1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 1:40 pm ar 9 Tachwedd 2016.
Cwestiynau y llefarwyr yn awr ac, yn gynta’r wythnos yma, llefarydd Plaid Cymru, Adam Price.
Diolch, Lywydd. Rwy’n credu, Ysgrifennydd y Cabinet, ein bod wedi gweld eto dros nos, onid ydym, y modd y mae canlyniadau gwleidyddol yn llifo o agenda economaidd sydd wedi methu â chyflawni newid ar gyfer y rhan fwyaf o bobl. Felly, a fyddai’n cytuno mai yn awr yw’r amser am syniadau beiddgar mawr sydd â’r potensial i sicrhau newid trawsnewidiol i’n gwlad a’n pobl? Yn yr ysbryd hwn, nodaf fod Manceinion Fwyaf wedi cyhoeddi ei bod yn cynnig am y World Expo, y gemau Olympaidd ar gyfer y byd busnes, os hoffech, nad yw wedi bod ar dir mawr Prydain ers y cyntaf, Arddangosfa Fawr 1851. Maent yn cystadlu, yn achos Expo 2025, yn erbyn Paris ac Osaka, ac nid yw’n sicr o gwbl y byddant yn llwyddo. Felly, a gawn ni edrych ar y posibilrwydd o gynnig enw Cymru am y slot nesaf sydd ar gael, sef 2027-28? Pa syniad a allai fod yn fwy cyffrous a grymus na’r Expo yn dychwelyd adref i fan geni’r chwyldro diwydiannol yma yng Nghymru?
A gaf fi ddiolch i’r Aelod am ei gwestiwn, a dweud ei fod yn llygad ei le—mae digwyddiadau dros nos yn sicr wedi arwain at yr angen i ni roi mwy o sylw i sicrhau bod twf economaidd yn berthnasol i’r holl bobl ym mhob cymuned? Ac mae hyn yn dilyn ystyriaethau, y gwn fod yr Aelod wedi’u cael, ers y refferendwm hefyd. Ac yn rhan o ddatblygu’r strategaeth economaidd newydd, rwy’n credu ei bod yn hanfodol ein bod yn ailganolbwyntio ein sylw ar ardaloedd o ddiweithdra uchel a lle y ceir cyfleoedd, nid yn unig i gael mynediad at swyddi a chyfoeth, ond hefyd i gael profiad o gyfleoedd yn creu mwy o gyfoeth o fewn eu ffiniau eu hunain. Bydd y strategaeth economaidd honno’n cael ei chyflwyno yn y flwyddyn newydd i Brif Weinidog Cymru, ond rwy’n credu bod yr Aelod hefyd yn gywir yn dweud bod angen i ni gynnig syniadau mawr, beiddgar, megis canolfan confensiwn Casnewydd, sy’n gyfleuster—y tro cyntaf y byddwn yn profi cyfleuster o’i fath yng Nghymru—a allai gynnig cyfleoedd ar gyfer cynnal digwyddiadau mawr megis yr Expo, megis Marchnad Deithio’r Byd, a fynychais yn Llundain yr wythnos hon, megis gwobrau Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn. Ac nid digwyddiadau diwylliannol yn unig, ond digwyddiadau busnes a digwyddiadau chwaraeon yn ogystal.
Ar thema syniadau mawr, lansiodd Sefydliad Bevan adroddiad pwerus ddoe a gyflwynai’r achos dros ddynodi ardal gyfan Cymoedd de Cymru yn ardal fenter. A oes cyfle i fynd gam ymhellach yma hyd yn oed a gofyn am ganiatâd gan Lywodraeth y DU i Gymru gyfan gael ei gwneud yn ardal fenter, ac i ni gael yr un pwerau dros y dreth gorfforaeth a gynigir i Ogledd Iwerddon, er mwyn i ni gael pwerau dros ryddhad treth mewn perthynas ag ymchwil a datblygu, a’r pwerau i gael toriadau yng nghyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr, yn enwedig mewn ardaloedd fel Cymoedd de Cymru, lle y ceir heriau economaidd penodol, gan roi’r math o fantais gystadleuol sydd ei hangen ar Gymru os ydym am gau’r bwlch economaidd hanesyddol hwn rydym wedi’i wynebu ers cenedlaethau?
Ie. Rwyf wedi darllen yr adroddiad gan Sefydliad Joseph Rowntree gyda diddordeb mawr, ac er fy mod yn credu bod y syniad o greu ardal fenter yn y Cymoedd yn un teilwng, nid wyf yn credu y byddai’n cynnig ateb i bob dim i gymunedau’r Cymoedd. Ac rwy’n credu bod angen gwneud mwy nag awgrym o’r fath er mwyn mynd i’r afael â rhai o’r problemau strwythurol sy’n parhau i effeithio ar gymunedau, ac nid cymunedau’r Cymoedd yn unig, ond sawl rhan o Gymru sydd wedi gweld dirywiad yn dilyn y swyddi sylweddol a gollwyd yn y 1980au a oedd yn gysylltiedig â gweithgynhyrchu, â’r pyllau, â’r diwydiant dur er enghraifft. Mae gennym stori dda i’w hadrodd hyd yn hyn, o ran ein perfformiad economaidd. Rydym wedi cefnogi ac wedi creu 140,000 o swyddi yn ystod tymor diwethaf y Cynulliad. Rydym hefyd wedi sicrhau ein bod yn osgoi’r math o falltod ar gymunedau a brofwyd mewn hen ardaloedd diwydiannol eraill yn y DU o ran diweithdra ymysg pobl ifanc. Yma rydym wedi creu 15,000 o swyddi ar gyfer pobl ifanc di-waith. Wrth i ni symud ymlaen, rwyf am ganolbwyntio mwy ar ansawdd y swyddi rydym yn eu creu a sicrhau bod gennym strategaeth economaidd fwy sensitif hefyd er mwyn gallu adnabod rhai o’r problemau sy’n bodoli—rhai o’r problemau mwy mympwyol a’r problemau unigryw sy’n bodoli mewn llawer o gymunedau nad ydynt wedi elwa o’r twf economaidd i’r un graddau ag y gwnaethom fel cenedl. Mae hon yn her fawr a dyna pam rwy’n ymgynghori mor eang ag y bo modd ar yr hyn y dylai’r strategaeth economaidd newydd ei gynnwys. Byddwn yn croesawu barn yr Aelodau ar y strategaeth economaidd a byddwn hefyd yn croesawu mewnbwn gan yr holl bleidiau a’r rhanddeiliaid.
Fel rwy’n dweud, bydd hwnnw’n cael ei gynhyrchu yn y flwyddyn newydd ac yn cael ei gyflwyno i’r Prif Weinidog. Ond bydd yn adeiladu ar lwyddiannau sy’n destun balchder i Gymru dros y blynyddoedd diwethaf, ond ei nod fydd mynd i’r afael, fel y dywedais, â rhai o’r problemau mwy strwythurol. Yn y cyfamser, mae gwaith grŵp gorchwyl y Cymoedd yn parhau. Gwn fod y syniad o ddynodi Cymru gyfan fel ardal fenter wedi cael ei gynnig, yn gyntaf, rwy’n credu, gan Matthew Parris. Rwy’n credu bod angen i ni ystyried yr holl ddulliau sydd ar gael i ni a’r holl gyfleoedd y gallai Bil Cymru, ac unrhyw bwerau datganoledig yn y dyfodol, eu rhoi i ni.
Yn olaf, a gaf fi annog Ysgrifennydd y Cabinet i edrych, nid yn unig ar y bwlch economaidd rhwng Cymru a gweddill y DU—gweddill Ewrop yn wir—ond hefyd y bwlch economaidd o fewn Cymru, yn sicr, yn enwedig ar adeg pan fo llawer o bobl yn y Cymoedd ac yng nghefn gwlad Cymru yn teimlo yr un mor bell o ganolfannau grym a chyfoeth ag y mae pobl y gorllewin canol neu ardaloedd y rhwd yn America yn ei deimlo o Washington DC? Felly, a wnewch chi ystyried yr achos dros greu corfforaethau datblygu rhanbarthol newydd pwerus, gan ganolbwyntio’n arbennig ar anghenion yr ardaloedd hynny yng Nghymru, yn y Cymoedd a chefn gwlad Cymru? Fe lwyddodd yma ym mae Caerdydd, oni wnaeth, mewn microcosm? Oni ddylem gynnig yr un trosoledd i’r ardaloedd hynny yng Nghymru sydd â chymaint o’i angen? A fuasai hefyd yn ystyried yr achos dros greu prifddinasoedd rhanbarthol yng Nghymru, a allai fod yn ganolfannau gweinyddiaeth gyhoeddus a gwasanaethau busnes, ac yn wir, hyd yn oed y syniad a welwch mewn nifer o daleithiau’r Gymanwlad, y syniad o is-brifddinas—mae’n bosibl y bydd angen i ni edrych rhywfaint ar y brandio—[Chwerthin.]—lle y gallai’r Senedd hon gyfarfod am rywfaint o’i hamser fel symbol o’n hymrwymiad i ledaenu cyfoeth a grym i bob rhan o Gymru?
Fel rwy’n dweud, mae’n ymwneud â sicrhau bod perthnasedd i’r hyn rydym yn ei wneud ym mhob rhan o Gymru. Fel y soniais, ar sawl achlysur bellach, am yr ardal rwy’n ei chynrychioli yng Nghymru, rwy’n credu weithiau fod y gogledd-ddwyrain yn teimlo’n bell oddi wrth y sefydliad hwn ac wedi’i heithrio rywfaint o’r broses ddatganoli. Buaswn yn cytuno hefyd ynglŷn ag economïau rhanbarthol a phwysigrwydd ardaloedd trefol yn rhoi hunaniaeth iddynt a denu buddsoddiad a chreu cyfoeth economaidd hefyd. Mewn unrhyw economi ranbarthol, mae’n bwysig bod yna ganolfannau, trefi, y gellir eu hadnabod fel prifddinasoedd y rhanbarthau hynny. Yn achos Cymru, rydym yn cyrraedd y pwynt hwnnw gyda Chaerdydd, gydag Abertawe a gyda Chasnewydd. Rwy’n credu ei bod yn hollbwysig ein bod yn nodi awdurdodau lleol a threfi mewn mannau eraill yng Nghymru sy’n fodlon ac sy’n benderfynol o wynebu’r her o fod yn brifddinasoedd rhanbarthol. Rwy’n credu bod hynny’n gwbl greiddiol.
Rwyf wedi siarad ar nifer o achlysuron hefyd ynglŷn â’r ffaith y byddwn, rwy’n gobeithio, drwy’r strategaeth economaidd newydd, yn gallu edrych ar ddefnyddio mwy o ymyriadau sy’n seiliedig ar le. Yn y gwaith rwy’n ei gyflawni, dan gadeiryddiaeth Alun Davies yng ngrŵp gorchwyl y Cymoedd, rydym wedi edrych â meddwl agored ar yr ymyriadau sydd eu hangen yn y Cymoedd. Fel y dywedais yn gynharach mewn ymateb i gwestiwn blaenorol, rwy’n credu na allwn fforddio edrych ar strategaeth Cymru gyfan heb edrych hefyd ar natur y rhanbarthau hefyd. Felly, mae angen i ni sicrhau nad ydym yn ymdrin â phob rhanbarth drwy weithredu dull un model sy’n addas i bawb. Dyna pam rwy’n credu ei bod yn bwysig, yng nghyd-destun y gwaith sy’n digwydd ar hyn o bryd ar y strategaeth economaidd, ein bod hefyd yn edrych ar yr economïau rhanbarthol a’r hyn sydd ei angen ar bob un o’r rhanbarthau, oherwydd mae’n ddigon posibl y bydd yr hyn sydd ei angen ar Ogledd Cymru yn wahanol i’r hyn sydd ei angen ar Ganolbarth a Gorllewin Cymru ac ar ddinas-ranbarthau de Cymru.
Llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig, Russell George.
Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, buaswn yn ddiolchgar pe gallech amlinellu’r manteision a’r costau sy’n gysylltiedig â’r penderfyniad i leoli pencadlys banc datblygu Cymru yng ngogledd-ddwyrain Cymru ac yn amlinellu pa drafodaethau rydych wedi’u cael ar hyn gyda Cyllid Cymru.
Wel, cynhaliwyd fy nhrafodaethau diweddaraf ddoe. Bydd yr Aelod yn gwybod o fy ymddangosiad yn y pwyllgor yr wythnos ddiwethaf—ac mae hyn mewn gwirionedd yn ymwneud â’r cwestiynau a’r pwyntiau y mae Adam Price newydd eu codi—fod gennyf bryderon ynglŷn â sicrhau bod gan sefydliadau cenedlaethol megis Cynulliad Cenedlaethol Cymru a Llywodraeth Cymru bresenoldeb ledled Cymru, ac nad oes unrhyw ran o Gymru yn teimlo eu bod wedi cael ei heithrio. Ac wrth gyflawni ymarfer mapio, gwelwyd bod rhannau o Gymru lle y ceir llai o bresenoldeb, ac rwy’n credu ei bod yn hanfodol ein bod yn gwneud yr hyn a allwn i wneud y Llywodraeth a’r sefydliad cenedlaethol hwn yr un mor berthnasol i bawb. Ac am y rheswm hwnnw, rwy’n credu ei bod yn gwneud synnwyr ein bod yn datganoli pryd bynnag a lle bynnag y bo modd. Am yr un rheswm, rwyf wedi dweud, gyda Trafnidiaeth Cymru, mai fy mwriad ar gyfer y corff hwnnw yw y bydd ei bencadlys yn cael ei leoli yn y Cymoedd hefyd.
Mae angen i ni ddysgu o’r canlyniad ddoe yn yr Unol Daleithiau ac o’r refferendwm fod llawer o bobl mewn llawer o gymunedau yn teimlo bod sefydliadau cenedlaethol, llywodraethau cenedlaethol, yn rhy bell o’u cymunedau. Mae’n hanfodol, felly, fod yr hyn a wnawn yn dod yn fwy perthnasol, yn fwy amlwg ac yn fwy hygyrch iddynt.
Wel, Ysgrifennydd y Cabinet, ni fyddwch yn clywed unrhyw anghytundeb oddi wrthyf fi. Credaf yn gryf y dylem fod yn symud allan o’r lle hwn i bob rhan o Gymru. Roedd Cyllid Cymru yn dweud wrth Bwyllgor yr Economi, y Seilwaith a Sgiliau y bore yma ei bod yn fwyfwy anodd cadw a recriwtio staff. Nawr, mae pryder y gallai’r sgiliau hynny gael eu colli o ganlyniad i adleoli arfaethedig i ogledd-ddwyrain Cymru. Mae’n bosibl y bydd rhywfaint o staff Cyllid Cymru nad ydynt yn dymuno symud, felly mae’n amlwg fod problem bosibl o ran cadw staff yn y cyswllt hwn, ac rwy’n meddwl tybed pa asesiad rydych wedi’i wneud.
Os edrychwch ar ogledd-ddwyrain Cymru, fe welwch fod llawer iawn o bobl—cannoedd o bobl yng ngogledd-ddwyrain Cymru—yn teithio ar draws y ffin i Loegr bob dydd i weithio mewn canolfannau ariannol mawr. Maent yn teithio ar draws y ffin i weithio yn Bank of America yng Nghaer, maent yn teithio ar draws y ffin i weithio yng ngwasanaethau ariannol Marks & Spencer, ac i’r banciau a’r canolfannau ariannol ym Manceinion. Nid wyf yn credu y dylid defnyddio problemau sgiliau fel esgus i atal y gwaith o ddatblygu twf economaidd ledled Cymru. Os gwyddom fod sgiliau ar gael mewn rhannau o Gymru, yna gellir eu defnyddio ar gyfer twf yn yr ardaloedd hynny. Ond o ran Cyllid Cymru a datblygiad banc datblygu Cymru, rwy’n ymwybodol o’r angen i gadw staff, ac am y rheswm hwnnw cefais drafodaethau ddoe gyda Giles Thorley ynglŷn â sicrhau bod presenoldeb banc datblygu Cymru yn cael ei gadw yng Nghaerdydd, ond bod yna gyfleoedd hefyd, ar ffurf pencadlys yng ngogledd Cymru, i wneud y sefydliad yn fwy hygyrch ac yn fwy perthnasol i bob rhan o’r wlad.
Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy’n credu bod cwestiwn arall yno mae’n debyg ynglŷn â beth y mae ‘pencadlys’ yn ei olygu. A yw’n golygu symud staff ar raddfa eang i ran arall o Gymru, neu ai teitl yn unig ydyw? Felly, efallai y gallech ateb y pwynt hwnnw. Ond y pwynt olaf yr hoffwn ei wneud yw hwn: yn yr adroddiad blynyddol ar gyfer 2015-16, mae Cyllid Cymru yn cadarnhau bod tâl y cyfarwyddwr ar y cyflog uchaf yn £404,000, o’i gymharu â £216,000 yn y flwyddyn flaenorol. Mae hwnnw’n ffigur uchel iawn, ac ar ôl i ni holi ynglŷn â hynny, roeddent yn ei briodoli i’r costau pensiwn ychwanegol a gyfrannwyd tuag at y cynllun pensiwn. Deallaf fod 30 y cant o staff Cyllid Cymru ar yr un cynllun pensiwn hefyd. Felly, wrth gwrs, os oes staff yn gadael y sefydliad, mae’n bosibl y gwelir cynnydd enfawr yn y costau hynny, felly buaswn yn ddiolchgar pe gallech fynd i’r afael â’r pwynt hwnnw, a hefyd a ydych wedi rhoi sylw i’r pwynt hwnnw yn yr achos busnes?
Mae’r rhain yn cael eu harchwilio fel rhan o’r opsiynau, ac mae opsiynau ar y bwrdd ar gyfer datblygu’r banc a ble y dylid ei leoli. O ran yr hyn yw ystyr ‘pencadlys’, wel, mae dau opsiwn: un, trosglwyddo staff a swyddogaethau ar raddfa eang o’r brifddinas i’r pencadlys newydd; neu dau, yr ail opsiwn fuasai creu pencadlys, a thyfu’r pencadlys hwnnw dros gyfnod o amser heb golli staff yn y swyddfeydd presennol o reidrwydd. Felly, byddwn yn ystyried y ddau opsiwn, y goblygiadau ariannol, ond hefyd y goblygiadau o ran cadw arbenigedd a sgiliau. Ond mae angen i mi fod yn glir unwaith eto fy mod yn dymuno gweld datganoli ble bynnag a phryd bynnag y bo modd, a byddaf yn edrych am gyfleoedd i ddarparu gwasanaethau mewn gwahanol gymunedau ledled Cymru, er mwyn sicrhau y bydd Llywodraeth Cymru a Chynulliad Cenedlaethol Cymru, rwy’n gobeithio, a phob un ohonom yn dod yn fwy perthnasol i fywydau pobl.
Llefarydd UKIP, David Rowlands.
Diolch, Lywydd. Rwyf am symud pethau’n ôl yn awr at y lefel ranbarthol y buom yn sôn amdani ychydig yn gynharach. Rwy’n credu bod Ysgrifennydd y Cabinet yn ymwybodol o grŵp o’r enw Grŵp Gweithredu Magwyr ar Reilffyrdd—sy’n ymgyrchu dros gael gorsaf ym Magwyr yng Ngwent. Maent wedi cymryd rhan yn y prosiect hwn ers nifer o flynyddoedd ac wedi llwyddo i gael cyllid gan sawl sefydliad. Rwy’n deall eu bod yn awr yn ceisio am grant gan Lywodraeth Cymru i sicrhau arian cyfatebol i’r prosiect ar gyfer astudiaeth cam 3 y Prosiectau Llywodraethu Buddsoddiadau Rheilffordd, swm sydd oddeutu £80,000 rwy’n credu. Maent yn gobeithio cwblhau’r cam hwn yn ystod yr ychydig fisoedd nesaf. A yw Ysgrifennydd y Cabinet mewn sefyllfa i ddweud a yw’n barod i ddarparu’r cyllid hwn?
Wel, ni allaf wneud hynny ar yr achlysur hwn, oherwydd ein bod yn dal i asesu rhinweddau’r cais. Rwy’n credu bod yr hyn y mae’r grŵp wedi’i wneud hyd yn hyn yn deilwng iawn. Rwy’n credu bod y gwaith y maent wedi’i wneud wedi bod yn hynod o werthfawr yn hysbysu Llywodraeth Cymru o’r hyn y mae cymunedau ei angen er mwyn creu amgylchedd mwy cysylltiedig. Ac felly byddwn yn rhoi ystyriaeth gydymdeimladol iawn i’r cais, ond ni allaf ddweud heddiw a fydd yn cael ei gymeradwyo ai peidio.
Diolch i chi am yr ateb hwnnw, Ysgrifennydd y Cabinet. Os ydych yn dal i feddwl am gyllid, a gaf fi fod mor ddigywilydd a gofyn a fuasai’n ystyried cyllido’r cais ar gyfer cam 3 y Prosiectau Llywodraethu Buddsoddiadau Rheilffordd yn gyfan gwbl, sydd tua £160,000 yn ôl pob tebyg? Rwy’n crybwyll y posibilrwydd, Ysgrifennydd y Cabinet, oherwydd gellir nodi bod yr orsaf hon wedi’i dynodi sawl gwaith mewn gwirionedd yng nghynllun metro Dwyrain De Cymru, ac mae ganddo gyfle go iawn i fod yn amlygiad cyntaf y prosiect metro yn rhanbarth Dwyrain De Cymru.
Am yr un rheswm ag a roddais eisoes, ni allwn roi unrhyw sicrwydd y buaswn yn gallu ariannu’r £160,000 yn llawn. Rwy’n siŵr fod yr Aelod yn deall y rheswm pam. Ni allaf wneud hynny am nad ydym wedi craffu ar y cais yn ddigon trylwyr eto. Ond o ran gorsafoedd, wel, mae hyblygrwydd wedi’i gynnwys yn y prosiect metro fel y gellir gwneud estyniadau ac fel y gellir addasu’r modd y caiff gwasanaethau eu darparu, er enghraifft os bydd seilwaith cymdeithasol newydd yn cael ei ymgorffori yn ardal ranbarthol De-ddwyrain Cymru, yna gellir addasu map y metro yn unol â hynny. Felly, rwy’n cydymdeimlo â’r achos. Byddaf yn edrych ar y cais yn drylwyr, ond nid wyf mewn sefyllfa i gymeradwyo’r cais heddiw.
Diolch i chi am yr ateb hwnnw, Ysgrifennydd y Cabinet, ond buaswn wedi hoffi gallu mynd â neges ychydig yn fwy cadarnhaol yn ôl at y bobl hyn. A oes unrhyw ffordd y gallwch roi rhyw fath o syniad i mi ynglŷn â’r posibilrwydd y bydd hyn yn digwydd, ai peidio?
Buaswn yn hapus iawn i gwrdd â’r Aelod a’r grŵp y mae’n sôn amdano, oherwydd credaf eu bod wedi gwneud achos cryf iawn, fel y mae’r Aelod wedi’i wneud, dros gael cefnogaeth gan Lywodraeth Cymru. Buaswn yn hapus i drafod eu dyheadau a’r cais gyda hwy.