– Senedd Cymru am 5:35 pm ar 16 Tachwedd 2022.
Eitem 9 yw ail ddadl y Ceidwadwyr Cymreig y prynhawn yma, ar Ddeddf Diogelwch Adeiladau 2022. Galwaf ar Janet Finch-Saunders i wneud y cynnig.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Byddai Llafur Cymru am ichi gredu eu bod yn gweithio'n anhygoel o galed i sicrhau bod yr adeiladau yr effeithiwyd arnynt gan broblemau cladin yn ddiogel, ac mae'n ddrwg gennyf, Aelodau, ond nid yw hynny'n wir. Hyd at y mis diwethaf, 68 yn unig o 163 o adeiladau a oedd wedi cael arolygon mwy dwys. Dros bum mlynedd a hanner ers tân Tŵr Grenfell, mae'r ffaith bod lesddeiliaid yn dal heb allu symud o'r cam arolwg yn annerbyniol. Mae lesddeiliaid yn wynebu costau yswiriant cynyddol oherwydd proffil risg uchel yr adeiladau. Honnodd un pâr fod costau yswiriant wedi codi o £67,000 i £624,000 y flwyddyn, cynnydd o 831 y cant.
Weinidog, mae eich Llywodraeth, rydych chi, wedi cael £60 miliwn o gyfalaf a £1.7 miliwn o refeniw gan Lywodraeth Geidwadol y DU ar gyfer gwaith adfer cladin a gwaith diogelwch adeiladau. Mewn ymateb i gais rhyddid gwybodaeth a ofynnodd am gyfanswm yr arian a wariwyd ar waith diogelwch adeiladau o'r dyraniad, rydych wedi ymateb drwy ddweud 'dim'. O'r £375 miliwn rydych chi wedi'i ddarparu ar gyfer diogelwch adeiladau, faint sydd wedi'i wario erbyn hyn, a faint o adeiladau rydych chi wedi'u gwneud yn ddiogel?
Methiant yw'r hyn a welwn hefyd gyda'r cynllun cymorth i lesddeiliaid. Datgelwyd yn gynharach yn y mis mai dim ond un ymgeisydd sy'n derbyn cyngor annibynnol, ac mae tri yn cael eu symud ymlaen i brynu. Mae gennym filoedd o ddioddefwyr sydd wedi eu heffeithio gan hyn, felly mae'r ystadegau'n siarad drostynt eu hunain. Mae'n rhaid ichi ddechrau canolbwyntio nawr ar sicrhau bod craidd y problemau'n cael sylw.
Fis Ebrill diwethaf, cyhoeddodd y Gwir Anrhydeddus Michael Gove AS ar gyfer Lloegr fod cwmnïau adeiladu cartrefi mawr sy'n adeiladu hanner y cartrefi newydd wedi addo atgyweirio pob adeilad uchel anniogel y maent wedi bod â rhan yn eu datblygu. Ond eto, fe gymeroch chi tan fis Gorffennaf i ddal i fyny hyd yn oed. Felly, hyd at heddiw, a wnewch chi egluro a yw Laing O'Rourke, Westmark a Kier—Tilia bellach—wedi ymateb o gwbl? Oherwydd mewn un ddadl, rwy'n gwybod eich bod wedi sôn eich bod yn cael problemau rhyngweithio ac ymgysylltu a chael ymatebion ganddynt. Wel, rhaid imi fod yn onest, pan fyddaf i'n ysgrifennu at bobl, byddaf fel arfer yn cael ymateb, am na fyddaf yn rhoi'r gorau iddi.
Maes arall lle mae Cymru wedi syrthio ar ôl o gymharu â Lloegr yw hawliau cyfreithiol, ac rwy'n meddwl ein bod i gyd yn falch iawn yma heddiw o gefnogi ymgyrch adran 116 i 125 y Welsh Cladiators, sef craidd y cynnig gan Darren Millar. Er enghraifft, mae adran 123 yn ei gwneud hi'n bosibl i dribiwnlys haen gyntaf wneud gorchmynion adfer
'sy'n ei gwneud yn ofynnol i landlord perthnasol gywiro diffygion perthnasol penodedig mewn adeilad perthnasol penodedig erbyn amser penodedig.'
Mae adran 124 yn ei gwneud hi'n bosibl gwneud gorchmynion
'sy'n ei gwneud yn ofynnol i gorff corfforaethol neu bartneriaeth benodedig wneud taliadau i berson penodedig, at ddiben talu costau yr aed iddynt neu sydd i'w talu am gywiro diffygion perthnasol'.
Ac mae adran 126 yn ymwneud â
'thalu costau yr aed iddynt neu sydd i'w talu am gywiro diffygion perthnasol' pan fo landlord yn dirwyn cwmni i ben.
Er i mi godi'r union bwyntiau sydd yn y cynnig heddiw gyda'r Prif Weinidog ar 18 Hydref, fis yn ddiweddarach, dyma ni, yn gorfod trafod yr un broblem. Roedd awgrym yn ei ymateb i mi y gallai pethau fwrw ymlaen efallai, ond rwy'n dal yn methu deall pam ein bod ni ar y meinciau hyn yn gorfod eich gwthio yn y ffordd rydym yn gwneud. Mae hyn yn anfaddeuol wrth ystyried bod Deddf Diogelwch Adeiladau Lloegr bellach yn barod. Fe allech chi, fel sy'n cael ei wneud ar gyfer plastigion untro—. Pan fo'n gyfleus i'r Llywodraeth hon, rydych chi'n rhoi deddfwriaeth ar y trywydd cyflym drwy'r Senedd hon, ac eto nid yw hynny'n digwydd nawr. Faint yn waeth sy'n rhaid i fywydau'r lesddeiliaid caeth hynny fynd cyn i Lywodraeth Cymru roi'r camau pendant rydym yn galw amdanynt ar waith?
Gwn fod Aelodau ym Mhlaid Cymru wedi bod yn gefnogol i ymgyrch y Welsh Cladiators, fel y mae Jane Dodds wedi bod, ac rydym yn barod i fynd i gyfarfod cyhoeddus ar hyn nawr a chyfarfod â Llywodraeth Lafur Cymru a'i dwyn i gyfrif. Rwy'n falch fod y Prif Weinidog wedi cyrraedd i glywed diwedd un y ddadl hon gennyf fi. Efallai y bydd Aelodau eraill yn gwneud y pwynt: Brif Weinidog a Weinidog, rydych chi'n gwneud cam â'r bobl hyn yng Nghymru. Diolch yn fawr.
Hoffwn ddiolch i Janet Finch-Saunders am gyflwyno'r cynnig hwn heddiw. Gadewch inni atgoffa ein hunain pam ein bod yn dal i drafod y mater hwn heddiw, bron i bum mlynedd a hanner ar ôl y drasiedi ofnadwy yn Grenfell. Y ffaith ddamniol yw bod y system diogelwch adeiladau bresennol yn system sydd wedi caniatáu diwylliant o dorri corneli ar draul diogelwch y cyhoedd.
Ni wnaf fyth anghofio gweld y drasiedi honno yn Nhŵr Grenfell yn datblygu yn ôl yn 2017. Yn oriau mân 14 Mehefin, dechreuodd tân losgi drwy Dŵr Grenfell, bloc preswyl 24 llawr yng ngorllewin Llundain. Bu farw 71 o bobl o ganlyniad i'r tân hwnnw. Bu farw eraill fisoedd yn ddiweddarach o ganlyniad i anadlu mwg. Ond mae llawer o bobl—y rhai a ddihangodd o'r tân, teuluoedd y meirw, y rheini a fu'n dyst i'r drasiedi hon—yn dal i fyw gyda chreithiau corfforol a meddyliol erchyll ac yn parhau i ddioddef heddiw.
Ers y trychineb, canfuwyd bod gan nifer fawr o adeiladau preswyl yn y deyrnas anunedig hon, gan gynnwys nifer yng Nghymru, gladin fflamadwy anniogel tra bod gan rai ddiffygion diogelwch tân eraill fel rhaniadau a rhwystrau tân gwael i atal tanau rhag lledaenu o fewn adeiladau. Mae pobl yn ofni, ac mae pobl wedi dioddef yr ofn yma ers dros bum mlynedd. Pum mlynedd heb weithredu.
Mae hi wedi bod yn 18 mis ers yr etholiad, blwyddyn a hanner heb weithredu yma yng Nghymru. Mae lesddeiliaid a thenantiaid wedi'u dal yn gaeth mewn eiddo na allant symud ohono, mae ansawdd eu bywydau a'u hiechyd meddwl wedi dirywio, ac mae'n hen bryd inni ymateb i'r senario hunllefus hon ar frys drwy raglen ddiwygio radical a chymorth ariannol pellach.
Fel llefarydd fy mhlaid ar dai a chynllunio, hoffwn roi eiliad i groesawu'r cytundeb cydweithio rhwng Plaid Cymru a'r Llywodraeth Lafur. Mae'r cytundeb yn cynnwys amrywiaeth o ymrwymiadau, gan gynnwys ymrwymiadau i ddiwygio'r system diogelwch adeiladau bresennol yn sylweddol a chyflwyno ail gam cronfa diogelwch adeiladau Cymru. Rwy'n falch ein bod yn cydweithio ar y mater allweddol hwn ac yn symud rhywfaint o'r agenda yn ei blaen.
Ni all neb ddadlau o ddifrif yn erbyn y teimlad sy'n sail i'r cynnig heddiw. Rydym i gyd yn cytuno bod angen inni ddiogelu trigolion, a heddiw mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn pwyso am ymgorffori adrannau 116 i 125 o'r Ddeddf Diogelwch Adeiladau, fel y clywsom yn awr gan Janet Finch-Saunders, yng nghyfraith Cymru. Ond mae'n rhaid imi fynegi pryder ynglŷn â hyn. Mae adrannau 116 i 125 yn rhoi opsiwn i lesddeiliaid gymryd camau cyfreithiol yn erbyn datblygwr nad yw'n unioni diffygion diogelwch tân, ond mae hyn yn golygu y byddai'n ofynnol iddynt dalu ffioedd cyfreithiol. Felly, a yw'r Torïaid yn credu y dylai lesddeiliaid orfod talu am faterion nad oes unrhyw fai arnynt hwy amdanynt?
Mae yna gamddealltwriaeth sylfaenol mewn perthynas â deddfwriaeth hefyd. Rhaid gwneud mwy na dim ond gwthio darnau o ddeddfwriaeth y DU i mewn i ddeddfwriaeth Gymreig; mae gwahanol fframweithiau ar waith. Felly, rhaid teilwra deddfwriaeth ar gyfer Cymru, a chafodd Deddf y DU ei theilwra ar gyfer Lloegr. Mae peth o Ddeddf 2022 yn berthnasol i Gymru wrth gwrs, a rhoddwyd sylw i'r darpariaethau hynny drwy'r broses gydsynio deddfwriaethol, ond nid ceisio gwasgu—
Mabon, mae angen i chi ddod i ben nawr, os gwelwch yn dda.
Nid ceisio gwasgu darn o ddeddfwriaeth Lloegr i mewn i gyfraith bresennol Cymru heb basio Deddf Gymreig yw'r ffordd y dylai pethau weithio. Ond ni allwn adael Llywodraeth Cymru oddi ar y bachyn yma; mae wedi bod yn flwyddyn a hanner ers yr etholiad, ac nid ydym wedi gweld deddfwriaeth yn y maes. Gall Llywodraeth Cymru sôn gymaint ag y dymunant am gyfyngiadau amser, rhaglen ddeddfwriaethol lawn a phroses ddeddfwriaethol hir, ond nid yw'n newid y ffaith bod pobl wedi bod yn aros am gymorth ac ymateb i'r mater hwn am sicrwydd o ddiogelwch a chyfiawnder.
Byddwn yn cefnogi'r cynnig heddiw, ond gadewch imi fod yn glir ein bod yn cefnogi'r egwyddor sy'n sail i'r cynnig. Mae'n fynegiant o gefnogaeth i'r teimladau sy'n sail i'r cynnig. Nid ydym yn meddwl mai trosglwyddo deddfwriaeth Lloegr yn ei chyfanrwydd i mewn i gyfraith Cymru yw'r ateb. Mae angen ein deddfwriaeth ein hunain ar y mater, nid deddfwriaeth Seisnig a wnaed yn Lloegr, ar gyfer Lloegr. Mae angen deddfwriaeth arnom—
Mabon, gorffennwch nawr, os gwelwch yn dda.
—wedi'i gwneud yng Nghymru, a hynny ar fyrder.
Diolch am eich amynedd.
Diolch i'r Ceidwadwyr am ddod â'r ddadl hon yma heddiw. Amser byr iawn sydd gennyf, ond rydym yn gwybod, dros bum mlynedd yn ôl, fod Grenfell wedi digwydd, gyda 72 o bobl yn marw. Ac yng nghanfyddiadau cychwynnol yr ymchwiliad, chwe diwrnod yn ôl yn unig, dywedodd Richard Millett, y cwnsler i'r ymchwiliad, 'Roedd modd osgoi pob un o'r marwolaethau'. Fel y gwyddom, mae disgwyl i'r adroddiad terfynol gael ei gyhoeddi ym mis Hydref 2023.
Yma yn y Senedd, gallwn weld y fflatiau sy'n cael eu heffeithio gan safonau diogelwch adeiladau gwael. Mae llawer ohonom, rwy'n gwybod—ac rwy'n gwybod bod yr un peth yn wir amdanoch chi'ch hun, Weinidog—wedi cyfarfod â'r bobl yr effeithir arnynt, ac yn Abertawe hefyd. Mae'r dadleuon dros weithredu wedi cael eu hailadrodd droeon, ac mae angen inni ei weld yn digwydd nawr. Nid wyf am roi'r bai ar neb. Mae angen inni weithio gyda'n gilydd ar hyn i'w symud ymlaen, i wneud yn siŵr fod gan y bobl yng Nghymru yr un hawliau, rhwymedïau ac amddiffyniadau â lesddeiliaid yn Lloegr.
I orffen, a gaf fi ddefnyddio geiriau Richard Millett eto? Dywedodd yn yr ymchwiliad, chwe diwrnod yn ôl yn unig, ar ôl pedair blynedd a hanner o ymchwiliad, fe gyfaddefodd ei ofnau cychwynnol y byddai'r broses yn troi'n garwsél o fwrw'r cyfrifoldeb ymlaen i eraill. Yn anffodus, teimlai fod hynny wedi'i gadarnhau. Nid wyf eisiau gweld hynny yma yng Nghymru, ac rwy'n awyddus i weld gweithredu. Edrychaf ymlaen at glywed gan y Gweinidog yn nes ymlaen. Diolch yn fawr iawn.
Yn amlwg, roedd tân Grenfell yn dangos methiant rheoliadau adeiladau a methiant gorfodaeth, ac mae'n rhaid i bob corff cyhoeddus a chontractwr preifat ysgwyddo rhywfaint o gyfrifoldeb am hynny. Mae'n gywilyddus fod gwahanol gontractwyr yn dal i gecru dros bwy sy'n gyfrifol ac yn y cyfamser, fod lesddeiliaid yn cael eu gadael mewn sefyllfa gwbl amhosibl.
Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn ymdrechu i ymgysylltu â'r holl gontractwyr a oedd yn rhan o'r gwaith o adeiladu'r adeiladau uchel hyn yng Nghymru, a byddai'n ddefnyddiol gwybod faint sydd eto i gydymffurfio â'r cynnig hwnnw. Rwy'n derbyn y dull partneriaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei fabwysiadu, ond rhaid gofyn y cwestiwn: beth rydym yn ei wneud am y rhai sydd ond eisiau ceisio osgoi eu cyfrifoldebau ac sy'n eistedd ar eu dwylo heb gywiro'r adeiladau y gwnaethant eu codi, ac sydd wedi'u hadeiladu'n annigonol?
Rwyf eisiau gwybod y manylion ynglŷn ag a yw Llywodraeth Cymru yn hysbysu datblygwyr pan fyddwch chi'n gwneud arolwg digidol, a pha mor gyflym y gallwn ddisgwyl i Lywodraeth Cymru symud o arolygon digidol i arolygon ffisegol lle mae materion penodol yn codi, yn enwedig lle mae yna wadu'n digwydd. Os ydych yn hysbysu datblygwyr, ai hwy wedyn sydd â'r cyfrifoldeb o hysbysu tenantiaid ynghylch y gwaith y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud, neu a yw Llywodraeth Cymru yn hysbysu tenantiaid yn uniongyrchol? Os nad ydynt, sut ar y ddaear y mae lesddeiliaid yn gwybod beth sy'n digwydd os yw datblygwyr a allai fod yn dwyllodrus yn amddifadu lesddeiliaid o'r wybodaeth y mae ganddynt hawl i'w chael?
Rwy'n falch o siarad yn y ddadl hon sy'n galw am gryfhau hawliau preswylwyr yng Nghymru. Rwy'n falch hefyd fod diogelwch adeiladau'n elfen allweddol o'r cytundeb cydweithio rhwng y Llywodraeth a Phlaid Cymru.
Yn dilyn cyfarfod diweddar gyda phreswylwyr pryderus, cyflwynais gwestiwn ysgrifenedig i'r Gweinidog ynglŷn â deddfu adrannau 116 i 125. Y rheswm nad yw'r adrannau hynny wedi cael eu deddfu ar gyfer Cymru yw oherwydd diwygiadau hwyr i'r adrannau hynny o'r Bil, fel nad oedd digon o amser i ystyried goblygiadau llawn yr adrannau i Gymru—rheswm arall, carwn awgrymu, Weinidog, pam na ddylem fod yn defnyddio proses y cynnig cydsyniad deddfwriaethol ac y dylem gael ein deddfwriaeth Gymreig ein hunain, fel y soniodd Mabon ap Gwynfor, ond dadl arall yw honno. Fe ddywedoch chi yn eich ateb i mi eich bod yn ystyried amddiffyniadau cyfreithiol eraill ac opsiynau eraill. A wnewch chi ehangu heddiw ar yr hyn a olygwch wrth hynny?
Rwy'n falch hefyd o weld ymestyn cyfnod amser Deddf Mangreoedd Diffygiol 1972, o ran y camau unioni sydd ar gael i lesddeiliaid pan nad yw datblygwyr yn bodoli mwyach. Pa mor bell ydych chi a'ch swyddogion wedi mynd ar hyn, ac a fydd preswylwyr yn cael eu cynnwys mewn unrhyw drafodaethau ynglŷn â hyn?
Tra ein bod ni'n trafod y mater pwysig hwn yn y Senedd, mae yna breswylwyr rownd y gornel o'r Senedd, yn Celestia, sy'n wynebu camau cyfreithiol drud iawn yn erbyn datblygwyr mawr. Pa gefnogaeth y gallant ei chael nawr gan Lywodraeth Cymru? Fel y nodwyd, mae'r preswylwyr hyn wedi bod yn byw drwy hunllef ers dros hanner degawd. Maent angen gwybod nawr, Weinidog: pryd y daw'r hunllef i ben? Diolch yn fawr.
Yn fy mharatoadau ar gyfer fy sylwadau heddiw, roeddwn yn gallu siarad gyda chwmni rheoli eiddo sydd â chryn dipyn o eiddo wedi'i effeithio gan broblemau cladin yn Lloegr ac yng Nghymru. Ac er na fyddech chi'n disgwyl hyn gennyf fi efallai, rwyf am ddweud eu bod wedi cael adborth hynod gadarnhaol ar broses ymgeisio'r gronfa adeiladau a diogelwch yng Nghymru, ac yn hapus fod pethau bellach yn mynd yn eu blaen, ac yn wir yn symud ymlaen yn llawer cyflymach yng Nghymru nag yn Lloegr. Yn amlwg, anecdotaidd yn unig yw hyn a phrofiad un unigolyn yn unig mewn un cwmni rheoli, a rhywun nad ydynt yn lesddeiliaid eu hunain. Ond roeddwn i'n teimlo bod angen tynnu sylw at y ffaith bod rhywun, rhywle, o leiaf yn teimlo eich bod wedi gwneud gwaith gweddol hyd yma yn ymdrin â chymhlethdod y mater hwn.
Fodd bynnag, er ei bod yn braf cael adborth cadarnhaol, hoffwn ailadrodd, yn y modd cryfaf posibl, fod ffordd bell i fynd o hyd, ac mae lesddeiliaid yn dal i wynebu amgylchiadau anghyffredin mewn perthynas â pheth eiddo. Fel y mae'r Gweinidog wedi cydnabod yn y gorffennol, yn anffodus mae yna lawer o bobl wedi'u dal yn gaeth gan y broblem cladin am na allant werthu eu heiddo na'i ail-forgeisio, sydd wedi golygu eu bod yn agored i niwed cyfraddau llog uwch, ac ni allant symud i gartrefi mwy i gynnal teulu sy'n tyfu, na symud i gael mynediad at gyfleoedd cyflogaeth gwell.
Ar ben hynny, mae ymchwil wedi dangos bod lesddeiliaid bellach yn wynebu costau gwasanaeth sylweddol uwch, yn rhannol oherwydd y cynnydd mewn costau yswiriant a chynnal a chadw, sydd mewn rhai achosion wedi cynyddu cymaint â 600 y cant. Mae hyn, ynghyd â chynnydd ychwanegol a digynsail mewn biliau ynni, yn golygu bod bod yn berchen ar eiddo o'r fath yn debygol o ddod yn anfforddiadwy i lawer o bobl. Ac rwy'n credu, Weinidog, y dylai'r Llywodraeth hon ymbaratoi, gan y bydd llawer o lesddeiliaid yn debygol o wynebu adfeddiannu o ganlyniad. Weinidog, rhaid inni ystyried hefyd fod llawer o bobl yn dal i fyw mewn adeiladau sydd â chladin anniogel. Hyd nes y caiff y materion hyn eu cywiro, mae preswylwyr yn dal i wynebu'r perygl o drychineb arall fel Grenfell, a bydd pawb ohonom yn gobeithio ac yn gweddïo na fydd hynny byth yn digwydd eto. Mae'r sefyllfa rydym ynddi heddiw'n bell iawn i ffwrdd o'r adeg pan gâi eiddo o'r fath ei brynu gyda phob ewyllys da, pan oedd pobl yn disgwyl y byddai ganddynt le fforddiadwy a diogel i fyw. Mae'n siomedig fod y sefyllfa wedi dirywio i'r fath raddau fel bod naw o bob 10 lesddeiliad sydd wedi'u heffeithio wedi nodi dirywiad yn eu hiechyd meddwl oherwydd pryder a gorbryder, gyda 23 y cant yn ystyried hunan-niweidio neu hunanladdiad, a 32 y cant yn adrodd am gynnydd yn eu defnydd o alcohol.
Er bod y Llywodraeth hon yn ymateb, ac mae hynny i'w groesawu, y gwir amdani, Weinidog, yw bod amser yn brin i bobl, ac mae'r help a nodwyd yn mynd i fod yn rhy hwyr i lawer ohonynt, sydd nid yn unig yn wynebu effeithiau uniongyrchol adfeddiannu ond sy'n debygol o wynebu sgil-effeithiau niweidiol am flynyddoedd lawer. Weinidog, mae yna filoedd o bobl yng Nghymru sy'n cario baich sefyllfa nad oeddent yn gyfrifol am ei chreu. Felly, rwy'n annog y Llywodraeth hon, gyda'r brys mwyaf, i ddal ati i bwyso er mwyn cywiro'r sefyllfa hon cyn gynted â phosibl, a derbyn ein cynnig. Diolch.
Y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James.
Diolch yn fawr iawn am y cyfle i drafod mater pwysig diogelwch adeiladau yng Nghymru. Fel y mae nifer o'r Aelodau eisoes wedi sôn, mae diogelwch adeiladau yn rhan o'r cytundeb cydweithio. Heddiw, Lywydd, mae'r Torïaid eisiau canolbwyntio ar adrannau 116 i 125, ac rwy'n falch iawn, Lywydd, eu bod wedi llwyddo i gywiro eu camgymeriad gwreiddiol wrth gyflwyno'r ddadl. Mewn gwirionedd, rydym yn trafod yr adrannau cywir heddiw. Felly, i fod yn glir, mae adrannau 116 i 125 o Ddeddf Diogelwch Adeiladau 2022 yn cynnig rhai amddiffyniadau i lesddeiliaid yn Lloegr rhag gorfod talu am waith adfer neu i leihau cyfraniadau tuag at y gwaith adfer a wneir ar eu hadeiladau. Mae'r adrannau hefyd yn darparu llwybr gweithredu lle gall lesddeiliaid ddwyn achos cyfreithiol ar eu cost eu hunain yn erbyn datblygwyr nad ydynt yn barod i ysgwyddo eu cyfrifoldebau.
Mae naratif y Torïaid y dylem edrych ar Loegr er mwyn gwybod beth i'w wneud yng Nghymru yn dreuliedig. Ar gyfer rhywbeth mor bwysig â diogelwch ein hadeiladau, mae'n gwbl hanfodol ein bod yn edrych ar briodoldeb ac angenrheidrwydd adrannau 116 i 125 yng Nghymru. Wrth wneud cymariaethau â'r amddiffyniadau sydd ar gael i lesddeiliaid yng Nghymru, rhaid inni ddeall yn gyntaf beth yw maint y broblem. I ddangos hyn, Lywydd, yn Lloegr nodwyd bod 12,500 o adeiladau preswyl yn 18m ac uwch, o'i gymharu ag oddeutu 300 yng Nghymru. Mae maint y datblygwyr sy'n gweithredu yn y maes hefyd yn enfawr o'i gymharu â Chymru, gyda 49 o ddatblygwyr wrthi'n trafod dogfennau cyfreithiol ffurfiol yn Lloegr o'i gymharu ag 11 yng Nghymru. Ar sail hyn, gallaf ddeall y cymhlethdod a'r anawsterau a wynebir gan ein cymheiriaid yn Lloegr wrth iddynt ddod â'r rhai sy'n gyfrifol at y bwrdd. Roedd Janet yn gofyn imi pwy sydd wedi dod at y bwrdd a phwy sydd heb wneud hynny; gallaf argymell y dylai ddarllen y datganiadau ysgrifenedig a gyhoeddwn yn rheolaidd ar hyn.
Mae'r sefyllfa yma yng Nghymru yn wahanol. Yma yng Nghymru, rydym bob amser wedi arddel y safbwynt na ddylai lesddeiliaid a phreswylwyr mewn adeiladau canolig ac uchel orfod talu am waith diogelwch tân nad ydynt yn gyfrifol amdano, ac rwyf mor ymrwymedig i hyn heddiw ag y bûm erioed. Nid cladin yn unig yw hyn yng Nghymru; mae'n cynnwys yr holl faterion sy'n ymwneud â diogelwch tân. Mae'n wahaniaeth pwysig iawn. Nid yw'n gyfyngiad ar ba daliadau y dylai lesddeiliaid eu talu. Mae'n gynsail syml na ddylai lesddeiliaid ac na fydd lesddeiliaid yn talu am waith diogelwch tân sy'n gyfrifoldeb y datblygwr.
Rwy'n falch iawn o'n dull o weithredu yng Nghymru i fynd ymhellach i fynd i'r afael â materion diogelwch tân, gan ystyried anghenion yr holl adeilad, ni waeth a oes cladin yn bresennol ai peidio. Mae'r gwaith o gefnogi lesddeiliaid mewn trafferthion ariannol sylweddol drwy ein cynllun cefnogi lesddeiliaid yn cydnabod anghenion aelwydydd unigol, ac rwy'n argymell yn benodol, Joel, y dylech edrych ar y cynllun hwnnw. Ar hyn o bryd rydym yn adolygu'r meini prawf cymhwysedd ar gyfer y cynllun, a bydd lesddeiliaid sy'n wynebu'r trafferthion ariannol a ddisgrifiwyd gennych yn gymwys i gael eu lesddaliad wedi'i brynu gan y Llywodraeth.
Rwyf hefyd yn falch o'r dull a fabwysiadwyd gennym o weithio gyda datblygwyr. Hyd yma, mae wedi golygu bod 11 o ddatblygwyr wedi ymrwymo i gytundeb datblygu Llywodraeth Cymru. Rydym yn gweithio gydag un arall hefyd. Mae cytundeb y datblygwr yn ymrwymiad cyhoeddus y bydd datblygwyr yn cywiro materion diogelwch tân mewn adeiladau 11m ac uwch—nid 18m, 11m ac uwch o uchder—a ddatblygwyd ganddynt dros y 30 mlynedd diwethaf. Mae hyn yn rhoi sicrwydd i lesddeiliaid na fydd rhaid iddynt dalu am waith diogelwch tân nad ydynt yn gyfrifol amdano—
Weinidog, a wnewch chi dderbyn ymyriad ar hynny?
Gwnaf, wrth gwrs.
Diolch. Rwy'n croesawu'r cytundeb rydych chi wedi'i arwyddo gyda'r gwahanol ddatblygwyr. Rwy'n clywed yr hyn a ddywedwch—fod yna drafodaethau o hyd gydag un datblygwr. Fel rwy'n deall, rhan o'r cytundeb hwnnw oedd y byddai eu cynlluniau adfer gyda chi o fewn mis i arwyddo'r ddogfen honno. A ydych chi wedi cael unrhyw un o'r cynlluniau adfer hynny, ac os ydych chi wedi, a yw eich swyddogion wedi eich cynghori ynghylch cadernid y cynlluniau hynny?
Rwy'n dod at hynny. Felly, fel roeddwn yn dweud, mae hyn yn rhoi sicrwydd i lesddeiliaid na fydd rhaid iddynt dalu am waith diogelwch tân nad ydynt yn gyfrifol amdano, ac y bydd y gwaith adfer yn mynd rhagddo.
Yng Nghymru, rydym wedi gweithio gyda datblygwyr i sicrhau'r ymrwymiad hwn i adfer. Nawr, dyma'r darn sy'n ateb eich cwestiwn, Andrew. Bydd y ddogfennaeth gyfreithiol ffurfiol a fydd yn sail i'n cytundeb datblygwyr yn darparu'r gallu i Lywodraeth Cymru gymryd camau cyfreithiol yn erbyn datblygwyr am dorri telerau'r cytundeb. Mae'r fersiwn derfynol o'r ddogfennaeth gyfreithiol ffurfiol yn cael ei drafftio ar hyn o bryd a bydd yn cynnwys gofyniad i ddatblygwyr ddarparu rhaglen ac amserlen ar gyfer gwaith adfer, ynghyd â threfniadau monitro ac amod fod unrhyw newidiadau i'r amserlen yn cael eu cytuno gyda swyddogion Llywodraeth Cymru. Rwy'n disgwyl y bydd y ddogfennaeth gyfreithiol ffurfiol yn cael ei chytuno gyda datblygwyr yn y dyfodol agos iawn, ac wrth gwrs, byddaf yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â chynnydd i'r Aelodau. I drosi hynny i iaith y lleygwr, pan fydd y dogfennau cyfreithiol yn eu lle, bydd yr amserlen yn dechrau tician. Felly nid ydym yno'n iawn eto, ond fe fyddwn yn fuan iawn.
O ystyried bod nifer sylweddol o eiddo lesddaliad yng Nghymru'n dod o dan y trothwy 11m neu bum llawr, mae angen inni ystyried hefyd a yw'r darpariaethau a nodir yn adrannau 116 i 125 yn addas ar gyfer Cymru. Yn ymarferol, nid yw'r broses o wneud darpariaeth sy'n debyg o ran ei natur neu'n cyfateb i adrannau 116 i 125 ar gyfer Cymru yn syml. Byddai gwneud hynny'n galw am ddeddfwriaeth sylfaenol, sy'n cymryd mwy o amser i'w pharatoi a'i phasio nag is-ddeddfwriaeth wrth gwrs, ac yn ychwanegol at hynny, byddai angen teilwra unrhyw ddeddfwriaeth ar gyfer Cymru yn benodol, fel y mae 116 i 125 wedi eu teilwra'n benodol ar hyn o bryd ar gyfer y drefn diogelwch adeiladau newydd yn Lloegr, nad yw'r un fath â'r drefn yma yng Nghymru. Felly er bod adrannau 116 i 125 yn rhoi opsiwn i lesddeiliaid gychwyn camau cyfreithiol yn erbyn datblygwr y maent yn ystyried nad yw'n adfer diffygion diogelwch tân y mae wedi'u creu, gallai hyn wneud lesddeiliaid yn atebol am y costau cyfreithiol a fyddai'n deillio o wneud hynny.
Yng Nghymru, os yw lesddeiliad neu breswylydd yn poeni bod datblygwr yn torri telerau'r dogfennau cyfreithiol ffurfiol sy'n sail i gytundeb y datblygwr, ceir darpariaeth iddynt allu cysylltu â'r Llywodraeth a byddwn yn monitro'r cytundeb yn agos wrth gwrs. Gallai Llywodraeth Cymru roi camau cyfreithiol ar waith wedyn i orfodi'r dogfennau cyfreithiol ffurfiol, gan warchod lesddeiliaid rhag y costau cyfreithiol posibl o ddwyn achos eu hunain. Felly, os caf ddweud mewn iaith wirioneddol glir, nid ydym angen yr adrannau yng Nghymru. Nid ydym angen cyfyngu na darparu cap ar y taliadau a wneir, oherwydd rydym yn mynd i dalu am y gwaith ein hunain neu mae'r datblygwyr yn mynd i dalu amdano. Felly, lle mae gennym adeiladau y mae datblygwyr yn gysylltiedig â hwy, byddant hwy'n talu am y gwaith adfer, a lle mae gennym adeiladau 'amddifad' fel y'u gelwir—lle na all neb nodi datblygwr neu ei fod wedi mynd yn fethdalwr neu wedi mynd i'r wal—byddwn ni'n talu amdano. Ni fydd raid i'r lesddeiliaid dalu amdano.
Mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn galw ar y Llywodraeth i gydweithio gyda'r holl bleidiau gwleidyddol. Rwy'n credu fy mod wedi dangos heddiw ein bod yn Llywodraeth sy'n fwy na pharod i wneud hynny. Rydym yn croesawu cydweithio er budd lesddeiliaid, felly, wrth gwrs, Lywydd, byddwn yn gweithio gyda phob plaid wleidyddol i sicrhau bod lesddeiliaid yn cael eu diogelu, ond rhaid i'r rhain fod yn amddiffyniadau cywir i lesddeiliaid yng Nghymru, a chredwn mai dyna sydd gennym. Diolch.
Andrew R.T. Davies i ymateb i'r ddadl.
Diolch, Lywydd. Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl y prynhawn yma, ac yn arbennig, am y ffordd y nododd pam ein bod yn trafod y materion hyn, oherwydd trasiedi Grenfell, a diniweidrwydd pobl sy'n byw mewn llawer o'r adeiladau yr effeithiwyd arnynt yn sgil Grenfell—mae'n drasiedi i'r unigolion hynny. Ac fe gyffyrddodd Joel James yn bwerus iawn ar y materion iechyd meddwl, cam-drin alcohol a goblygiadau cymdeithasol eraill sydd wedi taro'r unigolion hyn heb unrhyw fai arnynt hwy, ond drwy'r trawma o fynd o gael yr hyn y credant sy'n gartref eu breuddwydion i fod yn faen melin o amgylch eu gyddfau ac yn y pen draw, yn rhywbeth heb iddo fawr o werth o gwbl, ond fel trap marwol posibl pe bai tân yn digwydd yn unrhyw un o'r adeiladau hynny, ac yn amlwg, yr ofn parhaus ynglŷn â'r hyn a allai ddigwydd.
A dyna pam y mae ymateb y Gweinidog yn fy nrysu braidd heddiw. Pam na fyddai Llywodraeth Cymru eisiau defnyddio'r gyfraith i roi hawliau i'r unigolion hyn fel y gallent fynnu iawn o dan y gyfraith, pe baent yn teimlo y gallent wneud hynny? Rwy'n croesawu'r cynlluniau y mae'r Gweinidog a'r Llywodraeth wedi'u rhoi ar waith hyd yma i weithio ochr yn ochr â chydweithwyr ar draws y sector i ddod â'r datblygwyr at y bwrdd, ond mae yna lawer iawn o feysydd penodol sydd angen i'r gyfraith roi amddiffyniad i'r unigolion yr effeithir arnynt, megis y cyfryngau at ddibenion arbennig a gafodd eu rhoi ar waith i adeiladu llawer o'r datblygiadau hyn ond ar ôl i'r datblygiadau gael eu hadeiladu, daeth y cwmnïau hynny i ben a daeth atebolrwydd y datblygwyr hynny i ben bron â bod. Pe baem yn mabwysiadu rhai o'r mesurau hyn mewn Deddf Gymreig a fyddai'n cael ei chyflwyno—
A wnewch chi gymryd ymyriad, i fod yn hollol glir?
Fe wnaf hynny gyda phleser.
Os oes yna adeilad amddifad—dyna rydym yn eu galw—lle mae'r datblygwr wedi mynd yn fethdalwr a lle na allwn olrhain cwmni datblygu gydag atebolrwydd neu gyfrifoldeb amdano, telir amdano o gronfa'r Llywodraeth, sy'n sylweddol fwy na'r arian canlyniadol a roddwyd i ni.
Mae hynny i'w groesawu, ond os siaradwch chi gyda'r trigolion ychydig i fyny'r ffordd oddi yma, mae yna oblygiadau ehangach i'r adeiladau amddifad y sonia'r Gweinidog amdanynt y mae'r preswylwyr eu hunain, drwy grŵp Cladiators a grwpiau pwyso eraill sydd wedi deillio o'r ymgyrch hon, am eu gweld wedi'u hymgorffori yng nghyfraith Cymru. Rwy'n derbyn y pwynt y mae Mabon yn ei wneud fod angen cyfraith Gymreig arnom, ac nid neidio ar gefn yr hyn sydd wedi digwydd yn San Steffan. Rwy'n derbyn hynny. Ond rydym wedi profi yma yn y sefydliad hwn cyn y Senedd hon y gallwn lunio deddfwriaeth gyflym lle mae angen inni wneud hynny: Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol (Cymru) 2022. Gallaf weld Mick Antoniw yn eistedd gyferbyn â mi, a siaradodd yn y ddadl honno gan hyrwyddo'r ddeddfwriaeth benodol honno. A'r Bil parhad Ewropeaidd hefyd a gyflwynwyd yn amserol.
Felly, er y gallem anghytuno ar rai o'r pwyntiau, rwy'n gobeithio nad ydym yn anghytuno ar yr egwyddor sylfaenol y dylem ddefnyddio pwerau'r Senedd hon i roi amddiffyniad, rhoi hawliau i ddinasyddion Cymru sydd ar yr ochr anghywir i'r ddadl hon, y drafodaeth hon, ac angen diogelwch y gyfraith. Ac fel y dywedais, rwy'n croesawu'r mesurau y mae'r Llywodraeth wedi'u rhoi ar waith hyd yma, ond rwy'n ei hystyried yn od nad yw'r Llywodraeth yn barod i gyflwyno deddfwriaeth yma y gallwn ei phasio mewn modd amserol, deddfwriaeth benodol i Gymru sy'n ymdrin â materion penodol i Gymru. Rwy'n gweld bod yna wahaniaeth. Yn anffodus, ni fydd Llywodraeth Cymru'n pleidleisio dros y cynnig heno, ond rwy'n gobeithio y bydd Aelodau eraill oddi ar feinciau'r gwrthbleidiau'n uno i roi cymeradwyaeth i'r mesur heddiw fel y gall fynd ymlaen i gael ei ystyried. A gobeithio y bydd yr Aelodau'n cefnogi'r cynnig sydd ar y papur trefn heno.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad, felly dyma ni yn symud at y cyfnod pleidleisio. Ac oni bai bod yna dri Aelod yn dymuno i mi ganu'r gloch, fe wnawn ni symud yn syth at y cyfnod pleidleisio.