– Senedd Cymru am 3:21 pm ar 19 Ionawr 2022.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r ddadl ar ddeiseb ar adfer sgrinio serfigol i bob tair blynedd, a dwi'n galw ar Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau i wneud y cynnig—Jack Sargeant.
Diolch yn fawr, Llywydd. Ar ran y Pwyllgor Deisebau, diolch am y cyfle i gyflwyno'r ddadl ar y ddeiseb bwysig hon heddiw.
Fel y gŵyr yr Aelodau, mae'r newid diweddar yn y trefniadau sgrinio serfigol yng Nghymru wedi bod o gryn ddiddordeb i'r cyhoedd. Mae'r ddeiseb hon i'r Senedd, 'Adfer sgrinio serfigol i bob tair blynedd' wedi casglu 30,133 o lofnodion mewn tri diwrnod yn unig, ac mae deiseb debyg ar blatfform change.org wedi derbyn dros 1.2 miliwn o lofnodion hyd yn hyn. Lywydd, i roi hyn mewn persbectif, mae hynny dros 100,000 yn fwy o bobl nag a bleidleisiodd yn etholiadau'r Senedd fis Mai diwethaf. Mae hyn yn gwbl ryfeddol ac mae'n dangos cryfder y teimladau a'r pryderon ynghylch iechyd menywod yng Nghymru.
Nid wyf yn esgus bod yn arbenigwr meddygol, ond yr hyn sy'n amlwg i mi yw bod menywod ledled Cymru eisiau ac yn haeddu atebion. Mae’r deisebydd, Joanne Stroud, yn angerddol ynglŷn â phwysigrwydd sgrinio rheolaidd, ac mae’n falch fod proses ddeisebau’r Senedd wedi sicrhau y bydd ei llais yn cael ei glywed ar lawr y Siambr hon heddiw. Mae ei deiseb yn cynrychioli ofnau, siom a gofid miloedd o fenywod ynglŷn â sut a pham y digwyddodd y newid hwn. Felly, Lywydd, fe wnaethom ofyn i’r deisebydd gau’r ddeiseb ar ôl tridiau yn unig, er mwyn ei chyflwyno i'r Pwyllgor Deisebau yr wythnos diwethaf, ac fe wnaethant gytuno i ofyn iddi gael ei hystyried ar gyfer dadl ar unwaith. Rwy’n ddiolchgar i’r Llywydd ac aelodau’r Pwyllgor Busnes am ei gwneud hi'n bosibl cynnal y ddadl hon heddiw, ac rwy'n ddiolchgar hefyd i’r Ceidwadwyr Cymreig am gynnig peth o’u hamser yn y trafodion heddiw. Hoffwn ddiolch hefyd, ar ran y pwyllgor, i Gareth a Mared a’r tîm clercio ehangach am eu holl waith ar y ddeiseb bwysig hon.
Ddechrau mis Ionawr, ymestynnodd Sgrinio Serfigol Cymru y cyfnod sgrinio arferol ar gyfer pobl 25 i 49 oed o dair i bum mlynedd. Argymhellwyd y newid gan Bwyllgor Sgrinio Cenedlaethol y DU yn 2019 oherwydd llwyddiant y broses o gyflwyno’r brechlyn feirws papiloma dynol a'r defnydd o, a dyfynnaf, sgrinio serfigol ‘mwy cywir’. Cyhoeddwyd hyn ar 4 Ionawr a ffrwydrodd storm ar y cyfryngau cymdeithasol—yn herio, cwestiynu a cheisio eglurhad ynghylch pam y byddai cyfnod hwy rhwng sgriniadau serfigol sy'n gallu achub bywydau. Dylai penderfyniad a newid mor bwysig fod wedi cael ei esbonio’n ofalus ac yn llawn a’i gyfathrebu'n effeithiol i bob menyw yng Nghymru. Mae'r cyfryngau cymdeithasol yn ardderchog ar gyfer llawer o bethau, ond ni ddylid bod wedi'u defnyddio fel y ffordd o gyhoeddi mater mor bwysig.
Rwy'n gobeithio y bydd y ddadl hon heddiw yn rhoi cyfle i wrando ar y pryderon sydd gan fenywod yng Nghymru, ac i glywed ffeithiau ynghylch pam fod y newidiadau wedi’u gwneud i’r fframwaith sgrinio. Bydd llawer o fenywod heb gael cynnig y brechlyn feirws papiloma dynol (HPV) hynod effeithiol, a gyflwynwyd yn 2008. Iddynt hwy, y cwestiwn allweddol yw a yw’n bosibl dod i gysylltiad â HPV a bod problemau yn datblygu yn y bwlch pum mlynedd rhwng sgriniadau. Gwn y bydd llawer ohonoch wedi darllen e-byst pryderus tebyg i’r rhai a gefais gan fenywod yn fy etholaeth sy’n teimlo eu bod yn dioddef yn sgil mesurau torri costau ac arbed amser mewn cyfnod o bwysau aruthrol ar ein GIG.
Lywydd, yn ei deiseb, mae Joanne yn datgan ei phryderon fod y newidiadau pwysig hyn wedi’u gwneud heb ymgynghoriad cyhoeddus, gan nodi mai’r ymateb i’r cyhoeddiad ar 4 Ionawr oedd, a dyfynnaf,
'dicter, tristwch a phryderon difrifol am iechyd serfigol menywod Cymru.'
Mae’n rhannu pryderon a chwestiynau miloedd o bobl yng Nghymru ynglŷn ag a fyddai’r newid hwn yn arwain at ganfod canserau yn hwyrach, gan arwain at driniaeth, a dyfynnaf eto,
'fwy ffyrnig, hir a chostus' a fydd yn bygwth bywydau yn y pen draw.
Mae’r pryderon hyn wedi cael llawer o sylw yn y cyfryngau ac ar y cyfryngau cymdeithasol yn dilyn y cyhoeddiad ddechrau’r mis. Ac fel y soniais ar ddechrau fy nghyfraniad, mae dros filiwn o bobl wedi llofnodi deiseb debyg ar change.org, yn pwysleisio’r ofnau gwirioneddol, y pryder gwirioneddol a’r trallod gwirioneddol sy’n deillio o’r cyhoeddiad, a wnaed heb ddigon o eglurder nac esboniad ynghylch pam y gwnaed y newid.
Rwy’n falch o weld bod Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi ymddiheuro ar y cyfryngau cymdeithasol, gan gydnabod na wnaethant ddigon i egluro’r newidiadau, a greodd gymaint o ddryswch a chymaint o bryder. Ers hynny, maent wedi darparu mwy o wybodaeth i egluro'r penderfyniad ac wedi ceisio tawelu meddyliau menywod. Roedd eu strategaeth gyfathrebu yn amlwg yn ddiffygiol a dweud y lleiaf, a hoffwn alw arnynt i ystyried yn ofalus ac adolygu eu polisi ar gyfer y dyfodol. Mae gwybodaeth glir o ansawdd uchel yn hanfodol wrth rannu gwybodaeth a negeseuon mor bwysig. Wrth gyfathrebu â thrigolion, dylech wneud yn union hynny. Onid yw yn apwyntiadau nesaf pawb? Oni fyddai hynny wedi bod yn llawer haws, ac onid dyna'r adeg i rannu'r neges bwysig hon?
Mae'n rhaid imi ddweud fy mod hefyd yn siomedig na chafodd newid mor arwyddocaol o ran iechyd y cyhoedd ei gyhoeddi gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar lawr ein Senedd cyn y newidiadau.
Drwy gydol eu hoes fel oedolion, mae menywod wedi cael gwybod am beryglon gohirio profion ceg y groth, y gallai ymweliad sydyn â'r meddyg bob tair blynedd wneud byd o wahaniaeth. Ni ddylai fod yn syndod fod cyhoeddi oedi o ddwy flynedd drwy Twitter wedi achosi cymaint o ddicter. Dylem ni, fel Aelodau o’r Senedd, fel eu cynrychiolwyr, fod wedi cael cyfle i drafod eu hofnau a’u pryderon yn agored, ac i’r Gweinidog egluro’r rhesymau sy'n sail i’r newid.
Weinidog, darllenais yr adroddiadau gan weithwyr meddygol proffesiynol gyda chryn ddiddordeb y bore yma, ac roeddent yn tynnu sylw at y brechlyn fel datblygiad hollbwysig, ac rwy’n derbyn hyn. Byddwn yn falch pe baech yn defnyddio eich ymateb i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Siambr am ganran y menywod yng Nghymru sydd wedi cael eu brechu. Hoffwn eich annog hefyd i ddefnyddio eich ymateb i fynd i’r afael â’r gwactod gwybodaeth a ddeilliodd o'r ffordd y cafodd hyn ei gyhoeddi, ac yn y gwactod hwnnw, rwy’n ymwybodol o fenywod ifanc ledled Cymru sydd wedi cael eu targedu gan hysbysebion Facebook yn eu hannog i dalu £500 am y brechlyn. Mae hyn wedi fy mhoeni'n fawr.
Lywydd, cyn imi gloi, hoffwn ddiolch i Joanne am gyflwyno'r ddeiseb i’r Senedd fel bod y pryderon pwysig hyn ynglŷn ag iechyd menywod yn cael eu trafod yma yn ein Senedd heddiw. Ceir oddeutu 166 o achosion newydd o ganser ceg y groth yng Nghymru bob blwyddyn yn ôl Cancer Research UK. Mae sgrinio i ganfod pwy sydd mewn perygl neu sydd â chanser yn hanfodol. Gall achub bywydau, gan sicrhau bod menywod neu bobl â serfics yn cael y driniaeth sydd ei hangen arnynt.
Drwy gyd-ddigwyddiad, cynhelir ddadl hon yn ystod Wythnos Atal Canser Ceg y Groth, ac rwy'n gobeithio y bydd yn cyfrannu at y gwaith o godi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd a manteision sgrinio serfigol. Ceir llawer o bobl nad ydynt yn manteisio ar gyfleoedd sgrinio am wahanol resymau. Mae angen i bob un ohonom gefnogi’r ymgyrch i godi ymwybyddiaeth ac anelu at gynyddu’r niferoedd sy’n manteisio ar gyfleoedd sgrinio er mwyn diogelu bywydau.
Lywydd, edrychaf ymlaen at glywed cyfraniadau’r Aelodau y prynhawn yma, ac edrychaf ymlaen at ymateb y Gweinidog, a hyderaf y bydd yn ateb cwestiynau’r nifer o fenywod a lofnododd y ddeiseb hon, a deisebau tebyg. Diolch yn fawr.
Rwy'n croesawu'r cyfle i gael dadl ar hyn yn y Senedd heddiw, yn enwedig yn ystod wythnos ymwybyddiaeth canser, fel y mae Jack Sargeant newydd ei nodi, ac o ystyried cryfder teimladau menywod ynglŷn â hyn, ac i gefnogi menywod, ar y newidiadau arwyddocaol hyn a wnaed. A diolch i Jack Sargeant a'r Pwyllgor Deisebau, y Llywodraeth a'r Llywydd, am ganiatáu i hyn ddigwydd mor gyflym. Mae'r teimladau a fynegwyd wedi bod yn eithriadol o gryf, fel y dangoswyd gan y nifer fawr o lofnodion ar y ddeiseb, fel y nododd Jack yn gynharach, gyda’r ystadegyn rhyfeddol, fel y nododd, fod 100,000 yn fwy o bobl wedi'i llofnodi nag a bleidleisiodd yn etholiadau ein Senedd.
Rwy'n bryderus iawn nad oedd y penderfyniad i ymestyn yr amser rhwng sgriniadau canser ceg y groth o dair i bum mlynedd wedi ei hyrwyddo yn y ffordd gywir a gofalus roedd ei hangen i sicrhau bod hanner poblogaeth Cymru yn cael eu haddysgu'n briodol ar y newidiadau hynod arwyddocaol hyn. Roedd y ffordd y torrwyd y newyddion i fenywod ar hyd a lled ein gwlad yn gywilyddus, gyda phennawd bachog ar y cyfryngau cymdeithasol yn arwain at banig. Nid yw hwnnw'n ddefnydd gwael o'r gair; cafwyd panig ymhlith menywod a theuluoedd ledled Cymru oherwydd, fel y nododd Mr Sargeant yn gynharach, cawsom ein dysgu ers blynyddoedd am yr amseru a pha mor bwysig yw yn dal canser ceg y groth cyn gynted â phosibl.
Roedd y diffyg gwybodaeth a ddilynodd y pennawd bachog hwnnw'n rhagdybio bod pawb yn gwybod pam fod hyn yn digwydd, y byddai pawb yn gwybod bod y newid yn digwydd o ganlyniad i ddatblygiad cadarnhaol mewn gwyddoniaeth, yn hytrach nag estyniad brawychus o ddwy flynedd pan na fyddai modd sgrinio menywod fel y caent eu sgrinio'n flaenorol a phan na fyddai celloedd canser yn cael eu canfod. Mae pobl yn gwybod yn iawn, pan fyddwch yn cael diagnosis, y gall hynny olygu'r gwahaniaeth rhwng bywyd a marwolaeth—dyna sut y cawsom ein dysgu. Achosodd y diffyg gwybodaeth gan y Llywodraeth hon ac Iechyd Cyhoeddus Cymru ar ddatblygiad a newid mor bwysig bryder a gofid ar draws ein gwlad, a phryder am ddatblygu canser ceg y groth a pheidio â'i ddal mewn pryd. Ac i deuluoedd hefyd roedd panig, yn enwedig y rhai sydd wedi colli pobl i ganser ceg y groth.
Mae'n dod â rhywfaint o gysur i mi fod Ymddiriedolaeth Canser Ceg y Groth Jo a Cancer Research UK yn cefnogi'r newid hwn, fel yr amlinellir heddiw. Ond mae angen tynnu sylw menywod at hyn a'r rhesymau drosto. Oherwydd bod y cyfathrebu mor warthus ar hyn, rhaid imi gyfaddef fy mhanig fy hun i ddechrau wrth glywed y newyddion. A gallaf gofio'r sefyllfa ofnadwy a ddioddefodd Jade Goody, un o gyn sêr Big Brother i'r rhai nad ydynt yn gwybod, tra'n dioddef o ganser ceg y groth. Cafodd amser erchyll o fod wedi methu ei ddal yn ddigon cynnar; nid aeth i'w sgriniadau. Ac o ganlyniad bu farw—o, mae'n fy nhristau—gan adael ei dau fachgen ifanc ar ôl. Roedd yn emosiynol iawn. Mae'n ddrwg gennyf, nid wyf am grio, ond roedd yn ymgyrch a chyfnod emosiynol, a'r hyn a ddigwyddodd o hynny, o ganlyniad, oedd bod nifer fawr o fenywod, nad oeddent hyd yn oed wedi meddwl amdano—nid oedd wedi bod ar eu radar hyd yn oed—wedi mynd i gael eu profi. Roedd yn drawmatig iawn ar y pryd, ac yn amlwg, mae'n dal i fod felly. Ond roedd hi'n ddewr iawn, a defnyddiodd ei statws fel seren er daioni, ac aeth â phawb ar y daith honno gyda hi tan ei marwolaeth drist. Fe barodd i lawer o fenywod weithredu, a chynyddodd y nifer a aeth am brawf ceg y groth yn sylweddol. Roedd yr ymgyrch gyhoeddusrwydd a ddilynodd yn llwyddiant ysgubol, a gofynnaf i Lywodraeth Cymru ystyried gwneud rhywbeth tebyg.
Mae'n amlwg fod angen ymgyrch sylweddol i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd yn awr, yn enwedig o ystyried y neges glir yn sgil y ffaith bod dros filiwn o bobl wedi llofnodi deiseb yn gwrthwynebu'r newid hwn. Mae hyn yn dweud wrthyf fod llawer iawn mwy o fenywod allan yno o hyd sydd angen gwybod y rhesymau am y newid hwn o dair i bum mlynedd. Roedd ymddiheuriad gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn wych, ond bydd llawer o fenywod allan yno na fyddant wedi gweld yr un postiad hwnnw ar y cyfryngau cymdeithasol a byddant yn dal i fethu deall pam y mae'r newidiadau arwyddocaol hyn wedi digwydd a'r hyn a olygant.
Pan gafodd y rhesymau dros newid eu rhoi i mi, daeth â pheth cysur i mi ar y dechrau—nid yn gyfan gwbl, oherwydd ceir enghreifftiau, fel y gwelwyd ar y cyfryngau cymdeithasol, fel y mae eraill wedi'u gweld, rwy'n siŵr. Mae yna bobl sy'n dal i lithro drwy'r rhwyd oherwydd, gyda'r newid, bydd rhai pobl yn datblygu celloedd canseraidd na chaiff eu canfod o fewn y ffrâm amser honno. Ond i'r mwyafrif, bydd y datblygiad technolegol hwn yn golygu y bydd celloedd HPV yn cael eu canfod yn gynt, ac mae hynny i'w groesawu'n fawr. A bydd yn golygu i'r rhan fwyaf o bobl y bydd ganddynt fylchau hwy yn awr rhwng sgriniadau, sy'n hollol iawn. Ond mae'n rhaid inni sicrhau'n bendant nad ymarfer torri costau yw hwn, fel y dywedodd Jack, ac y bydd hi 100 y cant yn ddiogel inni wneud hyn.
Weinidog, mae llawer o bryderon o hyd, oherwydd fel y dywedais yn gynharach, gall y feirws orwedd yn segur am flynyddoedd lawer heb fod unrhyw arwydd na symptom o haint. Ac er fy mod wedi gweld llawer o negeseuon e-bost ynghylch sgrinio canser serfigol gan etholwyr dros y pythefnos diwethaf, daliodd un yn arbennig fy sylw. Daeth gan fenyw 30 oed a oedd wedi datblygu canser ceg y groth cam 1, a oedd, diolch byth, wedi ei ganfod yn ei thrydydd prawf ceg y groth. Pe bai'r prawf hwnnw wedi'i ohirio am ddwy flynedd arall, mae'n debyg y byddai'r canser wedi datblygu a gallai fod wedi ei gwneud yn anffrwythlon neu ei lladd.
Mae llawer o waith i'w wneud o hyd—
Mae angen i chi ddod i ben yn awr.
—ar wella cyfleoedd bywyd i fenywod sy'n datblygu canser ceg y groth, ac ofnaf na fydd yr estyniad hwn o ddwy flynedd yn cyfrannu at achub mwy o fywydau. Mae cymaint mwy i'w wneud o hyd.
Ddirprwy Lywydd, rwyf am ailadrodd yn awr y galwadau a wneuthum yr wythnos diwethaf i'r Prif Weinidog a'r Llywodraeth hon, ac rwy'n eu hannog yn gryf, ac Iechyd Cyhoeddus Cymru, i lansio ymgyrch ymwybyddiaeth y cyhoedd i helpu i hysbysu ein dinasyddion yng Nghymru am y datblygiadau sylweddol sydd wedi digwydd. Mae angen inni fynd ati i annog mwy o bobl i fynd am sgriniad serfigol nag a wnaeth hynny yn ddiweddar. Ni fydd y newidiadau newydd hyn yn gweithio ac ni fyddant yn effeithiol oni bai bod pawb bellach yn mynd am sgriniad newydd gyda'r dechnoleg sgrinio newydd hon. Diolch yn fawr iawn.
Diolch am y cyfle i wneud cyfraniad byr i'r ddadl hon. Ac yn gyntaf, gadewch imi ddweud cymaint rwy'n cydymdeimlo â'r holl bobl, y miloedd lawer, sydd wedi siarad am eu pryderon dwfn am y newid yn y trefniadau sgrinio canser ceg y groth. Mae sgrinio, wrth gwrs, wedi dod yn rhan werthfawr o'r arfogaeth ataliol ym maes iechyd menywod, ac mae llawer o fywydau wedi'u hachub drwy ddiagnosis cynnar yn deillio o'r rhaglen sgrinio. Ac fe achosodd y cyhoeddiad sydyn y byddai profion bob tair blynedd yn newid yn brofion bob pum mlynedd gymaint o ofid a phryder i bobl. A rhaid imi ddweud, fy ymateb i oedd anghrediniaeth: ai dyma ganlyniad y pwysau presennol ar y GIG, canlyniad arall systemau dan straen?
Ond wrth geisio dysgu mwy am y newid, yr hyn a ddaeth yn amlwg yw ein bod yn sôn nid am israddio'r mesur diogelu iechyd amhrisiadwy hwn, ond am fethiant difrifol i gyfathrebu newid sy'n newid cywir mewn gwirionedd, a newid y dylem ei ddathlu fel cam ymlaen mewn gofal iechyd ataliol. Rwy'n hynod ddiolchgar i'r sefydliadau, Cancer Research UK ac Ymddiriedolaeth Canser Ceg y Groth Jo yn benodol, am gamu i mewn gydag esboniadau ynglŷn â pham y mae'n newid cadarnhaol, pam y mae datblygiadau mewn technoleg yn golygu bod profi am y feirws HPV, sy'n achosi'r mwyafrif llethol o ganserau serfigol, yn caniatáu inni ganfod yr hyn a allai arwain yn y pen draw at fwy o risg, yn ddigon cynnar mewn gwirionedd i ganiatáu pum mlynedd rhwng profion os na cheir tystiolaeth o HPV. Yn y gorffennol, roedd sgrinio'n edrych am newidiadau mewn celloedd, dechrau canser; yn awr gallwn ddod o hyd i arwyddion cynharach o'r hyn a allai arwain ato yn y pen draw a chaniatáu felly ar gyfer ymyrraeth fwy amserol.
Nawr, a gaf fi dynnu sylw'r Aelodau at y datganiad barn a gyflwynais yr wythnos hon, yn dilyn trafodaeth gydag Ymddiriedolaeth Canser Ceg y Groth Jo, i nodi ei bod hi'n Wythnos Atal Canser Ceg y Groth yr wythnos hon, a mynegi eto pa mor hanfodol yw sgrinio? Mae'r datganiad yn mynegi gofid fod newidiadau diweddar i'r rhaglen sgrinio serfigol—y ffordd y cawsant eu cyfathrebu—wedi achosi pryder a dryswch, ac yn annog Gweinidogion ac Iechyd Cyhoeddus Cymru i flaenoriaethu gwaith i adfer hyder yn y rhaglen drwy gyfathrebu clir ac uniongyrchol i ateb y pryderon sydd gan gynifer o bobl. Nawr, rwyf wedi ysgrifennu at y Gweinidog iechyd yr wythnos cyn diwethaf, rwy'n credu, i ofyn i'r cyfathrebu uniongyrchol hwnnw ddigwydd. Mae'n rhaid iddo ddigwydd. Mae'r ffordd yr ymdriniwyd â'r newid hwn gan Lywodraeth Cymru a'i hasiantaethau wedi achosi cryn dipyn o bryder, a mater i'r Llywodraeth a'i hasiantaethau yw unioni hynny.
Nawr, gobeithio y bydd hon yn wers go iawn ynglŷn â phwysigrwydd cael cyfathrebu'n iawn, ac ar yr un pryd, gobeithio y bydd yn ein hatgoffa ynghylch pwysigrwydd sgrinio. Rhaid inni annog mwy o bobl i ddod i gael eu sgrinio, fel y gallwn fod yn hyderus y gall cynifer o fenywod â phosibl roi cyfle iddynt eu hunain gael diagnosis cynnar.
Ar 4 Ionawr, cyhoeddodd Iechyd Cyhoeddus Cymru y gwelliant pwysig hwn i'r gwasanaeth sgrinio serfigol. Er ei bod yn siomedig na lwyddasant i ddarparu cyd-destun i ddangos pam ei fod yn welliant, yn hytrach na lleihad yn y gwasanaeth, mae'n hawdd edrych yn ôl. A gallaf weld pam na chafodd newid a gyflwynwyd bron i ddwy flynedd yn ôl yn Lloegr a'r Alban ei ystyried yn ddadleuol mewn unrhyw ffordd. Roedd yn dilyn yr hyn roedd yr arbenigwyr wedi dweud wrthym oedd y ffordd orau o weithredu'r gwasanaeth penodol hwn. Yn amlwg, mae'n anffodus iawn fod dros 30,000 o bobl wedi teimlo'n ddigon dig ynglŷn â'r hyn y cawsant eu perswadio ei fod yn doriad i'r gwasanaeth, yn hytrach na gwelliant, i lofnodi'r ddeiseb hon. Ond nid wyf yn credu bod parhau â'r anghywirdeb o unrhyw fudd o gwbl.
Cynhelir y ddadl hon ar y prynhawn pan fo pob un ohonom wedi cael cyfle i ofyn cwestiynau i'n Gweinidog iechyd. Felly, ar flaen ein meddyliau mae gennym y meysydd darpariaeth iechyd lle gallwn i gyd gytuno bod angen inni wneud yn well, boed hynny'n anhwylderau bwyta, ADHD, colli clyw, presgripsiynu cymdeithasol, neu, yn gynharach, mynychais gyfarfod ar ganser yr ofari a gynhaliwyd gan Mark Isherwood. Ar yr holl bethau hyn mae angen inni wneud yn well, ac ni fyddai neb yn y Senedd yn anghytuno â hynny. Felly, rhaid imi ailadrodd nad yw peidio â newid yn opsiwn i ni. Ein dyletswydd yw sicrhau ein bod yn ail-lunio gwasanaethau'n gyson i ddiwallu anghenion ein poblogaeth yn well, a'n bod yn darparu'r gwerth gorau gydag adnoddau cyfyngedig yn gyson. Cefais fy ngeni yn yr oes pan oedd pobl yn cael tynnu eu tonsiliau a'u hadenoidau fel mater o drefn pan oeddent yn saith oed, ac roedd mynd â phlentyn o ofal ei rieni ar gyfer rhywbeth y profwyd ei bod yn ymyrraeth gwbl ddibwrpas, oni bai bod problemau penodol iawn, yn brofiad trawmatig i blentyn.
Felly, fel gyda COVID, mae angen inni ddilyn y dystiolaeth wyddonol ddiweddaraf, ac mae'r arbenigwyr yn dweud wrthym yn glir iawn mai HPV sy'n achosi 99.7 y cant o ganserau serfigol. Dyna pam ein bod yn cynnig y brechlyn HPV i rai yn eu harddegau er mwyn difa'r feirws HPV ac fel na all achosi canserau serfigol yn y dyfodol, pan fydd y bobl sydd wedi elwa o'r brechlyn wedi tyfu'n oedolion. Felly, rhaid inni gydnabod bod y sgriniad serfigol wedi newid yn sylweddol. Mae'n llawer mwy sensitif, yn llawer mwy cywir ac mae bellach yn edrych yn gyntaf am bresenoldeb HPV. A thrwy leihau'r cyfnod o amser pan gaiff menywod eu sgrinio, mae'n ei gwneud yn bosibl rhyddhau amser i ganolbwyntio ar y lleiafrif bach o'r boblogaeth fenywaidd sy'n peri pryder, lle mae ganddynt HPV yn bresennol yn eu celloedd a gallant fod yn elwa o sgriniadau gwell byth i sicrhau, pe baent yn datblygu canser serfigol, y bydd yn cael ei ganfod yn gynharach.
Treuliais flynyddoedd lawer o fy mywyd, cyn imi ddod yn Aelod o'r Senedd, yn ceisio helpu i gynyddu cyfraddau sgriniadau canser ceg y groth. Felly, rwy'n siomedig iawn, er gwaethaf yr holl dystiolaeth a gyflwynwyd gan Cancer Research UK ac Ymddiriedolaeth Canser Ceg y Groth Jo, fod Laura Jones wedi penderfynu ei bod am barhau i gyflwyno datganiad barn am y wybodaeth anghywir a roddwyd i bobl. Nid yw hyn yn iawn. Ydy, mae'n Wythnos Ymwybyddiaeth o Sgrinio Serfigol yr wythnos hon, ac mae'n wythnos bwysig iawn, am mai'r bobl y mae angen inni ganolbwyntio arnynt yw'r bobl nad ydynt byth yn dod am sgriniad canser. Y math o bobl rydym yn sôn amdanynt yw pobl sydd â chyfrifoldebau gofalu ac nad oes ganddynt rywun y gallant adael eu plentyn gyda hwy er mwyn mynd am sgriniad, pobl sydd mewn gwaith ar drefniant dim oriau ac felly'n methu cymryd amser o'u gwaith er mwyn mynd am eu hapwyntiad sgrinio.
Felly, un o'r ffyrdd y gallwn elwa o'r ffrwydrad hwn o gyhoeddusrwydd i stori eithaf diangen yw canolbwyntio ar sut y gallwn wella cyfraddau'r menywod ifanc sy'n dod i gael eu sgrinio, neu sy'n cael sgriniad canser. Ac rwyf am ganolbwyntio'n benodol ar y peilot sgrinio yn y cartref sydd wedi bod ar y gweill yng Ngholeg King's Llundain, mewn ardal lle ceir lefelau rhagweladwy o isel o bobl yn mynd i'r apwyntiad sgrinio rheolaidd oherwydd—
Rhaid i'r Aelod ddirwyn i ben yn awr.
O'r gorau. Hoffwn glywed gan y Gweinidog sut y mae hynny'n cymharu â sgrinio coluddion sy'n digwydd gyda phobl dros 60 oed, oherwydd yn amlwg unwaith eto, dyma rywbeth sy'n digwydd yng nghartrefi pobl, nid oes angen iddynt fynd am apwyntiad, nid oes angen iddynt deithio i weld y nyrs sy'n mynd i wneud y sgrinio. Mae hon yn ffordd bwysig iawn o sicrhau bod canser ceg y groth yn rhywbeth sydd mor brin fel nad yw'n bodoli, bron iawn.
Wrth inni nodi Wythnos Atal Canser Ceg y Groth, hoffwn wneud pwynt cyffredinol ar y dechrau, sef nad yw merched bob amser yn cael digon o addysg am eu cyrff—mae'n wir am fechgyn hefyd, wrth gwrs. Gall cyfuniad o embaras, diffyg dealltwriaeth, cywilyddio corfforol hyd yn oed, ymffurfio o'r adeg pan fydd merched yn eithaf ifanc, ac mae'n sicr fod y ffactorau hynny'n cyfrannu at y ffaith nad yw un o bob tair menyw yn mynd i'w hapwyntiad sgrinio serfigol pan gânt eu gwahodd. Clywsom eisoes yn y ddadl am y miloedd o fenywod a fydd yn cael gwybod bob blwyddyn fod ganddynt newidiadau yng nghelloedd ceg y groth, felly rhaid inni ddod o hyd i ffyrdd gwell o siarad am y materion hyn a normaleiddio'r broses o fynd am brawf ceg y groth.
Ar y ddeiseb hon yn benodol, y newidiadau i brofion ceg y groth rheolaidd, dywedwyd eisoes eu bod wedi cael eu cyfathrebu'n wael iawn, a bod hynny wedi achosi pryder y gellid bod wedi ei osgoi. Mae'r esboniad a roddwyd inni gan Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi tawelu meddyliau llawer o bobl, ond ers cyhoeddi'r newid hwnnw mae menywod sy'n dal yn nerfus wedi cysylltu â mi. Roeddwn am godi'r pryderon hynny yma fel y gallwn gael atebion adeiladol iddynt gan y Gweinidog. Mae rhai etholwyr wedi codi'r ffaith—mae eisoes wedi'i nodi—y gall haint HPV glirio o fewn blwyddyn neu ddwy, sy'n golygu y gallai haint fod wedi clirio erbyn i brawf gael ei wneud. Mae'r etholwyr hynny wedi holi sut y gallai rhywun sy'n edrych ar y canlyniadau wedyn wybod a yw'r haint wedi achosi newidiadau i gelloedd os nad ydynt yn chwilio am y newidiadau hynny. Cafodd etholwraig arall ddiagnosis o ganser cam 1 yn 30 oed yn 2021 a chafodd y canser ei ganfod yn ystod ei phrawf ceg y groth tair blynedd. Pe bai hi wedi aros am ddwy flynedd ychwanegol, mae hi'n poeni y gallai'r canser fod wedi datblygu llawer mwy ac effeithio ar ei ffrwythlondeb o bosibl, neu rywbeth llawer mwy difrifol.
Nawr, fel y dywedais, dylai'r prawf newydd weithio'n dda iawn i'r rhan fwyaf o'r rhai sydd wedi cael y brechlyn HPV, sy'n amlwg yn rhywbeth i'w groesawu'n fawr, oherwydd bydd hynny wedi lleihau nifer yr achosion o newidiadau celloedd annormal. Ni fydd pawb wedi cael cynnig y brechlyn hwnnw, a gwn y bydd menywod, yn enwedig yn eu 30au, wedi colli'r cyfle hwnnw oherwydd mae hynny'n wir yn fy achos i hefyd. Felly, yn yr un modd, hoffwn glywed mwy am yr hyn y gellid ei wneud i dawelu meddyliau menywod ynglŷn â hynny. Mae pryder arall sydd gan rai o fy etholwyr yn ymwneud â menywod a allai ddatblygu canser ceg y groth nad yw'n gysylltiedig â HPV. Mae'n debyg y byddent yn cael eu gadael heb eu sgrinio, felly pa ddarpariaeth y gellid ei gwneud ar eu cyfer hwy os gwelwch yn dda? Rwyf wedi codi'r pryderon hyn er mwyn cael eglurder i'r etholwyr sy'n dal i deimlo'n anesmwyth ynglŷn â'r newid hwn.
Weinidog, gellid bod wedi osgoi hyn i gyd wrth gwrs pe bai neges wedi mynd allan cyn i'r graffig hwnnw gael ei rannu ar y cyfryngau cymdeithasol. Deallaf wrth gwrs y bydd gwersi wedi'u dysgu ynglŷn â hyn, ond ochr yn ochr â'r ymholiadau penodol hynny hoffwn ofyn sut y bydd Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ceisio mynd i'r afael ag unrhyw arwydd a allai ddatblygu fod y neges anghywir yn cael ei chyfleu i fenywod—hynny yw, nad yw mor bwysig iddynt fynd i gael prawf ceg y groth. Gwn nad dyna a olygir gyda'r newid hwn mewn unrhyw ffordd, ond unwaith eto gallai gwactod ddatblygu i'r rhagdybiaethau anghywir gael eu gwneud, oni bai ein bod yn llenwi'r gwactod hwnnw. Dywedodd un etholwraig wrthyf ei bod hi'n bwysig mynd hyd yn oed os nad ydych yn credu bod angen i chi fynd, fel ymweld â'r deintydd, ac mae'n bwysig iawn nad yw negeseuon iechyd y cyhoedd yn annog menywod yn anfwriadol i beidio â mynd i gael eu sgrinio. Felly, byddwn yn ddiolchgar am unrhyw wybodaeth y gallai'r Gweinidog ei darparu wrth grynhoi'r ddadl a allai leddfu'r pryderon y soniais amdanynt sydd gan fy etholwyr.
Ond y pwynt hanfodol y byddwn yn ei wneud wrth gloi, Ddirprwy Lywydd, yw bod angen i ni, unwaith eto, sicrhau bod menywod o bob oed yn teimlo bod profion ceg y groth yn normal, nad ydynt yn rhywbeth i boeni yn eu cylch. Pan oeddwn yn yr ysgol, byddai pobl yn sôn amdanynt o dan eu gwynt, fel pe baent yn bethau i arswydo rhagddynt—nid yr athrawon, dylwn ddweud, ond disgyblion eraill—a chefais yr argraff y byddent yn boenus iawn. Mewn gwirionedd, i'r rhan fwyaf o fenywod, mae'n gwbl ddi-boen; ychydig yn lletchwith—nid oes angen iddo fod yn lletchwith. Ond rwy'n credu bod angen inni ddod o hyd i ffyrdd o fynd i'r afael â'r naratif hwn, ac mae'n digwydd am fod gormod o'r pynciau hyn yn cael eu hystyried yn bynciau tabŵ ac am na chânt eu trafod.
Diolch i Jack fel Cadeirydd y Pwyllgor Deisebau am sicrhau y gellid cynnal y ddadl hon ar fyr rybudd.
Nid yw sgrinio serfigol yn brofiad dymunol a dweud y lleiaf, ac rwy'n siŵr nad fi yw'r unig fenyw yng Nghymru i fod wedi gohirio neu gasáu mynychu apwyntiad sgrinio, ond rydym hefyd yn deall mai sgrinio serfigol yw un o'r apwyntiadau pwysicaf y gallwn eu mynychu fel menywod ac yn ddi-os, mae'n achub bywydau. Mae'r camau gwyddonol a wnaed i sicrhau bod y prawf ar gyfer HPV yn fwy cywir yn newyddion gwych a dylid ei ddathlu. Ond roedd y ffordd y gwnaed y cyhoeddiad yn warthus a gwnaeth i lawer o fenywod deimlo'n bryderus, yn rhwystredig ac yn ddryslyd. Mae'r ffaith bod y ddeiseb hon wedi cyrraedd dros 30,000 o lofnodion dros gyfnod o ddiwrnod neu ddau yn dyst i gryfder y teimladau. Er y cafwyd yr ymddiheuriad i ddilyn y cyhoeddiad, ymddiheuriad a oedd yn cynnwys llawer mwy o wybodaeth, mae llawer o fenywod yn dal i deimlo'n ddig, ac rwy'n un ohonynt.
Mae wedi cymryd cenedlaethau a chenedlaethau o fenywod i frwydro i gael rheolaeth dros eu cyrff eu hunain. Dylai menywod gael hawl i benderfynu pryd yr hoffent fynychu eu hapwyntiad sgrinio, boed hynny bob tair blynedd neu bum mlynedd, neu unrhyw adeg yn y canol, beth bynnag am y prawf gwell. I lawer o fenywod, mae bywyd yn mynd yn y ffordd, boed hynny oherwydd gwaith neu ofal plant. Ac os ydym yn onest, yn amlach na pheidio, credaf ein bod yn gadael i fywyd fynd yn y ffordd. Gwyddom fod tair blynedd rhwng apwyntiadau sgrinio wedyn yn mynd yn debycach i bedair neu bump. Os ydym am weld newid o dair i bum mlynedd, i rai menywod gallai hyn ddod yn hyd at 10 mlynedd yn hawdd.
Diben apwyntiadau sgrinio serfigol, yn bennaf oll, yw canfod HPV, ond gwyddom i gyd, pan fyddwch yn mynychu'r prawf ceg y groth hollbwysig, nid y prawf ei hun yw'r unig beth y byddwn yn ei drafod, ond y pecyn llesiant cyfan. Gan ein bod ar ein mwyaf hyglwyf yn ystod y prawf ceg y groth, rydym weithiau'n teimlo'n fwy abl i gael y trafodaethau mwy anghyfforddus sydd fel arfer yn cael eu gohirio. I rai menywod, fel y rhai sy'n profi cam-drin domestig, efallai mai eu hapwyntiad sgrinio serfigol yw'r unig adeg y gallant weld gweithiwr gofal iechyd proffesiynol ar eu pen eu hunain. Nid ymwneud â sgriniad ar gyfer HPV yn unig y mae'r apwyntiadau hyn, maent yn ymwneud â'r pecyn ehangach o archwiliadau a gofal sydd ar gael iddynt. Byddai cynyddu'r cyfnod rhwng yr apwyntiadau hyn yn niweidiol i fenywod a'u lles. Gadewch inni gydnabod y camau gwyddonol enfawr rydym wedi'u gwneud, ond heb gamu'n ôl ar hawl menywod i benderfynu, yn enwedig mewn materion yn ymwneud â'u llesiant.
Galwaf ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Eluned Morgan.
Diolch yn fawr. Diolch am y cyfle i ymateb i'r ddadl heddiw. Gwn ei bod wedi cynhyrchu ymatebion cryf iawn ar draws ein cymunedau, ac mae'r cywair a'r angerdd a welsom yn y ddadl y prynhawn yma yn dangos bod hyn wedi cyffwrdd â llawer iawn o bobl. Felly, hoffwn ddiolch i bobl am gymryd rhan yn y sgwrs, ond yn amlwg mae angen dysgu gwersi yma.
Fel y dywedodd pawb, daw hyn yn sgil deiseb yn galw ar Lywodraeth Cymru i adfer y drefn sgrinio serfigol bob tair blynedd. Cyhoeddwyd hyn gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ar 4 Ionawr a'r syniad oedd ymestyn y cyfnod sgrinio rheolaidd ar gyfer pobl rhwng 25 a 49 oed o dair i bum mlynedd os na cheir HPV risg uchel yn eu prawf sgrinio serfigol. A bydd hynny'n sicrhau bod y cyfnod sgrinio yn cyd-fynd â'r hyn ydyw i rai rhwng 50 a 64 oed.
Mae nifer wedi tynnu sylw y prynhawn yma at y ffordd y cafodd hyn ei gyfathrebu. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi ymddiheuro a chyfarfûm â hwy yn gynharach yr wythnos hon, ac roeddent yn hynod o awyddus i ddweud wrthyf eu bod wedi dysgu'r gwersi, eu bod yn deall y dicter a'r pryder a deimlai pobl oherwydd eu methiant i gyfathrebu mewn ffordd ddigonol. Ac rwy'n credu ei bod hi'n bwysig fod Iechyd Cyhoeddus Cymru bellach yn adolygu ei ddull o gyfathrebu negeseuon iechyd y cyhoedd yn dilyn yr adborth hwnnw.
Mae'n bwysig nodi na fydd y newid yn y cyfnod yn berthnasol i'r rhai y canfyddir bod ganddynt HPV risg uchel, gyda neu heb newidiadau celloedd, gan y byddant yn cael cynnig sgriniad blynyddol a phrofion pellach yn ôl yr angen. A dyna'r pwynt, yr hyn a wnawn yma yw canolbwyntio'n wirioneddol ar y bobl sy'n wynebu mwy o risg. Fel y mae nifer wedi'i nodi heddiw, cefnogwyd y newid hwn yn llawn gan y prif elusennau canser, ac mae'n rhaid imi bwysleisio nad yw hyn wedi'i wneud i arbed adnoddau. Mae buddsoddi mewn gwasanaethau ataliol, megis sgrinio, a chanfod canserau ar gamau cynharach yn eu gwneud yn haws ac yn fwy costeffeithiol i'w trin.
Nid yw'r newid wedi'i wneud ychwaith oherwydd llwyddiant y rhaglen frechu HPV mewn ysgolion, er bod honno wedi bod yn llwyddiannus, a gofynnodd Jack beth yw'r cyfraddau. Y cyfraddau yr wythnos diwethaf o ran y nifer sy'n manteisio ar y brechlyn ym mlwyddyn 8, sef pobl ifanc 12 i 13 oed, oedd tua 71 y cant. Felly, mae'n llawer llai nag y byddem wedi'i obeithio, ond byddwn yn ceisio cyflwyno rhaglen imiwneiddio dal i fyny—yn amlwg, bu'n flwyddyn lle cafwyd llawer o darfu ar ein hysgolion. A dim ond yn awr y mae'r bobl sydd wedi cael y brechiad yn cyrraedd y garfan oedran ar gyfer y rhaglen sgrinio, er y disgwylir y dylai'r cyfuniad o frechu a sgrinio arwain at gyfraddau sylweddol is o ganser ceg y groth yn y dyfodol agos.
Mae Llywodraeth Cymru yn dilyn cyngor Pwyllgor Sgrinio Cenedlaethol y DU, a argymhellodd y dylai pob gwlad weithredu'r prawf sgrinio serfigol newydd a'r newid yn y cyfnod rhwng profion oherwydd bod y dull profi newydd yn fwy cywir. Pwyllgor cynghori gwyddonol annibynnol yw Pwyllgor Sgrinio Cenedlaethol y DU sy'n adrodd i bob un o bedwar prif swyddog meddygol y DU, ac mae'n cael ei gydnabod yn fyd-eang am ei arbenigedd a'i drylwyredd academaidd. Mae'n galw am lefel uchel iawn o dystiolaeth, a seilir ei argymhellion ar flynyddoedd o ymchwil ac ymgynghori â'r cyhoedd. Ac rwy'n tybio mai dyna yw achos y rhwystredigaeth gyda hyn, y dylai fod wedi bod yn newyddion da a rywsut neu'i gilydd, mae wedi creu teimlad gwirioneddol o bryder yn ein cymunedau.
Nod y rhaglen sgrinio serfigol yw lleihau nifer yr achosion o ganser ceg y groth a'r nifer sy'n marw ohono. Mae'n gwneud hyn drwy ganfod a thrin newidiadau yng ngheg y groth cyn iddynt ddatblygu'n ganser. Ond rwy'n credu ei bod hi'n bwysig dweud nad prawf am ganser ei hun yw'r prawf newydd a gyflwynwyd yng Nghymru yn 2018, cyn unrhyw ran arall o'r Deyrnas Unedig. Mae'n helpu i ddiogelu rhag canser ceg y groth drwy ganfod y feirws sy'n ei achosi. Mae sgrinio cyfredol yn chwilio am bresenoldeb feirws papiloma dynol risg uchel, sy'n achosi bron bob canser ceg y groth. Credaf fod y data a nododd Jenny Rathbone yn gywir a dylid ei ystyried. Mae'r prawf newydd gwell yn dilyn yr un drefn â'r sgriniad blaenorol, lle cymerir sampl o geg y groth, ond yn hytrach nag edrych ar gelloedd annormal, profir y sampl am HPV yn gyntaf.
Gan fod heintiad HPV risg uchel yn dod cyn i gelloedd annormal ddatblygu, mae profion sylfaenol HPV yn canfod pobl sydd mewn perygl o ddatblygu canser serfigol yn llawer cynharach. Os canfyddir HPV, caiff y sampl ei archwilio hefyd am newidiadau celloedd a'i ddilyn gan brofion pellach os oes newidiadau'n bresennol. Os nad oes celloedd annormal yn bresennol, gwahoddir yr unigolyn i'w sgrinio eto ymhen blwyddyn. Felly, mae'n bwysig cofio os nad oes gennych HPV, fod system wahanol ar gyfer y rhai y canfyddir eu bod yn wynebu mwy o risg. Os na cheir HPV risg uchel yn y sampl, gwahoddir yr unigolyn i'w sgrinio ymhen pum mlynedd. A bydd y newid yn y cyfnod rhwng apwyntiadau yn berthnasol i bobl y mae eu canlyniad sgrinio rheolaidd nesaf yn dangos nad oes ganddynt HPV risg uchel, a hynny am fod eu risg o ddatblygu canser ceg y groth o fewn y pum mlynedd ar ôl eu sgriniad yn isel iawn.
Nawr, dwi'n deall bod llawer o bobl yn poeni y bydd ymestyn y bwlch rhwng profion sgrinio yn arwain at fethu achosion o ganser ceg y groth. Hoffwn i sicrhau pobl fod feirws papilloma dynol yn achosi newidiadau i'r celloedd yn araf dros sawl blwyddyn. Mae hynny'n golygu os oes newidiadau i'r celloedd, bydd modd eu canfod o hyd yn gynnar yn y prawf sgrinio nesaf. Byddai sgrinio'n fwy rheolaidd na phum mlynedd ar ôl canlyniad HPV negatif yn rhy gynnar fel arfer i unrhyw newidiadau i'r celloedd ddod i'r amlwg. Felly, ni fyddai'r sgrinio yn fuddiol a byddai hefyd yn rhoi'r sicrwydd anghywir i bobl. Dwi'n falch bod Cymru wedi arwain y ffordd, ac mai ni oedd y wlad gyntaf yn y Deyrnas Unedig i gyflwyno profion sylfaenol am HPV risg uchel yn 2018. Mae Lloegr a'r Alban bellach wedi cyflwyno profion sylfaenol am HPV, ac yn yr Alban, cafodd y bwlch rhwng profion sgrinio ei ymestyn peth amser yn ôl, ym mis Mawrth 2020.
Byddai gwrthdroi'r bwlch ar gyfer sgrinio serfigol i bobl risg isel yn gam yn ôl. Dwi'n cydnabod yn llawn fod sgrinio mwy rheolaidd yn teimlo fel ei bod yn rhoi mwy o sicrwydd, ond, i bobl risg isel, nid yw'n cynnig y buddion y bydden nhw eisiau eu gweld. Mae ymestyn y bwlch i bobl risg isel yn golygu y gall y rhaglen sgrinio ganolbwyntio wedyn ar bobl risg uchel, a fydd yn cael eu monitro yn fwy agos nag o'r blaen. Rhaid inni sicrhau bod gwasanaethau iechyd yn dilyn y wyddoniaeth ac yn cael eu darparu dim ond pan fyddan nhw'n cynnig budd go iawn a bod angen clinigol amdanyn nhw. Felly, dyna'r ateb i Buffy o ran defnyddio hwn fel esgus i siarad am bethau eraill. Mae'n rhaid i chi fod yn ofalus iawn ynglŷn â sut rŷch chi'n defnyddio ymyrraeth glinigol. Rhaid inni hefyd leihau niwed posibl drwy beidio â darparu ymyriadau diangen. Rhaid i raglenni sgrinio esblygu o hyd, wrth gwrs, mewn ymateb i faich canser a datblygiadau gwyddonol. Jest i ymateb i Jenny Rathbone—.
Roedd hi'n holi am y cynllun peilot yn Lloegr. Rydym yn gwylio'r cynllun peilot yn Lloegr gyda diddordeb. Gwyddom ein bod wedi gweld ymateb gwell i sgrinio coluddion ers i brawf FIT gael ei anfon allan i bobl. Rydym wedi gweld cynnydd yn nifer y bobl sy'n defnyddio hwnnw o 60 y cant i 65 y cant. Rydym eisiau gwybod ai dyna fydd yr ymateb mewn perthynas â sgrinio serfigol ar gyfer yr ardaloedd penodol hynny lle nad yw pobl yn mynd am brawf. Felly, rydym eisiau gweld bod y dystiolaeth yn ddiogel ac yn effeithiol cyn inni ystyried cyflwyno hwnnw yng Nghymru.
Bydd cyflwyno profion sylfaenol am HPV yn ein galluogi ni i wneud mwy o welliannau—
Weinidog, rhaid ichi ddod i ben nawr.
Ocê. Diolch yn fawr. Dylai hwn fod yn stori newyddion da i Gymru. Rŷn ni'n gallu atal mwy o achosion o ganser a chanfod rhai sydd yn datblygu yn gynharach. Mae'n bwysig i nodi, fel mae llawer wedi gwneud, y ffaith nad yw chwarter y bobl sy'n cael gwahoddiad yn mynychu eu hapwyntiadau sgrinio serfigol. Felly, os ydym ni am ddefnyddio'r broblem rŷn ni wedi'i gweld, a'r poeni mae pobl wedi'i wneud, mae'n rhaid inni ddefnyddio hwn fel cyfle i ddweud wrth bobl i ddod ymlaen am eu gofal sgrinio nhw, ac annog mwy o bobl i gymryd y cyfle hwnnw. Diolch yn fawr.
Galwaf ar Jack Sargeant i ymateb i'r ddadl hon.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Diolch, Weinidog, am eich ymateb i'r ddadl heddiw, yn arbennig am nodi peth o'r wyddoniaeth y tu ôl i benderfyniad Iechyd Cyhoeddus Cymru ac am ateb rhai o'r cwestiynau gan yr Aelodau. Ac wrth gwrs, diolch i'r Aelodau.
Credaf ei bod yn iawn dweud, yn anffodus, na fydd canlyniad heddiw bob amser yn foddhaol i rai pobl. Bydd miloedd o fenywod ledled Cymru wedi cael eu siomi. Maent yn teimlo'n ddryslyd, ac wrth gwrs, byddant yn dal i deimlo'n rhwystredig o ganlyniad i ddigwyddiadau'r wythnosau diwethaf. Felly, teimlaf ei bod yn iawn, a'i bod yn bryd i'r Llywodraeth, i swyddogion, ac i'r gwasanaeth iechyd, fyfyrio a dysgu gwersi o'r broses sydd wedi digwydd, a hefyd i feddwl sut y gallwn ailadeiladu'r ymddiriedaeth a gollwyd i sicrhau na cheir methiant mor fawr eto.
Ddirprwy Lywydd, bûm yn myfyrio ar sut y mae'r broses ddeisebau yn gyfrwng i gyflwyno materion sy'n bwysig i bobl ledled Cymru. Mae'n cynnig cyfleoedd i godi ymwybyddiaeth, amlygu heriau ac ymdrechu i sicrhau newid cadarnhaol. Mae'n dod â'r materion hyn at galon ein democratiaeth ac yn sicrhau bod lleisiau dinasyddion yn cael eu clywed.
Credaf inni glywed gan bob Aelod ar draws Siambr y Senedd heddiw am bwysigrwydd sgrinio, pwysigrwydd addysg, pwysigrwydd diagnosis cynnar. Clywsom Laura Anne Jones yn galw'n benodol unwaith eto am ymgyrch ymwybyddiaeth y cyhoedd. Teimlaf ei bod yn llygad ei lle i alw am hynny, a byddaf yn ymuno â hi yn y galwadau hynny. Clywsom Aelodau'n cyfeirio at yr elusennau canser, Ymddiriedolaeth Canser y Groth Jo a Cancer Research UK, a groesawodd y newyddion, ond wrth gwrs mae'n rhaid inni wneud popeth yn ein gallu i ledaenu'r neges hon i fenywod ledled Cymru.
Fel y cawsom ein hatgoffa gan Buffy Williams yn briodol, mae wedi cymryd cenedlaethau a chenedlaethau o fenywod i frwydro i gael rheolaeth dros eu cyrff, ac ni ddylent hwy, ac ni ddylem ni, ganiatáu i gamu'n ôl ddigwydd. Mae Buffy Williams yn llygad ei lle pan ddywed hynny, ac rwy'n ei chanmol am hynny. A'r gwir amdani yw bod bywyd yn mynd y ffordd weithiau—mae'n rhaid inni gofio hyn pan fyddwn yn gwneud penderfyniadau ar iechyd y cyhoedd. Felly, er ein bod wedi cael dadl heddiw, ac er fy mod yn falch fod Pwyllgor Deisebau'r Senedd wedi gallu hwyluso hyn, teimlaf ei bod hi'n amlwg fod angen gwneud gwaith i argyhoeddi pobl a menywod Cymru mai dyma'r penderfyniad sydd angen bwrw ymlaen ag ef. Edrychaf ymlaen at weld hynny'n digwydd yn y dyfodol.
Ar ran y pwyllgor, hoffwn hefyd ddiolch i Joanne Stroud a phawb sydd wedi cefnogi'r ddeiseb hon, a diolch i'r Gweinidog ac i'r holl Aelodau am eich cyfraniadau heddiw. Diolch yn fawr.
Y cwestiwn yw: a ddylid nodi'r ddeiseb? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.