– Senedd Cymru am 5:07 pm ar 20 Mehefin 2017.
Eitem 6 ar yr agenda yw datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig ar TB mewn gwartheg, ac rwy’n galw ar Ysgrifennydd y Cabinet i gyflwyno’r datganiad—Lesley Griffiths.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Hoffwn ddechrau trwy ddiolch i aelodau'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig am ei adroddiad ar ein rhaglen i ddileu TB. Ymatebais yn ffurfiol i'r adroddiad y bore yma, ac roeddwn yn arbennig o falch o weld bod argymhellion y pwyllgor yn unol â'n cynigion, yr ymgynghorwyd arnynt yn hwyr y llynedd.
Gan adeiladu ar y cynnydd sydd wedi bod dros y naw mlynedd diwethaf, mae llawer ohonoch yn gwybod am yr effaith ariannol a chymdeithasol sylweddol y mae TB mewn gwartheg yn ei chael ar deuluoedd sy’n ffermio, ar eu busnesau nhw ac ar yr economi wledig. Mae'n bwysig ein bod yn parhau i fynd i'r afael â'r clefyd hwn i ddiogelu dyfodol y diwydiant a diogelu iechyd y cyhoedd ac iechyd anifeiliaid. Roedd yr ymgynghoriad yn destun bron i 1,000 o sylwadau, ac rwyf am ddiolch i bawb a wnaeth ymateb. Roedd llawer yn cytuno bod angen dull mwy rhanbarthol o weithredu, ac felly, yn ddiweddarach eleni, byddaf yn pennu ardaloedd TB isel, canolradd ac uchel.
Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, gwelwyd cynnydd gwirioneddol. Mae nifer yr achosion newydd wedi gostwng dros 40 y cant ers uchafbwynt yn 2009 ac erbyn hyn y mae’r nifer yn is nag y bu mewn 12 mlynedd. Trwy gynnal mwy o brofion, rydym yn awr yn canfod gwartheg heintiedig ynghynt, a bellach tua 5 y cant o fuchesi sydd â TB. Bydd y dull rhanbarthol yn adeiladu ar yr hyn a gyflawnwyd gennym eisoes ac yn cyflymu’r cynnydd a wneir tuag at gael Cymru sy’n rhydd o TB.
Heddiw, rwyf wedi cyhoeddi dogfen y rhaglen i ddileu TB Cymru a'r cynllun cyflenwi cyntaf, sy'n darparu manylion y rheolaethau seiliedig ar dystiolaeth a fydd yn berthnasol i bob rhanbarth. Nid yw’r clefyd wedi sefydlu yn yr ardal TB isel yn y gogledd. Yma, mae bod yn rhydd rhag TB o fewn cyrraedd yn y tymor byr i’r canolig. Bydd statws heb TB yn hybu cyfleoedd i fasnachu ac yn golygu y bydd angen profion TB yn llai rheolaidd ar fuchesi, gan leihau’r costau i ffermwyr a'r Llywodraeth. Mae ein tystiolaeth yn dangos mai symudiadau gwartheg i mewn i'r ardal yw prif yrrwr y clefyd sy’n digwydd yno ac felly, o 1 Hydref eleni ymlaen, bydd profion ar ôl symud yn cael eu cyflwyno. Bydd hyn yn helpu i warchod yr ardal drwy nodi anifeiliaid sydd wedi'u heintio ar y cyfle cyntaf, cyn iddyn nhw fynd yn eu blaenau i heintio eraill. Mae'r dystiolaeth yn dangos mai symudiadau gwartheg o ardaloedd TB uwch cyfagos yw un o brif yrwyr clefyd yn yr ardaloedd canolradd. Bydd profion ar ôl symud, felly, yn cael eu cyflwyno yn yr ardaloedd canolradd yn hwyr y flwyddyn nesaf.
Y flaenoriaeth ar gyfer yr ardaloedd TB uchel yw parhau i leihau nifer yr achosion TB a difrifoldeb pob achos. Yn yr ymgynghoriad, gofynnwyd am adborth ar gynnig i gyflawni profion ar fuches bob chwe mis yn hytrach na phob blwyddyn. Mae profion bob chwe mis wedi bod o fudd yn yr ardal triniaeth ddwys, lle mae’r driniaeth fwy aml yn canfod 22 y cant o'r holl fuchesi sydd wedi’u heintio. Mae hefyd wedi cael ei ddefnyddio'n llwyddiannus mewn rhaglenni dileu mewn gwledydd eraill. Fodd bynnag, gwn, ar ôl trafod â ffermwyr, y gall fod yn anghyfleus ac yn anodd yn ymarferol i alw’r gwartheg o dir pori yn ystod misoedd yr haf. Dyma pam rwyf wedi penderfynu y bydd yn ofynnol cynnal profion bob chwe mis yn unig ar y buchesi hynny sydd â'r risg fwyaf o gael eu heintio. Rydym yn casglu'r dystiolaeth sydd ei hangen i nodi’r buchesi hyn, ac felly am y tro, bydd profion blynyddol yn parhau ar gyfer Cymru gyfan.
Dywedodd ffermwyr wrthym eu bod am sicrhau bod yr wybodaeth ar statws TB buches ar gael fel y gallant farnu ar risg y gwartheg y maent yn eu prynu. Rydym yn gwybod bod cynlluniau masnachu sy’n seiliedig ar risg wedi gwneud cyfraniad sylweddol i ddileu TB yn Seland Newydd ac Awstralia. Bydd darparu gwybodaeth ar sail buches yn un o rannau pwysicaf y rhaglen wrth fynd ymlaen, gan ategu ein polisïau rhanbarthol. Rydym wedi dechrau trwy roi cyllid grant i farchnadoedd da byw i ddiweddaru eu cyfarpar ar gyfer derbyn ac arddangos gwybodaeth am TB. Yn y tymor hwy, dim ond system orfodol all sicrhau bod gwerthwyr gwartheg yn rhoi gwybodaeth am TB yn y man gwerthu. Byddwn yn chwilio am ffyrdd o gyflwyno hyn.
Bydd cynlluniau iechyd gwirfoddol TB Safonau Ardystio Iechyd Gwartheg, a elwir yn CHeCS, hefyd yn chwarae rhan allweddol drwy ganiatáu i fuchesi ddangos eu bod yn llai o risg hyd yn oed os ydynt mewn ardal TB uchel. Bydd hyn yn helpu prynwyr i leihau'r risg o gyflwyno'r clefyd, a bydd y buchesi sy’n cymryd rhan a roddir yn y dosbarth lleiaf o risg yn cael eu heithrio o rai o'n rheolaethau. Rwy’n pwyso ar yr Aelodau i’m helpu i annog ffermwyr i ymuno â chynllun, ac i ofyn am wybodaeth TB y gwartheg y maen nhw’n eu prynu, ni waeth o ble y maen nhw’n dod.
Un o elfennau allweddol ein dull o ddileu clefyd TB yw ymdrin â TB mewn buchesi sydd wedi’u heintio yn hirsefydlog a buchesi sydd wedi’u heintio dro ar ôl tro. Mae rhai o'r buchesi sydd wedi’u heintio’n gronig â TB wedi bod dan gyfyngiadau TB ers blynyddoedd lawer. Bydd dileu clefyd yn y buchesi hyn yn lleihau’n sylweddol y costau a’r goblygiadau i'r trethdalwr, i berchnogion buchesi a buchesi cyfagos.
Rydym yn rhoi cynlluniau gweithredu ar waith wedi'u teilwra ar gyfer buchesi sydd wedi’u heintio’n gronig, gyda mesurau sydd wedi'u hanelu'n benodol at gael gwared â’r haint. O ran rhai o'r achosion cronig hyn o fuchesi wedi’u heintio, gellid nodi bod moch daear yn rhan o'r broblem. Ac oni bai ein bod yn derbyn bod y buchesi hyn yn aros yn gyson heintiedig, mae'n rhaid i ni gael ffyrdd o dorri’r cylch haint rhwng moch daear a gwartheg. Rydym yn ystyried ystod o ddewisiadau i wneud hyn, gan gynnwys, lle mae angen, ddal moch daear wedi’u heintio mewn cawell a’u lladd yn ddi-boen. Mae hwn yn ddull newydd ac nid yw'n debyg i’r difa adweithiol a ddefnyddiwyd o’r blaen yn Lloegr. Bydd y gwaith a gynlluniwyd ar gyfer dal, profi a chael gwared ar y moch daear yn gyfyngedig i'r buchesi hynny lle mae ymchwiliadau yn dangos bod yr haint ar foch daear yn yrrwr allweddol i’r clefyd parhaus. Byddwn hefyd ond yn cael gwared â’r moch daear sydd wedi’u profi’n bositif. Mewn ardaloedd lle mae modd profi nad yw’r moch daear yn cyfrannu at y clefyd, byddwn yn parhau â mesurau penodol i’r gwartheg, gan gynnwys mwy o fioddiogelwch.
Ynghyd â’r mesurau newydd hyn mae’n rhaid i ni fod yn ddarbodus yn ein cyllidebau hefyd, yn enwedig gyda cholli cyllid Ewropeaidd yn y dyfodol. Mae'n bwysig ein bod yn peidio â rhoi gormod o werth ar anifeiliaid a laddwyd, gan fod hynny’n cynyddu'r gost i drethdalwr. Rwy’n bryderus oherwydd mae ein taliadau iawndal cyfartalog ni 60 y cant yn uwch nag yn Lloegr, ac felly rwy’n lleihau'r cap iawndal i £5,000 ac yn adolygu ein system iawndal. Byddaf yn edrych ar y rhai a ddefnyddir mewn gwledydd eraill i lywio unrhyw newidiadau.
Rwy’n deall yn llwyr pa mor anodd a niweidiol yw TB i ffermwyr. Fy neges i iddyn nhw yw hyn: mae pethau'n gwella, a thrwy weithio gyda'n gilydd gallwn gyflawni ein nod cyffredin o ddileu’r clefyd hwn.
A gaf i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei datganiad y prynhawn yma ac am roi cyfle i mi gyfarfod â swyddogion yn gynharach heddiw? Rwyf am ddatgan, er mwyn y cofnod, yr effeithiwyd ar fferm fy rhieni yng nghyfraith gan TB mewn gwartheg yn ystod y 15 mlynedd diwethaf, a gwn o brofiad personol pa mor ddinistriol yw’r clefyd arbennig hwn.
Rydym ni, ar yr ochr hon i'r Siambr, yn croesawu'r datganiad heddiw a dogfen y rhaglen i ddileu TB Cymru a’r cynllun cyflawni. Rwy’n gobeithio, wrth iddi ymateb i’m cwestiynau i heddiw, y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn rhoi mwy o fanylion i ni am ei thargedau cychwynnol ac amserlenni ar gyfer sicrhau nad oes TB yng Nghymru.
Rwy'n arbennig o falch o weld Ysgrifennydd y Cabinet yn dechrau cymryd y camau angenrheidiol i gael gwared â’r clefyd hwn o’n bywyd gwyllt, yn ogystal â mynd i'r afael â'r clefyd mewn gwartheg. Rwyf bob amser wedi credu bod dull cyflawn a chyfannol o weithredu yn angenrheidiol i ddileu'r clefyd hwn. Ac rwy'n falch fod Llywodraeth Cymru yn awr, o'r diwedd, yn defnyddio’r dull hwnnw o weithredu, gan fod rhaglen ddileu gref yn dibynnu ar ymdrin â phob ffynhonnell sydd i'r clefyd. Felly, hoffwn longyfarch Ysgrifennydd y Cabinet ar ei phenderfyniad yma heddiw i ddechrau cael gwared â moch daear wedi'u heintio.
Nawr, mae fy nghwestiwn cyntaf i Ysgrifennydd y Cabinet yn ymwneud â’r penderfyniad i gael gwared â moch daear heintiedig o ffermydd sydd wedi eu heffeithio'n ddifrifol. A gaf i felly ofyn iddi pa drefniadau monitro sydd wedi eu rhoi ar waith ynglŷn â’r polisi hwn? Efallai y gallai roi mwy o fanylion penodol inni ar ymarferoldeb y mesurau newydd hyn, er enghraifft pa mor aml, yn ôl pob tebyg, y bydd moch daear yn cael eu dal mewn cawell ar ffermydd sydd wedi eu heffeithio'n ddifrifol, a faint o arian fydd yn cael ei ddarparu i roi’r mesurau newydd hyn ar waith. Yn wir, efallai y gall Ysgrifennydd y Cabinet ddweud wrthym sut y bydd hi’n adrodd am effeithiolrwydd y mesurau hyn fel y gallwn fod yn gwbl sicr bod yr ymyriad yn cael ei dargedu'n briodol.
Nawr, mae’r datganiad heddiw yn cadarnhau dull fesul rhanbarth. Mae'n hanfodol fod y mesurau yn briodol i lefel y risg ym mhob ardal ac nad ydyn nhw’n arwain yn anfwriadol at fwy o faich a biwrocratiaeth i’r ffermwyr. Felly, rwy’n gobeithio y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ymrwymo’n llwyr i addo na fydd hynny'n digwydd. Fodd bynnag, mae yna rai pryderon dilys iawn o ran yr effaith a gaiff y dull gweithredu fesul rhanbarth ar fasnach—ac, yn benodol, y fasnach rhwng Cymru a Lloegr, a allai gael ei llesteirio o ganlyniad i'r newidiadau hyn. Felly, mae'n hanfodol bod Llywodraeth Cymru yn monitro unrhyw sgîl-effeithiau y gallai'r dull newydd eu cael ar farchnadoedd. Efallai y gallai Ysgrifennydd y Cabinet roi syniad hefyd o sut y byddai'r dull newydd hwn yn effeithio ar farchnadoedd da byw ledled Cymru.
Nawr, mae datganiad heddiw yn cyfeirio hefyd at y ffaith y bydd gwybodaeth am statws TB ar gael yn haws, yn debyg i'r system fasnachu seiliedig ar risg sydd yn Seland Newydd. Er fy mod yn cefnogi'r syniad o system sy'n hysbysu ffermwyr o statws y gwartheg y maen nhw’n eu prynu, a allai Ysgrifennydd y Cabinet gadarnhau sut yn union y bydd y system yn sicrhau nad oes unrhyw wahaniaethu yn erbyn ffermwyr y mae eu gwartheg wedi cael y clefyd ond y mae’r cyfyngiadau wedi dod i ben erbyn hyn? Yn wir, a yw Ysgrifennydd y Cabinet yn cydnabod pryder ffermwyr mewn ardaloedd TB uchel am yr effaith lesteiriol a all fod ar eu masnach? A hefyd, sut all Llywodraeth Cymru gadw trefn ar y system hon fel na all ffermwyr honni bod eu buches wedi bod yn rhydd o’r clefyd pan nad yw hynny’n wir?
Nawr, mae’r datganiad heddiw hefyd yn cyfeirio at brofion a gynhelir ar ôl symud mewn ardaloedd TB isel a chanolradd. Mae'n hanfodol fod unrhyw fesurau newydd i brofi yn cael eu rhoi ar waith yn y modd hwylusaf posibl er mwyn lleihau’r amharu ar ffermwyr yn yr ardaloedd hynny. Deallaf na fydd hyn yn boblogaidd ymhlith y ffermwyr yn yr ardaloedd sy'n teimlo y gallai gostio llawer i'r diwydiant. Felly, a allai Ysgrifennydd y Cabinet ddweud wrthym pa asesiad y mae hi wedi ei wneud o’r effaith ariannol y gallai unrhyw brofion ychwanegol ei chael?
Yn ymgynghoriad Llywodraeth Cymru, cafwyd cynigion ar gyfer cyfyngu gydol oes oherwydd adweithyddion amhendant mewn ardaloedd TB uchel, fel Sir Benfro, yn fy etholaeth i, ac mewn mannau eraill. Cafwyd pryderon lu oherwydd y mater arbennig hwn, gyda phob cyfiawnhad. Mae’r cysyniad cyffredinol am unrhyw gyfyngiad gydol oes wedi peri pryder i ffermwyr, sy'n credu bod cyfyngu adweithyddion amhendant nid yn unig yn tanseilio’r prawf croen cyfredol ond hefyd o bosibl yn achosi i’r fuches gael ei heintio os caiff ei gadael ar ddaliad. Felly, o ystyried bod y datganiad yn cyfeirio at adweithyddion amhendant, a allai Ysgrifennydd y Cabinet daflu rhywfaint o oleuni, y mae ei angen yn fawr, ar y mater hwn a chadarnhau nad yw’r cyfyngiadau gydol oes hyn bellach yn cael eu hystyried?
Mae ffermwyr hefyd wedi bod yn pryderu am brofion buches gyfan bob chwe mis mewn ardaloedd TB uchel, ac mae'n dda gweld bod Llywodraeth Cymru yn awr yn edrych ar brofion mwy cymesur yn yr ardaloedd hyn. Rwy'n falch bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi edrych eto ar y cynnig penodol hwn. Er hynny, byddai gennyf ddiddordeb o hyd mewn unrhyw ymchwil a wnaed am yr effaith a fyddai gan brofion buches gyfan bob chwe mis mewn ardaloedd TB uchel ar fasnachu gyda ffermwyr tu allan i Gymru ac ar iechyd a diogelwch. Felly, efallai y gallai Ysgrifennydd y Cabinet roi mwy o fanylion am effaith profion buches gyfan bob chwe mis mewn ardaloedd TB uchel.
Nawr, mae'r datganiad hefyd yn cadarnhau cap iawndal o £15,000 i £5,000, a fydd yn effeithio’n sylweddol ar rai ffermwyr yng Nghymru. Felly, a wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet gadarnhau sut y bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi cyfrif am unrhyw bwysau ychwanegol a roddir ar ffermwyr, yn ogystal â sut y bydd y Llywodraeth mewn gwirionedd yn cydnabod stoc pedigri?
Llywydd, a gaf i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet, unwaith eto, am ei datganiad y prynhawn yma; ac a gaf i, unwaith eto, gofnodi fy nghefnogaeth gyffredinol i gynigion Llywodraeth Cymru? Mae’r Aelodau i gyd yn ymwybodol o bwysigrwydd dileu TB mewn gwartheg. Mae'r diwydiant amaethyddol wedi ei gwneud yn gwbl glir, oni bai i gamau brys a rhagweithiol gael eu cymryd i reoli ffynhonnell yr haint mewn gwartheg a bywyd gwyllt, y gallai trafodaethau masnach wedi Brexit gael eu rhoi mewn perygl mawr. Felly, rwy'n falch bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi cyflwyno cynigion i fynd i'r afael â'r clefyd hwn mewn modd cyfannol, gan gynnwys mynd i'r afael â'r llwybrau trosglwyddo rhwng gwartheg a bywyd gwyllt, ac edrychwn ymlaen at graffu’n adeiladol ar y cynigion hyn wrth iddyn nhw ddatblygu.
Rwy’n diolch i Paul Davies am ei groeso cyffredinol i’r rhaglen dileu TB ar ei newydd wedd. Roeddech chi’n dechrau trwy siarad am dargedau, a byddwch yn gwybod fy mod wedi ymateb y bore yma i'r argymhellion a wnaed gan y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig. Rwy'n credu mai argymhellion 1 a 2 oedd yn ymwneud â thargedau, ac roeddwn yn hapus iawn i dderbyn yr argymhellion hynny. Byddaf yn cyflwyno rhai targedau, a thargedau interim hefyd, erbyn diwedd y flwyddyn galendr hon.
O ran monitro, bydd hynny’n digwydd yn gyson. Y syniad o gael cynllun cyflenwi cyntaf oedd cael y ddogfen strategol drosfwaol yn y rhaglen ddileu, ond yna, o dan hynny, gael cynllun cyflawni, a all fod yn hyblyg. Felly, os bydd angen inni ymateb i batrwm newidiol, er enghraifft, byddem yn gallu gwneud hynny’n gyflym. Nid wyf yn dymuno i’r cynllun cyflenwi hwnnw fod yn ddogfen gan Lywodraeth Cymru. Rwyf yn dymuno i hynny fod ar y cyd â'r sector i raddau helaeth iawn, gyda ffermwyr a chyda'r proffesiwn milfeddygol. Byddwch yn ymwybodol o'r cynlluniau pwrpasol yr ydym yn mynd i’w cael o ran buchesi wedi’u heintio’n gronig. Mae 10 y cant o'n buchesi heintiedig yn fuchesi wedi’i heintio’n gronig, h.y. dros 18 mis—rai ohonyn nhw ers 2001. Mae'n gwbl annerbyniol, ac fe ddywedais i hyn yn fy natganiad fis Hydref diwethaf, cyn i ni fynd i ymgynghoriad, roedd angen inni edrych ar y buchesi penodol hyn sydd wedi'u heintio’n gronig. Rwy’n cytuno’n llwyr: mae tryloywder yn hanfodol, ac unwaith eto, byddwn yn monitro’n flynyddol, a byddaf yn hapus iawn i adrodd yn ôl ar hynny.
O ran y dull rhanbarthol o weithredu, unwaith eto, roedd yr ymgynghoriad—roedd rhai o blaid, roedd rhai yn erbyn, ond rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn bod yr ymgynghoriad hwn gennym, ac fel y dywedais yn fy natganiad, rwy’n credu ei bod o fewn ein cyrraedd i’r gogledd-orllewin, yr ardal isel honno, fod yn rhydd o TB, a byddai hynny'n wir yn cyhoeddi neges gadarnhaol iawn. Nid wyf yn dymuno rhoi mwy o faich ar ffermwyr nag sydd arnyn nhw’n barod. Dydw i ddim am weld mwy o reoleiddio. Er hynny, rydym yn dymuno sicrhau nad oes TB yng Nghymru, felly mae'n rhaid i ni gael y dull gweithredu cyfannol a newydd wrth ymdrin â'r clefyd.
Roeddech chi’n gofyn am y fasnach rhwng Cymru a Lloegr ac mae swyddogion yn ddiamau wedi siarad â DEFRA a chafwyd trafodaethau am hynny. Rwy'n hapus iawn gyda'r trefniadau sydd gennym yn eu lle ar hyn o bryd. Roeddech chi’n cyfeirio at y statws prynu ar sail gwybodaeth. Rwy'n credu bod hynny'n bwysig iawn. Felly, roedd gennym ryw fath o gynllun gwirfoddol, os mynnwch chi, ac rydym wedi rhoi cyllid grant i farchnadoedd da byw. Nid yw pob marchnad da byw wedi manteisio ar y cyllid grant. Byddwn yn dweud nad yw pob marchnad da byw yn dangos yr wybodaeth yr wyf yn credu y mae ei hangen ar brynwyr. Felly, rwy’n credu mai’r unig ffordd ymlaen, mewn gwirionedd, yw cynllun gorfodol, ac rwyf wedi gofyn i swyddogion edrych ar sut y gallem gyflwyno hynny.
Soniais yn fy natganiad fod gwiriadau yn bwysig iawn, yn enwedig i ffermydd. Wyddoch chi, gofynnwyd y cwestiwn i mi: os ydych chi mewn ardal TB uchel ond nad yw eich buches wedi’i heintio, sut mae rhoi gwybod i bobl eraill wedyn nad yw’ch buches chi wedi cael yr haint? Felly, rwy’n credu bod gwiriadau yn ffordd ymlaen ar gyfer gwneud hynny, ac fel y dywedais , byddwn yn annog pawb i annog ffermwyr i wneud hynny.
Roeddech chi’n holi am brofion ar ôl symud yn yr ardaloedd TB isel a chanolradd, a dywedais y byddwn ar 1 Hydref eleni, yn cyflwyno hynny yn yr ardal TB isel. Rwy’n credu’n syml bod angen i ni ganfod y clefyd mewn cyfnod cynharach. Nid ydym yn dymuno gweld y clefyd yn cael ei gyflwyno yn yr ardal TB isel. Rwy'n credu bod yn rhaid i ni wneud popeth o fewn ein gallu i ddiogelu rhag hynny. A chan ein bod yn gwybod am y rhan fwyaf o'r ffyrdd y mae'n cael ei ledaenu o ardaloedd TB uchel i ardaloedd TB canolradd, rwy’n bwriadu cyflwyno hyn yno’r flwyddyn nesaf.
Rwy’n cytuno’n llwyr â chi am brofion bob chwe mis, ac rydym ni’n edrych ar yr ymatebion i'r ymgynghoriad. Y cyngor a gefais i gan swyddfa'r prif swyddog milfeddygol oedd parhau i gynnal y profion blynyddol, ond, unwaith eto, byddwn yn amlwg yn monitro hynny.
O ran y cap iawndal, £15,000 oedd hwnnw, ac o hyn ymlaen bydd yn £5,000. O edrych ar ffigurau'r llynedd, byddai hynny'n effeithio ar tua 1 y cant o ffermwyr. Er hynny, mae problem ynglŷn â gwartheg pedigri, a byddwn yn annog pobl sy'n teimlo bod ganddynt wartheg mwy gwerthfawr i ystyried yswiriant.
Rydych chi’n holi ynglŷn ag adweithyddion amhendant. Unwaith eto, rydym wedi dweud y byddwn yn cael gwared â nhw yn ddi-oed yn y buchesi hynny sydd wedi’i heintio’n gronig, ond dim ond fel rhan o'r cynlluniau pwrpasol, ac mae gwaharddiad gydol oes wedi cael ei ddiystyru.
Simon Thomas.
Diolch, Llywydd, ac rwy’n falch iawn gweld eich bod chi yn y gadair ar gyfer y datganiad arbennig hwn. A gaf i ddechrau drwy ddweud wrth yr Ysgrifennydd Cabinet ein bod ni’n falch ei bod hi wedi bennu ei datganiad gyda chydnabyddiaeth o’r effaith andwyol mae’r clwyf yma’n cael ar ffermwyr ac ar y diwydiant yn gyffredinol? Rwy’n mawr obeithio y bydd y Llywodraeth yn dal i barhau i gydnabod hynny, achos mae’r clwyf yma yn taflu cysgod hir a thywyll dros ardaloedd eang o Gymru, gan gynnwys nifer o ardaloedd rwyf i’n eu cynrychioli fel Aelod rhanbarth y canolbarth a’r gorllewin.
Rwy’n credu er y bydd nifer yn cwestiynu agweddau ar y datganiad heddiw, mae Plaid Cymru yn sicr yn mynd i yn mo’yn gweithio gyda'r graen sydd yma i lwyddo i weld bod yna ddynesiad at waredu’r clwyf yma sydd yn cymryd yn llwyr i ystyriaeth lles anifeiliaid go iawn, sef lles anifeiliaid y buchesi yn ogystal â moch daear. Mae’r clwyf yma i gael mewn anifeiliaid rydym ni yn edrych ar eu hôl ac anifeiliaid gwyllt, ac mae angen edrych i gael gwared ar y clwyf o’r ddau sector. Ac yn y cyd-destun yna, rwy’n croesawu beth sydd gan yr Ysgrifennydd Cabinet i’w ddweud.
Jest ychydig o gwestiynau sydd gen i, achos rwy’n meddwl bod y rhan fwyaf wedi cael eu holi ac wedi cael eu hateb eisoes, ond mae yna ambell i agwedd y byddwn i’n licio clywed ychydig mwy amdanyn nhw. Fe fydd yr Ysgrifennydd Cabinet yn gwybod bod argymhelliad cryf gan y pwyllgor y mae hi wedi ateb iddyn nhw'r bore yma parthed sicrhau gan Lywodraeth San Steffan fod statws TB Cymru ddim yn mynd i fod yn unrhyw fath o rwystr mewn trafodaethau masnachu gyda gweddill yr Undeb Ewropeaidd wrth inni ymadael â’r undeb. Mae’r Ysgrifennydd Cabinet wedi dweud yn gadarnhaol y bydd hi yn gwneud hynny, ond, wrth gwrs, gyda’r Llywodraeth newydd nawr, rwyf jest eisiau sicrhau bod hynny’n cael ei wneud fel mater o frys a bod y materion yma yn cael eu gwyntyllu gyda’r Llywodraeth sydd yn negodi masnach ar ein rhan ni.
Hoffwn i glywed ychydig mwy am sut y bydd yr Ysgrifennydd Cabinet yn bwriadu adrodd nôl i ni fel Cynulliad neu i’r pwyllgor sy’n gyfrifol, y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Materion Gweledig, parthed yn arbennig yr agweddau newydd yn yr adroddiad yma, sef mynd i’r afael â moch daear ar ffermydd penodol lle mae yna dorri i lawr gyda’r haint wedi digwydd dros gyfnod hir, dros 18 mis a mwy, fel roedd yr Ysgrifennydd Cabinet yn cyfeirio. Mae hi wedi addo eisoes, wrth ymateb i’r pwyllgor, i ddod yn ôl mewn blwyddyn, ond fe fyddwn i’n licio gweld hynny’n dod yn rhyw fath o system adrodd nôl cyson, pob chwe mis neu bob blwyddyn, fel ein bod ni’n gallu monitro'r hyn sy’n cael ei wneud.
A jest yn y cyd-destun o fynd i’r afael â moch daear lle mae yna gyswllt rhwng bodolaeth moch daear ar fferm a’r ffaith bod yr haint yn cael ei drosglwyddo dro ar ôl tro, pwy sy’n mynd i benderfynu bod y cyswllt yna’n bodoli? Mae modd mynd i fferm, mae modd cael ecolegwyr yna i gerdded y fferm, mae modd canfod lle mae’r moch daear a lle maen nhw mewn perthynas â’r borfa ac ati, ond pwy sydd yn y pen draw yn penderfynu, ‘Ie, mae yna gyswllt fan hyn’? Pwy sy’n mynd i gymryd y penderfyniad yna? Ac wedyn, wrth gwrs, mae rhai o’r penderfyniadau sy’n deillio yn sgil hynny, gan gynnwys difa’r moch daear lle mae’n briodol.
A gaf i jest ofyn am fasnachu ar sail risg? Rwy’n credu bod yna rhyw dinc o dristwch gyda’r Ysgrifennydd Cabinet nad yw mwy o’r diwydiant wedi cydio yn y cyfle yma i wneud mwy o wybodaeth yn hysbys mewn marchnadoedd ac ati, ac er nad yw hi’n bwriadu gwneud hynny yn orfodol ar hyn o bryd, pa gamau fydd hi’n cymryd yn ystod y flwyddyn neu ddwy nesaf i osod system masnachu ar sail risg ar seiliau mwy cadarn yng Nghymru, fel ein bod ni’n gallu monitro hefyd a ydy hynny’n gwneud gwahaniaeth wrth sicrhau bod y clwyf yn diflannu yn rhanbarthol, o leiaf, mewn rhannau o Gymru?
Ac a gaf i ofyn a ydy hi’n bwriadu cadw’r cap? Rydym wedi trafod y cap a’r effaith ar fridio yn arbennig, ond a ydy hi’n bwriadu cadw’r cap o dan adolygiad, rhag ofn bod sgileffeithiau annisgwyl yn deillio o hynny?
Y cwestiwn olaf sydd gen i—. Rwy’n croesawu yn gyffredinol y ffaith ei bod, wrth ymateb i’r ymgynghoriad, yn ymddangos i mi fod yr Ysgrifennydd Cabinet wedi symud o system, er enghraifft, sy’n chwe mis i bawb yn yr ardal ddwys ac ati i system sy’n fwy seiliedig ar risg. Ond, yn sgil hynny, wrth gwrs, bydd yn rhaid bod yn fwy sicr o’r risg—hynny yw, mae’n rhaid bod yn sicr pa ffermydd a pha fuchesi sydd wir o dan risg a pha rai sydd mewn sefyllfa wahanol. Mae hynny yn gofyn cwestiwn ynglŷn ag adnoddau a staff, a sut mae hynny’n cael ei wneud, a byddwn yn hoffi clywed bach yn fwy gan yr Ysgrifennydd Cabinet o ran sut y bydd hi’n gallu gwneud yn siŵr bod y safonau gwarantu’r risg yma ynghlwm wrth y cynllun newydd.
Diolch, Simon Thomas, eto, am ei groeso cyffredinol i’r rhaglen ddileu newydd ac am ei gwestiynau. Rwy’n cytuno’n llwyr â chi am yr effaith andwyol. Testun rhai o'r sgyrsiau mwyaf digalon yr wyf i wedi eu cael gyda ffermwyr ers i mi fod yn y swydd dros y flwyddyn ddiwethaf yw TB, felly rwy’n cytuno'n llwyr â chi ar y pwynt hwnnw.
O ran y dull newydd gyda’r buchesi wedi’u heintio’n gronig a moch daear, rwy’n credu y byddai'n beth da i’r boblogaeth moch daear hefyd. Felly, mae’r cwestiwn wedi ei ofyn i mi—mae hyn yn dod yn ôl at eich pwynt diwethaf—'Pam nad ydych chi’n gwneud hynny ym mhobman? ' Nid oes gennym yr adnoddau na'r arian i wneud hynny, ond byddwn wedyn yn gallu cael rhywfaint o wybodaeth, gan weithio gyda ffermwyr a'u milfeddyg preifat, er mwyn dod â’u cynllun gweithredu pwrpasol ynghyd—dyna sut y byddwn yn gwybod a yw’r cysylltiad hwnnw’n bodoli rhwng bywyd gwyllt a gwartheg wrth iddynt ddod at ei gilydd.
Ynglŷn â’r cwestiwn am ein statws TB a masnach gyda Llywodraeth y DU, rwyf mewn gwirionedd yn credu wir ein bod wedi cael rhywfaint o lwyddiant. Ers i ni gael y rhaglen ddileu yn ôl yn 2008, rydym wedi gweld gostyngiad o 40 y cant yn nifer yr achosion. Felly, nid wyf yn credu y byddai Ewrop, nac unrhyw wlad arall sy'n awyddus i fasnachu â ni nac unrhyw ran arall o'r DU, yn ystyried hynny’n fethiant, ond mae yn rhywbeth—.Yn ein cyfarfodydd gweinidogol ar lefel amaethyddol, rydym yn cael golwg ar fasnach yn benodol, sydd—
Pan gewch chi un.
Ie, rwy'n gobeithio y bydd hynny’n fuan—. Rwy'n mynd i gael sgwrs gyda Michael Gove yn y bore, ac rwy'n gobeithio y byddwn yn gallu ailgychwyn ein cyfarfodydd misol cyn gynted â phosibl.
Rydych chi’n holi sut y byddaf yn adrodd i'r lle hwn, boed hynny yn y Siambr neu gyda'r pwyllgor. Rwy'n sicr yn credu bod angen i mi adrodd yn flynyddol, felly gallwn ystyried ai yma neu yn y pwyllgor y bydd hynny. Un o'r rhesymau nad oeddwn yn arbennig o awyddus i gael cynllun cyflwyno blynyddol oedd fy mod yn credu bod angen i'r cynllun fod yn hyblyg a chyfnewidiol. Ond rwyf i o’r farn fod angen i mi adrodd yn flynyddol i'r Aelodau, er mwyn iddyn nhw fod yn ymwybodol o lwyddiant y dull newydd.
O ran y cap iawndal, fel y dywedais yn fy ateb i Paul Davies, £15,000 oedd hwnnw ac mae wedi gostwng i £5,000 erbyn hyn. Byddai wedi effeithio ar 1 y cant o bobl—o ffermwyr—y llynedd. Serch hynny, byddai'n arbed £300,000, ac rwy’n pryderu bod ein cyfradd iawndal 60 y cant yn uwch nag yn Lloegr. Mae'n rhaid i ni fod yn ymarferol ynglŷn â hyn. Rydym yn mynd i golli cyllid yr UE, sydd ar hyn o bryd tua £4 miliwn, ymhen ychydig o flynyddoedd. Rwyf i'n mynd i ddal Llywodraeth y DU yn atebol i’r hyn y maen nhw’n ei ddweud, ond mae'n rhaid i ni gynllunio rhag ofn na fyddwn yn cael yr arian hwnnw. Gwariais £11 miliwn y llynedd ar iawndal, felly mae'n rhaid i ni edrych ar hyn. Ond, eto, rwy'n hapus iawn, wyddoch chi, mae angen i'r rhaglen dileu gyfan gael ei monitro, ac rwy'n hapus iawn i gynnwys hynny yn yr adroddiad i'r Aelodau.
Wel, roedd Simon Thomas yn gresynu ar ddechrau ei sylwadau nad oedd llawer o gwestiynau ar ôl i'w gofyn ac erbyn hyn mae llai fyth hyd yn oed. Ond hoffwn ymuno â phawb arall wrth groesawu'r datganiad hwn, gan longyfarch Ysgrifennydd y Cabinet mewn gwirionedd am ei pharodrwydd i ymgysylltu â ffermwyr a gwrando ar bob barn, ac am hyblygrwydd ei dull hi o weithredu. Rwyf i o’r farn bod y ddogfen hon, o’i hystyried yn ei chyfanrwydd, yn gam sylweddol tuag at ddileu TB.
Yn ddiamau, bydd llawer o gwynion am rannau unigol y pecyn, ond rwy’n credu, yn ei gyfanrwydd, ei fod yn cynrychioli cynnydd mawr iawn yn wir, yn enwedig y penderfyniad anodd gwleidyddol—rwy’n cydnabod hynny o’r cychwyn cyntaf—o ystyried lladd moch daear, er bod hynny mewn modd cyfyngedig. Nid oes unrhyw unfrydedd ar werth hyn yn fy ngrŵp i fy hun hyd yn oed, felly rwy’n deall yr anawsterau y bu raid i Ysgrifennydd y Cabinet ymdopi â nhw ynglŷn â’r agwedd benodol honno ar y mater.
O ran y rhanbartholi, rwy'n credu bod hynny’n ddull synhwyrol, a bydd croeso iddo yn benodol, wrth gwrs, yn y gogledd-orllewin. Ac mae’r gymuned ffermio yn ofni, wrth gwrs,—yn y meysydd risg uchel yn arbennig—fod hyn yn mynd i’w staenio nhw, mewn ffordd, a chynyddu eu costau nhw a chael effaith andwyol ar brisiau. Rwy'n credu bod yn rhaid i ni wneud cymaint ag y gallwn i esbonio i'r cyhoedd, ac eraill sydd yn rhanddeiliaid â diddordeb yn hyn, nad yw hyn o reidrwydd yn rhywbeth sy'n gwneud y cig a chynnyrch fferm arall sy'n cael ei gynhyrchu yn yr ardaloedd hyn yn amhosibl ei werthu na’i fwyta. Credaf ei bod yn bwysig iawn i barhau â'r hyn y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi bod yn ei gyflawni, sef dwyn y diwydiant ffermio gyda ni mewn menter ar y cyd tuag at yr amcan yr ydym i gyd yn dymuno ei weld.
O ran y cap iawndal, clywais yr hyn a ddywedodd Ysgrifennydd y Cabinet am—. A dweud y gwir, rwy'n credu mai’r ffigwr oedd 95 o anifeiliaid yn unig ynghlwm yn hyn o beth y llynedd, dros £5,000. Ond mae yna annhegwch penodol i rai unigolion, yn arbennig pan maen nhw wedi buddsoddi arian mawr yng ngeneteg anifeiliaid. Rwy'n falch o glywed y bydd hi'n parhau i adolygu hyn, ac os yw’n wir bod unigolion yn colli symiau mawr o arian, o ystyried natur fregus incwm ffermio, rwy’n credu y byddai'n dderbyniol iawn pe gellid ystyried hynny eto cyn gynted ag y bydd digon o wybodaeth i’w chael.
O ran swyddogaeth bywyd gwyllt, rwy’n nodi bod y ddogfen yn dweud y gall TB heintio pob anifail ac mae rhai yn cael eu hystyried gan arbenigwyr milfeddygol yn gronfeydd, a gall hynny arwain at y clefyd yn mynnu parhau. Wrth gwrs, mae hyn yn cynnwys moch daear yn enwedig. Gwyddom o arolwg diweddaraf Cymru 'mochyn daear wedi’i gael yn farw' fod cyfradd heintio o bron 7 y cant, sy'n llawer uwch na'r hyn a geir mewn gwartheg, ac mewn rhai ardaloedd yng Nghymru mae tua un o bob pum mochyn daear a brofwyd yn yr arolwg hwn yn dangos eu bod yn dioddef o'r clefyd. Credaf ei bod yn bwysig iawn y dylem ystyried hyn yn fater lles anifeiliaid i foch daear a bywyd gwyllt arall, yn ogystal â gwartheg. Mae angen esbonio bod TB yn glefyd ofnadwy i foch daear yn ogystal â gwartheg, ac mae materion eraill sy'n ymwneud â’r cynnydd mawr a sydyn yn niferoedd moch daear hefyd. Rydym yn derbyn bod angen difa ceirw. Nid oes llawer iawn o ddadlau am hynny. O ystyried nad oes gan foch daear unrhyw ysglyfaethwyr hysbys a bod cwymp mawr wedi bod yn niferoedd draenogod a phroblemau sylweddol gydag adar sy'n nythu ar y ddaear, mae rhesymau eraill dros reoli moch daear hefyd. Mae'r rhain yn faterion, yn fy marn i, y mae'n rhaid eu hwynebu os ydym am gael bioamrywiaeth wirinoeddol yng nghefn gwlad. Rwy'n gwybod nad yw hynny'n berthnasol yn uniongyrchol i'r datganiad arbennig hwn ond mae'n rhan bwysig, rwy’n credu, o’r ddadl i geisio cael y cyhoedd ar ein hochr ni gyda’r hyn sydd, rwy’n gwybod, yn fater anodd iawn.
Felly, rwy’n ailddweud yr hyn a ddywedais yn gynharach, nad wyf yn credu bod hyn yn newid cyfeiriad sylweddol i Lywodraeth Cymru wrth ymdrin â'r broblem hon, ac rwy'n llongyfarch Ysgrifennydd y Cabinet am fynd i’r afael â hyn.
Diolch i chi, Neil Hamilton, unwaith eto am eich croeso i'r rhaglen dileu TB ar ei newydd wedd ac am eich cwestiynau. A dweud y gwir, roeddech chi’n dweud am Simon Thomas, wnes i ddim cyfeirio at y cwestiwn am y cynllun prynu ar sail gwybodaeth a ofynnodd Simon, ac roeddech chi’n dweud eich bod yn meddwl fy mod wedi ateb Paul Davies gyda thristwch. Cyflwynwyd y cyllid grant hwn yn y gobaith y byddai pob marchnad da byw yn ei gymryd ac yna’n ei ddefnyddio yn y ffordd y byddem yn ei dymuno. Ac fel y dywedais o'r blaen—rwy’n credu mai wrth Paul Davies oedd hynny—nid wyf i’n credu y cyrhaeddwn ni unrhyw le; rwy'n credu y bydd yn rhaid inni gael cynllun gorfodol. Felly, rwyf wedi gofyn i swyddogion edrych ar y modd y gellid cyflwyno hynny, drwy ddeddfwriaeth yn ôl pob tebyg. Felly, bydd yn rhaid i ni adeiladu ar hynny.
Rwy’n credu ei bod yn bwysig iawn gweithio ar y cyd ac mae'n rhywbeth yr rwyf wedi ei wneud erioed. O ran y cynllun cyflawni, soniais nad cynllun cyflenwi Llywodraeth Cymru mohono, mae'n eiddo i ni yn ogystal â ffermwyr a’r proffesiwn milfeddygol hefyd. Rwyf o’r farn mai dyna'r unig ffordd y gallwn sicrhau nad oes byth TB yng Nghymru, sef yr hyn yr ydym i gyd yn dymuno ei weld. Byddwch yn ymwybodol, pan wneuthum fy natganiad ym mis Hydref, roeddwn yn siarad am Ogledd Iwerddon a'r hyn y maen nhw’n ei wneud o ran dal moch daear a chynnal profion arnynt. Os oedd y canlyniad yn gadarnhaol, roedden nhw’n cael eu lladd yn ddi-boen ac os oedd yn negyddol, roedden nhw’n cael eu brechu. Nid yw’r brechlyn ar gael i ni ar hyn o bryd. Mae'n rhywbeth yr wyf i'n gobeithio y bydd yn dod yn ei ôl y flwyddyn nesaf, efallai yn ddiweddarach yn y flwyddyn nesaf, ac yna byddwn yn ei ddefnyddio’n gyfannol fel rhan o'r rhaglen.
O ran y cap iawndal, roeddech yn ailadrodd yr hyn a ddywedais i, ac rwyf yn deall bod rhai pobl wedi buddsoddi symiau mawr o arian mewn gwartheg pedigri. Ond, fel y dywedais, byddwn yn parhau i’w fonitro, ond mae angen iddynt ystyried yswirio hynny.
Rydych chi'n iawn ynglŷn ag iechyd a lles anifeiliaid, ac fel y dywedais yn fy ateb i Simon Thomas, rwy’n credu y bydd y ffordd hon yn llesol i boblogaeth y moch daear hefyd. Felly, er fy mod yn diystyru’n llwyr ddifa yn null Lloegr, gan nad wyf yn credu bod hynny’n gweithio, ac mae'r wyddoniaeth a'r dystiolaeth yn dangos hynny, rwyf yn credu bod yn rhaid i ni chwalu’r buchsesi hynny sydd wedi’u heintio’n gronig. Ni ddylai fod gennym ni fuchesi wedi’u heintio am 16, 17 mlynedd; mae hynny’n gwbl annerbyniol i'r ffermwyr ac i'r trethdalwr, felly mae'n rhaid i ni gael y dull newydd hwn.
Rwy’n diolch i chi am eich datganiad, Ysgrifennydd y Cabinet, ac rwyf i’n croesawu rhai elfennau ynddo a byddaf yn codi pryderon am rai eraill.
Mae'r ardal triniaeth ddwys—yr IAA—yn cwympo o fewn y rhanbarth yr wyf wedi ei gynrychioli ers 10 mlynedd erbyn hyn, felly rwyf i’n gwybod yn iawn cymaint o falltod yw TB buchol, ac mae'r clefyd wedi bod yn flinder cronig a niweidiol i lawer o ffermwyr am flynyddoedd lawer. Rwyf wedi fy nghalonogi, er hynny, fod nifer yr achosion o TB buchol yn yr IAA wedi gostwng 35 y cant. Mae hynny’n 12 y cant yn fwy na'r ffigur mewn ardaloedd cyfagos. Mae hynny'n awgrymu i mi bod y mesurau sy'n cael eu gweithredu ar hyn o bryd, yn wir, yn cael effaith gadarnhaol iawn, ac rwy’n croesawu eich bod wedi penderfynu gweithredu’n wahanol i'r polisi di-drefn sydd ar mewn rhannau o Loegr. Mae gennyf i amheuon, fodd bynnag, ac rwy’n gobeithio y byddwch yn gallu tawelu fy meddwl o ran nifer o bwyntiau.
Bydd aelodau yn y Siambr hon yn ymwybodol o’m safbwynt ar y mater hwn yn y gorffennol, ac rwyf wedi siarad a phleidleisio yn unol â'r dystiolaeth wyddonol. Daw’r unig dystiolaeth gredadwy sydd gennym o ran difa moch daear a'i effaith ar ledaeniad TB buchol o'r treialon difa moch daear a gynhaliwyd ar hap am 10 mlynedd gan Arglwydd Krebs. Daethpwyd i'r casgliad bod yn rhaid, er mwyn cael hyd yn oed gostyngiad bach mewn TB buchol, lladd 70 y cant o boblogaeth moch daear mewn ardal heb fod yn llai na 150 cilomedr sgwâr, a bod yn rhaid i hynny gael ei wneud mewn cyfnod byr o amser—dyna inni tua chwe wythnos bob blwyddyn. Ond mae hefyd yn mynd ymlaen i ddweud, os caiff gormod o foch daear eu lladd, fod yna risg uchel o’u difodiant yn lleol ac, yn wir, fe ddigwyddodd hynny mewn rhai ardaloedd o Weriniaeth Iwerddon. Mae hefyd yn mynd ymlaen i ddweud, os nad ydych chi’n lladd digon o foch daear, rydych mewn perygl o aflonyddu a gwasgaru, ac mae hynny'n lledaenu’r clefyd ymhellach ac yn ehangach, hyd yn oed. Felly, mae’n rhaid i mi ofyn cwestiwn, Ysgrifennydd y Cabinet: sut y mae'r camau arfaethedig i ddal a difa moch daear sydd wedi'u heintio, a gosod microsglodyn ynddyn nhw o bosibl, yn dal dŵr o’u cymharu â’r argymhellion hynny gan Krebs, a sut y gall hynny mewn gwirionedd wneud unrhyw wahaniaeth o gwbl? Rydych chi’n ymwybodol o fy safbwyntiau i ar ddifa moch daear, ac fe ddywedaf unwaith yn rhagor; nid fyddaf yn ei gefnogi.
Rwyf hefyd yn awyddus i godi cwestiynau eraill am ledaeniad TB buchol mewn cysylltiad â slyri ar ffermydd. Rwy’n deall nad yw pori ar dir lle mae tail a slyri wedi e’i daenu yn cael ei argymell am ddau fis, a hynny oherwydd bod yr haint yn gallu aros mewn tail a slyri am hyd at chwe mis. A wnewch chi egluro felly a ydyw'n orfodol i storio’r holl dail a slyri am chwe mis cyn gwasgaru? A fyddech yn ystyried gorfodi’r moratoriwm ar bori am ddau fis fel yr argymhellir ar hyn o bryd?
Y pwynt olaf sydd gennyf i’w ofyn yw: pa asesiadau eraill yr ydych chi wedi eu gwneud ynghylch lledaeniad TB buchol i wartheg gan gŵn hela? Roedd pump ar hugain o gŵn hela o helfa Kimblewick wedi cael prawf positif am TB buchol yn gynharach eleni. Nid wyf yn gwybod a ydym wedi gwneud unrhyw beth yng Nghymru ynglŷn â phrofi cŵn hela yng Nghymru, ond mi wn fod oddeutu 20 o helfeydd yng ngorllewin Cymru. Onid ydych chi’n meddwl, felly, Ysgrifennydd y Cabinet, y gallai hi fod yn beth doeth mewn gwirionedd i atal hela â chŵn hyd nes i’r risgiau gael eu hasesu'n iawn o leiaf?
Hoffwn ddiolch i Joyce Watson am ei chwestiynau ac rwy'n gwybod yn iawn beth yw ei barn hi am ddifa moch daear, lawn cymaint ag y mae hi'n gwybod beth yw f’un innau. Byddwch yn ymwybodol iawn mai ystyried y buchesi wedi’u heintio’n gronig yn unig a wna hyn. Mae'r cynlluniau hyn, mae'r cynlluniau gweithredu pwrpasol hyn, a gaiff eu llunio—a fydd, os caiff ei brofi bod yna, neu os oes tystiolaeth bod cysylltiad rhwng moch daear a gwartheg a allai fod yn cyfrannu at ledaenu’r clefyd, byddwn wedyn yn gwneud y gwaith trapio hwn. Gallai fod nad yw rhai ffermwyr yn dymuno trin y moch daear felly, a bydd y cynllun gweithredu pwrpasol yn cael ei gyflawni’n unig mewn ymgynghoriad â'r ffermwr a chyda'i filfeddyg preifat.
Roeddech chi’n sôn am ficrosglodion. Rwy'n ymwybodol bod hynny wedi ei wneud mewn gwledydd eraill, mewn achos, os yw mochyn daear wedi ei ddal a'i brofi'n negyddol, rhoddir microsglodyn arno, felly, os bydd y clefyd wedyn i’w gael ar y fferm honno, er enghraifft, a byddwch yn mynd yn eich ôl, ac yn dal y mochyn daear sydd â’r microsglodyn arno, bydd hanes blaenorol y mochyn daear hwnnw, os mynnwch chi, yn hysbys.
Roeddech chi’n trafod aflonyddu a gwasgaru. Mae'n rhaid i mi ddweud nad oes llawer o wybodaeth i’w chael am effaith aflonyddu a gwasgaru ar y clefyd ac rwy'n credu bod angen gwneud gwaith sylweddol ynglŷn â hynny. Rwy'n credu mai un maes yr ydym wedi elwa arno yw’r ' arolwg o foch daear marw'. Mae wedi rhoi inni dystiolaeth dda iawn o ran yr ardaloedd ledled Cymru, ac rwyf wedi dweud y bydd hynny'n parhau, yr arolwg hwnnw, wrth symud ymlaen.
Rydych chi’n holi ynglŷn â slyri ac rydych yn dyfynnu'r rheoliadau ynglŷn â slyri ac a ellid ei gwneud hi’n orfodol, oherwydd, unwaith eto, mae hynny'n rhywbeth—wyddoch chi, y mae’n rhaid i’r ffermwyr gymryd camau o ran hynny. Maen nhw’n gwybod beth yw’r peryglon a pha mor hir y dylid ei storio, ac yn y blaen, er mwyn cael gwared ar y lefelau uchel o leithder, ond mae'n rhywbeth y gallwn yn sicr ei ystyried wrth symud ymlaen.
Rydych chi’n gofyn am gŵn hela. Nawr, dydw i ddim yn ymwybodol o unrhyw brofion sydd wedi’u cynnal ar gŵn hela, ond byddwn i'n hapus iawn i ystyried hynny ac i ysgrifennu at yr Aelod a rhoi copi yn y Llyfrgell.
Rwy'n credu, ar y pwynt olaf, y dylech ddilyn y dystiolaeth wyddonol—byddwn i’n cymeradwyo hynny. Rwy'n credu ei bod braidd yn rhyfedd bod Aelod yn dyfynnu’r angen i ddilyn tystiolaeth wyddonol ac yna’n taflu rhywbeth i’r ddadl nad yw wedi ei archwilio gan y pwyllgor yn sicr, nac, fe ymddengys, gan Lywodraeth Cymru. Ond, fel y dywedais i, mae’n rhaid cymryd tystiolaeth o ddifrif pan fo'n gadarn.
Rwy'n croesawu'r ffaith bod targedau wedi’u gosod. Rwy'n credu bod hynny'n bwysig iawn, ein bod yn gosod targed cenedlaethol ac wedyn bod gennym dargedau interim ar gyfer y tri rhanbarth. Rwy’n credu ei bod yn bwysig ein bod ni’n pwysleisio, yn y ddau ranbarth nad ydyn nhw, yn anffodus, yn agos iawn at statws heb TB, y gwneir pob ymdrech yn ystod cyfnod y targed, ac na fyddwn yn ildio. Rydym ni wedi penderfynu cael Cymru heb TB buchol. Felly, rwy’n credu bod angen sicrwydd arnyn nhw gan fy mod yn credu bod rhai o’r farn os bydd y gogledd yn cael ei dynodi yn ardal heb TB, yna bydd y mater yn colli ei bwysigrwydd ar sail Cymru gyfan. Rwy'n gwybod nad dyna yw eich bwriad, ond mae'n rhywbeth sy'n cael ei grybwyll gan undebau’r ffermwyr er enghraifft, felly mae angen i ni gadw hynny mewn cof.
Credaf ei bod yn briodol trapio, profi, a chael gwared ar foch daear wedi'u heintio mewn ardaloedd risg uchel. Yn sicr, byddai'n benderfyniad rhyfedd ar y naw o ran lles anifeiliaid i ryddhau’r moch daear hynny yn ôl i'r gwyllt os ceir eu bod yn heintus iawn. Felly, rwy’n credu bod hwn yn ddull priodol. Daeth y pwyllgor o hyd i dystiolaeth yn hyn o beth, yn Lloegr ond hefyd ledled y byd, fod rhywfaint o ymwared yn briodol yn y gronfa bywyd gwyllt, ac, unwaith eto, rydym yn agored i'r dystiolaeth bob amser.
Rwy'n credu bod angen monitro a gwerthuso’r strategaeth newydd yn effeithiol. Edrychodd y pwyllgor ar hynny’n fanwl iawn ac rwy’n croesawu'r ffaith eich bod yn mynd i wneud datganiadau rheolaidd, blynyddol o bosibl—nid ydych wedi penderfynu hynny eto—ac rwy'n credu ei bod yn beth priodol i'r Cynulliad ddychwelyd ato ar y sail honno hefyd.
A gaf i ddweud, am iawndal digonol, rwy'n credu mai un ffordd y gallwn ymateb i'r drychineb hon, mewn gwirionedd—os edrychwch chi ar fap o ledaeniad TB yn y 1960au ac yn edrych ar y sefyllfa yn awr, mae’r clefyd wedi lledaenu yn ofnadwy dros y cyfnod hwnnw. Ond, un peth y gallem ni ei wneud, wrth i ni symud ymlaen tuag at statws heb TB, yw gwella ansawdd y stoc, ac yn hyn o beth mae bridio pedigri yn bwysig. Felly, byddwn yn gofyn i chi ystyried hynny’n ofalus iawn, gan fod hynny wedi’i godi’n benodol gyda ni yn y pwyllgor.
Diolch i chi, David Melding, am y cwestiynau hynny. Rydych chi yn llygad eich lle. Gwnaethpwyd hyn i gyd ar sail tystiolaeth—dyna sut y dylem ni wneud ein penderfyniadau. Ond rwy’n hapus iawn i edrych ar unrhyw beth y mae unrhyw un yn ei awgrymu er mwyn gyrraedd y nod hwnnw yr ydym ni’n dymuno ei gyrraedd, a Chymru heb TB yw hwnnw.
Rwy’n derbyn yr hyn a ddywedwch am ofid yr ardaloedd risg uchel, wyddoch chi, os yw’r gogledd-orllewin yn cael ei dynodi'n ardal heb TB—. Rwyf i o’r farn arall. Rwy'n credu y byddai hynny’n rhoi hwb i ni wir, ac rwy’n credu, fel y dywedais i, y mae hynny o fewn ein cyrraedd yn y tymor byr i ganolig, ond yn fwy tebygol yn y tymor byr. Felly, rwy’n gobeithio fy mod wedi cynnig y sicrwydd hwnnw.
Ynglŷn â’r iawndal, rwy’n derbyn yr hyn a ddywedwch am wella stoc a stoc pedigri, a gwn fod rhai wedi buddsoddi'n helaeth ynddo, ond, i'r un graddau, mae'n rhaid i ni ystyried pam y mae ein cyfraddau iawndal mor uchel o'u cymharu â Lloegr. Chwe deg y cant, nid wyf yn credu bod hynny’n dderbyniol. Nid wyf yn credu y byddai'n dderbyniol i drethdalwyr Cymru, ac, os wyf yn gorfod ystyried lleihau cyllid—nid fi yn bersonol yn lleihau cyllid, ond pe byddai fy nghyllideb yn gweld gostyngiad yn ei chyllid, os byddwn yn colli’r arian hwnnw oddi wrth yr UE, bydd yn rhaid i ni edrych ar y mater hwnnw yn ofalus iawn.
Rwy’n cytuno’n llwyr am iechyd a lles anifeiliaid, ac rwy’n credu, yn y buchesi hynny sydd wedi’u heintio’n gronig, os gallwn ni brofi neu os bydd y dystiolaeth ar gael i ddangos bod moch daear yn cyfrannu at y clefyd yn y fuches honno, ein bod yn cymryd y camau sydd yn briodol a chymesur yn fy marn i.
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet gadarnhau bod hwn wedi bod yn ymgynghoriad gwirioneddol, ei bod hi wedi gwrando ar ffermwyr a’r grwpiau sy’n eu cynrychioli a bod y polisi wedi cryfhau wrth i hynny ddatblygu? Rai misoedd yn ôl, roeddwn yn amheus o ymholiad gan y Pwyllgor Newid yn yr Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig ar hyn; roeddwn yn ofni y byddai pobl yn ddi-wyro yn eu safbwyntiau ac na fyddai llawer o symud wrth ymateb i gryn dipyn o dystiolaeth gan dystion. I’r gwrthwyneb yn llwyr y gwelais i, ac felly y bu gydag Ysgrifennydd y Cabinet a’r hyn y mae hi wedi'i wneud ynglŷn â'r ymgynghoriad hwn.
Rydym wedi cael datganiadau i'r wasg gan Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr ac Undeb Amaethwyr Cymru. Mae Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr yn croesawu'r camau cadarnhaol i fynd i'r afael â TB mewn bywyd gwyllt ac yn dweud ei bod yn gam ymlaen at gael Cymru heb TB. Mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi, rwy’n credu, ailgyhoeddi eu datganiad i'r wasg, ond, serch hynny, mae datganiad ynddo bod y rhaglen yn parhau i ganolbwyntio bron yn gyfan gwbl ar reoli gwartheg heb fesurau sylweddol i fynd i'r afael â'r clefyd mewn bywyd gwyllt. A yw hi'n cytuno â mi nad yw hynny'n asesiad teg o'r rhaglen? Efallai os ydych yn edrych ar ei maint a’r cyfan a ysgrifenwyd, ‘rwy’n gallu deall eu safbwynt. Ond, ar y papur cyflenwi yr ydych wedi ei gyhoeddi heddiw, mae'n dweud lle mae Llywodraeth Cymru yn barnu bod moch daear yn cyfrannu at gyndynrwydd y clefyd mewn buchesi sydd wedi’u heintio’n gronig, bydd moch daear yn cael eu trapio a'u profi ar fferm y fuches honno a bydd moch daear sy’n profi’n bositif yn cael eu lladd yn ddi-boen.
Mae hynny'n ddatblygiad gwirioneddol, ei fod yn mynd i'r afael â TB mewn bywyd gwyllt, ac nid yw’n gam hawdd iddi ei gymryd ac ni fydd yn destun cymeradwyaeth gyffredinol o fewn ei phlaid hi ei hun—ond ei bod hi, fel y gwnaeth y pwyllgor, wedi edrych ar y dystiolaeth. Roeddwn i’n teimlo rhywfaint o rwystredigaeth â'r ffordd y disgrifiodd rhai tystion ac eraill adroddiad Krebs a'r treialon rheoli moch daear ar hap, bron fel pe baent yn llechi wedi eu hanfon o'r nef, a, do, cafodd llawer iawn o arian ei wario ar y treialon hynny, ond mae rhai problemau difrifol mewn gwirionedd ynglŷn â’r modd y cawsant eu cynnal, ac fe gawson nhw eu stopio—pan oedd hi’n ymddangos bod yna aflonyddu a gwasgaru, mewn gwirionedd, fe roddon nhw'r gorau i’w fesur, ac mae treialon eraill wedi bod a thystiolaeth arall sydd wedi dangos bod effaith yr aflonyddu a gwasgaru yn gwanio. Rwy’n credu, fel yr edrychodd y pwyllgor yn fwy ar hyn, gwelsom fod Christianne Glossop, eich prif filfeddyg rhagorol, yn amheus o faint y pwyslais a roddwyd ar yr aflonyddu a gwasgaru yn yr RBCT. Yn arbennig, aeth tri aelod o'r pwyllgor yr oeddwn yn ei gadeirio ar y pryd, a minnau, i Weriniaeth Iwerddon a gwelsom, mewn gwirionedd, o ran eu hymagwedd, eu hasesiad nhw oedd bod aflonyddu a gwasgaru gryn dipyn yn llai o broblem nag yr oedd yr RBCT wedi'i ddweud.
Felly, a wnaiff hi gadarnhau y byddwn ni’n parhau i ganfod a datblygu tystiolaeth? Ac, mewn gwirionedd, mae gwyddoniaeth yn ymwneud ag edrych, a phrofi, a gwneud pethau newydd ac asesu sut yr ydych chi'n gwneud hynny. Rhan allweddol o'r strategaeth fydd gweld, pan geir gwared ar foch daear yn y modd hwn, pa effaith a gaiff hynny, gan sicrhau nad yw effaith yr aflonyddu a gwasgaru yn rhy fawr, a symud pethau ymlaen drwy benderfyniad gan y Llywodraeth sy'n ymateb i dystiolaeth, yn ymateb i ffermwyr, yn ymateb i'r pwyllgor, ac ar hynny hoffwn longyfarch Ysgrifennydd y Cabinet.
Diolch i chi, Mark Reckless, am eich cyfraniad. Rydych chi yn llygad eich lle; roedd yn rhaid iddo fod yn ymgynghoriad ystyrlon. Efallai eich bod yn cofio pan ddeuthum i’r pwyllgor ychydig cyn y Nadolig—lansiwyd yr ymgynghoriad gennym ym mis Hydref ac rwy'n credu iddo redeg hyd ganol mis Ionawr, ac roeddwn yn bryderus iawn am ein bod ni wedi cael, yn y cyfnod cyn y Nadolig, rhywbeth tebyg i 15 o ymatebion. Roeddwn yn gwybod pa mor bwysig oedd y mater hwn i ffermwyr, felly rwy’n credu fy mod wedi apelio yn y Cabinet, ac yna, yn erbyn inni orffen yr ymgynghoriad ym mis Ionawr, roeddem wedi cael dros 1,000 o ymatebion. Rydym wedi cymryd ein hamser i edrych ar yr ymatebion hynny, gan fy mod yn credu bod hynny’n bwysig iawn, ac rwy'n gobeithio y bydd pobl yn gweld nad oeddwn i’n sicr yn ddi-wyro fy marn, ac mae’r ffaith ein bod ni wedi gwrando—roeddwn i’n sôn o'r blaen am y cwestiwn ymgynghori am brofion buches bob chwe mis, ac nid ydym am wneud hynny erbyn hyn gan fod ffermwyr wedi dweud, yn enwedig yn ystod misoedd yr haf, ei bod hi’n rhy anodd i alw gwartheg i mewn o'r borfa. Felly, rwy’n gobeithio y bydd pobl yn cydnabod hynny.
Roeddech chi’n sôn bod y ddau brif undeb ffermwyr yn gweld pethau ychydig bach yn wahanol i’w gilydd, ond ni allwch blesio pawb bob amser. Roeddwn yng Nghyfarfod Cyffredinol Blynyddol Undeb Amaethwyr Cymru ddoe, a siaradais am hynny, ac yn sicr rwy'n credu bod croeso cyffredinol i hyn, ond mae'n bwysig iawn ein bod yn ei fonitro. Roedd rhywun yn sôn o'r blaen nad wyf i wedi penderfynu pa mor aml yr ydw i’n mynd i adrodd yn ôl—wel, mi rydw i, byddaf yn adrodd yn flynyddol, y cwestiwn yn syml yw a wyf am adrodd yn ôl i'r Siambr neu i'r pwyllgor. Roeddech chi’n sôn am adroddiad y pwyllgor, ac rwy'n siŵr eich bod yn falch iawn o weld bod yr holl argymhellion naill ai wedi eu derbyn neu—dau rwy’n credu—wedi eu derbyn mewn egwyddor, gan fy mod o’r farn bod adroddiad y pwyllgor yn cyd-fynd â'n cynigion ni.
Yn olaf, ac yn gyflym iawn, Russell George.
Diolch i chi, Llywydd. Mae gennyf i ddau gwestiwn byr a phenodol iawn. Ysgrifennydd y Cabinet, rydych chi wedi cadarnhau y byddwch yn lleihau'r cap am iawndal o £15,000 i £5,000. Nawr, mi fydd yna, wrth gwrs, rai ffermwyr sydd wedi buddsoddi mewn pethau uchel eu gwerth o ran geneteg i wella'r gwerth genetig a chynhyrchiant eu buches. Sut y mae’r Llywodraeth yn mynd i sicrhau bod ffermwyr yn y sefyllfa benodol hon yn cael gwerth sy’n deg? Ac, yn ail, a wnewch chi gadarnhau pryd fydd y rhaglen trapio mewn cawell a lladd moch daear heintiedig yn ddi-boen yn dechrau?
I ymateb i'r cwestiwn cyntaf, rwy’n credu fy mod i wedi ateb hynny, ond, os yw unrhyw ffermwr yn credu bod ganddo wartheg sy'n werth mwy na £5,000, byddwn yn awgrymu ei fod yn ystyried yswiriant. Fodd bynnag, mae'r cap newydd ar iawndal yn rhywbeth y byddwn yn parhau i’w fonitro.
Y cynlluniau gweithredu pwrpasol o ran y buchesi wedi’u heintio’n gronig, rydym wedi dechrau tynnu’r rheini at ei gilydd. Felly, mae 10 y cant o’r buchesi sydd gennym yn fuchesi wedi’u heintio’n gronig, sef rhwng 50 a 60—yn sicr yn ôl y ffigurau chwarterol diwethaf a welais i. Rwy'n credu ein bod eisoes wedi ymweld ag oddeutu 40 o ffermydd, er mwyn dechrau tynnu’r cynlluniau gweithredu hyn at ei gilydd. Rwy'n credu ein bod wedi cwblhau 10 o gynlluniau gweithredu. Felly, lle, fel y dywedais, y mae gennym y dystiolaeth i ddangos bod yna gysylltiad rhwng moch daear, bywyd gwyllt, â'r clefyd, byddwn yn dechrau ar hynny—cyn gynted ag y bydd y cynllun gweithredu wedi ei lunio gyda'r ffermwr a chyda milfeddyg preifat y ffermwr, byddwn yn dechrau’r cynlluniau gweithredu pwrpasol hynny, a bydd hynny’n rhan o'r broses.
Diolch yn fawr i’r Ysgrifennydd Cabinet.