– Senedd Cymru am 3:12 pm ar 23 Tachwedd 2016.
Eitem 6 yw’r ddadl gan Aelodau unigol o dan Reol Sefydlog 11.21 ar amaethyddiaeth fanwl. Galwaf ar Lee Waters i gynnig y cynnig—Lee.
Cynnig NDM6143 Lee Waters, Huw Irranca-Davies, Simon Thomas
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod manteision enfawr posibl cymhwyso 'data mawr' mewn amaethyddiaeth.
2. Yn nodi'r twf o ran ymchwil a datblygu mewn amaethyddiaeth fanwl fel ffordd o gynyddu cynnyrch, gwneud y defnydd gorau o adnoddau prin a lleihau'r defnydd o gemegau niweidiol.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu strategaeth i roi Cymru ar y blaen o ran datblygiadau amaethyddiaeth fanwl.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae’n rhaid i mi gyfaddef mai dryslyd yw’r ffordd orau o ddisgrifio’r olwg ar wynebau llawer o fy nghyd-Aelodau pan gyhoeddwyd y byddem yn cael dadl ar ddefnyddio data mawr mewn amaethyddiaeth, ond gallaf sicrhau’r Cynulliad nad canlyniad rhyw ysmaldod esoterig ar ran noddwyr y ddadl yw hyn. Mae goblygiadau ymarferol data mawr mewn ffermio yn enfawr. Mae amaethyddiaeth fanwl yn ymwneud ag arloesi, cynhyrchiant, meddalwedd a sgiliau. Nid rhyw brosiect technolegol di-nod mo hwn; mae’n mynd at wraidd rhai o’r heriau mwyaf sy’n ein hwynebu, fel caledi, diogelu’r cyflenwad bwyd a newid yn yr hinsawdd.
Rydym yn cynhyrchu, dal, storio a phrosesu data ar gyflymder nas gwelwyd erioed o’r blaen. Honnodd Eric Schmidt, cyn Brif Swyddog Gweithredol Google, ein bod bellach yn cynhyrchu cymaint o wybodaeth bob deuddydd ag y crëwyd rhwng dechrau amser a’r flwyddyn 2003—bob deuddydd. Mae cyfanswm y data sy’n cael ei ddal a’i storio gan ddiwydiant ledled y byd yn dyblu bob 14 i 15 mis. Rydym yn agosáu at y pwynt lle y gallwn godio bron bopeth a wnawn. Yr her ar gyfer ein cenhedlaeth ni a chenedlaethau’r dyfodol yw manteisio ar rym data mawr i wella ein bywydau—harneisio’r algorithm.
Mae amaethyddiaeth fanwl ar flaen y gad o ran y chwyldro data. Mae’n faes sy’n datblygu’n gyflym lle y caiff gwybodaeth ei defnyddio i gynhyrchu bwyd a thrin tir er mwyn gwella cynhyrchiant yn sylweddol a lleihau niwed i’r amgylchedd. Ym maes ffermio tir âr, er enghraifft, mae’r dull hwn yn galluogi ffermwyr i gasglu cyfoeth o wybodaeth amser real: lefelau dŵr a nitrogen, ansawdd aer, clefydau—data nad yw’n benodol i bob fferm neu i bob erw yn unig, ond i bob modfedd sgwâr o’n tiroedd amaeth. Gan ddefnyddio’r wybodaeth hon, gall algorithmau ddweud wrth y ffermwr beth yn union sydd ei angen ar bob modfedd sgwâr o’r tir a phryd, a chynyddu cynhyrchiant i’r eithaf mewn modd eithriadol o fanwl.
A wnaiff yr Aelod ildio?
Gwnaf.
Diolch yn fawr iawn i Lee Waters am gyflwyno’r ddadl hon a sicrhau’r ddadl hon, a hefyd am ildio yma. Ond a fyddai’n cytuno hefyd, yn ei sylwadau agoriadol, fod hyn yn fater o gyfiawnder cymdeithasol yn ogystal? Gall amaethyddiaeth fanwl a’r cyfan sydd ynghlwm wrthi ddrysu pobl, ond mewn gwirionedd, nodwyd ei bod yn rhan o’r ateb i’r broblem o sut i fwydo poblogaeth yr amcangyfrifir y bydd yn tyfu—i 9.1 biliwn erbyn 2050. Nid dyma’r unig ateb, ond mae’n un o’r arfau sydd gennym ar gyfer bwydo’r boblogaeth gynyddol honno.
Cytunaf yn llwyr fod iddi fanteision lluosog, o ran cynhyrchu bwyd, ond hefyd o ran lleihau niwed i’r amgylchedd, sydd hefyd yn helpu rhai o’r bobl dlotaf yn y byd drwy liniaru effeithiau newid yn yr hinsawdd.
Nawr, nid yn unig y mae’r algorithmau hyn a gymhwyswyd yn fanwl yn golygu bod llai o bethau’n mynd i mewn, am lai o gost i’n ffermwyr, ac i’r amgylchedd gyda llai o gemegau niweidiol, ond mae mwy o bethau’n dod allan, yn union fel y mae Huw Irranca-Davies newydd ei awgrymu. Mae ymchwil wedi dangos y gallai amaethyddiaeth fanwl gynyddu cynnyrch cnydau cymaint â 67 y cant. Mewn cyfnod o ansicrwydd cynyddol ynglŷn â’r cyflenwad bwyd a dŵr yn fyd-eang, mae ffigurau fel y rhain yn bwysig. Yn Seland Newydd, mae ffermwyr wedi datblygu ffordd o gymryd micro-fesuriadau o rannau helaeth o dir fferm i nodi faint o laswellt sydd yn y padog fel y gellir dosbarthu buchod godro yn y modd mwyaf effeithiol ar gyfer eu bwydo. Mae’n rhybuddio ffermwyr ynglŷn â faint o borthiant sydd ganddynt ac yn nodi ardaloedd lle y mae’r cynhyrchiant yn isel sy’n galw am ymyrraeth—er enghraifft, rhagor o wrtaith. Trwy fwydo eu hanifeiliaid yn fwy effeithlon, mae ffermwyr yn Seland Newydd wedi helpu i gynyddu allforion i Tsieina 470 y cant mewn un flwyddyn—ad-daliad economaidd clir am wybod union leoliad a chrynodiad glaswellt mewn cae: defnyddio amaethyddiaeth fanwl.
Mae pocedi o arloesedd ar draws Cymru, yn ein sefydliadau addysg bellach ac uwch. Yn ddiweddar, cyfarfûm â phrifathro Coleg Sir Gâr yn Llanelli, Barri Liles, a ddywedodd wrthyf sut y mae un o’u campysau eisoes yn mwynhau’r manteision. Yn eu fferm yng Ngelli Aur, ger Llandeilo, yn etholaeth Dwyrain Caerfyrddin, maent wedi sicrhau arbedion effeithlonrwydd sylweddol mewn cynhyrchiant llaeth, gan wneud y defnydd gorau o laswellt a lleihau mewnbwn porthiant drud. Maent yn defnyddio delweddau lloeren i fesur maint caeau a dyraniadau pori i’w buchesi. Caiff data twf glaswellt ei fesur yn wythnosol â mesuryddion plât cyn ei gofnodi ar ap ffôn clyfar a’i gydamseru â rhaglen gofnodi ar y we. Maent hefyd yn treialu llywio â lloeren mewn arbrofion i osod gwrtaith drwy ddefnyddio dulliau manwl. Ym Mhrifysgol Aberystwyth, mae Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig wedi cymryd rhan mewn datblygiadau arloesol ym maes glaswellt porthiant. Nawr, efallai ei fod yn swnio’n bell i ffwrdd cyn y daw goblygiadau ymarferol y gwaith ymchwil hwn yn glir. Mae’r glaswelltau hyn wedi dangos addewid cyffrous o ran lliniaru llifogydd, rhywbeth sydd wedi bod ar ein meddyliau gryn dipyn yr wythnos hon.
Nid ydym wedi dechrau crafu wyneb y potensial sydd i amaethyddiaeth fanwl i Gymru. Siaradais yr wythnos diwethaf am y gweithdy cyhoeddus a gynhaliais yn Llanelli yn ddiweddar, gweithdy a gynlluniwyd i helpu i ddatblygu glasbrint swyddi ar gyfer fy etholaeth, a’r consensws llethol oedd bod arnom angen mwy o uchelgais ar gyfer yr ardal os ydym i wrthsefyll y stormydd economaidd sydd ar y ffordd. Ac nid yn fy etholaeth i yn unig y mae hynny’n wir, mae’n wir ar draws Cymru. Ac mae amaethyddiaeth fanwl yn rhoi cyfle rhagorol i ni arddangos yr uchelgais hwn.
Un o’r diwydiannau a fydd yn debygol o deimlo baich Brexit yw ein sector cynhyrchu a gweithgynhyrchu bwyd. Bydd cael gwared ar y polisi amaethyddol cyffredin a’r tebygolrwydd y caiff tariffau allforio bwyd eu gosod yn ergyd galed i’n ffermwyr, ac mae angen i ni baratoi ar gyfer hyn, ac i ddod o hyd i ddulliau newydd, dychmygus, arloesol o hybu twf yn y sector hanfodol hwn—sector sy’n llythrennol yn rhoi bwyd ar ein byrddau. Mae’r amharu ar y farchnad a ysgogwyd gan yr hyn a elwir yn gyffredinol yn ‘bedwerydd chwyldro diwydiannol’ yn cynnig cyfle i ni hefyd wneud yn union hynny: ailddychmygu economi fwyd Cymru er mwyn sefydlu Cymru fel ffwrnais arloesedd a diwydiant orllewinol y DU, gan gryfhau ein gallu ar yr un pryd i wrthsefyll rhai o’r heriau byd-eang mwyaf sy’n ein hwynebu.
Fe ddylem, ac mae angen i ni groesawu data mawr â breichiau agored. Mae’r cynnig trawsbleidiol sydd gerbron y Cynulliad heddiw yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu strategaeth a fydd yn rhoi Cymru ar flaen y gad o ran datblygu amaethyddiaeth fanwl. Byddwn yn annog y Gweinidogion a’r Aelodau i fuddsoddi egni a brwdfrydedd er mwyn gwneud hynny. Diolch.
Hoffwn alw ar Andrew R.T. Davies.
Diolch i chi, Lywydd dros dro. Mae’n bleser cael cymryd rhan yn y ddadl hon, er bod hynny ychydig yn gynt nag y credais y byddwn yn cymryd rhan yn y drafodaeth. Rwy’n datgan buddiant, fel ffermwr, a rhag i mi grwydro i feysydd y gallai pobl feddwl eu bod yn gwrthdaro â fy muddiannau, rwy’n cofnodi hynny.
Ar ein fferm ym Mro Morgannwg, rydym yn gwneud defnydd mawr o ddelweddau lloeren a mesurau rheoli plaladdwyr a gwrteithiau; mae bron bob un o’r tractorau a ddefnyddiwn yn cael eu tywys gan loerennau, felly pan fyddwch yn rhoi’r gwrtaith allan, bydd rhan benodol o’r cae, er enghraifft, yn cael dogn fwy o wrtaith na rhan arall o’r cae am fod y delweddau’n dangos bod y rhan honno o’r tir yn fwy ffrwythlon na’r llall. 20 neu 25 mlynedd yn ôl, byddech yn mynd i mewn i gae 10, 15, 20 erw a byddech yn gosod cyfradd unffurf ar draws y cae, heb wybod yn iawn a oeddech yn cael yr effaith roeddech ei hangen. Ac yn amlwg, ceir effaith trwytholchi’r nitrad ac elfennau eraill y gwrtaith ar yr amgylchedd. Felly, mae yna fudd economaidd yn ôl i’r busnes ond ceir budd amgylcheddol yn ôl i’r busnes hefyd.
Rydym yn trafod llawer yn y Siambr hon, ac yn aml iawn yr un hen broblemau yw rhai o’r pethau rydym yn eu trafod yn y Siambr hon, ond drwy drafod y ddadl hon heddiw, sydd, fel yr amlygodd cynigydd y cynnig—yn gyntaf rydych yn meddwl, ‘Am ddadl od. Am beth y maent yn siarad?’—a dweud y gwir gallwn gael effaith enfawr yn y maes hwn am mai amaethyddol yn bennaf yw màs tir Cymru. Mae gennym ddiwydiant amaeth mor amrywiol. Mae gennym ardaloedd âr o amgylch y rhanbarthau arfordirol, mae gennym y sector da byw, ac rwy’n gweld bod yr Aelod dros Frycheiniog a Sir Faesyfed yma, ardal sydd ag un o’r dwyseddau uchaf o ffermydd da byw yn unrhyw le yn y Deyrnas Unedig. Mae gennym sector ynni adnewyddadwy cynyddol yn defnyddio ein harwynebedd tir, a hefyd rheoli atal llifogydd a’r enillion amgylcheddol y gellir eu cael. Felly, mewn gwirionedd, pan edrychwch ar gymysgedd amaethyddiaeth a’r defnydd o dir amaethyddol yng Nghymru, o ystyried maint Cymru, mae gennym gyfle enfawr i wthio ffiniau’r dechnoleg newydd hon mewn gwirionedd, a phatentu a datblygu’r dechnoleg honno yma yng Nghymru.
Roedd yn gwbl briodol—yr ymyriad gan yr Aelod dros Ogwr—i nodi ein bod yn byw mewn byd gyda thwf enfawr yn y boblogaeth, ac eto ni fu’r heriau i adnoddau naturiol y blaned erioed mor helaeth. Mae gennych ardaloedd enfawr o’r byd sy’n troi’n gras oherwydd problemau dŵr sy’n arwain at wrthdaro mewn sawl man. Mae gennych ddemocratiaeth orllewinol, gawn ni ddweud, neu economïau gorllewinol, sydd, yn hanesyddol, wedi darparu llwythi enfawr o fwyd drwy eu cefnogaeth i’r diwydiant amaethyddol, ond mewn gwirionedd nid yw cynhyrchiant y diwydiant amaethyddol, yn enwedig o ran cynhyrchu cnydau yn benodol, wedi newid llawer dros yr 20, 25 mlynedd diwethaf. Os edrychwch ar gynhyrchu gwenith, er enghraifft, am fod geneteg y tymor gwenith wedi cael ei ddwyn ymlaen, nid ydynt wedi dal i fyny’n iawn â’r potensial a’r galw sydd angen i ni ei greu er mwyn cynnal sylfaen gynhyrchu bwyd hyfyw i boblogaeth y byd sy’n cynyddu drwy’r amser.
Mae’r cynnig sydd ger ein bron heddiw yn gosod her, mewn ffordd gyfeillgar, i Lywodraeth Cymru, ac i’n sefydliadau addysg uwch ac addysg bellach, a’r diwydiant ei hun, i ymateb i’r her a’r cyfle sydd yno mewn gwirionedd i ddatblygu’r meysydd twf newydd hyn. Nid yn unig ym maes cynhyrchu cnydau y mae’n digwydd. Ym maes cynhyrchu da byw, yn arbennig, gall data mawr wella proffidioldeb ac effeithlonrwydd y sector da byw yn helaeth, o’r eneteg y profwyd ei bod yn darparu gwell anifeiliaid da byw yn ôl i giât y fferm, i asesu’r cig sy’n dod o’r anifeiliaid hynny hefyd pan gânt eu prosesu yn y safle prosesu. Yn Seland Newydd, er enghraifft, mae llawer o’r gwaith graddio sy’n cael ei wneud ar garcasau anifeiliaid yn cael ei wneud yn electronig erbyn hyn, yn hytrach na chan y llygad dynol, gan leihau’r gwahaniaeth, gawn ni ddweud, sy’n aml iawn yn digwydd wrth ddibynnu ar y llygad dynol a’r galw a allai fod yn y lladd-dy o ran beth y mae’r cynhyrchydd ei angen, gan ddarparu lefel gyson o enillion yn ôl i’r cynhyrchydd cynradd i gael yr hyder i fuddsoddi yn y sector da byw hwnnw.
Felly, mae hwn yn faes cyffrous iawn ac mae gennym bocedi o arloesedd go iawn yn digwydd yn ein sectorau addysg uwch ac addysg bellach ledled Cymru—soniwyd am Gelli Aur; mae Aberystwyth yn enghraifft wych arall o ragoriaeth y gallwn edrych arni—ond mae angen i ni gael cynllun, fel y mae’r cynnig yn galw amdano, gan Lywodraeth Cymru ynglŷn â sut y mae’n mynd i sicrhau’r arian ymchwil a datblygu, ynghyd â’r cyfleusterau sy’n bodoli yn y sector ymchwil yng Nghymru—. Mae yna derfyn ar fy amser, ond rwy’n hapus i gymryd yr ymyriad.
Fy ymddiheuriadau, nid wyf yn bwriadu ymyrryd gormod. Ond a fyddai’n cytuno hefyd mai un o’r cyfleoedd cyffrous sy’n deillio o hyn, gyda’r twf cynt gynt mewn data mawr, yw’r hyn y gallem ei wneud mewn gwirionedd ar yr agwedd amgylcheddol, gan y gellid cael gwared ar y rowndiau diddiwedd o arolygu, archwilio, adolygu a monitro, monitro ar ei ffurf draddodiadol, i ryw raddau, yn sgil cywirdeb monitro data mawr o’r hyn sy’n digwydd ar lawr gwlad mewn gwirionedd?
Mae cyfle enfawr i wneud hynny, ac fel rhywun, yn amlwg, sydd wedi cael ei arolygu’n rheolaidd, ar ôl bod yn ffermio ers 25 mlynedd, rwy’n gweld manteision ac anfanteision hynny gan fod y dirwedd yn wledd symudol, ac mae’r diffyg hyblygrwydd yn aml iawn sy’n gysylltiedig â chiplun o ddelwedd Google neu rywbeth y bydd arolygwyr yn dibynnu arno yn achosi problemau’n aml iawn. Ond mae lle i wella’r agwedd honno ar bethau hefyd.
Rwy’n croesawu’r cynnig ger ein bron. Rwy’n credu y gallem fod wedi llenwi llawer mwy o amser yn edrych ar yr agwedd benodol hon, gan fy mod yn credu ei fod yn faes dilys y gall y Llywodraeth wneud gwahaniaeth mawr ynddo, maes y gall y diwydiant wneud gwahaniaeth mawr ynddo, a gall ein sectorau ymchwil a busnes hefyd gyflawni ar gyfer canrif sy’n argoeli i fod yn un gyffrous a deinamig ym maes cynhyrchu bwyd ac yn wir, o ran argaeledd technoleg newydd.
Mae’n ddiddorol iawn clywed eglurhad Andrew R.T. Davies am y gwaith y mae’n ei wneud yn y maes hwn. Fel y mae Huw Irranca-Davies ac Andrew wedi nodi, mae’n ffordd o sicrhau cymaint o gynnyrch ag y bo modd heb ddefnyddio cemegau, a harneisio grym natur yn ddeallus. Yn ôl Sefydliad Bwyd ac Amaeth y Cenhedloedd Unedig, rhaid i gynhyrchiant bwyd gynyddu 60 y cant er mwyn gallu bwydo poblogaeth y byd sy’n tyfu. Mae data mawr yn arf pwerus sy’n seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer datblygu cynaliadwy yn y tymor hir drwy wella’r cyfleoedd economaidd i ffermwyr, yn ogystal ag iechyd defnyddwyr.
Gwelsom yr hyn a ddigwyddodd yn Zimbabwe, lle yr arweiniodd lefelau critigol o gnydau’n methu yn 2013 at berygl o ddiffyg maeth cronig i 2 filiwn o bobl. Gall data mawr helpu i atal y mathau hynny o bethau rhag digwydd, drwy ragweld yr amodau tywydd sy’n arwain at gnydau’n methu, ond hefyd drwy liniaru a chynhyrchu ffyrdd gwahanol o ddelio â’r broblem. Rwyf wedi siarad droeon am y diffyg masnach arddwriaeth sydd gennym yn y DU, ac yn enwedig yng Nghymru, ac mae hyn yn un o’r ffyrdd y gallem ddod yn hunangynhaliol mewn garddwriaeth yn effeithlon iawn, yn ogystal â’i defnyddio fel marchnad allforio.
Rwyf eisiau canolbwyntio ar ddwy wlad sy’n dominyddu’r farchnad arddwriaeth braidd, ac sydd wedi defnyddio data mawr yn effeithiol iawn. Un ohonynt yw Chile, sydd ar begwn deheuol De America. Mae ei hardal arddwriaethol wedi’i chanoli yn nhalaith Valparaíso, o ble yr allforir mwy na dwy ran o dair o gynhyrchiant garddwriaethol y wlad. Chile sy’n allforio 50 y cant o’r ffrwyth a allforir o hemisffer y de, ac mae’n wlad gymharol fach o ran arwynebedd tir. Os cymharwch hynny â 1990, pan nad oedd eu cyfran ond yn 25 y cant, mae’n awr yn brif allforiwr ffrwythau yn hemisffer y de. Felly, cafwyd trawsnewid enfawr yn y diwydiant hwnnw. Trwy’r byd, amaethyddiaeth sydd i gyfrif am 70 y cant o’r holl ddefnydd a wneir o ddŵr ffres, ond caiff oddeutu 60 y cant ohono ei wastraffu yn ôl yr hyn rwy’n ei ddeall. Felly, drwy ddefnyddio data mawr i reoli dŵr yn effeithiol—. Yn Chile, dangoswyd bod defnyddio ymchwilwyr dyfrhau wedi cwtogi eu defnydd o ddŵr 70 y cant ym maes ffermio llus drwy ddefnyddio rhwydwaith o synwyryddion di-wifr. Dyma allforion ffrwythau trydydd mwyaf Chile, felly, yn amlwg, gydag arbedion enfawr o’r fath, a dwy ran o dair o’r dŵr a echdynnir yn y byd bellach yn cael ei ddefnyddio gan amaethyddiaeth, nid yn unig y bydd galw am systemau rheoli dŵr clyfar, ond fe fyddant yn gwbl hanfodol.
Mae’r ail wlad yn llawer nes at adref, sef yr Iseldiroedd. Mae’n un o allforwyr prosiectau garddwriaethol mwyaf y byd, ac ar rai adegau o’r flwyddyn mae’n cyflenwi bron yr holl ffrwythau a llysiau ar gyfer y rhan fwyaf o Ewrop. Yr Iseldiroedd sydd â 44 y cant o’r fasnach flodau fyd-eang, ond hefyd, drwy ddefnyddio tai gwydr hydroponig, dyna sydd i gyfrif am 50 y cant o werth yr holl ffrwythau a llysiau a gynhyrchir yn yr Iseldiroedd. Maent wedi defnyddio data mawr i hybu eu cynhyrchiant a diogelu eu cnydau rhag yr hinsawdd nad oes modd ei ddarogan. Mae’r defnydd o’r tai gwydr hydroponig hyn wedi cynyddu eu cynhyrchiant bwyd yn aruthrol. Maent wedi defnyddio data i ddadansoddi a chydbwyso eu priddoedd, ac wedi gwneud defnydd effeithiol o wrteithiau naturiol, fel eu bod wedi mireinio eu technegau ffermio drwy chwyldro gwyrdd, yn hytrach nag ychwanegu mwy a mwy o wrteithiau masnachol artiffisial. Mae’n gwneud planhigion yn llai agored i ddirywiad pridd a thywydd na ellir ei ddarogan drwy ddefnyddio’r tai gwydr mawr hyn, y gallwch eu gweld os ydych yn hedfan dros unrhyw ardal yn yr Iseldiroedd. Mae’n golygu bod gan arddwriaethwyr fwy o reolaeth dros yr amodau, sy’n eu galluogi i hybu effeithlonrwydd, lleihau gwastraff ac ehangu cynhyrchiant y tu hwnt i’r tymhorau naturiol. Mae’r tai gwydr hydroponig hyn yn bendant yn cynnig garddwriaeth fanwl, a theimlaf y dylem allu eu hefelychu yma ym Mhrydain mewn gwirionedd.
Felly, rwy’n credu bod hwn yn faes pwysig iawn y mae angen i ni edrych arno, ac ar ôl siarad â’r undebau ffermio, rwy’n meddwl bod eu haelodau’n agored iawn i syniadau newydd, oherwydd eu bod yn deall yn iawn fod newid ar y ffordd, yn anochel, o ganlyniad i Brexit, ac mae hon yn foment bwysig iawn a defnyddiol i roi’r arfau sydd eu hangen arnynt i ffermwyr allu arallgyfeirio ac i roi incwm sicr iddynt.
Hoffwn alw ar Neil Hamilton yn awr.
Diolch i chi, Lywydd dros dro. Am ddadl ddiddorol yw hon wedi bod, a hoffwn longyfarch Lee Waters ar ychwanegu’r haen ddeallusol hon i’n trafodion. Mae’n dangos cymaint o glod ydyw i’n hen ysgol, ac rwy’n siŵr y bydd Adam Price yn cytuno ei fod yn cyfrannu cymaint at y trafodion. Wrth gwrs, mae fy nghyfraniadau i’n tueddu i fod ar gyfer pen garwach y farchnad areithyddol, ond rwy’n falch iawn o gymryd rhan yn y drafodaeth ychydig yn uwch ei safon hon.
Rhaid i mi gyfaddef nad oeddwn yn gwybod fawr ddim am y pwnc nes i mi ei ymchwilio ar ôl i’r cynnig gael ei nodi ar y papur trefn. Ond mae’n beth gwirioneddol gwerth chweil i ni ei drafod, am fy mod yn credu ei fod unwaith eto’n gwrthbrofi’r camsyniad Malthwsaidd ac yn dangos na ellir rhagweld y terfynau i ddyfeisgarwch dynol. Ac o ganlyniad i’r cynnydd aruthrol yn y boblogaeth a welsom yn ystod ein hoes, a’r cynnydd yn y boblogaeth sydd yn yr arfaeth, bydd angen i ni gynyddu cynhyrchiant bwyd yn enfawr, ac mae bron pawb sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl hon hyd yma yn cydnabod cyfraniad mor enfawr y gall data mawr ei wneud i liniaru problemau tlodi a newyn yn y byd, ac rwy’n siŵr ein bod i gyd yn derbyn hynny.
Ac yn sicr, wrth i’r byd gorllewinol ganolbwyntio llai a llai ar gynhyrchu llafurddwys, mae’r defnydd o dechnoleg yn dod hyd yn oed yn fwy pwysig. Roedd yn ddiddorol iawn clywed cyfrif ymarferol gan ffermwr, gan Andrew R.T. Davies, ynglŷn â sut y mae hyn wedi effeithio ar ei fusnes yn ystod y 25 mlynedd diwethaf. Rwy’n credu ei bod yn galonogol iawn i ni i gyd fod diwydiant a gâi ei ystyried yn y gorffennol fel un braidd yn hen ffasiwn, ar y lefel isaf un o weithgarwch unigol, bellach yn gallu manteisio ar y technegau hyn, na fyddai fawr ohonom, rwy’n meddwl, yn gallu esbonio sut y maent yn gweithredu i unrhyw un arall. Mae’n hawdd iawn gweld yr effeithiau; mae’n anodd iawn deall y wyddoniaeth a’r dechnoleg sy’n eu cynnal.
Ond mae’n ddiddorol ei bod yn trawsnewid ein bywydau mewn cymaint o wahanol ffyrdd. Roedd yn ddiddorol iawn clywed beth oedd gan Jenny Rathbone i’w ddweud hefyd am y ffordd y caiff y technegau hyn eu defnyddio yn yr Iseldiroedd, a’r ffeithiau diddorol iawn a roddodd i ni am y gyfran o fasnach y byd mewn blodau a llysiau ac yn y blaen y mae gwledydd bach yn gyfrifol amdanynt, sy’n rhoi gobaith mawr i ni, rwy’n meddwl, wrth feddwl, wrth i’r degawdau basio, y bydd gwledydd sydd â thlodi enbyd ar hyn o bryd yn gallu gwella bywydau mwy a mwy o’u dinasyddion. Felly, rwy’n credu mai ysbryd o optimistiaeth yn bennaf oll a fydd yn deillio o’r ddadl hon y prynhawn yma.
Yr hyn sy’n ddiddorol yw pa mor fforddiadwy yw’r dechnoleg hon hefyd, pan ystyriwch gostau cynhyrchiant llafurddwys yn y gorffennol, a pha mor amhosib oedd hi i fusnesau bach allu fforddio technegau tebyg sy’n drawsnewidiol o ran eu heffaith. Gall busnesau—a ffermwyr yw’r garfan eithaf o bobl fusnes busnesau bach yn y wlad hon, ac yn enwedig yng Nghymru—fanteisio ar y technegau newydd hyn er mwyn gwella eu busnesau a’u gwneud yn fwy cynhyrchiol. Felly, rwy’n falch iawn o gyfrannu yn y ddadl hon, er na allaf ychwanegu unrhyw wybodaeth at yr hyn a drafodwyd, ond i ddweud unwaith eto pa mor bwysig yw hi i’r Cynulliad gael y dadleuon cydsyniol hyn o bryd i’w gilydd fel nad oes rhaid i ni golbio a churo ein gilydd yn y Siambr bob amser. Unwaith eto, hoffwn fynegi fy niolch i Lee Waters am ychwanegu cymaint at ansawdd yr hyn a wnawn.
Hoffwn alw ar Simon Thomas.
Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd—
Acting DPO or however I should describe you at the moment—
Cadeirydd, ie, beth bynnag. Diolch. Rwy’n falch iawn o gael y cyfle i siarad yn y ddadl hon ac arbed gormod o embaras i Lee Waters am gael ei ganmol ormod gan Neil Hamilton rwy’n siŵr. Felly, rwy’n diolch iddo fy hun ac yn ychwanegu at hynny. Rwy’n credu mai’r hyn sy’n bwysig yn y ddadl hon yw ein bod yn sylweddoli bod hyn eisoes yn digwydd a bod amaethyddiaeth yn gymysgedd o dreftadaeth, celfyddyd a llawer o wyddoniaeth a thechnoleg a diwydiant. Mae’r rhan diwydiant eisoes yn gyrru hyn. Fel y dywedodd Andrew R.T. Davies, bydd gan y rhan fwyaf o ffermwyr system leoli fyd-eang o ryw fath ar eu tractorau eisoes ac yn gallu gwneud rhyw fath o fodelu fel hyn.
Yr hyn rydym yn galw amdano mewn gwirionedd yn y ddadl hon yw i Lywodraeth Cymru a phob un ohonom fod ar flaen y gad gyda’r dechnoleg hon. Wrth edrych ar sut y dechreuodd hyn i gyd, deuthum ar draws y defnydd cyntaf mewn gwirionedd o gerbyd awyr di-griw, y byddem bellach yn ei alw’n drôn, i arolygu tir ffermio yn y Deyrnas Unedig, yn ôl yn 2008 a phrosiect ymchwil ar y cyd rhwng QinetiQ, sef Aberporth i’r rhai sy’n ei adnabod, a Phrifysgol Aberystwyth yn edrych ac yn arolygu a oedd angen gosod gwrtaith mewn perthynas â lefelau nitrogen pridd ac roedd hynny’n cael ei wneud o’r awyr. Felly, rydym wedi bod yno o’r cychwyn yma yng Nghymru gyda’r dechnoleg, y sefydliadau addysg uwch a’r ffermwyr yn gweithio law yn llaw a nawr yw’r cyfle i symud ymlaen ar gyfer y rhan nesaf hon.
Rwy’n meddwl y bydd y rhai ohonom a astudiodd hanes yn hytrach nag amaethyddiaeth er hynny’n cofio ‘Turnip’ Townshend, symbylydd eithaf adnabyddus, gobeithio, y chwyldro amaethyddol cyntaf a gawsom yn y Deyrnas Unedig. Cyflwynodd system gylchdroi cnydau Norfolk, a fwydodd i mewn wedyn i’r chwyldro diwydiannol. Heb ‘Turnip’ Townshend ni fyddem wedi cael y chwyldro diwydiannol yn syml iawn am na ellid bod wedi bwydo poblogaethau cynyddol ein dinasoedd a ddeilliodd o hynny wedyn.
Rydym yn gweld hynny bellach yn ôl yng Nghymru. Dyma rwy’n ei hoffi am hyn: mae’n gyfuniad o’r hen a’r newydd gyda’i gilydd. Bydd aelodau o’r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig a ymwelodd â fferm Bryn Gido ger Llanarth yng Ngheredigion yn cofio’r ffermwr ifanc yno, Anwen, a oedd yn edrych ar sut y gallai wella ei phorfa ar gyfer defaid. Roedd hi’n plannu erfin, nid maip, ond erfin ar gyfer y defaid. Yn syml, drwy blannu’r erfin a gwybod beth oedd cyflwr y pridd a beth oedd twf glaswellt, ac mewn cysylltiad ag Aberystwyth, gyda Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig, gwybod pa laswellt i’w blannu, pryd i’w blannu, sut i’w blannu a glaswellt yn dilyn erfin mewn gwahanol gaeau, roedd y gostyngiad yn ei chostau dwysfwyd wedi bod yn aruthrol. O fod yn wynebu bodolaeth ansicr iawn roedd hi mewn sefyllfa lawer mwy cynaliadwy. Dyna fferm ddefaid draddodiadol, na fyddech yn meddwl pan fyddwch yn edrych ar ddadl sy’n dweud ei fod yn ymwneud â data mawr ac amaethyddiaeth fanwl. Nid ydych yn credu bod hynny’n ymwneud â ffermio defaid ond mae’n ymwneud yn llwyr â ffermio defaid. Ac yn yr un modd wrth feddwl am yr hyn a ddywedodd Andrew R.T. Davies am Seland Newydd, roedd hi’n edrych ar frid y defaid a bridio defaid ac yn gwneud hynny wedyn yn wyddonol hefyd. Dyna rywbeth y gallwch ei wneud mewn un ffermdy ar fryn yng Ngheredigion ac mae’n rhywbeth y gellir ei wneud ar draws Cymru yn awr wrth i ni wella ein data fferm.
Dywedwyd eisoes sut y gall data mawr ein cynorthwyo gyda hyn o ran tywydd, ansawdd pridd ac aer, aeddfedrwydd cnydau, offer, costau llafur, a’r holl arbedion a’r buddsoddiad a all arwain o hynny. Ond y peth go iawn rwy’n meddwl fy mod am ei bwysleisio ar y cam hwn o’r ddadl yw ein bod angen i rywbeth gael ei roi yn ei le er mwyn i ffermwyr bach yn arbennig allu gwneud defnydd o hynny. Yr hyn nad wyf am ei weld yn digwydd mewn data mawr ac amaethyddiaeth fanwl yw sefyllfa debyg i’r un a gododd gydag addasu genetig. Nid ydym yn mynd ar ôl addasu genetig heddiw ond dechreuodd addasu genetig fel rhyw fath o broses gorfforaethol fawr a oedd yn dweud wrth ffermwyr sut i ffermio ac yn dweud mai dim ond rhai gwrteithiau penodol y gallech eu defnyddio, ni allech ond defnyddio rhai plaladdwyr ac roedd yn deillio o ymagwedd o’r brig i lawr ac yn syml yn arwain at anghydfod ac anhapusrwydd ymysg ffermwyr ac yna, wrth gwrs, ymysg defnyddwyr hefyd nad oeddent yn credu mai dyna’r math o fwyd roeddent am ei weld. Felly, er mwyn osgoi hynny, rhaid i ni gynnwys ffermwyr eu hunain yn y broses o gynllunio data mawr a dyna’r pwynt rwy’n meddwl y gall Llywodraeth Cymru arwain arno.
Felly, er enghraifft, os ydym yn mynd i gael data mawr mae’n rhaid iddo gael ei storio. Os oes rhaid ei storio, yna mynediad at y data hwnnw a sut y caiff y data ei ddefnyddio—gwledd symudol y dirwedd, fel y cyfeiriodd Andrew R.T. Davies ati rwy’n meddwl—. Rhaid i ffermwyr fod yn hyderus fod y data’n mynd i gael ei ddefnyddio mewn ffordd gynhyrchiol a defnyddiol, nid i’w cosbi, ond mewn ffordd sy’n eu helpu, ynghyd â’u cymdogion, i dyfu eu busnesau fferm. Felly, mae pwy sy’n berchen ar y data’n bwysig, fel y mae’r modd rydych yn cysylltu â sefydliadau addysg uwch ynghylch y defnydd o’r data ac a oes modd defnyddio’r uwch gyfrifiaduron sy’n cael eu datblygu yn ein sefydliadau addysg uwch bellach at y diben hwn yn ogystal. Credaf fod hynny’n mynd i fod yn agwedd hanfodol.
Yr un arall, i droi at bwynt llai dyrchafol, ond un sy’n bwysig iawn, yw nad oes gan 13 y cant o’n ffermwyr yng Nghymru heddiw gysylltiad dibynadwy â’r rhyngrwyd, a chyflymder cysylltu o 2 Mbps yn unig sydd gan 60 y cant ohonynt. Ni allwch wneud data mawr—ni allwch godi drôn—â chysylltiad rhyngrwyd o’r fath. Ni allwch gadw eich gwybodaeth, ei rhannu a dysgu oddi wrth eich gilydd gyda chysylltiad o’r fath. Felly, mae data mawr yn gorfod mynd yn llaw â chysylltiad cyflym a da â’r rhyngrwyd a chysylltiad symudol mewn llawer o ffermydd yn ogystal.
Rwy’n credu bod yna botensial enfawr ar gyfer sgiliau gwyrdd—twf sgiliau gwyrdd—yn economi Cymru. Dim ond 27 y cant o ffermwyr sydd wedi cael hyfforddiant ffurfiol, ond i’r genhedlaeth newydd sy’n dod i mewn, wrth gwrs, mae bron yn 100 y cant. Dyma draddodiad ffermio yng Nghymru sy’n awyddus i ddysgu ac yn awyddus i ddefnyddio’u sgiliau, ac mae hon yn enghraifft go iawn o ble y gall Cymru arwain y ffordd.
Hoffwn alw ar Rhun ap Iorwerth.
Diolch yn fawr iawn, Gadeirydd. Rwy’n codi yn fyr iawn i ategu’r pwynt olaf a wnaeth Simon Thomas, mewn gwirionedd. Rwy’n ddiolchgar bod y mater yma wedi dod ger bron y Cynulliad—rwy’n croesawu hynny’n fawr.
Mae arloesedd yn rhywbeth yn gyffredinol rwy’n eiddgar i’n gweld ni’n gwneud mwy ohono yng Nghymru. Rwy’n meddwl bod yna rywbeth am faint Cymru—am ‘scale’ Cymru—sy’n ein gwneud ni’n lle delfrydol i arloesi mewn nifer o feysydd. Rwy’n meddwl, o ystyried pwysigrwydd byd amaeth fel rhan o’n gwead cymdeithasol ni yng Nghymru, fod amaeth yn faes amlwg iawn i geisio arloesi ynddo. Wrth gwrs, mae yna, fel yr ydym wedi clywed yn barod, ddigon o enghreifftiau o le mae yna arloesi mawr wedi digwydd, yn cynnwys yn ein sefydliadau addysg uwch ni.
Mae yna les i’r arloesi yma yn economaidd. Mae byd amaeth a’r rheini sydd yn dibynnu ar amaeth am eu bywoliaeth yn gorfod gwneud mwy efo llai y dyddiau yma, fel pobl ym mhob maes. Mae datblygiadau technolegol ac arloesedd amaethyddol yn mynd i alluogi hynny i ddigwydd. Rhywbeth sy’n perthyn i hen oes ydy ffermydd lle roedd yna luoedd o weision yn gweithio yn gwneud gwaith caled caib a rhaw. Erbyn hyn, mae gallu’r amaethwr i gael mwy am lai o fewnbwn yn fwy pwysig nag erioed. Wrth gwrs, mae yna bwysigrwydd amgylcheddol i hyn, hefyd, fel rydym ni wedi’i glywed, ac o ran bwydo’n poblogaeth ni.
Y pwynt, fel rwyf yn ei ddweud, rwyf i eisiau ei wneud, fel y gwnaeth Simon Thomas, yw: mae’n hawdd iawn meddwl rhywsut am gefn gwlad Cymru fel rhywle araf—rhywle hardd, ie, ond rhywle sydd ymhell iawn o fwrlwm arloesedd yr unfed ganrif ar hugain—ond nid yw hynny, wrth gwrs, yn wir. Os ydym ni’n chwilio am brofi lle ein cefn gwlad a’n diwydiant amaeth ni yn y ganrif arloesol hon, mae’n rhaid inni wneud yn siŵr bod y cysylltiadau yna i bobl allu cymryd rhan mewn rhannu data ac mewn rhannu gwybodaeth, ac rwy’n meddwl bod hwn yn ‘peg’, unwaith eto, i atgoffa’r rheini sy’n gwneud penderfyniadau, un ai mewn Llywodraeth neu o’r tu allan, fod yn rhaid ystyried cefn gwlad fel rhywle lle mae hi yr un mor bwysig, os nad yn bwysicach, i sicrhau bod y cysylltiadau yno. Nid yw cysylltiadau corfforol yn rhywbeth sy’n dod mor amlwg i gefn gwlad. Mae cysylltiadau digidol yn hollol allweddol, ac rwy’n meddwl bod hynny ynddo’i hun yn rhywbeth pwysig iawn i’w gofio wrth inni drafod yr arloesedd sydd ei angen arnom ni yng nghefn gwlad Cymru.
Galwaf yn awr ar Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, Lesley Griffiths.
Diolch, Gadeirydd. Rwy’n synnu bod Lee Waters wedi gweld wynebau dryslyd, oherwydd ar ôl i chi ddwyn hyn i fy sylw yn ystod un o fy sesiynau holi fis neu ddau yn ôl, cefais lawer o bobl yn dod ataf i sôn wrthyf am amaethyddiaeth fanwl. Felly, rwy’n meddwl ei bod yn dda iawn ein bod wedi cael y cyfle hwn i drafod y pwnc ymhellach heddiw.
Crybwyllodd Simon Thomas yn ei sylwadau fod llawer iawn o weithgaredd yn digwydd yn y maes hwn eisoes, felly rwyf eisiau nodi’r gwaith sy’n cael ei wneud a’r cymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi iddo.
Mae arloesedd, fel ym mhob agwedd ar fywyd mewn gwirionedd, yn gwbl hanfodol er mwyn i systemau amaethyddol sicrhau gwell cynhyrchiant ac effeithlonrwydd ac wrth gwrs, mae’n parhau i ddigwydd yn gyflym. Mae datblygiad yn y technolegau sydd ar gael i’n ffermwyr yn golygu bod yna gyfleoedd ar gyfer ymgorffori synwyryddion clyfar, systemau lleoli manwl iawn a lloerennau mewn arferion ffermio er mwyn lleihau mewnbynnau a’u targedu at ble y mae fwyaf o’u hangen.
Dechreuodd y chwyldro mewn ffermio manwl yn y sectorau âr a garddwriaethol, gyda systemau i dargedu mewnbynnau cnydau a chynaeafu. Y dyddiau hyn, fel y clywsom, mae yna systemau hefyd i gefnogi mentrau da byw sydd, er enghraifft, yn defnyddio synwyryddion i fonitro gweithgarwch, iechyd a chynhyrchiant.
Mae’r holl dechnolegau newydd hyn yn gyrru’r ffenomen a elwir yn ddata mawr, sef y gallu i gael gwybodaeth a mewnwelediad lle nad oedd yn bosibl yn economaidd nac yn dechnegol i wneud hynny o’r blaen. Mae systemau megis synwyryddion monitro o bell, systemau lleoli byd-eang a thechnoleg DNA bellach yn gallu cynhyrchu llwyth enfawr o ddata ar gyflymder uchel.
Agrimetrics yw’r gyntaf o bedair canolfan sy’n cael eu sefydlu fel rhan o strategaeth amaeth-dechnoleg Llywodraeth y DU. Bydd yn cefnogi’r chwyldro yn y defnydd o wyddoniaeth data a modelu data ar draws sector y system fwyd. Mae integreiddio data ar draws y gadwyn gyflenwi bwyd-amaeth, o gynhyrchiant fferm i’r diwydiant bwyd, i fanwerthwyr a defnyddwyr, i gyd yn nodau sydd gan Agrimetrics. Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio’n agos gyda’n rhanddeiliaid a chyrff cyflenwi i ddenu cymaint ag y bo modd o incwm ymchwil amaeth-dechnoleg i Gymru.
Felly, beth yw gwerth data mawr? Mae technolegau ffermio manwl yn cynnig cyfleoedd i gasglu data o ffynonellau lluosog, sydd wedyn yn creu setiau data mawr cadarn. Gellir cwestiynu’r data hwn a’i drosi’n wybodaeth a fydd yn gyrru’r don nesaf o arloesedd ar ffermydd. Ni fydd ffermwyr yn ddibynnol bellach ar daenlenni data o’u mentrau eu hunain; byddant yn gallu manteisio wedyn ar ddata cenedlaethol a byd-eang.
Mae Amaeth Cymru, grŵp partneriaeth y fframwaith strategol, a gadeirir gan Kevin Roberts, yn dod â rhanddeiliaid allweddol a Llywodraeth Cymru at ei gilydd i weithio mewn partneriaeth a datblygu cyfeiriad strategol ar gyfer amaethyddiaeth yng Nghymru yn y cyfnod cyn ac ar ôl Brexit. Rwy’n gweld gwaith y grŵp hwn yn hanfodol i gyflawni ein gweledigaeth hirdymor ar gyfer amaethyddiaeth yng Nghymru, ac mae’r gwaith hwn wedi dod hyd yn oed yn bwysicach a mwy o frys amdano yng ngoleuni canlyniad y refferendwm.
Mae Amaeth Cymru yn datblygu map strategol ar gyfer amaethyddiaeth yng Nghymru, a fydd yn nodi sut rydym yn bwriadu cyflawni ein cydweledigaeth ar gyfer amaethyddiaeth yng Nghymru yn y dyfodol. Un o’r ystyriaethau allweddol ar gyfer y grŵp fydd cyfleoedd yn y dyfodol ym maes ymchwil a datblygu.
Felly, fel y dywedais, mae llawer iawn o weithgaredd ar y gweill ar hyn o bryd. Trwy Cyswllt Ffermio, mae Llywodraeth Cymru yn mynd ati i ymwneud ag amaethyddiaeth fanwl ac yn sefydlu prosiectau i ddangos ei manteision i ystod eang o systemau ffermio. Byddwn yn annog ffermwyr a choedwigwyr sy’n awyddus i wybod mwy am dechnoleg a thechnegau ffermio manwl i wneud cais am gyllid drwy bartneriaeth arloesi Ewrop i ddatblygu eu syniadau ymhellach.
Mae technegau ffermio manwl yn helpu ffermwyr i ddewis a darparu’r mewnbynnau cywir ar yr amser cywir ac ar y gyfradd gywir. Felly, mae’n bwysig iawn fod gennym y mewnbynnau hynny sydd wedi’u targedu; gall arbed arian hefyd. Er enghraifft, ar un o’n safleoedd ffocws Cyswllt Ffermio yn ne Cymru, mae yna brosiect yn edrych ar y defnydd o synwyryddion gwrtaith nitrogen ar dractorau, sy’n ei gwneud hi’n bosibl gosod nitrogen mewn modd sensitif, yn ôl amrywiad yn lliw cnwd grawnfwyd. Disgrifiwyd y dechnoleg fel un sydd â’r gallu i fod yn fwy cywir o ran darparu maetholion na thechnoleg system leoli fyd-eang sy’n bodoli eisoes.
Enghraifft arall: ar safle arloesi Cyswllt Ffermio yn Aberystwyth, mae gennym brosiect rhaglen ymchwil sy’n anelu at wella dealltwriaeth o ymddygiad anifeiliaid a metaboledd, gan gynyddu cynhyrchiant a lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr ar yr un pryd. I’r Aelodau a fynychodd y Sioe Frenhinol, ar stondin Cyswllt Ffermio, cyfarfûm â’r bobl a oedd yn gweithredu’r cynllun hwn a gwrandewais ar y manteision ac os oes unrhyw werthusiad y gallaf ei gyflwyno, byddwn yn hapus i wneud hynny.
Felly, yn ychwanegol at y 12 prosiect Cyswllt Ffermio sy’n edrych yn benodol ar amaethyddiaeth fanwl ar draws Cymru, mae gennym grant cynhyrchu cynaliadwy Llywodraeth Cymru hefyd sy’n cynorthwyo nifer o ffermwyr Cymru i wneud y buddsoddiad angenrheidiol i foderneiddio a gwella aneffeithlonrwydd ar eu ffermydd. Rwy’n meddwl bod y pwynt a nodwyd gan Aelod ynglŷn â ffermydd bach—credaf mai Simon Thomas a’i gwnaeth—yn bwysig iawn hefyd. Mae angen i ni wneud yn siŵr nad ydynt yn cael eu gadael ar ôl gan y dechnoleg hon.
Felly, bydd y rhain a mentrau eraill sydd eisoes ar y gweill, rwy’n credu, yn rhoi Cymru yn ei lle priodol: ar flaen y gad yn y broses o ddatblygu amaethyddiaeth fanwl. Diolch.
Diolch i chi a galwaf yn awr ar Huw Irranca-Davies i ymateb i’r ddadl.
Diolch, Gadeirydd. A gaf fi ddweud bod hon wedi bod yn drafodaeth dda dros ben? Rydym wedi cael saith cyfraniad, gan fy nghynnwys i fy hun, ac Ysgrifennydd y Cabinet wrth gwrs, a chefais fy nharo gan lefel y consensws ynglŷn â’r potensial sydd i’r dechnoleg hon yng Nghymru, ac, fel y dywed Lee Waters, a gyflwynodd y ddadl, i ddefnyddio’r hyn a alwodd rwy’n credu yn ‘ffwrnais arloesedd orllewinol’. Rwy’n credu ei fod yn iawn, ac atgoffodd Lee ni o’r manteision y gall y dechnoleg hon eu creu: gwelliannau posibl o ran cynnyrch cnydau, amgylcheddol, manteision i incwm ffermwyr yn y wlad hon ac fel y dywedodd Jenny Rathbone hefyd, yn rhyngwladol. Lle y mae pobl yn ffermio mwy ar lefel cynhaliaeth, gellid dadlau y gallai’r manteision fod hyd yn oed yn fwy. Soniodd am y datblygiadau arloesol yng Ngholeg Sir Gâr, ar fferm Gelli Aur ac ym Mhrifysgol Aberystwyth—mae’n wych pasio’r fan lle y cynhelir y treialon ar laswelltau porthiant yn Aberystwyth mewn gwirionedd—a’r arloesedd sydd eisoes yn digwydd a photensial ei gymhwyso yma yng Nghymru.
Atgoffodd Andrew R.T. Davies ni, mewn gwirionedd, fod peth o’r dechnoleg hon eisoes ar waith fel mater o drefn, a defnyddir technoleg system leoli fyd-eang gan lawer iawn o ffermwyr y dyddiau hyn—y defnydd o ddelweddau lloeren ar gyfer defnydd manwl o wrtaith. Fe’n hanogodd i wynebu’r her o ddatblygu’r meysydd twf newydd hyn, a oedd yn thema gyffredin gan lawer o’r cyfranwyr heddiw—fe ildiaf, wrth gwrs.
Rwy’n symud ymlaen mewn bywyd ar yr oedran tywysogaidd o 48, ac fel y mae fy meibion yn dweud wrthyf o hyd, dylwn gael fy rhoi allan i bori, cymaint felly fel eu bod yn fy nghadw’n ddigon pell oddi wrth y darn o offer data mawr diweddaraf sydd gennym, a elwir yn Scorpion, rhag y difrod y gallwn ei wneud ag ef. Ond mae’n bwynt pwysig, fod angen i ni addysgu a chaniatáu i bobl ddatblygu drwy’r diwydiant fel y gallant wneud defnydd o’r data hwn, oherwydd nid oes unrhyw bwynt eu cael os na allwch eu defnyddio.
Yn bendant iawn yn wir. Pwynt da, ac mae eraill wedi nodi hynny hefyd. Mae’n rhaid cael cydweithrediad rhwng y Llywodraeth a’r diwydiant—diwydiant mawr, diwydiant bach—y byd academaidd, unedau ymchwil, ond hefyd yr ymarferwyr partner pen blaen hynny, y ffermwyr eu hunain yn y cae, a byddaf yn dychwelyd atynt mewn munud.
Siaradodd Jenny Rathbone fy nghyd-Aelod—ac roeddwn yn meddwl ei bod wedi defnyddio ymadrodd hyfryd, rwy’n credu mai’r hyn a ddywedodd oedd ‘harneisio grym natur yn ddeallus’, sef yr hyn y mae hyn yn ymwneud ag ef, cael mwy o lai: llai o fewnbynnau petrocemegol, llai o erydu pridd, llai o effaith ar bridd. Dull llawer mwy deallus o ffermio a all, fel y dywedodd cyfranwyr eraill, gyd-fynd â—manylodd Simon Thomas ar hyn—ffurfiau traddodiadol ar ffermio. Nid un ar draul y llall; gellir eu hintegreiddio’n dda mewn gwirionedd.
Yn ei gyfraniad, siaradodd Neil Hamilton am y camsyniad Malthwsaidd, ond siaradodd hefyd am botensial hyn. Yn ddiddorol—gwn ein bod yn anghytuno ar hyn, ond un potensial sydd i’r dechnoleg hon yw ei gallu i adfer cynhyrchiant mewn ardaloedd sydd ar hyn o bryd yn cael eu heffeithio am fod newid yn yr hinsawdd yn creu diffeithdir, gan ddinoethi lleoedd a oedd yn fasgedi bwyd y byd, neu ardaloedd lle y ceir llifogydd rheolaidd. Dyna yw potensial y dechnoleg hon.
Aeth Simon Thomas â ni’n ôl i hanes pell 2008, a’r defnydd cyntaf o drôn gan Brifysgol Aberystwyth mewn ymchwil gymhwysol ar arloesedd amaethyddol. Fe’n hatgoffodd hefyd ei fod yn ymwneud â’r briodas â ffermio traddodiadol a’r angen i gynnwys ffermwyr eu hunain wrth fwrw ymlaen â hyn.
Defnyddiodd Rhun ap Iorwerth yr ymadrodd clasurol—yn Gymraeg, fodd bynnag—am ‘faint Cymru’ a’r ffaith, oherwydd ein bod yn fach ac yn ddeinamig, y gallwn fod, mewn gwirionedd, yn fan profi ar gyfer y dechnoleg hon. Ond byddaf yn dychwelyd at hynny, gan fy mod yn meddwl bod yna bethau y gallwn eu gwneud o ran cydweithredu, yn ogystal, ar draws y DU—ac yn Ewrop, yn rhyfedd ddigon.
Ysgrifennydd y Cabinet—roedd yn wych ei chlywed yn sôn sut y gallai hyn ymgorffori yn y strategaeth fwyd-amaeth yma, ar y map ar gyfer y dyfodol, gan dynnu ein sylw at gyllid partneriaeth arloesi Ewrop sydd ar gael ar hyn o bryd a’r grant cynhyrchu cynaliadwy, a chymorth arall sydd ar gael ar hyn o bryd i helpu ffermwyr ddefnyddio a datblygu’r dechnoleg hon, a thynnodd ein sylw’n ddefnyddiol at y ffaith fod hyn eisoes yn cael ei dreialu ar bethau fel y defnydd o wrtaith nitrogen yn ogystal.
Roeddwn i eisiau troi, ac nid wyf yn siŵr, Fadam Ddirprwy Lywydd, faint o funudau sydd gennym—
Daliwch ati—fe ddywedaf wrthych pryd i eistedd.
Diolch yn fawr iawn. Os felly, fe geisiaf ei wneud yn gyflym. Cefais ymweliad hyfryd—tua dwy flynedd yn ôl, rwy’n credu, dair blynedd yn ôl efalllai—â Phrifysgol Harper Adams, y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Ffermio Manwl. Gwnaed gwaith aruthrol yno yn eu canolfan arloesi peirianneg amaethyddol, a gallwch weld y defnydd a wneir o hyn, y data mawr, rhyngrwyd o bethau. [Torri ar draws.] Fe welwch—iawn—y pen uwch-dechnoleg rhyfedd i hyn, gyda pheiriannau robotig a neb arnynt yn gweithio eu ffordd ar hyd y caeau, yn nodi chwyn unigol er mwyn gosod y gwrtaith cywir arnynt, yn gosod maetholion unigol mewn mannau penodol hefyd—costeffeithiol iawn, a defnyddio’r dechnoleg sydd ar gael ar hyn o bryd. Dyna pam rwy’n dweud y dylid gwneud peth o’r gwaith arloesi ar hyn mewn gwirionedd, nid yn unig yng Nghymru ond ar draws y ffiniau, gan rannu’r cydweithrediad hwnnw ar draws prifysgolion ac eraill ledled y DU. Mae gennym y gallu yng Nghymru i wneud hyn, a hefyd drwy rannu ein gwybodaeth â mannau eraill.
Rydych yn edrych ar y system loeren Copernicus a gyllidir gan Ewrop a’r gallu sydd gan y system honno yn awr ar gyfer gwneud yn union yr hyn roedd Andrew R.T. Davies yn ei ddweud: y gallwn edrych yn fanwl ar ffermydd unigol, nid dim ond ar hectarau ac erwau, ond i’r fodfedd o ran gosod gwrtaith ac yn y blaen, ac i gynnal cnydau penodol. Mae GaugeMap yn fap rhyngweithiol sy’n defnyddio data agored, ac sy’n rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am lefelau a llif afonydd a data dŵr daear ledled Cymru a Lloegr. Plantwise: rhaglen fyd-eang sy’n defnyddio data agored, sy’n rhywbeth nad ydym wedi sôn amdano heddiw, i helpu ffermwyr i golli llai o’r hyn y maent yn ei dyfu i blâu a chlefydau cnydau drwy ddarparu porth ar-lein ac all-lein ar gyfer diagnosteg, olrhain plâu ac arferion ffermio gorau.
Mae’r rhain i gyd yn bosibl, ond mae gennym heriau. Rwy’n cadw fy llygad arnoch, Fadam Ddirprwy Lefarydd, er mwyn gwneud yn siŵr nad ydych yn gweiddi arnaf yn sydyn. Mae yna heriau. Un o’r rheini a nodwyd yw mai ychydig iawn o wyddonwyr data neu bobl sy’n gwybod sut i greu a gweithredu’r algorithmau angenrheidiol ar gyfer dadansoddi’r llwythi mawr hyn o ddata. Dyna faes y gallwn yn bendant arwain ynddo, fel roedd Lee Waters yn ei ddweud. Yn aml, ceir diffyg cyfatebiaeth cyffredinol yng ngraddfa, manylder a chywirdeb y data a ddaw o wahanol ffynonellau. Nawr, gall y diffyg cyfatebiaeth hwn greu darlun gwallus o’r hyn sy’n digwydd mewn gwirionedd mewn gwahanol gaeau. Ac wrth gwrs, mae angen rheoli ansawdd data mawr cyn ei ddefnyddio yn yr algorithmau hyn. Os yw hyn yn mynd i fod ffermio clyfar, gadewch i ni wneud yn siŵr fod y mewnbynnau cystal â’r allbynnau yn y cae ei hun.
Felly, mae yna lawer mwy y gallwn ei ddweud, ond rwy’n gwybod bod yr amser yn dod i ben. Rwyf eisiau tynnu sylw at gynllun data agored Llywodraeth Cymru, a allai gyfrannu at hyn; Atlas Cymru Fyw a’r rhwydwaith bioamrywiaeth cenedlaethol a allai gyfrannu at hyn yng Nghymru; geo-borth Lle, partneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru a Cyfoeth Naturiol Cymru—sef canolbwynt ar gyfer data a chasglu gwybodaeth ar amrywiaeth o bynciau, yn bennaf ar yr amgylchedd; a mwy a mwy a mwy.
Mae hon wedi bod yn ddadl ardderchog, gyda llawer iawn o gonsensws. Gadewch i ni fachu ar y cyfle yma yng Nghymru, ond hefyd gadewch i ni fachu ar y cyfle i weithio ar y cyd â phobl ar draws y DU. Diolch yn fawr.
Diolch yn fawr iawn. Y cynnig yw derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gwrthwynebiad. Felly byddwn yn gohirio’r pleidleisio o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.