2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 2:29 pm ar 11 Ionawr 2017.
Rwy’n galw nawr ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Ysgrifennydd Cabinet. Llefarydd y Ceidwadwyr, Darren Millar.
Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, dangosodd canlyniadau’r Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr fod system addysg Cymru ar ei hôl hi o gymharu â gweddill y DU a’n bod oddeutu gwaelod y tabl rhyngwladol ar gyfer llythrennedd, mathemateg a gwyddoniaeth. Fe wyddoch gystal â minnau nad yw hynny’n ddigon da, ac rydym yn awyddus i wneud gwahaniaeth. Mae gwyddoniaeth, yn arbennig, wedi gwaethygu, gyda sgoriau’r Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr wedi gostwng ym mhob prawf ers 2006. Pa gamau rydych yn eu cymryd i wrthdroi’r dirywiad mewn gwyddoniaeth yng Nghymru?
Diolch, Darren. Rydych yn gywir i ddweud nad ydych chi na minnau’n credu bod ein perfformiad ym mhrofion y Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr yn ddigon da, ac mae ein perfformiad mewn gwyddoniaeth wedi bod yn arbennig o siomedig, yn enwedig ymhlith ein plant sy’n perfformio ar lefel uwch, a’n diffyg cynrychiolaeth ar lefel 6, lefel 5, a lefel 4 cyfartalog y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd. Ac fe fyddwch yn ymwybodol fy mod wedi cyhoeddi rhwydwaith rhagoriaeth mewn gwyddoniaeth a thechnoleg yn gynharach y mis hwn. Mae’n adeiladu ar fy nghyhoeddiad blaenorol ar gyfer mathemateg. Nod y rhwydwaith fydd sicrhau bod ein hathrawon gwyddoniaeth gyda’r gorau y gallant fod. Bydd yn cynnwys gweithio a chysylltu ysgolion â sefydliadau addysg uwch, lle y mae gennym adrannau gwyddoniaeth a thechnoleg rhagorol, a sicrhau hefyd y gellir mynd i’r afael â phrofiad plant o wyddoniaeth yn is i lawr y cwricwlwm, yn eu hysgolion cynradd, lle y mae pobl yn aml yn dechrau ffurfio rhagfarnau ynglŷn ag astudio pynciau o’r natur hon. Felly, mae’n becyn cynhwysfawr er mwyn gwella addysgu gwyddoniaeth, ac ansawdd addysgu gwyddoniaeth, yn gyffredinol.
Rwy’n falch eich bod wedi gallu taflu ychydig mwy o oleuni ar y rhwydwaith cenedlaethol er rhagoriaeth mewn gwyddoniaeth a thechnoleg, oherwydd, wrth gwrs, nid oedd yn gyhoeddiad a wnaethoch yn y Siambr hon—fe’u gwnaethoch mewn datganiad i’r wasg, ac rydym yn dal heb dderbyn datganiad ysgrifenedig neu lythyr oddi wrthych, fel Aelodau Cynulliad, i roi gwybod i ni am y datblygiad pwysig hwn. Ond serch hynny, rwy’n croesawu’r ymdrech ychwanegol y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud yn hynny o beth.
Ond fel y dywedoch yn gwbl briodol, yn eich ymateb i mi yn awr, mae angen i ni wella perfformiad athrawon gwyddoniaeth, a chael athrawon gwyddoniaeth o ansawdd uchel. Ond rydych chi’n gwybod, ac rwyf fi’n gwybod, fod dros 45 y cant o ostyngiad wedi bod yn nifer y bobl a ddaeth yn gymwys i ddysgu gwyddoniaeth rhwng 2010 a 2015 o dan eich rhagflaenwyr. Ac mewn gwirionedd, gwelwyd y gostyngiad mwyaf mewn bioleg, gyda thros 67 y cant o ostyngiad yn y niferoedd a ddaeth yn gymwys i ddysgu’r pwnc hwnnw. Felly, pa gamau penodol rydych yn eu cymryd i fynd i’r afael ag anghenion y gweithlu addysgu yng Nghymru, i wneud yn siŵr fod gennym ddigon o athrawon gwyddoniaeth yn y dyfodol?
Rydych yn iawn: mae ansawdd addysgu’n allweddol wrth fynd i’r afael â’r agenda hon, a dyma fydd prif ffocws gwaith y rhwydwaith rhagoriaeth. Ar hyn o bryd rwy’n adolygu’r cymhellion i raddedigion sydd ar gael i ni i ddenu pobl i’r proffesiwn addysgu, ac yn edrych hefyd i weld a allwn adnewyddu ein rhaglen mynediad i raddedigion, fel bod pobl sydd efallai wedi cael gyrfa mewn gwyddoniaeth neu dechnoleg yn dymuno symud i’r byd addysg yn nes ymlaen. Felly, mae’r rheini’n cael eu hadolygu ar hyn o bryd, fel y gallwn wneud yr hyn a allwn i ddenu ein graddedigion gorau ym maes gwyddoniaeth i ddilyn gyrfa mewn addysg.
Mae hwn yn fater sy’n galw am sylw, a gall fod yn arbennig o ddifrifol drwy gyfrwng y Gymraeg, yn ogystal â phynciau gwyddonol unigol, ac mae hynny wedyn yn gwadu cyfle i fyfyrwyr sy’n dymuno astudio gwyddoniaeth drwy gyfrwng y Gymraeg rhag gallu astudio tair gwyddor ar wahân, yn hytrach na chael gwybod mai gwyddoniaeth dwyradd yn unig sy’n rhaid iddynt ei wneud. Mae’n un o’r pethau sy’n rhaid i ni fynd i’r afael ag ef, ond mae’n un pwysig.
Rwy’n falch iawn eich bod yn adolygu’r cymhellion sydd ar gael. Os ydych am ddilyn gyrfa mewn addysgu gwyddoniaeth yn Lloegr, rydym i gyd yn gwybod bod y bwrsariaethau’n llawer mwy hael nag y maent yma yng Nghymru. Yn wir, os ydych am fod yn athro ffiseg yn Lloegr, gallwch gael bwrsariaeth o hyd at £30,000, o gymharu â chyn lleied ag £11,000 yma yng Nghymru.
Tybed a gaf fi bwyso ychydig arnoch a gofyn i chi beth fydd yr amserlen ar gyfer yr adolygiad hwnnw, o ystyried bod pobl yn awyddus i wneud y penderfyniadau hyn a chynllunio ymlaen llaw, yn enwedig gyda newidiadau eraill yn y system addysg uwch, fel petai, ar y gweill. A hefyd, pa gamau rydych yn eu cymryd i ysbrydoli plant iau ym maes gwyddoniaeth? Rydym i gyd yn gwybod bod yna ostyngiad wedi bod yn y grant i Techniquest yn ddiweddar, yn y gyllideb. Nawr, mae rhesymau dealladwy am hynny, o ran pwysau ar y gyllideb, ond beth a wnewch i sicrhau bod llefydd sy’n ysbrydoli, fel Techniquest, yn dal yn mynd i allu estyn allan ac ymgysylltu â phobl—pobl ifanc o oedran ysgol gynradd ac oedran ysgol uwchradd—yn y dyfodol?
Wel, diolch i chi, Darren. Rwy’n gobeithio gwneud cyhoeddiad am yr adolygiad o gymhellion i raddedigion yn fuan. Yr hyn sy’n arbennig o bwysig yw deall, os yw Llywodraeth Cymru yn mynd i fuddsoddi arian ar hyfforddi’r athrawon hyn, nad ydynt yn mynd i ddysgu yn rhywle arall wedyn. Mae’n rhaid i ni sicrhau ein bod yn cael gwerth da am fuddsoddi yng Nghymru, a bod yr athrawon hyn yn dysgu plant Cymru yn ysgolion Cymru wedyn yn hytrach na defnyddio’r sgiliau hynny yn rhywle arall. Rwy’n hyderus, ar ôl cyfarfod â phrif weithredwr Techniquest, ac er gwaethaf y gostyngiad yn y grant gan Lywodraeth Cymru, y byddant yn parhau i gynnig rhaglen allgymorth uchelgeisiol o’r ganolfan yma yng Nghaerdydd, a cheir llawer o sefydliadau, sefydliadau elusennol, ochr yn ochr â Techniquest sy’n parhau i ddarparu sgyrsiau am wyddoniaeth sy’n dda, yn ymarferol ac yn gyffrous iawn yn yr ysgolion. Mae gennyf ddiddordeb arbennig, a byddaf yn gwneud cyhoeddiad i’r Siambr yn nes ymlaen, yn y modd rydym yn bwriadu manteisio ar yr hyn a ddywedwyd yn gynharach am fyd gwaith, i allu datblygu cysylltiadau rhwng ysgolion a diwydiant. Mae’r diwydiannau gwyddonol a thechnolegol yn enghraifft berffaith o’r modd y dangosir i fyfyriwr os ydych yn dilyn pynciau gwyddonol ac yn rhagori ynddynt, dyma’r mathau o yrfaoedd y gallwch fynd ymlaen i’w dilyn yn nes ymlaen mewn bywyd, a byddwn yn gwneud cyhoeddiad ynglŷn ag adnoddau i gefnogi’r gwaith hwnnw.
Llefarydd UKIP, Michelle Brown.
Diolch i chi, Lywydd. A yw Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno â mi na fuasai’n rhaid i ysgolion Cymru wario cymaint o arian ar gyflogi staff cyflenwi pe bai gan ysgolion yng Nghymru fwy o athrawon yn aelodau amser llawn o’u staff?
Yn amlwg, swyddi parhaol, gydag athrawon sy’n adnabod eu myfyrwyr ac yn adnabod eu dosbarthiadau a’u hysgolion yn dda, yw’r ffordd y byddem yn ei ffafrio ar gyfer staffio ein hysgolion. Fodd bynnag, mewn system hunanwella i ysgolion, fe wyddom hefyd ein bod yn awyddus i rai o’n hathrawon symud o un sefydliad i’r llall er mwyn iddynt allu rhannu arferion gorau. Bydd yna adegau pan fydd yn hollol briodol cael absenoldeb wedi’i gynllunio o’r gwaith at ddibenion hyfforddi—secondiad, er enghraifft, i athrawon ddatblygu eu sgiliau iaith Gymraeg—ond mae angen gwneud yn siŵr hefyd ein bod yn rheoli absenoldeb wedi’i gynllunio o’r fath a bod ysgolion yn dilyn canllawiau Llywodraeth Cymru. Wrth gwrs, ceir adegau pan fydd staff yn sâl, yn union fel y bydd pob un ohonom weithiau’n mynd yn sâl, ac unwaith eto, mae angen i ysgolion reoli hynny’n briodol.
Iawn. Diolch i chi am yr ateb hwnnw. Yn wyneb y sylwadau gan gyfarwyddwr undeb athrawon ATL Cymru fod cyfran sylweddol o’r arian a werir ar staff cyflenwi yn mynd i lenwi pocedi’r asiantaethau, ac y dylai pob plaid weithio gyda’i gilydd i ddatblygu system sy’n darparu gwell gwerth am arian, sy’n gwobrwyo athrawon cyflenwi’n well, ac sydd, yn anad dim, yn darparu gwell addysg ar gyfer ein plant, pa bryd y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn fy ngwahodd i a llefarwyr addysg y pleidiau eraill i gydweithio gyda hi ar gynlluniau i fynd i’r afael â’r broblem hon?
Mewn gwirionedd, sefydlodd fy rhagflaenydd, Huw Lewis, grŵp gorchwyl a gorffen i edrych ar fater gwaith cyflenwi. Mae gwaith y grŵp hwnnw wedi dod i ben. Anfonwyd yr adroddiad ataf yn ddiweddar. Rwy’n ystyried cynnwys yr adroddiad hwnnw a’r ffordd ymlaen, ac rwy’n hapus iawn bob amser i gyfarfod â llefarwyr y gwrthbleidiau, neu bobl o feinciau cefn y pleidiau gwleidyddol eraill yn wir, i siarad am unrhyw syniadau da sydd ganddynt i fynd i’r afael â’r broblem hon. Mae gwaith cyflenwi yn fater pwysig. Rydym yn gwybod ei bod yn gwbl angenrheidiol cael athrawon cyflenwi mewn ystafelloedd dosbarth o bryd i’w gilydd, ond mae angen gwneud yn siŵr eu bod yn cael eu hyfforddi’n dda, eu bod yn cael eu talu’n iawn, fod materion diogelu plant priodol wedi cael sylw, ac nad effeithir ar ddysgu plant yn sgil cael athro cyflenwi yn yr ystafell ddosbarth, a gellir goresgyn hynny drwy gynllunio ac arweinyddiaeth wych yn yr ysgolion unigol.
Ar ddiwedd 2015, dywedodd y Llywodraeth Lafur,
Mae’n bwysig cofio nad yw cyflogi athrawon cyflenwi ymhlith y pwerau sydd wedi’u datganoli ar hyn o bryd i Lywodraeth Cymru, sy’n golygu na allwn osod cyfraddau tâl neu orfodi awdurdodau lleol i weithredu cronfeydd o athrawon cyflenwi.
Pe bai’n cael y pwerau hyn fel rhan o ddatganoli pellach, a fyddai Ysgrifennydd y Cabinet yn gosod set o reolau i ysgolion ar gyfer ymdrin â mater athrawon cyflenwi?
Fel y dywedais, nid ydym yn aros am Fil Cymru a datganoli tâl ac amodau athrawon er mwyn mynd i’r afael â’r mater hwn. Sefydlwyd grŵp gorchwyl a gorffen gan y Gweinidog blaenorol ac ar hyn o bryd rwy’n ystyried gwaith y grŵp hwnnw a byddaf yn gwneud datganiad cyn bo hir ar sut y byddwn yn symud yr agenda hon yn ei blaen. Ond rwy’n awyddus i dâl ac amodau athrawon gael eu datganoli i’r sefydliad hwn. Gadewch i ni fod yn gwbl glir nad oes y fath beth â set genedlaethol o dâl ac amodau. Pan ddywedwn ein bod am i dâl ac amodau athrawon aros yn Llundain, yr hyn rydym yn ei ddweud yw ein bod eisiau system Lloegr yma i Gymru, gan fod gan yr Alban system wahanol eisoes. Rwy’n awyddus iawn i allu datblygu, ar y cyd â’r proffesiwn addysgu, ateb a luniwyd yng Nghymru i faterion yn ymwneud â thâl ac amodau athrawon. Mae’r Prif Weinidog wedi dweud yn glir iawn na fydd unrhyw athro yng Nghymru ar eu colled, ond mae hwn yn gyfle i sicrhau bod tâl ac amodau athrawon yn cyd-fynd â’n cenhadaeth genedlaethol i ddiwygio addysg a rhagoriaeth mewn addysg.
Llefarydd Plaid Cymru, Sian Gwenllian.
Diolch. Mae fy nghwestiynau i Weinidog y Gymraeg. Roeddech chi, ddydd Gwener diwethaf, yn siarad ar y cyfryngau ac yn sôn eich bod chi’n credu bod Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 yn rhy gymhleth a bod angen adolygu’r ffordd y caiff y safonau iaith eu dylunio a’u gweithredu. A fedrwch chi ymhelaethu ychydig ar y safbwynt yna, os gwelwch yn dda?
Diolch yn fawr. Rwy’n credu fy mod i wedi bod yn ddigon clir wrth siarad nifer o weithiau yn fan hyn, ac mewn mannau eraill, fy mod i’n credu ei bod yn amser adolygu’r fframwaith deddfwriaethol presennol sydd gennym ni, ac mae’r safonau yn rhan o hynny. Rwy hefyd wedi bod yn glir mai’r flaenoriaeth ar hyn o bryd yw edrych ar y strategaeth iaith ac wedyn mae’r ddeddfwriaeth yn dod o hynny. Mi fyddaf yn cyhoeddi Papur Gwyn ar y materion yma yn y gwanwyn.
Diolch. Wrth gwrs, nid oes dim byd yn bod efo edrych ar y ffordd y mae deddfwriaeth yn gweithio a’i symleiddio os yn bosib, ond mae’n rhaid bod yn ofalus oherwydd, hyd yn hyn, mae yna gwestiwn efallai ynglŷn â pharodrwydd ac ewyllys gwleidyddol y Llywodraeth i weithredu’r Ddeddf, ac felly mae’n bwysig mai pwrpas unrhyw adolygu ydy symleiddio’r broses o weithredu’r Ddeddf ac nid ei gwanhau hi. Yn wir, gellid dadlau bod lle i gryfhau ac ymestyn. Felly, mae’n rhaid gofyn pam mai dim ond un set o safonau sydd wedi cael eu cyflwyno mewn chwe blynedd. Efallai bod y broses yn fiwrocrataidd, ond rwy’n credu bod yna’n fwy na dim ond biwrocratiaeth y tu ôl i’r arafwch. Er enghraifft, y Llywodraeth a wnaeth ddewis gwrthod y safonau drafft a gyflwynwyd gan y comisiynydd, a’r Llywodraeth sydd wedi torri cyllideb y comisiynydd o 32 y cant mewn termau real dros gyfnod o bedair blynedd. A ydych chi’n meddwl bod un set o safonau mewn chwe blynedd yn ddigon da a phryd ydych chi, fel Llywodraeth, am gyhoeddi amserlen a fydd yn arwain at weithredu safonau yn y meysydd gofal, tai, cwmnïau dŵr, telathrebu, cwmnïau trenau a bysys, a chwmnïau nwy a thrydan ac yn y blaen?
Ers i mi fod yn Weinidog yr unig oedi sydd wedi bod oedd oedi ar gais Plaid Cymru er mwyn newid y safonau a roddwyd gerbron y Cynulliad ar gyfer addysg uwch. Rwy’n derbyn eich pwynt ond rwy hefyd yn gwbl glir: nid oes unrhyw ewyllys i arafu nac i beidio â gweithredu’r ddeddfwriaeth. Ond, nid wyf yn credu mai deddfwriaeth yw’r math o fframwaith deddfwriaethol a fydd ei angen ar gyfer y dyfodol. Rwy eisiau sicrhau bod gennym ni ddeddfwriaeth a fydd yn sicrhau bod gennym ni ffordd o weithredu polisïau i gefnogi’r Gymraeg lle bynnag rydym ni eisiau defnyddio’r Gymraeg, a byddaf yn gwneud hynny trwy Bapur Gwyn yn y gwanwyn.
Rydych yn sôn yn fanna am weithredu ac mae’r cynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg yn ffordd o weithredu. Mae’r rhain rŵan wedi cael eu cyflwyno gan holl awdurdodau addysg Cymru, ond yn ôl y sôn, maen nhw’n siomedig, a dweud y lleiaf. Nid oes rhaid i mi eich atgoffa chi pa mor allweddol bwysig ydy cynyddu addysg cyfrwng Cymraeg er mwyn cyrraedd yr uchelgais o 1 miliwn o siaradwyr erbyn 2050. Cafodd hyn ei bwysleisio eto heddiw gan Gomisiynydd y Gymraeg a oedd hefyd yn galw am newid radical i’r system addysg os ydy’r nod i’w gyflawni.
Sut felly ydych chi am gefnogi’r awdurdodau addysg hyn i gryfhau’r cynlluniau o ble y maen nhw ar hyn o bryd? A wnewch chi ystyried rhoi rôl i Estyn, wrth iddyn nhw arolygu awdurdodau addysg, fel efallai bod rôl iddyn nhw fonitro a chynyddu’r ddarpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg fel rhan o’u gwaith nhw?
Rwy’n hapus iawn i ystyried rôl i Estyn pe bai hynny o gymorth inni yn ystod y broses yma. A gaf i ddweud hyn amboutu’r cynlluniau strategol? Rydym ni wedi derbyn y cynlluniau fan hyn ac rwy’n ystyried y cynlluniau ar hyn o bryd. Pan fyddaf wedi cael cyfle i edrych arnynt yn fanwl, a phan rwy’n teimlo fy mod i’n barod i wneud hynny, byddaf yn gwneud datganiad ar sut rydym yn mynd i symud ymlaen. Rwy’n gobeithio fy mod i’n mynd i fod mewn sefyllfa i wneud hynny yn ystod y mis nesaf.