– Senedd Cymru am 4:39 pm ar 7 Mawrth 2023.
Felly, symudwn ymlaen i eitem 5, dadl ar setliad llywodraeth leol 2023-24, a galwaf ar y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol i wneud y cynnig—Rebecca Evans.
Diolch. Heddiw rwy'n cyflwyno i'r Senedd ar gyfer ei gymeradwyo, setliad llywodraeth leol 2023-24 ar gyfer y 22 awdurdod unedol yng Nghymru. Yn gyntaf, hoffwn i gofnodi fy niolch i lywodraeth leol, yn aelodau etholedig a staff ar draws gwasanaethau llywodraeth leol, am y gwaith hanfodol maen nhw'n ei wneud i gymunedau, pobl a busnesau ledled Cymru. Mae hi wedi bod yn nifer o flynyddoedd anhygoel o brysur nawr i lywodraeth leol, o lifogydd i'r pandemig i'r ffordd maen nhw'n ymateb i'r argyfwng costau byw, ac wrth gwrs, diwallu anghenion y bobl hynny sy'n ffoi o'r rhyfel yn Wcráin. Ac rwy'n gwybod y byddwch chi i gyd eisiau ymuno â mi i ddiolch iddyn nhw am eu gwaith caled a'u hymroddiad.
Wrth baratoi ar gyfer cyllideb Cymru a'r setliad hwn, rydyn ni wedi ymgysylltu'n agos â llywodraeth leol drwy gydol yr amser, ac rwy'n ddiolchgar i lywodraeth leol am y ffordd y cafodd y trafodaethau hynny eu cynnal. Eleni, rwy'n falch o gynnig setliad i'r Senedd ar gyfer 2023-24 sydd 7.9 y cant yn uwch nag yn y flwyddyn ariannol bresennol o'u cymharu. Mae hyn yn cyfateb i gynnydd o £403 miliwn dros 2022-23, gyda'r cynnydd lleiaf i awdurdodau lleol, o 6.5 y cant, yn uwch na mwyafrif helaeth y cynnydd i awdurdodau mewn setliadau blaenorol am nifer o flynyddoedd. Yn 2023-24, bydd awdurdodau lleol yng Nghymru yn cael £5.5 biliwn mewn dyraniadau refeniw cyffredinol o gyllid craidd a chyfraddau annomestig. Ar gyfer 2024-25, y dyraniad cyllid refeniw craidd dangosol lefel Cymru yw £5.69 biliwn, cynnydd o £169 miliwn neu 3.1 y cant. Mae'r ffigwr hwn yn ddibynnol ar ein hamcangyfrifon presennol o incwm Ardrethu Annomestig ac unrhyw gyllidebau 2024-25 yn y DU. Mae'r setliad hwn, felly, yn rhoi llwyfan sefydlog i awdurdodau lleol gynllunio eu cyllidebau ar gyfer y flwyddyn ariannol hon sydd i ddod a'r flwyddyn nesaf. Wrth osod lefel y cyllid craidd ar gyfer llywodraeth leol, gwnes i ymateb, cyn belled ag y gallaf, i effeithiau chwyddiant, gan gynnwys ar gyflogau i staff sy'n gweithio'n galed. Yn benodol, rwyf i wedi cynnwys cyllid i alluogi awdurdodau lleol i fodloni ein cyflog byw gwirioneddol ar gyfer ymrwymiadau gofal cymdeithasol yn ogystal â chostau cynyddol cyflog athrawon. Mewn unrhyw flwyddyn arall, byddwn i'n pwysleisio bod hwn yn setliad da i lywodraeth leol, gan adeiladu fel y mae ar gynnydd o 9.4 y cant ar gyfer 2022-23. Ond ni allwn ni anwybyddu effaith y cyfraddau chwyddiant sy'n parhau'n uchel, ac mae'r rheiny, wrth gwrs, yn parhau i gael effaith fawr ar gostau'r awdurdodau lleol.
Yn ogystal â'r cyllid craidd heb ei neilltuo wedi'i ddarparu drwy'r setliad hwn, rwyf i wedi darparu gwybodaeth ddangosol am grantiau refeniw a chyfalaf wedi'u cynllunio ar gyfer 2023-24. Ar hyn o bryd mae'r rhain yn gyfystyr â dros £1.4 biliwn ar gyfer refeniw a bron i £1 biliwn ar gyfer cyfalaf ar gyfer ein blaenoriaethau cyffredin gyda llywodraeth leol. Bydd cyllid cyfalaf cyffredinol ar gyfer llywodraeth leol ar gyfer 2023-24 yn cael ei bennu ar £200 miliwn a bydd dim newid iddo am y flwyddyn ganlynol, gan gynnwys £200 miliwn ym mhob blwyddyn i alluogi awdurdodau i ymateb i'n blaenoriaeth ar y cyd o ddatgarboneiddio, a gofynnaf i'r Aelodau gefnogi'r cynnig.
Diolch i chi, Gweinidog, a Llywodraeth Cymru hefyd am gyflwyno'r drafodaeth heddiw ar y setliad llywodraeth leol 2023-24, y mae cynghorau a chynghorwyr ar hyd a lled Cymru wedi bod yn aros yn eiddgar amdano wrth gwrs, oherwydd rydym yn gwybod bod y setliad llywodraeth leol hwn yn hanfodol bwysig i'n cynghorau a'n cynghorwyr, sy'n gwneud cymaint wrth ddarparu'r gwasanaethau cyhoeddus y mae ein cymunedau lleol yn dibynnu arnyn nhw, a dyma pam y mae mor hanfodol bod ein cynghorau gwych yn cael eu hariannu'n ddigonol er mwyn eu galluogi i ddarparu'r gwasanaethau hanfodol a phwysig hyn. A Gweinidog, rwy'n sicr yn ategu eich sylw agoriadol wrth gydnabod y gwaith eithriadol a gyflwynwyd gan lawer o'n cynghorau, yn enwedig dros y cyfnod diweddar.
Hoffwn ddweud yn gyntaf hefyd, ar yr ochr hon i'r meinciau, rydym yn sicr yn croesawu'r cynnydd i'r setliad llywodraeth leol, a'r 7.9 y cant. Bydd yn gwneud gwahaniaeth i'r awdurdodau lleol hynny. Ac rwyf wedi clywed mewn tystiolaeth yn y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai gan nifer o arweinwyr cynghorau fod hyn o bosib yn fwy na'r hyn a ddisgwyliwyd ychydig fisoedd yn ôl. Roeddwn i hefyd yn falch, Gweinidog, i weld bod data poblogaeth o gyfrifiad 2021 wedi ei ddefnyddio yn y dyraniadau fformiwla ariannu ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf hefyd. Fel y gwyddoch chi, mae'n rhywbeth rwyf wedi ei godi nifer o weithiau, o ran y defnydd o ddata, felly rwy'n falch o weld ei fod yn cael ei adnewyddu. Yn sicr, mae pryder yn parhau, er hynny, nad yw'n bosib adnewyddu rhai o'r pwyntiau data eraill hynny ar hyn o bryd, ond rwy'n deall hefyd bod cynnydd yn cael ei wneud i weld sut y gellir gwella'r data hwn cyn gynted â phosibl.
Ond, Gweinidog, mae pryderon o fewn y setliad llywodraeth leol, nad ydyn nhw, rwy'n credu yn cael eu hystyried yn ddigonol ar hyn o bryd, ac felly ni fydd hyn yn ein galluogi ni i gefnogi eich cynnig yma heddiw. Y pryder cyntaf o fy ochr i ac o'n hochr ni o'r meinciau yw'r cysylltiad rhwng y codiadau parhaus yn y dreth gyngor a lefelau cronfeydd wrth gefn y mae awdurdodau lleol yn eu dal. Felly, byddwch yn gwybod bod cynghorau Cymru ar hyn o bryd yn dal gwerth dros £2.5 biliwn o gronfeydd wrth gefn y gellir eu defnyddio. Yr hyn nad ydym yn ei weld yw cynghorau yn ceisio defnyddio'r rheiny a chadw'r dreth gyngor ar lefel synhwyrol. Felly, er enghraifft, yng Nghaerffili, mae cynnydd o 7.9 y cant yn y dreth gyngor, ond mae ganddyn nhw £233 miliwn mewn cronfeydd wrth gefn y gellir eu defnyddio; gwelwn fod trigolion Cyngor Sir Caerfyrddin yn mynd i dalu 6.8 y cant yn fwy o ran y dreth gyngor, ond mae gan y cyngor yno £230 miliwn mewn cronfeydd wrth gefn y gellir eu defnyddio; deallwn fod gan Rondda Cynon Taf dros £250 miliwn o gronfeydd wrth gefn y gellir eu defnyddio. Rwy'n sicr yn cydnabod, Gweinidog, efallai nad oes awydd i ddefnyddio'r cronfeydd wrth gefn hynny ar gyfer gwariant o ddydd i ddydd, ond mae'n rhaid bod modd i'r cynghorau hynny, gan weithio gyda chi yn y Llywodraeth, weld beth yw'r ffordd orau o sicrhau nad ydyn nhw dim ond yn eistedd ar y cronfeydd wrth gefn hynny, ond eu bod yn cael eu defnyddio i gefnogi'r cymunedau hynny a lleihau'r pwysau gymaint â phosib ar ein trethdalwyr lleol sy'n gweithio'n galed.
Mae'r pwyntiau hyn, yn fy marn i, yn sicr yn arwain at yr ail fater ynghylch y setliad llywodraeth leol, sef y fformiwla ariannu rydych chi'n ei defnyddio i ddyrannu cyllid i awdurdodau lleol, sydd, yn fy marn i, angen adolygiad. Rwy'n siŵr y byddech chi'n cytuno â mi, Gweinidog, ac â llawer o drigolion o bob rhan o Gymru, nad yw hi'n iawn fod cynghorau'n eistedd ar y cronfeydd enfawr hyn tra bod cynnydd yn y dreth gyngor yn parhau i fynd yn erbyn pobl sy'n sicr yn gweithio drwy'r her costau byw.
Mae'n syfrdanol i mi fod rhai cynghorau yn gallu cynyddu'r dreth gyngor, dyweder, 1 y cant yn unig yn y flwyddyn ariannol nesaf tra bod cynghorau eraill yn gorfod ei chodi bron i 10 y cant. Siawns nad yw hynny'n dangos anghysondeb yn y fformiwla ariannu, pan fo un cyngor yn gallu ei chodi 1 y cant tra bod yn rhaid i gynghorau eraill ei chodi bron i 10 y cant. Mae rhywbeth o'i le mewn fformiwla ariannu sy'n gorfodi cynghorau i fod â gwahaniaeth o 10 gwaith yng nghanran y codiad i'r dreth gyngor. Fel y gwyddoch chi, Gweinidog, mae mwy a mwy o arweinwyr cynghorau o bob cwr o Gymru yn ymuno i alw am adolygu'r fformiwla ariannu, a bydd gennyf ddiddordeb mewn clywed gennych ynghylch pa mor fodlon ydych chi â thegwch y fformiwla ariannu bresennol a pha drafodaethau yr ydych yn eu cael neu ddim gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ynghylch sut y gellir adolygu'r fformiwla ariannu honno yn y dyfodol hefyd.
Un pryder i orffen ynghylch y setliad llywodraeth leol, a'i effaith ar gynghorau, Gweinidog, yw'r grant cymorth tai, sydd eisoes wedi'i grybwyll yn y Siambr hon y prynhawn yma ac mae'n rhywbeth yr wyf i wedi ei godi yn y gorffennol hefyd. Byddwch yn gwybod bod gwasanaethau digartrefedd a chymorth tai, a aeth y tu hwnt i'r hyn a ddisgwylir yn ystod y pandemig, yn wynebu cynnydd o 10 y cant mewn costau drwy'r flwyddyn ariannol nesaf, a hefyd mae tua 30 y cant o staff cymorth tai yn cael eu talu llai na'r cyflog byw cenedlaethol a'r cyflog byw gwirioneddol ar hyn o bryd— cyflogau y mae eich Llywodraeth yn ymrwymo i sicrhau bod gweithwyr y sector cyhoeddus yn eu cael, ond nid yw bellach yn galluogi eraill i gael yr un cyflog.
Fel y gwyddom, dros y degawd diwethaf, mae'r grant cymorth tai wedi gostwng £14 miliwn mewn termau real, ac mae hyn yn ystod cyfnod o gynnydd mewn galw a phwysau—y galw a'r pwysau y mae ein cynghorau'n eu hwynebu o ran tai a digartrefedd yn fwy nag erioed. Mae 56% o'r staff sy'n gweithio yn y sector yn dweud eu bod yn cael trafferth talu eu biliau, gyda rhai yn disgrifio'r sefyllfa fel un 'erchyll'. Felly, byddwn yn galw arnoch i unioni'r sefyllfa, Gweinidog, ar frys. Rwy'n siomedig na fydd y setliad hwn yn galluogi cynghorau a chynghorwyr i dalu a darparu'r cyllid hwnnw i'r gwasanaethau cymorth tai hynny yn ddigonol.
I gloi, Dirprwy Lywydd, ar yr ochr hon i'r meinciau, rydym yn parhau i resynu at natur annheg y setliad llywodraeth leol a'r fformiwla ariannu yn benodol, ynghyd â'r meysydd allweddol yr wyf wedi'u nodi yma heddiw. Felly, yn sgil hyn, byddwn yn pleidleisio yn erbyn y cynnig hwn. Diolch.
Diolch yn fawr am y cyfle i gyfrannu i'r ddadl yma. Mae dweud ei bod hi'n gyfnod eithriadol o heriol i awdurdodau lleol yn dan-ddweud difrifol, byddwn i'n meddwl, ac mi gyfeiriodd y Gweinidog yn gynharach at y setliad 12 mis presennol yma—9.4 y cant. Ddeuddeg mis yn ôl, fe'i cyhoeddwyd gan y Gweinidog, yn llawer gwell ar y pryd nag oedd unrhyw un wedi'i ddychmygu, a bod yn deg, ond, wrth gwrs, roedd yna gydnabyddiaeth yr adeg hynny y byddai blwyddyn 2 a blwyddyn 3 yn heriol. Yn y cyfamser, rŷn ni wedi gweld beth sydd wedi digwydd i chwyddiant, ac mae wedi dangos y setliad hwnnw mewn golau gwahanol iawn erbyn heddiw. Ac eto, eleni, mae'r 7.9 y cant, byddai nifer yn dweud, yn well na'r disgwyl, efallai, ond rŷn ni mewn cyd-destun gwahanol iawn, iawn, iawn. Mae yna gefnlen o 12 mlynedd o doriadau yn golygu bod yna ddim slac ar ôl i awdurdodau lleol i dorri—dim byd ar ôl ond torri i'r byw—a buasai neb yn tanwerthfawrogi y penderfyniadau anodd iawn y mae awdurdodau lleol yn gorfod eu gwneud ar hyd a lled y wlad.
Mae Llywodraeth Cymru yn amlwg yn fframio hwn fel setliad cadarnhaol ac yn y cyd-destun rŷn ni'n ffeindio ein hunain ynddo, mae'n debyg bod yna rywbeth yn hynny, ond eto, mae realiti y sefyllfa yn dweud stori efallai tipyn mwy heriol, oherwydd mae'r bwlch ariannu yn golygu nid yn unig ein bod ni'n mynd i weld y cynnydd yn y trethi, fel sydd wedi cael ei gyfeirio ato fe, ar lefelau sylweddol iawn, ond ar yr un pryd, wrth gwrs, rŷn ni hefyd yn mynd i weld toriadau eithriadol yn digwydd mewn rhai sefyllfaoedd. Felly, dyw hi ddim yn edrych yn gyfnod llewyrchus o gwbl. Ac mae hyn i gyd yn dod ar yr union adeg y mae pobl yn llai abl i dalu treth y cyngor a fyddai'n cynyddu'n sylweddol, ond hefyd pan fydd angen y gwasanaethau sydd ar gael eu torri yn fwy nag erioed o'r blaen.
Mae setliad pob awdurdod lleol yn is na chwyddiant, felly mae hwnna, dwi'n meddwl, yn dweud ei stori ei hun, ac mae pob arwydd o gyfeiriad Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn awgrymu y bydd llymder marc 2 yn parhau, efallai'n dwysáu, ac felly mae'r sefyllfa, o bosib, am waethygu cyn yr eith hi yn well. Ac mae yna bwysau mawr o sawl cyfeiriad ar gyllidebau awdurdodau lleol. Rŷn ni'n gwybod am ofal cymdeithasol yng nghyd-destun plant, ac oedolion, wrth gwrs, yn faich eithriadol. Mae yna ddyletswydd yn hynny o beth ar y Senedd i gynorthwyo awdurdodau lleol gymaint ag y gallwn ni, nid dim ond yn ariannol, ond wrth fynd i'r afael â rhai o'r problemau systemig sy'n bodoli yn y berthynas, yn enwedig rhwng gofal cymdeithasol ac iechyd. Ac, wrth gwrs, mae yna waith yn digwydd yn hynny o beth, ond mae'n bwysig bod y gwaith yna yn symud yn ei flaen ar fyrder.
Mae yna bwysau ar gyllidebau tai a digartrefedd, gyda rhestrau aros ar gynnydd. Roeddwn i'n clywed, er enghraifft, yn Wrecsam, fod y rhestrau aros am dai wedi dyblu i 4,000 dim ond yn y ddwy flynedd diwethaf, ond, wrth gwrs, dyw'r adnoddau sydd ar gael i'r awdurdod lleol ddim yn unman yn agos at fod yn ddigonol i ymateb i'r her yna. Mae'r ergyd mae Llywodraeth Cymru yn ei dderbyn o safbwynt cyllidebau cyfalaf yn amlwg yn mynd i gael effaith ar y cyllidebau cyfalaf sydd ar gael i awdurdodau lleol. Mae hynny'n mynd i roi mwy o bwysau arnyn nhw i fenthyg, ac rŷn ni'n gwybod beth sy'n digwydd i lefelau interest. Mae'r Public Works Loan Board yn 4.2 y cant, dwi'n meddwl nawr, am fenthyciad un flwyddyn, lle ddwy flynedd yn ôl roedd e'n 1 y cant yn unig. Felly, mae'r heriau yma yn dod at awdurdodau lleol o bob cyfeiriad y gallwch chi eu dychmygu.
Ac felly, y neges bwysig gen i, wrth edrych ar y setliad ehangach, yw hyblygrwydd. Dwi yn teimlo bod angen inni sicrhau bod gan awdurdodau lleol yr hyblygrwydd mwyaf posib i ymateb. Mewn cyfnod o gynni, yr awdurdodau lleol sy'n gwybod sut orau i sicrhau y defnydd mwyaf gwerthfawr o'r adnoddau prin sydd ganddyn nhw. Felly, ymbweru awdurdodau lleol yn lle bod yn rhy gyfyng o ran sut y gellir defnyddio yr adnoddau prin sydd ganddyn nhw.
Rydych chi'n gwybod pa mor bwysig rwy'n credu yw llywodraeth leol, ac rydych chi wedi fy nghlywed yn siarad sawl gwaith dros 12 mlynedd bellach am bwysigrwydd llywodraeth leol, pwysigrwydd cefnogi llywodraeth leol. Dydw i ddim yn mynd i ddweud dim byd gwahanol i hynny heddiw.
Rwy'n croesawu bwriad y Gweinidog i osod cyllid refeniw craidd llywodraeth leol ar gyfer 2023-24 ar £5.5 biliwn. Mae hyn yn golygu, ar ôl addasu ar gyfer trosglwyddiadau, bydd cyllid craidd cyffredinol ar gyfer llywodraeth leol yn 2023-24 yn cynyddu 7.9 y cant ar sail gyfatebol o'i gymharu â'r flwyddyn bresennol. Ni fydd yr un awdurdod yn derbyn llai na chynnydd o 6.5 y cant. Mae'r cyllid refeniw craidd lefel Cymru dangosol ar gyfer 2024-25 hefyd wedi cynyddu, gan fod cyllid ychwanegol ar gyfer y grant cymorth refeniw yn 2023-24 bellach yn cael ei roi yn y waelodlin.
Roedd hwn wrth gwrs yn setliad ardderchog pan glywsom amdano, pan gafodd ei gynnig am y tro cyntaf, ond rydym wedi cael chwyddiant, gan gynnwys costau ynni uwch, sy'n gallu bod yn ddrud i ysgolion, er enghraifft. Mae'r costau cyflog uwch, gan gynnwys athrawon, oni bai bod cefnogaeth ychwanegol gan y Llywodraeth, yn achosi pwysau cyllidebol ar awdurdodau lleol. O ganlyniad i benderfyniadau gwario a wnaed mewn cysylltiad ag addysg yn Lloegr, derbyniodd Cymru gyllid canlyniadol o £117 miliwn y flwyddyn yn natganiad yr hydref. Mae hyn yn cael ei ddarparu'n llawn i lywodraeth leol. Rwy'n croesawu'n fawr y penderfyniad hwnnw i ddarparu'r holl gyllid sydd ar gael ymlaen llaw.
Bydd yn rhaid i'r awdurdodau wneud rhagdybiaethau doeth fel rhan o'u gwaith cynllunio cyllideb ar hyn, yn ogystal ag i staff eraill, ond diolch i'r drefn bod ganddyn nhw, mewn llawer o achosion, gronfeydd wrth gefn eithaf sylweddol, os daw pethau'n ddrytach nag yr oedden nhw'n ei ddisgwyl. Mae trafodaethau'n parhau gyda'r undebau athrawon ynglŷn â chytundeb ar drafodaethau cyflog blwyddyn academaidd 2022-23. Mae hyn yn golygu, yn ddibynnol ar y cytundeb terfynol, y gallai rhai awdurdodau lleol wynebu diffyg yn yr arian sydd ei angen ar gyfer addysg. Mae'n dda bod gennym ni'r cronfeydd wrth gefn hynny, onid yw?
Fe ddechreuaf drwy drafod yr asesiad gwariant safonol. I bob awdurdod lleol, bydd yn trafod y cyllid allanol ychwanegol, gan orffen gyda gallu awdurdodau lleol i godi arian o ffioedd a thaliadau'r dreth gyngor. Yr asesiad gwariant safonol, a elwir yn SSA, yw'r system ar gyfer dosbarthu adnoddau i awdurdodau lleol. System y Llywodraeth ar gyfer dyrannu grantiau yw'r SSA, yn seiliedig ar gyfrifiad o'r hyn y mae angen i bob awdurdod lleol ei wario i ddarparu lefel safonol o wasanaeth ar gyfradd gyffredin o'r dreth gyngor. At ddiben cyfrifo dyraniadau SSA unigol, mae llywodraeth leol yn cael ei thorri i lawr i 55 o feysydd gwasanaeth tybiannol.
Mae'n bwysig iawn cofio, fodd bynnag, bod elfennau'r awdurdodau ar gyfer y meysydd gwasanaeth unigol heb eu neilltuo. Mae eu ffigurau tybiannol yn gwasanaethu fel conglfeini ar gyfer cyfanswm yr SSA. Nid ydynt yn cynrychioli targedau gwariant ar gyfer gwasanaethau unigol, ac nid ydynt i fod yn argymhellol. Ond mae'n golygu, os ydych chi'n gwasanaethu ar awdurdod lleol neu'n Aelod yma a'ch bod chi eisiau edrych ar sut mae awdurdod lleol yn gwneud, gallwch weld beth yw eu SSA addysg, faint maen nhw'n ei wario, ac a ydyn nhw'n gwario mwy neu lai na hynny. Os ydyn nhw'n gwario llai na hynny, efallai y byddwch chi eisiau gofyn pam.
Pan oeddwn i'n ymwneud â chynnal a chadw priffyrdd, aethom o 52 y cant o ran poblogaeth a 48 y cant o ran hyd ffyrdd i 50 y cant ar gyfer y ddau. Fe symudodd hynny £700,000 o ardaloedd trefol mawr fel Abertawe a Chaerdydd i ardaloedd gwledig fel Powys a Gwynedd. Gall newidiadau bach gael effaith sylweddol ar yr asesiad gwariant safonol cyffredinol. Mae'r cynnydd yn yr asesiad gwariant safonol ar gyfer 2022-23 yn amrywio rhwng 5.6 y cant yn Rhondda Cynon Taf a 7.1 y cant yng Nghasnewydd. Mae'r asesiad gwariant safonol y pen i bob cyngor yn amrywio rhwng £2,520 ym Mlaenau Gwent a £2,049 ym Mynwy.
Mae dull dosbarthu ar wahân yn bodoli ar gyfer pob elfen o wasanaeth er mwyn dosbarthu'r cyfanswm ar draws yr awdurdodau. Mae gan y dull hwn ddau gategori: fformiwla yn seiliedig ar ddangosyddion o angen, a dosbarthiad yn seiliedig ar wariant gwirioneddol neu amcangyfrifon o wariant. Seiliedig ar fformiwla yw'r gorau, a'r un y mae pobl eisiau ei weld yn cael ei ddefnyddio fwyaf. Rwy'n siŵr bod Gweinidogion Llywodraeth Cymru wedi cael llond bol ohonof i yn gofyn am hyn, ond pam na allan nhw gyhoeddi eu gwaith? Pam na allan nhw gyhoeddi sut y gwnaethon nhw gyfrifo pob elfen o'r asesiad gwariant safonol ar gyfer pob awdurdod lleol? Bydd gennych chi, bob amser, bobl yn dweud eu bod wedi cael eu tanariannu, oherwydd y cyfan rydych chi'n ei gael yw rhif ar y diwedd, a phan fyddwch chi'n cael rhif ar y diwedd a dydych chi ddim yn hoffi'r rhif hwnnw, rydych chi'n dweud ei fod yn anghywir. Ond pam na allwch chi gyhoeddi'r ffigurau? Maen nhw gennych chi, maen nhw yna; ni allech chi lunio'r asesiadau gwariant safonol hebddyn nhw. Felly, plîs, cyhoeddwch nhw.
Mae'r cyllid allanol cyfanredol yn cael ei gyfrifo o'r asesiad gwariant safonol a derbynebau'r dreth gyngor nominal y cynghorau. Mae'r rhain yn amrywio rhwng £2,049 y pen ym Mlaenau Gwent a £1,300 y pen ym Mynwy. Eto, cyhoeddir y ffigurau hyn ond nid y cyfrifiadau eto. Cyhoeddwch nhw. Wrth gymharu Blaenau Gwent â Mynwy, mae eiddo Blaenau Gwent i gyd bron yn y ddau fand isaf, tra bod y rhan fwyaf o eiddo yn Nhrefynwy ym mand E ac uwch, sy'n golygu bod mwy o gapasiti i godi arian ym Mynwy gyda'r un cynnydd canrannol yn y dreth gyngor. Felly, yr hyn yr wyf yn ceisio ei ddweud yw: allwch chi gyhoeddi'r cyfrifiadau, nid dim ond y canlyniadau terfynol?
Mae'n rhaid i mi ddweud, rwy'n cytuno gyda fy nghyd-Aelod Mike Hedges draw acw sef bod yn rhaid cael mwy o dryloywder yn y ffordd y mae'r gyllideb hon yn cael ei chyflwyno. Nawr, p'un a ydych chi'n ei hoffi neu beidio yn y Siambr hon—nid oes llawer o Aelodau yma i'w hatgoffa mewn gwirionedd—o ganlyniad i gyllideb hydref Llywodraeth y DU bydd Llywodraeth Cymru yn derbyn £1.2 biliwn yn ychwanegol dros y ddwy flynedd nesaf. Daw hyn ar ôl cyllideb hydref yn 2021 a oedd yn addo £18 biliwn y flwyddyn i Gymru, y setliad cyllid blynyddol mwyaf i Gymru ers dechrau datganoli.
Nawr, i mi yn Aberconwy, mae'n hanfodol bod ein cymunedau gwledig yn cael y gefnogaeth sydd ei angen arnyn nhw. Roedd yn siomedig iawn yr wythnos diwethaf bod yn rhaid i Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy godi ei braesept treth gyngor 9.9 y cant, ac fe wnaethon nhw ddweud mai'r rheswm oedd—. Un o'r esgusodion oedd—ac mae aelodau Plaid Cymru, Llafur ac annibynnol yn arwain hyn—fe wnaethon nhw ddweud mai'r rheswm oedd y ffaith nad oedden nhw'n cael eu cyfran deg gan Lywodraeth Cymru.
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Wrth gwrs.
Diolch. Un o'r rhesymau a glywais pam mae Conwy yn wynebu cynnydd mor serth yw oherwydd bod arweinwyr blaenorol y cyngor yn rhy amharod i'w gynyddu mewn gwirionedd fel y dylai fod wedi digwydd. Fe wnaethon nhw ddefnyddio'r cronfeydd wrth gefn, fe adawon nhw'r cyngor heb y cydnerthedd sydd gan awdurdodau lleol eraill, a does ganddyn nhw ddim dewis ond ei wneud nawr oherwydd bod ganddyn nhw flynyddoedd o ddal i fyny o'u blaenau.
Rwy'n credu os meddyliwch chi yn ôl ymhellach, rwy'n cofio pan oedd Ronnie Hughes yn arweinydd, ac fe ddefnyddiodd ef y math yna o dacteg. Yr hyn y gallaf ei ddweud wrthych chi yw bod arweinydd blaenorol Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy mewn gwirionedd wedi ymladd am bum mlynedd pan oedden nhw yn y Cabinet i geisio bod yn fwy darbodus, ac mewn gwirionedd roeddwn i'n llwyr gefnogi'r ffaith eu bod wedi llwyddo i beidio â phlingo trigolion fel y mae Plaid Cymru, Llafur a'r aelodau annibynnol yn ei wneud.
Mae sir Fynwy wedi gweld cynnydd o 9.3 y cant a Bro Morgannwg a Chasnewydd 8.9 y cant. Dyma gyfran deg gan Lywodraeth Cymru. Ac yna dim ond 7.3 y cant i Gonwy. Felly ni fydd yn syndod gweld bod y cyngor Plaid Cymru, Llafur ac annibynnol yng Nghonwy bellach wedi gweithredu'r cynnydd uchaf yn y dreth gyngor yng Nghymru a Lloegr mewn gwirionedd. Felly rwy'n dweud cywilydd arnyn nhw. Dyma'r cynnydd mwyaf serth yn unrhyw le ac mae hyn bellach yn rhoi baich pryderus ar lawer o deuluoedd sy'n gweithio'n galed. Y realiti yw y bydd y dreth gyngor ar gyfer eiddo band D yn codi i £1,580. Ac ar y pwynt y gwnaeth Mike Hedges hefyd, maen nhw'n dyfynnu band D yn aml, onid ydyn nhw? Wel, mae'n rhaid i mi fod yn onest, yn y ward yr wyf i'n byw ynddi ac rwy'n ei chynrychioli ar gyngor Conwy, mae'n rhaid i mi ddweud bod sawl eiddo ym mandiau E, F a G. Felly, pan ydyn ni'n edrych ar faint yn ychwanegol, mae'n edrych yn eithaf gwael mewn gwirionedd.
Roedd twf mewn cyflogau rheolaidd ymhlith gweithwyr ym Mhrydain Fawr yn 6.4 y cant ym mis Medi, felly does dim rheswm o gwbl i gyfiawnhau cynnydd o 9.9 y cant, ac er bod chwyddiant wedi taro pob lefel o Lywodraeth, mae hefyd wedi arwain at argyfwng costau byw cynyddol i drigolion lleol ar draws ardal yr awdurdod lleol. Amcangyfrifodd Dadansoddiad Cyllid Cymru fod y dreth gyngor wedi ariannu tua 20.4 y cant o'r gwariant refeniw yn 2019-20, i fyny o 13.8 y cant yn 2009-10. Felly, yn hytrach na gweithredu ar wariant neu reoli gwastraffus, mae'r cyngor yn disgwyl i dalwyr y dreth gyngor lleol dalu'r bil hwn.
Adolygiad llawn o'r fformiwla ariannu yw'r hyn a godom ni pan oeddwn i'n Weinidog llywodraeth leol yr wrthblaid am saith mlynedd yma. Cymerwch chi rywle fel Aberconwy; effeithir yn anghymesur arnom ni nawr oherwydd, yn amlwg, mae gennym boblogaeth hŷn, a gyda hynny daw'r anghenion gofal cymdeithasol. Ac rwyf wastad yn cofio rhywun yn dweud wrthyf, 'O, wel does dim arweinwyr cyngor eraill eisiau edrych ar y fformiwla ariannu yma'. Fe'i cyflwynwyd mewn gwirionedd ym 1991, rydym bellach yn 2023, ac mewn gwirionedd rwy'n credu, Gweinidog, ar ryw adeg mae'n werth yr ymdrech honno. Bydd yn waith ac yn ymdrech galed, ac ni fyddwch yn plesio pawb, ond rwy'n credu bod angen i chi wneud y fformiwla ariannu yn llawer mwy teg.
Y peth arall y mae'r Cynghorydd Sam Rowlands wedi sôn amdano heddiw yw'r gwarged a'r balansau enfawr y mae rhai awdurdodau lleol yn gallu dal eu gafael arnyn nhw mewn gwirionedd. Mae cynnydd o 7 y cant ar gyfer gofal cymdeithasol yn Aberconwy, ac eto—. Dydw i ddim yn gwybod pa un ai Rhondda Cynon Taf neu Dorfaen yw e, ond mae un ohonyn nhw yn 25 y cant. Ni allwn gael yr anghysonderau hyn. Rydym yn siarad llawer yma am gyfrifoldeb cymdeithasol a chydraddoldeb, a byddwn i'n dweud nawr: edrychwch ar y £2 biliwn sydd mewn cronfeydd wrth gefn yn yr awdurdodau lleol hynny, lle nad ydyn nhw'n profi y gallant ei wario'n flynyddol, rwy'n credu y dylech ystyried ei adfachu a'i ailddosbarthu. Diolch.
Galwaf ar y Gweinidog i ymateb i'r ddadl.
Diolch yn fawr. Diolch i gyd-Aelodau am eu sylwadau yn y ddadl hon. Fe wnaf ymateb i rai o'r materion penodol gafodd eu codi. Wrth gwrs, codwyd y diddordeb mewn cronfeydd wrth gefn y prynhawn yma, ac wrth gwrs, mae lefel cronfeydd wrth gefn awdurdodau lleol yn fater i'r aelodau etholedig lleol hynny. Byddant wrth gwrs yn adlewyrchu'r cynlluniau tymor hwy hynny yn ogystal â'u hymdrechion i reoli pwysau tymor byr. Mae pob awdurdod lleol wedi adrodd am fwy o gronfeydd wrth gefn y gellir eu defnyddio fel ym mis Mawrth 2022 o'i gymharu â'r mis Mawrth blaenorol, ond mae awdurdodau lleol bellach wedi bod yn tynnu ar y cronfeydd wrth gefn hynny o fewn y flwyddyn ariannol hon i geisio ymateb i rywfaint o bwysau chwyddiant. Rwy'n gwybod bod rhai hefyd yn bwriadu defnyddio rhai yn y flwyddyn i ddod fel rhan o'u cynllunio ariannol tymor canolig.
Efallai fod amryw o resymau dros y cynnydd rydyn ni wedi'i weld; er enghraifft, mae awdurdodau lleol wedi wynebu llawer o heriau gyda rhaglenni cyfalaf o ganlyniad i'r ymyrraeth a'r oedi parhaus oherwydd COVID. Mae hynny'n golygu y gallai rhai grantiau cyfalaf gael eu cadw mewn cronfeydd wrth gefn, neu gyllid hunan-gynhyrchu sydd wedi'i glustnodi ar gyfer prosiect penodol yn y flwyddyn benodol honno na chafodd ei ddefnyddio yn y flwyddyn benodol honno. Wrth gwrs, cafodd telerau ac amodau'r grant eu llacio hefyd yn 2020-21 ac yn 2021-22 i awdurdodau er mwyn eu galluogi nhw i reoli'r ansicrwydd wrth gyflawni rhaglenni darparu gwasanaethau oherwydd cyfnodau o gyfyngiadau symud, a hefyd, oherwydd adleoli staff i waith cymorth COVID. Wrth gwrs, mae hynny'n golygu bod rhywfaint o gyllid, unwaith eto, wedi cael ei gadw wrth gefn i gyflawni prosiectau yn ddiweddarach. Gallai cronfeydd wrth gefn yr awdurdodau hefyd fod yn ganlyniad i nifer o benderfyniadau sydd wedi cael eu gwneud dros gyfnod o flynyddoedd ynghylch darparu gwasanaethau, lefelau'r dreth gyngor a hefyd eu parodrwydd i dderbyn risg. Nid wyf yn credu ei bod hi'n deg dweud bod lefel y cronfeydd wrth gefn yn awgrymu bod y fformiwla mewn unrhyw ffordd yn annheg neu wedi torri.
Fe wnaf ymateb hefyd i'r pwynt am grantiau cymorth tai—rwy'n gwybod bod hynny wedi'i godi cryn dipyn yn ein dadl flaenorol ar y gyllideb. Rwy'n credu ei bod yn bwysig ein bod yn cydnabod, yn y sefyllfa ariannol anodd yr ydym ynddi, mewn gwirionedd, ein bod ni wedi cynyddu'r grant cymorth tai 30 y cant, neu £40 miliwn, ym mlwyddyn gyntaf ein hadolygiad o wariant tair blynedd. Cafodd y cyllid hwnnw ei warchod gan y Gweinidog yn rownd y gyllideb eleni, felly doedd e ddim yn destun unrhyw un o'r ail-flaenoriaethu yr oedd rhywfaint o'n cyllid arall yn destun iddo, i geisio darparu cyllid pellach ar gyfer llywodraeth leol ac i'r GIG o ganlyniad i'r pwysau maen nhw'n ei wynebu ar hyn o bryd.
Er bod y setliad hwn yn adeiladu ar ddyraniadau gwell yn ystod y blynyddoedd diwethaf, rwy'n cydnabod nad yw'n dadwneud y blynyddoedd o gyni ac effaith hynny ar gyllid cyhoeddus, ac nid yw'n cyfateb i effaith chwyddiant ar gostau awdurdodau lleol a welsom dros y misoedd diwethaf, a gyda'r effeithiau hynny hefyd yn dal i ddod. Mae awdurdodau lleol wedi gorfod gwneud penderfyniadau anodd iawn wrth bennu eu cyllidebau a lefelau eu treth gyngor dros yr wythnosau diwethaf, a byddant wedi ystyried anghenion gwahanol eu cymunedau ac wedi gweithio i gydbwyso darparu gwasanaethau effeithlon gyda, hefyd, effaith y cynnydd mewn treth gyngor ar aelwydydd. Dyma fyddai'r pwynt pan fyddwn yn gofyn i gyd-Aelodau atgoffa eu cymunedau lleol o'n cynllun i leihau'r dreth gyngor, oherwydd gwyddom fod aelwydydd sy'n gymwys ar gyfer hynny ond nad ydynt eto yn gwneud y gorau o'r gefnogaeth honno sydd ar gael.
Wrth gwrs, mae awdurdodau yng Nghymru, drwy bennu lefelau eu treth gyngor, yn gyfrifol i'w hetholwyr lleol am eu penderfyniadau. Yn wahanol i Loegr, rydym yn parhau i barchu eu hannibyniaeth; nid ydym yn gosod terfynau cyffredinol nac yn gofyn am refferenda lleol costus. Mae'r hyblygrwydd i bennu eu cyllidebau a phenderfynu ar lefelau'r dreth gyngor i ymateb i flaenoriaethau lleol yn nodwedd wirioneddol bwysig o ddemocratiaeth leol.
Fel sy'n arferol yn y dadleuon hyn, ac, yn wir, yn y trafodaethau sydd gennyf i gydag arweinwyr awdurdodau lleol, mae'r fformiwla dosbarthu llywodraeth leol yn cael ei chodi. Mae'r cyllid craidd yr ydym yn ei ddarparu i lywodraeth leol yn cael ei ddosbarthu trwy fformiwla sydd wedi hen ennill ei phlwyf; mae wedi ei chreu a'i datblygu ar y cyd â llywodraeth leol ac wedi ei chytuno'n flynyddol gyda llywodraeth leol drwy is-grŵp cyllid Cyngor Partneriaeth Cymru. Y fformiwla honno—[Torri ar draws.] Mike, mae'n ddrwg gen i, wnes i ddim eich gweld chi.
A wnewch chi gyhoeddi cyfrifiadau'r 55 o wahanol feysydd o'r asesiad gwariant safonol? Byddai'n profi bod y rhai sy'n dweud ei fod yn anghywir yn gywir neu'n anghywir. Hyd nes y byddwch yn cyhoeddi rheiny, bydd pawb yn dweud eu bod nhw'n cael eu trin yn wael.
Fe wnaeth Mike Hedges godi hyn gyda mi wrth graffu ar y pwyllgor yr wythnos diwethaf, pan oeddem yn craffu ar yr ail gyllideb atodol. Rwyf wedi ymrwymo i fynd i ffwrdd a chanfod pa wybodaeth ychwanegol y gallwn ei darparu ar gyfer y rhai sy'n ymwneud â'r hyn sy'n dipyn o gamp arbenigol, rwy'n credu, sef edrych ar seiliau setliadau llywodraeth leol. Ond yn sicr fe af i gael golwg ar ba wybodaeth ychwanegol y gellir ei chyhoeddi.
Fel y dywedais i, mae'r fformiwla yn cael ei hysgogi gan ddata ac mae'n rhydd o unrhyw agenda gwleidyddol, ac mae'n cydbwyso'r angen cymharol a'r gallu cymharol i godi incwm fel bod awdurdodau yng Nghymru'n cael eu trin yn deg a chytbwys. Ceir y rhaglen barhaus honno i gynnal a diweddaru'r fformiwla, gan gynnwys sut mae angen i'r fformiwla ymateb i'n gwaith i wneud y dreth gyngor yn decach yng Nghymru ac i bolisïau ac amgylchiadau eraill sy'n newid. Unwaith eto, mae hynny'n ddarn mawr o waith ac rydym yn edrych ar gefnogaeth bontio bosibl i lywodraeth leol wrth i ni ymgymryd â'r gwaith hwnnw o ddiwygio cyllid lleol. Nid dyma'r amser i gyflwyno cynnwrf posib arall drwy adolygiad ar raddfa eang o'r setliad.
Mae'r setliad hwn, fel rydyn ni wedi'i glywed, wedi cynnwys y data diweddaraf sydd ar gael o gyfrifiad 2021, felly rwy'n cymeradwyo'r setliad hwn i'r Senedd. Mae'n adlewyrchu ein hymrwymiad i wasanaethau cyhoeddus ac mae'n parhau i gefnogi llywodraeth leol ledled Cymru i gyflawni ar ran pobl Cymru.
Diolch i'r Gweinidog. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebu.] Oes, felly, gohiriaf y bleidlais o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Rydyn ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio. Oni bai bod tri Aelod yn dymuno imi ganu'r gloch, symudaf yn syth i'r cyfnod pleidleisio.