– Senedd Cymru am 4:16 pm ar 13 Rhagfyr 2016.
Symudwn ymlaen at yr eitem nesaf ar ein hagenda, sy'n ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant ar y strategaeth tlodi plant ar gyfer Cymru ac adroddiad cynnydd ar gyfer 2016. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant, Carl Sargeant.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Y bore yma, gosodais gopi o adroddiad cynnydd Llywodraeth Cymru ar fynd i'r afael â thlodi plant gerbron y Cynulliad. Mae hwn yn ofyniad statudol o dan y Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010. Rwy'n falch o adrodd ein bod wedi gwneud cynnydd sylweddol tuag at gyflawni ein hamcanion tlodi plant mewn nifer o feysydd. Mae cyflogaeth yng Nghymru yn agos at y nifer uchaf erioed ac mae nifer y plant sy'n byw mewn cartrefi heb waith ar ei lefel isaf erioed. Rydym wedi lleihau'r bwlch mewn cyrhaeddiad addysgol rhwng disgyblion sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim a'r rhai nad ydynt, gan ragori ar ein targed ar gyfer disgyblion sy'n cyflawni'r lefel ddisgwyliedig yn y cyfnod sylfaen.
Nododd ein strategaeth tlodi plant 2015 bum maes lle gallwn wneud mwy i fynd i'r afael â thlodi plant. Gwnaed cynnydd yn y meysydd hyn drwy weithio ar y cyd a rhywfaint o feddwl arloesol, gan arwain at bartneriaethau pwysig megis y gynghrair tlodi bwyd a'r Rhwydwaith Cynghori Cenedlaethol. Fodd bynnag, rydym yn gwybod bod angen inni wneud mwy. Mae anweithgarwch economaidd yn dal yn uchel yng Nghymru ac yn 2015 roedd bron 72,000 o blant yn dal yn byw mewn cartrefi heb waith. Mae'r rhain yn blant sydd mewn perygl arbennig o fyw mewn tlodi parhaus ac sy'n fwy tebygol o gael profiadau niweidiol yn ystod plentyndod.
Mae tlodi mewn gwaith yn broblem sy'n cynyddu ac rydym bellach mewn sefyllfa yng Nghymru lle mae gennym fwy o aelwydydd mewn tlodi lle mae rhywun yn gweithio nag sydd ddim. Nid yw ein hymrwymiad i fynd i'r afael â thlodi plant mewn amheuaeth. Mae cyflawni ar ein huchelgais i ddileu tlodi plant, fel y'i diffinnir gan y mesur incwm cymharol, erbyn 2020, yn dibynnu'n helaeth iawn ar benderfyniadau a gweithredoedd Llywodraeth y DU. Mae penderfyniadau Llywodraeth y DU ar ddiwygio lles yn chwarae rhan bwysig yn y cynnydd a ragwelir mewn tlodi ac mae hyn, ochr yn ochr â newidiadau yn y farchnad lafur, yn golygu nad ydym yn gallu cyflawni'r targed hwn.
Nid yw Llywodraeth Cymru yn dal y polisi sylfaenol a’r dulliau ariannol, yn enwedig o ran y diwygio lles yr ydym yn sôn amdano, sydd eu hangen er mwyn ein galluogi i gyflawni'r newidiadau sylweddol mewn incwm cymharol y byddai eu hangen cyn 2020. Ni allwn aros tan hynny i gael y drafodaeth hon. Mae amcanestyniadau gan y Sefydliad Astudiaethau Cyllidol yn dangos y bydd tlodi plant cymharol yn y DU yn codi'n sylweddol wrth i 2020 agosáu, yn rhannol o ganlyniad i ddiwygiadau treth a budd-daliadau Llywodraeth y DU. Bydd safonau byw dros y blynyddoedd nesaf hefyd yn cael eu taro gan gyfuniad o brisiau uwch ac enillion is. Rhagwelir y bydd enillion real ar gyfartaledd yn dal i fod yn is na'u lefelau 2008 yn 2021. Mae hyn yn golygu mwy na degawd heb dwf enillion gwirioneddol. Nid yw cyfnod fel hwn wedi cael ei weld yn ystod y 70 mlynedd diwethaf.
Lywydd, dim ond trwy ffyrdd newydd o weithio y gellir mynd i'r afael â’r problemau sy'n ein hwynebu. O fewn cyd-destun o adnoddau wedi’u hymestyn a chyllidebau yn lleihau, mae angen inni ganolbwyntio ein hymdrechion lle y gallwn gael yr effaith fwyaf gyda’r dulliau sydd ar gael gennym eisoes. Mae ‘Symud Cymru Ymlaen' yn amlinellu sut y byddwn yn sicrhau newid a gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl yng Nghymru; sut y byddwn yn creu mwy o swyddi a gwell swyddi drwy economi gryfach a thecach; sut y byddwn yn gwella a diwygio ein gwasanaethau cyhoeddus; a sut y byddwn yn adeiladu Cymru unedig, gysylltiedig a chynaliadwy.
Mae cynyddu lles a ffyniant economaidd yn sylfaenol i wella canlyniadau ar gyfer plant sy'n agored i niwed, gan gynnwys y rhai sy'n byw mewn tlodi. Bydd yr ymrwymiadau allweddol a amlinellir yn ein rhaglen lywodraethu yn helpu i yrru'r agenda trechu tlodi dros dymor y Llywodraeth hon, gan ddarparu cyfeiriad ar gyfer ein gwaith, a fydd yn cefnogi plant difreintiedig i gael y dechrau gorau posibl mewn bywyd.
Bydd ein Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 yn parhau i ddarparu fframwaith deddfwriaethol ar gyfer mynd i'r afael â thlodi plant yma yng Nghymru. Fel yr ydych yn ymwybodol, mae hyn yn rhoi dyletswydd ar Weinidogion Cymru a chyrff cyhoeddus penodol i osod amcanion ar gyfer mynd i'r afael â thlodi plant. Mae gennym hefyd y cyfle i ddefnyddio Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 i gefnogi dull Cymru gyfan, cenedlaethol o drechu tlodi a lleihau anghydraddoldebau, a hyrwyddo i'r eithaf ein heffaith ar y cyd mewn cyfnod ansicr gan ddefnyddio’r dulliau sydd gennym eisoes. O dan Ddeddf 2015, bydd set o 46 o ddangosyddion cenedlaethol i Gymru yn mesur cynnydd cenedlaethol tuag at gyflawni'r saith nod lles. Mae nifer o'r rhain yr un fath â'r dangosyddion poblogaeth sy’n cael eu defnyddio i asesu cynnydd wrth gyflawni amcanion y strategaeth tlodi plant 2015, gan gynnwys cyrhaeddiad addysgol, nifer y bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant, cyflogaeth, canlyniadau iechyd a sgiliau.
Bydd cynnydd wrth fynd i'r afael â thlodi plant ar lefel Cymru yn cael ei asesu gan ddefnyddio'r dangosyddion cenedlaethol sy'n sail i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) y gall Llywodraeth Cymru gael yr effaith fwyaf arnynt. Lywydd, byddwn yn adrodd ar y dangosyddion cenedlaethol drwy’r adroddiad lles blynyddol i Gymru. Yn 2019, byddwn hefyd yn cyhoeddi ein hadroddiad strategaeth nesaf ar i ba raddau y mae'r amcanion yn ein strategaeth tlodi plant wedi cael eu cyflawni, fel sy'n ofynnol o dan Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru).
Rydym wedi dweud o'r blaen: ni allwn drechu tlodi ar ein pennau ein hunain. Dim ond drwy weithio mewn partneriaeth y gallwn obeithio cyflawni lefel a chyflymder y newid sydd ei angen i leihau tlodi plant yng Nghymru. Ym mis Tachwedd, nodwyd yr amcanion lles a fydd yn dangos ein hymrwymiad i gefnogi teuluoedd ac yn canolbwyntio’n glir ar drechu tlodi. Yn benodol, mae amcan 1 yn anelu at greu amodau i roi'r cychwyn gorau mewn bywyd i bob plentyn.
Credaf yn gryf mai nawr yw’r amser ar gyfer dull newydd, Llywodraeth gyfan o adeiladu cymunedau cydnerth i'n helpu ni i gyflawni'r agenda hon. Bydd hyn yn canolbwyntio ar dair thema allweddol: y blynyddoedd cynnar, cyflogaeth a grymuso—cyflawni cymunedau a all gynnig y dechrau gorau mewn bywyd i blant; cymunedau sy'n barod ac yn gallu gweithio; a chymunedau sy'n cael eu grymuso a’u hymgysylltu, yn ogystal â bod yn ddiogel ac yn gryf.
Rwyf hefyd wedi gwahodd sefydliadau i ymuno â ni i ddatblygu parthau plant i helpu i wella cyfleoedd bywyd plant a phobl ifanc sy'n byw yng Nghymru. Lywydd, mae angen i ni gefnogi teuluoedd pan fyddant ei angen fwyaf ac arfogi gwasanaethau i ymateb i heriau ein cyfnod modern. Ein huchelgais yw gwneud gwahaniaeth i bawb, ar bob cam yn eu bywydau, yn awr ac ar gyfer y tymor hwy. Diolch.
Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy’n sylweddoli bod yn rhaid i chi wneud y datganiad hwn, oherwydd ei fod yn ofyniad statudol, ond nid oes llawer yn yr hyn yr ydych wedi'i ddweud heddiw nad ydym wedi’i glywed eisoes mewn datganiadau eraill. Er fy mod yn sylweddoli eich bod yn rhoi’r mesurau hynny ar waith, rwy’n credu, weithiau, fod angen i ni, o bosibl, ystyried, os ydych yn dod â datganiadau i'r Cynulliad Cenedlaethol, sut y gallwn ychwanegu gwerth at y trafodaethau sydd gennym, yma heddiw fel Cynulliad, oherwydd r ydym yn awyddus i fod mor effeithiol ag y gallwn.
Mae'r ffigurau a ryddhawyd y bore yma mewn cysylltiad â thlodi plant yn dangos gostyngiad i'w groesawu mewn tlodi plant o 31 y cant i 29 y cant. Ond mae hyn yn dal i fod yn uwch na'r Alban a Gogledd Iwerddon gyda'i gilydd. O ystyried bod eich datganiad hefyd yn crybwyll bod cyflogau yn aros yn eu hunfan, a allai, ynddo'i hun, ddod â rhagor o deuluoedd yn uwch na 60 y cant o'r incwm canolrifol, a ddylem fod yn ystyried y gostyngiad hwn o 2 y cant fel tystiolaeth o gynnydd sylweddol neu yn syml yn gyfuniad o hynodrwydd ystadegol?
Yr hyn yr ydym yn ei olygu wrth dlodi plant, wrth gwrs, yw plant sy'n byw mewn cartrefi lle mae'r rhieni, neu riant, neu warcheidwad yn dlawd. O ystyried bod y ffigurau hefyd yn dangos bod cyfraddau tlodi yn gyffredinol wedi aros yr un peth, ac mae llawer o aelwydydd heb blant yn dymuno bod yn aelwydydd â phlant yn y dyfodol, a fyddech yn derbyn, heb ymdrech ehangach i fynd i'r afael â thlodi fel y cyfryw, na ellir byth dileu tlodi plant?
Nid yw’r ffigurau hyn heddiw, wrth gwrs, yn mesur gwariant ac yn benodol yr hyn sy'n digwydd pan mae chwyddiant yn codi pris hanfodion. Mae hyn yn debygol o ddigwydd yn y dyfodol ac, unwaith eto, mae’n pwysleisio'r angen am fwy o gynhwysiant ariannol ac addysg yn ein hysgolion. Ni allaf oramcangyfrif y pwyslais y mae angen i ni ei roi ar hyn fel bod gan bobl y sgiliau bywyd hynny pan fyddant yn gadael yr ysgol. Felly, sut ydych chi yn awr yn gweithio gyda'r Ysgrifennydd Addysg i gryfhau addysg ariannol fel y gall teuluoedd fod yn fwy grymus? Rydyn ni wedi gweld o gynlluniau fel ailgylchu ac ati fod plant yn dod â’r sgiliau hynny a ddysgwyd ganddynt yn ôl at eu rhieni. Os ydym yn cynnig mwy o addysg ariannol i blant o oedran iau, gallai plant iau ddefnyddio’r sgiliau hynny.
Y llynedd, cyhoeddodd cyn-bwyllgor cymunedau'r Cynulliad diwethaf adroddiad hynod feirniadol ar eich strategaeth. Un mater a godwyd oedd bod llawer o'r gwasanaethau cynghori, mewn gwirionedd, yn rhai generig iawn—nid oedd unrhyw fuddsoddiad mewn gwasanaethau i bobl ag anghenion penodol, fel anabledd. Pa newidiadau ydych chi wedi’u gwneud ers yr adroddiad i ystyried y canfyddiadau penodol hyn?
Hoffwn hefyd wybod pa newidiadau eraill y byddwch yn eu gwneud o ran yr adroddiad hwnnw, oherwydd gwn fod y pwyllgor cydraddoldeb newydd, dan arweiniad John Griffiths, yn bwriadu gwneud rhagor o waith ar dlodi yng Nghymru, er gwaethaf edrych ar sut y byddwch yn newid Cymunedau yn Gyntaf, o bosibl, os ydych yn bwriadu gwneud hynny. Felly, byddwn yn eich annog i edrych yn ôl ar yr adroddiad etifeddiaeth i weld sut y gallwch wneud newidiadau cyn i ni roi hyd yn oed fwy o argymhellion i chi i geisio eu gweithredu.
Mae fy nghwestiwn arall yn ymwneud â pharthau plant. Rydych yn rhoi cryn dipyn o bwyslais ar y rhain yn eich datganiad, ond pan rydych wedi dod atom ni, fel pwyllgor, rydych chi wedi dweud mai dim ond cysyniad ydynt. Rwyf am geisio deall, os mai cysyniad ydyw, sut y bydd y cysyniad mewn gwirionedd yn newid sut mae pethau yn mynd i weithio. Oherwydd os nad oes arian yn mynd i’w ddilyn, mae'n mynd i gymryd cryn dipyn o waith i rai o'r sefydliadau hynny , o bosibl, wedyn, i newid y ffordd y maent yn gwneud pethau.
Hoffwn hefyd ofyn a allem gael yr wybodaeth ddiweddaraf am yr ymgynghoriad sy’n ymwneud â Chymunedau yn Gyntaf. Rwyf wedi cael llawer o bobl yn cysylltu â mi o ran ceisio deall sut y gallant mewn gwirionedd gael mewnbwn. Rwy'n credu mai’r hyn y mae angen i ni ei wneud yn well yn gyffredinol fel gwleidyddion yw ceisio cael pobl i gymryd rhan yn yr hyn yr ydym yn ei wneud. Sut ydych chi'n mynd i estyn allan at gymunedau a gofyn iddynt, os ydych yn bwriadu ei newid, sut beth fydd y newid hwnnw a sut y gallant fod yn rhan o'r ateb ar gyfer newid, yn hytrach na’u bod yn teimlo bod pethau bob amser yn digwydd o'r brig i lawr ac y dywedir wrthynt sut mae’r newidiadau hynny’n mynd i ddigwydd?
Rydym yn gwybod o Brexit ac o drafodaethau eraill a gafwyd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf bod yn rhaid i ni wneud yn siŵr bod pobl eisiau bod yn rhan o'r newidiadau hyn, neu ni fydd dim byd yn newid yn y pen draw. Rydym wedi siarad ers i mi gael fy ethol yn 2007 am dlodi plant ac am y ffaith—. Rydym yn clywed dro ar ôl tro nad yw’r holl ddulliau gennym ni, ond mae'n rhaid i ni ddefnyddio’r dulliau sydd gennym yn llawer, llawer gwell. Onid ydym eisiau gweld ein hetifeddiaeth yn cynnig atebion ac nid yn llusgo dro ar ôl tro y tu ôl i wledydd eraill yng nghyd-destun tlodi plant?
Diolch i'r Aelod am ei chyfraniad. Rwy'n gobeithio ei bod hi wedi cael blas o’r cyfraniad a wneuthum yn y datganiad ei bod yn amser am newid—mae'n golygu sefyll i fyny a dweud nad yw’r hyn yr ydym yn ei wneud ar hyn o bryd yn gweithio cystal ag y gallai. Mae angen i ni newid y rhaglenni yr ydym yn cynnig eu cyflawni.
Rwy’n credu bod yr Aelod wedi codi'r mater ynghylch y gostyngiad canran o 2 y cant dros y tair blynedd diwethaf. Credaf fod hynny yn ôl pob tebyg yn hynodrwydd ystadegol—nid wyf yn credu ei fod yn adlewyrchiad cywir o'r hyn sy'n digwydd. Rydym wedi gweld dros gyfnod o 15 mlynedd bod yr ystadegau tlodi plant wedi bod yn gyson agos i’r gwaelod. Mae'n ddangosydd ystyfnig iawn i’w symud, a dyna pam yr wyf o’r farn bod yn rhaid i’r Llywodraeth gyfan ailystyried ein hymyriadau. Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn addas iawn ar gyfer hynny. Erbyn hyn nid yw’n ymwneud yn unig â chyfrifoldeb y Llywodraeth am dlodi, ond mae’n ymwneud â'r 44 o gyrff cyhoeddus sy’n bodoli yn cymryd rhan hefyd ac yn ystyried yr hyn yr ydym ni’n ei wneud dros ein pobl ifanc a’n cymunedau, a’r cydnerthedd sy’n bodoli.
Cododd yr Aelod y mater penodol am Gymunedau yn Gyntaf. Mae hi'n gywir i ddweud nad wyf wedi gwneud penderfyniad eto, ond mae’r cyfranogiad sy'n rhan o egwyddor y Ddeddf Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol —rydym wedi cael dros 1,500 o ymatebion yn barod o ran hynny, ac rwy’n credu bod honno’n ffordd effeithiol iawn o sicrhau bod fy nhîm i’n galluogi mynediad yn ddigidol i gymunedau ac unigolion ond hefyd yn cynnal sgyrsiau â chlystyrau. Rydym wedi bod allan yno yn siarad—yn wir, rwy’n credu bod John Griffiths wedi cynnal digwyddiad yr oedd fy swyddogion yn bresennol ynddo ddydd Gwener diwethaf, ac fe gawsant drafodaeth gadarnhaol iawn am sut y bydd neu na fydd y dyfodol yn edrych o bosib.
O ran meysydd eraill y soniodd yr Aelod amdanynt, rwy’n cytuno â'r Aelod—mae'n sôn am gynhwysiant ariannol, a byddwn yn lansio strategaeth cynhwysiant ariannol ddrafft yr wythnos hon, yr wyf yn siŵr y bydd yr Aelod yn awyddus iawn i gael trafodaeth bellach arni. Ond egwyddor ehangach o'r hyn yr ydym yn ceisio ei wneud yma yw galluogi pobl ifanc a theuluoedd—mae'n ymwneud â rhoi cydnerthedd i deuluoedd iddynt allu helpu eu hunain hefyd.
O ran y mater ynghylch parthau plant yng nghwestiwn yr Aelod—ac, unwaith eto, mae un o'i chydweithwyr bob amser yn gofyn cwestiwn tebyg iawn ynghylch parthau plant—rwyf eisoes wedi dechrau gweithio gyda nifer o sefydliadau. Rydym wedi gofyn am ddatganiadau o ddiddordeb am sut y gallai hyn edrych yn eu cymunedau, ond mae'n ymwneud ag adeiladu ar yr hyn sydd eisoes yno—felly, Teuluoedd yn Gyntaf, Dechrau'n Deg, gweithwyr cymdeithasol, awdurdodau lleol, cyrff ymyrryd y Llywodraeth—a lapio’r gwasanaethau hynny o amgylch uned deuluol. Ac nid yw'n gysyniad newydd; cafodd ei dreialu mewn gwledydd eraill, ac rydym yn credu y gallwn wneud hyn. Ond ni allaf addo, ac mae’r Aelod yn realydd—y ffaith yw, nid yw hyn yn golygu arian ychwanegol, ond yr hyn mae’n rhaid inni ei wneud gyda’r hyn sydd gennym, mae'n rhaid i ni gael gwell gwasanaethau, ac mae’r cysyniad o barthau plant yn un o'r pethau hynny. A chefais gyfarfod â Chymru Well Wales yr wythnos diwethaf, sydd yn un o nifer o sefydliadau, yn cynnwys Iechyd Cyhoeddus Cymru, awdurdodau lleol a chymdeithasau tai, sy'n dod at ei gilydd i edrych ar gyflwyno parthau ACE a pharthau plant, a sut y maent yn cyfuno a sut y maent yn gweithredu. Felly, mae gen i bartneriaid allanol sy'n edrych ar sut maent yn darparu’r polisïau hyn.
Fel y dywed Rhwydwaith Dileu Tlodi Plant Cymru, mae ffigurau swyddogol y Llywodraeth a gyhoeddwyd ym mis Mehefin 2016 yn dangos bod 29 y cant o'r holl blant yng Nghymru yn byw mewn tlodi incwm cymharol, sy'n cyfateb i 200,000 o blant. Roedd y Rhwydwaith yn dweud bod hyn yn dal i fod yn uwch na chyfartaledd y DU ac yn fwy na’r gwledydd datganoledig eraill. Sut, felly, ydych chi’n ymateb i'w galwadau ar Lywodraeth Cymru, yn gyntaf i ddarparu arweiniad clir a chryf ar fynd i'r afael â thlodi plant i sicrhau bod pob plentyn yng Nghymru yn gallu cyrraedd ei botensial llawn, gan gynnwys ymgysylltu â Llywodraeth y DU, cyrff cyhoeddus yng Nghymru a phob sector, gan gynnwys cyflogwyr; yr alwad i sefydlu monitor, cynllun darparu tlodi plant penodol sy’n cynnwys, ac rwy’n dyfynnu, cerrig milltir a thargedau uchelgeisiol ... sy'n hyrwyddo rhaglenni a gwasanaethau gyda thystiolaeth; a’r drydedd alwad, i sicrhau bod mynd i'r afael â thlodi plant yn parhau i fod yn flaenoriaeth o fewn trefniadau newydd o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015? Maent yn dweud y dylai Llywodraeth Cymru sicrhau hefyd fod mesurau atebolrwydd clir ar waith.
Mae eich datganiad yn cyfeirio at gynnydd wrth fynd i'r afael â thlodi plant yn cael ei asesu gan y dangosyddion cenedlaethol sy'n sail i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru), ac rydych yn cyfeirio at gyhoeddi cyfres o amcanion lles ym mis Tachwedd, gan ddangos ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gefnogi teuluoedd a chael pwyslais clir ar drechu tlodi. Sut, felly, fyddwch chi’n sicrhau bod diben Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) i wneud i gyrff cyhoeddus weithio'n well gyda phobl, gyda chymunedau a gyda'i gilydd, gan gymryd, ac rwy’n dyfynnu, 'dull cydgysylltiedig', a ddisgrifiwyd gan y comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol yn ei hadroddiad cyntaf fel 'cyd-gynhyrchiad', mewn gwirionedd yn mynd yn ei flaen ar lawr gwlad? Dydw i ddim eisiau dechrau hollti blew am dermau; mae'n derm rhyngwladol a gefnogir gan gannoedd o sefydliadau bellach ledled Cymru. Mae'n ymwneud yn fwy â sut mae’r dull cydgysylltiedig hwnnw ar lefel y stryd yn digwydd mewn gwirionedd, gan droi'r grym wyneb i waered, dylunio’r system tuag yn ôl, gan sicrhau bod pethau'n cael eu gwneud gyda’r bobl, yn hytrach nag iddynt neu ar eu cyfer.
Rydych yn dweud ei bod yn amser am ddull Llywodraeth gyfan newydd o adeiladu cymunedau cydnerth, ac rwyf i’n credu hynny yn amlwg hyd heddiw ac yn flaenorol yng nghyd-destun eich safbwyntiau am y dyfodol o ran Cymunedau yn Gyntaf. Ar y pryd, gofynnais i chi a fyddech yn gallu ymateb i'r alwad gan Oxfam Cymru i Lywodraeth Cymru ymgorffori ei dull o weithredu bywoliaethau cynaliadwy wrth ddarparu pob polisi a gwasanaeth, gan fod hwnnw wedi ei anelu at helpu pobl i dorri’n rhydd o dlodi. Roedd hynny’n seiliedig ar eu rhaglen tair blynedd Adeiladu Bywoliaethau a Chryfhau Cymunedau yng Nghymru, a helpodd dros 1,100 o bobl ac a gafodd ganlyniadau clodwiw a mesuradwy iawn. Rwy’n gobeithio, erbyn hyn, eich bod wedi cael cyfle i edrych ar hynny ac y gallech ymateb gyda’ch sylwadau ar eu galwad a’r model hwnnw fel rhywbeth y gellid ei ddatblygu.
Rydych chi yn amlwg, ac yn briodol, wedi cyfeirio at yr angen i liniaru effeithiau profiadau niweidiol yn ystod plentyndod. Ac wrth gwrs rydych wedi penodi fy nghydweithiwr, David Melding i gadeirio gweithgor sy’n edrych ar y maes hwn. Ond beth yw eich disgwyliadau chi o ran sut y bydd yr hyn yr ydych yn ei wneud yn y maes hwn yn newid pethau? Ac, yn benodol, o ran un demograffig, sut y bydd hyn yn ail-lunio naratif y plant mewn gofal a gofal maeth?
Fel y soniais yr wythnos diwethaf, mae’r elusennau Cynhalwyr Cymru, Cyswllt Teulu Cymru ac Anabledd Dysgu Cymru yn galw ar Lywodraeth Cymru i ailystyried ei bwriad i wneud toriadau ariannol o £5.5 miliwn, sy'n darparu grantiau hanfodol i deuluoedd ar incwm isel sydd â phlant difrifol wael neu anabl yng Nghymru. Maen nhw’n dweud ei bod yn ymddangos bod Llywodraeth Cymru wedi gwneud y penderfyniad heb ystyried yr effaith y byddai hynny’n ei chael ar y teuluoedd mwyaf agored i niwed sydd â phlant anabl neu, byddwn yn ychwanegu, y costau ychwanegol llawer mwy y byddai hyn yn ei olygu i’r sectorau statudol, yn enwedig iechyd, addysg a gwasanaethau cymdeithasol neu blant.
Rydych yn cyfeirio at bron 72,000 o blant yn byw mewn cartrefi heb waith. Mae hynny'n agos at ffigurau'r Swyddfa Ystadegau Cenedlaethol a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf, a oedd yn dweud bod un o bob wyth o blant Cymru yn byw mewn cartref heb waith tymor hir—yn uwch na chyfartaledd y DU. Diffinnir y rhain yn gartrefi lle mae pob oedolyn wedi bod allan o waith am fwy na blwyddyn neu ddim erioed wedi bod mewn gwaith cyflogedig. O ystyried y gwaith ymchwil sy’n dangos nad yw plant sy'n byw gyda rhieni di-waith yn y tymor hir yn gwneud cystal yn yr ysgol a’u bod mewn mwy o berygl o fod yn ddi-waith yn ddiweddarach mewn bywyd, pa waith ydych chi'n ei wneud gyda'ch cydweithwyr yn y Cabinet, yn enwedig eich cydweithiwr Democratiaid Rhyddfrydol yn hyn o beth, gan gydnabod hynny a'r cydgysylltiad a’r rhyngberthynas â’ch agenda?
Mae'r gyfres olaf o gwestiynau sydd gennyf yn ymwneud â'r comisiwn ar symudedd cymdeithasol a thlodi plant a'i adroddiad ar gyflwr y genedl 2015 sy'n ymwneud â Chymru. Dywedodd y comisiwn, er bod tueddiadau mewn cyflogaeth yn symud i'r un cyfeiriad â'r DU yn ei chyfanrwydd,
“mae gan Gymru gyfraddau uwch o gyflogau isel na gwledydd eraill y DU, gan gadw llawer o blant mewn teuluoedd gweithio tlawd”.
Maent yn dweud bod cyrhaeddiad addysgol yng Nghymru ar bob lefel yn parhau i fod yn annerbyniol o isel ac yn sylweddol is na rhannau eraill o'r DU. Dydw i ddim yn mynd i ailadrodd ffigurau diweddar, ond yn syml maent yn atgyfnerthu’r pryderon hynny. Dywedodd y comisiwn
“mae angen i Lywodraeth Cymru sicrhau y bydd gwasanaethau a chymorth ar gael i bob teulu, gan gynnwys y rhai nad ydynt wedi'u lleoli yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig”.
Felly sut ydych chi’n ymateb, yn eich ystyriaeth ehangach am y dyfodol, am adeiladu cymunedau cydnerth, i’w canfyddiadau fod mwy na 65,000 o blant y mae eu teuluoedd yn derbyn budd-daliadau di-waith neu gredydau treth plant yng Nghymru nad ydynt yn byw mewn ardaloedd rhaglen Cymunedau yn Gyntaf ac, mewn gwirionedd, mae mwy na 25,000 o blant mewn teuluoedd sy'n derbyn budd-daliadau di-waith neu gredydau treth plant yn byw yn y 40 y cant uchaf o ardaloedd o amddifadedd mwyaf yng Nghymru, ond yn dal ddim mewn ardaloedd sy'n elwa ar Gymunedau yn Gyntaf; ac at eu hargymhellion y dylai Llywodraeth Cymru gymryd ymagwedd seiliedig ar dystiolaeth fwy trylwyr at leihau tlodi gydag adolygiad er mwyn sicrhau bod eglurder ynghylch pa broblem y mae’r polisïau yn ceisio mynd i'r afael â nhw, yr hyn y maent wedi ei gyflawni a sut y byddant yn ei gyflawni; ac i’w galwad ar Lywodraeth Cymru i wella ansawdd y gweithlu mewn ysgolion, gan argymell gwneud addysgu yn fwy deniadol i athrawon o ansawdd da ac annog myfyrwyr i ddod yn athrawon yng Nghymru; a’u galwad ar Lywodraeth Cymru, yn olaf, i wella busnes yn ei hymgyrch i leihau tlodi plant a chynyddu symudedd cymdeithasol, gan weithio gyda chwmnïau a datblygu compact busnes i hyrwyddo mynediad tecach at gyflogaeth o ansawdd uchel? Rwy'n siarad am addysg a chyflogaeth, ond mae hyn yng nghyd-destun tlodi plant a sut yr ydym yn mynd i'r afael, nid yn unig â’r achosion sylfaenol yn eu bywydau ifanc nhw, ond hefyd y ffactorau cyfrannol economaidd-gymdeithasol ehangach. Diolch.
Diolch i'r Aelod am ei gwestiynau niferus. Byddaf yn gwneud fy ngorau i ymateb iddynt. Nid oes llawer y gwnaeth yr Aelod ei gyfrannu nad wyf yn cytuno ag ef arnynt. Mae llawer o bethau yno y mae ein safbwyntiau yn gyson arnynt, ar wahân i'r term 'cyd-gynhyrchiad', ond byddwn fwy na thebyg bob amser yn cael y drafodaeth honno o ran sut y mae hynny wedi gweithio. Ond mae egwyddor yr hyn y mae'r Aelod yn ei ddweud yn hollol gywir: mae’n ymwneud â gwneud pethau gyda phobl yn hytrach na gwneud pethau iddyn nhw. Dywedais wrth Bethan Jenkins yn gynharach na allwn, fel Llywodraeth, drwsio tlodi; rhaid cael ymateb ar y cyd i weithio gyda chymunedau a chyrff cyhoeddus eraill i sicrhau ein bod yn adeiladu cydnerthedd cyfan o gwmpas hynny.
Mae llawer o bethau sy'n cael effaith ar dlodi a chododd yr Aelod y materion am swyddi, sgiliau a thwf. Rwy'n gweithio gyda fy nghyd-aelodau yn y Cabinet, yn enwedig Ken Skates, sydd yr aelod arweiniol ar dlodi, ond mae gennym i gyd ddyletswydd a chyfrifoldeb i ymdrin â'r materion hyn. Roedd y ddwy thema a grybwyllais yn gynharach yn ymwneud ag adfywio economaidd, rhoi swyddi, sgiliau a hyder i bobl i allu mynd i mewn i'r gweithle neu’r farchnad wirfoddoli, ac mae'r llall yn ymwneud â lles a dilyn egwyddorion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, a chanolbwyntio’n benodol iawn ar fynd i'r afael â mater ACEs. Rwy'n ddiolchgar iawn bod David Melding yn cadeirio'r grŵp cynghori plant sy’n derbyn gofal ar fy rhan. Mae'n ffaith y byddwn yn disgwyl i’r rhan fwyaf o bobl sy'n cael eu maethu neu sy'n byw mewn amgylchedd gofal, y byddech yn gallu pentyrru’r ACEs y mae’r bobl ifanc hynny wedi eu datblygu. Gwyddom os ydych yn cael pedwar neu fwy o ACEs, y bydd yn cael effaith enfawr ar eich bywyd yn y tymor hir. Nid yw'n fater unwaith ac am byth. Gellir eich trwsio a gallwch gael cefnogaeth i symud i le gwahanol. Rwy'n awyddus iawn i sicrhau bod ein holl raglenni yn edrych ar bobl a'u hangen, a dyna pam, yn rhannol, fy mod wedi dechrau’r adolygiad o Gymunedau yn Gyntaf.
Roedd y rhaglen yn seiliedig ar ardaloedd lleol iawn. Nid wyf yn derbyn ein bod wedi cael hyn yn anghywir, oherwydd mae Cymunedau yn Gyntaf wedi gwneud rhywfaint o waith gwych ar draws llawer o etholaethau ar hyd a lled Cymru, yn dilyn egwyddorion mynegai amddifadedd lluosog Cymru o ran sut y cafodd hynny ei asesu. Ond yr hyn yr wyf yn ei gydnabod hefyd yw bod ardaloedd o amddifadedd y tu allan i'r ardaloedd hynny, ac mae'n rhaid i ni wneud yn siŵr y gallwn ni ystwytho rhaglenni fel Teuluoedd yn Gyntaf, fel Dechrau'n Deg, fel Cymunedau yn Gyntaf—sut bynnag y byddant yn edrych yn y flwyddyn newydd—i wneud yn siŵr y gallwn ymgysylltu’n llawn â phobl sydd mewn angen fel y gallwn eu cefnogi.
O ran y pwynt ar ymgysylltiad ac atebolrwydd, rwy’n disgwyl bod gan fyrddau gwasanaethau cyhoeddus a chynlluniau lles fudd yn hyn er mwyn deall eu cymunedau yn well, deall lle mae lefelau o amddifadedd a'r hyn yr ydym yn ei wneud am hynny gyda'n gilydd. Nid yw'n fater o weld bai; mae'n ymwneud â chyfrifoldeb a gwneud yn siŵr bod gan bawb ohonom ran yn y gwaith o reoli lles ein cymunedau. Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol—gwn y gall ein barn wahaniaethu yma. Mae'r Aelod yn defnyddio llawer iawn ar y Ddeddf hon, ac mae Aelodau ar feinciau Plaid sy'n defnyddio Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol fel ffon i geisio curo’r Llywodraeth â hi. Mewn gwirionedd, os ydym yn defnyddio egwyddorion sydd wedi'u hymgorffori’n iawn yn y Ddeddf, gallwn gael newid mawr mewn demograffeg gymdeithasol yma yng Nghymru, ac mewn gwirionedd mae'n rhywbeth y gallai'r DU ei ddilyn hefyd. Rwy'n credu bod gennym gyfle enfawr a fyddai'n cael ei wastraffu os na fyddwn yn cael hyn yn iawn. Rwy'n siŵr y bydd gan y comisiynydd a'r archwilydd cyffredinol rywbeth i'w ddweud wrth i ni ddatblygu’r broses hon, ond rwy’n croesawu cyfraniad yr Aelod.
Mae'r rhaglen bywoliaethau cynaliadwy yn un yr wyf wedi'i nodi. Dydw i ddim yn dweud fy mod i wedi diystyru’r rhaglen; yr hyn yr wyf yn ei ddweud yw bod gennym lawer o raglenni sy'n cael effaith fawr, ac mae'n rhaid i mi edrych ar yr effaith fwyaf posibl. Bydd yn rhywbeth y byddaf yn rhoi ystyriaeth bellach iddo wrth i mi symud ymlaen a deall yr hyn yr ydym yn ei ddatblygu o ran gofod Cymunedau yn Gyntaf, a sut fydd hynny’n edrych yn y dyfodol.
Diolch i chi am eich datganiad, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae'n braf nodi bod cynnydd wedi'i wneud o ran lleihau tlodi plant. Fodd bynnag, mae gennym ffordd hir ofnadwy i fynd os ydym i gyflawni’r nod yr ydym i gyd yn ei rannu o ddileu tlodi plant unwaith ac am byth. Sylwaf o'ch datganiad heddiw na fyddwch yn gallu cyrraedd eich targed i ddileu tlodi plant erbyn 2020, ac i raddau yr ydych wedi beio diwygio lles Llywodraeth y DU. Ydy hyn yn golygu eich bod wedi rhoi'r gorau i'r targed yn gyfan gwbl? Roedd yr adroddiad blynyddol ar gyflwr y genedl gan Gomisiwn Symudedd Cymdeithasol a Thlodi Plant y DU yn feirniadol o bolisïau Llywodraeth Cymru, gan nodi nad oeddent yn cael yr effaith gywir. Felly, a ydych yn cymryd rhywfaint o'r bai yma efallai am beidio â chydnabod hyn yn gynt yn hytrach nag yn hwyrach, ac efallai newid rhywbeth i ddileu'r tlodi yn gynt yng Nghymru nag yr ydym yn ei wneud ar hyn o bryd?
Nodwn hefyd fod gan bobl mewn ardaloedd llai cefnog ddisgwyliad oes is. Felly, mae hyn yn golygu anghydraddoldeb i bawb. Mae gan fy rhanbarth i, yn benodol, rai o'r lefelau uchaf o dlodi plant yn y DU—rhwng 26 a 28 y cant; mae'n amrywio ar draws y rhanbarth—ac er bod y lefelau yn gostwng, nid ydym yn gwneud cynnydd yn ddigon cyflym. Yn amlwg, gyda thlodi plant daw anghydraddoldeb mewn cymaint o ffyrdd—mewn addysg, llai o fynd ar drywydd gweithgareddau hamdden oherwydd cyllid is, gan arafu, felly, dwf emosiynol a lles y plentyn. Nid yw deiet gwael chwaith yn galluogi esgyrn plant, er enghraifft, i ddatblygu mor effeithiol â phobl sydd ar ddeiet da. Felly, yn eich barn chi, Ysgrifennydd y Cabinet, a ydych yn cytuno mai nawr yw’r amser i gael strategaeth tlodi plant ddiwygiedig sydd â thrywydd ac amserlen glir ar gyfer dileu, neu geisio dileu tlodi, mewn rhanbarthau fel fy un i a ledled Cymru yn gyfan gwbl ? Diolch.
Diolch i'r Aelod am ei chyfraniad. Ni ddylem fod yn swil wrth feddwl am yr hyn a ddigwyddodd yn y gorffennol. Yn y 1980au, roedd Cymru yn agored i lefelau uchel iawn o ddiweithdra, o’r glowyr i’r gweithwyr dur, lle’r oedd cymunedau'n cael eu difrodi a’u dileu yn llwyr yn nhermau cyflogaeth. Mae hynny wedi cael effaith enfawr ar les cymunedau yn y dyfodol. Gyda thlodi, ni allwch droi'r golau ymlaen a’i ddiffodd; mae hwn yn llwybr tymor hir, a dyna pam fy mod yn dweud, dros y 15 mlynedd diwethaf, ein bod wedi bod yn gyson agos i’r gwaelod yma, a phan rydym wedi ceisio gwneud ymyriadau, rwy’n credu ein bod wedi atal cymunedau rhag mynd yn dlotach. Yr hyn sydd angen ei wneud yn awr adeiladu’r cymunedau hynny er mwyn iddynt dyfu’n gryfach.
Dydw i ddim yn swil wrth ddweud fy mod o’r farn bod yr hyn yr ydym yn ei wneud heddiw yn ddewr iawn. Rydym yn symud i ofod newydd o ran cyfle. Mae rhywfaint o risg yno, ond rwy’n meddwl bod eich cydweithwyr ar y meinciau wedi dweud yn gynharach ei bod yn risg wedi’i mesur a sut mae'n rhaid i ni feddwl am yr hyn sydd angen ei wneud yn y dyfodol. Dyna pam mae'n rhaid ystyried rhai o ymyriadau’r rhaglen gyda'i gilydd, oherwydd ni fyddwn byth yn newid y cymunedau hyn. Gallwn baentio cymunedau—eu paentio mewn lliw pert a gwneud i adeiladau edrych yn wych—ond yn y bobl y mae’r ffabrig ac mae'n rhaid i ni helpu'r bobl yn y cymunedau hynny. Dyna pam mae mynd i'r afael â phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod yn hanfodol yn y ffordd yr ydym yn ymdrin â chefnogi unigolion.
Roedd ffigur 2020 yn uchelgais ac roedd yn uchelgeisiol, ond ni ddylem fod yn brin o uchelgais yn y Llywodraeth. Yn fy marn i, nid ydym yn cael gwared ar hynny nawr; byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i gyrraedd yno. Ond dyma realiti’r sefyllfa, a dyna pam mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn addas iawn ar gyfer mesur llwyddiant dull hirdymor o newidiadau yn y modd y mae Cymru'n gweithredu a phobl Cymru yn ymateb i'r newid hwnnw. Felly, mae gennym broses fesur i edrych arni. Rwy’n credu bod heddiw yn ddiwrnod hanesyddol i fynd i'r afael â materion tlodi fel Llywodraeth, fel cenedl ar y cyd, gyda'n partneriaid cyhoeddus. Mae'n rhywbeth yr wyf yn credu, ar y cyd—. Nid wyf yn credu bod neb yn y Siambr hon nad yw'n dymuno gweld dileu tlodi plant. Rhaid inni weithio gyda'n gilydd i sicrhau y gallwn wneud hynny.
Mae mwyafrif y plant sydd mewn tlodi yn byw mewn cartrefi lle mae un neu'r ddau riant yn gweithio. Nid cyflog isel yn unig yw’r rheswm dros hyn, ond hefyd arferion gweithio yr oedd rhai ohonom yn credu a ddiflannodd gyda diwedd yr ail ryfel byd. Rydym wedi gweld twf, nid yn unig mewn contractau dim oriau a chontractau oriau gwarantedig isel, ond hefyd twf enfawr mewn gweithwyr asiantaeth a chontractwyr hunangyflogedig. Er bod rhannau o'r economi’n bodoli lle mae pob un o'r rhain yn addas i’r cyflogwyr ac i’r gweithwyr—contractau dim oriau ar gyfer pethau fel digwyddiadau chwaraeon nad ydynt yn rhai rheolaidd, gweithwyr asiantaeth i lenwi bwlch sgiliau, isgontractwyr hunangyflogedig ar gyfer anghenion tymor byr, ac oriau gwarantedig isel i gyd-fynd â chyfrifoldebau gofalu—yn anffodus, nid y rheini yw'r unig resymau dros ddefnyddio’r mathau uchod o gontractau.
Nid yw contractau dim oriau yn cynnig unrhyw leiafswm oriau gwarantedig o waith; gall fod yn ofynnol i weithiwr fod ar gael i weithio ar bob adeg a rhoi rheolaeth lwyr i’r cyflogwr dros faint o waith a gaiff pob gweithiwr bob wythnos. Mae oriau gwarantedig isel, megis un awr y dydd dros wythnos o bump neu chwe diwrnod, yn debyg i gontractau dim oriau, ond maent yn sicrhau bod pawb yn clocio i mewn bob dydd, fel y gall y cyflogwr wedyn benderfynu pa mor hir y bydd eu hangen i weithio. Mae gan weithwyr asiantaeth ac isgontractwyr hunangyflogedig yr hyn sy'n cyfateb i gontractau dim oriau heb hyd yn oed ddiogelwch cyflogaeth lleiaf. Mae’r uchod i gyd yn esbonio pam mae’r rhan fwyaf o bobl sy'n byw mewn tlodi yng Nghymru hefyd mewn gwaith.
Nid plant yw'r prif enillwyr cyflog mewn unrhyw gartref. Mae plant yn byw mewn tlodi oherwydd bod eu rhieni yn byw mewn tlodi. Yr unig ffordd o ymdrin â hyn yw cael y rhieni allan o dlodi. Yr hyn rwy'n gofyn i'r Gweinidog yw: beth sy'n cael ei wneud i sicrhau-a soniasoch yn gynharach wrth ateb Bethan Jenkins am 44 o gyrff cyhoeddus yng Nghymru-beth sydd i sicrhau eu bod i gyd yn talu cyflog byw priodol? A beth sydd yno i wneud yn siŵr eu bod i gyd yn cyflogi pobl dan gontractau gweddus, nid un o'r pedwar i mi siarad amdanynt yn gynharach? A beth sy'n cael ei wneud i sicrhau bod yr isgontractwyr sy'n dod i mewn hefyd yn gweithio i’r telerau a’r amodau gweddus hynny? Y math o delerau ac amodau pan ymunais i â'r gweithlu ar ddiwedd y 1970au oedd y norm, sy'n ymddangos yn awr i fod yn annormal. Felly, beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau bod punt Cymru yn cael ei defnyddio i gyflogi pobl dan gontractau gweddus, gyda thelerau ac amodau gweddus a chyflog teg?
Diolch i'r Aelod unwaith eto am ei gyfraniad da iawn o ran dealltwriaeth o’i waith yn y gymuned a chymunedau ar draws Cymru. Mae’r Aelod yn iawn fod yn rhaid i ni alluogi'r uned deuluol—rhieni—i allu sicrhau swyddi gweddus o ansawdd da. Rwy’n meddwl, fel y bydd yr Aelod yn gwybod, ein bod wedi gwneud yn siŵr bod hynny’n rhan o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, a dyna pam mae'n rhaid i'r 44 corff cyhoeddus ystyried hyn. Nid yw'n ddewisol bellach. Mae'n rhaid iddyn nhw ystyried hyn mewn ffordd bwyllog ochr yn ochr â'r byrddau gwasanaethau cyhoeddus. Hoffwn i weld pob un o'n partneriaid yn talu’r cyflog byw, ac rwy'n siŵr bod y Gweinidog cyllid yn gwrando’n ofalus iawn. Byddaf yn cael trafodaeth bellach gydag ef i weld beth sydd angen ei wneud i fynd ar drywydd hynny gyda rhywfaint o egni.
Un o'r unedau teuluol sy’n fwyaf agored i dlodi yw’r un sy’n cael ei harwain gan fenyw, ac mae menywod yn fwy tebygol o fyw mewn tlodi am gyfnod hwy o amser a chael cyfnodau mwy rheolaidd o dlodi, sy’n amlwg yn effeithio ar blant mewn teuluoedd lle mae'r fam yn rhiant sengl. Felly, rwy’n credu bod gennych batrymau penodol o deuluoedd lle mae angen rhywfaint o help neu gefnogaeth ychwanegol. Cymeradwyaf Lywodraeth Cymru ar ei chynnig dewr o ran gofal plant, gan fy mod i o’r farn bod hon yn un o'r ffyrdd yr ydym mewn gwirionedd yn trechu tlodi, drwy roi cyfle i fenywod yn benodol, oherwydd maent yn dioddef yn anghymesur, cyfle i ymuno â’r gweithlu. Yn amlwg, pan fyddant yn ymuno â'r gweithlu, yna bydd yn rhaid i ni fynd i'r afael â'r holl faterion y mae Mike Hedges wedi’u codi yn ei gyfraniad ef am gyflog byw a chontractau dim oriau. Ond rwy'n credu bod y ffaith ein bod yn bwrw ymlaen â’r cam hwn yn ymrwymiad gwirioneddol i ddileu tlodi plant, ac yn un o'r pethau mwyaf hanfodol y gallwn ei wneud. Felly, a yw'n disgwyl, pan fyddwn wedi gwneud y cynlluniau peilot a phan fyddwn mewn gwirionedd yn gweithredu'r polisi hwnnw, y bydd hyn yn helpu yn uniongyrchol i ymdrin â thlodi?
Roeddwn eisiau sôn eto am yr anghydraddoldebau enfawr daearyddol o ran lefelau tlodi. Edrychwch ar Gaerdydd, ein prifddinas. Mae gennym y lefelau isaf o dlodi plant, ac mae gennym y lefel uchaf o dlodi plant. Mae'n anodd iawn meddwl yn unffurf sut i fynd i'r afael â'r materion hyn. Mae gan fy etholaeth i, sef Gogledd Caerdydd un o'r lefelau isaf o dlodi plant, ac eto ceir ardaloedd lle’r wyf yn gwybod bod teuluoedd unigol a phlant unigol nad ydynt yn cyflawni eu potensial fel y byddem i gyd yn dymuno iddynt ei wneud. Yn fy marn i, un o’r heriau mawr yw sut o ddifrif y gallwn fynd i fanylder ymdrin â'r materion hynny ar lawr gwlad. Yn sicr mae ymrwymiad yma i roi terfyn ar dlodi plant. Ond rwy'n credu bod yn rhaid i ni—. Mae’n rhaid i ni gofio ac ailadrodd nad yw’r holl ddulliau gennym. Yn ôl pob tebyg nid oes gennym y dulliau pwysicaf r mwyn dileu tlodi plant, ond rhaid inni wneud yr hyn a allwn gyda’r hyn sydd gennym. Fel y dywedais, rwy’n cymeradwyo'r cynnig gofal plant fel ffordd bwysig o wneud hynny.
Diolch i Julie Morgan am ei chyfraniad. Rwy'n meddwl bod yr addewid gofal plant y mae hi’n ei godi, fel y dywedais yn gynharach, yn un o’r addewidion gofal plant mwyaf uchelgeisiol a hael yn unrhyw le yn y DU, a’r nod yw dechrau ei gyflwyno yn yr hydref y flwyddyn nesaf. Rwy'n gweld yr addewid gofal plant fel rhywfaint o agenda gofal plant ychwanegol, mewn gwirionedd. Nid yn unig y bydd gennym sbardun economaidd sy’n rhoi’r cyfle i rieni i fynd allan i weithio a mwy o swyddi o ansawdd da, rwy’n gobeithio, ond bydd hefyd yn gyfle am ofal plant o ansawdd da. Felly, rydym yn cael ergyd ddwbl ar gyfer yr un polisi yr ydym wedi'i gyflawni. Ond mae'r Aelod yn iawn, er bod rhai ardaloedd mawr o amddifadedd mewn rhai mannau, yr ydym yn gwybod eu bod ar fynegai amddifadedd lluosog Cymru, mae gennym deuluoedd neu strydoedd sydd y tu allan i'r ardaloedd cod post y mae ein rhaglenni wedi’u trefnu ar eu cyfer, ac nid ydym yn estyn allan atynt. Weithiau maen nhw hefyd mewn angen i’r un graddau, a dyna pam rwy'n gobeithio, yn achos rhaglenni’r dyfodol, y gallwn edrych ar anghenion penodol yr unigolion yn hytrach nag ar ardaloedd cod post. Yn wir, yn rhai o'r ardaloedd y gwyddom sydd â phroblemau amddifadedd, nid yw pawb sy'n byw yno ag angen cymorth ychwanegol arnynt chwaith. Felly, does dim ateb hawdd i hyn. Ond rwyf wedi gofyn i fy nhîm edrych yn ofalus iawn ar unigolion, ble bynnag y maent yn byw. Os yw unigolyn mewn angen, os yw teulu mewn angen, yna dylem edrych am ffordd o integreiddio dull lle gallwn fod yn gefn i’r teulu hwnnw a’i gofleidio i wneud yn siŵr ein bod yn rhoi cymorth iddo yn y dyfodol.
Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, am eich datganiad ac yn arbennig am eich pwyslais ar bartneriaeth, yr wyf yn gobeithio, wrth gwrs, sy’n cynnwys partneriaeth gyda’r dinasyddion eu hunain. Dim ond un neu ddau o gwestiynau—y cyntaf yw hwn: tybed a fu unrhyw symudiad ar fater yr wyf wedi’i godi o'r blaen, sef y gwasanaethau cyhoeddus yn rhoi sylw dyledus i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn. Yn fy marn i fy hun, dylai hynny fod yn ddyletswydd yn hytrach nag yn opsiwn, ac rwy’n credu y bydd yn eich helpu chi o ddifrif yn yr hyn yr ydych yn gobeithio ei wneud, fel y nodir yn y datganiad a wnaethoch heddiw. Yn sicr, un o'r arfau cryfaf mewn arfogaeth yn erbyn tlodi yw eiriolaeth, yn enwedig hunan-eiriolaeth, lle bynnag y bo hynny'n bosibl. A chredaf y byddai, gydag erthygl 12 mewn golwg, yn syniad da magu ein pobl ifanc gyda'r gallu i ddadlau eu hachos lle mae'n cyfri, yn hytrach na chyfyngu eu hunain i gyfryngau cymdeithasol mewn cymaint o achosion.
Soniasoch am Ddeddf cenedlaethau'r dyfodol yn eich datganiad, ond ni wnaethoch unrhyw gyfeiriad penodol at yr iaith Gymraeg, ac o gofio bod hon bellach yn cael ei phrif ffrydio, neu i fod i gael ei phrif ffrydio, drwy gydol polisi'r Llywodraeth, rwy’n credu y byddai wedi bod yn gyfle da i atgyfnerthu hynny. Yn realistig, mae rhai rhannau o'n cymdeithas sy'n dal i ystyried yr iaith Gymraeg fel rhywfaint o ychwanegyn, yn dipyn o niwsans, yn enwedig pan fydd ganddynt ystyriaethau cymdeithasol mawr i’w hystyried. Ond rwy'n credu, os ydym yn edrych ar godi rhagolygon economaidd pawb neu unrhyw un drwy wella eu sgiliau, yna rydym yn gwneud anghymwynas â’n plant tlotach os ydym yn caniatáu iddynt barhau i dderbyn y neges hen ffasiwn honno, yn hytrach nag edrych ar yr iaith Gymraeg fel ffordd o wella eu rhagolygon economaidd eu hunain, gyda sgiliau iaith Gymraeg ddim ond yn rhan o'r hyn a allai eu helpu, ynghyd â sgiliau eraill—yn amlwg, nid wyf yn dweud mai dyma’r ateb i bopeth. Diolch yn fawr iawn.
Diolch i'r Aelod am ei chyfraniad, ac ydy, mae hi wedi codi mater hawliau'r plentyn a chyrff cyhoeddus, yn enwedig awdurdodau lleol. Byddaf yn rhoi rhywfaint o ystyriaeth bellach i hynny eto, mewn gwirionedd. Rwyf wedi cael sgwrs gyda’r comisiynydd plant yn y gorffennol ynglŷn â hyn, a byddaf yn ymchwilio ymhellach i’r hyn y gall neu na all hynny ei olygu.
Rwy'n credu bod mater eiriolaeth yn un pwysig iawn am bobl yn ymgysylltu a'r gallu i wrando ar brofiadau gwirioneddol pobl. Bellach, rhan o’m hagenda bolisi yw gwneud yn siŵr ein bod yn cael profiadau bywyd gwirioneddol yn dod yn ôl, yn rhoi adborth, i mewn i'r system. Felly, mae gennym bobl sydd yn eistedd ar y grŵp ymgynghorol trais yn y cartref—mae gennyf oroeswyr yno. Rwy'n edrych ar yr elfen plant sy’n derbyn gofal o hyn ac yn gwneud yn siŵr bod gennym blant sy'n derbyn gofal mewn gwirionedd ar y bwrdd cynghori hefyd. Rwy’n credu fy mod i wedi dweud wrth Aelodau yn y gorffennol na fyddem yn meddwl ddwywaith am ariannu comisiwn o £20,000, £30,000, i gorff allanol wneud adolygiad i ni ar fater penodol, ond nid ymddengys ein bod yn meddwl am gael rhywfaint o brofiad bywyd gwirioneddol i mewn yno a’u talu am eu profiadau a'u dwyn i’r rheng flaen. Felly, rwy’n rhoi ystyriaeth i hynny o ddifrif.
A gaf i ddweud bod y mater am yr iaith Gymraeg y mae’r Aelod yn ei godi yn un pwysig? Ac Alun Davies yw'r Gweinidog sy'n arwain ar hyn, ac nid yw'n gadael i mi anghofio hynny, nac unrhyw Weinidog eraill. Oherwydd absenoldeb y mater o’r datganiad, nid yw'n golygu nad ydym yn ystyried hyn, ond byddwn i hefyd yn dweud bod gan rai o'n cymunedau tlotaf, pobl sy'n byw mewn tlodi, lawer o heriau yn eu bywydau. Efallai bod y Gymraeg yn un o’r heriau hyn ond, mewn gwirionedd, pan edrychwn ar y rhai sy'n cael effaith enfawr yn y tymor hir o ran proffil ACE unigolyn, a gall yr iaith Gymraeg fod yn gefnogol yn y broses honno, ond mae'n rhaid i ni drwsio’r holl ddarnau hyn hefyd. Rwy'n credu bod yr Aelod yn iawn i godi'r mater hwn, ond, os gwelwch yn dda, rwy’n ymddiheuro nad yw wedi’i gynnwys yn y datganiad, ond nid yw'n un sydd wedi ei anghofio chwaith.
A gaf i ymuno ag Aelodau eraill wrth groesawu'r datganiad hwn heddiw a'r pwyslais a ddaw yn ei sgil ar dlodi plant a lleihau tlodi plant? A gaf i ddechrau, Ysgrifennydd y Cabinet, drwy ddiolch ichi am bresenoldeb eich staff mewn cyfarfod diweddar mewn canolfan gymunedol yn Nwyrain Casnewydd i drafod dyfodol Cymunedau yn Gyntaf a rhaglenni trechu tlodi, a oedd yn ddefnyddiol iawn? Dau fater a ddaeth i’r amlwg o’r digwyddiad hwnnw, rwy’n credu, oedd pwysigrwydd y ganolfan arbennig honno i rymuso'r gymuned leol, a chydnerthedd y gymuned leol hefyd. Rwy'n gwybod bod y rhain yn faterion yr ydych yn eu hystyried yn ofalus iawn o ran mynd i'r afael â thlodi plant a’r ffordd gyffredinol ymlaen. Gwn fod y canolfannau cymunedol hynny'n cyflawni o ran mynd i'r afael â thlodi plant drwy weithio gyda rhieni a phlant yn yr ardal leol, a gwn fod hynny'n wir mewn mannau eraill. Felly rwy'n siŵr y byddech eisiau sicrhau i ac eraill y byddwch yn ystyried yn ofalus y manteision hynny a ddaw o ganolfannau cymunedol wrth benderfynu ar y ffordd ymlaen gyda Chymunedau yn Gyntaf.
Hefyd, Ysgrifennydd y Cabinet, tybed a fyddech yn barod i ddweud ychydig am ysgolion bro. Rwyf i hefyd yn credu eu bod yn bwysig iawn o ran gweithio gyda rhieni a chymunedau lleol ynghylch materion tlodi plant ac ansawdd bywyd yn gyffredinol i blant. Rwy’n credu nad yw ein hadeiladau ysgol yn cael eu defnyddio cystal ag y dylent bob amser. Mae llawer ohonynt yn dal dan glo ar benwythnosau, yn ystod gwyliau'r ysgol a fin nos. O gofio bod adnoddau’n brin, nid yw'n ymddangos i fod yn ddefnydd da iawn o'r adeiladau hynny sydd eisoes yn bodoli.
O ran y blynyddoedd cynnar, tybed a fyddech yn barod i ddweud ychydig am Dechrau'n Deg, yr wyf yn meddwl sy’n gweithio'n dda, ond efallai y gellid ei ehangu o ran y rhai sy'n cael mynediad ato i weithio eto’n well. Mae'n amlwg yn bwysig iawn o ran mynd i'r afael â thlodi plant. Rwy'n credu ei fod yn bwysig iawn i gaffael iaith yn gynnar, sy'n hanfodol ar gyfer cyfleoedd bywyd. Ac yn amlwg, rwy’n gwybod eich bod am wella ansawdd gweithlu’r blynyddoedd cynnar, ac efallai y byddai cael mwy o gyfranogiad gan raddedigion prifysgol mewn lleoliadau Dechrau'n Deg yn cynorthwyo gyda hynny, a hefyd, efallai, gyd-leoli, yr wyf i o’r farn sy’n ddefnyddiol o ran lledu'r mynediad i Dechrau'n Deg—cyd-leoli gyda gwasanaethau bydwreigiaeth, er enghraifft.
Yn olaf, Ysgrifennydd y Cabinet, tybed a fyddech yn barod i ddweud ychydig am roi terfyn ar yr amddiffyniad o gosb resymol. Cafwyd digwyddiad diddorol iawn a gynhaliwyd gan Julie Morgan yn y Cynulliad heddiw lle clywsom yn gadarnhaol iawn am y profiad mewn mannau eraill, gan gynnwys Iwerddon, a pha mor bositif yw hynny o ran grymuso rhieni â thechnegau rhianta cadarnhaol, deall yr agenda hawliau plant a dod â’r rheini i'r amlwg o ran mynd i'r afael â materion plant. Pe gallech ddweud ychydig am yr amserlen ar gyfer rhoi diwedd ar yr amddiffyniad o gosb resymol, credaf y byddai hynny'n ddefnyddiol iawn.
Diolch i John Griffiths am ei gyfraniad ac, unwaith eto, rwyf wedi cael adroddiad llawn yn ôl gan fy nhîm mewn cysylltiad â'r cyfarfod y soniodd amdano ddydd Gwener. Rwy'n ddiolchgar am ei adborth a'i fod o ddefnydd iddo ef a'i gydweithwyr.
Rwy’n credu bod yr Aelod yn iawn i godi'r mater ynghylch grymuso a chydnerthedd. Rwy'n defnyddio’r termau hynny’n aml oherwydd credaf fod y cymunedau’n ymwneud â hynny. Mae sut rydym yn cyrraedd yno yn fater diddorol arall, oherwydd bod sefydliadau sy’n cael eu herio yn ariannol—ni ein hunain fel Llywodraeth ac awdurdodau lleol—mae'n rhaid i ni greu ffordd newydd o wneud busnes a chymryd rhywfaint o gyfrifoldeb. Er bod Cymunedau yn Gyntaf, rwy’n deall, yn eich ardal benodol chi, yn darparu cyllid i ganolfannau cymunedol, mewn ardaloedd eraill nid oedd hynny’n wir. Felly, mae’n debyg fod ffyrdd o fynd trwy hyn, ond mae angen inni gael trafodaeth tymor hwy am yr hyn y gall neu na all hyn ei olygu. Nid wyf wedi gwneud y penderfyniad, fel y mae’r Aelod yn ymwybodol ohono, ar Gymunedau yn Gyntaf. Ond nid wyf yn credu ei fod yn beth gwael cynnal y trafodaethau hynny sy’n ymwneud â sicrhau bod cynaliadwyedd hirdymor sefydliadau ar flaen y gad yn ein holl drafodaethau wrth i ni symud ymlaen.
Ysgolion cymunedol—rwy’n cael fy nghalonogi mewn gwirionedd gan frwdfrydedd yr Aelod am hyn. Rwy’n cytuno ag ef. Rwy'n credu bod cyfle gwych yno i roi pwyslais cymunedol ar adeiladu y tu hwnt i beth yw addysg, gyda golwg llawer mwy cyfannol at yr hyn y gallwn ei gyflawni yn ein cymunedau. Es i am dro i Drelái rhyw bythefnos yn ôl, ac roedd yn gyfle ardderchog—roedd ysgol wych yno, yn cyflawni cymaint mwy na dim ond addysg. Roedd hon yn gwneud llawer iawn o waith gyda theuluoedd a phlant y tu hwnt i'r hyn y byddai eu cylch gwaith arferol yn ei wneud. Byddwn i'n dweud wrth fy holl bartneriaid bod yn rhaid iddynt edrych y tu hwnt i hynny nawr—y tu hwnt i'n gwaith bob dydd—i edrych ar beth y gallwn ei wneud yn ychwanegol. Mae cymaint o sefydliadau sydd eisoes yn gwneud hyn. Yr hyn y mae’n rhaid i ni ei wneud yw eu cyfuno, a gwneud yn siŵr bod pob un o'r cyrff hyn yn dod ynghyd. Dyna pam fod yr egwyddor o barthau plant yn rhywbeth yr wyf i'n teimlo’n llawn cyffro yn ei gylch, sef dod â’r arbenigwyr hyn i mewn o gwmpas unigolyn i wybod beth y gallant neu na allant fod ei angen ar gyfer y dyfodol.
Ymrwymais yr wythnos diwethaf—yn wir, yng Nghasnewydd, mewn gwirionedd—yng nghynhadledd ar y cyd Dechrau'n Deg a Theuluoedd yn Gyntaf, ymrwymais i ddatblygu’r ddwy raglen hynny ymhellach drwy roi cyllid iddynt, oherwydd credaf eu bod yn hanfodol o ran siapio'r ffordd y mae ein hamgylchedd yn gweithio. Mae sut yr ydym yn eu hintegreiddio â'r blynyddoedd cynnar yn mynd i fod yn drafodaeth ddiddorol, ond rwy'n credu bod hyn yn hanfodol.
Y pwynt terfynol—rwy’n ymwybodol iawn o'r amser—yw’r mater o roi terfyn ar yr amddiffyniad o gosb resymol. Mae cyfres o ddulliau’n ymwneud â hynny hefyd. Mae rhianta cadarnhaol yn rhywbeth yr ydym yn dechrau ei wthio allan yn galed iawn a, gyda llaw, byddwn yn deddfu hefyd. Ni allaf roi dyddiad cyflwyno hynny i’r Aelod, ond byddaf yn ysgrifennu ato pan fydd gennyf y manylion.
Diolch i’r Ysgrifennydd Cabinet.