– Senedd Cymru am 3:52 pm ar 17 Tachwedd 2021.
Yr eitem nesaf yw eitem 7, cynnig o dan Reol Sefydlog 26.91 yn gofyn am gytundeb y Senedd i gyflwyno Bil Aelod, Bil bwyd (Cymru). Galwaf ar Peter Fox i wneud y cynnig.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae'n bleser cyflwyno'r cynnig ar y papur trefn heddiw, a gyflwynwyd yn fy enw i. Cyn imi ddechrau, hoffwn ddatgan fy mod yn ffermwr gweithredol. Ond wrth gwrs, mae'r Bil yn mynd yn llawer pellach nag amaethyddiaeth. Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn hefyd i ddiolch i staff y Comisiwn sydd wedi fy nghynorthwyo i baratoi'r Bil drafft hwn. Maent wedi bod yn rhagorol, fel y mae fy staff fy hun.
Mae gwybod o ble yn union y daw'r bwyd ar eich plât, a'r awydd i fynd i'r afael â diffyg maeth yng Nghymru, yn flaenoriaethau y credaf y gall pob plaid wleidyddol yn y Siambr hon eu cefnogi. Credaf fod gennym gydgyfrifoldeb moesol i gefnogi'r Bil hwn er mwyn sicrhau diogelwch ein cyflenwad a'n cynhyrchiant bwyd yng Nghymru ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Ers gormod o amser, rydym wedi cymryd ein cynhyrchiant bwyd a diogelwch y cyflenwad bwyd yn y wlad hon yn ganiataol. Nid oes digon o bobl wedi gofyn y cwestiynau moesol a moesegol anodd hynny, megis, 'O ble y daw'r bwyd hwn?', 'A wyf fi'n cefnogi'r economi leol gyda'r bwyd hwn?', 'Sut y gallwn ni fynd i'r afael â diffyg maeth mewn cymdeithas?', 'Sut y mae defnyddio'r system fwyd i fynd i'r afael â newid hinsawdd?' Mae angen inni weld pob Llywodraeth o bob lliw yn gweithredu er mwyn sicrhau dyfodol mwy llewyrchus i bobl Cymru.
Ond nid wyf yma i sgorio pwyntiau gwleidyddol dibwys, Ddirprwy Lywydd; rwyf yma am fy mod yn credu y gallwn, gyda'n gilydd, wneud gwahaniaeth. A dyna pam y mae'n bryd i ni fel gwleidyddion ddefnyddio'r offer sydd ar gael i ni. Gadewch inni gamu i'r adwy a chyflawni meysydd allweddol y Bil hwn.
Felly, pam fod angen y Bil? Wel, rydym wedi gweld effaith ddinistriol COVID sydd wedi credu trafferthion mawr i gadwyni cyflenwi ledled y byd, a'r effaith y mae hyn wedi'i chael ar argaeledd cynhyrchion yma yng Nghymru. Ond mae'r Bil yn cynnwys y glasbrint ar gyfer y modd y gallwn ddatblygu'r sector bwyd mewn ffyrdd sy'n gynaliadwy, ffyrdd sy'n gwella llesiant Cymru, ac yn creu rhwydweithiau cryf a fydd yn helpu i wneud ein system fwyd yn fwy gwydn.
Nid yw fy Mil yn cynnig ateb syml a fydd yn datrys yr holl broblemau sy'n wynebu'r gymdeithas yng Nghymru. Yn hytrach, mae'n darparu fframwaith cadarn a fydd o'r diwedd yn datrys llawer o'r problemau sydd wedi bod yn ein hwynebu yn rhy hir. Yn y pen draw, hanfod y Bil yw sicrhau defnydd o fwyd lleol, gan greu swyddi lleol, ysgogi economïau lleol, ynghyd â mynd i'r afael â materion llesiant ac iechyd mawr ar hyd a lled Cymru. Unwaith eto, credaf fod rhain yn bwyntiau y byddai pob gwleidydd yn y Siambr hon, boed yma neu'n rhithwir, yn eu cefnogi.
Felly, rwyf am esbonio ychydig mwy am fy Mil arfaethedig, a sut y datblygais y cynigion hyn. Mae materion sy'n ymwneud â bwyd yn cyffwrdd â sawl agwedd ar waith y Llywodraeth, o iechyd y cyhoedd i gymunedau, yr amgylchedd ac amaethyddiaeth, yn ogystal â'r economi, yn amlwg. Mae'n ymgysylltu â gwahanol adrannau ar draws Llywodraeth Cymru, ac rydym wedi gweld nifer o gynlluniau a strategaethau gan Weinidogion yma yng Nghymru, megis y cynllun gweithredu ar gyfer bwyd a diod, a chynllun gweithredu COVID-19 Cymru ar gyfer bwyd a diod.
Ond fel rwyf wedi'i ddarganfod wrth drafod y cynigion hyn gyda rhanddeiliaid ar draws y gwahanol sectorau, yn aml nid yw'r cynlluniau hyn yn siarad â'i gilydd. Maent yn aml yn canolbwyntio gormod ar feysydd penodol, ac ar adegau, maent hyd yn oed yn gwrthdaro â'i gilydd yn yr hyn y maent yn ceisio'i gyflawni. Er fy mod yn credu bod llawer i'w groesawu, mae wedi bod yn glir o drafodaethau fod angen gwneud llawer mwy os ydym am wireddu potensial llawn y sector bwyd yng Nghymru i helpu i fynd i'r afael â rhai o'r problemau sy'n wynebu ein cymunedau.
Ac mae'n bwysig nodi bod y cynnydd a wnaed ar rai o'r materion hyn mewn rhannau eraill o'r DU yn golygu bod perygl y bydd Cymru yn cael ei gadael ymhellach fyth ar ei hôl hi. Mae Llywodraeth yr Alban wedi cyhoeddi ei Good Food Nation Bill yn ddiweddar, sy'n ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion yr Alban ac awdurdodau cyhoeddus perthnasol greu cynlluniau cenedl bwyd da, yn ogystal ag ystyried yr angen am gorff statudol. Disgwylir i Lywodraeth y DU lunio Papur Gwyn i ymateb i argymhellion adroddiad diweddar y strategaeth fwyd genedlaethol.
Mae fy nghynigion, felly, wedi'u llunio yn sgil llawer o drafodaethau gyda rhanddeiliaid ac arbenigwyr, yn ogystal ag Aelodau o'r Senedd o bob plaid. Hoffwn ddiolch yn fawr iawn i bawb am eu hamser a'u cymorth hyd yma. Rwyf hefyd yn falch iawn o fod wedi cael cefnogaeth gyffredinol gan Undeb Amaethwyr Cymru ac Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr mewn perthynas ag egwyddorion ehangach y Bil. Mae'r Gynghrair Gweithwyr Tir hefyd yn credu bod angen gweledigaeth drosfwaol ar gyfer system fwyd iach, gref a chynaliadwy yng Nghymru.
Felly, i grynhoi, byddai fy Mil yn gwneud nifer o bethau. Mae sefydlu comisiwn bwyd i Gymru yn rhan allweddol o'r ddeddfwriaeth arfaethedig. Byddai'r comisiwn yn ailosod llywodraethiant y system fwyd yng Nghymru, a byddai'n cyd-greu ac yn goruchwylio'r gwaith o gyflawni strategaeth fwyd i Gymru gyda Gweinidogion Cymru a rhanddeiliaid eraill. Nid yw wedi'i gynllunio i danseilio'r Gweinidog na'r Llywodraeth, ond i'w cefnogi i gyflawni eu nodau.
Bydd cyfansoddiad y comisiwn yn cael ei ddatblygu ymhellach mewn cydweithrediad â rhanddeiliaid, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, wrth i'r Bil fynd rhagddo. Rwy'n croesawu mewnbwn gan Aelodau ynglŷn â sut y gallai hynny edrych. Bydd y Bil yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i gydgynhyrchu strategaeth fwyd drosfwaol i Gymru gyda rhanddeiliaid eraill. Bydd hyn yn gweithredu fel fframwaith trosfwaol strategol sy'n integreiddio polisïau'n ymwneud â'r system fwyd ar draws nifer o adrannau Llywodraeth Cymru.
Er bod Llywodraeth Cymru wrthi'n diweddaru ei chynllun gweithredu ar gyfer bwyd, mae dogfen ymgynghori'r Llywodraeth yn nodi nad yw'n gynnig ar gyfer newid i system fwyd gyfannol. Ac eto, dyna'n union sydd ei angen arnom yng Nghymru, a dyna fydd y strategaeth fwyd arfaethedig yn anelu i'w wneud. Bydd y Bil yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol a gwasanaethau cyhoeddus eraill, megis byrddau iechyd lleol, ddatblygu cynlluniau bwyd cymunedol. Bydd hyn yn cryfhau caffael cyhoeddus ac yn creu gwell seilwaith i gysylltu cynhyrchwyr a defnyddwyr bwyd.
Byddai'r rhain yn adeiladu ar yr arferion da sydd eisoes yn digwydd ledled Cymru, megis cynllun gweithredu Cyngor Sir Fynwy ar ddatblygu bwyd, a byddai'n annog cymunedau lleol eraill i archwilio sut y gallant gryfhau'r cysylltiad rhwng cynhyrchwyr a defnyddwyr yn eu hardal.
Ceir rhai polisïau ychwanegol hefyd, megis y gofyniad i Weinidogion Cymru adrodd yn flynyddol ar gynhyrchiant bwyd yng Nghymru, fel y gallwn ddadansoddi canlyniad strategaeth fwyd Cymru yn glir, yn ogystal â chynlluniau bwyd lleol. Byddai'n caniatáu i lunwyr polisi a rhanddeiliaid eraill sydd â diddordeb i wneud asesiad o ba mor gynaliadwy a chadarn yw cynhyrchiant bwyd yng Nghymru.
Gallai'r Bil ei gwneud yn ofynnol i bob archfarchnad a manwerthwr arall roi bwyd nad oes mo'i eisiau neu heb ei werthu sy'n addas i'w fwyta i elusennau a banciau bwyd i helpu'r bobl fwyaf agored i niwed mewn cymdeithas. Mae hyn yn debyg i fesur a gyflwynwyd yn Ffrainc yn 2016. Byddai'r polisi'n helpu Llywodraeth Cymru i gyflawni ei rhwymedigaethau presennol, megis y targed i haneru gwastraff bwyd y gellir ei osgoi erbyn 2025 a'i leihau 60 y cant erbyn 2030. Gwn fod rhai archfarchnadoedd eisoes yn gwneud gwaith da, ond nid yw'n ddigon.
Yn olaf, byddai'r Bil yn archwilio ffyrdd o gryfhau gofynion labelu bwyd. Byddai hyn yn canolbwyntio ar sicrhau bod cynhyrchwyr, gweithgynhyrchwyr ac yn bwysig, ochr ychwanegol y sector lletygarwch, yn cryfhau—byddai eu rheolau labelu bwyd yn cael eu cryfhau i sicrhau bod bwyd a gynhyrchir yng Nghymru wedi'i nodi'n glir i ddangos mai dyna ydyw.
Fodd bynnag, Ddirprwy Lywydd, hoffwn bwysleisio mai cynigion yn unig yw'r rhain. Os caf ganiatâd i gyflwyno Bil yn ffurfiol, bwriadaf gydweithio'n agos ag ystod eang o randdeiliaid, yn ogystal ag Aelodau a Gweinidogion o bob rhan o'r Siambr, i sicrhau bod eu barn a'u hamcanion wedi eu cynnwys yn y ddeddfwriaeth, oherwydd drwy gydweithio fel un Senedd y gallwn sicrhau Cymru fwy teg a chyfartal.
I gloi, Ddirprwy Lywydd, hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i apelio ar bob Aelod o'r Senedd fel unigolion, nid pleidiau gwleidyddol, nid chwipiaid y pleidiau: mae gennym gyfrifoldeb moesol i weithredu heddiw. Mae'n hawdd gorbwysleisio effaith deddfwriaeth. Fel y cydnabûm yn gynharach, un elfen mewn peiriant llawer ehangach fyddai fy nghynigion. Mae yna agweddau eraill ar y system fwyd sydd y tu hwnt i'n pwerau, a chredaf fod angen inni weld Llywodraethau eraill yn gwneud mwy i fynd i'r afael â rhai o'r problemau, ond byddai'r Bil hwn yn rhoi'r llwyfan sydd ei angen arnom yma yng Nghymru i ddechrau gweithredu'r newidiadau y mae angen inni eu gweld.
Clywn y gair 'blaengar' yn cael ei daflu o gwmpas yn aml yn y Siambr hon. Wel, gadewch inni weithredu mewn modd blaengar. Atebion Cymreig i broblemau Cymreig, wedi'u creu ar gyfer pobl Cymru. I ddyfynnu'r Athro Kevin Morgan a Simon Wright yn eu herthygl ddiweddar ar fy Mil:
'Mae synnwyr cyffredin, yn ogystal â thoreth o dystiolaeth ymchwil, yn dweud wrthym fod yn rhaid inni weithredu. Bydd cenedlaethau'r dyfodol yn ei chael hi'n anodd deall ein methiant i wneud hynny.'
Ddirprwy Lywydd, edrychaf ymlaen at glywed barn Aelodau o bob rhan o'r Siambr. Diolch.
Galwaf ar y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, Lesley Griffiths.
Diolch. Diolch i Peter Fox am gyflwyno'i Fil arfaethedig heddiw, a chroesawaf y cyfle i ymateb ar ran Llywodraeth Cymru. Cyfarfûm â Peter i drafod ei gynigion a gwnaeth ei angerdd dros yr agenda hon argraff arnaf, ac mae newydd ddangos hynny eto. Rwy'n gobeithio y gall y ddadl hon fod yn rhan o sgwrs barhaus am y ffyrdd y gallwn gydweithio i wireddu'r dyheadau sydd ganddo ac rwyf fi, a llawer ar draws y Siambr hon, yn eu rhannu.
Cytunaf yn gryf â'r teimlad sy'n sail i'r Bil arfaethedig. Mae manteision lles enfawr i'w cael o ailfeddwl ein hagwedd tuag at fwyd a'r rôl y mae'n ei chwarae yn ein cymdeithas. Credaf fod llawer y gallwn ei wneud drwy adeiladu ar y consensws sydd gennym ar draws y Senedd, a thrwy gefnogi creadigrwydd ac ymrwymiad pobl ledled Cymru. Fodd bynnag, rwyf am annog yr Aelodau i ystyried y ffyrdd y gellir cyflawni dyheadau'r Bil yn gyflymach ac yn fwy effeithiol na thrwy'r darpariaethau penodol a gynigir, ac i weithio gyda ni i'w gwneud hi'n bosibl cyflawni cyfres o bethau sy'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol ac ymarferol ar lawr gwlad.
Byddai'r comisiwn bwyd cenedlaethol a'r haenau o strategaethau blynyddol gan y Llywodraeth a gynigir gan y Bil yn creu perygl o lesteirio yn hytrach na chefnogi entrepreneuriaid lleol, trefnwyr cymunedol a gweision cyhoeddus. Credaf y byddai'n gwneud cyfraith ddiangen ar gyfer pynciau lle gellir a lle mae camau'n cael eu cymryd eisoes. Ceir cyfoeth o fentrau a chymunedau bywiog o ddiddordeb yng Nghymru sy'n canolbwyntio ar fwyd, a chredaf fod y ffyrdd creadigol yr ymatebodd awdurdodau lleol Cymru a'r sector gwirfoddol i ddarparu bwyd i bobl agored i niwed yn ystod y pandemig COVID-19 yn un enghraifft, yn ogystal â'r cannoedd o brosiectau tyfu bwyd cymunedol a geisiodd gymorth drwy'r cynllun Lleoedd Lleol ar gyfer Natur i ehangu eu gwaith fel ffordd o helpu pobl drwy'r effaith ofnadwy y mae'r feirws wedi ei chael, ac yn parhau i'w chael, ar ein cymunedau.
Mae'r rhwydwaith clwstwr o fusnesau bwyd yng Nghymru yn enghraifft wych arall o'r angerdd a'r ysbryd cydweithredol sy'n bodoli yn y diwydiant bwyd yma yng Nghymru, yn ogystal â chryfder busnesau Cymreig gafodd ei arddangos yng nghynhadledd Blas Cymru a gynhaliwyd y mis diwethaf, lle llwyddwyd i ddenu buddsoddwyr o bob cwr o'r byd. Drwy gronfa her yr economi sylfaenol, gwnaethom gefnogi prosiect, dan arweiniad bwrdd gwasanaethau cyhoeddus sir Gaerfyrddin, i ddatblygu cyfleoedd i'r sector cyhoeddus gaffael bwyd a gynhyrchir ac a gyflenwir yn lleol, gan gynorthwyo busnesau lleol i dyfu, prosiect a allai fod yn arweiniad defnyddiol yn fy marn i, lle gallwn gynorthwyo eraill i ddilyn.
Gan ddysgu o'r ffyrdd llwyddiannus y mae ein cymorth i fentrau sy'n seiliedig ar fwyd wedi'i ddarparu, a gweithio gyda busnesau a chymunedau yn ogystal â chyrff cyhoeddus, credaf fod arnom angen dull o weithredu o'r gwaelod i fyny, yn hytrach na dull o'r brig i lawr. Gall hyn adeiladu ar waith sydd eisoes wedi'i gyflawni ar raddfa fach i ganolig yng Nghymru, ac mae angen inni dyfu ac ymestyn hynny yn awr. Dyna lle credaf y dylai ein ffocws fod—ar ddatrys problemau yn ymarferol a chefnogi gweithredu lleol ledled y wlad, yn hytrach na chreu cyfres o ddyletswyddau cyfreithiol newydd a threfniadau biwrocrataidd.
Weinidog, tybed a wnewch chi ildio ar hynny.
Gwnaf.
Weinidog, fe wyddoch fod grŵp cydweithredol y Senedd, mewn gwirionedd, wedi cynhyrchu adroddiad ar hyn o fewn y ddwy flynedd ddiwethaf ac yn wir, roedd yn cefnogi'n fawr y dull cydweithredol ar lawr gwlad o ddatblygu rhwydwaith bwyd cryfach, lle ceid rhwydweithiau bwyd lleol yn wir, lle gallai cynhyrchwyr sylfaenol, yn ogystal â chynhyrchwyr cydweithredol, a sefydliadau ar lawr gwlad, fod yn rhan o hyn. Ond mae gennym lawer iawn o gydymdeimlad, mewn gwirionedd, â rhai o'r rhannau o'r ddeddfwriaeth a gyflwynwyd, felly a gaf fi ofyn i'r Gweinidog: os nad deddfwriaeth yw'r ateb, fel y tybiaf eich bod yn dadlau, sut y gallwch wireddu'r ymrwymiad i ymgysylltu â Peter, gyda rhanddeiliaid allanol, gydag eraill yn y Siambr hon heddiw, ond hefyd gyda'r mudiad cydweithredol ac eraill sydd am weld trawsnewidiad llwyr yn y maes hwn?
Diolch, ac mae'r Aelod yn codi pwynt pwysig iawn, ac rwy'n sicr wedi cael golwg ar yr adroddiad, ac fe fyddwch yn ymwybodol iawn ein bod, fel Llywodraeth, eisoes wedi ymrwymo i ddatblygu strategaeth bwyd cymunedol, a oedd yn ein maniffesto, ac a oedd yn seiliedig yn rhannol ar yr adroddiad hwnnw, ynghylch grymuso gweithredu a arweinir gan y gymuned, cysylltu'r system fwyd yn well â dinasyddion, a chreu cyflenwad amrywiol. Ac mae bellach yn ein rhaglen lywodraethu fel y gwyddoch, ac rwy'n hapus iawn i weithio gyda phwy bynnag sydd am fwrw ymlaen â'r strategaeth honno.
Bydd bwyd yn bendant yn ffactor cyffredin yn y strategaeth bwyd cymunedol, ac rwyf eisoes wedi dechrau gweithio gyda swyddogion, gan edrych ar gynlluniau trawslywodraethol, ac mae'n ddiddorol iawn gweld faint o gyllideb a werir ar draws y Llywodraeth. Pan edrychwch arno, bron nad oes gan bortffolio pob Gweinidog rywbeth a fydd wedi'i gynnwys yn y strategaeth bwyd cymunedol honno, a chredaf y bydd yn cryfhau ein cymunedau'n fawr, bydd yn gwella llesiant, bydd yn darparu cyfleoedd ar gyfer iechyd meddwl ac iechyd corfforol ac yn gwyrddu'r amgylchedd. Rwy'n hapus iawn i ymrwymo i barhau i weithio gydag unrhyw Aelod sydd am fwrw ymlaen â'r strategaeth honno, i nodi ffyrdd y gallwn fabwysiadu a datblygu syniadau a oedd yn yr adroddiad a gyflwynwyd.
Credaf fod gennym gyfle hefyd i fwrw ymlaen â chynigion ynghylch lleihau gwastraff bwyd gan fusnesau, a chyfeiriodd Peter at hynny hefyd, drwy ein rheoliadau arfaethedig ar ailgylchu gwastraff busnesau. Mae cyfleoedd hefyd i weithio gyda Llywodraethau eraill y DU a chyda busnesau yng Nghymru ar wella labelu bwyd. Credaf fod hynny'n gwbl hanfodol.
Felly, lle gall y Senedd ffurfio consensws ar y materion hyn, bydd llawer o gyfleoedd i roi'r cydflaenoriaethau hynny ar waith—cyfleoedd y credaf y byddai'r Bil arfaethedig, yn groes i'w fwriad, yn eu lleihau yn hytrach na'u gwella. Felly, hoffwn annog yr Aelodau i weithio gyda ni i gynorthwyo hyrwyddwyr lleol, er enghraifft, i weithio gyda'i gilydd, gyda chyrff cyhoeddus, gyda busnesau, fel y gall pawb chwarae eu rhan i wneud y mwyaf o'r manteision sydd gennym i edrych ar fanteision llesiant cynhyrchu bwyd, oherwydd mae llawer iawn yno, a dosbarthu bwyd yn fwy teg a phriodol, gan werthfawrogi'r rôl sydd gan fwyd i'w chwarae yn ein cymunedau.
Ni allaf gefnogi Bil yr Aelod fel y'i cynigiwyd oherwydd credaf y byddai ei weithredu'n tynnu ein sylw oddi wrth y blaenoriaethau y credaf ein bod yn eu rhannu, a chredaf hefyd fod llawer o argymhellion yn y Bil—a bydd Peter yn ymwybodol o hyn—nad wyf yn credu bod angen deddfwriaeth newydd ar eu cyfer. Fodd bynnag, rwy'n awyddus iawn i'w gefnogi yn ei benderfyniad i nodi ffyrdd o ddiogelu'r cyflenwad bwyd a gwella llesiant drwy hyrwyddo darpariaeth o fwyd cynaliadwy o ansawdd uchel wedi'i gynhyrchu yma yng Nghymru. Diolch.
Hoffwn ddiolch i fy nghyd-Aelod, Peter Fox, am gyflwyno cynnig mor bwysig, y teimlaf y dylid ei groesawu ar draws y rhaniad gwleidyddol. Mae'n gynnig ardderchog ar gyfer Bil, ac rwy'n cymeradwyo fy nghyd-Aelod, Peter Fox, am ei gyflwyno. Fel Senedd, mae gennym gyfle i ddeddfu yn y maes pwysig hwn a chryfhau diogelwch y cyflenwad bwyd, gwella'r dewis i ddefnyddwyr Cymru a chefnogi ein cymunedau gwledig a'n ffermwyr a busnesau lleol ledled Cymru.
Mae'n amlwg fod cefnogi amaethyddiaeth yn ganolog i'r Bil hwn, ac fel merch fferm, mae hynny'n fy mhlesio. Ar lefel Cymru gyfan, rydym angen y sicrwydd o wybod bod cynhyrchiant bwyd yn gynaliadwy ac yn lleol i leihau milltiroedd bwyd a chyfyngu ar wastraff. Gyda dadl genedlaethol lawn ar newid hinsawdd ar y gweill ar hyn o bryd yng ngoleuni'r COP26, ceir mwy o ymwybyddiaeth o'r materion hyn ymhlith y cyhoedd, ac mae cyfrifoldeb ar y Llywodraeth i sicrhau bod defnyddwyr yn cael gwybodaeth dda i'w galluogi i wneud dewisiadau ynglŷn â pha fwyd y maent yn ei brynu. Rydym angen rheoliadau cryfach ar labelu bwyd fel y gall y cyhoedd wneud dewis clir ynglŷn â lle maent yn dewis gwario eu harian. Mae nifer cynyddol o bobl am fynd ati'n rhagweithiol i brynu bwyd sydd wedi'i dyfu, ei gynaeafu a'i becynnu'n lleol, gyda chyn lleied o filltiroedd â phosibl, felly mae'n bwysig ein bod yn sicrhau eu bod yn cael y wybodaeth hon i wneud dewis gwybodus. Yn gynyddol, mae sir Fynwy, fy sir enedigol, sir Peter, yn lleoliad bwyd pwysig yng Nghymru ar hyn o bryd, gyda chymaint o gyflenwyr lleol o safon, ac mae angen inni fanteisio ar hynny, ond mae angen inni wneud mwy i gryfhau prosesau caffael lleol a sicrhau bod gan gynhyrchwyr bach a chanolig eu maint fynediad cyfartal at farchnadoedd cystadleuol.
Mae bwyd yn sbardun allweddol i'n heconomi dwristiaeth, a thwristiaeth yw bara menyn ein heconomi yma yng Nghymru, a dylem wneud mwy i gefnogi hynny. Ceir llawer o arferion rhagorol ar lawr gwlad fel y dywedoch chi, Weinidog, ond dylid eu helpu oddi fry, dylai'r Senedd eu helpu, i'w harwain yn dda a chyflwyno'r arferion gorau hynny ledled Cymru. Dyna pam ei bod mor bwysig ein bod yn defnyddio'r Bil hwn i osod dyletswydd ar Weinidogion i lunio strategaeth fwyd.
Fel Gweinidog yr wrthblaid dros addysg, mae gennyf ddiddordeb mewn prydau ysgol wrth gwrs, ac mae'r hyn a welwn ar fwydlenni ysgolion bob amser mor siomedig. Mae'n bwysig ein bod yn manteisio i'r eithaf ar y cynnyrch lleol gwych sydd o'n cwmpas i fwydo ein plant yn yr ysgolion, a chredaf fod ansawdd yr hyn sydd gennym o'n cwmpas a'r milltiroedd bwyd isel yn rhywbeth y mae plant am ei weld, ond hefyd mae'n bwysig i roi maeth iddynt, i fynd i'r afael â gordewdra a'r rôl ehangach y gall bwyd—bwyd da, bwyd lleol da—ei chwarae.
Rwy'n falch iawn o fod yn Gymraes ac rwyf am weld dyfodol Cymru'n cael ei sicrhau fel gwlad gynaliadwy sy'n dathlu ac yn bwyta cynnyrch lleol. Credaf fod cyfle gwirioneddol gyda'r Bil hwn i ddathlu'r hyn sydd gennym yma. Mae gennym lawer i ymfalchïo ynddo ac i'w fwynhau yn ein gwlad, a byddai'r Bil hwn o fudd i gynifer o sectorau gwahanol ac i gynifer o wahanol bobl. I mi, mae'n gwbl amlwg y dylem gefnogi'r cynnig gwych hwn y mae Peter wedi'i gyflwyno i ni heddiw. Da iawn, Peter.
Diolch, Peter, am ddod â'r Bil hwn i lawr y Senedd. Yn fy marn i, ni allwn ddarparu Cymru iachach, sy'n fwy gwyrdd a chyfartal oni bai ein bod yn mynd i'r afael ag anghydraddoldebau ein perthynas â bwyd. Dylai pawb yng Nghymru fod â hawl i fwyd da, ffres. Yn anffodus, nid yw hynny'n digwydd ar hyn o bryd. O'n cwmpas, gallwn weld diabetes, clefyd y galon, epidemig canser—y cyfan yn dystiolaeth o'n perthynas afiach â bwyd.
Roeddwn yn trafod yn gyson yn y Senedd flaenorol gyda'r Gweinidog addysg sut y gallwn newid ansawdd prydau ysgol, ac mae'n debyg ei bod yn ddyletswydd ar lywodraethwyr ysgolion i'w harolygu a hefyd i adrodd arnynt yn adroddiad yr ysgol. Ond yn anffodus, ychydig iawn o lywodraethwyr sydd hyd yn oed yn ymwybodol fod ganddynt y ddyletswydd hon, heb sôn am gydymffurfio â hi, ac nid yw Estyn yn ei hystyried yn rhan greiddiol o'u dyletswydd hwythau. Felly, mae'n symptom o ddiffyg cadernid ein dull system gyfan o ymdrin â'r mater hwn.
Oes, mae llawer o fentrau gwych ar y gweill i wella ein system fwyd. Mae Bwyd Caerdydd wedi ennill gwobr arian y Lleoedd Bwyd Cynaliadwy, mae'r rhaglen gwella gwyliau'r haf wedi bod yn rhaglen wych, ac rwy'n gwerthfawrogi'n fawr fod Llywodraeth Cymru wedi dyblu'r gyllideb ar ei chyfer dros wyliau'r haf, ond mae arnaf ofn na wnaeth arwain, yn achos fy ysgolion i, at fwy o bobl yn manteisio ar y rhaglen. Arweiniodd at lai o ysgolion yn manteisio arni, ac rwy'n deall hynny, oherwydd mae ysgolion wedi blino'n lân ar ôl gorfod parhau i addysgu yn ystod y pandemig. Ond serch hynny, mae'n dangos nad yw pawb yn cefnogi hyn yn ddiwahân. Mae llawer gormod o ysgolion yn credu bod y pryd ysgol yn ychwanegiad i'r diwrnod ysgol—rhywbeth i'r disgyblion sy'n cael prydau ysgol am ddim ac ychydig o rai eraill, yn hytrach na rhywbeth sy'n ganolog i les disgyblion.
Rhaid inni gofio bod lefelau gordewdra yn dyblu rhwng dechrau'r ysgol gynradd a phan fydd plant yn mynd i'r ysgol uwchradd. Dyna ystadegyn syfrdanol iawn. Rwy'n siomedig iawn nad oes unrhyw ysgolion yng Nghymru wedi llofnodi'r achrediad Bwyd am Oes, sy'n golygu nad yw ysgolion yn rhoi digon o sylw i bwysigrwydd prydau ysgol, nac ychwaith yn gwybod o ble y daw'r bwyd hyd yn oed, oherwydd nid oes neb yn monitro hynny mewn gwirionedd. Felly, roedd sir y Fflint yn arloesi o ran mabwysiadu'r achrediad Bwyd am Oes sy'n gwobrwyo pobl am gynyddu faint o fwyd ffres y maent yn ei ddarparu, gan gynyddu faint o fwyd organig y maent yn ei ddarparu, ac os gall Oldham, awdurdod lleol tlawd iawn, wneud hynny, pam na all Cymru ei wneud?
Felly, rhaid imi ddweud, er nad wyf yn cefnogi comisiwn bwyd, rwy'n llawer mwy cefnogol i olrhain y ffordd y defnyddiwn yr arian cyhoeddus y dylem fod yn ei reoli ac y dylem fod yn sicrhau ei ansawdd, nid yn unig o ran ein prydau ysgol, ond yn ein holl gartrefi gofal, ym mhob un o'n hysbytai, a sicrhau yn gyffredinol fod gan bobl fwyd ffres ar gael iddynt a'u bod yn gwybod sut i'w goginio, oherwydd yn anffodus mae hynny hefyd yn rhan o'r broblem.
Felly, roedd gennyf un cwestiwn i Peter Fox: sut y credwch y gallwn gryfhau'r gofynion labelu bwyd? Oherwydd mae hyn yn rhywbeth y mae Llywodraeth y DU wedi tin-droi llawer yn ei gylch, wedi siarad llawer amdano, ond heb wneud dim yn ei gylch. Mae hyn yn rhywbeth y mae angen inni ei gael ar lefel y DU mewn gwirionedd, oherwydd byddai cael labelu bwyd gwahanol yng Nghymru yn unig yn arwain at gost ychwanegol enfawr i filiau bwyd pobl yng Nghymru. Mae gwir angen ichi weithio gyda Llywodraeth y DU ar hyn. Ni allwn ddal ati i gael siwgr a halen mewn bwyd babanod i ddechrau, a hefyd y pwysau cyson gan gwmnïau bwyd mawr, sy'n gweithredu fel cwmnïau tybaco mawr, i sicrhau bod plant yn mabwysiadu arferion gwael o'r dechrau un. Maent yn gwario biliynau o bunnoedd ar geisio dweud wrth bobl beth y dylent ei fwyta, ac yn hytrach, mae gennym ymgyrch wych Nerth Llysiau, ond nid yw cynnydd o 2.3 y cant yn y llysiau ffres sy'n cael eu bwyta o ganlyniad i'r ymgyrch wych honno yn mynd i fod yn ddigon. Dyna pam y credaf fod angen i bob adran yn y Llywodraeth ganolbwyntio o ddifrif ar y mater hwn, oherwydd fel arall, nid 50 y cant o'r gyllideb y byddwn yn ei wario ar y GIG, ond tri chwarter y gyllideb, a byddwn yn byw bywydau diflas iawn.
Cyn imi ddechrau, hoffwn gofnodi y dylwn fod wedi datgan buddiant yn gynharach yn ystod y cwestiynau llywodraeth leol gan fy mod yn aelod o Gyngor Sir Powys, ar gyfer fy nghwestiwn atodol i gwestiwn 4, a dylwn ddatgan buddiant yma hefyd, gan fod fy nheulu-yng-nghyfraith yn gynhyrchwyr bwyd.
Hoffwn dalu teyrnged i fy nghyfaill, Peter Fox, fel rhywun sy'n hoff iawn o fwyd o Gymru. Rwyf fi, ynghyd â llawer yn y Siambr hon, wedi ymgyrchu dros system fwyd fwy cynaliadwy yma yng Nghymru, a gosod diogelu'r cyflenwad bwyd ynghanol y system honno a sicrhau y gallwn gynorthwyo ein cynhyrchwyr bwyd a diod bach, teuluol yng Nghymru i wella canlyniadau economaidd-gymdeithasol Cymru er budd y Cymry. A chredaf yn gryf, Peter, fod y Bil rydych wedi'i gynnig heddiw yn cyflawni hynny.
Yng Nghymru, mae gennym gyfle gwych drwy'r Bil hwn i wella iechyd y genedl, gan ein galluogi i fod yn iachach. Yn ein gwlad, mae gennym broblemau iechyd mawr ar ffurf costau byw cynyddol, gordewdra a newid hinsawdd, ac mae pob un o'r rheini wedi'i waethygu gan y pandemig COVID-19. Credaf y gall y Bil rydych wedi'i gynnig helpu i gyflawni polisïau Llywodraeth Cymru fel y strategaeth 'Pwysau Iach: Cymru Iach', a chyflawni'r nodau llesiant yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.
Mae comisiwn bwyd i Gymru yn rhan allweddol o'r cynnig hwn ac fe fyddaf yn onest, fel rhywun nad yw'n hoffi creu comisiynau neu bwyllgorau, i chi, Peter, efallai y byddwn yn gwneud eithriad y tro hwn, oherwydd credaf nad ydym wedi gweld strategaethau bwyd a diod Cymru'n cael eu cyflawni fel y credaf y dylent gael eu cyflawni. A chredaf ei bod yn iawn y gallai corff trosfwaol fel hwn ychwanegu manteision enfawr i'r sector bwyd. Credaf fod angen monitro pob strategaeth a dangos eu bod yn cyflawni ar gyfer y trethdalwr ac yn cyflawni ein gwerthoedd cymdeithasol. Oherwydd bydd dod â'r sgiliau a'r wybodaeth gywir at ei gilydd i ddatblygu'r sector yn helpu'r amgylchedd er gwell. Ac fel y dywedais yn gynharach, credaf y bydd comisiwn bwyd yn ein helpu i gyflawni hynny.
Fel y gwnaethoch amlinellu yn y Bil, nid dyma'r tro cyntaf i bobl alw am hyn. Mae nifer o randdeiliaid yn y gorffennol wedi galw o'r blaen am gorff trosfwaol, a gwn eich bod wedi gwneud llawer iawn o waith i ymgysylltu â'r diwydiant, fel y sonioch chi, gydag Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr, Undeb Amaethwyr Cymru ac eraill, ac Aelodau eraill yn y Siambr hon wrth gwrs, i gael cefnogaeth drawsbleidiol i'r Bil. Rwy'n siŵr y bydd yr holl bobl hynny'n falch iawn eich bod yn cyflwyno hyn ac yn rhoi sylw iddo.
Fe wnaethoch amlinellu yn y Bil y nod o gryfhau gwytnwch y cadwyni cyflenwi lleol drwy sicrhau bod cyrff cyhoeddus lleol yn cynyddu faint o fwyd a gynhyrchir yn lleol y maent yn ei gaffael. Rwy'n credu bod hynny'n bwysig iawn i helpu'r economi leol a helpu busnesau lleol i ddatblygu. Mae'n dda iawn ac mae hyn yn cyd-fynd, mewn gwirionedd, â Bil partneriaeth gymdeithasol a chaffael cyhoeddus Llywodraeth Cymru ei hun, oherwydd credaf fod yr hyn a godwyd yn gynharach yn y Siambr yn bwysig iawn, ac fel y dywedais am 'Pwysau Iach: Cymru Iach'. Os gallwn gael gwell bwyd, bwyd o ansawdd gwell ar gyfer caffael cyhoeddus, credaf y bydd hynny'n helpu ein dysgwyr ifanc mewn gwirionedd a chredaf fod hynny'n rhywbeth rydym yn awyddus iawn i'w wneud yn y pwyllgor addysg, i sicrhau bod gennym ddarpariaeth o fwyd iachus ar gyfer ein plant.
Yn eich Bil, fe sonioch chi hefyd am labelu bwyd, ac rydym i gyd yn glir yma fod yn rhaid i fwyd o Gymru gael ei labelu'n glir i ddangos ei wlad tarddiad. Credaf y bydd y Bil yn sicrhau bod cynhyrchion bwyd wedi'u labelu'n well, a hynny yn ei dro yn helpu busnesau lleol ac yn gwneud i bobl wneud dewisiadau mwy gwybodus yn y siopau, ac mae'n eu galluogi i gael bwyd gwell ac fel y dywedoch chi hefyd, yn helpu'r elfen o'r fferm i'r fforc ac yn dangos i bobl o ble y daw eu bwyd, yn ei wneud yn fwy cynaliadwy ac yn helpu i leihau ein hôl troed amgylcheddol mewn gwirionedd, sy'n wirioneddol bwysig.
Gwn ein bod yn mynd i fynd dros yr amser yn ôl pob tebyg, felly fe fyddaf yn eithaf byr, Ddirprwy Lywydd, ond rwy'n awyddus iawn i'ch cefnogi ar hyn, Peter, ac fe gewch fy nghefnogaeth heddiw. Ac rwy'n gobeithio y bydd Aelodau ar draws y Siambr yn eich cefnogi, oherwydd credaf fod y Bil hwn yn ddeddfwriaeth wych. Mae'n mynd i wella economi Cymru, bywydau pobl Cymru, ac rwy'n hapus iawn i'ch cefnogi heddiw.
Diolch i Peter Fox am ddod â'r Bil drafft hwn gerbron i ni ei ystyried fel Senedd. Dwi'n hapus i gefnogi'r Bil, ac yn barod i gefnogi'r cyfle iddo fe aeddfedu wrth i'r broses symud yn ei blaen achos dwi yn credu y gallai'r Bil hwn helpu i ddarparu system fwyd sydd yn wirioneddol addas ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Ac mae llawer iawn o amcanion y Bil yn digwydd bod yn cyd-fynd â pholisi Plaid Cymru ar fwyd, fel roedd wedi cael ei amlygu yn ein maniffesto ychydig fisoedd yn ôl. Ac, wrth gwrs, rydyn ni newydd ddod allan o drafodaethau COP ac mae bwyd wedi cael mwy o ffocws na dim byd arall, ac rydyn ni wedi gweld effaith negyddol ar newid hinsawdd o ran cynhyrchu bwyd.
Dwi jest yn mynd i gymryd ambell i bwynt o'r hyn roeddwn i wedi bwriadu ei ddweud gan fod gymaint wedi cael ei ddweud yn barod a dwi ddim eisiau ailadrodd. Ond un peth sydd eisiau ei ailbwysleisio yw bod ein system fwyd bresennol ni yn cael effaith sylweddol ar yr amgylchedd, iechyd y cyhoedd, yr economi, amaeth a hyd yn oed sicrhau bwyd iach i'n plant mewn ysgolion, ac yn gallu'n effeithio'n fawr arnom ni fel cenedl o ran ein ffyniant ar gyfer y dyfodol.
O ran sefydlu comisiwn bwyd, dwi o blaid hyn, mae Plaid Cymru o blaid hyn, oherwydd mae e'n sicrhau cyfle i ddod â strategaeth fwyd holistaidd at ei gilydd, tynnu’r llinynnau yna at ei gilydd mewn ffordd gredadwy a phwrpasol, ac mae e'n gyfle hefyd i ddod nid yn unig â gwaith y Llywodraeth at ei gilydd, ond yr ymchwil sy'n cael ei wneud gan ymarferwyr yn ein prifysgolion ni, drwy roi darparwyr bwyd at ei gilydd, a'r holl adrannau hefyd ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru. Felly, dwi'n gweld y manteision o gydlynu'r cyfan mewn un corff, fel comisiwn bwyd, yn fanteisiol i ni.
Mewn perthynas â'ch nod eithriadol o bwysig o ddarparu system fwyd fwy cynaliadwy, mwy lleol a chryfhau'r agwedd caffael cyhoeddus, yn sicr mae hyn yn rhywbeth y mae Plaid Cymru bob amser wedi ei gefnogi ac rydym am weld cynnydd yn nifer a hyfywedd systemau cyflenwi bwyd lleol. Ar hyn o bryd, mae gormod o gynnyrch o Gymru yn cael ei gludo allan o Gymru i'w brosesu, gan golli gwerth ychwanegol mawr ei angen. Mae angen inni gynyddu capasiti prosesu Cymru gyfan, a bydd gwrthdroi colli capasiti prosesu lleol yn gam cadarnhaol i'r cymunedau sy'n byw ac yn gweithio mewn ardaloedd gwledig, ac i les anifeiliaid, ac i fynd i'r afael â'r agenda newid hinsawdd.
Disgrifiodd yr Athro Roberta Sonnino o Brifysgol Caerdydd gaffael cyhoeddus fel yr offeryn mwyaf pwerus sydd ar gael i Lywodraethau ar gyfer llunio economïau bwyd cynaliadwy, ac rwy'n dyfynnu:
'Mae'n ganran enfawr o'n cynnyrch domestig gros, sydd fel arfer yn 13, 14 y cant yng ngwledydd Ewrop, a hyd at 70 y cant mewn gwledydd sy'n datblygu, felly mae'n gyfle euraidd i benderfynu pa fath o farchnadoedd bwyd rydym am eu creu, i bwy a sut. '
Ac fel y gŵyr pawb ohonom, mae tua 51 y cant o laeth Cymru yn cael ei brosesu y tu hwnt i'n ffiniau, ac mae 72 y cant o wartheg Cymru yn cael eu lladd y tu allan i Gymru. Nid yw hyn yn gwneud synnwyr o gwbl i mi. Ac er mwyn datrys hyn, mae angen inni leoleiddio cadwyni cyflenwi, ac rydym angen targedau uchelgeisiol ar gyfer caffael cyhoeddus. Dychmygwch y manteision economaidd ac amgylcheddol fel ei gilydd pe bai 75 y cant o'r bwyd a gaiff ei gaffael yng Nghymru yn cael ei ddarparu gan gyflenwyr lleol. Ar lefel llywodraeth leol, amcangyfrifir y gall cynnydd o 1 y cant mewn caffael lleol arwain at greu neu ddiogelu cannoedd o swyddi.
A jest i gloi, Dirprwy Lywydd, dwi'n hoff iawn o'r cyfeiriad at ddileu pob math o wastraff bwyd. Roedd maniffesto Plaid Cymru yn galw am gyflwyno targedau i haneru gwastraffu bwyd o’r fferm i’r fforc erbyn 2030. Mae'n debyg bod 400,000 tunnell o fwyd yn cael ei wastraffu bob blwyddyn gan gartrefi yng Nghymru.
Felly, dwi'n cloi drwy ddweud hyn: mae'n bosibl y gallai'r Llywodraeth ddadlau bod modd gwneud hyn i gyd mewn ffordd wahanol, ond mae yna wahaniaeth mawr rhwng 'gall y Llywodraeth ei wneud e' a 'byddant yn ei wneud e'. A beth fydd y Bil yma'n ei sicrhau yw y bydd y Llywodraeth yn mynd i’r afael â hyn, achos dwi'n meddwl mai dyma beth mae cenedlaethau’r dyfodol yn eu haeddu. Diolch yn fawr iawn.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddweud cymaint o bleser yw gallu cyfrannu yn y ddadl hon heddiw ar Fil bwyd a gyflwynwyd gan fy nghyd-Aelod, Peter Fox, gyda'r potensial i greu cyfleoedd enfawr i bobl ar hyd a lled Cymru? Rhaid imi ddweud ar y pwynt hwn hefyd fy mod wedi mwynhau cyfeiriadau'r Aelodau at fwyd yn eu cyfraniadau, megis 'bara menyn ein heconomi' o'r fan hon a 'cut the mustard' ar draws yr ystafell yno hefyd. Rwy'n siŵr nad oedd y mwyseiriau hynny'n fwriadol, ond fe wnes i eu mwynhau serch hynny.
Fel y dywed memorandwm esboniadol y Bil, a dyfynnaf:
'Diben y Bil yw sefydlu system fwyd fwy cynaliadwy yng Nghymru i wella diogelwch bwyd, gwella lles economaidd-gymdeithasol ymhlith pobl Cymru a chynnig mwy o ddewis i ddefnyddwyr.'
Mae gan y sector bwyd yng Nghymru rôl sylfaenol i'w chwarae yn helpu i greu Cymru fwy ffyniannus, iachach a gwyrddach. Rwyf am amlinellu pedwar maes yn gyflym i ddangos sut y credaf y bydd y Bil hwn sy'n cael ei gynnig heddiw yn ein helpu i gyflawni'r Gymru fwy ffyniannus, iachach a gwyrddach hon.
Soniwyd am y cyntaf gan Mr Campbell draw acw mewn gwirionedd. Rwy'n siŵr fod pob Aelod yn teimlo'n rhwystredig ynglŷn â faint o fwyd sy'n cael ei wastraffu gan siopau a manwerthwyr. Un agwedd allweddol ar y Bil hwn yw ei gwneud yn ofynnol i archfarchnadoedd a manwerthwyr eraill roi bwyd diangen a heb ei fwyta sy'n addas i'w fwyta gan bobl i elusennau a banciau bwyd i helpu'r rhai mwyaf agored i niwed mewn cymdeithas. Rwy'n sicr yn cymeradwyo'r manwerthwyr sy'n gwneud hynny ar hyn o bryd, ond byddai ei gwneud yn ofynnol i rywun wneud hynny'n sicr yn gwella pethau, yn debyg i ddeddfwriaeth y cyfeiriodd Mr Fox ati sydd eisoes mewn grym mewn gwledydd fel Ffrainc.
Yr ail faes sy'n bwysig yma yn fy marn i yw amcan y Bil i sefydlu comisiwn bwyd i Gymru, a fydd yn helpu i sicrhau dull mwy cydlynol o drafod polisi bwyd yng Nghymru yn ogystal â dod â meysydd polisi trawsbynciol a chynlluniau presennol at ei gilydd o dan un trefniant llywodraethu unedig. Gwn efallai fod rhai o'r Aelodau yma'n nerfus ynglŷn â'r elfen hon yn y Bil, ond fel y soniwyd o'r blaen, gwelaf hyn fel dechrau proses, dechrau'r daith i'r Bil hwn. Dylem geisio ei gefnogi fel y gellir ei ddatblygu ymhellach a'i ystyried ymhellach dros y misoedd nesaf.
Mae'r trydydd maes, os yw'r Bil hwn yn mynd i gefnogi Cymru ffyniannus, iach a gwyrdd, yn ymwneud â mynd i'r afael â'r problemau hirsefydlog sy'n dreth ar ein cymunedau, megis tlodi bwyd, diffyg maeth a gordewdra, y mae Aelodau eisoes wedi siarad mor dda amdanynt heno. Mae'r Bil yn pwyso am i fwydydd iachach fod ar gael mewn ysgolion a lleoliadau addysgol eraill yn ogystal â sicrhau bod teuluoedd ar incwm is, sydd at ei gilydd yn ei chael hi'n anodd cael deiet cytbwys, yn gallu cael bwyd iach hefyd.
Y pedwerydd maes sy'n wirioneddol bwysig i ni, yn enwedig yn sgil y COP26, yw'r manteision amgylcheddol enfawr y bydd y cynigion yn y Bil hwn yn eu cynnig i'n gwlad. Mae'r Bil yn rhoi amaethyddiaeth Cymru yn y canol yn y gwaith o ddiogelu cyflenwad bwyd ein gwlad, gan arwain at gynnyrch o ansawdd uchel, ond cynnyrch sy'n ecogyfeillgar hefyd. At hynny, bydd canolbwyntio ar gynnyrch mwy cynaliadwy yn sicrhau gwelliant yn yr amgylchedd lleol, gan leihau'r milltiroedd bwyd hollbwysig hynny ar yr un pryd.
Rwyf wedi disgrifio pedwar maes a fydd yn helpu i sicrhau Cymru fwy ffyniannus, iach a gwyrdd. Ac wrth gwrs, nid yr Aelodau yn yr ystafell hon yn unig sydd wedi cefnogi hyn, ond mae wedi bod yn galonogol iawn nodi cymeradwyaeth i'r Bil gan Undeb Amaethwyr Cymru ac Undeb Cenedlaethol Amaethwyr Cymru, yn ogystal â llawer o rai eraill.
Rwy'n aml yn nodi apêl Llywodraeth Cymru am gyfraniadau cadarnhaol o bob ochr i'r Siambr hon, ac roeddwn yn falch iawn fod gennym rywbeth heddiw sy'n ymddangos i mi'n gadarnhaol iawn ac yn anwleidyddol mewn gwirionedd o ran ei gymhellion, ac sy'n denu cefnogaeth arbenigwyr yn y sector bwyd, i sefydlu system fwyd fwy cynaliadwy yng Nghymru, cefnogi'r diwydiant a gwireddu ei botensial.
Rhaid imi ddweud mai siom oedd clywed y Gweinidog yn dweud na allai gefnogi'r Bil, ond rwy'n gobeithio y bydd yr Aelodau ar draws y Siambr, boed yn rhithwir ar y sgrin neu yn y cnawd yma heddiw, yn gweld y manteision y gall y Bil hwn eu cynnig ac y byddant yn ei gefnogi heddiw, oherwydd mae'n haeddu mwy o amser a mwy o gefnogaeth fel y gall pobl ledled Cymru elwa, fel y disgrifiais yma heddiw. Diolch yn fawr iawn.
Rwyf am ddweud ar y dechrau y byddaf yn cefnogi'r Bil y prynhawn yma gan y credaf fod ganddo'r potensial i weithredu fel catalydd go iawn ar gyfer newid. Mae bwyd yn rhan ganolog o bwy ydym ni—mae'n ganolog yn ein bywyd teuluol, mae'n ganolog i'n hiechyd a'n lles ac mae'n ganolog yn ein cymdeithas. Mae'n arwydd o'n hunaniaeth genedlaethol mewn sawl ffordd, fel y nodwyd eisoes y prynhawn yma. Pan ystyriwn beth yw bod yn Gymry, meddyliwn yn awtomatig am gig oen Cymru neu gig eidion Cymru, cocos neu fara lawr neu un o'r bwydydd eraill—y cawsiau rwy'n eu mwynhau ormod, efallai. Mae'n rhan bwysig o unrhyw gymuned ac unrhyw gymdeithas, a chredaf fod angen i ni yng Nghymru weithio'n galed i sicrhau bod bwyd nid yn unig yn cael lle canolog yn ein cymdeithas, ond yn cael lle canolog o ran pwy ydym ni. Mae angen inni gydnabod maint yr uchelgais, a chredaf fod gan y Bil hwn botensial i'w gyflawni.
Pan lansiais strategaeth fwyd—bron i ddegawd yn ôl bellach, rwy'n credu—roeddem yn cydnabod lle roeddem arni bryd hynny, a'r angen am newid sylfaenol yn y dulliau roeddem wedi'u hetifeddu ar y pryd. Ond pan fyddwn yn gwneud penderfyniadau yn y Llywodraeth, mae angen herio'r penderfyniadau hynny hefyd, ac nid yw'r strategaeth a lansiais bryd hynny'n strategaeth y byddwn yn ei lansio heddiw. Yr hyn rwy'n ei hoffi am y weledigaeth sydd wrth wraidd y Bil hwn yw'r cyfle i greu rhywbeth fel Origin Green, sydd yn fy marn i wedi chwyldroi cynhyrchiant bwyd yn Iwerddon, lle mae cynaliadwyedd yn ganolog i'r hyn y mae Llywodraeth Iwerddon yn ceisio'i gyflawni, a lle mae'n gweithio i ddod â'r gadwyn gyflenwi a'r rhai ohonom sy'n ddefnyddwyr at ei gilydd. Mae'n dod â chynhyrchu bwyd at ei gilydd, mae'n dod â phrosesu bwyd at ei gilydd, mae'n dod â marchnata bwyd at ei gilydd, mae'n dod â manwerthu bwyd at ei gilydd, ac mae'n dod â'r rheini ohonom sy'n mwynhau'r cynhyrchion hynny a'r cynnyrch hwnnw at ein gilydd. Mae'n rhywbeth y mae'n rhaid inni allu ei wneud.
Un o'r pleserau mawr rwyf wedi'u cael yn ystod fy amser yma oedd ymuno ag ymgyrchoedd dan arweiniad fy nghyd-Aelodau. Credaf fod y gwaith y mae Jenny Rathbone wedi'i wneud ar gyfiawnder bwyd dros y blynyddoedd wedi arwain y ddadl ar fwyd yn y wlad hon a'i le yn ein cymdeithas. Roeddwn yn cytuno â phob gair a ddywedodd Jenny y prynhawn yma. Mae'r gwaith y mae Huw Irranca-Davies wedi'i wneud yn arwain y rhai ohonom sy'n aelodau o'r Blaid Gydweithredol wedi torri tir newydd unwaith eto drwy ddangos pwysigrwydd bwyd fel rhan o'n dull polisi. Clywais Aelodau'n dweud yn gynharach y dylem roi gwleidyddiaeth ein pleidiau o’r neilltu ar y materion hyn, ond gallwn gyflawni amcanion gwleidyddol ein pleidiau drwy hyn, pob un ohonom yn y Siambr hon, fel mae’n digwydd. Roedd cyfraniad Cefin Campbell yn drawiadol iawn, pan siaradodd am y gwahanol agweddau ar bolisi Plaid Cymru sydd wedi'u cynnwys yn y cynnig hwn. Wel, gallaf ddweud, fel aelod o'r Blaid Lafur ac fel aelod o'r Blaid Gydweithredol, fy mod yn teimlo pethau tebyg iawn. Gellir cyflawni'r gwaith rydym wedi'i wneud ar gynaliadwyedd, y gwaith y soniodd y Gweinidog Newid Hinsawdd amdano o'r COP dros yr wythnosau diwethaf, yn rhannol drwy rywfaint o'r ddeddfwriaeth hon, a'r catalydd ar gyfer newid y gall fod. Credaf y dylem fod yn gwneud hynny. Credaf y dylem fod yn ceisio herio'r hen ffyrdd o weithio, dylem fod yn dysgu gwersi o rannau eraill o'r byd, dylem fod yn dysgu gan ein cymdogion agosaf dros y dŵr am yr hyn y maent wedi gallu ei wneud, a chymhwyso hynny i'n cyd-destun ein hunain.
Hoffwn ddweud hyn wrth y Llywodraeth: mae'n bwysig fod yr Aelodau'n gallu cyflwyno deddfwriaeth yn y lle hwn, ac nad yw'r Llywodraeth yn ceisio mygu'r ddeddfwriaeth honno pan gynigir y ddeddfwriaeth honno gyntaf. Ers i bwerau deddfu sylfaenol gael eu trosglwyddo i’r lle hwn ddegawd yn ôl, unwaith yn unig y mae deddfwriaeth Aelod preifat wedi cyrraedd y llyfr statud, sef gwaith Kirsty Williams ar Ddeddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) 2016. Roeddwn ar y pwyllgor ar y pryd, dan gadeiryddiaeth fedrus y Dirprwy Lywydd wrth gwrs, a gwelsom sut y gweithiodd y Gweinidog ar y pryd, Mark Drakeford, gyda Kirsty Williams i gyflwyno gwelliannau i'r ddeddfwriaeth er mwyn galluogi'r Llywodraeth i'w chefnogi a'i rhoi ar y llyfr statud. Yr hyn yr hoffwn ei ddweud wrth y Llywodraeth heddiw yw bod honno'n wers y mae angen ei chymhwyso.
Os oes unrhyw feirniadaeth i'w gwneud o’r ddeddfwriaeth arfaethedig—ac mae’n ddigon posib y bydd—yr ymrwymiad a roddaf i Peter y prynhawn yma yw y byddaf yn pleidleisio drosti heddiw er mwyn galluogi i graffu ddigwydd. Nid wyf yn ymrwymo mwy na hynny am nad yw'r craffu hwnnw wedi digwydd, ac nid ydym wedi cael cyfle i drafod y ddeddfwriaeth. Mae angen cyfle arnom i’w thrafod, a’r hyn na allwn ei wneud yw trechu’r ddeddfwriaeth cyn cael cyfle i gael y sgwrs honno, i gael y ddadl honno, i gael y drafodaeth honno, ac yna i ffurfio barn ynglŷn ag a ddylid bwrw ymlaen â'r ddeddfwriaeth. Felly, rwy'n gobeithio y bydd y Gweinidogion yn gweithio gyda Peter Fox i edrych ar y ddeddfwriaeth er mwyn sicrhau ei bod yn addas at y diben.
A wnaiff yr Aelod ddirwyn i ben yn awr?
Yna, bydd modd inni wneud penderfyniad ar y mater hwn maes o law. Diolch, Lywydd.
Galwaf ar Peter Fox i ymateb i'r ddadl.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddiolch i bawb sydd wedi cymryd rhan yn yr hyn a fu'n drafodaeth hynod ddiddorol a phwysig iawn am ddyfodol y system fwyd yma yng Nghymru? Unwaith eto, hoffwn gofnodi fy niolch i bawb sydd wedi helpu i ddatblygu'r cynnig hwn. Bu'n sicr yn ymdrech tîm.
Mae'r ddadl hon, ar y cyfan, wedi bod yn gadarnhaol iawn ac wedi dangos pa mor effeithiol y gall y Siambr hon fod pan ydym yn gallu cyflwyno syniadau nad ydynt o reidrwydd yn bachu'r penawdau, ond cawsom gyfle i roi ystyriaeth ofalus i bethau sydd o ddifrif yn effeithio ar bob un ohonom, bob dydd. Fel y dywedodd Alun, mae'n ganolog i fywydau pawb yng Nghymru. Y system fwyd yw asgwrn cefn yr economi wledig, gan greu ffyniant a darparu swyddi. Mae'n helpu i arddangos y gorau o Gymru drwy allforio ein cynnyrch enwog, a chlywsom lawer o sôn am hynny heddiw hefyd. Mae'n helpu i leihau allyriadau carbon ac ymladd yn erbyn newid hinsawdd. Mae'n helpu i fwydo'r wlad, gwella iechyd a lles pobl, a rhoi'r platfform sydd ei angen arnynt i lwyddo.
Mae'n helpu i roi'r dechrau gorau mewn bywyd i'n plant a'n pobl ifanc, fel y clywsom gan Laura a Jenny Rathbone mewn perthynas â phwysigrwydd cael bwyd o ansawdd uchel yn ein hysgolion, a'r ffaith bod y cyfleoedd hynny yno, ac eto nid yw cymaint o'r cyrff a all wneud rhywbeth am hynny wedi llwyddo i'w wneud gan nad yw'n ymddangos bod nerth yno i wneud i'r penderfyniadau hynny ddigwydd, ac mae angen inni newid hynny. Yn syml, mae gan y sector bwyd ran sylfaenol i'w chwarae yn creu Cymru fwy cyfartal, iachach a gwyrddach, fel y dywedodd fy nghyd-Aelod, Sam Rowlands.
Hoffwn groesawu peth o'r gwaith y mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn ei wneud ar hyn, ac fel rwyf wedi'i ddweud bob amser, nid mater o geisio gweithio yn erbyn y Llywodraeth yw hyn. Weinidog, rwy'n gwybod eich bod yn cydnabod hynny. Mae'n ymwneud â sut rydym yn gweithio gyda'n gilydd i wella'r cyfleoedd i Gymru. A gadewch inni beidio â thin-droi. Mae angen inni symud yn gyflym. Rydym angen system sy'n gweithio go iawn.
A gaf fi ddiolch i'r cyfranwyr? Jenny, fe godoch chi rai pwyntiau cryf iawn a diolch i chi am eich cefnogaeth. Mae'r pwyntiau ar labelu bwyd yn hollbwysig. Fel y dywedais yn gynharach, nid yw hyn yn ateb i bob dim—mae'n ddechrau proses. Dyma lle fydd angen inni weithio'n agos gyda'n gilydd. Fel y dywedais, mae angen inni weithio gyda'r holl Lywodraethau. Mae rhai pethau y tu hwnt i'n rheolaeth, felly mae angen inni ddylanwadu ar y Llywodraeth er mwyn newid pethau sy'n ddiffygiol.
Dyna pam fod y comisiwn mor bwysig. Nid wyf yn sôn am gomisiwn sy'n bogailsyllu drwy edrych ar strategaeth am flynyddoedd maith. Mae hwn yn gomisiwn a fyddai’n gwneud pethau ac yn gwneud i bethau ddigwydd gyda’r bobl iawn yno i lunio ac ychwanegu at rai o’r pethau hyn yr ystyrir eu bod yn ddiffygiol. Ond o ran y labeli, hoffwn eu gweld ar brydau bwyd pan fyddwch yn mynd i westy. Os ydych yn eistedd i gael pryd o fwyd, mae angen ichi wybod eich bod yn bwyta bwyd o Gymru. Mae angen ei labelu, ac mae cymaint o bethau y gallwn eu gwneud ynglŷn â hynny, ond mae gennym lawer i'w wneud i roi cig ar yr asgwrn, fel petai.
Cefin, diolch am eich cyfraniad. Rwy'n cydnabod eich bod chi a'ch plaid yn cefnogi llawer o'r elfennau. Rwy'n clywed eich negeseuon ac rwy'n ddiolchgar iawn am eich cefnogaeth heddiw.
Alun, mae hwn yn gatalydd ar gyfer newid. Rydym wedi siarad o'r blaen am oren a gwyrdd a'r hyn sy'n digwydd yn Iwerddon, ac am fenter wych—sut y gallwn roi rhywfaint o'r gwersi a ddysgwyd o hynny ar waith yn yr hyn sydd ei angen ar ein system fwyd? Dyna sydd ei angen arnom mewn gwirionedd—y syniadau cydgysylltiedig hynny, y dysgu y gallwn ei ddwyn ynghyd drwy rannu ein profiadau a rhannu'r profiadau a welsom ledled y DU.
Rwy’n siomedig na allwch gefnogi’r Bil, Weinidog, ond diolch am eich ymwneud hyd yma a’ch gohebiaeth. Rwy'n ei werthfawrogi. Rwy’n cytuno bod y ddau ohonom, fel pob un ohonom yn y Siambr hon, yn rhannu nod tebyg o sicrhau dyfodol gwell i’r system fwyd yng Nghymru, ac rwy'n credu'n wirioneddol fod cyfle inni weithio gyda’n gilydd, gydag Aelodau ar draws y Siambr hon, i gyflawni hyn.
Weinidog, rwy'n gwybod eich bod o'r farn y gellid cyflawni'r holl bethau rwy'n eu hawgrymu heb ddeddfwriaeth, ond mae'n rhaid imi anghytuno, ac mae'n rhaid imi ofyn: os gall Llywodraeth yr Alban gyflwyno deddfwriaeth ar y mater hwn a bod Llywodraeth y DU hefyd yn datblygu deddfwriaeth ar hyn, pam na allwn wneud hynny yng Nghymru? Beth sy'n ei rwystro, ar wahân i ewyllys wleidyddol? Nid wyf yn dweud bod unrhyw beth o'i le ar y system sydd gennym yng Nghymru—mae rhai darnau da ynddi—ond mae angen y cyfarwyddyd cyfannol hwnnw arnom i ddwyn popeth ynghyd, a chredaf y byddai strategaeth fwyd Cymru yn gwneud hynny.
Rwy'n ymwybodol, Ddirprwy Lywydd, fy mod yn brin o amser—[Torri ar draws.] Mae fy amser wedi dod i ben. Maddeuwch i mi, dwy eiliad. Ni fyddech yn herio eich plaid wleidyddol wrth bleidleisio o blaid y Bil hwn, ond byddech yn rhoi lles a llwyddiant Cymru yn y dyfodol yn gyntaf. Bydd peidio â chefnogi'r Bil hwn yn golygu y bernir ein bod wedi chwarae gwleidyddiaeth bleidiol yn hytrach na rhoi Cymru yn gyntaf. Bydd methiant i gefnogi'r Bil hwn yn bleidlais yn erbyn ffermwyr a chynhyrchwyr lleol yn ogystal ag iechyd a lles defnyddwyr a chymunedau ledled Cymru. Yn y pen draw, bydd methiant i gefnogi'r Bil yn cael ei ystyried yn gamgymeriad hanesyddol. Diolch, Aelodau. Diolch yn fawr, bawb.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, gohiriaf y bleidlais ar y cynnig tan y cyfnod pleidleisio.