2. 2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

– Senedd Cymru am 2:18 pm ar 18 Gorffennaf 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 2:18, 18 Gorffennaf 2017

(Cyfieithwyd)

Symudaf ymlaen at alw’r Gweinidog am ei datganiad—Jane Hutt.

Photo of Jane Hutt Jane Hutt Labour

(Cyfieithwyd)

Rwyf wedi gwneud ychydig o newidiadau i'r agenda heddiw, Llywydd. Bydd y Prif Weinidog yn gwneud cynnig gyda hyn i atal y Rheolau Sefydlog er mwyn ein galluogi ni i gynnal dadl ar gyhoeddiad yr wythnos diwethaf o Fesur yr Undeb Ewropeaidd (Encilio) Llywodraeth y DU. Yn hwyrach y prynhawn yma, bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Seilwaith yn cyflwyno datganiad llafar ar fanc datblygu Cymru. Mae'r busnes ar gyfer tair wythnos gyntaf tymor yr hydref yn ymddangos ar y datganiad a chyhoeddiad busnes ymhlith papurau'r cyfarfod, sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig.

Photo of Andrew RT Davies Andrew RT Davies Conservative 2:19, 18 Gorffennaf 2017

(Cyfieithwyd)

Mewn cwestiynau i'r Prif Weinidog, codais gyda'r Prif Weinidog yr adroddiad damniol hwn a ddaeth i law oddi wrth yr archwilydd cyffredinol ynglŷn â’r ffordd y mae Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Caerdydd a'r Fro wedi recriwtio rhywun i swydd uwch o fewn ei strwythurau ar lefel cyfarwyddwr, wedi mynd ati i drosglwyddo symiau sylweddol o arian cyhoeddus—dros £300,000 o arian cyhoeddus—a’i bod yn ymddangos nad oes fawr ddim neu ddim atebolrwydd o gwbl o ran yr anallu i ddarparu anfonebau ar ei gyfer. Byddwch yn gweld gwir ddicter ymhlith gweithlu ardal Bwrdd Iechyd Lleol Caerdydd a'r Fro. Rwyf o’r farn fod yr adroddiad hwn yn gofyn am ymateb ar unwaith gan Lywodraeth Cymru fel y gallwn ddeall yn union sut y bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda'r bwrdd iechyd i ymdrin â’r ymatebion hyn sydd yn angenrheidiol i adfer ffydd eto yn y Bwrdd Iechyd Lleol.

Fel y dywedais yn fy nghwestiwn i'r Prif Weinidog, mae’r Bwrdd Iechyd Lleol hwn yn wynebu diffyg yn y flwyddyn ariannol hon hyd at £30 miliwn i £35 miliwn. A phan ystyriwch ei fod yn mynd ati yn y lle cyntaf i gyflogi ymgynghorwyr ar £1,000 y dydd ynghyd â threuliau a TAW, ac yna’n cytuno ar gontract cyflogaeth ac yn ceisio caniatâd gan Lywodraeth Cymru i ymestyn y cyflog bandio hyd at £150,000 o uchafbwynt Llywodraeth Cymru ei hun o £136,000, mae angen cael ymateb gan Lywodraeth Cymru i adfer yr hyder y gallai’r staff, oherwydd yr adroddiad hwn, fod wedi ei golli yng ngallu'r rheolwyr a'r cyfarwyddwyr i ddangos llywodraethu da a gofalu am les y Bwrdd Iechyd Lleol. Felly, byddwn yn ddiolchgar i arweinydd y tŷ pe gallai ysgogi naill ai ddatganiad neu lythyr at Aelodau'r Cynulliad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd i amlinellu'n glir sut y mae’r adran iechyd yn Llywodraeth Cymru yn ymdrin â'r adroddiad hwn.

Photo of Jane Hutt Jane Hutt Labour 2:20, 18 Gorffennaf 2017

(Cyfieithwyd)

Byddaf yn ailadrodd yr hyn a ddywedodd y Prif Weinidog yn ei ymateb, sydd yn rhywbeth pwysig, sef mai mater i fwrdd iechyd prifysgol Caerdydd a'r Fro yw hwn. Yn wir, wrth gwrs, rydym wedi cael—rwy'n siwr eich bod chi, Andrew R.T. Davies—. Mae'r cadeirydd wedi ysgrifennu ac mae gennym ddatganiadau clir iawn oddi wrth y prif weithredwr newydd ym mwrdd iechyd prifysgol Caerdydd a'r Fro ynglŷn â’r mater hwn. Ond rwy'n credu ei bod yn bwysig ailadrodd bod prif weithredwr y GIG yng Nghymru, Andrew Goodall, ar y pwynt ehangach, wedi ysgrifennu at bob un o'r byrddau iechyd i ofyn am sicrwydd ar fyrder fod trefniadau llywodraethu da o ran caffael a recriwtio ar waith ledled Cymru.

Photo of David Rees David Rees Labour 2:21, 18 Gorffennaf 2017

(Cyfieithwyd)

Ysgrifennydd y Cabinet ac arweinydd y tŷ, ym mis Mai dathlwyd pumlwyddiant llwybr arfordir Cymru. Mae llawer o bobl wedi cerdded ar hyd y llwybr hwnnw a mwynhau manteision y daith, ond, fel y cyfryw, nid ydyn nhw’n cael unrhyw gydnabyddiaeth am gerdded y daith. A gawn ni ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, neu efallai Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Seilwaith, yn dibynnu ar bwy fydd yn cymryd yr awenau yn hyn o beth, o ran sut y gallwn annog mwy o bobl mewn gwirionedd i fynd ar y daith honno, rhoi tystysgrif iddynt, fel sy’n digwydd ar deithiau cerdded gwych eraill ledled y wlad hon, fel bod pobl yn cael eu cydnabod am yr hyn y maen nhw wedi ei gyflawni? Efallai y gellid defnyddio hynny hefyd fel agwedd fuddiol ar dwristiaeth, sef cael tystysgrifau ar gyfer agweddau neu elfennau o’r daith.

Photo of Jane Hutt Jane Hutt Labour 2:22, 18 Gorffennaf 2017

(Cyfieithwyd)

Rwy'n credu ei bod yn briodol iawn inni achub ar y cyfle hwn, a diolch i chi, Dai Rees, am godi hyn. Wrth gwrs, mae llwybr yr arfordir wedi bod yn llwyddiant mawr. Yn wir, mae'r adroddiad ar gyfer 2014-15 yn dangos bod effaith economaidd llwybr yr arfordir yn cynhyrchu tua £16 miliwn o werth ychwanegol crynswth i economi Cymru, a thua 715 o flynyddoedd unigolyn o gyflogaeth bob blwyddyn. Yn wir, mae ymchwil ddiweddar yn dangos ei fod yn uwch na hynny. Gwyddom hefyd, wrth gwrs, am y manteision iechyd a ddaeth i’r amlwg yn asesiad 2014. Ond rwy'n credu hefyd mai’r cysylltiadau sy’n bwysig—i'r llwybrau eraill, fel llwybr Taf, a llwybr yr arfordir i'r Cymoedd. Ac mae rhoi tystysgrifau am hynny a'r llwybrau, wrth gwrs, yn fater, wrth gwrs, i Ysgrifennydd y Cabinet ei ystyried.

Photo of Neil McEvoy Neil McEvoy Plaid Cymru 2:23, 18 Gorffennaf 2017

(Cyfieithwyd)

Arweinydd y Siambr, hoffwn gael datganiad gan y Llywodraeth ar daliadau parcio i staff y GIG. Rwy'n credu ein bod i gyd yn ymwybodol o'r achos llys yr wythnos diwethaf, ac nid oes neb yn awyddus i weld nyrsys yn gorfod gwario miloedd o bunnoedd ar gael lle i barcio i fynd i’w gwaith. Mae llawer ohonom yn teimlo nad yw'n gyfiawn ychwaith fod cwmni o Ffrainc yn cymryd miliynau o bunnoedd allan o Gymru fel bod modd i bobl sâl a staff gyrraedd yr ysbyty.  Byddem yn hoffi pe bai eich Llywodraeth yn gweithredu fel eiriolwr ar y mater hwn, a hoffem wybod beth sy'n digwydd i wella cludiant cyhoeddus i ysbyty’r Heath, fel nad oes raid i bobl yrru yno. Yn olaf, hoffwn i chi fynd i'r afael â mater meysydd parcio yn cael eu dwyn i berchnogaeth gyhoeddus gan Lywodraeth Cymru, neu eu prynu'n orfodol, efallai, gan eich cydweithwyr ar draws y ffordd yng Nghyngor Caerdydd.

Photo of Jane Hutt Jane Hutt Labour 2:24, 18 Gorffennaf 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch. Mae Neil McEvoy yn ymwybodol iawn, wrth gwrs, o bolisi Llywodraeth Cymru—polisi clir iawn—o ddim ffioedd am barcio ceir ar safleoedd ysbytai ledled Cymru. Rydym wedi ein siomi’n arw, a gwn y byddai ef yn deall hynny. Bu’n rhaid cynnal contract Ysbyty Athrofaol Cymru dros y blynyddoedd diwethaf o ganlyniad i drefniadau cytundebol a oedd wedi eu rhoi ar waith, a byddai’r gost yn afresymol pe byddem yn ceisio tynnu'n ôl o hynny. Ond bydd y contract yn dod i ben yn 2018, ac o hynny ymlaen ni fydd unrhyw gost ar staff na chleifion. Bydd Aelodau'r Cynulliad i gyd ar draws y Siambr yn ymwybodol fod y cadeirydd, Maria Battle, wedi ysgrifennu at yr Aelodau am deithio cynaliadwy a pharcio ceir yn Ysbyty Athrofaol Cymru, gan gydnabod y sefyllfa anodd iawn, wrth gwrs. Ymatebodd y Prif Weinidog hefyd iddi yn gynharach, o ran yr effaith ar staff.

Photo of Mohammad Asghar Mohammad Asghar Conservative 2:25, 18 Gorffennaf 2017

(Cyfieithwyd)

A gaf i ofyn i arweinydd y tŷ am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ar y diffyg ariannol y mae ein hysgolion uwchradd yn ardal Casnewydd yn ei wynebu? Wrth bennu’r gyllideb ar gyfer 2017-18, rhybuddiwyd Cyngor Dinas Casnewydd fod yna argyfwng ariannu, gyda'r holl ysgolion uwchradd mewn dyled ariannol a rhai heb gronfeydd wrth gefn. Rwyf wedi cael gwybod bod un o'r ysgolion yn yr ardal honno yn wynebu diffyg o bron £0.75 miliwn, sy’n arian mawr. Os bydd y sefyllfa hon yn parhau, gallai arwain at golli swyddi a gweithgareddau fel chwaraeon, cerddoriaeth, drama yn diflannu o'n hysgolion am byth. A gawn ni ofyn am ddatganiad ar y mater hwn ar frys, os gwelwch yn dda? Diolch.

Photo of Jane Hutt Jane Hutt Labour 2:26, 18 Gorffennaf 2017

(Cyfieithwyd)

Wel, mae’r Aelod yn gwbl ymwybodol bod gan awdurdodau lleol yng Nghymru yr hyblygrwydd i bennu cyllidebau priodol ar gyfer anghenion eu cymunedau. Mae cyllid ar gyfer ysgolion yng Nghymru yn cynyddu, er gwaethaf y toriadau i'n grant bloc gan eich Llywodraeth Dorïaidd y DU. Y llynedd, darparwyd £35 miliwn yn ychwanegol gennym i’r cynghorau ar gyfer gwasanaethau ysgol ac, yn wir, mae data yn dangos bod y cyllid a ddirprwyir i ysgolion wedi cynyddu y llynedd o £2.123 biliwn i £2.142 biliwn eleni. Rydym wedi ymrwymo, wrth gwrs, i wario £100 miliwn yn ychwanegol dros dymor y Cynulliad i godi safonau. Ond byddwn hefyd yn gofyn i'r Aelod, Mohammad Asghar, a fyddai ef yn hoffi gofyn i Justine Greening a allwn gael cyfran deg o'r cyllid a gyhoeddwyd ganddi hi. Yn ôl a ddeallwn, mae’n cael ei gymryd o gyllidebau eraill o fewn y dyraniad addysg yn Lloegr. Heb yr un bunt na’r un geiniog i’n Llywodraeth ni yng Nghymru. A yw wedi mynd—? A yw hynny am ei fod wedi mynd yn gildwrn i'r DUP?

Photo of Mike Hedges Mike Hedges Labour 2:27, 18 Gorffennaf 2017

(Cyfieithwyd)

Fel y gŵyr pawb, achoswyd y tân angheuol yn Nhŵr Grenfell, a laddodd o leiaf 80 o bobl, gan dân a ddechreuodd mewn cyfarpar trydanol. A gaf i ofyn am ddatganiad gan y Llywodraeth ar ddiogelwch trydanol, gan gynnwys cynigion am brofion ar nwyddau gwyn, yn enwedig mewn tŵr uchel o fflatiau, ond rwy’n credu bod pob nwydd gwyn—? A gaf i atgoffa arweinydd y tŷ y bydd yn rhaid i unrhyw eitem a gymerir i Dŷ Hywel, er enghraifft, gael prawf dyfeisiadau cludadwy cyn i chi gael caniatâd i’w osod yn ei le?

Photo of Jane Hutt Jane Hutt Labour

(Cyfieithwyd)

Wel, rydym wedi ymrwymo, fel y dywedodd Carl Sargeant, i ddysgu’r holl wersi perthnasol o dân trasig Tŵr Grenfell, a chymryd yr holl gamau priodol. Dyna pam mae Carl Sargeant wedi cynnull grŵp cynghori ar ddiogelwch tân. Nid ydym am ragfeddiannu gwaith y grŵp hwnnw, ond mae angen i ni nodi achos cryfach na’r hyn sydd gennym nawr dros brofion gorfodol.

Photo of Julie Morgan Julie Morgan Labour 2:28, 18 Gorffennaf 2017

(Cyfieithwyd)

Mae dau fater yr wyf yn awyddus i’w codi. Amser cinio heddiw, cynhaliodd teuluoedd yng Nghymru, yr effeithiwyd arnyn nhw gan sgandal y gwaed halogedig, gyfarfod ar risiau'r Senedd i dynnu sylw at yr effaith a gafodd hyn ar bobl yng Nghymru. Yn amlwg, dros yr haf bydd negodi a thrafodaethau’n digwydd ar ffurf yr ymchwiliad cyhoeddus. Yn amlwg mae hyn wedi bod yn achos brwydr galed iawn gan deuluoedd yng Nghymru. A fyddai arweinydd y tŷ yn ymrwymo i sicrhau y bydd gan y Cynulliad ddiweddariadau rheolaidd ar gynnydd pan fyddwn ni’n dychwelyd ar ôl toriad yr haf?

Roedd gennyf ail fater. Roeddwn eisiau codi—yr ail fater yw cronfa ddŵr Llanisien yn fy etholaeth i, sef Gogledd Caerdydd. Fel y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn gwybod, mae brwydr faith wedi bod ynghylch y gronfa hon ac mae pawb sy’n byw yn lleol wrth eu bodd fod Dŵr Cymru bellach wedi cymryd drosodd ac yn cynllunio i fuddsoddi ynddi. Ond, yn y lle cyntaf, mae angen draenio'r gronfa ac mae hyn wedi cael ei gymeradwyo gan Gyfoeth Naturiol Cymru. A fyddai'n bosibl i Ysgrifennydd y Cabinet drefnu ei fod yn adrodd i'r Cynulliad, yn ddiweddarach yn y flwyddyn, am gynnydd y cynllun cyffrous hwn, a hefyd am y swyddogaeth fydd gan Gyfoeth Naturiol Cymru yn hyn yn y dyfodol?

Photo of Jane Hutt Jane Hutt Labour 2:29, 18 Gorffennaf 2017

(Cyfieithwyd)

Rwy’n diolch i Julie Morgan am ei chwestiynau ac roeddwn hefyd yn falch o gael ymuno â Julie Morgan a’r teuluoedd yr effeithiwyd arnynt gan sgandal y gwaed halogedig ar risiau'r Senedd, gydag Aelodau Cynulliad eraill o’r grŵp trawsbleidiol, y prynhawn yma. Rydym yn croesawu yn llwyr y cyhoeddiad yr wythnos diwethaf am yr ymchwiliad i’r sgandal gwaed heintiedig a arweiniodd at bobl yn cael hepatitis C a / neu HIV. Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Lles a Chwaraeon yn ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Gwladol, yn nodi’r hyn yr ydym yn ei ddisgwyl. Ac, wrth gwrs, mae hynny i raddau helaeth iawn wedi ei yrru gan y gwaith yr ydych chi wedi ei arloesi, Julie, a'r grŵp trawsbleidiol. Ein disgwyliad ni ydyw y bydd yr ymchwiliad yn y DU yn ymgysylltu ac yn gwrando ar y rhai yr effeithir arnynt yng Nghymru, wrth bennu’r cylch gwaith a chymryd tystiolaeth—daeth hynny i'r amlwg y prynhawn yma. Bydd ystyriaeth yn cael ei rhoi i'r 10 pwynt a nodwyd gan y Gymdeithas Haemoffilia, a bydd ymgysylltiad ystyrlon rhwng y pedair Llywodraeth wrth fwrw ymlaen ag ymchwiliad y DU. Byddwn yn diweddaru Aelodau'r Cynulliad am y datblygiadau pan ddychwelwn ni ar ôl toriad yr haf.

O ran eich ail gwestiwn, bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, Lesley Griffiths, yn hapus i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Cynulliad ar gynnydd cynllun cronfa ddŵr Llanisien yn yr hydref.

Photo of Siân Gwenllian Siân Gwenllian Plaid Cymru 2:30, 18 Gorffennaf 2017

Mae meddygfa yn fy etholaeth i, ym Mhen-y-groes, Dyffryn Nantlle, yn cau ddiwedd y mis, gan adael yr ardal efo un doctor yn llai. Rwyf wedi bod yn ceisio cael gwybodaeth am hyn ers clywed y sibrydion bod y gwasanaeth i’w golli. Mi wnes i ysgrifennu at yr Ysgrifennydd iechyd ar 24 Ebrill, gyda chopi i brif weithredwr Betsi Cadwaladr—dim ateb. Fe wnes i ysgrifennu eto ar 23 Mehefin at Vaughan Gething i ofyn am ateb—dim ateb. Rwyf wedi codi’r mater efo cadeirydd a phrif weithredwr y bwrdd iechyd mewn cyfarfod ar 19 Mai. Addawyd y bydden nhw yn edrych i mewn i’r mater. Fe wnes i ysgrifennu eto at y bwrdd iechyd ar 29 Mehefin—dim ateb. Yn y cyfamser, fe wnaeth y bwrdd iechyd ymateb i ymholiad gan y wasg ar y pwnc, ond mae'n ymddangos erbyn hyn fod yr wybodaeth honno yn anghywir. Mae’n amlwg bod yna broblemau cyfathrebu o fewn y Llywodraeth a’r bwrdd iechyd. Mae hyn yn golygu ansicrwydd mawr i gleifion yn fy etholaeth i. A wnewch chi felly edrych ar y diffyg cyfathrebu amlwg yma ac yna adrodd yn ôl i mi cyn gynted â phosib, os gwelwch yn dda?

Photo of Jane Hutt Jane Hutt Labour 2:32, 18 Gorffennaf 2017

(Cyfieithwyd)

Rwy’n ddiolchgar am y cwestiwn hwn oherwydd ei fod yn tynnu sylw at bwysigrwydd y cyfathrebu hwnnw, nid yn unig rhyngoch chi a'r bwrdd iechyd, ond hefyd gyda’ch etholwyr o ran cau practis, fel yr un yr ydych yn ei ddisgrifio ym Mhen y Groes. Credaf ei bod yn bwysig cydnabod bod arian yn cael ei roi i sicrhau a chefnogi cynaliadwyedd gwasanaethau gofal sylfaenol o ansawdd uchel, o ganlyniad i newidiadau y cytunwyd arnynt i gontract meddygon teulu, a hefyd fuddsoddiad o £95 miliwn yn becyn cymorth o ran addysg, hyfforddiant gweithwyr proffesiynol gofal iechyd, a £40 miliwn i wella ystadau gofal sylfaenol. Felly, yn amlwg, bydd rhoi hyn ar gofnod heddiw fel rhan o'r datganiad busnes yn golygu y bydd rhywfaint o gynnydd, rwy’n gobeithio, yn digwydd.

Photo of Vikki Howells Vikki Howells Labour

(Cyfieithwyd)

A gaf i ofyn am yr wybodaeth ddiweddaraf gan Lywodraeth Cymru am ei gweithredoedd i gefnogi ymgyrch Menywod yn Erbyn Anghydraddoldeb Pensiwn y Wladwriaeth i gael cyfiawnder i'r menywod di-ri yr effeithiwyd arnynt gan newidiadau annheg Llywodraeth y DU i'r system pensiynau? Ac, arweinydd y tŷ, rwy'n siŵr y byddai ymgyrchwyr WASPI hefyd yn croesawu bod Llywodraeth Cymru wedi cofnodi ei bod yn condemnio’r sylwadau annifyr, ansensitif a sarhaus gan Weinidog dros Bensiynau y DU y dylent yn syml chwilio am gyfleoedd prentisiaeth er mwyn lliniaru eu caledi ariannol.

Photo of Jane Hutt Jane Hutt Labour 2:33, 18 Gorffennaf 2017

(Cyfieithwyd)

Mae Vikki Howells wedi codi’r ymgyrch bwysig hon yn gyson, ac er nad yw materion pensiwn wedi eu datganoli, a’u bod yn gyfrifoldeb Adran Gwaith a Phensiynau Llywodraeth y DU, rydym ni yn Llywodraeth Cymru yn parhau i fod yn bryderus iawn am yr effaith anghymesur a gaiff y newidiadau sy'n deillio o Ddeddf Pensiynau 2011 ar nifer sylweddol o fenywod. Mae Gweinidogion Cymru wedi ysgrifennu at Lywodraeth y DU ynglŷn â’r materion hyn. Pwysleisiwyd hyn gan ein pryderon yn y Cyfarfod Llawn. Yn wir, gwn fod menywod o ymgyrch WASPI yn dod i mewn i gyfarfod ag Aelodau'r Cynulliad yr wythnos hon. Byddwn yn dal i gynnig ein cefnogaeth i ymdrechion yr ymgyrch hon, i dynnu sylw at effaith ddifrifol y newidiadau hyn, ac yn dilorni’r sylwadau sarhaus a wnaed. Unwaith eto, yn anffodus, mae hyn yn rhoi syniad o’r agwedd a’r diffyg gofid neu ddiddordeb yn anghenion pwysig y menywod hyn yr effeithiwyd arnyn nhw mor andwyol gan y newidiadau hyn o ran cydraddoldeb a newid oedran pensiwn y wladwriaeth.

Photo of Rhianon Passmore Rhianon Passmore Labour 2:34, 18 Gorffennaf 2017

(Cyfieithwyd)

Arweinydd y tŷ, yfory byddaf yn noddi dathliad o ddiwylliant perfformiad cerddorol Cymreig yn y Senedd, gyda Chyngor Celfyddydau Cymru am ganol dydd yn y Neuadd. Rwy’n gwahodd arweinydd y tŷ, chithau, Llywydd, a'r holl Aelodau i’r achlysur dathlu. Yn ogystal ag amrywiaeth o berfformiadau gan bobl ifanc, prif berfformiwr y digwyddiad fydd un o fawrion y genedl, Bryn Terfel, ac nid cyfres operâu’r 'Fodrwy' mohoni. [Chwerthin.] Arweinydd y tŷ, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu gwneud datganiad i'r Siambr ar y gwaith o ddatblygu strategaeth perfformio cerddoriaeth genedlaethol i blant a phobl ifanc Cymru, strategaeth perfformio genedlaethol a fydd yn gallu cyflwyno a chynnig gwersi offerynnol a chyfle i fod yn rhan o gerddorfa, heb ystyriaeth i fodd ariannol, a sicrhau bod Cymru yn parhau i fod yn wlad y gân?

Photo of Jane Hutt Jane Hutt Labour 2:35, 18 Gorffennaf 2017

(Cyfieithwyd)

Wel, rwy’n credu y bydd pawb ohonom ni, ledled y Siambr hon, yn awyddus i longyfarch Rhianon Passmore ar y ffordd y llwyddodd—gyda Chyngor Celfyddydau Cymru, wrth gwrs—i ddenu’r fath ffigurau nodedig. A bydd eraill, a fydd yn gallu treulio rhywfaint o amser yn dod i’r digwyddiad pwysig iawn hwnnw, yn gwneud hynny, rwy’n gwybod. Ond rwy’n credu mai’r pwynt pwysicach a wnewch yw cysylltu hynny â phwysigrwydd ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddiwylliant, addysg gerddorol ac, fel y dywedwch chi'n eglur, gwneud yn siŵr bod Cymru ar flaen y gad o ran gallu addysgu ein plant, a mwynhau Cymru fel gwlad y gân.

Photo of Jenny Rathbone Jenny Rathbone Labour

(Cyfieithwyd)

Arweinydd y tŷ, rwy’n codi gyda chryn ddicter am fod arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig wedi rhoi dwy ergyd i fwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Caerdydd a'r Fro, heb roi cyfle i unrhyw Aelod arall ychwanegu at hynny. Er, yn amlwg, y tanseiliwyd cydymffurfiaeth, dywedodd prif weithredwr bwrdd iechyd Caerdydd a'r Fro yn glir iawn na fydd yna unrhyw danseilio pellach o ran cydymffurfiaeth gan staff dan ei oruchwyliaeth ef, ac mae hyn wedi amlygu camgymeriad yn y ffordd y cynhaliwyd y gwaith caffael. Ond mae'n ymddangos i mi fod modd cael cydbwysedd yma, o ran deall, yn amlwg, fod diffyg cydymffurfiaeth wedi bod, ond yn gyffredinol mae'r gwaith a wnaiff Caerdydd a'r Fro i’w werthfawrogi yn fawr iawn.

Photo of Jane Hutt Jane Hutt Labour 2:36, 18 Gorffennaf 2017

(Cyfieithwyd)

Rwy'n ddiolchgar am y sylw yna gan yr Aelod dros Ganol Caerdydd.