– Senedd Cymru ar 21 Medi 2016.
Symudwn ymlaen at yr eitem nesaf ar yr agenda, sef dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar drafnidiaeth yng ngogledd Cymru a galwaf ar Mark Isherwood i gynnig y cynnig—Mark.
Cynnig NDM6093 Paul Davies
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod pwysigrwydd cysylltiadau trafnidiaeth yng ngogledd Cymru, a rhwng gogledd Cymru a gogledd-orllewin Lloegr, a Chanolbarth Lloegr.
2. Yn credu bod y cynigion o fewn ‘Gweledigaeth ar gyfer Twf yr Economi yng Ngogledd Cymru’ yn cynnig sail ar gyfer gwella perfformiad economaidd yng ngogledd Cymru.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
(a) cyhoeddi cynllun i wella ac uwchraddio cefnffordd yr A55 i fynd i’r afael â thrafferthion tagfeydd, risg o lifogydd, a diffyg llain galed mewn rhai ardaloedd;
(b) gweithio gyda Llywodraeth y DU a Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru i sicrhau bod llinell gogledd Cymru yn cael ei huwchraddio;
(c) gweithio gyda rhanddeiliaid i sefydlu cynllun cerdyn teithio trafnidiaeth integredig ar gyfer gogledd Cymru;
(d) cyhoeddi cynllun busnes manwl ar gyfer datblygu Metro Gogledd Cymru.
Yn dilyn cyhoeddi gweledigaeth ar gyfer twf gan Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru ar gyfer economi gogledd Cymru a’i chyflwyno i Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru, mae’r cynnig hwn yn ddiedifar yn ymwneud â gogledd Cymru.
Cefnogir y weledigaeth gan arweinwyr a phrif weithredwyr y chwe awdurdod unedol yn y rhanbarth, Clwb Busnes Gogledd Cymru, Prifysgol Bangor, Prifysgol Glyndŵr, Coleg Cambria a choleg Grŵp Llandrillo Menai.
Mae Gogledd Cymru yn rhanbarth unedig gydag ymdeimlad cryf o hunaniaeth, ac mae’r weledigaeth yn rhoi cyfeiriad clir ar gyfer cynllunio yn y dyfodol. Mae’n nodi nodau a dyheadau a rennir
‘Rhanbarth hyderus, cydlynol sydd â thwf economaidd cynaliadwy, sy’n elwa i’r eithaf o lwyddiant sectorau economaidd gwerth uchel a’i gysylltiad ag economïau Pwerdy’r Gogledd ac Iwerddon’.
Er ein bod yn cytuno â gwelliant 1 Plaid Cymru am bwysigrwydd cysylltiadau trafnidiaeth ar gyfer Cymru gyfan, nid yw’n briodol ar gyfer y ddadl hon sydd ar ogledd Cymru yn benodol. Fodd bynnag, byddwn yn cefnogi gwelliant 2 Plaid Cymru, sy’n cyfateb i gynigion y Ceidwadwyr Cymreig am gerdyn teithio ar drafnidiaeth integredig ar gyfer Cymru gyfan, gan gydnabod y byddai cynllun penodol i ogledd Cymru yn fater ar gyfer gogledd Cymru o dan y pwerau datganoledig y mae’n eu ceisio. Mae ein cynnig yn cydnabod pwysigrwydd cysylltiadau trafnidiaeth yng ngogledd Cymru a rhwng gogledd Cymru a gogledd-orllewin Lloegr a chanolbarth Lloegr, ac mae’n credu bod y cynigion sydd wedi eu cynnwys yn ‘Gweledigaeth ar gyfer Twf yr Economi yng Ngogledd Cymru’ yn cynnig sail ar gyfer gwella perfformiad economaidd gogledd Cymru.
Cyhoeddodd Llywodraeth y DU, yn ei chyllideb ym mis Mawrth 2016 ei bod yn agor
‘y drws i gynllun twf ar gyfer gogledd Cymru’ ac y byddai, yn hollbwysig, yn disgwyl i Lywodraeth nesaf Cymru ddatganoli pwerau i lawr a buddsoddi yn y rhanbarth fel rhan o unrhyw gytundeb yn y dyfodol. Mae Llywodraeth y DU hefyd wedi annog partneriaid lleol i flaenoriaethu eu cynigion, sef yn union yr hyn y mae’r weledigaeth hon ar gyfer twf yn ei wneud wrth alw am ddatganoli pwerau gan Lywodraeth Cymru dros gyflogaeth, trethi, sgiliau a thrafnidiaeth, gan ddweud y byddai hyn yn hybu’r economi, swyddi a chynhyrchiant, yn creu o leiaf 120,000 o swyddi ac yn chwyddo gwerth yr economi leol o £12.8 biliwn i £20 biliwn erbyn 2035.
Fel y mae’r weledigaeth yn datgan:
‘Mae’r rhanbarth wedi’i baratoi ac yn barod i dderbyn cyfrifoldebau a phwerau newydd ar benderfyniadau allweddol sy’n effeithio arno... drwy ymagwedd "Tîm Gogledd Cymru”.’
Ymhlith yr enghreifftiau y maent yn eu darparu mae:
‘Integreiddio rhaglenni cyflogaeth a sgiliau ar y lefel ranbarthol’, gan gynnwys mentrau sgiliau Llywodraeth Cymru
‘i fynd i’r afael â diweithdra mewn ffordd lawer mwy ystyrlon ac effeithiol’; cronfa fuddsoddi wedi’i gwarantu gan asedau y gellid ei chyflawni pe bai asedau awdurdodau lleol a chyrff cyhoeddus Llywodraeth Cymru ‘yn cael eu pwlio’;
‘Cynllunio defnydd tir strategol... adnabod cyflenwad tir sydd ei angen ar gyfer twf tai’ a thwf economaidd
‘yn fwy rhanbarthol a strategol, ynghyd ag adnabod safleoedd strategol;’
‘Awdurdod trafnidiaeth rhanbarthol gyda’r cyfle i flaenoriaethu cynlluniau’ o bob rhan o’r rhanbarth;
‘Tîm cefnogi busnes a masnach’; a chyda chyfraddau busnes wedi’u datganoli i Gymru,
‘Pwerau cyllidol newydd ar y lefel ranbarthol’ yn enwedig ‘prosiectau Cyllid Cynyddu Treth’ a ariannir drwy enillion refeniw treth ardrethi busnes ychwanegol ‘o weithgareddau datblygu’r economi’.
Felly, mae angen i ogledd Cymru a Llywodraeth y DU glywed gan Lywodraeth Cymru sut y mae’n bwriadu ymateb a symud hyn yn ei flaen. Mae’n destun pryder felly fod arweinydd y tŷ Llywodraeth Cymru, pan alwais am ymateb Llywodraeth Cymru i’r weledigaeth ar gyfer twf gogledd Cymru yma yr wythnos diwethaf, wedi dweud eu bod yn aros am ymateb Llywodraeth y DU. Wel, oes, mae angen ymateb Llywodraeth y DU, ond byddwn yn dadlau ein bod angen ymateb Llywodraeth Cymru yn gyntaf, ac mae gogledd Cymru angen clywed ymateb Llywodraeth Cymru o ystyried mai eu prif alwadau yw’r rhai ar Lywodraeth Cymru i ddatganoli’n fewnol. Nid oedd safbwynt Llywodraeth Cymru, fel y’i disgrifiwyd ddoe, yn ddigon da felly, ac rydym yn gobeithio clywed gwell heddiw.
Byddai polisi’r Ceidwadwyr Cymreig, a amlinellwyd yn etholiad cyffredinol Cymru 2016, yn creu pwerdy gogledd Cymru. Trwy weithio gydag awdurdodau lleol, grwpiau busnes a’r sector gwirfoddol, byddai’r Ceidwadwyr Cymreig yn datganoli ysgogwyr economaidd allweddol ac yn darparu gwir ddatganoli i ogledd Cymru, gan ddatganoli pwerau i fwrdd rhanbarthol gogledd Cymru, cyflwyno ysgogwyr twf economaidd i ogledd Cymru a gadael i fusnesau a phobl gymryd rheolaeth. Byddai’r rhain yn cynnwys pwerau ychwanegol dros ardrethi busnes, cynllunio a thrafnidiaeth integredig drwy gorff annibynnol.
Mewn cyfarfod ym mis Tachwedd 2012, a fynychwyd gan arweinwyr a phrif weithredwyr awdurdodau lleol a’r gymuned fusnes yng ngogledd Cymru, ac a gadeiriwyd gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru ar y pryd, David Jones, cytunwyd y byddai Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru yn datblygu achos busnes ar gyfer trydaneiddio’r rheilffordd o Gaergybi i Crewe ac yn datblygu camau gweithredu a strategaethau ar gyfer trafnidiaeth yng ngogledd Cymru.
Cyhoeddwyd adroddiad Growth Track 360 ym mis Mai 2016 gan Gynghrair Mersi a’r Ddyfrdwy, Partneriaeth Leol Swydd Gaer a Warrington a Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, i alw am fuddsoddi sylweddol yn y rheilffyrdd i alluogi twf yn economi trawsffiniol gogledd Cymru a rhanbarth Mersi a’r Ddyfrdwy. Cyn hyn, nododd dogfen gogledd Cymru a Phwerdy’r Gogledd, ‘Fast Track to Growth’ fod gogledd Cymru, ardal Mersi a’r Ddyfrdwy yn Swydd Gaer a choridor yr M56 a’r A55 yn ffurfio economi ranbarthol sy’n werth £35 biliwn, ac mae 1 filiwn o deithiau cymudo trawsffiniol rhwng gogledd Cymru a gogledd-orllewin Lloegr bob mis. Ychwanegodd, fodd bynnag, mai yng ngogledd Cymru y mae’r gyfran uchaf o bobl sy’n teithio i’r gwaith yn y car yn y DU, ac mae seilwaith trafnidiaeth gwael yn tagu twf economaidd; er bod twristiaeth yn werth £1.8 biliwn i economi gogledd Cymru, sy’n cyfateb i 40,000 o swyddi, mae’r gwasanaethau trên presennol yn llyffetheirio cystadleurwydd y rhanbarth; a bod trafnidiaeth cludo nwyddau o Iwerddon yn cyrraedd Caergybi ar gerbydau nwyddau trwm gyrru mewn ac allan, ac yn parhau eu taith ar hyd ffyrdd llawn tagfeydd.
Mae gwerth ychwanegol gros, fel y gwyddom, yn mesur gwerth y nwyddau a’r gwasanaethau fesul y pen o’r boblogaeth a gynhyrchir mewn economi. Mae datblygu economaidd wedi cael ei ddatganoli i ddwylo Llywodraeth Cymru ers 1999. Yn ôl y ffigurau diweddaraf a gyhoeddwyd, gorllewin Cymru a’r Cymoedd, gan gynnwys pedair o siroedd gogledd Cymru—Ynys Môn Gwynedd, Conwy a Sir Ddinbych—sydd â’r gwerth ychwanegol gros isaf o holl is-ranbarthau’r DU, ar 64 y cant o gyfartaledd y DU. Ynys Môn sydd â’r gwerth ychwanegol gros isaf o bob ardal leol yn y DU, ar 53.5 y cant yn unig o gyfartaledd y DU. Mae hyd yn oed gwerth ychwanegol gros y pen yn Wrecsam a Sir y Fflint, a oedd yn 99.3 y cant o gyfartaledd y DU yn 1999, wedi gostwng bellach i 86 y cant yn unig o gyfartaledd y DU. Felly, yn y cyd-destun hwn y mae Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru yn datgan:
Mae’r Weledigaeth yn ategu’r strategaeth sy’n datblygu ar gyfer Pwerdy’r Gogledd, wedi’i hintegreiddio’n llawn â chyflwyniad Cais Strategaeth Twf Partneriaeth Menter Leol Swydd Gaer a Warrington, ac yn cynnwys cynllun Growth Track 360 ar gyfer buddsoddi yn y rheilffyrdd yn ganolog iddo. Trwy adeiladu strategaeth fuddsoddi o amgylch y weledigaeth hon sy’n edrych tuag allan gallwn lwyddo i fanteisio ar y cyfleoedd yn rhanbarth Gogledd Cymru gan ychwanegu gwerth i set gydgysylltiedig a chronnus o gynlluniau rhanbarthol ar gyfer Gogledd Lloegr ac economi ehangach y DU.
Felly, mae ein cynnig yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi cynllun i wella ac uwchraddio cefnffordd yr A55. O ran yr A55, mae’r ddogfen ‘Gweledigaeth ar gyfer Twf’ yn galw am brosiectau strategol, gan gynnwys gwelliant hirddisgwyliedig Aston Hill, llwybr amgen pont Sir y Fflint, problemau tagfeydd yn Helygain ac Abergele, cyffordd yr A483/A55 ym mharc busnes Caer, y fynedfa i borthladd Caergybi a chroesiad y Fenai. Mae trydydd croesiad y Fenai wedi bod ar yr agenda ers mwy na degawd. Nododd ymgynghoriad a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru yn 2007 wyth opsiwn i leddfu ôl-groniad traffig ar bont Britannia, ond ni wnaed dim ers hynny. Felly, dyfalwch beth, neidiwch ymlaen i fis Awst 2016 ac mae Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi bod ymgynghorwyr i gael eu llogi yn ddiweddarach eleni i edrych ar lwybrau ar gyfer croesiad newydd arfaethedig i Ynys Môn. Gallai sinig ddweud ei bod yn ‘groundhog day’ unwaith eto. Ni all Gogledd Cymru fforddio rhagor o gamau gweithredu ymddangosiadol fel llen fwg i beidio â gwneud dim am naw mlynedd.
Mae ein cynnig yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda Llywodraeth y DU ar Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru er mwyn cyflwyno gwelliannau i reilffordd gogledd Cymru. Ochr yn ochr â thrydaneiddio, mae’r ddogfen ‘Gweledigaeth ar gyfer Twf’ yn galw am wella amlder y gwasanaethau a chyflymder, gwelliannau i gynhwysedd y rhwydwaith, gwelliannau i’r stoc cerbydau a gwella gorsafoedd yng Nglannau Dyfrdwy, ac mae llawer o hyn yn nwylo Llywodraeth Cymru, yn hytrach na Llywodraeth y DU.
Mae tua 30 y cant o economi Cymru yng ngogledd-ddwyrain Cymru, ac ni all fod yn dderbyniol mai 1 y cant yn unig sy’n teithio i’r gwaith ar y rheilffyrdd yn Sir y Fflint a 0.9 y cant yn Wrecsam, neu fod un o bob pump o’r bobl sy’n ymgeisio am waith ym mharc diwydiannol Glannau Dyfrdwy wedi gwrthod cyfweliadau neu gynnig swyddi wedyn oherwydd anhygyrchedd—yn cynnwys fy mab hun bellach.
Yn dilyn buddsoddiad o £10.7 miliwn gan Lywodraeth y DU, cymeradwyodd awdurdod cyfunol dinas-ranbarth Lerpwl achos busnes llawn a chamau i ryddhau arian ychwanegol ar gyfer cyflawni cynllun troad Halton ym mis Ebrill, gan gynnig cysylltiadau newydd rhwng Lerpwl, Maes Awyr John Lennon Lerpwl, Runcorn, Frodsham, Helsby a Chaer, ond ‘yn y dyfodol’ yn unig y mae cysylltiadau â gogledd Cymru am fod Llywodraeth Cymru yn llusgo ei thraed fel arfer.
Mae ein cynnig yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi cynllun busnes manwl ar gyfer datblygu metro gogledd Cymru, er bod cynigion Llywodraeth Cymru yn parhau i fod yn amwys ac wedi’u datgysylltu oddi wrth y dull cydweithredol a geisir yn y weledigaeth ar gyfer twf nad yw hyd yn oed yn sôn am fetro gogledd Cymru. Fel y mae’r ddogfen ‘Gweledigaeth ar gyfer Twf’ yn casglu, mae gogledd Cymru mewn sefyllfa dda i gael amrywiaeth o gyfrifoldebau newydd, ac mae’n hyderus y bydd y pwerau cyd-drafod a ddatganolir i’r rhanbarth yn cael effaith gadarnhaol, gan roi hwb i lefelau cynhyrchiant a gwella rhagolygon cyflogaeth ein trigolion—gweledigaeth a gefnogir gan arweinwyr Plaid Cymru, arweinwyr Llafur, arweinwyr annibynnol, cabinetau gydag aelodau o bob plaid, gan gynnwys fy mhlaid fy hun, a’r holl gymuned fusnes a’r trydydd sector. Felly, mater i Lywodraeth Cymru yn awr yw cyflawni hyn.
Rwyf wedi dethol y ddau welliant i’r cynnig, ac rwy’n galw ar Dai Lloyd i gynnig gwelliannau 1 a 2 a gyflwynwyd yn enw Simon Thomas.
Diolch yn fawr, Lywydd, ac rwy’n falch o gymryd rhan yn y ddadl yma, fel cysgod Weinidog ar isadeiledd. Fel mae Mark wedi crybwyll eisoes, mae yna nifer o bethau yn fan hyn y gallwn ni i gyd gytuno â nhw. Yn sylfaenol, mae’r drafodaeth yma ynglŷn â thrafnidiaeth a phwysigrwydd hynny a’r dylanwad mae’n ei gael ar yr economi leol. Ni fuaswn i ddim yn anghytuno â hynna. Wrth gwrs, mae’n rhoi cyfle i fi ofyn ichi nodi, o’r ffordd rwy’n ynganu yn Gymraeg, fy mod yn wreiddiol yn dod o sir Feirionnydd ta beth, ac mae’r materion hyn yn dal yn agos at ein calonnau ni.
Nawr, wrth gwrs, mae yna nifer o gyfleoedd er mwyn hybu gweithgaredd trawsffiniol rhwng y gogledd a Lloegr, ac wrth gwrs, mewn cenedl sydd yn aeddfed, nid ydym ni’n meindio siarad am weithio trawsffiniol, a hyd yn oed hybu’r gweithgaredd trawsffiniol yna er mwyn hybu economi ranbarthol y gogledd. Ond, ni ddylai’r holl sôn yna am hybu gweithgaredd trawsffiniol rhwng Cymru a Lloegr ddim amharu, na bod ar draul, adeiladu economi annibynnol hefyd yng Nghymru ynddi ei hun wrth wella cysylltiadau yma yng Nghymru rhwng ein gwahanol cymunedau ni a datblygu ein hisadeiledd trafnidiaeth mewnol ni ein hunain, a dyna ydy sail y gwelliannau sydd gerbron. Achos mae yna un Llywodraeth ar ôl y llall ar raddfa yn Llundain, a hefyd yma yng Nghymru, wedi canolbwyntio gormod, rwy’n credu, ar ddefnyddio dinasoedd mawr i yrru twf economaidd, gan obeithio am obaith rhaeadru i ardaloedd megis gogledd Cymru. Nid ydy hynny wedi digwydd. Gobeithio bod pethau yn ‘trickle-o’ i lawr—nid ydy o ddim wedi digwydd, ac mae’n agwedd gyfan gwbl anghywir, wrth gwrs.
Wrth gwrs, mae yna sôn yn y cynnig am adroddiad Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, sy’n credu bod gweithio ar lefel ranbarthol yn allweddol i ddatgloi potensial ardal y gogledd. Ac, wrth gwrs, mi fuaswn i’n cytuno 100 y cant â hynna, ac wrth gwrs, dyna pam yr ydym ni fel plaid, wrth gytuno â’r cysyniad yna, wedi lansio ein polisi ni yn ein rhaglen wrthblaid a fuasai’n sefydlu asiantaethau datblygu rhanbarthol er mwyn datgloi potensial economaidd, gyda pholisïau economaidd rhanbarthol. Ie, cytuno yn gryf iawn â hynna.
Ond, jest i droi, yn yr amser sydd gyda fi ar ôl, i sôn yn benodol am drafnidiaeth a sôn am ein gwelliannau ni. Mae’r cyntaf yn cydnabod pwysigrwydd cysylltiadau trafnidiaeth o fewn Cymru a rhwng Cymru a gweddill Prydain ac Ewrop, yn ogystal â sôn am yr angen i gyflwyno un cerdyn trafnidiaeth i Gymru i gysylltu ein holl gymunedau mewn system drafnidiaeth integredig. Rwy’n falch o’r gefnogaeth i’r dyhead yna, ond ar draws gwlad—ac yr ydym ni i gyd wedi bod yn ymgyrchu am nifer o flynyddoedd—un o’r cwestiynau sylfaenol sydd wastad yn cael eu gofyn ydy: pam mae hi’n cymryd mor hir i fynd o’r de i’r gogledd, neu i fynd o’r gogledd i’r de yma yng Nghymru? Ac mae’r cwestiwn yn dal heb gael ei ateb. Mae’n cymryd tair i bedair awr. Rŷch chi’n gwybod, pan fo gyda chi gyfarfod yn y gogledd—neu os ydw i’n mynd i weld teulu yn y gogledd—rŷch chi’n gwybod mae hi’n mynd i gymryd y dydd cyfan, ac mae’n rhaid ichi fod yn cynllunio ymlaen llaw, ac mae wastad yn teimlo yn bell iawn i ffwrdd. Nid dyna’r modd i ddatblygu gwlad ac undod cenedl. Mae’n rhaid inni ddod yn nes at ein gilydd—
A wnaiff yr Aelod ildio?
Nick.
Diolch i chi am ildio, Dai. Cytunaf yn llwyr â chi am fanteision datblygu system cerdyn clyfar integredig. A fyddech yn cytuno y byddai cael amserlenni dibynadwy cwbl integredig yn ddechrau, fel y gallech, drwy bwyso botwm yn unig, weld yn union i ble mae’r gwasanaethau hynny’n mynd?
Buaswn i’n cytuno 100 y cant, a hefyd, pan mae yna fws neu drên yn dweud ei fod e’n mynd i droi i fyny ar ba bynnag amser, ei fod e’n troi i fyny ar yr amser hynny. Mae’n rhaid inni gael gwasanaeth dibynadwy hefyd.
Ond, wrth gwrs, mae’n rhaid inni wneud rhywbeth ynglŷn â’r pellter yma o’r gogledd i’r de pan na ddylai fe ddim bod. Mae gwledydd eraill â her fwy sylweddol na sydd gyda ni i glymu gogledd a de y wlad efo’i gilydd wedi llwyddo i wneud hynny yn nhermau trafnidiaeth, ac eto nid ydym ni’n gallu ei wneud e. Ydy, mae’n bwysig i’n huno ni fel cenedl, ac mae’n bwysig i dwf yr economi yn rhanbarthol a hefyd yn genedlaethol ein bod ni’n gallu gwella ein cysylltiadau. Ond yn nhermau bod yn y Senedd yma ac yn siarad am unrhyw ranbarth o Gymru, rydym ni’n sôn am yr angen i dyfu’r lle hwn i arwain cenedl unedig Gymreig yma yng Nghymru. Mae hynny’n dechrau, yn y bôn, â phethau syml fel ein gallu i gyrraedd y gogledd yn eithaf cyflym, fel nad ydyw i’w weld fel petai yn bell i ffwrdd, a bod pobl sydd yn byw yn y gogledd ddim yn credu bod y de hefyd yn bell i ffwrdd, a ddim eisiau dod yma, a’i fod yn llawer haws mynd dros y ffin a cholli allan ar beth mae gweddill y genedl yn ei gynnig iddyn nhw.
Yn y diwedd, rydym yn sôn am drafnidiaeth, ond rydym ni hefyd yn sôn am yr angen gwirioneddol i dyfu cenedl. Yn y bôn, fel yr hen air,
‘Cawsom wlad i’w chadw, / darn o dir yn dyst / ein bod wedi mynnu byw.’
Diolch yn fawr.
Fel Cadeirydd y grŵp trawsbleidiol sydd newydd ei ethol ar faterion trawsffiniol hoffwn ganolbwyntio fy nghyfraniad a fy sylwadau heddiw ar heriau a chyfleoedd cydweithio trawsffiniol a’r angen am well cysylltedd rhwng gogledd Cymru a Phwerdy’r Gogledd sy’n datblygu yng ngogledd Lloegr. Trwy gadarnhau bod gogledd Cymru yn rhan bwysig o’r rhanbarth economaidd newydd hwn, mae gennym botensial, rwy’n credu, i weld twf sylweddol yng ngogledd Cymru ac ail-gydbwyso economi Cymru rhag gorddibyniaeth ar Gaerdydd a de Cymru.
Nid wyf yn ceisio bychanu neu anghytuno â’r sylwadau a wnaeth Dai Lloyd mewn perthynas â gwell cysylltiadau rhwng y gogledd a’r de ond, Lywydd, mae symudiadau trawsffiniol yn ffaith reolaidd, rwy’n meddwl, i bobl sy’n byw mewn llawer o rannau o Gymru. Yng ngogledd Cymru, mae’n hollol hanfodol i economi gogledd Cymru; ceir economi gyfunol ar hyd coridor yr M56 a’r A55 sy’n werth £31 biliwn—yn ôl adroddiad Hansard. Yn hytrach nag edrych i’r de tuag at Gaerdydd, y ffaith amdani yw bod pobl a busnesau canolbarth a gogledd Cymru yn tueddu i edrych tuag at Lerpwl, Manceinion a chanolbarth Lloegr, ac o ganlyniad, ni ddylai’r ffin fod yn rhwystr economaidd. Rwy’n gwybod y bydd y Gweinidog yn sicr yn cytuno â mi ar y pwynt hwnnw, gan ei fod yn byw lle mae’n byw yng Nghymru hefyd.
Ond bydd economi gogledd Cymru heb os yn parhau i elwa’n drwm o’r ffyniant a’r twf yng ngogledd Lloegr, gan gynnig cyfleoedd cyflogaeth a busnes i bobl yn rhanbarth gogledd Cymru. Mae’r aliniad economaidd agos yn golygu ei bod yn fwyfwy pwysig sicrhau bod cydweithredu trawsffiniol yn digwydd ar gyflawni prosiectau seilwaith. Nawr, mae llawer o bobl sy’n byw ger y ffin yn y gogledd yn cymudo ar draws y ffin bob dydd. Nodaf o waith ymchwil fod 85 y cant o’r teithiau trawsffiniol hyn yn digwydd ar hyd y ffyrdd. Felly, rwy’n meddwl y gellir priodoli hyn yn rhannol i’n gwasanaethau trên araf a gwael, ac annibynadwy yn aml, felly rhaid i seilwaith trafnidiaeth allu hwyluso llif pobl ar draws y ffin yn ddigonol, a nwyddau o ran hynny hefyd, os yw pobl yng ngogledd Cymru yn mynd i newid eu harferion teithio.
Nawr, mae’n iawn, rwy’n credu, fod Llywodraeth Cymru yn gweithio i gryfhau’r seilwaith trafnidiaeth o amgylch coridor yr A55 er mwyn sicrhau y gall cymunedau gysylltu â’r diwydiant a chyfleoedd buddsoddi yng ngogledd Lloegr, a fydd, yn eu tro, yn rhoi hwb i ffyniant a thwf cymdeithasol ac economaidd yng ngogledd Cymru. Ar ben hynny, mae’r rhwydwaith trafnidiaeth yng ngogledd Lloegr ar hyn o bryd yn elwa o gyfres o fuddsoddiadau Llywodraeth y DU, a bydd y gwelliannau hyn yn y rhwydwaith trafnidiaeth yn Lloegr yn sicrhau manteision sylweddol, rwy’n meddwl, i bobl sy’n byw yng ngogledd Cymru. Felly wrth gwrs, mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru ymgysylltu’n effeithiol â’r datblygiadau hynny.
Yn fy marn a fy mhrofiad i, fel rhywun sy’n byw ac yn cynrychioli etholaeth drawsffiniol fy hun, neu etholaeth ar y ffin, rhaid i Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru fynd ymhellach i adeiladu perthynas gryfach gyda’i gilydd. Byddai gennyf ddiddordeb mewn clywed barn Ysgrifennydd y Cabinet ar sut y mae wedi cryfhau’r berthynas hon yn dilyn pryderon a nodwyd gan y Pwyllgor Menter a Busnes blaenorol nad yw perthynas Llywodraeth Cymru gyda Transport for the North yn debyg i’r berthynas waith agos sydd rhwng Transport Scotland a’r corff hefyd. Rwy’n gobeithio y byddai’r Gweinidog yn gwneud sylwadau ar hynny.
Carwn ddweud yn ogystal fy mod wedi ysgrifennu yn ddiweddar, Ysgrifennydd y Cabinet, at ddau o’ch swyddogion i ofyn iddynt a fyddent yn mynychu’r grŵp trawsbleidiol ar faterion trawsffiniol er mwyn deall rhai o heriau gweithio’n drawsffiniol. Nid wyf wedi cael ateb eto; dim ond wythnos neu ddwy sydd ers hynny. Ond byddwn yn ddiolchgar pe gallech nodi eich parodrwydd iddynt fynychu’r grŵp trawsbleidiol, os yw hynny’n dderbyniol, Ysgrifennydd y Cabinet.
I gloi, Lywydd, mae gan ogledd Cymru gymuned fusnes uchelgeisiol ac mae angen gwelliannau seilwaith er mwyn helpu i gyflawni’r uchelgais a nodir gan Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru. Ychydig iawn o gig oedd ar asgwrn y rhaglen lywodraethu a amlinellwyd ddoe gan y Prif Weinidog, y tu hwnt i ymrwymiad llac i ddatblygu system metro gogledd Cymru. Ond rwy’n gobeithio y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn defnyddio’r cyfle yn ei ymateb i’n dadl heddiw i roi cnawd ar esgyrn rhai o’i gynlluniau.
Fel gogleddwr balch—nid wyf yn siŵr a grybwyllais i hynny yma erioed o’r blaen—croesawaf y ddadl heddiw a’r cyfle i allu cyfrannu. Fel y mae eraill wedi dweud, nid cysylltiad ffisegol llythrennol yn unig sydd gan ogledd Cymru â’n cymdogion agos yng ngogledd-orllewin Lloegr, rydym wedi ein cysylltu yn economaidd hefyd. Mae uwchraddio a buddsoddi yn seilwaith trafnidiaeth ein rhanbarth yn rhan allweddol o unrhyw strategaeth i dyfu a gwella ein heconomi ac yn y pendraw i ddatgloi potensial economaidd gogledd Cymru.
Amlinellodd maniffesto Llafur Cymru ar gyfer gogledd Cymru weledigaeth i gysylltu ein rhanbarth mewn dull mwy strategol ac i gynorthwyo i sicrhau twf economaidd cryfach ar gyfer yr ardal. Roedd y maniffesto’n dweud—peidiwch â phoeni, nid wyf yn mynd i’w ddarllen air am air yn awr—y byddem, o fewn 100 diwrnod i ffurfio Llywodraeth Lafur Cymru newydd, yn cynnal uwchgynhadledd o arweinwyr o ardal Mersi a’r Ddyfrdwy a Phwerdy’r Gogledd i fapio’r ffordd orau o greu economi ddynamig sydd o fudd i ddwy ochr y ffin. Ac edrychaf ymlaen at weld y cynnydd a wneir ar fapio’r llwybr er mwyn ein ffyniant economaidd.
Ac ar bwnc llwybrau—neu ffyrdd, yn agosach ati—fel y dywedodd ef, ac fel y dywedodd siaradwyr eraill blaenorol, mae uwchraddio ffyrdd fel yr A55 a’r A494 yn rhan hanfodol o alluogi’r economi ddynamig hon. Gwyddom fod y cyswllt o’r dwyrain i’r gorllewin, ac fel arall, yn llwybr allweddol ar gyfer teithio i ac o’r gwaith yn yr ardal. Gan edrych yn agosach ar drafnidiaeth gyhoeddus, deallaf fod tasglu ar reilffyrdd wedi ei sefydlu i chwilio am atebion i’r problemau a’r heriau cyfarwydd a glywyd droeon sy’n ein hwynebu yng ngogledd Cymru, boed hynny o ran seilwaith neu’r gwasanaethau eu hunain. Hoffwn ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet heddiw, a yw’r tasglu hwn yn gwbl weithredol, ac a allem gael y wybodaeth ddiweddaraf am ei gynnydd.
Yn ogystal, o ganlyniad i ddarnio gwasanaethau bws yn gyson a pharhaus, gall cysylltiadau bws fod yn heriol, a dweud y lleiaf. Mae etholwyr rwy’n siarad â hwy—nid yw etholwyr o reidrwydd yn ei gweld hi’n broblem gorfod mynd ar ddau fws, mae’n broblem pan fo’r bws y maent yn teithio arno yn cyrraedd 10 munud ar ôl i’r bws roeddent am fynd arno nesaf adael. Felly, mae angen i ni edrych hefyd ar gysylltiadau gwell, nid rhwng gwasanaethau bws, ond cysylltiadau â gwasanaethau trên yn y rhanbarth hefyd. Felly, byddwn yn annog rhoi sylw i hyn hefyd fel rhan o strategaeth gyffredinol ar gyfer trafnidiaeth a’r economi yng ngogledd Cymru. Diolch.
Wrth gwrs, roedd llawer o’r addewidion cyn datganoli ac un o ddaliadau craidd datganoli yn ymwneud â lleihau’r rhaniad rhwng gogledd a de Cymru. Yn wir, roedd maniffesto Llafur Cymru ar gyfer 1999 yn dweud hyn:
Rydym yn credu bod gwella cysylltiadau gogledd/de yn hanfodol i gydlyniad economaidd, cymdeithasol a diwylliannol Cymru yn y dyfodol.
Ac roedd yn addo mynd i’r afael â’r angen, y pryd hwnnw, am wella cysylltiadau ffyrdd a chyflwyno gwasanaeth trên newydd, cyflymach. Roedd eu partneriaid yn y glymblaid, y Democratiaid Rhyddfrydol, yn addo gwella ansawdd y rhwydwaith ffyrdd strategol rhwng y gogledd a’r de. Ac roedd maniffesto Plaid Cymru yr un flwyddyn yn nodi gwella cysylltiadau yng Nghymru rhwng y gogledd a’r de fel amcan allweddol, gan addo gwasanaeth trên cyflym o’r gogledd-orllewin i Gaerdydd fel blaenoriaeth frys, ynghyd â rhwydwaith ffyrdd gweddus "ffigur wyth" i roi cysylltiadau gogledd-de i bob cwr o Gymru a chysylltiadau â’r prif lwybrau o’r dwyrain i’r gorllewin, megis yr A40, yr A55 a’r M4.
Dyma ni, 17 mlynedd yn ddiweddarach—17 mlynedd o addewidion wedi eu torri gan Lafur, Plaid Cymru a’r Democratiaid Rhyddfrydol. Yn ddiweddar, mae Swyddfa Archwilio Cymru wedi beirniadu Llywodraeth Cymru am beidio â gwneud digon i werthuso manteision ei buddsoddiad yn rheilffyrdd Cymru. Trenau Arriva Cymru sydd â’r cerbydau hynaf yn y DU, gyda phob trên yn 27 mlwydd oed ar gyfartaledd, ac mae’r cymhorthdal i gyswllt awyr rhwng Caerdydd ac Ynys Môn bellach wedi codi 27 y cant eto mewn blwyddyn, gan gostio mwy na £1 filiwn bob blwyddyn i’r trethdalwyr. Ac wrth i Lywodraeth Cymru dorri 1.7 y cant oddi ar ei gwariant ar draffyrdd, cefnffyrdd, rheilffyrdd a theithiau awyr yn gyfunol yn ei chyllideb ar gyfer 2016-17, mae Llywodraeth y DU wedi cynyddu ei chyllideb ar drafnidiaeth 3.6 y cant, a gwelwyd cynnydd o 4.6 y cant yng ngwariant Llywodraeth yr Alban ar draffyrdd, cefnffyrdd a gwasanaethau trên.
Nawr, yn 2016, addawodd Llafur ryddhau potensial gogledd Cymru drwy ddatblygu system metro gogledd Cymru, ac uwchraddio’r A55, ac eto nid oes unrhyw fanylder, na chynllun na gweledigaeth o gwbl o hyd yn y rhaglen lywodraethu gyfredol. Yn y cyfamser, mae Llywodraeth Geidwadol y DU yn mynd ati i archwilio’r gwaith o drydaneiddio rheilffordd y gogledd, gan barhau ei buddsoddiad o £70 biliwn yn nhrafnidiaeth y DU i gynnwys y buddsoddiad o £10.7 miliwn yn nhroad Halton, treblu’r buddsoddiad blynyddol yn y ffyrdd, ac ymrwymo £300 miliwn yn gynharach eleni ar gyfer prosiectau mawr, megis rheilffordd ‘cyflym 3’ a’r twnnel ar draws y Pennines. Ar ben hynny, maent hefyd wedi rhoi £900 miliwn mewn pwerau benthyca i Lywodraeth Cymru, i’w ddefnyddio dros gyfnod o bum mlynedd, i gyflwyno gwelliannau mawr eu hangen i’r seilwaith, gan gynnwys yr A55. Eto i gyd, hyd yn hyn, mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi methu defnyddio’r pwerau hyn i sicrhau unrhyw welliannau yn rhanbarth Gogledd Cymru.
Lywydd, yn ddiweddar roedd gan BBC Wales erthygl ar deithio o ogledd Cymru i’r de, o’r enw ‘A jigsaw piece missing’. I’r rhai ohonom—ac rwy’n golygu fi fy hun fel Aelod Cynulliad sy’n teithio bob wythnos, pobl sydd am wneud busnes yma yn y brifddinas, a rhai sy’n ymweld â chartref datganoli yma ym Mae Caerdydd—sy’n gwneud, neu’n ceisio gwneud, y daith hon yn rheolaidd, efallai y byddem yn dadlau bod mwy nag un darn ar goll.
Mae gan ardal gogledd Cymru asedau, mae ganddi bobl ac mae ganddi entrepreneuriaeth, busnesau a syniadau. Mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru gydnabod yn awr fod ganddi gyfrifoldeb am ardal lawer ehangach na swigen Bae Caerdydd, a bod yn rhaid iddi roi camau go iawn ar waith, gan ddefnyddio’r pwerau benthyca gan Lywodraeth y DU i wella ac uwchraddio cysylltiadau trafnidiaeth o fewn, i ac o ardal ogoneddus gogledd Cymru.
Rai blynyddoedd yn ôl, penderfynwyd y dylid cael cyffordd ychwanegol ym Mrychdyn oddi ar yr A55 i wasanaethu Airbus a’r parc manwerthu oedd newydd ei adeiladu. Mae’r gyffordd newydd, ar y cyd â’r hen un, yn arwain at dynnu traffig oddi ar yr A55 ym mhen uchaf pentref Brychdyn ac yna drwy’r pentref. Nid oes ffordd o deithio i’r gorllewin o’r parc manwerthu ym Mrychdyn ac Airbus heb fynd drwy’r pentref. Mae cynllun gwael y gyffordd honno bellach yn achosi tagfeydd go iawn ym Mrychdyn a’r cylch. Wrth edrych ar hyd yr A55, fe welwch enghreifftiau eraill o gynllunio eithriadol o wael: roedd gosod cylchfannau ym Mhenmaenmawr a mannau eraill yn hurt yn fy marn i. Arweiniodd at greu pwynt lle mae mwy o risg o ddamweiniau a thagfeydd, sydd bellach yn golygu bod angen cael gwared arnynt.
Mae’r cynnig yn crybwyll bod yna ddiffyg llain galed mewn mannau. Mewn gwirionedd, rwy’n ei chael hi’n anodd meddwl am ddarn o’r A55 sydd â llain galed briodol. Nid oes llain galed ar y rhan fwyaf ohoni, sy’n golygu bod cerbydau sy’n torri i lawr heb unrhyw le i fynd. Mae nifer y wagenni ar yr A55 yn ei gwneud yn ffordd unffrwd i bob pwrpas. Arweiniodd diffyg blaengynllunio ar bont Britannia ar Ynys Môn at ffordd ddeuol bob ochr i’r bont, er mai ffordd unffrwd sydd ar y bont, gan achosi tagfeydd ar y ddwy ochr. Mae’r rhain a llawer o faterion eraill wedi bod yn gyfarwydd i bobl gogledd Cymru a’r rhai sy’n ymweld â’r ardal ers blynyddoedd lawer. Mae’n hen bryd i ni glywed rhai cynlluniau cadarn a chynigion pendant gan Lywodraeth Cymru ynglŷn â pha welliannau’n union sy’n mynd i gael eu gwneud i’r A55 a pha bryd y cânt eu gwneud mewn gwirionedd. Diolch.
Rwy’n falch o gyfrannu at y ddadl hon gan y Ceidwadwyr Cymreig ar gysylltiadau trafnidiaeth yng ngogledd Cymru heddiw. Mae llawer o’r pwyntiau roeddwn yn mynd i’w gwneud eisoes wedi cael eu gwneud, felly nid wyf am fynd dros hen dir. Yn wahanol i Hannah Blythyn, byddwn yn dweud fy mod o dan anfantais nad wyf Aelod balch dros ogledd Cymru—rwy’n Aelod balch dros dde Cymru—ac nid oes gennyf y wybodaeth leol fwy manwl y mae Michelle Brown newydd ei mynegi. Felly, bydd fy sylwadau ychydig yn fwy cyffredinol.
Fe fyddwn yn dweud, fodd bynnag, fy mod yn credu, ar ôl bod yn y Siambr hon bellach ers bron i 10 mlynedd, ein bod wedi cael nifer o ddadleuon am ogledd Cymru ac rwy’n teimlo bod pobl y gogledd yn rhy aml yn teimlo eu bod yn cael eu hanghofio, eu gadael ar ôl, eu heithrio, sut bynnag rydych am ei roi—wedi eu hynysu efallai—oddi wrth y Cynulliad hwn a’r penderfyniadau sy’n aml yn cael eu gwneud yma. Gallai hwnnw fod yn fater o ganfyddiad ac efallai nad yw’n farn gywir, ond yn rhy aml dyna yw barn pobl yn y gogledd, ac mae’n rhaid i ni wneud yr hyn a allwn i gau’r bwlch hwnnw. Fel y dywedais, rwy’n dweud fel AC o dde Cymru sy’n byw ychydig i fyny’r ffordd ac yn ei chael yn eithaf hawdd cyrraedd adref, boed ar y ffordd, ar y trên neu ar fws—pa fath bynnag o drafnidiaeth ydyw.
Felly, yn rhy aml, mae gogledd Cymru yn teimlo eu bod yn cael eu hesgeuluso. Mae angen i ni wneud yn siwr eu bod yn teimlo bod Llywodraeth Cymru yn gofalu amdanynt, a dyna pam y mae hi mor bwysig datblygu’r prosiectau mawr megis gwelliannau’r A55 sydd wedi cael eu crybwyll a thrydaneiddio prif reilffordd gogledd Cymru yn y dyfodol.
Ni allwch wadu bod cyfran fawr o’r boblogaeth yn byw yn y de-orllewin a’r de-ddwyrain, a bydd ACau de Cymru bob amser—rwy’n gweld David Rowlands yn nodio—yn cyflwyno’r achos dros wario’r gwariant seilwaith yma, ac wrth gwrs mae angen gwelliannau i’r M4, wrth gwrs, rydym angen trydaneiddio prif reilffordd de Cymru, ond mae angen i’r gogledd deimlo eu bod yn cael eu cynnwys a bod prosiectau’n cael eu datblygu yno. Fel y dywedodd Mark Isherwood, mae angen i ni fanteisio ar gyfleoedd y gogledd, ac mae cyfleoedd yno a chyfleoedd sy’n tyfu. Mae angen i ni gysylltu’r gogledd â phwerdy gogledd Lloegr wrth iddo ddatblygu, a datblygu ein pwerdy gogledd Cymru ein hunain hefyd o bosibl.
Mae gwelliannau trafnidiaeth, wrth gwrs, yn allweddol i hyn, ac rwy’n cytuno’n llwyr â’r sylwadau a wnaeth Dr Dai Lloyd yn gynharach, ac mae’r cysyniad, fel y dywedais wrth ymyrryd, o system docynnau integredig sengl ar draws gogledd Cymru yn un gwych. Mae’n un sydd gennym yn ein cynnig, ac mae’n un y mae Plaid Cymru a phleidiau eraill yn amlwg yn cytuno yn ei gylch. Y broblem yw, os goddefir yr ymadrodd o adroddiad blaenorol y Pwyllgor Menter a Busnes yn y Cynulliad diwethaf, mae’n beth cythreulig o anodd i’w gyflawni. Felly iawn, gadewch i ni ei gael fel uchelgais, ond gadewch i ni beidio â rhoi ein hwyau i gyd yn y fasged honno yn y tymor byr. Gadewch i ni weithio ar ddatblygu pethau sy’n haws eu gwneud ar unwaith, megis gwella amserlennu a dibynadwyedd y gwasanaethau sydd gennym. Ond iawn, rydych yn llygad eich lle, Dai: gadewch i ni wneud yn siŵr yn y tymor canolig a’r tymor hwy mai ein huchelgais yw cysylltu’r gogledd a’r de a chanolbarth Cymru, a’i gwneud yn hawdd i fynd ar-lein ac archebu eich tocyn oddi yma i Ynys Môn—mor hawdd ag y gallwn ei wneud.
Metro gogledd Cymru: wel, mae’n rhan o hyn. Mae’n dal i fod yn bell i ffwrdd, mae’n amlwg, ac mae’n ddealladwy ar hyn o bryd fod ffocws Llywodraeth Cymru ar fetro de Cymru. Deallaf fod Ysgrifennydd y Cabinet dros y seilwaith trafnidiaeth—gadewch i ni gael y derminoleg yn gywir—yn methu gwneud popeth ar unwaith—nid chi yw Superman eto, Ken, felly rhaid i chi flaenoriaethu—ond nid yw hynny’n golygu na allwn ddechrau datblygu cynllun busnes ar y pwynt hwn ar gyfer metro gogledd Cymru. Credaf y byddai pobl y gogledd yn edrych ar hynny fel arwydd fod buddiannau’r gogledd yn bwysig i’r Cynulliad hwn.
Yn olaf, Lywydd, mae’n bwysig ein bod yn datblygu’r cysylltiadau hynny rhwng y dwyrain a’r gorllewin ac mae Ysgrifennydd y Cabinet dros drafnidiaeth a’r seilwaith wedi gwneud y pwyntiau hyn dros yr haf. Ydym, rydym i gyd yn awyddus i ddatblygu’r cysylltiadau rhwng y gogledd a’r de, ond i fod yn realistig, mae llawer o’r cysylltiadau economaidd hanfodol hynny, ac fe fyddant yn y dyfodol agos, rhwng y dwyrain a’r gorllewin. Yn y de, byddant yn croesi i Fryste a Llundain. Yn y gogledd, byddant yn mynd i ddinasoedd mawr y gogledd, yn enwedig wrth i Bwerdy’r Gogledd ddatblygu. Felly, gadewch i ni beidio â thynnu ein llygaid oddi ar y bêl yn y mater hwn. Gofynnaf i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, ystyried y cynnig hwn yn yr ysbryd y’i cyflwynwyd. Fel y dywedais, ni allwch wneud popeth ar unwaith, ond a allwn gael ychydig bach mwy o ffocws ar economi gogledd Cymru, ar ddatblygu’r cysylltiadau trafnidiaeth hanfodol hynny, a manteisio ar y cyfleoedd y mae gogledd Cymru yn eu rhoi i ni? Gadewch i ni edrych at Gymru yn y dyfodol lle gall y gogledd a’r de chwarae rhan gyfartal yn datblygu economi Cymru, a lle bydd poblogaeth Cymru gyfan yn teimlo eu bod wedi eu cynnwys.
Rwy’n galw ar Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith i ymateb i’r ddadl. Ken Skates.
Diolch i chi, Lywydd. Hoffwn ddiolch i’r holl Aelodau am eu cyfraniadau heddiw. Rwy’n sylweddoli bod peth sinigiaeth i’w deimlo gan rai o Aelodau’r gwrthbleidiau; rwy’n maddau iddynt am hynny a dweud, yn gyffredinol, fy mod yn credu ein bod i gyd yn gytûn i’r graddau fod angen tyfu ein heconomi yng ngogledd Cymru.
Nid yw creu economi fewnol gref yng Nghymru a thyfu economi drawsffiniol o ogledd Cymru drosodd i ogledd-orllewin Lloegr yn annibynnol ar ei gilydd, ond yn fy marn i, maent yn ategu ei gilydd. Fe’i gwneuthum yn glir fy mod yn gweld gogledd Cymru yn chwarae rhan lawn a gweithredol yn y Pwerdy Gogleddol ac yn creu bwa o weithgaredd economaidd sy’n ymestyn o Gaergybi i Fanceinion a thu hwnt.
I ateb cwestiwn Hannah Blythyn, yn wir fe ddechreuais yr haf o fewn 100 diwrnod cyntaf y Llywodraeth hon gydag uwchgynhadledd yng ngogledd Cymru, gyda rhanddeiliaid trawsffiniol allweddol. Cynhaliwyd honno, fel y dywedais, o fewn y 100 diwrnod cyntaf ac arweiniodd at gytundeb ar weledigaeth ranbarthol gydlynol, sy’n alinio â chynllun blaenllaw Pwerdy’r Gogledd, ac a fydd hefyd yn cyfrannu tuag at y cytundeb twf posibl wrth iddo gael ei ddatblygu.
Ond eisoes mae llawer iawn yn digwydd yma. Rydym yn symud ymlaen ar welliannau mawr i ffyrdd, gan gynnwys achos busnes dros drydydd croesiad i’r Fenai; adeiladu ffordd osgoi Caernarfon; pont Afon Dyfrdwy; ac wrth gwrs, rydym hefyd yn asesu opsiynau i fynd i’r afael â thagfeydd ar goridor yr A494-A55 yng Nglannau Dyfrdwy. Er bod cyllido buddsoddiad yn y seilwaith rheilffyrdd yn fater wedi’i gadw’n ôl, rydym wedi defnyddio ein pwerau i fuddsoddi mewn gwelliannau ar reilffordd y Cambrian a’r rhwydwaith rhwng Saltney a Wrecsam.
Cyfeiriodd yr Aelod yn ei gynnig at y ddogfen ‘Gweledigaeth ar gyfer Twf yr Economi yng Ngogledd Cymru’. Cyflwynwyd y ddogfen i Weinidogion Cymru a Gweinidogion y DU ym mis Awst gan awdurdodau lleol ac mae’n amlinellu cyfeiriad strategol wedi’i gytuno ar gyfer economi gogledd Cymru. Derbyniais y ddogfen, fel y gwnaeth Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol a Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys. Mae’n ddogfen bwysig, ac ynghyd ag enghreifftiau eraill o waith da, megis yr adroddiad Growth Track 360, mae’n rhoi sylfaen gadarn i ni allu gweithio gyda Llywodraeth y DU a rhanddeiliaid yng ngogledd Cymru i ddatblygu blaenoriaethau economaidd ar gyfer y rhanbarth.
Ond er mwyn datblygu trafodaeth ar gytundeb dwf penodol a ariennir ar y cyd, rydym yn aros am gyhoeddiad ffurfiol gan Lywodraeth y DU y byddant yn agor trafodaethau, ac rwy’n mawr obeithio y byddant yn gwneud hynny. Mae’n waith cyffrous a allai—a allai—gydweddu’n berffaith â chytundeb twf posibl ar gyfer partneriaeth menter leol Swydd Gaer a Warrington, fel y nododd yr Aelod.
Hoffwn gofnodi fy niolch i ACau ar draws y Siambr ac i ASau, gan gynnwys yr Ysgrifennydd Gwladol a Gweinidogion eraill yn Swyddfa Cymru, am gefnogi cais twf trawsffiniol dynamig a chreu economi gryfach yng ngogledd Cymru.
Cyflwynodd Russell George a Nick Ramsay achosion grymus iawn dros fynd ar drywydd buddsoddiad mewn seilwaith trawsffiniol, a byddai’n anodd anghytuno gyda’r naill neu’r llall. Siaradodd Russell George hefyd am ail-gydbwyso’r economi ar draws Cymru. Rwy’n cytuno’n llwyr ac am y rheswm hwnnw, penderfynais y dylid lleoli pencadlys Trafnidiaeth Cymru yn y Cymoedd, sef yr un rheswm pam rwy’n credu y dylai pencadlys banc datblygu yng Nghymru fod yng ngogledd Cymru.
Yn fy marn i hefyd, rhaid i ni adeiladu perthynas gryfach, fel y nododd yr Aelod yn gywir, gyda Transport for the North. Mewn ateb i Hannah Blythyn, mynychais gyfarfod diweddaraf y tasglu ar reilffyrdd, yn gynharach yr wythnos hon, dan gadeiryddiaeth wych arweinydd Cyngor Gorllewin Swydd Gaer a Chaer, Samantha Dixon, lle buom yn siarad am yr angen i sicrhau bod gwell cyfathrebu rhwng partneriaid ac ar draws ffiniau. Byddwn yn falch o fynychu’r grŵp trawsbleidiol ar weithgarwch trawsffiniol, ac o ran sicrhau ein bod yn creu cysylltiadau economaidd cryf ar draws ffiniau, byddwn yn dweud mai fy ngweledigaeth i yw ein bod yn creu tri bwa o ffyniant a gweithgarwch economaidd: un, fel y dywedais, sy’n deillio o Gaergybi drosodd i Fanceinion; un arall sy’n croesi o arfordir Cymru drwy ganolbarth Cymru ac i ganolbarth Lloegr; a thrydydd bwa sy’n mynd o dde-orllewin Cymru ar hyd yr M4 ac i dde-orllewin Lloegr—
Iawn, fe ildiaf.
Sut rydych yn ymateb—efallai eich bod yn mynd i ddod at hyn, ond nid ydych wedi sôn amdano eto—i egwyddor ganolog y ddogfen ar weledigaeth ar gyfer twf i ogledd Cymru, sef y galw am ddatganoli cyfrifoldeb dros rai o’r ysgogwyr ar gyfer yr economi a thwf yn fewnol i’r bwrdd?
Ie, yn hollol. Efallai fod yr Aelod yn ymwybodol ein bod wedi ei roi yn ein maniffesto, maniffesto Llafur Cymru. Mewn gwirionedd fe ddywedon ni y byddem yn ystyried ac yn sicrhau bod cyfrifoldeb yn cael ei ddatganoli i ranbarthau megis gogledd Cymru, ond yr hyn y mae angen i ni ei gael yw penderfyniad clir i fwrw ymlaen â’r cytundeb twf, oherwydd os nad oes cytundeb twf yn mynd i fod, yna bydd yn rhaid i ni edrych ar ffyrdd eraill o ddatganoli cyfrifoldeb a chreu twf economaidd yn yr ardal honno.
Gallaf rannu gyda’r Aelodau y byddaf yn cyfarfod, yn ystod y misoedd nesaf, gyda’r Arglwydd O’Neill i drafod y cytundeb twf ac i drafod materion eraill, a byddaf yn rhoi gwybod i’r Aelodau am y cynnydd. Ond rwyf hefyd wedi penderfynu cyfarfod â chyn-Ganghellor y Trysorlys, George Osborne, oherwydd credaf y byddai’n werth gwneud hynny, am fy mod wedi dweud ar sawl achlysur fod arnaf ofn y bydd y ffaith ei fod wedi gadael y Trysorlys yn golygu y gallai prosiect Pwerdy’r Gogledd gael ei ohirio. Am y rheswm hwnnw, rwy’n meddwl, er gwaethaf y gwahaniaethau lawer a allai fod rhyngom ar yr economi a chymdeithas yn gyffredinol, gallai fod yn gynghreiriad i ogledd Cymru wrth fynd ar drywydd agenda Pwerdy’r Gogledd.
Gan droi at bwynt 3 y cynnig, hoffwn egluro yn gyntaf ein bod eisoes wedi cyhoeddi ein cynlluniau ar gyfer gwelliannau i’r A55 ar ffurf y cynllun cyllid trafnidiaeth cenedlaethol, ac fe’i cyhoeddwyd ym mis Gorffennaf 2015. Rydym eisoes wedi buddsoddi’n sylweddol mewn llwybrau allweddol ar draws gogledd Cymru, gan gynnwys rhaglen o welliannau i gynyddu cydnerthedd yr A55, yn cynnwys gosod lleiniau caled yn ogystal â lonydd gwrthlif mewn argyfwng ac wrth gwrs, rhaglen waith sy’n werth £42 miliwn i wella safon twneli’r A55.
Nodaf yr hyn a ddywedodd yr Aelod am Frychdyn a’r angen i fynd i’r afael â phryderon ynglŷn â’r gyfnewidfa a’r gyffordd, sydd ar hyn o bryd yn golygu bod traffig o’r A55 i gyfeiriad y dwyrain yn gorfod mynd drwy’r pentref. Mae’n rhywbeth y mae fy swyddogion yn ei drafod gyda chynghorwyr a swyddogion Cyngor Sir y Fflint. Rydym hefyd yn buddsoddi tua £32 miliwn i uwchraddio cyffyrdd 15 a 16 ar yr A55 i wella diogelwch a dibynadwyedd amseroedd teithio. Mae contract gwaith draenio datblygedig yn cael ei gyflymu yn awr, a bydd yn gweithredu rhwng cyffyrdd 12 a 13 o’r A55 i helpu, unwaith eto, i leihau’r perygl o lifogydd a gwella llif y traffig yn sgil hynny.
Rwyf eisoes wedi datgan bod yr uwchgynhadledd wedi’i chynnal ym mis Gorffennaf, ymhell cyn y terfyn 100 diwrnod, fod y tasglu ar reilffyrdd wedi cyfarfod yr wythnos hon, a fy mod wedi cyhoeddi cynllun pum pwynt. Mewn ymateb i’r cwestiwn am y rhwydwaith bysiau, cyhoeddais gynllun gweithredu pum pwynt mor ddiweddar â’r wythnos diwethaf, ac rwy’n meddwl ei fod yn cael ei gydnabod ledled y DU fel rhywbeth y dylai Llywodraeth y DU ei ddilyn. Mae’n rhaid i mi ddweud pan fydd rheoleiddio’n digwydd, credaf y dylem ddefnyddio’r pwerau hynny i wneud mwy na datblygu rhwydwaith wedi ei ddadreoleiddio, ond dylem gael newid mawr yn y ffordd y mae ein rhwydwaith bysiau’n gweithredu.
Symudaf ymlaen at y rheilffyrdd, ac rwy’n credu ei bod yn gwbl hanfodol ein bod yn cydnabod yr achos economaidd dros fuddsoddi mewn trydaneiddio yn ystod cyfnod rheoli 6, a byddwn yn annog Llywodraeth y DU i gefnogi hyn. Mae’r Aelod yn iawn i ddweud bod 12 miliwn o deithiau yn digwydd ar draws gogledd Cymru a ffin gogledd-orllewin Lloegr bob blwyddyn a dim ond 1 y cant o’r teithiau hynny a wneir ar drên. Wrth i ni gynllunio camau nesaf yr anghenion gwella rheilffyrdd yng ngogledd Cymru ac ardal Mersi a’r Ddyfrdwy, mae angen i ni wthio Llywodraeth y DU hefyd i sicrhau bod cyfran deg o’i buddsoddiad i wella cysylltedd o fewn gogledd Cymru a rhwng gogledd Cymru a rhanbarthau eraill yn cael ei wireddu, oherwydd, a bod yn onest, yn draddodiadol, mae buddsoddiad Network Rail wedi bod yn llawer is na’r hyn y byddem wedi ei gael pe bai wedi dod drwy fformiwla Barnett i Gymru.
Eto, mewn ymateb i’r cwestiynau a ofynnwyd gan Hannah Blythyn, yr Aelod dros Delyn, integreiddio gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus, gan gynnwys trefniadau tocynnau amlfoddol ac amlweithredwr, fydd egwyddor sylfaenol metro gogledd-ddwyrain Cymru. Byddaf yn mynd ar drywydd hynny wrth roi mwy o ystyriaeth i wasanaethau trên a bws. Rydym hefyd yn datblygu argymhellion yn nyffryn Conwy a fydd yn integreiddio gwasanaethau bws a thrên gyda threfniadau ar y cyd ar gyfer tocynnau, gwasanaethau gwell a lefel is o gymhorthdal bysiau.
Er mwyn gwneud y gorau o’r cyfleoedd ar gyfer cysylltedd trawsffiniol, bydd metro gogledd-ddwyrain yn ymestyn i’r gogledd ac i’r dwyrain i mewn i ogledd a chanolbarth Lloegr er mwyn creu rhwydwaith trafnidiaeth dibynadwy, effeithlon ac integredig o ansawdd da ar draws yr is-ranbarth a thu hwnt. Mae cyflwyno achos busnes amlinellol ar gyfer moderneiddio trafnidiaeth gogledd Cymru a metro’r gogledd-ddwyrain, gan nodi atebion a ffafrir ar gyfer moderneiddio trafnidiaeth ar draws y rhanbarth, yn flaenoriaeth gynnar. Rwy’n edrych ymlaen at allu rhannu manylion gyda’r Aelodau cyn y Nadolig. Y rheswm nad oedd yn ymddangos yn Growth Track 360 oedd am fod Growth Track 360 wedi ei baratoi cyn maniffesto Llafur Cymru lle cyhoeddwyd y metro yn gyntaf.
Roedd Mark Isherwood yn gywir i nodi’r nifer o heriau i bobl sy’n ceisio cael gwaith, ond yn methu am nad oes digon o wasanaethau bysiau neu drenau ar gael neu am eu bod yn costio gormod. Am y rheswm hwnnw—a thynnodd sylw at Barc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy—fel prosiect â blaenoriaeth ar gyfer metro’r gogledd-ddwyrain, rydym yn edrych ar argaeledd gorsafoedd newydd ym Mharc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy a gwaith uwchraddio i Shotton hefyd.
Rwy’n gobeithio y bydd yr Aelodau’n ymuno â mi i baratoi’r achos dros economi gryfach a rhwydwaith trafnidiaeth gwell ar draws gogledd Cymru sy’n cydnabod y realiti fod llawer iawn o bobl yn croesi’r ffin yn ddyddiol ond yn dymuno byw neu weithio yng ngogledd Cymru.
Rwy’n galw ar Darren Millar i ymateb i’r ddadl.
Diolch, Lywydd, a diolch i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl hon heddiw. Rwy’n falch iawn o glywed rhai o’r cyhoeddiadau a wnaeth yr Ysgrifennydd Cabinet y prynhawn yma o ran ychydig mwy o wybodaeth am rai o’r gwelliannau arfaethedig i’r A55, ac yn wir, y wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â ble mae pethau arni gyda’r metro. Rydym yn edrych ymlaen at gael rhagor o wybodaeth, wrth gwrs, cyn y Nadolig. Byddwn yn eich dwyn i gyfrif am y datganiad hwnnw yn awr. Rwy’n siomedig braidd, fodd bynnag, ei fod i’w weld bellach yn clymu datganoli pwerau a chyfrifoldeb i ogledd Cymru wrth gyllid sydd i ddod gyda chytundeb twf. Y realiti yw fy mod newydd edrych ar eich maniffesto ar-lein ac nid oes dim ynddo o gwbl am orfod aros am gytundeb twf cyn y datganolir unrhyw bwerau pellach i’r awdurdodau yn y gogledd. Credaf ei bod yn ddyletswydd arnoch fel Llywodraeth, ar y cyd—pawb ohonoch fel Gweinidogion Cabinet, a’r Prif Weinidog—i feddwl ynglŷn â’r lle gorau i roi’r ysgogwyr hynny. Oherwydd mae pobl gogledd Cymru wedi dod at ei gilydd, mae’r rhanddeiliaid wedi cynhyrchu yr hyn sy’n weledigaeth gyffrous ar gyfer y rhanbarth, ac rwy’n credu’n wirioneddol y bydd yn arwain at fuddsoddiad sylweddol a thwf sylweddol yn yr economi os cânt fwrw ymlaen â hyn, ond nid yw bod â dwylo gludiog gyda phwerau ym Mae Caerdydd yn mynd i newid y sefyllfa honno.
Ond ‘does bosibl na fyddai’r Aelod hefyd yn cydnabod mai’r hyn y mae busnesau yn ei ddweud wrthym, yr hyn y mae pobl yn ei ddweud wrthym, yw y dylai Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru gydweithio er budd pobl gogledd Cymru, a byddai’n llawer gwell integreiddio ein polisïau â pholisïau Llywodraeth y DU o ran twf economaidd. Mae hynny’n golygu y dylem geisio plethu ein dull o ddatganoli unrhyw bŵer â’r hyn y byddai menter gan Lywodraeth y DU, megis y cytundeb twf, yn ceisio ei gyflawni.
Wrth gwrs, mae’n bwysig fod Llywodraethau yn gweithio gyda’i gilydd, o Fae Caerdydd i San Steffan a Llundain, a llywodraeth leol a neuaddau tref, yn wir, yn gweithio gyda chi hefyd. Ond yn y pen draw, y rhanddeiliaid yng ngogledd Cymru—yr awdurdodau lleol, Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, y prifysgolion, y sector addysg bellach, y trydydd sector a phawb o gwmpas y bwrdd—sydd wedi cynhyrchu cynllun y credant fod modd ei gyflawni a’i roi ar waith pe bai mwy o bwerau yn cael eu datganoli i’r rhanbarth. Felly, rwy’n meddwl bod angen i chi roi ystyriaeth ddifrifol i hynny, nid ei wrthod a cheisio taflu’r baich ar Lywodraeth y DU. Yn y pen draw, mae Llywodraeth y DU yn gwneud cynnydd sylweddol wrth ddatganoli pwerau i ranbarthau. Rydym oll wedi gweld beth sydd wedi bod yn digwydd ledled Lloegr gyda’r partneriaethau menter lleol, sydd, wrth gwrs, yn cael pwerau economaidd sylweddol dros eu heconomïau lleol er mwyn creu gwelliannau. Rwy’n falch eich bod yn cydnabod pwysigrwydd gweithio gyda Phartneriaeth Menter Leol Swydd Gaer a Warrington yn arbennig, o ran eu cynnwys er mwyn cefnogi gweledigaeth ar gyfer economi gogledd Cymru. Mae eu mewnbwn, wrth gwrs, yn bwysig tu hwnt.
O ran y seilwaith rheilffyrdd, wrth gwrs byddem i gyd yn hoffi gweld rheilffordd gogledd Cymru yn cael ei thrydaneiddio. Mae’n bwysig i Lywodraeth y DU weithio gyda Llywodraeth Cymru ac eraill i edrych ar yr achos busnes dros hynny a’i ddatblygu. Ond wrth gwrs, mae hefyd yn bwysig i’r awdurdodau lleol ac eraill yng ngogledd Cymru wneud popeth yn eu gallu i hyrwyddo’r achos a gweiddi o doeau’r tai, mewn gwirionedd, am y posibiliadau y gallai hynny eu creu yn y rhanbarth. Mae rhai o’r cysylltiadau trawsffiniol hynny’n hynod o bwysig i’r rhanbarth. Gwyddom fod yr economi dwyrain-gorllewin yn llawer pwysicach i ogledd Cymru nag economi gogledd-de. Rwy’n derbyn yr hyn rydych yn ei ddweud, Dai. Rwy’n gwybod y byddech wrth eich bodd yn tynnu llen o lechen ar draws y ffin, ond yn y pen draw, mae’n hynod o bwysig fod gogledd Cymru yn cael mynediad at farchnad fwyaf gogledd Cymru, sef gogledd-orllewin Lloegr. Mae’n union yr un fath i ganolbarth Cymru gyda rhannau o Ganolbarth Lloegr, fel y dywedodd Russell George yn gwbl gywir. [Torri ar draws.] Felly, rydych chi wedi clywed gan—
Rwy’n hapus i—.
Mae’n ddrwg gennyf ymyrryd, gan nad wyf wedi dilyn y ddadl i gyd—rwy’n siŵr ei bod yn annerbyniol i mi sefyll hyd yn oed—ond pam rydym yn cyfeirio at ffiniau o hyd? Ni fu ffin rhwng Cymru a Lloegr ers 1,500 o flynyddoedd, hyd y gwn i.
A hir y parhaed y sefyllfa honno—hir y parhaed y sefyllfa honno. Ond wrth gwrs, mae yna ffiniau gweinyddol, ac wrth gwrs, byddai llawer o aelodau o’ch grŵp yn hoffi i’r ffiniau hynny fod yn fwy pwysig, gawn ni ddweud, mewn termau economaidd nag y maent ar hyn o bryd.
Ond mae’n bwysig ein bod yn rhoi cyfle i ogledd Cymru dyfu, ein bod yn datganoli’r pwerau, ein bod yn sicrhau bod cyllid ar gael. Rwy’n falch iawn o glywed eich bod yn mynd i sicrhau bod y banc datblygu yn cael ei leoli yn y gogledd. Fel y dywedais yn gynharach yn ystod cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol, rhaid cael cyfran deg o fuddsoddiad gan y banc datblygu yn y rhanbarth. A charwn ofyn i chi, Weinidog, ystyried y cynllun sydd ar y bwrdd gan Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, a’r rhanddeiliaid eraill a gyfrannodd at ei lunio, gan mai hwnnw, yn fy marn i, sydd â’r allwedd i ryddhau potensial gogledd Cymru, a byddwn ni, ar y meinciau hyn yn sicr, yn cefnogi’r weledigaeth honno ar gyfer y rhanbarth bob cam o’r ffordd.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Felly, derbynnir y cynnig heb ei ddiwygio yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.