– Senedd Cymru ar 26 Hydref 2022.
Yr eitem nesaf yw eitem 9, a dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar strôc yw hon. Dwi'n galw ar Mark Isherwood i wneud y cynnig. Mark Isherwood.
Cynnig NDM8113 Darren Millar
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi bod Diwrnod Strôc y Byd yn cael ei gynnal ar 29 Hydref 2022.
2. Yn cydnabod yr ymateb brys sydd ei angen i atal perygl i fywyd pobl sy'n dioddef strôc.
3. Yn cyfarwyddo'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, yn unol â Rheol Sefydlog 17.2, i gynnal adolygiad i fanteision a heriau ail-gategoreiddio strôc fel 'coch: galwadau sy'n bygwth bywyd ar unwaith' o dan y Model Ymateb Clinigol.
Diolch, Lywydd. Mae ein cynnig heddiw yn argymell bod y Senedd yn nodi bod Diwrnod Strôc y Byd yn cael ei gynnal ar 29 Hydref 2022, yn cydnabod yr ymateb brys sydd ei angen i atal perygl i fywyd pobl sy'n dioddef strôc, ac yn cyfarwyddo Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Senedd i gynnal adolygiad o fanteision a heriau ail-gategoreiddio strôc fel coch, galwadau sy'n peryglu bywyd ar unwaith, o dan y model ymateb clinigol.
Cynhelir Diwrnod Strôc y Byd ar 29 Hydref bob blwyddyn. Mae'n gyfle i godi ymwybyddiaeth o natur ddifrifol a chyfraddau uchel strôc, ac i siarad am ffyrdd y gallwn leihau baich strôc drwy well ymwybyddiaeth gyhoeddus o ffactorau risg ac arwyddion strôc. Mae hefyd yn gyfle i ddadlau dros gamau gan wneuthurwyr penderfyniadau ar lefel fyd-eang, ranbarthol a chenedlaethol, sy'n hanfodol i wella gwaith i atal strôc, mynediad at driniaeth acíwt a chefnogaeth i oroeswyr a'r rhai sy'n gofalu. Ar gyfer 2021 a 2022, mae'r ymgyrch yn canolbwyntio ar godi ymwybyddiaeth o arwyddion strôc a'r angen am driniaeth strôc amserol o ansawdd da.
Ar draws y DU, mae strôc yn digwydd bob pum munud. Amcangyfrifir bod 7,400 o bobl y flwyddyn yng Nghymru yn cael strôc—y pedwerydd prif achos marwolaeth yng Nghymru. Hefyd, mae 70,000 o oroeswyr strôc yn byw yng Nghymru, a heb ymyrraeth gynnar a diagnosis, mae perygl o niwed sylweddol i'r claf, neu farwolaeth, yn cynyddu—a hynny'n sylweddol.
Yn ôl y Gymdeithas Strôc, ceir tri math gwahanol o strôc: isgemig, y math mwyaf cyffredin o strôc, a geir mewn tua 85 y cant o achosion, ac a achosir gan rwystr sy'n torri'r cyflenwad gwaed i'r ymennydd; gwaedlifol, a achosir gan waedu yn yr ymennydd neu o'i amgylch ac sy'n digwydd mewn 15 y cant o achosion—dyma'r math mwyaf difrifol o strôc; a phwl o isgemia dros dro, a elwir hefyd yn strôc fach, lle nad yw'r symptomau ond yn para am gyfnod byr.
Mae strôc yn gyflwr lle mae'r awr euraidd yn hanfodol. Mae gan rai cyflyrau acíwt, gan gynnwys strôc, 60 munud lle mae'n rhaid cael gofal diffiniol. Gall ymateb diweddarach gynyddu niwed, gan gynnwys niwed i'r ymennydd, anabledd corfforol a marwolaethau, yn sylweddol. Mae safonau ansawdd ar gyfer strôc mewn oedolion, a gyhoeddwyd gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal, hefyd yn tynnu sylw at y ffaith y dylai cleifion sydd wedi cael strôc acíwt gael triniaeth ddelweddu'r ymennydd o fewn awr i gyrraedd yr ysbyty os oes ganddynt unrhyw ddangosyddion ar gyfer delweddu ar unwaith. Mae NICE a'r Gymdeithas Strôc yn argymell defnyddio thrombolysis, neu feddyginiaeth chwalu clotiau, o fewn pedair awr a hanner i gael strôc isgemig. Yn ôl cyngor y GIG, mae alteplase, y feddyginiaeth a ddefnyddir ar gyfer triniaeth, yn fwyaf effeithiol os yw'n dechrau cyn gynted â phosib ar ôl i'r strôc ddigwydd, ac yn sicr o fewn pedair awr a hanner. Mae'r GIG yn nodi ymhellach nad argymhellir meddyginiaeth fel y cyfryw os oes mwy na phedair awr a hanner wedi mynd heibio, gan nad yw'n glir pa mor fuddiol yw hi pan gaiff ei defnyddio ar ôl yr amser hwn, a'i bod yn hanfodol gwneud sgan ar yr ymennydd i gadarnhau diagnosis o strôc isgemig, gan y gall y feddyginiaeth wneud gwaedu sy'n digwydd mewn strôc waedlifol yn waeth.
Mae data diweddaraf y Rhaglen Archwilio Genedlaethol ar gyfer Strôc Sentinel, neu ddata SSNAP, sy'n dangos perfformiad mewn ysbytai ar reoli strôc ar draws Cymru a Lloegr, yn tynnu sylw at ostyngiad mewn gofal priodol i gleifion strôc. Ar ôl cyrraedd yr ysbyty, rhaid sganio cleifion strôc o fewn awr yn ôl NICE, ac eto fe wnaeth tri ysbyty yng Nghymru gymryd mwy o amser na'r amser targed hwn i sganio claf.
Mae data SSNAP, sy'n sgorio ymatebion GIG Cymru i ddangosyddion allweddol, megis amser i sganio, amser i driniaeth ac amser i gael mynediad i unedau strôc, yn tynnu sylw at rai tueddiadau pryderus yn ysbytai Cymru. Mae eu sgoriau'n amrywio o A, neu ysbyty sy'n bodloni'r safonau uchaf i bron bob claf, i E, neu ysbyty nad yw'n cyrraedd y safonau uchaf i bron pob claf. Y sgoriau cyffredinol diweddaraf ar gyfer ysbytai Cymru oedd D i bob ysbyty heblaw am Lwynhelyg, a sgoriodd C, gyda phob un o'r tri ysbyty dosbarth yng ngogledd Cymru, er enghraifft, yn sgorio E ar gyfer derbyn i unedau strôc yn y ffigyrau diweddaraf a ryddhawyd.
Mae'r data SSNAP diweddaraf hefyd yn dangos ei bod yn cymryd chwe awr a 35 munud ar gyfartaledd rhwng dechrau strôc a chyrraedd yr ysbyty yng Nghymru, o'i gymharu â thair awr a 41 munud yn Lloegr a dwy awr a 41 munud yng Ngogledd Iwerddon. Mae hyn yn effeithio ar yr amser mae'n ei gymryd i gleifion gael sgan, gyda chleifion yng Nghymru'n cael eu sganio ychydig dros wyth awr ar ôl i'w symptomau ddechrau, o'i gymharu â 4.4 awr yn Lloegr a 3.3 yng Ngogledd Iwerddon.
Mae model ymateb clinigol presennol Cymru yn dynodi strôc fel galwad ymateb oren, sy'n ddifrifol ond heb fod yn peryglu bywyd ar unwaith. Ers 2015, nid oes unrhyw amser targed wedi bod ar gyfer galwadau oren, sy'n golygu bod cleifion yn aml yn gallu aros sawl awr i ambiwlans ymateb. Er i Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru gadarnhau y bydd ymateb gwahanol yn cael ei wneud ar gyfer strociau gwaedlifol, gan nodi yn 2020 y byddant yn aml yn gogwyddo i'r categori coch oherwydd eu difrifoldeb, lleiafrif yw'r mathau hyn o strôc, fel y dywedais, sef 15 y cant o achosion strôc.
Ymhellach, dywedodd Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, er nad oedd unrhyw amseroedd targed, fod yr amseroedd ymateb delfrydol ar gyfer categorïau oren 1 a 2 tua 20 munud a 30 i 40 munud yn y drefn honno. O ystyried difrifoldeb strociau isgemig, sef y mwyafrif o achosion, a dirywiad amseroedd ymateb oren, dylid ailedrych ar hyn.
Canfu'r adolygiad diwethaf o alwadau ymateb oren, a gynhaliwyd yn 2018, fod y model ymateb clinigol yn ffordd ddilys a diogel o ddarparu gwasanaethau ambiwlans, ac nad yw'n ymddangos bod yr amser a dreulir yn aros am ymateb ambiwlans yn y categori oren yn cyfateb i ganlyniadau gwaeth. Ond erbyn 2020, a'r cyfnod cyn y pandemig, dywedodd Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru fod perfformiad oren yn parhau i beri pryder.
Ers COVID-19, mae amseroedd ymateb oren wedi dirywio'n sylweddol, gydag amser aros canolrifol o awr a 35 munud ym mis Medi—y mis diwethaf—2022. O gymharu amseroedd delfrydol categori oren 1 a 2 Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, dim ond 12.6 y cant o amseroedd oren cyffredinol a gyrhaeddodd o fewn 20 munud, a 25.2 y cant o fewn 40 munud. Cymerodd 64.3 y cant—bron i ddwy ran o dair—dros awr i ymateb.
Fe wnaeth GIG Lloegr ail-gategoreiddio galwadau targed brys ambiwlansys yn 2017, gyda strôc yn cael ei gategoreiddio'n 'argyfwng', gydag amser targed o 18 munud a 90 y cant o alwadau mewn 40 munud. Ym mis Medi 2022, roedd yr amser ymateb cymedrig ar gyfer ambiwlansys categori 2 yn Lloegr yn 47 munud a 59 eiliad.
O ystyried y pandemig a'r pwysau dilynol ar ambiwlansys ac adrannau damweiniau ac achosion brys, rhaid ailedrych ar addasrwydd galwadau oren ar gyfer cleifion strôc yng Nghymru. O fis Ebrill i fis Mehefin 2022, roedd llai na hanner y cleifion strôc yng Nghymru—46.1 y cant—yn cyrraedd yr ysbyty mewn ambiwlans, i lawr o 75 y cant ym mis Ionawr i fis Mawrth 2021.
Er nad yw'r Gymdeithas Strôc o blaid ail-gategoreiddio galwadau oren, gan ddatgan,
'Mae'n well i gleifion strôc gael y cerbyd ymateb mwyaf priodol'
—ambiwlans a all fynd â hwy i'r ysbyty, yn hytrach na dim ond y cerbyd cyntaf sydd ar gael, sydd efallai'n methu eu cludo i'r ysbyty i gael y driniaeth sydd ei hangen arnynt—mae'n cefnogi ymchwiliad pwyllgor i amseroedd ymateb ambiwlans ar gyfer strôc yng Nghymru, a fyddai'n archwilio'r mater yn fanylach. Maent yn ychwanegu y dylai'r adolygiad edrych ar brofiadau cleifion strôc o'r alwad ffôn i driniaeth, er mwyn deall sut y gellir gwella'r llwybr.
Cred y Ceidwadwyr Cymreig na ddylai'r Gymdeithas Strôc gael ei gorfodi i ddewis rhwng ymateb cyflym gan gerbyd amhriodol ac ymateb araf gan ambiwlans achub bywyd, ac y dylid gallu addasu'r system i sicrhau bod ambiwlans yn cael ei anfon pan fo amheuaeth o strôc, yn amodol ar y modelu angenrheidiol. Awgrymwyd y dylid cysylltu ambell ambiwlans, er enghraifft, â'r adran meddygaeth strôc drwy linell ffôn uniongyrchol, a phwysleisiodd y dylai adsefydlu ddechrau cyn gynted ag y bydd claf yn cyrraedd yr ysbyty.
Mae'r Gymdeithas Strôc hefyd wedi galw am adnewyddu ymgyrch y prawf wyneb, braich, lleferydd, amser gan Iechyd Cyhoeddus Cymru. Cafodd ymgyrch FAST—face, arms, speech, time—ei lansio ledled y DU yn 2009 i wella ymwybyddiaeth o symptomau strôc ac annog y rhai sy'n profi'r rhain i ffonio 999 cyn gynted â phosibl. Mae gweithredu'n gyflym yn rhoi'r cyfle gorau i'r person sy'n cael strôc oroesi a gwella. Ond er i ymgyrch FAST gael ei chynnal yn Lloegr a Gogledd Iwerddon yn 2021, cafodd ei chynnal ddiwethaf yng Nghymru yn 2018. Yn ôl dadansoddiad o'r ymgyrch yn Lloegr, ar ôl cael gweld y deunyddiau o 2021, soniodd bron i ddwy ran o dair o'r rhai a oedd mewn perygl am yr angen i weithredu fel neges i'r ymgyrch, a soniodd dwy ran o dair am yr angen i ffonio 999 neu i ofyn am help. Canfu modelu fod yr ymgyrch yn gosteffeithiol iawn, ac ers ei lansio yn 2009 mae wedi darparu 4,000 o driniaethau thrombolysis ychwanegol, gan ddarparu 1,137 o flynyddoedd bywyd a addaswyd yn ôl ansawdd, ac elw ar fuddsoddiad o £8.98 ar gyfer pob £1 a wariwyd.
Drwy gydol y pandemig, mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi bod yn galw'n adeiladol ar Lywodraeth Cymru i weithredu mewn sawl maes i helpu'r GIG yng Nghymru i wella ar ôl COVID-19. Wrth i Gymru a'r GIG geisio dod allan o'r pandemig, mae'n hanfodol fod Llywodraeth Cymru yn mabwysiadu ymagwedd drawsbleidiol yn llawn. Diolch yn fawr.
Dwi wedi dethol y gwelliant i'r cynnig, a dwi'n galw ar y Gweinidog iechyd i gynnig yn ffurfiol gwelliant 1.
Yn ffurfiol.
Jenny Rathbone. Na, Rhun ap Iorwerth.
Mae'n ddrwg gennyf, Jenny. Fe'ch dychrynais i chi, braidd. Fe ddychrynais fy hun hefyd. Rhun ap Iorwerth.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd, a diolch i'r Ceidwadwyr am ddod â'r testun yma o'n blaenau ni heddiw. Dwi ddim yn siŵr am y cynnig yn ei gyfanrwydd. Fe ddown ni draw at hynny mewn eiliad, ond o ran y pwynt canolog, yr hyn sydd gennym ni yng nghymalau 1 a 2 yn y cynnig heddiw yma, ydy, mae hi'n Ddiwrnod Strôc y Byd ddydd Sadwrn 29 Hydref, ac mae'n bwysig bachu ar gyfle fel hyn bob amser i atgoffa ein hunain o'r effaith y mae strôc yn ei gael o fewn ein teuluoedd ni, o fewn ein cymunedau ni, a'r hyn y gallwn ni ei wneud a'r hyn y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i sicrhau bod ein hymateb ni cyn gryfed ac mor effeithiol ag y gall o fod.
Cymal 2, wrth gwrs, rydyn ni yn adnabod ac yn cydnabod bod angen ymateb brys pan fydd rhywun yn cael strôc er mwyn ceisio dylanwadu ar yr outcomes gorau i'r person hwnnw. Strôc ydy'r pedwerydd prif achos marwolaeth yng Nghymru. Mae'r cyfraddau goroesi wedi gwella, ac mae hynny i'w groesawu wrth i dechnolegau yn fyd-eang wella. Mae'n bwysig nodi, serch hynny, fod eich siawns chi o oroesi llawer mwy os nad ydych chi'n byw mewn tlodi, ac mae hwn yn un arall o'r meysydd yna lle mae anghyfartaledd mewn iechyd yn cael effaith go iawn ar eich siawns chi i oroesi os ydy'r gwaethaf yn digwydd.
Ond rydyn ni'n gwybod bod yna lawer mwy sydd angen ei wneud i wella'r gwasanaeth sy'n cael ei gynnig yng Nghymru ar ôl strôc. Mae angen sicrhau bod goroeswyr yn cael cefnogaeth well, yn cael eu hadolygiadau chwe mis, yn cael gwasanaethau i ailadeiladu eu bywydau mewn rhai ffyrdd. Mae angen ffisiotherapyddion, therapyddion galwedigaethol, ac yn y blaen, er mwyn sicrhau bod y gefnogaeth yna i bobl sydd yn dioddef strôc.
Ond hefyd, wrth gwrs, mae'r elfen yma rydyn ni'n ei gweld yn y cynnig o frys—yr angen am ymateb mor fuan â phosibl pan fydd strôc yn digwydd. Rydyn ni'n gweld yr ystadegau sydd yn dangos i ni, ar gyfartaledd, ei bod hi'n cymryd chwech awr a hanner rhwng dechrau'r strôc a chyrraedd ysbyty yng Nghymru, a bod hynny'n sylweddol hirach na'r hyn rydyn ni'n ei weld mewn rhannau eraill o'r ynysoedd yma. Dwi'n gobeithio y bydd y Gweinidog yn ei sylwadau hi yn cydnabod nad ydy hynny'n ddigon da, a bod angen gwella'r perfformiad hwnnw yn sylweddol.
Mi wnaf i dynnu sylw yn fan hyn, o ran ymateb cyflym, i'r ffaith bod ambiwlans awyr Cymru yn nodi ar eu gwefan nhw fod ymateb i strôc yn un o'r gwasanaethau y maen nhw'n ei gynnig. Mae hynny'n cael ei nodi'n glir iawn ar eu gwefan nhw. Dwi'n tynnu sylw at hynny, wrth gwrs, oherwydd y pryderon mewn rhannau o Gymru—yn y canolbarth ac yn y gogledd-orllewin yn arbennig—bod y syniadau sydd ar y bwrdd ar gyfer ad-drefnu gwasanaethau ambiwlans yn mynd i olygu bod pobl yn yr ardaloedd anoddaf i'w cyrraedd yn mynd i orfod aros yn hirach i A&E eu cyrraedd nhw, achos dyna, wrth gwrs, ydy'r ambiwlans awyr.
Mi wnaf droi at gymal 3. Dwi'n gweld hwn, mae'n rhaid i mi ddweud, yn gymal od. Dwi'n gallu gweld bod llefarydd y Ceidwadwyr ar iechyd a gofal ddim yn ei sedd y prynhawn yma, am ba bynnag reswm, ond beth sydd gennym ni ydy cynnig gan ei blaid yn gorchymyn y pwyllgor iechyd i edrych ar faterion yn ymwneud â strôc a'r ymateb i strôc. Fel aelod o'r pwyllgor iechyd, dwi'n gweld hynny braidd yn od. Dwi'n berffaith hapus, wrth reswm, i'r pwyllgor iechyd—os ydyn ni'n gallu gwneud amser; mae'n bosib y gallwn ni gael sgwrs efo'r Cadeirydd am hynny—edrych ar y maes yma, ond dwi yn ei gweld hi'n broses od bod hyn yn cael ei gyflwyno yn y ffordd yma.
Mi wnaf droi yn sydyn at welliant y Llywodraeth. Dwi wedi cael profiad diddorol iawn yn paratoi am y sesiwn yma heddiw, gan nad ydw i'n gallu dod o hyd i unrhyw wybodaeth o gwbl ynglŷn â beth ydy'r bwrdd rhaglen strôc mae'r Llywodraeth yn cyfeirio ato fo, ac yn dweud sydd yn mynd i wneud cyfraniad mawr at yr ymateb i strôc yng Nghymru. Does yna ddim gwybodaeth ar gael yn unrhyw le ynglŷn ag ydy o'n bodoli eto, pwy sydd ar y bwrdd yma, felly dwi'n edrych ymlaen yn arw i'r Gweinidog ein addysgu ni ar hynny. Ond mae o'n dweud wrthym ni, lle mae yna gamau yn cael eu cymryd, siawns bod angen i Lywodraeth Cymru egluro beth ydy'r camau hynny. Doedd hyd yn oed elusennau ddim yn medru dweud wrthym ni beth oedd y bwrdd yma. Mi wrandawaf i'n astud. Ond mi allwn ni i gyd fod yn gwbl, gwbl gytûn bod angen gwneud mwy i sicrhau bod pobl sydd yn dioddef o strôc yng Nghymru yn cael cefnogaeth frys, a'r gefnogaeth orau posib.
Rwy'n ddiolchgar i fy nghyd-Aelodau am gyflwyno'r cynnig hwn, yn enwedig o gofio ei bod yn Ddiwrnod Strôc y Byd 2022 ddydd Sadwrn. Fel y soniodd Mark Isherwood yn ei sylwadau agoriadol, ar gyfartaledd, bydd 7,400 o bobl yn cael strôc bob blwyddyn yng Nghymru, a dyna yw'r pedwerydd prif achos marwolaeth yn y wlad hon. Felly, ni ellir bychanu pwysigrwydd gwasanaethau strôc cyflym o ansawdd rhagorol, nid yn unig ar gyfer cefnogi a thrin cleifion, ond yng nghyd-destun ehangach y pwysau ar y system iechyd a gofal cymdeithasol.
Ond er mwyn i hyn fod yn wir, mae angen ailwampio'r system gyfan. Rydym wedi clywed y prynhawn yma am bwysigrwydd y 60 munud cyntaf ar ôl strôc. Yn yr amser hwnnw, gall ymyrraeth triniaeth olygu'r gwahaniaeth rhwng adferiad llwyddiannus a niwed na ellir ei wella. Ac os ydych yn byw mewn ardal wledig fel Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro, mae pa mor gyraeddadwy yw'r targed hwn yn peri pryder enfawr. Ers 2015, ni fu unrhyw amser targed ar gyfer argyfyngau strôc, sy'n golygu bod cleifion sy'n dangos symptomau FAST yn aml yn gorfod aros sawl awr i ambiwlans ymateb i'w galwad. Ac fel y clywsom yn ystod y ddadl, nid oes gan gleifion strôc oriau i aros.
Mae angen i'r Llywodraeth adolygu ei model ymateb clinigol, ac mae angen iddi hefyd sicrhau bod gwasanaethau o ansawdd ar waith i gefnogi unigolyn drwy eu cynllun gweithredu ar gyfer triniaeth strôc. Yn anffodus, nid oes yr un o'r pethau hyn yn digwydd ar hyn o bryd. Dros yr wythnosau diwethaf, cefais y pleser o gyfarfod â Grŵp Strôc Caerfyrddin a Chymdeithas Strôc y DU ar risiau'r Senedd i drafod effeithiolrwydd yr acronym FAST, pwysigrwydd gwasanaethau strôc o ansawdd, a gweinyddu mynediad cyflym at ofal iechyd.
Fodd bynnag, ar ôl adolygu'r data SSNAP diweddaraf ar gyfer gorllewin Cymru—y rhaglen archwilio genedlaethol ar gyfer strôc sentinel—lle mae gwasanaethau'n cael eu graddio o A i E yn dibynnu ar eu hansawdd, mae'n amlwg nad yw gwasanaethau strôc ledled y wlad wedi cael y ffocws a'r cyllid sydd ei angen arnynt. Mae data SSNAP ar gyfer Ysbyty Llwynhelyg yn categoreiddio pedwar o'u chwe sgôr fel rhai sydd y tu allan i'r parth gwyrdd derbyniol, gyda'u sgôr 'mynediad at uned strôc' yn sgorio E, sef y radd isaf bosibl. Yn Ysbyty Glangwili, cafodd 'mynediad at uned strôc' a gwasanaethau thrombolysis sgôr o E. Ac yn Ysbyty'r Tywysog Philip yn Llanelli, cafodd tri gwasanaeth—mynediad at uned strôc, thrombolysis a gwasanaethau therapi galwedigaethol—sgôr o E unwaith eto, Weinidog. Rwy'n siŵr y byddwch yn cytuno nad yw hynny'n ddigon da, ac mae hyn yn digwydd yn ein rhanbarth ni fel Aelodau.
Gadewch inni fod yn glir: yn sicr nid staff ymroddedig y GIG sydd ar fai am y sefyllfa a ddisgrifiais y prynhawn yma; cyfrifoldeb y Llywodraeth yw hyn. Ond os ydym am roi'r cyfle gorau am adferiad i unrhyw glaf sy'n dioddef strôc, rhaid inni sicrhau bod gwasanaethau strôc yn gyffredinol o'r ansawdd gorau posibl. Dyma ein cyfle i ailwampio gwasanaethau strôc yng Nghymru a sicrhau bod gan bob person, beth bynnag fo'u cod post, fynediad rhagorol at wasanaethau o'r radd flaenaf, a all wneud yr ymyriadau angenrheidiol i atal niwed na ellir ei wella yn dilyn strôc ddifrifol. Gyda hynny, hoffwn annog pob cyd-Aelod yn y Siambr hon i bleidleisio o blaid y cynnig hwn y prynhawn yma. Diolch.
Mae gan fy etholwyr berthynas heriol gyda gwasanaethau strôc, yn wahanol i'r rhai mewn sawl rhan arall o Gymru, a hynny oherwydd nad oes gennym ysbyty cyffredinol dosbarth ym Mhowys. Mae natur wledig Brycheiniog a Sir Faesyfed a diffyg darpariaeth gwasanaethau strôc yn golygu bod cael triniaeth yn anos i fy etholwyr, ac mae'n rhaid i nifer ohonynt deithio dros y ffin i swydd Henffordd a swydd Gaerwrangon i gael triniaeth. Cafodd cyfanswm o 150 o bobl ym Mhowys eu derbyn i'r ysbyty yn Lloegr ar ôl cael strôc yn 2021-22. Meddyliwch am y gwahaniaeth y gallai fod wedi ei wneud i'r bobl hynny pe gallent fod wedi cael eu trin yn nes at adref. Fel y mae'r Gweinidog yn gwybod, bûm yn galw am uned strôc acíwt ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed ers amser hir, i sicrhau bod pobl yn cael triniaeth amserol yn ein cymunedau. Byddai hyn yn hwb enfawr i bobl yn fy ardal sydd mewn angen dybryd am ddarpariaeth strôc fodern ac effeithiol.
Gyda strôc, mae'r eiliadau a'r munudau'n bwysig. Mae'r ffaith bod pobl o Bowys yn gorfod mynd dros y ffin am driniaeth yn golygu baich diangen o ran amser i'r bobl sydd wedi dioddef. Mae'r amseroedd teithio hir oherwydd diffyg ysbyty ym Mhowys, fel y dywedais, yn gwneud marwolaeth ac anabledd yn fwy tebygol, oherwydd mae amser yn achub bywydau. Roeddwn yn dawelach fy meddwl yr wythnos diwethaf, rwy'n credu, ar ôl eich clywed chi, Weinidog iechyd, yn dweud bod gennych gynlluniau ar y gweill ar gyfer gwasanaethau strôc rhanbarthol, ond mae fy nhrigolion angen gwybod faint o bobl yn y rheini fydd yn gallu aros yng Nghymru am driniaeth yn lle mynd i Loegr. Oherwydd gorau po agosaf i adref y gallwn gael triniaeth strôc, ac rwy'n credu yr hoffwn glywed mwy o eglurder gennych chi ynghylch pryd y gwelwn y rheini'n dwyn ffrwyth.
Gan mai strôc yw'r pedwerydd prif achos marwolaeth yng Nghymru, mae'n hanfodol fod pobl y canolbarth yn cael triniaeth dda, amserol ac nad ydynt yn cael eu hanwybyddu. Rhaid i ddarpariaeth strôc fod yn flaenoriaeth, a phan edrychwn ar amseroedd ymateb ambiwlansys ledled Cymru, mae'n ymddangos i mi ac i eraill nad yw hyn yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru ar hyn o bryd. Dyna pam y mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn galw am adolygiad o fanteision a heriau ail-gategoreiddio galwadau strôc fel rhai coch yn lle oren. Mae hynny'n rhywbeth rwy'n gobeithio y gall y pwyllgor iechyd edrych arno. Byddai hyn yn gydnabyddiaeth o'r heriau enfawr y mae strôc yn eu hachosi ac yn gam mawr ymlaen ar y ffordd i ddatrys y broblem, a fydd yn gwaethygu cyn ei bod yn gwella. Diolch, Lywydd.
Rwy'n credu bod hon yn ddadl bwysig, oherwydd, fel sydd eisoes wedi'i gydnabod, dyma'r pedwerydd prif achos marwolaeth, felly mae'n amlwg yn rhywbeth y mae angen inni ei gael yn iawn. Ond byddwn yn gochel rhag syniad James Evans y gallem gael ysbyty cyffredinol dosbarth ym Mhowys a fyddai'n darparu gofal o'r ansawdd rydych ei angen pan fydd rhywun yn cael strôc. [Torri ar draws.] Os wyf wedi eich camddeall, rwy'n hapus i dderbyn ymyriad.
Nid oeddwn yn dweud bod angen ysbyty cyffredinol dosbarth ym Mhowys; hoffwn weld un, ond rwy'n cydnabod yr heriau o wneud hynny. Yr hyn yr hoffwn ei weld mewn gwirionedd yw mwy o'r gwasanaethau hynny'n cael eu darparu, megis canolfan gofal strôc, yn ein hysbytai bwthyn bach neu yn ein hunedau mân anafiadau, fel y gallwn gael y gwasanaethau hynny'n nes at adref ac nad oes raid i bobl deithio dros 40 munud mewn car.
Gallai fod yn ddigon posibl darparu'r math o wasanaethau adsefydlu sydd gennych mewn golwg mewn ysbyty bwthyn, ond ni fydd yn bosibl darparu rhagoriaeth glinigol oni bai bod gennych fàs critigol o gleifion i'w gyfiawnhau. Mae'n bwysig iawn fod gennym unedau strôc ar gael i'n holl boblogaethau o fewn pellter gyrru rhesymol, ond nid oes amheuaeth, os ydych yn cael strôc, fod angen ichi fynd i uned strôc, a dyna ddiwedd arni. Dyna ddylai'r ambiwlans ei wneud—ac rwy'n gobeithio y bydd y Gweinidog yn ein sicrhau mai dyna maent yn ei wneud—oherwydd mae'n golygu ei bod yn llawer mwy tebygol y bydd claf yn goroesi ac y cyfyngir ar unrhyw anabledd.
Mae hon yn ddadl bwysig, ac rwy'n credu ei bod yn ddefnydd da o Ddiwrnod Strôc y Byd ddydd Sadwrn i dynnu sylw at y mater. Ond mae'n rhaid imi ddweud, rwy'n cael peth trafferth gyda faint o wybodaeth a gawsom gan y Gymdeithas Strôc. Roeddwn yn eithaf pryderus pan gefais yr wybodaeth fod fy uned strôc ar gyfer fy mhoblogaeth yng Nghaerdydd a'r Fro wedi cael sgôr cyffredinol o D. Ond pan ofynnais am fwy o wybodaeth i ddeall beth yn union oedd yn digwydd, cefais fy nghyfeirio at y fethodoleg, cawl yr wyddor; nid yw hyn o gymorth. Rwyf angen disgrifiad syml o beth sydd angen inni ei wneud. Ac er fy mod yn cydnabod bod y gwasanaethau ffisiotherapi, y gwasanaethau lleferydd ac iaith, therapi galwedigaethol, yn dda iawn, a'r gwasanaethau sganio hefyd, y mater allweddol yw pa mor gyflym y gallwch gael thrombolysis pan fyddwch newydd gael strôc.
Daw hynny â ni'n ôl at y gwelliant. Nid wyf wedi fy argyhoeddi, mae arnaf ofn, mai ail-gategoreiddio strôc yn goch, yn yr un categori â galwadau lle mae bywyd yn y fantol, yw'r cam cywir ar y pwynt hwn, oherwydd, yn gwbl onest, os ydym yn ychwanegu strôc at y rhestr goch, yng nghyd-destun presennol y pwysau sydd ar wasanaethau, ofnaf y byddai hynny'n golygu y byddai pobl eraill ar y rhestr goch yn marw. Nid wyf eisiau codi bwganod ynghylch hyn, ond rwy'n credu—. Rwy'n cydnabod, fodd bynnag, fod cynnig y Torïaid yn mabwysiadu agwedd ragofalus drwy awgrymu ein bod yn cyfeirio'r mater hwn at y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol i adolygu manteision ei ail-gategoreiddio, ond nid oes unrhyw beth yn atal y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol rhag gwneud hynny beth bynnag, os ydynt yn dymuno.
Rwy'n credu ei bod yn bwysicach deall yn iawn sut y mae'r grŵp gweithredu ar gyfer strôc, a sefydlwyd yn 2013, wedi bod yn gweithio i sicrhau bod yr holl unedau strôc yng Nghymru yn cyrraedd y safon angenrheidiol, a sut y mae'r bwrdd gweithredu ar gyfer strôc, a gyhoeddwyd mewn datganiad ysgrifenedig ym mis Medi y llynedd, am newid pethau mewn gwirionedd. Oherwydd nid wyf yn gwybod unrhyw beth pellach am y bwrdd gweithredu ar gyfer strôc. Fel Rhun, rwyf wedi cael trafferth dod o hyd i wybodaeth am y peth. Rwy'n credu bod hon yn ddadl bwysig iawn, ac yn amlwg yn un y mae ein hetholwyr eisiau inni dalu sylw iddi. Ond er mwyn cael unedau strôc o ansawdd uchel, rwy'n credu bod angen inni fod yn glir fod angen inni eu cael, nid ym mhob ysbyty dosbarth; mae angen inni gael unedau strôc wedi'u gwasgaru'n ddaearyddol, fel bod y boblogaeth gyfan yn gallu cyrraedd un, ond mae'n rhaid gallu cyfiawnhau hynny ar gyfer poblogaeth yr ardal honno os ydych eisiau'r ansawdd y byddai pawb yn ei ddymuno pe bai eu hanwyliaid neu eu hetholwyr yn cael strôc.
Rwy'n edrych ymlaen at glywed cyfraniadau'r Gweinidog. Rwyf eisiau clywed ychydig bach mwy am yr hyn y mae Dr Shakeel Ahmad, sef arweinydd clinigol cenedlaethol Cymru ar gyfer strôc, wedi bod yn ei wneud. Nodaf hefyd fod cynhadledd ar gyfer y DU yn Lerpwl ddiwedd mis Tachwedd, ac rwy'n gobeithio y bydd rhai o'n clinigwyr o Gymru yn mynychu honno, oherwydd mae hyn yn rhywbeth sydd yr un mor bwysig i bobl ar yr ochr arall i'r ffin. Mae gwelliannau enfawr wedi bod yn y ffordd y gofalwn am gleifion strôc, ond yn amlwg, mae mwy i'w ddysgu bob amser.
Nodwyd eisoes bod tua 7,000 o bobl yn cael strôc yng Nghymru bob blwyddyn, ac mae hynny'n gyfystyr â thref gyfan yn cael strôc bob blwyddyn. Ar gyfartaledd, mae'n cymryd 6 awr 35 munud rhwng dechrau strôc a chyrraedd ysbyty yng Nghymru. Cymharwch hynny â 3 awr 41 munud yn Lloegr, a 2 awr 41 munud yng Ngogledd Iwerddon. Mae sôn wedi bod am yr angen am yr awr euraidd. Rai blynyddoedd yn ôl, cafodd perthynas i mi strôc, ac yn y dyddiau hynny roedd hi bron yn ddisgwyliedig y byddai'n cael ei ystyried yn fater brys.
Mae data'r rhaglen archwilio genedlaethol ar gyfer strôc sentinel, sy'n sgorio ymatebion GIG Cymru i ddangosyddion allweddol megis amser i sgan, amser i driniaeth, amser i dderbyn i unedau strôc, yn tynnu sylw at dueddiadau pryderus yn ysbytai gogledd Cymru. O gofio mai'r sgôr waethaf bosibl yw E, nid yw Wrecsam nac Ysbyty Glan Clwyd wedi gweld unrhyw welliant yn eu sgoriau SSNAP, sef D, ers 2021. Yn wir, cymerodd Ysbyty Glan Clwyd fwy nag awr ar gyfartaledd i sganio cleifion strôc. Wrth ystyried mai strôc yw'r pedwerydd prif achos marwolaeth, nid yw'n syndod fod gennyf etholwyr sy'n bryderus iawn ynglŷn ag a fyddai ambiwlans yn cyrraedd mewn pryd, a hyd yn oed pe bai'n gwneud hynny, faint y byddai'n ei gymryd i gael sgan wedyn.
Un ysbyty'n unig yng Nghymru a lwyddodd i sicrhau bod cleifion yn cael mynediad at uned strôc o fewn y targed o bedair awr, ac yn ôl y Gymdeithas Strôc, mae'r amser y mae'n ei gymryd i gleifion gyrraedd ysbyty yn effeithio ar yr amser y mae'n ei gymryd i gleifion gael sgan. Mae cleifion yng Nghymru'n cael eu sganio ychydig dros wyth awr ar ôl i'w symptomau gychwyn. Felly, mae'n rhaid inni gael cleifion i'r ysbyty yn gynt ac mae angen sganiau cyflymach arnom.
Ers 2015, mae'r Llywodraeth Lafur Gymreig hon wedi israddio amseroedd ymateb ambiwlansys ar gyfer cleifion lle'r amheuir strôc i oren, heb unrhyw amser targed ar gyfer cyrraedd. Mae gan wasanaethau ambiwlans Lloegr, sydd â chategori penodol ar gyfer cleifion lle'r amheuir strôc, amser ymateb cymedrig o 47 munud a 59 eiliad. Yma yng Nghymru, mae galwadau oren yn cymryd awr a 35 munud ar gyfartaledd i gyrraedd gyda chleifion—'ar gyfartaledd' mae'n dweud; gallaf ddweud wrthych fy mod yn gwybod am enghreifftiau yn ddiweddar iawn, lle bu farw etholwr i mi oherwydd, wel, roedd yn rhy hwyr. Os yw'n hwy na 60 munud, mae'r risg o niwed, gan gynnwys niwed i'r ymennydd, anabledd corfforol a marwolaethau yn gallu cynyddu'n sylweddol. Erbyn 2020, a'r cyfnod cyn y pandemig, dywedodd hyd yn oed Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru fod perfformiad oren yn dal i beri pryder. O ganlyniad, mae'n rhesymol inni bleidleisio i gyfarwyddo'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol i gynnal adolygiad o fanteision a heriau ail-gategoreiddio galwadau strôc fel rhai coch—galwadau lle mae bywyd yn y fantol o dan y model ymateb clinigol. Ac rwy'n siarad fel Aelod etholedig lle mae gennym niferoedd uwch o hen bobl, yn amlwg, rwy'n siarad ar ran fy etholwyr yn Aberconwy. Bydd hynny'n rhoi cyfle teg i glywed gan fyrddau iechyd a gweithwyr proffesiynol, gan alluogi Senedd Cymru hon a'ch Llywodraeth i wneud y penderfyniad gorau a fydd hefyd yn orau i gleifion.
Felly, mae gennyf gwestiwn ac esboniad, Weinidog, ynglŷn â pham nad oes arbenigwr thrombectomi yng ngogledd Cymru. Dim ond dau sydd wedi'u cyflogi, ac mae'r ddau ohonynt yng Nghaerdydd. Mae Betsi Cadwaladr yn anfon cleifion i Ysbyty Walton. Fel yr amlinellir gan ymgyrch Saving Brains y Gymdeithas Strôc, gallai thrombectomi leihau'r perygl o anableddau fel parlys neu ddallineb yn sylweddol, a gallai hefyd arbed £47,000 y claf i'r GIG dros bum mlynedd. Cafodd llai nag 1 y cant o gleifion strôc yng Nghymru thrombectomi yn 2021. Felly, nid yw'n ddigon da. Rhyngom, dylem allu cytuno i weithio gyda byrddau iechyd i gyflawni gwell na hynny a sefydlu cynllun gweithlu fel bod gan ogledd Cymru ei arbenigwr ei hun hefyd.
Eto i gyd, mae gennym lai o wasanaethau na'r de, ac rydym yn gorfod dibynnu ar Loegr, ond rwyf eisiau dweud bod Walton yn eithriadol o dda. Er hynny, rydym wedi cael datganoli ers bron i 25 mlynedd. Weinidog, fel y gallwch ddychmygu, mae hon yn ddadl sy'n agos iawn at galonnau fy nghyd-Aelodau ar feinciau'r Ceidwadwyr Cymreig, ond mae hefyd yn agos at galonnau a meddyliau fy etholwyr yn Aberconwy, a llawer iawn o bobl ledled Cymru. Gwn eich bod yn gwrando ar yr hyn a ddywedwn yma; os gwelwch yn dda, ar y mater hwn, astudiwch y cynnig yn ofalus a gwnewch yr hyn a allwch i helpu ein dioddefwyr strôc. Diolch.
Yn anffodus, nid yw'n rhoi pleser imi ddweud fy mod yn ymwybodol iawn o ba mor ddifrifol y gall strôc fod. Cafodd fy mam strôc beth amser yn ôl a diolch byth, drwy weithredu'n gyflym, fe lwyddasom i gyfyngu ar y niwed a achosodd. Yn gyflym trodd yr hyn a ddechreuodd fel cur pen—yn ei geiriau hi, meigryn a symptomau tebyg i ffliw—yn rhywbeth gwirioneddol sinistr. Ac ar ôl i fy mam gael ei rhuthro i'r ysbyty gyda thri chlot ar ei hymennydd, ac ar ôl aros yn yr ysbyty am bythefnos a chael ffisiotherapi a therapi lleferydd helaeth iawn, a barhaodd am fisoedd, fe lwyddodd i wella'n eithaf da. Pe na baem wedi gweithredu'n gyflym a mynd â hi i'r ysbyty mewn pryd, byddai'r canlyniad wedi bod yn hollol wahanol, ac nid wyf dan unrhyw gamargraff y gallai fod wedi marw.
Fel y mae pawb yn gwybod, gorau po gyntaf y gweithredwch pan fo rhywun yn cael strôc. Rydym i gyd wedi clywed am yr acronym FAST—wyneb, breichiau, lleferydd ac amser—mewn perthynas â strôc, ac mae'n werth ei gofio, a dim ond ar ôl i fy mam gael ei strôc y deuthum yn ymwybodol o'r awr euraidd y mae llawer o fy nghyd-Aelodau wedi siarad amdani heddiw mewn perthynas â strôc. Mae'r tebygolrwydd o gael niwed difrifol neu niwed na ellir ei wella yn ystod strôc yn cynyddu'n aruthrol os nad yw'r claf yn cael triniaeth ddiffiniol o fewn y 60 munud cyntaf. Ond yn rhyfeddol, yng Nghymru, mae'n cymryd mwy na chwe awr a 30 munud ar gyfartaledd rhwng dechrau symptomau strôc a chyrraedd yr ysbyty. O'i gymharu, mae'n cymryd ychydig dros dair awr a 40 munud yn Lloegr, a dwy awr a 41 munud yng Ngogledd Iwerddon.
Amcangyfrifir bod 7,400 o bobl y flwyddyn yn cael strôc yng Nghymru, ac mae'n hanfodol ein bod yn gwneud popeth yn ein gallu i sicrhau bod mwy o gleifion yn cael eu gweld cyn gynted â phosibl, oherwydd mae'n fater o fywyd neu farwolaeth. Mae llawer o alwadau 999 lle'r amheuir strôc yng Nghymru yn cyrraedd ar ôl yr awr euraidd, ers i'r Llywodraeth Lafur yma israddio gwasanaethau ambiwlans lle'r amheuir strôc i oren. Fel y dywedais yn gynharach, mae gweithredu'n gyflym yn hollbwysig, ac ni allaf bwysleisio pa mor ddiolchgar wyf fi i'r parafeddygon a ddaeth i roi cymorth i ni, a'r rheini sy'n parhau i helpu pobl sy'n cael strôc. Ond o ystyried bod galwadau oren yng Nghymru'n cymryd awr a 35 munud ar gyfartaledd i gyrraedd cleifion, gadewch inni fod yn onest, nid yw mor gyflym â hynny o gwbl.
Mae addysg yn allweddol i wella canlyniadau i bobl sy'n dioddef strôc. Mae angen ymdrech enfawr i wneud yn siŵr fod pobl yn gwybod pa mor bwysig yw cael sylw meddygol os ydynt yn arddangos symptomau strôc. Flynyddoedd lawer yn ôl, pan oeddwn yn gweithio i'r Aelod rhanbarthol dros Ddwyrain De Cymru, trefnodd ddigwyddiad strôc i bob un o'i etholwyr gyda chymorth ac mewn cydweithrediad â'r Gymdeithas Strôc i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd o'r symptomau a'r heriau y mae rhywun yn eu profi wrth gael strôc. Roedd yn llwyddiant ysgubol ac fe gafodd ei werthfawrogi'n fawr gan drigolion de-ddwyrain Cymru, ond yn anffodus nid yw'r Senedd yn caniatáu i ddigwyddiadau o'r fath ddigwydd rhagor, sy'n drueni mawr.
Mae angen adolygiad o'r manteision a'r heriau o ail-gategoreiddio galwadau strôc fel rhai coch yn lle oren, Weinidog, a hynny ar frys. Rwy'n gobeithio'n fawr y bydd Gweinidogion Llafur a chyd-Aelodau yma yn y Senedd heddiw yn gwrando ar yr hyn rwyf fi ac Aelodau eraill wedi'i ddweud heddiw ac yn gweithredu'n gyflym i achub bywydau. Diolch.
Y Gweinidog iechyd, nawr, i gyfrannu i'r ddadl.
Diolch yn fawr, Lywydd. Yn gyntaf, rwyf eisiau diolch i'r Ceidwadwyr am gyflwyno'r mater pwysig hwn i'r Siambr heddiw, a'r holl Aelodau sydd wedi cyfrannu at y ddadl. Rwyf wedi gwrando'n astud ar bob siaradwr, ac mae llawer o bwyntiau pwysig wedi cael eu gwneud. Strôc, fel y dywedodd Mark Isherwood, yw'r pedwerydd prif achos marwolaeth yng Nghymru, ac mae'n cael effaith hirdymor sylweddol ar oroeswyr, ac mae yna 70,000 ohonynt yng Nghymru.
Mae ymateb ambiwlansys i strôc yn un elfen o ofal strôc yng Nghymru. Mae elfennau pwysig eraill yn cynnwys sut rydym yn trawsnewid ein model ar gyfer gwasanaethau strôc ar draws y system, ac yn codi ymwybyddiaeth o symptomau strôc ymhlith y cyhoedd. Mae gwasanaeth ambiwlans Cymru yn cydnabod bod strôc yn gyflwr a all beryglu bywyd, a'i nod bob amser yw ymateb cyn gynted â phosibl, ac rwy'n cytuno nad yw'r perfformiad presennol yn ddigon da. Ond i gleifion strôc, nid amser yn unig sy'n bwysig; mae'n fater hefyd o wneud yn siŵr eu bod yn cael yr ymateb mwyaf priodol a mynediad cyflym at y gwasanaethau arbenigol cywir.
Gallai cleifion strôc brofi unrhyw gyfuniad o ystod o symptomau corfforol a niwrolegol. Y symptomau hyn fydd yn ysgogi'r alwad 999, a difrifoldeb cymharol y symptomau hyn fydd yn llywio'r modd y bydd yr alwad yn cael ei chategoreiddio gan y gwasanaeth ambiwlans. Mae gwasanaeth ambiwlans Cymru yn adolygu'r drefn o flaenoriaethu galwadau yn barhaus drwy ei grŵp meddalwedd asesu blaenoriaethau clinigol, sy'n cynnwys uwch glinigwyr a rheolwyr gweithredol. Mae gan y grŵp gylch o adolygiadau rheolaidd wedi'u cynllunio, ond bydd hefyd yn gwneud adolygiadau ad hoc mewn ymateb i dystiolaeth glinigol sy'n dod i'r amlwg. Mae hon yn broses debyg i ymddiriedolaethau eraill y DU, a'i nod yw sicrhau bod cleifion yn parhau i gael yr ymateb mwyaf priodol i ddiwallu eu hanghenion clinigol, yn seiliedig ar y canllawiau clinigol diweddaraf.
Cafodd y model ymateb clinigol ei lunio gan glinigwyr blaenllaw, ac mae'n rhaid i benderfyniadau ar flaenoriaethu galwadau gael eu gwneud bob amser gan glinigwyr ar sail y dystiolaeth glinigol ddiweddaraf. Nid cyfrifoldeb aelodau'r pwyllgor, nac unrhyw un arall nad oes ganddynt yr wybodaeth arbenigol honno, yw penderfynu beth sy'n digwydd mewn perthynas â materion o'r fath. Pan gyflwynwyd y model ymateb clinigol am y tro cyntaf yn 2015, gwnaed hynny ar y sail y byddai 5 y cant o alwadau ar gyfartaledd yn y categori coch. A fyddai gan y pwyllgor ddiddordeb hefyd mewn dweud wrth y gwasanaethau ambiwlans pa gyflyrau eraill fydd yn cael eu hisraddio o'r categori coch presennol? Rwy'n amau'n fawr. A gaf fi fod yn glir? Ni wnaeth Llywodraeth Cymru israddio galwadau lle'r amheuir strôc i oren. Cyn hynny, rhoddwyd yr un lefel o flaenoriaeth i bob galwad, ni waeth beth fo'r difrifoldeb clinigol. Felly, cyn y newidiadau, yn ddamcaniaethol, rhoddwyd yr un amser ymateb i ataliad y galon â'r ddannoedd. Felly, cyflwynodd y gwasanaeth ambiwlans bedwar categori newydd er mwyn sicrhau bod pobl sydd angen ymateb cyflymach yn cael ymateb cyflymach. Fel y dywedaf, y targed oedd i 5 y cant o'r holl alwadau gael eu categoreiddio'n goch. Ond mae galwadau coch wedi bod mor uchel â 10.5 y cant yn ystod y misoedd diwethaf—mwy na dwywaith yr hyn y cynlluniwyd y model ar ei gyfer, a dangosydd clir fod y gwasanaeth ambiwlans yn ymateb yn gynyddol i bobl sydd â chyflyrau mwy cymhleth ac acíwt.
Awgrymodd Mark Isherwood fod gan wasanaeth ambiwlans Lloegr, sydd â chategori penodol ar gyfer cleifion lle'r amheuir strôc, amser ymateb cymedrig o 47 munud, ond nid yw hyn yn wir. Nid oes categori ar wahân na dynodedig ar gyfer strôc yn Lloegr. Er bod y categorïau a'r codau o fewn y categorïau hyn yn wahanol rhwng modelau Cymru a Lloegr, mae galwadau'n cael eu blaenoriaethu yn yr un modd yn y ddau fodel. Hynny yw, yn ôl difrifoldeb clinigol cymharol. Fel ni, nid oes ganddynt hwy un reol bendant ar gyfer pob strôc.
Gwyddom fod angen inni wneud mwy i wella prydlondeb ymatebion ambiwlansys i bob galwad, ac mae gennym gynllun gwella gwasanaethau ambiwlans cenedlaethol ar waith i gynyddu capasiti ambiwlansys, gwella'r ymateb i bobl sydd â chyflyrau lle mae amser o'r pwys mwyaf, a lleihau oedi wrth drosglwyddo cleifion o ambiwlansys. Rydym wedi buddsoddi £3 miliwn i alluogi Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru i recriwtio 100 yn rhagor o staff rheng flaen, a hynny ar ben y 263 y maent wedi'u recriwtio yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf. Rwyf hefyd wedi bod yn hynod o glir yn fy nisgwyliadau i fyrddau iechyd fynd i'r afael ag oedi wrth drosglwyddo cleifion, sy'n cael effaith sylweddol ar argaeledd ambiwlansys i ymateb i alwadau yn y gymuned.
A wnewch chi ildio?
Gwnaf.
Er eglurder, fe ddywedoch chi, rwy'n credu, fy mod wedi dweud bod categori arbennig ar gyfer strôc yn Lloegr a bod 47 munud—. Na, yr hyn a ddywedais oedd eu bod wedi ail-gategoreiddio galwadau strôc fel galwadau argyfwng yng nghategori 2, ac roedd gan gategori 2, yn ei gyfanrwydd, amser ymateb o 47 munud a 59 eiliad.
Felly, mae fy mhwynt yn sefyll, sef nad oes un reol bendant mewn perthynas â strôc yn Lloegr nac yng Nghymru.
Felly, mae adolygiad McClelland, a ysgogodd y newid i'r model ymateb clinigol, wedi nodi bod gwasanaeth ambiwlans Cymru wedi bod yn destun mwy o adolygiadau nag unrhyw ran arall o'r GIG yng Nghymru a bod y craffu hwn yn cyfrannu at y problemau sy'n wynebu'r sefydliad. Daeth i'r casgliad y gall cylch parhaus o adolygiadau fod yn aflonyddgar, yn wrthgynhyrchiol ac nad yw'n debygol iawn o arwain at welliant sylweddol i gleifion.
Ni ddaeth yr adolygiad oren a gynhaliwyd gan glinigwyr yn 2018 o hyd i unrhyw dystiolaeth glinigol i gefnogi ail-gategoreiddio'r holl alwadau strôc i'r categori coch. Ni fyddai modd cyfiawnhau adolygiad arall o'r gwasanaeth ambiwlans i ysgogi newid hyd nes y bydd corff o dystiolaeth i gefnogi newid o'r fath.
Dwi am sôn nawr am yr elfennau eraill gwnes i grybwyll. Cafodd y datganiad ansawdd ar gyfer strôc ei gyhoeddi ym mis Medi 2021. Mae'n nodi 20 o nodweddion ansawdd ar gyfer gwasanaethau strôc. Ym mis Mehefin 2022, fe wnaeth prif weithredwyr y byrddau iechyd gefnogi sefydlu bwrdd rhaglen strôc genedlaethol, ac fe fydd y bwrdd yn ategu ac adeiladu ar waith y grŵp gweithredu ar gyfer strôc. Bydd hefyd yn sicrhau cysondeb o ran sefydlu canolfannau strôc ranbarthol cynhwysfawr, a oedd yn arfer cael eu galw’n unedau strôc dra acíwt, a rhwydweithiau strôc weithredol rhanbarthol. Mae'r bwrdd hwn bellach wedi'i sefydlu. Cafodd y cyfarfod cyntaf ei gynnal ar 13 Hydref. Mae'n cael ei gadeirio gan Mark Hackett, prif swyddog gweithredol Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe. Mae’r aelodau’n cynnwys uwch gynrychiolwyr o'r byrddau iechyd, ymddiriedolaeth gwasanaethau ambiwlans Cymru, swyddfa comisiynwyr gwasanaethau ambiwlans Cymru, y Gymdeithas Strôc, cynghorau iechyd cymunedol a Llywodraeth Cymru. Mae'r bwrdd yn cael ei gefnogi gan dîm rhaglen craidd, gan gynnwys yr arweinydd clinigol cenedlaethol ar gyfer strôc yng Nghymru, Dr Shakeel Ahmad. Dyma’r mecanwaith a fydd yn goruchwylio ac yn ysgogi’r trawsnewid sydd ei angen i sefydlu model cynaliadwy ar gyfer gwasanaethau strôc yng Nghymru, gan gynnwys edrych i mewn i thrombectomi. Fe fydd yn sicrhau ein bod yn cyrraedd safonau cenedlaethol ac yn gwella canlyniadau i gleifion sydd wedi cael strôc.
Dwi wedi clywed galwad Rhun ap Iorwerth a Jenny fod angen gwella’r cyfathrebu â’r cyhoedd gan y bwrdd yma. Mae gennym ni i gyd rôl i’w chwarae, ac mae Llywodraeth Cymru yn croesawu pob cyfle i godi ymwybyddiaeth o strôc fel bod pobl yn gyfarwydd â’r symptomau ac yn gallu ymateb yn gyflym. Cefais gyfarfod â’r Gymdeithas Strôc bythefnos yn ôl, ac rŷm ni'n gweithio’n agos gyda nhw i hyrwyddo Diwrnod Strôc y Byd ar 29 Hydref, ac rŷn ni'n edrych ar gyfleoedd eraill i godi ymwybyddiaeth o symptomau strôc, yn cynnwys ymgyrch FAST. I gloi, hoffwn i sicrhau'r Siambr fod gwella canlyniadau strôc yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru, a dwi'n annog y Siambr i gefnogi'r cynnig gyda'r gwelliant a gafodd ei gyflwyno gan Lesley Griffiths. Diolch.
Gareth Davies i ymateb i'r ddadl.
Diolch yn fawr iawn, Lywydd. Mae'n bleser cymryd rhan yn y ddadl hon y prynhawn yma a chau'r ddadl yn wir. Rwy'n teimlo'n eithaf angerddol ynglŷn â strôc, a dweud y gwir, achos dyna oedd fy ngwaith cyn imi gael fy ethol i'r Senedd. Rydym yn siarad am rai o symptomau mwyaf cyfarwydd strôc. Gall gynnwys lleferydd aneglur, colli cryfder ar un ochr i'r corff; dyna'r symptomau mwyaf cyfarwydd. Ond os ydych chi eisiau gweld rhai o'r ystod o symptomau strôc, byddwn yn annog unrhyw un i dreulio diwrnod mewn uned strôc neu gyfleuster adsefydlu i weld realiti rhai o'r achosion hyn. Yn y sefyllfaoedd gwaethaf, gall pobl golli eu symudedd, gallant golli eu holl ryddid a'u hannibyniaeth, maent angen eu bwydo, maent yn colli eu holl nerth i wneud eu gofal personol eu hunain, maent angen i rywun roi cawod iddynt, maent angen i rywun eu golchi. Dyna'r pethau gwaethaf. A 24, 48 awr cyn hynny, roeddent yn byw bywyd normal, fel rydym ni i gyd yn ei wneud yn awr, ac i fynd o hynny, i'r pegwn arall hwnnw, dyna pam rwy'n pwysleisio pwysigrwydd ymyrraeth gynnar y prynhawn yma, y thrombolysis, y ffisiotherapi a chael y pethau hynny yn eu lle cyn gynted â phosibl er mwyn sicrhau cymaint o lwyddiant â phosibl wrth adsefydlu. Weithiau, nid oes modd gwneud hynny, dyna realiti'r peth; weithiau mae achosion strôc yn rhy acíwt i allu cyflawni unrhyw adsefydlu, ond lle gallwn wneud hynny, dylem fynd ati o ddifrif i fuddsoddi mewn gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd, ffisiotherapi, therapi galwedigaethol a thrombolysis i wneud yn siŵr ein bod yn rhoi'r cyfle gorau i bobl gael adferiad llawn ac adfer rhywfaint o annibyniaeth ac urddas yn eu bywydau.
Agorodd Mark Isherwood y ddadl drwy dynnu sylw at y ffaith ei bod yn Ddiwrnod Strôc y Byd ddydd Sadwrn, y nawfed ar hugain, a phwysleisiodd bwysigrwydd ymwybyddiaeth gyhoeddus ar draws pob lefel o'r system iechyd. Soniodd Rhun ap Iorwerth mai dyma'r pedwerydd prif achos marwolaeth, ac adleisiwyd hynny mewn llawer o'r cyfraniadau eraill y prynhawn yma, ac unwaith eto, pwysigrwydd gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd yn y system gofal iechyd i gynyddu potensial adsefydlu i'r eithaf. Soniodd Sam Kurtz am rai o'r pethau lleol yn ei etholaeth, gan gynnwys Grŵp Strôc Caerfyrddin, a rhai o'r ystadegau lleol yn ysbytai Llwynhelyg a Glangwili, ac yna fe soniodd James Evans am ei etholaeth ef a rhai o'r problemau ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed wrth i'w drigolion lleol orfod mynd dros y ffin i Loegr, lle gallai fod ychydig mwy o ddarpariaeth leol er mwyn i bobl ym Mhowys gael y driniaeth y maent yn ei haeddu.
Nid oeddwn yn cytuno gyda datganiad Jenny Rathbone ynglŷn â pheidio â'i gynnwys ar y rhestr goch. Mae'n siarad drosto'i hun; dyma'r pedwerydd lladdwr mwyaf, Jenny, felly mae hynny'n siarad drosto'i hun am bwysigrwydd gwneud hyn yn flaenoriaeth.
Rwy'n credu eich bod chi'n ceisio cymharu dau beth gwahanol yno. Mae'n ymwneud â'r cyflymder y mae angen ichi gael ambiwlans at rywun sy'n tagu, o'i gymharu â'r cyflymder y mae angen ichi gyrraedd rhywun sy'n cael strôc. Nid wyf yn meddwl y dylem ni benderfynu beth ddylai'r canllawiau fod ar gyfer y gwasanaeth ambiwlans. Caiff hynny ei wneud gan glinigwyr. Rwy'n meddwl bod angen inni wella gwasanaethau strôc, ond nid wyf yn meddwl bod hynny'n mynd—[Anghlywadwy.]
Dyna olygfa ardderchog o'ch cefn ar y camera yno, Jenny, ond clywyd eich llais ar feicroffon Gareth, felly mae'r cyfan wedi'i gofnodi. Mae'n iawn. Gareth Davies.
Diolch, Lywydd. A phwynt teg, Jenny, a dyna pam rwy'n gobeithio y byddwch yn pleidleisio dros ein cynnig i fynd ag ef i'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol lle gallwn gymryd tystiolaeth gan y bobl gywir, a gobeithio y byddant hwy'n adleisio ein geiriau. Soniodd Janet Finch-Saunders am ystadegau yng ngogledd Cymru, yn enwedig ar gleifion hŷn yn ei hetholaeth yn Aberconwy, ac fel cyn-weithiwr yn Ysbyty Cyffredinol Llandudno yn yr unedau adsefydlu, rwy'n deall ac yn gwerthfawrogi'r gwaith sy'n digwydd yn Llandudno a'ch etholaeth. Felly, rwy'n llwyr gefnogi'r staff gweithgar yno sy'n gwneud gwaith da yno bob dydd o'r flwyddyn.
Soniodd Natasha am rai o'r profiadau personol a gafodd hi gyda strôc wedi'r hyn a brofodd ei mam, ac mae'n dda gweld ei bod yn gwella'n dda ac yn ôl mewn iechyd da.
Weinidog, fe ddywedoch chi wrth agor eich ymateb i'r ddadl eich bod yn credu nad yw'r perfformiad yn ddigon da. Wel, mae gennym gyfle y prynhawn yma i wneud rhywbeth yn ei gylch mewn gwirionedd, felly gadewch inni fod yn uchelgeisiol, gadewch inni ddangos i bobl Cymru ein bod ar ochr dioddefwyr strôc a chael hyn ar restr goch yr ambiwlans, oherwydd mae dioddefwyr strôc yn haeddu gweld Llywodraeth Cymru yn gweithredu ar unwaith i ystyried eu poen fel blaenoriaeth goch os ydynt hwy neu unrhyw un yn dioddef strôc fel bod modd eu trin yn gyflymach, iddynt gael mwy o obaith o oroesi a bod ar ffordd gadarn i adferiad ac annibyniaeth. Hoffwn gau drwy annog pawb i gefnogi ein cynnig heb welliant y prynhawn yma. Diolch.
Y cynnig, felly, yw y dylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad, felly fe fyddwn ni'n gohirio'r bleidlais tan y cyfnod pleidleisio.