– Senedd Cymru am 4:22 pm ar 22 Mawrth 2022.
Eitem 9 yw'r eitem nesaf, felly, a hwnnw yw Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Anheddau Gwag Hirdymor ac Anheddau a Feddiennir yn Gyfnodol) (Cymru) 2022. Galwaf ar y Gweinidog Cyllid i wneud y cynnig yma—Rebecca Evans.
Cynnig NDM7959 Lesley Griffiths
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau’r Dreth Gyngor (Anheddau Gwag Hirdymor ac Anheddau a Feddiennir yn Gyfnodol) (Cymru) 2022 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 1 Mawrth 2022.
Diolch. Rwy'n croesawu'r cyfle i gyflwyno'r rheoliadau hyn heddiw. Mae Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Anheddau Gwag Hirdymor ac Anheddau a Feddiennir yn Gyfnodol) (Cymru) 2022 yn cynyddu'r lefel uchaf y gall awdurdodau lleol bennu premiymau'r dreth gyngor ar anheddau a feddiennir yn gyfnodol—y cyfeirir atyn nhw yn fwy cyffredin fel ail gartrefi—ac ar eiddo gwag hirdymor, o 100 y cant i 300 y cant. Mae'r mesurau'n rhan o ymrwymiad ehangach i fynd i'r afael â phroblem ail gartrefi a thai nad ellir eu fforddio y mae llawer o gymunedau yn eu hwynebu, fel y nodir yn y cytundeb cydweithredu rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru.
Yr haf diwethaf, buom yn ymgynghori ar drethi lleol ar gyfer ail gartrefi a llety hunanarlwyo. Roedd hon yn un agwedd ar ddull tair elfen Llywodraeth Cymru o fynd i'r afael â phroblemau yn ymwneud ag eiddo fforddiadwy a'r effaith y gall nifer fawr o ail gartrefi a llety gwyliau ei chael ar gymunedau a'r iaith Gymraeg. Roedd yr ymgynghoriad yn rhan o adolygiad o'r ddeddfwriaeth dreth leol bresennol. Gofynnwyd am farn a thystiolaeth gan unigolion a sefydliadau ar y pwerau disgresiwn sy'n caniatáu i awdurdodau lleol godi cyfradd uwch o dreth gyngor ar ail gartrefi ac eiddo gwag hirdymor. Cawsom bron i 1,000 o ymatebion, a oedd yn adlewyrchu ystod eang o ddiddordeb.
Mae'r gallu i godi premiymau treth gyngor ychwanegol wedi'i groesawu fel dull a all helpu awdurdodau lleol i liniaru'r effeithiau negyddol y gall ail gartrefi ac eiddo gwag hirdymor eu cael ar rai cymunedau. Er nad yw llawer o'r cyfleoedd i fynd i'r afael â materion tai drwy bremiymau wedi'u gwireddu'n llawn eto, bydd cynyddu'r lefel uchaf nawr yn galluogi awdurdodau lleol unigol i benderfynu ar lefel sy'n briodol ar gyfer eu hamgylchiadau lleol pan fydd yr amser yn iawn ar eu cyfer. Daw'r pwerau i rym o fis Ebrill 2023. Bydd awdurdodau lleol yn gallu gosod y premiwm ar unrhyw lefel hyd at yr uchafswm, a byddant yn gallu gosod premiymau gwahanol ar ail gartrefi ac anheddau gwag hirdymor. Nawr, mater i awdurdodau unigol fydd penderfynu a ddylid defnyddio premiwm ac ar ba lefel i'w osod. Wrth wneud y penderfyniadau hyn, bydd angen i bob awdurdod asesu'r effeithiau posibl ar unigolion, cymunedau a'r economi leol. Dylai awdurdodau lleol ymgynghori â phobl leol a pherchnogion cartrefi cyn cyflwyno premiymau, gan ganiatáu cyfnod o 12 mis o leiaf rhwng gwneud y penderfyniad cyntaf i gyflwyno premiwm a'r flwyddyn ariannol y mae'n dod i rym ynddi. Gofynnaf i'r Aelodau gymeradwyo'r rheoliadau hyn heddiw.
Galwaf Rhys ab Owen nawr i siarad ar ran y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad.
Diolch yn fawr i chi, Lywydd. Dwi'n hapus iawn i gyfrannu at y ddadl y prynhawn yma ar ran y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, ac yn dymuno'n dda i'n Cadeirydd, Huw Irranca-Davies, ar yr achlysur hapus o raddio ei fab, wedi cael ei ohirio droeon oherwydd COVID.
Buom yn ystyried y rheoliadau yma yn ein cyfarfod ar 14 Mawrth, ac mae ein hadroddiad i’r Senedd yn cynnwys tri phwynt rhinwedd i gyflwyno adroddiad arnynt. Roedd angen ymateb gan y Llywodraeth i ddau o'r pwyntiau hynny, ac roeddem yn ddiolchgar iawn i'r Gweinidog am roi'r ymatebion hynny mewn da o bryd inni fel pwyllgor ystyried a thrafod hynny cyn dod fan hyn ar lawr y Senedd.
Nododd ein pwynt rhinweddau cyntaf fod y cynnydd sylweddol yn nisgresiwn yr awdurdod sy'n codi tâl, o 100 y cant i 300 y cant, yn ymddangos fel pe bai'n ymgysylltu ag erthygl 1 o brotocol cyntaf y confensiwn Ewropeaidd ar hawliau dynol. Er cydnabyddir a derbynnir y gall gwladwriaethau ymyrryd ag eiddo dinesydd, yn yr achos hwn drwy gynyddu'r tâl treth gyngor ar anheddau gwag hirdymor neu anheddau a feddiennir yn gyfnodol, nid yw'r memorandwm esboniadol na'r nodiadau esboniadol i'r rheoliadau—nac ychwaith, mae'n ymddangos, yr ymgynghoriad gwreiddiol, mewn gwirionedd—yn nodi unrhyw ystyriaeth benodol o'r effaith ar hawliau'r confensiwn. Hefyd, nid ydyn nhw'n datgan bod y cynllun a weithredir gan y rheoliad yn ffordd gymesur o gyflawni nod cyfreithlon yn hyn o beth.
Yn ei hymateb i'n hadroddiad, dywedodd y Llywodraeth yn syml eu bod yn fodlon bod y rheoliadau'n gydnaws â hawliau'r confensiwn. Wel, efallai fod hynny'n wir, Gweinidog, ond siaradodd fy nghyd-Aelod, yr wythnos diwethaf, Alun Davies, yn y Siambr hon, unwaith eto ar ran y pwyllgor, a chododd bryderon unwaith eto am yr ymatebion nad ydynt yn llawn gwybodaeth y mae'r pwyllgor yn eu cael pan fyddwn yn cwestiynu ymhellach rwymedigaeth Llywodraeth Cymru o ran hawliau dynol ac asesiadau o'r effaith ar gydraddoldeb. Felly, a gawn ni ofyn yn barchus i'r Llywodraeth fyfyrio ymhellach ar y ddau sylw hyn, er mwyn sicrhau ein bod yn y dyfodol yn cael esboniad llawn ar y materion pwysig iawn hyn?
Mae ein hail bwynt rhinwedd yn tynnu sylw at yr ymgynghoriad a gynhaliwyd gan Lywodraeth Cymru mewn perthynas â’r rheoliadau, ac, yn benodol, at y modd y mae’r memorandwm esboniadol yn ymdrin â’r ymgynghoriad hwn.
Gan ystyried y nifer uchel iawn o ymatebion i'r ymgynghoriad a'r ffaith—prin ei bod yn syndod mae'n debyg—nad oedd y rhan fwyaf o'r ymatebion hynny'n cefnogi'r cynnig i gynyddu disgresiwn y gyfradd ganrannol, nid oeddem yn glir pam y mabwysiadwyd y dull gweithredu yn y rheoliadau. Mewn ymateb, dywedwyd wrthym fod Llywodraeth Cymru wedi rhoi ystyriaeth lawn i'r holl ymatebion i'r ymgynghoriad, a bod mynd ar drywydd opsiwn 2, fel y'i disgrifiwyd yn yr ymgynghoriad, yn ymateb cymesur wrth geisio cyflawni'r nod cyfreithlon o hyrwyddo ymrwymiadau Llywodraeth Cymru i ddiwygio. Mae'r pwyllgor yn ymwybodol bod ein cyd-Aelodau yn y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai yn cael ymchwiliad i rinweddau'r polisi—neu fel arall—i'r hyn y mae'r rheoliadau hyn yn ceisio'i gyflawni, ac edrychwn ymlaen at yr adroddiad hwnnw.
Mae ein pwynt rhinwedd olaf, Weinidog—ac fel dywedais i, doedd dim angen ymateb i'r pwynt yma—yn nodi, yn syml, y bydd y cynllun a bennir yn y rheoliadau yn debygol o arwain at gynnydd yn refeniw yr awdurdodau bilio trwy ddarparu gwasanaethau sy’n dod o dan ffi’r dreth gyngor. Mae'r rheoliadau’n rhagnodi drwy welliant y mecanwaith o gynyddu'r ffi honno, yn ôl disgresiwn pob awdurdod bilio.
Felly, dyna sylwadau'r pwyllgor cyfansoddiad. Diolch yn fawr i chi, Weinidog.
Hoffwn atgoffa'r Aelodau i gyfeirio at fy ffurflen datgan buddiannau fy hun o ran perchnogaeth eiddo.
Nawr, mae'r rheoliadau hyn yn deillio o fethiant. Methiant llywodraethau olynol Llafur Cymru i ddarparu cartrefi newydd: dim ond 4,616 o anheddau newydd a gwblhawyd yn 2021, pan ddylai'r ffigur fod wedi bod yn 12,000. Methiant o ran sicrhau defnydd newydd i gartrefi gwag: roedd 25,725 yn 2017-18, 22,140 yn 2022-23. Methiant o ran sicrhau bod Cymru'n defnyddio'r dulliau cynllunio sydd ganddi eisoes i ddarparu cartrefi, nid gwestai, i'n pobl leol. Mae dros 7,000 o bobl wedi cael eu gwthio i ddigartrefedd ac sydd bellach yn byw mewn llety dros dro.
Nawr, o'r hyn a welaf i o ddarllen y memorandwm esboniadol, yr unig effaith gadarnhaol a gaiff y rheoliadau hyn yw y byddant yn cyfrannu at yr ymrwymiad yn rhaglen lywodraethu ddiweddaraf 2021-26 i geisio adolygu'r dreth gyngor, a byddant yn cyfrannu at yr amcan yn y cytundeb cydweithredu i roi mwy o bwerau i awdurdodau lleol godi premiymau'r dreth gyngor a chynyddu trethi ar ail gartrefi yr un pryd.
Bwriedir i'r disgresiwn a roddir i awdurdodau lleol godi premiwm fod yn offeryn i helpu awdurdodau lleol i ddod â chartrefi gwag hirdymor yn ôl, a chefnogi awdurdodau lleol i gynyddu'r cyflenwad o dai fforddiadwy. Fodd bynnag, nid oes unrhyw eglurhad o gwbl ynghylch sut y caiff unrhyw refeniw ychwanegol ei wario. Fel y mae'r memorandwm esboniadol yn ei wneud yn glir, gall awdurdodau lleol ddefnyddio'r arian fel y gwelant orau. Yn wir, mae'n amlwg bod diffyg awydd a chefnogaeth i'ch cynigion, a chredaf fod fy nghyd-Aelod Rhys ab Owen AS newydd ddweud am y 1,000 o bobl allan o 3.1 miliwn sydd wedi ymateb a chyfran y rhai sy'n amlwg yn erbyn hyn, felly mae'n codi'r cwestiwn pam yr ydych chi'n ceisio mynd ar drywydd hyn. Hyd yma, dim ond hanner yr awdurdodau sydd wedi dewis gosod premiymau ar gartrefi gwag hirdymor neu ail gartrefi neu'r ddau. Dim ond 30 y cant o anheddau gwag hirdymor yn 2022-23 a fydd yn talu premiwm, ac nid oedd y rhan fwyaf o'r ymatebion i'r ymgynghoriad yn cefnogi cynnydd yn y premiwm uchaf, felly os ydych yn mynd i anwybyddu ymgynghoriad, beth yw ei ddiben? Rydych chi'n mynd i anwybyddu barn y mwyafrif.
Yn bwysig, arweiniodd yr ymgynghoriad at dystiolaeth gyfyngedig bod rhanddeiliaid yn credu y gallai cynyddu'r ganran uchaf gael effaith gadarnhaol wrth fynd i'r afael â'r problemau sy'n deillio o ail gartrefi. Yr hyn sydd gennym yma yw cyfres o reoliadau yr ydych chi a'ch partneriaid clymblaid—o, cydweithredu—ym Mhlaid Cymru eisiau eu cael, i geisio gwneud i bobl feddwl eich bod yn brwydro dros fwy o gartrefi i bobl leol. Fodd bynnag, y realiti yw mai dim ond ceisio cuddio methiant a pholisi diffygiol yw'r strategaeth hon gan sosialwyr a gwrth—[Torri ar draws.] Arhoswch. Hei, arhoswch. Whoa, whoa, whoa. Dydw i ddim wedi gorffen eto. Cenedlaetholwyr gwrth-ymwelwyr. [Torri ar draws.] Ac mae'r ffordd yr ydych yn ceisio boddio Plaid Cymru yn costio'n ddrud—costau gweinyddol i Lywodraeth Cymru, casglu trethi, gorfodi, ymdrin â chwynion, costau i awdurdodau lleol, a chost i gydraddoldeb gwirioneddol.
Cefais fy syfrdanu o ddarllen yr honiad yn y memorandwm esboniadol y bydd y polisi'n cyfrannu at Gymru fwy cyfartal. Nid oes dim byd o gwbl yn gyfartal ynghylch y premiwm o 300 y cant, a byddwn i'n gofyn—fel y gofynnwyd i mi gymaint o weithiau—pam y gwnaethoch chi dynnu'r ffigur 300 y cant allan o'r awyr yn sydyn? Mae'r cwestiwn hwnnw—. Pa dystiolaeth, pa ddata, beth ydych chi wedi'i ddefnyddio, pa wybodaeth ydych chi wedi'i defnyddio, i ddod at y ffigur hwnnw? Rydych yn cosbi perchnogion ail gartrefi ac yn annog rhethreg gwrth-ymwelwyr yn ein cenedl. Bydd y Ceidwadwyr Cymreig yn pleidleisio yn erbyn y rheoliadau peryglus hyn heddiw, a byddwn yn parhau i hyrwyddo'r polisïau clir yr ydym wedi bod yn eu cynnig ers dechrau'r Senedd i sicrhau ein bod yn adeiladu cartrefi—ac, ie, cartrefi—ar gyfer pobl leol. Gofynnaf i'r Senedd, neu Senedd Cymru, ddweud 'na' wrth y ffasâd ffug hwn gan Lafur Cymru a Phlaid Cymru, a rhoi cyfle i atebion eraill.
Rhif 1: gadewch i ni fynd i'r afael â fforddiadwyedd drwy adeiladu mwy o gartrefi, gyda phwyslais ar gynhyrchu cymunedau cymysg. Dau: tynnu'r bloc sy'n atal cymaint â 10,000 o gartrefi newydd, gan gynnwys 1,700 fforddiadwy, oherwydd canllawiau gwirioneddol anghymedrol gan Cyfoeth Naturiol Cymru ar ffosfforws. Tri: gweithio gyda'n hawdurdodau lleol i hyrwyddo'r benthyciad cartrefi gwag yn well. Pedwar: adolygu pa gamau y gellir eu cymryd i droi gofod gwag uwchben unedau manwerthu yn dai fforddiadwy, wedi'u lleoli'n ganolog. Pump: defnyddio tir ac adeiladau sy'n eiddo i'r sector cyhoeddus unwaith eto ledled Cymru y gellid eu gwneud yn dai da i'r bobl hynny sydd eu hangen. Chwech: diwygio nodyn cyngor technegol 6 i ganiatáu i blant ffermwyr sy'n byw gartref ond sy'n gweithio mewn mannau eraill gael caniatâd cynllunio i adeiladu cartrefi ar dir teuluol yn haws. A saith: adfer yr hawl i brynu yng Nghymru, adeiladu tai ar gyfer pobl leol ar gyrion cymunedau, gan ailfuddsoddi elw gwerthiant mewn mwy o dai cymdeithasol, ac, os ydych yn diogelu'r cartrefi hynny rhag cael eu gwerthu am 10 mlynedd, bydd gennych rywfaint o—[Torri ar draws.]
Rwy'n credu eich bod ar fin gorffen, Janet Finch-Saunders.
Ydw.
Peidiwch â gwrando arno fe. [Chwerthin.] Llyr Gruffydd.
Yr hawl i brynu yw rhan o'r rheswm ein bod ni yma'n trafod hyn, a bod yn onest.
Gadewch inni gofio mai pwerau disgresiwn rŷn ni'n sôn amdanyn nhw fan hyn—peidiwch ag anghofio hynny. Pwerau disgresiwn sydd fan hyn, nid gorchymyn yn dweud, 'Defnyddiwch y pwerau yma', neu, 'Mae'n rhaid ichi roi'r pwerau yma ar waith.' Un elfen yw hon mewn ystod llawer ehangach o arfau posib y bydd ein hawdurdodau lleol ni yn gallu eu defnyddio. Mae'n rhaid ichi beidio ag edrych ar hwn ar ben ei hun, in isolation; mae hwn jest yn un elfen mewn ateb llawer iawn ehangach, a rhai ohonyn nhw, a dweud y gwir, yn rhai rŷch chi wedi cyfeirio atyn nhw nawr, er ei bod hi'n drueni ei bod hi wedi cymryd pum munud o negyddiaeth i ddod at gwpwl o bwyntiau adeiladol ar y diwedd. Ar ei ben ei hun, dyw hwn ddim yn silver bullet, a does neb yn awgrymu am eiliad ei fod e, ond mae e'n un arf ymhlith nifer y bydd awdurdodau lleol yn gallu ei defnyddio. 'Ymhlith nifer', dwi'n dweud, ac mae yna gamau eraill rŷn ni fel Plaid, wrth gwrs, yn eu cefnogi, yn cynnwys mynd i'r afael ag argaeledd tai, mynd i'r afael â fforddiadwyedd tai, newid y gyfraith gynllunio, edrych ar gynlluniau cofrestru statudol ar lety gwyliau, ochr yn ochr wedyn â defnyddio'r gyfundrefn drethiannol, er mwyn cychwyn delio, os caf i ddweud, â'r broblem yn yr ardaloedd lle mae'n argyfwng—ac mae eisiau cofio hynny hefyd. Ac 'argyfwng' yw'r gair, os caf i ddweud. Ac os ydyw hi'n argyfwng, yna mae angen ateb y Llywodraeth i adlewyrchu'r argyfwng hwnnw.
Dwi'n deall y pwynt roedd y pwyllgor yn ei wneud ynglŷn â hawliau dynol. Ond beth am hawliau dynol y bobl honno sy'n cael eu gyrru allan o'u cymunedau am eu bod nhw'n methu â fforddio tai—y cymunedau yma lle maen nhw wedi cael eu magu, lle maen nhw wedi cael eu codi, lle maen nhw'n galw'n gartref a lle maen nhw eisiau byw? 'Hawl i Fyw Adra' yw enw'r ymgyrch. Mae hawliau gan y rhai hynny sydd heb le i fyw. Felly, mi fyddwn i'n annog Aelodau i gefnogi'r cynnig yma fel un darn o'r jig-so, fel un rhan o'r ymdrech i ddelio â'r broblem, a rhoi opsiwn ychwanegol i awdurdodau lleol. Posib fydd nifer ohonyn nhw ddim yn ei ddefnyddio fe, ond mae e'n opsiwn i'r ardaloedd hynny lle mae'r broblem ar ei ddwysaf, ac mae'r ymateb o fan hyn yn mynnu ymateb o'r fath.
Cyn imi ddechrau, hoffwn ddweud fy mod yn siarad fel aelod o'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad, ond nid ar ran y pwyllgor hwnnw. Rwyf wirioneddol eisiau adeiladu ar y pwynt a wnaeth Rhys yn gynharach am asesiadau o'r effaith ar gydraddoldeb. Mae'n fwy o bwynt gweithdrefnol. Ond, Llywydd, hoffwn ofyn i'r Gweinidog am y diffyg asesiad o'r effaith ar gydraddoldeb ym memorandwm esboniadol y rheoliadau hyn. Mae hwn yn bwynt sylfaenol ac yn un sy'n berthnasol i unrhyw benderfyniad sydd i'w wneud gan y Llywodraeth neu'r Senedd. Nawr, rwy'n deall fod hwn yn bwynt gweithdrefnol, fel y dywedais i, ond rwy'n dal i feddwl ei fod yn bwynt pwysig i'w godi, oherwydd, ni waeth beth yw ystyr y rheoliadau, maen nhw'n dal i gael effaith ar bobl, gan gynnwys y rheini sydd â nodweddion gwarchodedig o bosibl.
Bydd y Gweinidog yn ymwybodol o'r gwahanol ddarnau o ddeddfwriaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ddarostyngedig iddyn nhw o ran cydraddoldebau. Yn wir, o dan Reoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Dyletswyddau Statudol) (Cymru) 2011, mae'n rhaid i Weinidogion Cymru gael trefniadau priodol ar gyfer cynnal asesiadau o'r effaith ar gydraddoldeb. Ac eto, mae'r memorandwm esboniadol yn nodi:
Ni nodwyd unrhyw effaith negyddol ar grwpiau sydd â nodwedd warchodedig o ganlyniad i gyflwyno'r Rheoliadau hyn.
Nid oes unrhyw wybodaeth ychwanegol yn cael ei darparu ynghylch sut y cynhaliodd Llywodraeth Cymru asesiad o'r effaith ar gydraddoldeb ar gyfer y rheoliadau hyn ac a yw'n cydymffurfio â dyletswyddau cydraddoldeb cyfreithiol. Gweinidog, pa drefniadau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u gwneud i gydymffurfio â'i dyletswyddau cydraddoldeb wrth ddatblygu'r rheoliadau treth gyngor hyn? Ac os yw wedi cydymffurfio, ble mae'r dystiolaeth o hyn? Heb os nac oni bai bydd darparu'r holl wybodaeth yn helpu i wella gwaith craffu'r Senedd nid yn unig ar y rheoliadau hyn, ond ar rai yn y dyfodol hefyd. Diolch, Llywydd.
Wel, bydd pawb yma yn ymwybodol o odidogrwydd Dwyfor a Meirionydd, yr etholaeth y mae gen i'r fraint anhygoel o'i chynrychioli. Ond tra bod ymwelwyr yn mwynhau prydferthwch rhyfeddol y lle, y gwir ydy bod teuluoedd yn gorfod crafu byw yno, efo incwm y pen ymhlith yr isaf yn y wladwriaeth a gwerth tai wedi saethu i fyny. Yn wir, yn ddiweddar, clywsom ni am gyt ar lan traeth Abersoch yn gwerthu am £200,000. Mae fy swyddfa i o dan y don ar hyn o bryd efo pobl yn cysylltu eisiau cymorth yn ymwneud â thai: rhieni ifanc yn ddigartref; rhieni sy'n gweithio yn y sector gyhoeddus, yn gweithio yn y sector breifat, yn ennill incwm ond yn byw'n ddigartref; babanod yn cael eu magu mewn tai cwbl anaddas, efo mamau, yn amlach na pheidio, yn gorfod cario'r goetsh i fyny efo'r siopa a'r baban yn y llaw, a gadael y goetsh i lawr er mwyn mynd i fyny i lofft tamp—tai yn gwbl anaddas ar eu cyfer nhw. O Aberdyfi, Beddgelert, Criccieth, Morfa Nefyn a phob cymuned arall rhyngddyn nhw, mae un o bob pedwar tŷ mewn llawer o'r cymunedau yma, ac weithiau un o bob dau o dai, yn eistedd yn wag am y rhan fwyaf o'r flwyddyn, tra bod y teuluoedd yma, yn magu'u plant mewn tai anaddas, yn orlawn efo neiniau a theidiau ac aelodau eraill o'r teulu ehangach, yn gorfod edrych ar y tai yn eistedd yn wag.
Fel y dywedodd Llyr, mae'n argyfwng ac mae'n gwbl anfoesol. Mae'n rhaid cymryd camau er mwyn datrys hyn, a dwi'n siarad ar ran pob un o'r bobl yma dwi wedi gweld yn ystod yr wythnosau diwethaf sydd yn byw mewn cartrefi anaddas, sydd yn ddigartref, a dwi'n croesawu unrhyw gam sy'n cael ei gyflwyno er mwyn ceisio cywiro'r anghyfiawnder enbyd yma.
Heddiw, rwyf eisiau siarad ar ran y busnesau twristiaeth dilys hynny y bydd y rheoliadau hyn yn effeithio arnyn nhw. Mae llawer o fusnesau dilys y bydd hyn yn effeithio arnyn nhw wedi cysylltu â mi, ynghylch y cynnydd yn nifer y dyddiau y mae angen eu gosod o 140 i 252. Mae llawer o'r busnesau hynny a sefydlodd, yn ddiffuant, eu cwmni'n fel y gall pobl ddod i Gymru i fwynhau ein golygfeydd, i wario arian yn ein hardaloedd lleol, yn pryderu'n fawr, os nad ydyn nhw'n yn cyrraedd y trothwy o ran nifer y dyddiau o osod, y bydd eu busnesau'n gorfod cau, pan fydd yr eiddo hynny, a fydd, rwy'n siŵr, yn mynd yn ôl ar y farchnad agored, mae llawer o'r rheini'n destun cyfyngiadau cynllunio, mae rhai ohonyn nhw'n rhy fawr, byddant yn rhy ddrud ac ni fydd pobl leol yn gallu eu fforddio. A'r hyn nad wyf eisiau ei weld yw gweld llawer o fusnesau'n mynd i'r wal, llawer o fusnesau na allan nhw fforddio talu'r dreth gyngor 300 y cant, oherwydd dyna sy'n mynd i ddigwydd.
Pan fydd ymwelwyr yn dod yma, ni fydd ganddyn nhw unrhyw le i aros. Fel y dywedodd fy nghyd-Aelod Janet Finch-Saunders, mae'n rhaid i'r rhethreg ynghylch ail gartrefi ddod i ben. Nid perchnogion ail gartrefi yw'r broblem yma, nid pobl sy'n rhedeg busnesau go iawn, y Llywodraeth yma sydd wedi methu ers blynyddoedd i adeiladu'r tai y mae eu hangen arnom ar gyfer ein pobl ifanc. Gallai'r Llywodraeth hon ddiddymu'r dreth trafodiadau tir ar gyfer pobl ifanc. Gallech fwrw ymlaen ac adeiladu mwy o dai. Gallech gael gwared ar y rheoliadau ffosffad. Ond nid oes gennych gynllun i fynd i'r afael ag ef. Mae hon yn Llywodraeth sosialaidd nodweddiadol. Yr unig ffordd—[Torri ar draws.] Yr unig ffordd yr ydych yn ymdrin â phroblemau yw drwy drethi, trethi, trethi. Treth ar ddyhead yw hon, mae'n dreth ar dwristiaeth, ac mae'n dreth yn erbyn pobl sydd eisiau ymweld â Chymru. Felly, awgrymaf fod y Llywodraeth yn bwrw ymlaen, yn adeiladu mwy o dai ac yn rhoi polisïau ar waith sy'n cefnogi pobl ifanc mewn gwirionedd i brynu cartrefi ac nid trethu pobl oddi ar wyneb y ddaear hon.
Wel, ar thema debyg, i gyfiawnhau ei gyhoeddiad y bydd unrhyw fusnes hunanarlwyo sy'n methu—[Torri ar draws.]
A gawn ni glywed Mark Isherwood yn awr, os gwelwch yn dda? A gawn ni rywfaint o dawelwch?
Er mwyn cyfiawnhau ei gyhoeddiad y bydd unrhyw fusnes hunanarlwyo sy'n methu â bodloni ei gynnydd i 182 diwrnod o osod yn flynyddol yn cael ei ddileu o'r gofrestr ardrethi busnes ac efallai y bydd yn rhaid iddo dalu premiwm treth gyngor o hyd at 300 y cant, dywedodd eich Llywodraeth fod ymatebwyr i'r ymgynghoriad, ymatebwyr sy'n cynrychioli'r diwydiant twristiaeth ehangach, yn amlwg yn cefnogi newid i'r meini prawf a bod llety hunanarlwyo i'w ddosbarthu fel un annomestig, a hyd yn oed yn fwy annisgwyl, eu bod o'r farn y byddai'r rhan fwyaf o fusnesau llety gwyliau go iawn yn gallu bodloni trothwyon llety gwyliau uwch. Wrth gwrs, ers hynny, rydym wedi clywed protest gan y sector ledled Cymru.
Mynegwyd pryderon i mi gan fusnesau gwyliau dilys, yn cynnwys, 'Mae gennyf ddau lety gwyliau yng ngardd ein cartref yng Ngwynedd. Rydym ar agor drwy'r flwyddyn, yn llawn yn ystod y tymor brig, ond fel arfer dim ond archebion am wyliau byr penwythnos a gawn ni yn ystod y misoedd tawelach. Rwy'n ofni y byddwn yn fethdalwyr yn y pen draw.
'Mae'r chwe bwthyn gwyliau sydd gennym gerllaw ein cartref wedi bod yn fusnes i ni ers 25 mlynedd, ac i fusnesau fel ein un ni nad ydyn nhw'n bodloni'r 182 diwrnod o osod, sut y gellid codi'r dreth gyngor ar fythynnod sydd â chaniatâd cynllunio sy'n datgan na allant byth fod yn rhai preswyl?'
'Mae ein bwthyn gwyliau 6 metr o'n drws ffrynt, felly, yn amlwg, nid yw'n ail gartref ac mae'n nodi hyn yn y llyfr pryniad.'
'Rydym wedi bod yn masnachu dros y saith mlynedd diwethaf, wedi mynd dros 182 diwrnod o osod mewn pedair allan o'r saith mlynedd.'
Felly, mae angen i ni wybod pa asesiadau effaith y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cynnal o ran y canlyniadau i fusnesau gwyliau cyfreithlon, busnesau a sefydlwyd, mewn llawer o achosion, mewn ymateb i alwadau gan Lywodraethau Cymru ers datganoli iddyn nhw arallgyfeirio o fewn yr economi wledig—busnesau sydd ag eiddo nad ydynt erioed wedi'u defnyddio ac na fyddant byth yn cael eu defnyddio fel ail gartrefi. Diolch yn fawr.
Y Gweinidog i ymateb i'r ddadl. Rebecca Evans.
Diolch, Llywydd, ac rwy'n ddiolchgar i'r Aelodau hynny sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl heddiw. Rwyf am ddechrau drwy ymateb i'r pwyntiau a wnaed ar ran y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad, ac wrth gwrs mae'n wir bod yr adroddiad wedi nodi dau bwynt craffu rhinweddau o dan Reol Sefydlog 21.3, sydd o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol, neu'n codi materion polisi cyhoeddus sy'n debygol o fod o ddiddordeb i'r Senedd. Ac, wrth gwrs, yn ein hymateb, gwnaethom ddatgan ein bod yn fodlon bod y rheoliadau'n gydnaws â hawliau'r confensiwn, a gwnaethom egluro pam yr aethpwyd ar drywydd opsiwn 2 o'r Asesiad Effaith Rheoleiddiol yn hytrach nag opsiwn 1, ac yna aeth y pwyllgor ymlaen i gael ymateb Llywodraeth Cymru, yn dilyn cyngor gan gyfreithiwr y Senedd, a chadarnhaodd eu bod yn fodlon â'r ymateb. Ond fe wnaf fyfyrio rhywfaint ar y pwyntiau a godwyd ar ran y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad, gan Rhys ab Owen a hefyd gan Peter Fox y prynhawn yma.
Bydd y rheoliadau hyn yn rhoi mwy o hyblygrwydd i awdurdodau lleol, a gallant roi mwy o gymorth i gymunedau lleol wrth fynd i'r afael â'r effeithiau negyddol gwirioneddol y gall ail gartrefi ac eiddo ecwiti hirdymor eu cael, a dyma un o'r dulliau sydd ar gael i ni i greu system decach. Ac, fel yr oedd Llyr Gruffydd yn ei ddweud, dyma un offeryn ymysg llawer. Ac, wrth gwrs, mae'n hanfodol ein bod yn defnyddio'r offerynnau sydd ar gael i ni, a chredaf fod Llyr Gruffydd a Mabon ap Gwynfor wedi nodi'n glir pam y mae'n bwysig ein bod yn mynd i'r afael â'r mater hwn.
Un o'r offerynnau eraill a fydd ar gael i ni yw mater y trothwyon ar gyfer llety gwyliau. Fodd bynnag, nid dyna'r hyn yr ydym yn ei drafod y prynhawn yma. Felly, caiff James Evans a Mark Isherwood gyfle i gyfrannu ynghylch y rheoliadau hynny maes o law. Mae ymgynghoriad technegol ar agor ar hyn o bryd ar gyfer ymateb, felly rwy'n siŵr y byddan nhw'n manteisio ar y cyfle i ymateb i'r ymgynghoriad technegol hwnnw, sy'n mynd rhagddo ar hyn o bryd.
Byddwn yn amlwg yn parhau i wneud pob ymdrech i gynyddu cyflenwad a fforddiadwyedd cartrefi, ac rydym wedi dangos yr ymrwymiad hwnnw yn y £1 biliwn o gyllid i adeiladu 20,000 o gartrefi cymdeithasol carbon isel, a gynhwyswyd yn ein cyllideb derfynol, a gymeradwywyd ar 8 Mawrth. Ac rydym hefyd yn cymryd camau pwysig i fynd i'r afael â mater cartrefi gwag, oherwydd rydym yn cydnabod, wrth gwrs, y gall anheddau gwag, ac yn enwedig y rheini sydd wedi bod yn wag am gyfnodau hir, achosi problemau gwirioneddol i gymunedau lleol. Rydym wedi mabwysiadu dull system gyfan, wedi'i ategu gan fuddsoddiad sylweddol, i fynd i'r afael â'r materion hyn. Yn y flwyddyn ariannol hon yn unig, rydym wedi sicrhau bod £11 miliwn ar gael i awdurdodau lleol yr effeithir ar eu cymunedau gan berchenogaeth ail gartrefi a llety gwyliau, fel y gallan nhw brynu ac adnewyddu'r cartrefi gwag hynny ar gyfer tai cymdeithasol. Mae hwnnw'n ymyriad pwysig iawn. A hefyd, rydym wedi cael ceisiadau am gyllid yn ddiweddar gan awdurdodau lleol sir Gaerfyrddin a sir Benfro, yn ceisio cymorth gyda phrynu ac adnewyddu cartrefi gwag, ac mae'r ceisiadau hynny'n dod i gyfanswm o dros £13.5 miliwn.
Wrth gwrs, gall awdurdodau lleol ddefnyddio'r refeniw a godir o bremiymau i fynd i'r afael â materion sy'n effeithio ar y cyflenwad lleol o dai fforddiadwy, gan gynnwys defnyddio tai gwag unwaith eto. Mae nifer o awdurdodau lleol eisoes wedi defnyddio'r premiwm—hyd yma, 11 ohonyn nhw—i fynd i'r afael â materion cartrefi gwag hirdymor neu ail gartrefi neu'r ddau. Mae Gwynedd ac Abertawe wedi gosod y premiwm ar yr uchafswm presennol, sef 100 y cant ar gartrefi, ac roedd hynny o 1 Ebrill 2021. Bydd sir Benfro yn gwneud hynny o 1 Ebrill 2022, ac mae Ynys Môn, Gwynedd, sir Benfro ac Abertawe hefyd wedi gosod premiwm o 100 y cant ar anheddau gwag hirdymor. Felly, mae'n amlwg bod awydd yma ar ran awdurdodau lleol i ymgysylltu â'r offeryn newydd yr ydym yn ei ddarparu iddyn nhw, a byddan nhw'n gwneud hynny ar ôl ymgynghori'n lleol ac ar ôl gwneud y penderfyniad hwnnw o fewn eu cynghorau ar yr adeg sy'n iawn iddyn nhw, a phennu'r lefel ar y pwynt sy'n iawn iddyn nhw, a dyna beth fydd y rheoliadau hyn heddiw yn eu galluogi nhw i'w wneud.
Felly, yn olaf, fel yr amlinellais yn fy natganiad ar ddiwygio'r dreth gyngor ym mis Rhagfyr, ein huchelgais yw bod diwygiadau i'r dreth gyngor wedi'u cynllunio i sicrhau bod cyfraniadau gan aelwydydd yn cael eu gwneud mor deg â phosibl—meiddiaf ddweud, Llywydd, y ffordd sosialaidd—gan hefyd ar yr un pryd, gynnal ei swyddogaeth fel ffrwd refeniw sylweddol, sydd, wrth gwrs, yn helpu i ariannu gwasanaethau cyhoeddus hanfodol ledled Cymru. Wrth gwrs, byddaf yn parhau i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am ddatblygiadau. Diolch.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, felly fe fyddwn ni'n gohirio'r eitem ar gyfer y pleidleisio.
Ac rŷn ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio ac fe fyddwn ni'n cymryd toriad byr nawr cyn inni gynnal y bleidlais yma. Felly, toriad byr.