– Senedd Cymru am 3:32 pm ar 19 Gorffennaf 2017.
Symudwn ymlaen yn awr at eitem pump, sef y datganiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid ar ddiwygio cyllidol—gwersi gan yr Alban.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd, ac rwy’n falch o wneud y datganiad hwn heddiw, i rannu’r hyn a ddysgwyd gennym yn dilyn ein hymweliad diweddar â Chaeredin i drafod profiad yr Alban o ddiwygio ariannol.
Yn ystod ein hymweliad, buom ni’n cwrdd â chynrychiolwyr o Bwyllgor Cyllid a Chyfansoddiad Senedd yr Alban, Comisiwn Cyllidol yr Alban, a Chyllid yr Alban. Un o brif swyddogaethau’r Pwyllgor Cyllid yw ystyried y gyllideb ddrafft, a sut y bydd datganoli cyllidol i Gymru yn effeithio ar y ffordd y byddwn yn gwneud hyn. Bydd yr Aelodau yn gwybod bod y Rheolau Sefydlog diwygiedig newydd, a’r protocol cysylltiedig, wedi cael eu cytuno eisoes ar gyfer y gyllideb eleni, sef y gyllideb gyntaf i fod yn rhan o’r trefniadau ariannu newydd. Fodd bynnag, mae’r pwyllgor hefyd yn ystyried proses y gyllideb ddeddfwriaethol ar gyfer y dyfodol.
Yn yr Alban, lle mae proses y gyllideb ddeddfwriaethol eisoes ar y gweill, sefydlwyd grŵp adolygu’r gyllideb, i werthuso proses y gyllideb yn yr Alban, gan edrych yn benodol ar gysylltu â’r cyhoedd, craffu yn ystod y flwyddyn, fframwaith cyllidol, cyllidebau aml-flwyddyn, a chraffu sy’n seiliedig ar ganlyniadau. Roedd aelodau grŵp adolygu’r gyllideb yn yr Alban yn cynnwys swyddogion o Senedd yr Alban a Llywodraeth yr Alban, ynghyd ag arbenigwyr cyllid cyhoeddus allanol, gan gynnwys academyddion a rhanddeiliaid blaenllaw sydd â phrofiad helaeth o drefniadau cyllidol a chyllidebol. Cyhoeddodd y grŵp ei adroddiad ar ddiwedd mis Mehefin, ac roedd yn cynnwys nifer o argymhellion, a oedd â’r nod o wella’r broses o graffu ariannol yn yr Alban. Rwy’n gobeithio y bydd eu profiad yn yr Alban, a’r adroddiad hwn, yn ddefnyddiol wrth i ni baratoi i weithredu ein trefniadau newydd, ac wrth i ni symud ymlaen i ystyried proses newydd bosib hefyd.
Mae sefydlu’r grŵp hwn yn yr Alban yn dangos pa mor bwysig yw datblygu arbenigedd mewn trefniadau ariannol datganoledig, a bydd yn hanfodol bod yr un lefel o gefnogaeth gan arbenigwyr yn cael ei rhoi i ddatblygu ein trefniadau craffu ni i sicrhau ein bod yn gadarn ac yn effeithiol.
Mae datganoli cyllidol a newidiadau yn y Cynulliad yn gyfnod cyffrous a heriol i Gymru. Fel pwyllgor, bydd diddordeb mawr gennym yn y paratoadau ar gyfer sefydlu Awdurdod Cyllid Cymru. Gan fod yr Alban eisoes wedi sefydlu ei sefydliad cyfatebol sydd wedi bod ar waith ers 2015, teimlwn ei bod yn bwysig dysgu o’u profiad yno, er mwyn sicrhau y ceir trosglwyddiad rhwydd pan fydd Awdurdod Cyllid Cymru yn weithredol o fis Ebrill y flwyddyn nesaf ymlaen.
Clywsom gan Gyllid yr Alban pa mor bwysig yw ymgysylltu â rhanddeiliaid wrth ddatblygu’r wefan a hyrwyddo ei rôl. Arweiniodd yr ymgysylltu helaeth â rhanddeiliaid wrth ddylunio’r rhyngwyneb ar gyfer y system dreth ar-lein at nifer fawr o gyflwyniadau digidol. Mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi ymrwymo eisoes i sicrhau bod y rhyngweithio hwn â rhanddeiliaid yn rhan o’r broses, ond nid yw’n rhy hwyr i ddysgu o brofiad yr Alban ychwaith, i sicrhau bod unrhyw broblemau, waeth pa mor fach, yn cael eu datrys cyn mis Ebrill nesaf.
Buom ni hefyd yn cyfarfod â chynrychiolwyr o Gomisiwn Cyllidol yr Alban, sydd wedi bod yn gweithredu ar sail statudol ers mis Ebrill eleni. Mae cyfrifoldebau’r comisiwn yn cynnwys llunio rhagolygon annibynnol ar gyfer yr Alban, gan gynnwys rhagolygon o refeniw treth, gwariant ar nawdd cymdeithasol a chynnyrch domestig gros ar y tir. Dysgwyd y bydd y comisiwn a’r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol—yr OBR, felly—yn darparu rhagolygon cyllidol ar gyfer yr Alban, ond y bydd y comisiwn yn defnyddio data sy’n benodol i’r Alban yn hytrach na data’r Deyrnas Gyfunol a ddefnyddir gan y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol—yr OBR. Dylai hynny sicrhau bod modelau rhagweld y comisiwn yn fwy cywir.
Yn hytrach na sefydlu corff o’r fath yma, mae Llywodraeth Cymru, wrth gwrs, wedi penodi tîm o Brifysgol Bangor i graffu ar ei rhagolygon ar y gyllideb. Ymddengys mai un wers allweddol a ddaw o’r Alban yw bod angen datblygu data penodol ac amserol, ar lefel Cymru, y tu hwnt i’r data a ddarperir ar lefel y Deyrnas Gyfunol gan y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol. Yn bersonol, rwyf hefyd yn credu y bydd angen corff fel Comisiwn Cyllidol yr Alban arnom yn y pen draw, fel y bydd datganoli trethi yn cael ei roi ar waith. Nodaf fod Ysgrifennydd y Cabinet wedi cyhoeddi datganiad ysgrifenedig yn ddiweddar iawn, yn dweud y bydd sefydlu comisiwn o’r fath yn un o’r dewisiadau y mae’n ei ystyried. Bydd y Pwyllgor Cyllid yn edrych yn fanwl ar y mater hwn pan fyddwn yn craffu ar y gyllideb ddrafft.
Mae’r gwaith hwn ar ddatganoli ariannol yn gyfnod cyffrous i’r Pwyllgor Cyllid, a gobeithio i’r Cynulliad cyfan, a gobeithio y gallwn ddysgu o brofiad yr Alban i sicrhau bod ein trefniadau craffu mor gadarn ag y gallant fod. Diolch yn fawr.
A gaf fi ddiolch i Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid am ei ddatganiad heddiw? Fel un o dri aelod o’r pwyllgor a ymwelodd â Chaeredin, a’r unig un a fu mor annoeth â mynd ar y trên a chymryd llawer mwy o amser na phawb arall, fe’i cefais yn hynod ddefnyddiol pan gyrhaeddais yno, yn enwedig y cyfarfodydd gyda Phwyllgor Cyllid a Chyfansoddiad Senedd yr Alban, Comisiwn Cyllidol yr Alban a Revenue Scotland. Rwy’n credu ei bod yn werth nodi yn ogystal fod y Cadeirydd a minnau—credaf mai ni oedd yr unig rai—wedi ymweld hefyd ag Archwilydd Cyffredinol yr Alban, Caroline Gardner, a oedd â dealltwriaeth a throsolwg gwerthfawr o’r ffordd roedd y sefydliadau gwahanol yn gweithio gyda’i gilydd mewn tirwedd gyllidol newydd sy’n datblygu.
Fel y dywedoch, Simon, mae’r Alban yn dangos pwysigrwydd adeiladu arbenigedd mewn trefniadau cyllidol datganoledig a gallwn ddysgu o arferion da, a chamgymeriadau a wnaed, yn wir, i’r gogledd o’r ffin.
Felly, i droi at fy mhrif gwestiwn: pa rôl y gwelwch y Pwyllgor Cyllid yn gallu ei chwarae yn cynorthwyo yn y broses hon dros weddill tymor y Cynulliad wrth i ddatganoli cyllidol fynd rhagddo? Mae’n fy nharo nad yw’r Pwyllgor Cyllid erioed yn hanes y Cynulliad wedi bod mewn rôl mor allweddol a dylanwadol mewn gwirionedd o ran dyfnhau datganoli, ac rwy’n meddwl bod yna gyfle i’r pwyllgor fod yn wirioneddol effeithiol yn ystod y broses hon.
O ran datblygiad Trysorlys Cymru a gallu darogan economaidd, mae’r rhain yn feysydd enfawr, ac er y byddai Dafydd Elis-Thomas yn dweud eu bod yn faterion i Lywodraeth Cymru yn bennaf ymhel â hwy, rwy’n credu ei bod yn dasg enfawr i unrhyw Lywodraeth orfod ymdrin â hi. Felly, rwy’n credu bod rôl bwysig ar gyfer y Cynulliad hwn a phwyllgorau’r Cynulliad, gan gynnwys ein pwyllgor, i wneud yr hyn a allwn i ddylanwadu, i roi arweiniad ac i adrodd yn ôl i Lywodraeth Cymru ynglŷn â ble y credwn y gellir datblygu arferion da.
Soniodd y Cadeirydd am Revenue Scotland a phwysigrwydd ymgysylltu â rhanddeiliaid wrth lunio’r system er budd trethdalwyr Cymru. Mae gan ein pwyllgor gyfoeth o brofiad mewn ymgysylltu â rhanddeiliaid, felly, unwaith eto, gall chwarae rhan werthfawr yn ymgysylltu ac yn pwyso am yr hyn y credaf sydd ei angen arnom, sef fframwaith codi treth pwrpasol y gall pobl yng Nghymru deimlo’n gyfforddus ag ef a bod yn falch ohono. Rydym wedi siarad am hyn yn y pwyllgor, Cadeirydd, ond nid ydym am gael Awdurdod Cyllid Cymru sy’n ddigonol; rydym am gael Awdurdod Cyllid Cymru o safon fyd-eang. Rydym eisiau rhywbeth a all baratoi’r ffordd o ddifrif—ac nid yw hwnnw’n nod hawdd, rwy’n gwybod, ond credaf mai at hynny y dylem anelu. Yn bersonol, byddai wedi bod yn well gennyf i’r sefydliad fod wedi bod yn ‘refeniw Cymru’, pwynt a wneuthum yn y Cynulliad blaenorol. Rwy’n credu bod pob Aelod arall yn y Siambr wedi pleidleisio yn fy erbyn. Ond rwy’n credu, yn sicr wrth edrych ar y ffordd y mae Revenue Scotland wedi datblygu, y gall ‘refeniw Cymru’ yn sicr ddysgu gan y sefydliad hwnnw i’r gogledd o’r ffin.
Yn fyr iawn, Dirprwy Lywydd, a chan droi at Gomisiwn Cyllidol yr Alban, rwy’n tueddu i gytuno, roedd y dystiolaeth a gymerwyd gennym i’w gweld yn awgrymu nad oedd ei angen ar Gymru, neu nad oedd mynd ar drywydd cael comisiwn cyllidol yn cynnig y gwerth gorau am arian i Gymru o reidrwydd. Fodd bynnag, mae angen i ni wneud yn siŵr fod Llywodraeth Cymru yn cael gweld y data gorau posibl a mwyaf amserol. Nid yw hynny wedi bod yn wir bob amser yn y gorffennol, ond yn achos datganoli cyllidol, mae’n mynd i fod yn wirioneddol bwysig ein bod yn gwybod beth yw beth yn y maes hwnnw cyn gynted ag y bo modd, a gwn y bydd Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid yn dweud bod y pwyllgor yn awyddus i gynorthwyo Llywodraeth Cymru ac Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid cymaint ag y bo modd yn y broses hon.
Diolch i Nick Ramsay. A gaf fi ei sicrhau fy mod wedi cael y trên yn ôl i Aberystwyth, felly rwy’n siŵr fy mod wedi dioddef wrth ei ochr, a thaith ddymunol iawn oedd hi hefyd? Rwy’n meddwl mai’r pwynt allweddol a wnaeth ynglŷn â’r rôl y gall y Pwyllgor Cyllid ei chwarae, ac un o’r rhesymau roeddwn eisiau dod â’r datganiad hwn i’r Siambr, fel y gŵyr, oedd nad ydym ni yn y Pwyllgor Cyllid eisiau i hyn fod yn ddadl yn y Pwyllgor Cyllid yn unig, ond yn hytrach, yn rhywbeth sy’n cynnwys holl Aelodau’r Cynulliad, ac yn fywiog i fod yn ymwybodol fod hwn yn newid ar gyflymder nad ydym wedi’i weld ers peth—wel, nas gwelwyd erioed o’r blaen gan nad ydym wedi gweld datganoli cyllidol o’r blaen. Bydd cyflymder y newid mewn perthynas â’n gwaith craffu ar y gyllideb, o amgylch proses y gyllideb ei hun, yn enfawr yn y ddwy neu dair blynedd nesaf, ac rwy’n credu bod angen i bawb dderbyn hynny, a dyna un o’r rhesymau, rwy’n gobeithio, dros wneud trafodion y Pwyllgor Cyllid ei hun yn agored, i mewn i’r Siambr gyfan yn ogystal. Felly, mae gennym rôl bwysig i’w chwarae, ac rwy’n meddwl mai ein rôl fwyaf perthnasol ar hyn o bryd yw edrych ar, ac archwilio’n ofalus iawn beth yw’r gwersi mewn llefydd fel yr Alban, beth yw’r wers o ran yr ymagwedd ddeddfwriaethol tuag at gyllidebu, a cheisio cymhwyso hynny yng Nghymru.
Ond byddwn yn cytuno gyda’r pwynt y mae’n ei wneud ynglŷn â threfniant pwrpasol yng Nghymru. Nid wyf—. Ni fyddwn yn dadlau—ac nid wyf yn meddwl ei fod ef chwaith—dros gopïo’r Alban neu dros gopïo rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig, neu’n wir, dros gopïo deddfwrfeydd datganoledig eraill mewn mannau eraill. Rydym eisiau trefniant sydd ar gyfer Cymru’n benodol ac sy’n gweddu nid yn unig i’n trefniadau craffu, ond hefyd i allu Llywodraeth Cymru i argymell cyllidebau a seiliwyd ar y data sydd fwyaf ar gael a’r data gorau a’r wybodaeth orau bosibl.
Yn hynny o beth, hefyd, byddwn yn mynd ar ôl ei bwynt, mewn gwirionedd, ynglŷn â ble rydym yn symud ymlaen ymhellach. Byddwn yn cytuno ag ef fod yr hyn sydd gennym ar waith yn ddigon cadarn ar gyfer y trefniadau cyfredol, ond wrth inni gael datganoli yn y dyfodol, rwy’n meddwl bod enghraifft y comisiwn cyllidol yn yr Alban yn un ddiddorol i edrych arni a’i harchwilio. Nid oes ei angen arnom heddiw ond efallai mewn dwy neu dair blynedd, yn enwedig, efallai, yn y Cynulliad nesaf pan fydd gennym hawl i arfer y pwerau treth incwm yn llawnach, pan fyddwn wedi cael etholiad, efallai, lle bydd pobl wedi bwrw iddi ar ddadl etholiadol ynglŷn â chodi neu ostwng treth incwm. Yna, bydd angen i ni gael pâr clir iawn o lygaid annibynnol ar gynigion a gaiff eu cyflwyno gan ba Lywodraeth bynnag, pa blaid bynnag y byddant. Felly, diolch i’r Aelod am ei gwmni yng Nghaeredin hefyd, a dim ond dweud ein bod wedi dysgu llawer yno, ond fe ddysgasom hefyd, er ein bod weithiau’n edrych mewn mannau eraill ac yn meddwl eu bod yn gwneud yn llawer gwell na ni, pan edrychwch ar y peth yn fanwl, nid wyf yn credu ein bod yn gwneud mor wael â hynny ein hunain chwaith.
Rwy’n croesawu’n fawr iawn y datganiad gan Gadeirydd y pwyllgor, ac, fel mae’n dweud, rwy’n meddwl ei bod hi’n bwysig iawn, wrth ystyried y newidiadau sydd i ddod yn y blynyddoedd nesaf, fod gwaith y Pwyllgor Cyllid ddim yn cael ei gyfyngu i’r pwyllgor yna, ond yn rhan o drafodaeth genedlaethol, hyd yn oed tu fas i Senedd Cymru. Yn anffodus, ni chefais i’r cyfle a’r anrhydedd i ymweld â’n ffrindiau ni i’r gogledd gyda’r pwyllgor, ond fel cyn-ddinesydd yr Alban, rwy’n dilyn yn agos iawn y datblygiadau yn y wlad honno. Ac mae’n amlwg iawn, wrth siarad â chyd-aelodau’r pwyllgor a oedd wedi mynychu’r daith, fod y daith wedi bod yn un gwerth chweil dros ben.
Mae fy nghwestiynau i heddiw yn canolbwyntio yn bennaf ar gyllidebau cyfranogol—hynny yw, ‘participatory budgeting’—ardal efallai nad yw’r Alban cweit wedi arwain y gad arno ar lefel ryngwladol. Ond fel rhan o’r cytundeb ar gyfer y gyllideb rhwng Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru y flwyddyn yma, fe gytunodd y Llywodraeth gomisiynu ymchwil ar gyllidebau cyfranogol, drwy edrych ar fodelau gwahanol, ac hefyd, rwy’n deall, i gynnal cynllun peilot yn dilyn hynny. Yn anffodus, fel pwyllgor, nid ni sydd yn gallu gwneud penderfyniadau ar ran y Llywodraeth—rwy’n siŵr nad yw’n anffodus i’r Llywodraeth—ynglŷn â’r broses maen nhw’n ei ddefnyddio er mwyn creu’r gyllideb. Dim ond argymell ffyrdd gwell o weithredu allwn ni ei wneud. Ond rwy’n ddiolchgar iawn bod yr Ysgrifennydd Cabinet yn un sydd yn agored i syniadau newydd. Ond yn ein gwaith fel pwyllgor, gallwn fabwysiadu’r egwyddor o gyllidebau cyfranogol er mwyn helpu gyda’n proses ni o graffu ar gyllidebau y Llywodraeth, ac efallai y byddai hyn yn rywbeth y byddai Cadeirydd y pwyllgor yn awyddus i edrych arno.
Fel rhan o’n proses graffu ni ar y gyllideb, rydym ni fel pwyllgor eisoes yn gwahodd mudiadau ac yn y blaen i roi tystiolaeth, ac mae cyfle hefyd i fudiadau, busnesau a dinasyddion unigol gyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig. Ond mae’n bosib i ni fod yn fwy rhagweithiol er mwyn cynnwys dinasyddion yn y broses yn fwy, yn fy marn ni. Felly, fy nghwestiwn i’r Cadeirydd yw: sut allwn ni ehangu’r cyfle i ddinasyddion unigol a chymunedau hefyd gymryd rhan yn y broses o lunio’r gyllideb mewn ffyrdd mwy rhagweithiol? Fel arfer da, gallwn ni ddysgu oddi wrth bwyllgorau eraill yn y Cynulliad. Er enghraifft, cynhaliodd y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu arolwg barn i benderfynu beth ddylent ymchwilio iddo, gyda 2,700 o bobl yn cymryd rhan a phleidleisio ar gyfer eu dewis gorau nhw o nifer o bynciau gwahanol. Ac rwy’n meddwl bod hynny’n bwysig achos, wrth gwrs, gyda’r gwasgiad sydd gyda ni ar gyllideb y Cynulliad oherwydd y ffordd mae Cymru’n cael ei ariannu ar hyn o bryd, mae cwestiynau mawr yn mynd i ddod i ni fel cenedl ynglŷn â blaenoriaethu’r ‘block grant’. Hyd yn oed gyda datganoli rhannol o rai trethi, mae’r ‘block grant’ yna yn ganolog ac yn gyfyng iawn ar yr opsiynau. Mae model o ‘participatory budget’ efallai yn rhoi cyfle i ni gael trafodaeth go iawn gyda phobl Cymru ar y realiti yna, achos efallai nad yw nifer ohonyn nhw ddim yn ystyried hynny ar ôl i’r arian gael ei roi i Lywodraeth Cymru o San Steffan.
Ac hefyd ar y testun, mae Llywodraeth yr Alban yn cyllido Prifysgol Glasgow Caledonian i arwain ar raglen werthuso dros gyfnod o ddwy flynedd er mwyn asesu effaith cyllidebau cyfranogol ar gymunedau, gwasanaethau a democratiaeth, gyda ffocws benodol ar y berthynas rhwng cyllidebau cyfranogol a chydraddoldeb. A fuasai’r Cadeirydd yn ystyried cynnal arolwg tebyg drwy’r Pwyllgor Cyllid, efallai yn edrych ar ddeddfwriaeth yng Nghymru sy’n ymwneud â chydraddoldeb a llesiant cenedlaethau’r dyfodol? A jest i ategu yr hyn mae Nick Ramsay wedi’i ddweud ynglŷn â phwysigrwydd cael data, wrth i’r genedl yma aeddfedu fel democratiaeth, ac wrth i bwerau newydd ddod, a phwerau ariannol newydd ddod, maen hanfodol bod gennym ni ddata economaidd er mwyn ystyried go iawn y linc rhwng polisi ‘fiscal’ a pholisi economaidd. Felly, byddwn yn gwerthfawrogi barn y Cadeirydd ar sut allwn ni ehangu ar y data sydd ar gael ar hyn o bryd.
Diolch, Steffan Lewis. Yn gyntaf oll, jest ar y pwynt olaf yna, rwy’n cytuno’n llwyr bod angen data llawer mwy amserol, llawer mwy priodol i Gymru, a llawer mwy cadarn, er mwyn llunio rhai o’r penderfyniadau rydym yn gofyn i’r Llywodraeth eu gwneud, ac wedyn, mewn tro, y Cynulliad i’w cymeradwyo. Rwy’n gobeithio y bydd y broses mae’r Llywodraeth eisoes wedi’i wneud, yn comisiynu Prifysgol Bangor, yn dechrau ar hynny. Bydd e yn gwybod, fel aelod o’r Pwyllgor Cyllid, ein bod ni ar fin cychwyn edrych ar y gyllideb ddrafft ein hunain, a byddwn yn gwahodd i mewn nifer o fudiadau a phobl sydd yn cymryd y trosolwg yma o gyllidebau, nid jest yng Nghymru, ond yn fwy rhyngwladol yn ogystal, ac efallai y byddwn ni’n dysgu rhai arferion da o hynny. Beth sydd yn bwysig, rwy’n meddwl, yw ein bod ni’n barod ar gyfer yr her sydd yn ein hwynebu ni, yn enwedig pan ddaw’r dreth incwm, ac nad ydym yn pwyso ar y rhwyfau, gan feddwl, ‘Wel, fe ddaw yr wybodaeth pan mae’n barod’. Mae’n rhaid i ni fod ar flaen y gad. Mae’r rhaid i ni, mewn ffordd, torri tir newydd, a thir anodd o bryd i’w gilydd.
A gaf i droi at y pwynt ehangach roedd e’n ei wneud ynglŷn â’r cyllidebau cyfranogol? Mae’n iawn i atgoffa’r Cynulliad am y cytundeb sydd rhwng y Blaid Lafur a Phlaid Cymru ynglŷn ag edrych i mewn i hynny. Nid fy rhan i, yn sicr, yw ateb dros yr Ysgrifennydd Cabinet y prynhawn yma, ond rydw i’n gwybod bod yr Ysgrifennydd Cabinet yn edrych ar y mater yma ac yn chwilio am gyfleoedd i ddysgu gwersi a dechrau arbrofi yn y maes, ac mae’n siŵr—rwy’n gobeithio’n fawr—y byddwn ni’n clywed yn y man sut mae hynny’n digwydd. Ond mae hi’n bwysig i ddweud bod y Pwyllgor Cyllid ei hun yn rhan o’r broses yma, er, wrth gwrs, nad ydym ni eisiau cymylu beth mae’r Llywodraeth yn ei wneud a beth mae’r Pwyllgor Cyllid yn ei wneud: ein rôl ni yn craffu ar y Llywodraeth a rôl y Llywodraeth yn cynnig cyllideb.
Fe fuom ni ym Miwmares yr wythnos diwethaf yn cynnal sesiwn gyda’r cyhoedd yn fanna. Rydym ni wedi cael, hefyd, rwy’n cofio, sesiwn lwyddiannus iawn yn Ysgol Basaleg, ger Casnewydd, lle roeddem ni’n gwneud sesiwn ymarfer cyllidebu cyfranogol gyda chymorth y swyddogion addysg yn fan hyn. Yn ddiddorol iawn, ar ôl dosrannu’r holl arian Monopoly a oedd yn y dosbarth, yn fras iawn, roedd y gyllideb yn edrych yn hynod debyg i’r gyllideb sydd gyda chi nawr gan Lywodraeth Cymru. Hynny yw, mae pobl yn blaenoriaethu iechyd, wedyn maen nhw’n blaenoriaethu addysg, wedyn maen nhw’n rhannu ymysg y pethau eraill. Roedd yn ymarfer diddorol iawn, ac fe fyddwn ni yn arbennig yn leicio i’r pwyllgor wneud mwy o hynny gyda phobl ifanc, yn enwedig gyda’r cynnig, wrth gwrs, fod pobl ifanc yn dechrau pleidleisio yn 16 ar gyfer y Cynulliad. Mae yna rôl y gallwn ni ei gwneud yn y fanna. Mae’n siŵr bydd y Pwyllgor Cyllid yn falch o gael diwrnod allan o’r Cynulliad o bryd i’w gilydd i fod yn rhan o’r broses yna. [Torri ar draws.] Mae Nick Ramsay hefyd yn hapus i wneud hynny.
Nid oeddwn i’n ymwybodol o’r gwaith roedd e’n cyfeirio ato fe ym Mhrifysgol Glasgow Caledonian. Nid oeddwn i’n ymwybodol o hynny, felly diolch am hynny, ac fe wnawn ni wneud yn siŵr ein bod ni’n tynnu sylw’r tîm y tu ôl i’r Pwyllgor Cyllid hefyd—ein bod ni’n edrych ar hynny fel rhywbeth sydd yn gallu cyfoethogi ein gwaith ni yn y maes yna.
Diolch yn fawr iawn. Ac yn olaf, Mike Hedges.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae’n anodd iawn bod yn bedwerydd i siarad ac yn drydydd person a aeth ar ymweliad a cheisio dweud pethau gwahanol. Fe ymdrechaf i wneud hynny, ac os na wnaf rwy’n siŵr y dywedwch wrthyf. Yn gyntaf, hoffwn ddiolch i Simon Thomas am ei ddatganiad ar ymweliad y Pwyllgor Cyllid â Chaeredin? Rwy’n meddwl mai un peth rydym yn mynd i orfod dechrau arfer ag ef bellach yw bod cyllid yn fwy na rhywbeth a gaiff ei drafod gan y Gweinidog cyllid a’r Pwyllgor Cyllid yn unig a dadl wleidyddol gyflym unwaith y flwyddyn yn y Siambr, lle y gallaf ddweud wrthych beth sy’n mynd i ddigwydd yn y dyfodol—beth y mae pob plaid yn mynd i’w wneud. Rydym yn mynd i orfod cael ymagwedd lawer aeddfetach ato, ac rydym yn mynd i orfod dod i delerau mewn gwirionedd â chodi arian yn ogystal â’i wario, a chredaf fod hynny’n mynd arwain at newid meddylfryd Aelodau ar draws y Siambr, ac rwy’n cynnwys fy mhlaid fy hun yn ogystal â’r lleill sydd yma.
Hoffwn wneud dau sylw cyflym. Nid yw datganoli anghymesur, gyda Chymru’n ceisio dal i fyny â’r Alban yn barhaus, yn dderbyniol. Yr ail bwynt yw hwn: mae’r Pwyllgor Cyllid yn y Cynulliad hwn yn fwy trwyadl yn y modd y mae’n craffu ar y gyllideb na’i bwyllgor cyfatebol yn yr Alban. Rydym yn treulio llawer o amser yn cael gwybod pa mor wych yw’r Alban mewn amrywiaeth eang o feysydd, ond rwy’n siŵr y byddai Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid yn cytuno â mi fod ein gwaith craffu yn fwy cadarn yma na’r hyn sy’n digwydd yn yr Alban.
Mae gennyf ddau gwestiwn. A ddylai pwyllgor adolygu’r gyllideb adrodd i’r Cynulliad neu’r Llywodraeth, neu’r ddau? A’r pwynt olaf—ac mae’n dilyn ymlaen o rywbeth a grybwyllodd Nick Ramsay a Steffan Lewis—pwysigrwydd data cywir ac amserol. A yw’r Cadeirydd yn cytuno â mi ei bod yn bwysig iawn sicrhau ein bod yn cael data cywir ac amserol? Ac wrth i fwy o adnoddau gael eu dyrannu i ni o’n system drethiant ein hunain, mae’n mynd i fod yn bwysicach fyth inni sylweddoli yn union faint o arian sy’n dod i mewn. Fel arall, rydym yn mynd i fod yn gwario arian heb wybod yn iawn ei fod yn dod i ni. Felly, yr amseroldeb a’r cywirdeb hwn, sut bynnag y caiff ei wneud—. Ac nid wyf yn rhywun sy’n dweud, ‘Mae’n rhaid iddo gael ei wneud gan brifysgol; mae’n rhaid iddo gael ei wneud gan grŵp a sefydlwyd,’ ond mae’r cywirdeb a’r amseroldeb hwnnw, sut bynnag y cânt eu sicrhau, yn hynod o bwysig. A yw’r Cadeirydd yn cytuno â mi mai dyna sydd bwysicaf yn ôl pob tebyg os ydym yn mynd i ddechrau ymdrin â chodi arian—ein bod yn mynd i fod angen cywirdeb ac amseroldeb er mwyn sicrhau ein bod yn gwneud yr hyn a wnawn yn gywir?
Diolch i Mike Hedges, a chytunaf yn llwyr â’i bwynt olaf fod data cadarn yn hanfodol ar gyfer blaengynlluniau ei Lywodraeth ei hun a’i chynlluniau treth ei hun, a’i fod yn hanfodol i ni fel Cynulliad, felly, ar gyfer dwyn y Llywodraeth i gyfrif a chraffu arnynt. Rwy’n credu fy mod yn rhannu ei bryder ymhlyg nad oes gennym y data’n ddigonol ar lefel Cymru, ac yn sicr nid yw’n ddigon amserol. Mae ar ei hôl hi’n aruthrol. Felly, yn y sefyllfa bresennol, byddwn yn ceisio craffu ar gynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer yr economi, ar gyfer buddsoddi, ar ddata sy’n dyddio’n ôl 18 mis neu hyd yn oed ymhellach, ac nid yw hynny’n ddigon da. Mae gwers o’r Alban yn hynny o beth ynglŷn â gweithio i gael rhagor o ddata sy’n gyfredol ac yn ymwneud yn benodol â’r Alban.
Rydym hefyd yn gwybod, o archwilio’r ddau Fil treth a ddatblygwyd gennym fel Pwyllgor Cyllid, wrth i chi edrych ar y data, ac wrth i chi gael mwy o ddata am Gymru, mae’r darlun yn newid. Mae’n newid yn aruthrol. Fe newidiodd ar gyfer y dreth tirlenwi; fe newidiodd yn helaeth ar gyfer y dreth stamp. Felly, mae honno’n wers i ni i gyd. Fe newidiodd ar gyfer y ffin, yn ogystal, ond bydd Mike Hedges yn cofio hynny.
Rhaid i mi ddweud, Dirprwy Lywydd, er ein bod wedi cael sgwrs rhwng aelodau’r Pwyllgor Cyllid yn y Siambr yma, byddwn yn dal i fod eisiau cytuno â phwynt sylfaenol Mike Hedges, sef nad mater ar gyfer y Pwyllgor Cyllid yn unig yw hyn yn awr; mae hyn yn ymwneud â 60 Aelod yn codi treth incwm ar gyfer Cymru. Mae’r ffordd y gwnawn hynny, yn y pen draw, yn mynd i fod yn allweddol i bawb. Felly, os hoffwch, nid wyf am ymddiheuro—fe ddof yn ôl eto gyda datganiadau pellach, rwy’n siŵr, gyda chaniatâd y Cadeirydd a’r Pwyllgor Busnes, i bawb gael cyfle i wybod beth rydym yn ei wneud yn y Pwyllgor Cyllid a sut y mae hynny’n symud ymlaen yn gyflym, mewn gwirionedd, nid yn unig y gwaith craffu, ond y ffordd rydym yn adeiladu dull seneddol o ymwneud â deddfwriaeth ariannol, beth bynnag y gallai hynny fod—Bil cyllideb, Bil ariannol neu beth bynnag fydd gennym yn y pen draw. Hoffwn ddweud ar y pwynt hwnnw y byddwn yn gweld hynny fel gwaith ar y cyd. Rwyf am i Lywodraeth Cymru fod yn rhan o hynny; rwyf am i’r Pwyllgor Cyllid fod yn rhan o hynny. Ein gwaith yma, does bosibl, yw adeiladu’r broses seneddol, ac nid cwestiwn yw hwnnw y mae’r Llywodraeth yn ei gynnig, rydym ni’n ei feirniadu ac yn cynnig dewis amgen, ac yna’u bod hwy’n ein beirniadu ni ac yn y blaen. Mae’n waith ar y cyd, gobeithio, ac yn sicr, fel Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid, byddwn eisiau ei ddatblygu yn yr ysbryd hwnnw, ac rwy’n synhwyro bod y pwyllgor yn awyddus i wneud hynny hefyd. Mae’n rhaid i ni weithio gyda datganoli anghymesur, er y byddai fy meirniadaeth ohono yr un fath ag un Mike Hedges.
Yn olaf, roeddwn yn fwy cynnil na Mike Hedges pan ddywedais nad yw popeth yn yr Alban yn well nag yr ydym ni’n ei wneud yma, ond y ffaith amdani yw na wnaeth y pwyllgor cyllid yn yr Alban graffu ar eu cyllideb ddrafft. Cafodd ei wneud mewn ffordd lawer mwy gwleidyddol, os hoffwch, mewn bargeinion rhwng pleidiau a chytundebau rhwng pleidiau. Mae gennym fargeinion rhwng pleidiau a chytundebau rhwng pleidiau yma, ond nid yw’n atal y Pwyllgor Cyllid rhag craffu ar y gyllideb ddrafft yn drylwyr. Eleni, byddwn yn ei wneud yn fwy trylwyr nag erioed o’r blaen hyd yn oed, a bydd cyfle i bob pwyllgor wneud hynny hefyd, ac rwy’n gobeithio y byddant yn ymuno â ni ac y bydd hon yn broses ddysgu i bawb ohonom.
Diolch yn fawr iawn. Efallai y bydd rhagor o Aelodau’n mynd ar eich taith nesaf, ac yna gallwn i gyd glywed am yr hyn a ddigwyddodd pan oeddech ar eich teithiau, ac y bydd mwy ohonoch yn mynd efallai, ac yna cawn fwy o amser i drafod beth sydd wedi bod yn digwydd mewn mannau eraill.