10. Dadl Plaid Cymru: Ailymuno â'r farchnad sengl

– Senedd Cymru ar 6 Gorffennaf 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Detholwyd y gwelliant canlynol: gwelliant 1 yn enw Lesley Griffiths.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 5:28, 6 Gorffennaf 2022

Eitem 10 yw'r eitem nesaf: dadl Plaid Cymru eto ar ailymuno â'r farchnad sengl. A dwi'n galw ar Luke Fletcher i wneud y cynnig yma. 

Cynnig NDM8048 Siân Gwenllian

Cynnig bod y Senedd:

Yn credu y dylai'r Deyrnas Unedig ailymuno â'r farchnad sengl.

Cynigiwyd y cynnig.

Photo of Luke Fletcher Luke Fletcher Plaid Cymru 5:28, 6 Gorffennaf 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch, Lywydd. Can biliwn o bunnoedd y flwyddyn—dyna faint y mae'r Financial Times yn amcangyfrif bod peidio â bod yn rhan o'r farchnad sengl a'r undeb tollau wedi ei gostio i'r DU. Ar ben hynny, mae £40 biliwn yn llai o refeniw i'r Trysorlys y flwyddyn ac mae'r DU ar ei hôl hi o'i chymharu â gweddill y G7 o ran adfer o'r pandemig. Dyna lle rydym ni arni. Mae peidio â bod yn rhan o'r farchnad sengl yn sicr yn ein gwneud ni yma yng Nghymru yn waeth ein byd. Mae wedi crebachu ein heconomi a chyfyngu ar dwf economaidd, yn ogystal â gwaethygu'r argyfwng costau byw presennol. Bydd peidio â bod yn rhan o'r farchnad sengl yn gwneud adfer o'r pandemig a chael cyflogau i godi'n gynaliadwy yn ystod yr argyfwng costau byw yn llawer iawn anoddach. 

Canfu adroddiad gan y Resolution Foundation ac Ysgol Economeg Llundain fod disgwyl i gynhyrchiant llafur ostwng 1.3 y cant erbyn 2030, am nad yw economi Prydain ar ôl Brexit mor agored ag y bu. Mae hyn yn cyfateb i golli chwarter yr enillion effeithlonrwydd a wnaed dros y degawd diwethaf. Mae wedi niweidio cystadleurwydd allforion y DU yn aruthrol, a gwyddom fod hynny'n effeithio'n arbennig ar ein cymunedau ffermio yma yng Nghymru, gyda disgwyl i allforion y DU i'r UE fod 38 y cant yn is erbyn 2030 nag y byddent pe baem o fewn y farchnad sengl, gyda gostyngiad pellach o 16 y cant o ganlyniad i roi'r gorau i integreiddio pellach â'r UE dros y cyfnod hwnnw. 

Addawodd Boris Johnson i ni ym mis Hydref y byddai Brexit yn helpu i greu economi â chyflogau uchel a chynhyrchiant uchel, ond yn ddiweddar mae wedi annog gweithwyr i beidio â gofyn am godiadau cyflog uwch i atal trogylch rhwng cyflogau a phrisiau rhag gyrru chwyddiant yn uwch. Yn ystod y refferendwm, addawodd hefyd na fyddai gadael yr UE yn golygu gadael y farchnad sengl. Mae hyn ond yn datgelu rhagor o'i gelwyddau niferus. Ar ben hynny, mae Cyngres yr Undebau Llafur wedi rhybuddio bod cytundebau masnach ôl-Brexit yn methu gwarantu hawliau gweithwyr ac amddiffyniadau cyflogeion.

Gwyddom fod yr argyfwng costau byw a'r pandemig wedi taro ein cymunedau mwyaf bregus a thlotaf yma yng Nghymru galetaf, ac mae aros y tu allan i'r farchnad sengl yn gwneud hyn yn waeth. Amcangyfrifir bod costau mewnforio uwch yn costio bron i £500 y flwyddyn i weithwyr Prydain, sy'n ffigur hynod o serth i'r teuluoedd tlawd sydd eisoes yn cael trafferth. 

Adroddodd The Guardian—ac nid wyf yn aml yn dyfynnu The Guardian—yn ddiweddar am y ffordd y mae Brexit yn effeithio ar blant ysgol, gyda nifer cynyddol o ddisgyblion bellach yn methu talu am brydau ysgol yn dilyn cynnydd yng nghostau bwyd a phrinder bwyd. Mae 90 y cant o gwmnïau sy'n darparu prydau ysgol yng Nghymru a Lloegr wedi dweud eu bod yn wynebu prinder bwyd o ganlyniad i broblemau yn y gadwyn gyflenwi, tra bo costau cyfartalog wedi cynyddu 20 y cant ers mis Ebrill 2020.

Mae effaith aros y tu allan i'r farchnad sengl yn wirioneddol amlwg ac yn effeithio ar bobl yn eu bywydau bob dydd, a dyna pam ein bod yn galw am gefnogaeth i'r cynnig hwn heddiw. Nawr, nodais ymateb y Prif Weinidog i Adam Price ddoe yng nghwestiynau'r Prif Weinidog—'meddyliau hudol'. Mae'n rhaid i mi ddweud nad wyf yn rhannu barn y Prif Weinidog. Yn sicr, nid yw'n feddyliau hudol i Wlad yr Iâ, Liechtenstein a Norwy—tair gwlad y tu allan i'r UE sydd oll yn aelodau o'r farchnad sengl. Nid yw ychwaith yn feddyliau hudol i Ogledd Iwerddon, sydd ar hyn o bryd yn rhan o'r DU nad yw'n rhan o'r UE ond eto yn y farchnad sengl, gyda chefnogaeth y rhan fwyaf o'r pleidiau yng Nghynulliad Gogledd Iwerddon.

Pe gwrandewid ar y feirniadaeth ynghylch 'meddyliau hudol' bob tro, byddai llawer o bethau yr ydym yn eu coleddu na fyddent yn bodoli heddiw. Ond dyna a wnawn fel Aelodau etholedig: rydym yn nodi problem, rydym yn meddwl am ateb ac rydym yn adeiladu achos. Dyna yw nod Plaid Cymru heddiw, a dyna y byddwn yn ei wneud. 

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 5:32, 6 Gorffennaf 2022

Rwyf wedi dethol y gwelliant i'r cynnig, a dwi'n galw ar Weinidog yr Economi i gynnig gwelliant 1 yn ffurfiol.

Gwelliant 1—Lesley Griffiths

Dileu popeth a rhoi yn ei le: 

Cynnig bod y Senedd: 

Yn credu y dylai y DU gael yr uchelgais o'r fasnach agosaf bosibl, heb wrthdaro gyda'r UE. 

Cynigiwyd gwelliant 1.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru

(Cyfieithwyd)

Diolch. James Evans.

Photo of James Evans James Evans Conservative

(Cyfieithwyd)

Diolch, Lywydd, ac rwy'n falch o gyfrannu at y ddadl hon y prynhawn yma. Rwy'n siŵr na fydd yn syndod i Aelodau yn y Siambr hon na fydd y rheini ohonom sy'n eistedd ar yr ochr hon yn cefnogi'r cynnig y prynhawn yma. Wrth gwrs, nid wyf yn synnu gweld bod Plaid Cymru wedi achub ar y cyfle i godi ei hobsesiwn gwleidyddol â'r Undeb Ewropeaidd eto. Yn wir, mae'n—[Torri ar draws.] Mae'n drueni mawr na allwch dderbyn ewyllys pobl Cymru.

Gadewch imi atgoffa'r Aelodau ar feinciau Plaid Cymru fod pobl Cymru wedi pleidleisio dros adael yr Undeb Ewropeaidd. Rwy'n gwybod nad ydych yn hoffi'r ffaith honno, ond nid yw hynny'n ei newid. Pleidleisiodd pobl ledled y wlad dros adael, a chyda hynny maent eisiau gweld Cymru'n ffynnu mewn Teyrnas Unedig gref. Diolch i Lywodraeth Geidwadol y DU, Cymru gref mewn Teyrnas Unedig gref yw'r hyn y byddant yn ei gael.

Mae Llywodraeth y DU yn gweithio'n galed i fanteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd a ddaw yn sgil y ffaith ein bod wedi gadael yr Undeb Ewropeaidd. Mae'n cyflwyno'r Bil rhyddid yn sgil Brexit, a fydd yn torri £1 biliwn o fiwrocratiaeth yr UE ac yn rhoi hwb i fusnesau Cymru drwy greu fframwaith rheoleiddio newydd wedi'i deilwra'n arbennig ar gyfer y DU a fydd yn manteisio ar ein rhyddid newydd yn sgil Brexit.

Gadewch inni beidio ag anghofio bod Llywodraeth y DU bellach wedi sefydlu cytundebau masnach rydd gyda dros 70 o wledydd, cytundebau sy'n werth dros £808 biliwn gyda'i gilydd—cytundebau sy'n ei gwneud yn haws i fusnesau Prydain allforio eu nwyddau. Mae'r rhain yn cynnwys cytundebau â Japan, Awstralia a Seland Newydd—cytundebau sy'n ein paratoi ar gyfer Cytundeb Cynhwysfawr a Blaengar Partneriaeth y Môr Tawel, sy'n werth £9 triliwn.

Bu cynnydd hefyd ar greu porthladdoedd rhydd newydd ledled y DU, gan leihau rheoliadau a chefnogi arloesedd. Bydd busnesau sy'n gweithredu o borthladdoedd rhydd yn elwa o ryddhad treth a bydd ganddynt system dollau a chynllunio symlach, a fydd yn eu helpu i dyfu a chreu swyddi. Mae angen inni fwrw ymlaen a manteisio ar y cyfleoedd sy'n gysylltiedig â phorthladdoedd rhydd yma yng Nghymru.

Bydd yr Aelodau'n ymwybodol fod cydweithio rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru i sefydlu porthladd rhydd i Gymru eisoes ar y gweill. Mae angen inni gyflymu'r gwaith hwn er mwyn sicrhau nad ydym ar ein colled o ran buddsoddiad. Pan fydd porthladd rhydd i Gymru wedi'i sefydlu, bydd yn gallu denu busnesau, swyddi a buddsoddiadau newydd, yn ogystal â thyfu economi Cymru.

Yn ogystal â chytundebau masnach rydd a phorthladdoedd rhydd, mae gennym hefyd gytundeb masnach a chydweithredu y DU a'r UE, rhywbeth y dywedodd pobl yn y Siambr hon na fyddem byth yn gallu ei wneud. Mae'n gytundeb masnach heb dariff na chwotâu sy'n cwmpasu meysydd fel—

Photo of Mabon ap Gwynfor Mabon ap Gwynfor Plaid Cymru 5:35, 6 Gorffennaf 2022

(Cyfieithwyd)

A wnaiff yr Aelod dderbyn ymyriad?

Photo of James Evans James Evans Conservative

(Cyfieithwyd)

Rwyf am wneud un pwynt cyn derbyn yr ymyriad. Masnach ddigidol, eiddo deallusol, caffael cyhoeddus, awyrennau, trafnidiaeth ffyrdd, ynni, pysgodfeydd, nawdd cymdeithasol, gorfodi'r gyfraith, cydweithredu barnwrol a mwy. A Mabon, rwy'n derbyn eich ymyriad.

Photo of Mabon ap Gwynfor Mabon ap Gwynfor Plaid Cymru 5:36, 6 Gorffennaf 2022

(Cyfieithwyd)

A ydych yn credu y bydd y cytundeb masnach â Seland Newydd ac Awstralia o fudd i'n cymunedau gwledig a'n ffermwyr?

Photo of James Evans James Evans Conservative

(Cyfieithwyd)

Rwy'n credu bod cyfle gwych i'n busnesau ledled y wlad. Oes, mae yna broblemau y mae angen eu datrys, a dyna mae Llywodraeth Geidwadol y DU yn bwriadu ei wneud. Pe baem yn gwrando ar y cenedlaetholwyr a'r sosialwyr yma, byddem yn dod yn wlad ynysig heb unrhyw bresenoldeb rhyngwladol o gwbl. Mae llawer o waith pwysig eisoes wedi'i wneud i sefydlu cytundeb cydweithio cryf, sy'n seiliedig ar ddarpariaethau i sicrhau chwarae teg a pharch at hawliau sylfaenol.

Ceir cytundeb partneriaeth cryf eisoes ar waith ar gyfer cytundebau masnach rhwng y DU a'r UE, felly nid oes angen ailymuno â'r farchnad sengl. Nid yw ailymuno â'r farchnad sengl yn rhywbeth y mae unrhyw fusnesau rwy'n siarad â hwy yn galw amdano. Mae'n amlwg fod hyd yn oed y Blaid Lafur a Llywodraeth Cymru wedi sylweddoli hyn ac—

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 5:37, 6 Gorffennaf 2022

(Cyfieithwyd)

Bydd yn rhaid i chi ddirwyn i ben yn awr, oherwydd rwyf wedi bod yn hael iawn gyda'r amser yn barod.

Photo of James Evans James Evans Conservative

(Cyfieithwyd)

Nid yw'r Blaid Lafur eisiau ymuno â'r farchnad sengl mwyach hyd yn oed. Felly, dywedaf wrth Aelodau Plaid Cymru heddiw: deffrwch—mae Brexit wedi'i wneud. Pleidleisiodd Cymru dros adael. 

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru

(Cyfieithwyd)

Iawn, rwy'n credu—

Photo of James Evans James Evans Conservative

(Cyfieithwyd)

Rydym bellach wedi gadael yr Undeb Ewropeaidd, yr undeb tollau a'r farchnad sengl, felly derbyniwch y peth—[Anghlywadwy.]

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru

(Cyfieithwyd)

Ie, iawn. Dyna ni. Cefin Campbell.

Photo of Cefin Campbell Cefin Campbell Plaid Cymru

Wel, diolch yn fawr iawn, Llywydd. Wel, dwi am ddechrau drwy wneud un peth yn glir: yn wahanol iawn i fywyd rhithiol James Evans, mae gadael y farchnad sengl wedi bod yn gwbl drychinebus i Gymru ac i holl wledydd y Deyrnas Gyfunol. Mae'r holl addewidion gan y Brexiteers wedi bod yn ddim byd mwy na thwyll, ac mae effaith hynny ar ein cymunedau wedi bod yn ofnadwy o andwyol.

Gadewch inni ystyried beth yw realiti gadael y farchnad sengl: mynydd o fiwrocratiaeth i'n busnesau er mwyn allforio nwyddau, cost gynyddol mewnforion, problemau gyda thaliadau treth ar werth, gwerth y bunt yn cael ei ddibrisio, ein ffermwyr yn wynebu gwiriadau ar y ffin ag Ewrop—border checks—wrth iddyn nhw werthu eu cynnyrch, tra bod bwyd sy’n dod mewn i’r gwledydd hyn yn dod mewn yn gwbl ddi-lyffethair.

A nawr ein bod ni wedi gadael y polisi amaeth cyffredinol, mae'r Torïaid yn San Steffan wedi torri £137 miliwn eleni a £106 miliwn y flwyddyn nesaf oddi ar gyllideb amaeth yng Nghymru. Felly, dyna yw benefit mawr Brexit i'n ffermwyr ni. Ac eto roedd Brexit i fod i olygu cyfleoedd newydd a chyffrous i’r sectorau amaeth a physgota. Yn anffodus, y gwrthwyneb sy'n wir. Roedd y cyfan yn rhethreg a seiliwyd ar anonestrwydd.

Photo of Cefin Campbell Cefin Campbell Plaid Cymru 5:39, 6 Gorffennaf 2022

(Cyfieithwyd)

Fel y clywsom eisoes, ond mae'n werth ei grybwyll eto, gan fod ein sectorau gweithgynhyrchu a busnesau bach yn wynebu heriau biwrocrataidd diddiwedd, nid yw'n syndod fod disgwyl i allforion busnes gan gwmnïau bach i'r UE fod 38 y cant yn is erbyn 2030. Y flwyddyn nesaf, mae'r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd yn cyfrifo mai'r DU fydd yn cofnodi'r twf lleiaf yn y G20, ac eithrio Rwsia. Mae'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol yn dweud y bydd Brexit yn lleihau cynnyrch domestig gros y DU 4 y cant dros y blynyddoedd nesaf; mae hyn yn cyfateb i tua £100 biliwn mewn allbynnau a gollwyd, a £40 biliwn yn llai o refeniw i'r Trysorlys. Dywedodd y Ganolfan Diwygio Ewropeaidd fod economi'r DU, erbyn diwedd y llynedd, 5 y cant neu £31 biliwn yn llai oherwydd Brexit. Nawr, yn gynharach, clywais Mark Isherwood yn ymdrechu'n daer i restru manteision gadael, ond dyma'r realiti, wedi'i adrodd gan felinau trafod uchel eu parch nid sefydliadau Mickey Mouse. Addawodd cefnogwyr Brexit na fyddai unrhyw anfantais i adael yr UE a'r farchnad sengl, dim ond manteision gwych. Fe wnaethant ddweud celwydd wrthym; fe wnaethant dwyllo cymaint o bobl mewn cyn lleied o amser.

Photo of Cefin Campbell Cefin Campbell Plaid Cymru 5:40, 6 Gorffennaf 2022

Wrth i ni edrych o'n cwmpas, beth rŷn ni'n ei gweld yw argyfwng costau byw—

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru

Ydych chi'n cymryd ymyriad oddi wrth Joyce Watson, Cefin Campbell?

Photo of Joyce Watson Joyce Watson Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch, Cefin. Er y byddwn wrth fy modd yn ailymuno â'r farchnad sengl—byddwn yn ei wneud yfory nesaf, byddwn yn ailymuno â'r Undeb Ewropeaidd yfory nesaf ac rwy'n siŵr y byddai pobl eraill yn gwneud yr un peth—ac rwy'n cytuno â phopeth rydych wedi'i ddweud, ond onid ydych yn derbyn, ar hyn o bryd, na allwn ailymuno â'r farchnad sengl yn awtomatig? Yr hyn y mae angen inni ei wneud mewn gwirionedd yw sicrhau gwell amodau i'r bobl yn y sefyllfa rydym ynddi ar hyn o bryd a gwella hynny yn y lle cyntaf.

Photo of Cefin Campbell Cefin Campbell Plaid Cymru 5:41, 6 Gorffennaf 2022

(Cyfieithwyd)

Wel, Joyce, mae Brexit wedi bod yn ffactor niweidiol iawn. Ni allwn ganiatáu i hyn ddigwydd; rhaid inni osod nod i ni'n hunain i wneud pethau'n well, a'n huchelgais yw ailymuno â'r Undeb Ewropeaidd ac yn sicr y farchnad sengl, ac fel rydym eisoes wedi'i glywed gan Luke Fletcher, mae gwledydd eraill yn gwneud hyn ac mae'n gwbl bosibl i ni ei wneud hefyd. Felly, gadewch inni beidio â gostwng y bar, gadewch inni fod yn uchelgeisiol a throi ein golygon at ailymuno.

Felly, os caf fi orffen, Lywydd.

Photo of Cefin Campbell Cefin Campbell Plaid Cymru 5:42, 6 Gorffennaf 2022

Fyddaf i ddim yn hir iawn. Beth rŷn ni'n ei gweld o'n cwmpas ni nawr yw argyfwng costau byw, cost tanwydd a bwyd yn cynyddu, chwyddiant ar ei uchaf ers 40 mlynedd, a rhai sectorau yn methu â recriwtio gweithwyr—ac mae yna nifer ohonyn nhw fan hyn; af i ddim ar eu hôl nhw. 

Felly, yn ôl Plaid Cymru, ailymuno â’r farchnad sengl yw’r unig ffordd synhwyrol o ymateb i’r problemau dybryd hyn sydd wedi cael eu hachosi gan Brexit. Ie, roedd 2016 yn weithred o hunan-niweidio difrifol, ond mae modd negodi ffordd o ailymuno, ac mae'n rhaid gwneud hynny ar frys er lles ein cymunedau ni yma yng Nghymru ac ar draws y Deyrnas Gyfunol.

Photo of Tom Giffard Tom Giffard Conservative

(Cyfieithwyd)

Wel, lle ar y ddaear y mae dechrau gyda hwn? Gadewch inni beidio â chamgymryd o gwbl beth yw diben dadl Plaid Cymru heddiw: nid oes ganddi ddim i'w wneud â'n cadw yn y farchnad sengl; mae ganddi bopeth i'w wneud â Phlaid Cymru yn ceisio ein cadw yn yr Undeb Ewropeaidd yn erbyn ein hewyllys. Mae wedi bod yn chwe blynedd, ond ni all Plaid Cymru, fel y'i gelwir, dderbyn bod pobl Cymru wedi pleidleisio dros adael yr Undeb Ewropeaidd. Pe baent yn trafferthu gwrando ar bobl Cymru, byddent yn gweld nid yn unig fod arolwg barn wedi darganfod mai Cymru yw'r wlad fwyaf unoliaethol yn y DU, byddent hefyd yn darganfod bod 52.5 y cant o bobl yng Nghymru wedi pleidleisio dros adael yr Undeb Ewropeaidd, sy'n uwch na chyfartaledd y DU. Nid yw Plaid Cymru yn hoffi gwrando ar yr hyn sydd gan bobl Cymru i'w ddweud; maent yn hoffi siarad atynt. Ac efallai ei fod yn egluro pam fod Cymru'n gwrthod Plaid Cymru dro ar ôl tro yn y blwch pleidleisio, ac os nad ydych yn fy nghredu mai dyma yw hanfod hyn, gadewch inni edrych ar yr hyn sydd gan Blaid Cymru eu hunain i'w ddweud. Cafodd arweinydd Plaid Cymru yn 2018 ei ddyfynnu'n dweud, 'Rhaid atal Brexit.' Roedd eu maniffesto Ewropeaidd yn 2019 yn dweud:

'Dyna pam ein bod yn apelio am gefnogaeth o bob rhan o'r sbectrwm gwleidyddol: i sicrhau Pleidlais y Bobl, i sicrhau bod Cymru'n cyfrif, ac yn y pen draw i gadw Cymru'n aelod o'r UE.'

Onid yw'n eironig, Lywydd, eu bod eisiau i bobl Cymru bleidleisio eto ar fater sydd wedi cael ei gefnogi'n gyson gan y cyhoedd yng Nghymru ond eu bod yn ofni'r syniad o roi llais i bobl Cymru ar fwy o wleidyddion yn y lle hwn? Serch hynny, rwy'n rhoi clod i Blaid Cymru am fod yn gyson, o leiaf, yn eu hanwybodaeth ynglŷn â barn pobl Cymru.

Mae'r Blaid Lafur, fel arfer, dros bob man: tair wythnos fer yn unig yn ôl, soniodd y Prif Weinidog am rinweddau'r farchnad sengl, yna, ddoe yng nghwestiynau'r Prif Weinidog, ceisiodd ei orau glas i amddiffyn safbwynt arweinydd ei blaid yn San Steffan drwy ddiystyru aelodaeth o'r farchnad sengl fel un afrealistig, ac fe gafodd polisi Brexit newydd Keir Starmer, beth bynnag ydoedd, ei ddiystyru gan Alun Davies, lle bynnag y mae, fel polisi nad oes ganddo hygrededd o gwbl. Pwy a ŵyr beth yw barn y Blaid Lafur am Brexit? Dyn a ŵyr. Dyna pam ein bod ni fel Ceidwadwyr Cymreig, fel arfer—gwir blaid Cymru—yn sefyll ac yn amddiffyn buddiannau pobl Cymru, yn rhoi ein ffydd yn y ffaith mai hwy sy'n gwybod orau. Ni hefyd yw'r blaid sy'n amddiffyn eu pleidlais a'u llais yn erbyn y grymoedd sy'n ceisio ei hanwybyddu. Nid yw pobl Cymru eisiau ailymuno â'r farchnad sengl, nid ydynt eisiau ailymuno â'r Undeb Ewropeaidd, yr hyn y maent ei eisiau yw dosbarth gwleidyddol sy'n gwrando ar yr hyn sydd ganddynt i'w ddweud, yn hytrach na'u trin fel pe na baent yn gwybod am beth y maent yn sôn. Felly, dyna pam rwy'n annog pob Aelod i ddangos parch priodol at y bobl yr ydym yn eu gwasanaethu ac yn eu cynrychioli a gwrthod y cynnig hwn heddiw.

Photo of Jane Dodds Jane Dodds Liberal Democrat 5:45, 6 Gorffennaf 2022

(Cyfieithwyd)

Wel, mae gennyf newyddion i chi, mae'r Democratiaid Rhyddfrydol o blaid ailymuno â'r farchnad sengl a'r undeb tollau, ac ailymuno â'r Undeb Ewropeaidd, rywbryd yn y dyfodol. Rhaid imi ddweud, wrth gwrs, ei bod braidd yn siomedig fod cefnogaeth Llafur i'r farchnad sengl wedi'i hanghofio i bob golwg, ac rwyf wedi fy nrysu'n fawr gan eu sefyllfa bresennol oherwydd mae'n ymddangos fel pe bai'n newid yn eithaf sylweddol. Ond hoffwn ddweud ychydig o bethau y gobeithiaf y bydd pobl yn gwrando arnynt gyda pharch, oherwydd mae'n effeithio ar y bobl yma yng Nghymru.

Mae pwysau deublyg Brexit a'r pandemig wedi creu'r storm berffaith i'r bobl sy'n ei chael hi'n anodd iawn gyda chostau byw. Mae prisiau wedi bod yn codi ers inni adael y farchnad sengl, ac mae'n anochel y bydd hyn yn parhau oherwydd y rhwystrau i fasnachu gyda'n partneriaid Ewropeaidd. Roedd Cymru'n ddibynnol am lawer iawn o'i masnach ar yr Undeb Ewropeaidd, ac mae ein hallgáu o'r farchnad sengl wedi arwain at effaith lawer mwy sylweddol nag mewn rhannau o Loegr. Rwyf wedi clywed gan fusnesau bach, gan gynnwys Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru, sy'n cael trafferth mawr gyda'r fiwrocratiaeth—[Torri ar draws.]

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 5:47, 6 Gorffennaf 2022

(Cyfieithwyd)

Credaf fod y mân siarad o feinciau cefn y Blaid Lafur yn—. Nid wyf yn pwyntio unrhyw fysedd, yn wahanol i chi, Hefin David. [Chwerthin.] Os gallwn gael ychydig o dawelwch i wrando ar Jane Dodds.

Photo of Jane Dodds Jane Dodds Liberal Democrat

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn, Lywydd. Rwyf wedi clywed gan fusnesau bach, gan gynnwys Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru, sy'n ei chael yn anodd iawn gyda'r fiwrocratiaeth, y baich ariannol ychwanegol a achosir gan gytundeb y Ceidwadwyr. Yn y pen draw, cyfrifoldeb y Llywodraeth yw sicrhau bod ei dinasyddion yn cael gofal da, ac ni allwn fynd i'r afael yn iawn â'r argyfwng costau byw heb ailymuno â'r farchnad sengl. Ac fel y clywsoch, mae angen inni ystyried yr effaith ar y sector amaethyddol. Mae ffermwyr wedi profi cryn dipyn o ansicrwydd ers—

Photo of Rhianon Passmore Rhianon Passmore Labour

(Cyfieithwyd)

A wnewch chi dderbyn ymyriad?

Photo of Jane Dodds Jane Dodds Liberal Democrat

(Cyfieithwyd)

Wrth gwrs y gwnaf.

Photo of Rhianon Passmore Rhianon Passmore Labour 5:48, 6 Gorffennaf 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch. Er fy mod yn deall yn llwyr ac yn cydnabod y cyd-destun yr ydych wedi'i nodi, a wnewch chi esbonio sut y byddech yn ymdrin â'r ffaith bod y refferendwm, ei hoffi neu beidio, wedi'i gynnal?

Photo of Jane Dodds Jane Dodds Liberal Democrat

(Cyfieithwyd)

Ie, diolch ichi am hynny. Rydym wedi ailadrodd y dadleuon hyn droeon. Ac rydych yn iawn i ddweud bod mwyafrif bach iawn o bobl yng Nghymru wedi pleidleisio dros adael yr UE, ond yr hyn y maent wedi'i weld yw llu o gelwyddau ynghylch yr hyn y credent y byddent yn ei gael ac felly, mae'n rhaid inni feddwl yn wahanol. Fe ddof i ben mewn munud, os caniatewch imi symud ymlaen.

Roeddwn yn sôn am ffermwyr. Mae'n bwysig iawn ein bod yn cydnabod yr effaith ar ein busnesau ffermio. Ac fel rhywun sy'n cynrychioli ardal wledig sylweddol, rwyf wedi clywed droeon gan ffermwyr am yr effaith y mae gadael yr UE wedi'i chael arnynt. 

Cyn imi ddirwyn i ben, yn anffodus ni fyddaf yn pleidleisio dros welliant Llywodraeth Cymru, oherwydd rwyf wedi fy siomi gan ddiffyg dewrder Llafur ar y mater hwn ac fel y dywedais, rwy'n teimlo'n ddryslyd iawn. Felly, fy mhle i Aelodau Llafur, a allai fod yn teimlo'n ddryslyd hefyd, os ydynt yn sylweddoli bod aelodaeth o'r farchnad sengl yn allweddol i adferiad Cymru o'r pandemig ac i dwf yn y dyfodol, yw pleidleisiwch dros y cynnig hwn heb ei ddiwygio. Diolch yn fawr iawn.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 5:49, 6 Gorffennaf 2022

Gweinidog yr Economi nawr i gyfrannu, Vaughan Gething.

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch, Lywydd. Hoffwn ddechrau drwy gydnabod, er gwaethaf y cyfraniadau a wnaed, fod meysydd cytundeb sylweddol rhyngom ni, Plaid Cymru a Democratiaid Rhyddfrydol Cymru. Credwn y gallai ac y dylai partneriaeth gadarnhaol gyda'r UE, yn seiliedig ar gyd-ymddiriedaeth a gwerthoedd a rennir, leihau rhwystrau masnach, datgloi buddsoddiadau a helpu i ddiogelu swyddi. Mae'r nodau cyffredin hyn yn seiliedig ar yr hyn sydd, yn ein barn ni, yn gwasanaethu buddiannau economi Cymru orau. 

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 5:50, 6 Gorffennaf 2022

(Cyfieithwyd)

Felly, pan fo'r Ysgrifennydd Tramor yn dweud wrthym ei bod, fel gwladgarwr, yn amddiffyn Bil Gogledd Iwerddon, gyda'r ensyniad amlwg sydd i hynny, gallwn weld, unwaith eto, pa mor isel y mae'r hyn sy'n weddill o Lywodraeth y DU yn fodlon suddo. Nawr, er ein bod yn anghytuno ar gynnig sy'n ennyn barn gref, a minnau gymaint ag unrhyw un arall, byddwn yn gobeithio y byddai pob Aelod yma'n cydnabod pa mor beryglus yw hi i Weinidogion y DU awgrymu bod cefnogaeth i Fil Protocol Gogledd Iwerddon yn brawf o wladgarwch unrhyw un. Ni ddylid normaleiddio'r iaith ymrannol hon yn y Llywodraeth, ac rwyf wedi egluro'n uniongyrchol i Lywodraeth y DU fod y cywair hwn yn broblem wirioneddol y mae'n rhaid mynd i'r afael ag ef ar frys.

Lywydd, rydym wedi ceisio trafod amcanion a rennir gydag ymagwedd bragmatig ers refferendwm 2016. Dyna pam y gwnaethom gyhoeddi Papur Gwyn ar y cyd â Phlaid Cymru yn 2017, pan oeddem yn dal i fod yn aelod o'r Undeb Ewropeaidd, yn nodi opsiynau ymarferol ar gyfer cynllun ar gyfer Brexit ar ôl y refferendwm. Roedd hynny'n cynnwys safbwyntiau cyfaddawdol a oedd yn ymarferol ac yn gredadwy ac yn wir, symudodd Theresa May yn agosach byth at ein safbwynt ni dros amser. Ond Lywydd, ni allwn gefnogi cynnig Plaid Cymru, oherwydd nid yw'n bodloni'r meini prawf hynny sy'n galw am fod yn ymarferol ac yn gredadwy, o gofio'r cyd-destun sy'n ein hwynebu heddiw. Nid yw'r cynnig yn darparu ateb ymarferol: ni fyddai bod yn aelod o'r farchnad sengl heb fanteision yr undeb tollau, y soniodd Luke Fletcher amdano yn ei frawddeg agoriadol, yn sicrhau'r amodau masnachu yr ydym wedi'u mwynhau o'r blaen. Mae'r cynnig hefyd yn codi mwy o gwestiynau nag y mae'n eu hateb. Nid yw'n awgrymu sut y byddai'r opsiwn hwn yn cael ei ddatblygu ar ôl sicrhau cytundeb nac a fyddai'r UE, a bod yn onest, yn ystyried cynnig o'r fath. Lywydd, ni allwn gymeradwyo safbwynt sydd mor benodol ar un elfen o'r berthynas tra'n cadw'n dawel ar y cwestiynau ehangach, sydd â goblygiadau mawr i'n hallforwyr yn enwedig.

Ein nod yw sicrhau'r fasnach agosaf a mwyaf esmwyth bosibl gyda'r UE. I gefnogi'r safbwynt hwnnw, mae gweithredoedd Llywodraeth Cymru yn adlewyrchu anghenion uniongyrchol busnesau sy'n allforio o bob rhan o Gymru, yn ogystal â phartneriaid fel ein prifysgolion, sydd wedi'u siomi gan fethiant Llywodraeth y DU i sicrhau mynediad at raglen Horizon. Ein blaenoriaeth yw hyrwyddo camau adeiladol a gynlluniwyd i drwsio protocol Gogledd Iwerddon, lleihau rhwystrau masnach diangen a sicrhau mynediad at gyfleoedd buddsoddi a rhaglenni ar y cyd. Rydym wrthi'n annog Llywodraeth y DU i newid trywydd mewn perthynas â'r holl faterion hyn ac atal y peryglon uniongyrchol a achosir i'n heconomi. Credwn y gallai dull partneriaeth gyda'r UE, yn seiliedig ar safonau uchel a pharch at gyfraith ryngwladol, sicrhau cynnydd mawr sydd er budd Cymru. Mae safonau uchel yn bwysig, oherwydd gwyddom nad yw'r peiriant sy'n gyrru economi fodern lwyddiannus yn cael ei bweru gan ras i'r gwaelod a threth ar hawliau gweithwyr.

O ystyried cwymp Llywodraeth y DU sy'n dal i fynd rhagddo, efallai nad yw'n syndod bod y Prif Weinidog yn cyflwyno rheolau newydd sy'n caniatáu i weithwyr asiantaeth dorri streiciau. Cyn bo hir, efallai y bydd yn troi atynt i lenwi swyddi'r Llywodraeth y cefnwyd arni gan nifer cynyddol o bobl sy'n tynnu eu llafur yn ôl, a dylwn ychwanegu, Lywydd, heb fudd pleidlais cyn gweithredu.

Ond Lywydd, o gofio'r gwirioneddau sy'n ein hwynebu, mae'n bwysig fod Llywodraeth Cymru yn bartner yn y gynghrair gynyddol o leisiau sy'n galw ar Lywodraeth y DU i newid trywydd yn ei pherthynas â'r UE. Mae'n bwysig oherwydd, fel y mae llawer ohonom yn cytuno, mae difrod sylweddol yn cael ei wneud i'n heconomi a gallai Llywodraeth y DU atal llawer o hynny. Dyna pam yr eglurais i Weinidog y DU nad ydym yn derbyn eu dadansoddiad o berfformiad masnachu presennol y DU. Mae allforion y DU i'r UE yn parhau i fod yn is na'r lefelau cyn y pandemig wrth gyfrif chwyddiant. Mae twf mewnforion hefyd yn golygu bod diffyg y DU ar gydbwysedd masnach mewn nwyddau hefyd ar ei lefel uchaf erioed yn ystod chwarter cyntaf eleni. Ac mae'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol wedi nodi na fydd yr un o'r cytundebau masnach rydd newydd na'r newidiadau rheoleiddiol a gyhoeddwyd yn ddigon i gael effaith sylweddol ar yr ergyd i allforion y DU. Felly, nid ydym erioed wedi derbyn y rhethreg chwyddedig ynghylch cytundebau masnach rydd newydd, ac rydym yn dal i wrthwynebu'n gadarn unrhyw fygythiadau i ddadreoleiddio.

Mae'r dull partneriaeth yr ydym yn ei argymell yn gwbl wahanol i'r unochroldeb ymosodol sy'n torri rheolau sy'n diffinio safbwynt Llywodraeth bresennol y DU. Mae eu trywydd yn anllythrennog yn economaidd ac yn amddifad o bob moesoldeb. Mae'r cytundeb masnach a chydweithredu yn newid y cyd-destun ar gyfer yr hyn y gellir ei gyflawni o fewn partneriaeth adeiladol gyda'r UE, a'r hyn a allai fod yn gamau nesaf credadwy. Ni allaf ddweud yn onest wrth fusnesau rwy'n cyfarfod â hwy y gall Llywodraeth Cymru eu helpu i oresgyn y problemau y maent yn eu hwynebu drwy fabwysiadu safbwynt nad yw'n gredadwy ac nad yw ar gael i Weinidogion y DU heddiw hyd yn oed. Rydym yn parhau i fod eisiau sicrhau'r fasnach agosaf fwyaf esmwyth sy'n bosibl gyda'r UE a byddwn yn parhau i bwyso'r achos hwnnw. Credwn hefyd y byddai'n llawer haws cyflwyno'r achos hwnnw pe bai gennym Lywodraeth newydd ar ôl pleidlais lle y gallai pob un ohonom fynegi ein barn.

Photo of Rhys ab Owen Rhys ab Owen Plaid Cymru

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr, Lywydd. Rydym wedi clywed rhesymau clir a ffeithiol y prynhawn yma, gan Cefin Campbell, gan Luke Fletcher, gan Jane Dodds, pam y dylem ymuno â'r farchnad sengl. Yn wir, credaf inni glywed rhesymau clir a ffeithiol gan Vaughan Gething, y Gweinidog, ynglŷn â pham y dylem ymuno. Nawr, gwyddom fod Boris Johnson wedi diystyru effaith Brexit ar yr economi mewn iaith anseneddol iawn cyn iddo ddod yn Brif Weinidog. Wel, ni chlywsom iaith o'r fath o'r meinciau gyferbyn heddiw, ond yn sicr fe glywsom James Evans a Tom Giffard yn rhefru fel Boris, oni wnaethom? A James a Tom, rwy'n credu bod angen i chi roi'r gorau i efelychu Boris Johnson oherwydd mae ei ddyddiau wedi'u rhifo.

I ateb—[Torri ar draws.]  

Photo of Rhys ab Owen Rhys ab Owen Plaid Cymru

(Cyfieithwyd)

Na, rydych wedi cael digon o amser. I ateb James a Rhianon: mae hawl gan bobl i newid eu meddyliau, James a Rhianon. Dyna pam ein bod yn cael etholiadau rheolaidd, a bydd y Ceidwadwyr yn gweld, yn yr etholiad cyffredinol nesaf, fod llawer o bobl, yn sicr, wedi newid eu meddyliau. Ddydd Llun—[Torri ar draws.] Rwy'n fodlon derbyn ymyriad gennych chi, Hefin, ie.

Photo of Hefin David Hefin David Labour 5:57, 6 Gorffennaf 2022

(Cyfieithwyd)

Rwy'n gwerthfawrogi'r ymyriad gan fy nghyfaill; mae'n garedig iawn. Mae'n gwybod bod gennyf barch tuag ato, felly rwy'n gofyn y cwestiwn hwn yn ddiffuant. Nid wyf yn deall safbwynt Plaid Cymru o fod eisiau ailymuno â'r farchnad sengl Ewropeaidd, ond gadael marchnad sengl y DU. A wnaiff roi'r rhesymeg dros hynny?

Photo of Rhys ab Owen Rhys ab Owen Plaid Cymru

(Cyfieithwyd)

Gallaf, wrth gwrs. Rydym eisiau bod yn rhan o Undeb Ewropeaidd mwy, yn rhan o genedl gyfartal gyda'r gwledydd Ewropeaidd eraill. Rydym yn blaid ryngwladolaidd; dyna'r ateb, Hefin David. Ac mae ein safbwynt yn glir iawn ac yn gyson yn hyn o beth, tra bo slogan diweddaraf Keir Starmer am wneud i Brexit weithio yn nonsens llwyr. Siaradodd yn erbyn ailymuno â'r undeb tollau ddydd Llun. Dylai Llywodraeth Cymru gytuno bod Brexit yn drychineb, ac y dylai'r slogan ddweud nad yw Brexit yn gweithio. Ac fel y cawsom ein hatgoffa gan Luke Fletcher, y rhai tlotaf yn ein cymunedau sy'n dioddef o'i herwydd. Gyda 62 o flynyddoedd ers ei farwolaeth, Aneurin Bevan a'i mynegodd orau:

'Gwyddom beth sy'n digwydd i bobl sy'n aros yng nghanol y ffordd. Cânt eu taro i lawr.'

A gobeithio y bydd Syr Keir yn gwrando ar y cyngor hwnnw, oherwydd mae'n amhosibl iddo sefyll dros y rhai tlotaf yn ein cymunedau, y tlotaf yng Nghymru, tra bo'n eistedd ar y ffens drwy'r amser. Mae'n siomedig ei bod yn ymddangos bod Llywodraeth Cymru yn eistedd ar y ffens hefyd, ac maent wedi gwanhau'r cynnig i'w wneud yn ddiystyr heddiw—yn gwbl ddiystyr.

Yn y cyfamser, mae Llafur yr Alban wedi dweud mewn gwirionedd eu bod eisiau gweld newid tuag at ailymuno â'r farchnad sengl. Dyna pam ein bod yn galw ar bawb yma heddiw i gefnogi'r cynnig hwn. Llafur Cymru, rhowch y gorau i eistedd ar y ffens; mae fflawiau'n boenus. Mae'n bryd dweud 'ie' wrth y farchnad sengl, 'ie' dros economi well yng Nghymru, a 'na' i Brexit trychinebus Boris. Diolch yn fawr.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 5:59, 6 Gorffennaf 2022

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad, ac felly byddwn ni'n gohirio'r bleidlais ar yr eitem yma tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 5:59, 6 Gorffennaf 2022

Dyma ni'n dod i'r cyfnod pleidleisio nawr, ac felly fe fyddwn ni'n cymryd toriad byr i baratoi ar gyfer y bleidlais yn dechnegol.

Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 17:59.

Ailymgynullodd y Senedd am 18:02, gyda'r Llywydd yn y Gadair.