5. Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Cymraeg yn y gweithlu addysg

– Senedd Cymru am 4:02 pm ar 24 Mai 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Rees David Rees Labour 4:02, 24 Mai 2022

Eitem 5 sy'n nesaf, datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg—gweithlu'r Gymraeg mewn addysg. Galwaf ar y Gweinidog, Jeremy Miles. 

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour

Diolch, Dirprwy Lywydd. Er mwyn gwireddu'n huchelgais i gael miliwn o siaradwyr Cymraeg newydd erbyn 2050, rhaid gwneud newidiadau a chymryd camau sylweddol. Mae'r cwricwlwm newydd yn rhoi'r Gymraeg wrth galon dysgu yng Nghymru, ond os ydym ni am greu cenedl lle mae pobl yn siarad Cymraeg ac yn defnyddio'r iaith o ddydd i ddydd, mae cynyddu nifer y dysgwyr mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg yn hanfodol. Er mwyn gwneud hynny, wrth gwrs, mae angen gweithlu cryf a medrus arnom.

Rwy'n falch iawn, felly, o allu cyhoeddi'r cynllun gweithlu Cymraeg mewn addysg heddiw, sy'n amlinellu'r camau y byddwn ni yn eu cymryd dros y 10 mlynedd nesaf, mewn partneriaeth ag amrywiaeth o sefydliadau a rhanddeiliaid. Mae'r cynllun yn nodi ein camau gweithredu yn erbyn pedwar prif nod: cynyddu nifer yr athrawon sy'n gallu addysgu'r Gymraeg fel pwnc, neu drwy gyfrwng y Gymraeg; cynyddu nifer yr ymarferwyr sy'n gallu gweithio drwy gyfrwng y Gymraeg sy'n cefnogi dysgwyr; datblygu sgiliau Cymraeg ein gweithlu addysg; a sicrhau bod y wybodaeth a'r sgiliau gan ein harweinwyr i gynllunio a datblygu'r Gymraeg yn strategol yn ein hysgolion.

Rŷn ni eisoes wedi gosod sylfeini cryf gyda datblygiadau yn y blynyddoedd diwethaf, sy'n cynnwys: cyflwyno cymhelliant Iaith Athrawon Yfory, sy'n rhoi hyd at £5,000 i fyfyrwyr sy'n hyfforddi i addysgu pynciau uwchradd drwy gyfrwng y Gymraeg, neu'r Gymraeg fel pwnc; cefnogi athrawon cynradd cyfrwng Cymraeg i newid i addysgu yn y sector uwchradd—hyd yma, mae 24 o athrawon wedi bod yn rhan o'r rhaglen beilot ar draws Cymru; ac ehangu amrywiaeth o gyrsiau'r cynllun sabothol iaith Gymraeg. Cam nesaf y daith fydd gwella a sefydlu rhai o'n polisïau allweddol a sicrhau bod pob rhanddeiliad yn gweithio gyda'i gilydd i gyflawni ein hamcanion.

Mae athrawon, arweinwyr a staff cymorth gwych gennym ni yn ein hysgolion. Fodd bynnag, gall recriwtio staff fod yn heriol i ysgolion cyfrwng Cymraeg yn arbennig. Ar hyn o bryd rwy'n adolygu cynlluniau strategol y Gymraeg mewn addysg yr awdurdodau lleol. Bydd y rhain yn ein galluogi i ddeall a chynllunio yn well ar gyfer gofynion y gweithlu, i fodloni'r twf arfaethedig mewn addysg cyfrwng Cymraeg dros y degawd nesaf.

Yn y cyfamser, does dim amser i'w wastraffu. Rŷn ni eisoes wedi cychwyn datblygu'r camau byrdymor a hirdymor er mwyn cynyddu nifer yr athrawon. Rwyf wedi gwahodd ysgolion i geisio am grantiau i greu mwy o gapasiti mewn rhai rhannau o'r gweithlu addysg cyfrwng Cymraeg a dwyieithog yn ystod blwyddyn academaidd 2022-23. Rwy'n gobeithio y bydd ysgolion yn gallu datblygu ffyrdd arloesol o ddatrys rhai o'r heriau o ran recriwtio staff.

Mae ymgyrch i annog mwy o'n pobl ifanc i ddewis y Gymraeg fel pwnc lefel A hefyd ar waith. Mae'r ymgyrch yn rhan allweddol o'r llwybr i sicrhau y bydd gyda ni ddigon o athrawon y Gymraeg fel pwnc yn y dyfodol. Rwyf hefyd wedi gofyn i fy swyddogion ystyried sut gallai taliadau cymell a bwrsariaethau ddenu mwy o bobl i ddewis addysgu mewn lleoliadau cyfrwng Cymraeg fel gyrfa.

Rhaid inni hefyd barhau i geisio datblygu sgiliau Cymraeg ein gweithlu addysg, er mwyn gwella'r addysg Gymraeg yn ein hysgolion cyfrwng Saesneg. Roeddwn yn falch o gyhoeddi ym mis Chwefror y bydd y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn darparu cyrsiau am ddim i ymarferwyr o fis Medi ymlaen. Bydd y cyrsiau hyn, yn ogystal â chyrsiau'r cynllun sabothol a'r dysgu proffesiynol sy'n cael eu darparu gan ein consortia rhanbarthol a'n hawdurdodau lleol, yn darparu amrywiaeth o ddarpariaeth i'n hymarferwyr.

Mae sicrhau bod gyda ni ddigon o arweinwyr ar gyfer y twf yn nifer o'n hysgolion cyfrwng Cymraeg hefyd yn flaenoriaeth, yn ogystal â sicrhau y gall ein harweinwyr gefnogi'n gweledigaeth i bob dysgwr allu defnyddio'r iaith pan fydd yn gadael yr ysgol.

Bydd cyllid ychwanegol yn cael ei fuddsoddi dros y tair blynedd nesaf er mwyn rhoi'r cynllun ar waith. Fel y nodwyd yn y gyllideb ddrafft, mae £1 filiwn arall yn cael ei ddyrannu yn 2022-23, gyda chynnydd dangosol pellach o £500,000 yn 2023-24 a £2 filiwn yn 2024-25. Mae'r cyllid newydd yn ychwanegol at gyllid presennol, sydd yn cynnwys £785,000 ar gyfer Iaith Athrawon Yfory, £6.35 miliwn ar gyfer y cynllun sabothol a chymorth rhanbarthol neu leol ar gyfer dysgu proffesiynol yn Gymraeg, £700,000 ar gyfer y rhaglen drosi, a £145,000 i gefnogi gweithgareddau i gynyddu nifer y dysgwyr sy'n astudio'r Gymraeg fel pwnc. Mae hyn yn dod â'r cyfanswm i bron i £9 miliwn yn 2022-23, sydd yn fuddsoddiad sylweddol.

Rŷn ni wedi trafod yn helaeth â phartneriaid a rhanddeiliaid allweddol er mwyn deall y materion yn llawn, ac i ddatblygu'r atebion sydd eu hangen arnon ni. Hoffwn i ddiolch, Dirprwy Lywydd, i bawb sydd wedi cyfrannu at ddatblygu'r cynllun hwn, yn enwedig y grŵp gorchwyl a gorffen sydd wedi gweithio gyda ni i awgrymu, datblygu a gwella'r camau gweithredu.

Mae llawer iawn o waith i'w wneud. Rŷn ni am barhau i ddenu a chefnogi'r athrawon, y cynorthwywyr a'r arweinwyr gorau ar gyfer ein hysgolion. Mae ymroddiad, brwdfrydedd ac ymrwymiad anhygoel ein partneriaid wedi creu argraff fawr arnaf i, ac rwy'n hyderus y byddwn yn gallu cyflawni'r camau a nodir yn y cynllun er lles cenedlaethau'r dyfodol.

Photo of Samuel Kurtz Samuel Kurtz Conservative 4:08, 24 Mai 2022

Diolch i'r Gweinidog am y datganiad o flaen llaw. Fel y mae'r Gweinidog wedi cydnabod y prynhawn yma, mae strategaeth Cymraeg 2050 yn uchelgeisiol, ond, er mwyn diogelu dyfodol ein hiaith, rhaid inni sicrhau bod ein polisïau yn flaengar a bod ein harweinyddiaeth yn atebol.

Yn y flwyddyn dwi wedi bod yn Aelod, dwi wedi dod i sylweddoli pa mor bwysig yw chwalu'r rhwystrau a sicrhau bod ein hiaith yn un y gall pawb ei rhannu a'i dysgu, sy'n rhannol pam y croesewir y datganiad y prynhawn yma. Ond i fod yn seriws am ddatblygu ein hiaith, bydd rhaid sicrhau bod yr ymdrechion sy'n cael eu gwneud yn ddigonol i gynyddu poblogaeth siaradwyr Cymraeg Cymru, nid cynnal y niferoedd presennol yn unig. Dyna fy mhryder mwyaf gyda'r polisi hwn—na fydd yn cyflawni'r hyn y mae yn bwriadu ei wneud.

Pwrpas y datganiad heddiw yw, fel y dywedodd y Gweinidog, i ddatblygu addysgu Cymraeg drwy bob lefel o addysg, a chefnogi'r addewidion uchelgeisiol a wnaed bum mlynedd yn ôl. Yn wir, yng nghynllun pum mlynedd y Gweinidog ar y pryd, yr Aelod o Flaenau Gwent, ymrwymodd Llywodraeth Cymru i gynyddu nifer yr athrawon ysgolion cynradd sy'n gallu addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg 7 y cant. Byddai hyn wedi gweld nifer yr athrawon yn cynyddu o 2,903 i 3,100. Ond, bum mlynedd ar ôl cyflwyno Cymraeg 2050, rydyn ni wedi mynd yn ôl.

Yn unol â'r flwyddyn academaidd ddiwethaf, roedd 2,871 o athrawon cynradd cyfrwng Cymraeg—diffyg o 7.4 y cant mewn lefelau staffio. Ond nid dyma'r unig duedd; mae lefelau recriwtio athrawon uwchradd wedi cwympo trwy'r llawr. Ym mlwyddyn academaidd 2020-21, roedd 2,395 o'r athrawon uwchradd yn addysgu yn y Gymraeg. Y targed ar gyfer y cyfnod hwn oedd 2,800—14 y cant yn is na'r targed gwreiddiol. Wrth gwrs, bydd targed uchelgeisiol fel yr un yma yn dod â'i heriau ei hun—heriau a nodwyd gyntaf bum mlynedd yn ôl. Pan lansiwyd y strategaeth hon gyntaf, rhybuddiwyd eich Llywodraeth bod ein sector addysg cyfrwng Cymraeg yn wynebu argyfwng recriwtio anodd, sefyllfa a gafodd ei chwyddo gan eich rhaglen uchelgeisiol i dyfu ein poblogaeth Gymraeg. A dyma ni, bum mlynedd yn hwyrach, gyda chynllun i fynd i'r afael â gwella'r sefyllfa. A gymerodd y Llywodraeth ei sylw oddi ar y sefyllfa?

Bum mlynedd yn ôl, rhybuddiodd pwyllgor diwylliant y Senedd fod angen 70 y cant yn fwy o athrawon cyfrwng Cymraeg i gyrraedd y targed o filiwn o siaradwyr. Fe wnaeth y cyn Weinidog, Alun Davies, chwalu'r pryder. A yw'r Gweinidog yn cytuno â'r sylw hwn, ynteu a yw e'n gresynu bod ei Lywodraeth wedi methu â chamu i mewn yn gynt i fynd i'r afael â'r diffygion hyn? Os ydym am fynd o ddifrif ynghylch diogelu'r iaith wych yma, yna mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru fod yn rhagweithiol wrth ei diogelu. Ni allwn barhau i fynd i'r afael â'r pryderon pum mlynedd oed, bum mlynedd ar ôl iddynt gael eu nodi'n gyntaf. Nid yw'r dull hwn o lywodraethu yn gynaliadwy, ac er fy mod yn fwy na chroesawu llawer o'r datganiad heddiw, rwy'n pryderu y gallai'r datganiad heddiw fod yn rhy hwyr.

Mae'n amlwg bod y pum mlynedd diwethaf wedi gweld oedi, ac os na weithredwn yn awr, mae perygl y bydd miliwn o siaradwyr Cymraeg yn llithro allan o'n dwylo, a chyda hynny, mae'r perygl y byddwn yn peryglu dyfodol ein hiaith yn y dyfodol.

Wrth edrych i'r dyfodol, mae'n rhaid inni sicrhau ein bod yn gwrando ar ein sector addysg cyfrwng Gymraeg. Rwyf bob amser wedi dweud nad oes gan neb fonopoli ar syniadau da, ac eto dyma ni'n croesawu datrys problemau 2017. Ond rydych chi wedi gwrando ar ein staff addysg, Weinidog—diolch—a dyma ni nawr, dim ond pum mlynedd yn hwyr.

Rwy'n cymeradwyo'r Llywodraeth Gymraeg am gyflwyno'r datganiad hwn, ond peidiwch ag oedi cyn gweithredu'r newidiadau hyn. Gadewch inni sicrhau bod y genhedlaeth nesaf o siaradwyr Cymraeg yn cael y gefnogaeth sylfaenol honno y mae ei hangen arnynt i ffynnu. Diolch, Dirprwy Lywydd.

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 4:13, 24 Mai 2022

Diolch i Samuel Kurtz am y cwestiwn hwnnw. Fel dywedodd e yn ei gyfraniad, does gan neb fonopoli ar syniadau da. Mae'r ddogfen hon yn ffrwyth gwaith y Llywodraeth, yn gweithio gyda'n rhanddeiliaid a'n partneriaid ar draws amryw o sectorau, ond os oes gennych chi awgrymiadau pellach, cadarnhaol i'w cynnig, wrth gwrs y byddwn ni'n hapus iawn i'w hystyried nhw. Fel rŷch chi'n dweud, mae gan bawb gyfraniad tuag at sicrhau ffyniant y Gymraeg a sicrhau y rhifau rŷn ni eisiau gweld yn ei siarad hi. Felly, mae gyda ni yma ystod o gamau sydd yn ymestyn o ffyrdd o ysbrydoli a denu pobl i ddewis addysgu yn y Gymraeg, neu addysgu'r Gymraeg fel opsiwn o ran gyrfa, camau i esmwytho'r broses o gymhwyso i addysgu yn y Gymraeg, a hefyd cyfres o fesurau i geisio annog pobl i aros yn y proffesiwn, ac i gynnal ac i gadw pobl yn y proffesiwn, sydd mor bwysig hefyd.

O ran atebolrwydd ac o ran cynnydd yn erbyn y strategaeth, yn erbyn y cynllun, bydd yr Aelod yn gweld bod cyfres o dablau yng nghefn y ddogfen sydd yn disgrifio, fesul awdurdod lleol, y galw fydd ganddyn nhw i sicrhau cynnydd yn eu staff o ran gweithlu sydd yn gallu dysgu trwy'r Gymraeg. Mae hynny'n cyd-fynd â'r hyn sy'n digwydd eleni am y tro cyntaf, sef y cynlluniau strategol addysg Cymraeg mewn addysg sydd yn para am ddegawd yn hytrach na chyfnod o dair blynedd, felly mae’r cynllun 10 mlynedd yn cyd-fynd â'r cynlluniau strategol 10 mlynedd, ond nid yw'r bwriad, yn sicr, fod y camau yn cael eu cymryd dros y 10 mlynedd mewn ffordd hamddenol; bydd yr Aelod yn gweld bod dyddiadau penodol wedi’u nodi yn erbyn y camau sydd yn cael eu cynnig fan hyn, a’r bwriad sydd gen i yw edrych ar y tablau a’r data sy'n cael eu cyhoeddi yn erbyn y cynllun bob dwy flynedd a chyhoeddi diweddariad, fel bod cynnydd yn erbyn y cynllun yn glir a’n bod ni'n atebol i’r Senedd am hynny.

Photo of Heledd Fychan Heledd Fychan Plaid Cymru 4:15, 24 Mai 2022

Diolch i’r Gweinidog am y datganiad a'r buddsoddiad hefyd. Rydym yn croesawu’n fawr fod yna gydnabyddiaeth bod angen cynllun 10 mlynedd ar gyfer datblygu gweithlu addysgu yn y Gymraeg. Ond hoffwn ategu nifer o bryderon a fynegwyd gan Samuel Kurtz hefyd, oherwydd, fel y mynegodd o, dengys y data sy’n cyd-fynd â’r cynllun fod y sefyllfa fel y mae yn bryderus tu hwnt, gyda’r targedau a osodwyd ar gyfer 2021 heb eu cyrraedd o ran ysgolion cynradd ac uwchradd. Felly os ydym ni o ddifrif eisiau cyrraedd targedau 'Cymraeg 2050', mae'n rhaid gwneud mwy, a hynny ar fyrder. Fel arall, sut mae gobaith cyrraedd targedau 2031?

A hoffwn ofyn yn gyntaf, felly: pam y methodd y Llywodraeth gyrraedd targedau 2021, a pha wersi a ddysgwyd o hynny sydd wedi dylanwadu ar y cynllun 10 mlynedd? Dwi'n meddwl ein bod ni angen dysgu'r gwersi hynny os ydyn ni i ddeall sut mae'r cynnydd hwnnw yn mynd i gael ei wireddu.

Y pryder sydd gen i, ac amryw o bobl eraill, megis Cymdeithas yr Iaith, yw nad yw’r cynllun yn ddigon uchelgeisiol neu bellgyrhaeddol i sicrhau’r newid sydd ei angen, gyda’r ieithwedd yn eithaf gwan o ran y disgwyliadau sy’n cael eu gosod ar ddarparwyr. Tra bod y cynllun yn cydnabod bod her yn y sector uwchradd, mae’n fy mhryderu i ei fod yn rhoi’r argraff nad oes problem mewn gwirionedd yn y sector cynradd, ac mae hyn er gwaethaf y ffaith bod y Llywodraeth yn dangos bod angen hyfforddi 273 o athrawon cynradd newydd bob blwyddyn, ac oddeutu 300 o athrawon uwchradd. Gyda dim ond tua 250 y flwyddyn yn hyfforddi i fod yn athrawon cynradd ac uwchradd ar hyn o bryd, sut ydym ni'n mynd i sicrhau ein bod yn mwy na dyblu’r nifer sydd eu hangen?

Ac mi oeddech chi'n sôn rŵan yn eich ymateb i Samuel Kurtz y byddwch chi'n monitro pa mor effeithiol yw'r cynllun hwn bob dwy flynedd. Ond, os nad yw’r cynnydd yn digwydd fel sydd ei angen, ydych chi’n ymrwymo i addasu’r cynllun i fod yn fwy radical a phellgyrhaeddol os bydd y niferoedd ddim yn cynyddu? Mi fydd hi'n rhy hwyr i wyrdroi hyn os ydym yn parhau i fethu targedau.

A beth ydy'r goblygiadau o ran awdurdodau lleol sydd ddim yn cyrraedd eu targedau? Rydym ni'n aml yn gweld, efo'r cynlluniau dros y blynyddoedd diwethaf yma, targed ar ôl targed yn cael eu methu. Sut byddwch chi'n sicrhau nad yw hynny'n digwydd, fel bod pob awdurdod lleol yng Nghymru yn cyrraedd y targed fel y dylen nhw, a'n bod ni'n deall wedyn pam nad ydyn nhw, a'n bod ni'n gallu ymyrryd fel sydd ei angen?

Y pwynt olaf yr hoffwn ei godi ydy’r hyn wnaeth UCAC ei godi heddiw mewn ymateb i gyhoeddi’r cynllun, a hynny o ran a yw'r proffesiwn bellach yn denu. Fel gwnes i godi gyda chi wythnos diwethaf, gwyddom fod problem o ran cynnal a chadw athrawon a’u bod dan bwysau aruthrol o ran pwysau iechyd meddwl, biwrocratiaeth, pwysau cyllid, a’r newidiadau mawr sy’n dod i’r system addysg, er enghraifft efo diwygio, anghenion dysgu ychwanegol a’r cwricwlwm newydd, ac mae hyn yn effeithio ar nifer yr athrawon sy’n cael eu recriwtio a’r nifer sy’n aros yn y gweithlu. Gwyddom hefyd nad yw pob awdurdod lleol yn gydradd o ran sut maen nhw’n buddsoddi mewn addysg Gymraeg, a ddim yn deall—neu ddim eisiau deall—eu rôl o ran creu'r galw, nid dim ond darparu yn ôl y galw. Gwn am athrawon sydd yn gallu’r Gymraeg sydd wedi gadael dysgu mewn ysgolion Cymraeg i fynd i ddysgu mewn ysgolion newydd Saesneg gan fod y cyfleusterau i fyfyrwyr a staff yn well, yn hytrach na cheisio dysgu mewn adeilad anaddas sy'n cwympo i ddarnau.

Felly, pa ymchwil sydd wedi ei gomisiynu gan y Llywodraeth i ddeall pam fod addysgwyr sy’n gallu’r Gymraeg yn gadael y proffesiwn neu’n dewis peidio â dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg? Onid yw deall hyn yn allweddol bwysig os ydym eisiau sicrhau mynediad cydradd i ddysgu’r Gymraeg i bob disgybl yng Nghymru?

Fel y dywedoch yn eich datganiad, does dim amser i'w wastraffu ac mae llawer o waith i'w wneud. Rwyf yn falch iawn eich bod yn hyderus y byddwn yn gallu cyflawni’r camau, ond yr her yw os bydd y camau hyn hefyd yn arwain at gyrraedd y targedau. Dyna fydd mesur llwyddiant.

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 4:20, 24 Mai 2022

Wel, ie, dyna'n union fydd mesur llwyddiant. Ac fel y gwnes i wahodd Samuel Kurtz, os oes gan yr Aelod gamau penodol i'w hawgrymu sydd ddim yn y cynllun, byddwn i, wrth gwrs, yn barod i'w clywed nhw.

Mae dau brif bwynt, dwi'n credu, yn y cwestiwn wnaeth yr Aelod ei ofyn. Hynny yw, y peth cyntaf yw rôl awdurdodau lleol a sicrwydd bod cynnydd yn digwydd o ran eu cyfrifoldebau nhw i ddarparu ar gyfer addysg Gymraeg, a'r llall yw'r dadansoddiad o beth sydd wedi digwydd yn y gorffennol sydd wedi golygu dŷn ni ddim wedi gallu cyrraedd y targedau. Rwy'n credu bod y ddau yn gwestiynau cymhleth.

O ran y cyntaf, bwriad cyhoeddi'r data a'r cynlluniau yma, ynghyd â'r cynlluniau strategol, yw bod cydberchnogaeth rhyngom ni a'r sector ehangach a'r awdurdodau lleol o'r cyfrifoldeb penodol i nid jest diwallu'r angen sydd yn bodoli, ond, wrth gwrs, i gynyddu'r galw am addysg Gymraeg hefyd, a bod yn rhagweithiol wrth sicrhau bod y staff ar gael i allu cyrraedd y galw hwnnw sydd wedi cael ei greu a'i ysgogi. Felly, mae'r elfen honno yn elfen newydd; mae'n elfen bwysig, rwy'n credu.

Mae'r cynlluniau strategol yn rhai uchelgeisiol ar y cyfan. Rwyf wrthi yn edrych ar rai elfennau o reini ar hyn o bryd. Ond mae pob awdurdod lleol wedi derbyn yr her rŷn ni wedi'i gosod iddyn nhw o ran cynnydd o ran y nifer sydd yn cael addysg drwy gyfrwng y Gymraeg yn eu hardal nhw, felly mae hynny'n gam ymlaen. Ac mae hynny wrth gwrs yn golygu patrwm o fuddsoddi yn ystâd ac adeiladau ysgol sydd yn caniatáu i hynny ddigwydd—hynny yw, bod cydbwysedd ar draws y portffolio fel bod addysg cyfrwng Cymraeg yn cael yr un sylw ag addysg cyfrwng Saesneg er mwyn sicrhau bod yr her mae'r Aelod yn ei gosod yn cael ei hateb. Mae'n iawn: ddylen ni ddim gweld sefyllfa lle mae diffyg cydbwysedd, os hoffech chi, mewn buddsoddiad yn y ffordd mae hi'n awgrymu sydd yn gallu bodoli o bryd i'w gilydd.

O ran yr heriau sydd wedi digwydd mor belled, rwy'n credu bod mwy i ddysgu o allu ceisio gwneud mwy i ysgogi pobl i edrych ar yrfa dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg yn gynharach. Mae mwy o waith y gallwn ni ei wneud ac sydd yn y cynllun o ran sicrhau bod mynediad at lefel A yn y Gymraeg yn haws. Hynny yw, mae elfennau o ran ariannu hynny'n bosib; mae elfennau o ran darparu hynny pan nad oes niferoedd mawr mewn un ysgol, o ran y gwaith gallwn ni ei wneud gydag e-sgol ac ati. Mae ambell beth efallai sydd yn fwy creadigol oherwydd bod yr her yn amlycach, os hoffech chi. Felly, un o'r pethau byddwch chi wedi'i gweld yn y cynllun yw'r bwriad i weithio gyda'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol i greu cysylltiadau gyda myfyrwyr efallai sydd wedi gadael Cymru sy'n medru'r Gymraeg sydd yn meddwl am ddysgu a'u hannog nhw i ddod yn ôl i ddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg yma yng Nghymru—felly pethau sydd, byddwn i'n awgrymu, yn greadigol ac yn arloesol yn y ffordd honno.

Mae heriau wedi bod, dwi'n credu, o ran y llwybr i gymhwyso. Felly, mae cynigion yn y cynllun o ran ehangu'r ddarpariaeth ran-amser o ran hyfforddi a hyfforddi tra'n gyflogedig, a hefyd edrych eto ar y cymwysterau TGAU sydd eu hangen er mwyn cymhwyso yma yng Nghymru a'u cysoni nhw, os hoffech chi, gyda phob rhan arall o'r Deyrnas Gyfunol. Felly, os ewch chi i unrhyw ysgol, byddwch chi'n clywed penaethiaid yn aml yn dweud, 'Pam fod angen B arnaf mewn mathemateg i ddysgu Ffrangeg neu i ddysgu'r Gymraeg?' Felly, mae trafodaeth a review o hynny yn amserol hefyd.

A'r pwynt diwethaf—a dyma'r pwynt roedd UCAC yn ei wneud, rwy'n credu ichi gyfeirio ato fe, a diolch iddyn nhw ac eraill am eu cyfraniad i'r cynllun hwn, wrth gwrs, hefyd—yw bod y pwysau ar y sector, wrth gwrs, yn ehangach na'r sector addysg Gymraeg, ond efallai bod her ychwanegol, wrth gwrs, yn y cyd-destun hwn. Rŷn ni'n edrych ar amryw o bethau yn y maes hwn. Un yw beth yw rôl bwrsariaethau i allu cynnal pobl yn dysgu drwy'r Gymraeg. Beth yw'r cyfle inni allu denu pobl yn ôl i ddysgu sydd wedi gadael y proffesiwn? Rŷn ni'n edrych ar ffyrdd creadigol o wneud hynny. Dwi wedi gofyn hefyd i'r corff sy'n ein cynghori ni ar delerau, tâl ac amodau'r proffesiwn i edrych ar yr her benodol i addysg cyfrwng Cymraeg mewn rhannau o Gymru i weld a oes achos i adlewyrchu hynny yn y math o gyngor maen nhw'n ei roi i ni o ran telerau a thermau'n fwy cyffredinol. Felly, byddwn ni'n gofyn iddyn nhw roi'r cyngor hwnnw i mi maes o law.

Photo of Vikki Howells Vikki Howells Labour 4:25, 24 Mai 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch am eich datganiad, Gweinidog. Mae'n galonogol iawn eich gweld yn canolbwyntio ar recriwtio athrawon sy'n siarad Cymraeg a datblygu sgiliau Cymraeg y gweithlu addysgu presennol.

Os ydym ni am gyflawni ein nod uchelgeisiol o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, yna mae buddsoddi yn ein gweithlu addysgu yn gwbl hanfodol. Gweinidog, fe wnaethoch chi gyhoeddi cynllun yn ddiweddar i hybu'r broses o recriwtio gweithwyr gofal plant proffesiynol sy'n siarad Cymraeg ar gyfer ein rhwydwaith cynyddol o gylchoedd meithrin. A gaf i ofyn a ydych chi wedi ystyried cynllun tebyg er mwyn denu siaradwyr Cymraeg i'r gwaith allweddol o fod yn gynorthwywyr addysgu ar gyfer ein hysgolion cyfrwng Cymraeg? 

Yn ail, gan droi at fater darpariaeth anghenion dysgu ychwanegol, cyhoeddodd cyngor Rhondda Cynon Taf yn ddiweddar y byddai ei ddosbarth anghenion dysgu ychwanegol ar wahân cyfrwng Cymraeg cyntaf yn agor. Mae hwn yn gam pwysig iawn i sicrhau mynediad cyfartal i addysg cyfrwng Cymraeg, ond deallaf y gall recriwtio athrawon arbenigol anghenion dysgu ychwanegol Cymraeg eu hiaith fod yn her. Pa waith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau y caiff mwy o athrawon sy'n siarad Cymraeg eu hyfforddi mewn darpariaeth anghenion dysgu ychwanegol, neu y caiff mwy o athrawon anghenion dysgu ychwanegol eu hannog i ymgymryd â hyfforddiant iaith Gymraeg i ddod yn hyfedr wrth addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg?

Ac yn olaf, gan droi at y mater o drosglwyddo o ofal plant Cymraeg i leoliad addysg, yn fy etholaeth i yng Nghwm Cynon, rwyf wedi gweld drosof fy hun sut mae gwaith cylch meithrin ffyniannus yn rhannu gwybodaeth allweddol gyda'r ysgol gynradd Gymraeg leol a chynnal digwyddiadau pontio trefnus iawn wedi arwain at gynnydd cyson yn nifer y rhieni sy'n penderfynu cymryd y cam nesaf hwnnw a chofrestru eu plant ar gyfer darpariaeth gynradd cyfrwng Cymraeg. Pa waith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau ehangu'r arferion gorau hyn a bod staff o gylchoedd meithrin ac ysgolion cynradd Cymraeg yn cael eu hannog i gydweithio'n agos er mwyn i fwy o rieni ddewis addysg cyfrwng Cymraeg i'w plant?

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 4:27, 24 Mai 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch i Vikki Howells am y cwestiynau yna. Rwy'n credu bod y berthynas rhwng lleoliadau'r Mudiad Meithrin a'r blynyddoedd cynnar yn arbennig ynghylch defnyddio a recriwtio cynorthwywyr addysgu sy'n gallu darparu eu gwasanaethau a'r gwaith pwysig a wnânt drwy gyfrwng y Gymraeg yn bosibilrwydd cyffrous iawn, mewn gwirionedd. Felly, mae'n faes eithaf cymhleth ac mae'n un lle mae yna ddarpariaeth sector preifat, mae'n amlwg bod yna ddarpariaeth awdurdod lleol ac mae darpariaeth Mudiad Meithrin, pob un yn cyflogi staff. A'r hyn yr wyf i'n gobeithio y gallwn ei gyflawni drwy'r cynllun yw i ni ystyried a oes cyfleoedd i recriwtio gyda'n gilydd, ar ryw fath o gyd-gontract, rhwng gwahanol leoliadau ac ysgolion fel y gall fod yn fwy deniadol, efallai, i bobl ymuno â'r proffesiynau cymorth drwy edrych ar hynny fel math o fenter ar y cyd, os hoffech chi. Mae'n eithaf cymhleth, ond rydym ni wedi bod yn siarad â'n partneriaid ynghylch sut y gallem ni archwilio'r posibilrwydd o wneud hynny. Ac rwy'n credu y bydd hynny'n cefnogi'r sylw yr oedd yn ei wneud yn ei chwestiwn am drosglwyddo o leoliadau meithrin i'r blynyddoedd cynnar ac yna i'r ysgol gynradd yn y ffordd ddi-dor honno.

Rhan bwysig o'r cynllun hwn, fel yr oedd yn nodi yn ei chwestiwn, yw edrych hefyd ar recriwtio cynorthwywyr addysgu. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig edrych ar y sefyllfa recriwtio yn ei chyfanrwydd, oherwydd mae un rhan yn effeithio ar y llall. Ac roeddwn gyda Huw Irranca-Davies mewn ysgol yn ei etholaeth y bore yma yn siarad â'r pennaeth am hyn yn union, ynghylch pa mor bwysig yw canolbwyntio ar recriwtio staff cyfrwng Cymraeg ar draws holl weithlu'r ysgol, os mynnwch chi.

Ac mae yna rai—rwy'n credu—rwy'n gobeithio, awgrymiadau creadigol yn y cynllun y byddwn yn bwrw ymlaen â nhw. Mae un yn ymwneud â darparu profiad gwaith i ddysgwyr ymgymryd â phrofiad gwaith mewn ysgolion fel cynorthwywyr addysgu, a'r llall yw syniad yr ydym ni'n arbrofi gydag ef ar hyn o bryd ynghylch ariannu blwyddyn i ffwrdd i'r rhai sy'n gadael y chweched dosbarth cyn iddyn nhw fynd ymlaen i ba bynnag gam y gallen nhw ei ystyried nesaf i roi cyfle iddyn nhw gael blwyddyn i ffwrdd wedi'i hariannu, os mynnwch chi, rhwng cyfnodau eraill yn eu gyrfaoedd i'w hannog, efallai, i ystyried addysgu, bod yn gynorthwyydd addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg, ac rwy'n credu bod cynnydd sylweddol yn y dysgu proffesiynol sydd ar gael i gynorthwywyr addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg fel y gallant sicrhau bod eu sgiliau iaith yr hyn yr hoffent iddyn nhw fod. Felly, rwy'n credu ein bod yn ceisio meddwl yn ddychmygus am yr amryfal ffyrdd y gellir recriwtio'r rhan bwysig hon o weithlu'r ysgol.

Photo of Huw Irranca-Davies Huw Irranca-Davies Labour

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Weinidog, gobeithio dy fod wedi mwynhau'r ymweliad i Ysgol Llanhari heddiw, a gobeithiaf y gwnaethoch chi fwynhau'r plant yn canu cymaint ag y gwnaethant hwy a'r athrawon fwynhau eich dawnsio yn y maes chwarae. [Chwerthin.] Yn wir, yn ystod yr ymweliad heddiw, cyfarfuoch â dau athro ifanc sy'n dechrau eu gyrfaoedd ym myd addysg. Pa neges sydd gennych chi iddyn nhw, ac i bobl ifanc eraill ledled Cymru, sydd efallai heb feddwl am ddilyn gyrfa ym myd addysgu yn y Gymraeg eto, ar ôl eich cyhoeddiadau gwych heddiw? A hefyd, beth yw eich barn am y ffordd y mae Ysgol Llanhari wedi croesawu a chofleidio'r cwricwlwm newydd hefyd? Diolch.

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 4:30, 24 Mai 2022

Wel, diolch i Huw Irranca-Davies am y cwestiwn ac am roi'r spoiler am raglen Newyddion S4C heno. [Chwerthin.] Dwi'n siŵr y bydd y viewing figures yn mynd trwy'r to yn sgil yr awgrym hwnnw.

Wel, roedd e'n brofiad arbennig i fod yn Ysgol Llanhari y bore yma. Diolch iddyn nhw am eu croeso ac am eu gwahoddiad i fod yno gyda chi hefyd, Huw. Ces i'r cyfle, fel gwnaethoch chi ddweud, i gael sgwrs gyda dau athro oedd wedi cymhwyso yn y blynyddoedd diwethaf ac yn mwynhau eu gyrfaoedd cynnar yn Ysgol Llanhari. Gwnes i ofyn iddyn nhw beth oedd wedi'u hysgogi nhw i ddewis gyrfa fel addysgwyr, a chlywed ganddyn nhw y brwdfrydedd yma, y gallu maen nhw'n ei gael i gael cymaint o impact ar fywydau pobl ifanc ac i sicrhau eu bod nhw'n cael yr addysg orau bosib. Ac i wneud hynny drwy gyfrwng y Gymraeg, sydd yn gyfle mor gyffrous i ychwanegu hefyd at ddealltwriaeth ein pobl ifanc ni, yn aml iawn o gefndiroedd lle nad yw'r Gymraeg yn cael ei siarad ar yr aelwyd, yn amlach na pheidio, ond hefyd agor eu gorwelion nhw i ddiwylliant y Gymraeg hefyd, ac roedd eu clywed nhw'n sôn am hynny yn ysgogiad i fi hefyd. Felly, petaswn i'n cael y sgwrs gydag unrhyw berson arall yng Nghymru, buaswn i'n adleisio beth a glywais i ganddyn nhw y bore yma. Mae e'n ddewis pwysig, un o'r dewisiadau mwyaf pwysig gall unrhyw un ei wneud, dwi'n credu, dewis gyrfa mewn ysgol a dysgu.

A hefyd, roedd e'n brofiad arbennig i weld cymaint o waith roedden nhw wedi'i wneud fel ysgol arloesol, yn arwain y ffordd ar lawer o'r approaches cwricwlwm pwysig hynny. Ac rwy'n gwybod gwnaeth e fwynhau cystal ag y gwnes i, y cyfle i ganu, ac roedd e'n dawnsio yn arbennig iawn hefyd. Felly, os bydd unrhyw un yn edrych ar Newyddion heno, fe gân nhw'r cyfle i weld Huw Irranca-Davies yn dawnsio hefyd. [Chwerthin.]