– Senedd Cymru am 4:49 pm ar 8 Tachwedd 2016.
Yr eitem nesaf ar yr agenda yw’r datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant ar y cynnig gofal plant, ac rydw i’n galw ar yr Ysgrifennydd Cabinet i wneud ei ddatganiad, Carl Sargeant.
Diolch, Lywydd. Mae'r blynyddoedd diwethaf wedi bod yn anodd iawn i deuluoedd sy'n gweithio. Mae llawer wedi cael trafferth cael deupen llinyn ynghyd a rheoli canlyniadau’r llymder a osodwyd gan Lywodraeth y DU. Un o'r pryderon y mae rhieni sy'n gweithio wedi eu codi gyda ni dro ar ôl tro yw cost gofal plant a'r effaith y mae hynny’n ei chael arnyn nhw, eu harian ac ansawdd eu bywyd. Ers dechrau'r haf, rydym wedi bod yn siarad â rhieni. Ym mis Medi, lansiais ein hymgyrch Trafod Gofal Plant, ac rydym wedi cael adborth gan dros 1,500 o rieni hyd yn hyn. Rydym hefyd wedi cynnal grwpiau ffocws, a bydd yr ymgysylltiad hwn yn parhau hyd at y gwanwyn. O'r gwaith ymgysylltu hyd yn hyn, mae'n amlwg bod rhieni eisiau i ofal plant fod: yn llai o straen ar incwm y teulu, fel y gallant wneud i’w cyllidebau weithio; ar gael ar adegau ac mewn mannau sy'n ei gwneud yn haws iddynt weithio; ac yn fwy hygyrch, yn nes at y cartref a'r gwaith, gyda chefnogaeth ar gyfer anghenion eu plant.
Mae'r Llywodraeth hon wedi ymrwymo i gefnogi teuluoedd sy'n gweithio ar draws Cymru, ac, fel ymateb uniongyrchol i'r materion a’r pryderon y mae teuluoedd wedi eu codi gyda ni, byddwn yn rhoi 30 awr o addysg gynnar a gofal plant am ddim i rieni plant tair oed a phedair oed sy'n gweithio ar draws Cymru am 48 wythnos y flwyddyn—y cynnig gofal plant mwyaf hael ar gyfer rhieni sy'n gweithio yn unrhyw le yn y DU. Bydd hyn yn lleihau'r straen ar incwm y teulu ac yn helpu i sicrhau nad yw gofal plant yn rhwystr i rieni gael swydd neu barhau i weithio. Rwyf eisiau rhoi rhagor o fanylion am ein cynllun ar gyfer cyflwyno'r cynnig gofal plant newydd i Aelodau'r Cynulliad heddiw.
Bydd ein cynnig gofal plant newydd yn cynnwys ein darpariaeth cyfnod sylfaen lwyddiannus yn ystod y tymor, ynghyd â gofal plant ategol. Yn ystod yr wythnosau o'r flwyddyn pan nad yw'r cyfnod sylfaen yn cael ei ddarparu, bydd plant cymwys yn derbyn 30 awr o ofal plant, a fydd yn cynorthwyo teuluoedd sy'n gweithio â chostau gofal yn ystod y gwyliau. Dim ond rhan o’r darlun yw helpu rhieni i dalu costau gofal plant. Mae angen inni hefyd fynd i'r afael ag argaeledd a hygyrchedd, ac edrych yn benodol ar y gefnogaeth sydd ei hangen i helpu plant ag anghenion dysgu ychwanegol i fanteisio ar eu hawl o dan y cynnig hwn. Byddwn yn gweithio gyda darparwyr gofal plant er mwyn sicrhau cymaint o hyblygrwydd ag y bo modd wrth gyflwyno'r cynnig hwn. Er mwyn sicrhau bod hyn yn bosibl, rydym yn ystyried gallu'r sector a sut y mae'n mynd i gyflawni hyn.
Rydym yn gwybod bod prinder gofal plant eisoes mewn rhannau o Gymru, a byddwn yn gweithio gyda'r sector i'w helpu i dyfu ac i ffynnu. Rwyf wedi comisiynu gwaith ymchwil yn ddiweddar mewn partneriaeth ag Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi a’r seilwaith, sy’n edrych yn fanwl ar y sector gofal plant, y gefnogaeth sydd ei hangen arno, a'r costau sy'n gysylltiedig â darparu gofal o ansawdd. Rydym ni hefyd yn edrych ar ganlyniad yr adolygiad diweddar o'r sector gan Cymwysterau Cymru. Mae gofal plant da yn gofyn am weithlu cryf, medrus ac effeithiol, ac rydym eisiau sicrhau bod gennym lwybr clir a chynllun hyfforddi. I'r perwyl hwnnw, byddwn yn lansio cynllun 10 mlynedd ar gyfer y gweithlu y flwyddyn nesaf, a fydd yn nodi’r blaenoriaethau ar gyfer y sector yn y tymor byr, y tymor canolig a’r hirdymor. Mae gofal plant hygyrch hefyd yn golygu edrych ar ddewisiadau o ran gofal plant.
Ein cynllun yw gweithio gyda'r sector i sicrhau bod digon o ddarpariaeth ar gyfer rhieni sydd eisiau cael mynediad at ofal trwy gyfrwng y Gymraeg, ac i'w wneud yn ddewis mwy deniadol ar gyfer y rhai nad ydynt wedi ystyried hyn o'r blaen. Mae hyn yn bwysig yng nghyd-destun ein hymrwymiad i sicrhau 1 filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
Mae hefyd yn bwysig sicrhau bod digon o ddarpariaeth ar gyfer plant sydd angen cymorth ychwanegol i ddysgu a datblygu, gan eu helpu i ddatblygu a ffynnu. Ond, yn hyn oll, rhaid inni beidio â cholli golwg ar y plant eu hunain yn y cydbwysedd rhwng addysg, gofal, chwarae ac amser gyda'u teuluoedd. Bydd angen i ni weithio ar hyn gyda rhieni, darparwyr a rhanddeiliaid eraill er mwyn cael y cydbwysedd cywir, ond rwyf hefyd yn awyddus i gael y gwaith ar waith ar lawr gwlad. Felly, rwyf yn falch o allu dweud wrth yr Aelodau heddiw y byddwn yn dechrau profi’r cynnig hwn gyda chwe awdurdod lleol o fis Medi 2017 ymlaen.
Bydd profi’r cynnig yn ein galluogi i sicrhau ein bod yn alinio’r oriau gofal plant â chyfnod sylfaen y blynyddoedd cynnar mewn ffordd sy'n gweithio i rieni ac i blant, yn cael y nifer cywir o leoedd gofal plant yn y rhannau cywir o Gymru, yn datblygu ac yn ehangu'r gweithlu, gyda gwell hyfforddiant, yn cynorthwyo’r sector i dyfu, gan ddarparu’r hyblygrwydd sydd ei angen ar rieni, ac yn dysgu beth sy'n gweithio a beth nad yw'n gweithio, gan adeiladu ar brofiadau a thystiolaeth i ddarparu ar gyfer yr holl rieni sy'n gweithio yma yng Nghymru.
Bydd Ynys Môn a Gwynedd, Sir y Fflint, Blaenau Gwent, Rhondda Cynon Taf ac Abertawe yn ymuno â ni ar y daith hon o fis Medi 2017 ymlaen. Mae hyn yn rhoi cymysgedd o ardaloedd daearyddol ledled Cymru lle gallwn brofi’r cynnig hwn.
Hoffwn ddiolch hefyd i'r awdurdodau hynny a fynegodd eu diddordeb mewn gweithio gyda ni, ond nad ydynt wedi'u cynnwys ar hyn o bryd. Rwyf eisiau ehangu cyrhaeddiad mabwysiadwyr cynnar yn y dyfodol a byddaf yn dod â rhagor ohonoch a'r rhai â diddordeb gyda ni wrth i ni fynd. Bydd cyflawni’r ymrwymiad hwn yn heriol, ac nid wyf yn tanbrisio’r hyn sydd angen ei wneud. Mae angen i ni roi'r seilwaith cywir yn ei le, a bydd gwneud hynny yn cymryd amser.
Lywydd, byddwn yn gweithio gyda rhieni a darparwyr i sicrhau bod y system yn cefnogi ein plant, yn ogystal â helpu rhieni sy'n gweithio. Mae’n rhaid mynd i'r afael yn uniongyrchol â’r rhwystrau o ran gofal plant i rieni, sy’n eu hatal rhag cefnogi eu teuluoedd fel y maent yn dymuno. Nid yw'n gwneud unrhyw synnwyr i rieni fod yn ennill llai na'u costau gofal plant. Nid yw'n gwneud unrhyw synnwyr gorfod gwrthod dyrchafiad, neu swydd well, gan golli cyfleoedd i wella amgylchiadau eich teulu, dim ond oherwydd nad ydych yn gallu cael gofal plant pryd a ble y byddwch ei angen. Rydym eisiau i rieni gael dewisiadau o ran cyflogaeth. Drwy weithio gyda phartneriaid allweddol, a gwrando ar ein dinasyddion, byddwn yn gallu cyflawni newid gwirioneddol.
Ysgrifennydd y Cabinet, diolch i chi am eich datganiad y prynhawn yma. Mae hwn yn faes a ystyriwyd gennym, yn amlwg, yn y pwyllgor yr wythnos diwethaf, pan roeddech yn dioddef o annwyd trwm, felly mae'n dda eich gweld chi'n edrych yn well heddiw, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwyf yn ddiolchgar am y datganiad a roesoch heddiw. Yn amlwg, roedd gofal plant yn ystyriaeth bwysig yn yr etholiad diweddar. Roedd gan yr holl bleidiau wahanol gynigion a gafodd eu cynnwys yn y maniffestos, ac, yn amlwg, chi’r blaid lywodraethol yn awr sy’n gyfrifol am weithredu'r cynnig penodol a gyflwynodd y Blaid Lafur i’r etholwyr. Nodaf eich bod wedi dweud yn eich cyflwyniad yn y pwyllgor yr wythnos diwethaf, Weinidog, eich bod yn teimlo mai hon, yn ôl pob tebyg, yw un o'r heriau mwyaf—os nad yr her fwyaf—yn eich portffolio o ran ei chyflawni, a hynny am reswm da iawn, i fod yn deg. Bydd y goblygiadau ariannol, yn ogystal â logisteg cyflawni hyn ar draws Cymru gyfan, yn mynd â chryn dipyn o'ch amser ac, yn wir, cryn dipyn o'ch adnoddau, fel yr wyf yn credu eich bod wedi’i gydnabod, er tegwch i chi.
Hoffwn i ofyn nifer o gwestiynau i chi ynglŷn â'r datganiad yr ydych wedi’i wneud heddiw, gan ddechrau, yn amlwg, â’r ystyriaethau ariannol o ran cyflawni’r maes polisi hwn. Gwnaed nifer o sylwadau ynghylch y posibilrwydd, os bydd uchafswm yr unigolion—teuluoedd y dylwn ei ddweud—a allai elwa ar hyn, yn manteisio arno’n gyffredinol ledled Cymru, y gallai’r ystyriaeth ariannol wirioneddol fod yn fwy na £200 miliwn. Rwy'n credu, yn eich tystiolaeth, eich bod yn cydnabod bod rhywle rhwng £100 miliwn a £125 miliwn yn ffigur mwy realistig. Byddwn yn ddiolchgar pe gallech roi rhywfaint o sicrwydd ynghylch y cynigion ar gyfer cyllidebau o ran yr ymrwymiad hwn. Oherwydd, pa bynnag ffordd yr ydych yn edrych arno, o’r incwm gwario, dyweder, sydd ar gael i Lywodraeth Cymru, mae hynny'n swm sylweddol o arian i ddod o hyd iddo yn flynyddol. Byddai gennyf ddiddordeb—yn enwedig gan eich bod wedi cysylltu’r cyfnod sylfaen â hyn, sydd yn amlwg yn rhan o bortffolio Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg—i wybod sut y bydd yr adnoddau yn cael eu dyrannu i gyflawni'r ymrwymiad hwn. A yw'n benodol i'ch cyllideb chi, neu a fydd llinellau gwariant yn y ddau bortffolio i gyflawni hyn, a sut yn union y darperir ar gyfer y llinellau gwariant hynny, wrth symud ymlaen?
Hefyd, hoffwn gael eich sylwadau ar farn y Sefydliad Polisi Cyhoeddus i Gymru am rinweddau'r polisi a'r manteision net, o gofio bod y Llywodraeth yn awyddus i roi’r polisi hwn ar waith—ac mae hynny’n ddealladwy, oherwydd, yn amlwg, yr oedd yn ymrwymiad yn y maniffesto—a’i bod yn mynd i neilltuo cryn dipyn o adnoddau ar ei gyfer. Mae'r Sefydliad Polisi Cyhoeddus i Gymru wedi nodi'n glir yr hyn yr oeddent yn credu eu bod yn fanteision bach iawn o ran cyfleoedd gwaith a manteision eraill am yr arian y byddech yn ei fuddsoddi. A ydych yn cydnabod y sylwadau y maent wedi'u gwneud, a sut y byddech yn gwrthbrofi terfyn posibl y manteision y maent yn eu gweld yn y polisi ac wrth gyflwyno'r fenter hon?
Hoffwn wybod hefyd sut y dewiswyd y cynghorau llwyddiannus ar gyfer yr ardaloedd peilot—chwech, yr wyf yn credu bod y datganiad hwn yn cyfeirio atynt. Saith, sori. Na, chwech, sori—chwech y mae’r datganiad yn cyfeirio atynt. Faint o awdurdodau mewn gwirionedd oedd wedi tendro neu fynegi diddordeb ac sydd wedi bod yn aflwyddiannus? Oherwydd eich bod yn cyfeirio at y ffaith bod awdurdodau eraill nad oeddent yn llwyddiannus o ran cael eu derbyn ar gyfer y cynllun peilot. Ac am ba mor hir yr ydych yn rhagweld y bydd y cynllun peilot yn cael ei gynnal? Rydych yn nodi y bydd yn dechrau ym mis Medi y flwyddyn nesaf. Rwy'n tybio ei fod yn gynllun peilot 12 mis, neu a yw'n hirach? Unwaith eto, rwy’n credu ei bod yn bwysig ein bod yn deall am ba mor hir y bydd y cynllun peilot yn cael ei gynnal. Oherwydd, unwaith eto, yn y pwyllgor yr wythnos diwethaf, roeddech yn awgrymu y bydd yr ymrwymiad hwn wedi’i weithredu a’i gyflawni’n llawn erbyn etholiad nesaf y Cynulliad, sef, yn amlwg, fel y gwyddom oll, Mai 2021. Felly, bydd y math hwnnw o amseru, byddwn yn awgrymu, yn her wirioneddol i'r Gweinidog o ran sicrhau bod y cynllun peilot wedi’i wneud, ei gynnal a’i weithredu.
Hefyd, hoffwn wybod yn union pa waith y mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith ac yntau wedi’i wneud wrth asesu'r sefyllfa bresennol o ran y gallu i gyflawni hyn, oherwydd bod eich datganiad yn sôn am y gwaith yr ydych wedi'i wneud hyd yn hyn, ac yr wyf yn tybio eich bod, fel plaid, ac fel Llywodraeth, cyn gwneud yr ymrwymiad hwn, wedi gwneud rhywfaint o waith paratoi er mwyn i chi weld beth yw’r capasiti. Beth yw eich dealltwriaeth o'r gallu presennol sydd ar gael i gyflawni’r ymrwymiad hwn, a faint o allu ychwanegol y mae’r Llywodraeth yn credu bod angen iddi ei gynnwys yn y system i ddarparu’r 48 wythnos o 30 awr o ofal plant yma yng Nghymru ar gyfer teuluoedd sydd â phlant 3 i 4 oed? Felly, gyda’r cwestiynau hynny, rwyf yn edrych ymlaen at glywed yr atebion, yn enwedig ynghylch yr adnoddau a gallu'r sector gofal i gyflawni’r ymrwymiad y mae’r Llywodraeth wedi’i wneud.
Diolch i'r Aelod am ei gwestiynau ynghylch y mater penodol hwn. Bydd yr Aelod yn ymwybodol o'r datganiad ein bod yn bwriadu lansio'r cynlluniau peilot ym mis Medi y flwyddyn nesaf, yn rhannol oherwydd y cwestiynau a gododd ynghylch gallu a chyfle o fewn y sector. Rydym yn gwneud gwaith ymgysylltu ar hyn o bryd, ac wedi bod yn gwneud hynny ers peth amser, gan weithio gydag awdurdodau lleol a darparwyr gofal plant. Cyfarfûm â darparwyr gofal plant yr wythnos diwethaf ac mae fy nhîm wedi bod yn cwrdd â nhw yn rheolaidd.
Er bod gan y cynnig egwyddorion eang iawn o ran yr hyn yr ydym yn ceisio ei gyflawni, roedd yr ymrwymiad yn y maniffesto yn glir iawn. Mae llawer iawn o gymhlethdodau ynghylch hynny, a’r elfennau anhysbys y mae’r Aelod yn eu cydnabod—nifer y teuluoedd a fydd yn manteisio ar hyn, nifer y cyfleoedd i gael pontio di-dor rhwng y cyfnod sylfaen a gofal plant—mae'r rhain i gyd yn gymhlethdodau y mae fy nhîm yn gweithio arnynt gyda'r sector a’r rhai â diddordeb i’w cyflawni. Dyna pam y mae'r cynlluniau peilot yn bwysig iawn.
Mae gennym raglen gwerth £10 miliwn yn dechrau ym mis Medi gyda chwe awdurdod. Roedd y chwe awdurdod eto yn rhan o gylch ceisiadau. Gwahoddwyd pob awdurdod i gystadlu a dangos diddordeb. Nid oedd pob awdurdod wedi ymateb. Nid yw’r rhestr gennyf; ysgrifennaf at yr Aelod i roi’r manylion. Mae gennym gymysgedd o leoliadau trefol a gwledig. Mae rhai yn darparu mewn ysgolion yn unig, ac mae rhai yn defnyddio darpariaeth y sector preifat a'r sector cyhoeddus.
O ran y lleoliad gwledig, mae cais ar y cyd gan Ynys Môn a Gwynedd, a gafodd ei groesawu. Roedd cais arall ar y cyd gan Sir Benfro, Ceredigion a Chaerfyrddin—roedd yn fater o un neu'r llall, i bob pwrpas. Mae'n ymwneud â sicrhau bod gennym broses ddysgu y tu ôl i hyn hefyd. Mae'n gweithio allan—gyda’r ceisiadau a ddaeth i law, a chyfuno dau o'r ceisiadau hynny, gan gynnwys pum awdurdod mewn dau gais, i bob pwrpas—o ran yr awdurdodau yr ydym wedi eu dewis, ein bod wedi dechrau’r cynlluniau peilot mewn tua chwarter o'r awdurdodau. Ni fydd hyn yn cael ei ddarparu ym mhob rhan o’r awdurdodau; byddwn yn profi’r system mewn ardaloedd penodol iawn i weld a yw'n gweithio.
O ran y llinellau gwariant, mae'r cynllun yn cynnwys y cyfnod sylfaen a gofal plant, felly mae'r cyfnod sylfaen yn dal i fod yn gyfrifoldeb i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, ac mae hynny'n rhywbeth yr ydym yn awyddus iawn i sicrhau ei fod yn parhau. Ond wrth i ni ddysgu wrth ddarparu hyn, yr hyn sy’n wirioneddol bwysig yn hyn yw ei fod yn ymwreiddio egwyddorion Deddf cenedlaethau'r dyfodol—mae'n ymwneud â gofyn i bobl. Yn hytrach na bod llywodraethau yn cyhoeddi prosesau i bobl geisio gweithio’n oddi mewn iddynt, rydym mewn gwirionedd yn siarad â rhieni er mwyn gweld beth sy'n gweithio iddyn nhw a'u plant.
Roedd rhaglen y Sefydliad Polisi Cyhoeddus yn seiliedig ar dybiaethau ynghylch rhaglen 40 wythnos. Mae hon yn rhaglen 48 wythnos sy'n cynnwys y cyfnod gwyliau. Roedd hynny'n rhwystr mawr i bobl a'r gallu i fynd yn ôl i'r gweithle, gan fod y cyfnod o saith wythnos yn ystod yr haf yn wirioneddol anodd ei reoli. Rydym yn credu y bydd hyn, ynghyd â'r ymrwymiad poblogaidd—ac rwy'n siŵr bod yr Aelod hefyd wedi canfod ei fod yn hynod o boblogaidd, hynny yw, ymrwymiad ei blaid yn y maniffesto, yn ogystal, wrth siarad â phobl ar garreg y drws—rydym yn credu y bydd hyn yn creu llawer o fanteision, gan gynnwys manteision economaidd, cymdeithasol ac addysgol yr uned deuluol. Felly, mae pethau yn adroddiad y Sefydliad Polisi Cyhoeddus yr ydym yn eu cydnabod, ond mewn gwirionedd rydym yn credu bod llawer mwy o bethau cadarnhaol ar y sail ei bod yn rhaglen hirach, ac yn fwy na’r hyn a aseswyd yn wreiddiol.
O ran egwyddor gyffredinol darpariaeth gofal plant, mae'r awdurdodau lleol yn ymdrin yn dda iawn â’r hyn sydd ganddynt o ran gofal plant yn lleol. Rydym yn ceisio siarad â'r sector ynghylch darparu. Mae lleoliadau gwledig yn fwy anodd. Rydym yn ceisio sicrhau bod gennym gyfleusterau yno, ond hefyd y Gymraeg, a sut yr ydym yn cynnwys y Gymraeg ac yn dod â hynny i'r amlwg. Rwy'n ffyddiog, o ystyried y trafodaethau yr wyf wedi eu cael gyda'r Gweinidog cyllid, erbyn mis Mai 2021, y byddwn wedi cyflawni’r rhaglen hon yn llawn. Er bod yr Aelod yn iawn i gydnabod yr heriau sy'n ein hwynebu, rwy'n ffyddiog y gallwn wneud hyn.
A gaf i ddiolch i’r Ysgrifennydd am ei ddatganiad a chroesawu’r datganiad? Fe fyddwch yn gwybod, wrth gwrs, bod Plaid Cymru wedi ymrwymo i gynnig gofal plant llawn-amser i bawb. Ond, rwy’n derbyn bod hwn yn gam positif i’r cyfeiriad hwnnw ac yn un rydym ni’n amlwg yn ei gefnogi. Mae’n dda gweld y Llywodraeth yn dechrau ar y gwaith ar lawr gwlad, fel petai.
Un nodyn y byddwn i’n licio ei godi ynglŷn â chywair y datganiad, a dweud y gwir, yw ei fod yn awgrymu bod dynesiad a ffocws Llywodraeth Cymru yn un economaidd yn flaenaf. Rydych yn sôn yn y datganiad am straen gofal plant ar incwm teulu, angen rhyddhau rhieni i fynd yn ôl i’r gwaith, comisiynu ymchwil wedyn ar impact economaidd y sector gofal plant ac yn y blaen. Maen nhw i gyd, wrth gwrs, yn ystyriaethau dilys, ond mi fyddwn i’n gofyn i’r Ysgrifennydd Cabinet gadarnhau mai cymhelliant creiddiol y polisi yma yw sicrhau’r cychwyn gorau mewn bywyd i blant ac i sicrhau’r dylanwad dysgu a datblygiad cynnar gorau posibl iddyn nhw. Oes, mae yna fanteision eraill ond dyna, does bosib, sydd yn gyrru'r polisi yma. Efallai nad yw hynny’n cael cyfiawnder wedi’i wneud ag ef yn y datganiad fel ag y mae.
Mae yna ddwy agwedd ganolog bwysig i lwyddiant y polisi yma yn fy marn i, sef ansawdd—ac nid wyf yn meddwl fy mod yn codi ar fy nhraed heb sôn am hynny pan rwy’n siarad â’r Ysgrifennydd y dyddiau yma—ond hefyd hygyrchedd i’r ddarpariaeth. Mi fydd, byddai rhywun yn tybio, y cynlluniau peilot yma yn gyfrwng, beth bynnag, i brofi hygyrchedd y ddarpariaeth, fel rydym wedi clywed, mewn gwahanol gyd-destunau—gwledig, trefol, ieithyddol ac yn y blaen.
Ond, o ran yr ansawdd, mae hynny efallai’n fwy anodd. Rwy’n cydnabod yr hyn ddywedodd yr Ysgrifennydd yn y pwyllgor yr wythnos diwethaf bod yna lawer o feddwl a llawer o ddeall dal angen ei wneud ynglŷn â beth mae darpariaeth dda yn edrych fel a beth yw ansawdd mewn gwirionedd.
Yn amlwg, mi fydd y cynllun gweithlu, pan ddaw, yn gwneud cyfraniad pwysig. Ond, fe fyddwn i’n licio clywed, Ysgrifennydd, a ydych chi’n rhagweld y bydd y peilotau yma hefyd yn gallu cynnig rhyw fath o arweiniad i ni pan mae’n dod i ddeall yn well beth yw darpariaeth o ansawdd a sut, efallai, y gallwn ni fod yn creu mwy o hynny ac adeiladu ar y cryfderau sy’n cael eu hadnabod.
Mi ddylai unrhyw bolisi gofal plant, wrth gwrs, fel mae’r Ysgrifennydd wedi cydnabod yn ei ddatganiad, fod yn cyfrannu ac yn creu sail gadarn i nod y Llywodraeth o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Mae’n gyfle i gychwyn plant ar y daith yna i fod yn ddwyieithog. Rwy’n deall bod tua 86 y cant o’r rhai sy’n mynychu cylchoedd meithrin yn mynd ymlaen i ysgol Gymraeg ac nad yw’r mwyafrif o’r gweddill ddim yn gwneud oherwydd nad oes yna ddarpariaeth addysg Gymraeg yn yr ardal dan sylw. Ond, wrth gwrs, mae’n rhaid inni fod yn rhagweithiol nawr. Mae’n rhaid inni symud o fod yn adweithiol ac ymateb i alw i fod yn llawer mwy rhagweithiol a sicrhau bod y twf yna’n digwydd mewn modd mwy deinamig.
Felly, mae angen creu'r galw hefyd, mewn sawl ffordd. Mi fyddwn i’n licio gwybod—. Maen nhw’n dweud, petai pob un a fydd â hawl i gymryd mantais o hyn pan fydd yn cael ei weithredu’n llawn yn gwneud hynny, mai rhyw 20,000 o blant rydym ni’n sôn amdanynt. Felly, mi fyddwn i’n licio clywed, nid o reidrwydd y niferoedd heddiw, ond pryd fydd y Llywodraeth yn dechrau amlinellu faint o’r 20,000 o blant yna maen nhw am weld yn mynd ymlaen i gymryd darpariaeth cyfrwng Cymraeg a faint o’r rheini wedyn y maen nhw am eu gweld yn mynd ymlaen i gael addysg Gymraeg.
Mae hynny, wrth gwrs, yn bwysig oherwydd mae wedyn yn mynd i bennu faint o weithlu ychwanegol sydd ei angen er mwyn darparu ar eu cyfer nhw ac yn y blaen. Heb atebion i hynny—ac nid wyf yn disgwyl atebion heddiw—ond yn sicr, heb fod hynny’n cael ei wyntyllu, sut allwn ni fod yn hyderus ei fod yn rhan cydlynus o ymdrech fwriadol gan y Llywodraeth i symud tuag at filiwn o siaradwyr?
Yn olaf, wrth gwrs, wrth ddatblygu darpariaeth newydd, mae’n rhaid inni gydnabod bod yna gonsérn am rywbeth yn datblygu a allai danseilio’r ddarpariaeth bresennol. Rwy’n siŵr y bydd yr Ysgrifennydd yn ymwybodol fod Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi am fynnu bod yn rhaid i bob darparwr gofal plant—pob cylch meithrin, pob ‘playgroup’, ac yn y blaen—gael cyfeirnod talu wrth ennill ei hunain. Heb gyfeirnod o’r fath, mae’n debyg, ni fydd rhieni sydd am ddefnyddio’r cylchoedd hynny yn cael talebau gofal plant, sy’n gyfystyr â £2,000 o ostyngiad y flwyddyn ar gostau gofal plant. Mae gan hynny oblygiadau pellgyrhaeddol, yn enwedig i lawer o’r darparwyr llai sydd gennym ni yma yng Nghymru. A gaf i ofyn, felly, beth mae’r Llywodraeth yn ei wneud i gynorthwyo’r darparwyr yma yng ngoleuni’r bygythiad hynny, er nad yw wedi ei ddatganoli? Mae goblygiadau difrifol, byddwn yn tybio, i’r hyn rydym yn trio ei gyflawni fan hyn. Oherwydd mi fyddai yn resyn wrth drio creu darpariaeth newydd ar un llaw bod y sector sy’n sylfaen ar gyfer adeiladu y ddarpariaeth newydd yna yn mynd i gael ei thanseilio gan rywbeth arall.
Diolch i'r Aelod am ei sylwadau cadarnhaol yn gyffredinol a gyflwynodd yn y Siambr heddiw. Cwestiwn cyntaf yr Aelod oedd a oedd pwyslais cryf ar gyfleoedd economaidd yn y datganiad. Mae hynny'n anfwriadol os oedd, oherwydd ein bod yn credu bod themâu trawsbynciol o ran yr hyn y mae'r datganiad yn ei wneud ac y mae cyflwyno’r rhaglen hon yn ei wneud. Yn sicr, mae’n fantais fawr o ran adfywiad economaidd cymunedau; mae caniatáu i rieni fynd i'r gwaith yn beth da. Ond hefyd mae canlyniadau cymdeithasol, addysgol ac o ran ansawdd, ac egwyddorion Deddf llesiant cenedlaethau’r dyfodol yr ydym wedi’u hymwreiddio yn yr egwyddor hon ynghylch sut yr ydym yn symud ymlaen â’r polisi cymhleth hwn.
O ran rhai o'r gwir fanylion ynghylch y gweithlu, rydym wedi dechrau dau ddarn o waith mwy manwl; yn gyntaf oll, cynllun y gweithlu. Mae’r comisiynydd plant a chomisiynydd cenedlaethau'r dyfodol yn ein helpu o ran ceisio edrych ar hyn yn ddeallus trwy gynllunio ar gyfer y dyfodol. Ac mae’r elfen arall yn dilyn hynny, unwaith y byddwn yn deall rhaglen y gweithlu, yn ymwneud â threiddio i ofal plant a'r blynyddoedd cynnar, gan edrych ar yr hyn sy’n gweithio'n well mewn gwirionedd a sut yr ydym yn gallu addasu’r rhaglen i wneud y gorau o'r materion. Felly, nid yw'n canolbwyntio ar elfennau economaidd hyn yn unig, ond hefyd mewn gwirionedd ar y canlyniad gorau ar gyfer y dysgwr, a sut yr ydym yn gwneud y gorau o'r broses gyfan. Felly, bydd y cynlluniau peilot yn ein galluogi i gael rhywfaint o hyblygrwydd wrth inni symud ymlaen hefyd. Felly, mae’n bosibl na fydd y cynlluniau peilot yn y diwedd yr un peth ag yr oeddent ar y dechrau, a dyna’r holl egwyddor o ran pam rydym yn dysgu drwy gyflwyno’r rhaglen hon.
Rwyf wedi siarad â'r sector, cyngor gofal y gweithlu a'r Gweinidog sgiliau. Rydym eisoes yn cynnal trafodaeth am yr hyn sydd ei angen ar gyfer y dyfodol. Mae’r Aelod yn iawn; mae bob amser yn codi mater ansawdd. Mae'n ddyhead i mi, ac rwy’n rhannu ei farn ynghylch sut y gallwn broffesiynoli ansawdd y gweithlu i sicrhau bod hwn yn gyfle i’r gweithlu symud ymlaen o ran eu gyrfa yn y tymor hir hefyd. Mae'n wirioneddol bwysig i'n pobl ifanc, ac mae'n rhywbeth yr ydym yn ei ystyried wrth inni symud ymlaen.
Mae'r mater ynghylch Cyllid a Thollau EM yn un yr wyf yn gyfarwydd ag ef. Dim ond un rhan fach o'r broblem yr ydym yn edrych arni yw hyn—am y datganiad ynghylch yr 16 awr i unigolyn fod yn gymwys ar gyfer y cynnig hwn. Felly, rydym yn gweithio gyda Chyllid a Thollau EM, y darparwyr ac awdurdodau lleol i weld beth yw’r llwybr gorau—ai ateb i Gymru, neu sefyllfa fwy cyffredinol Cyllid a Thollau EM a rhai o'r cofnodion y maent yn eu cadw.
Rwy'n falch iawn y gallai’r darn hwn o waith cymhleth iawn a drud iawn mewn gwirionedd gael manteision enfawr hirdymor ar gyfer cymunedau ledled Cymru, a bod hynny’n rhywbeth yr oedd modd imi ei gyflwyno. Ac mae’r Gymraeg yn rhan o hynny, hefyd. Rwyf wedi cwrdd ag Alun Davies i drafod sut yr ydym yn cyflawni’r mater penodol hwnnw o fewn y sector. Mae datblygu'r ddarpariaeth Gymraeg yn y blynyddoedd cynnar yn waith pwysig, a’r asesiadau o ddigonolrwydd gofal plant—i rai rhieni, mae’r bylchau hynny yn y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg a dwyieithog yn bryder gwirioneddol. Maent yn bryder i ni, hefyd. Nid wyf yn credu ei bod yn ddefnyddiol rhoi rhif ar hyn, gan fy mod yn credu ei fod yn rhywbeth y mae rhieni a theuluoedd eisiau cael mynediad iddo yn y lle cyntaf. Os ydym yn dweud bod 20,000 o unedau pe bai rhieni eisiau darpariaeth Gymraeg, yna efallai mai hynny yw’r nifer y dylem fod yn anelu ato, ond rwy'n awyddus iawn i sicrhau bod yr hyn yr ydym yn ei ddysgu drwy’r cynlluniau peilot hyn yr ydym wedi’u lansio yn ymwneud â hygyrchedd yn y lle cyntaf: a allwn mewn gwirionedd gyflawni'r hyn yr ydym yn dweud ein bod yn gobeithio ei gyflawni yn y tymor hir, neu a oes rhai pethau a fydd yn gosod rhwystrau yn y ffordd? Rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda'r Aelod i sicrhau ein bod yn gallu cyflawni hyn ar gyfer ei etholaeth ef, a llawer ar draws Cymru.
Rwy'n ddiolchgar i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ddatganiad, ac mae gennyf bedwar cwestiwn. Yn gyntaf, rwy’n cydnabod, pan mae'n dweud mai 30 awr o ddarpariaeth yr wythnos, 48 awr y flwyddyn fydd y cynnig mwyaf hael sydd ar gael yn y DU, ei fod yn gywir. Mae’r gwaith o gyflawni hyn i ddod, ond byddwn yn rhoi clod iddo ef a'i blaid, a Llywodraeth Cymru, am yr uchelgais a'r hyn y maent yn ceisio ei gyflawni yn y maes hwn. Soniodd am y llymder a osodwyd gan Lywodraeth y DU; a fyddai ef yn ei dro yn cydnabod bod y diffyg haelioni cymharol o ran y ddarpariaeth gofal plant hyd yma hefyd wedi bod yn rhywbeth sydd wedi dal o leiaf rhai teuluoedd yng Nghymru yn ôl ac wedi gwneud pethau'n fwy anodd iddynt?
Yn ail, ystyriwyd bod ansawdd y ddarpariaeth bresennol yn dda yn gyffredinol, gan gynnwys dwy awr a hanner y dydd, bum niwrnod yr wythnos mewn amgylchedd ysgol. Rwyf yn meddwl tybed, pan ddywed yn ei ddatganiad,
Bydd ein cynnig gofal plant newydd yn cynnwys ein darpariaeth cyfnod sylfaen lwyddiannus yn ystod y tymor, ynghyd â gofal plant ategol, a yw hynny'n golygu y bydd unrhyw ehangu'r ddarpariaeth mewn lleoliadau ysgol yn fath gwahanol o ofal plant wedi’i ychwanegu at y ddwy awr a hanner hynny? Roeddwn wedi gobeithio efallai, mewn rhai ardaloedd, y byddai’r ddwy awr a hanner o ddarpariaeth o ansawdd da yn aml mewn ysgolion yn cael eu hymestyn i chwe awr y dydd. A fydd hynny’n digwydd mewn o leiaf rhai o'r ardaloedd peilot, neu a ragwelir y byddai'n bwyslais llai addysgol ac efallai’n ddarpariaeth gofal plant cofleidiol rhatach yn ychwanegol at y ddarpariaeth bresennol?
Yn drydydd, mae'n sôn am allu a phrinder gallu mewn rhai ardaloedd o Gymru. Beth yw barn Llywodraeth Cymru am ble y mae’r ardaloedd hynny o brinder? Gan siarad yn bersonol, mae’r ystod o ddewisiadau a’r gallu sydd ar gael wedi creu argraff arnaf. Pan mae'n sôn am y cynlluniau peilot, a chwech ohonynt o’r hydref y flwyddyn nesaf—ai ei asesiad o ddiffyg gallu sy’n cyfyngu ar ba mor gyflym ac eang y gall gyflwyno’r treialon hyn neu a yw’n gyfyngiad o ran y cyllid o fewn y gyllideb sydd ar gael iddo?
Yn olaf, a chan gyfeirio, mewn gwirionedd, at y siaradwr blaenorol, rwy’n credu bod y mater ynghylch ansawdd yn bwysig iawn yma. Yn sicr, fy argraff i hefyd, wrth ddarllen a gwrando ar y datganiad, oedd bod pwyslais cryf iawn ar elfennau economaidd manteision gofal plant a chymaint y bydd rhieni sy'n gweithio yn gwerthfawrogi’r cynnig hwn, fel y byddwn yn wir. Ond yn sicr roedd llai yn ei ddatganiad am effaith y ddarpariaeth gofal plant estynedig ar y plant, ac un o'r dadleuon a gyflwynodd rhai o blaid gofal plant a gefnogir gan y wladwriaeth yw bod ansawdd y ddarpariaeth, yn enwedig o ran plant o deuluoedd llai cefnog efallai, yn gallu bod yn rhywbeth sy'n gwella eu cyfleoedd mewn bywyd. Rwy’n credu, yn sgil y prosiectau peilot y mae'n eu cynnig, fod cyfle gwirioneddol i ganolbwyntio ar hynny, a phrofi hynny hefyd. Yn ogystal ag ystyried sut y mae rhieni yn teimlo am y ddarpariaeth, sut y mae cynghorau yn ymdopi â'r logisteg, beth yw'r cysylltiad â Llywodraeth Cymru, beth sy'n gweithio orau o safbwynt logisteg—a allai hefyd wneud rhywfaint o ddarpariaeth ar gyfer astudiaeth academaidd o’r rhaglen beilot, fel y gallwn weld mewn gwirionedd a yw argaeledd y rhaglenni peilot mewn rhai cynghorau, neu mewn ardaloedd rhai cynghorau, o gymharu ag eraill, yn arwain yn y pen draw at well canlyniadau ac, yn arbennig, efallai, sgoriau profion cynnar ar gyfer y plant sydd wedi elwa ar y cynlluniau peilot hynny? Diolch i chi, rwy’n ddiolchgar.
Diolch i'r Aelod am ei sylwadau cadarnhaol. Mae'n gywir i godi'r mater mai hon yw'r rhaglen fwyaf hael sy’n cael ei chyflawni yn y DU gan y Llywodraeth hon. Mae'r DU yn wir yn cael anhawster mawr wrth gyflwyno eu rhaglen gyffredinol ar draws Lloegr. Rwy'n credu mai Efrog a gafodd broblemau sylweddol ynghylch y fargen o ran cytuno ar yr hyn y byddai gofal plant â'r sector preifat, ac mewn gwirionedd gwrthododd y sector preifat ddarparu rhai o'r gwasanaethau yn y diwedd. Felly, roedd yn broblem fawr yno—rydym yn dysgu o'r profiad hwnnw. Rwyf yn credu eich bod yn gwybod bod yn rhaid i ni sicrhau ein bod yn deall y cymhlethdodau gyda’r sector sy'n darparu hyn a chyda’r rhieni. Dyna pam y mae’n haws i ni gyflwyno rhaglen lawer arafach i'r system honno.
Mae hynny'n cyd-fynd yn dda â’r trydydd pwynt a gododd yr Aelod ynghylch gallu a'r rhesymau pam yr ydym yn cyflwyno hyn yn raddol yn y chwe awdurdod. Un rheswm yn rhannol yw gallu a deall yr hyn y gallwn ei gyflawni ar lawr gwlad. Mae'r sector yn dweud wrthym, peidiwch â rhuthro hyn oherwydd ni allwn gyflawni hyn ar hyn o bryd—mae’r profiad yn Lloegr wedi bod yn un da ond mae hefyd yn gywir i godi'r mater ynghylch elfennau cyllidol hyn hefyd. Mae’r Gweinidog cyllid yn garedig wedi cyflwyno rhaglen gwerth £10 miliwn ar gyfer y flwyddyn nesaf, ac rwy'n ddiolchgar iawn am hynny, ond mae hefyd yn ffactor sy’n rheoli ein gallu i symud y rhaglen yn ei blaen. Rydym yn credu y bydd hynny’n cyfateb i tua 10 y cant o'r rhaglen, felly mae'n gyfle dysgu arbrofol da i ni o fewn ffiniau cyfleoedd cyllidol ac o ran gallu sy'n cael eu cyflwyno yno.
Cododd yr Aelod y mater ynghylch y rhaniad rhwng y cyfnod sylfaen a gofal plant; nid yw hynny'n newid. Rydym yn cynnal trafodaethau â'r Gweinidog ynghylch rhywfaint o gysondeb ar draws awdurdodau, gan fod rhai awdurdodau yn darparu’r cyfnod sylfaen gan ddefnyddio amserlenni gwahanol, a dulliau gwahanol, ac yn ychwanegu oriau. Ond ceir tystiolaeth hefyd i awgrymu—. Mae wedi ei gyflwyno yn y ddwy ffordd i mi. Mae rhai pobl yn dweud, pam nad oes gennym raglen cyfnod sylfaen 30 awr, yn hytrach na rhaglen 10 neu 20 awr neu raniad 15/15? Mae llawer o ddarnau o dystiolaeth sy'n awgrymu nad yw addysg amser llawn, yn null y cyfnod sylfaen, yn fuddiol i'r plentyn. Mae'r mater ynghylch chwarae amgen hefyd yn bwysig. Ond byddwn yn dysgu trwy’r rhaglen honno a'r hyn y gallaf ei ddweud yw na fydd rhai o'r lleoliadau yn newid ar gyfer y plentyn, felly gall fod yn lleoliad cyfnod sylfaen yn rhannol ac wedyn symud i leoliad gofal plant, ond byddai yn yr un adeilad, efallai, â rhai o'r unedau. Rwy'n gwybod bod Rhondda Cynon Taf yn gyfarwydd â chyflwyno cynllun ar gyfer plant dwy a thair oed, yn llawn amser, dan weinyddiaeth flaenorol, cyn y weinyddiaeth bresennol, ac mae gennyf ddiddordeb mawr mewn gweld sut y mae hynny'n gweithio, beth yw’r cyfleoedd o ran hynny, ac, yn bwysicach, yn Rhondda Cynon Taf, sut y gallant ddarparu hynny drwy gyfnod yr haf hefyd, pan nad yw’r cyfnod sylfaen yno, ac ym mha ffordd y byddant yn gallu rheoli hynny.
Mae’r Aelod yn iawn—ac mae fy nghyd-Aelodau yn y Cabinet a llawer o’r Aelodau yn y Siambr hon yn rhannu hyn—ynghylch beth yw ansawdd a beth yw'r cyfle ar gyfer y person ifanc. Mae manteision economaidd enfawr i gymunedau dim ond yn sgil y gallu i rieni fynd yn ôl i'r ffrwd waith, a chredaf fod hynny hefyd yn ychwanegu at y mater ynghylch trechu tlodi pan fydd gennych chi gyflog yn dod i gartref iach—mae hynny’n ymwreiddio cyfle i'r teulu. Ond yr hyn na fyddwn yn ei wneud yw gosod plant mewn warysau. Gallaf roi'r sicrwydd hwnnw ichi. Rydym yn awyddus iawn i sicrhau bod darpariaeth dda o ran y cyfnod sylfaen a gofal plant o ansawdd da, ac rydym yn disgwyl i hynny gael ei gyflawni.
Gofynnwyd imi hefyd a ddylai ein teuluoedd fod yn darparu gofal plant—neiniau a theidiau neu aelodau'r teulu—o ran sut y gallant gael mynediad at y system, oherwydd dyna’r hyn y maent yn ei wneud. Bydd canllawiau clir iawn ynghylch yr hyn a ddisgwylir. Mae’r arolygiad gan Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru yn rhan o'r broses honno o ran darparu gofal plant da. Mae gennym weithgor mawr sy’n edrych ar hyn. Mae'r rhain yn bobl allanol a rhai o fy nhîm i, yn gweithio ar sut y gallwn gyflawni hyn. Bydd canlyniad y dysgu yn un pwysig o ran sut yr ydym yn llunio'r rhaglen lawn, wrth symud ymlaen.
Mae’r comisiynydd plant a chomisiynydd cenedlaethau'r dyfodol hefyd yn rhan o’r gweithgor ac er eu bod yn—dylwn fod yn ofalus ynghylch sut yr wyf yn dweud hyn—heddlu comisiynwyr, maent yn gyfeillion beirniadol sy'n ein helpu i lunio'r ffordd y mae lleisiau plant yn sicr a lleisiau rhieni yn cael eu cynnwys yn agenda’r polisi hwn. Felly, rydym yn dysgu llawer o'r cyfle a ddarperir gan y cynllun peilot, hefyd.
Diolch yn fawr iawn, Ysgrifennydd y Cabinet, am y datganiad. Yn amlwg, mae hon yn rhan bwysig iawn o'n hymrwymiadau yn y maniffesto. Mae gennyf dros 20 o ysgolion yn fy etholaeth—ysgolion cynradd, hynny yw—sydd i gyd yn darparu dysgu cynnar y cyfnod sylfaen o dair oed. Ond mae pob un ohonynt yn darparu hynny’n rhan amser. Felly, dyna'r rheswm, Mark Reckless, pam na allwch ddarparu’n llawn amser yn syml, oherwydd bod un garfan yn dod i mewn yn y bore a charfan arall yn dod i mewn yn y prynhawn. Dyma’r mater ynghylch gallu a wynebwn mewn ardal drefol fel Caerdydd, gan fod dinas Caerdydd wedi bod yn tyfu ac mae tua 36,000 o bobl yno, ac mae ein holl ysgolion yn gwbl lawn.
Mae gennym gryn dipyn o ddarparwyr gofal plant preifat a gwirfoddol, yn ogystal, ac mae hynny'n iawn, ond rwyf eisiau ymchwilio i sut y gallwn gael mwy o'r math o drefniadau sydd gennym yn Ysgol y Berllan Deg, lle mae meithrinfa ddwyieithog breifat ar waelod yr ardd, fel y mae’n digwydd, sy'n eu galluogi i ddarparu'r gofal cofleidiol hwnnw. Yn yr un modd, yn ysgol Parc y Rhath, mae ganddynt feithrinfa breifat—Ninian Nurseries—sy’n mynd â’r plant i’r ysgol ac oddi yno, er mwyn darparu’r gofal cofleidiol a'r addysg ar eu cyfer. Ym mha ffordd arall y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn credu y byddwn yn gallu symud ymlaen mewn ardal adeiledig iawn fel Caerdydd, lle mae pris uchel ar dir, yn amlwg?
Yn fy hen fywyd, roeddwn yn ymwneud yn fawr â’r gwaith o greu canolfannau blynyddoedd cynnar integredig, a oedd yn darparu gwahanol lefelau o addysg a gofal plant, gan godi tâl ar bobl yn ôl graddfeydd gwahanol, yn dibynnu ar eu hamgylchiadau. Mae hynny, yn amlwg, yn fodel yr ydym, efallai, yn awyddus i’w ailystyried, oherwydd am ein bod yn mynd i roi gofal plant am ddim i blant tair a phedair oed—ni fyddai'n gwneud unrhyw niwed ehangu'r gwasanaeth gofal y telir amdano i rieni eraill sy’n teimlo y byddent yn gallu gwneud hynny ac yn dal yn gallu cadw eu swydd.
Felly, credaf, o ran ein gallu i ehangu, pa newid y mae'n rhagweld y bydd yn digwydd gyda'n sectorau gwirfoddol a phreifat? Oherwydd, yng Nghaerdydd ar hyn o bryd, y rheol yw na allwch roi eich plentyn mewn darpariaeth feithrin yn y sectorau gwirfoddol neu breifat, oni bai nad oes unrhyw ddarpariaeth yn sector y wladwriaeth. Mae’n ymddangos i mi nad yw hynny, yn ôl pob tebyg, yn mynd i’n galluogi i greu mwy o feithrinfeydd yn y sector gwirfoddol. Oni bai eu bod yn gwybod bod ganddynt nifer penodol o blant, yn syml, ni fyddant yn gallu gweithredu. Felly, tybed pa drafodaethau yr ydych wedi bod yn eu cael, yn benodol, â fy awdurdod lleol i ynghylch hynny, er mwyn newid y ffordd yr ydym yn edrych ar y sectorau gwirfoddol a phreifat o bosibl, o ystyried y bydd yn rhaid i ni gydweithio â nhw.
Fel arall, pan fyddwn ni'n adeiladu ysgolion newydd, pa ymrwymiad y gallaf ei gael oddi wrthych, Ysgrifennydd y Cabinet, na fyddwn mwyach yn adeiladu ysgolion nad oes ganddynt ddigon o le ar gyfer gofal cofleidiol yn yr ysgolion? Oherwydd mai hynny, yn amlwg, fydd y ffordd ymlaen. Mae'n llawer gwell i'r plentyn allu aros yn yr un ystafell lle cafodd ei addysg feithrin i ddechrau a chael gofal plant hefyd. Rwyf yn cydnabod yn llwyr nad yw hyn yn bosibl ar hyn o bryd o’r man lle rydym yn dechrau yng Nghaerdydd. Ond pe byddem yn wir wedi cael ysgolion bro 10 neu 20 mlynedd yn ôl, ni fyddem yn y man lle rydym heddiw, am ei fod yn hollol amlwg y byddai pawb yn y gymuned eisiau gofal plant am ddim sydd ar gael yn eu hysgol leol.
Diolch i'r Aelod am ei chyfraniad—mae'n gofyn rhai cwestiynau diddorol iawn: beth pe byddem, 20 mlynedd yn ôl, yn gallu newid ffordd ein dyfodol? Byddem yn edrych yn wahanol iawn, efallai, heddiw. Ond mae hi wedi codi rhai pwyntiau pwysig yn ystod ei chyfraniad.
Mae'r mater ynghylch gofal cofleidiol yn un pwysig ac rydym yn gweithio gyda'r sector preifat, y sector gwirfoddol a'r sector cyhoeddus ynghylch yr hyn y mae hynny'n ei olygu drwy ein rhaglen Trafod Gofal Plant. Rydym yn deall nad y gofal naw tan bump, bob amser, sy'n helpu rhieni. Mewn gwirionedd, maent eisiau cael rhywfaint o hyblygrwydd bob ochr i hynny. Mae hynny ynddo'i hun yn peri problem, oherwydd bod y rhan fwyaf o'r modelau â dibyniaeth drom, ar gyfer darparu gwasanaethau cyhoeddus yn dda, yn gyffredinol, yn gweithio yn y gofod hwnnw, a lle mae dibyniaeth drom ar y rhaglen benodol honno, nid oes llawer o gapasiti yn y sector preifat, gan nad oes llawer o blant yn y gofod hwnnw. Felly, rydym yn ceisio addasu hynny, ac rwy’n deall yn llwyr y cwestiynau a gododd yr Aelod ynghylch sut y mae hynny’n edrych o ran gweithio y tu allan i'r arfer. Dyna pam rydym yn gweithio gydag amrywiaeth o sefydliadau ac amrywiaeth o awdurdodau lleol a fydd yn profi’r system hon i ni mewn lleoliadau gwledig a lleoliad trefol. Abertawe, yr wyf yn credu, yw’r lleoliad trefol, sef dinas, a fydd yn defnyddio'r cyfle i weithio gyda'r sector gwirfoddol yn ogystal.
Mae'r mater ynghylch cyfalaf yn un yr wyf eisoes wedi cael trafodaethau gyda'r Gweinidog cyllid a’r Gweinidog addysg amdano. Rydym yn ystyried pa lefelau o gyfalaf sydd eu hangen. Mae Ysgrifennydd y Cabinet, yn garedig, wedi cyflwyno £20 miliwn y flwyddyn o 2018-19 ymlaen i brif grŵp gwariant addysg ar gyfer buddsoddiad cyfalaf mewn lleoliadau gofal plant, ochr yn ochr â rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain. Felly, mae hyn yn ymwneud â chynllunio ar gyfer y dyfodol, yr union beth a gododd yr Aelod, o ran yr hyn y gallwn ei wneud yn fwy ynglŷn â hynny—cael lleoliad hyblyg sydd wedi’i adeiladu ar gyfer cyflawni’r ddarpariaeth gofal plant hynod uchelgeisiol hon.
Mae hyn yn uchelgeisiol iawn, ond fe allwn gyflawni hyn. Rwy'n ffyddiog y gallwn, ond ni allwn ei gyflawni yn Llywodraeth ar ein pen ein hunain; mae’n rhaid i ni weithio gyda sectorau eraill hefyd. Mae maint y diddordeb o’r tu allan, gan edrych i mewn, yn galonogol iawn. Mae'n rhaid i mi ddweud, o’r 1,500 o ymatebion, a hynny’n un o'r ymatebion mwyaf yr ydym wedi eu cael yn ein rhaglen ymgysylltu, gan siarad â rhieni, fod y rhan fwyaf o'r cwestiynau yn gofyn, pryd ydych chi'n mynd i ddechrau ei ddarparu? Felly, mae brwdfrydedd, o’n hochr ni o ran ein bod eisiau cyflawni hyn, ond hefyd gan rieni sydd eisiau derbyn—a phlant sydd eisiau derbyn—y buddsoddiad mawr hwn gan y Llywodraeth hon.
Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Yn gyntaf, rhaid i mi ddweud pa mor falch yr wyf o glywed y bydd Rhondda Cynon Taf yn un o'r awdurdodau peilot yn y cynllun hwn. Rwy'n siŵr y bydd yn dod â manteision enfawr i fy ardal. Mae gennyf dri chwestiwn i chi heddiw. Yn gyntaf, Ysgrifennydd y Cabinet, tybed pa ystyriaeth yr ydych wedi'i rhoi i fodelau hyblyg ac amgen o ddarparu gofal plant sy'n rhoi ystyriaeth lawn i’r gwahanol fodelau o addysg feithrin a darpariaeth gofal plant sydd ar gael ar hyn o bryd yn y gwahanol awdurdodau lleol yng Nghymru, ac yn eu hategu. Yn ogystal, er fy mod yn croesawu'n fawr gyfeiriad Ysgrifennydd y Cabinet at y ddarpariaeth gofal plant yn ystod gwyliau'r ysgolion, tybed pa ystyriaeth y mae wedi’i rhoi i bwysigrwydd mynd i graidd logisteg y ddarpariaeth hon yn ystod gwyliau’r ysgolion, sydd mor bwysig. Oherwydd bod y cynnig o ran gofal cofleidiol gwell sy'n cael ei gyflwyno yn wir yn cynnig cyfle i wneud gwahaniaeth gwirioneddol o ran mynd i'r afael, er enghraifft, â’r sgandal bod plant yn mynd yn llwglyd yn ystod gwyliau’r ysgolion, ond er mwyn gwneud hynny mae gwir angen i ni sicrhau ein bod yn cael y cynnig yn iawn.
Yn olaf, byddwn i'n croesawu diweddariad manylach gan Ysgrifennydd y Cabinet ynghylch y strategaeth Trafod Gofal Plant. Rwy'n credu bod hon yn ffordd dda iawn o ymgysylltu â rhieni ac â darparwyr, ond byddwn i'n awyddus i wybod sut y mae Llywodraeth Cymru yn ymgysylltu â’r grwpiau anoddaf eu cyrraedd y gallai fod arnynt angen ymyrraeth fwy brys o bosibl.
Diolch i'r Aelod am ei chyfraniad cadarnhaol. Mae’r Aelod yn iawn ynghylch y ffaith, mewn llawer o awdurdodau lleol, fod llu o wasanaethau yn cael eu darparu mewn ffyrdd gwahanol ar draws y 22 awdurdod lleol. Mae hyn wedi rhoi cyfle i ni edrych ar yr hyn sy'n gweithio orau, ble, a sut, efallai, y gallwn ehangu hynny. Nid wyf yn rhagweld y bydd gennym un cynllun wrth i ni symud ymlaen at ddiwedd y rhaglen. Rwy'n credu y bydd yn rhaid cael rhywfaint o hyblygrwydd o ran sut yr ydym yn gallu cyflawni rhai o'r pethau hynny. Ond bydd prawf y cysyniad yn cael ei ddatblygu dros y misoedd nesaf.
Mae'r mater ynghylch logisteg, ac yn enwedig yr un ynghylch cyfnod yr haf, yn un yr ydym wedi herio Rhondda Cynon Taf yn ei gylch, oherwydd ein bod yn gwybod eu bod yn gallu cyflawni hyn yn ystod y cyfnod ysgol, ond a allant a sut y byddant yn gwneud hynny drwy gyfnod yr haf, neu gyfnod y gwyliau? Mae hynny'n fater iddyn nhw, ac maent wedi ymrwymo i hyn ac yn frwdfrydig dros fynd ymlaen. Siaradais â’r arweinydd heddiw am y cyfleoedd y bydd hyn yn eu creu. Mae'n frwdfrydig iawn, ac rwy'n siŵr y byddwch chi’n cynyddu'r pwysau o ran cyfle o fewn yr awdurdod yn ogystal.
Mae Trafod Gofal Plant wedi bod yn llwyddiannus iawn. Mae gennym #TalkChildcare ar Twitter a Facebook. Rydym ni hefyd yn defnyddio dulliau eraill o ymgysylltu, drwy Mumsnet a rhaglenni eraill. Mae fy nhîm wedi bod allan yn siarad â chwmnïau yn y sector preifat. Felly, roeddent mewn cwmni mawr yng Nghaerffili ychydig wythnosau yn ôl, yn siarad â rhieni yn y cwmni hwnnw ynghylch sut a beth y gallai eu hanghenion fod neu beidio yn y dyfodol. I fod yn deg, mae fy nhîm yn gweithio'n eithriadol o galed gyda phobl allanol i gyflawni’r rhaglen hon, ond maent wedi hen flino arnaf yn dweud, ewch i siarad â phobl go iawn, yn hytrach na, mae’r Llywodraeth yn gwneud hyn i bobl; gadewch i ni gael rhywfaint o adborth am yr hyn sy'n gweithio iddyn nhw hefyd.
Diolch i’r Ysgrifennydd Cabinet.