8. Dadl Plaid Cymru: Dyled aelwydydd

– Senedd Cymru ar 1 Rhagfyr 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliannau 1, 2 a 3 yn enw Darren Millar. 

Photo of David Rees David Rees Labour 5:34, 1 Rhagfyr 2021

Yr eitem nesaf yw eitem 8, dadl Plaid Cymru ar ddyled aelwydydd. Galwaf ar Sioned Williams i wneud y cynnig. 

Cynnig NDM7856 Siân Gwenllian

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi adroddiad Sefydliad Bevan ar effaith COVID-19 ar ddyled aelwydydd.

2. Yn nodi prisiau cynyddol biliau cyfleustodau.

3. Yn nodi datganiad ysgrifenedig Llywodraeth Cymru ar gymorth ar gyfer y cynllun cymorth tanwydd gaeaf a chostau byw aelwydydd.

4. Yn galw ar Lywodraeth y DU i ddiwygio'r cynllun rhyddhad treth tanwydd gwledig a chynyddu'r dreth ar danwydd mewn ardaloedd sydd wedi cael buddsoddiad cyhoeddus uwch na chyfartaledd y DU mewn seilwaith trafnidiaeth gyhoeddus.

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) weithio gydag awdurdodau lleol i glirio rhai o'r ôl-ddyledion treth gyngor sylweddol sydd wedi'u cronni yn ystod y pandemig;

b) gweithio gyda Llywodraeth y DU i sefydlu llinell sylfaen gyson o gymorth gan gyflenwyr ynni ar gyfer cwsmeriaid sydd â dyledion;

c) archwilio'r posibilrwydd o ddeddfwriaeth a fyddai'n gosod dyletswydd ar bob corff cyhoeddus, gan gynnwys ysgolion a cholegau, i atal dyled.

Cynigiwyd y cynnig.

Photo of Sioned Williams Sioned Williams Plaid Cymru 5:34, 1 Rhagfyr 2021

(Cyfieithwyd)

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n croesawu'r cyfle i agor y ddadl bwysig hon a chyflwyno'r cynnig sydd ger eich bron. Roedd yr ymchwiliad cyntaf i mi gael y fraint o fod yn rhan ohono fel aelod o'r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol ar ddyled a'r pandemig. Fel pwyllgor, penderfynasom fod angen ymchwilio i'r darlun o galedi economaidd a oedd yn amlwg wedi dechrau ffurfio flwyddyn a mwy i mewn i argyfwng COVID, ac argymhellwyd camau i ddiogelu'r aelwydydd mwyaf agored i niwed yng Nghymru rhag pwysau ariannol eithafol. Roedd y canfyddiadau, er nad oeddent yn syndod gwaetha'r modd, yn frawychus.

Canfu'r ymchwiliad fod costau byw cynyddol yn bryder penodol i bobl a gymerodd ran yn ein grwpiau ffocws ar ddyledion. Mae'n peri gofid fod llawer o'r cyfranogwyr yn cytuno nad yw gwir effaith y pandemig wedi'i wireddu eto, gan gyfeirio at storm berffaith neu swnami wrth ddisgrifio'r senario debygol dros y misoedd a'r blynyddoedd nesaf. Yn ei restr o argymhellion, mae'r pwyllgor yn galw ar Lywodraeth Cymru i barhau i gefnogi pobl sy'n cael trafferth gyda chostau sylfaenol i aelwydydd, gan rybuddio nad ydym wedi profi effaith lawn y pandemig eto a bod mwy o bobl yn mynd i ddyled er mwyn talu am hanfodion o ddydd i ddydd, biliau'r cartref a'r dreth gyngor, ac y bydd prisiau bwyd a thanwydd cynyddol yn gyrru pobl i dlodi dyfnach y gaeaf hwn. Roedd y dystiolaeth a glywsom yn llwm. Mae'r geiriau a ddefnyddiodd un tyst wedi aros gyda mi. Roeddent yn dweud:

'Yr hyn sy’n fy mhoeni’n fawr yw cynnydd posibl o 30 y cant mewn prisiau nwy a thrydan yn 2022. Mae hynny’n mynd i wthio pobl i dlodi ar lefel oes Fictoria.'

Tlodi ar lefel oes Fictoria. Mae Plaid Cymru yn croesawu argymhelliad y pwyllgor y dylai Llywodraeth Cymru gyflymu'r gwaith i sicrhau bod pob cartref cymdeithasol yn cyrraedd sgôr ynni A o ganlyniad i gostau ynni cynyddol, ac i adolygu ei chynllun gweithredu tlodi tanwydd, yn ogystal â'r galwadau am hyrwyddo a chefnogaeth well i wasanaethau cynghori ar ddyled a ffynonellau credyd fforddiadwy i rai sy'n wynebu mwy o risg o ddyled. Rydym hefyd yn cefnogi'r argymhelliad i archwilio 'coelcerthi dyledion', gan y gwelwyd mai ôl-ddyledion treth gyngor yw'r elfen fwyaf o ddyled aelwydydd a bod diffyg sylfaen statudol ar gyfer protocol y dreth gyngor i Gymru weithiau'n arwain at arferion a all ddyfnhau lefel dyled yn sylweddol. Mae ein cynnig heddiw yn galw ar y Llywodraeth i weithio gydag awdurdodau lleol i glirio rhai o'r ôl-ddyledion treth gyngor sylweddol sydd wedi'u cronni yn ystod y pandemig, ac i edrych ar gyflwyno dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i atal dyled.

Photo of Sioned Williams Sioned Williams Plaid Cymru 5:37, 1 Rhagfyr 2021

Canfu adroddiad diweddar Sefydliad Bevan ar ddyledion aelwydydd yng Nghymru fod degau o filoedd o bobl ledled y wlad yn byw mewn dyled broblemus ymhell cyn i'r pandemig daro, ond bod effaith economaidd COVID-19 wedi dyfnhau'r argyfwng hwn. Ledled Cymru, roedd 130,000 o aelwydydd—mae hynny yn un ym mhob 10 o holl aelwydydd Cymru—mewn dyled ar ryw fil rhwng Ionawr a Mai 2021. Dros yr un cyfnod, roedd 230,000 o aelwydydd—17 y cant o'r holl aelwydydd yng Nghymru—wedi benthyca arian. Mae hyn wedi arwain at nifer o aelwydydd yng Nghymru yn cael eu gwthio i mewn i dlodi, yn gorfod mynd heb hanfodion bywyd bob dydd, ac yn dioddef o'r straen a'r pryder a achosir gan dlodi a dyled. Does dim dwywaith y bydd y gaeaf hwn yn anodd iawn i gymaint o aelwydydd ledled Cymru.

Mae Llywodraeth y Torïaid yn San Steffan wedi bradychu pobl Cymru. Gwaethygwyd y pwysau ariannol sy'n wynebu teuluoedd mewn sawl achos gan y penderfyniad creulon i dorri'r codiad credyd cynhwysol o £20. Mae'r apêl o sawl cyfeiriad, gan gynnwys o Lywodraeth Cymru, i wyrdroi'r toriad trychinebus hwnnw wedi cwympo ar glustiau byddar. Credwn mai mesur arall y gallai Llywodraeth Cymru bwyso ar lywodraeth y Deyrnas Gyfunol i'w weithredu fyddai ymestyn y cynllun rhyddhad dyletswydd tanwydd gwledig i Gymru. Mae'r cynllun yn darparu gostyngiad o 5c y litr i werthwyr tanwydd mewn ardaloedd gwledig penodol, ond does yr un ohonynt yng Nghymru ar hyn o bryd. Byddai hyn yn sicrhau nad yw pobl mewn ardaloedd gwledig yn cael eu gorfodi i ysgwyddo cyfran annheg o gostau tanwydd uwch. Yn y tymor hir, wrth gwrs, mae'n rhaid buddsoddi mwy mewn trafnidiaeth gyhoeddus, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig.

Y rhai sydd fwyaf mewn perygl o ddyled ledled Cymru yw'r rhai sydd eisoes yn wynebu anfantais economaidd-gymdeithasol, wrth gwrs, fel rhentwyr, pobl anabl, plant, rhieni sengl, menywod, pobl hŷn, pobl sy'n gadael gofal, ac aelwydydd sy'n dod o gefndir du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig. Dylai pob un ohonom ni wybod, yn sgil y ffaith inni nodi Diwrnod Rhyngwladol Pobl Anabl â thrafodaeth yn y Siambr hon ddoe, fod pobl anabl yn wynebu costau ychwanegol yn eu bywydau bob dydd o dros £500 y mis. Nid yw'n syndod felly fod pobl anabl wedi bod ddwywaith yn fwy tebygol o fod mewn ôl-ddyledion dros y pandemig. Roedd 20 y cant o bobl anabl yng Nghymru mewn ôl-ddyledion yn hanner cyntaf eleni, a bu'n rhaid i bron i chwarter o bobl anabl fenthyca arian i gael dau ben llinyn ynghyd dros yr un cyfnod.

Mae Barnardo's Cymru hefyd wedi tanlinellu'r heriau ariannol sy'n cael eu hwynebu pan fydd ymadawyr gofal yn trosglwyddo i fyw'n annibynnol, oherwydd gall sefydlu eu cartref eu hunain achosi pryder sylweddol i ymadawyr gofal, gyda llawer yn gorfod cymryd benthyciadau diwrnod tâl i dalu dyledion sy'n arwain at gylch dieflig o anawsterau ariannol.

Photo of Sioned Williams Sioned Williams Plaid Cymru 5:40, 1 Rhagfyr 2021

(Cyfieithwyd)

Er bod y mesurau cyfyngedig a roddwyd ar waith gan Lywodraeth Cymru i liniaru'r lefel erchyll ac annerbyniol hon o ddyled aelwydydd i'w croesawu, wrth gwrs, teimlwn y gellid gwneud mwy i gefnogi teuluoedd nid yn unig dros y misoedd nesaf ond hefyd yn fwy hirdymor. Mae'r cyhoeddiad diweddar ar y cynllun cymorth tanwydd gaeaf yn golygu y bydd aelwydydd sy'n derbyn budd-daliadau lles oedran gweithio sy'n seiliedig ar brawf modd yn gallu hawlio taliad untro o £100 i ddarparu cymorth tuag at dalu biliau tanwydd gaeaf, y gwyddom y byddant yn uchel iawn. Ond i rai sy'n cael budd-daliadau oedran gweithio yn seiliedig ar brawf modd yn unig y caiff ei roi. Ac mae'r amcangyfrifon diweddaraf yn awgrymu nad yw 69 y cant o aelwydydd sy'n dlawd o ran tanwydd yng Nghymru yn derbyn y budd-daliadau hynny. Felly, yn amlwg, ni fydd y taliad yn cyrraedd pawb sy'n mynd i fod ei angen. Ac o ran tlodi tanwydd, gwyddom y bydd pethau'n anoddach fyth ar ôl y codiad nesaf i'r cap ar brisiau ynni sydd i ddod i rym o fis Ebrill nesaf.

Mae croeso hefyd wrth gwrs i'r cymorth brys a gyhoeddwyd hefyd, a fydd ar gael o dan y gronfa cymorth dewisol i'r rhai oddi ar y grid mewn ardaloedd gwledig yn bennaf sy'n dibynnu ar nwy petrolewm hylifedig ac olew fel tanwydd. Ond unwaith eto, nid yw'r cymorth brys hwn ond ar gael yn ystod y misoedd oeraf, a byddai cymorth drwy gydol y flwyddyn, yn ôl grwpiau fel National Energy Action, yn fwy effeithiol a theg gan y gallai pobl gael cymorth pryd bynnag y bydd ei angen arnynt a gallent gyllidebu a chynllunio'n well ar gyfer y gaeaf yn hytrach na gorfod aros am fisoedd y gaeaf pan fydd hi eisoes yn oer. Gallent hefyd dalu am danwydd ar adeg pan fo llai o bwysau ar wasanaethau cyflenwi a gwell gwerth am arian y litr, sydd hefyd yn cyd-fynd, wrth gwrs, â'r dulliau ataliol parhaus drwy gydol y flwyddyn a argymhellir gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Yn amlwg, mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru fabwysiadu dull trawsadrannol a thrawslywodraethol o fynd i'r afael â'r argyfwng dyled aelwydydd cynyddol sydd ar y gorwel er mwyn sicrhau bod anghenion y rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas yn cael eu diwallu. Mae'r rhagolygon yn llwm i ormod o deuluoedd yng Nghymru. Rhaid inni wneud popeth yn ein gallu i sicrhau bod y rhai sydd mewn dyled yn cael eu cefnogi ac na chânt eu gwthio ymhellach i argyfwng ariannol dyfnach a'u gorfodi i wneud penderfyniadau amhosibl sy'n bygwth iechyd a llesiant eu teuluoedd. Rwy'n annog yr Aelodau i gefnogi ein cynnig heddiw er mwyn helpu i gyflawni hynny. Diolch.

Photo of David Rees David Rees Labour 5:42, 1 Rhagfyr 2021

Rwyf wedi dethol y tri gwelliant i'r cynnig. Galwaf ar Mark Isherwood i gynnig gwelliannau 1, 2 a 3 a gyflwynwyd yn enw Darren Millar.

Gwelliant 1—Darren Millar

Dileu pwynt 4.

Gwelliant 2—Darren Millar

Dileu 5(c) a rhoi yn ei le:

gweithio gyda chyrff cyhoeddus, gan gynnwys ysgolion a cholegau, i archwilio mesurau i atal dyled problemus.

Gwelliant 3—Darren Millar

Ychwanegu is-bwyntiau newydd ar ddiwedd pwynt 5:

creu a chyhoeddi cynllun tywydd oer;

ehangu'r cymorth ariannol sydd ar gael i gynorthwyo'r rhai sy'n ei chael hi'n anodd talu biliau ynni cynyddol;

buddsoddi mewn effeithlonrwydd ynni cartref, gan flaenoriaethu'r aelwydydd tlotaf yn y cartrefi lleiaf effeithlon;

cynhyrchu amcangyfrifon rheolaidd o nifer yr aelwydydd sy'n dlawd o ran tanwydd yng Nghymru.

Cynigiwyd gwelliannau 1, 2 a 3.

Photo of Mark Isherwood Mark Isherwood Conservative 5:43, 1 Rhagfyr 2021

(Cyfieithwyd)

Diolch. Rwy'n cynnig gwelliannau 1, 2 a 3. Fel y dywed adroddiad Sefydliad Bevan, 'Debt in the pandemic',

'Roedd miloedd o bobl ledled Cymru yn byw gyda dyledion problemus ymhell cyn y pandemig.'

Er bod

'gweithio gartref a llai o gyfleoedd i wario oherwydd cyfyngiadau COVID-19 wedi galluogi rhai aelwydydd i dalu dyledion.... Mae effaith economaidd COVID-19 wedi gweld sefyllfa ariannol llawer o deuluoedd Cymru yn gwaethygu, gan wthio rhai i ddyled broblemus am y tro cyntaf a chynyddu maint dyled rhai o'r bobl sydd eisoes yn ei chael hi'n anodd.'

Fel y mae hyn yn ei gwneud yn glir, y broblem yw dyled broblemus, nid dyled ynddi ei hun, sy'n cynnwys, wrth gwrs, morgeisi ar sail risg a benthyciadau ceir. Felly, mae ein cynnig i ddileu pwynt 5(c) o'r cynnig yn galw yn hytrach ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda chyrff cyhoeddus, gan gynnwys ysgolion a cholegau, i archwilio mesurau i atal dyled problemus. Rwy'n meddwl am y gwaith helaeth a wnaed ar y mater hwn yn ystod tymhorau blaenorol y Senedd. Roeddwn yn Aelod o'r Pwyllgor Cymunedau a Diwylliant a luniodd yr adroddiad 'Cynhwysiant Ariannol ac Effaith Addysg Ariannol' 11 mlynedd yn ôl. Gan ddyfynnu Les Cooper, cydlynydd fforwm gallu ariannol gogledd Cymru ar y pryd, sydd bellach wedi ein gadael, yn anffodus:

'nid yw'r adnoddau a'r dulliau a ddefnyddir ar hyn o bryd i gynyddu gallu ariannol "yn mynd i'r afael â'r heriau sgiliau sylfaenol sydd gennym yng Nghymru."'

Roedd Les wedi hyrwyddo'r cynllun arobryn mewn rhai ysgolion yn sir y Fflint a gyflwynai lythrennedd ariannol drwy berfformiad theatrig cyfranogol. Daethant â'u cynhyrchiad i'r Senedd hyd yn oed yn y gobaith y byddai'r model arferion gorau hwn, 11 mlynedd neu fwy yn ôl, yn cael ei rannu a'i fabwysiadu ledled Cymru.

Wrth holi'r Prif Weinidog yma ym mis Ionawr 2018, dyfynnais ymchwil y Gwasanaeth Cynghori Ariannol, a ganfu fod llawer o bobl ifanc yng Nghymru heb gael eu paratoi'n ddigonol ar gyfer ymdrin â chyfrifoldebau ariannol oedolion, gyda 35 y cant yn unig yn dysgu sut i drin arian yn yr ysgol. Gofynnais iddo ailedrych ar argymhellion adroddiad y Pwyllgor Cymunedau a Diwylliant a gyhoeddwyd yn 2010. 

Mae ein gwelliannau eraill heddiw yn galw am weithredu gan Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael â thlodi tanwydd, gan gynnwys cynhyrchu amcangyfrifon rheolaidd o nifer yr aelwydydd sy'n dlawd o ran tanwydd yng Nghymru, lle mae amcangyfrifon blaenorol wedi bod yn ysbeidiol, yn 2004, 2008 a 2018. 

Yn 2018, cyn y pandemig, amcangyfrifwyd bod 12 y cant neu 155,000 o aelwydydd yng Nghymru mewn tlodi tanwydd. Cyn COVID, gwelwyd cynnydd o 45 y cant yng Nghymru yn nifer y marwolaethau ychwanegol yn ystod gaeaf 2019-20. Mae stoc dai Cymru yn un o'r rhai hynaf a lleiaf effeithlon yn thermol o gymharu â'r DU ac Ewrop.

Ar 1 Hydref, cododd y cap ar brisiau ynni a osodwyd gan y rheoleiddiwr ynni, y Swyddfa Marchnadoedd Nwy a Thrydan, ar ôl i brisiau nwy gyrraedd y lefel uchaf erioed wrth i'r byd ddod allan o'r cyfyngiadau symud. Er bod y cap ar brisiau yn sicrhau mai dim ond costau cyfreithlon y mae cyflenwyr yn eu trosglwyddo i gwsmeriaid, mae National Energy Action Cymru wedi amcangyfrif y gallai'r cynnydd hwn wthio 22,500 yn fwy o aelwydydd yng Nghymru i dlodi tanwydd y gaeaf hwn, ac y gallem weld y niferoedd mewn tlodi tanwydd yn codi 50 y cant neu fwy o gymharu ag amcangyfrifon 2018. Galwai am fwy o amddiffyniad i aelwydydd incwm isel y gaeaf hwn.

Ychwanegodd NEA fod gan Lywodraeth Cymru rôl hanfodol i'w chwarae yn cefnogi aelwydydd sy'n dlawd o ran tanwydd ar draws deiliadaethau drwy ôl-osod ac uwchraddio effeithlonrwydd ynni eu cartrefi, a galwodd ar Lywodraeth Cymru i ehangu'r cymorth ariannol sydd ar gael i gynorthwyo'r rhai sy'n ei chael hi'n anodd talu biliau ynni cynyddol, yn ogystal â buddsoddi mewn effeithlonrwydd ynni yn y cartref yn fwy hirdymor, gan flaenoriaethu'r aelwydydd tlotaf yn y cartrefi lleiaf effeithlon.

Wrth siarad yma yn 2018, nodais fod y gost flynyddol i GIG Cymru o drin pobl sy'n mynd yn sâl o ganlyniad i'r ffaith eu bod yn byw mewn cartrefi oer a llaith oddeutu £67 miliwn bob blwyddyn ar y pryd. Mae cartrefi oer hefyd wedi'u cysylltu ag iechyd meddwl gwael, ynysigrwydd cymdeithasol a chyrhaeddiad addysgol is.

Mae bron i dair blynedd ers i Lywodraeth Cymru ddweud y byddai'n datblygu cynllun tywydd oer ar y cyd ag Iechyd Cyhoeddus Cymru. Pan ofynnais i'r Gweinidog cyfiawnder cymdeithasol yma y mis diwethaf pa gynlluniau gwrthsefyll tywydd oer penodol drwy gydol y flwyddyn y mae Llywodraeth Cymru yn eu gwneud yn awr, atebodd y Gweinidog,

'Bydd gennym gynllun tywydd oer ar waith'.

Ond roedd angen i hyn gael ei gyhoeddi a'i weithredu cyn i aeaf oer arall ein taro.

Cyhoeddodd Llywodraeth y DU yng nghyllideb yr hydref y bydd y dreth tanwydd yn cael ei rhewi unwaith eto, gan gydnabod bod tanwydd yn gost fawr i aelwydydd a busnesau. Fel y mae wedi cael ei ddrafftio, gallai cynnig Plaid Cymru i ddiwygio'r cynllun rhyddhad treth tanwydd gwledig gosbi trigolion a busnesau gwledig, sydd eto i gyd â chysylltedd trafnidiaeth gyhoeddus gwael.  

Photo of David Rees David Rees Labour 5:48, 1 Rhagfyr 2021

(Cyfieithwyd)

Mark, mae angen i chi ddirwyn i ben yn awr.

Photo of Mark Isherwood Mark Isherwood Conservative

(Cyfieithwyd)

Yn olaf, dylai Llywodraeth Cymru gymryd sylw o fonitor tlodi tanwydd 2021 NEA Cymru, a lansiwyd ddoe, sy'n canolbwyntio ar ddatgarboneiddio gwresogi domestig ar gyfer aelwydydd sy'n dlawd o ran tanwydd. Diolch.

Photo of Jane Dodds Jane Dodds Liberal Democrat

(Cyfieithwyd)

Rwy'n croesawu'r ddadl hon yn fawr iawn heno. Mae dyled yn beth ofnadwy. Mae'n rhywbeth sydd ar eich meddwl drwy'r amser; mae'n rhoi pwysau arnoch; mae'n gwneud i chi deimlo na allwch ddod o hyd i ffordd allan; mae'n gwneud i chi weiddi ar eich plant; mae'n gwneud i chi deimlo'n sâl. Mae gennyf ddiddordeb mawr yn yr hyn a fyddai'n helpu ac rydym wedi clywed rhai atebion posibl drwy'r adroddiad ar ddyledion a gyhoeddwyd gan y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol.

Efallai bod rhai'n gweld rhai o'r syniadau hynny fel syniadau iwtopaidd sosialaidd—geiriau'r Ceidwadwyr—ond rwy'n erfyn arnoch chi i gyd i edrych arnynt, oherwydd nid oes yr un ohonom eisiau gweld pobl mewn dyled ac nid oes yr un ohonom eisiau gweld pobl dan bwysau ac yn dioddef problemau iechyd meddwl oherwydd hynny.

Mae'r syniad o 'goelcerth dyledion' y soniodd Sioned amdano yn un rydym wedi'i wthio ymlaen, ac rwy'n falch iawn o'i weld yn cael ei gynnwys yn yr adroddiad. Gadewch imi egluro ychydig amdano. Pan fydd dyled yn cyrraedd arwerthiant dyled, mae'r sefydliad sydd wedi rhoi'r person mewn dyled eisoes wedi derbyn nad yw'n debygol o adennill cyfanswm gwerth y ddyled sy'n ddyledus. Tra bod y cwmni wedyn yn anghofio am y ddyled, mae unigolion a theuluoedd yn brwydro gyda phwysau dyled ar eu hysgwyddau. Rydym eisiau gweld Llywodraeth Cymru yn meddwl o ddifrif am y syniad hwn, a gweld arian yn cael ei gyflwyno i ddiystyru'r ddyled, rhan fach iawn o'r hyn sy'n ddyledus. Ond bobl bach, yr effaith y byddai hynny'n ei chael ar yr unigolion a'r teuluoedd hynny sydd mewn dyled—

Photo of Mike Hedges Mike Hedges Labour 5:50, 1 Rhagfyr 2021

(Cyfieithwyd)

A wnewch chi dderbyn ymyriad?

Photo of Jane Dodds Jane Dodds Liberal Democrat

(Cyfieithwyd)

Gwnaf, wrth gwrs.

Photo of Mike Hedges Mike Hedges Labour

(Cyfieithwyd)

Yr hyn y byddwn yn ei ddweud hefyd yw bod y ddyled hon weithiau'n ennill mwy a mwy o log, ac mae'n mynd yn fwy ac yn fwy. Pan nad yw pobl yn gallu fforddio ei dalu ar y dechrau, nid yw ei gwneud yn fwy ac yn fwy ond yn gwneud pethau'n waeth ac yn waeth. Diolch.

Photo of Jane Dodds Jane Dodds Liberal Democrat

(Cyfieithwyd)

Diolch i fy nghyd-Aelod am yr ymyriad hwnnw, ac rydych yn llygad eich lle—mae twf esbonyddol y ddyled yn ychwanegu at y pwysau gwirioneddol ar y teulu penodol hwnnw.

Yr ail syniad, unwaith eto, y gellir ei ystyried o bosibl yn syniad sosialaidd, iwtopaidd, yw incwm sylfaenol cyffredinol, ac rwy'n croesawu ymrwymiad y Llywodraeth Lafur i hyn. Ond hoffwn hefyd ei gweld yn mynd ymhellach ac yn ei ymestyn y tu hwnt i'r trefniant arfaethedig ar gyfer pobl sy'n gadael gofal. Incwm sylfaenol cyffredinol yw gwasanaeth iechyd gwladol y genhedlaeth hon. Ac fel y GIG ym 1946, pan bleidleisiodd Torïaid Winston Churchill yn ei erbyn 21 gwaith, rydym yn dal i weld gwrthwynebiad parhaus i sefydlu incwm sylfaenol cyffredinol er mwyn rhoi cyfle i bawb gael lefel incwm sylfaenol, sy'n sicrhau y gallant fwydo eu plant, sy'n sicrhau y gallant wresogi eu cartrefi, sy'n sicrhau urddas iddynt yn eu bywydau. Dywedodd Churchill ym 1946 mai GIG oedd y cam cyntaf i Brydain ddod yn economi sosialaidd genedlaethol. Mae'r incwm sylfaenol cyffredinol sydd wedi'i argymell yn un y byddwn yn erfyn eto ar bawb i wrando arno, pawb i ddysgu amdano. Cyn i chi ei gondemnio, edrychwch ar y dystiolaeth i weld sut y mae'n mynd i'r afael o ddifrif â thlodi.

I gloi, hoffwn weld llawer o syniadau'n cael eu mabwysiadu i gefnogi pobl sydd mewn dyled. Ni allwn barhau fel hyn. Ac mae'r pandemig, fel rydym wedi'i weld a'i glywed, wedi rhoi hyd yn oed mwy o bobl yn y sefyllfa hon. Rwy'n cefnogi'r cynnig hwn, rwyf eisiau gweld Llywodraeth Cymru yn bwrw ymlaen â hyn, a hoffwn gloi hefyd gyda gair am y Llywodraeth Geidwadol yn Llundain, sydd, yn fy marn i, wedi rhoi mwy fyth o bobl mewn dyled drwy ddiddymu'r ychwanegiad o £20 i'r credyd cynhwysol. Cefnogwch y cynnig hwn os gwelwch yn dda. 

Photo of Jane Dodds Jane Dodds Liberal Democrat 5:52, 1 Rhagfyr 2021

Diolch yn fawr iawn i Blaid Cymru hefyd. Diolch.

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Photo of Heledd Fychan Heledd Fychan Plaid Cymru 5:53, 1 Rhagfyr 2021

(Cyfieithwyd)

Yn ei sylwadau agoriadol, dangosodd fy nghyd-Aelod, Sioned Williams, sut y mae mwy a mwy o bobl yng Nghymru yn cael eu gwthio i dlodi a dyled. Mae'r gair 'gwthio' hwnnw'n bwysig, oherwydd yn rhy aml clywn rai gwleidyddion yn trafod tlodi fel pe bai'n ddewis, neu'n rhywbeth sy'n digwydd i bobl oherwydd eu gweithredoedd eu hunain. Ac er bod dyled yn broblem bersonol sy'n achosi gofid enfawr i'r unigolyn neu'r teulu sy'n wynebu caledi economaidd, credaf ei bod yn bwysig inni gydnabod heddiw ei bod yn broblem gymdeithasol sy'n galw am weithredu gan bob un ohonom. I ormod o bobl sy'n byw yn ein cymunedau, nid yw'r dyfyniad a ddarllenodd Sioned am dlodi ar lefelau oes Fictoria yn gor-ddweud neu'n gor-ddramateiddio'r realiti. Ac yn gynyddol, gwelwn fwy o raniad, gyda mwy a mwy o bobl yn ei chael hi'n anodd sicrhau eu hawl ddynol sylfaenol i fwyd a chartref diogel a chynnes.

Nid yw pobl yn cael eu gwthio fwyfwy i ddyled am eu bod yn prynu pethau moethus. Mae'r bobl sydd wedi dod ataf am gymorth yn bobl sydd wedi gwneud popeth posibl i osgoi mynd i ddyled, ond maent wedi dioddef amgylchiadau y gallai unrhyw un ohonom ni eu hwynebu yn yr un modd, ac mae'r pandemig wedi gwneud hyn yn waeth.

Er ein bod, wrth gwrs, yn croesawu'r ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi ymestyn hyblygrwydd y gronfa cymorth dewisol tan ddiwedd mis Mawrth 2022 yn dilyn sylwadau a gyflwynwyd, nid yw hyn yn ddigon i ddatrys yr argyfwng dyled yng Nghymru. Dyna pam ein bod, fel rhan o'n cynnig, wedi argymell y dylid archwilio'r posibilrwydd o ddeddfwriaeth a fyddai'n gosod dyletswydd ar bob corff cyhoeddus, gan gynnwys ysgolion a cholegau, i atal dyledion.

Byddai mabwysiadu dull polisi blaengar o reoli dyledion yn gallu gwahardd cyrff cyhoeddus rhag mabwysiadu arferion sy'n cynyddu dyled. Er enghraifft, gellid ei gymhwyso'n dda i awdurdodau lleol a chasglu dyled y dreth gyngor. Wedi'r cyfan, ledled y DU ar hyn o bryd, gwelwyd cynnydd cyflym yng nghroniad dyledion y dreth gyngor, a dyna'r brif broblem ddyled y mae pobl yn cysylltu â'r ganolfan cyngor ar bopeth yn ei chylch. Yn ystod hanner cyntaf y flwyddyn hon, roedd bron i 1 o bob 20 o aelwydydd yng Nghymru ag ôl-ddyledion treth gyngor, ac ym mis Mawrth 2019, roedd dyledion treth gyngor aelwydydd yng Nghymru yn £94 miliwn, ffigur sy'n debygol o fod wedi codi yn ystod y pandemig.

Mae'r dreth gyngor hefyd yn cael ei hystyried yn ddyled flaenoriaethol, gan y gall cynghorau fynd ag unigolion i'r llys os byddant yn methu talu, gydag awdurdodau lleol yn aml yn defnyddio beilïaid i orfodi gorchmynion llys, sy'n gallu achosi straen a phryder sylweddol i'r rhai sydd mewn dyled. Ar ben hynny, gall colli hyd yn oed un taliad treth gyngor olygu bod yn rhaid i unigolyn dalu ei fil blynyddol llawn. Mae hyn, ochr yn ochr â ffioedd cyfreithiol a ffioedd beilïaid o bosibl, yn aml yn golygu bod pobl nad oeddent yn gallu talu eu bil treth gyngor ar y dechrau yn mynd i fwy o ddyled, fel y soniodd Mike Hedges yn ei ymyriad blaenorol yn rhan o'r ddadl hon. Ni ddylai ein cyrff cyhoeddus fod yn gyrru pobl i fwy o ddyled. Yn hytrach, dylem fod yn helpu i atal dyled rhag digwydd yn y lle cyntaf, neu rhag iddi fynd yn amhosibl i'w rheoli. Yn y cynnig hwn felly, gofynnwn i Lywodraeth Cymru weithio ochr yn ochr ag awdurdodau lleol i glirio rhai o'r ôl-ddyledion treth gyngor sylweddol sydd wedi'u cronni yn ystod y pandemig ac archwilio sut i gyflwyno deddfwriaeth a fyddai'n gosod dyletswydd ar gyrff cyhoeddus Cymru i leihau dyled.

Yn gynharach yr wythnos hon cyfarfûm â Samariaid Cymru, ac un o'r materion a drafodwyd gennym oedd sut y gall pryderon ariannol yrru rhai pobl i gyflawni hunanladdiad, fel yr adlewyrchir yn nifer y bobl sy'n ffonio'r Samariaid i siarad yn benodol am ddyled. Ac os oes unrhyw un allan yno'n cael trafferth gyda dyled heddiw, gadewch inni anfon neges glir nad ydych ar eich pen eich hunain ac mae cymorth ar gael, ac nad ydym ni yng Nghymru yn derbyn bod tlodi'n anochel nac yn dderbyniol. Gadewch inni uno i sicrhau bod mwy'n cael ei wneud i fynd i'r afael â'r argyfwng dyled aelwydydd a chefnogi'r cynnig hwn heddiw a fyddai'n gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl yn y cymunedau a gynrychiolir gennym.

Photo of Mike Hedges Mike Hedges Labour 5:57, 1 Rhagfyr 2021

(Cyfieithwyd)

A gaf fi ddechrau drwy ddweud fy mod yn cytuno â phopeth y mae Heledd Fychan newydd ei ddweud? Ac yn anffodus, rwy'n gobeithio na fyddaf yn ailadrodd unrhyw ran ohono yn ystod yr hyn a ddywedaf yma.

Credaf ei bod yn bwysig iawn inni feddwl am bobl sydd mewn dyled. Maent mewn dyled oherwydd eu bod yn dlawd. A gaf fi ymateb i Mark Isherwood? Nid yw dyled yn cael ei hachosi gan wariant anghyfrifol, nid yw'n cael ei achosi gan ddiffyg llythrennedd ariannol; mae'n cael ei achosi gan ddiffyg arian. Mae'n cael ei achosi gan filiau sy'n dod i mewn a'r anallu i'w talu. A'r broblem fwyaf sy'n gallu wynebu unrhyw un yw marwolaeth annisgwyl yn y teulu lle mae'n rhaid i bob aelod o'r teulu ddod at ei gilydd a chasglu arian, benthyg arian ym mha ffordd bynnag y gallant, er mwyn cael angladd syml. [Torri ar draws.]

Photo of Mark Isherwood Mark Isherwood Conservative 5:58, 1 Rhagfyr 2021

(Cyfieithwyd)

A fyddech yn derbyn fy mod yn dyfynnu o adroddiadau pwyllgor yn y Senedd, a oedd yn drawsbleidiol, yn seiliedig ar ymchwil fanwl, ac yn nodi rhywfaint o arferion da ac yn gweithio gyda'r teuluoedd ar y pryd?

Photo of Mike Hedges Mike Hedges Labour

(Cyfieithwyd)

Rwy'n derbyn hynny; yr hyn rwy'n ei ddweud yw, yn fy marn i—a dim ond fy marn i ydyw, ond rwy'n cael fy nhalu i ddod yma i'w rhoi—nid yw'n cael ei achosi gan wariant anghyfrifol. Mae'r rhan fwyaf o bobl dlawd rwy'n eu hadnabod mewn dyled, caiff ei achosi gan fil annisgwyl. Mae'n digwydd. Ac angladdau yw'r pethau gwaethaf. Rwyf am sôn am achos rwy'n ymwybodol ohono. Felly, os wyf yn defnyddio gwryw a benyw yn yr achos hwn, mae hynny oherwydd y bobl rwy'n siarad amdanynt yn hytrach na dim i'w wneud â rhywedd. A bu farw chwaer-yng-nghyfraith rhywun yn annisgwyl. Roedd hi'n byw mewn tŷ cyngor yn Abertawe, felly ychydig iawn o arian oedd ganddi. Roedd ganddi blant y bu'n rhaid i weddill y teulu ofalu amdanynt, felly rhoddodd hynny bwysau ar weddill y teulu yn syth. Yn dilyn hynny, bu'n rhaid iddynt dalu am yr angladd, ac mae angladd sylfaenol yn eithriadol o ddrud, ac mae'n cael effaith wirioneddol. Bu'n rhaid i bedwar neu bump aelod o'r teulu ddod at ei gilydd, ond rydych yn sôn am £500, £600 yr un. Pan fo hynny'n cyfateb yn fras i'r hyn y mae'n rhaid ichi ei wario ar angenrheidiau bywyd mewn mis, mae'n achosi problemau aruthrol i chi.

A gaf fi ddweud bod gormod o bobl yng Nghymru, gan gynnwys llawer o fy etholwyr, yn byw mewn tlodi a dyled? Yn y 1990au, y ffordd allan o dlodi a dyled oedd cael swydd—syml. Mae gan lawer o bobl sy'n byw mewn tlodi yn awr, sy'n cronni dyled, un neu ddau aelod o'r teulu mewn gwaith ac sy'n dal i fod mewn dyled. Yr hyn y mae tlodi'n ei olygu yw bod pobl yn mynd yn llwglyd, tai heb wres digonol a phlant yn mynd heb bethau y mae llawer yn eu cymryd yn ganiataol. Rydym yn nesáu at y Nadolig, ac wrth i lawer baratoi ar gyfer yr ŵyl, mae llawer o bobl yma yn cynllunio ar gyfer eu plant a'u hwyrion, mae eraill lle na fydd llawer o anrhegion i'r plant, os o gwbl, nac unrhyw fwyd arbennig ar gyfer y Nadolig. Yn Abertawe, mae fy Aelod Seneddol, Carolyn Harris, yn codi arian i Mae Pawb yn Haeddu Nadolig, a byddaf yn casglu bwyd yn fy swyddfa leol ar gyfer y banciau bwyd lleol ac yn cyfrannu at apêl Mr X, sy'n rhoi anrheg Nadolig i blant na fyddent fel arall yn cael anrheg adeg y Nadolig. Mae hyn i gyd wedi'i waethygu gan y toriad creulon mewn credyd cynhwysol, sydd wedi gwneud pethau gymaint yn waeth i lawer o bobl dlawd. I rai pobl yma, mae £20 yn swm bach iawn o arian; i eraill, bydd yn talu am eu siopa am wythnos, ac yn gwneud y gwahaniaeth rhwng llwyddo i gadw eich pen uwchben y dŵr a methu ymdopi. Nid wyf am ddyfynnu Mr Micawber gan nad oes gennyf amser, ond mae'n mynd o 'bedwar ar bymtheg a chwech' i 'ugain a chwech', sy'n gwneud gwahaniaeth mawr.

Ond pam fod pobl mewn dyled ac mewn tlodi, yn enwedig y rhai sy'n gweithio? Y rheswm am hynny yw eu bod yn gweithio o dan amodau nad oedd y rhan fwyaf ohonom erioed wedi meddwl y byddem yn eu gweld yn ystod ein hoes. Mae gennych gontractau dim oriau ac mae gennych y rhai gwaethaf sy'n gontractau gwarant isafswm wythnosol. Felly, mewn wythnos, byddwch yn sicr o weithio saith awr. Y rhan fwyaf o wythnosau, efallai y byddwch yn gweithio 30 neu 40 awr; rydych yn cadw eich pen uwchben y dŵr. Ond os ydych yn sâl, neu os oes gan y cwmni broblem, rydych yn mynd yn ôl i'ch saith awr, ac yn sydyn iawn, yn hytrach na chael £300, £400 am yr wythnos honno, byddwch yn cael £70. Nid yw'r biliau'n gostwng, felly beth allwch chi ei wneud? Rydych yn troi at fenthyca. A chredaf mai dyna un o'r problemau sydd gennym gyda dyled: mae pobl yn benthyca oherwydd bod eu hincwm wedi gostwng yn helaeth mewn un wythnos. Peidiwch â mynd yn sâl—dyna'r peth; os ydych ar gyflog isel, peidiwch â mynd yn sâl. Ni allwch fforddio bod yn sâl, ac mae'n ddigon posibl mai dyna sy'n achosi rhai o'r problemau gyda COVID. Oherwydd ni allwch fforddio bod yn sâl ac mae'n rhaid i chi weithio'r oriau hynny er mwyn cael eich talu. Credaf ei bod yn bwysig iawn inni ddechrau sylweddoli pam fod pobl mewn dyled. Nid oherwydd eu bod yn gwario arian yn ofer nac oherwydd eu bod yn gwastraffu arian. Yn wir, os gofynnwch i berson tlawd faint o arian sydd ganddynt, byddant yn gallu dweud wrthych i'r geiniog agosaf. Pe bawn i'n gofyn i'r rhan fwyaf o bobl yma, mae'n debyg na allent ddweud wrthyf i'r £100 agosaf. Credaf mai dyna'r broblem sydd gennym mewn gwirionedd—llawer o bobl dlawd iawn, ac wrth gwrs, rydym wedi gweld diswyddo ac ailgyflogi yn cael ei gyflwyno, i wneud pethau'n waeth. Mae angen inni dorri'r cylch, ond dim ond cyflogau uwch, oriau gwarantedig a swyddi priodol fydd yn tynnu pobl allan o'r cylch tlodi a dyled y mae llawer gormod o fy etholwyr a llawer gormod o bobl rwy'n eu hadnabod ynddo.

Photo of Peredur Owen Griffiths Peredur Owen Griffiths Plaid Cymru 6:03, 1 Rhagfyr 2021

(Cyfieithwyd)

Er bod y pandemig wedi bod yn anodd i sawl rhan o'r gymdeithas, mae pobl hŷn wedi dioddef mwy na'r rhan fwyaf. Mae bygythiad cynyddol y coronafeirws i'w hiechyd wedi cynyddu unigrwydd ac arwahanrwydd, gan effeithio'n drwm ar iechyd meddwl a chorfforol pobl hŷn. Mae'r cwymp economaidd hefyd wedi cael effaith fawr ar bobl hŷn. Ers dechrau'r pandemig, mae 24 y cant o weithwyr rhwng 60 a 64 oed wedi cael eu rhoi ar ffyrlo, wedi colli oriau a/neu eu cyflog, ac wedi colli eu swyddi'n llwyr o bosibl. Pan fydd gweithwyr hŷn yn colli eu swydd, gwyddom eu bod yn aml yn ei chael hi'n anodd dod o hyd i waith o'i gymharu â phobl iau. Mae'n realiti trist na fydd rhai rhwng 50 a 60 oed sy'n colli eu swyddi yn ystod y pandemig byth yn dod o hyd i swydd arall cyn cyrraedd oedran ymddeol y wladwriaeth o bosibl, gan gynyddu lefelau tlodi ar ôl ymddeol. Amcangyfrifir eisoes fod un o bob pump o bobl hŷn yng Nghymru yn byw mewn tlodi incwm cymharol—ffigur sydd wedi bod yn codi dros y blynyddoedd diwethaf ac a allai gynyddu ymhellach yn y blynyddoedd i ddod.

I waethygu pethau, nid yw credyd ar gael mor hawdd i bobl hŷn. Mae hyn yn rhywbeth rwy'n gyfarwydd ag ef oherwydd fy mhrofiad ym maes bancio adwerthol. Caiff y rheolau eu llunio fel bod pobl hŷn yn aml yn methu cael benthyciadau y gallai fod eu hangen arnynt i dalu costau annisgwyl. O ganlyniad, mae llawer o bobl hŷn yn cael eu gorfodi i fynd heb neu droi at fenthycwyr diegwyddor sydd â chyfraddau llog uchel.

Un o'r prif anfanteision i incwm aelwydydd a fydd yn taro pobl hŷn yn anghymesur yw'r codiadau eithafol mewn biliau cyfleustodau. Rhwng mis Ionawr a mis Hydref, cododd prisiau nwy yn y DU 250 y cant, yn ôl y grŵp diwydiant Oil and Gas UK. Mae methiant Llywodraeth Dorïaidd San Steffan i adeiladu capasiti dros ben a chynlluniau wrth gefn ar gyfer cynnydd sydyn ym mhrisiau nwy cyfanwerthol wedi achosi anhrefn yn y farchnad ynni. Mae wedi gwneud pobl yn agored i effeithiau gwaethaf y farchnad. Yn gyffredinol, mae angen pobl hŷn am gynhesrwydd yn fwy yn ystod y gaeaf, o'i gymharu â phobl iau, sy'n golygu y bydd prisiau ynni'n cael mwy o effaith ar gyllideb yr aelwyd. Credir bod 67,000 o aelwydydd hŷn yn byw mewn tlodi tanwydd yng Nghymru. Gwyddom fod byw mewn cartrefi oer, llaith yn niweidiol i iechyd unrhyw un. Mae hyn yn bryder arbennig i bobl hŷn wrth i'r gaeaf nesáu ac yn sgil canfod amrywiolyn COVID newydd. Rhaid inni sicrhau nad oes neb yng Nghymru yn mynd heb wres, oherwydd bydd yn cynyddu eu risg o gael clefydau anadlol a chlefydau'r galon a chylchrediad y gwaed.

Hoffwn i Lywodraeth Cymru weithio'n agosach gyda Llywodraeth y DU a chyflenwyr ynni i sefydlu llinell sylfaen o gymorth ar gyfer cwsmeriaid sydd â dyledion. Dylai Llywodraeth Cymru fuddsoddi hefyd mewn ymgyrch proffil uchel i gynyddu'r nifer sy'n manteisio ar gredyd pensiwn. Yn 2018-19, roedd cyfanswm y credyd pensiwn na chafodd ei hawlio yn £214 miliwn. Ar wahân i'r arian ychwanegol, mae hawlio'r credydau hyn yn datgloi amrywiaeth o hawliau eraill, megis gostyngiadau'r dreth gyngor, gofal deintyddol am ddim a chymorth gyda chostau tai. Pe gallai'r Llywodraeth wneud hyn, gallai wneud gwahaniaeth mawr i fywydau pobl hŷn. Diolch yn fawr.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 6:06, 1 Rhagfyr 2021

Y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol nawr i gyfrannu i'r ddadl—Jane Hutt.

Photo of Jane Hutt Jane Hutt Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch, Lywydd, a hoffwn ddechrau drwy ddiolch i Blaid Cymru am gyflwyno'r ddadl hon heddiw. Mae'n tynnu sylw at y lefelau cynyddol o ddyled aelwydydd yng Nghymru a amlinellwyd gan siaradwyr heddiw, a hefyd y camau rydym yn eu cymryd fel Llywodraeth Cymru i liniaru peth o'r caledi difrifol sy'n wynebu pobl. Ac rwyf hefyd yn croesawu ymchwiliad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol i ddyled a'r pandemig. Edrychaf ymlaen at ymateb i'r argymhellion, a byddaf yn eu hystyried yn ofalus.

Mae tystiolaeth i'r pwyllgor wedi dangos y canlyniadau i bobl sy'n cael trafferth gyda dyledion problemus, a dengys tystiolaeth yr effeithiau poenus a hirhoedlog hynny, fel y mae Sioned Williams a Jane Dodds, aelodau o'r pwyllgor, wedi'u nodi ac wedi clywed amdanynt yn y dystiolaeth honno. Mae aelwydydd o dan bwysau ariannol digynsail o ganlyniad i'r pandemig, ond hefyd yn sgil y ffaith ein bod wedi gadael yr UE, costau byw, tanwydd a bwyd cynyddol, a thoriadau i gymorth lles. Fel y clywsom heddiw, mae'r storm berffaith hon—y storm berffaith hon o gostau cynyddol ac effeithiau andwyol—yn gwthio llawer mwy o aelwydydd mwy agored i niwed i mewn i dlodi, fel y disgrifiodd Mike Hedges.

Rwy'n cytuno ag asesiad Sefydliad Bevan y bydd lefelau dyled ledled Cymru yn cynyddu yn ystod y misoedd nesaf, yn anffodus. Gwyddom y bydd hyn yn cynnwys dyled i gredydwyr sector cyhoeddus, gan gynnwys awdurdodau lleol, yr Adran Gwaith a Phensiynau a Chyllid a Thollau Ei Mawrhydi. Roeddem yn croesawu'r amddiffyniadau cyfreithiol rhag camau gorfodi mewn perthynas â dyledion ac amynedd credydwyr sydd wedi lleddfu'r baich ariannol ar lawer o aelwydydd ledled Cymru yn ystod y pandemig. Fodd bynnag, fel y dengys Sefydliad Bevan yn eu hadroddiad, ni allwn osgoi'r realiti fod pobl Cymru wedi'u gadael i ysgwyddo dyledion problemus gan fod yr amddiffyniadau cyfreithiol, trugaredd credydwyr a'r cynnydd o £20 yr wythnos yn y credyd cynhwysol wedi dod i ben bellach.

Mae'r rhan fwyaf o'r pwerau i fynd i'r afael â'r argyfwng costau byw yn nwylo Llywodraeth y DU, ond byddwn yn gwneud popeth yn ein gallu fel Llywodraeth Cymru i helpu teuluoedd drwy'r gaeaf hwn. Er mwyn helpu i fynd i'r afael â'r heriau digynsail hyn, rydym yn sicrhau bod £51 miliwn ar gael i ddatblygu ein cronfa gymorth i aelwydydd bwrpasol ein hunain i helpu teuluoedd sy'n wynebu'r argyfwng costau byw i dalu eu biliau y gaeaf hwn. Bydd y gronfa gymorth i aelwydydd yn helpu i liniaru penderfyniad Llywodraeth y DU i dorri'r achubiaeth credyd cynhwysol o £20 i ddegau o filoedd o deuluoedd, er gwaethaf y galwadau eang i atal y toriad hwnnw, fel y gwelwyd yma eto heddiw.

Rwyf am siarad am y gronfa gymorth i aelwydydd oherwydd bydd y cam cyntaf yn rhoi cymorth ychwanegol i deuluoedd dalu eu biliau ynni dros y gaeaf, ac yn rhoi arian ychwanegol i fanciau bwyd a chynlluniau bwyd cymunedol. Bydd mwy na £38 miliwn ar gael drwy gynllun cymorth tanwydd gaeaf, fel y clywsom heddiw, ar gyfer aelwydydd sy'n cael budd-daliadau oedran gweithio sy'n seiliedig ar brawf modd. Mae'n bwysig rhannu'r wybodaeth: bydd y cynllun yn agor ar gyfer ceisiadau ar 13 Rhagfyr a bydd aelwydydd cymwys yn gallu hawlio taliad arian parod untro o £100.

Photo of Jane Hutt Jane Hutt Labour 6:10, 1 Rhagfyr 2021

(Cyfieithwyd)

Ac mae'n bwysig cydnabod na allwn fynd i'r afael â'r holl fesurau cyni a roddwyd ar waith gan Lywodraeth y DU. Ein huchelgais drwy'r cynllun cymorth tanwydd gaeaf yw cefnogi'r aelwydydd a ddioddefodd ergyd i'w hincwm pan ddaeth Llywodraeth y DU â'u taliad ychwanegol o £20 ar eu credyd cynhwysol neu eu credyd treth gwaith i ben. Felly, rydym yn awyddus i gefnogi aelwydydd sy'n cael un o'r budd-daliadau newydd yn lle enillion ar sail prawf modd y gwrthododd Llywodraeth y DU eu cynyddu. Ond nid ydym o dan unrhyw gamargraff, ni all hyn ddigolledu'r aelwydydd a gollodd dros £1,000 y flwyddyn pan wnaed y toriad—y toriad credyd cynhwysol—yn ddiangen ac yn greulon. Ond hefyd, rhaid inni edrych ar y cyfleoedd sydd gennym mewn perthynas â'r taliad. Bydd yn helpu cwsmeriaid ynni cymwys, ni waeth a ydynt yn talu am eu tanwydd ar ffurf rhagdaliad neu drwy fesurydd credyd. Mae ymgyrch i sicrhau bod cymaint â phosibl yn manteisio ar y taliad yn cael ei hyrwyddo a'i rhedeg gan asiantaethau sy'n darparu cyngor ac awdurdodau lleol.

Ond fel rhan o'r cynllun tlodi tanwydd ar gyfer 2021-35, rydym yn gweithio gyda rhanddeiliaid i baratoi a chyhoeddi cynllun gwrthsefyll tywydd oer. A diolch am godi'r angen inni sicrhau bod y cynllun hwnnw'n cael ei ddatblygu. Gallaf ddweud wrthych fy mod yn falch iawn o ymateb i Mark Isherwood y prynhawn yma i ddweud bod y cynllun yn nodi camau gweithredu allweddol y gallwn eu gweithredu sy'n sicrhau effaith uniongyrchol i rai mewn angen. Mae'n cynnwys hyrwyddo a darparu taliadau cymorth brys a pharhau i osod mesurau effeithlonrwydd ynni domestig. Ac rydym i fod i gyhoeddi'r cynllun ar Ddiwrnod Ymwybyddiaeth Tlodi Tanwydd, y gwn y byddwch yn gwybod ei fod yn digwydd yr wythnos hon, ar 3 Rhagfyr. Felly, rwy'n siŵr y byddwch yn croesawu'r newyddion hwnnw heddiw. 

Yn ogystal, dros y degawd diwethaf, buddsoddwyd dros £394 miliwn i wella effeithlonrwydd ynni yn y cartref drwy'r rhaglen Cartrefi Clyd, sydd o fudd i fwy na 67,100 o aelwydydd incwm is. Ac mae'r gwelliannau hyn yn torri dros £300 y flwyddyn ar gyfartaledd oddi ar filiau ynni aelwydydd incwm is. Yn ogystal â chefnogi teuluoedd sy'n ei chael hi'n anodd talu eu biliau tanwydd, bydd y gronfa gymorth i aelwydydd yn darparu mwy na £1.1 miliwn i gefnogi a chryfhau banciau bwyd, partneriaethau bwyd cymunedol a hybiau cymunedol. A bydd yn helpu i fynd i'r afael â thlodi bwyd ac ansicrwydd bwyd ac yn darparu ystod ehangach o wasanaethau i helpu pobl a theuluoedd i wneud y gorau o'u hincwm.

Ochr yn ochr â chamau i fynd i'r afael â thlodi bwyd ac ansicrwydd bwyd, rydym yn mynd i'r afael ag achosion sylfaenol tlodi bwyd drwy ein hymrwymiad i'r cyflog cymdeithasol a gweithgarwch wedi'i dargedu i sicrhau'r incwm mwyaf posibl ac adeiladu cydnerthedd ariannol. Gwnaethom fuddsoddi £14.9 miliwn ychwanegol yn y gronfa cymorth dewisol i gefnogi'r galw cynyddol ar y gronfa yn ystod 2021, gan ddarparu'r taliadau caledi hynny i rai sy'n profi argyfwng ariannol. Mae'r gronfa cymorth dewisol yn gweithio gyda Cyngor ar Bopeth i gyfeirio pobl sydd wedi defnyddio'r gronfa at gyngor a chymorth ehangach i fynd i'r afael â'u hanghenion ariannol sylfaenol, gan gynnwys cael cyngor arbenigol ar ddyled.

Ac mae'n bwysig ein bod yn helpu pobl yng Nghymru i hawlio'r holl gymorth ariannol y mae ganddynt hawl iddo. Felly, nod ein hail ymgyrch genedlaethol 'Hawliwch yr hyn sy'n ddyledus i chi' yw codi ymwybyddiaeth pobl o'u hawliau, eu hannog i geisio cyngor—a Peredur, rwy'n cytuno ynglŷn â chredyd pensiwn; mae'n rhaid i hynny fod yn rhan o'r ymgyrch 'Hawliwch yr hyn sy'n ddyledus i chi'—a helpu pobl i lywio drwy'r system budd-daliadau lles i gael yr hyn y mae ganddynt hawl iddo, eu hawliau. Mae ein hymrwymiad hirsefydlog i gefnogi gwasanaethau cynghori yn sicrhau y gall pobl ledled Cymru gael cyngor diduedd am ddim ar ddyled a nawdd cymdeithasol. A chafodd 18,000 o bobl gyngor dyled a chael eu helpu i reoli dyledion o dros £8 miliwn o ganlyniad i wasanaethau ein cronfa gynghori sengl. Cynorthwywyd pobl sy'n derbyn cyngor ar eu hawliau i fudd-daliadau lles i gael incwm ychwanegol a oedd yn werth cyfanswm o £43 miliwn. 

Felly, i gloi, rhaid imi ddweud ein bod yn mynd i'r afael â'r materion a godwyd yn y ddadl bwysig hon heddiw, gan gynnwys y rhai sy'n ei chael yn anodd talu eu biliau treth gyngor. Yn amlwg, Heledd Fychan, mae'n bwysig ein bod yn gweithio gyda'n cydweithwyr mewn llywodraeth leol. Mae ein cynllun gostyngiadau'r dreth gyngor yn hollbwysig, a hefyd ein cynllun i wneud y gorau o incwm er mwyn codi plant allan o dlodi. 

Felly, fy mhwynt olaf yw fy mod yn edrych ymlaen at ymateb i adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol a'u hargymhellion. Mae hwn yn gyfrifoldeb ar draws y Llywodraeth—gweithio gyda fy nghyd-Aelodau yn Llywodraeth Cymru, gweithio o ganlyniad i'n cytundeb cydweithio wrth inni fynd ati i weithio gyda'n gilydd i drechu tlodi, gan ymgysylltu â Llywodraeth y DU, cyflwyno sylwadau a gweithio gyda'n partneriaid i fynd i'r afael â dyled aelwydydd yng Nghymru. Diolch.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 6:15, 1 Rhagfyr 2021

Galwaf ar Delyth Jewell nawr, i ymateb i'r ddadl.

Photo of Delyth Jewell Delyth Jewell Plaid Cymru

(Cyfieithwyd)

Diolch, Lywydd, a diolch i'r rhai sydd wedi cyfrannu at y ddadl amserol hon. Mae'n sicr yn foesol anghywir i unrhyw un fod mewn dyled yn syml o ganlyniad i geisio goroesi, oherwydd dyna'r hyn rydym yn sôn amdano yma: teuluoedd sy'n ei chael yn anodd fforddio costau sylfaenol, rhent, neu dreth gyngor i gadw to uwch eu pennau, a biliau nwy a thrydan i'w cadw'n gynnes ac wedi'u bwydo. Mae Sioned Williams wedi sôn am y tlodi ar lefel oes Fictoria sy'n wynebu llawer o deuluoedd. Nid y darlun o Scrooge yn ei dŷ cyfrif sydd gennym mwyach, ond y cwmni modern crand gyda gwefannau deniadol a chyfraddau llog usuriaidd. Siaradodd Mark Isherwood am wella gallu ariannol; gwn fod llythrennedd a gallu ariannol yn rhywbeth y mae Cyngor ar Bopeth wedi gweithio arno ers blynyddoedd lawer. Nid wyf yn credu y bydd yn ateb yr holl faterion rydym wedi'u codi, ond rwy'n cytuno bod hyn yn haeddu mwy o gefnogaeth. Siaradodd Jane Dodds am faich seicolegol dyled, pwysau dyled ar ysgwyddau teuluoedd—ie, yn wir.

Photo of Delyth Jewell Delyth Jewell Plaid Cymru 6:16, 1 Rhagfyr 2021

Soniodd Heledd Fychan am y ffaith bod tlodi yn broblem i'n cymdeithas gyfan ac am y broblem o ddyledion treth cyngor a'r straen sy'n digwydd pan fydd bailiffs yn mynd at dai pobl.

Photo of Delyth Jewell Delyth Jewell Plaid Cymru

(Cyfieithwyd)

Soniodd Mike Hedges am lawer o'r themâu hyn, a sut y gall hyd yn oed angladdau syml wthio pobl i ddyled—yr argyfyngau annisgwyl sy'n fwrn arnom. Nid o wario ofer y daw dyled, meddai. Rwy'n cytuno'n llwyr.

Photo of Delyth Jewell Delyth Jewell Plaid Cymru

Soniodd Peredur Owen Griffiths am yr effaith mae'r pandemig a thlodi yn cael ar bobl hŷn, effaith y cynnydd mewn biliau ynni.

Photo of Delyth Jewell Delyth Jewell Plaid Cymru

(Cyfieithwyd)

Soniodd hefyd sut y caiff credyd ei wrthod yn aml i bobl hŷn a sut, mewn gwirionedd, y gall pobl, oherwydd eu hamgylchiadau, gael eu heffeithio hyd yn oed yn waeth. Diolch i'r Gweinidog am ei chyfraniad a'i gwybodaeth ddiweddaraf am rai o'r ffyrdd y mae'r Llywodraeth yn gweithredu ar hyn. Rwy'n croesawu'r newyddion am yr ymgyrch 'Hawliwch yr hyn sy'n ddyledus i chi'. Byddai'n well gennyf weld budd-daliadau'n cael eu talu'n awtomatig, ond rwy'n croesawu'r newyddion fod mwy o hysbysrwydd i bobl ynglŷn â'r hyn y mae ganddynt hawl i'w hawlio. Un o'r pwyntiau cryfaf sydd wedi codi dro ar ôl tro yn y ddadl hon, rwy'n meddwl, yw sut y gall amgylchiadau wthio unrhyw un i ddyled. Mae COVID a biliau cynyddol wedi gwneud dyledion pobl yn fwy difrifol, ond roedd aelwydydd ledled Cymru eisoes yn ymladd yn ddyddiol i allu fforddio cadw'r gwres ymlaen, gan dorri'n ôl ar y peth hwn, mynd heb y peth arall; pobl yn ei chael hi'n anodd gwario digon, nid ar ormodedd, ond ar ddim ond bodoli.

Yn The Sun Also Rises gan Hemingway, mae dau gymeriad yn sôn am fethdaliad ac mae un ohonynt yn gofyn i'r llall, 'Sut aethoch chi'n fethdalwr?' Mae'r llall yn ateb ei fod wedi digwydd mewn dwy ffordd: yn raddol, yna'n sydyn. Ac rwy'n credu bod hynny, Lywydd, yn crynhoi arswyd unrhyw ddyled: proses sydd wedi bod ar fin digwydd cyhyd, ac yna mae rhywbeth yn ei wthio dros yr ymyl—yr argyfwng annisgwyl, esgidiau newydd, siec gyflog nad yw'n cyrraedd, angladd. Ac yn y ddadl hon am ddyled, rydym wedi sôn am y pethau sydyn, onid ydym? Yr argyfwng biliau ynni a'r panig enfawr a achosodd; y pandemig sydd wedi creu trafferthion ym mhob agwedd ar fywyd, bron iawn; y toriad creulon i gredyd cynhwysol; gwthiodd pob un o'r pethau sydyn hyn fwy o bobl i dlodi. Ond mae pethau graddol hefyd yn achosi tlodi: yr elfennau parhaus, ysgeler sy'n cadw pobl ar ymyl y dibyn i ddistryw bob dydd; y farchnad ynni sydd gennym sy'n trosglwyddo elw di-risg i gyfranddalwyr ac yn gwthio prisiau i fyny i'r bobl sydd angen eu cynnyrch er mwyn gallu byw; y system fenthyca sy'n caniatáu i fanciau fenthyca i'w gilydd ar gyfraddau llog negyddol bron, ond sy'n gorfodi'r fam ofidus i dalu drwy ei thrwyn; systemau sy'n sicrhau i bob pwrpas fod yn rhaid cael collwyr. Mae economegwyr libertaraidd yn honni y bydd y farchnad bob amser yn darparu, ond nid ydynt yn manylu ar yr hyn y byddant yn ei ddarparu. I deuluoedd ar y gwaelod, ni all y farchnad rydd ddilyffethair ddarparu dim heblaw dioddefaint, a byw gyda'r ansicrwydd hwn, y bygythiad cyson o dlodi, sy'n llesteirio. Mae'n creu trawma cyson. Mae Coleg Brenhinol y Seiciatryddion wedi canfod bod gan un o bob dau oedolyn sydd mewn dyled broblem iechyd meddwl, boed hynny wedi'i ysgogi gan euogrwydd, arwahanrwydd, pryder, anobaith. Canfu ymchwil yn 2018 fod pobl sy'n profi dyledion problemus dair gwaith yn fwy tebygol o fod wedi ystyried cyflawni hunanladdiad.

Lywydd, mae strwythurau ein cymdeithas yn caniatáu i hyn barhau. Maent yn cynnwys y boen a'r anobaith yn y pris—yn raddol, yna'n sydyn. Arferai Adam Smith sôn am law anweledig y farchnad, ond fel rwy'n gobeithio bod y ddadl hon wedi dangos, i'r tlawd yn ein cymuned, mae'r llaw anweledig honno'n ddwrn llawer rhy weladwy sy'n eu gwasgu'n ddyfnach i anobaith a chyni. Ni ddylai neb fod mewn dyled am eu bod yn ei chael hi'n anodd goroesi. Ac rwyf am orffen gyda chymal olaf ein cynnig: yr angen i gyflwyno mesurau a fyddai'n gosod dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i atal dyled. Oherwydd nid yw rheoli dyled pan fydd wedi digwydd yn cael gwared ar drawma neu drasiedi. Cefnogi pobl gydag urddas a pharch ac atal y niwed hwnnw rhag digwydd—dyna sut y dylai cymdeithas wâr weithredu, ac mae'n gynnig ac yn egwyddor rwy'n ei gymeradwyo i'r Siambr. 

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 6:21, 1 Rhagfyr 2021

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly, fe fyddwn ni'n gohirio'r bleidlais tan y cyfnod pleidleisio.

Sy'n golygu ein bod ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio, ond fe fydd angen inni gymryd toriad byr i baratoi yn dechnegol ar gyfer y bleidlais honno. Felly, gwnawn ni gymryd y toriad nawr, a fe fyddwn ni nôl i bleidleisio whap. 

Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 18:21.

Ailymgynullodd y Senedd am 18:27, gyda'r Llywydd yn y Gadair.