– Senedd Cymru am 5:10 pm ar 25 Hydref 2022.
Yr eitem nesaf felly yw'r datganiad gan y Diprwy Weinidog Newid Hinsawdd ar gau Pont Menai, a dwi'n galw ar y Gweinidog i wneud y datganiad hynny—Lee Waters.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd, a diolch i chi am y cyfle i roi diweddariad i'r Aelodau ar bont Menai. Fel y bydd Aelodau yn gwybod, am 2 p.m. ddydd Gwener 21 Hydref, penderfynodd Llywodraeth Cymru gau pont Menai i'r holl draffig ar unwaith. Ni wnaed y penderfyniad ar chwarae bach; cafodd ei wneud ar sail diogelwch ar ôl cyngor clir gan beirianwyr strwythurol a sgyrsiau gyda'r heddlu.
Mae pont Menai yn cael ei rheoli gan gwmni preifat, UK Highways A55 Ltd, fel rhan o fenter cyllid preifat sy’n cael ei alw yn gontract dylunio-adeiladu-ariannu-gweithredu, neu DBFO, ar gyfer yr A55 ar Ynys Môn a dolen Menai. Fel rhan o'u cyfrifoldeb cynnal a chadw, mae UK Highways wedi bod yn cynnal archwiliadau ar y bont. Maen nhw'n gwneud hyn i safon diwydiant bob dwy a chwe blynedd. Mae'r archwiliadau cyffredinol bob dwy flynedd yn archwiliadau gweledol lle archwilir pob rhan o'r strwythur, gan ddefnyddio binocwlars neu arolygon drôn o'r awyr fel arfer. Mae'r prif archwiliad yn digwydd bob chwe blynedd, ac mae'n cynnwys archwilio'r holl rannau y gellir eu harolygu o'r bont sydd o fewn pellter cyffwrdd. Mae'r arolwg manwl yn cynnwys archwiliadau gweledol, yn ogystal â thechnegau arbenigol megis arolygon tapio gyda morthwyl ar goncrit, neu fesur rhwd.
Fel rhan o'r prif arolygiad diwethaf yn 2019, nodwyd pryder am gadernid hongwyr sy'n cefnogi'r bont grog, ac arweiniodd at gyfyngiad pwysau yn cael ei osod ar y bont tra bod astudiaethau pellach yn cael eu cynnal. Adroddwyd yr arolygiad diweddaraf i Lywodraeth Cymru ddydd Mercher diwethaf, ac yn annisgwyl fe dynnodd sylw at bryder ar unwaith ynghylch mecanwaith methiant bregus yr hongwyr. Fel sy'n arfer safonol, fe wnaeth swyddogion adolygu’r canfyddiadau a’u herio. Fodd bynnag, yn seiliedig ar gyngor clir iawn gan beirianwyr strwythurol, ystyriwyd nad oedd opsiwn arall ond cau'r bont tra bod gwiriadau pellach ar y dadansoddiad yn cael eu cynnal gan ymgynghorydd annibynnol.
Fel rydw i’n ei ddweud, nid yw hyn yn benderfyniad a wnaed ar chwarae bach, ac rwy'n llwyr werthfawrogi goblygiadau i bobl leol, yn enwedig heb unrhyw rybuddion ymlaen llaw. Yn wreiddiol, fe wnaethom gynllunio ymgyrch gyfathrebu o flaen llaw i roi rhybudd i bobl, ond yn dilyn sgyrsiau pellach gyda'r heddlu ac yn seiliedig ar y cyngor, fe wnaethom ni benderfynu ei bod hi'n ddoeth cau'r bont ar unwaith. Mae diogelwch ein rhwydwaith a'r cyhoedd sy'n teithio yn hollbwysig, ac mae'r penderfyniad wedi bod yn seiliedig ar yr argymhellion diogelwch gan nifer o beirianwyr strwythurol, ymhlith y gorau yn y byd. Mae'r canfyddiadau a arweiniodd at yr argymhelliad i gau'r bont yn cael eu hadolygu ar hyn o bryd, fel sy'n safonol. Bydd yr adolygiad cychwynnol yn cymryd hyd at bythefnos. Mae swyddogion, ynghyd â rhanddeiliaid, yn asesu'r holl opsiynau sydd ar gael i ailagor y bont cyn gynted â phosib. Efallai y bydd angen gosod gwaith i gryfhau'r hongwyr dros dro er mwyn sicrhau diogelwch ac uniondeb pont Menai, a gallai'r rhaglen hon gymryd rhwng 14 ac 16 wythnos, gyda'r bont yn ailagor i gerbydau hyd at 7.5 tunnell, eto ar ddechrau 2023.
Nawr, rwy'n ymwybodol iawn o'r anghyfleustra mae hyn yn ei achosi. Yn amlwg, mae pont Menai yn gyswllt hanfodol i bobl y gogledd a thu hwnt, a hoffwn ddiolch i bobl leol am eu hamynedd a'u dealltwriaeth tra bod y gwaith brys hwn yn digwydd. Ac rwyf i am eu sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda UK Highways a'r holl randdeiliaid, gan gynnwys y gwasanaethau brys, i sicrhau y gellir gwneud hyn mor gyflym a diogel â phosibl. Mae'r holl draffig cerbydau bellach yn cael ei ddargyfeirio i bont Britannia, ac mae swyddogion Llywodraeth Cymru wrthi'n gweithio ar frys ar gynlluniau wrth gefn pellach yn yr ardal, a byddant yn parhau i fonitro'r tagfeydd i lywio newidiadau yn y dyfodol. Maen nhw hefyd yn datblygu strategaethau pellach i gynyddu cadernid ar bont Britannia i liniaru'r risg y bydd y ddwy bont yn cau mewn amgylchiadau eithriadol.
Gallaf gadarnhau, yn dilyn trafodaethau gyda UK Highways a'u harbenigwyr strwythurol, cytunwyd bod modd ailagor y llwybr troed ar draws y bont ar gyfer cerddwyr a beicwyr oddi ar eu beiciau. Rhaid i gerddwyr aros ar y llwybr troed, a bydd y niferoedd yn gyfyngedig, a monitro'n digwydd. Mae swyddogion yn gweithio gyda UK Highways i helpu i gyfyngu’r effaith ar y gwasanaethau brys ac i ganiatáu eu cerbydau, sy'n pwyso llai na 7.5 tunnell, ar draws pont Menai, os bydd A55 pont Britannia yn cau. Bydd hyn yn amodol ar y gwasanaethau brys yn bodloni meini prawf penodol a’r rheolaeth traffig, sy’n cael ei roi ar waith gan UK Highways, ei bod hi’n ddiogel i ganiatáu i hyn ddigwydd.
Mae effeithiau'r cau yn newydd iawn. Mae swyddogion eisoes yn ystyried yr effeithiau a byddant yn parhau i fonitro'r rhwydwaith ffyrdd i weld beth y gellir ei wneud er mwyn lleddfu tagfeydd ymhellach. Byddaf yn rhoi diweddariadau pellach wrth i bethau fynd yn eu blaen, a hoffwn wahodd yr Aelodau lleol i sesiwn friffio technegol gyda swyddogion Llywodraeth Cymru, fel y gallant ofyn eu cwestiynau manwl eu hunain i fodloni eu hunain gyda’r penderfyniadau a'r camau nesaf. Byddwn i'n annog pobl leol i ymweld â gwefannau Llywodraeth Cymru a Traffig Cymru a sianeli cyfryngau cymdeithasol i gael y wybodaeth ddiweddaraf. Unwaith eto, rwy'n hynod ddiolchgar i bawb fydd yn cael eu heffeithio gan hyn. Byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i ailagor y bont cyn gynted ag y bydd yn ddiogel i wneud hynny. Diolch.
Dirprwy Weinidog, mae'r golygfeydd rydyn ni wedi bod yn eu gweld yn digwydd yn Ynys Môn dros y dyddiau diwethaf yn gwbl annerbyniol ac, os caf fentro dweud, y gellid bod wedi eu hosgoi. Mae'n rhaid i mi ddweud, o'r eiliad y caeodd y bont yn sydyn yn hwyr brynhawn Gwener, mae anhrefn llwyr wedi bod yn yr ardal, gyda gyrwyr, cerddwyr a seiclwyr wedi'u gadael yn sownd. Mae fy mewnflwch wedi bod yn llawn negeseuon, ac rydw i wedi fy lleoli yn y de-ddwyrain. Bydd cau'r bont ar y funud olaf heb rybudd ymlaen llaw am yr hyn a allai fod yn bedwar mis nid yn unig yn taro trigolion, ymwelwyr a chymudwyr, ond hefyd busnesau gweithgar yn yr ardal. Wrth gwrs, Dirprwy Weinidog, mae diogelwch yn hollbwysig—dydw i ddim yn mynd i'w wadu am un eiliad—ond sut ar y ddaear ydyn ni ond bellach yn ymwybodol o wendidau strwythurol yma heddiw? Dylai pont 200 mlwydd oed, sy'n cael ei defnyddio gan bron i 50,000 o gerbydau bob dydd, gael ei harchwilio'n rheolaidd, nid bob chwe blynedd. Pe bai'r broblem hon wedi cael ei chodi ynghynt, gellid bod wedi rhoi rhybudd o flaen llaw a byddai pobl Ynys Môn wedi gallu gwneud trefniadau amgen. Bellach mae disgwyl i fodurwyr ddefnyddio pont Britannia tra bod Pont Menai ar gau. Yn syml, nid yw hyn yn mynd i weithio, Dirprwy Weinidog, yn enwedig nawr wrth i ni fynd i'r gaeaf, pan fydd pont Britannia ar gau yn rheolaidd oherwydd gwyntoedd cryfion. Beth sy'n digwydd os bydd pont Britannia yn gorfod cau tra bod Pont Menai ar gau? Mae rhai o fy nghydweithwyr yma, a fy nghydweithiwr anrhydeddus Virginia Crosbie yn San Steffan, wedi bod yn cael ymosodiadau ar y cyfryngau cymdeithasol gan eich Plaid Lafur chi dros y saga wael hon. Mae'r Blaid Lafur, sy'n amlwg heb wir ddealltwriaeth o'r sefyllfa, wedi bod yn honni bod hyn yn broblem i Lywodraeth y DU, oherwydd ei fod yn cynnwys cwmni o'r enw UK Highways A55 Limited—[Torri ar draws.]
Datganiad yw hwn, Janet Finch-Saunders. [Torri ar draws.] Ers pryd ydych chi wedi bod yma, Janet?
Roeddwn i ond yn ceisio.
Rwy'n falch eich bod chi wedi rhoi diwedd ar yr honiadau anghywir hyn—[Torri ar draws.] Rwy'n falch eich bod chi wedi rhoi diwedd ar yr honiadau anghywir hyn trwy gadarnhau bod UK Highways A55 Limited yn gwmni preifat, a bod y cyfrifoldeb yn nwylo eich Llywodraeth chi, nid San Steffan. Fodd bynnag, dylech chi fod wedi gwneud hyn yn gwbl glir o'r cychwyn cyntaf, oherwydd mae wedi arwain at lawer o ddryswch gyda'r cyhoedd, gwleidyddion a'ch plaid chi eich hun. Gadewch i mi fod yn glir o'r cychwyn cyntaf: rwy'n credu'n gryf fod y ffiasgo hwn yn amlygu esgeulustod Llywodraeth Cymru o'r gogledd ymhellach ac yn dangos bod rhaniad mawr yn dal i fodoli rhwng y gogledd a'r de. Mae'n hanfodol ailagor pont Menai, sydd yn wythïen hanfodol, cyn gynted â phosibl, a rhaid i'ch Llywodraeth wneud popeth o fewn ei gallu i sicrhau bod sefyllfaoedd fel hyn yn cael eu hosgoi yn y dyfodol. A fyddwch chi'n ymrwymo nawr, wrth symud ymlaen, y bydd pont Menai yn cael ei harchwilio'n rheolaidd ac yn drylwyr fynd i'r afael ag unrhyw broblemau yn y dyfodol cyn iddyn nhw waethygu? Oherwydd mae pobl a busnesau Ynys Môn yn haeddu gwell na hyn, Dirprwy Weinidog.
Wel, er ei fod yn gymaint o demtasiwn, Llywydd, i ymgysylltu â'r cyfraniad hwnnw yn yr un cywair ag y'i cynigiwyd, dydw i ddim am wneud hynny. Rwy'n credu bod hwnnw'n ymyrraeth annoeth iawn ar yr hyn sy'n bwnc difrifol iawn.
Mae archwiliadau rheolaidd o'r bont i safon y diwydiant, sy'n llawer uwch nag i'r rhwydwaith priffyrdd arferol, sy'n ddull sy'n seiliedig ar risg. Nid yw archwiliadau o'r bont yn seiliedig ar risg, maen nhw'n cael eu cynnal yn rheolaidd, ac fe wnes i sôn am y broses ar gyfer hynny, a thrwy'r archwiliad rheolaidd hwnnw y tynnwyd sylw at y broblem gychwynnol. Mae gwaith monitro parhaus wedi bod yn digwydd ers hynny, a'r monitro parhaus hwnnw sydd wedi amlygu'r potensial am fethiant pellach, a'n harweiniodd ni i weithredu ar unwaith. Ac fel yr eglurais, gallem fod wedi aros tan ddiwedd y penwythnos a rhoi rhybudd ymlaen llaw y byddai'r bont yn cau ddydd Llun, ond, wrth fyfyrio, roedden ni'n meddwl y byddai hynny'n anymarferol; petai rhywbeth wedi digwydd, byddai hynny wedi bod yn anfaddeuol. Ac o ystyried pwysau'r cyngor yr oeddem ni'n ei gael gan y peirianwyr strwythurol, roedd yn amlwg mai'r peth iawn i'w wneud oedd gweithredu ar unwaith, gan wybod yn iawn y byddai hyn yn achosi gofid ac anghyfleustra, yr ydym ni'n gresynu'n arw yn ei gylch, ond roeddem ni'n teimlo mai dyma'r peth cyfrifol i'w wneud. Ac os oes gan yr Aelod amser i ailddarllen y datganiad a roddais, rwy'n credu ei fod yn ateb yn deg y cwestiynau sydd wedi eu codi, ac rwy'n gresynu'r ffordd y mae wedi gwneud ei hymyrraeth heddiw.
Diolch am y datganiad. Mae'n rhaid dweud wrth y Gweinidog: mae hyn yn llawer mwy nag anghyfleustra, ac mae'n rhaid i mi ddweud hefyd fod y sefyllfa'n llawer mwy difrifol nag yr oedd llefarydd y Ceidwadwyr wedi'i drin o. Dwi'n meddwl bod yna dri chwestiwn sylfaenol yn codi rŵan. Yn gyntaf, y flaenoriaeth: beth ydy'r camau sy'n cael eu cymryd i ymateb i hyn, cadw traffig i lifo, lliniaru risgiau? Yn ail, cyflwr y bont: sut adawyd i hyn ddigwydd yn y lle cyntaf? Sut mae dod o hyd i'r ffordd gyntaf i ailagor yn ddiogel? Ac yn drydydd, beth fydd yr ymateb er mwyn sicrhau gwytnwch yn yr hir dymor?
O ran yr ymateb rŵan, te, mae yna gymaint o haenau i hyn: sicrhau does dim rhwystrau i gerbydau brys; sut i gael staff allweddol i'w gwaith—staff Ysbyty Gwynedd yn arbennig, ond llawer mwy na hynny—sut i gael pobl allan o'u ceir—mwy o drenau'n stopio mewn mwy o orsafoedd, mwy o fysus, annog mwy o ddefnydd o park and rides, bysus gwennol ac ati. A fydd y llwybr cerdded ar agor drwy'r cyfnod yma? Dydy hynny dal ddim yn hollol glir. Oes modd defnyddio'r llwybr wrth ymyl y rheilffordd ar ddec isaf pont Britannia i ryw bwrpas? Mae hynny'n rywbeth dwi wedi'i godi o'r blaen.
Mae yna bwysau ar wasanaethau iechyd. Pa gamau fydd yna i wella darpariaeth ar yr ynys yn Ysbyty Penrhos Stanley, er enghraifft? Beth am gynlluniau i leihau'r angen i gau pont Britannia mewn gwynt, a'r cynlluniau brys wedyn, parcio loris ac ati, os oes rhaid cau? Beth am gynlluniau i liniaru ym mhorthladd Caergybi? Fel dwi'n dweud, mae yna gymaint o elfennau i hyn—gormod o restr yn fanna i ddisgwyl ymateb ar bob un ohonyn nhw gan y Gweinidog—ond does yna brin ddim mesurau cadarn wedi cael eu hamlinellu hyd yma. Mae'n rhaid inni glywed am fesurau pendant ar frys. A hefyd, os caf i ddweud, mi fydd angen buddsoddiad. Felly, a allwn ni gael ymrwymiad o adnoddau ychwanegol i'r cyngor sir, fydd yn gorfod delifro sawl elfen o'r mesurau yma?
Gadewch i ni ddod at yr ail elfen, te: sut ddigwyddodd hyn? Rydyn ni wedi cael disgrifiad o'r rhaglen archwilio ac ati a wnaeth arwain at y datganiad ddydd Gwener, ond mae yna gwestiynau'n parhau i fi. Sut mae pethau wedi gallu gwaethygu mor gyflym, yn cyrraedd pwynt mor gritigol, mae'n ymddangos, mewn cyfnod mor fyr? Mae'n lot o waith edrych ar ôl pont o'r math yma—yn sicr dyw e ddim mor hawdd ag roedd Lewis Carroll yn ei awgrymu yn Through the Looking-Glass:
'Roeddwn i newydd / gwblhau fy nyluniad / i gadw Pont Menai rhag rhwd / Trwy ei berwi mewn gwin.'
Nid felly mae gwneud. Ond a oedd y gwaith cynnal a chadw, y gwaith paentio ac amddiffyn, wedi bod yn ddigon da? Yn sicr, dwi wedi bod yn gweld rhwd. Mwy nag arfer? Dwn i ddim; dwi ddim yn beiriannydd. Ond oedd Llywodraeth Cymru'n monitro'n ddigon da'r modd yr oedd UK Highways yn gwneud eu gwaith? Ac ai gwaith UK Highways oedd adnabod problemau'n gynnar—preventative maintenance schedule—neu ymateb i broblemau wrth iddyn nhw godi? Buaswn i'n mawr obeithio mai bod yn rhagweithiol oedd gofynion y cytundeb.
Mae'n rhaid rhoi diogelwch yn gyntaf, wrth gwrs, ond hefyd mae angen asesu'n drylwyr ai cau oedd yr unig opsiwn. Oes modd symud yn gynt, yn ddiogel—hynny ydy, i ailagor? Ydw i'n iawn i ddeall mai asesu bydd yn digwydd am y tri neu bedwar mis nesaf, ac y gallai gwaith trwsio gymryd mwy na hynny?
A gadewch i mi droi at y pwynt olaf. Dwi ac eraill wedi rhybuddio'n hir am hyn. Rydyn ni angen croesiad newydd. Mi oedd Llywodraeth Cymru wedi addo croesiad, a dydy o dal ddim wedi digwydd. Mae yna bris i'w dalu am oedi—pris mewn punnoedd, pan fo chwyddiant mor fawr ag ydy o rŵan, ond pris cymunedol hefyd. Y ffaith bod cynllun Wylfa wedi dod i stop sy'n cael y bai yn aml, ond gadewch inni fod yn glir: nid ymateb i broblem traffig ydy'r angen am groesiad dual carriageway lle mae'r Britannia. Ydy, mae hi'n boen aros mewn ciw i groesi, ond, mewn difrif, gwytnwch—resilience—sydd dan sylw yn fan hyn. Dau groesiad sydd yna, ac mae un ohonyn nhw'n bont grog 200 mlwydd oed.
Mi fu ond y dim i mi gael cytundeb Llywodraeth Cymru rai blynyddoedd yn ôl i gael system tair lôn, system peak flow, ond bod peirianwyr y Llywodraeth wedi penderfynu yn y pen draw bod y bont yn rhy gul i hynny, yn enwedig o ystyried bod traffig yn ymuno efo pont Britannia ar gyflymder uchel. Efallai fod modd edrych ar weithredu rhywbeth felly dros dro rŵan. Ond y gwir amdani ydy bod angen ateb parhaol, gwydn. Un peth ydy bod yn ynys, peth arall ydy cael ein hynysu, a dyna'r realiti sydd wedi cael ei amlygu rŵan. Dwi'n edrych ymlaen at ymrwymiad o'r newydd i ailgydio, ar frys, yn y gwaith o ddatblygu croesiad newydd.
Wel, hoffwn ddiolch i'r Aelod am y ffordd mae wedi ymgysylltu â'r mater hwn, ac rwy'n deall ei bryderon, ac mae'r cwestiynau hynny'n deg. Fe wnaf i geisio ateb rhai ohonyn nhw nawr. Byddaf yn ysgrifennu ato gyda'r rhai nad wyf wedi eu hateb, ac fel y dywedais i, byddwn yn sefydlu cyfarfod iddo ef ac eraill siarad â phrif beiriannydd Llywodraeth Cymru i siarad drwy'r cwestiynau a'r pryderon manwl sydd ganddo.
Rwy'n credu bod y cwestiynau cyffredinol, 'A gafodd digon ei wneud?' 'Oes yna wersi wedi eu dysgu?', yn gwestiynau teg, ac mae'r rheiny'n gwestiynau rydyn ni'n eu gofyn i ni'n hunain, a byddwn ni'n adolygu'r hyn sydd wedi digwydd i'n cael ni i'r cam hwn. Rwy'n credu ei bod hi’n deg dweud bod ein swyddogion wedi synnu pan gawsom yr adroddiad ddydd Mercher diwethaf bod angen gwneud gwaith brys. Cefais wybod amdano ddydd Mercher a chefais wybod i ddechrau nad yw'n anarferol i bryderon gael eu codi, ond y broses yw eu herio a'u profi, o ystyried canlyniadau cau, i wneud yn siŵr ein bod ni’n gwbl sicr. Cefais wybod wedyn ddydd Iau, ar ôl cael profion pellach a sgyrsiau pellach—. Fel y dywedais i, mae’r cwmni o beirianwyr sydd wedi bod yn gwneud y gwaith hwn yn fyd-enwog am y gwaith hwn. Maen nhw hefyd yn gweithio ar bont grog Clifton, felly maen nhw'n gyfarwydd â'r math o beirianneg dan sylw. Ac o ystyried bod eu cyngor mor glir, teimlwyd bod yn rhaid gwneud hyn yn syth, ond nid oedd yn rhywbeth yr oeddem ni wedi’i ragweld. Felly, yn amlwg, roedd rhywbeth wedi newid ers yr archwiliad blaenorol i fod angen y gwaith hwn. Ond, ar un ystyr, roedd y system yn gweithio. Mae'r system yn un sy’n cynnwys gwiriadau—gwiriadau rheolaidd, gwaith dilynol, dadansoddiad—a dyna ddigwyddodd. Cafodd ei nodi am y tro cyntaf fel problem yn 2019, roedd cyfyngiad ar gerbydau trwm yn croesi, gwnaed gwaith dilynol a phrofi pellach, ac mae hynny wedi arwain at benderfyniad a thrafodaeth heddiw. Felly, ar un ystyr, mae'r mesurau diogelwch a oedd gennym ni ar waith wedi profi eu bod yn effeithiol.
Mae'r risg o ddigwyddiad trychinebus yn digwydd i'r bont yn dal i fod yn isel, ond mae'n rhy uchel i ni allu mentro. Ac fel y nododd yr Aelod yn gywir, mae hon yn bont hen iawn. Gosodwyd tua 40 o hongwyr newydd yn lle hen rai yn yr 1990au, ond mae dros 200 yn weddill sy'n llawer hŷn, a thechnoleg llawer hŷn. Ac mae hynny hefyd yn creu rhywfaint o ansicrwydd, oherwydd mae'r dechnoleg fwy newydd yn gallu cael ei phrofi ac yn gallu cael ei monitro mewn ffordd llawer mwy dibynadwy. Mae gennym ni rywfaint o ansicrwydd gyda'r hongwyr llawer hŷn. Dyna un o'r rhesymau pam rydyn ni wedi bod yn ofalus wrth wneud y penderfyniadau rydym ni wedi’u gwneud. Mae'n bosib y bydd y gwiriadau fydd yn digwydd dros y pythefnos nesaf yn canfod ein bod ni wedi gorymateb ac y byddwn ni’n gallu agor y bont, gyda chyfyngiad pwysau, llawer, llawer cynt. Mae fy swyddogion yn fy nghynghori eu bod nhw’n credu bod hynny'n annhebygol, ond mae'n sicr yn bosibilrwydd, ac ni fyddwn ni’n cadw hon ar gau yn hirach nag yr ydym ni’n credu sydd wedi ei gyfiawnhau drwy bwyso a mesur risgiau.
Er mwyn ceisio ateb rhai o'r cwestiynau am lif y traffig, wel, mae cynlluniau yn cael eu datblygu gyda'r awdurdod lleol a gyda UK Highways i fonitro hynny ac i roi unrhyw fesurau lliniaru ar waith, ac rwy'n hapus i roi mwy o fanylion i chi am y rheini. O ran, wedyn, y cynlluniau wrth gefn o ran beth ddylai ddigwydd os yw'r ddwy bont ar gau—. A dim ond rhywfaint o sicrwydd ar hyn—mae hyn wedi tueddu i ddigwydd rhywbeth fel dim mwy na dwywaith y flwyddyn. Felly, mae'n ddigwyddiad prin, a phan mae'n digwydd, mae'n digwydd yn gyffredinol am fater o oriau. Mae'n amlwg yn achosi aflonyddwch enfawr, ac nid wyf i'n ei leihau; rydw i yn ei roi mewn cyd-destun o ran pa mor aml. Rydw i’n meddwl ei bod wedi'i chau 10 gwaith ers 1987, pont Britannia.
Nawr, fel mae'n digwydd, mae yna wyntoedd cryfion yn cael eu rhagweld ar gyfer yfory, felly mae'n caniatáu i ni roi cynlluniau ar waith ar unwaith i hysbysu gyrwyr o'r amodau ac annog y rhai sydd â cherbydau agored i niwed, fel carafanau a beiciau modur, i beidio â theithio tra bod yr amodau gwynt uchel hynny’n mynd rhagddynt, ac mae'r rhai sy'n gwneud hynny yn gwneud hynny ar eu risg eu hunain. Mae'r swyddogion yn gweithio gydag asiantaeth cefnffyrdd y gogledd ar strategaeth wyntoedd uchel newydd ar gyfer yr A55 Britannia i adolygu hyrddiadau gwynt yn erbyn cyflymder cerbydau, a gallai'r opsiwn i leihau'r terfyn cyflymder i 30 mya gynorthwyo gyda chaniatáu i'r cerbydau mwyaf agored i niwed groesi pan fydd hyrddiadau gwynt uchel. Mae cynlluniau wrth gefn hefyd yn cael eu drafftio, a byddai opsiynau cychwynnol yn y cynllun hwn yn cynnwys yr opsiynau i gynyddu cyfleusterau parcio a theithio, creu opsiynau safle pentyrru posibl, ac adolygu'r defnydd o'r rheilffyrdd i'r ynys ac oddi yno. Felly, mae llawer o feddwl, fel y gallech chi ddychmygu, yn mynd i edrych ar ystod gyfan o bosibiliadau, o ystyried pwysigrwydd y ddolen hon.
O ran cadernid y bont yn yr hirdymor, fel soniodd Rhun ap Iorwerth, mae gwaith wedi bod yn mynd ymlaen i edrych ar drydydd croesiad. Mae hynny bellach wedi mynd trwy gam 2 WelTAG. Byddai'n costio rhywle yn agos i £400 miliwn. Dyna'r amcangyfrif presennol. Felly, mae'n benderfyniad sylweddol i'w wneud a buddsoddiad i'w wneud. Fel y gwyddoch chi, mae wedi cael ei adolygu fel rhan o'r panel adolygu ffyrdd, ynghyd â'r holl gynlluniau eraill yng Nghymru, a byddwn ni hefyd yn gofyn i adolygiad Burns yn y gogledd edrych ar ba gynlluniau wrth gefn y gellid eu rhoi ar waith yn y tymor byr. Hyd yn oed pe byddem ni’n ddechrau ei hadeiladu nawr, mae'r broses yn cymryd tua saith mlynedd. Mae'r pethau yma'n ddrud ac yn araf. Felly, byddwn ni’n gofyn i Burns fynd i'r afael â'r broblem o ran cadernid yn y tymor hwy, a bydd yr adroddiad hwnnw ar gael y flwyddyn nesaf.
Felly, rwy'n credu, fel rydw i wedi’i nodi, rydyn ni’n gwneud rhai pethau tymor byr. Os yw'r archwiliad hwnnw ymhen pythefnos yn dangos mai'r penderfyniad oedd yr un cywir, yna bydd rhywfaint o fodelu manwl yn cael ei wneud gan gwmni cwbl ar wahân, sydd hefyd yn brofiadol iawn yn y strwythurau hyn, i wneud yn siŵr ei fod yn annibynnol, ac yna bydd modelu pellach yn cael ei wneud. Felly, byddwn ni’n sicrhau ein bod ni’n gwneud hyn yn iawn a byddwn ni’n sicrhau ein bod ni’n ei wneud gyda diogelwch mewn golwg, a byddwn ni’n gwneud popeth o fewn ein gallu yn y cyfamser i helpu pobl Ynys Môn a thu hwnt sy'n profi anghyfleustra oherwydd y tagfeydd mae hyn yn ei achosi ar adegau prysur.
Mae gen i ambell i awgrym hefyd gan drigolion. Mae'n debyg bod rhai ohonyn nhw eisoes wedi cael sylw, os yw hynny'n iawn. Fel y dywedais i o'r blaen, mae Britannia yn dagfa barhaol ac mae'n ffordd ddeuol ar y bont, ond mae lle hefyd i lôn arall, sydd wedi cael ei thrafod yn y gorffennol ac a godwyd yn gynharach. Felly, a fyddai'r Gweinidog yn gofyn am ail-werthuso'r drydedd lôn ganolog ar frys ar draws pont Britannia, gyda rheolaeth traffig yn gweddu i gyfeiriad y llif ar yr adegau prysuraf?
A hefyd, fel y soniwyd hefyd, mae dec is ar bont Britannia, ac rwy'n gwybod bod beicwyr wedi bod yn gofyn ers talwm os byddai modd ailagor hwnnw eto fel llwybr beicio. Gallai hynny ddigwydd nawr. Mae'r rheilffordd wedi'i ffensio, felly gallai hynny ddigwydd mewn gwirionedd nawr, pe bai camerâu yno. Gallai hynny fod yn opsiwn. Maen nhw hefyd wedi awgrymu efallai bod bysiau mini i staff a threnau amlach yn cael eu hamserlennu, ond maen nhw'n gwybod ei bod hi'n eithaf anodd hefyd, i ffitio hynny i mewn.
Mae diogelwch yn hollbwysig, felly diolch i'r peirianwyr am sylwi ar hyn. Mae'n anghyfleus iawn, ond rydym ni'n gwerthfawrogi ei fod yn cael ei wirio'n rheolaidd.
Ac allai ofyn i chi hefyd am y diweddaraf am groesfan Afon Dyfrdwy yr A494? Rwy'n gwybod, dipyn o flynyddoedd yn ôl, roedd problem yno o bosib ynglŷn â dirywio, ac efallai y byddai'n rhaid iddo fynd yn un lôn. Mae hyn i gyd yn rhan o'r un llwybr i mewn ac allan o Gymru. Felly, allech chi roi diweddariad i mi ar hynny, os gwelwch yn dda, hefyd? Diolch.
Yn sicr. O ran y pwyntiau a wnaeth yr Aelod am awgrymiadau amgen, mae hynny'n rhywbeth y byddai cynlluniau wrth gefn pont Britannia—y soniais amdano ac yr wyf wedi bod yn eu drafftio, gan edrych ar opsiynau—yn edrych arno, i edrych ar yr holl ystod o bethau y gallem ni eu gwneud. O ran mynediad seiclo, un o'r pethau sy'n cael ei edrych arno nawr fel rhan o'r adolygiad pythefnos hwn yw p'un a yw'r cyfyngiad ar feicwyr yn gorfod dod oddi ar eu beiciau a'u gwthio nhw ar draws y bont yn gymesur ai peidio, ac a fydd beicwyr yn gallu croesi ai peidio. Mae hynny'n cael ei brofi, yn ogystal â, fel y dywedais i, y mynediad i gerbydau brys yn mynd yn araf dros y bont pan nad yw pont Britannia ar gael.
O ran pont Dyfrdwy, sy'n amlwg yn bwynt ar wahân ac ni ddylem eu cysylltu gan eu bod nhw'n faterion gwahanol, ond gan eich bod chi wedi gofyn am eglurhad, rwy'n hapus i gadarnhau bod opsiwn sy'n cael ei ffafrio o groesfan afon newydd ar gyfer traffig tua'r gorllewin ac ailddefnyddio'r bont bresennol yn rhannol ar gyfer traffig tua'r dwyrain wedi'i nodi. Mae gorchmynion drafft wedi'u cynllunio ar gyfer y gaeaf hwn, gydag ymchwiliad cyhoeddus wedi'i nodi ar gyfer yr haf nesaf, a, gan dybio y bydd y cyfan yn cael ei gymeradwyo, gallai'r gwaith adeiladu ddechrau yn 2024. Nid yw'r cynlluniau hynny'n destun yr adolygiad ffyrdd, oherwydd eu bod eisoes ar y gweill, ac mae'r rheiny wedi dechrau.
Diolch, Llywydd. Fel y gwyddoch chi, fe wnes i gyflwyno cwestiwn brys ar y mater hwn, ond yn amlwg fe wnes i ei dynnu'n ôl wrth i'r datganiad hwn gael ei gyhoeddi, ac rwy'n ddiolchgar i Lywodraeth Cymru a'r Dirprwy Weinidog am gyflwyno'r datganiad heddiw. Mae'n cael ei werthfawrogi. Rydw i hefyd yn ddiolchgar, Dirprwy Weinidog, eich bod chi wedi ei gwneud yn glir yn eich datganiad ynglŷn â'r penderfyniadau ynghylch cau pont Menai a deall pwy sy'n gyfrifol am beth o fewn hynny. Fel sydd eisoes wedi ei grybwyll yma heddiw, mae cau pont Menai yn syth, sy'n gweld miloedd o gerbydau yn croesi bob dydd, yn peri pryder gwirioneddol, ac rwy'n gwerthfawrogi, Dirprwy Weinidog, eich cydnabyddiaeth o bwysigrwydd y croesiad hwn i'r ynys ac i'r tir mawr fel ei gilydd.
Rydw i am godi cwpwl o bwyntiau, Llywydd. Rwy'n gwerthfawrogi bod amser yn fyr iawn, ond rydych chi eisoes wedi sôn, Dirprwy Weinidog, am y pwynt ynghylch y cynlluniau wrth gefn pan fydd gwyntoedd cryfion yn debygol o gau pont Britannia. Byddwn yn gofyn i chi rannu'r cynlluniau wrth gefn hynny, os nad ydyn nhw eisoes wedi cael eu rhannu, cyn gynted â phosib, fel bod busnesau a phobl leol yn gwybod sut y bydd hynny'n gweithio. Rwy'n credu bod hynny'n bwynt pwysig iawn.
Yn ail, o edrych ar y tymor hwy, mae'r rhaglen waith yn mynd i gymryd tua 16 wythnos i'w chwblhau, ac yna dim ond yn edrych i ailagor ar gyfer cerbydau hyd at 7.5 tunnell. Byddai'n ddiddorol cael gwybod pryd rydych chi'n rhagweld cerbydau trymach na 7.5 tunnell yn gallu croesi pont Menai yn y dyfodol, er mwyn creu'r capasiti ehangach yna sydd angen i groesi i'r ynys ac oddi arni.
Ac yna'n drydydd, Dirprwy Weinidog, fe wnaethoch chi gyfeirio at hyn, a soniwyd amdano yn y datganiad, y ffaith i'r broblem hon gael ei hamlygu i ddechrau yn 2019, felly mae'n amlwg bod patrwm o bryder wedi bod dros gyfres o flynyddoedd a misoedd. Dydy hi dal ddim yn glir i mi pam, er bod patrwm o bryder wedi bod dros amser hir—rydyn ni'n edrych ar dair blynedd a mwy yma—bod penderfyniad uniongyrchol a sydyn y bu'n rhaid ei wneud heb rybudd i bobl leol ac i fusnesau fel ei gilydd. Felly, byddwn i'n gwerthfawrogi efallai ychydig mwy o eglurder pam nad chafodd y patrwm hwnnw o bryder ei ystyried yn iawn.
Ac yn olaf, Llywydd, dim ond apêl ar gyfer cyfathrebu rheolaidd ac o safon, os gwelwch yn dda, i drigolion a busnesau lleol yn yr ardal. Diolch yn fawr iawn.
Diolch. Wel, yn sicr, ar eich pwynt olaf, byddwn i'n gwerthfawrogi help pob Aelod i wneud yn siŵr ein bod ni'n gallu cyfathrebu'r negeseuon hyn gyda gonestrwydd a chynildeb i etholwyr. Mae naws gwyllt braidd wedi bod ymysg rhai pleidiau gwleidyddol dros y penwythnos i geisio creu rhywfaint o sgorio pwyntiau, sydd, yn fy marn i, yn amhriodol iawn ac nid yw'n helpu pobl i ddeall natur y problemau yr ydym ni'n delio â nhw. Felly, rwy'n gobeithio na fyddwn ni'n gweld mwy o hynny, a byddwn i'n hapus iawn i ymgysylltu â'r holl Aelodau sydd â diddordeb mewn sgwrs lawn a gonest am yr hyn sy'n digwydd a'r opsiynau wrth i ni fynd drwyddyn nhw. Mae hyn yn rhywbeth lle na ddylai fod unrhyw le i wleidyddiaeth bleidiol, yn fy marn i.
O ran y cynlluniau wrth gefn, rwy'n hapus i'w cyflwyno nhw i chi drwy lythyr, ond maen nhw fel maen nhw'n sefyll eisoes: rhybuddio a hysbysu gyrwyr o'n cyfyngiadau cynghori pan fydd eu hangen. Fel y dywedais i, anaml mae eu hangen nhw a hynny, yn gyffredinol, am gyfnodau cymharol fyr. Ac, fel y dywedais i, rydym ni'n gweithio ar strategaeth wrth gefn newydd i edrych ar opsiynau eraill, a byddaf yn sicrhau bod yr Aelodau yn cael y wybodaeth ddiweddaraf amdanyn nhw.
O ran pryd mae'r bont yn debygol o ailagor heb gyfyngiadau, wel, rwy'n credu bod hynny wir yn dibynnu ar y dadansoddiad o gyflwr yr hongwyr. Nid fy lle i yw dyfalu canlyniadau'r adroddiad peirianyddol, ond pa bai angen disodli pob un neu lawer o'r hongwyr, yna'n amlwg mae hynny'n mynd i fod yn ddarn sylweddol o waith. Ni fyddai'r cyfyngiad 7.5 tunnell, byddwn i'n dychmygu, yn gallu cael ei godi nes bod y peirianwyr yn argyhoeddedig bod hynny'n ddiogel. Ac o ystyried bod pryder am natur bregus yr hongwyr, mae'n ymddangos i mi ei bod hi'n rhy gynnar i feddwl am godi cyfyngiadau yn gyfan gwbl nes bod yr asesiad llawn a'r gwaith hwnnw'n cael ei wneud.
Rwy'n meddwl mod i wedi ateb y cwestiwn am y diffyg rhybudd a chyflwr y bont. Mae archwiliadau rheolaidd wedi bod, ac mae'r rhain yn cyd-fynd â safonau'r diwydiant. Nid yw hyn yn rhywbeth arbennig i bont Menai; dyma sy'n digwydd gyda phontydd eraill tebyg. Mae'n safon arolygu uwch na ffyrdd arferol, ac yn ogystal â bod yn amlach, mae'r gwiriadau sy'n digwydd o fewn y broses i lefel llawer uwch a mwy trylwyr, ac mae'r gwirio sy'n gysylltiedig â'r gwahanol asiantaethau sy'n gyfrifol a'r cwmnïau ac, ar wahân iddyn nhw, adolygiadau annibynnol gan gymheiriaid yn eithaf sylweddol. Dyna un o'r rhesymau pam ei bod wedi cymryd cyhyd, ers nodi'r broblem gyntaf yn 2019, oherwydd mae hwn yn ddull trylwyr a threfnus iawn, wedi'i wneud hyd braich oddi wrth ei gilydd i wneud yn siŵr ei fod yn gadarn. Felly, rwy'n credu y byddai'n annheg cynrychioli hyn fel ymateb araf i dystiolaeth o bryder. Rwy'n credu bod hwn wedi bod yn ddull trylwyr a threfnus, yn unol â safon y diwydiant ledled y byd, a dyna'r broses sydd wedi dangos i ni fod yna broblemau sy'n cyfiawnhau cau'r bont, felly rwy'n credu ein bod ni wedi gweithredu'n ddoeth ac yn gyfrifol. Ond fel y dywedais i mewn ateb i Rhun ap Iorwerth, byddwn ni wrth gwrs yn cynnal ymarfer dysgu gwersi, i weld a wnaed unrhyw gamgymeriadau a fyddai wedi ein hatal rhag cyrraedd y sefyllfa hon heddiw. Ond dydw i ddim yn ymwybodol o unrhyw un sydd wedi dod i'r amlwg hyd yn hyn.
Diolch am y datganiad a chyfle i drafod y mater pwysig yma. Fel rydych chi'n gwybod, dwi'n cynrychioli'r etholaeth ar y tir mawr sydd agosaf at bont Menai a phont Britannia. Mae hi'n ardal ddinesig brysur iawn, yn cynnwys busnesau a siopau, meysydd chwarae, parc busnes, gwesty, ysgolion a channoedd o dai, a hefyd, dyma lle mae Ysbyty Gwynedd. Fe gafwyd ciwiau o bron i dair awr jest i adael maes parcio'r ysbyty, a hyd yn oed cyn i'r ceir ymuno â'r ciw i groesi pont Britannia. Erbyn hyn, mae staff yr ysbyty sy'n byw ond ychydig filltiroedd i ffwrdd ar Ynys Môn yn wynebu dwy awr o siwrnai bob ffordd bob diwrnod, felly pa ystyriaeth ydych chi wedi ei rhoi i sefyllfa benodol Ysbyty Gwynedd o safbwynt y staff, y gwasanaeth ambiwlans, y rhai sy'n mynychu clinigau, a'r cleifion a'u teuluoedd?
Dwi yn cytuno: mi oedd yn rhaid cau pont Menai am resymau diogelwch er gwaethaf yr hafoc mae hynny wedi ei greu. Dwi yn gallu gweld hynny. Mi fyddai unrhyw un synhwyrol yn gallu gweld hynny. Mi ddaeth y problemau diogelwch i sylw'r swyddogion ddydd Mercher diwethaf—dyna rydych chi'n ei ddweud yn eich datganiad. Mi fyddwn i yn tybio erbyn hyn fod yna ddigon o amser wedi pasio er mwyn cytuno o leiaf ar gynllun traffig amgen dros dro ar gyfer yr ardal. Pryd ydyn ni am weld y cynllun traffig amgen yma o ran y llif traffig, ac yn bwysicach, pryd ydyn ni'n mynd i weld hwnnw'n cael ei roi ar waith yn yr ardal?
Yn amlwg, dydy’r sefyllfa fel y mae hi ar hyn o bryd, efo pobl yn cymryd dwy awr i gyrraedd Ysbyty Gwynedd o Ynys Môn, jest ddim yn gynaliadwy, felly mae'n rhaid dod â chynllun arall ymlaen i wella'r llif traffig yn yr ardal, a dwi eisiau gwybod pryd fydd hynny'n digwydd. Rydyn ni ar yr ochr yma o'r Siambr am weld datrysiadau ymarferol er budd pobl leol tra bod y bont yn cael ei diogelu, ac mae yna lot o etholwyr yn dod ymlaen efo syniadau sydd yn swnio’n synhwyrol i mi—rhai ymarferol am sut i wella'r llif traffig yn yr ardal. Ydych chi'n barod i wrando ar rai o'r syniadau rheini?
Rydyn ni wedi rhannu ambell un yma y prynhawn yma. Mae Rhun ap Iorwerth a Carolyn Thomas wedi sôn am y syniad yma o greu tair lôn ar bont Britannia dros dro, efo dwy ar agor i gludo'r traffig i'r tir mawr yn y bore, a dwy i gludo traffig yn ôl i Fôn gyda'r nos—rhywbeth sydd yn swnio'n synhwyrol. Os nad ydy hynny'n bosib, oes modd cael esboniad, achos mae lot o bobl yn gofyn pan nad ydyn ni ddim yn gallu gwneud y math yna o beth?
Felly, fe fyddwn ni jest eisiau cael sicrwydd gennych chi eich bod chi yn barod i wrando ar syniadau fel hwnna. Mae yna rai eraill hefyd yn cael eu crybwyll o gwmpas gwneud rhywbeth yn wahanol o gwmpas rhai o'r rowndabowts yn yr ardal er mwyn gwella'r llif dros dro. Felly, gobeithio eich bod chi yn fodlon gwrando ar y syniadau yna ac yn gwerthfawrogi ein bod ni yn troi helpu i gael datrysiad sydd yn mynd i helpu pobl i gyrraedd i lle maen nhw'n trio mynd yn gynt nag y maen nhw ar hyn o bryd.
Diolch eto am dôn y cyfraniad hwnnw, oherwydd rwy'n cydnabod yn llwyr fod pobl yn ofidus ac wedi cythruddo ac yn pryderu am ganlyniadau'r penderfyniad hwn. Rwy'n arbennig o ymwybodol o sefyllfa'r ysbyty. Rwy'n meddwl ein bod ni wedi gweld, yn amlwg, oherwydd natur sydyn y cyhoeddiad, a'r anallu i bobl gynllunio a meddwl ymlaen llaw, a gobeithio y bydd hynny'n setlo wrth i bobl sylweddoli bod angen iddyn nhw ganiatáu mwy o amser i gyrraedd apwyntiadau a gallu cynllunio llawer mwy. Rwy'n tybio mewn gwirionedd fod cyfyngiadau ar yr hyn y gallwn ni ei wneud o fewn cyfyngiadau'r opsiynau sydd ar gael i ni.
Yn sicr o ran pwynt yr Aelod a ydym ni'n fodlon gwrando ar syniadau gan y cyhoedd ar gyfer gwella llif y traffig: wrth gwrs ein bod ni. Ac yn sicr, fel y dywedais i, byddaf yn sicrhau bod ein swyddogion ar gael i'r Aelodau lleol sy'n dymuno cwrdd â nhw, a gallwch chi drafod a phrofi rhai o'r syniadau, ymarferoldeb y rhain, gyda'r arbenigwyr peirianneg hynny i weld beth y gellir ei wneud a beth na ellir ei wneud. Ond rwy'n sicr, fel y Gweinidog, yn agored iawn i edrych ar unrhyw opsiwn posibl i agor cyn gynted â phosibl pan fydd yn ddiogel i wneud hynny ac i geisio lliniaru'r tagfeydd sy'n anochel yn cael ei achosi ganddo, nawr ac yn y dyfodol. Felly, fe gewch chi fy ymrwymiad i wneud hynny.
O ran pryd y bydd gennym ni gynllun traffig terfynol wedi'i gwblhau, 'Dydw i ddim yn sicr' yw'r ateb gonest. Mae'n rhywbeth rydyn ni'n gweithio arno'n rhagweithiol. Byddwn yn gallu eich diweddaru pan fyddwch chi'n cwrdd â'r swyddogion, a byddaf yn gallu rhoi mwy o wybodaeth i chi cyn gynted ag y gallaf.
Diolch i'r Dirprwy Weinidog. Mae gweddill yr eitemau ar yr agenda wedi eu gohirio am y tro, ac felly dyna ddod â'n gwaith ni am heddiw i ben.