiadau, mae'n rhaid hefyd inni gadw llygaid ar y nod, sef i gadw pobl, yn cynnwys pobl fregus iawn yn aml iawn, mor ddiogel ag y gallwn ni. A chofiwch, dydy pasys na dim byd arall yn gweithio ar eu pennau eu hunain, a rŵan, fel trwy gydol y pandemig yma, mae'n rhaid pwysleisio pwysigrwydd—ac mae'n rhaid i'r Llywodraeth ei orfodi hefyd y gorau gallan nhw—y pethau sylfaenol yna fel gwisgo mwgwd, sicrhau awyr iach, cadw pellter ac ati, sydd yn dal yn gwbl allweddol yn y frwydr yn erbyn y feirws, a dwi'n gofyn i'r Llywodraeth gryfhau ei gwaith yn hynny o beth.
Wel, pob lwc i Darren Millar yn ceisio cynnal prawf ar ei gi. Mae'n ddigon anodd cael plentyn i'w wneud, felly rwy'n credu y gallai cynnal prawf ar eich ci fod yn anodd. Nid yw'n golygu na fydd gan eich ci COVID. Cofiwch, daeth y clefyd hwn o ystlumod, felly nid yw hwn yn syniad hollol hurt. Ond rwy'n credu mai'r pwynt yr ydych yn ceisio ei wneud, yw mai Llywodraeth awdurdodol yw hon mewn rhyw ffordd, sy'n ceisio amddiffyn ein cyhoedd rhag effeithiau gwaethaf y clefyd hwn—nid yw'r achos yn cael ei wneud, yn fy marn i.
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Iawn.
Nid oedd y pwynt yr oeddwn i'n ei wneud yn ymwneud cymaint â'r ffaith bod y Llywodraeth hon yn un awdurdodol; nid wyf i'n credu fy mod i wedi defnyddio'r geiriau hynny. Y pwynt yw bod gan y system ddiffyg mawr ynddi, hynny yw y gallwch chi hunanardystio o ran canlyniad eich prawf llif unffordd. Dyna'r broblem gyda'r system. Yn y bôn, mae'n golygu y gall unrhyw un roi unrhyw beth yn y system, hyd yn oed os nad yw wedi cael prawf eu hunain. Ac mae hynny, a dweud y gwir, yn system hurt.
Iawn. Rwy'n cydnabod bod hynny'n ddiffyg yn y system, ond y dewis arall yw gwahardd y rhai hynny nad ydyn nhw'n gallu cael brechiad rhag mynychu unrhyw un o'r digwyddiadau hyn lle bydd angen pàs COVID. Ac nid wyf i'n credu bod hynny'n iawn, oherwydd bod yna bobl nad ydyn nhw'n gallu cael brechiad COVID am un rheswm iechyd neu'r llall. Felly, mae'n rhaid i ni gydnabod mai lleiafrif bach, bach iawn o'r boblogaeth yw hynny, ond, serch hynny, un y mae angen i ni ei ystyried. Felly, rwy'n deall yn llwyr yr hyn yr ydych chi'n ei ddweud, ond mae bob amser yn bosibl, os yw tafarn yn pryderu ynglŷn â hynny, neu os yw sefydliad yn pryderu, i osod profion llif unffordd y tu allan i'r lleoliad y maen nhw'n dymuno rheoli pobl yn mynd iddo. Felly, mae hynny'n opsiwn sydd ar gael i bobl.
Ond rwy'n meddwl—. Fe wnaethom ni glywed yn gynharach gan y Prif Weinidog pa mor anodd yw'r sefyllfa yn y gwasanaeth iechyd, gyda chriwiau ambiwlans yn methu â dod i'r gwaith oherwydd bod ganddyn nhw COVID, a bydd hynny hefyd yn berthnasol i weithwyr iechyd proffesiynol eraill, sydd felly'n gwneud bywyd yn llawer anoddach i'w cydweithwyr. Ac mae'n ymddangos i mi fod yn rhaid i ni wneud popeth posibl i sicrhau bod gennym ni gyfres o bethau. Fel y nododd Frank Atherton yn ei gyfweliad diweddar yn y cyfryngau, mae hyn yn ymwneud â chyfres o fentrau sy'n helpu i atgoffa pobl nad yw'r pandemig ar ben.
Felly, wrth gwrs, ar frig y rhestr yw brechu—ac mae'n ymddangos bod y Llywodraeth yn gwneud popeth posibl i sicrhau bod y nifer mwyaf o bobl yn ei dderbyn, yn sicr ym mwrdd iechyd Caerdydd a'r Fro—ond hefyd pethau fel hyn, masgiau, nad oedden nhw'n cael eu gwisgo ar y trên yr es i arno i Loegr yr wythnos diwethaf, ac nid oedd negeseuon atgoffa arno ychwaith. Rwy'n gwybod, ar drenau eraill, bod negeseuon atgoffa ac mae pobl yn eu gwisgo. Cadw pellter cymdeithasol yw'r ail beth yn amlwg. Bob tro y byddwn yn cyfarfod mewn mannau agos, rydym mewn perygl o drosglwyddo COVID. Mae hynny'n ffaith. Felly, mae'n gydbwysedd rhwng y rhyddid i gael cwrdd â phobl eraill a'r angen i wneud hynny ac atal y clefyd. Ac mae'n ymddangos i mi ei bod yn beth eithaf bach gofyn i bobl gyflwyno pàs COVID neu i wneud prawf llif unffordd. Yn wir, mae busnesau—
Jenny Rathbone, os caf i ymyrryd, mae ymyriad ar Zoom. Os ydych yn dymuno ei dderbyn—
Rwy'n hapus i'w dderbyn.
—Janet Finch-Saunders ydyw.
Rwy'n hapus i'w dderbyn. Diolch, Llywydd. Ie, Janet, byddaf yn ei dderbyn.
Diolch, Aelod Jenny, am dderbyn yr ymyriad. Ond o gofio bod Prif Swyddog Meddygol Cymru wedi disgrifio'r pasys hyn fel rhai sy'n cael effaith eithaf bach, yn ogystal â rhybudd asesiad effaith pàs COVID y GIG Llywodraeth Cymru ei hun y gallai fod yn rhwystr ychwanegol i gael mynediad i'r digwyddiadau hynny ar gyfer y rhai sydd ar incwm isel, ac nid yw ein sefydliadau llai mewn gwirionedd yn barod nac wedi'u paratoi ar gyfer hyn, gallem fod yn edrych yma ar gynnal a chreu mwy o anghydraddoldeb llesiant. Felly, a ydych chi wir yn sefyll yno gyda phob dewrder ac argyhoeddiad, Jenny, y gallwch chi gefnogi hyn mewn gwirionedd ac na fyddech yn cefnogi dal yn ôl ar y bleidlais hon heddiw—mewn gwirionedd, pleidleisio yn ei erbyn—nes ein bod ni wedi cael mwy o dystiolaeth ynghylch sut y mae pasbortau COVID wedi gweithio mewn rhai o'n lleoliadau mwy? Oherwydd nid oedd y Prif Weinidog yn argyhoeddi o gwbl ynglŷn â hyn yn gynharach.
Diolch. Gwrandewch, nid yw pobl ar yr incwm isaf yn gallu mynd i'r gemau, naill ai'r rygbi, y bêl-droed, neu'r sinema; gadewch i ni fod yn real ynglŷn â hyn. Y gwir amdani yw ei bod yn gyfres o fesurau sy'n ein galluogi i gael yr effaith fwyaf ar leihau'r cyfraddau heintio, a dyna'r hyn yr ydym yn ceisio ei wneud yma. Nid wyf i'n credu bod Llywodraeth Cymru yn mynd i barhau â'r rheoliadau hyn yn hirach nag sy'n ofynnol, ond, yn y cyfamser, mae busnesau yn colli tric. Nid wyf yn ystyried ei fod yn wrth-fusnes, rwy'n credu bod hyn o blaid busnes, oherwydd bod busnesau yn rhydd i fabwysiadu pasys COVID, dyweder yn eu tafarn neu yn eu bwyty, ac yna ei hybu fel pwynt gwerthu unigryw pam y gallai pobl ddymuno mynd i'w bwyty neu eu tafarn, oherwydd bydden nhw'n gyfforddus, yn union fel y disgrifiodd y Prif Weinidog. Dywedodd pobl yn y gemau, 'Roeddwn i'n teimlo'n well o allu dod yma'n hyderus heddiw, oherwydd fy mod i'n gwybod y byddai pawb naill ai wedi cael eu pigiadau, neu y bydden nhw wedi cael eu profi.' Felly, rwy'n credu eich bod chi'n edrych arno drwy ben anghywir y telesgop y tro hwn, ac mae hyn yn rhywbeth nad yw'n gwneud unrhyw niwed ac sy'n gwneud digon o les. Mae Frank Atherton yn cefnogi hyn fel rhan o gyfres o fesurau i alluogi pobl i sylweddoli nad yw'r pandemig wedi diflannu a bod pobl yn dal i farw ohono.
Gweinidog, ar ddechrau eich datganiad, fe wnaethoch chi amlinellu'r cyfraddau achosion uchel iawn sydd gennym yma yng Nghymru o hyd yn anffodus, ac mae'r cyfraddau hyn yn parhau i effeithio ar addysg. Dros fis yn ôl, gofynnais i'r Gweinidog addysg a fyddai Llywodraeth Cymru yn darparu ar gyfer profion poer anymwthiol mwyhau isothermol dolen-gyfryngol ar gyfer y dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol hynny na allan nhw gynnal profion swab ymwthiol. Dywedodd y Gweinidog y byddai'n ysgrifennu ataf ynglŷn â hyn, ond nid wyf wedi cael ateb eto, ac felly mae rhieni disgyblion anghenion dysgu ychwanegol yn fy rhanbarth i wedi gofyn i mi eich annog i hwyluso hyn fel mater o frys er mwyn sicrhau bod y plant hyn sydd wedi dioddef misoedd o addysg goll—. Oherwydd gadewch i ni gofio nad yw llawer o'r plant hyn yn gallu dysgu gartref, ac maen nhw hefyd wedi colli, wrth gwrs, ddatblygiad hollbwysig yn ystod y pandemig ac maen nhw'n parhau i wneud hynny, oherwydd bob dydd mae'r plant hyn yn cael eu hanfon adref am 10 diwrnod i ynysu, gan golli hyd yn oed mwy o ysgol a chymorth addysgol hanfodol, oherwydd na allan nhw gymryd y profion am ddim sydd ar gael ar hyn o bryd. Felly, rwy'n gofyn i chi: a wnewch chi roi eglurder ar y mater hwn? Diolch.
Dywedodd Darren Millar, yn ei gyfraniad, fod y Ceidwadwyr wedi dadlau fis yn ôl y byddai hyn yn gosod cynsail, a dyna'r ddadl yr aethon nhw ar ei hôl. Mewn gwirionedd, y ddadl yr aeth Russell George ar ei hôl fis yn ôl oedd y byddai cyflwyno'r pasys COVID hyn yn 'drychineb'. Dyna'r gair a ddefnyddiodd, a seiliodd ei ddadansoddiad ar brofiad yr Alban. Dadleuodd na allem ni ymdopi ag unrhyw un o'r pasys ychwanegol hyn. Mae'r profiad wedi bod yn gwbl wahanol, wrth gwrs, ac mae'r profiad o gyflwyno'r pasys COVID, fel yr eglurodd Rhun ap Iorwerth yn ei gyfraniad, wedi bod yn gymharol esmwyth, wedi ei weithredu'n gymharol hawdd, hyd y gwelaf i, gan y sefydliadau a'r lleoliadau y bu'n ofynnol iddyn nhw wneud hynny.
Fel Darren, fe wnes i fwynhau'r rygbi dros y penwythnos, a dangosais fy mhàs COVID ar y ffordd i mewn ac ni achosodd unrhyw anhawster o gwbl i mi. Rwyf i hefyd wedi defnyddio fy mhàs COVID, mae'n flin gen i ddweud, i wylio Dinas Caerdydd—[Chwerthin.]—yn ystod yr wythnosau diwethaf, ac mae wedi bod yn llawer haws mynd i mewn nag aros yn fy sedd a gwylio. Mae'n rhaid i mi ddweud na fu'r anawsterau a fynegwyd yn y ddadl a gawsom ni fis yn ôl, ond mae'n iawn ac yn briodol bod y problemau posibl hynny yn cael eu dwyn i sylw'r Llywodraeth, a dylai'r Llywodraeth ymateb ynglŷn â sut y bydd yn ymdrin â hynny. Rwy'n teimlo'n llawer mwy hyderus nawr, ar ôl gweld y pàs COVID ar waith dros y mis diwethaf, i allu pleidleisio'n hawdd iawn i ymestyn ei ddefnydd, oherwydd bod gennym ni'r profiad a'r wybodaeth nad oedd gennym ni fis yn ôl, ac mae'r profiad a'r wybodaeth wedi bod yn gadarnhaol ac wedi dangos y gall sefydliadau a busnesau weithredu'r gofynion hyn gyda chyn lleied o anhawster â phosibl.
Ond y ddadl arall a gafodd ei drafod fis yn ôl, wrth gwrs, oedd rhyddid sifil a rhyddid personol, ac rydym yn dadlau'r pethau hyn, ac i ryw raddau mae Darren Millar wedi gwneud hynny y prynhawn yma, ar sail fy rhyddid, fy hawliau, fy hawliadau. Pam nad ydym ni'n meddwl am hawliau pobl eraill? Pam nad ydym ni'n meddwl am ryddid pobl eraill? Pam nad ydym ni'n meddwl am hawliadau pobl eraill? Rydym ni wedi arfer â hunanoldeb gan y blaid gyferbyn, ond wrth sôn am hawliau'r Llywodraeth a hawliau'r Llywodraeth i osod cyfyngiadau arnom, mae'n rhaid i'r Llywodraeth brofi ei hachos i wneud hynny, ac rwyf i'n credu bod y Llywodraeth wedi profi ei hachos. Fe wnaeth ei brofi fis yn ôl, ac mae'r profiad yr ydym ni wedi ei gael dros y mis diwethaf wedi dangos grym y ddadl honno mewn gwirionedd. Fe wnaf ildio.
Diolch, rwy'n ddiolchgar i chi am dderbyn yr ymyriad. Rydych chi'n dweud bod y ddyletswydd ar y Llywodraeth i ddangos yr angen i weithredu yn hyn o beth, ond, wrth gwrs, nid oes tystiolaeth bod y rhain yn gwneud gwahaniaeth sylweddol o ran lleihau cyfradd haint COVID mewn gwirionedd. Os oedd tystiolaeth, yna efallai byddai ein safbwynt yn wahanol iawn, ond nid yw'r dystiolaeth honno ar gael ar hyn o bryd; nid oes pwysau'r dystiolaeth honno sy'n dweud, pan fydd gennych y pasys COVID hyn, ei fod yn lleihau cyfradd neu ledaeniad yr haint. Rydym ni wedi gweld y sefyllfa bresennol o ran y don COVID sydd ar y DU gyfan ar hyn o bryd, ac mae'r gyfradd heintio yn gostwng yn llawer cyflymach lle nad oes ganddyn nhw'r pasys COVID hyn nag ydyw yma yng Nghymru. Felly, rwy'n credu bod angen i ni weld y dystiolaeth, ac nid yw'r dystiolaeth ar gael.
Bydd yr Aelod yn gwybod fy mod i wedi dadlau yn y lle hwn drwy gydol y cyfnod diwethaf fod angen i'r Llywodraeth ddangos y dystiolaeth ar gyfer ei chynigion, a bod yn rhaid iddi wneud hynny bob tro. Fe wnes i ddadlau fis yn ôl, a byddaf yn dadlau heddiw, fy mod i'n credu bod y cynnig hwn yn gymesur, i'r dystiolaeth sydd ar gael ac i natur y bygythiad yr ydym yn ei wynebu, y mae'n ceisio ei oresgyn. Ac felly mae'n ddefnydd cymesur o gyfrifoldebau'r Llywodraeth ac mae modd ei gefnogi gan Aelodau, byddwn i'n dadlau, ar bob ochr i'r Siambr.
Ac mae hyn yn dod â ni'n ôl at yr hanfodion, gan fod y ddadl yr ydym yn ei chael yma yn ymwneud â rhyddid personol yn hytrach na hawliau llywodraeth. Ac, wrth ddyfynnu John Stuart Mill fis yn ôl, ceisiais ddadlau yn glir iawn y gall y llywodraeth osod y cyfyngiadau hyn dim ond pan all y llywodraeth ddangos ei bod yn gwneud hynny i atal niwed i eraill. Mae'r Llywodraeth wedi gwneud hynny, ac rwy'n credu ei bod yn ddyletswydd ar bob un ohonom i gydnabod hynny. [Torri ar draws.] Fe wnaf ildio mewn munud, ond hoffwn i gyflwyno fy achos yma. Gan nad yw rhyddid i rai, oni bai ei fod yn rhyddid i bawb, yn rhyddid i neb. Mae rhyddid yn rhywbeth sydd naill ai'n bodoli'n deg, yn gyfartal, i bawb mewn cymdeithas, neu nid yw'n bodoli yn y gymdeithas honno. Ni ddylai eich rhyddid chi i wylio'r rygbi ddydd Sadwrn, fy rhyddid i i wylio'r rygbi ddydd Sadwrn fod yn wahanol o gwbl i ryddid neb arall i wneud hynny hefyd. Ac mae trwy greu'r ymdeimlad o ddiogelwch a chreu'r ymdeimlad o bwrpas ac amddiffyniad i bobl sy'n golygu y gall pawb fwynhau'r gêm a wnaethom ni ddydd Sadwrn. A'r undod cymdeithasol hwnnw sydd efallai yn anodd i'r Ceidwadwyr ei ddeall. Fe wnaf ildio.
Diolch i chi am ganiatáu'r ymyriad. Roeddwn i eisiau ymyrryd yn bennaf oherwydd fe wnaethoch chi sôn yn eich dadl—fe wnaethoch chi ei eirio fel hunanoldeb, natur y peth, pam yr ydym yn gwrthwynebu hynny. Rwy'n gwrthwynebu'r cynigion hyn, ond yn y pen draw os byddan nhw'n mynd drwyddo, prin yw'r anghyfleustra i mi a phrin yw'r anghyfleustra i chi. Ond y mater yw, yn y pen draw, i'r rhai sydd ag anableddau, materion iechyd meddwl, yr henoed, y bydd hyn yn cael ei ddefnyddio fel rheswm arall dros beidio â mynd allan. Felly, pa effaith ydych chi'n credu y bydd hyn yn ei chael arnyn nhw bryd hynny?
Nid yw'n anghyfleustra i mi gan ei fod yn gwarantu y gall pobl sydd yn y sefyllfa honno yn union fynychu'r digwyddiadau a'r gweithgareddau hyn ar yr un sail â chi a minnau, a dyna pam mae rhyddid cyfartal mor bwysig yn y ddadl hon.
A'r pwynt olaf y byddaf i'n ei wneud yw hyn: efallai na fydd bob amser yn ymddangos ar y cyfryngau cymdeithasol, ond gadewch i mi ddweud hyn, mae'r pasys hyn yn boblogaidd iawn mewn gwirionedd. Maen nhw'n boblogaidd iawn. Rwyf i yn sicr, yn cael pobl yn ysgrifennu ataf, yn anfon negeseuon e-bost ataf i ddweud mai dyma ddiwedd ein democratiaeth, dyma ddiwedd ein cymdeithas, mai dyma ddiwedd y gymdeithas yr ydym ni wedi ei hadnabod ar ei ffurf bresennol oherwydd gorfodaeth hyn. Maen nhw'n gwneud cymariaethau chwerthinllyd â digwyddiadau yn rhan ganol y ganrif ddiwethaf a'r gweddill ohoni. Ond, gadewch i mi ddweud wrthych yn awr, bydd y rhan fwyaf o bobl, yn fy etholaeth i a byddwn i'n dyfalu yng Ngorllewin Clwyd hefyd, yn cefnogi hyn, yn dymuno gweld hyn, oherwydd eu bod nhw'n deall y ddadl mai eich rhyddid chi yw fy rhyddid i yw rhyddid pawb. Ac mae cydraddoldeb ac anwahanoldeb rhyddid yn rhywbeth na ddylai neb yma fod yn dadlau yn ei erbyn. Diolch.
Noswaith dda, Gweinidog. Yn gyntaf, hoffwn i egluro fy mhryderon ynghylch y cyfraddau COVID uchel yma yng Nghymru, ac rwy'n cytuno'n llwyr nad yw COVID wedi diflannu. Rydym ni i gyd wedi bod yn barod i dderbyn yn ystod y pandemig beth fyddai ar adegau arferol yn fesurau annymunol, cyfyngol ac afresymegol, megis y cyfyngiadau symud, masgiau wyneb gorfodol ac yn y blaen, ond mae'r rhain yn fesurau sydd wedi eu profi i fod yn gweithio ac sydd wedi achub bywydau. Ni fyddwch chi'n synnu clywed fy mod i'n parhau i wrthwynebu defnyddio pasbortau brechlyn am y pum rheswm canlynol, a byddaf i'n eu hamlinellu'n fyr.
Yn gyntaf ac yn bennaf, mae'n ymwneud â'r diffyg tystiolaeth yma yng Nghymru. Rwyf i wedi cael cyflwyniadau, ac rwyf i wedi cael cyflwyniadau o hyd, heb unrhyw dystiolaeth bod pasbortau brechlyn yn gweithio i leihau'r trosglwyddiad neu i wella'r nifer sy'n manteisio ar y brechlyn. Er bod yr her iechyd cyhoeddus yn parhau i fod yn glir, mae Llywodraeth Cymru wedi methu â chynhyrchu'r dystiolaeth i brofi eu bod yn gweithio. Mae'n rhaid bod y Gweinidog yn gallu gweld y data profi, olrhain a diogelu ers cyflwyno pasbortau COVID ar 11 Hydref, ac rwyf i wedi ysgrifennu at y Gweinidog i ofyn am yr wybodaeth hon ac nid wyf i wedi cael ymateb eto. Rwy'n agored i glywed y dystiolaeth honno, ac rwy'n clywed bod eraill yn barod hefyd, pan all y Gweinidog ddarparu hynny.
Hoffwn i herio Plaid Cymru ar y mater hwn hefyd. Ychydig dros fis yn ôl, fel yr ydym ni wedi ei glywed, pleidleisiodd Plaid Cymru—fel fi—yn erbyn pasbortau brechlyn domestig, oherwydd fel y dywedodd Rhun ap Iorwerth yn y Siambr, nid oedd y dystiolaeth ar gael. Nid wyf i'n glir o hyd ba dystiolaeth sydd gan Blaid Cymru o Gymru bod pasys COVID yn gostwng cyfraddau trosglwyddo a'u bod yn annog pobl i fanteisio ar y brechlynnau. Ac o ran fy nghyd-Aelodau yn y Blaid Geidwadol, mae'n ymddangos bod eu gwrthwynebiad i basbortau brechlyn wedi ei wreiddio'n llawer mwy mewn achub y cyfle nag egwyddor, o gofio bod Boris Johnson ei hun wedi ystyried yr union syniad hwn.
Yr ail reswm na fyddaf yn cefnogi hyn yw'r bobl a fydd yn sicr yn teimlo effaith negyddol: y rhai sy'n gweithio yn y sector celfyddydau. Eu prif bryder yw y bydd costau'n cynyddu oherwydd yr haen ychwanegol o staff drws sydd eu hangen i wirio pasbortau COVID wrth gyrraedd, ond heb fawr ddim cymorth ariannol ar gael. Cysylltodd cynghorydd cymuned Plaid Cymru â mi yn rhanbarth Canolbarth a Gorllewin Cymru, y mae ei sinema leol sy'n cael ei rhedeg gan y gymuned yn debygol o orfod cau oherwydd y pwysau anghymesur sy'n cael ei roi ar wirfoddolwyr sy'n rhedeg y sinema i blismona'r pasbortau COVID.
Mae fy nhrydydd gwrthwynebiad i basbortau brechlyn yn fater o egwyddor. Yn syml iawn, nid wyf i'n credu y dylai pobl orfod darparu data meddygol i ddieithryn llwyr nad yw'n glinigwr iddyn nhw.
Y pedwerydd rheswm yw nad oes terfyn ar hyn, dim dyddiad cau. Mae Llywodraeth Cymru yn gadael ar agor y posibilrwydd o ymestyn pasbortau brechlyn i hyd yn oed mwy o leoliadau lletygarwch. Felly, mae'n codi'r cwestiwn: pryd y bydd yn dod i ben? A yw Llywodraeth Cymru yn ystyried ehangu cwmpas pasbortau brechlyn i gynnwys caffis a bwytai? A oes lleoliadau a sectorau eraill y byddwn yn eu hystyried ymhen pedair wythnos?
Yn olaf—byddwch chi'n falch o glywed—fy marn i yw bod y mesurau hyn yn dangos deddfu gwael ar ran Llywodraeth Cymru. Nid oes cymal machlud.
Rwy'n ymwybodol y bydd y bleidlais ar gyfer yr estyniad yn llwyddiannus heddiw, yn wahanol i'r bleidlais flaenorol a gafodd ei phasio drwy ddamwain, o un bleidlais yn unig. Felly, a wnaiff Llywodraeth Cymru gadw at eu mantra, sy'n ymwneud â phenderfyniadau sy'n seiliedig ar dystiolaeth? Ac a wnaiff hefyd amlinellu sut y gall roi cymorth ariannol i'r busnesau a'r lleoliadau yr effeithir arnyn nhw, fel y gallan nhw aros ar agor? Diolch yn fawr iawn.
Pwynt o drefn. A allwch chi gadarnhau na chafodd y bleidlais ddiwethaf ei phasio drwy ddamwain?
Wel, gallaf, gan ei fod yn bwynt mor syml, byddaf yn ei ganiatáu. Nid oes unrhyw bleidleisiau damweiniol yn y Senedd hon. Heledd Fychan.
Diolch, Llywydd, a diolch, Weinidog.
Byddwch yn ymwybodol i mi godi gyda chi yr wythnos diwethaf fater pobl ag awtistiaeth, ac wedyn fe wnes i ddilyn hyn â gohebiaeth. Roeddwn i'n meddwl tybed a oedd gennych unrhyw eglurder ynglŷn â'r sefyllfa honno, oherwydd bod pobl yn fy rhanbarth i wedi cysylltu â mi eto lle byddai hyn yn effeithio arnyn nhw, gan dynnu sylw at y gwahaniaeth â Lloegr, hefyd y ffaith bod y canllawiau ar hyn o bryd yn dweud y dylai safleoedd—yn hytrach nag y mae'n rhaid—gydnabod eithriadau, nad yw wedi ei gynnwys yn y rheoliadau. Rydym yn ymwybodol bod hyn yn effeithio ar nifer bach o bobl yng Nghymru nad ydyn nhw'n gallu cael brechiad nac yn gallu cymryd prawf llif unffordd, ond rwy'n credu, o'r sefyllfa yn Lloegr lle mae llawer mwy o eglurder a'r gallu i gael pàs digidol, hyd yn oed gydag eithriad, y byddai hyn yn rhoi sicrwydd na fydd neb yn cael ei eithrio ar sail cyflwyno ac ymestyn hyn ymhellach.
Rwyf i wedi clywed llawer am y ffaith nad yw absenoldeb tystiolaeth yn dystiolaeth ynddo'i hun, ond lle ceir tystiolaeth o absenoldeb, mae hynny yn dystiolaeth ynddo'i hun. Felly, os oes gennych brawf llif unffordd, mae'n brawf o absenoldeb COVID. Felly, rwyf i am droi hynny ar ei ben ac efallai caniatáu i rai ar y meinciau ar yr ochr honno fyfyrio arno. Mae'n ffaith, a cheir tystiolaeth, bod y rhai sy'n cael eu brechu yn llai tebygol o ledaenu COVID o'u cwmpas. Felly, wrth i'r data ynghylch pasys COVID a'r cyfyngiadau diweddaraf gael eu casglu, mae rhesymeg a synnwyr cyffredin yn cefnogi'r cam gweithredu hwn. [Torri ar draws.] Mewn munud, oherwydd clywais gryn dipyn ohonoch chi yn gynharach. Ac maen nhw yn boblogaidd—mae'r pasys COVID hyn yn boblogaidd. Nid wyf yn gwybod â phwy yr ydych chi'n siarad, ond mae'r mwyafrif llethol o fy etholwyr i yn ei gael, maen nhw'n ei ddeall. Os yw pawb mewn lleoliad naill ai wedi ei frechu neu'n COVID-negyddol, yna mae'n rhaid iddo fod yn fwy diogel i bob un ohonom fynd yno. Dyna'r hyn y mae pobl yn ei ddweud wrthyf i—mae pobl na fyddan nhw'n mynd allan fel arfer yn dweud wrthyf i, 'Mewn gwirionedd, byddwn yn teimlo'n fwy diogel nawr'. Maen nhw'n dda i fusnesau hefyd—nid rhywbeth yr wyf i wedi eich clywed chi'n ei ddweud—oherwydd bod y clefyd yn dinistrio hyder economaidd. Nid iachâd yw hynny. Mae'r pasbort brechlyn yn golygu mewn gwirionedd y bydd yn wellhad i fusnesau, oherwydd bydd gan bobl hyder yn y busnesau hynny i fynd i'r busnesau hynny. Heb y mesurau hyn, bydd llai o bobl yn mynychu'r lleoliadau hynny, bydd llai o bobl yn mynychu'r digwyddiadau hynny—yn sicr y bobl sy'n siarad â mi.
Joyce Watson, mae ymyriad ar Zoom os ydych eisiau ei dderbyn. Mae gan James Evans. Eich penderfyniad chi yw hwn.
Na, fe dderbyniaf yr un yma draw fan hyn. [Chwerthin.]
Darren Millar, a ydych yn dal eisiau ymyrryd?
Ydw. Roeddech chi'n sôn am ffeithiau yn gynharach. Dyma'r ffeithiau: gallwch gael pigiadau COVID a dal i gael eich heintio a lledaenu COVID. Gallwch gofrestru i mewn i system pas COVID gyda chanlyniad negyddol hyd yn oed os ydych wedi cael un cadarnhaol. Nid yw hynny'n diogelu pobl, mae hynny'n tanseilio ffydd yn y system, a dyna pam mai hon yw'r ffordd anghywir o fynd ati i geisio cynnal ffydd. Os oedd mor boblogaidd ymhlith busnesau, pam y maen nhw i gyd yn gwrthwynebu hynny? Pam nad yw busnesau—
Mae'r ymyriad hwn rhy hir nawr, Darren Millar.
Nid ymyriad oedd hwnna, roedd yn ymgais i gymryd fy amser i.
Wnaeth e ddim llwyddo. Ymlaen â chi, Joyce Watson.
Y pwynt yw hwn, iawn? Mae'n ymddangos i mi fod gennych chi broblem—sef nad ydych yn ymddiried mewn pobl i gymryd prawf llif unffordd a rhoi eu canlyniad eu hunain. Mae'n ymddangos i mi na allwch ymddiried mewn pobl. Wel, rydym yn barod i ymddiried mewn pobl yma i wneud y peth iawn.
Ond gadewch i ni fynd yn ôl i le yr ydym ni. O ran tegwch, maen nhw'n deg am eu bod yn rhoi mwy o hyder i bobl fwynhau mwy o ryddid. Rydych yn sôn am ryddid—rwyf wedi clywed y gair hwnnw yma—ac maen nhw mewn gwirionedd yn ymestyn hawliau sifil, nid eu cyfyngu, oherwydd maen nhw'n caniatáu i bobl deimlo'n ddiogel, maen nhw'n caniatáu i bobl deimlo'n fwy rhydd. Felly, mae hawliau sifil y bobl hynny'n cael eu hymestyn. Felly, rwy'n llwyr gefnogi eich penderfyniad, Gweinidog, i ymestyn y mesurau i sinemâu, neuaddau cyngerdd a theatrau. Wedi'r cyfan, a dywedwyd hyn droeon, mae'n un ffordd arall o gadw Cymru'n ddiogel ar lefel rhybudd 0, oherwydd y dewis arall, os parhawn ni, fydd edrych ar fesurau eraill a allai fod yn fwy cyfyngol.
Rwy'n methu deall sut y gall y Torïaid yma fod mewn Llywodraeth yn San Steffan ar y naill law yn ei gwneud yn ofynnol, yn mandadu gweithwyr y GIG i gael brechlynnau cyn y gallant weithio, ac eto nid ydyn nhw'n cefnogi proses syml iawn o gael pasys COVID yng Nghymru. Rwyf wedi fy syfrdanu. Rwy'n credu yr hyn yr ydych yn ei wneud yma wrth wrthwynebu heddiw yw pleidleisio yn erbyn, dim ond er mwyn gwneud hynny, nid er mwyn ystyried diogelwch a rhyddid pobl i barhau i wneud yr hyn y maen nhw eisiau ei wneud mewn mannau lle maen nhw eisiau mynd iddyn nhw, gan wybod bod ganddyn nhw elfen o ddiogelwch yr ydym yn gobeithio yma heddiw ei ddarparu ar eu cyfer, rhoi eu rhyddid iddyn nhw, gan roi rhyddid i fusnesau weithredu. Diolch.
Y Gweinidog iechyd i ymateb i'r ddadl.
Diolch yn fawr am y ddadl hon. Mae wedi bod yn un diddorol iawn, fel yr oeddem yn disgwyl. Rwy'n credu'n gyntaf ei bod yn werth nodi, mae'n debyg, ein bod yn gwybod bod y feirws hwn yn lledaenu mewn mannau cyfyngedig pan fydd pobl yn treulio llawer o amser yno. Dyna'n union yr hyn yr ydym yn ceisio'i wneud. Mae digon o dystiolaeth i gefnogi hynny a dyna'r hyn yr ydym yn ei awgrymu, a pham ein bod yn cadw hyn yn gyfyngedig i'r ardaloedd hynny. Nid wyf yn ymddiheuro am gynnig y cyfyngiad hwn pan fo cyfraddau mor uchel ac rydym yn dechrau ar gyfnod y gaeaf. Nid ar chwarae bach yr ydym yn gwneud y penderfyniadau hyn. Gwyddom ein bod mewn sefyllfa lle mae ein GIG yn ei chael hi'n anodd iawn ar hyn o bryd, ac mae gennym dros 800 o bobl yn yr ysbyty sydd â COVID. Mae unrhyw beth y gallwn ei wneud i geisio lleddfu'r sefyllfa a lleihau'r pwysau ar y GIG ar hyn o bryd yn rhywbeth y mae angen inni ei ystyried o ddifrif. Byddwch yma yr wythnos nesaf yn cwyno am na allwn ni gael pobl i mewn i ysbytai. Wel, mae hwn yn fesur i'n galluogi ni i gael llai o bobl mewn ysbytai.
Dywed arbenigwyr wrthym y dylem weithredu'n gynnar a dywedant wrthym fod pob cyfraniad bach yn ychwanegu at ein gallu i reoli'r hyn sy'n feirws marwol. Nid yw'n syndod bod y dystiolaeth yn dal i gynyddu—mae hwn yn feirws newydd, ac mae'n newid yn gyson. Mae'r amrywiolyn delta yn lledaenu 1,000 gwaith yn gyflymach na'r amrywiolyn alpha, a nawr mae gennym is-grŵp o'r amrywiolyn delta, yr AY.4.2, ac nid ydym yn gwybod llawer am hwnnw. Felly, wrth gwrs, mae'r dystiolaeth bob amser yn mynd i fod yn cynyddu—gadewch i ni beidio â synnu at hynny. Yn sicr, nid y negyddoldeb hwn yw'r ymateb yr ydym yn ei weld gan y cyhoedd, fel y mae cynifer o'm cyd-Aelodau wedi pwysleisio. Ein dyletswydd gyntaf fel Llywodraeth yw cadw poblogaeth Cymru'n ddiogel. Rydych yn dweud wrthym am ganolbwyntio ar y rhaglen frechu; wel, gallaf ddweud wrthych chi, rydym yn mynd fel cath i gythraul ac rydym yn mynd yn llawer cyflymach na'r Llywodraeth yn y Deyrnas Unedig, er ein bod yn gwybod nad yw'n ras.
Yn sicr, pan soniwn am hunanardystio, mae'n bwysig ei fod yn ymwneud ag ymddiriedaeth, ac mae angen i unigolion nodi eu statws brechlyn neu ganlyniad prawf yn onest. Yr un system yw hi ag y mae Llywodraeth y DU yn gofyn i bobl ei defnyddio pan fyddant yn dychwelyd o deithio dramor, ac mae'n drosedd ffugio gwybodaeth i gael mynediad i leoliad.
Diolch yn fawr, Rhun, am dynnu sylw at yr erthygl yn The Lancet o bapur Imperial, ac rwy'n falch bod y wybodaeth honno wedi helpu Plaid Cymru i ddod i gasgliad ar y rheoliadau heddiw. Mae'n wir na fydd y pasys ddim yn gweithio ar eu pennau eu hunain, ac mae pob mesur bach yn ategu ein hymdrech ni i gyfyngu ar ymlediad y feirws.
Gofynnodd dau o siaradwyr Plaid Cymru ynghylch sefyllfa mewn cysylltiad â'r bobl hynny sy'n ei chael hi'n anodd cael brechiadau neu i gael profion. Rydym wedi bod yn ymchwilio i hyn ac yn ei gymryd o ddifrif, a diolch ichi am ddyfalbarhau gyda'r cwestiynau yna. Fe gysylltodd Llywodraeth Cymru ag Iechyd Cyhoeddus Cymru am gyngor ar ddewisiadau amgen addas yn lle swabio yn ôl ym mis Mehefin, a chyngor Iechyd Cyhoeddus Cymru oedd y gallai swabio'r bochau, sef swabio y tu mewn i'r foch, fod yn ddewis amgen ymarferol i rai pobl. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi gwneud gwaith ar greu protocol. Maen nhw wedi bod yn gwerthuso cymhariaeth o swabiau gwddf mewn adran bediatrig, a bu canlyniadau calonogol iawn. Bydd Iechyd Cyhoeddus Cymru nawr yn symud ymlaen gyda chymhariaeth go iawn rhwng swabiau'r foch a swab traddodiadol gyda dwy ysgol arbennig yng Nghymru wedi cytuno i gymryd rhan. Felly, mae'r holl waith hwn yn datblygu, ac rwy'n gobeithio, os bydd hynny i gyd yn gweithio, y byddwn yn gallu ei gyflwyno fel dewis yn gynnar yn 2022. Felly, mae datblygiadau yna.
A gaf i orffen drwy ddweud nad yw'r pandemig hwn ar ben o gwbl? Mae'r GIG yn ei chael hi'n anodd ac nid yw'r gaeaf wedi dechrau'n iawn eto. Ein cyfraddau yw'r uchaf yn y Deyrnas Unedig, a byddem ni i gyd yn hoffi Nadolig mwy arferol eleni. Mae hynny'n annhebygol o ddigwydd oni bai ein bod i gyd yn cymryd y mesurau hyn o ddifrif. Mae ein harbenigwyr yn dweud wrthym fod yr ymyraethau ymylol hynny'n helpu, ond maen nhw'n helpu os weithredwn ni'n gynnar. Gwyddom fod y mwyafrif llethol o'r cyhoedd yng Nghymru yn ein cefnogi ni ar hyn. Maen nhw wedi'u cysuro o wybod bod pobl o'u cwmpas hefyd yn cydymffurfio â'n rheolau. Yr un peth yr ydym wedi'i ddysgu dros y 18 mis diwethaf yw, fel y dywedodd John Donne, nid ynys yw dyn, ond safwn a syrthiwn gyda'n gilydd. Mae pobl Cymru'n hapus i ddangos eu hundod â'i gilydd a byddant, ar y cyfan, yn croesawu'r ymyrraeth newydd hwn, y mân gyfyngiadau hyn, fel y gallwn gael y cyfle gorau i gadw'r lleoliadau hyn ar agor yn ystod y misoedd anodd hyn sydd o'n blaenau. Credaf y bydd pobl Cymru ar ein hochr ni, ac rwy'n gobeithio y bydd y Senedd yn pleidleisio dros y rheoliadau hyn heddiw. Diolch.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, mae yna wrthwynebiad, ac fe wnawn ni ohirio'r bleidlais tan y cyfnod pleidleisio.