– Senedd Cymru ar 9 Chwefror 2022.
Symudwn ymlaen nawr at yr eitem nesaf ar yr agenda, dadl y Ceidwadwyr Cymreig: gwasanaethau canser. Galwaf ar Russell George i wneud y cynnig a gyflwynwyd yn enw Darren Millar.
Cynnig NDM7911 Darren Millar
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi cynllun adfer yn dilyn COVID-19 GIG Cymru a gyhoeddwyd ar ddiwedd y tymor seneddol diwethaf.
2. Yn mynegi pryder:
a) bod rhestrau aros yng Nghymru yn parhau i gynyddu, gyda bron i un o bob tri chlaf yn aros mwy na blwyddyn am driniaeth;
b) mai Cymru fydd yr unig wlad yn y Deyrnas Unedig heb strategaeth canser cyn bo hir.
3. Yn nodi pryder pellach ynghylch adroddiadau gan Gyfarwyddwr Clinigol Canser Cenedlaethol Cymru y bydd yn rhaid i wasanaethau weithio gyda 120 i 130 y cant o'r capasiti blaenorol i ddelio â niferoedd cynyddol o gleifion canser.
4. Yn mynegi siom nad yw datganiad ansawdd ar ganser 2021 yn cynnwys manylion a'i fod ond yn gosod safonau gofynnol ar gyfer gwasanaethau canser.
5. Yn annog Llywodraeth Cymru i:
a) cyhoeddi cynllun recriwtio a chadw'r gweithlu ar frys ar gyfer arbenigwyr canser;
b) cyhoeddi strategaeth ganser lawn a fydd yn nodi sut y bydd Cymru'n mynd i'r afael â chanser dros y pum mlynedd nesaf;
c) cefnogi cleifion canser drwy eu triniaeth drwy, er enghraifft, gyflwyno gofal deintyddol am ddim yn ystod radiotherapi a chemotherapi.
Diolch, Ddirprwy Lywydd, ac rwy'n gwneud y cynnig a gyflwynwyd yn enw fy nghyd-Aelod, Darren Millar. I rai pobl yng Nghymru, maent yn poeni y byddant yn marw heb gael y driniaeth canser sydd ei hangen arnynt, a dyna farn bwrdd y cynghorau iechyd cymuned ac Andy Glyde o Cancer Research UK. Mae’r ddadl heddiw, wrth gwrs, yn hynod bwysig i lawer o bobl ledled Cymru, ac mae ein cynnig yn galw am nifer o fesurau, megis cymorth i gleifion canser drwy eu triniaeth, er enghraifft, drwy gyflwyno gofal deintyddol am ddim yn ystod radiotherapi neu gemotherapi. Rydym hefyd yn gofyn i Lywodraeth Cymru gyhoeddi cynllun recriwtio a chadw’r gweithlu ar frys ar gyfer arbenigwyr canser, a chyhoeddi strategaeth ganser lawn a fydd yn nodi sut y bydd Cymru yn mynd i’r afael â chanser dros y pum mlynedd nesaf.
Mae amseroedd triniaeth canser presennol yn awgrymu nad yw gwasanaethau canser Cymru yn dal i fyny â diagnosis a thriniaeth. Fis Tachwedd diwethaf, 58 y cant yn unig o gleifion a gafodd ddiagnosis newydd o ganser a ddechreuodd eu triniaeth ddiffiniol gyntaf o fewn 62 diwrnod i'r diwrnod yr amheuir gyntaf fod ganddynt ganser, ymhell islaw'r targed o 75 y cant. Yn y cyfamser, mae’r rhestrau aros canser yng Nghymru yn parhau i godi, gyda bron i un o bob tri llwybr cleifion yn cymryd dros flwyddyn i’w drin, tra bo cyfarwyddwr clinigol canser cenedlaethol Cymru wedi dweud y bydd yn rhaid i wasanaethau weithio ar 120 y cant i 130 y cant o'u capasiti blaenorol i ymdrin â'r niferoedd cynyddol o gleifion.
Mae cyfraddau goroesi canser Cymru wedi bod yn arafu ers blynyddoedd lawer. Cyn y pandemig, dangosodd data uned gwybodaeth canser Cymru mai Cymru oedd â’r cyfraddau goroesi isaf ar gyfer chwe math o ganser, a’r isaf ond un ar gyfer tri math o ganser, ledled y DU. Felly, er bod y pandemig, wrth gwrs, wedi rhoi mwy o straen ar y system—mae hynny'n ddealladwy, wrth gwrs—byddwn yn awgrymu bod y system eisoes wedi torri cyn y pandemig.
Mae pob rhan arall o’r DU wedi ymrwymo i roi strategaeth ganser gadarn ar waith, ac mae’n drist gweld, cyn bo hir, mai Cymru fydd yr unig wlad yn y DU heb strategaeth ganser ddiffiniol. Mae gwasanaethau canser Cymru yn ei chael hi'n anodd ymdopi â tswnami o achosion canser y methwyd gwneud diagnosis ohonynt ac ymddangosiad canserau ar gamau diweddarach o ganlyniad uniongyrchol, wrth gwrs, i ohirio gwasanaethau’r GIG yn ystod y cyfyngiadau symud. Ac yn ychwanegol at hyn, mae gennym bum mlynedd—neu flynyddoedd lawer—o brinder staff cronig.
Nawr, ymddengys bod y Llywodraeth yn meddwl mai strategaeth yw eu datganiad ansawdd ar gyfer canser. Wel, cywirwch fi os wyf yn anghywir, ond mae'n siŵr y gwnaiff y Gweinidog gadarnhau ar y diwedd os wyf wedi dadansoddi hynny'n gywir, ond mae elusennau canser yn dweud eu hunain fod diffyg manylder ac uchelgais yn y datganiad ansawdd ar gyfer canser ac nad yw'n strategaeth genedlaethol. Mae angen strategaeth ganser ar Gymru. Yn anffodus, mae'r gweithlu canser hefyd yn broblem yng Nghymru. Dylai gweithlu canser arbenigol sy’n gallu ymdopi â’r galw ac ôl-groniad cynyddol fod yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru er mwyn atal cyfraddau goroesi canser rhag gwaethygu ymhellach. Mae Cymru'n brin o arbenigwyr canser eisoes—rydym yn ymwybodol o hynny, yn anffodus—gyda bylchau sylweddol mewn rhai ardaloedd yng Nghymru, a hynny yn ôl llawer o bobl, gan gynnwys Coleg Brenhinol y Radiolegwyr. Yn syfrdanol, er gwaethaf y pryderon dybryd hyn, nid yw cynllun gweithlu 10 mlynedd diweddaraf y GIG yn cynnwys cynllun gweithlu penodol ar gyfer arbenigwyr canser. Mewn gwirionedd, nid yw strategaeth ar y cyd Addysg a Gwella Iechyd Cymru a gofal cymdeithasol ym mis Hydref 2020 yn sôn am ganser o gwbl. Yn lle hynny, mae gan y strategaeth nodau cyffredinol, gan gynnwys—rwy'n dyfynnu yma—cael gweithlu
'mewn niferoedd digonol i allu darparu gofal iechyd a chymdeithasol ymatebol sy’n diwallu anghenion pobl Cymru'.
Wel, dyna pam ein bod yn cynnal y ddadl hon heddiw, a hoffwn annog Llywodraeth Cymru i gyhoeddi cynllun recriwtio a chadw’r gweithlu a strategaeth ganser lawn sy’n cynnwys targedau penodol, yn ogystal â chymorth i gleifion canser drwy gydol eu triniaeth i leddfu'r sgil-effeithiau anodd y mae triniaeth ar gyfer canser yn aml yn eu hachosi.
O ystyried pa mor gyffredin yw canser, mae pobl Cymru yn mynnu ac yn haeddu triniaethau sy’n diwallu eu hanghenion ac yn bwysicaf oll, triniaethau sydd gyfuwch â pherfformiad gwasanaethau mewn mannau eraill yn y DU. Felly, carwn annog Llywodraeth Cymru heddiw i gyhoeddi cynllun recriwtio a chadw’r gweithlu ar frys ar gyfer arbenigwyr canser, i gyhoeddi strategaeth ganser lawn sy’n nodi sut y bydd Cymru yn mynd i’r afael â chanser dros y pum mlynedd nesaf, ac i gefnogi cleifion canser drwy eu triniaethau, er enghraifft, drwy gyflwyno gofal deintyddol am ddim yn ystod radiotherapi a chemotherapi.
Rwy'n gobeithio y bydd ein dadl y prynhawn yma'n ddadl synhwyrol. Mae’n ddadl deilwng iawn i’w chael y prynhawn yma yn fy marn i, ac rwy’n mawr obeithio y cawn gyfraniadau cadarnhaol gan Aelodau eraill, ac rwy’n mawr obeithio y cawn gyfraniad cadarnhaol gan y Gweinidog wrth iddi gloi ar ddiwedd y ddadl. Carwn annog yr Aelodau, wrth gwrs, i gefnogi ein galwadau a’n cynnig y prynhawn yma. Diolch, Ddirprwy Lywydd.
Rwyf wedi dethol y ddau welliant i'r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol. Galwaf ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Eluned Morgan, i gynnig yn ffurfiol gwelliant 1 a gyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths.
Gwelliant 1—Lesley Griffiths
Dileu popeth ar ôl is-bwynt 2(a) a rhoi pwynt newydd yn ei le:
Yn nodi:
a) y dull gweithredu a nodir yn y cynllun Cymru Iachach, sy’n cynnwys cyflwyno datganiadau ansawdd ar gyfer datblygu gwasanaethau clinigol;
b) y cafodd dull gweithredu Llywodraeth Cymru i wella canlyniadau canser ei gyhoeddi ar 22 Mawrth 2021 ar ffurf datganiad ansawdd;
c) y cafodd dogfen Llywodraeth Cymru, Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Nghymru—COVID-19: Edrych tua’r dyfodol, a oedd yn cynnwys canser, ei gyhoeddi ar 22 Mawrth 2021;
d) bod bron i £250 miliwn yn ystod y flwyddyn yn cael ei fuddsoddi yn adferiad gwasanaethau GIG, gan gynnwys canser;
e) bod yr ystadegau canser swyddogol diweddaraf yn dangos bod nifer y cleifion sydd wedi cael diagnosis newydd o ganser ac a ddechreuodd eu triniaeth ddiffiniol gyntaf wedi cynyddu i’r lefel uchaf ers i ddata cymaradwy ddechrau cael eu casglu ym mis Mehefin 2019;
f) bod ehangu lleoedd hyfforddi GIG yn cynnwys pedair swydd hyfforddiant uwch ychwanegol ar gyfer oncoleg glinigol a thair swydd hyfforddiant uwch ychwanegol ar gyfer oncoleg feddygol bob blwyddyn am bum mlynedd;
g) y bydd byrddau iechyd yn canolbwyntio ar adferiad gwasanaethau canser yn eu Cynlluniau Tymor Canolig Integredig.
Yn ffurfiol.
Galwaf ar Rhun ap Iorwerth i gynnig gwelliant 2, a gyflwynwyd yn enw Siân Gwenllian.
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd, a dwi'n falch iawn o gael cyfle i gyfrannu at y ddadl bwysig yma ac i gyflwyno'n ffurfiol ein gwelliant ni. O ran y prif gynnig, mi fyddwn ni'n cefnogi'r prif gynnig heddiw, wrth gwrs. Yn ogystal â bod yn ddatganiad o bryder go iawn am gyflwr gwasanaethau iechyd yn gyffredinol ar ôl dwy flynedd o bandemig, mae yna elfennau yn y cynnig dwi yn sicr wedi rhoi sylw iddyn nhw dros gyfnod o flynyddoedd bellach: mor annigonol yw'r datganiad safon fel modd o yrru gwelliannau i wasanaethau canser, a'r angen i fuddsoddi yn y gweithlu canser i gefnogi cleifion drwy eu triniaeth, ac ati.
Mae yna ddau beth dwi am roi sylw iddyn nhw yn yr ychydig funudau nesaf. Yn gyntaf, ein gwelliant ni a'r angen i gwblhau'r gwaith yna, ar frys, o sefydlu canolfannau diagnosis cyflym ar draws Cymru er mwyn gwneud yn siŵr bod yr isadeiledd yna yn ei le ar gyfer adnabod a thrin canser yn y ffordd fwyaf cyflym posibl. Allwn ni ddim gor-bwysleisio'r angen am ddiagnosis cyflym a'r budd sy'n dod o sicrhau diagnosis cyflym, ac wrth gwrs mae'r pandemig yr ydym ni wedi byw drwyddo wedi creu argyfwng ehangach, o bosibl. Yn ôl yr ystadegau, mae rhyw 1,700 yn llai o bobl nag y byddem ni wedi'u disgwyl wedi dechrau triniaeth canser yng Nghymru rhwng Ebrill 2020 a Mawrth 2021.
Cymru oedd y wlad gyntaf—mi allwn ni ymfalchïo yn hynny—y wlad gyntaf yn y Deyrnas Unedig i dreialu canolfannau diagnostig brys. Mae yna rai yn bodoli eisoes, mae eraill ar y gweill, a dwy ardal wedyn—Powys a Chaerdydd a'r Fro—lle nad oes yna ddim cynlluniau mewn lle. Mi fyddwn i'n gwerthfawrogi diweddariad gan y Gweinidog heddiw ar y gwaith i sicrhau bod canolfannau yn mynd i fod ar gael i wasanaethu holl boblogaeth Cymru. Does yna ddim lle i unrhyw fath o loteri cod post pan ddaw hi at wasanaethau canser, a dyna fyrdwn ein gwelliant ni heddiw.
Yr ail elfen dwi am wneud sylwadau arni hi—ac mae yna gyfeiriad ato fo ddwywaith yn y cynnig gwreiddiol—ydy'r diffyg amlwg iawn yma o gynllun canser, neu ddiffyg strategaeth canser cenedlaethol, a allai sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn adeiladu'r mathau o wasanaethau canser rydyn ni eu hangen yng Nghymru. Mae'n rhaid cofio ein bod ni'n wynebu heriau enfawr yma yng Nghymru. Mae rhyw 20,000 o bobl, rhywbeth felly, yn cael diagnosis canser yng Nghymru yn flynyddol, mae o bosibl rhyw 170,000 yn byw efo canser, ac mae'r lefel o anghydraddoldebau iechyd a chymdeithasol—rhywbeth rydyn ni wedi'i drafod yn y Siambr yma yn ddiweddar—yn golygu bod cyfraddau goroesi ar gyfer rhai mathau o ganser yn salach yng Nghymru nag yng ngweddill yr ynysoedd yma, ac ar draws Ewrop.
Ac yn yr Alban a Lloegr, ac yng Ngogledd Iwerddon yn fuan, mae yna gynlluniau canser, cynlluniau sy'n gosod targedau clir, yn rhoi ffocws clir ar gyfer datblygu a chefnogi gwasanaethau. Rhyw gasgliad o wahanol raglenni a fframweithiau sydd gennym ni yma yng Nghymru, a dydy o ddim yn ddigon da. Os ydyn ni o ddifrif am fynd i'r afael â chanser, yna mae angen strategaeth. Beth gawson ni gan Lywodraeth Cymru ym mis Mawrth y llynedd, ar ôl i'r cynllun cyflawni canser ddod i ben ychydig fisoedd cyn hynny, oedd datganiad ansawdd ar gyfer canser. Nid cynllun a strategaeth i wella diagnosis, triniaeth, ymchwil canser yng Nghymru, ond rhywbeth heb y manylder sydd ei angen, sydd ddim yn cynnig yr atebolrwydd sydd ei angen, na'r camau gweithredu, na'r amcanion, na'r amserlen sydd eu hangen, ac sydd heb y weledigaeth dwi'n meddwl roedden ni ei hangen beth bynnag, heb sôn am y weledigaeth sydd ei hangen rŵan i adfer gwasanaethau ar ôl y pandemig.
Dirprwy Lywydd, gair yn sydyn gen i am welliant y Llywodraeth. Pleidleisio yn erbyn a fyddwn ni. Dydy o'n gwneud dim i gynnig atebion i'r creisis canser rydyn ni'n ei wynebu yng Nghymru—rhyw restr o beth mae'r Llywodraeth yn dweud maen nhw wedi ei wneud sydd gennym ni. Ac, er mai dim ond gofyn i ni nodi'r rhestr honno mae'r Llywodraeth, sut allwn ni ei gefnogi pan mai'r cyfan ydy o yw rhestr o bethau sy'n osgoi mynd i'r afael â'r sefyllfa o roi cynllun o sylwedd mewn lle? Dwi'n reit siŵr bod y Gweinidog eisiau i'n gwasanaethau canser ni fod y gorau y gallan nhw fod. Wrth gwrs, rydyn ni i gyd yn dymuno gweld hynny, ond mae gen i ofn na welwn ni hynny heb strategaeth gadarn mewn lle. Felly, dwi'n gofyn eto iddi heddiw i wrando ar y dros 20 o elusennau a sefydliadau sy'n rhan o Gynghrair Canser Cymru sy'n annog Llywodraeth Cymru yn gryf i lunio strategaeth ganser gynhwysfawr i Gymru.
Hoffwn ddiolch i Russell George a fy nghyd-Aelodau Ceidwadol am gyflwyno'r pwnc pwysig hwn i'w drafod heddiw. Mae canser yn rhywbeth sydd, yn anffodus, yn cyffwrdd â phawb mewn cymdeithas, boed hynny drwy aelod o'r teulu, ffrind, rhywun lle'r ydym yn byw, mae gan bob un ohonom stori ynglŷn â sut y mae canser wedi effeithio arnom ni neu rywun rydym yn ei garu mewn rhyw ffordd neu'i gilydd. Effeithiwyd ar fy nheulu i gan ganser y fron a chanser y croen, a chollodd fy nwy ffrind gorau eu tadau i ganser y prostad. Felly, rwyf i, fel llawer o rai eraill yn y Siambr hon ac yng Nghymru, yn gwybod yn rhy dda am y niwed y mae'n ei achosi i deulu a pha mor hanfodol yw cael diagnosis yn gynnar fel bod pawb yn cael y cyfle gorau i oroesi.
Canser yw prif achos marwolaeth yng Nghymru, gyda thua 19,600 o bobl, yn drasig iawn, yn cael diagnosis o ganser bob blwyddyn. Mae gan bob un ohonom gyfrifoldeb i sefyll dros ein hetholwyr a sicrhau bod gwasanaethau canser Cymru cystal ag y gallant fod. Er bod cyfraddau goroesi wedi gwella'n fawr dros y degawdau diwethaf, mae'r DU yn dal i lusgo ar ôl gwledydd cymharol yn Ewrop ac yn rhyngwladol. Gellir dweud yr un peth yma yng Nghymru. Mae cyfraddau goroesi wedi gwella yn ystod y degawdau diwethaf, ond nid ydynt yn ddigon da o hyd, gyda chyfraddau goroesi un flwyddyn ar gyfer canserau'r stumog, y colon, y pancreas, yr ysgyfaint a'r ofari yn llawer is na chyfartaledd y DU. Mae'r heriau sy'n wynebu gwasanaethau canser yng Nghymru, wrth gwrs, wedi'u dwysáu a'u gwaethygu gan y pandemig, ond gwyddom bellach, yn y flwyddyn rhwng mis Ebrill 2020 a mis Mawrth 2021, fel y dywedwyd, fod 1,700 yn llai o bobl wedi dechrau triniaeth ar gyfer canser yng Nghymru.
Mae'r heriau y mae gwasanaethau canser yn eu hwynebu yn golygu bod angen i'r Llywodraeth hon weithredu ar frys ac yn bendant, nid yn unig i ddod â gwasanaethau yn ôl i lle'r oeddent cyn y pandemig, ond i drawsnewid ein gwasanaethau canser yn llwyr fel eu bod yn addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain—gwasanaethau ymatebol a hygyrch wedi'u digidoli, ac ar-lein lle y bo hynny'n bosibl—er mwyn gwella canlyniadau canser a chyfraddau goroesi yn y dyfodol. Er mwyn cyflawni hyn, wrth i ganser esblygu, mae angen i ni esblygu hefyd ac mae angen i ni fuddsoddi'n helaeth mewn technolegau a thriniaethau newydd. Mae angen i ni sicrhau mai Cymru, o bosibl, sy'n arwain yn rhai o'r meysydd hyn, mai ni yw'r rhai sy'n datblygu'r triniaethau a thechnolegau newydd hyn. Mae arloesi'n gwbl allweddol wrth fynd i'r afael â chanser a gwella canlyniadau, ac mae angen inni fuddsoddi'n briodol hefyd mewn cyllido ac ehangu'r gronfa mynediad at driniaethau yma yng Nghymru. Mae'r pandemig wedi dangos i ni beth y gallwn ei gyflawni. Rhaid inni sicrhau ein bod yn meddwl yn fwy uchelgeisiol er mwyn ymladd y lladdwr mawr hwn.
Yn fy rhanbarth i yn Nwyrain De Cymru, gwelwn ffigurau aros am driniaeth canser gwaeth nag erioed. Mae fy etholwyr yn teimlo eu bod yn cael cam. Rwy'n falch o weld y cyhoeddiad yn fy rhanbarth, serch hynny, ynglŷn â chanolfan ragoriaeth newydd ar gyfer canser y fron, cyhoeddiad sydd i'w groesawu'n fawr. Bydd hwn yn gam hollbwysig gan ein bod i gyd yn gwybod na fydd canlyniadau i gleifion canser yng Nghymru yn gwella heb gael diagnosis amserol a'r defnydd o'r triniaethau diweddaraf a mwyaf effeithiol. Mae hygyrchedd yn allweddol, felly mae angen inni weld mwy o gyhoeddiadau fel hyn, gyda chanolfannau wedi'u gwasgaru'n gyfartal ledled Cymru, fel y dywedwyd eisoes o'r meinciau eraill, ond teimlaf fod angen ailadrodd: mae arnom angen mynediad at driniaeth yn gyfartal ledled Cymru, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig, sy'n cael eu hesgeuluso mor aml.
Yn gynharach y mis hwn, dywedodd yr Arlywydd Biden y gallwn roi diwedd ar ganser fel y gwyddom amdano. Fe wnaeth Sajid Javid ddatgan rhyfel ar ganser. Weinidog, mae'n gwneud imi ofyn: beth yw ein gweledigaeth ar gyfer gwasanaethau canser yng Nghymru? Pryd y gwelwn strategaeth ganser gynhwysfawr i Gymru? Mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi galw'n gyson am gynllun cyflawni neu strategaeth newydd ar gyfer canser, cynllun gweithlu ar gyfer y gweithlu canser gyda thargedau y gellir eu cyflawni, cyflwyno canolfannau diagnosis cyflym ar gyfer canser ar fyrder, ehangu'r gronfa mynediad at driniaethau, cefnogi cleifion mewn ffyrdd fel darparu gofal deintyddol am ddim, fel y dywedwyd. Mae arnom angen strategaeth, Weinidog. Yn syml iawn, mae angen inni weld llawer mwy o fanylion ac uchelgais gan Lywodraeth Cymru a GIG Cymru, ac mae angen inni wella mesurau ataliol hefyd—gordewdra, alcohol, ysmygu, ac yn y blaen. Mae arnom angen polisïau sy'n symud o'r diwedd tuag at agenda ataliol yn ogystal ag un adweithiol. Diolch yn fawr.
Mae'n bleser cymryd rhan yn y ddadl hon y prynhawn yma, ac rwy'n falch o wisgo fy mathodyn Marie Curie, y cennin Pedr, i gefnogi eu gwaith. Yn anffodus, bydd 50 y cant o'r boblogaeth yn cael diagnosis o ganser ar ryw adeg yn ystod eu hoes, ac rydym i gyd yn adnabod rhywun sydd wedi cael canser, ac yn drasig, mae llawer gormod ohonom yn adnabod rhywun sydd wedi marw. Gan Gymru y mae rhai o'r cyfraddau goroesi canser gwaethaf yn y byd gorllewinol, a dyna pam y mae'n rhaid inni sicrhau bod ein gwasanaethau canser gystal ag unman yn y byd. Ni all ein poblogaeth fforddio strategaeth ganser heb uchelgais. Fel y mae fy nghyd-Aelodau wedi dweud, mae'r problemau yn ein llwybrau canser yn rhagflaenu'r pandemig, ac fel llawer o'r problemau sy'n wynebu ein GIG, mae llawer o'r problemau hyn yn deillio o broblemau staffio, neu'n hytrach, o ddiffyg cydlyniad wrth gynllunio'r gweithlu.
Gwyddom i gyd fod diagnosis cynnar yn allweddol i oroesi canser yn hirdymor, ac eto gennym ni y mae'r nifer isaf o radiolegwyr ymgynghorol fesul 100,000 o gleifion yn unrhyw ran o'r DU. A'r hyn sy'n waeth yw ein bod, yn ôl Coleg Brenhinol y Radiolegwyr, yn mynd i golli cymaint â thraean o'r gweithlu hwnnw dros y tair i bedair blynedd nesaf wrth i weithwyr ymddeol. Ni allaf ddychmygu'r effaith y bydd hynny'n ei chael ar staff presennol gan y bydd disgwyl iddynt lenwi'r bwlch. Gwyddom fod cyfarwyddwr clinigol canser cenedlaethol Cymru wedi datgan y bydd yn rhaid i'r gwasanaeth redeg ar oddeutu 130 y cant o'r capasiti i gyrraedd lle'r oeddem cyn y pandemig. Ond nid ydym am i'r gwasanaeth ddychwelyd i lefelau cyn y pandemig, ac i ailadrodd ymadrodd poblogaidd ar hyn o bryd, rydym am ailgodi'n gryfach.
Er mwyn cyflawni hynny, rhaid inni fynd i'r afael ar frys â phrinder staff hanesyddol. Mae gennym brinder difrifol ar draws y meysydd, nid mewn diagnosteg yn unig. Mae gennym fylchau ar draws oncoleg glinigol; mae bron i un o bob 10 swydd yn dal heb eu llenwi. O ganlyniad i brinder, nid yw un o bob pum claf canser yng Nghymru yn cael cymorth nyrsio canser arbenigol yn ystod eu diagnosis neu eu triniaeth. Golyga hyn ein bod yn ei chael hi'n anodd darparu gofal priodol yn awr, heb sôn am ganiatáu ar gyfer gwasanaethau newydd neu wasanaethau estynedig. Mae Cymorth Canser Macmillan yn awgrymu y bydd angen i Gymru gynyddu ei gweithlu cymorth nyrsio canser arbenigol 80 y cant erbyn diwedd y degawd hwn er mwyn ateb y galw. Ac mae Cancer Research UK yn tynnu sylw at y ffaith bod y bylchau hyn yng ngweithlu'r GIG yn rhwystr sylfaenol i drawsnewid gwasanaethau canser a gwella cyfraddau goroesi canser. Eto, er gwaethaf y pryderon a leisiwyd yn briodol gan y trydydd sector ac arweinwyr canser clinigol, nid oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw gynllun ar gyfer y gweithlu canser arbenigol.
Mewn gwirionedd, nid yw strategaeth y gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol yn crybwyll canser hyd yn oed. Un o'r problemau iechyd mwyaf sy'n wynebu ein gwlad ac nid oes gan Lywodraeth Cymru gynllun i fynd i'r afael ag ef. Oni bai bod Gweinidogion yn wynebu eu cyfrifoldeb ac yn mynd i'r afael â'r pryderon hyn, bydd canser yn parhau i fod yn ddedfryd marwolaeth i lawer gormod o bobl. Bydd ein cyfraddau goroesi canser yn parhau i ostwng, a bydd dinasyddion Cymru yn parhau i golli anwyliaid yn ddiangen. Mae'n bryd inni gael strategaeth ganser uchelgeisiol gyda'r nod o ddileu marwolaethau diangen o ganser, a chynllun i ddarparu gweithlu ar gyfer diwallu anghenion cleifion canser yn y dyfodol; cynllun i gefnogi cleifion drwy gydol eu taith ganser o ddiagnosis i wellhad; a chynllun sy'n adeiladu capasiti i ymateb i heriau'r ôl-groniad COVID ac ar gyfer pandemigau yn y dyfodol. Rwy'n annog yr Aelodau i gefnogi ein cynnig heddiw.
Weinidog, gwyddom i gyd mai'r frwydr yn erbyn canser yn aml fydd y frwydr anoddaf y bydd unrhyw berson, a'u teuluoedd yn wir, yn ei hwynebu yn ystod eu hoes. Cyfrifoldeb dwys cymdeithas yw rhoi'r gofal, y driniaeth a'r cymorth gorau posibl iddynt, er mwyn iddynt gael y cyfle gorau i guro a goroesi'r salwch gwirioneddol ddinistriol hwn. Fodd bynnag, o dan y Llywodraeth Lafur hon, cafodd miloedd o drigolion ledled Cymru gam pan oeddent fwyaf o angen cefnogaeth. Gwelwn y tswnami o achosion canser y methwyd gwneud diagnosis ohonynt, a nifer cynyddol o ganserau ar gam diweddarach o ganlyniad uniongyrchol i ohirio gwasanaethau'r GIG yn ystod pandemig COVID-19.
Yn y pen draw, fodd bynnag, nid yw'r mater hwn wedi codi'n ddisymwth i Lywodraeth Cymru, gyda thargedau aros canser heb eu cyrraedd ers 2008 a chyda 56 y cant yn unig o gleifion yn cael triniaeth o fewn 62 diwrnod ledled Cymru. Yn ogystal, mae data uned gwybodaeth canser Cymru yn dangos mai Cymru sydd â'r cyfraddau goroesi isaf ar gyfer chwe math o ganser, a'r ail isaf ar gyfer tri math, ar draws y DU. Mae methiant Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â'r broblem cyn y pandemig wedi ei gwaethygu. Yn frawychus, bedwar mis yn ôl yn unig, adroddwyd mai dim ond 57.9 y cant o gleifion sydd wedi cael diagnosis newydd o ganser a ddechreuodd eu triniaeth ddiffiniol uniongyrchol o fewn 62 diwrnod i'r diwrnod yr amheuwyd gyntaf bod ganddynt ganser. Mae hynny'n llawer is na'r targed o 75 y cant.
Yn yr un mis, adroddwyd bod dros 27,000 o bobl yn aros am wasanaethau radioleg ar ôl cael eu cyfeirio gan y meddyg ymgynghorol am waith diagnostig canser, gydag un o bob wyth o'r bobl hyn yn aros mwy na 14 wythnos. Roedd 30,000 o bobl eraill yn aros am ddiagnosteg radioleg ar ôl cael eu cyfeirio gan eu meddyg teulu. Fel y mae, Cymru fydd yr unig wlad yn y Deyrnas Unedig cyn bo hir i fod heb strategaeth canser. Rwy'n annog y Gweinidog i sicrhau bod hyn yn cael ei weithredu'n gyflym. At hynny, cydnabyddir y gall radiotherapi a chemotherapi gael effaith niweidiol ar iechyd deintyddol. Fodd bynnag, ni chynigir cymorth meddygol deintyddol am ddim i'r cleifion hyn yn awr, sy'n eu gadael mewn mwy o boen ac yn teimlo nad ydynt yn cael fawr o gefnogaeth. Wrth i ni gefnu ar bandemig COVID-19, dyma gyfle euraidd i Lywodraeth Cymru adolygu, ac i chi ddiwygio eich dull o weithredu.
Mae Cancer Research Cymru wedi tynnu sylw at y ffaith bod angen gweithlu canser cynaliadwy ar Gymru i ddiogelu ar gyfer y dyfodol. Maent yn tynnu sylw at y bylchau a'r amrywio sylweddol o fewn y gweithluoedd diagnostig, triniaeth a nyrsio. Erys swyddi radiolegwyr ymgynghorol yn wag. Maent yn dweud bod datblygiadau fel y llwybr sengl lle'r amheuir canser i'w groesawu, ond ni allant gyflawni mwy na hyn a hyn heb y staff cywir. Felly, Weinidog, a wnewch chi wrando ar y sefydliadau sy'n gweithio'n eithriadol o galed yn ceisio cefnogi pobl â chanser? A wnewch chi gyhoeddi cynllun recriwtio a chadw'r gweithlu ar gyfer arbenigwyr canser? Ac a wnewch chi gyhoeddi strategaeth ganser fanwl a chynhwysfawr i nodi sut y bydd Cymru'n ymladd canser dros y pum mlynedd nesaf, yn ogystal â dod â'r ddeddfwriaeth berthnasol gerbron y Senedd hon i ddarparu gofal deintyddol am ddim i gleifion sy'n cael radiotherapi a chemotherapi? Credaf ein bod i gyd yn gwybod, wrth sefyll yma heddiw neu wrth eistedd yma heddiw, fod angen newid sylweddol, ac ar frys. Mae pobl yn brwydro canser yn awr ac nid oes gan eu teuluoedd amser i wylio'r Llywodraeth hon yn parhau i fethu cyrraedd ei thargedau.
Rwy'n mynd i wneud apêl bersonol. Weinidog, rwyf wedi trafod hyn gyda'r Prif Weinidog. Cefais sefyllfaoedd lle y mae fy etholwyr wedi cysylltu â mi, lle y maent wedi cael diagnosis angheuol iawn drwy alwad ffôn. Roedd un ohonynt am 3.20 p.m ar brynhawn dydd Gwener. Cafodd y teulu eu distrywio gan hyn, ac effeithiodd hynny wedyn ar les y person. Dywedodd y Prif Weinidog mai mater i glinigwyr yw penderfynu sut y maent yn dweud wrth eu cleifion fod ganddynt ganser. Yn yr achos hwn, nid oeddent yn glinigwyr, staff gweinyddol oeddent. Nid dyna'r ffordd i glywed bod gennych ganser. Yn sicr, am 3.20 p.m. ar brynhawn dydd Gwener, dychmygwch eu diymadferthedd a'u hofn. Pan wnaethant ofyn, 'Wel, beth yw'r cam nesaf?', yr ateb oedd, 'Fe ddown i gysylltiad.' Dair wythnos yn ddiweddarach, fe wnaethant gysylltu â mi, a chredwch fi, gallwn ddweud wedyn wrth y bwrdd iechyd, 'Helpwch y bobl hyn.' Ni ddylai hynny ddigwydd, a dyna brofiad uniongyrchol o'r hyn sy'n digwydd. Diolch am wrando, Weinidog.
Galwaf ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Eluned Morgan.
Diolch yn fawr. Hoffwn ddiolch i Russell a'r Ceidwadwyr am gyflwyno'r ddadl bwysig hon am wasanaethau a chanlyniadau canser. Gallaf ddweud wrthych fy mod wedi gwrando'n ofalus iawn ar bopeth sydd wedi'i ddweud a byddaf yn ystyried eich sylwadau ac yn gwneud yn siŵr fy mod yn rhoi ystyriaeth ddifrifol i'r hyn y buoch yn sôn amdano y prynhawn yma. Mae gennyf ofn na fyddaf yn gallu cefnogi'r penderfyniad am nifer o resymau, a hoffwn esbonio pam. Ond rwy'n cydnabod bod angen inni wneud yn well ar ganser. Mae'n fater o fywyd a marwolaeth go iawn. Rwy'n derbyn bod yn rhaid i'r datganiad ansawdd fod yn ddechrau'r stori, nid diwedd y stori, ac yn sicr mae llawer mwy o waith i'w wneud yn y gofod hwn.
Un o'r problemau gyda'r cynnig yw ei fod yn cyfuno amseroedd aros cyffredinol ag amseroedd aros canser. Mae'r amser aros ar gyfer gofal dewisol arferol yn wahanol iawn i'r llwybr canser 62 diwrnod. Mae cleifion canser bob amser wedi cael eu trin â brys clinigol yng Nghymru. Dynodwyd canser yn wasanaeth hanfodol ar ddechrau'r pandemig, a lle bynnag y bo modd, rydym wedi cynnal ac wedi blaenoriaethu gwasanaethau canser drwy gydol yr amser. Mae hyn wedi arwain at lwybrau newydd a gweld cleifion mewn ffyrdd gwahanol. Mae rhai o'r gwersi hynny'n wirioneddol gadarnhaol ac mae angen inni eu hymgorffori.
Mae'r cynnig hefyd yn awgrymu mai strategaeth canser yw'r unig ffordd o wella canlyniadau canser ac mae'n honni bod Cymru'n allanolyn ar draws y DU. Ond mae gennyf ofn nad yw hynny'n wir. Ar hyn o bryd, mae Lloegr yn cynnwys canser yn ei chynllun hirdymor, nid oes gan Ogledd Iwerddon strategaeth, ac roedd strategaeth yr Alban yn rhagflaenu'r pandemig. Er mwyn gwella gwasanaethau canser, mae'n amlwg y bydd yn rhaid inni ddarparu mwy o driniaeth canser nag a wnaethom yn hanesyddol, ond yr anhawster yw ein bod yn dal ynghanol pandemig lle y mae cynhyrchiant wedi ei leihau gan fesurau rheoli heintiau a chan staff yn gorfod ynysu.
Er hynny, nid wyf am ddiystyru'r pryder y mae pawb ohonom yn ei deimlo am y modd y mae'r pandemig wedi effeithio ar wasanaethau canser. Rwyf wedi dweud droeon pa mor bryderus rwyf i am yr effaith ar wasanaethau canser. Dyna pam y gwnaethom gyflwyno ein dull newydd o ymdrin â gwasanaethau canser yn ystod y pandemig. Dyna pam mai canser oedd yr unig glefyd a gafodd ei glustnodi yng nghynllun adfer mis Mawrth 2021. Dyna pam rwy'n gwneud gwella gwasanaethau canser yn ffocws allweddol i gynlluniau byrddau iechyd. Dyna pam rwy'n buddsoddi mewn gweithgarwch adfer, offer newydd, hyfforddi mwy o glinigwyr canser a chyfleusterau newydd ledled Cymru. Fy mwriad yw cyhoeddi cynllun adfer gofal wedi'i gynllunio ym mis Ebrill, a bydd hwnnw, wrth gwrs, yn cynnwys ystod o gamau gweithredu a mesurau a fydd yn cefnogi cleifion canser.
Gwelwyd llawer o feirniadu ar y cysyniad o ddatganiad ansawdd ar gyfer canser, ond hoffwn atgoffa'r Aelodau fod ein bwriad i gyhoeddi cyfres o ddatganiadau ansawdd wedi'i nodi yn 'Cymru Iachach'. Dyna oedd yr ymateb i'r adolygiad seneddol. Dywedai y byddai datganiadau ansawdd yn disgrifio'r canlyniadau a'r safonau y byddem yn disgwyl eu gweld mewn gwasanaethau o ansawdd uchel sy'n canolbwyntio ar y claf.
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Wrth gwrs.
Diolch. Rwy'n gwerthfawrogi eich parodrwydd i ystyried y dadleuon a'r sgyrsiau y prynhawn yma, a'ch bod yn agored i'r hyn a ddywedwyd y prynhawn yma, Weinidog. Ar y datganiadau ansawdd, rwy'n credu mai'r broblem—dywedwch os wyf yn anghywir—yw nad oes targedau yn y rheini. Nid oes gweledigaeth yn y rheini. Dim ond cyfres o ddatganiadau ydyw. Rhaid eich bod yn cydnabod bod angen hynny os ydym am gael—. Yr hyn rwy'n ei ofyn yw: a ydych yn derbyn yr angen am strategaeth canser uwchlaw a thu hwnt i'r datganiad ansawdd canser?
Diolch yn fawr iawn, Russell. Yr hyn nad ydym yn brin ohono yw targed. Mae gennym darged; nid ydym yn cyrraedd y targed eto. Yr hyn sydd ei angen arnom yw mecanwaith i gyrraedd y targed, ac mae hynny'n sicr yn rhywbeth y mae angen inni sicrhau y gallwn ei gyflawni. Mae llawer o bobl wedi sôn heddiw am yr angen i sicrhau bod staff ar gael, er enghraifft, a bod hyfforddiant ar waith. Cyn y Nadolig, fe wnaethom gyhoeddi £0.25 biliwn i ganolbwyntio ar hyfforddiant o fewn y GIG. Mae wedi bod yn ddiddorol edrych ar y cynigion gofal wedi'i gynllunio yn Lloegr a gyhoeddwyd ddoe. Un feirniadaeth enfawr o hynny yw: ble mae'r cynllun ar gyfer hyfforddi? Wel, mae gennym gynlluniau hyfforddi ar waith; mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru yn gweithio ar hyn, maent yn gwybod beth sydd angen ei wneud. Gallaf roi'r holl fanylion i chi ynglŷn â faint o bobl sy'n mynd i gael eu hyfforddi ym mhob maes canser gwahanol.
Felly, rydym yn gwneud cryn dipyn o waith. Y gwahaniaeth mewn ffordd yw nad ydym wedi'i becynnu, ac mae rheswm dros hynny, a'r rheswm yw mai'r hyn sydd gennym yw set integredig o ymrwymiadau polisi a ddisgrifiwyd yn y fframwaith clinigol cenedlaethol, a'r hyn sydd angen i chi ei ddeall yw'r cyd-destun y mae angen i'r cynllun canser hwn weithio ynddo. Gadewch imi eich atgoffa o'r hyn y ceisiwn ei wneud: rydym am gael set gliriach, fwy effeithiol, lai dyblygol o drefniadau polisi y gall ein cyrff GIG sy'n cynllunio ac yn darparu gwasanaethau canser ymateb iddynt yn effeithiol. Rwy'n deall yr atyniad o nodi manylion mewn un ddogfen sut rydym yn mynd i ddatrys canser, ond nid dyna sut y caiff system iechyd gymhleth iawn ei chyflawni. Rydym wedi clywed heddiw am yr angen i edrych ar atal. Wel, a ydych am gael strategaeth gordewdra gyfan wedi'i gosod o fewn y cynllun canser? Nid yw i'w weld yn gwneud unrhyw synnwyr i mi. Mae gennym gynllun ysmygu hefyd; mae gennym lawer o gynlluniau gwahanol ac mae'r cyfan yn cyfrannu, felly rwy'n credu bod yn rhaid inni ddeall pa mor gymhleth yw hyn.
Yn ganolog i wella canlyniadau canser mae adnabod rhywun sy'n wynebu risg a chael y prawf diagnostig wedi'i wneud. Os edrychwn ar bwy sy'n darparu'r rhan honno o'n llwybr canser, nid gwasanaethau canser ydynt. Felly, ble byddem yn rhoi'r rheini? A ydym yn eu rhoi yn y cynllun canser ai peidio? Oherwydd nid ydynt yn arbenigwyr canser; ymarferwyr cyffredinol ydynt sy'n nodi'n gyntaf a oes angen archwilio ymhellach. Deintyddion ydynt, optegwyr ydynt, maent hefyd yn cynnwys sgrinwyr a thimau cleifion allanol ac adrannau brys. Dyma lle y mae'r amheuaeth glinigol gychwynnol o ganser yn codi, a lle y caiff pobl eu hatgyfeirio ohono. A phan gânt eu hatgyfeirio i gael archwiliad, i ble maent yn mynd? Maent yn mynd at batholegwyr, maent yn mynd at radiolegwyr, maent yn mynd at endosgopwyr. A ydych chi am gynnwys hynny i gyd? Bydd eich cynllun yn enfawr, Russell. Felly, credaf fod dull o weithredu wedi'i nodi'n glir yn 'Cymru Iachach', a dyna pam ein bod wedi mabwysiadu'r dull hwn.
Ond Weinidog, nid fi a'r gwrthbleidiau eraill yn unig sy'n galw am gynllun canser. Rwy'n deall y manylion a grybwyllwyd gennych—na ellir cynnwys hyn i gyd mewn cynllun—ond rydych chi hefyd yn dweud bod yr 20 elusen sydd wedi awgrymu y dylid cael cynllun canser yn anghywir hefyd ac wedi camddeall y dull o weithredu. Rwy'n ceisio deall y gwrthwynebiad i gael cynllun trosfwaol yma.
Rwy'n ceisio egluro i chi fod y system—. Pam y dylid gosod hynny i gyd o fewn strategaeth ganser, os gallai fod yn rhywbeth lle gallai fod goblygiadau ar gyfer strôc? Beth a wnawn yno? A ydych chi'n eu gwahanu? A ydych yn rhoi popeth—? Mae'n ymwneud â dyblygu; rwy'n credu bod yn rhaid inni fod yn ofalus iawn nad ydym yn dyblygu strategaethau gwahanol. Ni allwn obeithio gwella canlyniadau canser oni bai ein bod yn gweld adferiad a thrawsnewidiad yr holl wasanaethau gwahanol, a phob un ohonynt yn destun cymorth rhaglenni polisi cenedlaethol pwysig a threfniadau cynllunio lleol.
Gellid adrodd stori debyg am fynediad at lawdriniaeth, yr ymyrraeth amlycaf ar gyfer triniaeth iachusol, ac am ein gwasanaethau gofal lliniarol hanfodol, gyda phob un ohonynt yn sefyll ochr yn ochr â rhannau arbenigol o'r llwybr canser fel radiotherapi a chemotherapi, sy'n amlwg yn feysydd arbenigedd ar gyfer canser. Pan fyddwn yn deall ehangder y gwasanaethau ehangach sy'n gysylltiedig â'r llwybr canser, rwy'n gobeithio y byddwch yn deall pam fy mod yn credu bod angen i ni fabwysiadu dull mwy cynnil.
Nid rhyw fath o gynllun cyflawni disylwedd yw'r datganiad ansawdd ar gyfer canser; mae'n strwythur cwbl newydd sydd wedi'i gynllunio i weithio o fewn y cyd-destun Cymreig, a disgrifir ei resymeg yn y fframwaith clinigol cenedlaethol.
Mae'n werth cofio bod y datganiad ansawdd ar gyfer canser yn cynnwys 19 o lwybrau gofal ar gyfer gwahanol fathau o ganser, felly mewn gwirionedd, mae llawer iawn o uchelgais a manylder yma, mwy nag a welsom ni yn y cynlluniau cyflawni blaenorol, ac yn hyn o beth dŷn ni o flaen y Deyrnas Unedig. Mae gyda ni ragor i'w wneud, ac mae angen i ni fynd ymhellach; dwi'n derbyn hynny. Fe fyddwn ni'n diweddaru'r datganiad ansawdd gan ychwanegu llwybrau, manylebau gwasanaeth a metrigau wrth iddyn nhw gael eu cytuno, ac fe fyddwn ni'n gweithio mwy ar lefel genedlaethol drwy'r bwrdd rhwydwaith canser newydd i ganolbwyntio ar y gweithlu canser y mae cymaint ohonoch chi wedi sôn amdano—
Weinidog, mae angen ichi ddod i ben yn awr. Rwyf wedi rhoi'r amser ychwanegol am yr ymyriadau.
Diolch yn fawr. Fe ddof i ben drwy ddweud fy mod yn derbyn bod llawer mwy y mae angen inni ei wneud yn y gofod hwn mewn gwirionedd. Nid wyf yn derbyn mai cynllun canser yw'r ateb, ond yr hyn rwy'n ei dderbyn yw bod angen inni roi ffocws go iawn i lawer o'r meysydd rydych wedi cyffwrdd â hwy, ond mae angen rhywun i sicrhau bod cyflawniad y datganiad hwnnw, y datganiad ansawdd, yn cael ei yrru'n llawer rhwyddach. Ac wrth gwrs, gobeithio y bydd hynny'n haws wrth inni gefnu ar y pandemig.
Galwaf ar Mark Isherwood i ymateb i'r ddadl.
Diolch. Rwyf wedi bod yn brysur yn ysgrifennu nodiadau. Diolch i bawb am eu cyfraniad ac i'r Gweinidog am ei hymateb. Dywedodd y Gweinidog wrthym ei bod wedi gwrando'n ofalus iawn, ac yn gwneud llawer o waith gan ei fod i gyd yn gymhleth iawn, ond fel y nododd Russell George, nid oes unrhyw dargedu, dim gweledigaeth. Mae 20 o elusennau arbenigol hefyd yn galw am strategaeth canser. O leiaf fe dderbyniodd y Gweinidog, ac rwy'n dyfynnu, 'Mae llawer mwy y gallwn ei wneud.'
Ar ôl gwrando ar y Gweinidog, rhaid imi ddweud ei bod yn warthus eu bod yn ceisio dileu cynnig yn galw arnynt i gyhoeddi cynllun recriwtio a chadw'r gweithlu ar frys ar gyfer arbenigwyr canser a chyhoeddi strategaeth ganser lawn, yn nodi sut y bydd Cymru'n mynd i'r afael â chanser dros bum mlynedd. Yn hytrach, maent yn cynnig datganiad ansawdd ar gyfer canser sy'n brin o fanylion, ac sydd ond yn gosod safonau gofynnol ar gyfer gwasanaethau canser gan osgoi monitro ac atebolrwydd mesuradwy. Mae hefyd yn osgoi dealltwriaeth y cyhoedd. Mae'r cyhoedd yn deall geiriau fel 'strategaeth', ond nid oes neb yn deall beth yw 'datganiad ansawdd', oni bai eich bod yn perthyn i'r haenau uchaf yn y maes rheoli adnoddau dynol neu'n gosod nodau corfforaethol ar gyfer eu cyhoeddi ar flaen eich cyfrifon blynyddol ac adroddiadau i'ch cyfranddalwyr. Nid yw'n derm sy'n hygyrch i'r bobl rydym yn ceisio eu helpu.
Fel y clywsom, cyn bo hir Cymru fydd yr unig wlad yn y Deyrnas Unedig heb strategaeth canser—cyn bo hir, Weinidog. Mae'r cyhoedd yn deall strategaeth, ond fel y dywedais, mae datganiad ansawdd yn ffordd o osgoi atebolrwydd i'r rhai sy'n dymuno gwneud hynny. Er gwaethaf y cynnydd a wnaed yn y misoedd diwethaf, mae targedau Llywodraeth Cymru yn parhau heb eu cyrraedd ac mae rhestrau aros yn parhau i godi. Hyd yn oed cyn y pandemig, nid oedd amseroedd aros ar gyfer canser wedi'u cyrraedd ers 2008 ac roedd pedair gwaith y nifer o bobl yn aros dros flwyddyn am driniaeth yng Nghymru nag yn Lloegr gyfan. Hyd yn oed cyn y pandemig, dangosodd data uned gwybodaeth canser Cymru mai Cymru oedd â'r cyfraddau goroesi isaf ar gyfer chwe math o ganser, a'r ail isaf ar gyfer tri math, yn y DU.
Y mis diwethaf, chynheliais gyfarfod ymwybyddiaeth o ganser yr ofari Cymru ar-lein, digwyddiad a drefnwyd gan Target Ovarian Cancer a Ffederasiwn Cenedlaethol Sefydliadau'r Merched, lle y clywsom, cyn y pandemig, mai dim ond 37 y cant o fenywod â chanser yr ofari yng Nghymru a gafodd ddiagnosis cynnar. Ac rwy'n cydnabod ac yn diolch i'r Gweinidog am y llythyr a gefais ganddi heddiw ynglŷn â hynny. Ac ydy, mae nifer y menywod sy'n cael diagnosis o'r cyflwr wedi gostwng, ond mae'n dal i fod yn warthus mai dim ond ar gam diweddarach y cafodd 63 y cant o fenywod ddiagnosis, gan leihau eu gobaith o oroesi.
Bythefnos yn ôl, cyfarfûm â Cymorth Canser Macmillan. Roedd ein trafodaeth yn cynnwys y cynnydd mewn ceisiadau am fudd-daliadau gan bobl sydd â salwch terfynol, gan adlewyrchu'r cynnydd mewn diagnosis ar gam diweddarach yn ystod y pandemig a'r twf a ragwelir yn y galw yn y dyfodol. Trafodwyd yr angen i ddatganiad ansawdd Llywodraeth Cymru ar gyfer canser gynnwys cerrig milltir a gwasanaethau cymunedol.
Bythefnos yn ôl, cyfarfûm â Prostate Cancer UK. Roedd ein trafodaeth yn cynnwys y nifer o gategorïau risg o ganser y prostad cam cynnar na wnaed diagnosis ohono ers y pandemig. Rwy'n croesawu'r newyddion eu bod yn lansio ymgyrch godi ymwybyddiaeth o ganser y prostad gyda'r GIG ar 17 Chwefror, wedi'i hanelu at ddynion yn y grwpiau risg uchaf.
Dywed Cancer Research Cymru fod Cymru, hyd yn oed cyn yr argyfwng presennol, wedi perfformio'n wael ar lawer o fesurau'n ymwneud â diagnosis, triniaeth a goroesi canser, gan ychwanegu bod effaith y pandemig ar wasanaethau canser, yn enwedig ei weithlu, yn peri pryder. Ac mae'r Tasglu Canserau Llai Goroesadwy yn parhau i godi proffil y chwe math o ganser llai goroesadwy, ac i dynnu sylw at bwysigrwydd hanfodol diagnosis cynnar er mwyn gwella'r gobaith o oroesi.
Wrth agor y ddadl heddiw, dywedodd Russell George nad yw'r amseroedd triniaeth canser presennol yn dal i fyny, fod cyfraddau goroesi canser Cymru wedi bod yn arafu ers blynyddoedd lawer, a bod y system wedi torri hyd yn oed cyn y pandemig. Cyfeiriodd at y blynyddoedd o brinder staff cronig a phrinder arbenigwyr canser, ac anogodd Lywodraeth Cymru i gyhoeddi cynllun recriwtio a chadw gweithlu llawn ar gyfer arbenigwyr canser a strategaeth ganser lawn.
Cynigiodd Rhun ap Iorwerth welliant Plaid Cymru yn annog Llywodraeth Cymru i gwblhau'r gwaith o gyflwyno canolfannau diagnostig amlddisgyblaethol ledled Cymru fel mater o flaenoriaeth, rhywbeth rydym ni'n ei gefnogi'n llawn gyda Phlaid Cymru, wrth gwrs. Cyfeiriodd at absenoldeb amlwg strategaeth ganser genedlaethol a thynnodd sylw at y ffaith bod cyfraddau goroesi canser yng Nghymru yn is na'r rhai yn y gwledydd eraill ym Mhrydain a gwledydd eraill ledled Ewrop. Maent yn pleidleisio yn erbyn gwelliant y Llywodraeth Lafur—ac fe wnawn ninnau hynny hefyd wrth gwrs. Ac mae wedi gofyn i Lywodraeth Cymru wrando yn hytrach ar y dros 20 o elusennau sy'n ffurfio Cynghrair Canser Cymru, fel y gwnaeth Russell George mewn ymateb i'r Gweinidog ar y diwedd. Nid gwirfoddolwyr hapus yw'r rhain neu deuluoedd mewn profedigaeth; arbenigwyr ydynt. Dyma'r bobl sydd â'r wybodaeth dechnegol, yr arbenigedd a'r wybodaeth rheng flaen i allu helpu'r Llywodraeth i wneud pethau yn y ffordd gywir, a rhaid gwrando arnynt.
Cyfeiriodd Laura Anne Jones at y 19,600 o bobl yng Nghymru bob blwyddyn sydd, yn drasig iawn, yn cael diagnosis o ganser. Dywedodd fod cyfraddau goroesi yng Nghymru wedi gwella, ond eu bod yn dal i fod yn llawer is na chyfartaledd y DU, a bod angen gweithredu pendant a phenderfynol i wella cyfraddau goroesi canser yng Nghymru yn y dyfodol, gyda strategaeth ganser gynhwysfawr ochr yn ochr ag agenda ataliol. Nododd Gareth Davies fod diagnosis cynnar yn allweddol i allu goroesi, ond rhagwelir y bydd y gweithlu canser arbenigol yn lleihau mewn gwirionedd. Soniodd am yr angen i fynd i'r afael â phrinder staff hanesyddol mewn diagnosteg ac oncoleg glinigol, a dywedodd ei bod yn bryd cael strategaeth ganser uchelgeisiol a chynllun gweithlu i ddileu marwolaethau diangen y gellir eu hosgoi. Dywedodd Janet Finch-Saunders fod miloedd yn cael cam o dan Lywodraeth Lafur Cymru ac nad yw hyn yn rhywbeth sydd newydd godi ei ben iddynt. Galwodd am lenwi'r bwlch yn y ddarpariaeth ar gyfer anghenion iechyd deintyddol cleifion canser hefyd.
Wel, hyd yn oed cyn COVID, roedd Cymru eisoes yn llusgo ar ôl gwledydd eraill y DU gyda'i chyfraddau goroesi canser. Fel y clywsom gan lawer o siaradwyr, o Blaid Cymru a'r Ceidwadwyr Cymreig wrth gwrs, nid y DU yn unig ydyw; rydym yn llusgo ar ôl llawer o'n partneriaid rhyngwladol hefyd. Nawr, mae gwasanaethau canser Cymru yn ei chael hi'n anodd ymdopi â'r tswnami—ac rydym wedi clywed y gair hwnnw droeon—o ganser y methwyd gwneud diagnosis ohono ac ymddangosiad canserau ar gam diweddarach. Pan ychwanegir hyn at flynyddoedd o brinder staff cronig, mae'n hawdd deall pam y mae elusennau canser yn dweud nad yw'r datganiad ansawdd ar gyfer canser yn ddigon manwl ac uchelgeisiol. Nid yw'n strategaeth genedlaethol. Rwy'n annog yr Aelodau i gefnogi ein cynnig yn unol â hynny. Diolch.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, gohiriaf y bleidlais ar y cynnig tan y cyfnod pleidleisio.