– Senedd Cymru am 3:04 pm ar 8 Chwefror 2017.
Yr eitem nesaf ar ein hagenda ni yw’r ddadl ar adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar ei ymchwiliad i waith ieuenctid ac rydw i’n galw ar Gadeirydd y pwyllgor hwnnw i wneud y cynnig—Lynne Neagle.
Diolch i chi, Lywydd. Rwy’n falch iawn o agor y ddadl hon ar adroddiad cyntaf ymchwiliad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg i waith ieuenctid yng Nghymru. Hoffwn gofnodi fy niolch i’r 1,500 o bobl ifanc o bob rhan o Gymru a roddodd eu barn i’r pwyllgor. Roedd eu tystiolaeth yn glir iawn fod gwasanaethau ieuenctid yn bwysig iawn i lawer o bobl ifanc, a gall wneud gwahaniaeth sylweddol i’w bywydau.
Roeddwn yn falch iawn hefyd o weld yr ymateb cadarnhaol i’r ymchwiliad hwn gan randdeiliaid ledled Cymru. Roeddem yn ddiolchgar iawn am eu gonestrwydd yn ein helpu, fel pwyllgor, i ddeall beth yw’r heriau, ac am eu brwdfrydedd wrth ymwneud â gwaith y pwyllgor.
Hoffwn ddiolch yn arbennig i Gyngor Cymreig y Gwasanaethau Ieuenctid Gwirfoddol am eu cefnogaeth yn dwyn cynifer o’r bobl hynny at ei gilydd yn ein digwyddiad bwrdd crwn ardderchog gyda rhanddeiliaid. Gwnaeth ymrwymiad a brwdfrydedd y rheini a fynychodd argraff fawr arnaf, ac rwy’n siŵr fod yr un peth yn wir am aelodau eraill y pwyllgor.
Mae gwaith ieuenctid yn newid bywydau go iawn, nid yn unig i’r plant a’r bobl ifanc, ond i’r staff a’r gwirfoddolwyr dirifedi sy’n gwneud i bethau ddigwydd bob dydd ledled Cymru. Bydd yr Aelodau’n gyfarwydd â gwasanaethau yn eu hetholaethau eu hunain ac yn gwybod sut y gallant ddylanwadu ar ddinasyddion ifanc Cymru a rhoi sgiliau am oes iddynt.
Trwy gydol ein hymchwiliad, cawsom dystiolaeth gan bobl ifanc sydd wedi elwa o wasanaethau ieuenctid, a hefyd y rhai sydd wedi colli’r gwasanaethau hynny. Dywedodd un person ifanc a oedd wedi bod yn defnyddio gwasanaethau yn flaenorol:
Heb weithwyr ieuenctid ni fuaswn y person wyf fi heddiw... mae gan berson ifanc hawl i ofod diogel a rhywle i gael hwyl, chwarae a chymryd rhan.
Dywedodd un arall wrthym eu bod yn teimlo eu bod—gwasanaethau ieuenctid— yn dda iawn ar gyfer pobl sydd â llai o ffrindiau gan ei fod yn rhoi cyfle iddynt wneud ffrindiau.
A dywedodd eu bod wedi:
Rhoi cymaint o hyder, profiadau a sgiliau bywyd i mi na fuaswn wedi gallu eu cael yn unman arall.
Dim ond rhai o’r profiadau cadarnhaol a gafodd eu rhannu gyda ni yw’r rhain. Pan fydd gwasanaethau ieuenctid yn eu lle, gallant newid bywydau.
Hoffwn ddiolch i Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes am ystyried ein canfyddiadau. Roedd hi’n dda iawn gweld y Gweinidog yn derbyn yn fras pob un o’r 10 o argymhellion a wnaed gan y pwyllgor. Roedd ein canfyddiadau’n glir iawn: pan fydd gwaith ieuenctid yn diflannu o fywyd person ifanc, mae’r effaith yn sylweddol. Er nad yw toriadau ariannol wedi’u cyfyngu i wasanaethau ieuenctid, mewn hinsawdd ariannol anodd i awdurdodau lleol, gwasanaethau ieuenctid yw’r cyntaf i ddod dan bwysau yn aml. Mae cyfanswm y gwariant ar wasanaethau ieuenctid awdurdodau lleol, gan gynnwys arian drwy’r grant cynnal refeniw, wedi gostwng bron i 25 y cant dros y pedair blynedd diwethaf. Awgrymodd tystiolaeth gan y sector gwirfoddol eu bod hwy hefyd wedi wynebu gostyngiadau difrifol yn y cyllid, a bod hyn wedi cael effaith sylweddol, gyda rhagor o gystadleuaeth am adnoddau prin.
Cydnabu’r pwyllgor y penderfyniadau anodd y mae awdurdodau lleol yn eu hwynebu. Fodd bynnag, teimlwn fod datblygu gwasanaethau ieuenctid yn fuddsoddiad hanfodol yn nyfodol pobl ifanc y genedl. Mae’r gwasanaethau hyn yn aml yn gatalydd i helpu pobl ifanc i ddatblygu sgiliau a hyder a gwneud dewisiadau gwell yn eu bywydau. Er na fydd eu heffaith bob amser yn amlwg yn y tymor byr o bosibl, dywedodd pobl ifanc wrthym am yr effaith fwy hirdymor y gall gwasanaethau ei chael i’w helpu i gyflawni eu potensial.
Yn ystod yr ymchwiliad, nododd y pwyllgor nifer o faterion allweddol yr oedd angen i Lywodraeth Cymru weithredu arnynt ar frys. Roeddent yn cynnwys diffyg cyfeiriad strategol ac arweinyddiaeth gan Lywodraeth Cymru, methiant i gynnwys y sector a phobl ifanc yn ddigonol wrth ddatblygu polisïau, a’r angen am fwy o gydweithredu rhwng y sector statudol a’r sector gwirfoddol i wneud y gorau o adnoddau prin. Ddirprwy Lywydd, un testun pryder mawr oedd y gwaith cydbwyso a wynebai awdurdodau lleol wrth ariannu gwasanaethau mynediad agored ac ymyriadau wedi’u targedu ar gyfer grwpiau penodol sydd angen cymorth ychwanegol. Dywedwyd wrthym fod dargyfeirio cyllid i dargedu pobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant wedi achosi risg ddifrifol i wasanaethau mynediad agored. Clywsom hefyd fod y newid hwn yn tanseilio’n sylfaenol yr egwyddor fod yn rhaid i ymgysylltiad pobl ifanc â gwasanaethau ieuenctid fod yn seiliedig ar eu dewis eu hunain yn hytrach na’i fod yn ofyniad a roddir arnynt.
Mynegwyd pryder gan gyfranwyr i’n hymchwiliad hefyd fod effaith y gostyngiad yn y cyllid yn cael ei deimlo’n anghymesur gan grwpiau penodol o bobl ifanc. Un enghraifft a nodwyd gan lawer o gyfranwyr oedd yr effaith ar y ddarpariaeth iaith Gymraeg. Teimlwn yn gryf fod yn rhaid i’r Gweinidog fynd i’r afael â’r angen i weithio’n fwy strategol ac ar y cyd rhwng y sectorau statudol a gwirfoddol. Teimlwn fod hwn yn rhwystr sylweddol i ddarparu cynnig gwaith ieuenctid cyffredinol. Mae hefyd yn atal y defnydd gorau o adnoddau cynyddol brin.
Roeddwn yn falch o weld bod y Gweinidog eisoes wedi ymrwymo i adnewyddu’r canllawiau statudol sydd ar waith ac wrth wneud hynny, i gynnal adolygiad o’r strategaeth bresennol. Mae’n dda hefyd fod Llywodraeth Cymru yn mynd i ddatblygu a chyhoeddi cynllun gweithredu manwl erbyn mis Mawrth 2017. Roedd y pwyllgor yn glir fod angen cynllun gweithredu er mwyn gwireddu’r uchelgeisiau polisi lefel uchel. Ddirprwy Lywydd, mae diweddariad o’r strategaeth gwaith ieuenctid yn gam i’r cyfeiriad cywir, ac rwy’n gobeithio y bydd yn creu’r fframwaith mawr ei angen i awdurdodau lleol a’r trydydd sector allu gweithio gyda’i gilydd yn effeithiol. Bydd hwn yn gam mawr tuag at greu’r gwasanaeth y mae gan ein pobl ifanc hawl iddo.
Fel rhan o ddatblygu’r diben cyffredin hwnnw ar gyfer darparu gwasanaethau ieuenctid, argymhellodd y pwyllgor y dylai’r Gweinidog ddatblygu model cenedlaethol ar gyfer gwaith ieuenctid. Clywsom dystiolaeth rymus yn cyflwyno’r achos dros fodel cenedlaethol i ysgogi polisi a gweithrediad gwaith ieuenctid. Mae hyn yn rhywbeth y credwn y buasai’n creu mwy o gydweithio, yn lleihau dyblygu ac yn galluogi cyfleoedd gwell ar gyfer datblygu’r gweithlu. Mae’r Gweinidog wedi ymateb yn gadarnhaol i’r argymhelliad allweddol hwn, ac edrychwn ymlaen at glywed mwy o fanylion wrth i gynlluniau ddatblygu yn rhan o’r broses o ailwampio’r canllawiau cenedlaethol.
Roedd yr Aelodau’n cydnabod pwysigrwydd lleoliaeth wrth lunio gwasanaethau ar sail anghenion cymunedau, ac rydym yn hyderus y buasai hyn yn gyraeddadwy wrth ymdrechu i sicrhau mwy o gysondeb. O ran ysgogi mwy o gydweithio, roedd y pwyllgor yn awyddus i weld ymarfer mapio effeithiol ar waith i ddeall lle y ceir bylchau yn y ddarpariaeth. Rydym yn gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried ymhellach y defnydd o asesiadau digonolrwydd lleol i ddigwydd ar lefel awdurdod lleol ac i lywio’r dull gweithredu cenedlaethol. Mae gwneud yn siŵr fod holl bobl ifanc Cymru yn gallu cael mynediad at wasanaethau ieuenctid gydag adnoddau da yn hanfodol er mwyn eu cynorthwyo i gyrraedd eu potensial llawn.
Rwyf am gloi gyda sylw trawiadol gan berson ifanc, a ddywedodd wrthym:
Dylai fod mwy ohonynt ar draws Cymru. Mae angen mwy o arian i dyfu mwy o wasanaethau—mae gormod yn cael eu torri gan gynghorau. Nid yw pawb o fy ffrindiau yn gallu eu mynychu am eu bod yn byw mewn llefydd anghysbell. Mae gweithwyr ieuenctid yn anhygoel ac maent yn ein helpu’n fawr—maent yn achub bywydau.
Rwy’n credu y byddwch yn cytuno bod hyn yn gwneud yr angen am newid radical yn fwy real. Wrth gloi fy natganiad heddiw, hoffwn ddiolch unwaith eto i’r nifer fawr o bobl ifanc a roddodd amser i ymateb i’n harolwg. Gwnaeth cyfraniad enfawr y bobl sy’n gweithio yn y gwasanaethau ieuenctid ledled Cymru gymaint o argraff ar yr aelodau. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at gyfraniadau’r Aelodau y prynhawn yma ac at ailedrych ar y mater hollbwysig hwn yn rheolaidd gyda’r pwyllgor yn ystod y Cynulliad hwn. Diolch.
Rwy’n falch o gymryd rhan yn y ddadl hon, ac rwyf am ganmol y Cadeirydd a chlercod y pwyllgor am yr holl waith a wnaethant yn helpu i gynhyrchu’r hyn y credaf ei fod yn adroddiad cadarn iawn, gyda rhestr glir iawn o argymhellion ar gyfer y Llywodraeth. Roeddwn yn falch iawn o weld ymateb y Gweinidog i’r adroddiad. Credaf ei bod yn deg dweud i ni gael peth gwrthdaro gyda’r Gweinidog yn ystod yr ymchwiliad hwn, a syndod i ni braidd oedd rhai o’r camau a gymerwyd tra oeddem yn dal i dderbyn tystiolaeth fel rhan o’r ymchwiliad. Er hynny, cafwyd canlyniad cadarnhaol o’r ymchwiliad, ac rwy’n falch iawn ein bod wedi llwyddo i sefydlu hynny.
Fel y Cadeirydd, roeddwn innau hefyd yn llawn edmygedd at yr ymgysylltiad a gawsom â’r sector gwirfoddol, yn arbennig, a’r modd y gwnaethant ddarparu mynediad at safbwyntiau uniongyrchol pobl ifanc. Rwy’n gobeithio’n fawr y bydd sefydlu senedd ieuenctid yng Nghymru yn helpu i gyfleu barn pobl ifanc, nid yn unig i’n pwyllgor, ond i bwyllgorau eraill yn y dyfodol. Rwy’n meddwl y dylem gofnodi ein diolch i’r ymgyrch dros y senedd ieuenctid, sydd, wrth gwrs, wedi bod yma yn y Cynulliad heddiw eto.
Fe wyddom fod gwasanaethau ieuenctid statudol wedi bod dan bwysau, dan rywfaint o bwysau ariannol, ond yr hyn sydd wedi creu argraff arnaf, rwy’n meddwl, yn ystod yr ymchwiliad, yw gweld y gwahanol ffyrdd y mae awdurdodau lleol wedi bod yn helpu i gyflawni eu rhwymedigaethau statudol. Mae’n eithaf clir fod rhai awdurdodau lleol wedi canolbwyntio i raddau helaeth ar wasanaethau ieuenctid wedi’u darparu’n uniongyrchol gan awdurdodau lleol, ac eraill wedi defnyddio eu hadnoddau cyfyngedig a’u hadnoddau sy’n crebachu, i fuddsoddi yng nghapasiti’r sector gwirfoddol i’w cynorthwyo i ddarparu gwaith ieuenctid. Yn amlwg, mae rhai awdurdodau lleol wedi gwneud gwaith da yn helpu i dyfu capasiti’r sector gwirfoddol, ond ymddengys bod eraill fwy neu lai wedi anwybyddu’r sector gwirfoddol i raddau helaeth, a chredaf fod hynny wedi bod yn eithaf siomedig. Rwy’n credu bod ceisio mapio’r gwasanaethau sydd ar gael yn fater hollbwysig a nodwyd gennym. Roedd yn amlwg iawn o’r holl dystiolaeth a gawsom nad oedd yna ddealltwriaeth fanwl o’r gwasanaethau a oedd ar gael ledled y wlad, yn enwedig gan y mudiadau gwirfoddol niferus megis y Sgowtiaid, grwpiau ffydd a hyd yn oed sefydliadau chwaraeon, a all fod yn cyflawni agweddau ar waith ieuenctid statudol nad ydym bob amser yn gallu eu gweld. Credaf mai’r argymhelliad allweddol yn yr adroddiad yw’r un sy’n ceisio sicrhau bod awdurdodau lleol yn deall yn glir iawn ar lawr gwlad yn eu hardaloedd lleol pa wasanaethau ieuenctid sydd ar gael i bobl ifanc gymryd rhan ynddynt.
Rwy’n meddwl mai’r pryder mawr arall a oedd gennyf wrth dderbyn y dystiolaeth oedd ei bod yn glir iawn, oherwydd y cyllidebau llai, fod mwy o ffocws ar grwpiau bach o bobl ifanc sydd â phroblemau penodol, a bod hynny’n achosi i’r bobl ifanc eraill ddioddef, gan nad oedd cynnig cyffredinol ar gael iddynt yn eu hardaloedd lleol. Rwy’n falch iawn fod y Gweinidog wedi rhoi ymrwymiad clir iawn i fod eisiau sicrhau bod cynnig cyffredinol ar gael a bod pob person ifanc yn gallu gwneud defnydd o wasanaethau ieuenctid y gallent elwa ohonynt.
Gwn ein bod wedi cael dadl yn y pwyllgor ar hyn, ond nid wyf yn credu bod lefel y gwariant ar wasanaethau ieuenctid o reidrwydd yn adlewyrchu ansawdd y gwasanaeth ieuenctid ac argaeledd gwasanaethau ieuenctid ym mhob awdurdod lleol. Felly, er bod yna ddadleuon ynglŷn ag a ddylid clustnodi’r grant cynnal refeniw mewn perthynas â gwasanaethau ieuenctid i gynghorau lleol, nid wyf yn siŵr—credaf fod honno’n dipyn o sgwarnog, i fod yn onest, oherwydd yn y ddau awdurdod lleol y mae fy etholaeth yn eu cynnwys, gwn fod gennym ddarpariaeth ragorol, ond lefelau eithaf isel o wario o gymharu â’r swm a ddyrannwyd yn y grant cynnal refeniw. Mae hynny oherwydd y ffordd y gweithiodd y ddau awdurdod lleol mewn partneriaeth â’r sector gwirfoddol a chyda’r trydydd sector i ddarparu gwasanaethau ieuenctid o safon uchel.
Felly, yn gryno, Ddirprwy Lywydd, rwy’n hapus iawn gyda chanlyniad yr adroddiad. Rwy’n credu ei fod yn rhoi’r Llywodraeth ar y dudalen gywir o ran ei hagwedd at wasanaethau ieuenctid, a gobeithio y byddwn yn gweld cynnig cyffredinol ar draws Cymru ac y bydd gennym well dealltwriaeth yn y blynyddoedd i ddod o ba wasanaethau sydd ar gael gan y partneriaid eraill sy’n eu darparu ar draws y wlad.
Rydw i yn meddwl ei bod hi’n hen bryd i ni fel Cynulliad fod yn trafod y sector yma a’r gwasanaeth ieuenctid oherwydd mae’r sector wedi dweud wrthym ni eu bod nhw’n teimlo yn ynysig ac wedi’u tanbrisio yn y blynyddoedd diwethaf yma. Pan rŷch chi’n gofyn i bobl, wrth gwrs, mae pawb yn cytuno bod gwaith ieuenctid yn beth da, ond efallai nad ydyn nhw’n sylweddoli pwysigrwydd gwirioneddol y sector a’r teimlad nad yw hynny yn cael ei adlewyrchu o reidrwydd yn y gwaith y mae’r Llywodraeth ac awdurdodau lleol ac eraill yn ei wneud.
Nawr, rŷm ni’n gwybod bod gwaith ieuenctid, wrth gwrs, yn ymbweru pobl ifanc, yn rhoi profiadau cyfranogol iddyn nhw, a mynegiadol hefyd—‘expressive’—a phrofiadau addysg. Ar ei orau, mae gwaith ieuenctid yn creu gwell dinasyddion mwy hyderus, wedi’u harfogi â sgiliau bywyd, ac unigolion mwy cydnerth—llawer o’r hyn sy’n cael ei drafod yng nghyd-destun Donaldson a diwygio’r cwricwlwm o fewn addysg ffurfiol. Mae gwaith ieuenctid yn gwneud llawer o hyn. Yn sicr mae’n ychwanegu gwerth i addysg ffurfiol, a hefyd yn ymgysylltu â’r rhai sy’n troi cefn ar addysg ffurfiol, sydd yn wasanaeth pwysig iawn yn ei hun.
Mae’n enghraifft ardderchog o wariant ataliol; hynny yw, buddsoddi yn gynnar i osgoi costau yn nes ymlaen o safbwynt cymdeithasol, o safbwynt iechyd, o safbwynt y gwasanaeth cyfiawnder, ac yn y blaen. Fel rŷm ni wedi clywed yng ngeiriau’r Cadeirydd, un o’r canfyddiadau mwyaf arwyddocaol hyd a gwelaf i yn yr adroddiad gan y pwyllgor yw ein bod ni wedi codi’r llen ar y dirywiad sylweddol sydd yna o ran ariannu, o ran staffio ac o ran darpariaeth yng Nghymru dros y blynyddoedd diwethaf. Mae’r gwariant sydd wedi’i gyllidebu trwy’r grant cynnal refeniw, yr RSG, i awdurdodau lleol ar gyfer gwasanaethau ieuenctid wedi lleihau bron 25 y cant dros y pedair blynedd diwethaf—nid yr unig ffynhonnell i leihau, wrth gwrs, a rŷm ni’n cydnabod hynny, ond yn fy marn i, un o’r mwyaf arwyddocaol. Nid yw’n unigryw i waith ieuenctid, ond mae’r effaith yn sgil hynny ar bobl ifanc, yn anochel, yn sylweddol iawn.
Mae cwymp wedi bod o 20 y cant mewn capasiti staffio mewn dim ond un flwyddyn, a chwymp mewn aelodau cofrestredig darpariaeth gwaith ieuenctid awdurdodau lleol—o 20 y cant o bobl ifanc yn 2013 lawr i 17 y cant ymhen dwy flynedd o hynny. Mae CWYVS, wrth gwrs, Cyngor Cymreig y Gwasanaethau Ieuenctid Gwirfoddol—ac mi ddylwn i ddatgan diddordeb fel un o lywyddion anrhydeddus y corff hwnnw—yn dweud nad yw tua 30 y cant o’i aelodau ddim yn rhagweld parhau y tu hwnt i’r flwyddyn ariannol nesaf yn yr hinsawdd sydd ohoni.
Felly, gydag ystadegau fel yna, mae’n rhaid inni sylweddoli bod y gwasanaeth ieuenctid ar ymyl dibyn, mewn gwirionedd, ac mae angen gweithredu ar fyrder. Felly, mae’r adroddiad yma yn gwbl amserol. Mae gennym ni Lywodraeth gymharol newydd erbyn hyn, yn sicr Gweinidog newydd, ac mae’r pwyllgor bellach yn cynnig arweiniad ac argymhellion o ran rhai o’r diwygiadau rydym ni’n teimlo sydd eu hangen wrth ddatblygu’r sector yma. Mae angen, yn sicr, ailddatgan pwysigrwydd gwasanaethau ieuenctid, rhoi cydnabyddiaeth ddyledus i’w cyfraniad pwysig a chanolog i fywyd yng Nghymru ac adlewyrchu hynny ym mlaenoriaethau’r Llywodraeth, awdurdodau lleol a chymdeithas yn ehangach.
Mae yna ymrwymiad, wrth gwrs, gan y Gweinidog i ddarpariaeth mynediad agored dwyieithog sydd ar gael yn gyffredinol, hynny yw, ‘universal open access’. Mae’n ddatganiad o fwriad calonogol. Mae’n fan cychwyn addawol iawn ond yn eithriadol o uchelgeisiol, ac mi fydd cyflawni hynny yn heriol iawn, rwy’n siŵr. Ond, fel y mae ar hyn o bryd, ac fel rydym wedi clywed fel pwyllgor, mae yna loteri cod post o safbwynt darpariaeth. Mae’r mynediad sydd gennych chi i wasanaethau yn rhy aml o lawer yn dibynnu ar lle rydych chi yn byw. Felly, i wyrdroi hynny, mae angen, yn sicr, gweithredu ar rai o’r mesurau mae’r pwyllgor yn eu hargymell ac roedd y cadeirydd yn eu hamlinellu.
Yn sicr, mae angen dod â’r sector sydd wedi’i gynnal—y ‘maintained sector’—a’r sector wirfoddol yn nes at ei gilydd, a mwy o gydweithio, nid dim ond ar lawr gwlad ond ar lefel strategol yn rhanbarthol ac yn genedlaethol. Mae angen, fel rydym ni wedi clywed, adolygu’r strategaeth gwaith ieuenctid cenedlaethol, adnewyddu’r cynlluniau statudol a chreu cynllun gweithredu manwl. Mae angen gwell ymgysylltiad hefyd rhwng y Llywodraeth a’r sector, yn enwedig trwy’r grŵp cyfeirio gwaith ieuenctid, ac wrth gwrs y sôn yma sydd nawr am gael fframwaith atebolrwydd ar gyfer defnydd awdurdodau lleol o arian ar gyfer gwaith ieuenctid drwy’r grant cynnal refeniw. Ac wrth gwrs, drwy hyn oll i gyd, mae'n rhaid inni wneud yn siŵr hefyd bod llais pobl ifanc yn ganolog i’r drafodaeth yma ar bob agwedd o ddarpariaeth y gwasanaeth ieuenctid.
Mae llawer mwy yn yr adroddiad, wrth gwrs, a bydd cyfle yn y misoedd i ddod i gychwyn taclo rhai o’r heriau pwysicaf yma a chreu sylfaen i adeiladu gwasanaeth ieuenctid cenedlaethol o’r radd flaenaf a fydd yn hygyrch i bawb, ym mhob rhan o’r wlad, ym mha bynnag iaith. Mae pobl ifanc Cymru, a chymdeithas ehangach a dweud y gwir, yn mynnu hynny ac yn haeddu dim llai.
Diolch yn fawr iawn. Julie Morgan.
Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Diolch i chi am alw arnaf i siarad yn y ddadl bwysig hon am yr adroddiad gan y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar waith ieuenctid.
Roedd yn destun pryder mawr i mi glywed gan bobl yn y maes gwaith ieuenctid ynglŷn â sut y mae darpariaethau ar gyfer pobl ifanc wedi lleihau i’r fath raddau. Yn bersonol rwyf o’r farn, ac rwy’n meddwl mai dyma oedd barn y pwyllgor cyfan, fod gwaith ieuenctid yn gwbl hanfodol gan ei fod yn cyrraedd pobl y tu allan i leoliad ffurfiol yr ysgol. Rwy’n meddwl ein bod i gyd yn gwybod bod blynyddoedd yr arddegau yn arbennig yn adegau o straen ac yn anodd iawn i bobl ifanc.
Cefais fy atgoffa o hynny wrth i ni nodi ei bod yn Wythnos Iechyd Meddwl Plant yr wythnos hon. Cafwyd ffigurau gan yr NSPCC sy’n dangos cynnydd problemau iechyd meddwl ymysg pobl ifanc, a welwyd yn y nifer o alwadau i Childline. Mae’n ymddangos mai plant a phobl ifanc rhwng 12 a 15 sy’n gwneud traean o’r galwadau a wneir, ac mae merched bron saith gwaith yn fwy tebygol o ofyn am gymorth na bechgyn. Rwy’n credu bod pawb ohonom wedi clywed am y pryderon mawr sydd gan lawer o ferched ynglŷn â delwedd y corff yn arbennig. Dyna rai o’r pethau sy’n dangos y materion anodd y mae’n rhaid i blant a phobl ifanc ymdopi â hwy ar hyn o bryd.
Felly, mae’n hanfodol bwysig eu bod yn cael cyfle i ddod i gysylltiad â gweithwyr proffesiynol medrus, mewn gwirionedd, oherwydd dyna yw’r gweithwyr ieuenctid hyn, mewn lleoliad anffurfiol, lle y gallant dynnu sylw at y problemau hyn mewn ffordd nad yw’n fygythiol. Felly, rwy’n credu ei bod yn gwbl hanfodol ein bod yn rhoi mwy o hwb i’r gwasanaethau ieuenctid.
Yn fy ardal fy hun, gallaf dystio i’r lleihad yn y gwasanaethau. Ar un adeg, roedd clwb ieuenctid yn gweithredu ar raddfa lawn bum diwrnod yr wythnos yn yr adeiladau ieuenctid ar dir Ysgol Uwchradd yr Eglwys Newydd. Mae hwn bellach wedi’i gyfyngu i un noson yr wythnos, ac yn cael ei weithredu gan yr YMCA yn eglwys Ararat. Rwy’n ddiolchgar iawn i’r sector gwirfoddol ac i eglwys Ararat am ddarparu’r gwasanaeth hwn, ond un noson yr wythnos yn unig ydyw ac mae dan ei sang. Nid oes amheuaeth—rhaid i chi dderbyn y ffaith fod y gwasanaeth ar gyfer ein pobl ifanc wedi lleihau mewn gwirionedd. Pan ddaeth cynigion i newid y gwasanaeth, cefais nifer o gyfarfodydd gyda’r bobl ifanc sy’n cymryd rhan ac roeddent yn dweud eu bod eisiau rhywle i fynd, dyna i gyd, rhywle lle nad oedd pwysau arnynt a rhywle lle y gallent gael hwyl. Fel y mae nifer o’r Aelodau wedi sôn, rwy’n bryderus iawn am y lleihad yn y gwasanaethau mynediad agored, gan fy mod yn credu bod gan bob plentyn a phob person ifanc hawl i gael cyfle i fynd i rywle, nid oherwydd bod ganddynt fater i’w godi neu broblem benodol, ond lle sy’n agored i bawb fynd iddo. Yn yr amgylchiadau hynny, os oes ganddynt fater i’w godi neu broblem benodol, y gobaith yw y gellir eu helpu i fynd i’r afael â hynny.
Roeddwn i eisiau sôn yn arbennig am y Sgowtiaid a’r Geidiaid, oherwydd yn yr ymchwiliad soniwyd am y Sgowtiaid a’r Geidiaid fel gwasanaethau sy’n darparu gwaith ieuenctid. Yn y fan hon, mewn gwirionedd, hoffwn ddefnyddio’r cyfle i dalu teyrnged i grŵp Ail Sgowtiaid Llandaf sy’n weithredol iawn yng Ngogledd Caerdydd. Maent wedi bod yn ddeiliaid neuadd eglwys yn Ystum Taf ers blynyddoedd lawer. Mewn gwirionedd maent dan fygythiad o golli eu safle am fod y tir yn cael ei werthu. Maent newydd gael estyniad arall o dri mis i geisio codi’r £100,000 ychwanegol i brynu’r eiddo. Maent eisoes wedi codi—grŵp bach yw hwn—y swm syfrdanol o £150,000 drwy ymdrechion gwirfoddolwyr ymroddedig, a chredaf fod hynny’n hollol anhygoel. Felly, roeddwn i eisiau talu teyrnged iddynt yn ystod y ddadl hon heddiw, ond gallaf ddweud bod y gwaith y maent yn ei wneud gyda’r bobl ifanc yn yr ardal, a llawer ohonynt yn dod o gartrefi difreintiedig, yn hollol wych mewn gwirionedd.
Rwy’n credu ei bod gwbl hanfodol fod Llywodraeth Cymru yn rhoi mwy o gyfarwyddyd i’r gwasanaeth ieuenctid. O edrych ar y dystiolaeth a gawsom, rwy’n teimlo bod yna berygl ei fod yn graddol ddiflannu o ran y ffordd yr ydym bob amser wedi ei adnabod. Rwy’n gobeithio y bydd y Gweinidog, yn sgil ein hadroddiad, yn rhoi hwb o’r newydd i’r gwasanaeth hwn. Yn sicr, rydym angen hynny yn y maes hwn. Credaf mai mater pwysig iawn arall yw rhoi llais i bobl ifanc yn y gwasanaeth. Mae nifer o siaradwyr wedi sôn am hyn eisoes. Ond rwy’n gobeithio, gyda ffurfio’r gwasanaeth o’r newydd os mai dyna fydd yn digwydd, y bydd gan bobl ifanc lais o ran sut y dylai’r gwasanaeth fod, a dylent fod yn rhan ganolog o ddatblygu’r gwasanaeth.
I gloi, rwy’n meddwl ein bod i gyd yn teimlo ei fod yn wasanaeth cwbl hanfodol. Ni allwn adael iddo ddiflannu’n ddim. Gwyddom fod yna bwysau ar holl wasanaethau awdurdodau lleol, ond mae gennym lawer o ewyllys da yn y sector gwirfoddol ac mae’n gwbl hanfodol ein bod yn sicrhau bod y sector gwirfoddol a’r sector statudol yn gweithio gyda’i gilydd yn effeithiol.
Hoffwn longyfarch a diolch i’r sefydliadau a’r arbenigwyr a roddodd dystiolaeth i’r pwyllgor yn ystod yr ymchwiliad am eu parodrwydd i ddweud sut y maent yn gweld pethau. Mae rhanddeiliaid yn y sectorau statudol a gwirfoddol yn siarad am ddiffyg arweiniad a chyfeiriad strategol gan Lywodraeth Cymru. Mae Cyngor Cymreig y Gwasanaethau Ieuenctid Gwirfoddol—CWVYS—yn nodi nad yw 30 y cant o’i aelodau yn meddwl y byddant yn gallu parhau y tu hwnt i’r flwyddyn ariannol nesaf. Ymateb y Gweinidog i sylwadau a wnaed gan CWVYS oedd ceisio tanseilio hygrededd CWVYS a disgrifiodd eu barn fel un leiafrifol. Wel, mae aelodau’r sefydliad yn cynnwys y Groes Goch Brydeinig, Mencap, Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr Cymru, Cyngor Cydraddoldeb Hiliol Cymru, Alcohol Concern, Gwirfoddolwyr Ieuenctid yr Heddlu, y Sgowtiaid, Shelter a llawer o sefydliadau gwych ac uchel eu parch eraill. Maent yn cynrychioli buddiannau llawer mwy o bobl yn y sector nag y bydd un AC yn ei wneud. Wel, ni waeth beth y mae’r Gweinidog yn ei feddwl o’r sefydliadau hyn, maent yn dweud bod y strategaeth yn anghywir.
Yn anffodus, o ran penderfynu dyfodol y ddarpariaeth ieuenctid, ni ellir diystyru’r Gweinidog mor hawdd ag y bydd ef yn ceisio diystyru sylwadau sefydliadau fel CWVYS. Mae’n dweud bod strategaeth genedlaethol ar gael ar gyfer gwaith ieuenctid a chyllid wedi’i ddyrannu ar gyfer ei gweithredu. Wel, nid yw dyrannu cyllid a llunio dogfen grand yr un fath â chydlynu’r broses o’i gweithredu yn y sectorau statudol a gwirfoddol ledled Cymru. Mae’r farn a fynegwyd gan y Gweinidog a’r sefydliadau mor wahanol nes ei bod yn demtasiwn rhagdybio naill ai nad yw’r Gweinidog yn cyfathrebu â’r rhanddeiliaid hyn, nad yw wedi gwrando, neu ei fod yn gwadu’r gwirionedd. Mae’r adroddiad yn argymell y dylai’r Gweinidog harneisio arbenigedd a dealltwriaeth y prif grŵp swyddogion ieuenctid a CWVYS. Carwn ei annog i weithio gyda’r grwpiau hynny i wella gwaith ieuenctid ar draws Cymru.
Mae’r adroddiad yn mynd rhagddo i nodi’r angen i Lywodraeth Cymru ddeall yn well beth yw lefelau’r ddarpariaeth ar draws y ddau sector yng Nghymru, gan amlygu i bob pwrpas efallai nad yw Llywodraeth Cymru yn gwbl sicr pa wasanaethau ieuenctid sy’n cael eu cynnig, na ble. Mae Llywodraeth Cymru wedi goruchwylio gostyngiad o bron i 25 y cant yn y cyllid i’r gwasanaeth ieuenctid dros y pedair blynedd diwethaf, lleihad yn nifer yr aelodau sy’n gofrestredig yn y ddarpariaeth gwaith ieuenctid, o 20 y cant o bobl ifanc yn 2013-14 i 17 y cant o bobl ifanc yn 2015-16, ac mae awdurdodau lleol yn nodi bod 148 o staff cyfwerth ag amser llawn wedi cael eu colli ar draws y sector statudol yn 2015-16.
Efallai y bydd Llywodraeth Cymru yn honni i amddiffyn eu hunain nad yw’r cronfeydd a anfonwyd draw o Loegr yn ddigonol. Ond mae’n ymwneud â blaenoriaethau, a buaswn yn sicr yn cwestiynu a yw blaenoriaethau Llywodraeth Cymru yn y drefn iawn yma. Mae’r adroddiad yn mynegi pryder fod yna ddiffyg atebolrwydd am y defnydd o arian a ddyrennir i awdurdodau lleol drwy’r grant cynnal refeniw, ac yn datgan bod yn rhaid i’r Gweinidog sicrhau bod mecanweithiau yn eu lle i sicrhau bod awdurdodau lleol yn cael eu dwyn i gyfrif am y defnydd o’r cronfeydd hynny ar gyfer gwaith ieuenctid. Hoffwn glywed a fydd y Gweinidog yn gweithredu hyn, neu’n darparu cynigion ynglŷn â sut y bydd yn gweithredu.
Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi cwestiynu a yw ystadegau Llywodraeth Cymru ar y defnydd o gyllid drwy’r grant cynnal refeniw yn ddibynadwy. Mae hwn yn destun pryder penodol. Os nad yw Llywodraeth Cymru yn sicrhau eu bod yn cael y data cywir, mae’n bosibl fod yr hyn a ddywedant am strategaethau gwaith ieuenctid yn ddiystyr. Nid oes unrhyw ffordd o wybod a yw awdurdodau lleol yn gwario arian ar bethau eraill, ac nid oes neb yn atebol.
Felly, i grynhoi, mae gennym Weinidog sy’n diystyru llawer o’r hyn sydd gan y rhanddeiliaid i’w ddweud, un nad yw’n ymddangos ei fod yn gwybod ble y mae’r ddarpariaeth gyfredol na beth yw hi, ac sydd o bosibl yn defnyddio data amheus. Yn syml iawn, ni allwn ni a phobl Cymru sicrhau bod yr hyn y mae’n ei ddweud ar y mater pwysig hwn yn gredadwy. Gall darpariaeth ieuenctid weddus drawsnewid bywydau a newid dyfodol pobl ifanc. Dylai pob person ifanc gael mynediad at wasanaethau ieuenctid, os ydynt yn dymuno gwneud hynny. Fy nghwestiwn mawr, felly, yw a fydd y Gweinidog yn gweithredu argymhellion yr adroddiad, neu’n gweithredu arno fel arall. Diolch.
Gan siarad fel yr aelod ieuengaf o’r pwyllgor—[Chwerthin.] Mae’r pethau hyn i gyd yn gymharol, wyddoch chi—nid wyf yn hawlio bod gennyf unrhyw ddealltwriaeth arbennig, ar wahân i’r hyn a ddysgasom o’r ymchwiliad. Ac rwy’n cytuno â’r Cadeirydd, gyda Lynne Neagle, fod y digwyddiad i randdeiliaid yn beth gwych, yn gyfle gwirioneddol i fanteisio ar syniadau a phrofiadau’r bobl sy’n cyflenwi’r gwasanaethau hyn, ac roedd yn rhan bwysig iawn o’r broses gyfan.
Hwn oedd fy ymchwiliad cyntaf, ac mae gennyf gopi o ymateb y Gweinidog, ac mae wedi derbyn—neu dderbyn mewn egwyddor—pob un o’r argymhellion. Ac nid wyf yn gwybod a yw hynny’n digwydd drwy’r amser, ond mae i’w weld yn beth da. I ble y mae’n mynd nesaf?
Hoffwn ganolbwyntio ar un argymhelliad penodol, sef argymhelliad 8, ac rwy’n falch iawn fod y Gweinidog wedi derbyn hwnnw mewn egwyddor. Mae’n gofyn i’r Gweinidog ddatblygu fframwaith atebolrwydd ar gyfer defnydd awdurdodau lleol o arian gwaith ieuenctid, drwy’r grant cynnal refeniw. Ac nid yw’n cytuno i neilltuo cyllid, fel y mae Aelodau eraill eisoes wedi nodi. Ond yr hyn y mae’n ei ddweud yw bod y Llywodraeth wedi dechrau ar y broses o gynnal adolygiad o bob un o’r ffrydiau ariannu gwaith ieuenctid hyn i nodi ei wir effaith, ac i gefnogi syniadau ar gyfer gwaith ieuenctid yng Nghymru yn y dyfodol.
Ac fe drodd fy meddwl at waith ieuenctid yn fy etholaeth, a soniodd Julie Morgan am fynediad agored—wel, yn Senghennydd—ac mae Julie newydd ddweud wrthyf mai o’r fan honno y mae hi’n hannu’n wreiddiol—ymwelodd y Gweinidog â’r Ganolfan Galw Heibio i Bobl Ifanc Senghennydd, sy’n grŵp ieuenctid mynediad agored, ac mae’n aruthrol o bwysig, ond mae hefyd yn wynebu ansicrwydd mawr yn y dyfodol agos iawn. Ac o ystyried y newidiadau sy’n debygol o ddigwydd mewn perthynas â Cymunedau yn Gyntaf—a gwn fod Cymunedau yn Gyntaf wedi cael ei feirniadu am nad yw’r cyllid yn mynd i ble y mae i fod i fynd; deallaf fod lleiafrif o achosion wedi cael eu beirniadu—rwy’n amau bod cryn dipyn o waith ieuenctid, yn arbennig yn y Ganolfan Galw Heibio i Bobl Ifanc Senghennydd, wedi ei ariannu’n rhannol gan arian dros ben o Cymunedau yn Gyntaf.
Felly, o ystyried bod y Gweinidog wedi cynnig ystyried natur newidiol—mae’n ddrwg gennyf, ystyried meddylfryd gwaith ieuenctid yng Nghymru yn y dyfodol, a bod Ysgrifennydd y Cabinet dros gymunedau yn edrych ar natur newidiol cymunedau cryf, hoffwn i’r Gweinidog ystyried yr effaith honno’n arbennig. Beth fydd yn yr adolygiad hwnnw sy’n cael ei argymell yn argymhelliad 8 a beth fydd effaith polisi cymunedau cryf newydd Llywodraeth Cymru? Rwy’n credu bod rhaid—mae’n rhaid bod—gorgyffwrdd fel na fydd gwaith ieuenctid yn dioddef o ganlyniad i unrhyw newidiadau sy’n digwydd.
Ond yr hyn a ddywedwn, o fy mhrofiad i, yw bod y Gweinidog wedi mabwysiadu ymagwedd hynod o adeiladol, fel y mae’n ymddangos bod disgwyl i’r Gweinidog ei wneud, sy’n wych, ac rwy’n edrych ymlaen at weld beth fydd yn digwydd nesaf ar ôl i’r argymhellion gael eu gwneud.
Yn gyntaf oll, a gaf fi ddiolch i Lynne Neagle am gyflwyno’r adroddiad ac i’r pwyllgor am y gwaith y maent wedi’i wneud? Roedd yn amlwg yn ymchwiliad eang iawn ac rwy’n credu bod y cyfraniadau yma heddiw sy’n nodi’r gwaith a wnaed wedi bod yn eithaf rhagorol, felly diolch i bawb am hynny. Mewn sawl ffordd, rwy’n dyfalu bod byrdwn yr adroddiad yn ôl pob tebyg yn cael ei grynhoi’n daclus yn y paragraff agoriadol y cyfeirioch chi ato, Lynne, pan siaradoch am un o’r sylwadau gan y cyfranwyr a oedd yn sôn am weithwyr ieuenctid fel achubwyr bywydau. Rwy’n credu bod hynny’n werth ei ailadrodd, mae’n debyg, gan mai ar yr agwedd benodol honno yr hoffwn ganolbwyntio fy nghyfraniad yn bennaf y prynhawn yma.
Yn gyntaf oll, hoffwn wneud sylwadau ar yr heriau sy’n wynebu ein gwasanaethau ieuenctid, gan fod hynny’n effeithio’n uniongyrchol ar y meysydd yr hoffwn siarad amdanynt. Er nad wyf am ailadrodd eto y dadleuon am yr effaith y mae polisïau caledi Torïaidd wedi’u cael ar Gymru ac ar ein gwasanaethau cyhoeddus a’n cymunedau, yn anochel mae’r gostyngiad parhaus yn y cyllid i Gynulliad Cymru wedi effeithio ar y ffordd y mae’r gwasanaethau hyn wedi cael eu hariannu.
Ar y pwynt hwn, a gaf fi roi eiliad i ganmol yr Ysgrifennydd dros gyllid a llywodraeth leol, Mark Drakeford, am y gwaith y mae wedi’i wneud yn sicrhau setliad ar gyfer llywodraeth leol eleni, sy’n rhoi cynnydd yn y cyllid am y tro cyntaf ers 2013-14, er gwaethaf y pwysau cyffredinol ar gyllid Llywodraeth Cymru? Fodd bynnag, wyddoch chi, ni allwn ddianc rhag y ffaith fod y toriadau cyffredinol yn y cyllid i awdurdodau lleol wedi golygu bod ganddynt benderfyniadau sydd nid yn unig yn anodd, ond bron iawn yn amhosibl weithiau mewn gwirionedd.
Rwy’n ddiolchgar iawn i’r Aelod am dderbyn yr ymyriad. Nid oeddech yn rhan o’r ymchwiliad, ond un peth a oedd yn hollol amlwg oedd nad oedd unrhyw gydberthynas uniongyrchol, mewn gwirionedd, rhwng ansawdd y gwasanaethau ieuenctid ar lawr gwlad a’r swm sy’n cael ei wario arnynt gan awdurdodau lleol, fel y nodais yn fy sylwadau yn gynharach. Mae Conwy, er enghraifft, yn awdurdod lleol sydd â chyfradd isel iawn o wariant, ac eto mae’r gwasanaethau o ansawdd uchel iawn mewn gwirionedd am eu bod wedi mynd ati i’w hymgorffori yn y sector gwirfoddol ac wedi cefnogi gallu’r sector hwnnw i’w darparu.
Ac rwy’n siŵr fod yna enghreifftiau o hynny, ac nid wyf yn amau’r hyn y mae’r Aelod yn ei ddweud, ond rwy’n meddwl, yn gyffredinol, os ydych yn cadw gwasanaeth yn brin o gyllid, yna yn anochel mae’n dechrau cael effaith, a buaswn yn dweud bod mwy o enghreifftiau o’r gwrthwyneb na’r math o enghreifftiau y mae’r Aelod yn cyfeirio atynt. Ond mae’n ymwneud ag awdurdodau lleol yn gorfod blaenoriaethu, ac nid oes dianc rhag hynny. Wrth gwrs, mae’n ymwneud â mwy na’r gwasanaethau sy’n cael eu darparu’n uniongyrchol gan awdurdodau lleol—fel y gwyddom, mae llawer o ddarparwyr y trydydd sector yn dibynnu’n fawr ar y cyllid y maent hwy hefyd yn ei gael gan awdurdodau lleol ac mae hwnnw hefyd wedi wynebu toriadau.
Os caf roi eiliad i siarad â chi am rai o’r sefydliadau yn fy etholaeth fy hun. Mae gennym raglenni gwreiddiol a chynlluniau anhygoel, megis Prosiect Ieuenctid Forsythia a Dowlais Engine House i enwi dau yn unig. Fel y mae Hefin David wedi crybwyll eisoes, mae’r rhain yn cael symiau sylweddol o gyllid drwy’r rhaglen Cymunedau yn Gyntaf. Mae hynny, i raddau helaeth, wedi llenwi’r bwlch ariannol oddi wrth awdurdodau lleol a’r arian a ryddhawyd iddynt. Felly, er nad wyf yn mynd i agor y ddadl am Cymunedau yn Gyntaf heddiw, gan fy mod yn gwybod bod y Gweinidog sy’n gyfrifol am hynny yn mynd i wneud datganiad yn y dyfodol agos, mae’n rhaid i mi ddweud, os yw arian Cymunedau yn Gyntaf yn mynd i ddiflannu neu gael ei ddiddymu’n raddol, yna mae’n hanfodol ein bod yn edrych ar ffyrdd y gall cynlluniau ieuenctid fel y rhai a grybwyllais barhau. A gofynnaf i mi fy hun pam y mae hynny mor hanfodol. Wel, nid oes gennyf unrhyw amheuaeth o gwbl, oni bai am wasanaethau o’r fath, a ddarperir gan rai o’r prosiectau y soniais amdanynt, byddai llawer o’r bobl ifanc a wasanaethir ganddynt yn crwydro’r strydoedd. Yna, byddent yn cymryd rhan mewn ymddygiad gwrthgymdeithasol, ac o bosibl yn mynd yn ddibynnol ar gyffuriau ac alcohol, neu hyd yn oed yn dod yn droseddwyr ifanc. Mewn rhai o’r ardaloedd hyn, ni fyddai cau’r cyfleusterau yn arwain at eu rhieni yn talu iddynt fynd i ddefnyddio cyfleusterau eraill gan eu bod wedi’u lleoli at ei gilydd mewn ardaloedd lle na fyddai gan y teuluoedd arian i wneud hynny. Felly, pan fydd y Gweinidog yn adolygu’r strategaeth genedlaethol ar gyfer y gwasanaethau ieuenctid, rwy’n gobeithio y rhoddir cydnabyddiaeth i brosiectau megis Prosiect Ieuenctid Forsythia a Dowlais Engine House y cyfeiriais atynt, ac eraill sy’n darparu’r ymyrraeth gynnar sydd mor bwysig, yn enwedig yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig yn ein cymdeithas, ac y byddwn yn ystyried sut y gellir cynnal y cynlluniau hyn yn y dyfodol, beth bynnag fydd y penderfyniadau ynglŷn â dyfodol Cymunedau yn Gyntaf.
Felly i gloi, Lywydd, rwy’n falch o gefnogi’r cynnig ac adroddiad yr ymchwiliad, ac wrth wneud hynny rwy’n ffyddiog y bydd arwyddocâd y gwaith a wnaed gan ein gwasanaethau ieuenctid a’r staff sy’n gweithio ynddynt yn cael ei gydnabod yn llawn yn y dyfodol.
Diolch yn fawr iawn. Galwaf ar Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, Alun Davies.
Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd, ac rwy’n ddiolchgar i’r holl Aelodau sydd wedi cyfrannu at yr ymchwiliad ac at y ddadl y prynhawn yma. Mewn sawl ffordd, Ddirprwy Lywydd, rwy’n teimlo bod yr ymchwiliad yn enghraifft wych o’r Cynulliad a’r Llywodraeth: y tensiwn cywir sydd angen ei gael rhwng y ddau sefydliad, fel y cyfeiriwyd ato—y gwrthdaro achlysurol rhyngom i gyd—ond hefyd y pwyllgor yn gosod materion o bwysigrwydd cenedlaethol clir yn gadarn iawn ar agenda’r Llywodraeth, a’r pwyllgor yn adrodd mewn modd cadarn a gorfodi’r Llywodraeth a’r Gweinidog i ystyried y dull a roddwyd ar waith. Ac fe ddywedaf fod ymateb y pwyllgor hwn—mae’r Aelodau wedi bod yn eithaf caredig ar y cyfan ynglŷn ag ymateb y Llywodraeth, ond mewn gwirionedd, nid yr hyn a ysgrifennwyd ac a gyhoeddwyd yn y dogfennau a welwyd ac a drafodwyd gennym heddiw oedd yr ymateb; mewn sawl ffordd yr ymateb oedd y ffaith ein bod wedi ein gorfodi i gael dadl mewn gwirionedd na fyddai wedi digwydd yn ôl pob tebyg heb ymchwiliad y pwyllgor, heb adroddiad y pwyllgor, heb y dystiolaeth a roddwyd i’r pwyllgor a heb y casgliadau a wnaeth y pwyllgor ar sail y dystiolaeth honno. Ac mae gorfodi’r Llywodraeth mewn gwirionedd i edrych yn ofalus ar ei blaenoriaethau, i edrych yn fanwl ar ei rhaglen, y ffordd y ceisiwn symud ymlaen, wedi sicrhau bod y geiriau a ddisgrifiwyd gan yr Aelodau y prynhawn yma ac a ddefnyddiwyd gan dystion i’r ymchwiliad yn ystod yr ychydig fisoedd diwethaf wedi cael effaith ar newid polisi mewn gwirionedd ac ar newid dull a chyfeiriad y Llywodraeth. Rwy’n credu ei bod yn iawn i mi ddechrau fy nghyfraniad y prynhawn yma drwy gydnabod hynny, a chydnabod y gwaith y mae’r pwyllgor wedi ei wneud dros y misoedd diwethaf.
Rwy’n credu bod yna gytundeb cyffredinol fod gan waith ieuenctid o ansawdd uchel rôl hollbwysig i’w chwarae yn cynorthwyo llawer o bobl i gyflawni eu potensial llawn, ac yn gwneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobl ifanc, boed hynny drwy brofiadau gwahanol sy’n cael eu hagor i bobl neu’r gefnogaeth y mae’n ei chynnig. Mae’n sail i lawer o’n blaenoriaethau, o addysg, iechyd i adfywio cymunedol. Fe wrthodaf gynnig caredig Dawn i drafod Cymunedau yn Gyntaf y prynhawn yma, ond rydym yn gwbl glir ein meddwl bod gwaith adfywio cymunedol a datblygu cymunedol yn cael ei gynorthwyo a’i gefnogi gan yr agenda gwaith ieuenctid ehangach. Rydym yn cydnabod hynny, ac rydym yn cydnabod y pwyntiau a wnaed.
Rwy’n falch o allu derbyn neu dderbyn mewn egwyddor pob un o’r 10 argymhelliad. Deuthum at adroddiad y pwyllgor mewn modd a geisiai edrych ar sut y gallwn alluogi’r pethau hyn i ddigwydd, nid chwilio am resymau i beidio â derbyn argymhellion, ond chwilio am resymau a ffyrdd o dderbyn yr argymhellion hynny. Carwn ddweud wrth Hefin fy mod yn meddwl ei bod yn deg dweud nad yw hynny wedi bod yn wir bob tro dros y blynyddoedd, ac rwy’n gobeithio ei fod wedi mwynhau ei ymchwiliad cyntaf, fel aelod o’r pwyllgor yma. Ac rwy’n sicr yn gobeithio ei fod yn teimlo bod y profiad o graffu ar y Llywodraeth yn y ffordd hon yn un a oedd yn bleserus a hefyd yn allweddol i newid cyfeiriad polisi.
A gaf fi ymateb i rai o’r pryderon a fynegwyd ynglŷn â’r angen am gyfeiriad strategol cliriach? Gwnaeth cyfraniad Darren Millar argraff fawr arnaf o ran disgrifio’r ffordd y mae angen i’r Llywodraeth sefydlu cyfeiriad teithio llawer cliriach. Credaf fod hynny’n glir yn ystod y sesiwn dystiolaeth a gawsom gyda’n gilydd, ac rwy’n meddwl fy mod eisoes wedi ymrwymo i adnewyddu ‘Ymestyn Hawliau’, y canllawiau statudol sy’n sail i ddarparu a chyflwyno gwasanaethau cymorth ieuenctid yng Nghymru. Bydd cynllun gweithredu manwl yn cael ei ddatblygu a’i gyhoeddi erbyn diwedd mis Mawrth 2017. Mae fy swyddogion yn gweithio gydag is-grŵp y grŵp cyfeirio gwaith ieuenctid i ddatblygu cynllun ar gyfer adnewyddu ‘Ymestyn Hawliau’ a byddant yn cyfarfod am y tro cyntaf ymhen pythefnos. Bydd y gwaith hwn yn croesi nifer o bortffolios gweinidogol gwahanol, ac mae hefyd yn cynnwys gwasanaethau cymorth ieuenctid yn fwy eang ac nid gwaith ieuenctid yn unig.
Hefyd, bydd angen i ni adolygu’r strategaeth genedlaethol gyfredol ar gyfer gwaith ieuenctid er mwyn llywio’r gwaith o adnewyddu’r canllawiau statudol. Mae fy swyddogion eisoes wedi dechrau trafodaethau gydag aelodau o’r grŵp cyfeirio gwaith ieuenctid ar sut y byddwn yn datblygu’r gwaith hwn. Carwn wahodd y pwyllgor i barhau â’i waith ac i barhau â’i waith craffu ar y diweddariad hwn, ac i chwarae rhan a rôl wrth wneud hynny, ac mae hynny’n rhywbeth y buaswn yn ei groesawu’n fawr iawn pe bai aelodau’r pwyllgor yn gwneud hynny.
Mae nifer o’r Aelodau wedi trafod y pryderon a fynegwyd ynglŷn â diffyg ymgysylltiad â’r sector a phobl ifanc. Rwy’n cydnabod y disgrifiad a roddodd Julie Morgan yn ei chyfraniad. Rwy’n cydnabod yn fawr iawn y pwyntiau a wnaethoch, Julie, a chredaf eich bod yn hollol gywir i wneud y pwyntiau hynny. Cyfarfûm â’r grŵp cyfeirio gwaith ieuenctid ar 8 Rhagfyr, a bydd fy swyddogion a minnau’n parhau i weithio gyda’r grŵp i lunio dyfodol y gwaith o ddarparu gwaith ieuenctid yng Nghymru. Rwy’n gobeithio y bydd cyfranogiad pobl ifanc bob amser yn parhau’n ganolog i’r gwaith a wnawn, a byddwn yn sicr yn ceisio defnyddio arbenigedd rhanddeiliaid, gan gynnwys Young Cymru, er mwyn sicrhau ein bod yn gallu cyrraedd pobl nad ydynt bob amser yn rhan o’r prosesau hyn. Byddaf yn sicr yn edrych ar sut y gallwn wneud hynny ac os oes gan y pwyllgor gyfraniadau pellach i’w gwneud ynglŷn â sut y byddem yn gwneud hynny, yna byddwn yn falch iawn o glywed y safbwyntiau hynny.
Rwy’n deall yr hyn a ddywedwyd am fodel cenedlaethol, a gwn fod Llyr Gruffydd wedi siarad yn helaeth ar hyn, o ran yr angen i gael model cenedlaethol a’r ffordd yr ydym yn bwrw ymlaen â hynny. Rwyf am roi ystyriaeth bellach i hyn, ac nid wyf am achub y blaen ar yr ystyriaeth honno. Ond gadewch i mi ddweud hyn: rwy’n cydnabod y sylwadau a wnaed. Rwy’n meddwl bod Darren wedi gwneud sylw yn y ddadl heddiw am y Llywodraeth yn rhuthro ymlaen, yn gwneud penderfyniadau a gweithredu penderfyniadau tra bo’r pwyllgor yn cynnal ei ymchwiliad, ac rwy’n meddwl bod Llyr wedi gwneud y pwynt hwnnw ar adegau eraill hefyd. Mae yna adegau pan fyddaf yn teimlo, fel Gweinidog, na allaf eistedd yn ôl ac aros, fod yn rhaid i mi wneud penderfyniadau a symud ymlaen, a cheir achlysuron eraill—ac rydym wedi trafod y cynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg y prynhawn yma—pan fyddaf yn teimlo ei bod yn bwysicach i mi eistedd ac aros nes fy mod mewn sefyllfa i wneud penderfyniad rhesymedig ar y materion hyn. Dyma enghraifft arall ar hyn o bryd lle rwy’n dymuno mabwysiadu ymagwedd fwy rhesymedig ac un lle y carwn roi mwy o amser i wrando ar yr hyn sy’n cael ei ddweud ac i ddeall beth y mae’r diweddariad o ‘Ymestyn Hawliau’ a’r adolygiad o’r strategaeth genedlaethol yn ei ddweud wrthym cyn gwneud penderfyniad ar y mater hwn. Rwy’n gobeithio y bydd yr Aelodau a’r pwyllgor yn deall y rhesymeg wrth wraidd hynny.
Ond rwy’n gwrando ar, ac yn clywed y pryderon a fynegwyd gan yr holl Aelodau ynglŷn â chau darpariaeth mynediad agored. Rhoddodd Julie Morgan enghraifft i ni yn ei hetholaeth ei hun, ond rydym i gyd yn gyfarwydd â hynny. Mae’n anodd ar awdurdodau lleol—rydym yn gwybod hynny, a rhoddodd Dawn Bowden enghreifftiau o hynny, ac rydym i gyd yn gyfarwydd â’r penderfyniadau anodd sy’n wynebu awdurdodau lleol.
Mae ganddo rôl strategol i’w chwarae yn cynnig mecanwaith i adnabod pobl ifanc a allai fod yn agored i niwed a darparu cymorth ymyrraeth gynnar. Mae’n amlwg hefyd fod y dirwedd gwaith ieuenctid yn newid ac mae darpariaeth mynediad agored hefyd yn newid. Rwyf eisiau gallu gweithio gyda llywodraeth leol er mwyn sicrhau ein bod yn gallu cael y math o ddarpariaeth y dymunwn ei gweld. Fe’i disgrifiwyd gan Llyr, rwy’n meddwl, fel rhywbeth sy’n rhy optimistaidd, o bosibl—’uchelgeisiol’ oedd eich gair. Uchelgeisiol iawn, ie. Gobeithio y gallwn gyflawni hynny, ac yn sicr, rydym yn awyddus i ystyried a allai asesiadau digonolrwydd fod yn gyfrwng addas i gynorthwyo awdurdodau lleol i asesu anghenion eu poblogaethau lleol ac i allu diwallu’r anghenion hynny wedyn.
Bydd yna nifer o wahanol faterion yn codi ynglŷn â’r cyllid a’r grant cynnal refeniw. Rydym yn gwybod bod y grant cynnal refeniw yn ffrwd arian heb ei neilltuo, a phenderfyniad i awdurdodau lleol felly yw sut y caiff y cyllid hwn ei ddefnyddio. Mae Hefin wedi trafod hynny ei hun ac fel rhywun sydd wedi gwasanaethu mewn awdurdod lleol, mae’n gwybod yn well na’r rhan fwyaf beth yw’r anawsterau y mae awdurdodau lleol yn eu hwynebu wrth wneud y penderfyniadau hyn.
Rwy’n gobeithio y gallwn gynnal adolygiad o’n holl ffrydiau ariannu gwaith ieuenctid, gan gynnwys y grant cynnal refeniw, er mwyn nodi’r effaith wirioneddol ac i gefnogi syniadau yn y dyfodol ar gyfer cefnogi gwaith ieuenctid yng Nghymru. Gallaf weld bod amser yn brin, Ddirprwy Lywydd, ac nid wyf am brofi eich amynedd ymhellach. Yr hyn yr hoffwn ei ddweud i gloi yw bod hwn yn adroddiad sydd wedi newid y ffordd y meddyliwn. Mae’n ein gorfodi i feddwl ddwywaith, i feddwl deirgwaith am yr hyn a wnawn. Byddwn yn parhau i weithio gyda’r pwyllgor i symud y materion hyn yn eu blaenau, ac rwy’n gobeithio y byddaf mewn sefyllfa i ddod i’r lle hwn i wneud datganiad llafar ar y materion hyn yn y dyfodol agos. Diolch.
Diolch yn fawr iawn, a galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, Lynne Neagle, i ymateb i’r ddadl.
Diolch, Ddirprwy Lywydd, ac a gaf fi ddiolch i’r holl Aelodau sydd wedi cyfrannu at drafodaeth ragorol ar ein hadroddiad y prynhawn yma? Hoffwn ddiolch i Darren Millar am ei sylwadau cadarnhaol am ganlyniad yr ymchwiliad, sylwadau sydd i’w croesawu’n fawr iawn. Rwyf hefyd yn llwyr gefnogi’r hyn a ddywedodd am bwysigrwydd y senedd ieuenctid. Roeddwn innau hefyd yno heddiw i dderbyn yr adroddiad gan yr ymgyrch dros y senedd ieuenctid. Credaf mai’r hyn sydd mor bwysig yw mai’r rheswm pam y caiff y gwasanaethau hyn eu dadflaenoriaethu ar lefel leol yw am nad oes gan bobl ifanc lais, a bydd senedd ieuenctid yn hollol allweddol i sicrhau bod ganddynt lais. Gobeithiaf fod hynny’n rhywbeth y gallwn ei wthio tuag allan ar draws Cymru, fel eu bod yn cael eu hailflaenoriaethu, y gwasanaethau hynny.
Hoffwn ddiolch i Llyr Gruffydd am ei sylwadau. Mae’n hollol gywir nad yw hwn yn fater y buom yn canolbwyntio arno o’r blaen, ac rwy’n ddiolchgar iawn mai Llyr a awgrymodd i’r pwyllgor y dylem gynnal yr ymchwiliad hwn. Y bwriad oedd iddo fod yn ymchwiliad ciplun, ac i mi yn sicr, roedd yn bendant yn agoriad llygad, ac rwy’n teimlo ein bod wedi agor tipyn o flwch Pandora gydag ef. Felly, rwy’n falch iawn ein bod wedi gwneud hynny. Nawr ein bod wedi edrych arno, hoffwn sicrhau pawb nad oes gennyf unrhyw fwriad o adael iddo gael ei wthio o’r neilltu eto: mae angen i ni gadw ffocws ar hynny. Fel y dywedwch yn gywir, mae hwn yn wasanaeth ataliol allweddol. Rydym yn sôn llawer am atal yma, ond mewn amrywiaeth eang o ffyrdd, mae hwn yn wasanaeth ataliol allweddol ar gyfer pobl ifanc ac felly’n un sy’n haeddu ein buddsoddiad.
Hoffwn ddiolch i Julie Morgan am ei chyfraniad a’i chefnogaeth, fel bob amser, i wasanaethau cyffredinol ar gyfer pobl ifanc, a hefyd am dynnu sylw at y rôl bwysig y mae gwaith ieuenctid yn ei chwarae yn y ddarpariaeth iechyd meddwl? Wrth gwrs, mae’r pwyllgor hefyd yn canolbwyntio ar sail barhaus ar faterion iechyd meddwl pobl ifanc, sydd weithiau’n eironig o gofio bod y gwasanaethau hyn o dan bwysau a’u bod yn wasanaethau a all fod yn ataliol o’u cyflwyno ar yr adeg iawn. Felly, diolch i chi, Julie, am y sylwadau hynny hefyd.
Amlygodd Michelle Brown nifer o bryderon, gan gynnwys materion yn ymwneud â chyllid awdurdodau lleol. Rwy’n gobeithio y bydd argymhelliad 8 yn gwneud gwahaniaeth i hynny ac fel y mae Darren Millar wedi dweud, nid yw bob amser yn ymwneud â’r swm o arian, ond yr hyn sy’n deillio o wario’r arian hwnnw. Ac er mai mewn egwyddor y derbyniwyd yr argymhelliad hwnnw, rwy’n mawr obeithio y byddwn yn gallu bwrw ymlaen i ddatblygu fframwaith atebolrwydd priodol, fel bod gennym ddarpariaeth gyson ni waeth beth yw’r swm sy’n cael ei roi tuag ati, ac mai dyna’r mesur mynediad agored cyffredinol yr ydym am ei weld.
Hoffwn ddiolch i Hefin David, yr aelod ieuengaf o’r pwyllgor, am ei gyfraniad heddiw, a hefyd am amlygu pwysigrwydd argymhelliad 8 eto. Hoffwn ddiolch i Hefin hefyd am dynnu sylw at bwysigrwydd cyllid Cymunedau yn Gyntaf i gefnogi gwasanaethau ieuenctid. Pe bai’r rhaglen honno’n dod i ben, rwy’n ymwybodol iawn y bydd bwlch yn y ddarpariaeth o wasanaeth ieuenctid ac mae angen i ni feddwl yn ofalus iawn am yr hyn a wnawn ynglŷn â hynny yn y dyfodol.
Gwnaeth Dawn Bowden bwynt tebyg iawn, a gwn fod hynny wedi bod yn bryder penodol yn eich etholaeth gyda’r prosiectau y cyfeirioch chi atynt heddiw, sy’n bryderus iawn ynglŷn ag arian Cymunedau yn Gyntaf. Hefyd, cawsom ein hatgoffa gan Dawn fod gwasanaethau ieuenctid yn achubwyr bywyd, a phan ddefnyddiais hynny yn yr araith, nid ei ddefnyddio’n llac a wnawn. Rwy’n meddwl o ddifrif fod angen i ni atgoffa ein hunain y gall y gwasanaethau hyn fod yn achubwyr bywyd, boed yn iechyd meddwl, ymyrraeth gynnar, atal pobl ifanc rhag dechrau troseddu—nid wyf yn credu ein bod yn mynd yn rhy bell wrth ddweud eu bod yn gwneud hynny. Hoffwn ddiolch i’r Gweinidog unwaith eto am ei ymateb y prynhawn yma, a hefyd am nodi ei barodrwydd i barhau i ymgysylltu â’r pwyllgor ar y mater pwysig hwn.
I orffen, diolch i aelodau’r pwyllgor am eu gwaith ar yr ymchwiliad hwn, diolch i dîm y pwyllgor sydd hefyd wedi gweithio’n galed iawn y tu ôl i’r llenni i wneud i bopeth ddigwydd ac i gynhyrchu’r hyn y credaf ei fod yn adroddiad ardderchog, a diolch, unwaith eto, i’r bobl ifanc sydd wedi cyfrannu, a’r rhanddeiliaid, a sicrhau pawb nad ydym yn bwriadu gadael i’r mater hwn fynd. Rydym yn mynd i barhau i’w fonitro, a cheisio ysgogi newid. Diolch.
Diolch yn fawr iawn. Y cynnig yw nodi adroddiad y pwyllgor. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, nodwyd adroddiad y pwyllgor a’i gytuno yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.