1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:38 pm ar 13 Mehefin 2017.
Galwaf nawr am gwestiynau gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd grŵp UKIP, Neil Hamilton.
Diolch yn fawr, Llywydd. Mae'n amlwg bellach bod methiant gambl etholiad dirybudd sinigaidd, manteisgar Prif Weinidog y DU wedi creu dryswch ynghylch holl broses y trafodaethau Brexit, sefyllfa sy’n cael ei gwaethygu efallai gan y ffaith ei bod hi wedi penodi 16 o unigolion a oedd o blaid aros yn yr UE i'w Chabinet o 23. Ac, yn arbennig, mae hyn yn creu mwy o amheuaeth nag o'r blaen ynghylch natur ein rheolaethau ffin ar ôl Brexit. Roeddwn i’n meddwl tybed beth yw safbwynt y Blaid Lafur yn y broses hon erbyn hyn, gan fy mod i’n siŵr y bydd y Prif Weinidog wedi gweld bod Jeremy Corbyn a John McDonnell wedi dweud bod y Blaid Lafur wedi ymrwymo’n ffurfiol i dynnu Prydain allan o'r farchnad sengl a’r undeb tollau, tra bod Keir Starmer wedi dweud ei fod eisiau trafod ffurf newydd o gytundeb marchnad sengl, ac mae Barry Gardiner, ysgrifennydd masnach ryngwladol yr wrthblaid, wedi beirniadu Mrs May am gymryd aelodaeth o’r farchnad sengl oddi ar y bwrdd o'r cychwyn cyntaf. Felly, a all y Prif Weinidog ddweud wrthyf a yw’n Corbynite neu’n Starmerite erbyn hyn?
Wel, yr hyn yr ydym ni’n ei wybod o'r etholiad yw bod y Brexit caled sy'n cael ei arddel a'i hyrwyddo gan UKIP yn gelain. Gofynnwyd i bobl bleidleisio ar fersiwn benodol o Brexit—gofynnwyd iddynt yn benodol i bleidleisio ar hynny—gan Theresa May, ac ni chafodd y mandad hwnnw. Felly, beth sy'n digwydd nesaf? Rydym ni wedi cyflwyno, ynghyd â Phlaid Cymru, Papur Gwyn sy'n awgrymu ffordd ymlaen cyn belled ag y mae Brexit yn y cwestiwn. Rwyf wedi ysgrifennu heddiw at Brif Weinidog y DU, yn ei hatgoffa bod angen mwy na geiriau o ran ceisio ymgysylltu â’r Llywodraethau datganoledig. Rwy'n croesawu geiriau Guto Bebb, er enghraifft, lle mae'n cydnabod realiti'r sefyllfa—na all Brexit cynaliadwy ddigwydd oni bai bod y Llywodraethau datganoledig yn rhan gyflawn o'r broses honno, ac rwy’n gobeithio y bydd y grŵp bach yn Whitehall sydd wedi bod yn ceisio rheoli hyn yn cymryd sylw.
Darllenais, wrth gwrs, Bapur Gwyn y Llywodraeth ar Brexit, nad yw, i bob pwrpas, o blaid rheolaethau ffin mewn unrhyw ystyr ystyrlon. Fy niddordeb yn hyn yw effaith llafur di-grefft a lled-fedrus yn cael ei fewnforio mewn niferoedd na ellir eu rheoli a'r effaith y mae hynny’n ei chael ar gyflogau’r dosbarth gweithiol. Nawr, mae Banc Lloegr wedi cyhoeddi adroddiad sylweddol o’r enw ‘The impact of immigration on occupational wages: Evidence from Britain’, a ddaeth i’r casgliad bod cynnydd o 10 y cant i gyfran y mewnfudwyr yn gysylltiedig â gostyngiad o 2 y cant i gyflogau yn y sector gwasanaethau lled-fedrus a di-grefft. Rwy'n ei chael hi'n anodd deall pam mae’r Blaid Lafur, o bob plaid, yn barod i ystyried y fath sefyllfa lle mae cyflogau dosbarth gweithiol yn cael eu gyrru i lawr sy’n golygu, i lawer o bobl, mai’r isafswm cyflog yw’r cyflog uchaf.
Y bygythiad mwyaf i gyflogau pobl yw cyni cyllidol parhaus—dyna’r bygythiad mwyaf. Tybed a fyddai'n ei gwneud yn eglur beth oedd ei safbwynt ar yr isafswm cyflog, er enghraifft—pa un a wnaeth gefnogi ei gyflwyniad gan Lywodraeth Lafur, a pha un a yw’n cefnogi'r angen am fwy o bwyslais ar blismona’r isafswm cyflog, a pha un a fyddai'n gweld cynnydd i’r isafswm cyflog i lefel cyflog byw. Dyna’r ffyrdd o ddiogelu pobl. Ydy, mae'n bwysig amddiffyn pobl, ac nid dim ond ein pobl ein hunain, ond pobl o wledydd eraill, rhag cam-fanteisio, ac mae angen cyfrannu mwy o adnoddau i blismona hynny. Ond nid oes unrhyw amheuaeth mai’r bygythiad mwyaf i gyflogau yw Llywodraeth Dorïaidd sydd â’i bryd ar gyni cyllidol.
Sylwaf fod y Prif Weinidog yn osgoi'r cwestiwn yn fedrus. A dweud y gwir, fe wnaeth UKIP gefnogi cyflwyno'r isafswm cyflog, ac, yn sicr, rydym ni’n cefnogi ei blismona’n effeithiol, oherwydd dylid ufuddhau cyfraith y wlad. Ac nid yw’n unrhyw ateb i'r broblem o gywasgu cyflogau i ddweud y byddwn yn cymryd camau cryf yn erbyn cyflogwyr sy'n torri'r gyfraith. Yr hyn sy'n peri mwy o bryder yw bod cyfradd cyflogau cyfartalog ar waelod y raddfa incwm yn cael ei gyrru i lawr ar gyfer mwy a mwy o bobl. A cheir cannoedd o filoedd o bobl sy'n byw ar y gwynt sy'n cael eu gorfodi i sefyllfaoedd mwy ansicr fyth o ganlyniad i fewnfudo heb ei reoli. Yn sicr, mae rheolaeth gadarn o fewnfudo di-grefft a lled-fedrus o’r Undeb Ewropeaidd, y gellir ei reoli o weddill y byd o dan y gyfraith bresennol, yn anghenraid hanfodol i bobl gyffredin y dosbarth gweithiol.
Yn gyntaf oll, unwaith eto, mae’n methu’r pwynt am reoli ffiniau. Os ydych chi eisiau cael rheolaeth ffiniau, mae gennych chi ffin galed rhwng Gogledd Iwerddon a’r Weriniaeth. Nid oes unrhyw ffordd arall o’i wneud, oni bai eich bod chi eisiau rhoi swyddogion asiantaeth ffiniau Prydain ym meysydd awyr a phorthladdoedd y Weriniaeth, ac mae honno’n strategaeth sy’n llawn problemau, os gallaf ei roi’n ddiplomatig. Mae’r sefyllfa honno, i mi, yn dal i fod heb ei datrys yn briodol. Ond, i mi, mae’r mater o gyflogau isel yn cael ei ysgogi gan y cyni cyllidol yr ydym ni wedi ei weld dros y saith mlynedd diwethaf, y ffaith nad ydym wedi gweld cynnydd gwirioneddol i gyflogau, y ffaith ein bod ni wedi gweld pobl sydd mewn gwaith yn colli budd-daliadau mewn gwaith. Roeddem ni’n arfer dweud wrth bobl—a chafodd yr Ysgrifennydd Gwladol ei hun i drafferthion ynghylch hyn—'Os byddwch chi’n cael swydd, bydd eich incwm yn cynyddu'. Nid yw hynny’n wir mwyach oherwydd y ffaith fod y rhai ar frig y raddfa incwm wedi cael mwy o arian trwy doriadau treth a’r rhai sydd ar y gwaelod wedi cael llai o arian drwy leihau a cholli budd-daliadau mewn gwaith. Dyna’r hyn y dylem ni fod yn canolbwyntio arno—gwneud yn siŵr bod y bobl hynny sy'n gweithio'n galed, yn gweithio oriau hir, yn cael y cymorth y maen nhw’n ei haeddu, ac nad ydynt wedi ei gael dros y saith mlynedd diwethaf.
Arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood.
Prif Weinidog, y GIG yw’r gwasanaeth cyhoeddus y mae gennym ni fwyaf o feddwl ohono. Mae pob un ohonom ni’n dibynnu arno a dyna’r ymrwymiad gwariant unigol mwyaf yng nghyllideb Cymru, sy'n adlewyrchu ei bwysigrwydd i'n pobl. A ydych chi’n fodlon â llywodraethiad ariannol y GIG?
Ydw, mi ydwyf. Ceir materion sy’n codi bob blwyddyn o’r byrddau, ond rhoddwyd amserlen tair blynedd iddynt i weithredu yn unol â hi pan ddaw i gynhyrchu eu cyllideb. Ond, wrth gwrs, byddem ni bob amser eisiau gweld mwy o gyllid yn cael ei roi ar gael i gyllideb Cymru trwy roi terfyn ar gyni cyllidol yn San Steffan.
Ddydd Gwener, cyhoeddwyd bod pedwar o'r 10 sefydliad GIG wedi methu â mantoli’r gyllideb dros y cyfnod ariannol tair blynedd. Nawr, rydym ni’n gwybod bod tri bwrdd iechyd wedi bod yn destun ymyrraeth wedi'i thargedu, a bod pedwerydd yn cael ei fonitro. Soniasoch eich bod wedi cyflwyno cyllidebau tair blynedd er mwyn ceisio datrys y problemau hynny, ond rydym ni’n dal i weld y diffygion hyn yn dod i'r amlwg dros y cyfnod hwnnw o dair blynedd. Prif Weinidog, o dan eich goruchwyliaeth chi, a yw cyllid y GIG yn gadarn?
Ydy, mae ef. Nid oedd pedwar sefydliad allan o 10 yn gallu bodloni eu dyletswydd tair blynedd. Rydym ni wedi bod yn agored am yr heriau penodol y mae’r sefydliadau hynny’n eu hwynebu, a dyna pam maen nhw i gyd wedi cael eu huwchgyfeirio o dan ein trefniadau ymyrryd yn y GIG.
Ni ellir disgrifio sefyllfa lle nad yw pedwar allan o saith bwrdd iechyd yn bodloni eich targedau fel bod yn ariannol gadarn. Mae hyn yn ymwneud â sut y mae'r GIG yn cael ei reoli, mae'n ymwneud â chefnogi staff a chleifion y GIG drwy sicrhau bod y gwasanaeth mewn cyflwr ariannol da. Mae'n ymwneud â byrddau iechyd yn cyflawni'r dyletswyddau statudol yr ydych chi wedi eu cyflwyno.
Nawr, ym mis Mawrth, dywedodd eich Ysgrifennydd iechyd na fyddai'r pedwar bwrdd iechyd o dan sylw yn cael eu hachub yn ariannol. Dywedodd hefyd ei fod, a dyfynnaf, 'yn weddol sicr na fyddai gwasanaethau'r GIG yn cael eu torri o ganlyniad i'r diffygion hyn.' Nawr, nid yw bod yn weddol sicr yn rhoi fawr o hyder i mi, Prif Weinidog. Yr hyn sydd ei angen arnom ni heddiw yw sicrwydd pendant. Felly, a allwch chi ddweud wrthym: pryd y bydd cyllid y GIG yn gwella? A yw'n dal yn wir na fyddwch chi’n achub byrddau iechyd y GIG sydd mewn trafferthion? Ac fel y Llywodraeth sy'n gyfrifol am GIG Cymru, a wnewch chi sicrhau na fydd y cynlluniau ad-dalu diffygion ar gyfer y byrddau iechyd hyn yn arwain at doriadau i'n gwasanaethau iechyd?
Nid oes unrhyw wasanaethau wedi dioddef o ganlyniad i'r diffygion hyn. Rydym ni wedi sicrhau bod gan y sefydliadau ddigon o arian i fodloni eu hymrwymiadau arferol, ac rydym ni’n rheoli eu diffygion o fewn y gyllideb iechyd gyffredinol, yn amodol ar gadarnhad archwiliad. Roedd y gyllideb iechyd gyffredinol wedi ei mantoli yn 2016-17. Nawr, drwy'r trefniadau ymyrraeth, rydym ni’n gweithio'n agos â'r sefydliadau hynny i fynd i'r afael â'r materion llywodraethu, rheoli a gwasanaeth sy'n sail i’w diffygion ac ni fyddwn yn osgoi cymryd camau cadarn gyda'r sefydliadau hyn os mai dyna sydd ei angen.
Dim sicrwydd.
Arweinydd yr wrthblaid, Andrew R.T. Davies.
Diolch i chi, Llywydd. Prif Weinidog, un o'r straeon a ddaeth i’r amlwg yn yr etholiad cyffredinol ac, oherwydd yr ymgyrchu, na chafodd y sylw yr oedd yn ei haeddu oedd diffyg gallu’r Llywodraeth hon i fodloni ei hymrwymiad o 2010 y byddai pob claf canser yng Nghymru yn cael gweithiwr allweddol. A allwch chi esbonio pam, saith mlynedd yn ddiweddarach, bod cymaint o gleifion canser nad ydynt yn cael y gweithiwr allweddol hwnnw pan eu bod yn cael y diagnosis yng Nghymru?
Un o negeseuon yr etholiad cyffredinol oedd nad oedd pobl eisiau’r Ceidwadwyr Cymreig. Hynny yw, rwy'n synnu braidd ei fod yn ei godi. Rwy’n meddwl tybed faint yn fwy y gall ei gymryd o gael ei ddisodli fel arweinydd ar raglenni, ond gofynnodd gwestiwn am weithwyr canser allweddol. Mae hynny'n rhywbeth yr ydym ni’n dal i weithio tuag ato i wneud yn siŵr bod gan bawb y gweithiwr allweddol hwnnw. Bydd yn gweld bod y swm o arian sydd wedi mynd i mewn i driniaeth ganser wedi cynyddu dros y blynyddoedd.
Gallwch redeg arnaf i, Prif Weinidog, ond byddai pobl wedi gwrando ac wedi clywed na wnaethoch chi roi ateb pam nad yw pobl yn cael gweithiwr allweddol. Felly, gallwch chi barhau i redeg arnaf i, ond mae pobl sy'n cael diagnosis o ganser yn haeddu'r holl gymorth y gallant ei gael, ac fel rhywun sydd wedi colli aelodau teulu, ynghyd ag Aelodau eraill yn y Siambr hon, croesawyd yr ymrwymiad hwnnw gennym a wnaeth y Llywodraeth ar y pryd yn 2010. Ond fel y mae Macmillan wedi ei nodi, mae o leiaf traean y cleifion nad ydynt yn cael y gweithiwr allweddol hwnnw pan eu bod yn cael y diagnosis. Mae'n gwestiwn syml, Prif Weinidog, ac yn hytrach na bod yn wamal, a allwch chi roi ateb difrifol ynghylch pryd y bydd y targed hwnnw’n cael ei fodloni?
Rwy’n credu fy mod i wedi rhoi ateb difrifol, ac yn yr un modd ag yntau, rwyf i wedi colli pobl sy'n agos i mi, ac yn wir, rwyf wedi gweld fy ngwraig yn ymdopi â chanser. Mae'n effeithio ar gymaint ohonom ni, ond mae'r grŵp gweithredu ar ganser, sy'n gyfrifol am ddarparu’r cynllun cyflawni ar ganser, wedi nodi swyddogaeth y gweithiwr allweddol fel blaenoriaeth. Fel y cyfryw, mae gwaith yn cael ei wneud ar hyn o bryd i ddatblygu cyfres o safonau a mesurau cysylltiedig i adolygu'r cynnydd y mae byrddau ac ymddiriedolaethau iechyd yn ei wneud o ran darparu gweithwyr allweddol, yn ogystal â materion eraill o flaenoriaeth. Mae hefyd yn bwysig nodi bod yr arolwg profiad cleifion canser yn cynnig darlun da o'r sefyllfa yng Nghymru. Nid oes gan yr un cyflwr iechyd mawr arall arolwg ar raddfa mor fawr yn asesu profiad y claf, ac rydym ni’n gwybod bod yr ymateb wedi bod yn dda o ran profiad pobl o'r driniaeth a gawsant. Bydd canlyniadau arolwg 2016 yn cael eu cyhoeddi yn ddiweddarach eleni.
Unwaith eto, ar yr ail dro o ofyn, nid wyf wedi cael dyddiad o hyd pryd y bydd cleifion canser a phobl sy'n gysylltiedig â gwasanaethau canser yn gwybod pryd y bydd yr ymrwymiad hwn yn cael ei fodloni. Mae'n ffaith bod Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi dweud nad yw'n orfodol iddyn nhw gasglu'r data i nodi lle mae'r diffygion yn y system. Felly, gallwch chi ddarllen cymaint ag y mynnwch o’ch sgript, Prif Weinidog—-gwnaethpwyd yr ymrwymiad gennych yn 2010. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gwneud un pwynt sylfaenol yn unig: nid yw'n orfodol casglu'r data. Sut gallwch chi ddweud o ddifrif eich bod chi’n gwybod eich bod chi’n gwneud cynnydd o ran bodloni’r targed hwn? Gofynnaf y cwestiwn i chi eto: pryd wnewch chi fodloni’r targed hwnnw yma yng Nghymru ac a wnewch chi ei gwneud yn orfodol nawr i Iechyd Cyhoeddus Cymru gasglu’r data hynny fel y gallwn weld cynnydd o ran bodloni’r nod hwnnw? Rydym ni’n eich cefnogi o ran y mesur hwn—rydym ni eisiau ei weld yn cael ei fodloni.
Wel, ni allaf fynd ymhellach na'r ateb yr wyf i eisoes wedi ei roi iddo, sef bod y gwaith yn mynd rhagddo. Mae'n gofyn y cwestiwn, 'Pryd fydd y gwaith hwnnw wedi'i gwblhau?'—byddaf yn ysgrifennu ato gyda dyddiad yn hynny o beth—gofynnodd y cwestiwn penodol hwnnw i mi—ond mae hyn yn rhywbeth yr ydym ni eisiau ei weld yn cael ei roi ar waith yn y dyfodol.