– Senedd Cymru ar 29 Mehefin 2022.
Eitem 8 sydd nesaf, sef dadl gyntaf y Ceidwadwyr Cymreig y prynhawn yma: diabetes. Galwaf ar Russell George i wneud y cynnig.
Cynnig NDM8041 Darren Millar
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi bod dros 209,015 o bobl yng Nghymru yn byw gyda diabetes a bod gan Gymru'r nifer fwyaf o achosion o ddiabetes yng ngwledydd y DU.
2. Yn mynegi pryder am y cynnydd cyflym yn y diagnosis o ddiabetes dros yr 20 mlynedd diwethaf.
3. Yn cydnabod effaith andwyol barhaus pandemig y coronafeirws ar amseroedd aros, mynediad at wasanaethau, profion diagnostig, atal a gofalu am bobl â diabetes yng Nghymru.
4. Yn cydnabod yr angen am ymrwymiad o'r newydd i wella canlyniadau i bobl sydd â diabetes ac sydd mewn perygl o gael diabetes er mwyn cynnal y Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol ar gyfer Diabetes.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi'r datganiad ansawdd ar gyfer diabetes cyn diwedd mis Gorffennaf ac ymrwymo i ddatblygu cynllun gweithredu newydd ar gyfer diabetes o fewn 12 mis.
Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Hon yw’r gyntaf o ddwy ddadl gan y Ceidwadwyr Cymreig y prynhawn yma, a chredaf y bydd y Gweinidog yn falch nad yw ein hail ddadl ar iechyd hefyd; gwn ei bod wedi cael prynhawn prysur. Rwy'n gwneud y cynnig y prynhawn yma yn enw fy nghyd-Aelod, Darren Millar.
Bom sy'n tician yw diabetes, ac ni chredaf ein bod wedi siarad digon amdano yn y Siambr hon, a dyna pam mai dyma destun ein dadl y prynhawn yma. Mae 8 y cant o oedolion yng Nghymru yn dioddef o’r cyflwr, ac erbyn 2030, mae nifer yr oedolion â diabetes yng Nghymru yn debygol o dyfu ymhellach, o 8 y cant i 11 y cant, yn ôl Diabetes UK Cymru. Cymru hefyd sydd â'r nifer uchaf o achosion o ddiabetes o gymharu ag unrhyw un o wledydd y DU. A dylwn ddweud, oni bai yr eir i'r afael â diabetes, wrth gwrs, gall arwain at gyflyrau difrifol ataliadwy—colli golwg, colli coesau neu freichiau, strôc. Mae'n glefyd difrifol iawn sy'n gwbl ataliadwy gyda'r driniaeth a'r amodau cywir. Ac wrth gwrs, y broblem arall yw bod y cynnydd yn y nifer sy'n dioddef o ddiabetes yng Nghymru yn rhoi straen enfawr ar y GIG. Mae’n straen enfawr ar y GIG ar hyn o bryd: mae diabetes eisoes yn costio oddeutu £500 miliwn y flwyddyn—10 y cant o’r gyllideb flynyddol, ac mae oddeutu 80 y cant o hynny’n cael ei wario ar reoli cymhlethdodau, y gellir atal y rhan fwyaf ohonynt. Felly, mae cost enfawr a chynnydd enfawr yn nifer y bobl a allai fod yn wynebu'r clefyd hwn. Ac fel y dywed pwynt 2 o’n cynnig heddiw:
'Yn mynegi pryder am y cynnydd cyflym yn y diagnosis o ddiabetes dros yr 20 mlynedd diwethaf.'
Felly, ymddengys i mi ei bod yn gwbl resymol cynhyrchu cynllun gweithredu i weld sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu arafu'r duedd hon, nid yn unig er lles iechyd y genedl, wrth gwrs, ond hefyd er mwyn lleddfu'r pwysau ar y GIG a chaniatáu iddo ganolbwyntio ar gyflyrau llai ataliadwy.
Roeddwn yn bryderus wrth ddarllen yr amcangyfrifir—yn ôl Diabetes UK Cymru—fod dros 65,000 o bobl yng Nghymru yn byw gyda diabetes math 2 heb ddiagnosis, ac mae angen cymorth ar y bobl hyn, wrth gwrs, i reoli’r gofal y maent yn ei wynebu ac i atal cyflyrau iechyd pellach rhag digwydd. Wrth gwrs, os na wneir hynny, nid yn unig fod hynny'n wael i'w hiechyd, ond wrth gwrs, wedyn, mae'n rhoi pwysau pellach ar wasanaethau iechyd hefyd. Felly, yr hyn a'm perswadiodd fod angen inni drafod diabetes y prynhawn yma yw pan edrychais ar, 'Wel, beth yw cynllun Llywodraeth Cymru?' Felly, gwneuthum rywfaint o waith ymchwil, darllenais rywfaint o waith ymchwil gan Diabetes UK, ac ymddengys i mi nad oes gan y Llywodraeth gynllun ar gyfer diabetes ar hyn o bryd. Efallai fy mod yn anghywir. Rwy’n edrych i weld a yw'r Gweinidog yn mynd i ddweud wrthyf, 'Oes, mae yna gynllun’, ond o fy ymchwil i, yr unig gynllun y gallwn ddod o hyd iddo, neu’r cynllun diweddaraf y gallwn ddod o hyd iddo, oedd cynllun 2016-20—dyna'r cynllun diweddaraf a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru, ac nid oes unrhyw gynllun arall ar hyn o bryd, ac mae’r cynllun hwnnw, wrth gwrs, yn hen iawn bellach.
Felly, hoffwn glywed cyfraniadau’r Aelodau y prynhawn yma. Hoffwn ddweud y byddwn yn cefnogi gwelliannau Plaid Cymru heddiw; mae pob un ohonynt yn ychwanegu at ein dadl. Rwy'n siomedig, wrth gwrs, fod y Llywodraeth wedi dileu'r rhan fwyaf o'n gwelliant, er y credaf ei fod yn cynnwys safbwynt ffeithiol, nid barn wleidyddol yn unig, ond safbwynt ffeithiol; mae safbwyntiau ffeithiol yn cael eu dileu o'n dadl y prynhawn yma. Ond oni bai—. Weinidog, rwy'n credu o ddifrif fod angen y cynllun hwnnw arnom. Mae cael cynllun ar gyfer diabetes nid yn unig yn dda i iechyd pobl ledled Cymru, ond bydd cael y cynllun diabetes hwnnw hefyd yn helpu i leddfu'r pwysau ar staff a gweithlu ein GIG. Ond mae'n gyflwr mor ddifrifol, ac mae'n ataliadwy. Fel y dywedais, gall pobl golli coesau neu freichiau, colli eu golwg, wynebu risg uwch o strôc—yr holl broblemau hyn sy'n gwbl ataliadwy. Felly, Weinidog, rwy'n gobeithio y byddwch yn cytuno i gyflwyno cynllun y prynhawn yma.
Rwyf wedi dethol y pedwar gwelliant i'r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol. Galwaf ar y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant i gynnig yn ffurfiol y gwelliant a gyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths.
Gwelliant 1—Lesley Griffiths
Dileu popeth ar ôl pwynt 2 a rhoi yn ei le:
Yn cydnabod bod gwaith ar y gweill i adfer gwasanaethau arferol i bobl â diabetes yn dilyn effaith y pandemig.
Yn cydnabod yr ymrwymiad sy'n bodoli o fewn y GIG yng Nghymru i:
a) sicrhau bod pobl yn cael eu cefnogi i wneud dewisiadau iach sy'n lleihau’r tebygolrwydd y byddant yn datblygu diabetes math 2;
b) gwneud cynnydd tuag at gynnig cyfle i'r rhai sydd wedi cael diagnosis o ddiabetes math 2 yn ystod y chwe blynedd diwethaf gael mynediad at wasanaeth lleddfu diabetes; ac
c) sicrhau gofal hygyrch sy'n canolbwyntio ar y claf i bobl â diabetes, yn ogystal â defnyddio technoleg ac addysg i'w helpu i reoli eu cyflwr yn well.
Yn nodi bod gwaith ar y gweill gyda rhanddeiliaid i ddatblygu datganiad ansawdd diabetes i'w gyhoeddi yn yr hydref.
Yn ffurfiol.
Byddaf yn atgoffa'r Aelodau mai tair munud yw'r cyfraniadau ar gyfer y ddadl hon a'r nesaf. Galwaf ar Rhun ap Iorwerth i gynnig gwelliannau 2, 3 a 4, a gyflwynwyd yn enw Siân Gwenllian.
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Dwi'n cynnig y gwelliannau hynny'n ffurfiol. Mae hon yn ddadl bwysig iawn. Mae'n amserol iawn, a dwi'n falch iawn bod y cynnig wedi cael ei gyflwyno gan y Ceidwadwyr. Mi fues i draw i ddigwyddiad ym Mae Caerdydd yn gynharach y mis yma—roedd y Dirprwy Weinidog yn siarad yno—wedi'i drefnu gan Diabetes UK Cymru, wedi'i noddi gan James Evans, lle roedd y sylw'n cael ei roi i ymgyrch i roi cefnogaeth seicolegol i bobl sy'n byw efo diabetes. Ac mi oedd hynny yn agoriad llygad i fi, achos mi oedd o yn rhoi i fi ffordd newydd o feddwl am impact y cyflwr yma. Mae o'n gyflwr sy'n treiddio i bob rhan o fywyd y rheini sy'n byw efo fo, ac o beidio â chael cefnogaeth seicolegol, mae hynny'n gallu arwain at effeithiau hynod negyddol ar lesiant yr unigolyn, sydd, yn ogystal â hynny, wrth gwrs, yn gorfod byw efo'r effeithiau corfforol. A dwi'n gofyn ichi gefnogi gwelliant 4 gan Blaid Cymru heddiw yma, sy'n galw, yn unol ag ymgyrch Diabetes UK Cymru, am y cymorth seicolegol arbenigol hwnnw, a bod hwnnw ar gael i bawb yn ddiofyn.
Gadewch inni atgoffa'n hunain o beth rydyn ni'n sôn amdano fo yn fan hyn heddiw. Mae Cymru sydd â'r gyfradd uchaf o ddiabetes yn y Deyrnas Unedig. Mae'r nifer o bobl sydd yn cael diagnosis o ddiabetes wedi dyblu o fewn 15 mlynedd, ac mae o'n dal i godi—diabetes math 2 ydy 90 y cant ohonyn nhw. Ac fel dywedodd Russell George, mae yna ddegau o filoedd, bosib iawn, sydd ddim wedi cael diagnosis eto.
O ran y gost i'r NHS, mae'n ffigur rydyn ni wedi sôn amdano fo ers blynyddoedd mewn difrif, fod cymaint â 10 y cant o holl gyllideb yr NHS yn mynd ar ddelio efo a chefnogi pobl sydd â diabetes a chynnig triniaeth, yn cynnwys triniaeth i gymhlethdodau difrifol tu hwnt. Felly, o ran y gost bersonol—y human cost, felly—a'r gost ariannol, mae yna ddigonedd o gymhelliad i godi gêr o ran polisi sy'n ymwneud â diabetes. Mi glywoch chi fi'n siarad yn aml am yr angen am chwyldro mewn gofal iechyd ataliol. Yn ôl Diabetes UK Cymru, mi all hanner achosion o diabetes math 2 gael ei osgoi drwy gefnogi pobl efo newidiadau yn eu bywydau nhw yn ymwneud â bwyta'n iach, ymarfer corff a cholli pwysau. Mae hynny'n syfrdanol, dwi'n meddwl, ac mi ddylai fo fod yn gymhelliad i danio'r chwyldro hwnnw o ddifrif. Dwi'n gofyn ichi felly gefnogi gwelliannau 2 a 3 gan Blaid Cymru heddiw, sy'n cyfeirio at y buddsoddiad sydd angen ei wneud mewn mesurau ataliol ac i gyhoeddi cynllun atal diabetes, cynllun yn benodol ar atal diabetes yn seiliedig ar annog gwell diet ac ymarfer corff, ac i gyllido hynny yn iawn. Meddyliwch eto am y ffigur yna: 10 y cant o gyllideb yr NHS yn mynd ar yr ymateb i niferoedd llawer rhy uchel o bobl sydd yn byw efo diabetes, a phrin oes unrhyw beth yn dangos yn well efallai'r fantais o roi polisïau ataliol, beiddgar ac arloesol ar waith.
Yn gynharach y mis yma, mi wnaeth rhaglen atal diabetes Cymru gyfan ddechrau cael ei chyflwyno yng Nghymru. Mae'n gam cyntaf ymlaen, ond dydy o ddim mor gadarn â'r cynlluniau tebyg yn yr Alban ac yn Lloegr, a dydy o ddim wedi cael ei gyllido mor dda, ond ar unrhyw beth mae—
Rhaid i'r Aelod ddod i ben, os gwelwch yn dda.
Dwi'n cloi fy nghyfraniad rŵan. Mae'n rhaid gwneud y sifft yna o wario'n ddrud ar drin pobl achos ein bod ni wedi methu eu trin nhw mewn pryd tuag at wario llai o arian drwy atal y problemau yn y lle cyntaf, a dyma ni enghraifft wych.
Jayne Bryant. Mae eich microffon ar agor, Jayne.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Ni wnes i eich clywed yn galw arnaf.
Fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar ddiabetes, hoffwn ddiolch i Darren Millar am gyflwyno'r ddadl bwysig hon. Fel y clywsom, mae diabetes yn effeithio'n uniongyrchol ar gannoedd o filoedd o bobl yng Nghymru, ac mae'r nifer hwnnw'n cynyddu sawl gwaith pan ystyriwch deuluoedd y rhai sy'n cael diagnosis. Er gwaethaf y nifer enfawr o'r rhai yr effeithir arnynt, mae ymwybyddiaeth, cefnogaeth ac addysg ar y clefyd yn parhau i fod yn ddiffygiol, a chredaf y gellir gwneud llawer mwy.
O ran ymwybyddiaeth, yr allwedd i osgoi'r cymhlethdodau mwy difrifol gyda diabetes yw rheoli'r cyflwr yn dda, a ni ellir cyflawni hyn os nad yw'r unigolyn yn gwybod bod ganddo ddiabetes. Mae diagnosis cynnar ar gyfer diabetes math 1 a math 2 yn gwbl hanfodol ac mae'n ymddangos yn amlwg, ac eto mae un o bob pedwar plentyn yng Nghymru yn cael diagnosis o fath 1 yn hwyrach nag y gallent fod wedi'i gael. Gwyddom y bu gwelliannau yn ein gwasanaeth iechyd, ond fel bob amser, fe ellir gwneud mwy.
Roeddwn yn falch iawn yr wythnos hon o gael e-bost gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn codi ymwybyddiaeth o'r symptomau. Ar gyfer math 1, yn enwedig mewn plant, mae diabetes heb ddiagnosis yn argyfwng meddygol.
Jayne, a wnewch chi dderbyn ymyriad, os gwelwch yn dda?
Gwnaf, wrth gwrs.
Diolch. Rwy'n ddiolchgar ichi am dderbyn yr ymyriad. Rydych wedi sôn am ddiabetes math 1 a math 2, ond un sydd i gyfrif am oddeutu 9 y cant o'r holl achosion yw diabetes math 3c, sef rhywbeth y mae fy nhad yn dioddef ohono, ac mae hwnnw'n mynd heb ddiagnosis yn llawer rhy aml i'r rhai sy'n dioddef o lid y pancreas a chanser y pancreas. Beth arall, yn eich barn chi, y gallwn ei wneud i sicrhau bod pobl yn ymwybodol fod diabetes math 3c yn anhwylder?
Yn sicr, Sam, a chredaf fod hwnnw'n bwynt allweddol. Ac mae mwy na thri math o ddiabetes hefyd. Credaf fod hynny'n rhywbeth y mae angen i lawer o bobl ei ddeall, fod mathau eraill yn bodoli. A gorau po fwyaf y gallwn ei wneud i godi ymwybyddiaeth o'r rheini a'r symptomau.
Felly, gyda math 1, anogir rhieni i gadw llygad am bedwar peth: syched, blinder, colli pwysau a'r angen i fynd i'r toiled yn amlach. Os bydd rhieni'n sylwi ar unrhyw un o'r symptomau allweddol, mae angen iddynt wneud apwyntiad brys i weld meddyg teulu, neu gysylltu â'u gwasanaeth y tu allan i oriau. Ar gyfer math 2, dywed Frances Rees, sy'n arweinydd tîm diabetes gofal sylfaenol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, fod cydnabod symptomau diabetes yn chwarae rhan sylweddol wrth atal cymhlethdodau rhag datblygu. Gorau po gyntaf y cânt eu nodi. Rwy'n falch fod byrddau iechyd yn ceisio cyfleu'r neges hon, ond gellir gwneud mwy bob amser, a gall Llywodraeth Cymru chwarae rhan allweddol yn hyn o beth, oherwydd, i lawer, ceir canfyddiad ffug o hyd mai dim ond os ydych yn oedrannus neu dros bwysau y byddwch mewn perygl o gael diabetes.
Yn ogystal ag ymwybyddiaeth, hoffwn ganolbwyntio hefyd ar sut y gall Cymru wella'r cymorth seicolegol a gynigir i'r rhai sy'n cael diagnosis. O ystyried y beichiau ychwanegol y mae pobl sy'n byw gyda diabetes yn eu hwynebu drwy gydol eu hoes, yr effeithiau negyddol y mae'r beichiau hyn yn eu cael ar iechyd seicolegol a'r cymhlethdodau y gall diabetes eu hychwanegu at faterion seicolegol a gwybyddol, mae'n amlwg y dylai cymorth a thriniaeth seicolegol arbenigol fod ar gael i bawb sydd ei angen.
Yn ddiweddar, cynhyrchodd yr ysbrydoledig Dr Rose Stewart, seicolegydd clinigol ymgynghorol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a hyrwyddwr Diabetes UK, gynllun gweithredu sy'n seiliedig ar werthoedd ar gyfer seicoleg diabetes yng Nghymru o'r enw 'From Missing to Mainstream', a dywedodd nifer o bethau yn y cynllun hwnnw sydd, yn fy marn i, yn berthnasol iawn i'r ddadl heddiw. Mae'r cynllun gweithredu eisiau sicrhau bod seicoleg diabetes yn dod yn fater prif ffrwd, wedi'i wreiddio mewn gofal rheolaidd, yn hygyrch ac yn hyblyg, fel bod pobl sy'n byw gyda diabetes yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi i reoli eu cyflwr, lle bynnag y maent yn byw.
Jayne, mae angen i chi ddirwyn i ben yn awr, os gwelwch yn dda.
Iawn. Diolch. Diolch yn fawr, Lywydd. Rwy'n falch fod Llywodraeth Cymru eisoes wedi ymrwymo i ddarparu'r gofal a'r gefnogaeth orau sy'n bosibl i bawb sy'n byw gyda diabetes yng Nghymru, ond mae angen i'r geiriau arwain at weithredu, a gobeithio y bydd yr adolygiad diweddaraf yn cynnwys mwy o ymrwymiad i ofal seicolegol, gan barhau hefyd â'r gwaith da sydd eisoes yn cael ei wneud ar gynyddu ymwybyddiaeth o'r mater hynod bwysig hwn.
Fe fyddwch yn falch o glywed bod cadeirydd y grŵp trawsbleidiol wedi mynd â munud o fy araith, felly fe fyddwch yn falch o wybod hynny. Rwy'n falch iawn o gael cyfle i siarad yn y ddadl hon heddiw. Mae dros 200,000 o bobl yng Nghymru yn byw gyda diabetes, gyda dros 0.5 miliwn o bobl mewn perygl o ddatblygu diabetes math 2. Ar y ffigurau hynny'n unig, dylem i gyd fod â diddordeb brwd yn y maes iechyd hwn ac yn cyflwyno'r newidiadau y mae angen inni eu gweld er mwyn lleihau beichiau'r GIG yn ehangach.
Cefais y fraint o noddi digwyddiad yn gynharach y mis hwn i Diabetes UK Cymru a oedd yn tynnu sylw at bwysigrwydd sicrhau gwelliannau i bobl â diabetes sydd ag iechyd meddwl a llesiant gwael. Daeth y digwyddiad â gweithwyr meddygol proffesiynol o bob rhan o Gymru ynghyd a rhoddodd gyfle i lunwyr polisi wrando ar yr arbenigwyr hyn a'r hyn y dylem ei wneud i fynd i'r afael â'r pwysau sy'n wynebu ein gwasanaeth iechyd gwladol a helpu ein hetholwyr sy'n cael trafferth gyda diabetes.
Bwriad y digwyddiad oedd lansio'r ymgyrch 'From Missing to Mainstream', i alw am gymorth seicolegol arbenigol i'r rhai sy'n byw gyda diabetes yng Nghymru. Cydnabuwyd yr angen am wasanaethau seicolegol yng nghynllun cyflawni diweddaraf Llywodraeth Cymru ar gyfer diabetes 2016-2020, gydag amcangyfrif fod gan 41 y cant o'r bobl sy'n byw gyda diabetes yng Nghymru lesiant seicolegol gwael oherwydd yr heriau y maent yn eu hwynebu bob dydd wrth fyw gyda diabetes.
Ar hyn o bryd, nid yw GIG Cymru yn gosod targedau mesuradwy i'w hun ar gyfer faint o gymorth seicolegol a ddarperir i'r rhai sy'n dioddef o gyflyrau hirdymor. Mae nifer y gwasanaethau a ddarperir ledled y wlad hefyd yn amrywio'n fawr, ac mae hyn yn rhywbeth y mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru fynd i'r afael ag ef yn gynt yn hytrach nag yn hwyrach. I'r rhai ohonoch a ddaeth i'r digwyddiad, fe fyddwch yn cofio'r cyfraniad ingol gan ddioddefwr diabetes a'r pwysau yr oedd ceisio ei reoli yn ei roi ar ei iechyd meddwl.
Dylem wrando ar Diabetes Cymru, sy'n galw am gyllid ar gyfer arbenigwyr seicolegol i gleifion diabetes. Mae cost gychwynnol gweithwyr proffesiynol arbenigol yn fach iawn a byddai'n cael ei hadennill yn fuan gyda'r arbedion o ymyriadau diabetes brys a chymorth iechyd meddygol brys i bobl mewn argyfwng. Ddirprwy Lywydd, credaf ei bod yn bryd inni roi'r cleifion yn gyntaf a sicrhau ein bod yn buddsoddi'n briodol mewn gofal diabetes yng Nghymru, er mwyn mynd i'r afael â'r effeithiau corfforol ac emosiynol ar bobl sy'n dioddef o ddiabetes. Fel y dywedodd rhywun yn y digwyddiad hwnnw, mae pobl yn marw am nad ydym yn gwneud dim. Felly, hoffwn annog fy nghyd-Aelodau i gefnogi'r cynnig heddiw, ac fel y dywedais, gadewch inni roi'r claf yn gyntaf. Diolch, Ddirprwy Lywydd.
Galwaf ar y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, Lynne Neagle.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddiolch i Darren Millar am gyflwyno'r cynnig hwn i'w drafod heddiw? Mae nifer y bobl yng Nghymru sydd bellach yn byw gyda diabetes, yn enwedig math 2, yn rhywbeth y mae angen i bob un ohonom boeni yn ei gylch. Mae'r cynnydd mewn diabetes yn broblem fyd-eang. Nid oes ond raid inni edrych ar gyfraddau yn yr Unol Daleithiau, er enghraifft, lle mae gan dros 34 miliwn o bobl ddiabetes erbyn hyn gyda nifer yr achosion wedi cyrraedd 17 y cant mewn rhai taleithiau, i weld y sefyllfa y byddwn ynddi yn y dyfodol oni bai ein bod yn gweithredu yn awr. Os ydym am arafu'r cynnydd yn nifer y rhai sy'n byw gyda diabetes, mae'n rhaid i ni ganolbwyntio ar atal.
Nid yw'r cynnig a'r gwelliannau a gyflwynwyd heddiw yn gwneud fawr ddim i gydnabod y gwaith da sy'n digwydd ledled Cymru ar hyn o bryd. Nid yw'r gwelliannau'n adlewyrchu'r gwaith sydd eisoes ar y gweill drwy 'Pwysau Iach, Cymru Iach' a'n model presgripsiynu cymdeithasol i gefnogi mesurau ataliol a ffyrdd iach o fyw a all helpu i atal neu ohirio diabetes math 2.
Mae ein strategaeth 'Pwysau Iach, Cymru Iach' yn ddull trawslywodraethol allweddol o leihau gordewdra ar raddfa poblogaeth. Rydym yn buddsoddi dros £13 miliwn yn ystod 2022-24 i gefnogi dull system gyfan o fynd i'r afael â'r broblem gyda'n gilydd. Mae hyn yn cynnwys gweithredu yn y blynyddoedd cynnar ac i blant a theuluoedd wneud dewisiadau iachach, gan alluogi lleoliadau ac amgylcheddau i fod yn iachach i gefnogi'r newidiadau hyn. Rydym hefyd wedi lansio dau ymgynghoriad yn ddiweddar i archwilio sut i wella'r amgylchedd bwyd a diod yng Nghymru, gan gynnwys hyrwyddo basgedi siopa iachach a chyfyngu ar werthu diodydd egni i blant.
Yn ddiweddar, lansiais raglen atal diabetes Cymru yn swyddogol. Mae'n seiliedig ar ddau gynllun peilot yng nghlystyrau gofal sylfaenol cwm Afan a gogledd Ceredigion, a bydd yn cynnig cymorth ac ymyrraeth wedi'u targedu i bobl sydd mewn perygl o ddatblygu diabetes math 2. Bydd gweithwyr cymorth gofal iechyd hyfforddedig yn helpu unigolion i ddeall lefel eu risg ac yn eu cynorthwyo i'w gostwng drwy newidiadau allweddol i'w deiet a lefel eu gweithgarwch corfforol. Mae hwn yn brosiect cyffrous iawn ac mae pawb ohonom yn gobeithio y bydd yn arafu nifer y bobl sy'n mynd ymlaen i ddatblygu diabetes math 2.
I'r rhai sydd wedi cael diagnosis o ddiabetes math 2 yn ystod y chwe blynedd diwethaf, mae grŵp gweithredu Cymru ar gyfer diabetes yn gweithio ar gyflwyno gwasanaeth lleddfu ar draws pob un o'r saith ardal bwrdd iechyd. Mae diabetes yn gyflwr y mae angen ei hunanreoli i raddau helaeth ac yn rhywbeth y mae'n rhaid i bobl ddysgu byw gydag ef. Felly, rhaid inni wneud popeth yn ein gallu i helpu i gefnogi pobl drwy barhau i fuddsoddi mewn rhaglenni addysgol, yn ogystal â sicrhau bod y dechnoleg ddiweddaraf ar gael i gleifion lle y ceir tystiolaeth glir y bydd hyn yn eu helpu i reoli eu cyflwr.
Cytunaf y dylid darparu'r lefel gywir o gymorth seicolegol i'r rhai sy'n byw gyda diabetes ac fel eraill, bûm mewn digwyddiad Diabetes Cymru UK yn ddiweddar i drafod hyn. Siaradais am y dull gweithredu yn seiliedig ar anghenion a nodwyd gennym yng nghynllun cyflawni Cymru ar gyfer diabetes. Rydym yn disgwyl y bydd pobl yn cael eu cefnogi gan eu teuluoedd, eu ffrindiau a chan bobl eraill sydd â diabetes, ond rydym hefyd eisiau i bobl gael gofal gwych ac empathig gan eu timau clinigol. Rydym yn disgwyl i bob aelod o'r tîm clinigol, boed mewn gofal sylfaenol neu wasanaethau diabetes arbenigol, allu darparu rhywfaint o gymorth seicolegol yn ogystal ag adnoddau a rhaglenni strwythuredig i helpu pobl. Rwy'n angerddol ynglŷn â rôl seicoleg. Cytunaf y dylai'r lefel briodol o gymorth fod ar gael i bobl sy'n byw gyda diabetes, ond hefyd i'r rheini sy'n byw gydag amrywiaeth o gyflyrau cronig eraill a chyflyrau sy'n bygwth bywyd.
Mae strwythurau atgyfeirio a llwybrau eisoes ar waith i sicrhau bod y rhai y mae angen cymorth ychwanegol arnynt yn gallu cael gafael arno pan a lle maent ei angen. Rydym wedi cynnwys yr angen i wella mynediad at therapïau seicolegol yn gyffredinol, a mwy o gyllid yn y maes hwn, fel blaenoriaeth allweddol yng nghynllun cyflawni 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl'. Mae swyddogion yn gweithio gyda rhanddeiliaid ar ddatblygu datganiad ansawdd ar gyfer diabetes. Caiff hwn ei gyhoeddi yn yr hydref. Deallaf fod rhanddeiliaid yn fodlon ar yr amserlen hon.
Rwyf wedi gwneud ymrwymiad clir i ymyrraeth gynnar ac atal ar draws fy mhortffolio, ac er bod llawer mwy i'w wneud, mae'n galonogol gweld y cynnydd a'r arloesedd i wella'r gwaith o atal a rheoli diabetes. Rwy'n benderfynol o weld hynny'n parhau, a gobeithiaf y bydd yr Aelodau'n cydnabod heddiw ein bod o ddifrif ac wedi ymrwymo i gefnogi iechyd corfforol a meddyliol y rhai sy'n byw gyda diabetes yng Nghymru. Diolch.
Galwaf ar Joel James i ymateb i'r ddadl.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl heddiw, a diolch i Jayne, mewn gwirionedd, ein cyd-Aelod, am y gwaith amhrisiadwy y mae'n ei wneud yn y grŵp trawsbleidiol ar ddiabetes. Rydym wedi clywed llawer iawn heddiw am rai o'r agweddau technegol ar ofalu am y rhai sydd â diabetes, y cymhlethdodau iechyd eilaidd y gall diabetes eu hachosi, ac rydym wedi clywed sut y mae diabetes math 2 yn glefyd y gellir ei atal a'i wella drwy gymorth llawer gwell i reoli iechyd ac ymarfer corff. Felly, mae'n bwysig ein bod yn cydnabod bod rhaid inni atgyfnerthu'r angen i bobl gymryd cyfrifoldeb am eu hiechyd a'u ffordd o fyw er mwyn chwarae eu rhan i leihau eu risg o ddatblygu diabetes math 2.
Elfen bwysig yn hyn yw i unigolion fod yn wybodus am y ffactorau risg ar gyfer diabetes, ac yn bwysicaf oll, sut i'w lleihau. Mae'r dull hwn yn galw am ymrwymiad gan bob partner, gan gynnwys llywodraeth leol, ysgolion, diwydiant, cyflogwyr, y trydydd sector, byrddau iechyd, ac yn bwysicaf oll, y cyhoedd. Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i annog y Llywodraeth i'w gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus a busnesau dynnu sylw at arwyddion diabetes a'r pethau y gellir eu gwneud i'w atal. Mae hyn eisoes yn cael ei wneud yn eang ar gyfer canser a gellir ei gyflawni mor hawdd ar gyfer diabetes.
Gan ganolbwyntio ar atal diabetes math 2, rhaid inni fod yn ymwybodol fod llawer o resymau pam fod gan bobl ffyrdd o fyw gwael, a pham eu bod yn gwneud dewisiadau gwael o ran yr hyn y maent yn ei fwyta neu wneud digon o ymarfer corff. Mae hyn yn deillio o amrywiaeth o ffynonellau, heb un achos unigol y gellir ei nodi. Byddwn yn dadlau bod y llwybr sy'n arwain at ddatblygu diabetes math 2 yn debygol o fod yn wahanol iawn ar draws sbectrwm y rhai sy'n dioddef ohono. Er enghraifft, i rai, efallai mai problem iechyd meddwl sydd wedi arwain at beidio â gwneud digon o ymarfer corff; i eraill, efallai mai anaf corfforol sydd wedi arwain at anawsterau wrth geisio gwneud ymarfer corff. Ond yn anffodus, mae tlodi'n achos amlwg arall, ac mae nifer yn dewis bwydydd llawn calorïau a gwerth maethol isel oherwydd eu bod yn rhad.
Rwy'n cydnabod ei bod yn annhebygol y bydd yna ateb hollgynhwysol sy'n atal diabetes math 2, ond credaf fod angen inni fanteisio ar bob cyfle i addysgu pobl am arferion bwyta a chaniatáu iddynt ddatblygu mwy o wybodaeth a dealltwriaeth o agweddau maethol y bwydydd y maent yn eu bwyta. Mae'n destun dadl p'un a ddylai'r diwydiant lletygarwch orfod darparu gwybodaeth faethol ar gyfer pob pryd neu fyrbryd y maent yn eu darparu—
Joel, a wnewch chi dderbyn ymyriad gan Altaf Hussain?
O, mae'n ddrwg gennyf, Altaf, gwnaf, wrth gwrs.
Diolch yn fawr iawn. Mae gennym y Gweinidog iechyd yma hefyd. Byddai'n dda cael y rhyngweithio hwn, mewn gwirionedd. Gweithiais yn galed ar yr agwedd ataliol ar ddiabetes math 2, ac yn y cyfnod hwnnw, pan fo'r meddyg teulu'n gweld y claf a phan gaiff ei gyfeirio at y deietegydd am y tro cyntaf, rydym yn gwastraffu tua dau neu dri mis. A dyna'r adeg, os caiff ei wneud gan y bwrdd iechyd, a gofal sylfaenol, y gallwch atal diabetes yn y cleifion hynny, ac rwyf wedi gweithio arno. Os yw'r Gweinidog yn dymuno, byddwn yn falch o'i drafod ymhellach gyda chi.
Diolch, Altaf, a diolch am yr ymyriad hwnnw ac fel y trafodwyd eisoes, un o'r problemau yw diffyg diagnosis o diabetes math 2 a'r ffaith bod y symptomau'n anghyfarwydd, felly mae'n hanfodol eu cynnwys hefyd.
Felly, mae gennyf ddau bwynt olaf yr hoffwn eu gwneud. Y cyntaf yw bod diabetes, math 1 a math 2, yn effeithio ar fwy na'r unigolyn yn unig; mae'n effeithio ar y teuluoedd a'r ffrindiau sy'n byw gyda'r rhai sy'n dioddef o ddiabetes ac yn eu cefnogi. Oherwydd nid yn unig y mae'n rhaid iddynt wylio eu hanwyliaid yn ymdrechu i reoli'r cyflwr, mae'n rhaid iddynt fyw gyda'r canlyniadau hefyd, ac mae llawer o agweddau cudd ar ddiabetes, fel y clywsom, nad ydynt yn aml, os o gwbl, yn dod i'r wyneb, er enghraifft, pryder parhaus lefel siwgr gwaed isel, sy'n arbennig o gyffredin yn ystod y nos neu wrth wneud ymarfer corff, pan fo un camgymeriad fel peidio â bwyta digon, neu wneud gormod o ymarfer corff, neu chwistrellu ychydig yn ormod o inswlin, yn gallu achosi i bobl lithro i goma, yn anffodus.
Ac yn olaf, hoffwn ddefnyddio'r cyfle hwn heddiw i ddiolch yn fawr i bawb sy'n gweithio mewn ysbytai, ysgolion, elusennau ac mewn mannau eraill, ac sy'n rhoi cymaint o amser i helpu ac i gefnogi'r rhai y mae diabetes yn effeithio arnynt. Maent yn achubwyr bywyd go iawn. A chyda hynny mewn cof, hoffwn annog pawb i gefnogi'r cynnig hwn. Diolch.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes.
Gallaf weld bod Lynne â'i llaw i fyny. Iawn.
Gohiriaf y bleidlais ar y cynnig tan y cyfnod pleidleisio.