6. 5. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon ar ei Ymchwiliad i Barodrwydd ar gyfer y Gaeaf 2016/17

– Senedd Cymru am 3:37 pm ar 1 Chwefror 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 3:37, 1 Chwefror 2017

Yr eitem nesaf ar ein hagenda ni y prynhawn yma yw dadl ar adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon ar yr ymchwiliad i barodrwydd ar gyfer y gaeaf, ac rydw i’n galw ar Gadeirydd y pwyllgor yma i symud y cynnig—Dai Lloyd.

Cynnig NDM6220 Dai Lloyd

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon ar yr ymchwiliad i barodrwydd ar gyfer y gaeaf 2016-17, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 9 Rhagfyr 2016.

Cynigiwyd y cynnig.

Photo of David Lloyd David Lloyd Plaid Cymru 3:38, 1 Chwefror 2017

Diolch yn fawr, Lywydd, ac rydw i’n falch iawn o gael agor y ddadl yma heddiw ar adroddiad Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon y Cynulliad yma ar barodrwydd ar gyfer y gaeaf rydym ni yn ei ganol o, 2016-17. Nawr, wrth gwrs, mae’r gaeaf yn gyfnod heriol iawn i’n gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol. Mae’n adeg pan fo’r pwysau sy’n codi gydol y flwyddyn yn sgil poblogaeth sy’n heneiddio, y galw cynyddol am wasanaethau, a heriau’r gweithlu, i gyd ar eu mwyaf amlwg. Dim ond ryw bythefnos yn ôl dywedodd prif weithredwr Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru fod y gwasanaeth iechyd eisoes wedi wynebu heriau eithriadol y gaeaf hwn, a’i fod yn gweld rhai o’r dyddiau prysuraf erioed yn hanes unedau brys ein hysbytai a gwasanaethau ambiwlans Cymru.

Yn yr yn wythnos, cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon y byddai targedau penodol ar gyfer meddygon teulu yn cael eu hatal dros dro i helpu i ryddhau apwyntiadau yn ein practisys, a hynny am fod cymaint o bwysau ar ofal sylfaenol y gaeaf hwn. Bydd Aelodau’r Cynulliad yn sicr yn ymwybodol hefyd o’r sylw yn y cyfryngau ar bwysau tebyg ar wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol mewn rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig, ac yn Lloegr yn arbennig.

Nawr, roeddem ni fel pwyllgor yn teimlo ei bod yn bwysig ymchwilio i weld pa mor barod yw gwasanaeth iechyd gwladol Cymru a gwasanaethau gofal cymdeithasol i ymdopi â’r pwysau ar wasanaethau gofal heb eu trefnu dros y gaeaf hwn. Fel rhan o’r gwaith hwn, roeddem ni’n awyddus i edrych ar y cynnydd a wnaethpwyd yn y maes hwn dros y blynyddoedd diwethaf, yn enwedig ers gwaith y pwyllgor blaenorol yn 2013-14. Roedd ein cylch gorchwyl hefyd yn rhoi pwyslais, ymhlith pethau eraill, ar lif cleifion, gan gynnwys gofal sylfaenol y tu allan i oriau arferol, gwasanaethau ambiwlans brys, adrannau achosion brys, ac oedi wrth drosglwyddo gofal.

Treuliwyd haf 2016 yn gofyn i randdeiliaid am eu barn ynghylch a oedd gwasanaeth iechyd gwladol Cymru mewn sefyllfa i allu ymdopi efo’r pwysau ar wasanaethau gofal heb ei drefnu yn ystod y gaeaf i ddod. Cawsom ni ymateb da iawn ac rydym ni’n ddiolchgar i bawb am roi o’u hamser i ysgrifennu atom a chyflwyno tystiolaeth i ni yn ein cyfarfodydd ffurfiol.

Dyma'r dystiolaeth sydd wedi helpu i lunio casgliadau clir iawn a'n galluogi ni i lunio’r hyn sydd, yn ein barn ni, yn argymhellion cadarn i'r Ysgrifennydd Cabinet a'r Gweinidog. Er bod llawer o'n hargymhellion yn bwysig o ran rheoli pwysau ychwanegol dros y gaeaf, mae angen eu hystyried fel rhan o adolygiad llawer ehangach i wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Yn wir, ein casgliad pwysicaf yw y byddai gwasanaeth iechyd gwladol a gwasanaeth gofal cymdeithasol mwy gwydn mewn sefyllfa well i ymdopi efo’r cynnydd sylweddol yn y galw dros gyfnod y gaeaf. Os na fydd modd sicrhau'r gwytnwch hwn drwy gydol y flwyddyn, bydd yr ymdrechion i ymdopi â phwysau penodol y gaeaf yn ymwneud mwy â cheisio cyfyngu ar eu heffeithiau na newid y system gyfan, sef yr hyn y mae gwir angen ei wneud. Bydd darllenwyr cyson a chraff ein hadroddiad ni yn gwybod taw paragraffau 71 i 75 sydd yn dweud hyn.

Rwy'n nodi bod yr Ysgrifennydd Cabinet wedi derbyn ein hargymhelliad cyntaf yn rhannol. Rydym ni i gyd yn ymwybodol y cafodd byrddau partneriaeth rhanbarthol statudol eu sefydlu o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 fel ffordd o fwrw ymlaen â'r agenda i ddarparu iechyd a gofal cymdeithasol integredig. Fodd bynnag, rwy'n falch bod yr Ysgrifennydd Cabinet yn cydnabod bod mwy i'w wneud ac y bydd ei Lywodraeth yn cefnogi gwelliannau pellach.

Yn gyffredinol, daethom i'r casgliad fod angen gwell integreiddio rhwng y sectorau iechyd a gofal cymdeithasol, yn y broses o gynllunio ac o ran darparu gwasanaethau, a bod angen cynnwys y sector annibynnol—gwasanaethau cartrefi gofal a gwasanaethau gofal cartref fel ei gilydd—yn y gwaith hwn hefyd. Yng ngoleuni hyn, testun siom i mi yw bod yr Ysgrifennydd Cabinet wedi gwrthod ein hargymhelliad y dylai gomisiynu neu efallai adolygu unrhyw ymchwil sydd ar gael i effeithiolrwydd cyd-leoli gwasanaethau gofal sylfaenol mewn adrannau damweiniau ac achosion brys, yn enwedig gan ei fod wedi cydnabod y dystiolaeth ar draws y Deyrnas Unedig sy'n dangos effeithiolrwydd cyd-leoli. Mae'r wybodaeth y mae wedi'i darparu ynghylch gwasanaethau y tu allan i oriau arferol yn gweithio ochr yn ochr ag adrannau achosion brys i'w chroesawu, serch hynny.

Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.

Photo of David Lloyd David Lloyd Plaid Cymru 3:38, 1 Chwefror 2017

Roedd gwahaniaeth barn ymysg y rhai a rhoddodd dystiolaeth i'r pwyllgor am y lefelau o barodrwydd am y gaeaf, sef ffaith sy’n peri rhywfaint o bryder ynddo'i hun. Dylai'r sector cyfan fod yn fwy hyderus bod y broblem o dan reolaeth a bod modd ei drin. Gallai'r diffyg hyder hwn fod, yn rhannol, oherwydd bod angen gwella'r cyfathrebu rhwng yr holl grwpiau perthnasol, er gwaethaf y ffaith bod trefniadau fel cynlluniau integredig ar waith yn barod.

Yn gysylltiedig â hyn, mae gennym rai pryderon am ymgyrch Llywodraeth Cymru i frechu rhag y ffliw, yn enwedig o ran y ffaith mai nifer weddol fach o staff y gwasanaeth iechyd a staff gofal cymdeithasol sydd wedi cael eu brechu. O ran staff y gwasanaeth iechyd, mae ffigurau diweddar gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dangos mai dim ond ryw 48.4 y cant ohonynt sydd wedi cael eu brechu rhag y ffliw hyd yn hyn. Mae brechu staff rheng flaen yn rhywbeth allweddol er mwyn atal y clefyd, ac rydym ni’n credu y dylai Llywodraeth Cymru a'r sector fod yn fwy uchelgeisiol wrth osod targedau yn y maes hwn. Mae gennym rai pryderon hefyd am strwythur yr ymgyrch eleni, ynghyd â pha mor weledol yw hi a sut y mae'n cael ei thargedu. Mae angen eglurder ynghylch rolau priodol meddygon teulu a fferyllwyr yn yr ymgyrch ac ynghylch cryfder a gwelededd y negeseuon cenedlaethol i grwpiau targed. Rydym yn argymell bod trefniadau'n cael eu rhoi ar waith i ymgymryd â dysgu system gyfan yn seiliedig ar werthusiad o effeithiolrwydd holl ymgyrchoedd Llywodraeth Cymru ynghylch iechyd dros y gaeaf. Argymhelliad 3 yw hwnnw.

Rwy'n croesawu'r ffaith bod yr Ysgrifennydd Cabinet wedi derbyn ein hargymhelliad ar y mater hwn. Rydym ni’n falch o nodi—ac rydw i'n siŵr y bydd aelodau eraill y pwyllgor yn teimlo'r un ffordd—y bydd gwersi o'r gwerthusiad yn cael eu hymgorffori mewn gwaith cynllunio blwyddyn gyfan yn y dyfodol, gan gynnwys yr ymgyrch ar gyfer y gaeaf nesaf. Nid oes amheuaeth y bu rhai gwelliannau clir yn y system. Mae ymddiriedolaeth gwasanaethau ambiwlans Cymru yn enghraifft amlwg a dylid ei llongyfarch am hynny. Fodd bynnag, mae’r ymchwiliad hwn wedi nodi nifer o faterion a gododd yn adroddiad y pwyllgor blaenorol yn 2013 fel materion y mae angen eu blaenoriaethu, gan gynnwys derbyniadau amhriodol i adrannau damweiniau ac achosion brys, llif cleifion drwy ysbytai ac oedi wrth drosglwyddo gofal. Clywsom lawer iawn o dystiolaeth ynglŷn â gwlâu, angen mwy o wlâu a’r pwysau angerddol ar ofal cymdeithasol. Mwy gan aelodau eraill o’r pwyllgor, yn amlwg.

Fel pwyllgor, rydym yn cydnabod bod y gwaith o gynllunio ar gyfer y gaeaf hwn wedi galw am ymdrechion ac adnoddau sylweddol iawn. Rydym yn croesawu’r ffaith y dechreuodd y gwaith o gynllunio ar gyfer y gaeaf yn gynnar. Mae’n bwysig bod gwersi’r blynyddoedd blaenorol yn cael eu dysgu. Er gwaethaf hyn, rydym yn pryderu am allu’r system i ymdopi â phwysau ychwanegol y tymor a’r niwed y gallai un digwyddiad difrifol, fel achos o ffliw neu gau cartref gofal, ei achosi. Rydym wedi croesawu’r buddsoddiad ychwanegol o £50 miliwn gan Lywodraeth Cymru ar gyfer pwysau’r gaeaf eleni. Dywedodd yr Ysgrifennydd Cabinet ei fod yn disgwyl gweld canlyniadau penodol yn sgil y buddsoddiad ychwanegol yma: ymdopi â’r galw ychwanegol ar ofal heb ei drefnu a pharhau i ddarparu llawdriniaethau dewisol dros gyfnod y gaeaf. Rydym yn cydnabod bod y targedau hyn yn rhai uchelgeisiol ar gyfer buddsoddiad o’r fath. Argymhelliad pedwar yw hynny. Rydym yn edrych ymlaen at glywed gan yr Ysgrifennydd Cabinet ym mis Mai ynghylch y cynnydd tuag at y targedau uchelgeisiol hynny. Diolch yn fawr.

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 3:47, 1 Chwefror 2017

Nid wyf yn dymuno ailddatgan yr hyn mae Dai Lloyd, Cadeirydd y pwyllgor, wedi’i ddweud yn barod, ond rwyf yn sicr am iddo gael ei gofnodi fy mod i yn sicr yn cyd-fynd â’r sylwadau glywsom ni yn fanna ac yn cytuno efo casgliadau’r adroddiad yma. Wrth gwrs bod yna ofynion gwahanol yn codi yn ystod y gaeaf, yn enwedig, fel y clywsom ni yn ystod ein hymchwiliad ni, o ran y mathau o broblemau iechyd sy’n codi efo’r henoed ac efo plant hefyd. Ond beth wnaeth fy nharo i, rwy’n meddwl, mwy na dim byd yn ystod yr ymchwiliad ac yng nghanfyddiadau’r adroddiad ydy’r graddau mae pwysau’r gaeaf yn bwysau sydd ddim yn cael eu hachosi gan ffactorau sydd y tu hwnt i reolaeth Llywodraeth, fel y tywydd ac oerfel, ond mai pwysau sy’n cael eu hachosi gan ffactorau a ddylai fod o fewn rheolaeth y Llywodraeth sy’n achosi’r problemau rydym yn eu gweld o fewn y gwasanaeth. Rydym yn gwybod, onid ydym, pa mor bwysig ydy brechiad y ffliw, er enghraifft, ac rydym yn gwybod y dylai staff ar y rheng flaen o fewn iechyd gael y brechiad hwnnw. Nid yw’n gostus i sicrhau bod staff yn ei gael o. Ond mi dderbyniom ni dystiolaeth glir yn awgrymu nad yw staff yn ein hysbytai ni ddim yn derbyn y brechiad yna. Dyma’r math o beth ddylai fod yn gymharol sylfaenol.

Mi glywsom ni hefyd nad yw paratoadau o fewn y sector gofal cymdeithasol ar gyfer y gaeaf ddim mor fanwl ag y dylen nhw fod. Rwy’n gwybod bod y meinciau yma yn aml yn cyfeirio’n feirniadol at Lywodraeth San Steffan am fethu, yng nghyd-destun Lloegr, â sylweddoli gwerth gofal cymdeithasol o fewn y gwasanaeth iechyd a gofal cymdeithasol yn gyfan. Ond yn fan hyn, rwy’n meddwl bod gennym enghraifft o Lywodraeth Cymru hefyd yn gwneud camgymeriad tebyg o gynllunio—ie, fel sydd ei angen ar gyfer y gwasanaeth iechyd, yr NHS—ond yn methu ar yr un pryd â rhoi'r sylw ddylai gael ei roi i’r system ofal yn ehangach. Mae’r dystiolaeth y clywsom ni fel pwyllgor yn sicr yn atgyfnerthu, yn ein barn ni, y teimlad bod yna argyfwng yn wynebu gofal cymdeithasol, ac mi fyddwn ni yn rhoi ffocws i hynny yn nadl Plaid Cymru yn ddiweddarach y prynhawn yma.

Mi wna i roi sylw yn sydyn i faint o wlâu yn ein hysbytai ni sy’n cael eu defnyddio ar unrhyw adeg. Dros y ddau ddegawd diwethaf, mae yna ostyngiad wedi bod yn nifer y gwlâu sydd ar gael o fewn y gwasanaeth iechyd yng Nghymru, a hynny, rwy’n meddwl, wedi cael ei yrru gan ideoleg, yn fwy na chyllid, mewn difri. Ond mi welsom ni fel pwyllgor dystiolaeth bod y diffyg gwlâu wedi cyrraedd at bwynt rŵan sy’n achosi problem o fewn y gwasanaeth iechyd. Rŷm ni’n gwybod na ddylai ‘occupancy’ fod mwy nag 85 y cant neu mae hynny’n achosi problemau o ran hyblygrwydd o fewn y system. Mae sawl un wedi awgrymu wrthyf fi bod y rheini sy’n gwrthod gweld y cysylltiad yna efo pwysigrwydd peidio â mynd dros yr 85 y cant—bod y bobl yna hefyd yn rhai sydd wedi cefnogi symudiad ideolegol tuag at leihau nifer y gwlâu o fewn y gwasanaeth iechyd. Mae’n rhaid inni, rwy’n meddwl, gychwyn ar raglen o sicrhau bod gennym ni’r gwlâu ar gael, ac mi wnawn ni roi sylw i hynny hefyd yn ein dadl ni y prynhawn yma.

Ond, fel rwy’n dweud, rwy’n meddwl mai’r wers fwyaf y gallwn ni ei chymryd o’n hymchwiliad ni fel pwyllgor ydy bod y gwasanaeth iechyd yn wynebu pwysau drwy’r flwyddyn, a bod y pwysau a’r hyn sy’n digwydd o fewn y maes iechyd yn y gaeaf—yr anghenion ychwanegol gan blant a phobl hŷn—yn rhywbeth yr ydym ni’n gwybod sy’n mynd i ddigwydd y flwyddyn nesaf hefyd, ac mae’n mynd i ddigwydd y flwyddyn wedyn. Felly, mi ddylem ni fod yn gallu paratoi mwy, yn enwedig o ystyried y newidiadau yn ein poblogaeth ni a’r cynnydd mewn salwch cronig ac ati. Felly, rŷm ni’n gwybod beth ydy’r pwysau, rŷm ni’n gwybod hynny ymlaen llaw, ac, yn syml iawn, mi ddylem ni fod yn gwneud mwy am y peth.

Photo of Angela Burns Angela Burns Conservative 3:52, 1 Chwefror 2017

(Cyfieithwyd)

Mwynheais fod yn rhan o’r pwyllgor hwn yn fawr a hoffwn ddiolch i bawb a ddaeth o’i flaen fel tystion. Roeddent yn fanwl iawn, roeddent yn wybodus iawn ac ar y cyfan, roeddent yn frwdfrydig iawn ynglŷn â’r gwahanol feysydd yr oeddent yn eu cynrychioli. Hoffwn hefyd ddiolch i’r tîm clercio a’r staff am gael cystal trefn arnom.

Rwy’n meddwl bod yr adroddiad yn siarad drosto’i hun. Mae yna gryn dipyn o fanylder yn yr adroddiad, a phan fyddwch yn darllen Cofnod y Trafodion, ceir mwy byth o fanylion yno. Ond i mi, yn dod at hyn mewn modd newydd sbon—dyma’r tro cyntaf i mi eistedd ar y pwyllgor iechyd a gofal cymdeithasol—roedd yna ddau brif faes yn amlygu eu hunain—dau fater mawr. Yn gyntaf, er bod y pwysau ar y GIG yn parhau’n gyson 365 diwrnod y flwyddyn, nid oes amheuaeth ei fod yn newid ei ffurf yn y gaeaf. Rydym yn gwybod ei fod yn newid ei ffurf, a phob gaeaf gwyddom ei fod yn mynd i newid ei ffurf am mai math gwahanol o glaf sy’n cael eu derbyn yn bennaf, math gwahanol o glaf sydd angen y gwasanaeth ambiwlans a math gwahanol o glaf sydd angen y gwasanaethau gofal cymdeithasol.

Felly, ni ddylai fod y tu hwnt i allu pawb ohonom yma—ond yn enwedig Llywodraeth Cymru, gan mai eich cyfrifoldeb chi ydyw, Ysgrifennydd y Cabinet—i sicrhau bod y byrddau iechyd yn adlewyrchu nid yn gymaint y pwysau, ond y newid yn y pwysau, fel ein bod yn sicrhau cydweithio da ac integreiddio da, a’n bod yn gwneud yn siŵr ein bod yn cael mathau penodol o welyau, oherwydd fe wyddom, er enghraifft, ein bod yn mynd i gael llawer iawn mwy o blant ifanc ac rydym yn mynd i gael llawer iawn mwy o bobl oedrannus; ein bod yn meddwl am bethau fel cydleoli a’n bod yn meddwl sut y gallwn wneud taith pobl drwy’r adrannau damweiniau ac achosion brys a thrwy unedau penderfyniadau clinigol i’r ysbyty ac yn ôl allan o’r ysbyty yn llawer cyflymach a mwy effeithlon.

Nid oes neb yn bychanu’r ffaith fod y pwysau yno bob amser, ond rydym yn gwybod wrth i’r gaeaf ddod—a daw’n aeaf bob blwyddyn—y bydd ffurf y pwysau’n newid. Fel y dywedodd y Cadeirydd eisoes, cawsom adroddiad pwyllgor yn 2013 a gyfeiriai at yr union faterion hyn, ac nid ydym yn dysgu’r gwersi. Felly, mae fy nghwestiwn cyntaf i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, o ddifrif yn pwysleisio’r ffaith fod angen i ni fod ar flaen y gad a deall nad yw’r pwysau bob amser yr un fath, ni waeth sut y byddwn yn ei ddisgrifio.

Yr ail faes a ddaeth yn amlwg iawn i mi yn y pwyllgor hwn oedd yr holl stori sy’n ymwneud ag integreiddio a chydweithio. Yn ymateb y Llywodraeth i adroddiad y pwyllgor, rydych yn dweud, Ysgrifennydd y Cabinet, fod

‘disgwyl i fyrddau iechyd ymgysylltu’n rheolaidd â’r sector gofal cymdeithasol a’r sector annibynnol wrth ddatblygu eu Cynlluniau Tymor Canolig Integredig’.

Cerddais o’r pwyllgor hwnnw gyda theimlad sicr iawn nad oedd meddygon teulu yn teimlo bod unrhyw un wedi ymgynghori â hwy go iawn na’u bod wedi bod yn rhan o’r broses gydweithredol o gyflawni cynlluniau pwysau’r gaeaf a gofal iechyd ar gyfer y gaeaf, a cherddais o’r pwyllgor hwnnw hefyd yn teimlo nad oedd y sector gofal wedi cael rhan hynod o fawr yn y gwaith mewn gwirionedd. A dyna pam fy mod yn siomedig iawn o weld eich sylwadau ar argymhelliad 6 a’ch gwrthodiad i dderbyn yr argymhelliad hwnnw mewn gwirionedd, oherwydd credaf fod trosolwg o’r farchnad, Ysgrifennydd y Cabinet, yn hollol hanfodol, a hoffwn gael eglurhad o’r amseriadau a thrylwyredd y gwaith sy’n mynd i gael ei wneud gan Arolygiaeth Gofal a Gwaith Cymdeithasol Cymru a’r bwrdd comisiynu cenedlaethol, gan nad oes unrhyw amheuaeth fod y farchnad ym maes gofal cymdeithasol yn eithriadol o fregus ar hyn o bryd.

Mae yna nifer fawr o rwystrau i dwf pellach y farchnad gofal cymdeithasol: ceir llai a llai o welyau cartrefi gofal, mae’r stoc adeiladau’n heneiddio, a rheoliadau a chyfyngiadau ariannol yn dechrau cael effaith. Os ydym yn mynd i dderbyn eich ymateb i argymhelliad 1, sef eich bod yn credu bod angen i ni fwrw ymlaen a gwneud mwy o integreiddio, mwy o gydweithio, adeiladu’r Cynlluniau Tymor Canolig Integredig hyn sy’n edrych ar y sector cyfan—yr holl ffordd o ofal sylfaenol, pan fyddai rhywun yn cerdded allan drwy’r drws am y tro cyntaf gyda phroblem, yr holl ffordd i’r ysbyty ac yna efallai yn ôl i gartref gofal—rhaid i ni gynnwys pob un o’r elfennau hynny yn y Cynlluniau Tymor Canolig Integredig hyn. Ni chefais unrhyw deimlad—unrhyw wir deimlad—fod unrhyw un o’r byrddau iechyd a gyfwelwyd gennym neu’r tystion a welsom yn credu bod y cydweithio hwnnw rhwng yr holl sectorau wedi’i gyflawni’n llwyddiannus mewn gwirionedd. Oni bai ein bod yn gallu sicrhau bod gennym sector gofal cymdeithasol cadarn o’n blaenau, gyda’r ewyllys gorau yn y byd, gyda’r holl gynllunio gyda meddygon teulu, gydag unrhyw gynllunio mewn ysbytai, os na allwn fynd â phobl sy’n iach allan o’r ysbyty a’u rhoi mewn lleoliad gofal cymdeithasol, credaf ein bod yn mynd i wynebu’r goralw cyson am welyau yn ein hysbytai, ac mae hynny’n dod â’r holl broblemau eraill hynny yn ei sgil yr holl ffordd at ddrws blaen yr ysbyty ac yna’n ôl drwy ddrws cefn y meddygfeydd. Felly, dyna fy nau bwynt, Ysgrifennydd y Cabinet, a buaswn yn eich annog yn wir i edrych ar ffordd o fynd i’r afael â chyflwr y farchnad mewn gofal cymdeithasol, gan sicrhau cydweithio ac integreiddio, a derbyn bod y pwysau yno bob amser, ond bod pwysau’n edrych yn wahanol ar wahanol adegau o’r flwyddyn. Diolch yn fawr iawn yn wir.

Photo of Caroline Jones Caroline Jones UKIP 3:57, 1 Chwefror 2017

(Cyfieithwyd)

Hoffwn ddiolch i’r clercod, y pwyllgor iechyd a’r Gwasanaeth Ymchwil am eu cymorth yn ystod ein hymchwiliad. Hoffwn hefyd ddiolch i bawb a roddodd dystiolaeth i ni drwy gydol ein hymchwiliad. Yn ystod ein hymchwiliad, dywedodd mwyafrif y rhanddeiliaid wrthym fod pethau ychydig yn well eleni, ond eto i gyd, nid oeddent yn barod ar gyfer y gaeaf ac ar gyfer wynebu pwysau drwy gydol y flwyddyn. Dywedodd y Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant wrthym nad oedd y gwasanaethau yn hollol barod. Mae’n gwbl amlwg fod angen i ni wneud newidiadau sylweddol er mwyn ymdopi â’r pwysau ychwanegol hwn.

Fel pwyllgor, buom yn ystyried y dystiolaeth a gyflwynwyd yn ofalus ac yn croesholi tystion cyn llunio naw argymhelliad yn unig. Felly, mae’n siomedig mai tri yn unig o’n hargymhellion y gallodd Llywodraeth Cymru eu derbyn yn llawn. Rwy’n arbennig o siomedig fod Ysgrifennydd y Cabinet wedi gwrthod argymhelliad 5. Amlygodd llawer o’r tystion i’n hymchwiliad y ffaith fod y model gwasanaeth presennol ar gyfer gofal heb ei drefnu yn anghynaladwy. Er bod yr ymgyrch Dewis Doeth yn gam i’r cyfeiriad cywir, mae’n mynd i gymryd llawer mwy o amser i lwyr ailaddysgu’r cyhoedd yng Nghymru. Mae’n rhan o mor annatod o feddylfryd y cyhoedd fod angen i ni weld meddyg pan fyddwn yn sâl fel bod argyhoeddi pobl fod fferyllfa gymunedol yn opsiwn llawer gwell weithiau yn mynd i gymryd amser hir.

Pan gysylltwch y meddylfryd hwn â’r ffaith ei bod yn mynd yn anos gweld meddyg teulu oherwydd tangyllido a gorweithio, nid yw’n syndod fod pobl yn mynd i adrannau damweiniau ac achosion brys yn amhriodol. Er na ddylai hyn ddigwydd, mae’n rhaid i ni wynebu realiti. Hyd nes y byddwn yn cyflogi mwy o feddygon teulu a chael timau gofal sylfaenol sydd wedi’u hintegreiddio’n well, mae ein hysbytai’n mynd i orfod dal y slac yn dynn yn y system. Pwysau ar adrannau damweiniau ac achosion bryd a arweiniodd at greu’r unedau mân anafiadau, ac felly buasai cydleoli gwasanaethau gofal sylfaenol i’w weld yn ddilyniant naturiol. Awgrymodd Cymdeithas Feddygol Prydain a’r Coleg Brenhinol Meddygaeth Frys y dylem ystyried cydleoli gwasanaethau gofal sylfaenol a’r defnydd o feddygon drws blaen. Dylem wrando arnynt.

Dysgasom y gellid trin hyd at 30 y cant o’r bobl sy’n mynychu adrannau damweiniau ac achosion brys yn fwy priodol mewn mannau eraill yn y system iechyd. Mae arnom angen ffordd well o ymdrin â’r bobl hyn. Mae cael gwasanaeth un pwynt mynediad sy’n gallu sianelu pobl at y gwasanaeth priodol yn ateb llawer gwell na’r hyn sydd gennym ar hyn o bryd ac yn haeddu ei archwilio’n briodol.

Ysgrifennydd y Cabinet, rwy’n eich annog i ailystyried. Rydych yn dweud bod hwn yn fater i fyrddau iechyd, ond gyda’r rhan fwyaf o’n byrddau iechyd angen rhyw fath o ymyrraeth ar ran y Llywodraeth, mae angen i chi ddangos arweiniad. Nid yw’r broblem yn mynd i ddiflannu ohoni’i hun. Ni allwn eistedd yn ôl a gobeithio y gallwn ddatrys pwysau’r gaeaf gydag ymgyrch hysbysebu. Ystyriodd ein pwyllgor y dystiolaeth a roddwyd ger ein bron yn ofalus, ac rydym wedi awgrymu atebion yn seiliedig ar y dystiolaeth honno. Buaswn yn gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn talu sylw i’n hadroddiad. Diolch yn fawr.

Photo of Janet Finch-Saunders Janet Finch-Saunders Conservative 4:01, 1 Chwefror 2017

(Cyfieithwyd)

Rwyf finnau hefyd yn croesawu’r adroddiad hwn gan y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon. Wrth ystyried yr heriau sy’n wynebu ein system gofal iechyd, mae’n rhaid i ni wneud hynny mewn ffordd sy’n ymgorffori iechyd a gofal cymdeithasol yn sylfaenol, fel cylch cyflawn, fel y nodwyd yn yr adroddiad hwn. Nid oes neb yn gwadu’r pwysau mawr sy’n wynebu iechyd a gofal cymdeithasol, ac rydym yn gwbl ymwybodol, yn ystod y misoedd oerach, ei bod hi’n amlwg y ceir cynnydd sylweddol tymhorol. Amlygodd yr adroddiad nifer o bethau sy’n achosi pryder difrifol o ran y lefel o barodrwydd a gallu’r ddau sector i ymdopi: unigolion yn byw’n hirach; cymhlethdodau anadlol dros fisoedd y gaeaf; cyfraddau heintiau mewn ysbytai yn cyrraedd uchafbwynt ar wahanol adegau o’r flwyddyn; ac wrth gwrs, oedi wrth drosglwyddo gofal ac aildderbyniadau—mae’r rhain oll yn bwysau ar yr adeg hon o’r flwyddyn.

Mae aildderbyniadau i’r ysbyty yn gostus ac yn aml gellir eu hosgoi. Mae’r ffigurau diweddaraf gan Age Cymru yn dangos bod dros 15,000 o bobl dros 75 oed yng Nghymru wedi’u haildderbyn i’r ysbyty o fewn 30 diwrnod yn unig i gael eu rhyddhau. Mae mabwysiadu model gofal yn y gymuned yn ganmoladwy, ond yn fy marn i, gwelwyd tuedd i dorri nifer y gwelyau ar wardiau ein hysbytai gyda rhagdybiaeth naturiol y bydd y gwelyau hyn yn syml yn cael eu llenwi adref, gyda phecyn cyflawn o ofal ar gael i’r claf wrth iddynt gyrraedd adref.

Mae cymorth ailalluogi ledled Cymru, yn sicr yn y gogledd, yn anghyson ac yn dameidiog. Lle y mae’n gweithio’n dda, gwyddom nad yw 70 y cant o’r bobl hynny angen cymorth na’u derbyn i’r ysbyty mwyach. Rhaid i hynny fod yn uchelgais i’r Llywodraeth hon a hefyd i unrhyw un sy’n gweithio yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol.

Mae’r Gwasanaeth Gwirfoddol Brenhinol yn tynnu sylw at anghysondeb a chymhlethdod gwasanaethau ailalluogi a ddarperir gan awdurdodau lleol a byrddau iechyd. Nid oes unrhyw safon bendant o ran ailalluogi ledled Cymru. Gall gwariant y pen gan awdurdodau lleol ar wasanaethau ailalluogi fod hyd at 10 gwaith yn uwch mewn rhai ardaloedd na’r hyn ydyw mewn ardaloedd eraill. Mae gofal da i unigolyn yn y gymuned yn aml yn galw am becyn gofal cwbl integredig wedi’i deilwra i anghenion penodol a chymhleth yr unigolyn dan sylw, ac yn aml hefyd gall alw am fewnbwn gweithiwr cymdeithasol, darparwyr gofal, nyrsys ardal, therapyddion galwedigaethol, ffisiotherapyddion, darpariaeth meddygon teulu, a dietegydd weithiau hyd yn oed—yr olaf, wrth gwrs, ar gyfer mynd i’r afael ag unrhyw broblemau’n ymwneud â maeth neu hydradiad. Unwaith eto, mae’n hanfodol fod yr holl asiantaethau’n gweithio mewn modd cyson ac yn cyfathrebu’n dda er mwyn atal unrhyw heintiau posibl er enghraifft, neu er mwyn cadw’r croen yn iach, ac yn gyffredinol er mwyn cefnogi lles cyffredinol y rhai sy’n derbyn eu gofal y tu allan i’r ysbyty, ond yn eu cartref eu hunain.

Nododd tystiolaeth bellach a gymerwyd yn ystod y cam pwyllgor fod gofal cymdeithasol bellach ar ymyl y dibyn, ac mae pawb ohonom yn gwybod beth yw colli nifer o’n cartrefi nyrsio a phrinder asiantaethau darparu gofal yn ein hetholaethau. Yn wir, mae Fforwm Gofal Cymru yn datgan nad oes angen mwy nag un methiant mawr arall mewn cartref nyrsio cyn iddi fynd yn drychineb llwyr mewn unrhyw ran o Gymru. Maent yn mynd rhagddynt i ddweud nad oes unrhyw le mewn unrhyw fwrdd iechyd yng Nghymru ble y gallent gynnal 60 o unigolion yn gyflym yn sgil cau cartref. A all addasiadau polisi Cymru megis cyflwyno asesiadau aros yn y cartref, y galwodd Altaf Hussain amdanynt yma fel Ceidwadwr Cymreig, ddarparu mesur ymyrraeth gynnar allweddol, gan atal derbyniadau i ysbytai, osgoi oedi wrth drosglwyddo gofal ar ôl gadael yr ysbyty, a lleddfu’r pwysau ar ein wardiau ysbyty ar gyfnodau brig? Mae’r adroddiad yn argymell cydleoli gwasanaethau gofal sylfaenol mewn adrannau damweiniau ac achosion brys, a gofynnaf i mi fy hun pam nad yw hyn yn digwydd a pham eich bod yn gwrthod yr argymhelliad. Fel y maent yn ei ddweud, mae’n gwneud synnwyr perffaith. Roeddwn yn meddwl mai holl bwrpas cymryd tystiolaeth mewn pwyllgorau oedd rhoi gwybod yn well i Lywodraeth Cymru am y pryderon a fynegir gan ein gweithwyr proffesiynol—y rhai sy’n cyflawni gwaith iechyd a gofal cymdeithasol mewn gwirionedd—ac addysgu ar yr hyn sydd ei angen. Dyna yw’r holl reswm pam ein bod yma a pham y’i gelwir yn graffu. Buaswn yn annog Llywodraeth Cymru i dderbyn yr argymhellion a wnaed, bob un ohonynt, a’u gweithredu, a hoffwn ddiolch i’r Aelod Cynulliad, Dai Lloyd, a holl aelodau’r pwyllgor hwn am adroddiad mor ardderchog. Diolch.

Photo of Gareth Bennett Gareth Bennett UKIP 4:06, 1 Chwefror 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch i’r pwyllgor iechyd am gyflwyno’r ddadl heddiw. Mae materion iechyd yn cael eu trafod yn aml yma yn y Siambr, ac nid yw hynny ond yn adlewyrchu’r ffaith mai dyma un o’r pethau sy’n achosi fwyaf o bryder i’n hetholwyr. Fel newydd-ddyfodiad i’r lle hwn, mae gennyf ddiddordeb yn y broses lle y bydd pwyllgor, gyda 50 y cant o’i aelodau’n perthyn i’r blaid lywodraethol, yn llunio adroddiad gydag argymhellion pendant a’r Llywodraeth wedyn yn penderfynu pa rai, os o gwbl, y bydd yn dewis eu gweithredu. Yn amlwg, rhaid i’r Llywodraeth allu rheoli, ond os yw’n anwybyddu llawer o argymhellion ar ôl i bwyllgor gynnal ymchwiliad sy’n seiliedig ar dystiolaeth drylwyr, yna mae’r Llywodraeth honno’n gadael ei hun yn agored i lawer iawn o feirniadaeth os yw pethau i’w gweld yn mynd o chwith wedyn.

Ar hyn o bryd, mae llawer o amser yn cael ei wastraffu gyda chleifion yn gaeth mewn ambiwlansys wedi’u parcio y tu allan i adrannau damweiniau ac achosion brys, weithiau am oriau ar y tro, tra bydd parafeddygon yn gofalu amdanynt. Mae hyn yn wastraff go iawn ar adnoddau, yn ogystal â bod yn brofiad annymunol i gleifion. Rwy’n sylweddoli bod y Llywodraeth yn aros am adroddiad gan Swyddfa Archwilio Cymru ar wasanaethau y tu allan i oriau, ac y bydd hynny’n effeithio ar yr hyn y mae’n penderfynu ei wneud ynglŷn â chydleoli gwasanaethau meddygon teulu mewn adrannau damweiniau ac achosion brys. Y cyfan y gallaf ei ddweud yw gorau po gyntaf y bydd y Llywodraeth yn cael yr adroddiad hwn, yn ei dreulio ac yna’n rhoi camau gweithredu ystyrlon ar waith. Mae’n ymddangos i mi y gallai cydleoli yn hawdd fod yn opsiwn synhwyrol i leddfu’r straen ar adrannau damweiniau ac achosion brys. Diolch.

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 4:07, 1 Chwefror 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon, Vaughan Gething.

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwyf am ddechrau drwy ddweud fy mod yn croesawu adroddiad y pwyllgor a’r ystod o sylwadau a wnaed yn y ddadl heddiw, er na fyddaf yn cytuno â phob un ohonynt. Ond rwy’n falch iawn fod yr adroddiad yn cydnabod y gwelliannau yr ydym eisoes wedi’u gwneud wrth gynllunio ar gyfer y gaeaf, a’r heriau parhaus yr ydym yn dal i’w hwynebu.

Mae’r pwyllgor, wrth gwrs, yn gwneud nifer o argymhellion ar draws iechyd a gofal cymdeithasol sy’n adlewyrchu pwysigrwydd rheoli pwysau’r gaeaf, ond hefyd yr heriau sy’n wynebu ein gwasanaethau drwy gydol y flwyddyn. I gychwyn, rwy’n awyddus i gydnabod eto fod ein system iechyd a gofal dan bwysau gwirioneddol a sylweddol iawn. Dywedais cyn y Nadolig, pan ymddangosais gerbron y pwyllgor, ein bod wedi paratoi’n well nag o’r blaen ar gyfer y gaeaf, ond y bydd yna ddyddiau anodd wrth gwrs, ac fe fu. Mae ein hysbytai a’n gwasanaethau cymdeithasol wedi gweld ymchwydd yn y galw, yn enwedig gan gleifion sydd ag anghenion cynyddol gymhleth. Ac rwy’n dweud eto: mae dyddiau anos i ddod eto cyn y daw’r gaeaf i ben, a dylai pob un ohonom fod yn ddiolchgar iawn ein bod ni yma yn y Siambr, ac nid yn wynebu’r pwysau hwnnw ar y rheng flaen. Oherwydd mae’n glod i ymrwymiad a sgiliau ein staff, er gwaethaf y pwysau y maent yn ei wynebu, fod y mwyafrif helaeth o gleifion a dinasyddion yn parhau i dderbyn gofal o ansawdd uchel mewn ffordd broffesiynol ac amserol.

Nid yw hynny’n golygu ein bod, fel Llywodraeth, yn hunanfodlon neu’n anwybyddu maint yr heriau y mae ein system gyfan yn eu hwynebu. Rydym yn dibynnu ar ein staff, ac rydym yn falch yn y Llywodraeth hon o’u gweld fel partneriaid. Dyna pam nad wyf wedi, ac na fyddaf yn mynd ben-ben â meddygon iau. Dyna pam nad wyf wedi, ac na fyddaf yn rhoi’r bai ar feddygon teulu am bwysau’r gaeaf. A dyna pam rwy’n falch o fod yn aelod o Lywodraeth sy’n buddsoddi yn ein gweithlu gofal cymdeithasol.

Rydym yn fwriadol wedi mabwysiadu ymagwedd system gyfan tuag at gynllunio, ac nid wyf yn derbyn beirniadaeth Rhun ap Iorwerth fod y system gofal cymdeithasol rywsut yn cael ei hanghofio neu ei hanwybyddu. Rydym yn parhau i ariannu gofal cymdeithasol ar lefel lawer gwell nag yn Lloegr, ond nid yw hynny’n golygu nad oes pwysau ar ofal cymdeithasol yma yng Nghymru; nid yw hynny’n wir, yn bendant. Mae gofal cymdeithasol yn rhan bwysig o’r cynlluniau a’r ddarpariaeth yn y gaeaf, ac mae gofal cymdeithasol hefyd yn rhan bwysig o’r gwaith sy’n mynd rhagddo ar ddadansoddi’r farchnad. Rydym yn gweithio, a byddwn yn parhau i weithio, ar draws iechyd, llywodraeth leol, mewn partneriaeth â’r trydydd sector a’n gwasanaethau brys. Nawr, nid yw hynny’n golygu bod ein system yn berffaith ar hyn o bryd, ond mae cynnydd go iawn yn cael ei wneud a bydd yn parhau i gael ei gryfhau ymhellach mewn ffordd integredig, gan weithio rhwng y gwasanaethau hynny.

Nawr, rwy’n cydnabod, wrth gwrs, y gall llunio gwasanaethau sy’n gallu rhagweld ac ymateb i natur gyfnewidiol y galw gymryd amser i’w gael yn iawn. Fodd bynnag, rydym yn benderfynol o ysgogi gwelliannau pellach, ac roeddwn yn falch o weld argymhellion y pwyllgor yn adlewyrchu llawer o’r gwaith hwn. Cafodd sefydliadau eu hannog i adeiladu ar eu cynlluniau a’u profiad o flynyddoedd blaenorol i baratoi ar gyfer y gaeaf hwn a thu hwnt. Rwyf wedi fy nghalonogi bod lefelau oedi wrth drosglwyddo wedi gostwng eto ym mis Rhagfyr—mae hynny’n anarferol; nid dyna a welwn dros y ffin—mae amseroedd ymateb ambiwlans yn well na’r gaeaf diwethaf ac yn parhau felly; ac mae 111 wedi bod yn llwyddiant hyd yma yn ei ardal beilot yn Abertawe Bro Morgannwg, ac nid oedd hynny’n wir pan gafodd ei gyflwyno ar draws Lloegr. Felly, rydym yn cael amrywiaeth o bethau’n iawn, ac rydym yn cael amrywiaeth o bethau sy’n gwella o flwyddyn i flwyddyn. Yr her yw: a ydynt yn gwella’n ddigon cyflym i ddal i fyny gyda natur gyfnewidiol a chynyddol y galw? Ac mewn gwirionedd, gwelwn fwy o bobl yn eu cartrefi y gaeaf hwn; mae hynny’n rhan o’r rheswm pam ein bod yn parhau i ymdopi. Ceir llawer o dystiolaeth sy’n dangos bod ein dull o weithredu’n anelu i’r cyfeiriad cywir, ond mae’r cwestiwn bob amser yno: a yw’n ddigon ac a allwn wneud mwy?

Cafwyd cryn dipyn o ffocws, wrth gwrs, ar ysbytai, ond rwy’n falch fod y pwyllgor yn cydnabod rôl hollbwysig meddygon teulu, gofal cymdeithasol, y gronfa gofal canolraddol, gwasanaeth y tu allan i oriau a staff ambiwlans yn trin a gofalu am bobl. Mae argymhellion 1 i 5, 8 a 9 yn benodol yn canolbwyntio ar gynllunio, darparu a dysgu ar draws ein system gyfan, a dylwn ddweud, gan fod sylwadau wedi’u gwneud ar y mater, fod argymhelliad 5 wedi’i wrthod am ein bod yn y bôn yn gwneud yr hyn y gofynnwyd i ni ei wneud, ac rwy’n awyddus i beidio â dyblygu neu ailgychwyn ein hymdrechion. Ond rwy’n credu bod llawer o wersi i’w dysgu o ran sut yr awn ati i gynllunio, darparu a chydleoli ein gwasanaethau amrywiol, a bydd rhai o blaid cydleoli mewn adrannau damweiniau ac achosion brys a rhai’n dweud, ‘A dweud y gwir, ni ddylech gydleoli popeth o fewn yr ysbyty.’ Mae’n rhaid i ni feddwl sut y darparir gofal mewn lleoliadau gwahanol o gwmpas ein cymuned gyfan.

Rydym yn cydnabod, wrth gwrs, fod yr adroddiad yn sôn am hyn yn ogystal: fod yn rhaid i fyrddau iechyd reoli gofal wedi’i drefnu a heb ei drefnu dros y gaeaf. Y gaeaf hwn, mae byrddau iechyd wedi newid ffocws eu gweithgarwch, gyda mwy o weithgarwch cleifion allanol ac achosion dydd, nad yw’n dibynnu ar welyau i gleifion mewnol. Ac rydym wedi darparu’r £50 miliwn ychwanegol hwnnw i’r GIG y gaeaf hwn er mwyn helpu i reoli’r galw, ac rwy’n disgwyl gweld gwelliannau pellach ar ddiwedd y flwyddyn hon mewn amseroedd rhwng atgyfeirio a thriniaeth a diagnosteg, ac y gwelwn gynnydd pellach mewn gweithgaredd dewisol drwy’r gaeaf. Ac rwy’n disgwyl i’r sefyllfa ar ddiwedd mis Mawrth eleni wella eto o gymharu â’r llynedd.

Wrth gwrs, byddwn yn gwerthuso’r modd y mae ein system gyfan wedi ymdopi drwy’r gaeaf. Rwyf wedi dweud yn glir iawn y gallwn ddisgwyl y bydd yna wersi i’w dysgu ac angen gwella. Fodd bynnag, mae hynny’n cynnwys llwyddiant neu fethiant Dewis Doeth, ac effaith y cyhoedd a’u defnydd o’r system gyfan. Dylem addysgu a hysbysu ein cyhoedd, nid eu beio. Ond mewn gwirionedd, mae’r cyhoedd yn rhan o’r gwaith o’n helpu i wneud y defnydd gorau o’r system gyfan. Rwy’n falch o ddweud y gofynnir am farn clinigwyr a’r cyhoedd fel rhan o’r gwerthusiad o’n hymateb a’n darpariaeth yn ystod y gaeaf.

Rwy’n cydnabod yr hyn a ddywedodd Angela Burns am ei fod yn bwynt a wneuthum ar sawl achlysur yn y gorffennol. Yn rheolaidd dywedir wrthym drwy gydol y flwyddyn ym maes iechyd nad oes y fath beth â phwysau’r gaeaf mewn gwirionedd gan fod pwysau drwy gydol y flwyddyn ar draws ein system, ac mae’n wir, ceir pwysau drwy gydol y flwyddyn ar draws ein system, mewn gofal dewisol ac mewn gofal brys hefyd. Ond yna, bob gaeaf, rydym yn siarad am yr heriau penodol sy’n dwysáu yn y gaeaf, a hynny am fod gennym fath gwahanol o glaf ac angen gwahanol yn dod drwy ein drysau mewn niferoedd gwahanol yn y gaeaf. Mae’r niferoedd cyffredinol yn mynd i lawr mewn gwirionedd, ond mae natur y galw yn newid yn sylweddol. Dyna pam y bwriadwn ddarparu, a pham ein bod yn darparu capasiti gwely ychwanegol yn y gaeaf. Dyna pam rwy’n gwrando ar feddygon teulu, fel yr oedd Dai Lloyd yn cydnabod, a pham rwy’n llacio fframweithiau ansawdd a chanlyniadau drwy weddill y gaeaf hwn er mwyn rhoi mwy o amser i feddygon teulu ofalu am eu cleifion mewn gwirionedd.

Fodd bynnag, dylem gydnabod cyd-destun ein system iechyd a gofal drwy gydol y flwyddyn, a’r dewis sy’n rhaid i ni ei wneud—nid yn unig yn y gaeaf, ond wrth gynllunio a darparu ein system drwy gydol y flwyddyn. Rydym i gyd yn gwybod am y pwysau y clywir amdano’n fynych sydd ynghlwm wrth ddisgwyliadau’r cyhoedd a phoblogaeth sy’n heneiddio, effaith tlodi, ein heriau iechyd cyhoeddus hirsefydlog, ac wrth gwrs, effaith anochel caledi Llywodraeth y DU. Mae’n nodwedd reolaidd a dealladwy o wleidyddiaeth fod pobl yn galw am fwy o arian ac adnoddau lle y ceir heriau, ac mae hynny lawn mor wir ym maes iechyd a gofal cymdeithasol ag unrhyw weithgaredd arall. Ond mae galw am gynnydd yn y gwariant ar iechyd, llywodraeth leol a’r trydydd sector yn alwad am yr amhosibl, a ninnau’n wynebu realiti caledi.

Angela Burns a gododd—

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 4:15, 1 Chwefror 2017

(Cyfieithwyd)

Ni allwn ariannu’r holl feysydd hynny ar lefel uwch a ninnau i gyd yn gwybod bod ein cyllideb gyffredinol wedi cael ei lleihau. Ac fe gymeraf yr ymyriad.

Photo of Angela Burns Angela Burns Conservative

(Cyfieithwyd)

Diolch. Rwy’n credu bod yr adroddiad hwn yn eithaf clir, er hynny. Rydym yn deall y cyfyngiadau ariannol yr ydym yn byw o’u mewn, ond os caf ddod yn ôl at argymhelliad 6, un o’n pryderon gwirioneddol yw bod y cyfyngiadau ariannol hynny’n effeithio’n andwyol ar y sector cartrefi gofal, a dyna pam y credwn ei bod mor bwysig i Lywodraeth Cymru fod â dealltwriaeth glir a da iawn o ble y mae’r sector cartrefi gofal yn awr a ble y mae’n debygol o fod yn y 5, 10 neu 15 mlynedd nesaf, oherwydd heb y sector hwnnw, rydym ar goll yn llwyr yn y GIG, gan fod angen i ni allu trosglwyddo pobl yn ddidrafferth i’r sector gofal.

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour

(Cyfieithwyd)

Wel, mae’r gwaith hwnnw’n mynd rhagddo gyda’r sector gofal. Maent yn bartneriaid sy’n dod o gwmpas y bwrdd, a chlywais y sylwadau gan Fforwm Gofal Cymru, er enghraifft, ond mewn gwirionedd, pa bryd bynnag y caewyd cartrefi, ac mae wedi digwydd, mae iechyd a gofal cymdeithasol wedi llwyddo bob tro mewn gwirionedd i helpu pobl i symud i lety gwahanol. Rydym eisiau mwy o sefydlogrwydd yn y sector gofal, yn enwedig y rhan yr ydym yn talu llawer o arian amdano, i gomisiynu, gydag arian cyhoeddus, a dyna waith y mae’r Gweinidog yn ei arwain gyda swyddogion. Felly, nid yw hwn yn faes sy’n cael ei anwybyddu.

Ond er ein bod yn wynebu realiti caledi, ac mae’n rhan o’r cyd-destun—mae’r rhain yn sylwadau a wnaed yn y ddadl heddiw mewn perthynas â’r maes hwn—ni allaf ac ni fyddaf yn esgus gwrando o ddifrif ar lais y rhai sy’n mynnu’r hyn y gwyddant ei fod yn amhosibl o ran ariannu, ac ariannu pob rhan o’n system ar lefel uwch. Nid yw’n bosibl. Fodd bynnag, fe fyddaf yn gwrando o ddifrif ar bob llais yn y ddadl hon a’r rhai sydd i ddod sy’n dilyn ymagwedd ddifrifol, onest ac aeddfed y pwyllgor yn yr adroddiad hwn. Mae’n fraint cael ein gwasanaethu gan staff sy’n gweithio o dan bwysau aruthrol yn ein system iechyd a gofal. Maent yn haeddu ein cefnogaeth, ond yn fwy na hynny, maent yn haeddu ein gonestrwydd ynglŷn â’r heriau sy’n ein hwynebu, yr hyn yr ydym yn ei wneud i ymateb i’r heriau hynny a’r hyn y gallwn ac y byddwn yn ei wneud o fewn ein hadnoddau ariannol.

Fe orffennaf yma, Ddirprwy Lywydd, ond gwn nad yw llawer o’r hyn y gallwn ei wneud yn ymwneud ag arian, ond â sut y defnyddiwn fanteision ein dull system gyfan wrth i ni barhau i integreiddio gwasanaethau o gwmpas anghenion y dinesydd, ac edrychaf ymlaen at weithio gyda’r pwyllgor wrth i ni barhau i ddysgu ac i wella ar draws y system iechyd a gofal.

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 4:17, 1 Chwefror 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch. Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon i ymateb i’r ddadl.

Photo of David Lloyd David Lloyd Plaid Cymru

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd, ac a allaf i ddiolch i’r Ysgrifennydd Cabinet am ei gyfraniad a diolch hefyd i aelodau eraill y pwyllgor, ac Aelodau sydd ddim yn aelodau o’r pwyllgor, am eu cyfraniadau y prynhawn yma? Gwnaeth Rhun ap Iorwerth ddechrau drwy gyfeirio at bwysigrwydd cydnabod bod yn rhaid inni wneud rhywbeth ynglŷn â’r ffliw a hefyd y pwysau sydd ar ofal cymdeithasol a’r pwysau sydd ar ein gwlâu ni, a’r angen i fynd i’r afael â’r sefyllfa yna.

Wedyn Angela Burns, hefyd, yn trin a thrafod yn ei ffordd aeddfed, ddihafal ei hun, ac yn gwneud pwyntiau gwerthfawr ynglŷn â’r ffaith sy’n cael ei gydnabod gan bawb: bod cleifion gwahanol yn ymddangos ym mhrysurdeb y gaeaf ac y dylem ni fod yn gallu cynllunio gogyfer hynny achos mae’r un math o beth yn digwydd gaeaf ar ôl gaeaf. Rydym ni’n disgwyl gaeaf arall ar ddiwedd y flwyddyn hon hefyd. Roedd hi hefyd yn gwneud y pwynt ynglŷn â gofal integredig.

Rydw i’n ddiolchgar iawn am gyfraniadau Caroline Jones, Janet Finch-Saunders a Gareth Bennett i’r ddadl, achos mi oedd hwn yn adroddiad pwysig iawn ar barodrwydd y gwasanaeth iechyd i ymdopi efo’r gaeaf. Roedd o’n ganlyniad, wrth gwrs—roedd yna adroddiad wedi bod yn flaenorol yn 2013-14, ac felly adeiladu ar yr argymhellion hynny oedd y bwriad a gweld pa fath o dwf a oedd wedi bod yn y gwaith sydd yn mynd rhagddo.

Wrth gwrs, prif gasgliad y pwyllgor ydy y dylai’r holl system yr ydym ni i gyd wedi bod yn sôn amdani hi—nid jest y gwasanaeth iechyd, ond hefyd y gwasanaeth gofal cymdeithasol—fod yn fwy gwydn gydol y flwyddyn, ac felly mewn sefyllfa lawer gwell wedyn pan fo pwysau ychwanegol yn dod ar yr adegau prysur iawn yna yng nghanol y gaeaf, a bod y system i gyd yn gallu delio â hynny yn nhermau’r capasiti pan fo yna nifer uchel iawn o gleifion yn gallu ymddangos ar rai dyddiau penodol, fel yr ydym ni wedi clywed amdanyn nhw yn ddiweddar. Wrth gwrs, rydym ni’n gwybod bydd y trefniadau sydd mewn lle y gaeaf yma yn cael eu gwerthuso yn fuan ac rydym ni’n edrych ymlaen yn awyddus at ganfyddiadau’r gwerthusiad yna.

Ac i gloi, wrth gwrs, ac i ategu hefyd ddiolchiadau y sawl sydd wedi cyfrannu y prynhawn yma yn nhermau sylweddoli cyfraniad arwrol y staff sydd yn y gwasanaeth iechyd. Yn naturiol, rwy’n eu cyfarfod nhw yn aml iawn yn y gweithle, ac roeddwn i’n teimlo’r emosiwn a’r angerdd yna yn y gwahanol gyfraniadau i’r adolygiad yma yn ein pwyllgor. Mae yna gariad angerddol tuag at ein gwasanaeth iechyd ni—ie, o ochr y cleifion, ond hefyd, yn enwedig, o ochr ein staff ni. Fedrwch chi ddim rhoi pris ar yr angerdd yna, a’r ymroddiad yna i system sy’n wirioneddol bwysig i ni allu ei chadw a’i datblygu i fod hyd yn oed yn fwy arloesol nag y mae ar hyn o bryd.

Byddwn ni’n edrych ar ffyrdd newydd o weithio. Mae’n rhaid i ni ddod dros y gwahaniaeth yma rhwng gofal cynradd allan yn fanna, o’i gymharu efo gofal yn yr ysbyty. Mae’n rhaid dod â’r ddau sector hynny at ei gilydd. Rydym yn licio gweld y dyhead yna, bod meddygon a nyrsys yn gallu gweithio yn yr ysbyty a hefyd yn ein cymunedau ni—rhyw ffordd ddeuol ymlaen fel hynny. Byddem yn disgwyl gweld datblygiadau cyffrous fel hynny i’r dyfodol. Nid yn unig fel y bydd meddygon teulu yn gweithio yn yr ysbytai, ond hefyd bydd arbenigwyr ein hysbytai ni yn gynyddol yn gweithio yn ein cymunedau ni. Rhaid mynd i’r afael efo gwneud yn siŵr bod pob arbenigwr hefyd yn gallu edrych yn gyffredinol ar y claf—nid ar jest un system sydd yn mynd ar chwâl. Mae gennym ddigon o arbenigwyr rŵan sydd jest yn edrych ar ôl y thyroid, neu ddim ond yn edrych ar ôl diabetes neu’r galon. Wel, yn gynyddol, rŵan, mae’n rhaid i ni gael arbenigwyr sy’n gallu edrych ar ôl y claf yn gyfan gwbl, gan taw twf yn nifer yr henoed sydd yna. Y ffordd i ymdopi efo hynny ydyw cael arbenigwyr sy’n gallu edrych ar ôl y claf yn gyfan gwbl, fel yr oeddem ni’n arfer ei chael. Rŵan, dim ond meddygon teulu, yn sylfaenol, oni bai am ambell i arbenigwr sydd yn gofalu am yr henoed, sydd â’r doniau angenrheidiol i wneud hynny. Mae eisiau ailedrych ar y system fel hynny hefyd.

Felly, a gaf i ddiolch o waelod calon am gyfraniad staff y gwasanaeth iechyd—ein meddygon a’n nyrsys ni, ffisiotherapyddion, OTs a phawb arall? Ac hefyd, wrth gloi, diolch i’r clerciaid ac i’r holl swyddogion sy’n cefnogi fy ngwaith i fel Cadeirydd y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon am bob cefnogaeth a hefyd am eu gwaith dygn a chaled yn dod â’r adolygiad yma, yn dod â’r cyfraniad sylweddol yma yr ydych chi’n ei weld o’ch blaen chi yn yr adroddiad yma, i olau dydd. Mae’n golygu lot o waith caled y tu ôl i’r llenni er mwyn dod â’r fath beth i fodolaeth yn y lle cyntaf. Diolch yn fawr iawn i bawb am eu trafodaeth y prynhawn yma ac am eu sylw. Diolch yn fawr.

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 4:23, 1 Chwefror 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch. Y cynnig yw nodi adroddiad y pwyllgor. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbyniwyd y cynnig hwnnw yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.