– Senedd Cymru am 3:48 pm ar 8 Chwefror 2023.
Eitem 5 y prynhawn yma yw'r ddadl ar adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, 'Absenoldebau disgyblion'. Galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig—Jayne Bryant.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n falch iawn o agor y ddadl hon ar adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc, ac Addysg ar absenoldeb disgyblion. Fe wnaethom gynnal ymchwiliad arbennig byr yr haf diwethaf i geisio deall effaith y pandemig ar bresenoldeb yn yr ysgol.
Roeddem yn gwybod, cyn y pandemig, fod ffocws cryf wedi bod, yn yr ysgol ac ar lefelau cenedlaethol, i fynd i'r afael ag absenoldeb o'r ysgol. Roeddem eisiau adeiladu ar adroddiad gan Meilyr Rowlands ar absenoldeb o'r ysgol a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru. Roedd ein canfyddiadau'n cyd-fynd yn helaeth â chanfyddiadau ei adroddiad ef, ac rydym yn gobeithio eu bod o gymorth mawr i Lywodraeth Cymru.
Hoffwn ddiolch i fy nghyd-aelodau o'r pwyllgor am eu diwydrwydd wrth ymgymryd â'r gwaith hwn, yn ogystal â'r rhai a roddodd dystiolaeth lafar ac ysgrifenedig. Yn fwyaf arbennig, hoffwn ddiolch i'r teuluoedd a'r bobl ifanc a ddaeth i'n grwpiau ffocws i drafod eu profiadau. Mae ein cynllun strategol yn rhoi pwyslais enfawr ar bwysigrwydd clywed yn uniongyrchol gan blant a phobl ifanc, ac rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i glywed a gosod y lleisiau hyn ar y blaen. Gallaf eich sicrhau bod eich lleisiau wedi bod yn help mawr wrth lunio ein gwaith. Hoffwn ddiolch hefyd i'r Gweinidog am ei gyfraniad cadarnhaol i'n gwaith ar y mater hwn.
Fe wnaethom saith argymhelliad i gyd, a chafodd pob un ohonynt eu derbyn neu eu derbyn mewn egwyddor. Rydym yn gwybod bod Llywodraeth Cymru wrthi'n adolygu eu canllawiau presenoldeb ar hyn o bryd, ac rydym yn falch o weld y Gweinidog yn ymrwymo i'r adolygiad hwn, sy'n cwmpasu'r canllawiau ar waharddiadau ac ymddygiad, gan fod cysylltiad agos rhwng y materion hyn. Rydym hefyd yn croesawu'r ymrwymiad y bydd y canllawiau diwygiedig yn canolbwyntio ar y plentyn ac yn seiliedig ar ymarfer sy'n ystyriol o drawma a thystiolaeth o'r hyn sy'n gweithio mewn gwirionedd.
Clywsom dystiolaeth glir iawn fod gan bawb ran i'w chwarae yn y gwaith o hyrwyddo a chefnogi presenoldeb cyson. Felly, mae'n dda clywed gan y Gweinidog y bydd y canllawiau hyn yn nodi'r rolau y gall pob partner eu chwarae, gan fynd y tu hwnt i staff yr ysgol yn unig, a chwmpasu awdurdodau lleol, llywodraethwyr, a rhieni a gofalwyr wrth gwrs.
Yn ystod y pandemig, newidiodd y math o ddata presenoldeb a gafodd ei gasglu a'i gyhoeddi, sy'n ei gwneud hi'n anodd cymharu'r data ar bresenoldeb sydd ar gael cyn y pandemig a'r data sydd ar gael nawr. Ond mae'r tueddiadau cyffredinol yn dangos bod lefelau presenoldeb wedi gostwng ers i'r ysgolion gau yn sgil y pandemig. Pan gyhoeddwyd yr adroddiad, presenoldeb cyfartalog y flwyddyn academaidd gyfredol oedd 91.4 y cant. O ddata diweddaraf Llywodraeth Cymru, a gyhoeddwyd y bore yma, roedd presenoldeb cyfartalog y flwyddyn academaidd hon wedi gostwng i 89.3 y cant. Mae'r data hefyd yn dangos bod y gyfradd presenoldeb yn is ymhlith dysgwyr sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim nag ymhlith dysgwyr nad ydynt yn gymwys.
Clywsom dystiolaeth anecdotaidd fod yr argyfwng costau byw yn creu rhwystr ychwanegol i blant a phobl ifanc sy'n mynychu'r ysgol. Er bod hyn yn anecdotaidd, mae'n adeiladu ar bryderon hirsefydlog am effaith cost y diwrnod ysgol a'r rhwystrau y gall eu creu. Roedd hefyd yn dystiolaeth anecdotaidd yr oedd yr holl randdeiliaid i'w gweld yn cytuno â hi. Ac rydym yn glir iawn na ddylai'r un plentyn golli ysgol am nad yw eu teulu'n gallu fforddio iddynt fod yn bresennol. Mae hyn yn cynnwys anfanteision sydd eisoes yn bodoli, ac sy'n sylfaenol annheg.
Felly, fe wnaethom argymhelliad 2 a alwai am astudiaeth frys i weld sut mae'r argyfwng costau byw presennol yn effeithio ar bresenoldeb yn yr ysgol. Oherwydd bod y dystiolaeth hon yn anecdotaidd ar hyn o bryd, roeddem yn pryderu ei bod yn ei gwneud hi'n anos creu atebion ac ymyriadau polisi effeithiol. Fe wnaethom alw am wneud hyn o fewn dau fis i ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad, ac iddo gael ei gefnogi gan gynllun gweithredu.
Wrth ymateb i'r argymhelliad hwn, dywedodd Llywodraeth Cymru fod yr amserlen a nodwyd yn heriol. Dywedasant eu bod mewn trafodaethau anffurfiol gydag awdurdod lleol ynglŷn â chynnig ymchwil a fyddai'n edrych yn fanwl ar bresenoldeb mewn ysgolion uwchradd, gan ganolbwyntio ar ba ddulliau ac ymyriadau sy'n cael yr effaith fwyaf ar deuluoedd incwm is. Nawr, er bod hwn yn swnio fel gwaith addawol, nid yw'n cyrraedd uchelgais ein hargymhelliad. Fe wnaethom osod amserlen heriol iawn ar gyfer yr argymhelliad oherwydd ein bod yn teimlo angen i ddeall ar frys sut mae'r argyfwng presennol yn effeithio ar bresenoldeb yn yr ysgol ar hyn o bryd ac i nodi pa gamau y gellir eu cymryd yn gyflym i fynd i'r afael â'r broblem. Os yw plant a phobl ifanc yn dechrau colli ysgol am nad ydynt yn gallu fforddio mynychu, rydym yn poeni y bydd hyn yn ei gwneud hi'n anos ail-ennyn eu diddordeb mewn addysg po hiraf y byddant yn absennol.
Nodwn hefyd mai edrych ar bresenoldeb yn yr ysgol uwchradd yn unig y byddai'r cynnig ymchwil hwn yn ei wneud. Nid yw'n glir ychwaith a fyddai'r cynnig yn edrych ar y darlun ar draws Cymru. Efallai y gall y Gweinidog amlinellu pa waith y mae'n bwriadu ei wneud i edrych ar y dystiolaeth mewn lleoliadau cynradd. A Weinidog, a allwch chi hefyd gadarnhau y byddai'r cynnig ymchwil yn cwmpasu Cymru gyfan, ac os nad ydych yn gallu cefnogi'r cynnig ymchwil a nodir yn ymateb Llywodraeth Cymru, pa waith a allai gymryd ei le?
Roedd cysylltiad agos rhwng y materion costau byw ag argymhelliad 3, ar deithio gan ddysgwyr. O'n gwaith ar y pwyllgor hwn ond hefyd fel Aelodau unigol—rhywbeth y gwnaethom ei drafod ddoe hefyd yn y ddadl ar y gyllideb—rydym yn ymwybodol iawn o'r rhwystrau y mae rhai plant a phobl ifanc yn eu hwynebu i gael mynediad at gludiant priodol a fforddiadwy i'r ysgol. Fe wnaethom alw am ddull o wneud penderfyniadau teithio sy'n rhoi'r disgybl yn gyntaf, gydag anghenion y disgybl unigol yn hytrach na chost yn ffactor bwysicaf. Rydym yn cydnabod bod hyn yn gofyn llawer gan awdurdodau lleol mewn cyfnod anodd yn ariannol, felly galwasom ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod gan awdurdodau lleol ddigon o gyllid i allu cyflawni. Fe alwasom hefyd am sicrhau bod yr adolygiad presennol yn radical wrth chwilio am atebion arloesol i'r broblem hirsefydlog hon. Ni ddylai presenoldeb plant yn yr ysgol gael ei rwystro am nad oes ganddynt opsiynau cludiant fforddiadwy neu ddiogel.
Wrth ymateb, mae'r Gweinidog yn amlinellu'r adolygiad presennol a'r newidiadau sydd i ddod i'r ddarpariaeth o wasanaethau bws. Fodd bynnag, rydym yn pryderu, fel gyda'r argymhelliad blaenorol, nad yw hyn yn adlewyrchu'r angen brys i fynd i'r afael â'r mater hwn nawr. Felly, pryd fydd yr adolygiad o'r Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 wedi ei gwblhau, a phryd y gallwn ddisgwyl gweld camau gweithredu'r adolygiad yn cael eu gweithredu?
Yn olaf, hoffwn ofyn am fwy o eglurder gan y Gweinidog ar yr ymateb i argymhelliad 1 a alwai am ymgyrch genedlaethol yn canolbwyntio ar effeithiau cadarnhaol presenoldeb rheolaidd yn yr ysgol. Credwn y dylid cyflwyno hyn ar y cyd ag ymgyrchoedd lleol wedi'u haddasu'n well ar lefel awdurdod lleol ac ysgol, a fyddai'n ategu ymgyrch genedlaethol. Wrth ymateb i'r argymhelliad hwn, dywedodd y Gweinidog y bydd Llywodraeth Cymru'n cynyddu cyfathrebiadau er mwyn pwysleisio pwysigrwydd mynd i'r ysgol. A all roi mwy o fanylion i ni ynglŷn â fformat y cyfathrebiadau hyn, ac ai dyma'r ymgyrch genedlaethol y mae'r pwyllgor am ei gweld?
Felly, wrth gloi, Ddirprwy Lywydd, hoffwn ddiolch i bawb a gyfrannodd at ein hymchwiliad unwaith eto, gan gynnwys y rhai a roddodd dystiolaeth ysgrifenedig a llafar, i fy nghyd-aelodau o'r pwyllgor, a'r Gweinidog a'i swyddogion am ymwneud yn gadarnhaol â'n gwaith. Rwy'n edrych ymlaen at glywed beth sydd gan gyd-Aelodau a'r Gweinidog i'w ddweud. Diolch.
Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i'n Cadeirydd rhagorol, Jayne Bryant, a hefyd i fy nghyd-aelodau o'r pwyllgor, wrth gwrs, a'r clercod, y staff a'r bobl a roddodd dystiolaeth ac a wnaeth yr adroddiad hanfodol hwn yn realiti—ac wrth gwrs, i'r Gweinidog am ei gydweithrediad hefyd. Mae'n hanfodol ein bod yn mynd i'r afael â lefelau absenoldeb disgyblion sy'n codi'n aruthrol, problem sydd wedi'i gwaethygu, fel y clywsom eisoes, gan y pandemig a'r argyfwng costau byw. Credaf fod yr adroddiad yn un trylwyr a hoffwn ganolbwyntio ar ambell fater allweddol sy'n codi ohono heddiw.
Rydym wedi gweld bod disgyblion anghenion dysgu ychwanegol yn cael eu hamddifadu o gefnogaeth briodol ac amserol, ac mae hynny'n arwain at absenoldeb cyson o'r ysgol. Canfu Cymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth Cymru fod 43 y cant o fyfyrwyr awtistig yn absennol yn gyson, ystadegyn sy'n peri pryder. Gwelwn hefyd mai myfyrwyr sy'n byw mewn tlodi, fel y dywedwyd eisoes, yw cyfran uchel o'r rhai sy'n absennol o'r ysgol, ac roedd hyn yn glir iawn yn yr adroddiad drwyddo draw.
Canfu arolwg blynyddol tlodi plant a theuluoedd 2021 fod 94 y cant o addysgwyr yng Nghymru yn dweud bod tlodi wedi cael effaith ar brofiad ysgol plentyn, sydd wrth gwrs wedi ei waethygu bellach gan yr argyfwng costau byw a'r pandemig. Mae'r tueddiadau presennol yn achos braw, ac mae angen inni sicrhau ein bod yn ei gwneud mor hawdd â phosibl i fyfyrwyr fynychu'r ysgol, a'n bod mor gefnogol â phosibl i ddysgwyr unigol gyda'u hanghenion unigol, er mwyn sicrhau nad ydynt yn colli'r addysg y maent oll yn ei haeddu.
Mae'n amlwg o'r argymhellion fod angen dull amlweddog arnom i sicrhau ein bod yn atal y duedd bryderus hon. Mae argymhelliad 3 yr adroddiad yn dweud y dylai Llywodraeth Cymru sicrhau bod cyllid digonol gan awdurdodau lleol, fel yr amlinellodd ein Cadeirydd eisoes, i sicrhau bod gan blant a phobl ifanc fynediad at opsiynau cludiant ysgol priodol ar gyfer eu cludo i'r ysgol yn ddiogel. Mae hyn yn gwbl hanfodol, yn enwedig pan fo cyllidebau awdurdodau lleol mor dynn yn yr hinsawdd bresennol.
Fodd bynnag, dull Llywodraeth Cymru yw derbyn hyn mewn egwyddor yn unig, a'i gynnwys gyda'r Papur Gwyn 'Un Rhwydwaith, Un Amserlen, Un Tocyn', sydd yn fy marn i yn lleihau pwysigrwydd y mater hwn ac yn creu oedi cyn y ceir gweithredu go iawn. Fel y dywedais yn y pwyllgor—ac rwy'n gweld y pethau hyn yn fy rhanbarth fy hun yn llawer rhy reolaidd, fel pawb ohonom—mae angen y dull disgybl yn gyntaf a gyflwynwyd gan y pwyllgor. Mae angen ei ddiwygio'n gyfan gwbl, ac nid gwneud addasiadau bach yn unig.
Ond mae'n rhaid cofio bod yna blant nawr sydd angen help gyda chludiant i'r ysgol, ac ni allwn aros i'r Papur Gwyn droi'n weithredu ymhen blynyddoedd i ddod. Mae angen inni weld gweithredu ar unwaith i ehangu'r cynnig cludiant i'r ysgol, gan leihau'r gost i rieni, oherwydd, am y tro, mae nifer yn methu fforddio cludiant i'r ysgol, ac ni allant fforddio gyrru eu plant i'r ysgol chwaith. Mae hyn yn creu sefyllfa ofidus i rieni, ac wrth gwrs mae'n effeithio ar y dysgwyr ac yn effeithio ar lefel yr absenoldeb a welwn. Rwy'n cytuno'n llwyr â Jayne Bryant na ddylai hyn fod yn rhwystr i ddysgu yn yr oes sydd ohoni.
Mae argymhelliad 4 yn mynd i'r afael â'r myfyrwyr sy'n fwyaf tebygol o fod yn absennol, a pham. Fel y gwyddom o'r adroddiad, gall amrywio o anghenion ADY i broblemau iechyd meddwl, a materion iechyd meddwl nad ydynt yn cael sylw digonol a chefnogi dysgwyr i allu aros yn yr ysgol. Er fy mod yn falch fod Llywodraeth Cymru wedi derbyn yr argymhelliad hwn, ac y byddant yn ystyried data absenoldeb a gwahardd i lywio cefnogaeth i lesiant dysgwyr, mae'n hanfodol, lle bo angen cymorth, ei fod yn cael ei gyflwyno ar frys ar lawr gwlad lle mae ei angen. Mae'r data'n ddiystyr heb y gefnogaeth briodol i'w ddilyn, ac rwy'n siomedig fod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i hyn heb dderbyn yr argymhelliad.
Mae angen inni wybod hefyd sut bydd Llywodraeth Cymru yn monitro'r ddarpariaeth a'i llwyddiant neu ei methiant. Hoffwn hefyd i'r Gweinidog fynd i'r afael â sut y bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod y genhedlaeth hon o fyfyrwyr yn gallu cael mynediad at gludiant i'r ysgol, nid dim ond canolbwyntio ar y genhedlaeth nesaf, ac egluro sut mae'n sicrhau nad yw rhai sy'n derbyn addysg yn y cartref yn cael eu cynnwys yn y ffigurau absenoldeb ysgol, gan ei bod yn hanfodol inni sicrhau bod y cyfrwng addysg hwnnw'n cael ei gadw'n agored a heb ei ddifwyno. Ond mae'n bwysig fod Llywodraeth Cymru—. Mae angen inni ddeall pam y gwelwyd cynnydd mor sylweddol yn nifer y rhai sy'n derbyn addysg yn y cartref ers dechrau'r pandemig.
Mae'r adroddiad sydd ger ein bron yn tynnu sylw at y brys i fynd i'r afael â hyn, fel y nododd ein Cadeirydd, felly hoffwn glywed gan y Gweinidog sut mae'n gweithio nawr gydag awdurdodau lleol ac arweinwyr ysgolion i sicrhau ein bod yn gwrthdroi'r duedd bryderus hon yn lefelau absenoldeb disgyblion. Ydy, mae wedi gostwng ychydig, ond mae'r ffigurau'n dal i fod yn llawer rhy uchel. Diolch.
Hoffwn innau ddiolch i Gadeirydd y pwyllgor a fy nghyd-Aelodau, y clercod a phawb a gyfrannodd, ynghyd â’r Gweinidog. Mi oedd hwn ymchwiliad pwysig tu hwnt.
Fel sydd eisoes wedi ei amlinellu, rydyn ni i gyd yn gwybod pwysigrwydd presenoldeb o ran datblygiad dysgwyr mewn ysgolion, nid yn unig o ran eu cyrhaeddiad academaidd, ond hefyd eu datblygiad cymdeithasol, meddyliol ac emosiynol. Ond y ffaith amdani ydy, ledled Cymru, mae gormod o ddysgwyr yn colli cyfleoedd pwysig oherwydd absenoldeb, a’r hyn roeddem ni fel pwyllgor eisiau deall yn well oedd pam.
Fel soniwyd eisoes, roedd hon yn broblem cyn COVID, ond yn sicr mae’r sefyllfa wedi gwaethygu ers hynny. Ac os na fydd gwella ar y sefyllfa hon yn fuan, yna bydd nifer o ddysgwyr yn colli allan ar lu o gyfleoedd a fydd wedyn yn effeithio arnynt am ddegawdau i ddod. Dyna pam bod yr adroddiad hwn mor allweddol bwysig.
Dwi’n croesawu’n benodol ymateb y Llywodraeth i’r ail argymhelliad, a’r cytundeb i gomisiynu ymchwil i ddeall yn well effaith yr argyfwng costau byw ar allu disgyblion i fynychu’r ysgol. Yn sicr, roedd y comisiynydd plant yn bendant o ran y cysylltiad rhwng absenoldeb a thlodi, a gyda tlodi plant yn cynyddu yma yng Nghymru, mae’n rhaid i ni ddeall yn well pam bod hyn yn digwydd a beth y gallwn ni ei wneud i sicrhau’r dechrau gorau posibl i bob dysgwr sy’n mynychu ysgol.
Un mater a godwyd gyda ni fel pwyllgor, a sydd eisoes wedi ei godi—ac mae wedi’i godi efo fi fel Aelod rhanbarthol dros Ganol De Cymru—yw’r rhwystrau sy’n gysylltiedig â chost trafnidiaeth, a dyna fyrdwn trydydd argymhelliad y pwyllgor. Dwi’n falch o weld y Gweinidog yn derbyn yr argymhelliad hwn mewn egwyddor, ond eto, mae o’n fy mhryderu i fod hyn yn cymryd gymaint o amser i’w ddatrys.
Rwyf wedi codi nifer o weithiau erbyn hyn gyda’r Gweinidog a’r Dirprwy Weinidog dros Newid Hinsawdd achos yn fy rhanbarth yn Ysgol Uwchradd Llanishen, sydd wedi ei godi gan Ruben Kelman, Aelod o Senedd Ieuenctid Cymru. Mae'r dystiolaeth yn glir gan yr ysgol fod cost bws yn atal rhai dysgwyr rhag mynychu’r ysgol yn rheolaidd. Serch hynny, erys y sefyllfa hon heb ddatrysiad. Faint mwy o bobl ifanc sy’n cael eu heffeithio fel hyn? A pham nad yw cynghorau megis Cyngor Caerdydd ac eraill yn ymateb yn syth i ddatrys sefyllfaoedd o’r fath, pan rydym yn derbyn tystiolaeth bod plant yn methu fforddio mynd i’r ysgol?
Hoffwn hefyd ganolbwyntio ar un maes allweddol arall a ddaeth i'r amlwg yn ystod ein hymchwiliad, sef capasiti staffio, neu'n hytrach diffyg capasiti staffio, a sut mae'n un o'r rhwystrau mwyaf i fynd i'r afael ag absenoldeb disgyblion. Fel y clywsom, mae'n broblem a gafodd ei gwaethygu oherwydd absenoldebau staff yn sgil COVID-19, ac anawsterau i sicrhau staff cyflenwi, ond mae heriau eraill hefyd, yn gysylltiedig â'r gyllideb ddrafft, a drafodwyd gennym ddoe. Rydym eisoes wedi cael rhybudd gan undebau athrawon y bydd cyllidebau ysgolion dan straen, gyda phenaethiaid yn rhybuddio y bydd yn rhaid iddynt ystyried torri'n ôl ar athrawon a chynorthwywyr addysgu, yn ogystal â chymorth ychwanegol i ddisgyblion a'u teuluoedd.
Fodd bynnag, daw ein hadroddiad i'r casgliad fod yna bryderon sylweddol eisoes ynghylch capasiti staffio a gwytnwch i gefnogi presenoldeb disgyblion. Roedd rhywfaint o hyn yn cyfeirio'n benodol at gefnogi dysgu cyfunol a hyblyg hefyd. Yn y pen draw, ceir grwpiau penodol o blant a phobl ifanc sy'n wynebu rhwystrau ychwanegol sy'n eu hatal rhag mynychu'r ysgol, nifer ohonynt nad oes ganddynt reolaeth drostynt. Gall dysgu cyfunol, newid a ddatblygwyd yn ystod y pandemig, gynnig opsiwn effeithiol i helpu'r grwpiau hyn o ddysgwyr i gynnal presenoldeb. Ni fydd dychwelyd i normal yn gweithio yn y sefyllfa hon, ac mae'n bosibl y bydd y gallu i ddefnyddio'r arferion newydd hyn yn helpu i gefnogi'r dysgwyr hynny.
Yn olaf, rwy'n croesawu'r ffaith bod y Gweinidog yn derbyn yr angen i wella'r gwaith o gasglu data yn ogystal â chyhoeddi a dadansoddi data ar absenoldeb disgyblion. Mae'r angen am ddata wedi'i ddadgyfuno yn hanfodol er mwyn nodi tueddiadau absenoldeb ar gyfer grwpiau penodol o ddysgwyr. Mae angen inni anfon neges glir at bawb nad yw presenoldeb yn opsiynol i ddisgyblion sy'n mynychu'r ysgol, ac os oes rhwystrau sy'n effeithio ar bresenoldeb, yn enwedig costau, mae angen inni weithredu ar frys. Mae addysg yn hawl ac ni ddylai unrhyw blentyn na pherson ifanc golli diwrnod o ysgol am nad yw eu teuluoedd yn gallu fforddio iddynt fynychu.
Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at weld yr argymhellion yn cael eu gweithredu, ac unwaith eto rwy'n gofyn i bawb sy'n gallu helpu i wireddu'r argymhellion hyn eu gweithredu ar frys. Mae pob diwrnod sy'n cael ei golli yn yr ysgol gan ddysgwr yn ddiwrnod sy'n ehangu'r bwlch cyrhaeddiad. Mae angen inni weithredu nawr.
Hoffwn ddechrau drwy gynnig fy niolch i'r pwyllgor, ei dîm clercio a'r tystion am yr hyn rwy'n ei ystyried yn ddarn cadarn iawn o waith. Yn fy nghyfraniad, byddaf yn canolbwyntio ar un neu ddau o'r argymhellion allweddol.
Yn gyntaf, argymhelliad 1 ynghylch hyrwyddo pwysigrwydd presenoldeb yn yr ysgol. Rydym i gyd yn gwybod ei bod hi'n bwysig fod plant a phobl ifanc yn mynychu'r ysgol, ac mae'n allweddol ein bod yn cyfleu'r neges gadarnhaol honno, yn enwedig ar ôl yr holl darfu ac ansicrwydd a brofwyd dros y blynyddoedd diwethaf. Rwy'n croesawu'r ymateb gan Lywodraeth Cymru yn dweud y bydd yn cynyddu cysylltiad â rhieni a gofalwyr, er mwyn mynd i'r afael â phryderon a phwysleisio'r rhethreg gadarnhaol ynghylch pwysigrwydd mynychu'r ysgol. Rwy'n falch o'r cyfeiriad at swyddogion ymgysylltu â theuluoedd yn ymateb y Gweinidog, a'u rôl yn creu partneriaethau cryf ac yn cynnig cefnogaeth bwrpasol. Rwy'n gwybod bod y swyddogion hyn yn gwneud gwaith gwych iawn yn Rhondda Cynon Taf, a hoffwn dalu teyrnged i'r effaith sylweddol y maent yn ei chael.
Yn ail, hoffwn grybwyll argymhelliad 3 ynglŷn â theithio gan ddysgwyr. Rwy'n cymeradwyo galwad y pwyllgor am ddull sy'n canolbwyntio ar y dysgwr. Yn y cyd-destun hwn, efallai ei bod yn werth talu teyrnged yn fyr i gynnig cludiant am ddim Cyngor Rhondda Cynon Taf. Mae hwn yn berthnasol os yw plentyn ysgol gynradd yn byw 1.5 milltir o'i ddarpariaeth addas agosaf, neu 2 filltir os yw'n mynychu ysgol uwchradd. Felly, mae Rhondda Cynon Taf eisoes yn mynd y tu hwnt i'r hyn sydd wedi'i nodi yn y Mesur, gan ganolbwyntio ar yr unigolyn a cheisio cael gwared ar rwystrau i fynychu'r ysgol.
Rwy'n deall bod sylwadau Llywodraeth Cymru ynglŷn â theithio llesol yn bwysig, ond ni fydd hyn yn addas i bob plentyn ac nid dyma fyddai dewis pob rhiant a gwarcheidwad. Mae'r sylw yn ymateb Llywodraeth Cymru fod y Bil bysiau arfaethedig yn cynnig cyfle i edrych eto ar gludiant i'r ysgol hefyd yn ymrwymiad pwysig iawn. Rwy'n gobeithio y bydd yr ystyriaeth hon yn cynnwys astudiaeth beilot ar deithio am ddim ar fysiau i blant a phobl ifanc, er fy mod yn sylweddoli efallai ei fod yn rhywbeth na fydd y Gweinidog yn gallu ei roi heddiw. Mae llawer i gefnogi hyn, ac mae chwalu unrhyw rwystrau i fynychu'r ysgol, i mi, yn ffactor allweddol. Rwy'n gwerthfawrogi'r gwaith y mae Llywodraeth Cymru eisoes yn ei wneud i wneud cludiant yn fwy fforddiadwy i blant a phobl ifanc, ond mae'r Bil yn gyfle perffaith i ddarganfod a yw cymryd y cam nesaf hwn yn ymarferol ac yn ddymunol. Mae honno'n alwad y gwn fy mod i ac eraill wedi'i gwneud o'r blaen, ond mae hefyd yn un y mae Comisiynydd Plant blaenorol Cymru a Chomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru wedi ei chefnogi.
Yn drydydd, argymhellion 4 a 7, ac mae'r rhain yn ymwneud â defnyddio data a sut mae'n sbarduno ymyriadau ac yn galw am fwy o gysondeb. Rwy'n falch iawn o'r sylwadau ymatebol gan y Gweinidog mewn perthynas â'r rhain. O'm profiad fy hun o chwarae rôl fugeiliol mewn ysgol uwchradd, rwy'n gwybod pa mor bwysig yw olrhain a monitro presenoldeb, fel y gellir nodi unrhyw broblemau, eu datrys drwy gefnogaeth gydag ymyriadau cynnar, a thrwy hynny atal llawer o broblemau rhag gwaethygu. Mae'n bosibl mai data presenoldeb yw'r arf mwyaf gwerthfawr sydd gan ysgolion i adnabod disgyblion sydd angen cefnogaeth gyda phethau fel iechyd meddwl, ac rwy'n cytuno'n llwyr gyda dyfyniad yr Athro Ann John yn yr adroddiad, 'mai'r hyn sy'n cael ei gyfrif sydd o bwys'. Ac rwy'n cymeradwyo'r hyn a ddywed y Comisiynydd Plant, sef bod absenoldeb parhaus yn faner goch, sy'n awgrymu symptom ac achos fel ei gilydd, ac rwy'n croesawu'r ymrwymiad i ddull cyson mewn unrhyw fframwaith diwygiedig. Hoffwn yn fawr weld safon aur yn cael ei gwreiddio ledled Cymru.
Yn olaf, argymhelliad 5 ar gyhoeddi gwybodaeth am y cysylltiadau rhwng cyrhaeddiad ac absenoldeb. Rwy'n cydymdeimlo â hyn, ond rwy'n teimlo bod rhaid mynd ati mewn ffordd synhwyrol fel bod gwersi'n cael eu dysgu o ddulliau blaenorol. Yn anecdotaidd, yn seiliedig ar fy mhrofiadau fy hun, rwy'n meddwl am systemau blaenorol lle roedd gwahaniaeth o 4 y cant yn y lefelau presenoldeb yn arwain at ysgolion yn cael eu categoreiddio ar begynau eithaf y raddfa, naill ai'n wyrdd neu'n goch. Weithiau, nid yw'r data crai yn dweud y stori gyfan, ac rwy'n nodi'r dystiolaeth a roddwyd gan Gymdeithas Genedlaethol yr Ysgolfeistri ac Undeb yr Athrawesau i'r pwyllgor, a oedd yn nodi, er bod gan ysgolion rôl i'w chwarae, ei bod yn gymharol i'r rôl y mae'n rhaid i sefydliadau eraill ei chwarae.
Hoffwn gloi drwy ddiolch eto i'r pwyllgor am y gwaith hwn. Mae'n bwnc pwysig iawn i sicrhau bod ein plant a'n pobl ifanc yn cael y dechrau gorau, a bod problemau'n cael eu nodi. Ond hoffwn ddiolch hefyd i'r Gweinidog am ei ymateb cadarnhaol, ac edrychaf ymlaen at ddilyn y camau nesaf wrth i'r gwaith hwn gael ei ddatblygu.
A gaf fi ymuno â Vikki Howells a chyd-Aelodau eraill drwy ganmol y pwyllgor ar eu gwaith trylwyr iawn yn fy marn i ar broblem ddyrys iawn a phroblem a oedd yn bendant yn ein hwynebu cyn COVID-19? Ond yr hyn sy'n glir o adroddiad y pwyllgor yw effaith ychwanegol COVID a'r cyfyngiadau symud ar absenoldeb disgyblion. Testun pryder mawr felly yw gweld tystiolaeth sy'n dangos bod iechyd meddwl plant a phobl ifanc wedi cael ei effeithio'n ddifrifol gan y pandemig, i'r pwynt lle nad ydynt yn mynychu'r ysgol.
Gwelaf fod y Gweinidog yn edrych ar strategaeth gyfathrebu i annog plant a phobl ifanc i ddychwelyd i'r ysgol, ac y gallai'r negeseuon hyn gael eu gwneud ar lefel leol. Felly, byddai gennyf ddiddordeb mewn gweld pa ddiweddariadau sydd gan y Gweinidog ar hyn, ac a yw wedi rhoi ystyriaeth i bwynt y pwyllgor fod angen llinell sylfaen i blant ledled Cymru gael eu cefnogi yn ôl i'r ysgol, fel na fydd gwahaniaethau niweidiol mewn ymatebion lleol.
Mae'n amlwg hefyd, o ateb y Gweinidog i'r pwyllgor, ei fod yn rhoi pwyslais ar ysgolion bro a swyddogion ymgysylltu â theuluoedd i ymateb i'r mater. Felly, rwy'n awyddus i wybod sut mae'r Gweinidog yn bwriadu eu defnyddio, a beth fydd eu rôl yn lledaenu'r neges benodol hon.
Yn amlwg, mae llawer iawn o ffactorau ar waith gydag absenoldeb disgyblion, o'r rhai sydd ag anghenion dysgu ychwanegol nad ydynt yn cael y gefnogaeth gywir i effaith tlodi, i fod yn ofalwr ifanc, a dywedodd y Gweinidog ei hun fod hwnnw'n fater cudd. Mae'n broblem gymhleth, ac mae angen i ysgolion, awdurdodau lleol a theuluoedd gael yr holl adnoddau sydd ar gael at eu defnydd i gefnogi plant yn ôl i'r ysgol. Dylai addysg fod yn hawl ac nid yn fudd ychwanegol.
Ni ddylai fod yn syndod i'r un ohonom yn y Siambr heddiw ychwaith fod effaith absenoldeb ar ddysgu disgyblion yn ddinistriol. Eisoes, ni yw'r wlad a gollodd y gyfradd uchaf o ddyddiau ysgol yn ystod y pandemig yn y DU, ac yn anffodus, mae'n edrych yn debygol y bydd disgyblion yn colli mwy eto oherwydd gweithredu diwydiannol, rhywbeth sy'n llwyr o fewn gallu Llywodraeth Cymru i'w atal. Fodd bynnag, fel y dengys adroddiad y pwyllgor, nid cyrhaeddiad a chyflogadwyedd yn unig sy'n cael eu heffeithio, ond pethau fel cymdeithasu, meithrin cyfeillgarwch a mynediad at gymorth iechyd meddwl yn yr ysgol. Heb y rhyngweithio sylfaenol hwn, bydd diffyg addysg yn arwain at ymddygiad gwael, ac yn ddiweddarach, fel y nododd Cymdeithas Arweinwyr Ysgolion a Cholegau Cymru i'r pwyllgor, at ymddygiad troseddol neu wrthgymdeithasol hyd yn oed o fewn y gymuned, yn ogystal â'r potensial ar gyfer cynnydd mewn trais ieuenctid.
Rwy'n chwilfrydig iawn am y datganiad a wnaeth y Gweinidog fis Mai diwethaf ynghylch camau gweithredu gan Lywodraeth Cymru mewn perthynas ag absenoldeb disgyblion, a oedd yn cynnwys cyfathrebu â theuluoedd yn genedlaethol am bwysigrwydd mynychu'r ysgol; bron i £4 miliwn o gyllid ar gyfer y swyddogion ymgysylltu â theuluoedd ac ailgyflwyno hysbysiadau cosb benodedig fel dewis olaf. Fodd bynnag, mae'n edrych yn debyg fod y Gweinidog wedi cymryd cam yn ôl ar ddefnyddio hysbysiadau cosb benodedig drwy ddweud eu bod yn cael eu hystyried fel rhan o adolygiad ehangach o fframwaith presenoldeb Cymru gyfan, ond mae'r canllawiau y mae wedi bod yn eu rhoi i awdurdodau lleol wrth eu hailgyflwyno wedi bod yn amwys, ac rwy'n dyfynnu, 'wedi gwanhau sefyllfa ymyriadau awdurdodau lleol'. Sut y gall awdurdodau lleol ddefnyddio'r pwerau sydd ar gael iddynt heb ganllawiau clir ynglŷn â phryd y gallant ymyrryd?
Mae'n ddiddorol iawn gweld hefyd, yn y rhan o'r byd y mae'r ddau ohonom yn ei chynrychioli, Weinidog, mai Castell-nedd Port Talbot sydd â'r gyfradd gyfartalog uchaf o absenoldebau anawdurdodedig yn y flwyddyn academaidd hyd yma, ar dros 5 y cant, bron ddwbl cyfartaledd Cymru a bron dair gwaith y cyfraddau ym Mhowys a sir Fynwy. Castell-nedd Port Talbot hefyd sydd â'r ganran gyfartalog uchaf o sesiynau absenoldeb, ar dros 12 y cant ym mlwyddyn academaidd 2022-23 hyd yma. Felly, hoffwn wybod pa gamau brys y mae'r Gweinidog yn eu cymryd i sicrhau bod awdurdodau lleol, yn enwedig Castell-nedd Port Talbot, yn gallu rhoi'r camau angenrheidiol ar waith i atal absenoldeb parhaus sydd wedi ymwreiddio ac nad yw ond wedi cael ei waethygu gan y pandemig.
Ac yn olaf, cefais fy nharo gan ystadegyn a amlinellwyd yn ddiweddar gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a ddywedodd y byddai disgybl, hyd yn oed gyda chyfradd presenoldeb o 90 y cant dros flwyddyn academaidd, yn colli 100 o wersi—100 o wersi. Dyna 100 gwers fathemateg, Saesneg, Cymraeg, gwyddoniaeth, addysg gorfforol ac yn y blaen dros un flwyddyn. Dylem fod yn gwthio'n galed iawn ar hyn. Wrth gwrs, mae'r cyfyngiadau symud wedi effeithio ar addysg ein plant yn ddifrifol, ac ni allwn fforddio iddynt gael eu heffeithio ymhellach gyda chyfyngiadau COVID wedi dod i ben erbyn hyn. Os ydym yn parhau ar y trywydd hwn, gallem wynebu cenhedlaeth goll, ac arnom ni fydd y bai. Diolch.
Diolch yn fawr iawn i chi am eich adroddiad diddorol ar bwnc pwysig iawn. Yn rhy aml yn y gorffennol, rwy'n credu mai prif bwrpas y system ysgolion oedd sicrhau bod y nifer mwyaf o bobl yn cael pum gradd A i C, gan gynnwys Saesneg a Mathemateg. Rwy'n credu ei fod yn cael ei alw yn sgôr wedi'i chapio yn y jargon. Ond nid yw hyn yn ystyried cymhlethdod a her bywydau disgyblion a'u gallu i ddysgu. Mae llawer ohonoch eisoes wedi sôn am rai o'r rhain ac rydych wedi eu cynnwys yn eich adroddiad. Yn benodol, rwy'n credu ei bod yn bwysig meddwl am ddylanwad rhieni a theuluoedd sydd ag anghenion cymhleth a lluosog.
Heddiw, cefais y fraint o gyfarfod â dyn ifanc sydd bellach ym mlwyddyn 13, ond a ddechreuodd ei yrfa ysgol yn 6 oed fel ceisiwr lloches a oedd yn byw gydag anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd ac nad oedd yn gallu siarad gair o Saesneg. Pe na bai wedi cael cefnogaeth dda iawn drwy ei fywyd ysgol, rwy'n siŵr y gallai fod wedi camymddwyn a chael ei wahardd. Yn ogystal, roedd ei fam yn athrawes, felly gallai roi cymorth iddo allu dilyn y cwricwlwm yn yr ysgol gynradd y câi hi'n anodd ei ddeall a'i amsugno. Dychmygwch pe na bai rhiant y plentyn hwnnw wedi bod yn athrawes, dychmygwch a phe na bai'n deall sut i gefnogi dysgu pobl ifanc—gallwch weld sut y gallai'r unigolyn hwnnw fod wedi syrthio ar ei hôl hi gyda'u dysgu.
Mae tystiolaeth Cymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth Cymru yn rhestru naw rheswm, rwy'n credu, pam y byddai pobl ifanc awtistig yn cael trafferth gyda'u dysgu. Ond byddwn yn awgrymu bod hynny'n rhywbeth y gallai pob plentyn gael trafferth gydag ef, nid o reidrwydd i'r un graddau â phobl awtistig. Os nad yw pobl yn myfyrio ar effaith eu hymddygiad ar eraill, gall arwain at ganlyniadau ofnadwy. Cafodd fy wyres fy hun ei chadw ar ôl ysgol am y tro cyntaf ddoe, oherwydd ei bod hi a phump o blant eraill chwech oed wedi bod yn angharedig. Roedd un ohonynt wedi ysgrifennu nodyn angharedig i blentyn arall yn y dosbarth, a diolch byth fod yr ysgol gynradd wedi sylwi ar hynny, ac rwy'n gobeithio y bydd hynny'n eu dysgu i ystyried canlyniadau gweithredoedd angharedig.
Rwy'n credu y gellir creu amgylcheddau meithringar yn llawer haws mewn ysgolion cynradd, oherwydd mae pawb yn adnabod pawb arall, ac mae ganddynt yr un athro dosbarth, a fydd yn amlwg yn dod i adnabod y 30 o blant yn eu gofal yn dda yn ogystal â'u holl anghenion. Mae'n her lawer mwy mewn ysgolion uwchradd, sy'n llefydd mwy o faint, mwy swnllyd, mwy heriol, ac mae'n llai tebygol y bydd y bobl rydych yn eistedd wrth eu hymyl yn byw yn yr un gymuned yn union. Mae problemau iechyd meddwl, yn enwedig yn ystod y glasoed, pan fo pobl ifanc yn wynebu heriau mor enfawr—. Rydym i gyd yn gwneud camgymeriadau. Os nad ydym yn gwneud camgymeriadau pan fyddwn yn ein harddegau, nid ydym yn dysgu sut i lywio ein ffordd yn y byd.
Yr hyn yr hoffwn ei weld o'r ddadl hon yw bod gennym ddulliau sy'n ystyriol o drawma i'n holl ddisgyblion. Mae gennym y cwricwlwm newydd gwych, gyda'i bwyslais ar lesiant, ac rwyf eisiau gweld hwnnw'n cael ei ddefnyddio gan arweinwyr ysgol i ailedrych ar eu cyfrifoldebau i ddatblygu cyfranwyr mentrus a chreadigol, unigolion iach, hyderus, dysgwyr uchelgeisiol, galluog a dinasyddion moesegol, gwybodus, oherwydd ni allwn gael ysgolion sy'n gwahardd pobl oherwydd nad oes ganddynt amynedd i ymdrin â'u problemau. Mae hynny'n dal i fodoli yng Nghymru, nid ym mhob ysgol, ond mae angen sicrhau bod gan bob ysgol gyfrifoldeb tuag at y disgyblion sy'n dod i'w hysgol, yn enwedig plant 11 oed, a sicrhau eu bod yn aros gyda hwy tan eu bod yn 16 oed, a bod y cwricwlwm yn eu cynnwys, yn hytrach na bod rhaid gorfodi plentyn i ddilyn cwricwlwm penodol. Dyna sut y gallwn sicrhau bod gan bob plentyn hawl i addysg. Mae'n ymddangos i mi fod hynny'n bwysig iawn, yn ogystal â'r holl faterion eraill yn ymwneud â chludiant i'r ysgol sydd hefyd yn bwysig iawn. Ond roeddwn eisiau cofnodi'r pwynt hwnnw. Hoffwn herio'r Gweinidog drwy ofyn a oes disgwyl i arweinwyr ysgolion beidio byth â gwahardd disgyblion yn barhaol oni bai bod amgylchiadau arbennig iawn, y byddai'n rhaid penderfynu arnynt mewn mannau eraill, ar wahân i gan y pennaeth.
Galwaf ar Weinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Hoffwn i ddiolch i aelodau'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg am yr adroddiad pwysig hwn. Yr hyn sy'n glir i mi wrth feddwl am yr argymhellion ydy pwysigrwydd ystyried presenoldeb ochr yn ochr â dylanwadau a ffactorau eraill, fel rŷn ni wedi clywed heddiw, fel statws economaidd-gymdeithasol, llesiant a materion systemig ehangach.
Mae taclo effaith tlodi ar gyrhaeddiad addysgol wrth wraidd cenhadaeth ein cenedl ni, sef sicrhau safonau uchel a dyheadau uchelgeisiol i bawb. Dim ond drwy weithredu ym mhob rhan o'r system y gall yr agenda hwn lwyddo, yn dechrau gydag addysg cyn ysgol ac yn ymestyn hyd at addysg ôl-16 ac addysg gydol oes. Roeddwn i'n falch o benodi pencampwyr cyrhaeddiad newydd yn ddiweddar. Byddan nhw'n helpu ysgolion i daclo effaith tlodi ar gyrhaeddiad.
Rŷn ni'n gwybod bod costau cludiant yn rhwystro rhai plant rhag mynychu'r ysgol. Rŷn ni wedi clywed mwy am hynny heddiw. Mae'r sefyllfa wedi gwaethygu i lawer o ganlyniad i'r argyfwng costau byw. Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi Papur Gwyn, 'Un rhwydwaith, un amserlen, un tocyn'. Mae'n gosod gweledigaeth uchelgeisiol i drawsnewid y gwasanaeth bysiau yng Nghymru. Bydd y cynigion yn gyfle i ni edrych o'r newydd ar y ffordd mae'r gwasanaeth bysiau'n cael ei ddarparu ar hyd a lled y wlad, yn cynnwys cludiant i'r ysgol. Mewn ateb i'r hyn wnaeth Jayne Bryant godi yn ei chyfraniad hi, mae pawb yn cytuno gyda maint yr isiw a pha mor bwysig yw e i allu gweithredu, ond mae'n rhaid hefyd edrych ar hyn yn y cyd-destun ehangach o ystyried yr impact ariannol, ac edrych ar hyn yng nghyd-destun diwygiadau bysus ehangach.
Mae'n bwysig deall sut y gallai pwysau eraill effeithio ar allu plant i fynychu'r ysgol. Felly, rŷn ni wedi ariannu ymchwil i ystyried y rhesymau dros absenoldebau. Bydd yr ymchwil hefyd yn nodi'r ffyrdd gorau o helpu plant i fynychu'r ysgol, yn enwedig y plant hynny o deuluoedd ar incwm isel ar draws Cymru.
Mae'r cysylltiad rhwng presenoldeb a chyrhaeddiad addysgol yn glir wrth gwrs. Mae cyfnodau parhaus o absenoldeb o'r ysgol yn creu risg wirioneddol i gyrhaeddiad plentyn, a gall hefyd arwain at wneud iddynt deimlo'n fwy datgysylltiedig o'u haddysg. Mae monitro canlyniadau addysgol a'r cysylltiadau â chyfraddau presenoldeb yn ystyriaethau hanfodol fel rhan o ddatblygu'r ecosystem ddata newydd. Yn syml, bydd yr ecosystem yn sicrhau bod gan ysgolion yr wybodaeth sydd ei hangen arnynt i gefnogi dysgu a gwella canlyniadau ac i allu cysylltu cwestiynau ynghylch presenoldeb â chwestiynau ynghylch canlyniadau.
Rydym yn gwybod bod ysgolion yn darparu cymaint mwy nag addysg. I rai plant, mae'r ysgol yn hafan, yn rhywle lle maent yn teimlo'n ddiogel, lle maent yn teimlo eu bod yn cael eu gweld a'u clywed. Mae'r ysgol yn rhoi cyfle i blant weld gwerthoedd cadarnhaol ar waith, man lle mae bondiau a chyfeillgarwch sy'n gallu para am oes yn cael eu creu, yn ogystal â lle i ddatblygu'r sgiliau cymdeithasol y gwyddom eu bod mor bwysig. Ni all ysgolion wneud hyn ar eu pen eu hunain wrth gwrs. Mae llwyddiant yn ddibynnol ar bartneriaeth â rhieni, gofalwyr a'r gymuned. Gwyddom fod tystiolaeth yn dangos bod mwy o ymgysylltiad â theuluoedd yn cael effaith gadarnhaol ar fynd i'r afael ag effaith tlodi ar gyrhaeddiad ac ar wella presenoldeb. Roeddwn mewn ysgol yr wythnos diwethaf yn siarad â'r pennaeth ynglŷn â sut maent yn ymgysylltu â theuluoedd mewn perthynas â phresenoldeb, a dywedodd wrthyf, os siaradwch â theuluoedd am bresenoldeb o 90 y cant, i nifer o bobl mae hynny'n teimlo fel lefel uchel iawn o gyflawniad, ond pan fyddwch chi'n disgrifio nifer y dyddiau a gollir drwy hynny, mae'n paentio darlun llawer mwy llwm.
Rydym eisiau i bob ysgol yng Nghymru fod yn ysgolion bro, sy'n golygu ymateb i anghenion eu cymuned, meithrin partneriaethau cryf gyda theuluoedd a gofalwyr, a chydweithio'n effeithiol â gwasanaethau eraill. Mae ein swyddogion ymgysylltu â theuluoedd yn chwarae rhan hanfodol yn ein model ysgolion bro. Mae ymgysylltu â theuluoedd yn sicrhau bod teuluoedd yn teimlo'u bod yn cael eu clywed a'u gwerthfawrogi. Mae eu hanghenion, a rhai eu plant, yn cael eu deall a'u diwallu. Maent yn cael eu hannog i chwarae rhan weithredol yn addysg eu plentyn. Dylai ysgolion annog cyfranogiad pob teulu yn y gwaith a wnânt, ond dylai fod ganddynt ffocws penodol ar gefnogi teuluoedd o aelwydydd incwm is. Diolch i Jenny Rathbone am yr ymweliad â'r ysgol yn ei hetholaeth heddiw lle clywsom am ddulliau arloesol iawn mewn perthynas â hynny.
Byddwn yn parhau i fuddsoddi mewn swyddogion ymgysylltu â theuluoedd eleni drwy ddarparu cyllid o dros £6.5 miliwn. Fel y nodwyd yn y ddadl, rydym hefyd yn edrych ar yr hyn y gallwn ei wneud yn genedlaethol i gefnogi ysgolion i ymgysylltu â rhieni a gofalwyr ac mewn perthynas â chyfathrebu i fynd i'r afael ag unrhyw bryderon sy'n dal i fod ganddynt, a phwysleisio pa mor bwysig yw hi i'w plant fynd i'r ysgol. Mae rhai awdurdodau lleol wedi bod yn cynnal ymgyrchoedd lleol eisoes, a byddwn yn ystyried pa wersi y gallwn eu dysgu i'w rhannu'n genedlaethol ar draws Cymru yn y modd roedd Jayne Bryant yn gofyn i mi ei gadarnhau.
Mae gan wasanaethau lles addysg awdurdodau lleol rôl hanfodol i'w chwarae, nid yn unig i godi lefelau presenoldeb, ond hefyd i sicrhau bod pob plentyn yn cael yr addysg y maent yn ei haeddu ac y mae ganddynt hawl i'w disgwyl. Byddaf yn buddsoddi £2.5 miliwn yn y gwasanaethau hyn eleni er mwyn darparu capasiti ychwanegol mawr ei angen. Bydd hyn yn galluogi'r gwasanaeth i ddarparu cefnogaeth gynharach cyn i broblemau waethygu, a bydd hefyd yn rhoi cymorth mwy dwys i ddysgwyr sydd â lefelau uchel o absenoldeb.
Rydym yn gwybod bod cynnydd wedi bod yn nifer y teuluoedd sy'n dewis addysg yn y cartref ers y pandemig. I rai, mae hwn wedi bod yn ddewis gweithredol, ond rwy'n cydnabod nad yw hyn yn debygol o fod yn wir am bawb. Ni ddylai unrhyw riant fod yn datgofrestru ei blentyn oherwydd diffyg cefnogaeth briodol. Felly mae deall rhesymau rhieni dros ddewis addysg yn y cartref yn bwysig. Rydym yn gweithio gyda Data Cymru i wella ansawdd a lefel y data a gofnodir gennym ar hyn o bryd mewn perthynas â datgofrestru a demograffeg allweddol y garfan hon, gan gynnwys y rhesymau dros ddatgofrestru.
Fel rydym eisoes wedi'i drafod yn y ddadl heddiw, mae iechyd meddwl gwael wedi cael ei gysylltu â phresenoldeb gwael yn yr ysgol, gyda gorbryder yn aml yn cael ei ddisgrifio fel ffactor allweddol. Mae ein fframwaith ar wreiddio dull ysgol gyfan o sicrhau llesiant emosiynol a meddyliol yn amlygu'r angen i ysgolion ddefnyddio'r ffynonellau data sydd ar gael iddynt wrth ystyried anghenion llesiant eu cymuned. Byddwn yn ystyried sut y gellir defnyddio data presenoldeb i helpu i lywio'r modd y mae ysgolion yn cefnogi llesiant dysgwyr i atal absenoldeb parhaus. Fy mlaenoriaeth yw sicrhau bod pob person ifanc yn cael cyfle i gyrraedd eu potensial, ac mae gweithio gyda phartneriaid i gynyddu presenoldeb dysgwyr yn hanfodol i hyn.
Galwaf ar Jayne Bryant i ymateb i'r ddadl.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Diolch i bob Aelod sydd wedi cyfrannu at y ddadl heddiw ac am ymateb y Gweinidog. Hoffwn hefyd gofnodi fy niolch i'n tîm clercio rhagorol, ein hymchwilwyr a'n tîm allgymorth sydd wedi ein cynorthwyo'n fawr fel pwyllgor.
Yn amlwg mae yna uchelgais ar y cyd yma i sicrhau bod plant a phobl ifanc yn gallu mynychu'r ysgol ac ymgysylltu â gweithgareddau ysgol gymaint â phosibl. Ni ellir tanbrisio effaith absenoldeb o'r ysgol ar bobl ifanc. Rydym wedi clywed heddiw ei fod yn cael effaith ar iechyd meddwl a llesiant yn ogystal â chyrhaeddiad addysgol. Rydym wedi clywed gan yr Aelodau heddiw, gan gynnwys Tom Giffard, a ddywedodd am y pandemig a sut mae hwnnw wedi effeithio ar blant a phobl ifanc mewn sawl ffordd yn dilyn cau ysgolion a newid patrymau gwaith i rieni, ac rydym hefyd wedi clywed sut mae wedi newid agweddau tuag at bresenoldeb yn yr ysgol.
Wedi dweud hyn, hoffwn gydnabod y bydd yna rai plant a phobl ifanc yn ei chael yn arbennig o heriol cynnal presenoldeb rheolaidd yn yr ysgol, ac fe allai fod amryw o resymau am hynny, a rhai ohonynt y tu hwnt i'w rheolaeth, megis salwch. Yn yr achosion hyn dylem wneud popeth yn ein gallu i helpu plant a phobl ifanc i gymryd rhan mor llawn â phosibl mewn modd cefnogol. Ond fel y dywedodd Laura Jones yn gynharach, mae'n rhaid inni ei gwneud mor hawdd â phosibl i blant a phobl ifanc fynychu'r ysgol.
Mae'r Aelodau wedi cyffwrdd â nifer o bynciau. Rwy'n credu bod un o'r prif bwyntiau yn ymwneud â phroblemau teithio gan ddysgwyr. Rwy'n credu bod Laura, Heledd a Vikki yn enwedig wedi crybwyll hynny. Dyna oedd ein hargymhelliad 3—ein bod eisiau gweld dull sy'n canolbwyntio ar y dysgwr yn hytrach na phenderfyniadau sy'n cael eu llywio gan gostau mewn perthynas â theithio gan ddysgwyr. Rydym yn ymwybodol iawn o'r pwysau ariannol sydd ar awdurdodau lleol, a dyna pam yr argymhellodd y pwyllgor fod Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod gan awdurdodau lleol ddigon o gyllid i gyflawni hyn. Ond rydym eisiau gweld Llywodraeth Cymru yn mabwysiadu dull radical yn y mater hwn, ac rydym eisiau iddo chwilio am atebion arloesol i'r mater anodd a hirsefydlog hwn.
Er gwybodaeth i'r Aelodau, y tu hwnt i'r ymchwiliad hwn, mae'r pwyllgor wedi ysgrifennu at y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd yn ddiweddar, yn gofyn am ddiweddariad ar yr adolygiad teithio gan ddysgwyr. Dywedodd y Dirprwy Weinidog fod gwaith yn mynd rhagddo ar hyn o bryd ar gynllunio'r adolygiad teithio gan ddysgwyr ehangach, ac y bydd amserlen yn cael ei rhannu gyda'r pwyllgor pan fydd ar gael. Yn amlwg, rwy'n siŵr, Weinidog, y byddwch yn gwybod bod aelodau'r pwyllgor ac Aelodau eraill yn y Siambr hon yn awyddus iawn i weld hwnnw, felly byddwn yn aros yn eiddgar amdano, a byddwn yn ei fonitro'n drylwyr.
Mater arall oedd data, a nododd Vikki Howells, rwy'n credu, ddyfyniad yr Athro Ann John, sef, 'mai'r hyn sy'n cael ei gyfrif sydd o bwys', ac mae hwnnw'n bwynt allweddol. Rwy'n credu bod Heledd a Vikki—wel, rhannodd Vikki ei phrofiad mewn rôl fugeiliol yn ei gwaith blaenorol. Roedd yn gymorth mawr i glywed hynny, a hyd yn oed ymateb y Gweinidog, pan soniodd am rai pobl yn teimlo bod presenoldeb o 90 y cant yn ystadegyn da. Pan ydych yn yr ysgol, rydych yn clywed '90 y cant', ac mae rhai pobl yn meddwl bod hwnnw'n ystadegyn da, a gallwch ddeall hynny. Felly, rwy'n credu bod y modd yr edrychwn ar y data hwn yn bwysig iawn, a thu ôl i hynny, ac rwy'n credu bod Vikki wedi sôn am hynny hefyd.
Clywsom hefyd am bwysigrwydd swyddogion ymgysylltu â theuluoedd a'r gwaith anhygoel y maent yn ei wneud. Soniodd nifer o'r Aelodau, gan gynnwys y Gweinidog, am bwysigrwydd ysgolion bro. Ac rydym yn gwybod na all ysgolion ddatrys yr holl broblemau, sef yr hyn a ddywedodd yr Athro Ann John wrthym, ond mae'n ymwneud â hinsawdd yr ysgol, ac mae yna rai pethau y gallwn eu gwneud ac effeithio arnynt.
Hoffwn grybwyll pwynt Jenny ynglŷn â sut y gall ysgolion fod yn amgylcheddau meithringar. Mae mor bwysig, ac mae'n haws i'w gyflawni mewn ysgol gynradd nag mewn ysgol uwchradd, ond mae'n rhaid inni weithio'n galed iawn i wneud yn siŵr fod yr amgylcheddau meithringar hynny yno i'n pobl ifanc.
Soniodd Heledd sut mae pob diwrnod sy'n cael ei golli yn lledu'r bwlch cyrhaeddiad, ac mae hynny mor bwysig, a dyna pam y teimlem ni fel pwyllgor fod yr adroddiad hwn mor bwysig a'r gwaith hwn mor bwysig, a byddwn yn monitro hyn wrth inni fwrw ymlaen.
Felly, Ddirprwy Lywydd, hoffwn ddweud fy mod yn credu bod gan bob un ohonom rôl i'w chwarae—nid ysgolion, awdurdodau lleol neu Lywodraeth Cymru yn unig, ond pob un ohonom ni yma fel gwleidyddion etholedig a dinasyddion gweithredol yn ein cymunedau—i atgyfnerthu manteision cadarnhaol presenoldeb yn yr ysgol. Roedd yn amlwg iawn i ni yn ein tystiolaeth y bydd yr abwyd yn llawer mwy defnyddiol na'r ffon wrth geisio gwella presenoldeb yn yr ysgol. Ac fel pwyllgor, byddwn yn parhau i fonitro cynnydd ar y mater pwysig hwn, ac edrychwn ymlaen at weld canlyniad adolygiad Llywodraeth Cymru o'r polisi presenoldeb a chanllawiau yn ddiweddarach eleni, a hoffwn ddiolch, unwaith eto, i bawb sydd wedi cyfrannu at yr ymchwiliad hwn ac am y ddadl heddiw. Diolch.
Y cwestiwn yw: a ddylid nodi adroddiad y pwyllgor? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Does dim gwrthwynebiad, felly derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.