6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Profiadau niweidiol yn ystod plentyndod

– Senedd Cymru ar 2 Chwefror 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliannau 1, 3 a 4 yn enw Siân Gwenllian, a gwelliant 2 yn enw Lesley Griffiths. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol.

Photo of David Rees David Rees Labour 4:05, 2 Chwefror 2022

Yr eitem nesaf heddiw yw ail ddadl y Ceidwadwyr Cymreig ar brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod. Galwaf ar Gareth Davies i wneud y cynnig.

Cynnig NDM7905 Darren Millar

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn cydnabod yr effaith y mae profiadau niweidiol yn ystod plentyndod yn ei chael ar iechyd, cyrhaeddiad addysgol a chamddefnyddio sylweddau yn ddiweddarach mewn bywyd.

2. Yn credu y dylid rhoi mwy o ffocws i atal cam-drin ac esgeuluso plant na delio â'r canlyniadau.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i osod targed o 70 y cant ar gyfer lleihau cam-drin plant, esgeulustod a phrofiadau niweidiol eraill yn ystod plentyndod erbyn 2030.

Cynigiwyd y cynnig.

Photo of Gareth Davies Gareth Davies Conservative 4:08, 2 Chwefror 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd, ac rwy'n ei hystyried yn fraint cael gwneud y cynnig, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar, yn ffurfiol ac agor y ddadl hon ar bwnc mor bwysig ond anodd.

Fel llawer ohonom yma yn y Siambr, ymrwymais i gefnogi targed WAVE Trust o 70 y cant ar gyfer lleihau profiadau niweidiol yn ystod plentyndod erbyn diwedd y degawd hwn. Yn ystod y Senedd ddiwethaf, roedd bron pob Aelod yn cefnogi'r addewid 70/30. Yn wir, yr unig rai nad oeddent yn cefnogi gosod targedau i fynd i'r afael â cham-drin plant oedd Gweinidogion Llywodraeth Cymru, er i'r cyn Brif Weinidog, Carwyn Jones, ddweud wrth y Siambr ei fod yn cefnogi gwaith WAVE Trust.

Mae gennym gyfle gwirioneddol ger ein bron heddiw. Gallwn gadarnhau ein hymrwymiad i'r targed 70/30 a rhoi Cymru ar lwybr i fod yn un o'r gwledydd blaenllaw o ran mynd i'r afael â phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod. Gall profiadau niweidiol yn ystod plentyndod gael effeithiau mor ddinistriol ar unigolion. Maent yn codi'r risg o iechyd corfforol a meddyliol gwael, yn cyfrannu at ganlyniadau addysgol gwaeth ac yn arwain at ddisgwyliadau oes byrrach. Rydym i gyd wedi gweld yr ystadegau ac yn credu ein bod yn deall y problemau, ond hyd nes y siaradwch â dioddefwyr a chlywed eu stori, ni allwch lwyr amgyffred maint y problemau sy'n wynebu llawer o blant, pobl ifanc ac oedolion. Mae'r trawma yn effeithio ar eu bywydau ac yn eu gyrru ar gyfeiliorn.

Rhannodd un dioddefwr ei stori ysgytwol gyda mi. Cafodd ei cham-drin yn rhywiol yn 12 oed. Cafodd y profiad erchyll hwn ei ddwysáu wrth i'r trais rhywiol arwain at feichiogrwydd, a chamesgoriad wedyn. Parhaodd y trawma drwy gydol ei bywyd ifanc. Dilynodd mwy o ymosodiadau rhywiol yn ogystal â dau feichiogrwydd pan oedd yn ei harddegau. Ni orffennodd ei haddysg ffurfiol a throdd at alcohol a chyffuriau. Yn y pen draw, aeth yn gaeth i heroin a dywedodd ei bod wedi ystyried cyflawni hunanladdiad fwy nag unwaith.

Drwy gydol y cyfnod trawmatig hwn, roedd hi'n galw am gymorth. Yr unig gymorth a gafodd oedd gwrth-iselyddion. Pan aeth yn feichiog, unwaith eto, gofynnodd am help gyda dibyniaeth, a rhagnodwyd Subutex iddi heb lawer o ystyriaeth i'r effaith y gallai hyn fod wedi'i chael ar ei phlentyn yn y groth. Drwy'r cyfnod hwn, dros sawl degawd, gofynnodd am gymorth gan lawer o asiantaethau. Bu dros 150 o wahanol adrannau a phobl yn rhyngweithio â hi, ac eto ni wnaeth yr un ohonynt gynnig cymorth heb leisio barn. Aeth un o'i phlant hŷn ymlaen i gamddefnyddio cyffuriau ac alcohol.

Pan glywodd am WAVE Trust a dysgu am brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod fe weithredodd i newid ei bywyd. Heb gymorth, rhoddodd y gorau i'w harfer heroin ar ei phen ei hun yn llwyr ac mae'n falch o fod yn sobr ers dwy flynedd bellach. Gwnaeth hyn er mwyn ei phlant, ond rydym yn parhau i wneud cam â hi a'i phlant. Cafodd bresgripsiwn ar gyfer therapi trawma, ond dywedwyd wrthi fod rhestr aros o fwy na dwy flynedd.

Drwy rannu ei stori, mae'n gobeithio y gall helpu i atal rhywun arall rhag byw drwy'r un uffern ag y mae hi wedi byw drwyddo. Syrthiodd drwy'r bylchau, fel y gwnaeth ei phlant. Ni chafodd gymorth i'w phlentyn oherwydd ei bod yn byw yn y cod post anghywir, gan ei bod yn byw mewn ardal ymddangosiadol gefnog nad oedd yn gymwys ar gyfer Dechrau'n Deg na Teuluoedd yn Gyntaf.

Sut y gall hyn ddigwydd yn y Gymru fodern? Nid wyf yn gwybod mewn gwirionedd, ond rwy'n gwybod bod yn rhaid inni weithredu, ac mae'r daith honno'n dechrau gyda mabwysiadu'r targed o 70/30 yn swyddogol. Ni fydd yn datrys popeth yn wyrthiol, ond bydd yn rhoi ffocws i feddyliau pobl. Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn amharod i fabwysiadu 70/30 gan nad yw'n ddigon uchelgeisiol a chan nad yw'n llwyr o fewn cwmpas gwaith y Llywodraeth. Ni wnaeth hyn atal Llywodraeth yr Alban, ac ni ddylai ein hatal ni. Ac os ydym am roi diwedd ar y cam-drin a'r trawma sy'n effeithio ar fywydau plant, mae'n rhaid inni gymryd y cam cyntaf.

Mae fy mhlaid yn addo lleihau profiadau niweidiol yn ystod plentyndod 70 y cant erbyn 2030. A wnewch chi?

Photo of David Rees David Rees Labour 4:13, 2 Chwefror 2022

Rwyf wedi dethol y pedwar gwelliant i'r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol. Galwaf ar Heledd Fychan i gynnig gwelliannau 1, 3 a 4 a gyflwynwyd yn enw Siân Gwenllian a siarad amdanyn nhw.

Gwelliant 1—Siân Gwenllian

Dileu popeth ar ôl pwynt 1, a rhoi yn ei le:

Yn credu bod rhaid blaenoriaethu taclo trallod yn ystod plentyndod ac ymyrraeth gynnar os am roi’r dechrau gorau i bob plentyn yng Nghymru.

Yn nodi’r dystiolaeth bod cynnydd wedi bod mewn profiadau niweidiol yn ystod plentyndod o ganlyniad i COVID-19.

Gwelliant 3—Siân Gwenllian

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau y bydd targedau pendant yn y cynllun profiadau niweidiol yn ystod plentyndod a gaiff ei gyhoeddi’r haf hwn i fesur effeithiolrwydd y cynllun.

Gwelliant 4—Siân Gwenllian

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddod â Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn yn rhan lawn o gyfraith Cymru.

Cynigiwyd gwelliannau 1, 3 a 4.

Photo of Heledd Fychan Heledd Fychan Plaid Cymru 4:13, 2 Chwefror 2022

Diolch, Dirprwy Lywydd. Hoffwn gyflwyno'n ffurfiol ein gwelliannau heddiw, a gyflwynwyd yn enw Siân Gwenllian, a hoffwn ddiolch i'r Ceidwadwyr am gyflwyno'r ddadl hon ar bwnc sy'n eithriadol o bwysig. Bwriad ein gwelliannau yw cryfhau'r cynnig, fel ein bod yn gweld y gweithredu hirdymor sydd ei angen i fynd i'r afael â hyn, a dwi'n gresynu'r ffaith bod y WAVE Trust ddim wedi ei enwi yn benodol yn y cynnig gwreiddiol. Yn sicr, rydyn ni'n gyfan gwbl gefnogol fel plaid o ran cael targedau pendant, ond dydy targedau yn unig ddim yn golygu dim os nad ydyn ni hefyd yn gweld newid gwirioneddol.

Hoffwn ganolbwyntio'n benodol yn fy nghyfraniad ar effaith y pandemig o ran gwaethygu'r sefyllfa oedd yn barod yn eithriadol o bryderus o ran y lefel oedden ni'n ei gweld o ran effaith ar blant a phobl ifanc.

Photo of Heledd Fychan Heledd Fychan Plaid Cymru 4:14, 2 Chwefror 2022

(Cyfieithwyd)

Yn ystod pandemig COVID-19, mae mesurau iechyd y cyhoedd fel cyfyngiadau symud a chadw pellter cymdeithasol wedi bod yn hanfodol i atal y feirws a diogelu iechyd y boblogaeth. Fodd bynnag, i rai pobl, mae hyn wedi golygu eu bod yn fwy agored i niwed yn y cartref ac ar-lein, tra'n lleihau mynediad at ofal a chymorth gan wasanaethau. Yn fwyaf arbennig, mae hyn wedi rhoi plant a phobl ifanc mewn perygl, gyda'r perygl o fod yn fwy agored i brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod a thrais a allai arwain at ganlyniadau hirdymor.

Mae sawl ffordd y gallai profiadau niweidiol yn ystod plentyndod fod wedi'u gwaethygu gan yr ynysigrwydd cymdeithasol, colli swyddi, cau ysgolion a mathau eraill o straen a achoswyd gan y pandemig. Yn gyntaf, mae'n bosibl fod y pandemig wedi cynyddu trallod o fewn y teulu, gan wneud plant yn fwy agored i bryderon rhieni, yn enwedig pryderon sy'n gysylltiedig â cholli swydd, ansicrwydd bwyd ac ansicrwydd tai. Gall straen o'r fath aros ym meddwl rhywun am fisoedd neu flynyddoedd. Yn ail, drwy gynyddu straen gwenwynig, gallai trallod teuluol cynyddol amharu ar ddatblygiad ymennydd plant, yn enwedig yn ystod y blynyddoedd cynnar. Rydym wedi gweld trawma ar ôl colli anwyliaid. Rydym hefyd wedi gweld bod y pandemig a'r ymateb iddo yn effeithio'n anghymesur ar boblogaethau incwm isel a lleiafrifoedd ethnig, sydd eisoes mewn mwy o berygl o fod â chyflyrau cronig yr effeithir arnynt gan brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod fel geni cyn amser, diabetes, gorbwysedd a chlefyd cronig yr ysgyfaint. 

Mae'r Cenhedloedd Unedig wedi rhagweld y bydd dros 1 filiwn o farwolaethau plant y gellir bod wedi eu hatal ar draws y byd o ganlyniad i effaith anuniongyrchol y pandemig ar blant a phobl ifanc. Mae'r rhain yn ystadegau dirdynnol. Rhaid inni weithredu'n gyflym. Rhaid inni weithredu yn awr i gefnogi ein plant a'n pobl ifanc, ac rwy'n gobeithio y gall cyd-Aelodau o bob ochr i'r rhaniad gwleidyddol gefnogi ein gwelliant heddiw fel ein bod yn gweithio gyda'n gilydd i gefnogi ein plant a'n pobl ifanc. 

Photo of David Rees David Rees Labour 4:16, 2 Chwefror 2022

Galwaf ar y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan, i gynnig yn ffurfiol welliant 2, a gyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths. 

Gwelliant 2—Lesley Griffiths

Dileu pwynt 3.

Cynigiwyd gwelliant 2.

Photo of Jack Sargeant Jack Sargeant Labour

(Cyfieithwyd)

Fel y gŵyr llawer o'r Aelodau, mae profiadau niweidiol yn ystod plentyndod a dull sy'n cael ei lywio gan ymwybyddiaeth o effaith trawma yn faes ac yn bwnc rwy'n angerddol yn ei gylch. Y llynedd, ysgrifennais ddarn wedi'i gyd-ysgrifennu gyda Charlotte o Platfform, elusen iechyd meddwl, am yr angen am ddull mwy caredig wedi'i lywio gan ymwybyddiaeth o effaith trawma ym mhob un o'n gwasanaethau cyhoeddus. Gwn fod llawer o Aelodau'n rhannu'r diddordeb hwn gyda mi, ac rwy'n aml yn meddwl, fel y gwnaeth y Prif Weinidog Mark Drakeford ddoe, am y rôl a chwaraeodd fy nhad yn hyrwyddo profiadau niweidiol yn ystod plentyndod a'r agenda yng Nghymru.

Rwy'n croesawu'r ffaith bod y Ceidwadwyr wedi cyflwyno'r cynnig hwn heddiw, a diolch i Darren Millar am hynny, ond rwyf am gael trafodaeth ehangach am bwysigrwydd atal. Fodd bynnag, nid yw'n ymwneud â lleihau yn unig; rwy'n credu ei fod yn ymwneud â helpu pobl sydd wedi dioddef trawma. Ac wrth wraidd trawma mae tlodi. Ni allwch gefnogi dull sy'n cael ei lywio gan ymwybyddiaeth o effaith trawma a chefnogi, er enghraifft, y system les bresennol, sydd mor anhyblyg a thrawmatig. Natur gosbol y system hon yw'r gwrthwyneb llwyr i ddull wedi'i lywio gan ymwybyddiaeth o effaith trawma. Mae'n achosi pryder ac mae'n achosi anobaith.

Ddirprwy Lywydd, clywais ystadegyn gan un o fy nghyd-bleidwyr Llafur Cymru y bore yma. Roedd hi'n siarad mewn dadl, a dywedodd fod 94 y cant o benderfyniadau budd-daliadau—94 y cant—yn ei hetholaeth sy'n mynd i apêl yn cael eu gwyrdroi. Nid yw hwnnw'n ddull o weithredu a gaiff ei lywio gan ymwybyddiaeth o effaith trawma, ni fydd hynny'n lleihau nifer yr achosion o brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod. Ond wrth gwrs, eto heddiw, ni sonnir am hyn yn y cynnig gan y Ceidwadwyr Cymreig am eu bod yn cefnogi'r anhrefn y mae hyn yn ei achosi i aelwydydd ledled y wlad. Mae'n werth nodi, Ddirprwy Lywydd, nad yw'r cynnig yn dweud dim am yr argyfwng costau byw a'r dioddefaint cysylltiedig y bydd yn ei achosi i lawer. Felly, fel y dywedais, Ddirprwy Lywydd, rwyf am gael y sgwrs ehangach ar brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod, ac mae'n bwysig ein bod yn cael y ddadl hon yn ein Senedd heddiw, ond rhaid inni—

Photo of Jenny Rathbone Jenny Rathbone Labour 4:19, 2 Chwefror 2022

(Cyfieithwyd)

A wnewch chi dderbyn ymyriad?

Photo of Jenny Rathbone Jenny Rathbone Labour

(Cyfieithwyd)

Roeddwn eisiau tynnu sylw at y ffaith mai'r peth pwysicaf am Platfform yw symud at ddull sy'n cael ei lywio gan ymwybyddiaeth o effaith trawma, fel nad ydym yn dweud, 'Beth sydd o'i le arnoch chi?', ond yn hytrach yn dweud, 'Beth a ddigwyddodd i chi, a sut y gallwn eich helpu i'w unioni?' A fyddech yn cytuno â hynny?

Photo of Jack Sargeant Jack Sargeant Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch i'r Aelod, Jenny Rathbone, am yr ymyriad hwnnw. Mae hi'n llygad ei lle; rwy'n cytuno â Platfform a'u hymgyrch i arwain dull a gaiff ei lywio gan ymwybyddiaeth o effaith trawma, am mai dyna sy'n iawn. Pan edrychwn ar y system les, er enghraifft, mae honno'n system sydd wedi'i sefydlu i wneud cam â phobl gyffredin. Felly, rwyf eisiau i'r sgwrs honno ddigwydd. Ond rwy'n credu bod yn rhaid i ni gael asesiad gonest fod y cysylltiad rhwng profiadau niweidiol yn ystod plentyndod a thlodi yn glir iawn, felly gadewch inni beidio â chladdu ein pennau yn y tywod yma. Rwy'n dod i ben, Lywydd. Gadewch inni weithio gyda'n gilydd yn adeiladol ac yn onest i greu cenedl sy'n cael ei llywio gan ymwybyddiaeth o effaith trawma yng Nghymru. Diolch.

Photo of Laura Anne Jones Laura Anne Jones Conservative 4:20, 2 Chwefror 2022

(Cyfieithwyd)

Unwaith eto, diolch i Gareth am gyflwyno'r ddadl bwysig hon yn y Senedd heddiw—mae'n hollbwysig i blant ar hyd a lled ein gwlad. Amcangyfrifodd arolwg troseddu Cymru a Lloegr fod un o bob 100 o oedolion—bron i hanner miliwn o bobl rhwng 18 a 74 oed—wedi cael eu hesgeuluso'n gorfforol cyn eu bod yn 16 oed. I waethygu hyn, cafodd 160,000 o droseddau'n ymwneud â cham-drin plant yn gorfforol eu cofnodi gan yr heddlu yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon yn 2019-20, a gwelsom gynnydd pryderus, fel yr amlinellwyd yn gynharach, yn ystod y cyfyngiadau symud, gyda'r pandemig yn gwaethygu problem a oedd eisoes yn peri pryder.

Dyma gipolwg yn unig ar yr her a wynebwn yma yng Nghymru i fynd i'r afael â phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod. Rhaid inni ei gwneud yn flaenoriaeth i ddiogelu ein plant a'r cenedlaethau sy'n dilyn, oherwydd gallwn i gyd weld yn glir yr effaith enfawr a dinistriol y mae trawma, fel yr amlinellwyd, yn ei chael ar berfformiad addysgol a chanlyniadau bywyd. Mae mwy o brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod yn gysylltiedig â chynnydd yn nifer y rhai nad oes ganddynt unrhyw gymwysterau a gostyngiad yn nifer y rhai sydd â chymwysterau addysg uwch. Pan fyddwn yn methu cyflawni ar gyfer y plant hyn yn eu blynyddoedd ffurfiannol, rydym fel arfer yn eu tynghedu hwythau i fethu ar hyd eu hoes, rhywbeth na ellir caniatáu iddo barhau. Dylem fod yn ymdrechu i fod yn arweinwyr byd ym maes diogelu plant, a fyddai yn ei dro yn gwella ein canlyniadau addysgol. Os methwn wneud hynny, mae'r dystiolaeth yn dangos inni beth a all ddigwydd a beth sydd fel arfer yn digwydd.

Cynhaliodd yr Adran Addysg yn Lloegr adolygiad o'r dystiolaeth ryngwladol ar effaith camdriniaeth ac esgeulustod ar blant. Roedd y dystiolaeth yn yr adolygiad yn awgrymu bod plant sy'n cael eu cam-drin yn fwy tebygol o ymddwyn yn wael yn yr ysgol, yn fwy tebygol o ddioddef bwlio yn yr ysgol, yn fwy tebygol o fod ag anghenion addysgol arbennig, yn fwy tebygol o gael eu gwahardd o'r ysgol, ac yn fwy tebygol o fod yn absennol o'r ysgol. Mae'r cyfrifoldeb yn awr ar Lywodraeth Cymru i ddweud 'digon yw digon' ac ymdrin ag achosion sylfaenol profiadau niweidiol yn ystod plentyndod, oherwydd os parhawn i fethu cyflawni ar gyfer y rhai ieuengaf a mwyaf agored i niwed, rydym i gyd yn methu fel cymdeithas.

Hoffwn ailddatgan yr hyn a ddywedodd Gareth yn gynharach: eich lle chi, Weinidog Cymru a Llywodraeth Cymru, yw ailddatgan yr ymrwymiad hwnnw i'r targed 70/30 yn awr, oherwydd byddai hwnnw'n lle da iawn i ddechrau. Diolch.  

Photo of Jane Dodds Jane Dodds Liberal Democrat 4:22, 2 Chwefror 2022

(Cyfieithwyd)

Fel Aelodau'r Senedd, efallai fod rhai ohonom yn byw gydag un neu fwy o'r saith profiad niweidiol yn ystod plentyndod. Weithiau gallwn ymdopi â hwy, ac weithiau ni allwn wneud hynny. Ar ôl gweithio am dros 25 mlynedd ym maes diogelu plant, gyda llawer o'r blynyddoedd hynny ar y rheng flaen, gallwn adrodd straeon am lawer iawn o blant a phobl ifanc y cyfarfûm â hwy lle mae'r cylch cam-drin a thlodi, fel y mae Jack wedi sôn, yn parhau i'r genhedlaeth nesaf, heb fawr o obaith na disgwyliad o newid. Felly, diolch am y ddadl hon, ac rwy'n gobeithio'n fawr y cawn gyfle i gydweithio ar draws y pleidiau gwleidyddol i newid pethau.

Roeddwn yn falch ddoe o fod wedi cael fy ethol yn gadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar blant a theuluoedd, a byddwn yn rhoi profiadau niweidiol yn ystod plentyndod ac ymarfer wedi'i lywio gan ymwybyddiaeth o effaith trawma ar yr agenda, felly rwy'n croesawu pob diddordeb yn y mater hwn. Yr ail fater a drafodwyd gennym oedd ymgorffori Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn mewn cyfraith ddomestig. Roeddwn wrth fy modd fod y comisiynydd plant presennol, Sally Holland, wedi gallu ymuno â ni yn y cyfarfod, a gwnaeth alwad eglur i bob un ohonom fabwysiadu Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn. Dywedodd fod mentrau polisi'n mynd a dod, ond yr unig ffordd y gallwn sicrhau ein bod yn gwneud cynnydd ar gyfer ein plant yw drwy sicrhau hawliau cyfreithiol a hawliau y gellir eu gorfodi. Felly, rwy'n falch o weld y gwelliant gan Blaid Cymru yn dadlau dros y safbwynt hwnnw, oherwydd mae dull sy'n seiliedig ar hawliau i atal trawma yn gwbl hanfodol.

Mae profiadau niweidiol yn ystod plentyndod yn drasiedi. Hoffwn ddiolch i'r holl staff sy'n gweithio ar y rheng flaen i wneud eu gorau i newid bywydau plant a phobl ifanc, a diolch enfawr i'r plant a'r teuluoedd sy'n ymdrechu i newid eu bywydau a hwythau'n byw mewn sefyllfaoedd enbyd a heriol. Rydych chi'n haeddu mwy. Gadewch i hyn fod yn gydnabyddiaeth fod pob un ohonom, o ba blaid wleidyddol bynnag, yn gweld ein rôl i newid yr hyn a wnawn er mwyn sicrhau eich bod chi'n cael y gefnogaeth a'r cymorth rydych eu hangen. Diolch yn fawr iawn. 

Photo of Janet Finch-Saunders Janet Finch-Saunders Conservative 4:25, 2 Chwefror 2022

(Cyfieithwyd)

Un ffactor go fawr sy'n peri pryder ac sy'n cyfrannu at y bwlch cyrhaeddiad yw iechyd meddwl a llesiant ein plant, a'r llynedd canfu adroddiad gan Brifysgol Caerdydd fod tua 19 y cant o bobl ifanc yng Nghymru wedi nodi lefelau uchel iawn o symptomau iechyd meddwl gwael cyn y pandemig COVID-19. Mae ysgolion wedi dweud yn glir nad oes ganddynt ddigon o adnoddau i ymdopi â'r galw am gymorth angenrheidiol, er eu bod yn mynd y tu hwnt i'r galw i weithredu dulliau ysgol gyfan yn eu darpariaeth. Cymeradwyodd adroddiad 'Dim Drws Anghywir' y comisiynydd plant system gydgysylltiedig lle gall gweithwyr proffesiynol ddod at ei gilydd i ddarganfod pa gymorth y gallant ei gynnig, gan ganiatáu i ofal hyblyg gael ei ddarparu i ddiwallu anghenion. Mae hyn yn arbennig o bwysig o gofio bod ffigurau ar gyfer Gorffennaf 2021 wedi dangos bod 432 o gleifion allan o gyfanswm o 720 yn aros pedair wythnos neu fwy am eu hapwyntiad cyntaf ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl arbenigol i blant a'r glasoed. 

Weinidog, yng ngoleuni'r pwysau a amlygir eto gan y pandemig, ac i'r plant sydd wedi cael profiadau niweidiol, pa gamau y gallwch ymrwymo i'w cymryd i sicrhau bod gennym ddull 'dim drws anghywir' â digon o adnoddau, gyda chysylltiad rhwng yr holl wasanaethau fel ffordd o leihau cam-drin plant a phrofiadau niweidiol 70 y cant erbyn 2030? Dywed Barnardo's mai'r ffactor canolog sy'n effeithio ar iechyd meddwl yng ngogledd Cymru oedd amgylchedd byw llawn straen, gyda chynnydd yn nifer y plant sy'n troi at ddefnyddio canabis yn lle mynd i'r afael â'u trawma. Mae gennyf nifer enfawr o blant ifanc mewn teuluoedd sydd wedi bod yn byw mewn llety dros dro fel y'i gelwir am gyhyd â 18 mis, ac mae hynny hefyd yn achosi profiadau niweidiol yn ystod plentyndod.

Yng Nghonwy, rwy'n falch o ddweud bod Barnardo's yn cael eu hariannu i gefnogi teuluoedd sy'n cael eu heffeithio gan gamddefnyddio sylweddau ac alcohol fel ffordd o fynd i'r afael â ffactorau sy'n cyfrannu, ond ymdrin â'r symptomau y mae hynny'n ei wneud, nid yr achos. Dywed yr elusen ei bod yn anodd parhau â'u darpariaeth arbenigol pan nad yw staff yn gwybod a fydd eu swydd yn cael ei hariannu o flwyddyn i flwyddyn. Felly, unwaith eto, a gawn ni ryw ymrwymiad ynglŷn â sut y bwriadwch ariannu hyn, a rhoi rhywfaint o obaith i'r sefydliadau hyn? A wnewch chi gydweithio â'ch cyd-Weinidog i adolygu pa gamau y gellir eu cymryd i ddarparu ymrwymiad ariannu mwy hirdymor i'r rhai sy'n cynorthwyo yn y maes hwn?

Cyn y pandemig, Cymru oedd â'r gyfradd uchaf o ordewdra ymhlith plant, gyda bron i 27 y cant o blant pedair i bump oed dros bwysau neu'n ordew. Pan oeddwn ar y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, roeddwn yn rhan o'r ymchwiliad, ac roedd rhai o'r ystadegau a welsom yn frawychus. Weinidog, rwy'n eich annog i gefnogi ein cynnig heddiw a rhoi mwy o ffocws i atal cam-drin plant. Gadewch i bawb ohonom weithio gyda'n gilydd i sicrhau nad oes unrhyw blentyn yn profi unrhyw driniaeth niweidiol. Diolch. 

Photo of Joyce Watson Joyce Watson Labour 4:28, 2 Chwefror 2022

(Cyfieithwyd)

Rwy'n croesawu'r ddadl heddiw, ac rwy'n ddiolchgar i sefydliadau fel WAVE Trust sy'n hyrwyddo ac yn dylanwadu'n gyson ar bolisïau blaengar fel yr ymgyrch 70/30. Neges sylfaenol yr ymddiriedolaeth yw y gellir atal y rhan fwyaf o gamdriniaeth a thrais teuluol drwy raglenni hysbys, hyfyw yn economaidd, i dorri cylchoedd teuluol niweidiol. Mae hefyd yn dweud bod ymchwil helaeth yn tynnu sylw at natur allweddol profiad rhwng beichiogi a thair oed—mewn geiriau eraill, pwysigrwydd gwasanaethau ymyrraeth blynyddoedd cynnar.

Ond rwy'n teimlo fy mod yn cael fy nhwyllo i amau fy mhwyll fy hun gan bregethau'r Ceidwadwyr ar hyn, plaid sydd, ers 2010, wedi torri, cyrydu a diberfeddu cymaint o'r gwasanaethau hyn, yn ogystal â mwy na 1,000 o ganolfannau Cychwyn Cadarn yn Lloegr. Mewn cyferbyniad, mae Llywodraethau Llafur Cymru wedi ehangu cymorth y blynyddoedd cynnar, fel Dechrau'n Deg a Teuluoedd yn Gyntaf. Rwy'n falch iawn o weld Dechrau'n Deg newydd a gwasanaeth gofal plant yn cael ei adeiladu yn Aberhonddu, ar safle Priordy yr Eglwys yng Nghymru.

Rydym wedi lleddfu'r ergyd ac wedi neilltuo arian lle gallwn, ond mae llawer iawn o deuluoedd Cymru wedi'u llethu gan flynyddoedd o bolisïau treth a budd-daliadau cosbol y Torïaid. Canfu dadansoddiad gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol a gynhaliwyd cyn y pandemig, ac rwy'n dyfynnu, 'y bydd effaith gronnol toriadau a pholisïau'r Torïaid wedi gwthio 50,000 yn fwy o blant Cymru i fyw mewn tlodi.' Ddwy flynedd yn ôl hefyd, daeth adolygiad Marmot, a gyhoeddwyd gan y Sefydliad Tegwch Iechyd, i'r casgliad hwn:

'Bydd cyni'n bwrw cysgod hir dros fywydau'r plant a aned ac a fagwyd o dan ei effeithiau.'

Photo of David Rees David Rees Labour 4:30, 2 Chwefror 2022

(Cyfieithwyd)

Joyce, a wnewch chi dderbyn ymyriad?

Photo of Joyce Watson Joyce Watson Labour

(Cyfieithwyd)

Mewn munud. Dyna mae’r Torïaid wedi’i wneud i brofiadau plentyndod yn y wlad. Hoffwn symud ymlaen i sôn am gam-drin domestig, ond rwyf am dderbyn yr ymyriad.

Photo of Gareth Davies Gareth Davies Conservative

(Cyfieithwyd)

Diolch am dderbyn yr ymyriad, Joyce Watson. A ydych yn credu ei bod yn briodol gor-wleidyddoli’r ddadl hon? Rydym yn trafod pwnc sensitif a phwysig iawn, ac mae llawer o'r cyfraniadau heddiw wedi sôn am gydweithio. Soniodd Jack Sargeant am hynny; Laura Anne Jones, Janet Finch-Saunders—

Photo of Joyce Watson Joyce Watson Labour 4:31, 2 Chwefror 2022

(Cyfieithwyd)

Iawn, mae hon yn araith nawr.

Photo of Gareth Davies Gareth Davies Conservative

(Cyfieithwyd)

A ydych yn credu ei bod yn briodol gor-wleidyddoli hyn, o ystyried natur yr hyn rydym yn sôn amdano?

Photo of Joyce Watson Joyce Watson Labour

(Cyfieithwyd)

Wel, mae’n ddrwg gennyf eich bod braidd yn sensitif i’r ffeithiau a’ch bod yn ystyried hyn mewn termau gwleidyddol yn unig, ond ffeithiau oeddent, ac fe'u dyfynnais.

A hoffwn symud ymlaen, i gloi, at bwynt am gam-drin domestig. Gŵyr pob un ohonom fod cysylltiad agos rhwng profiadau niweidiol yn ystod plentyndod a thrais, ond mae gwaith i’w wneud o hyd i sicrhau bod plant a phobl ifanc yn ganolog i’n strategaeth i ddileu trais, gan y gwyddom, yn y sefyllfaoedd hynny mewn cartrefi, fod plant a phobl ifanc yn ddioddefwyr hefyd, ac mae'n rhaid i'r strategaeth adlewyrchu hynny.

Ond, ac rwy’n dod at ddiwedd fy mhwynt, rwy’n credu, rwy’n canmol y Gweinidog am ddileu cosb resymol yn erbyn plant. Roedd yn drueni, fodd bynnag, clywed Janet Finch-Saunders yn cyfeirio ato gan alw ar Lywodraeth Cymru i leihau gwariant ar hyn heddiw. Felly, mae'n ddrwg gennyf os ydych yn ystyried hynny'n wleidyddol, ond rwy'n dyfynnu un o'ch cyd-Aelodau, a ddywedodd hynny lai na dwy awr yn ôl.

Photo of Peredur Owen Griffiths Peredur Owen Griffiths Plaid Cymru 4:32, 2 Chwefror 2022

Diolch am ddod â'r ddadl bwysig yma gerbron heddiw.

Photo of Peredur Owen Griffiths Peredur Owen Griffiths Plaid Cymru

(Cyfieithwyd)

Deallaf fod dadleuon bob amser o blaid ac yn erbyn gosod targedau, yn enwedig mewn perthynas â rhywbeth mor gymhleth â phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod. Yr wrthddadl yn erbyn targedau yw bod y data a gyhoeddir yn seiliedig ar lefelau adrodd, ac nad yw niferoedd uwch yn beth drwg o reidrwydd, gan y gall olygu lefelau uwch o ymwybyddiaeth a mwy o amddiffyniad i blant. Yng nghyd-destun plant, fodd bynnag, dylem wneud yn well. Gall targedau ddarparu cyfeiriad a chymhelliant ar gyfer newid a gwneud gwelliannau y mae eu hangen yn daer. Byddai angen darparu cyllid ychwanegol i alluogi monitro, coladu a chymharu effeithiol dros amser. Byddai hyn, wrth gwrs, yn creu heriau, ond nid ydynt yn rhai anorchfygol.

Ar yr alwad i osod targed o 70 y cant ar gyfer lleihau cam-drin plant, esgeulustod a phrofiadau niweidiol eraill yn ystod plentyndod erbyn 2030, roedd hyn yn seiliedig ar arweiniad gan gynghorwyr arbenigol. Roeddent yn cytuno bod modd ei gyflawni pe bai'r polisïau a'r camau cywir yn cael eu cymryd gan y rhai sy'n gwneud penderfyniadau ac yn rheoli'r arian. Mae’n siomedig gweld Llywodraeth Cymru yn dileu’r pwynt hwn heb wneud unrhyw awgrymiadau adeiladol. Rwy'n gobeithio y gall y Gweinidog egluro’r rhesymau dros hyn yn ystod y ddadl hon.

Hoffwn hefyd godi mater Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn, fel y clywsom gan Jane Dodds yn gynharach. Mae'r gwaith o'i weithredu'n parhau i fod yn araf ac yn ddatgymalog. Mae anghydraddoldebau dwfn wedi cynyddu mewn rhai meysydd, gan gynnwys iechyd meddwl a thlodi plant. Mae oddeutu traean o blant Cymru yn byw mewn tlodi. Mae marwolaethau plant 70 y cant yn uwch ymhlith y grwpiau mwyaf difreintiedig yng Nghymru. Mae hyn yn warth cenedlaethol, ac rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddod â Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn yn rhan lawn o gyfraith Cymru. Yng Nghymru, mae gan Weinidogion ddyletswydd sylw dyledus i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn o dan Fesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011, ond nid oes dyletswydd sylw dyledus ar gyrff cyhoeddus.

Hefyd, hoffwn grybwyll y gyfradd uchel o blant sy’n derbyn gofal ac sydd dan ofal y wladwriaeth yng Nghymru. Y gyfradd ym mhob 100,000 yng Nghymru yw 102, sy’n llawer uwch na’r ffigur o 64 yn Lloegr. Mae'n rhaid sefydlu rhaglenni ymyrraeth gynnar amlasiantaethol i gefnogi teuluoedd. Dylai gwella iechyd a llesiant ein plant fod yn brif flaenoriaeth i’r Llywodraeth hon a’r sefydliad hwn rydym i gyd yn perthyn iddo. Mae plant yn agored i niwed ac yn werthfawr. Hwy hefyd yw ein dyfodol, ac mae'n rhaid inni gofio hynny bob amser. Diolch yn fawr.

Photo of David Rees David Rees Labour 4:35, 2 Chwefror 2022

Galwaf ar y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan. 

Photo of Julie Morgan Julie Morgan Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch. Mae Gweinidogion Cymru wedi ymrwymo i ddiogelu a chefnogi iechyd a lles holl blant a phobl ifanc Cymru. Mae Cymru wedi arwain y ffordd ar fynd i’r afael â phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod. Dangosodd canfyddiadau Iechyd Cyhoeddus Cymru am nifer yr achosion a’u heffaith yr effaith bersonol, gymdeithasol ac economaidd y gall profiadau niweidiol yn ystod plentyndod ei chael ar unigolion, eu teuluoedd ac ar gymdeithas yn gyffredinol. Fodd bynnag, dangosodd y canfyddiadau i ni hefyd nad oedd profiadau niweidiol yn ystod plentyndod yn anochel, ac nad oeddent bob amser yn arwain at drallod neu ganlyniadau gwaeth. Roedd y dystiolaeth hefyd yn dangos manteision posibl atal profiadau niweidiol yn ystod plentyndod, ac fe wnaeth hynny lywio ein penderfyniad i flaenoriaethu mynd i’r afael â hwy yn 2016, dan arweiniad ein cyd-Aelod, Carl Sargeant. Ac rydym yn ddiolchgar iawn am bopeth a wnaeth bryd hynny.

Rydym wedi gwneud cynnydd sylweddol. Mae hyn yn cynnwys sefydlu’r hyb cymorth profiadau niweidiol yn ystod plentyndod, canolfan arbenigedd i gefnogi sefydliadau i gael eu llywio'n fwy gan ymwybyddiaeth o effaith trawma. Ac rwyf hefyd wrth fy modd ein bod wedi cefnogi cymaint o brosiectau gwerthfawr yn y gymuned eleni, gan helpu i fynd i'r afael â phrofiadau niweidiol a thrawma yn ystod plentyndod, a lliniaru eu heffaith. Ond rwy’n llwyr gydnabod bod mwy i’w wneud, ac rwy’n gweld hynny yn y cyfraniadau a wnaed yma heddiw.

Photo of Darren Millar Darren Millar Conservative 4:36, 2 Chwefror 2022

(Cyfieithwyd)

Weinidog, a wnewch chi dderbyn ymyriad?

Photo of Julie Morgan Julie Morgan Labour

(Cyfieithwyd)

Gwnaf, wrth gwrs.

Photo of Darren Millar Darren Millar Conservative

(Cyfieithwyd)

Diolch. Rwy’n ddiolchgar iawn i chi am dderbyn yr ymyriad. Mae'n ymwneud â'r hyb profiadau niweidiol yn ystod plentyndod, yr wyf yn falch iawn ei fod yn bodoli yng Nghymru, ac mae'n dda ein bod yn gwybod ei fod yn bwrw ymlaen â'r gwaith o rannu arferion da. Ond nid yw'n mesur y profiadau niweidiol yn ystod plentyndod yn y boblogaeth gyfan nac yn olrhain a ydynt yn lleihau neu'n cynyddu. Onid yw'n bwysig mesur y pethau hyn fel y gallwch lynu wrth eich honiad ein bod yn gwneud cynnydd da ar y mater? Dyna pam fod angen targed.

Photo of Julie Morgan Julie Morgan Labour 4:37, 2 Chwefror 2022

(Cyfieithwyd)

Cefais gyfarfod ddoe, a dweud y gwir, gyda’r tîm profiadau niweidiol yn ystod plentyndod, lle gwnaethant ddisgrifio'r ymchwil unigol roeddent yn ei chyflawni, ac roedd yn ymddangos i mi eu bod, yn yr ymchwil honno, yn mesur beth oedd effaith profiadau niweidiol yn ystod plentyndod a pha gynnydd roeddent yn ei wneud. Felly, credaf efallai y dylem edrych ar hynny'n fanylach, gan eu bod yn sicr yn gwneud llawer o ymchwil o'r fath. Ond fel y dywedais, rwy’n cydnabod bod mwy i’w wneud.

Bydd yr Aelodau’n ymwybodol imi gyhoeddi datganiad ysgrifenedig ar 21 Ionawr, yn nodi’r camau nesaf, gan gynnwys datblygu cynllun profiadau niweidiol yn ystod plentyndod newydd. Bydd y cynllun hwn yn nodi’r camau gweithredu pellach y byddwn yn eu cymryd i fynd i’r afael â phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod. Bydd yn cyd-fynd â blaenoriaethau ein rhaglen lywodraethu a’r egwyddorion allweddol sy’n sail i'n holl bolisïau, megis hawliau plant, diogelu, llesiant cenedlaethau’r dyfodol, a mynd i’r afael ag anghydraddoldeb, hiliaeth a gwahaniaethu. Ac rwyf wedi nodi’r sylwadau a wnaed am dlodi yma yn y Siambr heddiw. Bydd yn adeiladu ar ein gwaith presennol i fynd i’r afael â cham-drin ac esgeulustod, trais domestig a chamddefnyddio sylweddau ac i gefnogi iechyd meddwl gwell.

Gan droi at hawliau plant, rwy’n falch iawn o’r gwaith rydym yn ei wneud yng Nghymru. Ni oedd y Llywodraeth gyntaf yn y DU i ymgorffori hawliau plant yn y gyfraith—crybwyllwyd y Mesur plant yma heddiw—a’r Llywodraeth gyntaf yn y DU i sefydlu comisiynydd plant. Felly rwy'n croesawu ac yn barod i gefnogi’r gwelliant sy’n galw am ddod â Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn yn rhan lawn o gyfraith Cymru. Fodd bynnag, mae marc cwestiwn o hyd ynglŷn ag a oes gennym y pwerau deddfwriaethol datganoledig angenrheidiol i wneud hynny yng ngoleuni dyfarniad diweddar y Goruchaf Lys ar ddatblygiadau yn yr Alban. Felly, rydym yn ystyried goblygiadau’r dyfarniad, a gwn fod Llywodraeth yr Alban hefyd yn edrych ar y goblygiadau hynny yn awr. Ond rydym yn sicr yn barod i gefnogi’r gwelliant.

Yna, yn olaf, hoffwn roi sylw i fater gosod targed ar gyfer lleihau profiadau niweidiol yn ystod plentyndod. Ein nod bob amser yw diogelu pob plentyn rhag niwed. Nid yw unrhyw beth llai na hynny'n dderbyniol. Mae arferion diogelu da yn dibynnu ar ystyried anghenion ac amgylchiadau unigol pob plentyn, nid targedau. Ac felly nid yw'n dderbyniol i'r Llywodraeth hon fabwysiadu targed a allai ymddangos fel pe bai'n awgrymu ei bod yn dderbyniol goddef cam-drin neu esgeuluso rhai plant. Am y rheswm hwn, nid yw’r Llywodraeth yn cefnogi gosod unrhyw darged ar gyfer lleihau profiadau niweidiol yn ystod plentyndod. Nid ydym am i unrhyw blant gael profiadau niweidiol yn ystod plentyndod, a byddwn yn parhau i ymdrechu tuag at roi’r dechrau gorau posibl mewn bywyd i bob plentyn yng Nghymru ynghyd â’r cyfleoedd i gyflawni eu potensial, ni waeth beth fo’u hamgylchiadau unigol. Diolch.

Photo of David Rees David Rees Labour 4:40, 2 Chwefror 2022

Galwaf ar Mark Isherwood i ymateb i'r ddadl. 

Photo of Mark Isherwood Mark Isherwood Conservative

(Cyfieithwyd)

Diolch. Wel, rwyf wedi gwrando ar y Dirprwy Weinidog a diolch iddi am ei hymateb, ond y gwir amdani yw ei bod yn ymddangos bod y Llywodraeth Lafur hon ar fin pleidleisio yn erbyn gosod targed o 70 y cant ar gyfer lleihau cam-drin plant, esgeulustod a phrofiadau niweidiol eraill yn ystod plentyndod erbyn 2030, er bod y targed hwn wedi'i lansio gan y Worldwide Alternatives to Violence Trust, elusen ryngwladol sydd wedi ymrwymo i wneud y byd yn fwy diogel drwy leihau achosion sylfaenol trais, gan gynnwys cam-drin plant, esgeulustod a thrais domestig. Mae profiadau niweidiol yn ystod plentyndod yn ddigwyddiadau a all fod yn drawmatig sy’n digwydd yn ystod plentyndod, gan effeithio ar iechyd meddwl a llesiant, addysg a photensial cyflogaeth.

Mae Home-Start yn sefydliad gwirfoddol sydd wedi ymrwymo i hyrwyddo lles teuluoedd a chanddynt o leiaf un plentyn o dan 11 oed. Y mis diwethaf, cyfarfûm â Home-Start sir y Fflint, pan glywais fod mwy na 53 y cant o’r teuluoedd y maent yn eu cefnogi wedi cael pedwar neu fwy o brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod, a’r mwyaf cyffredin yw rhieni’n gwahanu a salwch meddwl, gydag esgeulustod emosiynol a thrais domestig heb fod ymhell ar eu holau. Fel roeddent yn dweud wrthyf, mae’n rhaid canolbwyntio ar atal ac ymyrraeth gynnar, yn hytrach nag ymdrin â’r canlyniadau pan aiff pethau o chwith, gan ychwanegu bod eu gwasanaeth yn cael ei ddarparu’n bennaf gan wirfoddolwyr hyfforddedig y mae eu sgiliau, eu cymwysterau a’u profiadau bywyd yn cael eu paru'n ofalus ag anghenion teuluoedd, a hyd yn oed â dynameg teuluoedd. Maent yn defnyddio dull sy'n seiliedig ar gryfderau, gan nodi beth sy'n gweithio'n dda ac adeiladu ar hynny. Yn aml, gyda theuluoedd yr ystyrir eu bod yn rhai anodd eu cyrraedd, gall hyn gymryd peth amser. Maent yn gweithio gyda'r teulu cyfan, gan alluogi teuluoedd i symud drwy eu gwasanaeth a chael mynediad at amrywiaeth o ymyriadau. Fel y dywedant, nid oes ffordd gyflym o fynd i’r afael â phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod, ac mae angen agwedd gyfannol, yn hytrach na rhaglen rianta fer ragnodol.

Byddwn yn cefnogi’r ddau welliant gan Blaid Cymru. Wrth agor y ddadl, dywedodd Gareth Davies, yn gywir, fod gennym gyfle gwirioneddol i roi Cymru ar lwybr i fod yn arweinydd byd-eang ar fynd i’r afael â phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod, ond er mwyn gwneud hynny, mae angen targed er mwyn llenwi’r bylchau y mae plant yn syrthio drwyddynt drwy fabwysiadu’r targed 70-30. Cefnogodd Heledd Fychan dargedau penodol ynghyd â newid go iawn, a thynnodd sylw at ganlyniadau rhoi plant mewn perygl o niwed yn y cartref yn ystod y cyfyngiadau symud. Galwodd Jack Sargeant am ddull mwy caredig wedi'i lywio gan ymwybyddiaeth o effaith trawma. Dyfynnodd Laura Anne Jones arolwg troseddu Cymru a Lloegr—mae 0.5 miliwn o bobl wedi dioddef esgeulustod corfforol cyn eu bod yn 16 oed—a dywedodd na allwn barhau i baratoi plant i fethu.

Soniodd Jane Dodds am ei 25 mlynedd yn gweithio ym maes diogelu plant a’r cylch o gam-drin a thlodi y bu’n dyst iddo, a galwodd arnom i weithio gyda’n gilydd ar draws y pleidiau i newid pethau ac am ddull o atal trawma sy'n seiliedig ar hawliau. Soniodd Janet Finch-Saunders am ganfyddiad ymchwil fod 19 y cant o bobl ifanc yng Nghymru wedi adrodd am lefelau uchel o symptomau iechyd meddwl cyn y pandemig a’r cyfyngiadau symud, a’r cynnydd yn nifer y plant sy’n troi at ganabis yn lle cael eu cefnogi i fynd i’r afael â’u trawma. Roedd Joyce Watson yn iawn i bwysleisio pa mor bwysig yw gwasanaethau ymyrraeth yn y blynyddoedd cynnar, ond yn anffodus, ceisiodd gyflwyno gwleidyddiaeth bleidiol i'r ddadl bwysig hon. Ac roedd Peredur Owen Griffiths yn llygad ei le pan ddywedodd y gall targedau roi cyfeiriad ac ysgogiad ar gyfer newid, a bod lefelau tlodi plant yng Nghymru yn destun cywilydd cenedlaethol.

Wel, gall atal profiadau niweidiol yn ystod plentyndod helpu plant ac oedolion i ffynnu, ac o bosibl, atal profiadau niweidiol yn ystod plentyndod rhag cael eu trosglwyddo o un genhedlaeth i’r llall. Rwy'n annog yr Aelodau i gefnogi ein cynnig yn unol â hynny, a rhoi dannedd yng ngheg y nodau a fynegir dro ar ôl tro gan bawb yma. Diolch.

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 4:44, 2 Chwefror 2022

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad, felly fe fyddwn ni yn gohirio'r bleidlais tan y cyfnod pleidleisio.   

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.