– Senedd Cymru am 2:47 pm ar 7 Rhagfyr 2021.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad gan y Prif Weinidog ar y rhaglen lywodraethu a'r diweddariad ar hynny. Dwi'n galw ar y Prif Weinidog i wneud ei ddatganiad—Mark Drakeford.
Llywydd, cyhoeddwyd ein rhaglen lywodraethu ar gyfer y tymor hwn o fewn wythnosau i'r etholiadau ym mis Mai, a gwnes i ddatganiad i'r Senedd ar 15 Mehefin. Cyhoeddwyd y rhaglen yn gynnar er mwyn i ni ddechrau ar y polisïau radical ac uchelgeisiol sydd eu hangen arnom wrth inni wynebu’r cyfuniad unigryw o’r pandemig parhaus, adladd Brexit a'r her o newid yn yr hinsawdd. Rydym hefyd yn wynebu'r Llywodraeth fwyafrifol Geidwadol gyntaf yn San Steffan yn hanes datganoli, Llywodraeth sy'n ceisio tanseilio a dirwyn y setliad datganoli yn ôl fel mater o drefn, setliad sydd wedi'i gymeradwyo mewn dau refferendwm yn olynol. Heddiw, rwyf am roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd a thynnu sylw at welliannau a wnaed i'r rhaglen lywodraethu i adlewyrchu'r cytundeb cydweithio a lofnodwyd gan arweinydd Plaid Cymru a fi yr wythnos diwethaf.
Llywydd, wrth i mi roi'r datganiad hwn rydym ni'n parhau i ymateb i'r pandemig, gan gynnwys i'r datblygiadau er gwaeth diweddaraf, er mwyn cyflawni ein prif flaenoriaeth yn y rhaglen lywodraethu, sef diogelu Cymru mewn cyfnod o argyfwng iechyd cyhoeddus byd-eang. Mae'r wythnos hon yn nodi blwyddyn ers i'r brechiadau fod ar gael. Ers hynny, mae mwy na 5.5 miliwn o ddosau wedi eu gweinyddu i oedolion a phlant dros 12 oed yng Nghymru, o ganlyniad i ymdrechion aruthrol ein rhaglen frechu.
Yr wythnos diwethaf, cafwyd cadarnhad o'r achos cyntaf o'r amrywiolyn newydd, omicron, yng Nghymru. Rydym ni'n sefyll ar drothwy adeg beryglus arall, o bosibl, yn hanes ein hymdrechion i ddiogelu Cymru a chadw Cymru ar agor. Mae ein harbenigwyr iechyd cyhoeddus wedi modelu effaith bosibl yr amrywiolyn newydd yng Nghymru, gan ddefnyddio'r wybodaeth ddiweddaraf o Dde Affrica ac o rannau eraill o'r byd. Er bod llawer i'w ddysgu o hyd a darpariaethol, yn anochel, yw unrhyw fodelu ar hyn o bryd, mae'n rhaid i ni ymbaratoi ar gyfer y posibilrwydd o don arswydus newydd o heintio yn y flwyddyn newydd, chwe wythnos o heddiw o bosibl, os na allwn ni arafu ymlediad yr amrywiolyn newydd hwn.
Brechu yw ein hamddiffyniad cryfaf ni o hyd yn erbyn y feirws creulon hwn. Erbyn yr adeg hon yr wythnos nesaf, fe fydd miliwn o bobl yng Nghymru wedi derbyn trydydd, dos atgyfnerthu. Ond mae yna ormod o bobl o hyd nad ydyn nhw wedi manteisio ar y cynnig o frechiad, ac os oes un neges yr hoffwn i ei chyfleu i chi heddiw, mae'n rhaid mai hon yw hi: pan fyddwch chi'n cael eich gwahoddiad i fynd am frechiad, boed hwnnw'n frechiad cyntaf, neu'n ail neu'n un atgyfnerthu, gwnewch honno'n flaenoriaeth i chi, os gwelwch chi'n dda. Nid oes unrhyw beth arall y gallech chi ei wneud ar y diwrnod hwnnw a fyddai'n gwneud mwy i helpu i'ch cadw chi neu i gadw pobl eraill yn ddiogel. Ac nid yw hi byth yn rhy hwyr i gael eich brechu yma yng Nghymru. Os nad ydych chi wedi eich brechu eto, dewch ymlaen nawr. Dyma'r anrheg Nadolig gorau y gallech chi ei roi i chi eich hunan a'ch teulu chi eleni, ac nid yw hi'n rhy ddramatig i ddweud bod hwnnw'n fuddsoddiad i sicrhau eich bod chi yma i ddathlu'r Nadolig yn iach ac yn hapus y flwyddyn nesaf hefyd.
Llywydd, er gwaethaf yr her barhaus o ymateb i'r pandemig, rydym ni'n parhau i fwrw ymlaen yn y Llywodraeth, ym mha fodd bynnag y gallwn ni, â'n blaenoriaethau ni a'r holl gamau gweithredu hynny a fydd yn creu dyfodol gwell y tu draw i'r pandemig. Nododd fy mhlaid i chwe phrif addewid yn ein maniffesto yn gynharach eleni. Rydym ni wedi gwneud cynnydd sylweddol ar bob un ohonyn nhw, a byddaf i'n tynnu sylw heddiw at dri yn unig.
Fe wnaethom ni ddweud y byddem ni'n cadw'r 500 o swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu sy'n bresennol yng Nghymru, sy'n gwneud cymaint i gadw ein cymunedau yn ddiogel, ac y byddem ni'n ariannu 100 arall yn oes y Senedd hon. Bydd yr addewid hwnnw'n cael ei gadw yn ei gyfanrwydd nid dros bum mlynedd, ond ym mlwyddyn gyntaf y tymor Seneddol hwn. Mae'r cyllid wedi ei sicrhau ac mae'r broses o recriwtio'r 100 o swyddogion cymorth cymunedol ychwanegol yn mynd rhagddi ers amser. Cefais i'r fraint o dreulio amser gyda swyddogion yr heddlu wrth eu gwaith yn Wrecsam yn ddiweddar, lle clywais i'n uniongyrchol am y lles y bydd y swyddi ychwanegol hynny yn ei wneud i blismona rheng flaen.
Fis diwethaf, lansiodd Gweinidog yr economi gam cyntaf y warant i bobl ifanc, sy'n warant i sicrhau na fydd cenhedlaeth goll yma yng Nghymru ar ôl y pandemig. Fe wnaethom ni addo talu'r cyflog byw gwirioneddol i weithwyr gofal cymdeithasol hefyd. Rydym ni wedi derbyn cyngor erbyn hyn gan y fforwm gofal cymdeithasol ar sut i wneud hynny ar gyfer gweithlu mawr a symudol wedi eu gwasgaru ar draws cannoedd o gyflogwyr yn y sectorau cyhoeddus a phreifat, a phan fyddwn ni'n cyhoeddi ein cyllideb ddrafft ar 20 Rhagfyr, bydd rhagor o fanylion am sut y byddwn yn bwrw ymlaen â'r ymrwymiad pwysig iawn hwnnw.
Mae ymdrechion ymarferol i gyflawni gweddill ein rhaglen radical yn parhau bob dydd. Fe wnaethom ni addo y byddem ni'n buddsoddi yn ein gweithlu iechyd a gofal ac yn sefydlu ysgol feddygol newydd yn y gogledd. Y penwythnos hwn, fel y dywedodd arweinydd yr wrthblaid yn gynharach, fe gyhoeddodd y Gweinidog iechyd gyllid ychwanegol am yr wythfed flwyddyn yn olynol ar gyfer gweithlu iechyd a meddygol y dyfodol, gan ychwanegu £260 miliwn arall at y gyllideb ar gyfer hyfforddiant.
Fe wnaethom ni ddweud y byddem ni'n sefydlu Gwasanaeth Cerddoriaeth Cenedlaethol newydd i Gymru, a'r wythnos diwethaf fe gadarnhaodd y Gweinidog addysg £6.8 miliwn ar gyfer addysg cerddoriaeth a'r celfyddydau mewn ysgolion, gan roi offerynnau cerddorol yn nwylo myfyrwyr.
Fe wnaethom ni ymrwymo i ddal ati i weithio tuag at ddileu trais yn erbyn menywod a merched, ac, fel y dywedais i'n gynharach y prynhawn yma, rydym ni'n lansio ymgynghoriad heddiw ar ein strategaeth newydd pum mlynedd.
Llywydd, yn ddiweddarach y prynhawn yma bydd fy nghyd-Weinidog Rebecca Evans yn gwneud datganiad ynglŷn â'r modd yr ydym ni'n bwriadu diwygio'r dreth gyngor yma yng Nghymru. Dyma un o'r meysydd penodol sy'n cael eu cwmpasu gan y cytundeb cydweithredu. Rwyf i o'r farn fod hon yn enghraifft ardderchog o'r hyn y bydd y cytundeb yn galluogi'r Senedd hon i'w gyflawni. Y dreth gyngor yw'r dull mwyaf atchweliadol o drethu yng Nghymru. Mae'r rhai sydd â'r incwm lleiaf yn talu cyfran lawer uwch o'r incwm hwnnw drwy'r dreth gyngor na'r rhai sy'n llawer mwy cefnog. Yn nhymor y Senedd diwethaf, mewn adroddiad gan y Sefydliad Astudiaethau Cyllid, nodwyd ffyrdd y gellid diwygio'r dreth gyngor i'w gwneud hi'n decach. Nawr, mae yna rai pobl yn y Siambr hon a oedd yma yn nyddiau'r ailbrisiad mawr diwethaf i'r dreth gyngor yn 2003, a byddan nhw'n cofio pa mor gymhleth a gwleidyddol heriol yr oedd hynny. Bydd y cytundeb cydweithredu yn rhoi'r sefydlogrwydd a'r gallu gwleidyddol cyfunol i ni gael diwygiad arall, 20 mlynedd ar ôl yr ailbrisio cyntaf hwnnw. A, Llywydd, byddwn yn mynd ymhellach na diwygio'r system gyfredol. Byddwn yn defnyddio'r tair blynedd nesaf sy'n cael eu cwmpasu gan y cytundeb cydweithredu i adeiladu gyda'n gilydd ar y gwaith a wnaed yn nhymor y Senedd diwethaf o ran dewisiadau amgen a mwy sylfaenol i'r dreth gyngor, dewisiadau amgen a allai fod yn decach i ddinasyddion ac yn fwy effeithiol wrth gefnogi datblygiadau economaidd ym mhob rhan o Gymru. Un enghraifft yn unig yw hon o'r 46 maes yn y cytundeb cydweithredu, ac mae pob un o'r rhain yn cael eu cynrychioli erbyn hyn yn y rhaglen lywodraethu ddiwygiedig, yr ydym ni wedi ei chyhoeddi.
Llywydd, dim ond un rhaglen lywodraethu sydd. Hwn yw'r fframwaith y mae'r gwasanaeth sifil a phartneriaid eraill yn ei ddefnyddio i ganolbwyntio eu hymdrechion nhw ar y blaenoriaethau ar draws ein cyfrifoldebau datganoledig. Mae yna rannau allweddol o'r rhaglen a fydd yn cael eu datblygu bellach mewn cynghrair flaengar rhwng Llywodraeth Lafur Cymru a Phlaid Cymru, a bydd hynny yn harneisio ein hymdrechion yn wyneb heriau digynsail a gwrthwynebiad Llywodraeth y DU yn San Steffan sy'n anghymwys ac esgeulus. [Torri ar draws.] Wel, Llywydd, ni fydd pobl eraill wedi clywed y gri 'gwarthus' yn y lle hwn, ac rwy'n cytuno â hynny—mae cyfradd y gwrthwynebiad a'r anallu yr ydym yn ei wynebu bob dydd oddi wrth y Llywodraeth honno yn wir yn warthus, felly rwy'n hapus i ategu'r sylwadau hynny.
Ymysg pwyslais uniongyrchol y polisïau rhaglen lywodraethu hynny sy'n adlewyrchu'r cytundeb cydweithredu, fydd ymestyn prydau ysgol am ddim ym mhob ysgol gynradd ar gyfer pob disgybl ysgol gynradd, ac ehangu gofal plant hyd at blant dwy flwydd, a chamau radical ac uniongyrchol i fynd i'r afael â'r problemau a wynebir gan bobl nad ydyn nhw'n gallu cael cartref cyntaf mewn cymunedau lle mae llawer o ail gartrefi a chartrefi gwyliau hefyd. Mae ymgynghoriadau wedi eu lansio ar amrywiaeth o offerynnau polisi y gallwn ni eu defnyddio, a bydd y gwaith gwirioneddol o ddatblygu a chyflwyno polisïau newydd yn y meysydd hynny yn awr yn cael ei ddatblygu mewn partneriaeth.
Llywydd, rwyf i am orffen yn y man y cychwynnais i y prynhawn yma. Rwy'n falch iawn fy mod i wedi gallu rhoi'r diweddariad hwn heddiw. Rwyf i o'r farn bod y gallu i weithio gydag eraill ar agendâu a rennir wedi bod yn nodwedd o dymhorau Seneddol olynol, ac y bydd hynny'n cynnig manteision pendant i bobl yng Nghymru dros y tair blynedd nesaf. Ond, bydd yn rhaid i'r argyfwng iechyd cyhoeddus dybryd fod yn flaenoriaeth dros bopeth arall i ni dros yr wythnosau nesaf. Drwy ein rhaglen frechu a'r holl gamau eraill y gallwn ni eu cymryd i gadw ein gilydd yn ddiogel, byddwn yn dod trwy waethaf y storm sydd o'n blaenau ni. Ond nid cyfrifoldeb y Llywodraeth yn unig yw hynny. Mae angen i bob un ohonom ni, i bob dinesydd yng Nghymru, ddal ati i fwrw ymlaen gyda'n gilydd unwaith eto i achub bywydau a fyddai'n cael eu colli fel arall, i amddiffyn ein gwasanaeth iechyd a'n gwasanaethau gofal cymdeithasol rhag y perygl y bydden nhw'n cael eu llethu fel arall, a thywys Cymru yn ddiogel drwy gyfnod o berygl mawr sy'n ein hwynebu ni i gyd.
Prif Weinidog, diolch i chi am eich datganiad, ac a gaf i gytuno â chi o ran eich pwynt olaf chi yn y fan yna am yr heriau sydd o'n blaenau ni, a'r angen i bobl ddod ymlaen a chael y brechlyn atgyfnerthu, a threchu'r feirws ofnadwy hwn, a'r pwysau y mae'n eu rhoi ar ein GIG ni hefyd? Felly, peth da bob amser yw dechrau datganiad ar bwynt y ceir cytundeb cyffredin arno, ond lle'r ydym ni'n anghytuno, yn amlwg, yw'r hyn a ddywedodd arweinydd Plaid Cymru am y cytundeb yr ydych chi a Phlaid Cymru wedi ei lunio—mai blaendal annibyniaeth oedd hwn. Felly, a yw'r rhaglen lywodraethu hon yr ydych chi'n ei chyflwyno heddiw yn flaendal o ran annibyniaeth, Prif Weinidog, oherwydd byddai hi'n beth da i ni gael clywed beth yw eich barn chi ar hynny, oherwydd—y tro olaf i mi edrych—rwyf i wedi credu erioed mai plaid unoliaethol yw'r Blaid Lafur?
A gaf i ofyn hefyd am y mecanweithiau ar gyfer craffu ar y rhaglen lywodraethu gan y bydd Aelodau dynodedig yn dod o Blaid Cymru yn awr i gefnogi'r gwaith o ddatblygu polisi a gweithio o fewn y Llywodraeth? Ar hyn o bryd, nid oes unrhyw fecanwaith i graffu ar Aelodau dynodedig, oherwydd tymor newydd yw hwn, mae hi'n sefyllfa newydd. Rwy'n llongyfarch Siân Gwenllian, sef y gyntaf i'w phenodi yn Aelod dynodedig yn y cytundeb hwn, rwy'n credu. Ond a ydych chi'n cytuno â mi ei bod hi'n bwysig craffu ar eu swyddogaeth nhw o fewn y Llywodraeth a bod cyfle yn cael ei roi yn amser y Llywodraeth i ni yn yr wrthblaid graffu ar yr Aelodau hynny? Oherwydd nid gwaith i'r Llywydd yn unig yw hwn; mae'r Llywodraeth yn rheoli busnes ar ddydd Mawrth ac, yn ôl yr hyn yr wyf i'n ei deall, gellid sicrhau bod amser ar gael i hynny ddigwydd. Felly, rwyf i o'r farn ei bod hi'n bwysig iawn i ni gael deall hyn, oherwydd bod hon yn gytundeb tair blynedd; nid cytundeb tair wythnos yw hi, cytundeb tair blynedd yw hi, ac mae'n bwysig ein bod ni'r Aelodau yn yr wrthblaid yn cael y cyfle hwnnw i graffu ar swyddogaeth yr Aelod dynodedig sy'n cefnogi Gweinidogion ar y fainc flaen.
Hoffwn i ddeall hefyd ba gynnydd y mae'r rhaglen lywodraethu yn ei wneud o ran amseroedd aros, yn enwedig yr amseroedd aros cronig yr ydym ni'n eu gweld oherwydd pandemig COVID lle, os ydych chi'n tynnu pobl ifanc allan o'r amseroedd aros hynny, mae bron i un ym mhob pedwar o bobl ar restr aros rywle yng Nghymru erbyn hyn. Os nad ydym ni'n ofalus, ac os nad yw eich Llywodraeth chi yn ofalus, fe allai'r amseroedd aros hyn lethu'r Llywodraeth yn y pen draw wrth fynd ymlaen. Rwy'n deall bod y Gweinidog iechyd blaenorol wedi dweud y byddai'n cymryd tymor Cynulliad llawn, neu dymor seneddol, i fynd i'r afael â'r amseroedd aros hyn, ond mae hi'n bwysig, yn fy marn i, i ni ddeall pa gynnydd sy'n cael ei wneud, oherwydd y tu ôl i bob ystadegyn sy'n dod i'r amlwg mae unigolyn a theulu ag anwylyd sydd, yn y pen draw, yn debygol o fod mewn poen echrydus o ryw fath yn aros am driniaeth o fewn ein GIG ni.
Rwy'n sylwi na wnaethoch chi sôn am y Ddeddf aer glân o gwbl, Prif Weinidog, a oedd yn rhan o'ch maniffesto arweinyddiaeth chi ac a oedd yn bwynt trafod allweddol yn yr etholiad seneddol a gawsom ni ym mis Ebrill. Byddwn i'n falch o wybod a allwch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am hynny, gan fy mod i'n gwybod o lobïo a gan sefydliadau allanol hefyd fod angen mawr am symud ymlaen yn hyn o beth. Pe byddai Mike Hedges yma, rwy'n siŵr y byddai ef yn ymuno â mi yn hyn o beth, gan fy mod i'n gwybod ei fod wedi cadw llygad barcud ar y cynnydd, neu ddiffyg hynny o bosibl, hyd yn hyn o ran cyflwyno Deddf aer glân.
O ran prydau ysgol am ddim, sy'n bolisi canolog o'r cytundeb yr ydych chi wedi ei wneud gyda Phlaid Cymru, byddwn i'n ddiolchgar ac rwy'n siŵr y byddai llawer o bobl eraill yn ddiolchgar o gael deall goblygiadau cyllidebol y polisi hwn a cheisio deall sut y mae hynny'n cydbwyso â'r angen i'r rhai sydd â'r gallu mwyaf wneud y cyfraniadau mwyaf. Nid wyf i'n siŵr ei bod yn bolisi synhwyrol galluogi cyfreithwyr, gwerthwyr tai, a chyfrifwyr i fanteisio ar brydau ysgol am ddim i'w plant pan fo'r system eisoes yn galluogi'r rhai sydd ar swyddi incwm heriol gael prydau ysgol am ddim fel dylai hi fod, yn wir. Nid wyf i o'r farn bod y bonllefau o lawenydd yn St Andrew's Crescent yng Nghaerdydd, oherwydd y byddan nhw'n cael manteisio ar brydau ysgol am ddim bellach, yn ddefnydd da iawn o adnoddau cyhoeddus gwerthfawr, a dweud y lleiaf.
Rydym ni yn cytuno ar ddiwygio amseroedd tymhorau ysgol. Rwy'n credu bod hwnnw'n gynnig synhwyrol. Rwy'n cofio pan ddes i yma am y tro cyntaf yn 2007, y bu Jane Hutt am gyfnod byr iawn yn Weinidog addysg bryd hynny, ac rwy'n cofio codi'r pwynt penodol hwnnw gyda hi. Efallai fod rhai pobl wedi anghofio hynny, ond rwyf i yn cofio codi'r pwynt hwnnw ac ar y pryd nid oedd hi'n ymddangos i mi fod llawer o fynd ar y syniad arbennig hwnnw.
Rydym ni yn awyddus i weld cynnydd yn y system ofal. Rydym ni yn awyddus i weld cynnydd o ran y gronfa diogelwch adeiladu, y mae'r rhaglen lywodraethu yn sôn amdani, ac rwyf i'n deall bod datganiad i ddod yr wythnos nesaf ynglŷn â hyn, ond mae hi'n hanfodol bwysig fod y datganiad hwnnw yn cyflwyno cynigion pendant i fynd i'r afael â'r maes allweddol hwn sy'n creu anawsterau i fywydau llawer o drigolion ar hyn o bryd.
Fe wnaethoch chi gyfeirio at ddiwygio llywodraeth leol, ac at y fformiwla ariannu yn arbennig. Pob lwc gyda hynny, ddywedwn i, a bod yn onest gyda chi. Rwyf i'n credu y byddwch chi'n cael amser heriol, a dweud y lleiaf, yn hynny o beth, Prif Weinidog. Ond dyna yw hanfod y Llywodraeth, herio'r pethau hyn a sicrhau ein bod ni'n rhoi atebion ar waith, neu a ddylwn i ddweud eich bod chi'n rhoi atebion ar waith. Ond yr hyn y byddwn i'n falch o geisio'i ddeall yw ai dull gweithredu ar ddau gam yw hwn: (1) ailbrisio i ddechrau, ac yna (2) diwygio mwy sylfaenol. Ac os felly, a fyddai'r ddwy agwedd yn cael eu cwblhau o fewn y cyfnod hwn o bum mlynedd yn y Llywodraeth, neu a fydd yr ailbrisio yn digwydd yn ystod y tymor hwn, a diwygiadau mwy sylfaenol ar ôl 2026? Rwy'n credu, yn arbennig cyn yr etholiadau llywodraeth leol fis Mai nesaf, fod angen i bobl wybod beth yw cyfeiriad y daith o ran y maes polisi pwysig hwn. Fel y gwnaethoch chi dynnu sylw ati, mae hi'n 20 mlynedd ers yr ailbrisio diwethaf, ond mae'r cymhlethdodau sy'n gysylltiedig â hynny yn heriol a dweud y lleiaf.
Y pwynt olaf yr hoffwn i ei godi gyda chi nawr yw'r comisiwn cyfansoddiadol, yr wyf i ar ddeall ei fod newydd ei roi ar waith ar hyn o bryd. I fodloni fy chwilfrydedd personol yn unig y mae hyn. Wrth ddarllen y ddogfen bartneriaeth gyda Phlaid Cymru, mae'n dweud y bydd yr adroddiad interim a'u hadroddiad terfynol yn cael eu cyflwyno i'r ddwy blaid. Hoffwn i wybod pam mae hynny wedi ei gynnwys yn y ddogfen fel sefyllfa bod yn rhaid i'r comisiwn cyfansoddiadol hwnnw gyflwyno ei adroddiad interim a'i adroddiad terfynol fel pe bai'n fater i Blaid Cymru a'r Blaid Lafur yn unig gymryd perchnogaeth o'r ddogfen honno. Felly, i fodloni fy chwilfrydedd i fy hun y mae hynny yn bennaf, ond byddwn i'n ddiolchgar pe gallech chi ateb y pwyntiau yr wyf i wedi eu cyflwyno i chi.
Wel, rwy'n diolch i arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig am y cwestiynau manwl yna, ac a gaf i ddiolch iddo am y ffordd y dechreuodd, am ei gefnogaeth i'r alwad i bobl ddod ymlaen i gael eu brechu? Mae gan bob un Aelod o'r Senedd gyrhaeddiad yn ei gymuned ei hun. Rydym ni'n cyhoeddi pethau yn gyson; rydym ni'n ceisio cyfathrebu bob amser â phobl sy'n pleidleisio yn ein hardaloedd ni, ac mae unrhyw beth y gall unrhyw un ohonom ni ei wneud i fynegi'r neges honno yn gyfraniad bach arall at adeiladu'r amddiffyniad y bydd ei angen arnom ni yng Nghymru, pe byddem ni'n gweld ton o haint omicron o'r fath y mae rhai dadansoddwyr yn ei hawgrymu.
Nid yw annibyniaeth yn ymddangos o gwbl yn y cytundeb cydweithredu. Mae'r pwnc yn un o'r pethau hynny y byddwn ni'n parhau i ddadlau llawer yn eu cylch, rwy'n siŵr, ar draws llawr y Senedd. Nid yw safbwynt fy mhlaid i wedi newid o gwbl. Rydym ni'n credu mewn cyfundrefn datganoli sefydledig, cyfundrefn o ddatganoli na ellir ei datgymalu yn ôl mympwy Llywodraeth yn San Steffan, ond ein cred ni hefyd yw ei bod hi'n well i Gymru fod mewn Teyrnas Unedig lwyddiannus a'i bod hi'n well i'r Deyrnas Unedig fod Cymru yn rhan o honno, ac rwy'n gwbl sicr y byddwn ni'n parhau i drafod y gwahanol safbwyntiau hynny.
Yn fy marn wirioneddol i, Llywydd, nid mater i mi yw craffu. Rwy'n wyliadwrus iawn o'r syniad y dylai'r Llywodraeth fod â rhan mewn llunio trefniadau i graffu ar y penderfyniadau yr ydym ni'n eu gwneud, ond fe wnaeth arweinydd yr wrthblaid bwyntiau pwysig iawn, yn bendant. Rwy'n gwybod y bydd y Pwyllgor Busnes wedi cymryd papur heddiw y bydd grwpiau yn y Senedd yn dymuno ei ystyried, ac yn y pen draw, mater i'r Senedd yw penderfynu ar ei threfniadau ei hun, ac nid i'r Llywodraeth fod â rhan uniongyrchol yn hynny.
Nid wyf i'n anghytuno â rhan o'r hyn a ddywedodd yr Aelod am amseroedd aros yn y GIG. Mae'n fater sy'n peri gofid mawr i mi fod gennym ni'r amseroedd aros yn GIG Cymru ar eu lleiaf ers 2014 ac yn parhau i leihau ar ddechrau'r pandemig ond rydym ni'n wynebu sefyllfa wahanol iawn erbyn hyn, fel pob rhan o'r Deyrnas Unedig. Rwy'n falch, i ryw raddau, o weld rhai amseroedd aros yn byrhau yn y ffigurau diweddaraf o ran rhai o'r cyflyrau mwyaf enbyd. Buom ni'n siarad am ganser yn gynharach, ac fe ostyngodd amseroedd aros o ran canser yn y cyfnod diweddaraf, ond datblygiadau bach yw'r rhain mewn sefyllfa anodd iawn, ac rydym ni'n parhau i weithio gyda Llywodraethau eraill. Os oes unrhyw syniadau nad ydym ni wedi meddwl amdanyn nhw ein hunain a all ein helpu ni i weld y cynnydd yr ydym ni'n awyddus i'w gael o ran amseroedd aros yng Nghymru, yna wrth gwrs rydym ni'n awyddus i ddysgu'r pethau hynny o unrhyw ffynhonnell a allai fod ar gael.
Mae'r rhaglen lywodraethu yn parhau i gynnwys ymrwymiad i gyflwyno Deddf aer glân i Gymru, sy'n gyson â chanllawiau Sefydliad Iechyd y Byd, ac ymestyn y ddarpariaeth o fonitro ansawdd aer, a bydd y broses honno yn dechrau yn gynnar yn nhymor y Senedd gyda Phapur Gwyn normal, ac yna fe ddaw Bil i'r Senedd ei ystyried. Rwy'n parhau i edrych ymlaen at weithio gyda rhannau eraill o'r Siambr sydd â diddordeb cyffredin yn hyn.
Mae ein barn ar y mater o brofion modd a gwasanaethau cyffredinol yn hanfodol wahanol. Rwyf i o'r farn mai prydau ysgol mewn rhai ffyrdd yw'r esiampl fwyaf amlwg o'r effaith y mae profion modd yn ei chael, oherwydd eu bod nhw'n gwaradwyddo'r bobl hynny y dylai'r system fod yn eu cefnogi. Rwy'n cofio hen, hen stori, Llywydd, y bydd fy nghyd-Weinidog Jane Hutt a rhai eraill yma yn ei chofio. Byddai cyn-arweinydd Cyngor Sir De Morgannwg, yr Arglwydd Jack Brooks, yn adrodd stori am sut yr aeth ef, yn 18 oed, i neuadd ddawnsio yma yng Nghaerdydd, yn ei ddillad gorau, ac fe welodd ferch ifanc yn croesi'r ystafell tuag ato ac roedd e'n credu efallai y byddai'r noson yn un fwy llwyddiannus nag yr oedd wedi tybio ar y dechrau, a daeth y ferch ifanc hon ato a dweud, 'Rwy'n gwybod pwy wyt ti', meddai hi, 'Jack Brooks wyt ti, onid e?' ac fe ddywedodd, 'Ie', a dywedodd hi, 'Ti oedd yr un oedd yn arfer cael prydau ysgol am ddim pan oeddem ni yn yr ysgol gynradd gyda'n gilydd.' A hyd yn oed ar yr oedran hwnnw, fe barhaodd boen y dolur a achosodd y digwyddiad hwnnw iddo byth oddi ar hynny ac mae'n rhaid mai 50 mlynedd yn ddiweddarach pan yr oedd yn dweud y stori honno wrthym ni ac roedd y graith yno o hyd, roedd hynny i'w glywed yn ei lais. A dyna pam, ar yr ochr hon i'r Siambr, ein bod ni'n credu bod gwasanaethau cyffredinol lle nad oes gwarthnod ynghlwm—. Ac wrth gwrs, dylai'r bobl yn St Andrews Crescent dalu, ond dylen nhw dalu drwy'r system drethu, system drethu raddedig sy'n cymryd mwy yn ôl oddi wrth bobl sydd â mwy i ddechrau, ac nid trwy system prawf modd lle nad yw'r bobl hynny â gwir angen am y gwasanaeth yn ei gael mewn gwirionedd, ond yn cael yr holl anfanteision sy'n mynd law yn llaw â hynny. Fe fydd fy nghyd-Weinidog Rebecca Evans yn nodi'r goblygiadau cyllidebol; rydym ni wedi gwneud darpariaeth gyllidebol briodol ar gyfer y polisi a nodir yn y cytundeb.
Diolch i Andrew R.T. Davies am yr hyn a ddywedodd am ddiwygio'r tymor ysgol a'r flwyddyn ysgol, bydd hi'n dda cael gweithio gyda'n gilydd ar hynny, ac ar faterion gofal cymdeithasol a diogelwch adeiladau. Mae'r cynnig ar gyfer diwygio llywodraeth leol yn broses ar ddau gam. Yn y tymor Senedd hwn, rwy'n awyddus i ni fynd i'r afael â'r materion anodd sy'n ymwneud â diwygio'r system bresennol, fel bydd y system bresennol mor deg ag y gallwn ni ei gwneud hi, ac ar yr un pryd, byddwn ni'n mynd ati i weithio ar y posibiliadau ar gyfer diwygio mwy sylfaenol. Cafodd llawer o waith ei wneud ar hyn yn y tymor Senedd diwethaf, ond os ydych chi am, ddywedwn ni, ddisodli'r dreth gyngor â math o drethiant gwerth tir, ni ellir gwneud hynny mewn un tymor; byddai hynny yn digwydd ar ôl y tymor presennol.
Bydd adroddiadau'r comisiwn cyfansoddiadol, wrth gwrs, ar gael i bob plaid ar ôl eu cyhoeddi ac rwy'n ddiolchgar i arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig am gynnig enwebiad i'r comisiwn. Rwy'n siŵr y bydd ei chyfranogiad yn ei drafodaethau yn ychwanegu llawer at yr her angenrheidiol yr ydych chi'n ei ddymuno mewn grŵp o bobl sydd wedi dod ynghyd i edrych ar faterion sydd mor hanfodol bwysig.
Diolch, Llywydd. Roeddwn i'n gwybod y byddai'r ymadrodd yna, 'blaendal ar annibyniaeth', yn corddi'r Torïaid; mae'n rhywbeth hawdd iawn i'w wneud y dyddiau hyn. Ond beth roeddwn i'n golygu wrth hwnna, beth oedd yn fy meddwl i, a dweud y gwir, oedd ymadrodd arall yr oedd Raymond Williams wedi'i fathu lle'r oedd e'n sôn am annibyniaeth real. Nid annibyniaeth haniaethol, ond annibyniaeth real iddo fe oedd y polisïau a oedd yn mynd i drawsnewid bywydau pobl. Ac er fy mod i a chithau, Prif Weinidog, yn anghytuno ynglŷn â dyfodol cyfansoddiadol Cymru, byddai'r ddau ohonom ni'n cytuno mai pwrpas gwleidyddiaeth, wrth gwrs, yw newid bywydau pobl.
Ac fel un a oedd, am gyfnod yn yr ysgol uwchradd, yn derbyn prydau ysgol am ddim, fe allaf i ddweud wrthych chi mai dyma yw'r foment fwyaf prowd yn fy nghyfnod i mewn gwleidyddiaeth, i weld nid yn unig y polisi hwnnw yn y cytundeb cydweithio, ond nawr, heddiw yma, yn cael ei adlewyrchu yn y rhaglen lywodraethu. Mae hynny'n rhywbeth y gallwn ni ymfalchïo ynddo fe ac, wrth gwrs, cydweithio: dwy blaid yn dod at ei gilydd gydag ysbryd cydweithredol, er mwyn beth? Er mwyn newid a thrawsnewid bywydau pobl Cymru heddiw ac, wrth gwrs, o ran ein plaid ni, hau'r hedyn ym meddyliau pobl, 'Wel, os gallwn ni wneud hyn o fewn y cyfyngiadau o ran pwerau a'r cyfyngiadau cyllidol sydd arnom ni ar hyn o bryd, dychmygwch beth allwn ni ei wneud fel cenedl os ydy'r pwerau yna i gyd yn ein dwylo ni yn y dyfodol.' Dyna oedd yn fy meddwl i wrth sôn am flaendal ar annibyniaeth.
Rwy'n croesawu'r ysbryd cydweithredol rŷch chi wedi cyflwyno'r datganiad yma heddiw ynddo. Dŷn ni ddim yn cytuno gyda phopeth sydd yn y rhaglen lywodraethu, achos rhaglen y Llywodraeth ydy hon. Er bod yna ryw chwarter o'r ymrwymiadau yn y fersiwn newydd, hynny yw, yr amcanion delifro—achos mae yna wahaniaeth, onid oes, rhwng y cytundeb cydweithio a'r hyn sydd, hyd yn oed o adlewyrchu hynny, yn y rhaglen; hynny yw, ffocysu ar yr hyn y bydd y Llywodraeth yn delifro ydych chi yn y ddogfen yma—mae tri chwarter ohonyn nhw yn bethau y tu fas i'r cytundeb cydweithio: rhai ohonyn nhw rydyn ni'n cytuno â nhw fel plaid, a byddwn ni'n eu cefnogi, a rhai eraill, byddwn ni'n dal i wrthwynebu, wrth gwrs, fel gwrthblaid adeiladol.
Mae'r ddadl hon ynglŷn â swyddogaeth y Llywodraeth a'r wrthblaid yn un ddiddorol yn fy marn i. Mae'n fy atgoffa o ymadrodd enwog gan y gwyddonydd gwleidyddol Americanaidd Robert Dahl, a ddywedodd unwaith:
'Mae dweud lle mae'r llywodraeth yn gorffen a'r wrthblaid yn dechrau yn ymarfer mewn metaffiseg.'
Roedd yn ddamcaniaethwr mawr o ran plwraliaeth mewn democratiaeth; bod pŵer, mewn gwirionedd, mewn democratiaeth wirioneddol, wedi ei ddosbarthu a bod gan bob un ohonom ni ran yn hynny—mae gan bob ohonom ni ran—mewn llunio polisïau a gwneud gwahaniaeth mewn gwirionedd. Felly, nid wyf i wedi fy argyhoeddi gan y model gwrthwynebus a sychlyd iawn hwn yn San Steffan. Mae gan bob un ohonom ni gyfrifoldeb yn y Siambr hon. Mae gan bawb nad ydyn nhw yn y Cabinet, mewn gwirionedd, gan gynnwys aelodau meinciau cefn Llafur, swyddogaeth graffu, ac mae honno'n swyddogaeth y dylem ni i gyd ei chymryd o ddifrif calon.
Ond fe ddylem fod yn gydweithredol hefyd yn ein dull o wneud gwahaniaeth. Roedd hi'n ddiddorol darllen y cyngor cyfreithiol yr ydych chi wedi ei gael gan yr Arglwydd Pannick, Llywydd, sydd wedi ei ddosbarthu i'r Aelodau y prynhawn yma. Mae'n mynd ymlaen i drafod y cytundeb cydweithredu, 'O safbwynt cyfansoddiadol, mae hi'n anodd gweld sut y gallai mabwysiadu gweithdrefn sy'n datblygu polisi drwy geisio meithrin consensws fod yn rhywbeth amhriodol, a chael cefnogaeth y rhai sy'n cynrychioli cyfran fwy o'r etholwyr yn sgil hynny'.
Dylai hynny fod wrth hanfod unrhyw system ddemocrataidd, ond yn sicr fe gafodd ei sefydlu yn egwyddorion sylfaenol y sefydliad hwn. Er mai'r rhaglen Lywodraethu yw hon—mae'n nodi'r canlyniadau yr ydych chi, mewn swydd weithredol, yn ceisio eu cyflawni—rwy'n cymeradwyo'r croeso i ymagwedd gydweithredol tuag at wleidyddiaeth, oherwydd dyna'r ffordd y gallwn ni gael, gyda'n gilydd, yn Senedd gyfan—. Gan fy mod i'n gwybod bod syniadau adeiladol, ac roeddwn i'n falch o gefnogi Bil Peter Fox o ran llunio system fwyd i Gymru. Fe all syniadau da ddod o bob man, a thrwy gydweithio gallwn ni gyflawni'r Gymru well honno y dylem ni fod yn gweithio tuag ati ar bob ochr.
Diolch yn fawr i Adam Price am ei sylwadau. Wrth gwrs, dwi'n cytuno â beth ddywedodd e am ysbryd y rhaglen rŷn ni wedi cytuno arni gyda'n gilydd. Lle allwn ni gydweithio, mae'n bwysig i ni gydweithio, ac mae hynny wedi bod yn rhan o hanes datganoli yma yng Nghymru o'r cychwyn. Mae beth rŷn ni wedi cytuno yn y tymor hwn yn rhywbeth newydd—rhywbeth rŷn ni wedi'i greu yma gyda'n gilydd yng Nghymru—ond mae'n rhan o'r traddodiad rŷn ni wedi'i greu. Ble allwn ni gydweithio, mae'n bwysig i ni wneud hynny.
Mae saith deg pump y cant o'r rhaglen lywodraethu, yn wir, y tu allan i'r cytundeb, ac fe fydd diwrnodau pan fydd gennym ni wahaniaeth barn ar lawer o'r eitemau hynny, ond dyna'n union y gwnaethom ni ei gydnabod a fyddai'n digwydd pan wnaethom ni ddechrau ar y daith i lunio'r cytundeb yr oeddem ni'n gallu ei lofnodi yr wythnos diwethaf.
Efallai fod hynny yn rhywbeth cymharol newydd yn y fan hon, yn yr ystyr mai dyma'r amlygiad diweddaraf o gydweithredu, Llywydd, ond nid yw'n beth hollol ddigynsail o gwbl mewn rhannau eraill o'r byd. Yn wir, roedd y cyngor gan Pannick a welais i yn tynnu sylw at y cytundeb rhwng y Llywodraeth Geidwadol yn San Steffan a'r Blaid Unoliaethol Ddemocrataidd, pan gawson nhw gefnogaeth i'r Llywodraeth honno o'r tu allan i'r Llywodraeth, gyda pheirianwaith cymhleth i'w gefnogi a buddsoddiad gwerth £1.5 biliwn i hwyluso'r ffordd ar gyfer y trefniadau hynny hefyd. Felly, nid oes dim yr ydym ni'n ei wneud yma nad oes cyffelybiaeth bwysig iddo mewn mannau eraill—yn Sgandinafia, yn Seland Newydd ac, yn wir, yn nes at gartref.
Rwyf wedi fy nharo, Llywydd, gan nifer y bobl sydd wedi dweud wrthyf i yn ystod yr wythnos ddiwethaf mor falch maen nhw o weld pobl yn y Senedd yn cydweithio ar agendâu heriol iawn. Rwy'n credu mai dyma'r hyn y mae pobl sydd y tu allan i'r cylch bach o wleidyddiaeth yr ydym ni'n gweithredu ynddo yn disgwyl i ni ei wneud, a phan allwn ni wneud felly, fe ddylem ni wneud hynny. Mae hynny'n wir am unrhyw ran o'r Siambr lle gellir dod o hyd i gytundeb o'r fath. A phan na allwn ni, yna mae'r ddadl sydd gennym ni a'r gwrthdaro rhwng syniadau yn caniatáu i bob un ohonom ni ystyried y syniadau yr ydym ni'n eu datblygu ac, rwy'n gobeithio, yn eu gwella yn rhan o'r broses honno.
Diolch, Prif Weinidog, am eich datganiad heddiw. Rwy'n falch iawn eich bod wedi mynegi'r neges gadarn honno ynghylch pwysigrwydd brechiadau a dosau atgyfnerthu, a fydd, wrth gwrs, yn sail i'r hyn yr ydym ni'n awyddus i'w wneud dros y cyfnod nesaf. A wnewch chi gadarnhau pwysigrwydd gorchuddion wyneb hefyd, yn ogystal â chadw pellter corfforol a golchi dwylo i'n cadw ni ein hunain a'n hanwyliaid yn ddiogel y Nadolig hwn?
Rwyf i hefyd yn croesawu'r ymrwymiad i ymestyn darpariaeth prydau ysgol am ddim, gan adeiladu ar y rhaglen lywodraethu flaenorol. Rwyf i o'r farn mai un o'r ymyriadau pwysicaf yn ystod y pandemig fu'r ddarpariaeth o brydau ysgol am ddim 365 diwrnod o'r flwyddyn i blant a phobl ifanc cymwys. Rydym yn gwybod, wrth gwrs, fod gwarant gan Lywodraeth Cymru o'r ddarpariaeth hon hyd at y Pasg 2022, ond pa ystyriaeth y mae'r Llywodraeth wedi ei rhoi i'r agwedd hon ar ei gwaith, ac a ellid ei ymestyn, i sicrhau nad yw plant a phobl ifanc yn mynd yn llwglyd yn ystod gwyliau'r ysgol?
Yn olaf, rwy'n croesawu eich sylwadau am y Cyflog Byw Gwirioneddol i'n gweithlu gofal cymdeithasol. Pryd allwn ni ddisgwyl yr wybodaeth ddiweddaraf am y camau nesaf o'r trafodaethau hynny?
Diolch i Vikki Howells am y cwestiynau yna. Mae hi'n llygad ei lle; brechu, er mai dyma'r amddiffyniad pwysicaf sydd gennym ni, nid dyna'r unig un o bell ffordd. Mae'r pethau syml hynny yr ydym ni wedi dysgu eu gwneud yn ein bywydau ein hunain—gorchuddion wyneb, pellter cymdeithasol, golchi dwylo, ac yn syml, dangos parch at bobl eraill. Os ydych chi allan ac mae llawer o bobl eraill yno hefyd, meddyliwch am y bobl eraill sydd yn yr ystafell gyda chi a'u trin â'r parch priodol. Rwyf i o'r farn fod y pàs COVID yn rhan bwysig o'r amddiffyniadau y gwnaethom ni eu datblygu yma yng Nghymru, ac mae'r camau hynny y gallwn ni eu cymryd bob dydd gyda'n gilydd, gyda'i gilydd, yn gyfystyr ag amddiffyniad pwysig.
O ran mater penodol newyn yn ystod gwyliau'r ysgol, mae'r rhaglen lywodraethu, wrth gwrs, yn ein hymrwymo i fynd ati i ddatblygu'r system o ymateb i'r gwyliau y gwnaethom ni roi cychwyn arni ar ddechrau'r tymor Seneddol diwethaf, hyd yn oed pan nad oedd arian ar gyfer unrhyw beth, oherwydd bod ein cyllidebau ni wedi eu cwtogi flwyddyn ar ôl blwyddyn. Pan oeddwn i'n Weinidog cyllid, un o'r pethau yr oeddwn i'n fwyaf balch ohonyn nhw oedd y ffaith ein bod ni wedi dod o hyd i arian yn y flwyddyn gyntaf honno i ddechrau system genedlaethol o gymorth i bobl ifanc er mwyn iddyn nhw gael digon i'w fwyta yn ystod y gwyliau. Yn fwy na dim ond pryd o fwyd, ond y profiad cyfan hwnnw o gael pobl ifanc yn gallu mynd i'r ysgol, a chanolbwyntio ar faeth, cynnwys y rhieni, a choginio prydau gyda'i gilydd, a dysgu drwy hwyl, ac ymarfer corfforol—yr ystod gyfan honno o faterion y mae ein Rhaglen Gwella Gwyliau’r Haf, y rhaglen i gyfoethogi gwyliau ysgol, wedi gallu eu darparu mewn nifer cynyddol o ysgolion, flwyddyn ar ôl blwyddyn, hyd at ddechrau'r pandemig, ac wedyn yn ystod gwyliau'r ysgol eleni. Mae'r rhaglen lywodraethu yn ein hymrwymo ni i barhau i ymestyn y gwaith hwnnw.
Prif Weinidog, rwy'n sylwi bod y rheoliadau parthau perygl nitradau, nad oedden nhw wedi eu cynnwys yn y rhaglen lywodraethu wreiddiol a gafodd ei gyhoeddi fis Mehefin, wedi eu cynnwys yn y rhaglen lywodraethu ddiweddaraf. Ar bennod dydd Sul Politics Wales y BBC, roeddech chi'n dweud na fyddai'r rheoliadau parth perygl nitradau yn cael eu diddymu o gwbl—ac rwy'n dyfynnu—'ni fu erioed fwriad i fod â rhyw fath o ddull cyffredinol'. Felly, os mai dull gweithredu Cymru gyfan ond wedi ei dargedu oedd bwriad y Llywodraeth hon erioed, yna beth yn union mae Plaid Cymru wedi ei gyflawni yn y cytundeb cydweithredu i ffermwyr, o gofio eu bod nhw wedi gwrthwynebu'r rheoliadau parth perygl nitradau yn flaenorol? Ac os, fel yr ydych chi'n ei ddweud, Prif Weinidog, na fydd unrhyw newidiadau i'r polisi parth perygl nitradau, a yw'r dystiolaeth, felly, sy'n cael ei chasglu ar hyn o bryd a'r argymhellion sydd i'w cyflwyno gan Bwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig yn gwbl ofer? Diolch.
Mae arnaf i ofn, Llywydd, fod yr Aelod wedi camddeall yn llwyr yr hyn yr ydym ni wedi ei gytuno. Nid yw'n fater o beidio â newid y polisi o gwbl—ond yn fater o beidio â newid y rheoliadau a basiwyd ar lawr y Senedd hon tua diwedd y tymor diwethaf. Mae'r rheoliadau hynny yn parhau ar y llyfr statud ac ni fyddwn yn eu dirymu. Ond, wrth gwrs, fe fyddwn ni'n gwrando yn astud ar waith y pwyllgor; mae'r cytundeb yn ein hymrwymo ni i weithio yn agos gyda'r gymuned ffermio ynglŷn â'r ffordd y caiff y rheoliadau hynny eu defnyddio, er mwyn gwneud yr hyn y mae pob Aelod yn y Siambr hon yn dymuno ei weld yn digwydd yn fy marn i. Mae llygredd yn y diwydiant ffermio yn digwydd flwyddyn ar ôl blwyddyn; ac nid yw'r rhifau yn lleihau dim. Mae difenwad y diwydiant yn sylweddol ac mae'n cronni flwyddyn ar ôl blwyddyn, gan ein bod ni'n methu â mynd i'r afael â ble mae'r anawsterau yn digwydd. Mae'r cytundeb yn ein hymrwymo ni i ddefnyddio'r rheoliadau mewn ffordd sy'n canolbwyntio ar y meysydd hynny lle ceir yr anhawster mwyaf. Mae hynny'n gyson iawn â'r ffordd y byddwn i'n awyddus i weld y rheoliadau yn cael eu defnyddio. Os cawn ni gyngor oddi wrth y pwyllgor ynghylch sut y gallwn ni ddefnyddio'r rheoliadau i leihau llygredd amaethyddol, i amddiffyn enw da y diwydiant, i sicrhau ei barhad, fel y gwna cynifer o ffermwyr, wrth weithio'n galed i ennill enw da am ansawdd y cynhyrchion y maen nhw'n eu darparu, yna fe fydd hwnnw'n ganlyniad da iawn i ni.
Diolch i'r Prif Weinidog am ei ddatganiad. Dwi'n croesawu cyhoeddi'r rhaglen yma sydd wedi'i hehangu ac wedi'i diwygio i adlewyrchu y meysydd yna lle mae Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru wedi gallu canfod y tir cyffredin yna i gydweithio arno fe. Ac, wrth gwrs, rŷn ni wedi cadw ffocws digyfaddawd yn y trafodaethau hynny ar sicrhau lles pobl Cymru, newid bywydau pobl Cymru er gwell, fel dywedodd Adam Price, a lles democratiaeth Cymru yn ehangach hefyd, wrth gwrs.
Dwi'n siŵr y byddech chi'n cytuno gyda fi, Prif Weinidog, bod hwn yn dangos fod modd cyflawni mwy drwy gydweithio, lle mae modd gwneud hynny, yn hytrach na'r cystadlu efallai rŷn ni'n ei gysylltu yn aml gyda Seneddau eraill o fewn yr ynysoedd yma. Ond mae hwn yn gerbyd neu yn gyfrwng nawr i daclo rhai o'r meysydd polisi yna, yn fy marn i, lle mae angen yr arweiniad cryfach. Maen nhw'n feysydd lle mae angen yr ewyllys wleidyddol fwyaf penderfynol i fynd i'r afael â nhw. Dwi'n meddwl yn benodol am bethau fel yr argyfwng hinsawdd, fel yr argyfwng tai, fel y diffyg democrataidd, i enwi dim ond tri maes.
Mae mapio y llwybr i sero net erbyn 2035 i fi yn ddatganiad clir o fwriad, bod Cymru eisiau ymuno â'r gwledydd a'r rhanbarthau yna sydd wedi dangos yr uchelgais mwyaf ar wyneb y ddaear yma o safbwynt mynd i'r afael â beth sydd, wrth gwrs, yn un o heriau mwyaf dynoliaeth. A dyw uchelgais byth yn aros yn llonydd, yn enwedig yn y cyd-destun yma. Dwi wedi dweud yn y gorffennol bod yna ormod o bobl yn y byd yma sy'n trio mynd hanner ffordd lan y mynydd ac yn llwyddo; mae'n rhaid inni anelu at y copa. Ac, ocê, rŷn ni'n ddigon pragmatig fan hyn i dderbyn weithiau wnawn ni ddim cyrraedd y copa, ond mi awn ni'n bellach na hanner ffordd. Ac felly, mae'r uchelgais yna yn rhywbeth sy'n sicr yn rhywbeth sydd angen inni ymrwymo iddi hi.
Yr argyfwng tai—
Dwi angen cwestiwn i'r Prif Weinidog nawr.
Gwnes i ofyn a oedd y Prif Weinidog yn cytuno â fi.
Rŷch chi dros eich amser ddwywaith, Llyr Gruffydd, felly gofynnwch y cwestiwn terfynol nawr.
Doeddwn i ddim yn deall bod yna gyfyngiad amser.
Mae'n amlwg bod y Torïaid yn pryderu cryn dipyn am y cytundeb cydweithredu, a beth, tybed, yw asesiad y Prif Weinidog o'r rheswm am hynny. Gan ein bod ni i gyd yn cofio, fel y gwnaethoch chi gyfeirio ato, y rhodd o £1 biliwn gan y Torïaid—ai oherwydd ein bod ni wedi dangos y ffordd briodol o negodi cytundeb seneddol gyda thryloywder llawn o ran gweithrediad y cytundeb hwn yr ydych chi'n credu eu bod nhw wedi cynhyrfu fel hyn?
Diolch i Llyr Gruffydd am y sylwadau. Dim ond 30 o bleidleisiau sydd gyda ni yn y Blaid Lafur yma ar lawr y Senedd, ac os ydyn ni eisiau bwrw ymlaen gyda phethau radical ac uchelgeisiol, dydy hwnna ddim yn ddigonol. A dyna pam bod y cytundeb yn bwysig, achos mae'r cytundeb yn canolbwyntio ar y meysydd sydd yn anodd i'w cario ymlaen heb fwy o gefnogaeth.
Dyna yn hollol pam yr wyf i wedi bod o'r farn bod cytundeb mor bwysig. Rwy'n cofio dweud wrth arweinydd Plaid Cymru, yn un o'r trafodaethau cynharaf a gawsom ni, nad oedd cytundeb ar bethau hawdd yn apelio rhyw lawer i mi, oherwydd mae'n debyg y gallwn ni wneud y pethau hawdd beth bynnag. Yr hyn yr oeddwn i'n dymuno ei gael oedd cytundeb ar bethau anodd, pethau heriol, a fyddai, heb i ni allu llunio cytundeb, yn golygu dirywio'r cyfleoedd o allu gwneud y cynnydd y byddai pobl yng Nghymru, yn fy marn i, yn elwa arno o ganlyniad i'r cytundeb.
Yn ysbryd cydweithrediad y prynhawn yma, efallai, Llywydd, byddaf i'n dweud, mewn gwirionedd, nad wyf i wedi clywed gwrthwynebiad sylfaenol i'r syniad o gytundeb gan arweinydd yr wrthblaid. Yn hytrach na hynny, fe glywais i bryderon o ran craffu a gwahaniaethau barn ar bolisïau penodol, ac rwy'n disgwyl hynny'n gyfan gwbl, ond ni chlywais i yng nghyfraniad Andrew R.T. Davies, anghytundeb sylfaenol ynghylch y ffaith y gall pleidiau yn y Siambr hon ddod i gytundeb, a gallu cydweithio wedyn i gyflawni'r canlyniadau hynny.
Diolch, Prif Weinidog, am eich datganiad prynhawn yma. Dwi eisiau jest canolbwyntio ar un peth os gwelwch yn dda, a hynny yw iechyd meddwl.
Yn ystod y cyfnod yn union cyn y pandemig, dioddefodd 11.7 y cant o Gymry broblemau iechyd meddwl difrifol. Cododd y gyfran hon hyd at 28.1 y cant ym mis Ebrill 2020, gan effeithio yn arbennig ar bobl ifanc a phlant yn ystod y cyfnod hwnnw. Felly, roeddwn yn meddwl tybed a allwn i ofyn am rywfaint o eglurder ynghylch beth yw'r ymrwymiad yn y trefniant gyda Phlaid Cymru i wella'r llwybrau atgyfeirio y sonnir amdanynt i driniaeth, a sut y bydd hynny'n digwydd yn ymarferol, yn enwedig i bobl ifanc.
Ac, yn ail, os caf i ofyn: gall argyfyngau iechyd corfforol godi ar unrhyw adeg o'r dydd neu'r nos, mae hynny'n wir hefyd am argyfyngau iechyd meddwl. Ac ni fyddwn yn sicrhau parch cydradd rhwng materion iechyd corfforol a meddyliol oni bai bod gennym wasanaeth gofal argyfwng 24/7. A gaf i ofyn pa syniadau sydd gennych chi i symud hynny ymlaen o fewn y cytundeb? Diolch yn fawr iawn.
Wel, diolch i Jane Dodds am y cwestiwn, ac, wrth gwrs, dwi'n cytuno am bwysigrwydd iechyd meddwl, yn enwedig gyda phobl ifanc, fel dwi wedi'i ddweud fwy nag unwaith ar lawr y Senedd. Bob tro dwi'n cwrdd gyda grwpiau o bobl ifanc, mae lles ac iechyd meddwl yn codi bob tro.
Ac mae un pwynt yn y cytundeb rhyngddom ni â Phlaid Cymru yn y maes iechyd meddwl. Mae hwnna'n rhywbeth penodol, a bydd y Gweinidog gyda chyfrifoldeb am iechyd meddwl yn mynd i weithio ar hwnna. Ond, wrth gwrs, mae hwnna'n jest un peth mewn rhan fwy o'r rhaglenni sydd gyda ni yn y maes iechyd meddwl.
Pan fydd y gyllideb ddrafft yn cael ei gosod, Llywydd, rwy'n credu y bydd aelodau'n gallu gweld buddsoddiad parhaus ym maes ehangach iechyd meddwl, gan gynnwys gwasanaethau brys ac argyfwng sy'n mynd y tu hwnt i'r rhan benodol o iechyd meddwl yr ydym wedi gallu cytuno arni fel rhan o'n cytundeb cydweithredu. A gobeithio, pan fydd yr Aelod yn gweld y gyllideb, y bydd yn cydnabod yr effaith mae hi ac Aelodau eraill yn y Siambr wedi'i chael pan fyddan nhw wedi tynnu sylw'n rheolaidd at yr effaith mae'r pandemig wedi'i chael ar iechyd meddwl ein pobl ifanc yn benodol.
Rwyf innau hefyd, Prif Weinidog, yn diolch i chi am eich datganiad, ac rwyf am ofyn am gyfleusterau cymunedol iechyd meddwl, y sonnir amdanyn nhw yn eich cytundeb â Phlaid Cymru—rydych chi'n dweud eich bod am gael cyfleusterau sy'n cael eu rhedeg gan staff hyfforddedig yn y trydydd sector, ac mae hyn yn rhywbeth yr wyf i'n ei gefnogi i bobl ifanc oherwydd rydym ni'n gweld atgyfeiriadau gan wasanaethau iechyd meddwl plant a'r glasoed yn codi, a rhestrau aros yn mynd yn hirach. Yn syml, ni all rhai pobl aros ar restr aros tra bod eu problemau'n gwaethygu. Mae'n nodi y bydd llwybrau cyfeirio clir i wasanaethau'r GIG sydd â phroblemau iechyd meddwl neu les emosiynol brys.
Felly, a allwch chi roi rhywfaint o eglurder a sicrwydd i ni, pan gaiff y bobl ifanc hynny eu cyfeirio i'r GIG, y bydd y gwasanaethau hynny y bydd eu hangen yno ar frys i'r bobl hynny, oherwydd nid wyf yn credu ei bod yn dderbyniol iddyn nhw gael eu hatgyfeirio ac yna gorfod aros misoedd a misoedd a misoedd am apwyntiad? Diolch, Llywydd.
Diolch i'r Aelod; mae hwnnw'n bwynt pwysig. Fe wnes i gyfarfod yn ddiweddar â sefydliad trydydd sector llwyddiannus iawn ym maes iechyd meddwl, ynghyd â'r Gweinidog, Lynne Neagle. Ac mae'r pwynt a drafodwyd gennym yno yn un y gwn fy mod wedi'i ymarfer droeon yma yn y Senedd, mai'r rheswm pam mae pobl ifanc weithiau'n aros yn rhy hir yw oherwydd bod gormod o bobl yn y ciw am apwyntiad nad oes angen y math hwnnw o wasanaeth arno. Ac yr oedd y sefydliad trydydd sector, yr oeddwn i'n meddwl, yn gallu dangos yn argyhoeddiadol iawn, gyda'u lefel llawer is, nad yw'n glinigol, mai dim ond y ffracsiwn llawer llai hwnnw o bobl ifanc yr oedd angen gwasanaeth gwirioneddol arbenigol arnyn nhw, aeth ymlaen wedyn i chwilio am y gwasanaeth hwnnw. Ac oherwydd bod llai o bobl yn dod drwy'r drws, yna roedd y gwasanaeth arbenigol hwnnw'n gallu eu gweld yn gyflymach. Felly, dyna pam rydym yn sôn am lwybrau atgyfeirio. Rydym am sicrhau bod y gwasanaethau bob dydd hynny, heb eu stigmateiddio, ar gael i bobl ifanc sy'n mynd drwy gyfnod anodd yn y busnes anodd o dyfu i fyny, yn enwedig o dan amgylchiadau eithriadol pandemig. Maen nhw'n cael yr help sydd ei angen arnyn nhw gan bobl hyfforddedig, sy'n gallu ymateb i'r lefel honno o angen, ond mae'r bobl hynny hefyd yn ddigon medrus a chymwys i allu nodi'r bobl ifanc hynny sydd angen rhywbeth y tu hwnt i'r hyn y gallan nhw ei gynnig, ac yna dim ond y bobl ifanc hynny sy'n symud ymlaen i'r gwasanaethau hynny, gan sicrhau eu bod ar gael yn gyflymach o ganlyniad.
Hoffwn ddiolch i chi, Prif Weinidog, am eich datganiad ar y rhaglen lywodraethu yma heddiw, a'r ysbryd o gydweithredu a amlinellwyd. Roeddwn wrth fy modd eich bod wedi cyfeirio at y ffaith bod Llywodraeth Lafur Cymru wedi addo yn yr ymgyrch etholiadol i greu gwasanaeth cerddoriaeth genedlaethol newydd. Felly, braf oedd gweld y Gweinidog addysg yn cadarnhau y bydd £6.8 miliwn ar gael ar gyfer dysgu yn y celfyddydau creadigol yn y cwricwlwm, a cherddoriaeth yn rhannol, gan roi gwell mynediad i fyfyrwyr at offerynnau cerdd. Ac rwy'n croesawu'n arbennig ymrwymiad Jeremy Miles y bydd yr offerynnau'n cael eu dosbarthu yn y lle cyntaf i ddysgwyr sy'n llai tebygol o fod yn gallu cael gafael arnyn nhw eisoes, fel y rhai sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim. Mae hwn yn ddechrau addawol i gyflawni ein hymrwymiad datganedig. Prif Weinidog, pryd fydd prosesau addysgu a dysgu'r gwasanaeth cerddoriaeth newydd i Gymru yn cael eu darparu, a beth mae'n ei ddweud wrth bobl Cymru ynghylch pa mor werthfawr mae Llywodraeth Lafur Cymru yn ystyried mynediad i addysg gerddorol? Pa fesurau pellach, Prif Weinidog, y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau nad oes unrhyw blentyn yng Nghymru yn cael ei adael ar ôl?
Dirprwy Lywydd, gallaf ddweud yn onest nad oeddwn i'n gwybod bod Rhianon Passmore y tu ôl imi yn ystod y datganiad—fel arall, byddwn i wedi gwneud hyd yn oed mwy o'r buddsoddiad a gyhoeddodd Jeremy Miles mewn gwasanaethau cerddoriaeth. Rwy'n siŵr fy mod ymhell iawn o fod yr unig Aelod o'r Senedd a gafodd offeryn yn yr ysgol i roi cynnig arno, i weld a fyddwn yn mynd ymlaen—fel y gwnes i bryd hynny, i ddysgu chwarae'r clarinet. Ac oni bai am y ffaith bod offeryn yno i mi roi cynnig arno, ni fyddai hynny byth wedi digwydd. Nid oedd yn hawdd dod o hyd i arian ar gyfer offeryn yn y tŷ y cefais fy magu ynddo, ond roedd fy rhieni, ar ôl gweld yr hyn y gallwn i ei wneud, yn ymrwymedig iawn i sicrhau fy mod yn mynd ymlaen i fwynhau hynny. Ac roeddwn i'n ffodus iawn, iawn o gael fy magu yn y traddodiad Cymreig mawr hwnnw o gerddorfeydd ysgol, cerddorfeydd sirol, cerddorfeydd ieuenctid cenedlaethol. Roedd yn rhan ffurfiannol o fy magwraeth, ac rydym am sicrhau bod pobl ifanc yng Nghymru yn mynd ati i allu chwarae rhan lawn yn hynny'n union. Mae'r gwasanaeth cerdd cenedlaethol yn ymrwymiad am bum mlynedd y tymor, oherwydd nid arian yn unig, fel y gwn i y bydd Rhianon yn gwybod yn iawn, yw'r ateb i gyd. Mae problem y gweithlu, a'r gweithlu medrus, a sicrhau bod cyfleusterau i bobl ifanc allu eu mwynhau hefyd. Ond mae'n ymrwymiad pwysig yno yn y rhaglen lywodraethu, ac rwy'n falch iawn ein bod wedi gallu rhoi rhywfaint o amlygrwydd iddo y prynhawn yma.
Cyfeiriodd y Prif Weinidog yn ei ddatganiad at rai o'r prif newidiadau sydd wedi eu gwneud i'r rhaglen lywodraethu yn sgil y cytundeb cydweithio rhwng Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru. Heb os, mae'r ymrwymiad i gyflwyno prydau ysgol am ddim i bob plentyn ysgol gynradd, ac i ymestyn gofal plant am ddim i bob plentyn dwyflwydd oed, yn ddau gam ymarferol sydd yn mynd i elwa miloedd o deuluoedd yn uniongyrchol, ac yn mynd i wneud cyfraniad mawr at liniaru effaith y cynnydd mewn costau byw aelwydydd, a chreu Cymru fwy cyfiawn i bawb. A dyna pam mae sefydliadau gwrth-dlodi, fel Sefydliad Bevan, wedi croesawu'r cytundeb. A wnaiff y Prif Weinidog ymuno â mi wrth roi cydnabyddiaeth ddyladwy a diolch am y cyfraniad y mae nifer o grwpiau gwrth-dlodi a mudiadau ymgyrchu, fel Cynulliad y Werin, wedi ei wneud dros nifer o flynyddoedd, i arwain at fabwysiadu'r polisïau yma, sydd nawr wrth galon rhaglen y llywodraeth heddiw?
Ac fel un sydd hefyd wedi bod yn ymgyrchu dros brydau ysgol am ddim i bob plentyn, rwy'n hynod falch fod y Llywodraeth nawr am flaenoriaethu ehangu prydau ysgol yn enwedig. Rwy'n siŵr fod y Llywodraeth yn gytûn ei fod yn gam cyntaf pwysig yn yr ymgyrch i ddileu'r lefel gywilyddus o dlodi plant yng Nghymru, ond yn cytuno gyda Sefydliad Bevan a grwpiau eraill bod angen mynd ymhellach pan fo adnoddau yn caniatáu. Ac, wrth i'r polisïau blaengar yma gael eu rhoi ar waith, mae'n drueni fod y Blaid Geidwadol, nad sydd wedi ennill yr un etholiad yng Nghymru, yn milwrio yn erbyn yr ymdrechion i drechu tlodi. Y toriad cywilyddus i'r credyd cynhwysol yn un o'r enghreifftiau diweddaraf o hynny. Felly, Prif Weinidog, beth allwn ni wneud, yn sgil y cytundeb, i sicrhau nad yw polisïau o'r fath, nad oes mandad iddyn nhw yma yng Nghymru, yn cael eu gorfodi ar ein pobl ac yn tanseilio'r camau mawr yma ymlaen?
Wel, Dirprwy Lywydd, diolch yn fawr i Sioned Williams, a dwi'n cytuno ein bod ni'n lwcus. Rydym ni yn lwcus yng Nghymru i gael nifer o asiantaethau yn y trydydd sector a phobl sy'n gwneud ymchwil sy'n ein helpu ni i greu polisïau sy'n addas i'r pethau rydym ni'n wynebu yma yng Nghymru, ac, wrth gwrs, pwrpas y cyrff yna yw rhoi pwysau arnom ni i wneud mwy. Ac mae hwnna'n grêt, onid yw e? Rydyn ni'n lwcus i gael pobl sy'n fodlon ymdrechu fel yna a dangos inni sut gallwn ni wneud mwy nag oeddem ni yn disgwyl gwneud. Wrth gwrs, i fi, fel Prif Weinidog, y peth cyntaf yw canolbwyntio ar bethau rydym ni wedi cytuno i wneud yn y cytundeb, ac i wneud popeth rydym ni'n gallu i fynd ar ôl popeth rydym wedi cytuno gyda'n gilydd. Ond cael cymorth oddi wrth bobl tu fas y Senedd, ac yn enwedig pobl sy'n canolbwyntio ar y maes tlodi plant—wel, wrth gwrs, rydym yn lwcus i'w cael nhw.
Ac, yn olaf, Gareth Davies.
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. A diolch i chi am eich datganiad y prynhawn yma, Prif Weinidog. Er bod eich cytundeb gyda Phlaid Cymru—neu a ddylwn ddweud clymblaid ym mhopeth ond enw, yn ôl llawer o'ch aelodau meinciau cefn eich hun, o leiaf—wedi creu llawer iawn o stŵr i lawr yma yn swigen Caerdydd, nid yw'n golygu fawr ddim i'r gweithiwr gofal yng ngogledd Cymru sy'n ei chael yn anodd cael dau ben llinyn ynghyd ar lai o gyflog na rhywun sy'n gweithio yn siop leol Lidl. Prif Weinidog, sut mae'r diweddariad hwn yn rhoi unrhyw eglurder i'r sector gofal? Pryd y bydd staff gofal yn gweld cyflog gweddus a gwell amodau? Sut y bydd ymgynghori ar wasanaeth gofal cenedlaethol yn sicrhau gwelliannau y mae mawr eu hangen i'r ddarpariaeth gofal yng Nghymru? Pa amserlenni yr ydych yn eu rhoi ar ddeddfu i integreiddio iechyd a gofal ymhellach?
Ac, yn olaf, Prif Weinidog, mae eich cyhoeddiad ar ddileu elw o ofal plant eisoes yn effeithio ar y sector, gan fod darparwyr gofal yn ei chael hi'n anodd sicrhau cyllid i agor cyfleusterau gofal newydd. Sylwaf eich bod wedi rhoi'r gorau i'r ymrwymiad hwn i gyflawni'r nod afresymol ac afrealistig hwn yn ystod tymor y Senedd hwn. Pryd ydych chi'n bwriadu dileu elw o ofal, o gofio bod y sector preifat yn darparu 80 y cant o ofal? Oni fyddai'n well rhoi'r gorau i'r nod yn gyfan gwbl? Siawns na ddylem ganolbwyntio ymdrechion ar sicrhau bod plant yn cael gofal o ansawdd da yng Nghymru, yn hytrach na mynd ar drywydd fendeta dogmatig yn erbyn y sector gofal preifat. Diolch.
Wel, rwyf yn anghytuno'n llwyr. Rwy'n credu bod pwynt sylweddol ar y diwedd yno, ac, mae arnaf ofn, mae'r Aelod wedi'i gael yn gwbl anghywir. Rwyf yn falch iawn o'r ffaith ein bod wedi ymrwymo i ddileu'r gwaith o geisio gwneud elw preifat yng ngofal plant yma yng Nghymru. Mae gennyf gof byw o'r adroddiad a baratowyd gan y comisiynydd plant ar ein cyfer, pan oedd menyw ifanc yn sôn am y ffordd y gwelodd ei hun wedi cael ei rhoi ar wefan a'i gofal yn cael ei gynnig i'r cwmni a oedd yn barod i'w wneud y rhataf, ac nid dyna'r ffordd rwyf am weld ein plant yng Nghymru yn derbyn gofal. Mae taith yma. Rhaid i ni feithrin gallu ein gwasanaethau cyhoeddus i ddarparu'r gofal hwnnw'n nes at ble mae pobl ifanc yn byw, ac i ofalu am fwy o blant lle mae teuluoedd yn cael trafferth yn nes at eu cymunedau eu hunain. Ond dyna'r ffordd i ofalu am blant, yma yng Nghymru, lle mae'r arian mae'r cyhoedd yn ei ddarparu yn cael ei neilltuo'n gyfan gwbl i ofal y plant hynny, heb i gynyddrannau gael eu tynnu ymaith, a bron bob amser cael eu tynnu allan o Gymru hefyd, i elw cwmnïau preifat. Efallai ei fod yn meddwl bod hynny'n syniad da; ar yr ochr hon i'r Siambr, yn sicr nid ydym yn gwneud hynny.
Diolch i'r Prif Weinidog.