– Senedd Cymru am 4:34 pm ar 19 Hydref 2022.
Eitem 7 y prynhawn yma yw'r ddadl ar adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus ar gomisiynu cartrefi gofal. A galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig—Mark Isherwood.
Diolch am y cyfle i drafod adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus ar gomisiynu cartrefi gofal. Efallai fod yr Aelodau'n ymwybodol o adroddiad y pwyllgor ar y mater hwn, adroddiad a wnaeth sawl argymhelliad allweddol mewn maes cymhleth, gyda'r nod o wneud y system yn fwy teg i bawb. Bu'r ymchwiliad yn ystyried adroddiad cryno cenedlaethol Archwilydd Cyffredinol Cymru, 'Comisiynu Cartrefi Gofal'.
Clywodd y pwyllgor gan amrywiaeth o randdeiliaid ynghylch hygyrchedd ac ansawdd y ddarpariaeth cartrefi gofal, gan gynnwys tystiolaeth lafar gan Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru, Age Cymru, Fforwm Gofal Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol, a Llywodraeth Cymru ei hun. Cafodd y pwyllgor gyflwyniadau ysgrifenedig hefyd gan amrywiaeth o fyrddau partneriaeth rhanbarthol, Coleg Nyrsio Brenhinol Cymru ac eraill, a diolch i bawb a gyfrannodd at yr ymchwiliad pwysig hwn.
Er bod Llywodraeth Cymru wedi derbyn y rhan fwyaf o'n hargymhellion, mae'r pwyllgor yn nodi bod ei hymateb i'w weld yn codi cwestiynau ynglŷn â'u dealltwriaeth o rai o'r materion, er bod y rhain wedi'u nodi'n glir yng nghyfraith gyfredol Cymru a'r canllawiau. Pryder, felly, yw'r ffaith bod yr ymateb yn arwydd o arafwch y broses o ddiwygio polisi yn y meysydd hynny ac yn benodol, arafwch y broses o weithredu Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.
Argymhellwyd y dylai Llywodraeth Cymru ystyried lleisiau defnyddwyr gwasanaethau wrth ystyried diwygio polisi yn y maes, lle mae profiadau byw trigolion yn dystiolaeth hanfodol fel rhan o unrhyw broses ddiwygio. Dylai eu lleisiau fod yn ganolog i waith grŵp gorchwyl a gorffen Llywodraeth Cymru a'r grŵp annibynnol sy'n datblygu'r fframwaith cenedlaethol newydd ar gyfer gofal cymdeithasol a gwasanaeth gofal cenedlaethol. Derbyniodd Llywodraeth Cymru yr argymhelliad hwn gan nodi bod y grŵp arbenigol annibynnol yn cynnwys unigolion o ystod o gefndiroedd amrywiol. Clywodd y pwyllgor y dylai argymhellion y grŵp annibynnol fod wedi dod i law Gweinidogion ddiwedd Ebrill, ond bod oedi wedi bod. Nid yw'n eglur o ymateb Llywodraeth Cymru beth yw statws cyfredol gwaith y grŵp a phryd y bydd yn cyflwyno'i adroddiad. Felly, byddwn yn croesawu eglurder gan y Gweinidog ar hyn, o ystyried y rôl bwysig sydd gan y grŵp yn hyrwyddo diwygio polisi yn y maes hwn.
Yn anffodus, nid yw'r naratif sy'n cyd-fynd â derbyn yr argymhellion hyn yn ddigon i gyflawni argymhelliad y pwyllgor a darpariaethau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) ei hun, sy'n mandadu dull cydgynhyrchiol, ac rwy'n dyfynnu:
'Rhaid i unigolion a’u teuluoedd allu cymryd rhan lawn yn y broses o ddewis a chyflawni eu canlyniadau llesiant drwy broses sy’n hygyrch iddyn nhw.'
Mae hyn yn wahanol i'r dull ymgynghorol a ddisgrifir yn ymateb Llywodraeth Cymru.
Mae Sefydliad Gofal Cymdeithasol er Rhagoriaeth, er enghraifft, yn disgrifio cydgynhyrchu fel hyn
'Nid gair yn unig, nid cysyniad yn unig mohono, ond meddyliau'n dod ynghyd i ganfod ateb ar y cyd.'
Fel y dywedant:
'Mae gwahaniaeth rhwng cydgynhyrchu a chymryd rhan: mae cymryd rhan yn golygu ymgynghori, tra bod cydgynhyrchu yn golygu bod yn bartneriaid cyfartal a chyd-grewyr.'
Mae cydgynhyrchu gwasanaethau cyhoeddus go iawn gyda defnyddwyr a chymunedau yn ymwneud â darparu gwasanaethau iechyd, gwasanaethau cymdeithasol a gwasanaethau eraill yn well—yn yr achos hwn, i boblogaeth sy'n heneiddio. Nid yw'n ymwneud ag ymgynghori â rhanddeiliaid ar ôl i bolisi gael ei ddatblygu, ni waeth pwy oedd yn rhan o ddatblygu'r polisi hwnnw. Rwy'n gofyn am sicrwydd gan y Gweinidog ynglŷn â sut y bydd Llywodraeth Cymru'n sicrhau bod ei grŵp arbenigol yn cyrraedd y rhai y mae'n fwyaf perthnasol iddynt ac yn eu cynnwys yn y broses o greu a darparu gwasanaeth sy'n gweithio i bawb, nid dim ond ymgynghori â hwy wedyn.
Mae'n destun pryder nad yw'n ymddangos bod Llywodraeth Cymru yn arwain ar y dull hwn, er gwaethaf bwriad darpariaethau cydgynhyrchu Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, y bûm yn gweithio gyda'r Dirprwy Weinidog ar y pryd, Gwenda Thomas, ar ei ddatblygu, ac yn fwyaf arbennig, nid yn unig y Ddeddf ei hun ond y codau ymarfer perthnasol, sy'n gwbl glir yn hyn o beth. Felly, rwy'n annog Llywodraeth Cymru i weithredu argymhelliad y pwyllgor yn ei holl waith yn y maes hwn yn y dyfodol ac i weithredu darpariaethau cydgynhyrchu diamwys y Ddeddf a'i chodau ymarfer.
Daeth y pwyllgor i'r casgliad hefyd y dylid gwneud mwy i gefnogi ac annog cyfranogiad gwirfoddolwyr yn y sector cartrefi gofal, i gynnig gwasanaethau ansawdd bywyd i ddefnyddwyr gwasanaethau. Fodd bynnag, rhaid i rôl gwirfoddolwyr beidio â bodoli yn lle gofal cyflogedig proffesiynol, amser llawn. Derbyniodd Llywodraeth Cymru yr argymhelliad hwn a darparodd fwy o wybodaeth am brosiect peilot diweddar i geisio recriwtio gwirfoddolwyr i gefnogi darpariaethau ymweld diogel rhwng preswylwyr a pherthnasau yn ystod y pandemig. Caiff y pwyllgor ei galonogi o glywed bod nodau'r prosiect peilot cychwynnol hwn i'w hehangu, a byddem yn ddiolchgar pe bai'r Gweinidog yn gallu cytuno i barhau i roi'r wybodaeth ddiweddaraf ar hyn.
Un o brif gasgliadau'r pwyllgor oedd y dylid gwneud mwy i sicrhau telerau ac amodau a chyflog cydradd â staff y GIG, gyda'r bwriad o gadw staff a bod yn gystadleuol gyda diwydiannau neu sectorau eraill, megis y diwydiant lletygarwch. Mae'r pwyllgor yn croesawu'r ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi derbyn yr argymhelliad hwn a chyflwyno'r cyflog byw gwirioneddol i weithwyr gofal cymdeithasol. Fodd bynnag, byddem yn ddiolchgar pe gallai Llywodraeth Cymru ddweud pryd fydd y cynnydd yn y cyflog byw gwirioneddol, a gyhoeddwyd gan y Living Wage Foundation ar 22 Medi, ar gael i ddarparwyr trwy awdurdodau lleol, lle deëllir bod derbynwyr yn dal i gael £9.90 yr awr yn unig ar hyn o bryd.
Mae'r pwyllgor hefyd yn cydnabod gwaith y fforwm gwaith teg gofal cymdeithasol, sy'n edrych ar amodau gwaith gweithwyr gofal cymdeithasol. Mae'r pwyllgor yn annog Llywodraeth Cymru i fynd ymhellach yn ei chynigion i sicrhau trefniadau cydradd â staff y GIG ac i fod yn gystadleuol â sectorau eraill. Rydym yn croesawu ymrwymiad datganedig Llywodraeth Cymru i werthuso gwaith ymgyrch recriwtio Gofalwn.Cymru. Mae'r pwyllgor hefyd yn croesawu gwaith Gofal Cymdeithasol Cymru yn dysgu sut y mae darparwyr gofal cymdeithasol yn recriwtio gweithwyr gofal a'r heriau y maent yn eu hwynebu wrth wneud hynny. Rydym yn edrych ymlaen at glywed mwy am eu gwaith, wedi iddo gael ei gwblhau fis Ebrill nesaf.
Ar archwiliadau cartrefi gofal, anogir y pwyllgor i glywed am yr ymdrechion i adlewyrchu barn defnyddwyr gwasanaethau yn ystod eu harolygiadau, ond mae'n credu y dylid gwneud mwy i ehangu'r rhan hon o'r broses arolygu. Er bod y pwyllgor yn cael ei annog i nodi bwriad Arolygiaeth Gofal Cymru neu AGC i archwilio pob cartref gofal cofrestredig i oedolion yn y cyfnod rhwng 1 Hydref 2021 a 31 Mawrth 2023, mae'n bryderus nodi efallai na chyflawnir y nod hwn. Rydym yn annog Llywodraeth Cymru felly i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r pwyllgor ar gynnydd AGC ar ôl i'r cyfnod hwn ddod i ben, ac ar sut y mae'n cydymffurfio â'r mesurau a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru rai blynyddoedd yn ôl yn dilyn adroddiad pryderus iawn gan y comisiynydd pobl hŷn ar y pryd.
Mae'r pwyllgor yn siomedig fod Llywodraeth Cymru wedi dewis gwrthod tri argymhelliad, yn enwedig yr argymhelliad ar ffioedd ychwanegol. Roeddem yn bryderus iawn am natur y ffioedd hyn a'r ffordd y cânt eu cyfleu i ddefnyddwyr gwasanaethau. Clywodd y pwyllgor dystiolaeth fod defnyddwyr gwasanaethau'n gorfod talu ffioedd ychwanegol ar gam, gan olygu bod rhai o'n dinasyddion mwyaf bregus yn wynebu costau am wasanaethau sylfaenol. Dywedodd Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru wrth y pwyllgor fod defnyddwyr gwasanaethau'n aneglur ynghylch pa wasanaethau y byddai'n rhaid talu ffioedd ychwanegol amdanynt, ac aeth rhagddi i ddatgan bod teuluoedd wedi gofyn am gymorth gan ei swyddfa oherwydd,
'biliau annisgwyl, sydyn am ffioedd ychwanegol, yn eithaf aml ar gyfer pethau y byddech chi'n disgwyl iddynt fod yn y ffi safonol'.
Dywedodd y comisiynydd wrthym fod defnyddwyr gwasanaethau wedi gorfod talu am gael mynediad i'r ardd, er enghraifft. Felly, rydym yn anghytuno'n gryf â gosod ffioedd ychwanegol ar gyfer cael mynediad at wasanaethau a hawliau sylfaenol, a daethom i'r casgliad y dylid gwneud mwy i dynhau'r rheolau sy'n gysylltiedig â'r ffioedd ychwanegol hyn, ynghyd â system gwneud iawn annibynnol newydd er mwyn caniatáu i benderfyniadau gael eu herio. Yn anffodus, dewisodd Llywodraeth Cymru wrthod yr argymhellion hyn, gan ddweud bod canllawiau clir ar waith fel rhan o'r fframwaith gofal iechyd parhaus, gan wahardd ffioedd ychwanegol am wasanaethau sylfaenol. Fodd bynnag, mae arbenigwyr y sector wedi dweud wrth y pwyllgor fod yr arferion niweidiol hyn yn parhau i ddigwydd.
Nid yw canllawiau Llywodraeth Cymru ar y mater hwn yn gweithio ac nid ydynt yn glir ar gyfer defnyddwyr gwasanaethau a darparwyr. Rydym yn cwestiynu'r hyn sy'n cael ei wneud i fonitro a gwerthuso effaith y fframwaith hwn, pan fo'n amlwg o ymateb Llywodraeth Cymru nad yw i'w gweld yn ymwybodol nad yw'r canllawiau hyn yn cael eu dilyn, er gwaethaf y dystiolaeth i'r gwrthwyneb yn ein hadroddiad. Mae'r pwyllgor yn annog Llywodraeth Cymru yn gadarn iawn i adolygu'r mater ar frys, ac fel rhan o'r adolygiad hwnnw, i weithio gyda defnyddwyr a'r sefydliadau sy'n eu cynrychioli, fel Fforwm Gofal Cymru, Age Cymru a'r comisiynydd pobl hŷn, ymhlith eraill, i ddatblygu dull newydd o weithredu ffioedd ychwanegol sy'n gweithio i'r sector gofal cymdeithasol, ac yn bwysicach fyth, i'w ddefnyddwyr.
Hefyd, fe wrthododd Llywodraeth Cymru gynnig y pwyllgor ynghylch gorfodaeth i rannu gwybodaeth ar draws y sector cartrefi gofal, gan ganolbwyntio'n benodol ar brofiad a boddhad defnyddwyr gwasanaethau. Roedd y pwyllgor wedi dod i'r casgliad y dylai'r wybodaeth hon gael ei rhannu ar lefel genedlaethol, er mwyn sicrhau bod gan bob parti fynediad at wybodaeth gyson a pherthnasol, yn gysylltiedig â'r saith nod llesiant i Gymru. Yn eu hymateb, dywedodd Llywodraeth Cymru wrth y pwyllgor nad oeddent am fandadu rhannu gwybodaeth gan nad oeddent yn ystyried 'cost uchel' gweithredu'r darpariaethau hyn fel un a fyddai'n arwain at greu
'budd cymesur o ran datblygu data ar ben y mesurau yr ydym eisoes wedi'u cymryd ac sydd wrth law.'
Hoffai'r pwyllgor wybod, felly, sut y cyfrifodd Llywodraeth Cymru y 'gost uchel' hon, a beth oedd y cyfrifiad yn ei ddangos. Mae'n destun gofid fod Llywodraeth Cymru yn gweld gweithredu darpariaeth o'r fath fel cost yn hytrach na buddsoddiad yn y sector gofal cymdeithasol a ddylai arwain at fanteision o ran costau a gwell corff o wybodaeth, gan gynnwys llais profiad bywyd, i ddylanwadu ar lunio polisïau yn y maes hwn yn y dyfodol.
Clywodd y pwyllgor gan brif weithredwr Fforwm Gofal Cymru am yr heriau sy'n gysylltiedig â chasglu gwybodaeth ar draws ffiniau awdurdodau lleol a byrddau iechyd, gyda galw am wybodaeth wahanol mewn fformatau gwahanol. Byddai system genedlaethol yn symleiddio'r broses ac yn darparu corff cynhwysfawr o wybodaeth i seilio penderfyniadau ynghylch arbed costau yn y sector yn y dyfodol. Mae'n destun pryder felly fod Llywodraeth Cymru wedi diystyru casgliadau'r pwyllgor yn y maes. Bydd y pwyllgor yn parhau i fynd ar drywydd y materion hyn gyda Llywodraeth Cymru, ac fel arall edrychwn ymlaen at drafodaeth bellach gyda hwy ar y pwnc hwn, a byddwn yn monitro gweithrediad ein hargymhellion yn ofalus.
Mae'r ymchwiliad hwn gan y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus yn amserol yn fy marn i. Mae cartrefi gofal yn chwarae rhan bwysig yn y ddarpariaeth gofal i bobl hŷn yn bennaf, ond nid pobl hŷn yn unig. Mae'n cynnwys nifer fawr o ddarparwyr. Mae rhai yn ddarparwyr gyda mwy nag un safle, eraill ond ag un cartref, a cheir rhai darparwyr mawr, ond mae pob un ohonynt yn darparu gofal i unigolion. Mae pob un o'r rhain yn bwysig.
Nid yw'n uchelgais gan neb i fynd i gartref gofal, ond bydd llawer ohonom yn yr ystafell hon heddiw yn mynd i gartref gofal yn y pen draw, a bydd mwy fyth ohonom ag aelod o'r teulu mewn cartref gofal naill ai nawr neu yn y dyfodol. Felly, mae gan bob un ohonom ddiddordeb personol mewn cael hyn yn iawn. Bwriad adroddiad y pwyllgor oedd archwilio a thynnu sylw at yr heriau a wynebir ym maes cymhleth comisiynu cartrefi gofal i bobl hŷn, gyda'r nod o wneud y system yn decach i bawb. Rwy'n credu bod 'teg' yn air y mae angen inni ei ddefnyddio'n amlach, oherwydd dylai popeth fod yn deg. Clywodd y pwyllgor dystiolaeth am hygyrchedd ac ansawdd y ddarpariaeth cartrefi gofal yng Nghymru, yr amrywiaeth a'r cymhlethdod sy'n gysylltiedig â chyllido gofal, lleoedd mewn cartrefi, yr anhawster a wynebir i ddenu a chadw staff i'r diwydiant, a'r diwygiadau polisi arfaethedig sy'n berthnasol i'r maes hwn.
Argymhelliad y pwyllgor oedd y dylai Llywodraeth Cymru ystyried llais defnyddwyr gwasanaethau fel rhan o'u gwaith diwygio polisi yn y maes. Byddai'r pwyllgor yn croesawu rhagor o wybodaeth gan Lywodraeth Cymru ynglŷn â sut y maent wedi ymgynghori gyda defnyddwyr gwasanaethau a'u teuluoedd fel rhan o waith y grŵp arbenigol ar ofal cymdeithasol. Rwy'n cefnogi'r alwad y dylai'r grŵp gorchwyl a gorffen Llywodraeth Cymru sy'n datblygu'r fframwaith cenedlaethol newydd ar gyfer gofal cymdeithasol ymgynghori â defnyddwyr gwasanaethau fel rhan o'i waith, ac fel rhan fawr o'i waith, byddwn i'n dweud. Mae angen i Lywodraeth Cymru roi diweddariad ar sut y caiff hyn ei gyflawni fel rhan o'i hymgynghoriad yng ngwanwyn 2023. Yn rhy aml, caiff pethau eu gwneud i ddefnyddwyr gwasanaethau a'u teuluoedd, caiff pethau eu gwneud ar eu cyfer, pethau y mae pobl yn meddwl a fydd yn dda iddynt. Yn rhy aml, mae hyn yn seiliedig ar y gred mai 'gweithwyr proffesiynol sy'n gwybod orau', yn hytrach na'r unigolion a'u teuluoedd. Ac nid ym maes gofal yn unig; mae'r un peth yn digwydd ym maes iechyd.
Yn rhan o'r gwaith o ddatblygu gwasanaeth gofal cenedlaethol, argymhellodd y pwyllgor y dylai Llywodraeth Cymru ystyried beth arall y gellir ei wneud i adolygu cyflogau a thelerau ac amodau gweithwyr gofal, i sicrhau eu bod yn gydradd â staff y GIG ac i fod yn gystadleuol â diwydiannau eraill fel y diwydiant lletygarwch. Heb gyflogau ac amodau cydradd, bydd y sector yn parhau i wynebu problemau recriwtio a chadw staff. Mae iechyd a gofal yn galw am lawer o'r un sgiliau. Mae iechyd yn talu'n well, ac mae'n cael ei ystyried yn bwysicach gan wleidyddion a'r cyhoedd. Gofal yw perthynas tlawd y gwasanaeth iechyd a gofal mewn gwirionedd, ac mae hynny'n rhywbeth y gwn fod y Gweinidog yn poeni llawer amdano, felly nid ymgais ar fy rhan i ladd ar y Gweinidog yw hyn, oherwydd mae gennym Weinidog sy'n deall pwysigrwydd y system ofal mewn gwirionedd ac sydd wedi ymrwymo i'r system ofal. Ond mae staff cartrefi gofal yn gadael i weithio yn y gwasanaeth iechyd, gan greu problem prinder staff mewn cartrefi gofal. A pham na fyddent yn gwneud hynny? Nid yw'n ymwneud â thâl bob amser, ond pam na fyddai pobl yn gadael am swydd sy'n talu'n well? Ac yn enwedig yn y cyfnod yr ydym ynddo yn awr pan fo pobl o dan bwysau ariannol, mae llawer i'w ddweud dros symud i swydd sy'n talu'n well. Gallai olygu eich bod yn rhoi'r gwres ymlaen hanner awr ynghynt, gallai olygu eich bod yn cael tri phryd y dydd nid dau, neu ddau bryd bwyd y dydd nid un. Felly, mae'n bwysig iawn fod y cyflog yno. Gwn fod y Dirprwy Weinidog wedi siarad am hyn ac rwy'n gwybod bod ymrwymiad y Dirprwy Weinidog iddo mor fawr â fy un i, ond mae'n rhywbeth y mae gwir angen inni ei sicrhau, nad gofal yw'r perthynas tlawd. Mae'r Dirprwy Weinidog eisoes wedi derbyn yr angen i godi cyflogau, yr hyn sydd ei angen yn awr yw gweithredu ar godi cyflogau i'r rhai sy'n gweithio mewn cartrefi gofal.
Mae angen i Lywodraeth Cymru fandadu dull mwy rhagweithiol o rannu gwybodaeth ar draws y sector cartrefi gofal, yn enwedig gwybodaeth am brofiad a boddhad defnyddwyr gwasanaethau, yn gysylltiedig â'r saith nod llesiant i Gymru. Dylai'r gofyniad gorfodol i rannu gwybodaeth gael ei weithredu ar lefel genedlaethol i sicrhau bod darparwyr, defnyddwyr gwasanaethau a Llywodraeth Cymru yn cael mynediad at wybodaeth gyson a pherthnasol. Mae angen rhannu data hefyd, ac yn bwysicach efallai, rhwng iechyd, gofal cymdeithasol a chartrefi gofal. Yn rhy aml o lawer, mae gan bawb eu system eu hunain, mae pawb yn dweud nad ydynt yn cael rhannu, ac rydym yn cael dau ateb ar hynny: mae naill ai'n costio llawer neu nid yw GDPR yn ei ganiatáu. Dylai Llywodraeth Cymru weithio gyda darparwyr i ofyn yn rhagweithiol am ganiatâd defnyddwyr gwasanaethau a'u teuluoedd i rannu gwybodaeth; pan fydd pobl yn darparu gwybodaeth, eu cael i gymeradwyo rhannu gydag iechyd a gofal cymdeithasol sy'n gwasanaethu'r cartref gofal. Byddai hyn yn caniatáu rhannu data, yn union fel y ffordd y mae pawb ohonom yn caniatáu i ddata gael ei rannu gan sefydliadau yr ydym yn ymwneud â hwy. Rydym yn ticio'r bocs, 'A gawn ni rannu data?' Mae angen inni gael y bocs yno pan fo pobl mewn mannau iechyd a gofal.
Rwy'n rhannu pryder y pwyllgor ynghylch codi ffioedd ychwanegol ac yn cefnogi'r argymhelliad y dylai Llywodraeth Cymru gyhoeddi cyfyngiadau rhwymol er mwyn cyfyngu ar y meysydd lle codir ffioedd o'r fath, a dylid eu cadw mor isel â phosibl a'u cyhoeddi. Soniodd Mark Isherwood yn gynharach am godi tâl am bethau fel defnyddio gardd y cartref gofal; mae hynny'n annheg ac yn anghywir. Ac yn olaf, rwy'n falch iawn fod yr archwilydd cyffredinol wedi archwilio'r sector cartrefi gofal a bod y pwyllgor wedi cynhyrchu'r adroddiad hwn, ac rwy'n gwybod bod y Gweinidog yn gwrando arnom.
Daw'r adroddiad hwn ar gomisiynu cartrefi gofal yn sgil adolygiad yr archwilydd cyffredinol a gyhoeddwyd ym mis Hydref y llynedd, o'r enw 'Darlun o Ofal Cymdeithasol'. Mae'r adolygiad hwn wedi edrych ar y sector gofal cymdeithasol cyfan ledled Cymru ac mae wedi nodi tri mater allweddol a heriau hirsefydlog i'r sector. Yn flaenaf ymhlith y rhain y mae'r angen i gyflawni cynaliadwyedd ariannol a threfniadau cyllido. Honnai fod cynnydd ar fynd i'r afael â heriau wedi bod yn araf a bod y pandemig wedi gwneud yr angen am newid hyd yn oed yn fwy dybryd. Yn wir, dywedodd yr archwilydd cyffredinol yn glir, er bod y pandemig wedi amlygu breuder gwasanaethau gofal ar draws Cymru, roedd y rhan fwyaf o'r problemau yn bodoli'n barod i ryw raddau.
Mae'r galw am ofal cymdeithasol i oedolion yn debygol o gynyddu'n sylweddol, ac rwy'n gwybod bod fy nau gyd-Aelod wedi tynnu sylw at hynny. Mae platfform amcanestyniad poblogaeth Gofal Cymdeithasol Cymru yn dangos, o 2020 i 2040, y rhagamcanir y bydd nifer y bobl dros 65 oed sy'n cael trafferth gyda gweithgareddau byw bob dydd yn cynyddu i 34 y cant. Yn wyneb yr heriau hyn, archwiliodd y pwyllgor y gwaith o gomisiynu cartrefi gofal i bobl hŷn gyda'r bwriad o gryfhau'r sector a'i wneud yn fwy teg. Edrychwyd ar hygyrchedd ac ansawdd y ddarpariaeth, yn ogystal ag amrywiadau cyllido a materion yn ymwneud â recriwtio a chadw staff, fel y crybwyllodd fy nghyd-Aelodau eisoes.
Ar hygyrchedd, cafodd y pwyllgor ei arwain gan yr egwyddor o symleiddio'r broses ar gyfer defnyddwyr gwasanaethau. Dywedodd adroddiad cryno cenedlaethol yr archwilydd cyffredinol fod mynediad pobl hŷn at gartrefi gofal yn gymhleth ac yn anodd ei lywio, ac nid yw'n deg fod pobl oedrannus a'u teuluoedd yn gorfod ymdopi â hynny. Nododd Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru fod ansawdd cyffredinol cartrefi gofal yn amrywio ac adroddodd Age Cymru am broblemau lle nad oes gofal ar gael i ddefnyddwyr gwasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg.
Ar gyllido, fe wnaethom geisio darganfod y rhesymau dros yr amrywio yn y gwariant ar ofal preswyl a chostau gofal iechyd wythnosol parhaus. Unwaith eto, os caf ddyfynnu'r archwilydd cyffredinol, gall dulliau o ariannu'r sector cyhoeddus ar gyfer gwahanol agweddau ar ofal greu rhaniad ymhlith partneriaid. Mae'r tirlun cyllido ar gyfer gofal cymdeithasol yn gymhleth iawn ac yn ddryslyd oherwydd y ffrydiau ariannu amrywiol y gallai unigolyn fod yn gymwys ar eu cyfer. Gwn ein bod i gyd yn cefnogi cydraddoldeb yma ar draws y pleidiau yn y Senedd, ond mae'n rhaid inni gael cydraddoldeb i'r henoed yma ledled Cymru. Fy mhryder mwyaf yw bod y safonau'n amrywio, gyda chleifion sy'n cael eu hariannu'n breifat yn gallu cael mynediad at lety o ansawdd llawer gwell.
Ar recriwtio a chadw staff, nododd y pwyllgor fod gweithwyr yn cael eu colli i'r diwydiannau manwerthu a lletygarwch am fod lefel uwch o gyflog yn cael ei gynnig a llai o bwysau gwaith. Roedd staff hefyd yn cael eu colli i'r GIG am yr un rhesymau.
Er mwyn ymateb i'r heriau hyn, rydym wedi gwneud 13 o argymhellion, ac rwy'n falch fod Llywodraeth Cymru wedi cytuno—gyda fy nghyd-Aelodau, gan eu bod hwy wedi crybwyll hyn hefyd—fod 10 wedi cael eu derbyn. Hoffwn eich annog, felly, Weinidog, i ailystyried o ddifrif eich gwrthwynebiad i argymhelliad 8 yn benodol, ynglŷn â'r angen am ddull mwy rhagweithiol o rannu gwybodaeth er tryloywder ac i sicrhau mynediad at wybodaeth gyson a pherthnasol.
Yn anffodus, mae ein hargymhellion 11 a 12 ar godi ffioedd ychwanegol wedi eu gwrthod. Yng Nghymru, er ein bod i gyd yn sôn am gydraddoldeb a thegwch i bawb, mae'n drist iawn nad yw'n amlwg mewn gofal i'r henoed yma yng Nghymru. Mewn tystiolaeth, dywed Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru fod defnyddwyr gwasanaethau'n aml yn ansicr ynglŷn â'r hyn a fydd yn galw am ffioedd ychwanegol ac nad yw gwir gost gofal wedi ei deall yn llawn o ganlyniad i hynny. Mae angen iddynt gael hynny yn ei le, Weinidog. Hoffwn ofyn ichi edrych unwaith eto ar y mater hwn i roi sicrwydd fod codi ffioedd ychwanegol yn digwydd yn enw cydraddoldeb, tegwch a thryloywder yn y dyfodol.
Felly, Weinidog, mae'r bwriad yno'n llawn yn nodau'r adroddiad hwn i sicrhau bod y system gofal cymdeithasol yng Nghymru yn fwy hygyrch, yn llai cymhleth ac yn decach i unigolion agored i niwed a'u teuluoedd. Rwy'n credu'n wirioneddol ei fod wedi llwyddo yn ei nodau ac rwy'n ei gefnogi'n llawn, ond rhaid edrych eto ar y meysydd a wrthodwyd gan na allwn anwybyddu'r boblogaeth gynyddol sy'n heneiddio yng Nghymru. Diolch.
Rwy'n croesawu adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus ar ei ymchwiliad i gomisiynu cartrefi gofal. Rwyf hefyd yn croesawu'r cyfle i siarad ar y pwnc yn y Senedd.
Mae'r adroddiad hwn yn tynnu sylw clir at yr heriau sy'n wynebu maes cymhleth comisiynu cartrefi gofal i bobl hŷn, gyda'r bwriad o wella'r system fel ei bod yn fwy teg i bawb. Mae'n deg dweud bod yr heriau sy'n wynebu'r sector yn eang ac yn bellgyrhaeddol. Clywodd y pwyllgor dystiolaeth am hygyrchedd ac ansawdd y ddarpariaeth cartrefi gofal yng Nghymru, yr amrywiadau a'r cymhlethdod sy'n gysylltiedig â chyllido lleoedd mewn cartrefi gofal, yr anawsterau a wynebir wrth ddenu a chadw staff yn y diwydiant, a'r diwygiadau polisi arfaethedig sy'n berthnasol i'r maes.
Nod argymhellion yr adroddiad yw mynd i'r afael â rhai o'r materion pwysig, ac o'u rhoi ar waith, bydd yn helpu i gryfhau a symleiddio'r broses o gomisiynu cartrefi gofal. Mae gwelliannau o'r fath yn bwysig i bob un ohonom, gan fod gofal cymdeithasol yn wasanaeth sy'n cyffwrdd â bywydau unigolion a theuluoedd ym mhob rhan o Gymru. Yn anffodus, am wasanaeth sydd mor hanfodol, nid yw gofal cymdeithasol yn cael ei werthfawrogi hanner digon. Nid yw gweithwyr yn cael y parch y maent yn ei haeddu a chaiff hyn ei adlewyrchu yn y telerau ac amodau gwael. Mae'n siŵr y bydd y Llywodraeth yn sôn am gyflwyno'r cyflog byw, ond fel y casglodd TUC Cymru, nid yw'n ddigon. Mae'n werth nodi y daethpwyd i'r casgliad hwn y llynedd, ac ymhell cyn i gamreoli economaidd gan y Torïaid yn San Steffan waethygu'r argyfwng costau byw, sydd wedi gwneud gofal cymdeithasol yn llai deniadol.
Caiff gweithwyr gofal gam oherwydd pethau heblaw cyflogau hefyd: mae'r telerau ac amodau'n wan. Fel y nododd y TUC hefyd, nid oes gan filoedd o weithwyr gofal yn y sector allanol hawl cytundebol i dâl salwch priodol. Maent yn amcangyfrif nad yw oddeutu 5 y cant o staff hyd yn oed yn gymwys i dderbyn tâl salwch statudol. Ar wahân i anfoesoldeb hyn, mae'n anochel y bydd y sefyllfa'n arwain at weithwyr sâl yn dod i gysylltiad â phobl fregus am na allant fforddio cymryd diwrnod yn absennol oherwydd salwch. Sut y gall hyn ddigwydd yn yr unfed ganrif ar hugain?
Gellid datrys nifer o'r problemau a nodwyd yn yr adroddiad drwy uno rhwng iechyd a gofal cymdeithasol. Mae hwn wedi bod yn bolisi hirsefydlog gan Blaid Cymru ac rwy'n falch fod yna symud tuag at y nod hwn yn sgil y cytundeb cydweithio a gafwyd rhyngom ni a'r Llywodraeth. Ni all yr ymrwymiad i gael adroddiad gan grŵp arbenigol i archwilio'r gwaith o greu gwasanaeth gofal cenedlaethol, am ddim lle mae ei angen, fel gwasanaeth cyhoeddus parhaus, ddod yn ddigon buan. Drwy integreiddio gweithwyr iechyd a gofal, gallwn wella'r gydnabyddiaeth yn ogystal â'r tâl y mae'n hen bryd i weithwyr gofal cymdeithasol ei gael.
Rhaid imi sôn hefyd am ddiffyg capasiti ysbytai cymunedol yn y GIG, sy'n cael effaith ganlyniadol ar ofal cymdeithasol yn ogystal â'n gwasanaeth iechyd. Yr wythnos diwethaf, soniodd fy nghyd-Aelod ym Mhlaid Cymru Rhun ap Iorwerth am y gostyngiad yn nifer y gwelyau ysbyty yng Nghymru, o oddeutu 20,000 ar ddiwedd y 1980au i ychydig dros hanner hynny ar hyn o bryd. Gall tranc yr ysbyty cymunedol egluro'r duedd ar i lawr yn rhannol, ac mae'n cael effaith enfawr ar y GIG, gan achosi tagfeydd mewn ysbytai a mannau eraill. Rwy'n deall yr ymdrech i drin mwy a mwy o bobl gartref, gan y byddai'n well gan lawer o bobl hynny, ond i rai nid yw'n briodol, os nad ydynt yn ddigon iach neu fod ganddynt broblemau symud sy'n cyfyngu ar eu gallu i fyw gartref. Mewn amgylchiadau o'r fath, heb becyn digonol ar waith, byddant yn aros yn yr ysbyty. Byddai gwely ysbyty cymunedol yn ateb llawer gwell. Nid yw'r gwelyau hyn yn costio cymaint â gwelyau ysbytai cyffredinol dosbarth, ac rwy'n adleisio galwad Rhun ar y Llywodraeth i edrych i mewn i'r mater ar frys. Diolch yn fawr.
Hoffwn ddiolch i Gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus, Mark Isherwood, aelodau'r pwyllgor a staff am gynnal ymchwiliad i gomisiynu cartrefi gofal mewn ymateb i gyhoeddi adroddiad y comisiynydd yn ôl ym mis Rhagfyr 2021. Mae cartrefi gofal ar draws Cymru angen lefelau staffio uchel a staff ymroddedig er mwyn darparu'r gofal gorau posibl i gleifion. Er bod nifer o ofalwyr yn darparu'r gofal ymroddedig sydd ei angen, mae hefyd yn bwysig tynnu sylw at rôl nyrsys mewn cartrefi gofal yn darparu gofal mewn amgylchiadau heriol a chymhleth. Yn yr un modd, mae'n bwysig tynnu sylw at y modd y mae nyrsys mewn cartrefi gofal yn chwarae rôl yn lleihau nifer y derbyniadau i'r ysbyty, sy'n cefnogi gweithrediad y GIG ac yn rhyddhau mwy o welyau yn ein hysbytai.
Mae'n anffodus mai tua dau o bob pum cartref gofal sy'n darparu nyrsys, ac rwy'n credu'n gryf y dylai Llywodraeth Cymru annog cael mwy o nyrsys mewn cartrefi gofal. Rwy'n cydnabod bod argyfwng recriwtio nyrsio ehangach yn y GIG yng Nghymru, ac nid yw hyn yn rhywbeth y gall Llywodraeth Cymru ei ddatrys dros nos, ond mae'n dangos bod rhaid i Lywodraeth Cymru fynd i'r afael â methiant i recriwtio a methiant i gadw staff nyrsio. Rwy'n cytuno â'r pwyllgor y dylid poeni am allu cartrefi gofal i ddarparu gofal o safon uchel yn sgil prinder difrifol. Er y byddai gennym nyrsys ym mhob cartref gofal mewn byd delfrydol, ni ellir gwireddu hynny ar hyn o bryd.
Rhaid inni gydnabod y ffordd gywir yr aeth y pwyllgor ati i gydnabod rôl gwirfoddolwyr yn cynorthwyo gyda gofal preswylwyr cartrefi gofal, ond ni ddylent fod yn cymryd lle staff proffesiynol ar gyfer darparu gofal sylfaenol. Er y gall gwirfoddoli roi sgiliau i bobl ifanc ddechrau ar yrfa gydol oes mewn gofal, rhaid peidio â'u defnyddio yn lle staff proffesiynol tra bo'r Llywodraeth yn ceisio hybu recriwtio a chadw staff.
Mae cartrefi gofal yn chwarae rhan hanfodol yn sicrhau bod yr henoed a'r rhai sydd fwyaf o angen gofal yn gallu cael y gwasanaethau sydd eu hangen arnynt mewn amgylchedd diogel a chartrefol. Ond un o'r problemau mwyaf sy'n wynebu cartrefi gofal ar hyn o bryd yw recriwtio a chadw staff gofal cymdeithasol. Mae angen inni wneud gyrfa mewn gofal cymdeithasol yn fwy deniadol. Fel y crybwyllwyd yn nadl y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar ryddhau cleifion o'r ysbyty yr wythnos diwethaf, mae staff gofal cymdeithasol yn gweithio mwy na 9 i 5 o ddydd Llun i ddydd Gwener, maent yn gweithio ar benwythnosau, nosweithiau, oriau anghymdeithasol, ac yn cysgu i mewn. Maent angen i Lywodraeth Cymru gefnogi eu galwadau hwy a fy ngalwadau innau am well tâl i weithwyr gofal cymdeithasol.
Mae Llywodraeth Cymru'n codi yn y Siambr hon ac yn canmol eu hunain am dalu'r cyflog byw go iawn, ond nid yw £9.90 yn ddigon, yn enwedig o ystyried y pwysau costau byw presennol a wynebwn. Gweithwyr gofal cymdeithasol yw rhai o'r gweithwyr sy'n cael y cyflogau isaf yn y farchnad lafur, er gwaethaf eu hymroddiad i helpu ein pobl fwyaf bregus. Pe bai Llywodraeth Cymru'n rhoi'r gorau i ariannu meysydd awyr a hoff brosiectau, efallai y gallai ymdrechion i gysoni cyflogau staff gofal cymdeithasol â graddfeydd cyflog y GIG fod yn fwy cyraeddadwy. Rwy'n credu ei fod yn gyraeddadwy, a byddwn yn ddiolchgar pe bai'r Gweinidog yn gallu mynd i'r afael â hyn eto yn ei hymateb i'r ddadl y prynhawn yma.
Os gallwn dalu'n iawn i'n nyrsys, ein gweithwyr gofal cymdeithasol a'n staff rheng flaen, byddwn yn gwneud y sector yn fwy deniadol, a byddwn hefyd yn gwella llawer o'r pryder ehangach ynghylch gofal iechyd wrth inni ymrafael â phroblem oedi wrth drosglwyddo gofal a rhoi'r gofal sydd ei angen ar bobl pan fyddant fwyaf o'i angen. Mae'n rhedeg drwy'r system gyfan, Ddirprwy Lywydd. Os gallwn wella cyfraddau rhyddhau cleifion i gartrefi gofal, byddwn yn rhyddhau gwelyau ysbyty, yn gwella amseroedd aros mewn adrannau brys ac yn chwarae ein rhan yn gwella amseroedd aros ambiwlansys. Nid wyf yn ceisio dweud mai dyma'r un llwybr diffiniol i ddatrys holl broblemau'r byd, ond rwy'n sicr yn credu y bydd yn mynd yn bell i helpu rhai o'r problemau cronig sy'n ein hwynebu yn ein systemau iechyd a gofal cymdeithasol yng ngogledd Cymru ac ar draws Cymru gyfan. Gadewch inni fod yn uchelgeisiol a gwneud popeth yn ein gallu i ddarparu'r gwasanaethau gorau posibl i'r bobl sydd eu hangen fwyaf. Diolch
Galwaf ar y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan.
Diolch. Rydw i yn croesawu'r cyfle i ymateb i'r ddadl bwysig hon.
Rwyf wedi mwynhau gwrando ar y ddadl hon heddiw ac fel y gwyddoch, rydym yn hapus iawn i dderbyn y mwyafrif o argymhellion y pwyllgor.
Mae gan yr adroddiad ffocws clir a chywir ar werthuso a monitro effaith Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, a rhoi llais a phrofiadau defnyddwyr gwasanaethau ynghanol y system. Yn ogystal â'r astudiaethau gwerthuso a gyflawnwyd gennym, asesir cydymffurfiaeth â'r Ddeddf gan y rheoleiddwyr AGC ac AGIC, a ategir gan fframwaith gwella perfformiad cenedlaethol ac adroddiadau awdurdodau lleol. A thrwy ein diwygiadau ailgydbwyso, byddwn yn sicrhau bod hyn yn esblygu ymhellach.
Mae defnyddwyr a gofalwyr yn ein helpu i lunio'r rhaglen ailgydbwyso drwy'r gwahanol grwpiau gorchwyl a gorffen, gan gynnwys un yn edrych yn benodol ar gydgynhyrchu, ymgysylltu a llais ar draws y byrddau partneriaeth rhanbarthol. Edrychir ar allbynnau'r grwpiau hyn yn y gwanwyn. Mae'r grŵp gorchwyl a gorffen ailgydbwyso ar ymgysylltu a llais yn gweithio gydag amrywiaeth o randdeiliaid i gydgynhyrchu offer a safonau i wella ymgysylltiad a chyfranogiad defnyddwyr gwasanaethau a gofalwyr mewn gwasanaethau gofal cymdeithasol, a bydd y gwaith yn cael ei adlewyrchu yn y fframwaith comisiynu cenedlaethol sy'n cael ei ddatblygu.
Hefyd, cafodd profiadau a disgwyliadau defnyddwyr gwasanaethau eu hystyried gan y grŵp arbenigol, a oedd yn cynnwys unigolion o ystod amrywiol o gefndiroedd a sefyllfaoedd. Gofynnodd cadeirydd y pwyllgor imi adrodd ar ba mor bell yr oedd y grŵp hwn wedi cyrraedd, ac rwy'n falch o ddweud bod yr adroddiad wedi ei gwblhau erbyn hyn. Mae yn y broses o gael ei gyfieithu, a bydd yn cael ei gyhoeddi fis nesaf, ym mis Tachwedd. Felly, hoffwn gofnodi fy niolch i'r unigolion a gymerodd ran yn y grŵp hwnnw. Pan fydd yr adroddiad wedi'i ystyried gan Weinidogion ac Aelod dynodedig Plaid Cymru, oherwydd, wrth gwrs, mae hwn yn rhan greiddiol o'n cytundeb cydweithio, bydd cyfnod o ymgynghori helaeth i ddatblygu cynllun gweithredu a fydd yn cael ei gydgynhyrchu. Wrth gwrs, byddwn yn sicrhau bod yr ymgyngoriadau hyn yn cynnwys defnyddwyr gwasanaethau, gofalwyr di-dâl a'r trydydd sector, a grwpiau cymunedol sy'n cynrychioli eu barn a'u profiadau.
Roedd yr adroddiad hefyd yn pwysleisio pwysigrwydd ymgorffori llais defnyddwyr gwasanaethau mewn arolygiadau. Rhwng Hydref 2021 ac Awst 2022, cynhaliodd AGC 705 o arolygiadau o 614 o gartrefi gofal i oedolion, a threuliodd 9,181 o oriau ar safleoedd, yn darparu cyfle i siarad yn uniongyrchol â'r preswylwyr, eu teuluoedd a'u ffrindiau. Mae honno'n rhan allweddol o'r hyn y mae AGC yn ei wneud: ceisio ymgysylltu'n uniongyrchol â'r trigolion. Mae AGC hefyd yn chwilio am dystiolaeth fod gan bobl lais yn y modd y caiff eu cartref ei redeg, sydd, unwaith eto, yn bwynt pwysig iawn.
Mae AGC yn ymwybodol iawn o effaith barhaus y pandemig ar ofal cymdeithasol, ac mae'r pwysau ar staffio yn ei gwaethygu. Pan fo AGC yn canfod canlyniadau gwael, maent yn galw am weithredu a byddant yn dychwelyd i wirio gwelliannau a wnaed. Gallai archwiliadau ychwanegol o'r fath ohirio cwblhau'r rhaglen a gynlluniwyd, ond y nod o hyd yw bod wedi archwilio'r holl gartrefi gofal cofrestredig i oedolion rhwng 1 Hydref 2021 a 31 Mawrth 2023. Gobeithio y bydd hynny'n tawelu meddyliau'r pwyllgor.
Mae llawer o'r Aelodau wedi sôn am recriwtio, cyflogau a thelerau ac amodau, ac mae'r adroddiad yn tynnu sylw—ac mae llawer o bobl wedi sôn heddiw—at yr angen i fynd i'r afael â'r materion dybryd hyn. Mae'r rhain i gyd yn cael eu hystyried gan y fforwm gwaith teg gofal cymdeithasol, sy'n dod â phartneriaid allweddol o bob rhan o'r sector ynghyd i ddod o hyd i atebion uchelgeisiol, pragmatig a chyraeddadwy, ac i sicrhau newid go iawn a pharhaol. Mae'r fforwm wedi canolbwyntio ar welliannau i gyflogau i gychwyn, gan gynnwys cyngor ar sut i symud ymlaen â'r ymrwymiad i dalu'r cyflog byw go iawn i holl staff gofal, ac rwy'n falch ein bod wedi llwyddo i dalu'r cyflog byw gwirioneddol i weithwyr gofal cymdeithasol yng Nghymru. Mae hyn wedi'i gefnogi gan gyllid o £43 miliwn eleni. Gofynnodd y cadeirydd am y cynnydd i'r cyflog byw go iawn, ac mae hynny'n rhywbeth sydd dan ystyriaeth gennym ar hyn o bryd. Wrth gwrs ein bod am ei dalu, ond rwy'n credu y byddwch yn ymwybodol nad yw'r amgylchiadau ariannol ar hyn o bryd yn galonogol iawn. Ond mae hyn yn rhywbeth y byddem yn sicr eisiau ei wneud.
Mewn perthynas â recriwtio, rydym yn gweithio gyda Gofal Cymdeithasol Cymru i sicrhau gwerthusiad cadarn o ymgyrch Gofalwn.Cymru. Mae Gofal Cymdeithasol Cymru eisoes wedi comisiynu gwaith ymchwil ar ddulliau recriwtio cyflogwyr gofal, gan gynnwys eu hymwybyddiaeth o'r ymgyrch a'i heffaith, a bydd hwnnw'n cael ei gwblhau ddechrau'r flwyddyn nesaf. Rwy'n meddwl ei bod yn anodd sefydlu pa mor llwyddiannus yw ymgyrchoedd recriwtio penodol pan fo gennym gymaint o ddarparwyr yn darparu gofal cymdeithasol yng Nghymru oherwydd y nifer fawr o gartrefi gofal yn y sector annibynnol.
Mae'r adroddiad yn cydnabod y potensial ar gyfer defnyddio mwy o wirfoddolwyr mewn cartrefi gofal, rhywbeth y mae nifer o'r Aelodau wedi'i grybwyll, ac yn ein hymateb ysgrifenedig fe wnaethom fanylu ar y gwaith a wnawn gyda'n partneriaid i ehangu rôl, cyrhaeddiad a sgiliau gwirfoddolwyr yn y lleoliadau hyn ac i dyfu eu niferoedd. Rwy'n awyddus iawn i annog gwirfoddolwyr i ymwneud mwy â chartrefi gofal ac ystyriaeth allweddol fydd sicrhau bod rôl gwirfoddolwyr yn glir ac yn briodol, ac yn canolbwyntio ar werth ychwanegol.
Rydym yn cytuno'n llwyr fod rhaid i brofiadau dinasyddion fod yn sail ac yn ysgogiad i bob gwelliant yn y ddarpariaeth gofal cymdeithasol, ac rydym yn derbyn yr egwyddor sy'n sail i argymhelliad y pwyllgor y dylid cyflwyno gofyniad gorfodol ychwanegol i rannu'r wybodaeth hon. Fodd bynnag, nid wyf wedi fy argyhoeddi ar hyn o bryd fod costau gweithredu hyn ar draws cannoedd o ddarparwyr yn gorbwyso'r manteision y tu hwnt i'r mesurau rhannu gwybodaeth sydd eisoes ar waith. Fodd bynnag, mae'n rhywbeth y gallwn ei ystyried yn y dyfodol. Ar ffioedd ychwanegol, byddwn yn pryderu'n fawr os oes unrhyw unigolyn yn talu am ofal lle mae'r gofal hwnnw eisoes yn cael ei ddarparu am ddim drwy'r pwrs cyhoeddus, ac rwy'n nodi'r sylwadau a wnaeth sawl Aelod ynghylch gorfod talu ffioedd ychwanegol i gael mynediad i'r ardd, sy'n gwbl hurt. Felly, rwy'n credu y byddai hynny'n gwbl anghywir.
Mae canllawiau clir eisoes ar wasanaethau ychwanegol yn y fframwaith gofal iechyd parhaus, a rhaid peidio byth â defnyddio trefniadau cyfraniadau personol o'r fath fel mecanwaith ar gyfer sybsideiddio'r gwasanaeth y mae'r GIG yn gyfrifol amdano. Felly hefyd, nid ydym yn credu ei bod yn briodol ymrwymo i ddiwygiadau i reoliadau ar ben y rhain, na chychwyn system gwneud iawn annibynnol newydd, cyn ystyried adroddiad gan y grŵp arbenigol ar y gwasanaeth gofal cenedlaethol. Byddai angen inni ystyried yn ofalus sut y mae unrhyw gywiriadau canlyniadol y gallem eu gwneud i'r rheoliadau a'r fframweithiau presennol yn gweddu i gyd-destun unrhyw system newydd, felly nid ydym yn teimlo y gallwn dderbyn yr argymhelliad hwnnw yn awr.
Yna, yn olaf, mewn perthynas â chyllid cyfun ar gyfer comisiynu, mae'r grŵp gorchwyl a gorffen ar wasanaethau integredig wedi bod yn adolygu'r trefniadau presennol fel rhan o'n rhaglen ailgydbwyso, ac yn fwyaf arbennig maent wedi ystyried adroddiad Archwilio Cymru ar gomisiynu lleoliadau cartrefi gofal ar gyfer pobl hŷn. Byddant hefyd yn adolygu effaith y pecyn cymorth a gydgynhyrchwyd gyda rhanddeiliaid. Bydd argymhellion gan y grŵp gorchwyl a gorffen yn rhan o'r pecyn ymgynghori y gwanwyn nesaf.
Yn olaf, hoffwn ddiolch yn fawr i'r pwyllgor am ei adroddiad, sy'n adroddiad gwerthfawr iawn yn fy marn i. Mae'n amlwg fod llawer i'w wneud. Mae llawer o waith yn parhau, ac edrychaf ymlaen at barhau i weithio gyda'n partneriaid ar yr agenda hon drwy'r gwahanol grwpiau a sefydlwyd gennym. Fe fyddwn yn cadw'r argymhellion y mae'r pwyllgor wedi'u gwneud mewn cof, ac rwy'n hapus i adrodd yn ôl ar y rheini i'r pwyllgor wrth iddynt fwrw ymlaen. Diolch.
Galwaf ar Mark Isherwood i ymateb i'r ddadl.
Diolch. Mae'n rhaid i mi fod yn fyr, gan fod amser yn brin, ond diolch yn fawr i'r holl gyfranwyr.
Mike Hedges, fel y dywedoch chi, roedd yr ymchwiliad hwn yn amserol. Er ei fod yn cynnwys pobl hŷn yn bennaf, nid yw'n ymwneud â phobl hŷn yn unig; dylai popeth fod yn deg, ac mae angen inni symud o wneud pethau i, neu ar gyfer pobl, i wneud pethau gyda hwy.
Pwysleisiodd Natasha yr angen am sefydlogrwydd ariannol lle mae'r dirwedd ariannu yn gymhleth ac yn ddryslyd ac mae staff yn cael eu colli i'r sectorau manwerthu a lletygarwch.
Soniodd Peredur Griffiths am yr angen i symleiddio'r broses ar gyfer comisiynu cartrefi gofal, ac am ddiffyg capasiti ysbytai cymunedol. Mae hynny'n mynd a fi'n ôl at yr ymgyrch a gafodd ei hennill i ddechrau ac yna'i cholli, yn nhrydydd tymor y Senedd, Ysbytai Cymunedol yn Gweithredu'n Genedlaethol Gyda'i Gilydd, CHANT Cymru. Fe wnaethom ddal y lein am gyfnod byr ond yna fe wnaethant eu cau. Ond nid y Gadair sy'n siarad nawr—am eiliad, roeddwn i'n Aelod annibynnol. Iawn. [Chwerthin.]
Cyfeiriodd Gareth Davies at bwysigrwydd rôl nyrsys, a phwysigrwydd recriwtio a chadw staff hefyd.
Diolch i'r Dirprwy Weinidog am ei hymateb. Cyfeiriodd at Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, a soniodd am astudiaethau gwerthuso'n cael eu cynnal, a defnyddwyr gwasanaethau a gofalwyr yn helpu Llywodraeth Cymru i lywio hyn drwy grwpiau gorchwyl a gorffen. Mae angen inni wybod sut y mae'r grwpiau hynny'n cydymffurfio ag egwyddorion cydgynhyrchu, sy'n ymwneud â gwneud amser i arbed amser, a throi'r peth pŵer wyneb i waered. Sut y mae hynny'n adeiladu gwytnwch a chapasiti cymunedol, fel y gall pobl fod yn bartneriaid a chyd-grewyr gwirioneddol gyfartal?
Fel y dywedodd yr ymateb ysgrifenedig sydd gennym gan Lywodraeth Cymru, pan fydd adroddiad y grŵp arbenigol yn cael ei ystyried gan Weinidogion a'r Aelod dynodedig, bydd cyfnod helaeth o ymgynghori, gan gynnwys defnyddwyr gwasanaethau a'u teuluoedd, fel rhan o'r broses i ddatblygu cynllun gweithredu. Mae hwnnw'n gwbl wahanol i Ddeddf gwasanaethau cymdeithasol a llesiant, a'i godau ymarfer. Ble mae'r egwyddorion gofal darbodus go iawn—egwyddorion cydgynhyrchu, ymyrraeth gynnar ac atal?
Ac ar yr argymhellion a dderbyniwyd ac a wrthodwyd fel ei gilydd, rwy'n falch o glywed peth o ymateb y Dirprwy Weinidog, ond rwy'n dal i deimlo efallai fod yna ddiffyg, sydd i'w weld mewn gwasanaethau cyhoeddus mewn mannau eraill yng Nghymru, o ran deall yn iawn beth y mae llais profiad bywyd, yr arbedion costau y gellir eu cynhyrchu drwy hynny a rhannu gwybodaeth yn ei olygu mewn gwirionedd. Ac os ydym yn gwneud hynny'n iawn, sut y gallwn wella bywydau go iawn, adeiladu cymunedau cryfach ac yn y pen draw, nid ychwanegu costau ond arbed costau hefyd. Diolch.
Y cwestiwn yw: a ddylid nodi adroddiad y pwyllgor? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nid wyf wedi clywed gwrthwynebiad, felly derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.