2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:23 pm ar 14 Medi 2016.
Rydym ni’n symud nawr at gwestiynau’r llefarwyr, ac yn gyntaf yr wythnos yma, llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig, Mark Isherwood.
Diolch, Lywydd. I gefnogi’r ymgyrch ‘Gadewch i ni Barhau i Gefnogi Pobl’ ar gyfer 2017-18, sydd bellach yn magu momentwm, ymwelais â nifer o brosiectau yn ystod yr haf. Yn ystod un ymweliad, dywedodd person alcoholig sy’n gwella wrthyf fod y rhaglen Cefnogi Pobl wedi achub eu bywyd i bob pwrpas: ‘gyda’u cymorth yn y gorffennol a’r presennol mae gennyf obaith o gael bywyd llawer gwell’. Dywedodd yr ail—ni chyfeiriaf at ragor—’cefais fy niod diwethaf ar 12 Mawrth eleni. Roeddwn yn llawn meddyliau negyddol, afiechyd a’r awydd i roi diwedd ar bopeth, nid oeddwn yn ddim byd ond straen ar gymdeithas, yn dreth ar y GIG, yr heddlu, meddygon, nyrsys, seiciatryddion, gweithwyr cymorth ym maes iechyd meddwl, ffrindiau, teulu a Duw a ŵyr pwy arall. Yr holl bobl ac adnoddau hyn ar waith oherwydd fy alcoholiaeth. Cost hyn i gyd: annirnadwy. Mae’r holl ymwneud a thriniaeth wedi rhoi cyfle arall i mi mewn bywyd unwaith eto’.
A ydych yn cydnabod, ac rwy’n siŵr eich bod, fod y prosiectau hyn yn arbed arian i’r gwasanaethau statudol, ac a fyddwch yn cyflwyno sylwadau i’r perwyl hwnnw wrth i ni symud tuag at y gyllideb ddrafft ar gyfer y flwyddyn nesaf?
Byddaf.
Diolch. Fe fyddwch yn gwybod, ochr yn ochr â hynny, fod dwy gyllideb gydberthynol arall, yn arbennig y gyllideb atal digartrefedd, a welodd doriad o 8 y cant yn y flwyddyn gyfredol. Mae cynghrair o ddarparwyr—Shelter Cymru, Llamau, GISDA, Digartref Ynys Môn a Dewis—wedi gwneud y pwynt fod lleihau’r gyllideb sy’n cefnogi gwasanaethau ataliol allweddol, sy’n ganolog i ganlyniadau a llwyddiant gwasanaethau a darpariaeth a gefnogir gan y cyllidebau eraill, fod torri’r gyllideb hon yn hunandrechol. Maent yn galw ar Lywodraeth Cymru i amddiffyn y grant atal digartrefedd, gan ddweud ei fod wedi rhoi platfform i ffynonellau eraill o arian gael eu defnyddio ar gyfer gwaith atal, ei fod yn arbed arian a bod gweithio gyda Cefnogi Pobl yn sicrhau bod cymaint o bobl ag y bo modd yn cael cefnogaeth gynnar. Sut rydych yn ymateb i’r alwad honno ochr yn ochr â Cefnogi Pobl?
Rwy’n ddiolchgar iawn am gwestiwn yr Aelod. Nid wyf yn amau ei uniondeb yn dwyn hyn i fy sylw heddiw, ond yr hyn rwyf am ei ddweud wrth yr Aelod yw bod yn rhaid rheoli ein buddsoddiadau yn strategol ar sail ein cyllidebau sy’n lleihau flwyddyn ar ôl blwyddyn. Yr hyn y mae’n rhaid i ni ei wneud, a’r hyn rydym wedi ei wneud yng Nghymru, yw diogelu’r gyllideb Cefnogi Pobl, pan fo’r gyllideb Cefnogi Pobl wedi diflannu yn Lloegr o dan weinyddiaeth y DU. Rydym yn awyddus iawn i gynnal y gyllideb honno. Ni allaf warantu y bydd yn cyrraedd yr un lefel, ond gallaf ddweud wrthych—a gofynnodd yr Aelod hyn yn benodol mewn perthynas â’r cwestiwn ar ddigartrefedd—rydym wedi mabwysiadu dull gwahanol iawn yma yng Nghymru. Mae’r gostyngiad o 63 y cant yn y ffigurau digartrefedd a gofnodwyd yma yng Nghymru yn ostyngiad sylweddol ar gyfer cefnogi gwasanaethau. Mae’n rhaglen sy’n cael ei hystyried ar hyn o bryd gan Lywodraeth y DU. Yng Nghymru, dylem fod yn dathlu’r gwaith atal a wnawn. Rwy’n cydnabod pa mor bwysig yw cyllid i sefydliadau; ond a allaf ei warantu ar hyn o bryd? Na, ni allaf wneud hynny.
Fy nghwestiwn, yn hytrach, oedd pa sylwadau y byddech yn eu gwneud. Yn amlwg, rwy’n deall sut y mae cylch cynllunio’r gyllideb yn gweithio, ac nid oeddwn yn ceisio sgorio pwyntiau gwleidyddol. Roeddwn yn llwyr gefnogi diogelu’r gyllideb honno y llynedd a byddaf yn parhau i wneud hynny yn y dyfodol, nid yn unig oherwydd digartrefedd, ond oherwydd effaith gysylltiedig ymyrraeth gynnar ar gamddefnyddio sylweddau, ar gam-drin domestig a chymaint o bethau eraill sy’n arwain at bwysau costus ar wasanaethau statudol. Rwy’n gobeithio y byddwch yn cydnabod bod hon yn ffordd o arbed arian ac yn ffordd o dorri cyllidebau drwy feddwl yn gyfannol yn Llywodraeth Cymru.
Y goes olaf ar y stôl mewn perthynas â hyn, ochr yn ochr â’r ddwy raglen honno, yw’r cyllid pontio ar gyfer tai—gan gefnogi pobl ar gyrion cymdeithas, lleihau’r galw ar adrannau damweiniau ac achosion brys, annog pobl i mewn i waith, helpu pobl i aduno gyda’u plant a llawer mwy. Mae Cymorth Cymru wedi gwneud y pwynt y bydd hwnnw—yn dilyn gostyngiad i £3 miliwn, rwy’n credu, y flwyddyn hon, o £5 miliwn y llynedd—yn dod i ben ar ddiwedd y flwyddyn hon. Ond os gellid ymgorffori hwn yn Cefnogi Pobl, byddai’r £130 miliwn, sef y swm wedi ei gyfuno, yn ein galluogi i fynd gam ymhellach i drechu ac atal ac ymyrryd a lleihau costau’r sector statudol fel rhan o setliad cyllideb tynn. Sut rydych yn ymateb i hynny?
Nid wyf yn twyllo fy hun ynglŷn â pha mor gadarnhaol yw’r ffrwd gyllido ar gyfer Cefnogi Pobl ac mae ei heffaith yn fawr o ran y dull ‘atal’ o ddarparu gwasanaethau. Mae fy nghyd-Aelodau yn y Cabinet yn cydnabod hynny hefyd a dyna pam ein bod wedi gwneud ein gorau o dan y Gweinidog blaenorol hefyd i ddiogelu cymaint o gyllideb Cefnogi Pobl ag y bo modd. Ond ni allwn barhau yn yr un ffordd. Rydym mewn lle gwahanol iawn o ran ein setliad ariannol. Mae’n rhaid i ni gael trafodaethau beiddgar a pharchus gyda sefydliadau sy’n darparu gwasanaethau ynglŷn â sut y gallant eu darparu’n well.
Llefarydd UKIP—Michelle Brown.
Diolch i chi, Lywydd. Rwyf am ddod yn syth at y cwestiynau. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i nodi a diogelu merched sydd mewn perygl yn sgil anffurfio organau cenedlu menywod a pha adnoddau a ddarparwyd i’r GIG, y gwasanaethau cymdeithasol a’r ysgolion i gefnogi’r mesurau hynny?
Diolch i’r Aelod am ei chwestiwn. Rydym wedi deddfu yng Nghymru mewn perthynas â thrais yn erbyn menywod a chamfanteisio rhywiol. Mae gennym raglen ar y cyd gyda’r GIG sy’n ymwneud ag anffurfio organau cenedlu menywod—a sefydliadau trydydd sector eraill. Mae’n flaenoriaeth yn fy adran i wneud yn siŵr bod diogelwch ein cymunedau ac unigolion yn cael eu cynnal a byddaf yn parhau i wneud hynny.
Mae llawer o bobl o gymunedau lle mae anffurfio organau cenedlu menywod yn cael neu wedi cael ei arfer yn gweithio’n galed i’w atal yng Nghymru a helpu ei ddioddefwyr. Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi i elusennau sy’n ymwneud â’r gwaith hollbwysig hwn?
Nid oes gennyf unrhyw ffigurau ar gyfer yr Aelod heddiw, ond fe ysgrifennaf at yr Aelod gyda manylion pellach. Fel y dywedais yn gynharach, mae hwn yn faes cymhleth iawn o ran yr hyn y credir ei fod yn dderbyniol yn gymdeithasol yn rhai o’r cylchoedd hyn. Mae’n amlwg nad yw’n dderbyniol. Nid ydym yn credu hynny. Ac rydym yn gweithio gyda sefydliadau trydydd sector—mae’n ddrwg gennyf, y sector cyhoeddus, fel y GIG, a’r heddlu hefyd mewn perthynas ag euogfarnau yn erbyn unigolion sy’n gwneud hyn.
Caiff arferion diwylliannol eu trosglwyddo o genhedlaeth i genhedlaeth, ac mae anffurfio organau cenedlu menywod yn benodol yn cael ei wneud i ferched bach gan oedolion, er budd dynion yn y diwylliant patriarchaidd yn y pen draw. Beth rydych chi’n ei wneud i herio’r gwerthoedd diwylliannol sy’n arwain at anffurfio organau cenedlu menywod, yn enwedig ymhlith dynion sy’n perthyn i ddiwylliannau lle mae anffurfio organau cenedlu menywod yn cael ei arfer?
Mae gennym fforwm ffydd, fforwm rwy’n gadeirydd arno, ochr yn ochr â’r Prif Weinidog. Rydym yn gweithio ar y gallu i helpu diwylliannau i newid o’r tu mewn, yn hytrach na dweud wrthynt beth y dylai pobl fod yn ei wneud. Mae’n rhaid i ni weithio gyda sefydliadau cydymdeimladol sy’n gallu gweithio a gweithredu o fewn y diwylliant neu’r ffydd. Rydym yn cael peth llwyddiant ond mae llawer iawn mwy o waith i’w wneud yn y maes hwn.
Llefarydd Plaid Cymru, Bethan Jenkins.
Ysgrifennydd y Cabinet, y tro diwethaf y cawsom y cwestiynau hyn oedd cyn refferendwm yr UE, a gwnaeth nifer o Aelodau sylwadau ar faint o gynlluniau gwrthdlodi sy’n cael eu hariannu gan yr UE. Felly, gwyddom bellach, wrth gwrs, fod y rhai a fu’n ymgyrchu i adael yr UE, gan gynnwys rhai o aelodau’r Blaid Lafur, fel Gisela Stuart, wedi addo y bydd pob ceiniog sy’n cael ei derbyn oddi wrth yr UE yn cael ei chadw. Ond pa gynlluniau wrth gefn rydych wedi eu gwneud, gyda’ch swyddogion, os na chaiff rhai o’r cynlluniau gwrthdlodi hyn eu diogelu?
Mae’r Aelod yn gofyn cwestiwn pwysig iawn, ac mae’r Prif Weinidog wedi bod yn glir iawn, o ran trafodaethau gyda Llywodraeth y DU, ynglŷn â sut a phryd rydym yn disgwyl gweld cyllid yn cael ei gyflwyno. Hyd yn hyn, nid ydym wedi cael fawr o arwydd, na fawr o lwc gyda hynny, ond mae’n pwyso’n galed iawn ar y DU. Rydym wedi gwneud rhai asesiadau o effeithiau gadael yr UE, yn enwedig mewn perthynas â sgiliau, swyddi a’r ardal twf, sy’n destun pryder penodol i ni, ond yr hyn na allwn ei addo yw y gallwn liniaru’r symiau sylweddol o arian sy’n dod o Ewrop i Gymru—y gallwn ôl-lenwi’r bylchau hynny’n hawdd iawn. Mae’n rhaid i ni flaenoriaethu ein rhaglenni yn y dyfodol. Rydym yn parhau i wneud gwaith ar hynny.
Diolch am eich ymateb. Mae llawer iawn o bryder/diddordeb wedi bod ymysg llawer o blith y sefydliad gwleidyddol fod llawer o’r ardaloedd a elwodd fwyaf o arian Ewropeaidd wedi pleidleisio dros adael. Ond er gwaethaf yr holl arian sy’n mynd i’r Cymoedd, mae tlodi, tai gwael a chyflogaeth ansicr yn parhau i fod yn ffeithiau bywyd i lawer o bobl sy’n byw yno. Felly, gellid gweld y bleidlais hon fel rheithfarn ar y modd y mae Llywodraeth Cymru wedi gweinyddu biliynau o bunnoedd o arian yr UE, yn hytrach na’r sefydliad ei hun. A ydych yn derbyn, felly, nad yw trechu tlodi yn ymwneud yn unig â’r rhif y byddwch yn ei roi ar ôl yr arwydd punt ar y datganiad i’r wasg, ond yn hytrach â’r modd y byddwch yn gwario cyllidebau sy’n bodoli, ac os nad ydych yn rhoi’r hyn y mae cymunedau wirioneddol eu hangen iddynt, neu os nad ydych yn ymgynghori’n effeithiol â hwy, yna mae’n bosibl y bydd eu rhybuddio bod yr arian mewn perygl yn cael ei weld fel bygythiad gwag i’r mathau hynny o bobl?
Rwy’n credu bod yr Aelod yn gwneud pwynt diddorol iawn. A bydd yr Aelod yn ymwybodol o’i chyd-Aelodau yn y Llywodraeth hefyd yn hyrwyddo ac yn gwario peth o’r arian Ewropeaidd ledled Cymru dros nifer o flynyddoedd yn flaenorol.
I mi, a’r pwynt pwysig roedd yr Aelod yn ceisio ei wneud, rwy’n credu, oedd na ddylem godi ofn ar bobl o ran yr hyn sy’n mynd i ddigwydd—dylem fod yn cynnig gobaith a chyfleoedd iddynt. A’r hyn rwy’n ceisio ei wneud yn yr adran hon, mewn perthynas â dwy thema rwy’n eu gwthio’n galed iawn—. Mae un yn ymwneud â chadernid economaidd i gymuned, ac mae’r llall yn ymwneud â lles—lles y gymuned, lles yr unigolyn neu’r gymuned ehangach. Os gallwn gael y ddau beth hwnnw’n iawn, rwy’n credu y gallwn ddechrau tynnu pobl allan o dlodi. A chyfarfûm ag un o’r sefydliadau y bore yma, Sefydliad Bevan, i siarad am rai o’r materion sydd gennym mewn golwg ar gyfer newid ein strategaeth tlodi wrth i ni symud ymlaen.
Diolch am hynny, ond rwy’n credu bod angen i ni gydnabod hefyd nad yw rhai o leiaf o’r biliynau hynny wedi cyflawni’r nod a fwriadwyd ar eu cyfer, ac rwy’n credu bod angen i ni fod yn agored am y ffaith honno. Mae’n sicr yn wir fod cyllid ar gyfer rhaglenni gwrthdlodi mewn perygl, a dylid gwneud cynlluniau wrth gefn, fel rydych wedi nodi, i ddod yn fwy cadarn.
Ond mae’n rhaid i ni dderbyn hefyd y gallai’r atebion gynnwys y nesaf peth i ddim costau er mwyn gwneud arbedion yn y tymor hir. Er enghraifft, rydym wedi ceisio deddfu ar wahardd contractau dim oriau mewn gofal cymdeithasol, pleidleisiodd eich Llywodraeth yn erbyn ymdrechion i ddiddymu angen blaenoriaethol fesul cam, a rhoi diwedd ar y prawf Pereira yn y system ddigartrefedd fel bod gan bawb hawl i dŷ. Felly, gallwch weld sut y gallem wneud hyn heb orfod pwmpio miliynau o bunnoedd eto i mewn i hynny. Sut rydych chi’n edrych ar fathau newydd o fentrau, o ganlyniad i’r bleidlais hon, a sut y byddwch chi wedyn yn ceisio eu gweithredu fel Llywodraeth?
Byddaf yn gwneud datganiad yn fuan y mis nesaf ynglŷn â’r is-adran cymunedau a’n gweledigaeth ar gyfer y cyfleoedd i gymunedau ar draws Cymru, a fydd yn fwy manwl o ran sut rydym yn gweld trechu tlodi yn ymddangos ar frig ein hagenda. Gwnaeth yr Aelod ddatganiad cyffredinol iawn am yr hyn sydd heb weithio gyda chyllid Ewropeaidd, ond ni roddodd unrhyw fanylion i mi ynglŷn â’r hyn sydd heb weithio, ond rwy’n fwy na hapus i gael trafodaeth bellach gyda’r Aelod. Yr hyn y dylem ei wneud yw peidio â bod yn amharod i wynebu risg yn rhai o’r pethau a wnawn. Weithiau mae’n rhaid i ni dreialu pethau mewn cymunedau, i weld os ydynt yn gweithio er mwyn gwneud y newid, ac rwy’n credu y dylem fod yn gadarnhaol iawn ynglŷn â’r rhaglenni rydym wedi eu gwneud ac wedi eu darparu a pheidio â bychanu Cymru drwy’r amser.