– Senedd Cymru am 3:24 pm ar 9 Chwefror 2022.
Eitem 6 y prynhawn yma yw'r ddadl ar gynnig deddfwriaethol gan Aelod ar reolaethau rhent. Galwaf ar Mabon ap Gwynfor i wneud y cynnig.
Cynnig NDM7831 Mabon ap Gwynfor
Cefnogwyd gan Rhys ab Owen, Sioned Williams
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil ar reolaethau rhent.
2. Yn nodi mai diben y Bil hwn fyddai:
a) helpu i fynd i'r afael â rhai o effeithiau mwy difrifol argyfwng tai Cymru, sy'n effeithio ar dros filiwn o bobl ledled y wlad;
b) lliniaru cynnydd sylweddol mewn rhent yn y dyfodol, fel y cynnydd a welwyd yn y sector rhentu dros y 12 mis diwethaf;
c) cyflwyno system sy'n cyfyngu ar renti a chynnydd mewn rhent i lefelau fforddiadwy a ffactorau lleol, gan gau'r bwlch rhwng twf cyflogau a chostau byw.
Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. [Torri ar draws.] Diolch am y croeso. Rhaid imi ddatgan diddordeb ar gychwyn y ddadl fel rhywun sydd ag eiddo arall gyda thenant yn byw ynddo fo. Felly, pam fy mod i, o bawb, yn cyflwyno cynnig i reoli rhent? Yn syml, oherwydd mai dyma'r peth iawn i'w wneud.
Mae yna argyfyngau enbyd yn digwydd ar hyd hanes ac maen nhw'n arwain at wasgfa ariannol sydd yn ei thro yn arwain at dlodi enbyd. Mae hyn yn wir yn ddieithriad, ac mae hanes yn dyst i’r ffaith. Ar adegau o argyfwng enbyd, mae llywodraethau yn gweithredu i ddangos eu bod nhw yno i amddiffyn ac i helpu drwy gynnig tarian yn erbyn yr elfennau gwaethaf.
Gadewch inni gymryd un enghraifft amlwg o hanes. Yn dilyn yr ail ryfel byd, beth wnaeth Clement Attlee ac Aneurin Bevan? Fe aethon nhw ati i weithredu argymhellion adroddiad Ridley a chryfhau y rheolaethau rhent a dechrau ar raglen anferthol o adeiladu tai cyhoeddus. Fe soniodd Aneurin Bevan ei hun am yr angen i warchod tenantiaid. Ac mae pobl Cymru yn edrych arnom ni yma heddiw i wneud beth fedrwn ni i’w hamddiffyn rhag disgyn i dlodi yn wyneb heriau anferthol ar ôl-COVID. Dydyn ni ddim yn gwybod impact llawn COVID eto—fe ddaw yn gliriach wrth i amser fynd yn ei flaen—ond rydym ni’n dechrau gweld ei effaith andwyol yn barod, a hyn ar ben dros 10 mlynedd o lymder llethol. Mae cyflogau wedi methu â chadw i fyny efo chwyddiant, mae chwyddiant ar fin bwrw ei lefel uchaf ers 30 mlynedd, ac mae costau byw ar gynnydd. Ond, ar ben hyn, mae rhent wedi cynyddu yn fwy yng Nghymru nag yn yr un ardal arall o’r Deyrnas Gyfunol, gan weld cynnydd o bron i 13 y cant yn y flwyddyn ddiwethaf yn unig.
Mae dros hanner y plant sy’n byw mewn tai rhent yn byw mewn tlodi. Mae’r canran o bobl sy’n byw mewn tlodi yn y sector rhent yn fwy yng Nghymru nag yn unrhyw ran arall o’r Deyrnas Gyfunol. Mae Caerdydd yn ei chael hi'n arbennig o wael, efo’r Joseph Rowntree Foundation yn amcangyfrif fod nifer yn gwario 35 y cant o’u hincwm ar rent yn unig. Gall pobl ifanc ddim fforddio prynu tai yn eu cymunedau ac mae rhestrau aros tai cymdeithasol yn hirfaith. Felly, yr unig ddewis ydy rhentu yn breifat neu, i rai, yn anffodus, byw efo mam a dad. Does dim syndod bod ffigurau’r ONS yn dangos bod treian o bobl rhwng 20 a 30 oed yn byw efo’u rhieni yma yng Nghymru. Mae Shelter Cymru wedi gweld rhenti yn dyblu mewn mis mewn rhai achosion, ac Acorn yng Nghaerdydd yn sôn am landlordiaid yn cynyddu rhent dros £100 y mis i rai tenantiaid. Heb gamau ymyrraeth, yna byddwn yn gweld mwy a mwy o bobl yn canfod eu hun yn byw mewn tlodi neu hyd yn oed yn ddigartref.
Gwn y bydd rhai yn cael braw o ddarllen y cynnig, ac yn reddfol yn gwrthwynebu, gan gyfeirio at enghreifftiau ble mae polisi o dan y teitl 'rheolaethau rhent' wedi methu. Ac mae hynny’n wir; mae yna arbrofion wedi methu. Ond pan eu bod nhw wedi eu llunio yn gywir, wedi cael eu targedu ac wedi cael eu cyplysu a'u cyd-blethu â pholisïau eraill llwyddiannus, yna mae rheolaethau rhent yn bolisi sydd yn llwyddo ac yn boblogaidd. Ac mae'n boblogaidd heddiw, efo dros dwy ran o dair o bobl yn cefnogi cyflwyno polisi o’r fath yn y Deyrnas Gyfunol, yn ôl pôl piniwn diweddar gan YouGov. Noder nad ydy’r cynnig yn cyflwyno math arbennig o system reoli rhent, ond mae o yn nodi yr angen i osod rheolaeth ar renti i lefelau sy’n ateb y gallu i dalu.
Gadewch inni edrych ar rai enghreifftiau. Dydy Llywodraeth Gweriniaeth Iwerddon ddim yn nodedig am fod yn un arbennig o adain chwith; yn wir, mae'n Llywodraeth mwy adain dde. Ond yno, maen nhw wedi cyflwyno camau i reoli rhent, efo adolygiad rhent heb fod yn llai na bob dwy flynedd a chyfnod 90 niwrnod o notis o’r newid hwnnw. Mae yna barthau pwysau rhent yno ar gyfer ardaloedd ble mae pwysau yn arbennig o uchel ac yn golygu na all rhent gynyddu yn uwch na chwyddiant yn y parthau hynny. Yng Nghatalunya, mae'r Llywodraeth yno wedi cyflwyno trefn sy’n cyfyngu ar y rhent i garfan benodol o bobl, er enghraifft os ydy’r rhent yn gydradd i 30 y cant neu'n fwy o’r incwm. Ac, wrth gwrs, mae rheolau rhentu mewn bodolaeth mewn gwahanol daleithiau ar draws yr Unol Daleithiau, ac maen nhw wedi cael eu cyflwyno mewn modd sydd wedi eu targedu yn bwrpasol.
Mae’n amlwg felly fod cynnal gwaith paratoadol a pharatoi manwl yn gwbl allweddol i sicrhau llwyddiant polisi o'r fath. Dyna pam fy mod i’n hynod o falch fod y Llywodraeth yma heddiw wedi dod i gytundeb â ni ym Mhlaid Cymru i edrych ar y posibilrwydd o gyflwyno rheolaethau rhent fel rhan o becyn ehangach mewn Papur Gwyn ar dai. Dyma fydd y cam cyntaf tuag at ddeddfu a sicrhau bod yna dai tecach yma yng Nghymru i'n pobl ni.
Mae’r cynnig yma felly yn gyfle cychwynnol i ddechrau gwyntyllu’r potensial ar gyfer system deg o reoli rhent, a'r cyfraniad y gallai wneud i'n nod ehangach o warantu hawliau tenantiaid—hawliau pobl i fyw efo to uwch eu pennau heb y bygythiad o ddigartrefedd yn lluchio cysgod dros eu bywydau. Mae o hefyd yn ddatganiad o egwyddor sylfaenol—bod yna anghyfiawnder sylfaenol yn nhrefniadaeth bresennol ein cyfundrefn dai, sef bod pobl yn byw mewn tlodi tra bod carfan fach iawn o bobl yn gwneud elw ar eu cefnau.
Dwi'n gofyn i Aelodau o'r Senedd, felly, gefnogi'r cynnig yma heddiw, a grymuso'r Llywodraeth i fwrw ati â'r gwaith paratoadol, er mwyn rhoi'r seiliau mewn lle ar gyfer galluogi cyflwyno system o reoli rhent, law yn llaw â gwaith ehangach i sicrhau bod gan bawb yr hawl i gartref yma yng Nghymru. Diolch yn fawr iawn.
Cyfeiriaf yr Aelodau at fy natganiad o fuddiannau, ac yn wir, rwyf am ddatgan diddordeb yn y ddadl hon. Byddaf hefyd yn pleidleisio'n gadarn iawn yn erbyn y cynnig deddfwriaethol hwn, ac nid yw hynny'n tynnu oddi ar y ffaith fy mod yn ymwybodol o'r gwaith rydych wedi'i wneud ar hyn. Mae tystiolaeth glir y gall rheolaethau rhent gael effeithiau negyddol sylweddol, ar landlordiaid, tenantiaid, ac yn wir, ar ansawdd y stoc dai. Arweiniodd cyfraith rheolaethau rhent San Francisco ym 1994 at gynnydd o 5.1 y cant mewn rhenti yn gyffredinol dros y ddau ddegawd nesaf. Creodd y cynnydd cyffredinol mewn rhenti gost gronedig o £2.9 biliwn i rentwyr presennol a rhentwyr yn y dyfodol, gyda landlordiaid yn newid i fathau eraill o eiddo tirol, a oedd wedyn yn lleihau'r cyflenwad tai, gan ei symud tuag at fathau llai fforddiadwy o dai.
Nawr, rydym eisoes yn gweld patrwm sy'n peri cryn bryder yng Nghymru. Mae landlordiaid preifat, broceriaid ariannol, yn dweud wrthyf eu bod hwy neu eu cleientiaid wedi cael llond bol erbyn hyn ar y rheolaethau niferus a osodir arnynt, er mai'r cyfan y maent am ei wneud yw darparu llety o ansawdd da yn gyfnewid am rent teg. Mae llawer bellach yn gwerthu eu stoc neu'n symud i'r sector llety gwyliau. Mewn gwirionedd, rhwng 2018-19 a 20-21, mae dros 4,500 o landlordiaid preifat Cymru wedi gadael y sector. Weinidog, gallwch ysgwyd eich pen, ond mae’r ffigur hwnnw gennyf, yn bendant, ac wedi’i ddarparu i mi gan Rhentu Doeth Cymru eu hunain, mewn du a gwyn.
Nawr, yr wythnos diwethaf, cadeiriais gyfarfod bord gron i werthwyr tai, a dywedwyd yn glir fod asiant yn ne Cymru sy’n rheoli mwy na 4,000 o unedau, ac maent yn gwybod i sicrwydd fod perchnogion yn pleidleisio â’u traed ac yn gadael y sector rhentu. Byddai eich cynnig, Mabon, yn troi'r don honno’n tswnami o landlordiaid yn gadael, a’r union bobl rydych yn credu eich bod yn ceisio eu helpu a fyddai'n dioddef. Mae astudiaethau wedi dangos bod rheolaethau rhent yn arwain at ddirywiad yn ansawdd tai, o ganlyniad i'r gostyngiad yn incwm y landlordiaid a llai o awydd i gynnal a chadw'r tai. Cyflwynodd yr Almaen system genedlaethol o reolaethau rhent yn 2015, ond yn ôl ymchwil, ni chafodd hyn unrhyw effaith barhaus ar brisiau rhent, gan arwain yn lle hynny at ddirywiad yn ansawdd tai.
Nawr, mae Dr Simon Brooks wedi nodi'n glir fod darparu cyflenwad digonol o lety rhent yn arbennig o bwysig mewn trefi fel Llangefni, Caergybi, Aberdaugleddau, Hwlffordd, a Chaernarfon a Bangor yng Ngwynedd. Nid oes enghraifft well o fethiant sosialaeth yng Nghymru na’r llanast llwyr y mae Llafur Cymru a Phlaid Cymru yn ei wneud o’n sector tai. Fel y nodwyd yn glir yn fy nghyfarfod bord gron gyda gwerthwyr tai, maent yn credu mai dim ond gyrru faint o stoc sydd ar gael i denantiaid ei rhentu rydych yn ei wneud—
Janet, a allwch ddirwyn i ben yn awr, os gwelwch yn dda?
Y ddeddfwriaeth hon fydd yr hoelen olaf yn yr arch, a bydd yn arwain at sefyllfa waeth i'r union bobl y credwch eich bod yn ceisio eu helpu. Hoffwn ofyn i bob Aelod gefnogi tenantiaid, landlordiaid, a sicrhau nad yw ein stoc dai'n dirywio ymhellach, a phleidleisio’n gadarn yn erbyn hyn. Diolch.
Rwy'n credu mewn rheolaethau rhent, ac nid wyf yn berchen ar unrhyw dai ar wahân i'r un rwy'n byw ynddo. Gyda phrinder eiddo rhent o gymharu â'r galw, heb reolaethau, bydd rhenti'n parhau i gynyddu. O ganlyniad i adeiladu tai cyngor ar raddfa fawr cyn 1979, dirywiodd y sector rhentu preifat. Dechreuodd y sector rhentu preifat dyfu eto ar ôl 1989 a dyma'r ddeiliadaeth fwyaf ond un yn y DU bellach, ar ôl perchen-feddiannaeth. Mae cynnydd lefelau rhent yn y sector preifat a ffocws ar leihau gwariant ar fudd-daliadau tai wedi arwain sawl sylwebydd, ac rwy'n cytuno â hwy, i alw am ailgyflwyno rhyw ffurf ar reolaethau rhent ar gyfer y sector preifat. Roedd Deddf Rhenti 1965, a gyflwynwyd gan y Llywodraeth Lafur dan arweiniad Harold Wilson, yn rheoleiddio tenantiaethau, gyda rhenti teg yn cael eu gosod gan swyddogion rhent annibynnol. Daeth hynny i ben gyda Deddf Llywodraeth Leol a Thai 1989, a gyflwynwyd gan y Ceidwadwyr, ac fe soniasom am 1989 yn gynharach, sef y dyddiad y dechreuodd y cynnydd mewn darpariaeth rhent preifat.
Beth yw manteision rheolaethau rhent? Fforddiadwyedd, mae'n atal dadleoli, sefydlogrwydd cymdogaethau. Tybiaf mai'r dadl a wneir— gwnaeth Janet Finch-Saunders y ddadl honno, dadl a wrthodais cyn iddi siarad hyd yn oed—yw eu bod yn lleihau argaeledd eiddo ar rent ar gyfer adnewyddu a gwella stoc. Yn gyntaf, mae rhent uchel eiddo sy'n cael ei rentu'n breifat wedi cau prynwyr tro cyntaf allan. Ond hoffwn siarad am Blasmarl yn Abertawe, o lle rwy'n dod. I ddechrau, roedd yno niferoedd mawr o eiddo wedi’u rhentu’n breifat, ond wrth i dai cyngor ddod ar gael, symudodd fy nheulu, fel llawer o deuluoedd eraill, i’r tai cyngor newydd hyn, a gwerthwyd y tai a oedd ar ôl, a daeth llawer o bobl, drwy forgais, yn berchen-feddianwyr ac yna gwnaethant welliannau i’r cartrefi hynny. Bellach, mae'r eiddo hyn yn cael eu prynu ac ar gael i'w rhentu'n breifat. Mae’n rhaid fy mod wedi methu’r gwaith adnewyddu ar raddfa fawr i’r eiddo rhent preifat rhatach yn nwyrain Abertawe.
Ochr yn ochr â rheolaethau rhent, mae angen inni adeiladu tai cymdeithasol ar raddfa fawr. A dweud y gwir, rwy’n sôn am hynny'n amlach nag yr hoffai pobl ei glywed gennyf, mwy na thebyg, ond mae angen inni adeiladu tai cyngor yr un mor gyflym ag y byddem yn eu hadeiladu yn y 1950au a’r 1960au. Mae rheolaethau rhent yn cynyddu argaeledd tai i'w prynu gan bobl i fyw ynddynt, yn lleihau costau rhentu, yn rhoi sicrwydd ynghylch costau rhentu, yn cael gwared ar y cymhelliant i symud un tenant allan er mwyn dod ag un i mewn i dalu rhent uwch. Rwy’n annog pawb i gefnogi hyn heddiw. Mae hwn, i bob pwrpas, yn bolisi Llafur; mae’n rhywbeth a gyflwynwyd gan Lywodraeth Wilson, a weithiodd yn dda iawn i sicrhau chwarae teg i bobl dlawd a llai cyfoethog, ond cafodd y Torïaid wared arno yn y 1980au. Mae gennym gyfle i'w ailgyflwyno yn awr er budd pawb sy'n rhentu yng Nghymru. Rwy’n annog pawb, yn enwedig fy nghyd-Aelodau Llafur, i gefnogi’r hyn sydd i bob pwrpas yn ateb sosialaidd.
Yr angen am loches yw un o'r anghenion dynol mwyaf sylfaenol, ond gellir camfanteisio ar yr angen hwn. Mae llawer o’r problemau rydym yn eu trafod bob dydd gyda’n hetholwyr yn ymwneud â’r argyfwng tai sydd wedi anrheithio ein cymunedau. Oherwydd, yn ddiamau, mae hwn yn argyfwng, ac mae'n cael yr effaith galetaf ar y bobl dlotaf a mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas. Mae'n rhaid inni gymryd camau i'w hamddiffyn.
Tai yw’r gost fyw fwyaf a wynebir gan y rhan fwyaf o deuluoedd yng Nghymru, ac mae codiadau afreolus mewn rhenti yn gorfodi gormod o denantiaid i dalu cyfran afresymol, ac anghynaliadwy yn y pen draw, o’u hincwm cyfyngedig i landlordiaid. Mae’r darlun a baentiwyd gan yr ystadegau a ddyfynnwyd gan Mabon ap Gwynfor yn datgelu maint ac effaith fwyfwy negyddol rhenti annheg ac anfforddiadwy, sy’n cael effaith anghymesur ar bobl ar incwm isel, gan waethygu anghydraddoldeb, a gwaethygu lefelau tlodi sydd eisoes yn rhy uchel. A gwyddom fod menywod, pobl o gefndiroedd ethnig lleiafrifol, pobl ifanc, ffoaduriaid, ymfudwyr, pobl anabl a phobl LHDTC+ oll yn cael eu heffeithio’n anghymesur gan strwythurau economaidd sy’n cosbi’r rheini ar incwm isel, wrth iddynt wynebu gwahaniaethu hefyd o ran mynediad at dai.
Fel y clywsom gan Mabon ap Gwynfor, mae rhenti wedi cynyddu bron i 13 y cant yng Nghymru dros y flwyddyn ddiwethaf. Mae gwaith achos Shelter Cymru wedi nodi achosion o gynnydd difrifol, cymaint â 100 y cant y mis mewn un achos. Ac mae'r canlyniadau i'r rheini na allant fforddio'r codiadau hyn yn enbyd, gan arwain yn aml at ddyledion problemus, troi allan, digartrefedd. Nid yw cyflogau wedi cynyddu’n unol â hynny, a chyda phrisiau tanwydd yn codi’n aruthrol, ynghyd â chost gynyddol hanfodion bob dydd, mae angen gweithredu ar frys er mwyn roi diwedd ar y ffordd y mae rhenti heb eu rheoli yn cyfrannu at yr argyfwng costau byw ac anghydraddoldeb cymdeithasol ehangach.
Mae cyfiawnder economaidd yn fater cydraddoldeb. Mae'n rhaid i weithredoedd y rhai ohonom ar adain flaengar gwleidyddiaeth gyd-fynd â'r uchelgeisiau a gaiff eu datgan. Fel y soniodd Mabon, mae gennym gyfle yma i roi'r camau gweithredu ystyrlon cyntaf ar waith i helpu tenantiaid, megis ystyried rheolaethau rhent wedi’u targedu, a chefnogi Papur Gwyn y Llywodraeth ar dai, ac wrth wneud hynny, parhau yn nhraddodiad cewri radicalaidd Cymru. Gyd-Aelodau, gadewch inni ddangos mai ni yw etifeddion y traddodiad radical hwnnw.
Mae tlodi'n cyfyngu ar eich rhyddid i fwynhau bywyd pleserus a diledryw, ond mae hyd yn oed y posibilrwydd o gwympo i fyw mewn tlodi neu golli eich cartref yn ddigon i gyfyngu ar eich rhyddid. Cyhyd â bod landlordiaid yn parhau i fod â gallu i godi rhenti'n fympwyol, bydd tenantiaid yn parhau i fyw o dan gwmwl tywyll o ansicrwydd economaidd. Mae’r cynnig hwn yn arwydd y byddem ni fel Senedd yn amddiffyn hawliau a rhyddid pobl gyffredin i allu byw eu bywydau heb y bygythiad cyson hwnnw. Mae’r argyfwng tai yn ganlyniad i system economaidd a luniwyd i warchod cyfoeth yr ychydig, nid anghenion y lliaws, a heb fesurau lliniaru, megis rhyw ffurf ar reolaethau rhent, bydd y system yn parhau fel y mae. Diolch.
Dylwn ddatgan buddiant fel rhywun sy'n rhentu eiddo ar hyn o bryd.
Wel, gyfeillion, ni feddyliais erioed y byddwn yn sefyll yma y prynhawn yma i ymladd yn erbyn rheolaethau rhent. Ble maent wedi gweithio? Ble maent wedi bod yn llwyddiant i'r bobl rydych yn honni y byddent yn eu helpu? Nid oes unrhyw un wedi dweud wrthyf hyd yma, gan mai'r ateb yw nad ydynt yn gweithio. Nid oes unrhyw un yn gwadu bod pwysau sylweddol ar y farchnad dai a bod prinder cartrefi i bobl ifanc. Fodd bynnag, nid mwy o fiwrocratiaeth a mwy o reoleiddio yw'r ateb gan ein bod yn y sefyllfa hon oherwydd biwrocratiaeth a rheoleiddio. Ledled Cymru gyfan yn 2021, o dan reolaeth Llywodraeth Lafur Cymru, fe wnaeth eich cyllideb ddrafft eich hun dynnu sylw at y ffaith mai 4,314 yn unig o anheddau newydd a gychwynnwyd, ac nid yw’n mynd i wella gyda chanllawiau ffosffadau Cyfoeth Naturiol Cymru sy'n atal pobl rhag adeiladu tai.
Ni fydd rheolaethau rhent a mwy o fiwrocratiaeth yn mynd i’r afael â’r argyfwng tai, ond gallent waethygu’r argyfwng tai. Mae landlordiaid yn yr ystafell hon heddiw a thu hwnt yn gwybod, os cyflwynir rheolaethau rhent, y gallai rhai o’r bobl hynny ei chael hi'n anodd talu morgeisi ar yr eiddo, y gallent ei chael yn anodd talu’r gwaith cynnal a chadw ar eiddo, y bydd tenantiaid yn cael eu troi allan wrth i’r cartrefi hynny fynd ar y farchnad agored, ac unwaith eto, byddwn yn gweld mwy o gartrefi yn mynd ar Airbnb. Mae rheolaethau rhent yn peri risg wirioneddol o ansefydlogi'r farchnad, ac mae pob un ohonoch yn gwybod hynny. Bachu penawdau'n unig a wna polisïau fel hyn, nid ydynt yn gweithio, ac mae pobl bob amser yn dod o hyd i ffordd o osgoi'r rheoliadau.
Mae pobl ifanc angen mynediad at gartrefi fforddiadwy, ac mae angen inni wneud hynny drwy ddadreoleiddio a lleihau’r baich ar y sector adeiladu tai, Weinidog, a gadewch inni ddechrau adeiladu, adeiladu, adeiladu.
Rwyf wedi cefnogi rheolaethau rhent ers tro ac rwy’n cefnogi unrhyw gam i fynd i’r afael â’r tlodi a achosir gan godiadau rhent afresymol. Bu'n argyfwng ar farchnad dai'r DU ers degawdau. Mae sylfeini'r system wedi'u torri. Mae’r syniad y dylai fod hawl gan bawb i do uwch eu pennau, fel cymaint o feysydd eraill yn ein heconomi, bellach yn ddarostyngedig i fympwyon grymoedd y farchnad a'r dyhead i wneud elw.
Pan ddaeth Margaret Thatcher i rym, diddymodd ei Llywodraeth gyllid i gynghorau adeiladu tai economaidd gynhyrchiol, gan ddewis cefnogi rhenti a morgeisi yn lle hynny. Ymwthiodd dogma’r farchnad ymhellach i bolisi tai’r DU drwy bolisi trychinebus yr hawl i brynu. Ni ddarparwyd tai yn lle'r rhan fwyaf o'r tai a werthwyd o dan y polisi hwn. Roedd yn enghraifft o werthu asedau'r wladwriaeth i'r sector preifat ar raddfa enfawr. Dinistriodd ddegawdau o gytundeb gwleidyddol prif ffrwd ar yr angen i gynghorau ddarparu tai cymdeithasol.
Gan ddechrau gyda Llywodraeth Lafur Clement Attlee, darparodd y wladwriaeth gyllid i gynghorau fuddsoddi mewn cynyddu'r nifer o dai cymdeithasol, ac am ddegawdau, câi cannoedd o filoedd o dai rhent cymdeithasol, ar gyfartaledd, eu hadeiladu bob blwyddyn. Yn economaidd, roedd y cyfiawnhad yn amlwg, gan fod adeiladu tai ar raddfa fawr yn golygu bod prisiau tai a rhenti yn parhau i fod yn fforddiadwy oherwydd bod y cyflenwad yn fawr. Pan ystyrir tai fel buddsoddiad ariannol, y gwrthwyneb sy'n wir. Mae pwysau i gyfyngu ar y cyflenwad er mwyn codi prisiau, gan gynyddu elw'r rheini sy'n berchen ar yr asedau. Lle y caiff tai eu hadeiladu, bellach caiff ei adael i raddau helaeth i ddatblygwyr eiddo preifat, a'u prif gymhelliant hwy yw gwneud elw i'w cyfranddalwyr.
Mae twf cyflym ac anghynaliadwy dosbarth o landlordiaid prynu-i-osod ers y 1980au nid yn unig wedi dadwneud llawer o’r cynnydd a wnaed i amodau tenantiaid ond hefyd mae wedi arwain at beri i brisiau tai godi i'r entrychion. Mae'r prisiau uwch ynghyd â'r cyflenwad isel yn arwain at renti cynyddol. Mae rheolaethau rhent yn cynnig un o'r arfau mwyaf pwerus sydd gennym i fynd i'r afael â'r sefyllfa hon. Nid ydynt yn ddigynsail, maent yn weddol gyffredin ledled Ewrop. Yn 2016, cyflwynodd Llywodraeth yr Alban y pŵer i osod rheolaethau ar renti, ac yng Nghymru, mae'n rhaid inni ddysgu gwersi am fethiannau dull gweithredu’r Alban, a achoswyd gan ofnusrwydd siomedig a diffyg uchelgais. Yn gyntaf ac yn bennaf, nod rheolaethau rhent ddylai fod i amddiffyn tenantiaid. Fel nod mwy hirdymor, dylent atal landlordiaid prynu-i-osod rhag cronni eiddo a chynyddu’r nifer ohonynt sy’n dymuno gwerthu. Bydd hyn yn darparu cynnydd yn y cyflenwad, gan ganiatáu i denantiaid brynu eu tai eu hunain. Bydd ehangu tai cymdeithasol yn barhaus gan Lywodraeth Cymru yn sicrhau cartrefi i’r rheini nad ydynt yn dymuno prynu neu sy’n dal i fod yn methu gwneud hynny, ac edrychaf ymlaen at y Papur Gwyn, ac rwy’n falch y bydd Llywodraeth Cymru yn croesawu rheolaethau rhent, fel yr addawyd yn y maniffesto. Pobl ifanc a'r dosbarth gweithiol sy'n teimlo effeithiau'r argyfwng tai yn fwyaf difrifol. Os na weithredwn, byddwn yn condemnio ieuenctid yfory i ddyfodol heb sicrwydd tai. Diolch.
Galwaf ar y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Wrth nodi’r cynnig ar gyfer Bil ar reolaethau rhent, credaf ei bod yn wirioneddol bwysig nodi’r ymrwymiad yn y rhaglen lywodraethu. Mae’r ymrwymiad yn y rhaglen lywodraethu'n adlewyrchu’r ymrwymiad ym maniffesto Llafur Cymru 2021 i ddatblygu cynllun cenedlaethol i osod cyfyngiadau ar renti i deuluoedd a phobl ifanc sydd wedi’u prisio allan o’r farchnad rentu preifat a’r rheini sy’n ddigartref neu mewn perygl o fod yn ddigartref. Mae ymrwymiad y rhaglen lywodraethu hefyd erbyn hyn yn adlewyrchu cynnwys rheolaethau rhent yn y cytundeb cydweithio gyda Phlaid Cymru.
Ein hymrwymiad yw cyhoeddi Papur Gwyn ar renti teg a dulliau newydd o wneud cartrefi’n fforddiadwy i bobl ar incwm isel. Yn unol â’r cytundeb cydweithio, bydd hynny'n cynnwys cynigion ar reolaethau rhent. Fel y gŵyr llawer ohonoch, serch hynny, mae hanes rheolaethau rhent braidd yn frith, gyda llawer o ymyriadau blaenorol heb gael y budd a fwriadwyd, neu'n wir, wedi arwain at rai effeithiau negyddol difrifol. Gwyddom, er enghraifft, nad yw deddfwriaeth y parthau pwysau rhent a gyflwynwyd yn yr Alban wedi’i defnyddio eto, a bu’n rhaid ailgynllunio mesurau a gyflwynwyd yn Iwerddon yn sylweddol, gan eu bod wedi cael eu beirniadu am arwain at godiadau rhent a lleihau'r cyflenwad.
Fodd bynnag, mae enghreifftiau da ledled y byd o reolaethau rhent yn gweithio yn y ffordd gywir at y dibenion cywir. Mae'n rhaid imi ddweud wrth y Ceidwadwyr gyferbyn fod eu 'hargyfwng ffosffadau’, fel y maent yn ei alw, sy'n atal y dull adeiladu, adeiladu, adeiladu yn gwrthgyferbynnu’n llwyr â’u hymrwymiad dywededig i'r argyfwng hinsawdd a'r argyfwng natur.
Na, nid yw—[Anghlywadwy.]
Sut ar y ddaear y credwch y gallwn gael afonydd yn llawn ffosffadau ac adeiladu tai is na'r safon dros holl dir gwyrdd Cymru a chael ymagwedd gydlynol at yr argyfyngau hinsawdd a natur, ni allaf ddeall. Felly, mae angen ichi edrych yn ofalus arnoch chi'ch hunain a mabwysiadau ymagwedd gydlynol at hyn.
Rwyf wedi cyfarfod â nifer fawr o fuddsoddwyr sector preifat sy’n hoff iawn o’r dull gweithredu sydd gennym yma yng Nghymru. Maent yn dymuno sicrhau, wrth gwrs, gan eu bod yn bobl raslon, eu bod yn cyfrannu at sicrhau bod gan bawb yng Nghymru fynediad at gartref addas, fforddiadwy a diogel, gan eu bod yn ymwybodol iawn fod a wnelo tai â mwy nag elw yn unig. Felly, credaf eich bod yn troi ymysg y criw anghywir draw ar feinciau asgell dde'r Ceidwadwyr.
Felly, rydym o'r farn mai’r dull gweithredu a nodir yn ein rhaglen lywodraethu yw’r ffordd gywir ymlaen. Cyn bo hir, byddwn yn comisiynu ymchwil annibynnol fel y gall pob un ohonom ddeall pa fesurau sydd â'r gobaith gorau o lwyddo. Gan adeiladu ar y gwaith ymchwil hwnnw, byddwn wedyn yn cynhyrchu Papur Gwyn yn cynnwys y cynigion polisi, a fydd yn destun ymgynghoriad.
Rydym yn gwbl ymrwymedig, wrth gwrs, i sicrhau bod gan bawb yng Nghymru fynediad at gartref addas, fforddiadwy a diogel. Mae sicrhau bod rhenti’n fforddiadwy yn ganolog i hyn, ac rydym yn ymwybodol iawn, wrth gwrs, o’r argyfwng costau byw sy’n wynebu cymaint o bobl yng Nghymru. Fel y dywedais mewn dadl ddoe ddiwethaf, Ddirprwy Lywydd, y Torïaid ar y meinciau gyferbyn, wrth iddynt weiddi arnaf o'u seddau, yw’r blaid sydd wedi rhewi’r lwfans tai lleol, gan sicrhau nad oes gan bobl fynediad at renti fforddiadwy yn y sector rhentu preifat os ydynt ar fudd-daliadau. O ddifrif, mae angen ichi edrych arnoch chi'ch hunain yn ofalus.
Rydym eisoes yn rhoi llu o fesurau ar waith, gan gynnwys ein hymrwymiad i adeiladu 20,000 o gartrefi cymdeithasol carbon isel newydd i’w rhentu. Ar y sector rhentu preifat, rwyf eisoes wedi cyfeirio at y cynllun lesio cenedlaethol. Mae hyn yn adeiladu ar ein cynllun peilot llwyddiannus i alluogi awdurdodau lleol i lesio eiddo oddi wrth berchnogion eiddo preifat am gyfnod o rhwng pump ac 20 mlynedd. Mae gennym nifer fawr o fuddsoddwyr preifat a chanddynt diddordeb yn hyn. Bydd awdurdodau lleol yn darparu’r cartrefi hyn am rent fforddiadwy i bobl y byddent fel arall yn wynebu digartrefedd o bosibl. Byddant yn darparu'r cymorth sydd ei angen ar denantiaid i gynnal eu tenantiaethau a ffynnu yn eu cartrefi.
Yn fwy cyffredinol, wrth gwrs, ac rwy’n atgoffa Mabon, gan iddo fethu cofio am hyn yn ei araith, y bydd gweithredu Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 yn trawsnewid y dirwedd i denantiaid ac yn cryfhau eu hawliau’n sylweddol. Ar yr amod nad ydynt yn torri eu contract, bydd gan denantiaid hawl i chwe mis o rybudd os bydd y landlord yn dymuno dod â'r contract i ben. Ni ellir cyflwyno'r hysbysiad hwnnw yn ystod y chwe mis cyntaf, felly bydd ganddynt sicrwydd am flwyddyn o leiaf ar ôl symud i'w cartref. Bydd y Ddeddf rhentu cartrefi yn rhoi mwy o sicrwydd i bob tenant nag unrhyw le arall yn y DU. Wrth gwrs, mae llawer o ddarpariaethau pwysig eraill yn y Ddeddf, gan gynnwys mewn perthynas â gwella ansawdd cartrefi ar rent a sicrhau eu bod yn addas i bobl fyw ynddynt.
Byddwn yn cyhoeddi Papur Gwyrdd yn ddiweddarach eleni, fel y cam nesaf tuag at gyflwyno deddfwriaeth i ddod â digartrefedd i ben, a fydd yn diwygio gwasanaethau digartrefedd yn sylfaenol i ganolbwyntio ar atal digartrefedd ac ailgartrefu cyflym. O ran yr ymrwymiad i gyhoeddi Papur Gwyn a welir yn ein rhaglen lywodraethu, bydd hwn yn archwilio’r rôl y gall rheolaethau rhent ei chwarae yn gwneud y farchnad rentu preifat yn fwy fforddiadwy. Mae'n faes polisi a chyfraith helaeth a chymhleth, ac mae'n hanfodol casglu'r dystiolaeth, gan gynnwys modelau rhyngwladol o reolaethau rhent a phrofiad ac effaith mesurau a roddwyd ar waith yn yr Alban ac Iwerddon, y cyfeiriodd Mabon atynt. Mae'n bwysig ein bod yn dysgu o'r dulliau a ddefnyddiwyd mewn gwledydd eraill, ac yn benodol, bydd hyn yn cynnwys deall beth sydd wedi gweithio'n dda lle y mae rheolaethau rhent ar waith a beth nad yw wedi gweithio, ac yn allweddol, fel y soniodd Carolyn Thomas, unrhyw ganlyniadau anfwriadol, fel y gallwn gael gwared arnynt yn y mesurau a roddwn ar waith.
Fel y nodais, yn Iwerddon er enghraifft, cyflwynwyd y ddeddfwriaeth sy’n caniatáu i renti gynyddu i uchafswm o 4 y cant mewn parthau pwysau rhent, ond mewn gwirionedd, daeth yn amlwg fod chwyddiant yn is na hynny, a throdd y 4 y cant yn darged yn hytrach na chap. Felly, mae angen inni lunio ein deddfwriaeth yn ofalus fel nad oes gennym ffiniau anhyblyg ar waith ac er mwyn inni allu ei raddnodi'n gyffredinol. Yn anecdotaidd, mae’r mesurau yno'n gysylltiedig â chynnydd mewn achosion o droi allan, wrth gwrs, am fod ganddynt derfyn uchaf yn hytrach na chap, ac mae angen inni ymatal rhag gwneud hynny.
Byddwn yn comisiynu’r ymchwil annibynnol i’r rheolaethau rhent fel ein bod yn canfod yr enghreifftiau da iawn sydd gennym. Cyfeiriodd Mabon at Gatalonia, er enghraifft, a gwyddom fod hynny wedi bod yn llwyddiannus yno. Bydd ymgysylltu â phartneriaid a dinasyddion yn rhan bwysig iawn o’r ymchwil hwn, a fydd wedyn yn llywio’r cynigion polisi i’w cynnwys yn y Papur Gwyn.
Felly, i grynhoi, Ddirprwy Lywydd, rwy'n llwyr gefnogi'r ymdrech i gynyddu mynediad at gartrefi fforddiadwy, ac i sicrhau bod hyn yn hawl i bob unigolyn yng Nghymru. Er hynny, mae'n hollbwysig archwilio beth yw'r ffordd fwyaf effeithiol o gyflawni hyn a sicrhau mwy o dai gweddus a fforddiadwy. Bydd y Papur Gwyn wedi'i seilio ar dystiolaeth a gasglwyd, a bydd yn darparu opsiynau cadarn ar gyfer deddfwriaeth yn y dyfodol ar ddulliau newydd o sicrhau fforddiadwyedd rhenti. Diolch.
Galwaf ar Mabon ap Gwynfor i ymateb i'r ddadl.
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd, a diolch yn fawr iawn i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y drafodaeth yma. Diolch i'r Gweinidog am ei hymateb cynhwysfawr.
Dwi'n ymddiddori, mae'n rhaid dweud, efo ymatebion y Ceidwadwyr. Dwi'n meddwl weithiau hwyrach eu bod nhw wedi ysgrifennu rhyw araith ymlaen llaw a ddim cymryd dim sylw o'r hyn sydd wedi cael ei ddweud, oherwydd tra bo rhywun yn cydnabod—mae'r Gweinidog ei hun yma wedi cydnabod—fod yna wendidau efo rheolaethau rhent, ac rydw innau wedi dweud hynny, mewn rhai achosion, mae yna enghreifftiau ohono fo yn llwyddo, ac enghreifftiau amlwg iawn hefyd.
Ac rydyn ni'n gwybod, er mwyn i reolaethau rhent lwyddo, fod yn rhaid iddyn nhw gael eu cyplysu a'u priodi efo ystod o bolisïau eraill; nid y lleiaf ohonyn nhw ydy adeiladu, adeiladu ac adeiladu, fel mae Mike Hedges wedi'i ddweud hefyd. Ond, wrth sôn am adeiladu, mae'n rhaid inni dderbyn na fyddai eich cyfeillion chi yn y Ceidwadwyr sydd yn y sector breifat adeiladu yn ateb y galw oherwydd, wrth gwrs, mae ganddyn nhw ddiddordeb mewn creu proffid ac elw yn unig. Mae'n rhaid inni sicrhau bod tai cyhoeddus yn cael eu hadeiladu unwaith eto, gan rymuso'n hawdurdodau lleol i'w galluogi nhw i ailadeiladu tai cyngor eto er mwyn ateb y galw, oherwydd bod y diffyg stoc ar hyn o bryd yn golygu bod rhai o'r landlordiaid rogue yna, sydd eisiau manteisio ar bobl, eu bod nhw'n gwybod eu bod nhw'n medru cynyddu rhent yn gyson, yn gyson ac yn gyson. Amdani, James.
Onid ydych yn cytuno â mi, felly, fod canllawiau ffosffadau Llywodraeth Cymru yn mynd i atal adeiladu tai cyngor ac adeiladu tai cymdeithasol mewn rhannau penodol o Gymru?
Mae hwnna'n bryder, bod y polisi yna'n golygu bod nifer o dai cymdeithasol lawr yn Nyffryn Teifi ac yn sir Fynwy ddim yn cael eu hadeiladu ar hyn o bryd, ond mater i'r Llywodraeth ydy hynny.
Ond dwi yn falch iawn o glywed bod y Llywodraeth wedi comisiynu ymgynghoriad i mewn i hyn, ac yn croesawu hynny'n fawr, oherwydd, os ydy'r polisi'n mynd i lwyddo, fel rydyn ni wedi dysgu o gyfnod Clement Attlee ymlaen, os ydy o'n mynd i lwyddo, mae'n rhaid iddo fo fod yn un sydd wedi cael ei ymchwilio'n drwyadl ac sy'n priodi i mewn i'r polisïau eraill. Felly, buaswn i'n falch iawn, os gwelwch yn dda, Weinidog, os caf i weld termau a chyfarwyddiadau'r gwaith yna. Buasai fo'n ddifyr iawn. Ond gadewch i ni yma heddiw, felly, ddatgan ein cefnogaeth i'r polisi yma yn ei ystyr ehangach, ein bod ni eisiau gweld camau'n cael eu cymryd, yn cefnogi bod y Llywodraeth yn gwneud hyn efo'r ymchwil ac yn mynd i ddod â Phapur Gwyn ymlaen a sicrhau bod yna dai fforddiadwy i'n pobl yn ein cymunedau ni yma yng Nghymru. Cefnogwch y cynnig. Diolch yn fawr iawn ichi.
Y cwestiwn yw: a ddylid nodi'r cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, gohiriaf y bleidlais ar y cynnig tan y cyfnod pleidleisio.