– Senedd Cymru am 3:50 pm ar 12 Gorffennaf 2017.
Symudwn ymlaen yn awr at y ddadl nesaf ar ein hagenda y prynhawn yma, sef dadl gan Aelodau unigol o dan Reol Sefydlog 11.21 ar ganolfan rhewmatoleg bediatrig. Galwaf ar David Melding i gynnig y cynnig.
Cynnig NDM6348 David Melding, Dai Lloyd, Caroline Jones, Rhun ap Iorwerth, Julie Morgan
Cefnogwyd gan Nick Ramsay, Angela Burns, Darren Millar, Hefin David
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi mai Cymru yw’r unig un o’r gwledydd cartref sydd heb ganolfan rhewmatoleg bediatrig arbenigol;
2. Yn nodi bod tua 400 o blant yn ne Cymru yn unig sy’n dioddef o arthritis idiopathig ieuenctid;
3. Yn cydnabod yr angen am ganolfan rhewmatoleg bediatrig amlddisgyblaeth yng Nghymru;
4. Yn nodi bod Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru yn cynnal adolygiad cynhwysfawr o wasanaethau pediatrig arbenigol yng Nghymru; a
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gefnogi galwadau gan Gofal Arthritis, y Gymdeithas Arthritis Gwynegol Genedlaethol a Chymdeithas Brydeinig Rhewmatoleg ar gyfer creu canolfan rhewmatoleg bediatrig amlddisgyblaeth benodedig lwyr yng Nghymru.
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd, am fy ngalw i gynnig y cynnig pwysig hwn, sy’n cael ei gynnig hefyd gan Caroline Jones, Rhun ap Iorwerth, Dai Lloyd a Julie Morgan. Rwyf hefyd yn ddiolchgar iawn i’r Aelodau sydd wedi cefnogi’r cynnig hwn.
Hoffwn agor y ddadl hon gyda stori am ferch ifanc o Hwlffordd. Ei henw yw Aimee, ac efallai y bydd rhai ohonoch wedi ei chyfarfod yn ystod y digwyddiad galw heibio a drefnwyd ar godi ymwybyddiaeth o arthritis idiopathig ieuenctid bythefnos yn ôl yn adeilad y Pierhead. Rwy’n falch o ddweud fy mod yn meddwl bod bron i hanner Aelodau’r Cynulliad wedi mynychu’r digwyddiad hwnnw. Daw’r cyfrif personol hwn gan dad Aimee, Darren:
Cafodd Aimee ddiagnosis o arthritis idiopathig ieuenctid ychydig cyn ei hail ben-blwydd, ac fe gymerodd chwe mis i ni gael diagnosis. Nid oedd y meddygon lleol yn meddwl mai arthritis ydoedd, ond nid wyf yn meddwl eu bod yn gwybod llawer am arthritis mewn plant. Roedd yn syndod i lawer o bobl. Rhaid i Aimee fynd i’r ysbyty bob mis—mae hyn yn golygu teithio i Gaerdydd, sydd ddwy awr i ffwrdd—taith gron o 230 milltir. Ar ôl iddi gael y driniaeth gallaf weld gwahaniaeth o fewn diwrnod neu ddau. Mae’r gofal meddygol yng Nghaerdydd wedi bod yn dda iawn ac rydym yn ddiolchgar iawn. Er hynny, yn lleol mae wedi bod yn anghyson ac yn wael gan fod llawer iawn o anwybodaeth ynglŷn ag arthritis mewn plant. Mae teithio i Gaerdydd yn rhoi straen enfawr arnom. Mae’n golygu colli diwrnodau o ysgol a rhaid i fy mhartner gymryd amser o’r gwaith, nad yw’n hawdd bob amser. Rydym wedi gorfod treulio wythnos yng Nghaerdydd yn y gorffennol pan oedd angen ffisiotherapi arni gan na all gael hynny’n lleol. Rydym wedi ystyried symud yn nes at Gaerdydd ar sawl achlysur. Mae’n bryder gwirioneddol bob dydd gan na all ein meddygon lleol roi triniaeth effeithiol i Aimee. Rydym yn credu y byddai darparu adran amlddisgyblaethol nid yn unig yn rhoi lefel uwch o ofal i’r plant ond hefyd yn helpu i godi ymwybyddiaeth a hybu gwybodaeth gweithwyr proffesiynol a gwasanaethau y tu allan i ardal Caerdydd. Byddai hyn yn galluogi plant ledled Cymru i gael plentyndod heb ei ddominyddu gan arthritis.
Rwy’n credu bod hwn yn ddatganiad teimladwy iawn—bywydau teulu gyda phlentyn ifanc sy’n dioddef o arthritis idiopathig ieuenctid. Fe gyfeiriaf ato yn awr fel AII. Rwy’n credu bod Darren yn crynhoi’n effeithiol sut y byddai canolfan bediatrig arbenigol yn cael dylanwad cadarnhaol ar wasanaethau ledled Cymru ac felly’n gwella bywydau plant ag AII.
Pan glywais gyntaf gan gynrychiolwyr Gofal Arthritis, y Gymdeithas Arthritis Gwynegol Genedlaethol a Chymdeithas Brydeinig Rhewmatoleg, sydd oll wedi bod yn gwneud gwaith gwych yn codi ymwybyddiaeth ynglŷn â hyn, roeddwn yn synnu nad oedd gwasanaethau o’r fath yn bodoli eisoes. Roedd yn dorcalonnus i ddeall mai Cymru, gyda’i phoblogaeth o 3.1 miliwn, yw’r unig wlad ym Mhrydain heb wasanaeth arbenigol o’r fath. Mae hyn o’i gymharu â Gogledd Iwerddon gyda’i 1.8 miliwn o boblogaeth, sydd ag un ganolfan, a’r Alban gyda’i 5.2 miliwn, sydd â dwy ganolfan. Mae gan Loegr 12 canolfan rhewmatoleg bediatrig arbenigol. Mae’n gwbl annerbyniol yn fy marn i fod Cymru wedi cael ei gadael ar ôl.
Mae 12,000 o blant yn y DU yn dioddef o AII, ac amcangyfrifir bod 400 o’r rhain yn byw yn ardal de Cymru. Fel y gwelwch, Aelodau, nid yw hwn yn fater ymylol. Mae papur manyleb gwasanaeth y GIG yn Lloegr a gyhoeddwyd yn 2013 yn nodi y dylai fod un ymgynghorydd rhewmatoleg pediatrig, dau arbenigwr nyrsio, un ffisiotherapydd ac un therapydd galwedigaethol yn GIG Lloegr i bob 1 filiwn o’r boblogaeth neu bob 200,000 o blant. Ar hyn o bryd, mae rhewmatolegydd oedolion profiadol yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd, y gallwn ychwanegu ei fod ar fin ymddeol yn y blynyddoedd nesaf, yn darparu’r rhan fwyaf o wasanaethau rhewmatoleg bediatrig arbenigol ar gyfer de Cymru. Felly, mae hyd yn oed y ddarpariaeth lenwi bwlch hon yn fregus iawn, o ystyried yr ymddeoliad sydd ar y ffordd. Fodd bynnag, mae rhai plant o dde Cymru yn teithio i Fryste, Birmingham a hyd yn oed ymhellach. Fel y dangosir yn y datganiad gan deulu Aimee, gall teithio pellteroedd hir fod yn boenus ac yn llawn straen i blant ag arthritis, a gall achosi tarfu ar addysg a bywyd teuluol.
Mae hwn yn fater y mae angen i’r Llywodraeth fynd i’r afael ag ef yn fy marn i. Dylid cynllunio olyniaeth mewn da bryd i osgoi sefyllfa o fod heb wasanaeth o gwbl, a byddai recriwtio ar gyfer y swydd yn haws os rhoddir cynlluniau ar waith i ddatblygu’r gwasanaeth i fod yn ddarpariaeth drydyddol lawn.
Mae AII yn gyflwr awto-imiwn difrifol, ac os na chaiff ei drin a’i reoli’n briodol, gall achosi anableddau sylweddol gydol oes. Mae angen i blant ag arthritis gael mynediad at wasanaethau iechyd a chymorth o ansawdd uchel er mwyn helpu i gyfyngu ar effaith eu cyflwr ac i’w helpu i gyrraedd eu gwir botensial. Yn ôl AbbVie, y sefydliad ymchwil a datblygu fferyllol, un o’r ffactorau pwysicaf i sicrhau nad oes gan blentyn sydd ag AII niwed arthritis difrifol a niwed i’r cymalau pan fyddant yn oedolion yw i blant gael diagnosis a thriniaeth yn gynnar. Po hwyaf y bydd arthritis wedi bod yn weithredol cyn i’r driniaeth ddechrau, y mwyaf anodd yw hi i reoli’r clefyd. Un agwedd ar y broblem yn unig yw hon, ond gall diagnosis a thriniaeth gynnar fynd mor bell ag ymestyn hyd oes rhywun sy’n dioddef o arthritis, gan ei fod mor allweddol. Gyda phoblogaeth o dros ddwy filiwn yn ne Cymru yn unig, gyda 400,000 o’r rhain yn blant, credaf fod achos pendant dros gael canolfan rhewmatoleg bediatrig arbenigol yng Nghymru.
Mae pwynt 4 y cynnig hwn yn gofyn i’r Cynulliad nodi bod Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, PGIAC, wrthi’n cynnal adolygiad. Bydd yr adolygiad yn edrych ar anghenion y boblogaeth yng Nghymru ac yn asesu unrhyw fylchau yn y ddarpariaeth yn ôl galw, ansawdd gwasanaethau a manyleb. Rwy’n croesawu’r adolygiad hwn, ac rwy’n croesawu’r newyddion fod cyfarfodydd wedi’u trefnu rhwng PGIAC a’r sefydliadau perthnasol, megis Gofal Arthritis. Rwy’n gobeithio bod hyn yn arwydd o gynnydd ar gyfer datblygu canolfan o’r fath. Mae ymddeoliad arfaethedig y rhewmatolegydd presennol yn ychwanegu pwysau amser i’r mater hwn, ac ni ddisgwylir i adolygiad PGIAC gael ei gwblhau tan ddechrau 2018. Fodd bynnag, mae’r dystiolaeth eisoes yn glir ar yr angen am wasanaeth amlddisgyblaethol llawn. Gallai adolygiad PGIAC fod o ddefnydd ar gyfer edrych ar sut i weithredu gwasanaeth a fyddai’n diwallu anghenion y boblogaeth orau yn hytrach nag edrych unwaith eto i weld a oes angen un ar Gymru. Rydym eisoes yn llusgo ar ôl y rhannau eraill o’r DU. Rwy’n credu y dylai’r Llywodraeth roi arweiniad cadarn a nodi ei bod yn bwriadu comisiynu’r gwasanaeth hwn fel na fydd Cymru yn unig ran o’r DU heb ddarpariaeth leol resymol.
Dirprwy Lywydd, os caf orffen gyda hyn, sef dyfyniad olaf o stori Aimee, unwaith eto yng ngeiriau ei thad:
Mae cyflwr Aimee yn anodd iddi. Nid yw’n gallu gwneud yr un pethau â phawb arall. Yn ei hoed hi, tynnir sylw at hyn yn aml. Pethau bach, fel bod yn absennol o’r ysgol yn aml, fel nad yw hi byth yn ennill gwobrau presenoldeb neu’r ffaith ei bod hi’n methu rhedeg o gwmpas gyda’i chyd-ddisgyblion. Mae yna rywbeth sy’n atgoffa’n gyson fod ganddi arthritis.
Dirprwy Lywydd, rwy’n credu y gallwn wneud mwy i wella bywydau’r plant ifanc hyn, sydd eisoes yn brwydro yn erbyn cyflwr sy’n gwneud bywyd bob dydd yn her. Rwy’n cymeradwyo’r cynnig hwn i Aelodau’r Cynulliad. Diolch.
Rwy’n llongyfarch David Melding ar gael y ddadl hon heddiw, ac rwy’n falch o’i gefnogi. Fel y gwyddom o’r drafodaeth, nid rhywbeth y mae pobl hŷn yn unig yn ei gael yw arthritis, oherwydd credaf mai dyna fydd pobl yn aml yn ei feddwl. Deuthum yn ymwybodol o arthritis plentyndod, sy’n effeithio ar 400 o blant yn ne Cymru, ar ôl i un o fy etholwyr, Dawn Nyhan, ddod i gysylltiad â mi a chyfarfûm â hi a’i merch Harriet, sydd bellach yn 19. Cafodd ei diagnosis cyntaf o arthritis idiopathig ieuenctid pan oedd yn ddim ond dwy oed, yn debyg i etholwr David. Yn ogystal ag effeithiau mwy cyfarwydd arthritis plentyndod, megis niwed i’r cymalau a phroblemau symudedd, sydd eisoes wedi cael eu crybwyll heddiw, efallai ei bod yn llai hysbys fod 10 i 20 y cant o blant yn datblygu cyflwr llygad llidiol a all achosi dallineb os na chaiff ei drin. Felly, mae’r salwch hwn yn gyflwr difrifol iawn os caiff ei adael heb ei drin.
Mae tua 60 i 70 y cant o blant yn tyfu allan o arthritis gwynegol, yn yr ystyr nad oes ganddynt glefyd parhaus, ond mae’n bosibl y bydd yn rhaid iddynt barhau i ymdopi â phroblemau o ganlyniad i niwed i’r cymalau a ddioddefasant pan oeddent yn iau, a bydd rhwng 30 a 56 y cant o bobl ag arthritis plentyndod yn dioddef cyfyngiadau difrifol o ran deheurwydd a symudedd pan fyddant yn oedolion.
Yn anffodus, mae problemau Harriet yn barhaus, er ei bod yn benderfynol o beidio â gadael iddo ei hatal rhag cyflawni. Mae Harriet bellach yn hyfforddi i fod yn nyrs, ond mae hi wedi cael cymaint o niwed i’r cymalau fel bod symudedd yn broblem ac mae hi’n dal i gael dyddiau pan na all gerdded i lawr y grisiau ac mae mewn poen dirdynnol, ac nid yw byth yn gwybod pryd y bydd angen triniaeth neu lawdriniaeth arni nesaf.
Dywedodd mam Harriet, Dawn, eu bod wedi sylwi ar boen a phroblemau gyda symud yn gyntaf pan oedd hi’n ddwy flwydd oed. Roedd hi wedi dechrau cerdded yn gynnar ond dechreuodd lusgo’i thraed ac roedd hi’n amlwg mewn poen mawr. Ar y dechrau, dywedwyd wrth y rhieni mai poenau tyfiant oeddent a theimlent eu bod wedi cael eu trosglwyddo o un man i’r llall heb ddiagnosis. Soniodd David am bwysigrwydd diagnosis cynnar yn ei araith. Credaf o ddifrif mai dyna un o’r pwyntiau y mae angen i ni fynd i’r afael â hwy heddiw. Nid oes digon o wybodaeth ymhlith meddygon teulu ynglŷn ag arthritis ieuenctid, a gwelodd y teulu hefyd nad oedd unrhyw wybodaeth am y cyflwr yn yr adran ddamweiniau ac achosion brys pan fyddent yn mynd â Harriet yno.
Yn y pen draw, ar ôl tua phum mis, cawsant ddiagnosis ac ers hynny, maent yn dweud eu bod wedi cael gofal gwych—y broblem oedd cyrraedd y pwynt hwnnw. Ac wrth gwrs, mae hefyd yn bwysig nodi, fel y clywsom eisoes, eu bod yn cael gofal ardderchog gan eu meddyg ymgynghorol, Jeremy Camilleri, sydd hefyd yn un o fy etholwyr. Mae bob amser yn gwneud ei orau glas i helpu, ond rhiwmatolegydd oedolion ydyw er hynny, ac ni all neilltuo mwy na chwarter ei amser ar gyfer gweithio gyda phlant. Mae’r cynnig hwn yn tynnu sylw at yr angen am arbenigwr rhewmatoleg penodedig ar gyfer plant i dde Cymru, sydd â phoblogaeth ddigon mawr i gyfiawnhau hynny.
Yn achos Harriet, fe wnaeth llawer o ffisiotherapi a chefnogaeth a’r defnydd o’r pwll hydro yn Ysbyty Athrofaol Cymru helpu i’w chael yn ôl ar ei thraed yn llythrennol. Ond mae Harriet wedi bod yn parhau i gael pyliau o boen a chwyddo yn ei phengliniau a’i fferau drwy gydol ei gyrfa ysgol. Mae hi wedi gorfod treulio llawer iawn o’i hamser yn yr ysbyty, naill ai i gael triniaeth neu i gael hylif wedi’i ddraenio o’i chymalau.
Mae hi hefyd yn colli llawer o amser ysgol, ac rwy’n credu bod colli ysgol fel hyn yn fater pwysig iawn. Cafodd ei rhieni drafferth i gael cymorth ar gyfer dysgu yn y cartref, er bod yr ysgol, Ysgol Uwchradd Llanisien, yn gwbl gefnogol ynglŷn ag anfon gwaith adref. Ond ni allodd gael tiwtor yn y cartref, felly roedd yn rhaid iddynt dalu am diwtoriaid preifat i helpu Harriet i gael 10 TGAU—tair A* a saith A—er bod ei chofnod presenoldeb yn yr ysgol yn isel iawn ac er iddi gael llawdriniaeth ar ei chymalau yn ystod y ddwy flynedd roedd ganddi arholiadau TGAU.
Felly, rwy’n teimlo’n gryf, gyda’r holl broblemau mae hi wedi’u hwynebu, a chyda chymaint o gefnogaeth gan ei rhieni, ei bod hi wedi cyflawni’n dda iawn. Roedd hi’n frwd ynglŷn â chwaraeon a bu’n gapten y tîm hoci nes ei bod yn 16 oed, pan ddywedwyd wrthi fod ei dyddiau chwarae drosodd oherwydd ei bod wedi dioddef cymaint o niwed i esgyrn ei phengliniau oherwydd yr arthritis.
Felly, gwyddom fod cannoedd o blant yn dioddef o’r cyflwr eithriadol o boenus hwn ac os na chaiff ei drin yn ystod eu plentyndod, y canlyniad fydd niwed i’r esgyrn a’r cymalau. Er bod plant angen y driniaeth yn yr ysbyty, rydym eisoes wedi clywed am anhawster teithiau hir yn y car i gael y driniaeth honno, ac mae’r teithiau hynny’n boenus iawn. Felly, rwy’n gobeithio y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn meddwl am fodel a all fynd i’r afael â’r holl broblemau a nodwyd heddiw ac y gall ddod o hyd i ffordd o fynd i’r afael â’r salwch gwanychol pwysig hwn, y gellir ei atal ac y gellir mynd i’r afael ag ef os gwneir diagnosis yn ddigon cynnar. Diolch.
Rwy’n falch iawn o gael siarad yn y ddadl heddiw. Rhaid ei bod yn anodd iawn, Ysgrifennydd y Cabinet, gan fy mod yn gwybod nad yw arian yn ddiderfyn, ond fel y dywed David Melding, nid yw hwn yn fater ymylol, ac mae gan y bobl ifanc hyn bob hawl i gael mynediad at driniaeth o’r ansawdd y byddem yn ei ddisgwyl drwy’r GIG yn gyfan. Swm a sylwedd y peth yw y dylai Cymru gael gwasanaeth rhewmatoleg pediatrig amlddisgyblaethol.
Fe wnes innau hefyd gyfarfod ag Aimee yn y digwyddiad a gynhaliwyd yr wythnos diwethaf, ac rwy’n gwbl barod i gyfaddef fy mod wedi cael eiliad o embaras. Roedd hi’n sefyll wrth ymyl rhywun arall a oedd ar ffyn baglau, felly anelais yn syth am y person ar ffyn baglau, gan fod yna blentyn bach bywiog, hwyliog arall yn llawn bywyd—wyddoch chi, bing, bing, bing—ac fe feddyliais, ‘O, rhaid mai dyma hi’, a dyma hwy’n dweud, ‘Na, hon yw Aimee’, a dyna ble roedd hi. Cawsom sgwrs wych am siopa, am ddillad, am fynd i ganol Caerdydd—yn llawn cyffro—ac yna dywedodd ei thad wrthyf, ‘Ond yfory mae hi’n debygol o fod mewn cadair olwyn.’ Gwnaeth hynny argraff fawr arnaf, a meddyliais ‘O, diar annwyl’. Am beth ofnadwy i ymdopi ag ef pan ydych ond yn—rwy’n meddwl ei bod hi’n saith neu’n wyth oed. Un funud gallwch wibio o gwmpas a gwneud popeth, a’r funud nesaf dyna ni, rydych wedi’ch cyfyngu’n llwyr gan ddwy olwyn.
Hefyd, cyfarfûm â dyn ifanc a oedd ychydig yn hŷn ac mae’n rhaid i mi ddweud, roedd ychydig yn fwy anniddig yn ôl pob tebyg am fod hormonau’r arddegau yn tanio o gwmpas ei gorff ac roedd yn ei chael hi’n anodd iawn. Roedd mewn cadair olwyn ac yn gafael mewn pêl rygbi ac yn siarad am wahanol bethau, ond dywedodd fod ei fywyd yn anodd iawn ac ni all ymuno i wneud pethau gyda’i ffrindiau, ni all fynd ar dripiau a’r gweddill i gyd, ac fe feddyliais, ‘Wow, mae hynny’n dod â’r peth yn fyw. Mae hwn yn salwch, cyflwr, afiechyd sy’n cyfyngu ar brofiadau bywyd.’ A dyna’r broblem, oherwydd mae llawer o’r plant ifanc hyn, os ydynt yn cael cymorth—ac un o’r pethau mawr sydd eu hangen arnynt i’w cynorthwyo ac na allant ei gael ac nad yw ar gael yw ffisiotherapi a therapi galwedigaethol a seicotherapi sy’n targedu’n benodol y mathau o brofiadau y maent yn byw drwyddynt.
Cefais sgwrs hir hefyd â thad Aimee, a dywedodd ei fod yn gallu ymdopi, er yn anfoddog, â gorfod dod i Gaerdydd a siarad â’r rhewmatolegydd oedolion ac yn y blaen, ond roedd yn awyddus iawn i gael ffisiotherapyddion wedi’u hyfforddi ger eu cartref yn Hwlffordd a allai helpu rhywun fel Aimee i ymdopi â’r hyn y mae hi’n ei wneud, i’w gwneud mor gryf ag y bo modd, i roi’r cyfle gorau iddi fynd drwy’r cyflwr ofnadwy hwn, a dod allan yn y pen arall gobeithio fel yr oedolyn ifanc gorau y gall hi fod. Mae wedi gofyn i Ysbyty Llwynhelyg a Glangwili ac mae yna amharodrwydd go iawn oherwydd nad oes ganddynt y staff, nid oes ganddynt yr hyfforddiant, nid oes ganddynt y wybodaeth, nid oes ganddynt y sgiliau. Cyfarfûm â’r prif weithredwr, ac roedd yn un o’r pethau a godwyd gennym, oherwydd bod gan Aimee, y dyn ifanc y cyfarfûm ag ef a dyn ifanc arall y cyfarfûm ag ef yn fy nghymhorthfa—mae gan bob un ohonynt hawl absoliwt i gael y mathau hynny o wasanaethau. Os wyf yn torri fy mraich ac eisiau ffisiotherapi, rwy’n disgwyl gallu siarad â rhywun sy’n gwybod sut i fy helpu i gael y cryfder hwnnw yn ôl.
Felly, mae llawer o’r ddadl hon yn canolbwyntio ar gael canolfan ragoriaeth y mae ei gwir angen arnom yng Nghymru, wedi’i lleoli yn rhywle synhwyrol lle y gall pobl ei chyrraedd, gydag arbenigwr pediatrig targededig yn ei rheoli. Ond nid yw’n gorffen yn y fan honno. Dyna galon y corryn rwy’n credu. Mae’n rhaid i bob un o’r coesau sy’n mynd allan dros Gymru gael yr holl wasanaethau cymorth hyn. Mae’n rhaid i ni gael y therapyddion galwedigaethol, mae’n rhaid i ni gael y ffisiotherapyddion, ac mae’n rhaid i ni gael y therapyddion seicolegol oherwydd roedd y dyn ifanc a ddaeth i fy ngweld yn fy swyddfa etholaeth yn anhapus iawn, yn isel iawn ynglŷn â’r hyn oedd yn digwydd iddo, yn isel iawn ynglŷn â’i brofiad, ac ni allai gael y cymorth iechyd meddwl roedd ei angen. Felly, mae’n ystod gyfan—nid unigolyn â phroblem yw’r bobl hyn; mae’n fater cymhleth. Ac rwy’n meddwl o reidrwydd fod dioddef o rywbeth sy’n gallu bod mor wahanol o ddydd i ddydd yn anodd iawn, ac mae’n rhaid ei fod yn tarfu ar rythmau eich diwrnod. Felly, hoffwn ymbil arnoch, Ysgrifennydd y Cabinet, i edrych ar yr holl faes hwn, i ystyried adeiladu canolfan ragoriaeth. Mae gennym ysbyty plant. Gallai hyn fod yn sylfaen hollol wych i ddechrau ohono a rhoi rhywun yno sy’n gallu edrych ar ôl de Cymru ac yna gwneud cynlluniau ar gyfer sut i ofalu am ogledd Cymru yn ogystal, wrth gwrs, oherwydd, mae plant i fyny yno yn gorfod teithio ar draws ffiniau ac yn y blaen. Felly mae angen inni wneud yn siŵr y gallwn ddarparu hynny er mwyn lliniaru cyflwr sy’n annymunol tu hwnt.
Sylw Terfynol: rydym wedi siarad llawer am iechyd y cyhoedd, rydym yn siarad llawer am y bom amser yn y dyfodol, rydym yn sôn llawer am rymuso’r claf, grymuso’r gofalwr, clywed eu llais a gadael i bobl wneud dewisiadau gwybodus. Heb gael y staff yn eu lle a hyfforddi’r bobl hynny i helpu’r bobl hyn, ni allant wneud hynny, ni allant gael llais, ac ni allant wneud dewisiadau gwybodus, a dyna beth, Ysgrifennydd y Cabinet, y gofynnwn i chi ystyried ei sefydlu. Diolch.
Mi wnaf innau ddechrau drwy sôn am brofiad person ifanc, Kelly O’Keefe o Dalsarnau yng Ngwynedd, sydd yn ei hugeiniau erbyn hyn ond yn dioddef o arthritis o oed ifanc iawn. Yn cael ei thriniaeth yn ysbyty Alder Hey yn Lerpwl—ysbyty rhagorol, ond nid dyna’r pwynt yn fan hyn. Mi oedd ei rhieni hi’n gorfod cymryd diwrnod off o’r gwaith i fynd â hi i Lerpwl, gydag apwyntiadau’n gynnar yn y bore—weithiau am 9 o’r gloch y bore. Nid oedd hi’n teithio’n dda iawn oherwydd yr arthritis. Mi oedd hi’n cymryd dyddiau iddi ddod dros y teithio yn aml iawn. Ac mi oedd y profiad yn un sydd wedi aros efo hi hyd heddiw.
Ar y rhagdybiaeth ein bod ni yn ystyried bod teithio am bellteroedd hir am driniaeth yn rhywbeth y mae’r NHS yn ei ddefnyddio fel rhywbeth ‘last resort’—mae’n bosib ei bod hi’n annheg i wneud y rhagdybiaeth honno o ystyried faint o wasanaethau sydd wedi cael eu hallanoli i Loegr yn y blynyddoedd diwethaf—o gymryd y rhagdybiaeth yna, mae angen inni ofyn i ni ein hunain: a ydy hi’n bosib a sut mae hi’n bosib i gael y ddarpariaeth arbenigol yma yng Nghymru. Beth sydd angen ar gyfer gwasanaeth arbenigol? Wel, niferoedd cleifion, i ddechrau efo hi, ac rydym ni’n gallu gweld nad oes yna ddim problem efo cyfiawnhau hynny yn ne Cymru, yn sicr. Efallai ei bod hi ychydig bach yn fwy problematig yn y gogledd, neu, o leiaf os ydym ni’n eithrio defnyddwyr posib o ardaloedd Caer neu Amwythig, er enghraifft—sef beth rydym ni fel arfer yn ei wneud, mae’n debyg—mi ddylem ni fod yn datblygu gwasanaethau a all ddarparu i rai dros y ffin hefyd, os mai dyna sydd ei angen ar gyfer creu y ‘critical mass’.
Mae yna hefyd rywbeth yn od yn y gwahaniaeth rhwng y ffigurau poblogaeth yng Nghymru a’r niferoedd sydd ar hyn o bryd yn cael eu hadnabod fel cleifion yn y system. Cymru ydy’r unig wlad yn y Deyrnas Unedig heb ganolfan rhewmatoleg bediatrig arbenigol. Mae gan Ogledd Iwerddon boblogaeth o 1.8 miliwn, o’i gymharu â 3.1 miliwn yng Nghymru, ac eto Cymru sydd heb wasanaeth amlddisgyblaethol, fel rydym ni’n gofyn amdano fo heddi. Mae gan yr Alban, efo poblogaeth o 5.2 miliwn, ddau wasanaeth o’r fath. Ond pan fydd hi’n dod at niferoedd y cleifion, dim ond 202 o blant oedd ar y llyfrau, fel petai, yn cael eu trin yng Nghaerdydd, yn ôl ffigurau 2014. Rŵan, os ydym ni’n ystyried, a’n bod ni’n credu, fod yna ryw 600 o blant â’r cyflwr yma yng Nghymru, mae’r mudiadau sydd yn cefnogi’r cynnig yma heddiw wedi datgan pryder am y ffigurau yma—y ffigwr o 202—achos mi allai fo olygu un ai nad yw plant yn cael diagnosis neu nad yw eu hanghenion nhw ar ôl cael diagnosis yn cael eu diwallu yn y ffordd y dylen nhw drwy gael gwasanaeth amlddisgyblaethol iawn.
Rydym ni wedi gweld o’r blaen yn aml iawn, pan fydd hi’n dod i ddarpariaeth arbenigol, fod y galw posib amdano fo’n aml yn cael ei danamcangyfrif gan swyddogion iechyd, sy’n barod iawn, mae’n ymddangos i mi, i weld Lloegr fel y darparwr arbenigol ‘default’ felly. Mae’r uned ‘perinatal’ mam a baban rydym ni wedi sôn amdani yn ddiweddar yn achos arall lle oedd y galw a’r angen yn cael eu tanamgangyfrif pan yn asesu a ddylai uned gael ei chau. Rydym ni hefyd yn gwybod bod diffyg data yn broblem drwy’r NHS. Nid yw llawer o’r data rydym ni eu hangen ar gael neu’n cael eu rhannu. Mae sefydliadau fel petasent yn cynllunio, yn aml iawn, beth allen nhw ei gau neu ei symud i rywle arall yn hytrach na beth allen nhw ei greu.
Nid ydy o’n gyfrinach fod y cynnig yma wedi cael ei gyflwyno ac wedi cael ei ysbrydoli oherwydd gwaith eiriolaeth sawl mudiad sy’n cynrychioli cleifion sydd angen gwell gwasanaethau. Rwy’n gobeithio y byddwn ni’n cael ymateb positif gan y Llywodraeth yma o ganlyniad i hynny. Ond rwyf am ofyn y cwestiwn yma: beth am y clefydau nad oes ganddyn nhw’r un eirioli effeithiol ar ran cleifion? Allwn ni ddim bodloni ar ddarpariaeth fratiog mewn unrhyw gyd-destun. Mae yna fater ehangach i ni fan hyn hefyd, sef bod yna dybiaethau am Gymru gan reolwyr yr NHS, mae’n ymddangos i mi, sy’n golygu nad ydyn nhw’n ei weld o fel yr opsiwn ‘default’ i geisio darparu’r triniaethau arbenigol yma, neu ystyried denu cleifion o Loegr pan fyddai hynny’n ofynnol i greu ‘critical mass’. Ac, o ganlyniad, nid hwn, rwy’n meddwl, a fydd yr olaf o’r math yma o ddadl.
Mae profiad Kelly O’Keefe, rwy’n meddwl, yn adrodd cyfrolau. Mae’n sôn hefyd, oherwydd y diffyg gwasanaeth yng ngogledd Cymru, am y diffyg gwasanaethau cefnogol a oedd yn deillio o hynny. Oherwydd nad oedd yna ddim gwasanaeth, nid oedd yna ychwaith ddim grwpiau cefnogol ar gael yng ngogledd Cymru, a hynny hefyd yn gwneud y profiad, iddi hi a’i theulu, yn anos fyth. Mae’n amlwg i fi fod plant Cymru yn haeddu gwell, ac rydw i’n falch iawn o gael cefnogi’r cynnig yma heddiw.
Rwy’n falch o gael cyd-noddi’r cynnig hwn sydd ger ein bron heddiw a diolch i David Melding am gyflwyno’r ddadl hon, sy’n un bwysig iawn. Mae’n annerbyniol mai Cymru yw’r unig wlad ym Mhrydain heb wasanaeth rhewmatoleg pediatrig arbenigol neu dîm amlddisgyblaethol penodedig. O ganlyniad, mae plant yng Nghymru sy’n dioddef o arthritis idiopathig ieuenctid, erythematosws lwpws systemig sy’n dechrau yn ystod ieuenctid, fasgwlitis, osteoporosis idiopathig ieuenctid, ffibromyalgia, a thua 200 o gyflyrau eraill, yn cael eu gadael heb ofal arbenigol. Mae miloedd o blant o bob cwr o dde Cymru yn cael eu gorfodi i ddibynnu ar wasanaeth eilradd a ddarperir yn rhan-amser gan arbenigwr rhewmatoleg oedolion heb gefnogaeth arbenigwyr nyrsio, ffisiotherapyddion, a therapyddion galwedigaethol, ac mae’n rhaid i rai plant deithio i Fryste neu Birmingham am driniaeth.
Yr wythnos diwethaf, mewn digwyddiad i dynnu sylw at y mater hwn, cyfarfûm â merch ifanc anhygoel o ddewr sy’n dioddef o arthritis idiopathig ieuenctid. Mae Aimee yn wyth mlwydd oed, a dangosodd i mi’r heriau gwirioneddol y mae hi a’i theulu yn eu hwynebu o ganlyniad i’w chyflwr a’r ffaith na fydd gofal arbenigol ar gael iddi pan fydd y rhewmatolegydd presennol yn ymddeol mewn ychydig flynyddoedd. Mae Aimee wedi treulio’r rhan fwyaf o’i bywyd ifanc mewn poen, gyda chymalau stiff ac wedi chwyddo. Mae ei arthritis wedi cyfyngu ar ei phlentyndod gan ei bod yn aml yn methu gwneud y pethau y mae llawer o bobl ifanc yn eu cymryd yn ganiataol. Pan fydd hyn yn digwydd, mae Aimee’n defnyddio cadair olwyn. Eglurodd ei thad, Darren, ei bod weithiau’n cael ei phryfocio neu hyd yn oed ei bwlio yn yr ysgol pan fydd hi’n defnyddio ei chadair. Mae ei chyflwr wedi effeithio ar ei haddysg gan ei bod wedi gorfod colli ysgol ar adegau, ac mae wedi effeithio ar weddill y teulu. Heb driniaeth gywir, mae risg y gallai ddatblygu anableddau gydol oes, felly mae’r clefyd hwn yn amddifadu Aimee o’i phlentyndod, ond gallai hefyd effeithio neu gyfyngu ar ei bywyd fel oedolyn. Er gwaethaf hyn i gyd, mae hi’n parhau i fywiogi’r byd â’i gwên.
Nid yw Aimee ar ei phen ei hun, yn anffodus. Mae cannoedd o blant yn ne Cymru sy’n byw gyda’r cyflwr awto-imiwn ofnadwy hwn nad oes gwellhad iddo. Mae’r bobl ifanc hyn yn haeddu gwasanaeth rhewmatoleg pediatrig amlddisgyblaethol penodedig. Mae gwasanaeth o’r fath yn hanfodol i sicrhau lleihad yn yr arthritis, cadw rheolaeth ar y clefyd, cynnal datblygiad arferol, a lleihau’r risg o anabledd gydol oes. Mae’r GIG yn Lloegr yn datgan y dylai fod un ymgynghorydd rhewmatoleg pediatrig, dau arbenigwr nyrsio, un ffisiotherapydd, ac un therapydd galwedigaethol ar gyfer pob miliwn o bobl. Mae gennym tua dwy filiwn o bobl yn byw yn ne Cymru ac eto, chwarter rhewmatolegydd oedolion cyfwerth ag amser llawn sydd gennym, heb rwydwaith clinigol ffurfiol na thîm amlddisgyblaethol. Mae hyn yn annerbyniol. Rydym yn gwneud cam ag Aimee a miloedd o blant tebyg iddi.
Rwy’n annog fy nghyd-Aelodau Cynulliad i ymuno â ni i alw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu gwasanaeth rhewmatoleg pediatrig amlddisgyblaethol llawn yn ne Cymru ac i wella’r modd y caiff gwasanaethau eu darparu yng ngogledd Cymru. Dyma yw ein dyletswydd i Aimee, i’r miloedd o blant sy’n dioddef o gyflyrau gwynegol, a’n dyletswydd i’r plant sydd heb gael diagnosis eto. Cefnogwch y cynnig hwn. Diolch. Diolch yn fawr.
Diolch yn fawr iawn. Cyn imi alw ar y siaradwr nesaf, os ydych yn defnyddio eich iPads neu eich iPhones, ac mae gennych hawl i wneud hynny, a fyddech cystal â gwneud yn siŵr eu bod ar ‘tawel’? Mae’r pingio cyson yn dechrau mynd ar fy nerfau, ac rwy’n siŵr na fyddech am i mi ddechrau colli fy nhymer yn y gadair. Felly, os ydych yn edrych, a allwch edrych i weld os gwelwch yn dda? Mae’n debyg y bydd yn effeithio ar y cyfieithu a’r darlledu. Joyce Watson.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Y peth cyntaf yr hoffwn ei wneud yw diolch i David Melding am greu cyfle i mi ac fel y dywedodd, i 50 y cant o Aelodau’r Cynulliad, gyfarfod â dau deulu gwych a’u plant dewr iawn, a hefyd am greu cyfle i ni yma heddiw i gydnabod eu cyflwr ac i ofyn am rywfaint o gefnogaeth yn hynny o beth. Enw’r digwyddiad yw ‘Rhy Ifanc i Arthritis?’, a byddai ym meddwl pawb ohonom, pe baem yn sôn am rewmatoleg, na fyddem o reidrwydd yn cysylltu hynny â phlant. Felly, roedd yn agoriad llygad go iawn, rwy’n meddwl, i’r rhan fwyaf o bobl, i gyfarfod â phobl ifanc ac i siarad am rewmatoleg bediatrig. Roedd i mi’n sicr—rwy’n codi fy llaw i gyfaddef fy mod i’n un o’r bobl hynny.
Maent yn byw gyda chyflwr ac yn cael triniaeth ar gyfer arthritis idiopathig ieuenctid, a byddaf yn cyfeirio ato fel AII o hyn ymlaen. Mae llawer o bobl wedi siarad am Aimee, ac mae pob un ohonom wedi cyfarfod â hi, ond cyfarfûm ag Aaron hefyd, a oedd yn 12 oed, ac roedd y ddau ohonynt wedi teithio o Sir Benfro yn fy ardal i. Ac fe wnaethant rannu eu straeon a’u profiadau’n barod iawn ac yn ddewr iawn, rwy’n teimlo, gyda phob un ohonom. Un o’r pethau yr hoffwn ei ychwanegu oedd yr ynysu cymdeithasol roeddent yn sôn wrthyf amdano a’r ffaith, ar ddiwrnod da, na allent ddod o hyd i unman mewn gwirionedd lle y gallent gymdeithasu â phobl eraill yn hawdd, oherwydd problemau mynediad ac oherwydd eu bod yn deall y gallent efallai ymuno â chlwb yr wythnos hon, a methu mynd iddo yr wythnos nesaf. Ni ellir gorbwysleisio’r anghysonderau yn eu bywydau o ddydd i ddydd a’r torri ar eu patrwm yn yr ysgol, yn eu bywydau cymdeithasol, ac yn eu bywyd teuluol eu hunain, ac roeddwn eisiau sôn am hynny.
Fel rhywun sy’n teithio o Sir Benfro i Gaerdydd bob un wythnos fwy neu lai, ac yn ôl adref, rwy’n deall ei bod yn daith hir ac at ei gilydd, bydd yn cymryd dwy awr, ac weithiau bydd yn cymryd llawer mwy o amser, yn dibynnu ar yr adeg o’r dydd. Ond i rywun sy’n dioddef o gyflwr mor boenus ac sy’n gwneud y daith yn weddol aml weithiau, mae’n rhaid bod y boen a’r anghysur yn anodd iawn i’w dioddef. Gwrandewais arnynt, fel y gwnaeth pawb ohonom, ac roeddent yn gofyn am ganolfan drydyddol arbenigol ar gyfer rhewmatoleg bediatrig yn yr ysbyty plant yng Nghaerdydd. O ganlyniad, ac yn y gobaith y gallai hynny ddigwydd, roeddent yn edrych ymlaen at ganolfan loeren neu ganolbwynt lle y gallent gael triniaeth wedyn yn agosach at adref pan fo hynny’n briodol. Ac maent yn gwybod ac yn cydnabod na fyddai hynny ond yn bosibl os oedd yna ganolfan drydyddol arbenigol o’r fath yn agor yn y lle cyntaf.
Mae llawer yma wedi dweud heddiw nad oes gwasanaeth o’r fath ar gael i’r unigolion hyn yng Nghymru, ac rwy’n teimlo o ddifrif fod angen i ni edrych ar ddarparu’r driniaeth honno yma. Wrth gwrs, yn gysylltiedig â hynny, byddai angen timau amlddisgyblaethol arbenigol a fyddai’n cynnwys meddygon, nyrsys, therapyddion galwedigaethol, ffisiotherapyddion ac rwy’n meddwl, unwaith eto, y byddwn yn galw am y gefnogaeth honno. Ni ellir gorbwysleisio, os ydych yn byw gyda chyflwr fel hwn a bod yn rhaid i chi deithio i gael y driniaeth, mae’n effeithio’n ddifrifol iawn ar eich bywyd o ddydd i ddydd, ond ychwanegwch ieuenctid ato, a’r disgwyliad y byddech, fel person ifanc, yn byw eich bywyd, credaf fod angen i bawb ohonom yma wneud popeth yn ein gallu i wella pethau iddynt.
Un o’r darnau o gyngor a roddwyd i mi gan fy rhagflaenydd uchel ei barch fel Aelod Cynulliad dros Gaerffili, Jeff Cuthbert, oedd i fachu ar y cyfle bob amser mewn dadl i roi sylw i broblemau a phryderon eich etholwyr, ac felly mae hwn yn gyfle amserol iawn i wneud hynny. Ffurfiwyd fy ngwybodaeth am y clefyd ofnadwy hwn o ganlyniad i gyfarfod ag etholwr, Glyn Davies, sydd wedi bod yn gwirfoddoli ar ran Gofal Arthritis ers 15 mlynedd. Mae’n dioddef o arthritis ei hun ac mae wedi cynnal amrywiaeth o gyrsiau ar gyfer pobl o bob oed yr effeithiwyd arnynt gan arthritis, ar weithgareddau fel ymarfer corff, cyflogaeth, cyllid, lles, a rheoli poen. Siaradodd â mi am bwysigrwydd pontio o wasanaethau pediatrig i wasanaethau oedolion, ac mae’n rhywbeth a grybwyllwyd—credaf fod Rhun wedi cyffwrdd ar hynny yn rhai o’r cyfraniadau a wnaeth. Mae rôl gwirfoddolwyr, felly, yn bwysig tu hwnt, ond rwy’n ymwybodol fod y cynnig yn canolbwyntio ar fater arthritis mewn plant, sy’n rhywbeth nad oes cymaint o bobl yn ei ddeall yn gyffredinol, rwy’n meddwl—yn sicr yn y sgyrsiau a gefais ag etholwyr eraill.
Yn gynharach heddiw, cysylltodd fy etholwr Alison Haines, Caerffili, â fy swyddfa. Mae AII ar fab Alison ac mae’n tueddu i gael pyliau ohono. Ar hyn o bryd, mae argaeledd gwasanaethau cymorth rhan-amser yn golygu y gall mynediad at ofal gymryd dau neu dri diwrnod. Mae Alison yn teimlo y gellid rheoli pyliau ei mab yn well pe bai mynediad llawn at driniaeth a chyngor ar gael yn ehangach a hynny’n rheolaidd. Dywedodd wrthyf fod ei mab ar hyn o bryd yn cael triniaeth ar ddau safle gwahanol, Ysbyty Arch Noa i Blant Cymru yng Nghaerdydd, ac Ysbyty Brenhinol Gwent yng Nghasnewydd. Y broblem yw bod ei apwyntiadau ar ddyddiau gwahanol, sy’n golygu bod ei addysg yn dioddef oherwydd ei fod i ffwrdd o’r ysgol am fwy o amser. Pe gellid darparu ystod o wasanaethau rhewmatoleg pediatrig mewn un lle penodol, yna byddai hynny’n lleihau’r effaith ar ei lefelau presenoldeb yn yr ysgol, a hefyd yn lleihau’r straen ar y teulu cyfan. Yn amlwg, byddai sefydlu gwasanaeth rhewmatoleg pediatrig trydyddol, amlddisgyblaethol yn ne Cymru, fel y dywedodd Julie Morgan, o fudd sylweddol i bobl fel mab Alison, gan ei helpu i reoli ei gyflwr yn fwy effeithiol a darparu llawer iawn o gefnogaeth i’w deulu.
Cofrestrais fel cefnogwr i’r cynnig. Roeddwn eisiau deall yn llawn beth oedd goblygiadau pwyntiau 4 a 5, wrth aros am yr adolygiad PGIAC a goblygiadau hwnnw felly i’r penderfyniad ar wasanaethau pediatrig. Rwy’n credu bod cyfraniad Rhun ap Iorwerth wedi creu argraff arnaf pan ddywedodd, ‘Wel, mae angen strategaeth arnom. Mae angen i ni feddwl yn strategol am y peth. Mae angen i ni seilio hyn ar dystiolaeth’, a dylai’r dystiolaeth gael ei darparu felly gan yr adolygiad PGIAC. Ac felly, i gloi, byddwn yn ddiolchgar pe bai Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno i ystyried y cysyniad o wasanaeth rhewmatoleg pediatrig amlddisgyblaethol, wrth aros am ganlyniad yr adolygiad PGIAC.
Hefyd, bûm yn ddigon ffodus i gyfarfod â chynrychiolwyr y Gymdeithas Brydeinig Rhewmatoleg a’r Gymdeithas Arthritis Gwynegol Genedlaethol yn adeilad y Pierhead yn ddiweddar, a diolch i David Melding am gyflwyno’r ddadl hon. Cefais fy nharo gan y pwyntiau a wnaed, a bod achos cryf i’w wneud, gyda phoblogaeth o dros ddwy filiwn a dros 400,000 o blant yn ne Cymru, dros gael gwasanaeth rhewmatoleg pediatrig amlddisgyblaethol llawn. Yn anochel, gyda’r diffyg darpariaeth hanesyddol yng Nghymru ar hyn o bryd, mae llawer o blant yn teithio pellteroedd mawr i gael mynediad at rewmatoleg bediatrig, gyda phlant yn teithio i ganolfannau yn Lloegr, fel Bryste a Birmingham. Ni all neb gredu bod hyn yn ddelfrydol neu’n angenrheidiol, heb sôn am fod yn ddymunol.
Yn gynharach eleni, cadarnhaodd Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru y byddant yn cynnal adolygiad cynhwysfawr, fel y dywedodd llawer o’r Aelodau, o wasanaethau pediatrig arbenigol ar gyfer poblogaeth Cymru, ac y bydd yr adolygiad yn cynnwys yr asesiad hwnnw o rewmatoleg bediatrig, ac rwy’n croesawu’r cam hwn yn fawr iawn. Mae’n bwysig ein bod yn seilio ein penderfyniad ar dystiolaeth. Dyma’r ffordd y dywedwyd y gallwn sicrhau bod modd mynd ati’n briodol i dargedu adnoddau gwerthfawr ar gyfer y gwasanaeth iechyd gwladol yng Nghymru, nad ydynt yn ddiderfyn, i ddiwallu anghenion cynyddol ac ymledol y genedl Gymreig.
Neithiwr ddiwethaf, roedd rhaglen newyddion flaenllaw BBC Cymru, ‘Wales Today’, yn tynnu sylw at y mater sylfaenol hwn, a chyda’r cynnydd mewn diabetes, clefyd Alzheimer a chyflyrau eraill, mae adolygiad interim o iechyd a gofal cymdeithasol, o dan gadeiryddiaeth Dr Ruth Hussey, wedi tynnu sylw at heriau cyllid y gwasanaeth iechyd gwladol yng Nghymru wrth wynebu’r dyfodol yng Nghymru.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet ar gyfer iechyd, Vaughan Gething AC, yn y Siambr hon ddoe ei fod yn disgwyl i’r adolygiad ac ymateb Llywodraeth Cymru iddo ffurfio cyfeiriad teithio ar gyfer y degawd nesaf. Dywedodd yr Athro Syr Mansel Aylward, aelod o’r panel adolygu, fod angen i’r GIG yng Nghymru ateb gofynion pobl Cymru fel y dadleuodd Aneurin Bevan ar y dechrau un.
Rwy’n mawr obeithio ac yn gofyn am i’r galw clir am wasanaethau rhewmatoleg pediatrig yng Nghymru gael ei ddiwallu gan ateb wedi’i deilwra y gall Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru ei argymell ac fel y cyfryw, byddaf yn cefnogi canlyniad o’r fath yn gryf.
Diolch yn fawr iawn. Galwaf yn awr ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon, Vaughan Gething.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i’r Aelodau am eu cyfraniadau yn y ddadl hon. Fel erioed, mae’r dadleuon gan Aelodau unigol yn gyfle da i wyntyllu materion na fyddai fel arall yn cael proffil cenedlaethol. Rydym yn sôn heddiw am gyflwr poenus, fel y nododd David Melding—un nad yw wedi’i ddeall yn iawn o bosibl. Cyfeiriodd sawl un o’r Aelodau eraill at hynny. Yn aml bydd profiad dynol o gyfarfod â rhywun sydd â chyflwr yn sbarduno diddordeb penodol, nid mewn un Aelod yn unig ond mewn amryw ohonom, i ddeall mewn gwirionedd fod gan bron bob un ohonom etholwyr yr effeithiwyd arnynt yn ôl pob tebyg.
Bydd y Llywodraeth yn ymatal heddiw ac ni fydd yn cefnogi geiriad penodol y cynnig. Rydym yn cydnabod bod angen adolygu gwasanaethau rhewmatoleg pediatrig, a byddaf yn amlinellu yn fy nghyfraniad yr hyn sydd eisoes yn digwydd.
Ddoe, fel y nodwyd, yn y datganiad ynglŷn â’r adolygiad seneddol, aethom drwy rai o’r heriau sy’n ein hwynebu o ran darparu gwasanaeth sy’n addas i ateb heriau’r dyfodol, ac mae’r gwasanaeth hwn yn enghraifft dda o ble rydym yn cydnabod ac angen deall lefel yr angen a rhoi dull ymarferol yn seiliedig ar dystiolaeth ar waith wedyn i wella gwasanaethau. Gallai ei gwneud yn ofynnol hefyd i’r teulu GIG weithio ar draws ffiniau byrddau iechyd a ffiniau cenedlaethol o bosibl er mwyn darparu’r cyfluniad cywir ar gyfer pob un o’r gwasanaethau.
Nawr, fel y mae’r cynnig yn cydnabod, nid oes gennym ganolfan rewmatoleg bediatrig wedi’i dynodi’n ffurfiol. Yn ymarferol, darperir gwasanaeth trydyddol yn Ysbyty Athrofaol Cymru, fel y nodwyd sawl gwaith yn y ddadl. Mewn gwirionedd, weithiau bydd angen atgyfeiriad gan Ysbyty Athrofaol Cymru at wasanaeth arbenigol arall ar hyn o bryd hefyd. Fel y crybwyllwyd, caiff pob atgyfeiriad o’r fath eu hadolygu gan rewmatolegydd ymgynghorol sy’n gweithredu fel porthor clinigol, a chaiff ei awdurdodi i atgyfeirio ac ymrwymo cyllid Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru—neu PGIAC—ar gyfer triniaeth yn y canolfannau arbenigol hynny y tu allan i Gymru. Felly, mae gennym gytundebau lefel gwasanaeth eisoes ar waith yn ne a chanolbarth Cymru gyda Birmingham, Bryste a Great Ormond Street. Ond rwy’n cydnabod nad yw’r trefniadau presennol yn darparu ar gyfer y tîm amlddisgyblaethol llawn a ddylai fod ar waith mewn canolfan rewmatoleg bediatrig ddynodedig. Rwyf hefyd yn cydnabod y pwyntiau a wnaed ynglŷn â phellteroedd teithio, a dof yn ôl at hynny yn nes ymlaen.
Mae’r cynnig yn cyfeirio i raddau helaeth at nifer y cleifion yng Nghymru—yn benodol, nifer y cleifion yn ne Cymru. Yng ngogledd Cymru, mae’r bwrdd iechyd yn darparu clinigau allgymorth, ac mae cleifion yn mynychu ysbyty Alder Hey i gael gwasanaethau pediatrig. Cyn heddiw, ni soniwyd wrthym am bryderon sylweddol ynglŷn ag ansawdd neu gyrhaeddiad y gwasanaethau hynny i ddinasyddion yng ngogledd Cymru. Mewn gwirionedd, nid oedd y trydydd sector wedi tynnu sylw at heriau ynglŷn â hynny, ac mae ystod o grwpiau cymorth yn bodoli yng ngogledd Cymru hefyd, ond fe ystyriaf sylwadau a wnaed gan Aelodau yn y Siambr a chael y drafodaeth honno gyda defnyddwyr gwasanaethau a’r trydydd sector hefyd.
Ceir tair ffrwd waith rwyf am gyfeirio atynt i lywio’r dull o weithredu yn y dyfodol. Y gyntaf yw’r adolygiad cynhwysfawr o wasanaethau pediatrig arbenigol gan PGIAC, fel y nodwyd yn y cynnig ac yn y ddadl heddiw. Gwn fod PGIAC eisoes wedi bod mewn cysylltiad â’r trydydd sector, yn enwedig y Gymdeithas Arthritis Gwynegol Genedlaethol, fel rhan o’r adolygiad hwnnw. Mae’n bwysig i mi fod y trydydd sector a llais y defnyddwyr gwasanaethau’n nodwedd go iawn yn yr adolygiad hwnnw sy’n digwydd. Rwy’n croesawu’r adolygiad ac rwy’n edrych ymlaen at y canlyniadau a all lywio syniadau’r GIG ar y potensial, ond hefyd wedyn ar yr ystyriaethau ymarferol i fynd i’r afael â hwy ynglŷn â darparu gwasanaethau arbenigol yng Nghymru.
Yr ail faes gwaith yw’r adolygiad o’r ddogfen â’r teitl bachog, y gyfarwyddeb gomisiynu ar gyfer arthritis a chyflyrau cyhyrysgerbydol cronig. Os nad oes ots gennych, fe gyfeiriaf ati fel y gyfarwyddeb. Nawr, yn y pen draw, wrth gwrs, mae’r cyfrifoldeb uniongyrchol dros sicrhau gwelliannau ar gyfer cyflyrau cyhyrysgerbydol, gan gynnwys gwasanaethau rhewmatoleg pediatrig, yn nwylo’r byrddau iechyd, ond maent yn gwneud hynny yn unol â’r gyfarwyddeb gomisiynu hon. Nawr, rydym ar hyn o bryd yn y broses o ddiweddaru’r gyfarwyddeb. Mae hi bron yn 10 mlwydd oed ar hyn o bryd. Y nod cyffredinol yw symud tuag at fwy o ffocws ar helpu pobl o bob oed i ddatblygu sgiliau i’w galluogi i reoli eu cyflyrau a lle bo’n briodol, i gynyddu eu gallu i aros yn y gwaith a byw’r bywydau y maent yn dymuno eu byw. Yn amlwg, ar gyfer plant a phobl ifanc, mae byw bywydau y maent am eu byw, fel y dywedwyd gan nifer o’r Aelodau yn y ddadl hon, yn cynnwys rhyngweithio cymdeithasol arferol, y gallu i fynd i’r ysgol, ac ystod o bethau eraill.
Mae grŵp llywio prosiect wedi cael ei gynnull i oruchwylio’r gwaith hwnnw, ac mae’n cynnwys arbenigwyr clinigol o bob bwrdd iechyd yng Nghymru a chynrychiolwyr o’r trydydd sector. Ar hyn o bryd mae hynny’n golygu Cymdeithas Genedlaethol Osteoporosis a Gofal Arthritis Cymru, a defnyddwyr gwasanaethau unigol. Cynhaliwyd cyfarfod cychwynnol y grŵp hwnnw eisoes, ac mae’r cyfarfod nesaf wedi’i drefnu ar gyfer yr wythnos gyntaf ym mis Awst.
Mae’r trydydd maes gwaith wedi dod o faes penodol y gofynnais amdano eisoes, ac o ganlyniad i fy nghais, mae rheolwr gyfarwyddwr dros dro a chyfarwyddwr meddygol dros dro PGIAC i fod i gyfarfod â Gofal Arthritis Cymru a’r ymgynghorydd sy’n rheoli’r gwasanaeth rhewmatoleg trydyddol yn Ysbyty Athrofaol Cymru i drafod y ffordd ymlaen. Bydd cynrychiolwyr o’r Gymdeithas Arthritis Gwynegol Genedlaethol a Gofal Arthritis Cymru yn bresennol yn y cyfarfod hwnnw, sydd i fod i ddigwydd o fewn yr wythnos nesaf.
Rwy’n gobeithio bod hynny’n rhoi rhywfaint o sicrwydd i’r Aelodau fod Llywodraeth Cymru yn cydnabod y realiti y gellid gwella ein darpariaeth bresennol a’r model gwasanaeth, ac rydym yn ymrwymedig i wneud hynny, oherwydd rwyf am weld pob un o dair elfen y gwaith hwnnw’n cael eu dwyn at ei gilydd i roi camau ymarferol ymlaen i ni. Ond os caf fynd yn ôl—
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Gwnaf.
Rwy’n ddiolchgar iawn i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, am gymryd ymyriad cyflym. Rwyf wrth fy modd yn clywed am yr elfennau gwaith rydych yn eu dwyn at ei gilydd. A allech chi gyffwrdd yn gyflym ar achos pobl ifanc sydd heb gael diagnosis? Oherwydd mae hyn yn ymwneud â’r rhai y gwyddom eu bod â’r cyflwr, ac ynglŷn â hwy’n cael y gwasanaeth. Rwy’n credu bod nifer o bobl a gymerodd ran yn y ddadl hon wedi cyfeirio at niferoedd y plant nad ydynt eto wedi mynd mor bell â hynny hyd yn oed, am nad oes gwybodaeth ar gael yn y maes ymysg y meddygon teulu a gweithwyr proffesiynol eraill. Efallai y gallwch ddweud wrthym sut y gallwch wella hynny.
Roeddwn yn mynd i gyffwrdd â pheth o hynny yn rhan nesaf fy nghyfraniad, ond fe gyfeiriaf yn ôl at rai o’r sgyrsiau a gawsom ddoe gyda’r datganiad adolygu seneddol, a’r cyfeiriad at yr hyn a allai ac a ddylai fod yn lleol, beth yw cyfrifoldeb byrddau iechyd yn unigol ac wrth weithredu gyda’i gilydd, a lle y dylai fod llaw arweiniol ganolog yn cyfarwyddo ac yn ei gwneud yn ofynnol i’r gwasanaeth wneud rhywbeth. Byddai hynny’n cynnwys, yn y maes hwn, y ddadl a’r drafodaeth ynghylch nifer y canolfannau arbenigol y gallem neu y dylem eu cael, beth yw’r sylfaen dystiolaeth ar gyfer hynny, ond hefyd y model gwasanaeth ehangach o’r cymunedol at yr arbenigol. Mae hynny’n cynnwys diagnosis, ymwybyddiaeth a hyfforddiant, ond hefyd faint o’r gwasanaeth hwnnw y gallech ac y dylech ei ddarparu’n lleol ac yn nes at adref, ac yna derbyn, pa bryd bynnag y bydd gennych ganolfan arbenigol, y bydd pobl yn teithio. Boed wedi’i lleoli yng Nghaerdydd, Abertawe, Caerfyrddin neu ble bynnag y bydd canolfan arbenigol, i lawer o bobl bydd yn galw am deithio pellter sylweddol i gyrraedd y ganolfan arbenigol honno er mwyn cael y gofal y gallent ac y dylent ei gael o fewn y lleoliad hwnnw’n unig. Ar hyn o bryd, o ystyried sefyllfa Caerdydd—ac mae nifer o’r Aelodau wedi gwneud cais heddiw i Gaerdydd fod yn ganolfan rhewmatoleg bediatrig ffurfiol gyda thîm amlddisgyblaethol—byddai hynny’n dal i’w gwneud yn ofynnol i bobl deithio pellter hir, ac i gael y grŵp cywir o staff ar waith i ddarparu’r gofal.
Rwy’n credu bod yna her yma ynglŷn â chomisiynu gwasanaethau yng Nghymru, comisiynu gwasanaethau ar draws y ffin yn Lloegr lle mae hynny’n angenrheidiol, neu os mai dyna’r peth iawn i’w wneud. Ond hefyd, buaswn yn dal i fod yn awyddus i gael sgwrs fwy agored gyda chydweithwyr yn Lloegr ynglŷn â chomisiynu gwasanaethau yng Nghymru a fyddai hefyd yn cynnwys ac yn ateb anghenion cleifion sy’n byw ar hyn o bryd yn Lloegr. Hefyd, mae rhai llifoedd sydd eisoes yn bodoli a allai ac a ddylai fodoli mewn gwasanaethau mwy arbenigol yn fy marn i. Ond rwy’n credu, yn hytrach na fy mod i’n penderfynu ar y model darparu gwasanaeth mewn un ddadl heddiw, mae’n bwysig ein bod yn gofalu am yr angen i ddatrys y cwestiynau am y model gwasanaeth—ynglŷn â’r cydbwysedd rhwng darpariaeth gymunedol ac arbenigol. Mae hynny, wrth gwrs, yn cynnwys cwestiynau a godwyd am y pwyntiau hynny ac am y tîm amlddisgyblaethol arbenigol rwy’n cydnabod nad oes gennym mohono.
Felly, byddaf yn rhoi ystyriaeth briodol i’r adolygiad PGIAC, a byddaf wedyn naill ai’n dewis gyda’r gwasanaeth—neu rwy’n gobeithio y bydd y gwasanaeth yn dewis drosto’i hun, mewn gwirionedd, am fy mod yn credu bod hwn yn faes lle na ddylai fod yn rhaid wrth gyfarwyddyd canolog gennyf fi. Ond rwy’n gobeithio, wrth nodi y byddaf o ddifrif ynglŷn â’r argymhellion ar gyfer gwella’r gwasanaeth, y bydd hynny’n bodloni’r prawf a osodwyd ar fy nghyfer gan Hefin David. Rwy’n hapus i roi arwydd clir ynglŷn â chyfeiriad, ac wrth gwrs byddaf yn adrodd yn ôl wrth Aelodau’r Cynulliad maes o law.
Diolch yn fawr iawn. Galwaf ar Dai Lloyd i ymateb i’r ddadl.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Mae’n bleser i allu ymateb i’r ddadl yma, sydd wedi bod yn ddadl arbennig. Rydw i’n llongyfarch David Melding yn y lle cyntaf am drefnu’r holl beth, a hefyd am drefnu’r digwydd yna bythefnos yn ôl yn adeilad y Pierhead, lle y gwnaethom ni gyfarfod rhai teuluoedd yng nghanol eu dioddefaint.
Wrth gwrs, fel meddyg teulu ers dros 35 o flynyddoedd yn Abertawe, dros y blynyddoedd rwyf wedi cyfarfod efo sawl teulu sydd efo person ifanc yn eu plith sydd efo crydcymalau—arthritis—yn ifanc iawn. Mae’n gallu bod yn gyflwr, fel rydym wedi clywed, difrifol iawn. Mae anhwylderau sydd yn weddol anghyffredin, fel hwn, ond yn ddifrifol eu heffaith yn teilyngu cael eu trin mewn canolfan arbenigol rhanbarthol, achos maen nhw’n gyflyrau anghyffredin gyda thriniaethau anghyffredin, lle mae pob arbenigwr sydd yn delio efo’r clefyd yna wedi cael ei leoli yn yr un un lle—canolfan amlddisgyblaethol yn wir syniad y gair, felly.
Mae’r holl dystiolaeth feddygol sydd wedi dod i law dros y blynyddoedd yn cefnogi datblygiad o’r fath i gael y safon orau o driniaeth i’r cyflyrau anghyffredin yma. Rydym wedi clywed y dadleuon cryf o blaid sefydlu gwasanaeth arbenigol crydcymalau i blant, ac rwy’n cytuno’n gryf, ac mae safon arbennig y ddadl y prynhawn yma yn teilyngu hynny hefyd.
Rwyf innau hefyd wedi cyfarfod efo arbenigwyr yn y maes a hefyd wedi trafod efo theuluoedd ynglŷn â’r angen—teuluoedd fel Lisa Evans a’i merch Bethan, yn fy rhanbarth i, sydd hefyd gyda’r cyflwr yma—yr angen i sefydlu gwasanaeth arbenigol yn y maes.
I droi at y siaradwyr, rwy’n llongyfarch David Melding am amlinellu yn ei ffordd aeddfed arferol y pwyntiau o blaid creu gwasanaeth arbenigol crydcymalau i blant, a hefyd yn olrhain hanes plentyn hefyd. Roedd mwy nag un tro, rwy’n credu, i Aimee gael ei chrybwyll yn y ddadl yma. A hefyd Julie Morgan, gydag eto hanes plentyn arall, ac yn pwysleisio’r problemau sydd yn gallu digwydd efo’r llygaid a’r golwg yn ogystal—nid jest mater esgyrn a chymalau ydy hyn—a phwysleisio’r angen am driniaeth gynnar, i osgoi’r llid o’r crydcymalau sydd yn dinistrio esgyrn ac yn dinistrio’r cymalau yn y tymor hir, ac wrth gwrs yn methu cryn dipyn o ysgol ar hyd y ffordd.
Rwyf hefyd yn llongyfarch Angela Burns ar ei chyfraniad hithau hefyd yn olrhain profiadau’r sawl sydd eto yn dioddef efo crydcymalau, ac yn pwysleisio’r elfen yma fod angen tîm amlddisgyblaethol—ffisiotherapyddion, therapyddion galwedigaethol, a seicotherapyddion hefyd. Ac yn yr un modd, Rhun eto yn sôn am brofiad unigol teulu a hefyd y pwysigrwydd o ddatblygu’r arbenigedd yma o fewn ffiniau Cymru. Rydym yn gallu ei wneud e.
Ac wrth gwrs, rwyf hefyd yn diolch i Caroline Jones, Joyce Watson, Hefin David a Rhianon Passmore am eu cyfraniadau doeth ac aeddfed y prynhawn yma—a hefyd i’r Ysgrifennydd Cabinet. Cefndir hyn i gyd, yn naturiol, fel gwnaeth yr Ysgrifennydd Cabinet olrhain, ydy adroddiad Ruth Hussey, yr adroddiad interim a ddaeth allan ddoe. Mae yna her sylweddol i’r gwasanaeth iechyd yn fanna i newid.
Mae yna hefyd her sylweddol i bob un ohonom ni i newid. Nid wyf yn credu ei bod yn ddigon rhagor jest i hanner meddwl bod rhywbeth yn syniad da ac wedyn ei arallgyfeirio fe at ryw gomisiwn neu rywbeth i ddod i fyny efo ateb terfynol efallai mewn rhyw flynyddoedd i ddod. Mae’n rhaid inni ddechrau gweithredu yn awr. Dyna beth mae adroddiad interim Ruth Hussey yn pwysleisio: yr angen i wneud penderfyniadau pellgyrhaeddol nawr, gyda’r dewrder i’w gweithredu nhw.
Rydym wedi clywed oddi wrth Ysgrifennydd y Cabinet beth mae WHSSC yn ei wneud a phwysigrwydd beth mae’r cleifion yn ei feddwl o’r gwasanaeth ar hyn o bryd. Wel, rydym i gyd wedi clywed beth mae’r cleifion yn ei feddwl am y gwasanaeth ar hyn o bryd. Maen nhw eisiau gwasanaeth arbenigol i blant efo crydcymalau nawr. Cymru yw’r unig wlad sydd heb y gwasanaeth arbenigol yna. Fe fyddwn i’n pwyso’n daer ar yr Ysgrifennydd Cabinet i ddod i’r un casgliad ag y mae pawb arall yn dod iddo fo.
Felly, mae angen y newidiadau yma nawr, ar fyrder, ac wrth gwrs, dyna beth mae adroddiad Ruth Hussey yn ei ragweld. Mae yna newid yn gorfod digwydd. Mae pethau’n symud allan o’n hysbytai rhanbarthol ni i’r gymuned—grêt. Byddwn ni’n gwneud mwy yn y gymuned, rydym ni eisiau gwneud mwy yn y gymuned, rydym ni’n teilyngu’r arian i wneud mwy yn y gymuned hefyd, a bydd yna lai o stwff sy’n arferol, felly, yn cael ei wneud yn ein DGHs ni. Ond mae’n dal i fod angen canolfannau arbenigol trydyddol i wneud y stwff sydd ddim ond yn gallu cael ei wneud yn y canolfannau arbenigol yna. Ie, gwneud mwy yn y gymuned, ond hefyd rhagor o ganolfannau arbenigol yma yng Nghymru i wasanaethu pobl.
Rydym ni wedi clywed y dystiolaeth. Rydym ni wedi clywed o sawl man y prynhawn yma. Rydym ni hefyd wedi clywed y dystiolaeth uniongyrchol oddi wrth gleifion a theuluoedd a’r sawl sydd yn dioddef, a’r amser i weithredu yw nawr. Diolch yn fawr.
Diolch yn fawr iawn. Y cynnig yw derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad] Felly, gohiriwn y pleidleisio o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.