7. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad — 'Adroddiad Blynyddol 2021/22'

– Senedd Cymru am 4:48 pm ar 9 Tachwedd 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Rees David Rees Labour 4:48, 9 Tachwedd 2022

Eitem 7 y prynhawn yma yw'r ddadl ar adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad, 'Adroddiad Blynyddol 2021/22', a galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig. Huw Irranca-Davies.

Cynnig NDM8119 Huw Irranca-Davies

Cynnig bod yn Senedd:

Yn nodi Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ar gyfer 2021/22, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 12 Hydref 2022.

Cynigiwyd y cynnig.

Photo of Huw Irranca-Davies Huw Irranca-Davies Labour 4:49, 9 Tachwedd 2022

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Pleser yw siarad prynhawn yma a thynnu sylw'r Senedd at waith y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad yn ystod blwyddyn lawn gyntaf y chweched Senedd. Cyn dechrau, hoffwn gofnodi ein diolch i'r Cwnsler Cyffredinol am ei barodrwydd i ymddangos ac ateb ein cwestiynau yn rheolaidd.

Photo of Huw Irranca-Davies Huw Irranca-Davies Labour

(Cyfieithwyd)

Mae'n cael ei werthfawrogi'n fawr.

Mae ein cylch gwaith yn eithaf sylweddol, ac mae ein cyfrifoldebau craffu bron bob amser yn amodol ar amserlenni a therfynau amser a osodir naill ai gan y Rheolau Sefydlog neu'r Pwyllgor Busnes. Ac mae craffu ar is-ddeddfwriaeth yn rhan o'n gwaith bara menyn. Yn y flwyddyn gyntaf, yn wir, fe wnaethom ystyried mwy na 250 darn o is-ddeddfwriaeth a wnaed gan Weinidogion Cymru. Yn rhannol, gellir priodoli hyn i ddymuniad Llywodraeth Cymru i weithredu Deddfau a basiwyd mewn Seneddau blaenorol yn llawn. Deddf o'r fath yw Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016. Mae'r astudiaeth achos yn ein hadroddiad yn tynnu sylw at ein gwaith craffu ar yr is-ddeddfwriaeth sy'n gweithredu'r Ddeddf hon a'r cywiriadau a nodwyd gennym. Mae hyn yn dangos pwysigrwydd ein rôl graffu, a rôl graffu'r Senedd, yn bennaf o gofio bod is-ddeddfwriaeth yn ffurfio canran sylweddol o'r gyfraith sy'n effeithio ar fywydau bob dydd ein hetholwyr.

Photo of Huw Irranca-Davies Huw Irranca-Davies Labour 4:50, 9 Tachwedd 2022

(Cyfieithwyd)

Mae'n deg dweud nad oeddem wedi disgwyl treulio cymaint o amser yn ystod blwyddyn gyntaf y chweched Senedd yn adrodd ar femoranda cydsyniad deddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar gyfer Biliau'r DU. Fe wnaethom fynegi pryder ynghylch y graddau mae Llywodraeth y DU yn ceisio deddfu mewn meysydd sydd wedi'u datganoli, yn fwyaf arbennig mewn amgylchiadau lle mae'n digwydd gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru. Mae adrodd ar femoranda ar gyfer deddfwriaeth a wneir yn Senedd y DU, nad oes gennym unrhyw le i ddylanwadu arno, yn rhwystredig.

Byddai'n well gennym fod wedi cyfrannu at y broses o wella deddfwriaeth sy'n cael ei llunio yma yn y Senedd, fel ffordd o ddarparu'r atebion gorau posibl i gymunedau ledled Cymru—rôl rydym ni fel Aelodau o'r Senedd wedi cael ein hethol i'w chyflawni, wrth gwrs. Mae hyn hefyd yn tynnu sylw at un o'r problemau gyda phroses y cydsyniad deddfwriaethol: nid oes rôl i'r Senedd ddylanwadu ar benderfyniad Llywodraeth Cymru i ddilyn darpariaethau yn un o Filiau'r DU yn y lle cyntaf.

Nawr, rydym yn cydnabod, Gwnsler Cyffredinol, ei bod yn briodol defnyddio Biliau'r DU i ddeddfu mewn meysydd datganoledig mewn rhai achosion. Ond mae ein hadroddiad yn tynnu sylw at y ffaith bod egwyddorion Llywodraeth Cymru ar gyfer defnyddio Biliau'r DU i ddeddfu yn cynnwys gormod o gafeatau a chymalau eithrio yn ein barn ni, a chredwn fod hynny'n golygu nad oes fawr o werth ymarferol i'r egwyddorion hynny yn y chweched Senedd hon. Felly, rydym yn bwriadu drafftio ein hegwyddorion ein hunain y gallwn eu defnyddio wedyn ar gyfer dwyn y Llywodraeth i gyfrif.

Yn gyffredinol, Gwnsler Cyffredinol, rydym yn pryderu bod gormod o ddeddfwriaeth mewn meysydd datganoledig yn cael ei gwneud yn Senedd y DU. Mewn rhai amgylchiadau, gallai Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ddeddfu'n gyfochrog, a fyddai'n caniatáu cydweithredu rhwng Llywodraethau lle bo hynny'n briodol ac i'r Senedd ymgymryd â'i rôl graffu ar ddeddfwriaeth sylfaenol.

Yn y pen draw, mae effaith Llywodraeth Cymru yn ceisio darpariaeth ddatganoledig ym Miliau Llywodraeth y DU, neu Lywodraeth y DU yn cynnwys darpariaeth ddatganoledig mewn Bil heb unrhyw ymgynghoriad, yr un fath: creu diffyg democrataidd a lleihad cyfatebol mewn atebolrwydd yma yng Nghymru. Dylai hynny fod yn destun pryder i bawb ohonom, oherwydd os yw'r ymagwedd hon yn parhau, mae perygl y gallai danseilio'r Senedd fel deddfwrfa ac egwyddorion sylfaenol datganoli.

Mae ein hadroddiad yn tynnu sylw at ein gwaith craffu ar ddau Fil a gyflwynwyd i'r Senedd yn y flwyddyn gyntaf, lle roeddem yn gallu dylanwadu ar Lywodraeth Cymru i ddiwygio'r Biliau hynny. Mae hefyd yn tynnu sylw at ein pryderon ynghylch dull Llywodraeth Cymru o wneud cyfraith ar faterion trethu—a gallaf weld Cadeirydd chwaer bwyllgor yma hefyd—ac yn arbennig ein hawydd i weld deddfwriaeth sylfaenol, yn hytrach nag is-ddeddfwriaeth, yn cael ei defnyddio i newid cyfraith trethiant. Byddem yn dadlau y byddai dull o'r fath yn parchu mandad democrataidd a goruchafiaeth ddeddfwriaethol y Senedd.

Felly, gadewch imi droi nawr at faterion sy'n ymwneud â'r cyfansoddiad ac at faterion allanol. Mae cytundeb perthynas ryngsefydliadol newydd wedi ei gytuno ar gyfer y chweched Senedd, ac rydym wedi bod yn monitro sut mae Llywodraeth Cymru'n cyflawni yn erbyn ei hymrwymiadau i rannu gwybodaeth gyda'r Senedd a'i phwyllgorau. Yn fras, credwn fod y cytundeb yn gweithio'n dda, a byddwn yn gweithio'n adeiladol gyda Llywodraeth Cymru i'w helpu i wneud rhai gwelliannau, gan gynnal uniondeb ein swyddogaeth graffu ar yr un pryd.

Rydym wedi dechrau rhoi sylw penodol i'r amgylchiadau pan fo Gweinidogion Cymru yn cydsynio i Lywodraeth y DU wneud is-ddeddfwriaeth mewn meysydd sydd wedi'u datganoli. Yn benodol, rydym wedi mynegi pryderon ynghylch yr amser cyfyngedig sydd ar gael i'r pwyllgorau roi barn wybodus ynglŷn ag a ddylai Llywodraeth Cymru roi ei chydsyniad. Mae hwn yn fater y byddwn yn parhau i'w fonitro. Mae'n un sy'n dod yn fwyfwy pwysig, yn bennaf gyda chyflwyno Bil Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio) i Senedd y DU yn ddiweddar.

I'r rhai nad ydynt yn gwybod, cyn diwedd 2023 mae Llywodraeth y DU yn cynllunio ar hyn o bryd iddi hi a'r Llywodraethau datganoledig adolygu holl gyfraith yr UE a ddargedwir er mwyn penderfynu beth i'w gadw, i'w ddiwygio neu i gael ei wared. Mae hwn yn waith sylweddol, oherwydd mae Llywodraeth y DU yn amcangyfrif bod tua 2,400 darn o gyfraith yr UE a ddargedwir mewn grym. Nid yw'r ffigur hwnnw'n cynnwys cyfraith yr UE a ddargedwir a wnaed yng Nghymru ac fel y bydd nifer ohonoch yn gwybod, daeth adroddiadau i'r amlwg ddoe fod y ffigur erbyn hyn yn debygol o fod yn nes at 3,800 o ddarnau o gyfraith. Os na newidir yr amserlen a gyflwynwyd gan y Bil, bydd yn faich enfawr, nid yn unig i Lywodraeth Cymru ond i fy mhwyllgor ac i'r Senedd gyfan mewn gwirionedd. Gallai fygwth gallu Llywodraeth Cymru a'r Senedd i weithredu'n effeithiol.

Maes arall o'n cylch gwaith yw llywodraethiant DU-UE, ac mae ein hadroddiad yn nodi'r gwaith a wnaethom, sy'n cynnwys mapio cyfrifoldebau Llywodraeth Cymru, monitro ei hymgysylltiad mewn pwyllgorau ôl-Brexit DU-UE a sicrhau ymrwymiad gan Brif Weinidog Cymru i wella tryloywder ar y materion hyn. Mae'r gwaith hwn wedi bod yn sail i'n hymgysylltiad parhaus â sefydliadau'r UE, gan gynnwys Cynulliad Partneriaeth Seneddol y DU-UE, a gyfarfu eto am yr eildro yr wythnos hon.

Mae ein hadroddiad hefyd yn manylu ar ein rôl drosfwaol ar fframweithiau cyffredin a'r gwaith a wnaethom ar gytundebau rhyngwladol. Mae monitro gweithrediad a chyflawniad cytundebau rhyngwladol yn bwysig er mwyn asesu eu heffaith ar Gymru, ac felly mae'n braf cael adrodd ar y llwyddiant a gawsom yn sicrhau mwy o wybodaeth gan Lywodraeth Cymru yn y maes hwn i helpu'r broses honno. Ar ben hynny, mae ein gwaith wedi ein galluogi i ddatblygu ein hymgysylltiad ymhellach â phwyllgorau mewn Seneddau eraill—rhywbeth sydd o bwys cynyddol.

Mae honno'n agwedd arall ar yr hyn a wnawn yr hoffwn dynnu sylw ati heddiw: adeiladu'r berthynas gynhyrchiol honno â Seneddau eraill yn y DU fel ein bod yn rhannu gwybodaeth, gyda'r nod cyfunol o ddwyn ein Llywodraethau i gyfrif. Yn ystod y 12 mis diwethaf, rydym wedi cyfarfod â phwyllgorau o Dŷ'r Cyffredin a Thŷ'r Arglwyddi a fis Mehefin diwethaf, cynhaliwyd cyfarfod â phwyllgorau o'r Tai hynny yn San Steffan i drafod meysydd o ddiddordeb cyffredin. Ychydig cyn y toriad, cyfarfu'r Fforwm Rhynglywodraethol yn y Senedd i drafod, ymhlith pethau eraill, cysylltiadau rhynglywodraethol, protocol Gogledd Iwerddon, Bil cyfraith yr UE a ddargedwir, yn ogystal â chynnal sesiwn holi ac ateb ardderchog gyda'r Cwnsler Cyffredinol, a roddodd ei amser yn barod iawn unwaith eto.

Fel y nodais ar ddechrau fy araith, mae ehangder cylch gwaith y pwyllgor hwn yn heriol, a chyda chyfran sylweddol o'n hamser yn cael ei dreulio yn ystyried materion deddfwriaethol, mae ein gallu i fod yn rhagweithiol wrth graffu ar faterion cyfiawnder wedi bod yn gyfyngedig. Rydym yn cydnabod bod heriau sylweddol yn wynebu dinasyddion yng Nghymru yn gysylltiedig â gweithrediad y system gyfiawnder. Rydym wedi cyfarfod â llywydd Tribiwnlysoedd Cymru, Cyngor Cyfraith Cymru a'r Arglwydd Thomas o Gwmgiedd ar faterion yn ymwneud â chyfiawnder yng Nghymru ac am y tro cyntaf, fe wnaethom waith craffu ar y gyllideb ddrafft mewn perthynas ag agweddau ar bortffolio cyfiawnder Llywodraeth Cymru. Mae croeso mawr i'r ymrwymiadau a roddodd y Cwnsler Cyffredinol i gynyddu tryloywder cyflawniad y rhaglen waith ar gyfiawnder ac ar wariant Llywodraeth Cymru ar gyfiawnder, ac edrychwn ymlaen at farnu cynnydd yn y rownd graffu nesaf ar y gyllideb.

Rydym hefyd yn croesawu'r camau a gymerwyd gan Lywodraeth Cymru eleni i ymateb yn gadarnhaol i argymhellion y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru ac yn cefnogi ei gydweithio parhaus gyda'r Weinyddiaeth Gyfiawnder i nodi'r argymhellion y gall eu gweithredu mewn partneriaeth. Er bod cynnydd yn cael ei wneud, mae'n amlwg, o waith ymgysylltu a wnaethom, gydag ymarferwyr cyfreithiol fod llawer o waith i'w wneud o hyd i ymateb i'r heriau sy'n wynebu'r sector cyfreithiol ar hyn o bryd a'r rhwystrau sy'n wynebu'r rhai sydd eisiau mynediad at gyfiawnder yng Nghymru.

Felly, fel y dengys fy sylwadau y prynhawn yma, mae ein gallu i fod yn rhagweithiol braidd yn gyfyngedig ar hyn o bryd. Ond i wrthsefyll hyn, rydym yn ystyried ac rydym yn cyhoeddi adroddiadau monitro rheolaidd i dynnu sylw at ddatblygiadau o fewn yr ystod o bynciau rydym yn ymdrin â hwy, ac yna rydym yn eu dwyn i sylw'r cyhoedd yn ogystal ag i sylw'r Senedd. Dyna pam ein bod wedi penderfynu paratoi'r adroddiad blynyddol hwn, er mwyn dod â'r holl waith a wnaethom rhwng mis Mai 2021 a mis Awst 2022 at ei gilydd mewn un man, ac rwy'n gwahodd y Senedd i nodi'r adroddiad hwn.

Wrth gloi, a gaf fi ddiolch i holl Aelodau'r Senedd sydd wedi cyfrannu at y gwaith a adlewyrchir yn yr adroddiad hwn, i aelodau fy mhwyllgor, a hefyd i'n clercod a'n tîm ymchwil, gan y byddai'r gwaith wedi ein llethu'n llwyr oni bai amdanynt hwy? Edrychaf ymlaen at gyfraniadau eraill y prynhawn yma gan aelodau'r pwyllgor a chan eraill, ac yn cynnwys ymateb y Gweinidog hefyd. Diolch yn fawr iawn.

Photo of James Evans James Evans Conservative 4:59, 9 Tachwedd 2022

(Cyfieithwyd)

Fel aelod newydd o'r pwyllgor hwn, mae wedi bod yn agoriad llygaid i mi weld proses ddeddfwriaethol y Senedd a'r holl gydweithio rhynglywodraethol ac ehangder y gwaith y mae'r pwyllgor yn ei wneud. Hoffwn gofnodi fy niolch i'n Cadeirydd, Huw Irranca-Davies, am y gwaith ardderchog y mae'n ei wneud yn cadeirio'r pwyllgor hwnnw, ac i'n his-gadeirydd a gamodd i'r adwy y diwrnod o'r blaen a chadeirio'r cyfarfod yn ardderchog.

Nid wyf yn bwriadu siarad yn hir, Ddirprwy Lywydd—rwy'n siŵr y byddwch yn falch o hynny—ac nid wyf yn debygol o wneud unrhyw sylwadau a fydd yn gwella gyrfa, mewn gwirionedd, ynghylch proses y cydsyniad deddfwriaethol. Mae'r ddau beth roeddwn i eisiau siarad amdanynt yn ymwneud â sut nad yw proses cydsyniad deddfwriaethol Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru yn gweithio. Un peth a roddodd sioc i mi oedd diffyg ymgysylltiad Llywodraeth y DU â Llywodraeth Cymru ar rai elfennau o'r ddeddfwriaeth; mae rhai rhannau o Lywodraeth y DU a rhai adrannau'n ymgysylltu'n gynnar, mae adrannau eraill o Lywodraeth y DU yn frawychus—nid ydynt yn ymgysylltu'n ddigon cynnar ar feysydd sydd â chymhwysedd datganoledig. O'm rhan i'n bersonol, mae cael memoranda cydsyniad deddfwriaethol wedi'u hanfon at Lywodraeth Cymru gyda dyddiau neu oriau i fynd, a dweud, 'A wnewch chi gydsynio i hyn?' yn amharchus, mae'n arfer wael o ran cysylltiadau rhynglywodraethol, ac mae angen i hynny newid. Mae angen i Lywodraeth y DU wneud mwy i wella'r cysylltiadau hynny, oherwydd os ydym yn mynd i weld y Deyrnas Unedig a phob Senedd yn gweithio'n dda gyda'i gilydd, mae angen parch i'r holl ddeddfwrfeydd ar draws y wlad.

Yr ail bwynt roeddwn am ei wneud oedd un sydd wedi cael sylw yn y cyfryngau o bosibl, sef bod y Senedd hon yn ddeddfwrfa yn ei hawl ei hun, a'n dyletswydd ni i bobl Cymru yw defnyddio'r lle hwn i greu cyfraith Gymreig i bobl Cymru. Cafodd hyn sylw gan y pwyllgor; credwn fod Llywodraeth Cymru'n defnyddio Llywodraeth y DU lawer gormod i ddeddfu ar feysydd datganoledig. Mae hyn yn osgoi craffu; mae'n osgoi ein pwyllgorau a'r Aelodau a etholwyd yn ddemocrataidd yma a ddylai fod yn craffu ar y gyfraith hon ar ran pobl Cymru. Mae'n fater y mae angen mynd i'r afael ag ef, ac rwy'n gobeithio y bydd y Cwnsler Cyffredinol, pan fydd yn ymateb i'r adroddiad, yn rhoi sylw i hynny a gobeithio y gall roi atebion i ni ynglŷn â hynny, oherwydd rwy'n gwybod ei fod yn rhywbeth y mae'r pwyllgor eisiau ei weld. Fel y dywedais, rydym yn ddeddfwrfa yn ein hawl ein hunain, a'n dyletswydd i bobl Cymru, ac i Aelodau ein Senedd, yw parchu hynny.

Nid wyf yn bwriadu siarad rhagor; rwyf ar y marc dau funud ac rwy'n siŵr y bydd fy nghyd-Aelod Alun Davies yn ehangu ar y materion hyn mewn ffordd lawer mwy huawdl na minnau. Ond hoffwn ddiolch i Huw Irranca-Davies, Alun Davies a Rhys ab Owen am y gwaith gwych a wnânt ar ein pwyllgor ac am fod yn Aelodau gwych sy'n cynrychioli'r pwyllgor hwn a phobl Cymru. Diolch.

Photo of Alun Davies Alun Davies Labour 5:02, 9 Tachwedd 2022

(Cyfieithwyd)

Petrusaf cyn ymhelaethu ar unrhyw faterion yn y fforwm hwn, ond rwy’n ddiolchgar. Credaf ei bod yn iawn fod James Evans wedi diolch i aelodau eraill y pwyllgor. Hoffwn ychwanegu Rhys ab Owen at hynny, ac wrth gwrs, Aelodau eraill sydd wedi eistedd yn y lle hwn—mae Jayne Bryant a Peter Fox hefyd wedi cyfrannu at waith y pwyllgor. Rwyf am ddiolch hefyd wrth gwrs nid yn unig i'r Cadeirydd, ond i'r ysgrifenyddiaeth yn ogystal, sy'n gwneud gwaith gwych yn darparu cymorth i'r pwyllgor. Hoffwn adleisio geiriau Cadeirydd y pwyllgor drwy ddiolch i’r Cwnsler Cyffredinol am ei barodrwydd i fynychu’r pwyllgor. Ar un adeg, roeddwn yn teimlo ei fod yn mynychu mwy o gyfarfodydd pwyllgor na rhai Aelodau, ac rwyf wedi eistedd yn y lle hwn yn ddigon hir i wybod ei bod weithiau'n hynod o anodd cael y Gweinidog o flaen y pwyllgor. Felly, rydym yn ddiolchgar iawn i'r Cwnsler Cyffredinol hefyd, ac yn ddiolchgar i'r Ysgrifennydd Parhaol, a fynychodd y pwyllgor ychydig wythnosau yn ôl.

Mae Aelodau sydd wedi siarad yn y ddadl hon wedi amlinellu rhai o’r themâu allweddol y mae’r pwyllgor wedi ceisio mynd i’r afael â hwy, a chredaf mai’r themâu a nodwyd gan y Cadeirydd a chan yr Aelod Ceidwadol yw’r themâu rwyf innau am geisio mynd i’r afael â hwy. Rwyf wedi eistedd ar y pwyllgor hwn ers rhai blynyddoedd drwy nifer o Seneddau gwahanol, ac nid wyf erioed wedi gorfod ymdrin â chymaint o gynigion cydsyniad deddfwriaethol ag rydym yn ymdrin â hwy ar hyn o bryd. Mae arnaf ofn dweud wrth y Cwnsler Cyffredinol fod Llywodraeth Cymru yn ddihiryn yn yr achos hwn, ac nid Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn unig sy’n gweithredu fel dihiryn; mae'r ddwy ar fai yma.

Nid yw’n iawn nac yn briodol fod Llywodraeth Cymru yn ceisio osgoi craffu ar ei deddfwriaeth drwy ddefnyddio’r sianeli sydd ar gael iddi yn San Steffan. Pleidleisiodd pobl Cymru dros ddatganoli, a gwnaethant bleidleisio i'r ddeddfwrfa hon graffu ar y Llywodraeth ddatganoledig hon. Mae’n iawn ac yn briodol fod y ddeddfwrfa'n gallu craffu ar ddeddfwriaeth. Nid oes gennyf unrhyw broblem gyda phroses y memoranda cydsyniad deddfwriaethol ac nid oes gennyf unrhyw broblem gyda'r ffordd y'i defnyddiwyd yn y gorffennol, gan ei bod wedi cael ei defnyddio i lyfnhau ymylon garw. Mae wedi cael ei defnyddio gan Weinidogion ar y ddwy ochr i’r ffin i alluogi i bethau ddigwydd yn haws ac i wneud hynny mewn ffordd sy’n hwyluso llywodraethu da yn ein gwledydd. Ond nid dyna'r hyn rydym yn ymdrin ag ef ar hyn o bryd. Yr hyn rydym yn ymdrin ag ef ar hyn o bryd yw osgoi craffu ar lefel ddiwydiannol, ac ni allwn ganiatáu i hynny ddigwydd. Mae’n rhaid inni siarad yn glir â Llywodraeth Cymru a dweud, fel pwyllgor, gan anwybyddu gwleidyddiaeth yn y cyswllt hwn, na ddylem ac na allwn dderbyn hyn fel deddfwrfa. Mae angen inni fod yn glir ynglŷn â hynny.

Ond mae angen inni hefyd ddweud yn glir wrth Lywodraeth y Deyrnas Unedig na chawsant eu hethol â mandad i ymdrin â’r materion hyn. Ni sydd â'r mandad gan bobl Cymru. Mae pobl Cymru wedi pleidleisio ddwywaith mewn refferenda i sefydlu Senedd i lywodraethu’r wlad hon yn y ffordd a bennwyd, ac nid yw’n iawn nac yn briodol fod Llywodraeth y Deyrnas Unedig, heb fandad yn y wlad hon, yn ceisio deddfu mewn meysydd sydd wedi’u datganoli i Gymru. Mae’n amhriodol, ac mae’n amhriodol fod Senedd San Steffan yn cael ei defnyddio i orfodi deddfwriaeth nad oes cydsyniad iddi yng Nghymru. Mae angen inni fod yn glir iawn ynglŷn â hynny.

Y mater arall yr hoffwn fynd i’r afael ag ef yw cysylltiadau rhynglywodraethol. Ar y cynnydd a welsom yn y blynyddoedd diwethaf, daeth Prif Weinidog Cymru i gytundeb rai blynyddoedd yn ôl bellach gyda Llywodraeth y DU, ac roeddwn yn croesawu hynny gan fy mod yn teimlo ein bod yn ymbellhau oddi wrth rywfaint o’r gwrthdaro rydym wedi’i weld dros y blynyddoedd diweddar ac yn symud tuag at berthynas wedi'i strwythuro a'i threfnu'n well rhwng ein Llywodraethau. Ond nid yw hynny wedi digwydd. Nid ydym wedi gweld hynny’n cael ei gyflawni. Credaf ei fod yn dweud y cyfan, yng nghwestiynau’r Cwnsler Cyffredinol yn gynharach, pan orfodwyd y Cwnsler Cyffredinol i ddweud bod gennym ddarnau o ddeddfwriaeth yma nad ydynt hyd yn oed wedi’u gweld gan swyddogion Llywodraeth Cymru cyn iddynt gael eu gosod ger ein bron a chyn i gynigion cydsyniad deddfwriaethol gael eu ceisio. Mae hynny'n anghywir ac yn amhriodol ac ni ddylai ddigwydd. Fy marn gref heddiw yw bod angen diddymu Swyddfa Cymru; yn ei lle, mae angen trefniadau rhynglywodraethu go iawn a phrosesau a strwythurau gwladwriaeth ffederal.

Ceir materion eraill y mae angen inni fynd i'r afael â hwy. Roedd mater cyfiawnder yn un y cyfeiriodd y Cadeirydd ato yn ei gyflwyniad. Gwn fod y pwyllgor cydraddoldeb yn gwneud rhywfaint o waith ar hyn o bryd ar le menywod yn y system farnwrol, a gwyddom fod strwythur llywodraethu presennol y Deyrnas Unedig, fel yr amlinellodd y Cwnsler Cyffredinol unwaith eto, yn y cwestiynau, yn gwneud cam â'r system farnwrol. Felly, mae cwestiynau mawr yma y mae angen inni fynd i'r afael â hwy. Credaf fod y pwyllgor yn gwneud gwaith rhagorol yn dechrau mynd i’r afael â’r rheini, ac yn dweud rhai pethau anodd iawn wrth ein Llywodraeth ein hunain. Credaf ei bod yn iawn ac yn briodol i bwyllgorau wneud hynny. Rydym newydd weld dadl ragorol gan y pwyllgor cynt; roeddwn o'r farn fod honno’n ffordd wych o drafod rhai o’r materion polisi sy'n gysylltiedig â hyn.

Ond Gwnsler Cyffredinol, wrth ateb y ddadl y prynhawn yma, rwy'n gobeithio y byddwch yn gallu mynd i’r afael â rhai o’r themâu hyn y mae’r pwyllgor wedi’u nodi yn ei flwyddyn gyntaf, oherwydd yr hyn a welwn yn yr ail flwyddyn yw bod y themâu hyn yn gwaethygu yn hytrach na'n cael eu datrys. Nid wyf am brofi amynedd y Dirprwy Lywydd ymhellach, ond rwy'n gobeithio y gwelwn lawer mwy o dryloywder mewn trefniadau rhynglywodraethu i’n galluogi i ddwyn y Llywodraethau i gyfrif a datblygu prosesau craffu democrataidd rhyngsefydliadol ar ein sefydliadau llywodraethol, yma ac ar draws y Deyrnas Unedig. Rwy’n ddiolchgar i chi, Ddirprwy Lywydd.

Photo of Peter Fox Peter Fox Conservative 5:09, 9 Tachwedd 2022

(Cyfieithwyd)

Rwy'n croesawu'r cyfle i gyfrannu heddiw. Roedd yn bleser bod yn aelod o’r pwyllgor yn dilyn fy etholiad fis Mai diwethaf, ac rwy’n wirioneddol ddiolchgar am y ffordd y cefais fy nghroesawu gan y Cadeirydd ac aelodau’r pwyllgor i’r swydd honno fel bachgen newydd. Cymeradwyaf hefyd y cymorth swyddogol rhagorol i’r pwyllgor—set ragorol o swyddogion, a diolch iddynt hwy. Ddirprwy Lywydd, fel y gwyddoch, nid wyf yn aelod o’r pwyllgor mwyach, ond rwy'n croesawu datganiad Cadeirydd y pwyllgor ac yn diolch iddo am ei waith yn arwain y pwyllgor mewn modd mor golegol ac adeiladol. Roedd hynny i'w groesawu'n fawr.

Un o’r prif bwyntiau trosfwaol a nodwyd yn yr adroddiad, fel y clywsom eisoes, yw’r rhyngweithio rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru o ran deddfu. Hoffwn ailgadarnhau’r pwynt ei bod yn bwysig fod Llywodraethau’r DU nawr ac yn y dyfodol yn parchu’r setliad datganoli, a hefyd yn cytuno bod angen gwell cydweithio rhynglywodraethol. Mae pob un ohonom yn wynebu heriau enfawr ar hyn o bryd; mae angen inni gydweithio’n adeiladol ac yn effeithiol ar y rhain. Ac felly, fy ngobaith yw y bydd y cytundeb newydd ar gysylltiadau rhynglywodraethol a gyhoeddwyd yn gynharach eleni yn cael ei fireinio dros amser i sicrhau gwell cydweithredu ar faterion o ddiddordeb cyffredin. Yn hyn o beth, rwy'n croesawu gwaith blaenorol y pwyllgor yn craffu ar y berthynas rhwng y ddwy Lywodraeth, ac rwy'n gobeithio y bydd ei waith yn y dyfodol yn helpu i gefnogi gwelliant yn y cysylltiadau hynny.

Mae’r pwyllgor yn gwneud nifer o bwyntiau. Rydym eisoes wedi clywed y prynhawn yma am y defnydd o femoranda cydsyniad deddfwriaethol a’r hyn y mae’n ei ystyried yn orddibyniaeth ar y weithdrefn hon i greu cyfraith yng Nghymru. Ac i ryw raddau, rwy’n cydymdeimlo â’r pwynt hwnnw. Rydym yn cael llawer o femoranda cydsyniad deddfwriaethol, ac mae cyfleoedd i Lywodraeth Cymru ystyried cyflawni mwy o ddeddfwriaeth a wnaed yng Nghymru y gall y Senedd ddylanwadu’n uniongyrchol arni. Felly, cwestiwn i’r Llywodraeth, fel rhan o’i rhaglen ddiwygio’r gyfraith, yw sut y gall gynyddu ei chapasiti deddfwriaethol. Mae cwestiynau hefyd i’r Senedd ynghylch sut y gallwn weithredu i ganiatáu i ragor o ddeddfwriaeth gael ei hystyried, yn enwedig gan Aelodau’r meinciau cefn a’r gwrthbleidiau. Fodd bynnag, byddwn yn dweud na ddylem geisio dyblygu gwaith yn ddiangen lle mae Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru yn credu ei bod yn fwy costeffeithiol, yn gyflymach ac yn fwy priodol i gyflwyno deddfwriaeth ar lefel y DU.

Yn olaf, Ddirprwy Lywydd, mae adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad yn gwneud rhai pwyntiau diddorol am gymhlethdod cyfraith Cymru. Fel rhywun a oedd yn newydd i'r gwaith o graffu ar y gwahanol fathau o gyfraith sy’n bodoli pan oeddwn ar y pwyllgor hwnnw, cefais fy synnu braidd gan ba mor gymhleth a gweithdrefnol oedd rhai o’n trafodaethau. Rwy'n croesawu rhaglen waith y Llywodraeth sy’n edrych ar wneud cyfraith Cymru yn fwy hygyrch. Yn hyn o beth, credaf fod gan y pwyllgor rôl i’w chwarae hefyd yn annog pobl i feddwl mwy am y gyfraith a chwilio am fwy o gyfleoedd i ymgysylltu ag aelodau’r cyhoedd ynghylch ei waith.

I gloi, Ddirprwy Lywydd, rwy'n ategu fy niolch i’r pwyllgor a’r Cadeirydd am eu holl waith, ac yn dymuno'n dda iddynt yn y blynyddoedd i ddod.

Photo of David Rees David Rees Labour 5:12, 9 Tachwedd 2022

Galwaf ar y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad, Mick Antoniw.

Photo of Mick Antoniw Mick Antoniw Labour

Diolch, Dirprwy Lywydd. Dwi wedi gwrando ar y cyfraniadau i'r ddadl hon gyda diddordeb mawr. Hoffwn innau dalu teyrnged i'r pwyllgor am eu gwaith, a diolch iddyn nhw am eu hadroddiad. Wrth gwrs, fel cyn-Gadeirydd i'r pwyllgor hwn, mae gen i ddealltwriaeth o'i waith, a dwi'n cydnabod y sylwadau yn yr adroddiad am ba mor heriol yw natur eang cylch gwaith y pwyllgor o ran rheoli'r llwyth gwaith gofynnol a'i gyflawni.

Mae gwaith craffu effeithiol gan bwyllgorau yn bwysig iawn er mwyn sicrhau llywodraethu da, ac mae'n rhan hanfodol o ddemocratiaeth seneddol. Mae'r adroddiad wedi'i rannu'n fras yn dair adran, sy'n ystyried gwaith y pwyllgor ar graffu ar ddeddfwriaeth, materion cyfansoddiadol ac, yn olaf, ar gyfiawnder. Byddaf i'n trefnu fy sylwadau heddiw ar sail adrannau tebyg.

Photo of Mick Antoniw Mick Antoniw Labour 5:13, 9 Tachwedd 2022

(Cyfieithwyd)

Ddirprwy Lywydd, rwy'n ddiolchgar am rôl y pwyllgor yn craffu ar ddeddfwriaeth sylfaenol ac is-ddeddfwriaeth, yn enwedig yn y cyd-destun heriol y mae pob un ohonom wedi bod yn gweithredu ac yn parhau i weithredu ynddo ers Brexit a dechrau'r pandemig. Mae’r pwyllgor wedi craffu ar lefelau digynsail o is-ddeddfwriaeth. Fel y mae’r adroddiad rhagorol yn ei amlygu, mae’r pwyllgor wedi adrodd ar 234 o eitemau o is-ddeddfwriaeth yn ystod y cyfnod o 12 mis, o gymharu â 111 o eitemau yn yr un cyfnod yn y pumed Senedd. Felly, mae'n gynnydd sylweddol yng ngwaith y pwyllgor.

Mae’r adroddiad yn rhoi enghreifftiau defnyddiol o sut mae’r pwyllgor wedi bwrw ymlaen â’i waith o graffu ar is-ddeddfwriaeth, ac rwy'n cytuno â’r cyfeiriad yn yr adroddiad fod hyn yn dangos y rôl bwysig sydd gan y pwyllgor, a'r rôl y mae wedi'i datblygu yn sicrhau y dylai is-ddeddfwriaeth fod mor glir ac mor hygyrch â phosibl. Hefyd, rwy'n croesawu'r gydnabyddiaeth fod Llywodraeth Cymru yn rhannu’r nod hwn.

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Photo of Mick Antoniw Mick Antoniw Labour 5:15, 9 Tachwedd 2022

(Cyfieithwyd)

Os caf droi at Filiau, fel y nododd y Prif Weinidog yn ei ddatganiad diweddaraf ar y rhaglen ddeddfwriaethol ar 5 Gorffennaf, rydym yn bwrw ymlaen â rhaglen uchelgeisiol o ddeddfwriaeth sylfaenol. Rydym wedi cyflwyno chwe Bil cyntaf tymor y Senedd hon ac mae’r pwyllgor wedi chwarae rhan sylweddol a hollbwysig yn y rheini hyd yma. Hoffwn ddiolch i’r pwyllgor a’r Cadeirydd am eu gwaith ar ddau Fil cyntaf y tymor hwn sydd wedi’u pasio gan y Senedd, sef Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) a Deddf Deddfau Trethi Cymru etc. (Pŵer i Addasu). Mae’r adroddiad yn cyfeirio at 40 o argymhellion a wnaed mewn perthynas â’r ddau Fil, ac mae’n tynnu sylw at rai o’r themâu a’r materion trosfwaol wrth graffu ar y Biliau hyd yma. Wrth inni fwrw ymlaen â’n rhaglen ddeddfwriaethol, byddwn yn ystyried y themâu hynny.

Nawr, mae’r adroddiad yn sôn am waith presennol y pwyllgor ar ddau Fil sy’n gwneud eu ffordd drwy’r Senedd ar hyn o bryd: Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) a Bil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru). Rwy'n credu bod Bil yr amgylchedd hanesyddol, yn enwedig, yn werth ei grybwyll, o ystyried mai dyma’r Bil cydgrynhoi cyntaf a’r pwyllgor yw’r pwyllgor craffu arweiniol ar ei gyfer. Mae Bil Diogelu'r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru) a Bil Amaethyddiaeth (Cymru) hefyd wedi’u cyflwyno i’r Senedd bellach. Dyma’r ddau Fil cyntaf ym mlwyddyn 2 y rhaglen ddeddfwriaethol. Mae’r rhain y tu allan i’r cyfnod adrodd a gwmpesir gan yr adroddiad blynyddol, ond roeddwn am ddiolch i’r pwyllgor, a’r Senedd yn fwy cyffredinol, am eu gwaith craffu ar y Bil plastig untro, o ystyried ei fod yn symud ymlaen ar amserlen garlam.

Hoffwn droi nawr at ddeddfwriaeth y DU, ac rwy’n cydnabod y sylwadau a wnaed ac fe geisiaf roi sylw iddynt, gan ategu rhai o’r pwyntiau roeddwn am eu gwneud o bosibl. Ein safbwynt sylfaenol o hyd yw y dylid gwneud deddfwriaeth mewn meysydd datganoledig yng Nghymru. Fodd bynnag, ceir rhai amgylchiadau o hyd lle gall darpariaethau ym Miliau’r DU fod yn synhwyrol ac yn fanteisiol, ar yr amod nad yw hyn yn arwain at drosglwyddo unrhyw bwerau neu gyfrifoldeb, a’i fod bob amser yn cadw gallu cyfansoddiadol y Llywodraeth a’r Senedd i ddeddfu ar adeg sy’n fwy addas a phriodol i'n blaenoriaethau a'r rhaglen ddeddfwriaethol. Rydym wedi ymrwymo, fel Llywodraeth, i sicrhau bod ein gwaith gyda Biliau’r DU yn parhau i fod yn gyson â’n hegwyddorion ac i sicrhau bod y Senedd hon yn cael cymaint o graffu â phosibl drwy broses y memoranda cydsyniad deddfwriaethol.

Anaml iawn y byddem yn mynd ati’n rhagweithiol i fynd at Lywodraeth y DU i ddeddfu ar ein rhan; i’r gwrthwyneb, cafwyd nifer annerbyniol o achosion dros y blynyddoedd diwethaf o Lywodraeth y DU yn cyflwyno darpariaeth ddatganoledig gerbron Senedd y DU heb inni gael unrhyw olwg arni ymlaen llaw. Mae hwn wedi bod yn fater sydd wedi codi dro ar ôl tro yn sesiwn bresennol Senedd y DU. Mae’r diffyg ymgysylltu â Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru yn rhwystr mawr i weithrediad effeithiol proses bresennol y cydsyniad deddfwriaethol. Rwy’n cydnabod ei bod yn rhan o natur y pwyllgor ei fod yn gweithredu bron mewn ffordd amhleidiol oherwydd ei swyddogaeth fel pwyllgor cyfansoddiadol a deddfwriaethol, a chydnabyddir y pwynt hwnnw. Credaf fod beirniadaeth i'w gwneud o Lywodraeth y DU, yn union fel y mae beirniadaeth, fel sy’n briodol, i’w gwneud yn rhan o’r broses graffu gan y pwyllgor, a chredaf fod hynny’n dangos aeddfedrwydd y ffordd y mae’r pwyllgor wedi’i ddatblygu o fewn ein strwythur seneddol.

Felly, byddwn yn parhau i alw ar Lywodraeth y DU i wella ei hymgysylltiad â ni mewn perthynas â’i rhaglen ddeddfwriaethol, gyda'r bwriad, maes o law, o sicrhau'r gallu craffu mwyaf posibl i'r Senedd. Hoffwn ychwanegu ychydig o sylwadau ar hynny, gan fy mod yn llwyr gydnabod y materion sy’n bodoli mewn perthynas â phroses y memoranda cydsyniad deddfwriaethol. Wrth gwrs, nid ydym yn rheoli rhaglen ddeddfwriaethol Llywodraeth y DU, ac wrth gwrs, nid yw nifer y memoranda cydsyniad deddfwriaethol yn fater sy’n cael ei bennu gennym ni, ond caiff ei bennu gan effaith y darnau hynny o ddeddfwriaeth. Mae'n rhaid inni ymateb, p'un a gaiff cydsyniad ei roi ai peidio, a hoffwn wneud y pwynt, wrth gwrs, nad yw cydsyniad yn cael ei roi gan Lywodraeth Cymru—argymhelliad gan Lywodraeth Cymru ydyw, ond yn y pen draw, daw i lawr y Senedd.

Ond mae'r pwyntiau a wnewch mewn perthynas â chraffu yn gywir, a chredaf eu bod yn rhan sylfaenol o gamweithrediad ein trefniant cyfansoddiadol, nad yw'n cynnwys strwythur seneddol cyfansoddiadol ffederal addas i alluogi proses wahanol iawn o ddatblygu a chyflwyno deddfwriaeth. Nid system lle gall swm enfawr o ddeddfwriaeth y DU ddominyddu, bron, holl brosesau deddfwriaethol y gwledydd datganoledig yw’r ffordd gywir o fynd o'i chwmpas hi, ac mae’n amlwg fod gwersi cyfansoddiadol i’w dysgu yn hynny o beth.

Photo of Mick Antoniw Mick Antoniw Labour 5:20, 9 Tachwedd 2022

(Cyfieithwyd)

Rwy'n croesawu casgliadau’r pwyllgor ar wella’r prosesau cydsyniad deddfwriaethol, a gobeithiaf y gallwn barhau i gydweithio i gryfhau gallu’r Senedd ymhellach i graffu ar ddeddfwriaeth ac amddiffyn y setliad datganoli gyda'n gilydd. Mae'r modd y mae Llywodraeth y DU yn gyson yn tramgwyddo gonfensiwn Sewel yn annerbyniol, a chredaf eu bod yn dangos diffyg parch at y sefydliad hwn a etholwyd yn ddemocrataidd a’r bobl y mae’n eu cynrychioli. Mynegodd y Prif Weinidog a minnau ein pryder dwfn yng nghyfarfod cyntaf y Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol ym mis Mawrth ac eto yn y cyfarfod ym mis Mehefin, a gwnaethom alw am godeiddio’r confensiwn a chryfhau’r mecanweithiau adrodd i'r Seneddau priodol. Ers hynny, mae swyddogion o bob un o’r pedair Llywodraeth wedi bod yn edrych ar y confensiwn a’r egwyddorion ar gyfer gweithio yn y dyfodol. Wrth gwrs, yr unig ffordd i ddiogelu’r setliad datganoli unwaith ac am byth a diogelu dyfodol y Deyrnas Unedig, yn fy marn i, yw gosod y confensiwn ar sylfaen statudol a thraddodadwy, ac mae hyn yn rhywbeth rydym yn parhau i fynd ar ei drywydd yn gryf. Fel Llywodraeth Cymru, byddwn hefyd yn gwneud yr hyn a allwn i sicrhau bod y ddeddfwrfa hon yn cael cyfle i graffu’n briodol ar ddeddfwriaeth y DU sy'n ddarostyngedig i gonfensiwn Sewel ac sy’n galw am ein cydsyniad.

Ond gall ymgysylltu hwyr gan Lywodraeth y DU arwain at bwysau amser eithafol yn y cyswllt hwn. Roedd y Bil ynni brys yn enghraifft o hyn. Mae ymgysylltu cynnar ac effeithiol rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn hanfodol ym mhob maes polisi, ond lle mae Llywodraeth y DU yn mynd i gynnig deddfwriaeth, mae'n gwbl hanfodol. Nid materion bach yw'r rhain, a rhaid i Lywodraeth y DU gydnabod y dadansoddi manwl a dilys, sydd weithiau'n cymryd llawer o amser, y mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru a’r sefydliad hwn ei wneud. Mae hefyd yn deg dweud nad yw cysylltiadau rhynglywodraethol wedi bod yn gryf dros y misoedd diwethaf. Mae'r ansefydlogrwydd yn Llywodraeth y DU wedi atal ymgysylltiad llawn ac ystyrlon a chynnydd mewn llawer o feysydd. Ond bellach, mae gennym Brif Weinidog newydd a Chabinet newydd yn y DU. Rydym wedi ymrwymo i feithrin perthynas waith gadarnhaol lle gallwn, a nawr yw’r adeg i ailosod y cysylltiadau hynny ac edrych o’r newydd gyda’n gilydd ar yr heriau, gan gynnwys yr argyfwng costau byw. I wneud hynny, mae angen ymgysylltu gwirioneddol, agored. Gall y mecanweithiau y cytunwyd arnynt yn rhan o’r adolygiad o gysylltiadau rhynglywodraethol fynd â ni rywfaint o’r ffordd, a gwn fod y pwyllgor wedi bod yn monitro sut mae’r mecanweithiau hynny’n gweithio ar lawr gwlad. Felly, mae'n amlwg yn hanfodol ein bod yn gweithio i sefydlu'r strwythurau newydd, ond mae cysylltiadau rhynglywodraethol yn mynd y tu hwnt i gyfarfodydd rheolaidd, ac ni ellir eu mesur yn ôl nifer y cyfarfodydd a gynhelir yn unig. Felly, rhaid i bob Llywodraeth gadw at ysbryd yn ogystal â llythyren yr adolygiad rhynglywodraethol.

Ychydig o sylwadau, i gloi, ar gyfiawnder. Rwyf wedi bod yn falch iawn o fynychu'r pwyllgor i drafod materion sy'n ymwneud â chyfiawnder. Mae Llywodraeth Cymru yn gwbl glir ein bod yn cytuno â chasgliadau’r Arglwydd Thomas fod y system gyfiawnder yn gwneud cam â phobl Cymru, ac y dylid datganoli cyfiawnder. Rydym yn archwilio’r materion hyn yn fanylach yn ein hadroddiad 'Sicrhau Cyfiawnder i Gymru’, a lansiwyd gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a minnau ym mis Mai, ac mae hwnnw’n darparu’r sylfaen ar gyfer ymgysylltu pellach. Mae cyfiawnder yn faes arall lle mae'r anhrefn sydd wedi bod yn rhemp yn Llywodraeth y DU wedi cael effaith ar y cynnydd rydym wedi gallu ei wneud. Felly, er ein bod yn cydnabod bod safbwyntiau sylfaenol y ddwy Lywodraeth yn wahanol, rydym wedi ceisio gwneud newidiadau lle gallwn, ac mae hyn wedi bod yn arbennig o anodd gyda'r tîm gweinidogol yn y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn newid mor aml ac mor gyflym. Credaf ein bod wedi cael naw Ysgrifennydd cyfiawnder gwahanol ers i'r Ceidwadwyr ddod i rym, sy'n anhygoel.

Felly, byddwn yn parhau i weithio gyda Llywodraeth y DU i wneud newidiadau cadarnhaol, hyd yn oed os ydynt ar yr ymylon, ac mae pethau da i’w hadrodd gydag enghreifftiau da, rwy'n credu, o gydweithio ar gyfiawnder yng Nghymru. Mae yna brosiectau'n digwydd neu ar y ffordd sydd eisoes i'w croesawu ac yn ddiddorol. Gwn fy mod wedi gwneud sylwadau ar rai o’r rhain o’r blaen, boed ar y cynllun peilot llysoedd teulu cyffuriau ac alcohol yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg, cynllun peilot Grand Avenues yng Nghaerau a Threlái, neu ddull system gyfan y rhaglen fraenaru i fenywod a’r gwasanaeth dargyfeiriol 18 i 25. Nawr, ni fydd unrhyw un o'r pethau hyn yn mynd i'r afael â'r methiannau sylfaenol y credaf ein bod yn eu nodi'n amlach ac yn amlach. Mae’r Llywodraeth hon wedi nodi'n glir ein bod wedi ymrwymo i ddatganoli plismona a chyfiawnder, ac mae’n ymrwymiad y byddwn yn parhau i fynd ar ei drywydd gan ei fod yn ymwneud â darparu plismona a chyfiawnder yn well. Yn y cyfamser, rwy'n croesawu ymwneud y pwyllgor â’r materion hyn, ac yn enwedig ei fwriad i geisio sicrhau presenoldeb Gweinidogion y Weinyddiaeth Gyfiawnder.

Felly, i gloi, Ddirprwy Lywydd, hoffwn dalu teyrnged unwaith eto i'r pwyllgor am eu gwaith ar draws cylch gwaith arbennig o eang, ac am gyhoeddi adroddiad blynyddol mor drylwyr a manwl. Rwy'n gobeithio y cyrhaeddwn sefyllfa lle nad oes rhaid inni fynd drwy fanylion Bil cyfraith yr UE a ddargedwir, ond mae hynny’n rhywbeth y tybiaf y bydd rhaid inni ei wneud, yn anffodus. Diolch yn fawr.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 5:25, 9 Tachwedd 2022

Galwaf nawr ar Huw Irranca-Davies, y Cadeirydd, i ymateb i'r ddadl. 

Photo of Huw Irranca-Davies Huw Irranca-Davies Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch, Lywydd, ac yn fy ymateb byr yma, a gaf fi ddiolch yn gyntaf oll i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad am y ffordd ddifrifol, feddylgar ac ystyriol y mae wedi ymateb i'r ddadl hon, sy'n nodweddiadol o'i ymagwedd tuag at gylch gorchwyl eang gwaith y pwyllgor hwn? Rydym yn croesawu hynny’n fawr. Ac ar y sail honno, a gaf fi droi yn gyntaf oll at y sylwadau gan aelodau presennol a chyn-aelodau o’r pwyllgor hwn? Dywedodd Peter Fox fod pobl ar y pwyllgor wedi gadael eu teyrngarwch gwleidyddol wrth y drws, a'u bod yn dod i mewn ac yn edrych ar y dystiolaeth, ac yn edrych ar yr hyn sydd angen ei wneud i sicrhau craffu effeithiol. A dyna sydd wedi nodweddu'r pwyllgor hwn, gan ei gynnwys ef. Ond gan droi at y sylwadau gan James, rydych chi hefyd yn nodweddiadol o'r ymateb hwn, a'ch her a roddwyd gan bob un ohonom i Lywodraeth y DU er lles y DU i ymgysylltu'n gynnar ac i ymgysylltu'n ystyrlon, i gynorthwyo nid yn unig Llywodraeth Cymru, ond i gynorthwyo'r Senedd hon, yn enwedig mewn deddfwriaeth sy'n deillio o'r DU. Roedd yn bwynt a wnaed yn dda iawn, ac roedd yn wych eich clywed yn dweud unwaith eto mai’r syniad sylfaenol hwnnw, prif egwyddor cyfraith Cymru ar gyfer pobl Cymru, a wnaed yma, ac sy'n cael ei chraffu yma, yw’r hyn y ceisiwn ei wneud yn ddiofyn.

Alun, rwy'n croesawu eich cyfraniad yn fawr, yn ogystal â’r sylw a wnaethoch am effeithio ar gonfensiwn Sewel, y dull dinistriol a ddefnyddir lle ceir diffyg cydsyniad ar ôl diffyg cydsyniad ar ôl diffyg cydsyniad. Ar ba bwynt—mae’r cwestiwn wedi’i godi nid yn unig gennym ni ond gan bwyllgor Tŷ’r Arglwyddi a phwyllgor Tŷ’r Cyffredin—y mae Sewel yn torri, neu sut rydym yn ei godeiddio a'i gryfhau mewn ffordd sy'n golygu ei fod yn bwysig yn y cyfnod modern hwn, fel roedd y Cwnsler Cyffredinol yn dweud? Ac mae'r tryloywder ar graffu rhynglywodraethol a rhyngseneddol yn mynd i ddod yn bwysicach ac yn bwysicach, ac yn fy marn i, mae potensial gwirioneddol i'r gwaith y bu'r pwyllgor yn ei wneud ar ymgysylltu ar lefel ryngseneddol i ddwyn i gyfrif y mecanwaith rhynglywodraethol sydd bellach ar waith.

A gaf fi ddiolch hefyd i Peter am eich cyfraniad ac am ddiolch i'r ysgrifenyddiaeth ragorol sydd gennym? Maent yn dîm bach ond maent yn wirioneddol ragorol. A hefyd, y ffocws a oedd gennych ar y gwaith rhynglywodraethol gwell, ac er mwyn i'r DU fel y mae ar hyn o bryd weithio'n well, ac mae'n ymwneud â mwy na geiriau fel 'parch' yn unig; mae'n ymwneud â mecanweithiau a roddwn ar waith a'r tryloywder a roddwn ar waith o'u cwmpas. Felly, diolch, Peter, am eich cyfraniad i’r pwyllgor.

A byddwn ar fai, Lywydd, pe na bawn yn sôn am ddau gyfrannwr arall i waith y pwyllgor hwn dros y flwyddyn ddiwethaf a'r cyfnod y mae hwn yn adrodd arno hefyd. Rhys ab Owen, diolch am ei gyfraniad i’r pwyllgor ar bob mater, ond yn arbennig, rhaid imi ddweud, am ei arbenigedd ar faterion cyfiawnder hefyd. A hefyd, ni ddylem anghofio Jayne Bryant am ei gwaith ar y camau cynnar.

Weinidog, yn fy sylwadau clo yma mewn ymateb i’r hyn a oedd yn ymateb gwych a chynhwysfawr i adroddiad ein pwyllgor, ac wrth edrych ymlaen hefyd, rydym am edrych ymlaen, yn rhyfedd; rydym yn edrych yn ôl ar gyfnod yma, ac fe ddywedoch, yn gwbl gywir, fod hwn wedi bod yn gyd-destun heriol, y cyfnod hwn—y cyfnod ôl-Brexit, cyfnod y pandemig. Mae wedi golygu ein bod, o reidrwydd, wedi canolbwyntio'n benodol ar lawer o'n gwaith bara menyn, ac rydym yn deall hynny. Roedd angen ymateb hefyd i femoranda cydsyniad deddfwriaethol sydd naill ai wedi’u cychwyn ar lefel y DU, neu rai rydych wedi nodi eich bod am fynd i'r afael â hwy. Ond fe fyddwch yn deall, fel cyn-Gadeirydd y pwyllgor hwn, na allwn ymgilio byth rhag y rhagosodiad sylfaenol hwnnw ein bod am weld, yn ddiofyn, deddfwriaeth a wneir yng Nghymru lle gall y Senedd hon gyfrannu'n iawn at y ddeddfwriaeth honno, yn hytrach na bod ymhell oddi wrthi lle na allwn ddylanwadu o ddifrif arni, a hefyd nad oes gennym fawr o feddwl o Weithrediaeth, naill ai yma neu yn San Steffan, sy'n cymryd pwerau iddi hi'i hun. Ni sydd i graffu ar hyn yn y pen draw. Ond rydym yn awyddus i fwrw ymlaen i gyfnod cyffrous iawn yn fy marn i, gyda'r Bil cydgrynhoi rydym yn edrych arno ar hyn o bryd, sy'n mynd i fod yn arloesol o ran y DU, a byddwn yn eich cynorthwyo i gael hwnnw'n iawn. Fe wnawn weithio'n adeiladol gyda chi. Efallai y bydd rhaid inni edrych ar gyfraith yr UE a ddargedwir, ond fe welwn beth fydd yn digwydd gyda hynny, ond bydd hwnnw'n llwyth gwaith andros o fawr.

Byddwn yn parhau i edrych ar effaith y TAC ar feysydd datganoledig, ar draws yr ystod honno o feysydd datganoledig sydd gennym. Rydym am fod yn fwy rhagweithiol o ran y gwaith y gallwn ei wneud ar gyfiawnder ac amrywiaeth o faterion eraill hefyd, ond i wneud hynny, mae angen inni ryddhau rhywfaint o amser a lle i feddwl. Ar hyn o bryd, mae'r llwyth gwaith yn aruthrol. Ond hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu, i aelodau presennol a chyn-aelodau o'r pwyllgor hwn, i'n hysgrifenyddiaeth fach ond rhagorol, a chan fentro—. Rydym am osgoi eich gwneud yn aelod anrhydeddus o'r pwyllgor, ond rydych fel pe baech o'n blaenau bob yn ail wythnos, ac rydym yn gwerthfawrogi hynny. Byddwn yn parhau i'ch herio chi a Gweinidogion eraill, Gwnsler Cyffredinol, ond rydym yn gwneud hynny am y rhesymau cywir, deallwch. Rydym yn gwneud hynny er lles y Senedd hon a’r rôl y mae pob un ohonom yn ei chwarae. Diolch yn fawr iawn, Lywydd.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 5:31, 9 Tachwedd 2022

Y cwestiwn yw: a ddylid nodi adroddiad y pwyllgor? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, mae'r cynnig yna wedi'i dderbyn.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.