10. Dadl: Adroddiad Blynyddol Estyn 2021-22

– Senedd Cymru am 5:25 pm ar 21 Mawrth 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 5:25, 21 Mawrth 2023

Eitem 10 sydd nesaf. Y ddadl ar adroddiad blynyddol Estyn yw'r eitem yma. Dwi'n galw ar y Gweinidog addysg i wneud y cynnig. Jeremy Miles. 

Cynnig NDM8227 Lesley Griffiths

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi Adroddiad Blynyddol 2021-22 gan Brif Arolygydd Addysg a Hyfforddiant Ei Fawrhydi yng Nghymru a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 1 Chwefror 2023.

2. Yn nodi arddeliad yr adroddiad sef, er i nifer o'r materion a gododd yn ystod y pandemig ddechrau dangos arwyddion o welliant graddol, bod heriau yn parhau.

3. Yn croesawu casgliad yr adroddiad bod darparwyr addysg a hyfforddiant wedi ymateb yn dda i'r heriau, gan osod dysgwyr wrth galon eu gwaith.

4. Yn croesawu canfyddiadau’r adroddiad bod pob darparwr wedi canolbwyntio'n briodol ar les dysgwyr a staff, gyda'r darparwyr cryfaf yn parhau i hunanwerthuso yn agored ac yn onest a rhoi ffocws di-flino ar addysgu a dysgu.

Cynigiwyd y cynnig.

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 5:25, 21 Mawrth 2023

Diolch, Llywydd. Hoffwn i agor y ddadl hon trwy ddiolch i Owen Evans, Prif Arolygydd Addysg a Hyfforddiant Ei Fawrhydi yng Nghymru, am ei adroddiad blynyddol. Mae'n rhoi disgrifiad annibynnol o sut mae ysgolion a darparwyr addysg a hyfforddiant yn perfformio ac yn helpu ein dysgwyr i ddatblygu. Mae'r adroddiad yn cynnig ffynhonnell werthfawr o dystiolaeth, gan helpu llywio datblygiad polisi cenedlaethol.

Hoffwn i ddechrau drwy groesawu'r dull newydd y mae Estyn wedi’i ddefnyddio ar gyfer ei adroddiad blynyddol eleni—wedi ceisio cynyddu ei effaith gymaint â phosib drwy gyhoeddi negeseuon interim ym mis Medi, a rhoi cipolwg cynnar o'r hyn sy'n gweithio a'r hyn sydd angen ei gryfhau. Cafodd yr adroddiad terfynol ei gyhoeddi ym mis Ionawr gyda chyfres o gwestiynau ac adnoddau hunanfyfyrio, ac mae'r prif arolygydd wedi rhannu gyda fi fod yna fwy o ymgysylltu wedi bod eleni o ran canfyddiadau'r adroddiad blynyddol. Da yw clywed hyn.

Mae'n werth nodi bod yr adroddiad blynyddol hwn yn tynnu ar dystiolaeth uniongyrchol ers i’r gwaith arolygu ailddechrau yn nhymor y gwanwyn 2022. Mae’n ein hatgoffa ni o effaith barhaus y pandemig ar ein dysgwyr a'r gweithlu addysg. Rŷn ni’n gwybod bod effaith COVID ar sgiliau iaith a darllen yn dal i gael ei deimlo gan lawer o ddysgwyr; dyna pam dwi wedi buddsoddi mewn rhaglen a fydd yn cefnogi dros 2,000 o blant i wella eu sgiliau iaith, sgiliau cyfathrebu a sgiliau darllen. Mae'r rhaglen 10 wythnos, a arweinir gan Brifysgol Bangor, yn darparu rhaglen iaith a llythrennedd ddwys a rhyngweithiol i blant saith i 11 oed. Rŷn ni hefyd wedi sefydlu, a byddwn ni’n parhau i ariannu, rhaglen gyllido bwrpasol i gefnogi ysgolion wrth iddyn nhw ddelio gydag effeithiau parhaus y pandemig. Rŷn ni hefyd yn monitro effeithiau’r pandemig ar ddysgu a lles plant a phobl ifanc dros y tymor canolig a'r tymor hir. Bydd hyn yn sicrhau bod unrhyw faterion sy'n dod i'r amlwg yn cael eu nodi'n gynnar, a bod camau lliniaru priodol yn cael eu rhoi ar waith yn gyflym.

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 5:28, 21 Mawrth 2023

(Cyfieithwyd)

Roeddwn yn falch o ddarllen, er gwaethaf yr heriau yn sgil y pandemig, bod yr adroddiad yn cydnabod bod darparwyr addysg a hyfforddiant wedi ymateb yn wrol ac i sefydliadau nesáu at eu dysgwyr a'r cymunedau y maen nhw'n yn eu gwasanaethu. Rwy'n ddiolchgar o hyd, Llywydd, i bawb sy'n gweithio yn y sector addysg am bopeth y maen nhw wedi'i wneud ac yn parhau i'w wneud i gefnogi ein dysgwyr. Rwy'n falch o weld bod darparwyr ar draws sectorau wedi rhoi pwyslais cryf ar gefnogi llesiant. Fel y dywedais yn y gorffennol, pan fydd dysgwyr yn hapus, wedi'u cefnogi gan weithlu addysgu diogel, diddig, maen nhw'n fwy tebygol o fod yn hyderus ac yn frwdfrydig wrth ddysgu. Nid yw'n syndod bod yr adroddiad, oherwydd y pandemig, yn amlygu y bu galw cynyddol am lesiant a chymorth iechyd meddwl. Rydyn ni'n cydnabod yr angen hwn.

Fe wnaethom ni gyhoeddi ein dull ysgol gyfan o ymdrin ag iechyd meddwl a llesiant a chynyddu'r gyllideb sydd ar gael i helpu diwallu anghenion disgyblion a chymuned yr ysgol. Rydyn ni hefyd wedi clustnodi cyllid ychwanegol i awdurdodau lleol, i fyrddau iechyd ac i sefydliadau yn y trydydd sector, gan gydnabod pwysigrwydd y sector cyhoeddus a'r trydydd sector ehangach sy'n cydweithio i ddarparu cymorth uniongyrchol i ysgolion. Yn 2022-23, fe wnaethom ni hefyd neilltuo cyllid ychwanegol i gefnogi iechyd meddwl a llesiant yn y sector addysg bellach. Fodd bynnag, wrth gwrs mae mwy y gallwn ni ei wneud. Mae'r pandemig wedi dangos pam, yn fwy nag erioed, mae arnom ni angen ein Cwricwlwm newydd i Gymru. Mae'r cwricwlwm newydd yn rhoi llesiant wrth wraidd yr hyn y mae arnom ni ei eisiau i'n dysgwyr, gan roi'r offer iddyn nhw fod yn fentrus, i addasu ac ymateb i fyd sy'n newid yn barhaus.

Mae canfyddiadau'r adroddiad yn rhoi sylw defnyddiol i feysydd diwygio'r cwricwlwm sy'n gweithio'n dda, a rhai agweddau i ganolbwyntio arnynt. Mae'r rhain yn cyd-fynd yn agos â'n dealltwriaeth o sut mae'r rhaglen newid sylweddol hon yn symud ymlaen, a sut y dylid cefnogi ysgolion a lleoliadau eleni a'r flwyddyn nesaf. Bûm yn glir erioed, Llywydd, y bydd y cyflwyno hwn yn cymryd amser. Yn wir, dim ond o'r mis Medi hwn y bydd pob ysgol yng Nghymru yn dysgu'r cwricwlwm newydd, a dim ond o 2026 y bydd yn ymestyn i bob blwyddyn ym mhob ysgol. Rwy'n cydnabod yn llwyr pa mor amrywiol yw hi o ran datblygu addysgu a dysgu er mwyn cyd-fynd â'r cwricwlwm i Gymru. Nid yw hyn yn newydd nac yn wahanol i ddiwygio'r cwricwlwm, ond er hynny, rhywbeth yr ydym yn ei gymryd o ddifrif ledled y system. Yn wir, codais y mater hwn yn fy adroddiad blynyddol ar y cwricwlwm fis Gorffennaf diwethaf.

Rwy'n glir y dylai ysgolion fod yn derbyn cefnogaeth bwrpasol i'w helpu i gyflwyno eu cwricwlwm. Rydyn ni hefyd wedi darparu adnoddau i gefnogi dilyniant ac asesu, wedi parhau i ddod ag ymarferwyr at ei gilydd fel rhan o rwydwaith cenedlaethol i sicrhau bod lleisiau athrawon yn greiddiol i'n diwygiadau, ac rydyn ni wedi cyhoeddi canllawiau gwella ysgolion fel sail i'r cwricwlwm newydd.

Llywydd, mae'r adroddiad yn rhoi cipolwg ar y cynnydd cyson a'r ymrwymiad cryf ledled Cymru i ddiwygio anghenion dysgu ychwanegol. Mae hyn yn gyson â'r adborth gan yr arweinydd gweithredu cenedlaethol anghenion dysgu ychwanegol a'r grŵp llywio. Yn rhan o'r rhaglen trawsnewid anghenion dysgu ychwanegol, rydyn ni wedi buddsoddi mewn pecyn cynhwysfawr o weithgareddau codi ymwybyddiaeth i gefnogi datblygu'r gweithlu. Mae hyn yn cynnwys cynnig dysgu proffesiynol i bob athro neu athrawes er mwyn hyrwyddo arferion sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn a dysgu gwahaniaethol i gau bylchau rhwng dysgwyr ac ymateb i anghenion dysgwyr.

Yn olaf, Llywydd, hoffwn gyfeirio at y canfyddiadau yn yr adroddiad, bod y pandemig wedi effeithio'n anghymesur ar blant a phobl ifanc o gefndiroedd difreintiedig. Roedd presenoldeb gwael mewn ysgolion ac unedau cyfeirio disgyblion, ac ymhlith ein dysgwyr mwyaf difreintiedig, yn bryder allweddol a amlygwyd yn yr adroddiad blynyddol. Mae hyn yn bryder enfawr i mi. Fel y gwyddoch, yn anad dim arall, ein cenhadaeth genedlaethol yw gwella safonau a dyheadau i bawb drwy fynd i'r afael ag effaith tlodi ar gyrhaeddiad. Mae'r adroddiad blynyddol yn ddefnyddiol iawn yn amlygu nodweddion allweddol o waith darparwyr sydd wedi bod yn effeithiol wrth fynd i'r afael ag effaith tlodi ac anfantais ar eu dysgwyr. Mae angen i ni ddysgu gan y darparwyr hyn a rhannu hynny ar draws y system. Bu gan y grant datblygu disgyblion ran allweddol wrth gefnogi'r agenda hon, a byddwn yn adeiladu ar arferion effeithiol sy'n bodoli eisoes drwy sicrhau ein bod yn targedu'r cyllid mor effeithiol â phosibl. O flwyddyn i flwyddyn, rydyn ni wedi ymestyn y grant datblygu disgyblion, gyda chyllid ar gyfer 2023-24 bellach tua £130 miliwn. Yn ogystal, mae ysgolion bro hefyd wrth wraidd ein hagenda i fynd i'r afael ag effaith tlodi ar gyrhaeddiad. Ein huchelgais yw i bob ysgol yng Nghymru fod yn ysgolion bro, yn ymateb i anghenion eu cymunedau, adeiladu partneriaeth gref gyda theuluoedd, a chydweithio'n effeithiol â gwasanaethau eraill. Rydyn ni hefyd wedi bod yn cynyddu nifer y swyddogion ymgysylltu â theuluoedd sy'n cael eu cyflogi gan ysgolion er mwyn canolbwyntio ar wella presenoldeb disgyblion.

Llywydd, mae yna lawer o ganfyddiadau yn yr adroddiad blynyddol. Rwyf wedi dewis dim ond ambell un i ddechrau ein dadl. Rwy'n ddiolchgar, unwaith eto, i'r prif arolygydd am gynhyrchu'r adroddiad hwn. Dim ond trwy grisialu a rhannu dysgu o'r fath, a mynd i'r afael â materion a heriau, y byddwn yn parhau i adeiladu'r system addysg orau ar gyfer pob dysgwr yng Nghymru.

Photo of Gareth Davies Gareth Davies Conservative 5:34, 21 Mawrth 2023

(Cyfieithwyd)

Mae'n bleser cymryd rhan yn y ddadl hon heno ar adroddiad blynyddol Estyn 2021-22. Hoffwn ddechrau drwy dalu teyrnged i'n haelodau staff ymroddedig ar hyd a lled y wlad, sy'n gweithio'n galed, o ddydd i ddydd, er mwyn sicrhau bod ein dysgwyr yn cael y cyfleoedd dysgu gorau posibl.

Dyma adroddiad blynyddol cyntaf Estyn ers dechrau'r pandemig sy'n rhydd, gan fwyaf, o ddylanwadau'r cyfnodau cyfyngiadau symud sy'n effeithio ar Gymru neu, yn wir, y DU ehangach. Fodd bynnag, roedd yn bryderus fod rhai effeithiau parhaol y gellir eu hadnabod o'r amser hwnnw wedi codi yn yr adroddiad, gan fod 2021-22 wedi'i nodweddu ym mhob sector gyda'u hymdriniaeth o effeithiau parhaus y pandemig. Rhai o'r canlyniadau negyddol, megis y niwed a wnaeth i sgiliau llythrennedd a rhifedd dysgwyr, yn enwedig o ran sgiliau llefaredd disgyblion iau, yn ogystal â'u cyfraddau gwella araf ers hynny. Ac na foed inni anghofio ein bod ni ar yr ochr hon i'r Siambr yn y Ceidwadwyr Cymreig wedi galw ar i fandadau mygydau mewn ysgolion ddod i ben yn gynt, ac yn hytrach, roedd y Llywodraeth Lafur hon yn caniatáu iddyn nhw aros yn eu lle yn hirach na'r angen, ac felly'n mygu cyfranogiad dosbarth a datblygiad cymdeithasol.

O ran y cwricwlwm newydd, mae'r adroddiad yn honni bod y mwyafrif o ddarparwyr yn cydnabod pwysigrwydd addasu a gwella eu haddysgu, yn ogystal â chynnwys eu cwricwlwm. Fodd bynnag, wrth i mi barhau i glywed fy hun ar daith o amgylch ysgolion lleol yn fy etholaeth, fod arweinwyr yn parhau i fod yn bryderus am yr asesiad a'r dilyniant a sut beth ddylai cynnydd drwy'r cwricwlwm fod.

Canfuwyd hefyd bod cefnogaeth a dderbyniwyd gan ysgolion gan awdurdodau lleol a chonsortia yn aml yn rhy gyffredinol, yn hytrach na phwrpasol ar gyfer anghenion pob ysgol. Nid oedd gweithredu'r cwricwlwm i Gymru yn gyfyngedig i sectorau penodol chwaith. Mewn gwirionedd, mae'r adroddiad yn nodi'n benodol mai ychydig iawn o ysgolion cynradd a ddefnyddiodd ganllawiau'r cwricwlwm yn hyderus, a dim ond hanner yr ysgolion uwchradd sydd eisoes wedi dechrau cyflwyno'r cwricwlwm i Gymru. Trwy bwyso am ddiwygio'r cwricwlwm, mae Llywodraeth Cymru wedi achosi i ysgolion flaenoriaethu dyluniad y cwricwlwm dros wella effeithiolrwydd addysgu, ac wedi methu â chydnabod yn ddigonol yr effaith sylweddol a gaiff gwella ansawdd yr addysgu ar sicrhau cynnydd disgyblion. Eto i gyd, mae Llywodraeth Cymru wedi torri £2.2 miliwn mewn termau real ar ddatblygiad a chymorth athrawon yn y gyllideb, a dydy hynny ddim yn gwneud synnwyr.

Roeddem ni yn y Ceidwadwyr Cymreig wedi galw am ohirio cyflwyno'r cwricwlwm fel y byddai gan ysgolion yng Nghymru amser i ganolbwyntio ar adferiad o'r pandemig ac i gynyddu niferoedd athrawon, yn hytrach na chael eu hymdrechion a'u sylw wedi eu dargyfeirio ar adeg mor dyngedfennol. Rydw i a chydweithwyr yn y Siambr, ar wahanol achlysuron, wedi galw am amcan terfynol mwy pendant ac i'r Gweinidogion fynd i'r afael â phryderon ynghylch asesu a dilyniant, a beth yn union fydd canlyniad cynnydd. Mae'n amlwg iawn bod gennym ni broblem â gormod o hyblygrwydd ac o ran yr anghenion dysgu ychwanegol y soniodd y Gweinidog amdanynt, a'r diwygiadau diweddar, nododd yr adroddiad fod dealltwriaeth aelodau unigol o staff am eu cyfrifoldebau o ran cefnogi disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol yn amrywiol.

Rydyn ni yn y Ceidwadwyr Cymreig yn cydnabod y gwnaeth adroddiad Cymdeithas Genedlaethol Prifathrawon Cymru o fis Tachwedd 2021 dynnu sylw at y ffaith bod 92 y cant o arweinwyr ysgolion o'r farn nad oedd cyllid ar gyfer disgyblion ag anghenion addysgol arbennig yn eu hysgolion yn ddigonol, a bod 94 y cant yn credu nad oedd y cyllid yn ddigonol i ddiwallu anghenion diwygiadau, ac felly yn galw am gynyddu'r cyllid i ddisgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol yn eu hysgolion. Mae arnom ni eisiau i Lywodraeth Cymru gymryd camau i sicrhau bod plant yn cael eu hadnabod fel rhai sydd ag anghenion dysgu ychwanegol yn llawer cynt nag y maen nhw ar hyn o bryd, fel y gallan nhw ymuno â'r rhestrau aros yn gynt, a chael y cymorth sydd ei angen arnyn nhw'n gynt. Nid yw'n gymhleth, ond mae'n cael effaith enfawr ar ddysgwyr sydd ag anghenion dysgu ychwanegol, a'r rhai nad oes ganddynt yr anghenion, mewn ystafelloedd dosbarth ar hyd a lled Cymru.

Fel gydag adroddiadau blaenorol, cadarnhaodd arweinwyr eu bod yn parhau i wynebu heriau sylweddol ynghylch recriwtio a chadw staff sydd â chymwysterau a phrofiad addas. Dyma argyfwng staffio Llywodraeth Cymru sydd ond yn ymddangos fel pe bai'n gwaethygu, nid yn gwella, a rhywbeth yr ydym ni, unwaith eto, wedi ei grybwyll yn y Siambr hon droeon.

Mae yna gymaint yn fwy o bwyntiau o'r adroddiad yma y gallwn i ddal sylw arnyn nhw, o'r materion difrifol yn addysg Gymraeg i'r argyfwng iechyd meddwl sy'n ysgubo drwy ein hysgolion, ond gwelaf fod amser yn prysur brinhau. Ar y cyfan, mae gennym ni adroddiad sy'n dangos yn glir fod gan addysg yng Nghymru ffordd bell i fynd i adfer o'r difrod y mae'r pandemig wedi'i achosi. Fodd bynnag, ar ôl 25 mlynedd o fethiant ac esgeulustod gan y Llywodraeth Lafur hon a ategwyd gan Blaid Cymru, a chyllideb sy'n torri cyllid addysg mewn termau real ac arian parod, nid wyf yn rhy obeithiol.

Photo of Heledd Fychan Heledd Fychan Plaid Cymru 5:39, 21 Mawrth 2023

Diolch am y cyfle i gyfrannu i'r ddadl hon heddiw. Yn amlwg, mae hi'n cyd-fynd efo'n dadl neu drafodaeth flaenorol ni o ran gweledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer addysg. Hoffwn innau ategu fy niolch i i Owen Evans, a dwi'n meddwl bod yr adroddiad yn sicr yn gynhwysol. Dwi'n croesawu hefyd y fformat newydd, fel y soniwyd gan y Gweinidog, a dwi'n meddwl bod adroddiadau thematig, yn benodol, yn rhoi darlun clir inni o ran rhai o’r heriau anferthol y mae ein hysgolion yn eu hwynebu.

Photo of Heledd Fychan Heledd Fychan Plaid Cymru 5:40, 21 Mawrth 2023

Dwi'n meddwl hefyd ei fod yn cyferbynnu, efallai, gyda rhai o’r pethau yr oeddem ni'n eu trafod yn gynharach o ran bod yna bictiwr positif o ran addysg yng Nghymru. Oherwydd un o’r pethau rydych chi'n edrych arno fo o ran yr adroddiad ydy'r heriau gwirioneddol hynny. Yn amlwg, un o'r pethau positif yn yr adroddiad ydy ei fod o'n cynnig datrysiadau hefyd ac yn sôn am rôl cymaint o bartneriaid ac ati o ran y cyfraniad. Ond dwi'n meddwl un o’r cwestiynau sy’n aros gyda mi ydy, o ran y Gweinidog, mae yna gymaint, gymaint o heriau yn yr adroddiad hwn—mae o'n adroddiad onest iawn o ran yr heriau hynny, fel rydych chi wedi cyfeirio ato'n barod o ran yr effaith anghymesur ar blant a phobl ifanc yn benodol. Mi oeddem ni mewn sefyllfa heriol cyn COVID; mae hwn yn creu darlun sydd yn dangos yn glir yr heriau ychwanegol hynny sydd wedi'u creu.

Yn amlwg, un o'r pethau rydyn ni'n gwybod sydd yn her fawr i'r Llywodraeth ydy o ran cyllidebau. Ydych chi'n credu bod gennych chi'r adnodd i wirioneddol fynd i'r afael efo'r holl heriau sydd wedi eu hamlinellu fan hyn? Yn amlwg, mae yna arian yn mynd mewn i nifer o feysydd, ond yn gyffredinol, mae yna gymaint—gymaint—o bethau rydyn ni angen gwella yn fan hyn er mwyn gallu cyrraedd y weledigaeth wnaethoch chi sôn amdani yn gynharach o ran rhoi'r cyfle gorau posib i bob un o'n dysgwyr ni. Dwi'n meddwl ei fod o'n gyfle inni adlewyrchu fan hyn o ran sut rydyn ni'n cydweithio ac yn sicrhau bod yr holl bethau yn mynd i ddod ynghyd.

Rhai adlewyrchiadau. Yn amlwg, rydyn ni wedi trafod o'r blaen yr elfen o ran un o'r themâu o ran aflonyddu rhywiol, ond o ailddarllen yr adran yna, mae'r ffaith bod gan hanner y disgyblion—a'r mwyafrif y merched—brofiad personol o aflonyddu rhywiol; bod tri chwarter yr holl ddisgyblion wedi gweld disgybl arall yn dioddef aflonyddu rhywiol—mae'r rhain yn ystadegau brawychus yn ein hysgolion ni rŵan. A dwi'n meddwl mai un o'r pethau eraill yr hoffwn ei weld ydy sut ydym ni'n mynd i sicrhau bod amgylchedd ysgol yn ddiogel i bob un o'n dysgwyr ni? Ac mae'n cyd-fynd, yn amlwg, efo'r gwaith rydyn ni'n trio ei wneud o ran sicrhau bod Cymru yn wlad sydd yn rhoi cyfle cyfartal i bawb, ond mae o'n fy mhryderu i mai dyma ydy profiad dysgwyr mewn sefydliadau addysgol rŵan.

Hoffwn hefyd jest cyfeirio at rhai o'r pethau sydd o ran hyfforddi athrawon, rydych chi wedi cyfeirio atynt yn benodol, ond dwi'n meddwl mai un o'r pethau oedd yn yr adroddiad oedd o ran yr anghysondeb o ran profiad hyfforddiant ac ati. Dwi jest eisiau gweld sut rydych chi'n credu ein bod ni'n mynd i allu mynd i'r afael â hynny.

Rydych chi wedi cyfeirio hefyd, ac fel sydd yn amlwg yn yr adroddiad, at effaith y pandemig o ran iechyd meddwl—rydyn ni eisoes wedi trafod o ran presenoldeb—a'r arian ychwanegol sydd wedi mynd. Ond un o'r pethau y mae ysgolion yn sôn amdano ydy'r heriau o ran eu cyllidebau nhw ar y funud o ran gallu parhau gyda rhai o'r pethau ychwanegol y maen nhw'n gallu eu cynnig. Er enghraifft, cwnsela o fewn ysgolion; rydyn ni'n gwybod bod rhai ysgolion yn darparu hynny, a rhai eraill yn gyfan gwbl ddibynnol ar wasanaethau y tu hwnt i'r ysgolion, megis CAMHS. Sut ydyn ni am sicrhau bod y profiad yna o ran mynediad at wasanaethau yn gyson lle bynnag eich bod chi'n byw yng Nghymru? Ac yn sicr, mae yna ddatrysiadau yn fan yna o ran presenoldeb ac ati, a'n bod ni'n gweld lle mae o'n bosib cael y gwasanaethau yna, a bod ysgol yn gweithio o ran gallu gwneud mwy nag ysgol gonfensiynol o ran cynnig y gefnogaeth yna a'i fod o'n gallu gwneud gwahaniaeth, yn enwedig yn yr ardaloedd hynny lle mae efallai problemau cymdeithasol sy'n golygu bod effaith anghymesur.

Hoffwn gyffwrdd hefyd o ran y Gymraeg. Rydyn ni wedi gweld yn benodol yn yr adroddiad yr anghysondeb o ran y Gymraeg mewn ysgolion cyfrwng Saesneg. Mae yna lot o bwyslais yn mynd i fod ar y Bil addysg Gymraeg yn sicr o ran hynny, ond ydych chi'n credu bod y feirniadaeth yna yn deg ar y funud? Ydych chi'n credu bod yna ddigon o bethau yn mynd i fod yn y Bil addysg Gymraeg o ran mynd ati—? Mae cyngor gyrfaoedd yn sicr yn beth arall lle dwi'n meddwl buaswn i'n hoffi gweld sicrwydd bod hynny'n rhywbeth mae'r Llywodraeth yn mynd i fod yn mynd ar ei ôl ymhellach. 

Dwi'n gweld fy mod i allan o amser. Mae hwnna jest yn dangos faint o bethau sydd o bwys yn yr adroddiad hwn, a dwi'n gobeithio y byddwn ni'n gallu cydweithio fel Senedd i sicrhau ein bod ni'n gallu gwireddu'r argymhellion hyn a sicrhau bod yr arian gan y Llywodraeth hefyd i fynd ati, oherwydd, yn amlwg, mae yna heriau gwirioneddol o ran addysg sy'n cael eu hamlinellu fan hyn, ac mae i fyny i ni i gael datrysiadau rŵan. 

Photo of Rhianon Passmore Rhianon Passmore Labour 5:45, 21 Mawrth 2023

(Cyfieithwyd)

A minnau'n gyn-athrawes, darlithydd ac aelod cabinet cyngor dros addysg a chadeirydd consortia, rydw i'n hen gyfarwydd ers blynyddoedd lawer â'r heriau addysgol sy'n wynebu ein hathrawon bob dydd, ddydd ar ôl dydd, ond byth mewn amgylchiadau economaidd a chymdeithasol mwy heriol. Mae athrawon, yn ogystal â ni, yn wynebu'r anghydraddoldeb mwyaf yn y DU ers i gofnodion ddechrau, wrth i'n hysgolion fynd i'r afael â thlodi ar lawr gwlad a'i effaith ar gyrhaeddiad bob dydd. A minnau wedi dysgu unwaith yn y rhan fwyaf o ysgolion cynradd ac uwchradd Islwyn, rwyf hefyd hyd yn hyn eleni wedi ymweld â nifer o ysgolion, gan gynnwys ysgolion uwchradd Trecelyn ac Islwyn ac ysgolion cynradd Markham a Bryn, er mwyn i mi allu deall o lygad y ffynnon, ar lawr gwlad, y sefyllfa fel y mae heddiw.

A, Gweinidog, er nad oedd erioed yn fwy heriol, bu ymroddiad a brwdfrydedd myfyrwyr, athrawon, staff ysgolion a llywodraethwyr yn amlwg ac wedi disgleirio yn wyneb yr her honno. Er hynny, nid oes angen i'n hathrawon a'n llywodraethwyr ac arweinwyr ysgolion gael eu cystwyo gan wleidyddion ac awtocratiaid, ond eu cefnogi, eu meithrin a'u galluogi gan ragoriaeth ac asiantaethau strwythurol. A heddiw, yn ogystal â her wirioneddol, ceir cyffro gwirioneddol am addysg yng Nghymru, ar drothwy dadeni newydd o ran canlyniadau, dan arweiniad nid modelau hen a llipa, ond yn hytrach yr arfer gorau un yn rhyngwladol, wedi'i ganmol gan y Sefydliad dros Gydweithio a Datblygu Economaidd yn rhyngwladol, ochr yn ochr â Seland Newydd, Iwerddon ac Estonia. Ac mae'n arbennig o gefnogol pan fyddwn ni'n oedi ac yn ystyried, dim ond tair blynedd yn ôl, fod pob ysgol ledled Cymru yn cael eu cau yn nannedd pandemig byd eang COVID.

Mae Islwyn ei hun yn falch dros ben o adroddiadau rhagorol Estyn sydd wedi'u cyhoeddi yn ddiweddar ar gyfer Ysgol Gynradd Cefn Fforest, Ysgol Gynradd Markham ac Ysgol Gynradd Pontllanfraith. Ac rwy'n nodi o'r adroddiad blynyddol y parhawyd i deimlo effaith pandemig COVID-19 drwy gydol y flwyddyn academaidd. Rhaid canmol athrawon ac arweinwyr ysgolion Islwyn am yr ystwythder mwyaf a'r meddwl arloesol a ddangoswyd ganddynt yn ystod cyfnod gwirioneddol eithriadol. Felly, diolch. Dywed Estyn y bu cynnydd nodedig, fodd bynnag, yn y galw am lesiant a chymorth iechyd meddwl. Mae hyn yn cyflwyno her sylfaenol i ysgolion, awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru ynghylch sut y bydd angen mynd i'r afael â hyn. Mae'n debyg bod angen pwysleisio hyn a'i ail ystyried, gan y bydd yn anochel yn un o etifeddiaethau mwyaf dwys y pandemig. Mae dyletswydd arnom ni i'n plant i ddiwallu'r anghenion hynny. Er hynny, cefais fy nghalonogi o ddarllen bod Estyn yn dweud bod y ddarpariaeth ar gyfer disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol yn gryfder yn y mwyafrif o'r ysgolion uwchradd. Mae ein hysgolion uwchradd nawr yn dod yn llawer mwy medrus wrth ymateb i anghenion unigol y dysgwr sydd o'u blaenau, gan greu cymuned ddysgu gynhwysol. Mae hynny'n newyddion ardderchog, a dylem ni ddathlu hynny.

Rwy'n mawr obeithio bod sylwebaeth Estyn ynghylch arwain, gwerthuso addysgu, yn golygu y bydd Estyn ei hun yn ymgymryd â rhywfaint o waith datblygu ar hyn, gan ei fod yn awgrymog o fater sylfaenol sy'n gofyn am ddealltwriaeth gyffredinol o'r materion a'r ffyrdd posib ymlaen. Mae'n bwysig gwybod beth yw 'da'. Mae angen i Lywodraeth Cymru sicrhau bod cyfathrebu clir rhwng athrawon, dysgwyr ac arweinwyr ysgolion o ran beth sy'n gyfystyr ag addysgu a dysgu effeithiol, ac mae hyn yn parhau ynghylch asesu, hyfforddiant cychwynnol athrawon, y cwricwlwm newydd a diwygio anghenion dysgu ychwanegol. Mae'n hanfodol y gwneir y gwaith hwn mewn modd tringar a blaengar. Does ond rhaid i ni edrych ar amgylchiadau trasig arolygiad diweddar Ofsted yn Newbury a welodd farwolaeth drasig iawn y pennaeth Ruth Perry i wybod bod yn rhaid i bawb sy'n ymwneud â gwneud dyfarniadau gyfathrebu mewn modd atebol a chlir â'r rhai y maent yn eistedd mewn barn arnynt.

Yn olaf, hoffwn ddatgan fod athrawon yn fodau dynol sydd wedi cynnig eu bywydau, eu hegni a'u gyrfaoedd nid yn unig i genedlaethau'r dyfodol ond i Gymru a'n holl ddyfodol cyfunol. 

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 5:49, 21 Mawrth 2023

Y Gweinidog addysg nawr i ymateb i'r ddadl. 

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour

Diolch, Llywydd, a diolch i bawb am eu cyfraniadau i'r ddadl heddiw. Mae'r ddadl wedi bod yn gyfle pwysig i Aelodau allu mynegi barn ar yr adroddiad blynyddol. Fel mae mwy nag un cyfrannwr wedi'i ddweud, mae addysg yng Nghymru yn newid, ac rŷm ni'n gweithredu diwygiadau mawr o ran y cwricwlwm ac anghenion dysgu ychwanegol ac mewn ffyrdd eraill hefyd. Mae yna nifer o heriau o ran sut rŷm ni'n lleddfu effaith amddifadedd ar gyrhaeddiad ein pobl ifanc, ac mae mwy nag un cyfrannwr wedi sôn am bwysigrwydd hynny heddiw yn y drafodaeth ar yr adroddiad blynyddol. Mae'r adroddiad yn dangos bod gyda ni lawer i ymfalchïo ynddo yn ein system addysg. Mae'r adroddiad hefyd yn tynnu sylw at yr heriau y mae'n rhaid inni fynd i'r afael â nhw.

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 5:50, 21 Mawrth 2023

(Cyfieithwyd)

Rwy'n cytuno, Llywydd, bod hyn yn cynnwys nifer o'r eitemau a godwyd gan yr Aelodau heddiw. Soniodd Gareth Davies am bwysigrwydd buddsoddi mewn llefaredd, ac er fy mod yn anghytuno ag ef fod yr ateb i hynny yn syml mewn dull polisi o ymdrin â mygydau, ac o'r farn bod yr heriau yn llawer, llawer mwy dwys na hynny, soniais yn fy sylwadau agoriadol am y buddsoddiad yr ydym ni'n ei wneud mewn llefaredd ac o ran cefnogi pobl ifanc mewn ffyrdd arloesol iawn, ond mae hon yn her sylweddol iawn, fel y mae yntau'n cydnabod yn ei sylwadau.

Gwnaeth yr alwad unwaith eto am ohirio'r diwygiadau i'r cwricwlwm. Ar ôl bod trwy gyfnod yn ystod COVID pan oedd pwyslais y system ysgolion gyfan ar ddulliau mwy creadigol o addysgu a dysgu, gan roi llesiant wrth galon popeth y mae'r ysgol yn ei wneud, roedd hynny'n ymddangos i mi yn sylfaenol gyson â gwerthoedd y cwricwlwm newydd, ac roedd parhau â'r cyflwyno pan wnaethom ni, fis Medi diwethaf, yn adlewyrchu'n fawr faint o frwdfrydedd oedd yn y system ysgolion, nad wyf yn credu iddo adlewyrchu yn ei sylwadau. Ac os ydym ni'n chwilio am dystiolaeth o hynny, pan roddwyd y cyfle i ysgolion uwchradd ohirio cyflwyno'r cwricwlwm mewn ysgolion uwchradd, penderfynodd bron i hanner ohonyn nhw beidio â gwneud hynny ond pwyso ymlaen fis Medi'r llynedd. Credaf fod hynny'n rhoi arwydd clir i ni o faint yr ymrwymiad ar draws y system a'r gwerthfawrogiad sydd gan athrawon o werth y cwricwlwm newydd.

Fe wnaeth nifer o Aelodau bwyntiau pwysig iawn ynglŷn â sicrhau adnoddau, a gallaf gadarnhau mewn ymateb i Heledd Fychan, bod a wnelo hynny â'r cyllid recriwtio, adennill a chodi safonau, neu gyllid y grant amddifadedd disgyblion neu'r buddsoddiad mewn mentrau iechyd meddwl a llesiant y cyfeiriwyd atynt yn briodol fel hanfodol ganddi hi a Rhianon Passmore, mae'r gwaith a wnaeth Lynne Neagle a minnau gyda'n gilydd wedi golygu y bu cynnydd sylweddol i faint gyllid sydd ar gael i gefnogi'r dull gweithredu ysgol gyfan, a bydd hynny'n cynnwys ymestyn gwasanaethau cwnsela i ddiwallu'r hyn sy'n alw cydnabyddedig a chynyddol mewn cysylltiad â hynny hefyd.

Llywydd, wrth i ni gychwyn ar y diwygiadau hyn, credaf ei bod hi'n bwysicach nag erioed cael arolygiaeth annibynnol i archwilio cynnydd a rhannu'n onest â ni beth yw cryfderau a gwendidau'r system ac mae gwneud hynny yn y ffordd yr oedd Rhianon Passmore yn ein hatgoffa mor bwysig, sef gwneud hynny mewn ffordd sy'n gefnogol o'r proffesiwn a'r dysgwyr. Felly, hoffwn ddiolch i Estyn a'r holl dîm o arolygwyr am eu gwaith parhaus a'u hymroddiad yn darparu dadansoddiad gwrthrychol ac annibynnol o berfformiad y—[Torri ar draws.] Wrth gwrs.

Photo of Andrew RT Davies Andrew RT Davies Conservative 5:53, 21 Mawrth 2023

(Cyfieithwyd)

Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am dderbyn ymyriad. Clywsom gan yr Aelod o Islwyn am y drasiedi yn Lloegr, yn amlwg, gyda'r brifathrawes yn terfynu ei bywyd. Pa drafodaethau ydych chi wedi eu cael gyda'r arolygiaeth Gymreig i wneud yn siŵr bod yna ofal bugeiliol a'r ddealltwriaeth honno? Rwy'n deall bod gennym ni system wahanol, ond mae yna wahanol fathau o bwysau a straen sy'n amlwg yn rhoi baich enfawr ar ein penaethiaid ac uwch dimau rheoli a llywodraethwyr. Rwy'n credu y byddai hi, yn enwedig yn yr hinsawdd bresennol, yn dda deall pa drafodaethau rydych chi fel y Gweinidog wedi'u cael gyda'r arolygiaeth i ddeall pa fesurau sy'n cael eu rhoi ar waith.

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 5:54, 21 Mawrth 2023

(Cyfieithwyd)

Wel, dyna bwynt pwysig iawn. Mae'n rhan o'n trafodaethau parhaus gyda'r arolygiaeth. Bydd yn gwybod bod y diwygiadau y mae'r arolygiaeth wedi ymgymryd â nhw yng Nghymru wedi cael gwared ar y pwyslais atebolrwydd mewn ysgolion o'r dyfarniad unigol, crynodol hwnnw, sef lle mae rhai o'r tensiynau, yn aml, wedi codi, ac rydym ni, rwy'n credu, wedi gweld rhai o ganlyniadau hynny mewn mannau eraill. Yr hyn yr ydym ni'n ei wybod o'r trafodaethau hynny yw bod penaethiaid a'r arolygiaeth wedi gallu cael sgyrsiau llawer mwy ystyrlon, llawer mwy cefnogol, gan gydnabod y cryfderau a'r meysydd her i ysgol, a'u bod, pan gyhoeddir yr adroddiadau hynny, yn adlewyrchu ehangder y darlun hwnnw yn hytrach na chanolbwyntio ar un neu ddau air yn aml. A chredaf fod hynny wedi creu, ac yn dechrau creu, diwylliant llawer mwy adeiladol yn ein hysgolion, y gwn i y byddai ef hefyd yn cefnogi. 

Rwy'n falch ein bod wedi gallu cynyddu'r cyllid i Estyn er mwyn galluogi'r arolygiaeth i gwblhau'r gwaith o arolygu pob ysgol yn y cylch presennol erbyn mis Gorffennaf 2024. Ac i gloi, Llywydd, fel y mae'r ddadl heddiw wedi adlewyrchu, rydyn ni i gyd wrth gwrs yn ymwybodol o heriau parhaus y pandemig, a phwysigrwydd lliniaru effaith tlodi ar gyrhaeddiad addysgol. Yn union yn y ffordd y mae nifer o siaradwyr wedi dweud heddiw, dim ond trwy gydweithio ar bob lefel o'r system addysg, a hefyd yn y Siambr hon, y byddwn yn llwyddo i roi'r addysg orau bosibl i bob un dysgwr yng Nghymru. 

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 5:55, 21 Mawrth 2023

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Felly, fe wnawn ni ohirio'r bleidlais ar y cynnig yna tan y cyfnod pleidleisio. 

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.