– Senedd Cymru ar 1 Mawrth 2017.
Yr eitem nesaf ar ein hagenda ni yw dadl Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Gyfunol ar gontractau dim oriau, ac rwy’n galw ar David Rowlands i wneud y cynnig.
Cynnig NDM6244 David J. Rowlands
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn credu, er y gall contractau dim oriau fod o fantais i gyflogwyr a gweithwyr o ran y rhyddid a'r hyblygrwydd y gallant ei gynnig, gallant hefyd greu problemau o ran incwm sefydlog, sicrwydd o ran cyflogaeth, statws cyflogaeth a'r cydbwysedd o ran y pŵer rhwng cyflogwr a chyflogai.
2. Yn nodi mai rhithiol yn hytrach na real yw'r rhyddid hwn i'r rhan fwyaf o'r rhai a gaiff eu cyflogi ar gontractau dim oriau, a bod bywyd ar gontractau dim oriau, i'r rhai sydd angen isafswm oriau gwaith wythnosol i sicrhau diogelwch ariannol i'w teulu, yn un o ansicrwydd parhaol;
3. Yn nodi bod yr ansicrwydd hwn, i'r rhai y mae eu horiau wedi'u cwtogi neu eu newid oherwydd amharodrwydd canfyddedig i weithio'r oriau sydd eu hangen ar y cyflogwr neu'n dilyn cŵyn yn y gweithle, yn gallu cyd-fynd â'r pryder sy'n deillio o gamfanteisio.
4. Yn credu bod gan weithio contractau dim oriau y gallu i:
a) creu bywyd o straen;
b) cael effaith negyddol ar reoli cyllidebau teuluol;
c) effeithio ar ymrwymiadau teuluol;
d) tanseilio hawliau a chysylltiadau cyflogaeth; ac
e) cymhlethu'r gallu i gael gafael ar gredydau treth a budd-daliadau eraill, gyda phryder cynyddol am y nifer gynyddol o bobl sy'n dibynnu arnynt.
Diolch, Lywydd. Dros y 17 mlynedd ddiwethaf, mae’r DU wedi gweld toreth enfawr o gontractau dim oriau, gan godi o lai na 200,000 yn y flwyddyn 2000 i bron 1 filiwn heddiw. Mae’r cynnydd digyffelyb hwn yn cyd-daro’n uniongyrchol â’r ffenomen o fewnfudo torfol heb ei reoli yn ystod y blynyddoedd hynny.
Mewn gwirionedd, mae’r term ‘contract dim oriau’ yn gamarweiniol—nid yw’n gontract o gwbl. Mae contract yn offeryn a luniwyd gan y sawl a’i llofnoda sy’n dynodi cytundeb rhwng y ddau barti. Nid yw’r contract cyflogaeth hwn fel y’i gelwir yn unrhyw beth o’r fath, gan ei fod yn gwbl unochrog. Nid yw’n cynnwys unrhyw un o’r mesurau diogelu gweithwyr a ymgorfforir fel arfer mewn dogfen o’r fath—yn wir, mae’n gwneud i’r gwrthwyneb yn llwyr mewn gwirionedd, gan ei fod yn cael gwared ar unrhyw hawliau a gysylltir fel arfer â chontract o’r fath. Yr hyn ydyw, a dweud y gwir, yw contract i gam-drin.
Defnyddir y contract dim oriau bron yn ddieithriad yn y farchnad lafur led-grefftus a heb sgiliau—yr union ran o’r farchnad lafur y derbynnir yn gyffredinol ei bod yn cael ei heffeithio fwyaf gan fewnfudo torfol. Cafwyd y ddadl ffug—a ledaenwyd yn y Siambr hon yn wir—ei fod yn borth i gyflogaeth. Wrth gwrs, nid yw’n ddim o’r fath. Cafodd contractau asiantaeth eu defnyddio ar gyfer cyfleoedd gwaith o’r fath, hyd nes y pasiwyd deddfwriaeth, wrth gwrs, i roi o leiaf rai o’r hawliau a fwynheir gan weithwyr dan gontract llawn i weithwyr asiantaeth.
Mae’r offeryn cyflogaeth hwn yn enghraifft berffaith o allu busnesau mawr a chorfforaethau rhyngwladol i osgoi unrhyw ddeddfwriaeth pan fo grymoedd y farchnad yn caniatáu iddynt wneud hynny. Mae mewnfudo torfol heb ei reoli wedi darparu marchnad o’r fath.
Dywedir bod llawer o bobl ddi-waith yn cael eu gorfodi i gymryd contractau dim oriau neu wynebu colli eu budd-daliadau. Nid oes rhyfedd fod gennym lefelau uwch nag erioed o dlodi mewn gwaith a chynnydd enfawr mewn banciau bwyd. Yn wir, addawodd y bersonoliaeth wleidyddol annwyl, Tony Blair, mor bell yn ôl â 1997 y byddai’n cael gwared ar y contractau hyn. Yn anffodus, fel cynifer o’i addewidion, rhethreg pur oedd y cyfan.
Cyfyngaf fy hun yn y ddadl hon i rai canlyniadau economaidd—[Torri ar draws.] Rwy’n meddwl y cewch ddigon o amser ar ôl i mi orffen.
Mae gennyf gwestiwn byr ar hynny.
Iawn, wrth gwrs.
Ar bwnc rhethreg wag, a wnaiff dderbyn y bydd pobl yn y Siambr yn ystyried sail y ddadl a’r cynnig a gyflwynwyd gan UKIP yn hollol anhygoel, o ystyried bod eu harweinydd yn y Cynulliad yma wedi treulio gyrfa wleidyddol gyfan yn y Senedd yn beirniadu ac yn galw am ddadreoleiddio amodau gwaith? Rwy’n ofni y bydd y rhan fwyaf ohonom yn ystyried yr hyn yr ydych yn ei ddweud yn hollol anhygoel.
Dywedir bod llawer o bobl ddi-waith yn cael eu gorfodi i gymryd contractau dim oriau. Cyfyngaf fy hun yn y ddadl hon i ychydig o ganlyniadau economaidd mewnfudo torfol, ond daw â chamdriniaethau hyd yn oed yn fwy enbyd na’r rhai rwy’n ceisio’u hamlinellu yn ei sgil: masnachu pobl, camfanteisio rhywiol, cam-drin plant a hyd yn oed cysyniad sy’n anhygoel ym Mhrydain yn yr unfed ganrif ar hugain—caethwasiaeth.
Rwyf wedi siarad o’r blaen yn y Siambr hon am y doreth enfawr o gyfleusterau golchi ceir ers dyfodiad yr hawl i bobl symud yn rhydd. Nid wyf yn ymddiheuro am dynnu sylw at y sefydliadau hyn eto am eu bod yn enghraifft amlwg o’r nifer enfawr o achosion o gamfanteisio y mae mewnfudo torfol heb ei reoli yn gyfan gwbl gyfrifol am eu creu. Sawl un yn y Siambr hon a fyddai’n fodlon gweithio 10 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos am £3 yr awr? Mae’n warthus nad oes unrhyw awdurdod lleol, y rhan fwyaf ohonynt yng Nghymru yn cael eu rheoli gan y Blaid Lafur, wedi gwneud unrhyw ymdrech i gau’r sefydliadau ofnadwy hyn. Ac yn wir, nid yw Llywodraeth Cymru erioed wedi pwyso arnynt i wneud hynny. Mae fy ochr sinigaidd yn gwneud i mi feddwl tybed ai’r rheswm am hynny yw bod llawer yn y Siambr hon yn fodlon defnyddio’u gwasanaethau? Nodwch yma os gwelwch yn dda nad wyf yn siarad yn erbyn gweithwyr mudol, ond yn hytrach yn eu hamddiffyn. Nid wyf yn fodlon gweld pobl, pwy bynnag ydynt nac o ble bynnag y dônt, yn destun camfanteisio o’r math hwn.
Nid oes gennyf unrhyw amheuaeth y bydd cyfranwyr i’r ddadl hon yn defnyddio’r un ddadl ffug fy mod i a fy mhlaid yn beio mewnfudwyr am bob problem bosibl yn y wlad hon. Drwy wneud hynny, maent yn ceisio mygu trafodaeth synhwyrol a gwybodus ar y pwnc. Maent wedi ceisio gwneud hyn byth ers i ni ym Mhlaid Annibyniaeth y DU gael yr hyfdra i ddod â’r pwnc i sylw’r cyhoedd, a hynny er gwaethaf y ffaith mai adlewyrchu pryderon y bobl o ran mewnfudo a wnaem, yn hytrach na’u harwain.
Roeddem yn adlewyrchu pryderon a fynegwyd wrthym dro ar ôl tro ar garreg y drws drwy Gymoedd de Cymru, yn ogystal â mewn llawer o ardaloedd dosbarth gweithiol ar hyd a lled y Deyrnas Unedig—pryderon a anwybyddwyd yn llwyr gan yr holl bleidiau eraill. Yn wir, maent wedi gwneud popeth posibl i atal dadl o’r fath. Maent yn defnyddio’r cerdyn hiliol yn barhaus yn erbyn unrhyw un sy’n dangos pryder, pryder sy’n seiliedig yn unig ar niferoedd, nid ar hil, lliw na chrefydd. Ceir rhai yn y Siambr hon sy’n dal i geisio gwneud hynny; ymgais fwriadol i anwybyddu llais yr union bobl y maent yn honni eu bod yn eu cynrychioli ac yr effeithir arnynt fwyaf gan bwnc mewnfudo.
Yn ddiweddar, rydym wedi bod yn dyst, yn gwbl briodol, i’r dicter mewn perthynas â Sports Direct a’u defnydd bron yn ddieithriad o gontractau dim oriau, ond mae corfforaethau eraill yn defnyddio’r contractau hyn yn yr un ffordd, gan gynnwys y cawr corfforaethol, McDonalds. Mae’r rhai sy’n gweithio o dan gontractau dim oriau yn ei chael yn amhosibl cael morgais. Nid yw natur ysbeidiol eu gwaith yn rhoi unrhyw sicrwydd o incwm, ac felly mae’n eu hatal rhag y posibilrwydd o fynd i mewn i’r farchnad prynwyr. Bydd rhai cwmnïau cyllid yn rhoi benthyciadau o dan gytundebau hurbwrcasu, yn bennaf oherwydd eu gallu i adfeddiannu eitemau a brynwyd yn y fath fodd, ac yn anffodus mae’n arwain yn aml iawn at gamau o’r fath yn cael eu cymryd. Mae diffyg diogelwch incwm yn arwain at fethu talu, heb fod unrhyw fai ar y benthyciwr, yn syml oherwydd eu bod yn mynd wythnosau neu hyd yn oed fisoedd heb gyflog. Felly, gellir ystyried bod contractau dim oriau yn creu bywyd o straen drwy effeithio’n negyddol ar gyllidebau teuluoedd a thanseilio hawliau cyflogaeth, a chymhlethu’r mynediad at gredydau treth a budd-daliadau eraill. Mae’r contractau dim oriau yn mynd â ni yn ôl i’r bedwaredd ganrif ar bymtheg, pan oedd gweithwyr yn cael eu gorfodi i ddod at giatiau’r dociau i gael, neu i beidio â chael, gwaith am un diwrnod. Nid oes lle iddynt ym Mhrydain yr unfed ganrif ar hugain. Mae Plaid Annibyniaeth y DU yn condemnio’n llwyr yr offeryn sinigaidd hwn ar gyfer camfanteisio ar weithwyr.
Rwyf wedi dethol y saith gwelliant i’r cynnig, ac os derbynnir gwelliant 2, bydd gwelliant 4 yn cael ei ddad-ddethol. Rwy’n galw ar Bethan Jenkins i gynnig gwelliannau 1, 3, 4, 5 a 7, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Bethan Jenkins.
Gwelliant 1—Rhun ap Iorwerth
Dileu pwynt 1 a rhoi yn ei le:
Yn credu y gall y potensial i waith ac enillion amrywio o ganlyniad i gontractau dim oriau fod yn ffynhonnell straen ac ansefydlogrwydd ariannol ac y gall telerau ac amodau cyflogaeth annheg gael effaith negyddol ar forâl a chynhyrchiant staff mewn modd sy'n arwain at wasanaeth o ansawdd gwaeth.
Gwelliant 3—Rhun ap Iorwerth
Ychwanegu pwynt newydd ar ôl pwynt 3 ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn gresynu bod ymdrechion gan Blaid Cymru i wahardd contractau dim oriau mewn gwahanol sectorau ar bum achlysur gwahanol yn ystod y Pedwerydd Cynulliad wedi cael eu trechu gan Lywodraeth Lafur Cymru a'r Ceidwadwyr Cymreig.
Lywydd, rwy’n falch o gymryd rhan yn y ddadl hon, oherwydd ym Mhlaid Cymru nid oes gennym ddim o gwbl i’w guddio neu i fod â chywilydd ohono mewn perthynas â’r mater pwysig o gefnogi pobl sy’n gweithio. Rydym yn gyson wedi cefnogi’r alwad i roi diwedd ar gontractau dim oriau camfanteisiol ac ansefydlog, ac rydym wedi defnyddio ein pleidleisiau yn y Siambr hon i brofi hynny. Mae’n eironig bod UKIP wedi ei gyflwyno ar gyfer y ddadl hon heddiw. Er gwaethaf ymdrechion diweddar UKIP i fabwysiadu wyneb adain chwith, mae’r gwir yn aml wedi’i guddio o dan yr wyneb. Yn wir, roedd maniffesto busnesau bach UKIP, a gyhoeddwyd ychydig o flynyddoedd yn ôl yn 2013, yn cynnig, ac rwy’n dyfynnu,
Byddai UKIP yn rhoi diwedd ar y rhan fwyaf o’r ddeddfwriaeth sy’n ymwneud â materion megis oriau gweithio wythnosol, gwyliau... goramser, tâl diswyddo neu salwch ac ati ac yn darparu templed contract cyflogaeth statudol, safonol, byr iawn.
Nid yw hynny, i mi, yn dangos ymrwymiad i ddeddfu o blaid y gweithwyr hyn, rhywbeth yr ydych wedi dweud y byddech yn dymuno ei wneud yn gynharach heddiw.
Rydym yn credu y buasai’r gwelliannau a gyflwynwyd gan fy nghyd-Aelod Rhun ap Iorwerth yn cynnig gobaith i’r miloedd yng Nghymru sy’n ennill hanner yn unig yr hyn y mae’r rhai ar gontractau sefydlog yn ei ennill. Rydym yn cynnig y gwelliannau hynny ar ran y menywod sy’n ffurfio dros hanner y nifer sydd ar gontractau dim oriau.
Nid ydym yn derbyn dadleuon y Torïaid a Llafur ynghylch yr angen am gontractau dim oriau neu eu natur anochel, ac rydym yn gwrthod dadleuon sy’n cyfeirio at newidiadau mewn patrymau gweithio fel tystiolaeth, fel pe bai hon yn broses naturiol mewn byd modern; yn y rhan fwyaf o achosion, nid yw hynny’n wir. Yn y rhan fwyaf o achosion, efallai fod hyblygrwydd honedig y contractau hyn yn ddelfrydol i gyflogwyr sy’n cael eu gyrru gan elw a’r ysfa i dorri costau, ond gallant achosi gofid ac ansicrwydd mawr i weithwyr a’u teuluoedd.
Bydd yn ddiddorol gweld pa ffordd y bydd y Blaid Lafur yn pleidleisio heddiw. Ar bum achlysur gwahanol yn ystod tymor diwethaf y Cynulliad, fe wnaethant bleidleisio ochr yn ochr â’r Ceidwadwyr yn erbyn rhoi diwedd ar gontractau dim oriau. Fe wnaeth Llafur bleidleisio gyda’r Torïaid hyd yn oed yn erbyn gwelliant gan Blaid Cymru i wahardd y contractau niweidiol hyn yn y sector gofal yng Nghymru.
Diolch i chi am ildio. Tybed a fyddech yn cyfaddef bod hwnnw’n gyhuddiad annheg iawn, oherwydd ar yr achlysuron hynny, fe wnaethom bleidleisio am y byddai cynnwys contractau dim oriau wedi arwain at her yn y Goruchaf Lys i ddeddfwriaeth bwysig iawn ar bethau fel y Ddeddf gwasanaethau cymdeithasol a llesiant, a’n bod bob amser wedi gwneud ein gwrthwynebiad yn glir i’r mathau hyn o drefniadau cyflogaeth.
Na fyddwn, mewn gwirionedd, oherwydd yn amlwg fe gyflwynasom y Bil cyflogau amaethyddol a gafodd ei herio yn y Goruchaf Lys, ac rwy’n credu, os ydych yn mynd i fod yn gosod yr agenda, yn wleidyddol ac yn bennaf, mae angen i ni wneud hynny gyda Bil yr undebau llafur. Byddwn yn cytuno bod Llywodraeth Cymru yn gwneud y peth iawn drwy gyflwyno hwnnw, a byddwn wedi meddwl, ar faterion megis contractau dim oriau, y gellid ac y dylid bod wedi gwneud yr un fath, a byddwn yn gobeithio y byddai hynny’n cael ei adlewyrchu yn y modd y byddwch yn gweithredu yn y pum mlynedd nesaf yma yn y Cynulliad hwn.
Mae’r cynnydd dramatig yn nifer y contractau dim oriau yng Nghymru yn amlygu gwendid record Llafur ar ddiogelu hawliau gweithwyr yng Nghymru, ac yn arwydd cryf fod cyflogaeth ansicr a chyflogau isel yn dod yn nodwedd fwy amlwg o’r farchnad swyddi yma yng Nghymru.
Credwn fod angen i lwyddiant a lles gweithwyr ar draws Cymru fod yn absoliwt os ydym am wella ein heconomi. Nid ydym yn credu yn y ras i’r gwaelod ac nid ydym yn derbyn y dylai ein gweithwyr gael eu gorfodi i fyw gydag ansicrwydd ariannol. Ystyriwn ei bod yn warthus na all pobl weithgar yng Nghymru gael dau ben llinyn ynghyd am nad oes ganddynt unrhyw syniad a fyddant yn cael eu talu o un wythnos i’r llall. Rydym am weld Cymru lle y caiff gwaith ei wobrwyo’n briodol ac yn deg, lle y mae wythnos waith neu fis gwaith yn darparu digon i rywun i fyw arno a’r sefydlogrwydd a’r sicrwydd i allu cynllunio ymlaen llaw yn ariannol. Mae’n rhaid i ni ddechrau drwy wneud yr ymrwymiadau hyn yma fel Cynulliad, ac rwy’n annog yr Aelodau i gefnogi ein gwelliannau yma heddiw.
Galwaf ar Russell George i gynnig gwelliant 2, a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Russell George.
Gwelliant 2—Paul Davies
Dileu pwyntiau 2, 3 a 4 a rhoi yn eu lle:
Yn nodi bod arferion cyflogaeth yn newid yn gyflym, gan gynnwys cynnydd mewn contractau dim oriau, hunangyflogaeth a gwaith 'gig' tymor byr.
Yn cydnabod y gwaith a wnaed gan Lywodraeth y DU i gael gwared ar achosion o gamddefnyddio contractau dim oriau, gan gynnwys gwahardd cymalau cyfyngu.
Yn croesawu'r ffaith bod Llywodraeth y DU wedi comisiynu Adolygiad Taylor ar Arferion Cyflogaeth Modern a fydd yn ystyried goblygiadau mathau newydd o waith i hawliau a chyfrifoldebau gweithwyr.
Diolch, Lywydd. Rwy’n cynnig gwelliannau’r Ceidwadwyr Cymreig yn ffurfiol yn enw Paul Davies, a’u hamcan yw cydnabod y gwaith helaeth a wnaed gan Lywodraeth y DU ar gontractau dim oriau, realiti nad yw, wrth gwrs, wedi’i adlewyrchu yn y cynnig.
Hoffwn wneud rhai pwyntiau a rhoi rhai o’r materion mewn persbectif yn y ddadl hon heddiw. Un peth i’w gydnabod yw bod arferion cyflogaeth wedi newid yn gyflym, wrth gwrs, yn y blynyddoedd diwethaf ac mae llai na 3 y cant o gyfanswm y gweithlu ar gontractau dim oriau. Ers 2010, mae cyflogaeth wedi cynyddu bron i 3 miliwn; mae hynny’n rhywbeth y credaf y gall pawb ei ddathlu. Fe nododd ac fe ddathlodd arweinydd y tŷ y ffaith honno yn y ddadl ddiwethaf y prynhawn yma wrth gwrs. Nawr, mae tri chwarter y cynnydd hwn wedi bod mewn cyflogaeth amser llawn; cafwyd cynnydd o 2 filiwn ers 2010 yn nifer y bobl sy’n gweithio amser llawn. Wrth gwrs, er nad ydynt yn addas i bawb, byddwn yn dadlau bod rhan gan gontractau dim oriau i’w chwarae mewn marchnad lafur hyblyg fodern, oherwydd i gyfran fach o’r gweithlu, efallai mai dyna’r math o gontract sy’n iawn iddynt hwy, os ydynt am strwythuro eu gwaith o amgylch gofal plant neu addysg, er enghraifft.
Nawr, ar gyfartaledd, mae’r bobl ar y contractau hyn—
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Iawn, fe wnaf.
Diolch. Os edrychwch ar y data ar gyfer y rhai sydd ar gontractau dim oriau, a fyddech yn cytuno bod nifer yn gwneud dwy neu dair o swyddi ac yn ceisio gweithredu ar y sail honno, ac nid yw llawer ohonynt yn ei wneud o ddewis—maent yn ei wneud am mai dyna’r unig beth sydd ar gael iddynt?
Nid wyf yn credu y byddwn yn cytuno â hynny, oherwydd, ar gyfartaledd, mae pobl ar y contractau hyn yn gweithio cyfartaledd o 25 awr yr wythnos. Nid yw bron 70 y cant o’r bobl hyn eisiau mwy o oriau. Felly, dyna beth y byddwn i’n ei ddweud.
Mae’r Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu wedi dweud y gall y contractau hyn fod o fudd, wrth gwrs, i’r cyflogwr a’r gweithiwr. Nawr, wedi dweud hynny, mae’n amlwg yn bwysig sicrhau nad yw cyflogwyr diegwyddor yn camfanteisio ar y rhai sy’n elwa o hyblygrwydd y contractau hyn. Wrth gwrs fy mod yn cytuno â hynny. Felly, rwy’n croesawu’r ffaith fod Llywodraeth y DU eisoes wedi rhoi camau ar waith ac yn awr yn adolygu a yw’r rheolau cyflogaeth yn gyson â newidiadau yn yr economi, yn enwedig ar gyfer y rhai nad oes ganddynt berthynas gyflogaeth draddodiadol. Yn 2015 deddfodd Llywodraeth y DU dros newid mewn perthynas â chontractau dim oriau, ac mae bellach yn anghyfreithlon, wrth gwrs, i gyflogwyr gynnwys cymalau cyfyngu yn y contractau hyn. I mi, rwy’n credu bod hwnnw’n gam i’w groesawu sy’n golygu bod pobl yn rhydd i chwilio am, a manteisio ar gyfleoedd gwaith arall a chael mwy o reolaeth dros eu horiau gwaith a’u hincwm. Hefyd, gall unigolion ar y contractau hyn wneud cwyn i dribiwnlys cyflogaeth os ydynt yn dymuno, os yw’r cyflogwr yn eu yn cam-drin yn y ffordd honno, neu am chwilio am waith yn rhywle arall.
Nawr, mae adolygiad annibynnol Taylor ar arferion cyflogaeth modern o dan arweiniad prif weithredwr Cymdeithas Frenhinol y Celfyddydau a’r cyn uwch-ymgynghorydd Llafur, Matthew Taylor, yn ystyried contractau dim oriau ymhellach a bydd yn asesu a yw ein rheolau cyflogaeth yn gyson â’r newidiadau yn yr economi, megis twf mewn hunangyflogaeth, gweithio ar alwad a’r arfer o gontractio yn hytrach na llogi. Felly, wrth gwrs, rwy’n gobeithio—rwy’n gobeithio—y bydd yn gwneud argymhellion ynglŷn â sut i gynnal yr hyblygrwydd cyflogaeth, sy’n hanfodol yn fy marn i ar gyfer economi fodern, ac ar yr un pryd yn cefnogi sicrwydd swydd, hawliau yn y gweithle a chyfleoedd. Rwy’n meddwl y gellir cyflawni hynny. Felly, rwy’n credu ei bod yn iawn i edrych ar sut y caiff y cytundebau hyn eu defnyddio’n ymarferol, a mynd i’r afael ag unrhyw dystiolaeth o broblemau neu gamdriniaeth. Dyna fyddai fy marn i, a dyna’n union y credaf y mae adolygiad Taylor yn ei wneud, ac rwy’n cefnogi’r ymagwedd honno.
Rwy’n croesawu’n fawr y cyfle i gymryd rhan mewn dadl ar amodau gwaith a chyflogau. Y rheswm dros fodolaeth y Blaid Lafur a pham y cafodd ei ffurfio yn y dechrau oedd i amddiffyn gweithwyr rhag camfanteisio.
O ran cyflogaeth, mae pethau wedi newid, ac nid er gwell, i’r rhan fwyaf o weithwyr dros y 40 mlynedd ddiwethaf. Yn y 1970au, y disgwyl oedd cyflogaeth amser llawn, naill ai am dâl neu gyflog mewn swydd, os nad am oes, yna hyd nes y byddech yn dymuno symud ymlaen. Roedd y rhan fwyaf o gyflogwyr mawr yn gwbl undebol, gyda chyfraddau goramser ar amser a hanner a thâl dwbl ar gyfer dydd Sul, ac os oedd yn rhaid i chi weithio sifftiau rheolaidd, roedd yna dâl sifft atodol, a oedd oddeutu 30 y cant o’r cyflog sylfaenol yn gyffredinol. Mae’n debyg y bydd yn syndod i lawer iawn o bobl sy’n gweithio heddiw fod amodau o’r fath yn bodoli, yn sicr o fewn oes llawer ohonynt.
Yn ogystal â dinistrio diwydiannau cyfan, aeth y Llywodraeth Geidwadol ati i wneud y farchnad lafur yn fwy ysbeidiol. Fe’i disgrifiwyd fel gweithlu hyblyg, ond yr hyn a olygai oedd telerau ac amodau gwaeth ar gyfer y gweithlu. Hyn, ochr yn ochr â’r ymosodiad milain ar gydfargeinio a’r undebau llafur, sydd wedi arwain at yr amodau cyflogaeth sy’n bodoli heddiw. Heddiw, mae’r byd gwaith yn wahanol iawn i un y 1970au, gyda thwf contractau dim oriau neu gontractau oriau isel gwarantedig, yn ogystal â nifer fawr o weithwyr asiantaeth ac isgontractwyr hunangyflogedig.
Ceir rhannau o’r economi lle y mae pob un o’r rheini’n addas i gyflogwyr a gweithwyr: ar gyfer contractau dim oriau, pethau fel digwyddiadau chwaraeon afreolaidd, fel y bobl sy’n gweithio y tu ôl i’r bar yn Stadiwm Liberty unwaith bob pythefnos. Nawr, mae hynny’n amlwg yn mynd i fod yn afreolaidd am nad ydynt ond yn chwarae yno unwaith bob pythefnos. Byddai’n afresymol i unrhyw un ddisgwyl i honno fod yn swydd amser llawn—i bobl ddod yno am 35 awr, neu hyd yn oed bob dydd Sadwrn, pan nad oes gêm ond unwaith bob pythefnos. Ond cânt eu defnyddio’n llawer ehangach nag mewn llefydd fel hynny. Mae contractau dim oriau yn gweithio ar gyfer pethau felly. Ac mae gweithwyr asiantaeth yn llenwi bwlch sgiliau. Yn wir, arferai gweithwyr asiantaeth fod yn bobl y telid llawer o arian iddynt mewn meysydd fel peirianneg a chyfrifiadureg, telid symiau sylweddol o arian iddynt am wneud y gwaith. Yn anffodus, mae hynny wedi newid. Ac isgontractwyr hunangyflogedig ar gyfer anghenion tymor byr, ac oriau isel gwarantedig i gyd-fynd â chyfrifoldebau gofalu. Yn anffodus, nid dyna’r unig reswm y caiff y mathau uchod o gontractau eu defnyddio.
Gall contractau dim oriau, nad ydynt yn cynnig unrhyw leiafswm oriau gwarantedig o waith, ei gwneud yn ofynnol i weithiwr fod ar gael i weithio ar bob adeg a rhoi rheolaeth lwyr i gyflogwr dros faint o waith y bydd pob gweithiwr yn ei gael bob wythnos. Dyma fersiwn yr unfed ganrif ar hugain o’r docwyr yn gorfod ciwio i gael eu galw ar gyfer gwaith, ond nad oes rhaid i chi giwio mwyach, rhaid i chi aros am neges destun yn lle hynny. Ond dyma’r un broses, i bob pwrpas, o aros am alwad i weithio gan eich cyflogwr. Mae oriau isel gwarantedig, sy’n gyffredin iawn mewn meysydd fel manwerthu, o un awr y dydd dros gyfnod o bump neu chwe diwrnod, yn debyg iawn i gontractau dim oriau, ond mae’n rhaid i bawb glocio i mewn, am 8 o’r gloch neu 9 o’r gloch, fel y gall y cyflogwr benderfynu pa mor hir y bydd angen iddynt weithio. Mae hyn, mewn sawl ffordd, yn achosi mwy o broblemau na chontractau dim oriau hyd yn oed, am nad yw pobl yn gwybod faint o arian y maent yn mynd i’w ennill bob wythnos, ac mae hynny’n achosi problemau enfawr—mae’n rhan o’r galw am fanciau bwyd, rhan o’r galw am bopeth. Un wythnos bydd pobl yn gweithio 40 awr, yr wythnos nesaf, byddant yn gweithio eu lleiafswm o chwech. Ni allwch fyw fel hynny. Mae’n hawdd i’r bobl sy’n eistedd yma, sy’n cael eu cyflog wedi’i dalu bob mis, fethu deall yn union pa mor ddrwg yw hi ar y bobl hynny sy’n byw bywydau fel hyn. Ar rai dyddiau byddant yn mynd i mewn ac yn gweithio un awr, o wyth i naw yn y bore, ac ar ddiwrnod arall byddant yn gweithio wyth tan naw, ond naw yn y nos fydd hynny. Ac yn lle rhannu’r gost o lwyth gwaith amrywiol rhwng y cyflogwr a’r gweithiwr, caiff ei hysgwyddo’n llwyr gan y gweithiwr. Mae gan weithwyr asiantaeth ac isgontractwyr hunangyflogedig yr hyn sy’n cyfateb i gontractau dim oriau, ond heb isafswm cymorth cyflogaeth hyd yn oed. Mae’r uchod yn esbonio pam y mae’r rhan fwyaf o’r bobl sy’n byw mewn tlodi yng Nghymru hefyd yn gweithio.
Os caf fi ddweud, o 1 Ebrill 2016, fe ailenwodd y Llywodraeth Geidwadol yn San Steffan yr isafswm cyflog yn ‘gyflog byw’, a chyflwyno cyflog byw cenedlaethol gorfodol ar gyfer gweithwyr 25 oed a hŷn. Rwy’n credu ei fod wedi cael ei wneud er mwyn peri dryswch yn y bôn. Ailenwi’r isafswm cyflog yn ‘gyflog byw’ pan oedd gennym gyflog byw eisoes. Rwy’n falch iawn o wisgo’r bathodyn cyflog byw yma heddiw—bathodyn y cyflog byw go iawn—ac ni allaf ddeall pam y byddai unrhyw un yn cefnogi talu llai i bobl nag y mae’n costio iddynt fyw. Rwy’n credu y dylid talu cyflog byw i bawb, fel y’i diffinnir gan y Sefydliad Cyflog Byw. Nid wyf yn credu ei bod yn synhwyrol i Lywodraeth orfodi isafswm cyflog y mae hi ei hun yn gwybod nad yw’n ddigon i bobl fyw arno—
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Nid oes gennyf ond 17 eiliad, yn anffodus, Darren. Dylem gael uchelgais i greu Cymru ag economi sgiliau uwch a chyflogau uchel, a dylai ddod yn wlad cyflog byw. Dyna sydd yn rhaid i ni ei wneud. Mae ‘Ni allwn ei fforddio’ a ‘Bydd yn arwain at golli swyddi’ wedi bod yn ddadleuon yn erbyn pob newid blaengar o ddiddymu caethwasiaeth i’r isafswm cyflog.
Anghofiais alw gwelliant, felly gwell hwyr na hwyrach, galwaf ar y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth i gynnig gwelliant 6 yn enw Jane Hutt yn ffurfiol.
Gwelliant 6—Jane Hutt
Ychwanegu pwyntiau newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn cydnabod y camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i ymdrin â'r defnydd o gontractau dim oriau mewn gofal cymdeithasol.
Yn croesawu gwaith Cyngor Partneriaeth y Gweithlu yn y maes hwn, a arweiniodd at gyhoeddi egwyddorion a chanllawiau Comisiwn Staff y Gwasanaethau Cyhoeddus ar ddefnyddio trefniadau oriau gwaith heb eu gwarantu yn briodol yng ngwasanaethau cyhoeddus datganoledig Cymru.
Yn ffurfiol.
Diolch. Caroline Jones.
Diolch, Lywydd. Gan siarad fel Comisiynydd Cynulliad, hoffwn ei gwneud yn glir nad oes unrhyw un o staff y Comisiwn ar gontract dim oriau—mae hwnnw’n bolisi hirsefydlog. Mae’r un peth yn berthnasol i’r staff a gyflogir yn uniongyrchol gan ein contractwyr megis CBRE, Charlton House a TSS. Yn ogystal, mae’r Comisiwn yn nodi bod yn rhaid talu o leiaf y cyflog byw i weithwyr, fel yr argymhellwyd gan y Sefydliad Cyflog Byw, yn ein contractau glanhau ac arlwyo a chymalau cydraddoldeb yn ein telerau ac amodau contract. Mewn amgylchiadau eithriadol, gallai ein contractwyr ddefnyddio staff trydydd parti ar gontractau dim oriau. Fodd bynnag, eithriad yn hytrach na’r rheol yw hyn i raddau helaeth iawn.
Fel Comisiynwyr, rydym i gyd yn credu y dylem fod yn hyrwyddo ac yn cynnal safonau uchel cyson yn ein harferion cyflogaeth, fel cyflogwr ein staff ein hunain ac wrth ymrwymo i gontractau. Mewn cyfarfod diweddar o’r Comisiwn, gofynnodd y Comisiynwyr i swyddogion edrych eto ar ein dull o geisio sicrwydd ynglŷn â threfniadau cyflenwyr o ran telerau ac amodau gweithwyr, gan gynnwys drwy ein hisgontractwyr. O ganlyniad, rydym yn cyflwyno cymal ychwanegol i’n telerau ac amodau, yn nodi y byddwn yn gweithio gyda chontractwyr i fonitro a sicrhau arferion cyflogaeth teg. Y tu hwnt i hyn, bydd staff y Comisiwn yn ystyried, ar sail contractau unigol, pa gymalau penodol ychwanegol i’w cyflwyno i helpu i ddiogelu a hyrwyddo arferion cyflogaeth teg. Diolch yn fawr.
Yr wythnos diwethaf ymwelais â fy swyddfa ddidoli’r Post Brenhinol yn lleol, ac roedd yr holl siarad am y ffordd y mae cwmnïau preifat yn bwyta i mewn i’r rhannau proffidiol o’u busnes, tra’u bod yn parhau i fod dan rwymedigaeth i ddarparu’r gwasanaeth post cyffredinol. Nid oes unrhyw rwymedigaeth ar yr ysglyfaethwyr hyn i gydymffurfio â’r tâl a’r amodau y mae gweithwyr y Post Brenhinol wedi brwydro drostynt dros y blynyddoedd, ac yn anffodus, maent yn camfanteisio ar nifer fawr o bobl ifanc ddi-waith a thlawd drwy gynnig pecynnau cyflogaeth sy’n llawer mwy israddol na’r hyn a gynigir yn gyfatebol gan y Post Brenhinol. Cânt eu talu yn ôl nifer y pecynnau y cânt wared arnynt, ni waeth a oes unrhyw un adref, neu le diogel i adael y parsel. Esboniodd darparwr a fu’n gweithio dan gudd i TNT,
Gwrthodwyd unrhyw oriau gwaith sefydlog i mi, a chefais fy ngorfodi i hwrjo am waith y diwrnod wedyn ar sail ddyddiol bron. Weithiau mentrais ddod i mewn fel "gweithiwr cyflenwi", gan gyrraedd y depo am 7.30 y bore yn y gobaith y byddai rhywun wedi rhoi’r gorau iddi er mwyn i mi gael eu rowndiau.
Wrth gwrs, hyd yn oed os nad oeddent yn cael y gwaith, byddai’n rhaid iddynt dalu am drafnidiaeth i gyrraedd y gwaith.
Mae hyn yn atgoffa rhywun yn glir o ansicrwydd gweithwyr y dociau yn hanner cyntaf yr ugeinfed ganrif, gweithwyr a gâi eu gorfodi i gystadlu â’i gilydd bob dydd am y cyfle i gael gwaith, gyda’r holl effaith niweidiol a gâi hynny ar eu hincwm teuluol a’u bywyd teuluol. Mae cwmnïau fel Amazon yn camfanteisio ar y rhwymedigaeth gyffredinol i ddosbarthu er mwyn dadlwytho’r rowndiau dosbarthu lleiaf deniadol ar y Post Brenhinol, gan ddewis a dethol ar yr un pryd y rowndiau dosbarthu hawsaf a mwyaf crynodedig, a chan ddefnyddio proses fonitro perfformiad y Post Brenhinol ei hun i fonitro pa mor gyflym y dosbarthwyd parseli Amazon er mwyn nodi’r mannau lle y gallant elwa fwyaf. Gallwch fod yn sicr y bydd holl yrwyr dosbarthu Amazon ar gontractau dim oriau.
A bod yn onest, mae hwn yn fodel busnes anghynaliadwy i’r Post Brenhinol, a dylem i gyd boeni y bydd, yn y pen draw, yn arwain at danseilio rhwymedigaeth gyffredinol y gwasanaeth post sydd, os cofiwch, yn dod i ben yn 2022. Os yw cymdeithas yn mynd i barhau i wybod pris popeth a gwerth dim byd, dyna sy’n mynd i ddigwydd, yn ddi-os.
Yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol, gwelwyd y cwymp mwyaf estynedig ers 70 mlynedd mewn cyflogau real o dan y drefn hon. Yn ôl yr hyn a ddywedant, mae dros 400,000 o bobl dros 25 oed wedi bod ar gontractau dim oriau gyda’r un cyflogwr ers dros 12 mis. O ystyried pa mor gyson y maent wedi bod yn dod i’r gwaith, mae’r lefel hon o ansicrwydd yn gwbl annerbyniol yn fy marn i. Mae Sefydliad Resolution yn nodi mai 93c yr awr yw’r gosb i weithwyr dim oriau sy’n gwneud yr un gwaith â’r rhai ar gontractau parhaol. Felly, hoffwn awgrymu bod yn rhaid i ni atgoffa ein hunain fod gweithwyr yn y DU ar hyn o bryd yn dibynnu ar ddeddfwriaeth yr UE am lawer o hawliau a mesurau diogelu yn y gwaith. Ac er bod Llywodraeth y DU wedi addo y bydd hawliau o’r fath yn cael eu trosglwyddo i gyfraith Prydain, mae’n rhaid i ni atgoffa ein hunain fod y Ceidwadwyr wedi gwrthwynebu llawer o’r hawliau a’r mesurau diogelu hyn yr ymdrechwyd mor galed i’w hennill pan gawsant eu cyflwyno gyntaf ac wedi eu diystyru fel biwrocratiaeth.
Nawr, mae UKIP, sydd wedi cynnig y cynnig hwn, fel y nododd Jeremy Miles, wedi dweud yn y gorffennol y byddent yn rhoi diwedd ar y rhan fwyaf o’r ddeddfwriaeth sy’n ymwneud â materion fel oriau gwaith wythnosol, gwyliau a gwyliau goramser, tâl diswyddo neu salwch, ac yn darparu templed contract cyflogaeth statudol, safonol, tymor byr iawn. Dyna oedd yn eich maniffesto busnesau bach yn 2013, felly rwy’n awyddus iawn, wrth i chi grynhoi, i gael gwybod beth yw graddau eich tröedigaeth Ddamascaidd a—[Torri ar draws.] Wel, dyna ydoedd mewn—. Wel, dyna—.
Felly, mewn ymateb i Bethan Jenkins, nid wyf yn cytuno mai Plaid Cymru yn unig a gynigiodd gontractau dim oriau. Hoffwn eich atgoffa, yn etholiad 2015, fod y Blaid Lafur wedi addo hawl gyfreithiol i weithwyr i gontract rheolaidd ar ôl 12 wythnos o waith. Ym mis Awst y llynedd, addawodd Jeremy Corbyn gyflwyno deddfau tebyg i’r hyn sydd gan Seland Newydd yn gorfodi cyflogwyr i roi oriau gwarantedig mewn contract ysgrifenedig i weithwyr. Mae Seland Newydd yn dangos yr hyn y gellir ei wneud, ac mae’r gyfraith yn gorfodi cyflogwyr i warantu isafswm o oriau o waith bob wythnos, a gall gweithwyr wrthod oriau ychwanegol heb ôl-effeithiau. Nid dyna’r sefyllfa i weithwyr dim oriau yn y wlad hon wrth gwrs. Yn anffodus, Canol Caerdydd sydd â’r gyfran uchaf o weithwyr dim oriau yn unrhyw le yng Nghymru. Os yw pobl hyd yn oed yn cwestiynu’r math o oriau y maent yn eu gweithio, gwrthodir sifftiau iddynt neu fygwth torri eu horiau. Mae’r lefel hon o hyglwyfedd ac ansicrwydd yn achosi problemau iechyd meddwl mawr, yn ogystal â chaledi gwirioneddol, gan nad oes modd i bobl wybod a yw eu cyflogau’n mynd i fod yn ddibynadwy, ac a ydynt yn mynd i allu talu’r cyflogau yr wythnos ganlynol. Felly, rwy’n meddwl bod angen diddymu contractau dim oriau.
Mae mater contractau dim oriau yn un mawr i lawer o bobl yn y farchnad swyddi yng Nghymru; felly, rwy’n croesawu’r ddadl a gyflwynwyd heddiw gan fy nghyd-Aelod David Rowlands. Polisi UKIP ledled y DU, fel yr amlinellwyd ym maniffesto etholiad cyffredinol 2015, yw rhoi terfyn ar gamddefnyddio contractau dim oriau. Nid ydym yn galw heddiw am waharddiad llwyr gan ein bod yn cydnabod y gall rhai gweithwyr gael budd ohonynt, ond i’r rhan fwyaf o weithwyr mae’r contractau hyn yn creu rhyw fath o ansicrwydd a phryder. Felly, mae angen i ni archwilio a oes unrhyw ffordd o fynd i’r afael â’r mater hwn drwy’r Cynulliad.
Mae un cwestiwn perthnasol yn y cyswllt hwn yn ymwneud â chymhwysedd cyfreithiol. A oes unrhyw ran o gyfraith cyflogaeth yn dod yn briodol o fewn cymhwysedd y Cynulliad? Mae’r farn i’w gweld yn amrywio ar y pwynt hwn, ond gyda Llywodraeth Cymru yn ceisio treialu Bil yr Undebau Llafur (Cymru) drwy’r Cynulliad ar hyn o bryd, byddwn yn bwrw ymlaen heddiw ar sail y sicrwydd y mae’r Gweinidog cyllid, Mark Drakeford, wedi’i roi: fod gan y Cynulliad gymhwysedd dros gyflogaeth yn y sector cyhoeddus; er, mewn gwirionedd, efallai nad yw’r achos hwnnw wedi’i brofi. Felly, os yw’n wir fod gan y Cynulliad gymhwysedd yn y maes hwn, yna mae lle i ddeddfwriaeth yn y lle hwn ar gontractau dim oriau. Yna, rhaid i ni sefydlu’r canlynol: un, a oes camddefnydd eang o gontractau dim oriau gan gyflogwyr? Dau, a yw’r camddefnydd hwn yn digwydd yng Nghymru ac yn y sector cyhoeddus? A thri, beth y dylem ei wneud i fynd i’r afael â’r broblem hon os yw’n bodoli?
Roedd arolwg a gynhaliwyd yn 2013 gan y Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu yn holi cyflogwyr ynglŷn â’u defnydd o gontractau dim oriau. Dywedodd un o bob pump o’r ymatebwyr eu bod yn defnyddio contractau dim oriau er mwyn osgoi costau i’w cwmni eu hunain, yn hytrach nag er budd y gweithiwr. Roedd tystiolaeth hefyd, pan gafodd hawliau cyflogaeth eu cryfhau i weithwyr asiantaeth, fod cyflogwyr wedi dechrau cyfyngu ar eu defnydd o gontractau asiantaeth o blaid mwy o ddefnydd o gontractau dim oriau.
Ceir tystiolaeth hefyd fod hyn yn digwydd yn y sector cyhoeddus. Yn 2015, cyflwynodd Llywodraeth Cymru bapur ymchwil yn ymchwilio i’r defnydd o gontractau dim oriau yn y sector cyhoeddus yng Nghymru. Canfu fod 56 y cant o sefydliadau yn y sector cyhoeddus yn defnyddio contractau dim oriau, er i ni gael ein sicrhau nad oedd Llywodraeth Cymru ei hun yn gwneud hynny. Ysywaeth, 18 mis yn ddiweddarach, cafodd yr honiad ei wrthbrofi wrth i BBC Cymru ddatgelu bod glanhawyr nos ym Mharc Cathays ar gontractau dim oriau. Daeth hyn yn fuan ar ôl ffrae am Gyngor Sir Fynwy yn cyflogi 320 o bobl ar gontractau dim oriau.
Hefyd ceir problem mewn perthynas â chwmnïau sy’n cyflwyno tendrau llwyddiannus am gontractau gyda chynghorau. Yn aml, mae gan gynghorau yng Nghymru bolisïau i beidio â dyfarnu contractau i gwmnïau sy’n defnyddio contractau dim oriau, ond yn aml, nid yw hyn ond yn berthnasol i brif gontractwyr. Bydd y prif gontractwyr hyn yn defnyddio isgontractwyr sydd, mewn llawer o achosion, yn defnyddio contractau dim oriau fel mater o drefn. Felly, mae angen archwilio hyn hefyd. Os yw Llywodraeth Cymru yn mynd i amddiffyn hawliau undebau llafur, fel y maent yn ei argymell ar hyn o bryd, yna efallai y gallant hefyd edrych eto ar yr ochr arall i’r geiniog, sef gweithwyr sy’n gweithio’n anfoddog ar gontractau dim oriau yn y sector cyhoeddus yng Nghymru. Diolch.
Diolch yn fawr iawn, Lywydd, am fy ngalw i siarad yn y ddadl hon. Rhaid i mi ddechrau drwy ddweud fy mod yn credu ei bod yn eironig fod UKIP wedi cyflwyno’r ddadl hon. Pan feddyliwch am y gwelliannau sylweddol enfawr mewn cydraddoldeb cyflog, diogelwch rhag gwahaniaethu, gofal plant, absenoldeb rhiant, gofal am fenywod beichiog a gofal am famau newydd y mae aelodaeth o’r Undeb Ewropeaidd wedi eu rhoi i ni, a’r ffaith y bydd gadael yr Undeb Ewropeaidd yn peryglu’r holl welliannau gwych hynny, rwy’n credu ei bod yn eironig iawn fod UKIP wedi cyflwyno’r ddadl hon heddiw.
Roeddwn eisiau defnyddio’r cyfle i edrych ar berfformiad y gwasanaethau cyhoeddus datganoledig yn y maes hwn. Daeth i fy sylw fod llawer o ddefnydd yn rhai o’n cyrff hyd braich o’r hyn y maent yn eu galw’n ‘oriau cyfun’—neu fod ‘yn y gronfa’, fel y defnyddir yr ymadrodd. Deallaf fod o leiaf 40 aelod o staff Amgueddfa Genedlaethol Cymru yn y gronfa, sy’n debyg iawn i fod ar gontract dim oriau. Roeddwn yn awyddus iawn i dynnu sylw at hynny yma, oherwydd gwn fod Llywodraeth Cymru wedi ymdrechu’n galed i fynd i’r afael â’r math hwn o beth gyda’r canllawiau y mae wedi’u rhoi, ond roeddwn am dynnu sylw at rai o’r problemau y mae hyn yn ei achosi. Oherwydd nid oes gan staff ar gontractau o’r fath hawl i unrhyw fath o dâl salwch, er bod y rhan fwyaf o’r staff ar oriau rhan-amser fan lleiaf ac eraill bron ar oriau amser llawn, ac rwy’n gwybod bod yna ddiwylliant o staff yn teimlo bod yn rhaid iddynt ddychwelyd i’r gwaith yn fuan ar ôl salwch am eu bod yn poeni am ddiffyg tâl, a hefyd yn poeni am sicrwydd swydd a chael eu hystyried yn annibynadwy. Rwyf hefyd yn deall, wrth dderbyn contract oriau cyfun, fod staff i fod i gael gwybod y gallant wneud cais am gontract ffurfiol ar ôl tri mis. Ond hoffwn gael gwybod a yw staff yn cael gwybod y cânt wneud hyn ar ôl tri mis mewn gwirionedd, ac a ydynt yn cael gwybod am unrhyw swyddi gwag sydd ar y ffordd. Oherwydd mae’n ymddangos bod cyn lleied o bobl ar gontractau amser llawn fel bod pryderon nad oes digon o staff i wneud gwiriadau penodol mewn rhai o’r cyrff hyd braich. Y broblem fawr arall, rwy’n meddwl, yw nad yw staff ar gytundebau oriau cyfun yn derbyn fawr iawn o hyfforddiant, gan gynnwys—os meddyliwch pa mor bwysig yw peth ohono—hyfforddiant diogelwch tân.
Rwy’n credu ei fod wedi’i ddweud yma’n gyffredinol eisoes am y problemau enfawr sy’n wynebu pobl mewn ansicrwydd o’r fath, am y lefelau straen, a’r anallu i gael morgais. Rwy’n gwybod bod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllawiau i bob gwasanaeth cyhoeddus datganoledig yng Nghymru sy’n cynnwys y gallu i staff ofyn am adolygiad o’u trefniadau gweithio gyda golwg ar newid eu contract os ydynt wedi bod yn gweithio oriau rheolaidd, er enghraifft, a allai fod cyn lleied â phedair awr yr wythnos dros gyfnod parhaus o dri mis. Yn ogystal, mae’r canllawiau hyn yn dweud y dylid pennu rheolwr llinell a enwir i’r staff, dylai staff allu cymryd gwyliau blynyddol a dylai fod gweithdrefnau clir i adael i staff symud i rolau parhaol a/neu wneud cais am swyddi gwag parhaol lle y ceir cyfleoedd i wneud hynny.
Felly, rwy’n credu ei fod yn bwysig iawn. Rwy’n gwybod bod y Llywodraeth wedi ymrwymo i fynd ar drywydd yr agenda hon mewn gwasanaethau cyhoeddus datganoledig, ond rwy’n meddwl ei bod yn bwysig canfod a yw cyrff sy’n cael eu hariannu o bwrs y wlad yn dilyn y canllawiau hyn, ac nad ydynt yn dibynnu fwyfwy ar aelodau o staff yn y gronfa. Roeddwn yn meddwl tybed a geir mecanweithiau i’r Llywodraeth allu gwirio beth sy’n digwydd mewn cyrff o’r fath. Rwy’n siŵr y bydd y Gweinidog, wrth iddi gyfrannu, yn dweud ei bod yn flaenoriaeth fod y bobl sy’n gweithio yn y gwasanaethau cyhoeddus datganoledig yn cael eu trin yn deg ac yn gyfartal yn y gweithle.
Yn y datganiad ysgrifenedig gan Lywodraeth Cymru ym mis Rhagfyr, pwysleisiwyd y disgwyliad clir na ddylid defnyddio trefniadau oriau heb eu gwarantu heblaw mewn amgylchiadau wedi’u diffinio’n glir ac yn fanwl, ac na ddylai eu defnydd fod yn benagored. Gan gadw mewn cof y gallai rhai o’r cyrff cyhoeddus a gyllidir gennym fod yn defnyddio oriau heb eu gwarantu ar hyn o bryd, tybed a ddylai fod cynnig i ddwyn ymlaen yr adolygiad y mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol wedi dweud ei fod yn bwriadu ei gynnal yn 2018 i weld a yw canllawiau Comisiwn Staff y Gwasanaethau Cyhoeddus yn cael eu gweithredu.
Felly, rwy’n awyddus i ddefnyddio’r cyfle hwn i dynnu sylw at y materion hyn a allai fod yno yn y cyrff datganoledig hyn ac yn gobeithio y gall y Llywodraeth fwrw golwg i weld pa gynnydd sy’n cael ei wneud. Diolch.
Mae contractau dim oriau wedi bod o gwmpas ers amser hir, ac wedi bod o fudd i gyflogwyr a gweithwyr gyda’u hyblygrwydd. Fodd bynnag, ers 2004, gwelwyd cynnydd enfawr yn nifer y contractau dim oriau. Felly, pam y cynnydd?
Mae cyflogwr sy’n ymateb i ddeddfwriaeth newydd yn debygol o ofyn, ‘A yw’n berthnasol i mi ac os felly, sut y gallaf ei hosgoi a sut y gallaf leihau ei chost?’ Mae rhai o’r bobl a oedd o blaid aros yn yr UE yn honni mai dim ond yr UE sy’n diogelu hawliau gweithwyr. Wel, mae gennyf newyddion i chi: mae cyfarwyddebau cyflogaeth yr UE yn destun blynyddoedd o ymgynghori. Mewn geiriau eraill, mae lobïwyr sy’n cael eu cyflogi gan ddiwydiant yn gweithio’n galed i ymgorffori eithriadau a thyllau ynddynt, megis cyfnodau cymhwyso. Nid yw cyfnodau cymhwyso mewn deddfwriaeth ond yn arwain at derfynu cyflogaeth gweithiwr cyn diwedd y cyfnod cymhwyso hwnnw.
Erbyn hyn mae gennym dri chategori o weithwyr: cyflogeion, yr hunangyflogedig a thrydydd cysyniad yn y canol, sef gweithiwr, diolch i’r UE i raddau helaeth—ac mae gan bob un ystod eang o hawliau ynghlwm wrth eu categori. Mae’r categori y bydd gweithiwr yn perthyn iddo yn pennu hyd a lled ei hawliau. Ysgogiad mawr i’r cynnydd mewn contractau dim oriau a chamddefnyddio contractau cyflogaeth yw awydd cyflogwyr i leihau’r posibilrwydd y caiff gweithiwr ei ystyried yn gyflogai. Ysgogiad arall yw awydd cyflogwyr i sicrhau bod unrhyw gostau sy’n gysylltiedig â hawliau rhai nad ydynt yn gyflogeion yn cael eu lleihau.
Mae’r tribiwnlys apelau cyflogaeth yn ymwybodol o’r mater gwleidyddol hwn a dywedodd, yn 2007, y bydd byddinoedd o gyfreithwyr yn mynd ati i osod cymalau amnewid, neu gymalau’n gwadu unrhyw rwymedigaeth i dderbyn neu ddarparu gwaith mewn contractau cyflogaeth.
O ganlyniad, mae’r tribiwnlys apelau cyflogaeth wedi dweud mai ar realiti’r berthynas waith y byddant yn edrych, nid geiriad y contract, am eu bod yn ymwybodol y bydd cyflogwyr yn mynd ati i newid telerau cytundebau eu gweithwyr mewn ymateb nid yn unig i ddeddfwriaeth newydd, ond i gyfraith achosion sy’n deillio o’r tribiwnlys a mannau eraill. Efallai y bydd hyn yn gwneud bywyd yn anos i gyflogwyr, ond mae’n debygol mai eu hymateb i hyn yn syml fydd gweithio yn ôl telerau’r contract. O ganlyniad, mae llai o waith diogel a rheolaidd ar gael, sy’n symbol o’r contractau dim oriau gwaethaf.
Efallai y bydd y pleidiau gyferbyn yn awgrymu mwy o reoleiddio, gan arwain at fwyfwy o gymhlethdod. Mae’n sicr y bydd y chwith yn honni mai’r ateb yn syml yw gwahardd contractau dim oriau neu eu rheoleiddio allan o fodolaeth. Awgrymodd y Blaid Lafur yn adroddiad Pickavance 2014 y dylid cyflwyno deddfwriaeth yn gwahardd cyflogwyr rhag ei gwneud yn ofynnol i weithwyr fod ar gael i weithio. Ni fyddai deddfu yn y fath fodd yn gwneud dim ar wahân i annog y cyflogwr i wadu bod gweithiwr yn gyflogai a gwadu iddynt eu hawliau o ganlyniad i hynny. Roeddent hefyd yn argymell, ar ôl cyfnod o chwe mis—sydd i’w weld wedi’i ostwng i 12 wythnos bellach—ar gontract dim oriau, y dylai fod hawl gan weithiwr i gontract lleiafswm oriau.
Nawr, nid wyf yn mynd i feirniadu cymhelliant yr adroddiad a’r hyn y ceisiai’r awduron ei wneud—rwy’n siŵr fod ganddynt fwriadau da. Ond o ystyried sut y mae cyflogwyr wedi ymateb i wahanol ddeddfau cyflogaeth dros y blynyddoedd, pe bai’r DU yn rhoi hawl i gontract isafswm oriau ar ôl chwe mis, dyweder, rwy’n meddwl y gallwn gymryd yn ganiataol mai ychydig o weithwyr ar gontractau dim oriau a fyddai’n cael eu cyflogi ar ôl y cyfnod hwnnw. Yn yr un modd, mae pennu—fel yr argymhellir gan adroddiad Pickavance—y dylid seilio contract isafswm oriau ar yr oriau a weithir yn rheolaidd yn mynd i sicrhau y bydd gweithwyr yn cael llai o waith rheolaidd nag y maent yn ei gael yn awr, yn ystod y chwe mis cyntaf hwnnw.
Felly, efallai y bydd cymhlethu system sydd eisoes yn gymhleth a gwneud pobl yn fwyfwy dibynnol ar arbenigwyr, boed yn gwmnïau cyfreithiol neu undebau, yn dda i’r grwpiau hynny, ond nid i’r bobl y camfanteisir arnynt. Mae angen i ni gydbwyso manteision contractau dim oriau gyda’r angen am gyflogaeth gadarn, ddibynadwy. Mae cyflogwyr wedi bod yn camddefnyddio’u grym bargeinio cryfach, a phrin fod grym bargeinio gweithwyr yn bodoli bellach diolch i gyflenwad parod o staff wrth gefn a ddarperir drwy’r mewnfudo digyfyngiad sydd mor annwyl i’r pleidiau eraill.
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Na wnaf. Mae arnom angen deddfau cyflogaeth sy’n syml ac yn hygyrch—deddfau nad oes angen gradd yn y gyfraith i lywio drwyddynt. Mae arnom angen system dribiwnlysoedd sy’n hygyrch, yn syml ac yn rhad. Mae’r Ddeddf Dorïaidd gan y Llywodraeth ddiwethaf i gyflwyno ffioedd tribiwnlys gryn dipyn yn uwch, lle y mae rhywun sydd am wneud hawliad am ddiswyddiad annheg bellach yn gorfod talu £1,250 am y fraint o gael eu hawliau wedi’u diogelu, yn gwbl annerbyniol. Dylai pobl ifanc hefyd adael yr ysgol yn deall eu hawliau a’u rhwymedigaethau cyfreithiol sylfaenol fel gweithwyr, tenantiaid a chwsmeriaid.
Mae’r chwith wedi treulio’r 40 mlynedd ddiwethaf yn canmol eu hunain am gyflwyno neu gefnogi deddfau sy’n eu helpu i hedfan baner tosturi. Mae busnesau mawr yn cael yr hyn y maent ei eisiau beth bynnag, ac mae’r bobl ar y gwaelod heb unrhyw rym bargeinio yn gorfod byw gyda chyflogaeth lai diogel a chontractau dim oriau. Ni waeth pa mor dda y mae’r Blaid Lafur a’u cyd-deithwyr yn meddwl eu bod wedi gwneud drwy ychwanegu pob un o’r cyfreithiau hyn at y llyfr statud, nid yw’n ddim ond rhith. Wrth ei flas y mae profi pwdin, a gellir gweld canlyniadau polisïau Llafur a’r Ceidwadwyr ym maes cyflogaeth dros yr 20 mlynedd ddiwethaf, a’u hymrwymiad slafaidd i’r UE, yn y cynnydd eithafol o gontractau dim oriau, cyflogau isel ac amodau gwael. Diolch.
Rwy’n galw ar y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth, Julie James.
Diolch, Lywydd. Hoffwn ddiolch i’r Aelodau am eu cyfraniadau heddiw. Fel y mae’r rhan fwyaf o’r siaradwyr wedi nodi’n huawdl, gall contractau dim oriau osod pwysau aruthrol ar unigolion a’u teuluoedd. I’r rhai sy’n ennill bywoliaeth ar sail dim oriau, gall yr ansicrwydd a’r ansefydlogrwydd y maent yn gweithio ynddo bwyso’n drwm iawn ar eu bywydau.
Credaf yn gryf iawn fod sefydliadau sy’n dibynnu ar fodelau cyflogaeth sy’n trosglwyddo risgiau i unigolion a’u teuluoedd yn y ffordd hon yn gwneud cam â chymdeithas ac yn y pen draw yn gwneud cam â’u busnesau eu hunain yn ogystal, gan mai pobl yw’r hyn sy’n gwneud unrhyw fenter yn llwyddiant, boed yn fusnes cynhyrchu neu wasanaeth, uwch-dechnoleg neu weinyddol, neu sefydliad yn y sector preifat neu’r sector cyhoeddus. Pan nad yw unigolion mewn unrhyw sefydliad neu gwmni yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi neu eu parchu, nid oes neb yn ennill—fel unigolion nac fel sefydliad.
Rydym ni yn Llywodraeth Cymru wedi hen gydnabod effeithiau niweidiol defnydd amhriodol o gontractau dim oriau. Dyma pam yr ymrwymasom yn ein rhaglen lywodraethu i gyfyngu ar y defnydd o gontractau dim oriau ledled Cymru ynghyd ag arferion cyflogaeth gwael eraill. Rydym yn gweithio’n agos gyda’n partneriaid yn yr undebau llafur ar godi ymwybyddiaeth o fanteision clir iawn undebau llafur i gwmnïau a’u gweithwyr. I unigolion, mantais aelodaeth o undeb llafur yw cryfder cyfunol i allu gwrthsefyll arferion cyflogaeth gwael. I gwmni, mae perthynas effeithiol gyda gweithwyr drwy gydnabod undeb llafur yn arwain at weithlu mwy cynhyrchiol.
Mae polisi caffael cyhoeddus yn ysgogiad sylweddol i Lywodraeth Cymru wrth i ni geisio adnabod arferion cyflogaeth cyfrifol a moesegol gan fusnesau sy’n cyflawni contractau ar gyfer y sector cyhoeddus yng Nghymru. Rydym eisoes wedi arwain y ffordd ar draws y DU drwy gyflwyno polisi caffael sy’n cynorthwyo’r sector cyhoeddus yng Nghymru i fynd i’r afael ag arferion cyflogaeth annerbyniol megis cosbrestru a’r defnydd o asiantaethau ymbarél.
A wnewch chi ildio? Pam, o ystyried yr hyn a ddywedwch, mai Cymru sydd â’r ganran uchaf o weithwyr nad ydynt ar gontractau parhaol o holl wledydd a rhanbarthau’r DU yn ôl yr adroddiad diweddaraf gan Ymddiriedolaeth Carnegie UK?
Pe bai’r Aelod yn gadael i mi gyrraedd diwedd fy araith, efallai y caiff wybod.
Rydym eisoes wedi arwain y ffordd ar draws y DU drwy gyflwyno polisi caffael sy’n cynorthwyo’r sector cyhoeddus yng Nghymru i fynd i’r afael ag arferion cyflogaeth annerbyniol fel cosbrestru a’r defnydd o asiantaethau ymbarél, fel yr wyf newydd ei ddweud.
Gan weithio gyda phartneriaid ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru, rydym yn cwblhau cod ymarfer ar gyflogaeth foesegol mewn cadwyni cyflenwi, y bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol yn ei lansio yng nghyngor partneriaeth y gweithlu yr wythnos nesaf. Bydd hyn yn sicrhau bod pob sefydliad yn y sector cyhoeddus yn cymryd camau i weithio gyda’u cyflenwyr i gael gwared ar arferion cyflogaeth anghyfreithlon ac anfoesol mewn contractau sector cyhoeddus, ac i sicrhau bod pob gweithiwr ar bob cam o’r gadwyn gyflenwi yn cael eu trin yn deg.
Ym mis Tachwedd y llynedd, cyhoeddasom ganllawiau i’r sector cyhoeddus ar y defnydd priodol o gontractau heb oriau gwarantedig. Cafodd ei ddatblygu a’i gytuno drwy waith cyngor partneriaeth y gweithlu a Chomisiwn Staff y Gwasanaethau Cyhoeddus. Roedd y canllawiau a’r egwyddorion yn nodi disgwyliadau clir mewn perthynas ag arferion y dylai pob cyflogwr yn y sector cyhoeddus eu mabwysiadu er mwyn sicrhau nad yw trefniadau heb oriau gwarantedig ond yn cael eu defnyddio mewn amgylchiadau wedi’u diffinio’n glir ac yn fanwl mewn ffyrdd sydd o fudd i bobl yn ogystal â sefydliadau. Diolch i Julie Morgan am dynnu sylw at broblem bosibl gyda’u gweithrediad yn hyn o beth, a byddaf yn sicr yn mynd ar drywydd hynny.
Dylai contractau o’r fath sicrhau bod pobl yn gallu derbyn neu wrthod gwaith heb unrhyw anfantais iddynt hwy. Dylent gael mynediad at yr un cyflog a datblygiad â chyflogeion amser llawn ac i broses sefydlu a hyfforddiant, yn ogystal â chyfle i wneud cais am swyddi gwag mewnol wrth iddynt godi. Mae ein canllawiau’n nodi’n glir na ddylai’r defnydd o gontractau o’r fath fod yn benagored. Rhaid i staff allu gofyn i’w trefniadau gwaith gael eu hadolygu os ydynt wedi bod yn gweithio oriau rheolaidd dros gyfnod parhaus o amser. Byddwn yn cadw’r mesurau hyn dan arolwg er mwyn gwneud yn siŵr fod ein dull o weithredu yn sicrhau’r cydbwysedd cywir rhwng hyblygrwydd a diogelu gwasanaethau.
Nodaf y cynnig gan UKIP heddiw a’r datganiadau cryf a wnaed ganddynt yn condemnio’r effaith y gall contractau dim oriau ei chael ar unigolion a’u teuluoedd. Nodaf hefyd y modd gresynus y maent yn cysylltu hynny â’r hyn a elwir ganddynt yn ‘fewnfudo torfol heb ei reoli’. Mewn gwirionedd, mae mewnfudo yng Nghymru ychydig o dan 3 y cant ar hyn o bryd, ac yn bersonol, rwy’n gwerthfawrogi’n fawr iawn y cyfraniad a wneir gan yr holl bobl sydd wedi dod i Gymru i fyw a gwneud bywyd iddynt eu hunain, gan gynnwys, er enghraifft, yr oncolegydd a achubodd fy mywyd yn ystod y Cynulliad diwethaf, dyn rwy’n hynod ddiolchgar iddo. Rwy’n falch iawn ei fod wedi dod yma i Gymru i fyw a gweithio.
Rwy’n credu ei bod yn bwysig nodi mai dyma’r un blaid a bleidleisiodd yn erbyn mesurau i ymladd arferion cyflogaeth amheus yn Senedd Ewrop ac mai hon yw’r blaid sydd wedi ymgyrchu’n frwd yn erbyn aelodaeth y Deyrnas Unedig o’r Undeb Ewropeaidd a sicrhaodd lawer o’r hawliau a’r mesurau diogelu gweithwyr mwyaf hanfodol. Er gwaethaf y cynnig heddiw, hoffwn atgoffa pawb yn y Siambr hon ac ar draws Cymru yn bendant iawn nad dyma’r safbwynt a fu ganddynt yn ddiweddar.
Rydym yn cytuno â Phlaid Cymru fod yna broblem benodol iawn ym maes gofal cymdeithasol. Roedd gwelliant Plaid Cymru y llynedd i Fil Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) yn ceisio rhoi gwaharddiad llwyr ar ddefnyddio contractau dim oriau wrth ddarparu gwasanaethau a reoleiddir mewn gofal cymdeithasol. Ond mewn gwirionedd, byddai wedi peryglu dyfodol y Bil, gan olygu y byddai Cymru wedi’i hamddifadu o’i ddiwygiadau pwysig. Ac nid yw galluogi heriau diangen yn strategaeth dda i’r Llywodraeth. Rhaid i unrhyw gyfraith sy’n ymwneud â thelerau ac amodau gweithwyr gofal cymdeithasol gynnwys bwriad clir i wella lles cymdeithasol, sy’n golygu bod angen perthynas yn seiliedig ar dystiolaeth rhwng contractau dim oriau ac ansawdd y ddarpariaeth gofal cymdeithasol. Dyna pam y comisiynodd y Llywodraeth ymchwil gan Brifysgol Metropolitan Manceinion ar y mater hwn, gydag ymgynghoriad i ddilyn ar delerau ac amodau cyflogaeth ym maes gofal cymdeithasol. Mae yna angen clir i ysgogi newid ymddygiad i ffwrdd oddi wrth y rhai sy’n ystyried y contractau hyn fel y norm.
Rydym eisoes wedi dweud yn glir y byddwn yn defnyddio rheoliadau o dan Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 i ddylanwadu ar y defnydd o gontractau dim oriau mewn gofal cartref. Bydd y rhain yn ei gwneud yn ofynnol i ddarparwyr gofal cartref gyhoeddi manylion am eu defnydd o gontractau dim oriau yn y cofnodion cyhoeddus blynyddol sy’n ofynnol o dan Ddeddf 2016. Mae ymagwedd o’r fath yn debygol o symbylu dylanwad gan y gweithlu, comisiynwyr, defnyddwyr gwasanaethau a’u teuluoedd, gan ganiatáu’r defnydd o gontractau dim oriau mewn ffyrdd sy’n gyson ag anghenion gweithwyr a chleientiaid yn unig. Fodd bynnag, nid yw gwneud tryloywder yn ofynnol yn gwarantu newid ymddygiad ynddo’i hun, ac mae’n bosibl y bydd rhai darparwyr yn parhau i ddefnyddio contractau dim oriau mewn ffyrdd sy’n andwyol i staff ac ansawdd y gofal.
Ar hyn o bryd rydym yn archwilio’r achos dros reoliadau eraill ar gyfer lleihau’r defnydd o gontractau dim oriau, drwy gyfyngu ar y gyfran o ofal y gellir ei darparu drwy gontractau dim oriau, neu ei gwneud yn ofynnol i ddarparwyr roi dewis i weithwyr a ydynt am gael eu cyflogi ar gontractau dim oriau neu gytundebau oriau penodedig. Rydym yn edrych hefyd ar sut y gallwn ddefnyddio mesurau eraill i helpu i wella telerau ac amodau’r gweithlu, gan gynnwys cynyddu’r rhaniad rhwng amser teithio a galw, ac atgyfnerthu cydymffurfiaeth lwyr â’r isafswm cyflog cenedlaethol, ac mae pob un o’r rhain yn mynd ar drywydd cyfleoedd pellach i sefydlu gofal cartref fel gyrfa hirdymor sy’n ddeniadol, yn cael ei chefnogi ac yn werth chweil i bobl Cymru.
Mae tegwch yn ganolog i Lywodraeth Cymru, ac rydym yn ymrwymedig i adeiladu economi ffyniannus a chytbwys sy’n sicrhau cyfiawnder cymdeithasol a chyfle i holl bobl Cymru. Croesawaf y cyfle i ailadrodd y byddwn fel Llywodraeth yn parhau i weithio’n ddiflino i ddileu arferion cyflogaeth gwael ym mhob rhan o Gymru. Diolch.
Galwaf ar David Rowlands i ymateb i’r ddadl. David Rowlands.
Diolch, Lywydd. Yn gyntaf oll, rwyf am fynd ar ôl dau bwynt, un gan Julie Morgan a’r llall gan Bethan Jenkins, pan ddywedasant ei bod yn eironig ein bod wedi dod â’r ddadl hon i’r Siambr. Wel, nid yw’n eironig o gwbl. Ni yw’r unig blaid yn y Siambr hon sydd wedi mynd ati’n gyson i geisio diogelu gweithwyr Prydain rhag camfanteisio, ac mae union ffaith y contract dim oriau yn dangos ein bod yn iawn yn yr hyn y ceisiem ei wneud.
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Gwnaf, wrth gwrs.
Diolch. A gaf fi ddyfynnu i chi o faniffesto busnesau bach UKIP a gyhoeddwyd yn 2013?
Byddai UKIP yn rhoi diwedd ar y rhan fwyaf o’r ddeddfwriaeth sy’n ymwneud â materion megis oriau gweithio wythnosol, gwyliau, goramser, tâl diswyddo a salwch, ac yn darparu templed contract cyflogaeth statudol, safonol, byr iawn.
A yw’r Aelod yn cydnabod hwnnw?
Ydw, ac rwy’n hollol sicr pe bawn yn mynd drwy unrhyw un o faniffestos y pleidiau yn y Siambr hon—pob un o’r pleidiau—byddem yn gallu torri tyllau enfawr ynddynt hwy hefyd. Ond beth bynnag, yn ôl at—[Torri ar draws.]
Gadewch i’r Aelod barhau.
Yn ôl at y ddadl, os gwelwch yn dda, os gallwn. Yn gyntaf oll, hoffwn fynd ar ôl yr hyn a ddywedodd Russell George, sy’n dweud ei fod yn helpu rhai pobl, y byddai’n well ganddynt fod yn y math hwn o gontract dim oriau. Y gwir amdani, mewn gwirionedd, Russell, yw mai’r cyflogwr sydd fel arfer yn pennu amseroedd a nifer yr oriau ac nid y gweithiwr, yn anffodus.
Rwyf am fynd ar ôl yr hyn a ddywedodd Jenny Rathbone, pan soniodd am y swyddfeydd post. Wel, Jenny, carwn eich atgoffa mai’r Undeb Ewropeaidd a fynnodd fod Prydain yn gwneud gwasanaethau post yn agored, ac mae cwmnïau o’r Almaen wedi camfanteisio’n helaeth arnynt. Mae wedi golygu bod Swyddfa’r Post yn gorfod dosbarthu llythyrau i ffermydd a mannau anghysbell tra bo cwmnïau o’r Almaen yn gwneud eu ffortiwn o ddosbarthu parseli yng nghanol dinasoedd.
Felly, wrth gyflwyno’r cynnig hwn i’r Cynulliad, ceisiodd Plaid Annibyniaeth y DU dynnu sylw nid yn unig y Cynulliad i’r broblem hon sy’n tyfu fwyfwy ond sylw’r cyhoedd yn gyffredinol hefyd. Mae’n rhaid i ni ddefnyddio’r holl bwerau sydd ar gael i ni i roi terfyn ar y system gyflogaeth echrydus hon. Ni fyddwn yn gallu dwyn cyflogwyr i gyfrif heb i ni amlygu camddefnydd o’r fath. Mae’n rhaid i ni ei gwneud yn gwbl glir i’r rhai sy’n dymuno camfanteisio ar hawliau gweithwyr yn y modd hwn na fyddwn ni, yng Nghynulliad Cymru, yn goddef gweithgaredd o’r fath.
Dylai pob gweithiwr, lle bynnag y bo’n gweithio ac ar ba lefel bynnag, gael rhywfaint o sicrwydd cyflogaeth gydag oriau ac amodau wedi’u pennu’n glir. Rydym yn cytuno â Phlaid Cymru y dylid gwahardd y defnydd o gontractau dim oriau yn y gwasanaethau cyhoeddus datganoledig ac y dylai unrhyw wasanaethau a gaffaelwyd gan y Cynulliad fod yn destun gwaharddiad o’r fath hefyd, ac felly byddwn yn cefnogi gwelliannau 5 a 7 Plaid Cymru, sy’n ymdrin â’r mater hwn.
Mae absenoldeb hawliau ac amodau gwaith yn gwbl annerbyniol ym Mhrydain yr unfed ganrif ar hugain, a gofynnaf i’r pleidiau yn y Siambr hon gefnogi’r cynnig hwn.
Y cwestiwn yw a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio. A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Felly, rwy’n gohirio’r bleidlais tan y cyfnod pleidleisio.